#Article 1: Cymraeg (3923 words)


Aelod o'r gangen Frythonaidd o'r ieithoedd Celtaidd a siaredir yn frodorol yng Nghymru, gan Gymry a phobl eraill ar wasgar yn Lloegr, a chan gymuned fechan yn Y Wladfa, yr Ariannin yw'r Gymraeg (hefyd Cymraeg heb y fannod).

Yng Nghyfrifiad y DU (2011), darganfuwyd fod 19% (562,000) o breswylwyr Cymru (tair blwydd a throsodd) yn gallu siarad Cymraeg. O'r ffigwr hon, darganfuwyd fod 77% (431,000) yn gallu siarad, darllen, ac ysgrifennu'r iaith; dywedodd 73% o breswylwyr Cymru (2.2 miliwn) fod dim sgiliau yn y Gymraeg ganddynt.

Mae'r Gymraeg yn un o'r 55 o ieithoedd i gael eu cynnwys fel cyfarchiad ar Record Aur y Voyager er mwyn cynrychioli'r Ddaear yn rhaglen Voyager NASA a lansiwyd ym 1977. Mae pob cyfarchiad yn unigryw i'r iaith, a dywed y Gymraeg Iechyd da i chwi yn awr ac yn oesoedd.

Mae Mesur y Gymraeg 2011 (Cymru) yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru, lle mai'r Gymraeg yw'r unig iaith Geltaidd sydd yn swyddogol de jure mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.

Tarddodd y Gymraeg o'r Frythoneg yn y 6g, hynafiad cyffredin y Gymraeg, Llydaweg, Cernyweg, a'r iaith farw, Cymbrieg.

Fel y mwyafrif o ieithoedd, mae cyfnodau canfyddadwy o fewn hanes y Gymraeg, ond mae'r ffiniau rhwng y rheiny yn aneglur fel arfer.

Tarddodd yr enw Saesneg ar yr iaith, sef Welsh, fel ecsonim a roddwyd i'w siaradwyr gan yr Eingl-Sacsoniaid, sy'n golygu iaith estron (gweler Walha). Yr enw brodorol ar yr iaith yw Cymraeg, a'r enw brodorol ar y wlad yw Cymru.

Gellir disgrifio’r tueddiadau o 1891 hyd at 1971 yn weddol syml: gydag ychydig o eithriadau, gostyngodd y ganran oedd yn siarad Cymraeg ymhob grŵp oedran o’r naill gyfrifiad i’r llall. Cynyddodd y nifer absoliwt o siaradwyr o 1891 i gyrraedd bron i filiwn (977,366) yn 1911.

Ceir dadansoddiad cynhwysfawr o sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru yn adroddiad 5-mlynedd Comisiynydd y Gymraeg, , sy'n gwneud defnydd o arolwg  ynghyd â ffynonellau eraill. Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd 19.0% yn gallu siarad Cymraeg, gostyngiad o 1.8% ers Cyfrifiad 2001, ond yn uwch na'r 18.7% ym 1991. Dangosodd cyfrifiad 2011 y ganwyd tua 25% o breswylwyr Cymru y tu allan i Gymru. Nid oes ystadegau ar faint o bobl sy'n siarad Cymraeg yng ngweddill Prydain ond adroddodd Cyfrifiad 2011 fod 8,248 o bobl (3 oed a throsodd) yn Lloegr a oedd yn ystyried y Gymraeg yn brif iaith iddynt.  Ym 1993, cyhoeddodd S4C ganlyniadau arolwg ar faint o bobl a allai siarad neu ddeall Cymraeg. Darganfu'r arolwg yma fod tua 133,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw yn Lloegr, gyda thua 50,000 ohonynt yn byw yn Llundain Fawr. Amcangyfrifodd Bwrdd yr Iaith Gymraeg fod 110,000 o bobl yn 2001 a oedd yn gallu siarad Cymraeg ar ddyddiad cynharach yn byw yn Lloegr.

Yn sgil mudo a thwf yn nylanwad y Saesneg ar fröydd Cymraeg, cafwyd lleihad yn y niferoedd sy'n siaradwyr uniaith Cymraeg. Bellach nid oes siaradwyr uniaith y Gymraeg i gael. Ar y cyfan, mae siaradwyr Cymraeg hefyd yn siarad y Saesneg (yn Nhalaith Chubut, yr Ariannin, Sbaeneg yw iaith y mwyafrif - gweler Y Wladfa). Serch hynny, mae llawer o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn fwy cyffyrddus yn mynegi eu hunain drwy gyfrwng y Gymraeg na'r Saesneg. Gall yr iaith y mae siaradwyr yn ei dewis amrywio yn ôl yr angen, pwnc, cyd-destun cymdeithasol, ac o fewn mynegiant (a elwir yn ieithyddiaeth yn cyfnewid côd).

Caiff y Gymraeg ei siarad yn iaith gyntaf yng Ngogledd a Gorllewin Cymru yn bennaf, yng Ngwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ynys Môn, Sir Gâr, gogledd Sir Benfro, Ceredigion, ardaloedd ym Morgannwg, a gogledd-ddwyrain a de-ddwyrain eithafol Powys, ond canfyddir siaradwyr iaith gyntaf a siaradwyr rhugl ar draws Cymru gyfan.

Trefnodd Cymdeithas y Cymmrodorion sesiynau yng Nghapel Penlan yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1925 i drafod Cadwraeth yr Iaith. Roedd y Parchedig Ddr. G Hartwell Jones, Elfed a Phedrog yn pwysleisio creu ewyllys da tuag at y Gymraeg tra roedd Thomas Gwynn Jones a J.H. Jones, golygydd Y Brython, yn mynnu nad oedd gobaith ei chynnal heb wleidyddiaeth ymosodol o'i phlaid.

Roedd Syr John Morris-Jones yn cyfiawnhau darlithio i'w fyfyrwyr yn Saesneg am ei fod am weld y Cymry yn genedl ddwyieithog ac nad oedd ar y Gymraeg angen termau ar gyfer trafod y byd cyfoes. Mynnai Prosser Rhys, Edward Morgan Humphreys a'r Parch D. Tecwyn Evans y dylid hyrwyddo'r Gymraeg mewn storïau poblogaidd i'r ifanc, mewn drama a ffilm a rhaglenni radio.

Er mai iaith leiafrifol ydyw'r Gymraeg, cynyddodd y gefnogaeth iddi yn ystod ail hanner y 20g, ynghyd â chynnydd mewn sefydliadau megis y blaid wleidyddol genedlaethol, Plaid Cymru ers 1925, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg ers 1962.

Yn ôl Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Deddf Llywodraeth Cymru 1998, roedd yn rhaid i'r sector gyhoeddus drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal, cyn belled ag oedd hynny'n rhesymol ac ymarferol. Roedd yn rhaid i gyrff cyhoeddus ysgrifennu Cynllun yr Iaith Gymraeg, oedd yn rhaid ei gymeradwyo ymlaen llaw, oedd yn nodi ymrwymiad i drin y Gymraeg yn gyfartal. Anfonwyd y drafft hwn am ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o dri mis, lle gellid cynnwys sylwadau awgrymedig yn y fersiwn derfynol. Wedyn, roedd angen ar Fwrdd yr Iaith ei gymeradwyo cyn iddo gael ei dderbyn yn derfynol gan y cwmni dan sylw. Ar ôl hynny, roedd yn rhaid i'r corff cyhoeddus weithredu ei rwymedigaethau yn unol â'i Gynllun.

Ar 7 Rhagfyr 2010, cymeradwyodd y Cynulliad yn unfrydol set o fesurau i'w defnyddio er mwyn datblygu defnydd y Gymraeg yng Nghymru. Ar 9 Chwefror 2011, derbyniodd y mesur hwn Gydsyniad Brenhinol a chafodd ei gymeradwyo, a chan hynny yn gwneud y Gymraeg yn iaith a gydnabyddir yn swyddogol yng Nghymru. Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn:

O ganlyniad i gymeradwyo'r mesur hwn, y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus a rhai cwmnïau preifat ddarparu gwasanaethau Cymraeg, ond ni wyddys eto'r pa gwmnïau a fydd yn gorfod cydymffurfio. Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, Mae’r Gymraeg yn destun balchder i bobl Cymru, p’un a ydynt yn ei siarad neu beidio ac rwy’ wrth fy modd felly bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo’r Mesur.  Rwy’n falch fy mod wedi cael llywio’r ddeddfwriaeth trwy’r Cynulliad sy’n cadarnhau statws swyddogol yr iaith; sy’n creu eiriolydd cryf dros siaradwyr y Gymraeg ac a fydd yn cynyddu’n sylweddol nifer y gwasanaethau fydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n credu dylai pawb sydd eisiau derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, gael y cyfle i wneud hynny, a dyna beth mae’r llywodraeth yma wedi bod yn gweithio tuag ato. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gam pwysig a hanesyddol ymlaen i’r iaith, eu siaradwyr ac i’r genedl. Ni dderbyniwyd y mesur gan bawb; ysgogodd Bethan Williams, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ymateb cymysg, gan ddweud, Through this measure we have won official status for the language and that has been warmly welcomed. But there was a core principle missing in the law passed by the Assembly before Christmas. It doesn't give language rights to the people of Wales in every aspect of their lives. Despite that, an amendment to that effect was supported by 18 Assembly Members from three different parties, and that was a significant step forward.

Ar 5 Hydref 2011, penodwyd Meri Huws, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn Gomisiynydd newydd dros y Gymraeg. Mewn datganiad a ryddhawyd ganddi, dywedodd ei bod wrth ei bodd i gael ei phenodi i'r rôl bwysig bwysig, hon, gan ychwanegu, Bydda i'n adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i wneud gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac eraill er mwyn cryfhau'r Gymraeg a sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu. Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, y byddai Meri yn eiriolwr ardderchog dros y Gymraeg, ond roedd pryderon gan ambell i berson; dywedodd Bethan Jenkins o Blaid Cymru, I have concerns about the transition from Meri Huws's role from the Welsh Language Board to the language commissioner, and I will be asking the Welsh government how this will be successfully managed. We must be sure that there is no conflict of interest, and that the Welsh Language Commissioner can demonstrate how she will offer the required fresh approach to this new role. Cychwynnodd Meri ei gwaith fel Comisiynydd Iaith ar 1 Ebrill 2012.

Defnyddia cynghorau lleol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru y Gymraeg yn iaith lled-swyddogol, gan ddosbarthu deunydd llenyddol a hyrwyddol yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg (e.e., llythyron at rieni o'r ysgol, gwybodaeth llyfrgelloedd, gwybodaeth cynghorau ac ati) ac mae'r mwyafrif o arwyddion ffyrdd yng Nghymru yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys enwau lleoedd. Serch hynny, defnyddir yr enw Saesneg yn unig am leoedd mewn rhai mannau yn Lloegr er bod enwau Cymraeg arnynt ers llawer dydd (e.e. London: Llundain; The [English] Midlands: Canolbarth Lloegr).

Ers 2000, mae hi'n orfodol i addysgu'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion hyd at 16 oed, ac mae hyn wedi cyfrannu at sefydlogi ac i ryw raddau at wrthdroi dirywiad yr iaith mewn rhai mannau.

Er bod arwyddion ffyrdd dwyieithog yng Nghymru, mae'r geiriad ar arian o hyd yn uniaith Saesneg. Yr unig eithriad i hyn fu'r arysgrif ar bunnoedd Cymru yn 1985, 1990, a 1995, a ddywedai, Pleidiol wyf i'm gwlad o anthem genedlaethol Cymru, Hen Wlad fy Nhadau. Nid yw'r Gymraeg ar y ceiniogau Prydeinig newydd (2008 ymlaen), er iddynt gael eu dylunio gan Ogleddwr a'u bathu yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, yn ne Cymru. Er bod llawer o siopau yn arddangos arwyddion dwyieithog, prin ydy'r defnydd o'r Gymraeg ar ddeunydd pacio a chyfarwyddiadau.

Mae geirfa'r Gymraeg yn tarddu o eiriau'r Frythoneg yn bennaf (megis wy a carreg), gydag ambell i air benthyg o'r Lladin (megis ffenestr  Lladin fenestra a gwin  Lladin vinum), a'r Saesneg (megis silff a gât). Mae'r Gymraeg, fel ieithoedd eraill y byd, yn benthyca geirfa oddi ar ieithoedd eraill. Benthyciwyd i'r Gymraeg o'r Lladin, yr Wyddeleg, y Ffrangeg, a'r Saesneg yn bennaf. Ceir rhai geiriau Cymraeg sy'n tarddu o'r Hen Norseg, y Roeg, a'r Hebraeg. Ar hyn o bryd, o'r Saesneg y benthycir gan fwyaf, ac o ieithoedd eraill y byd drwy'r Saesneg.

Ysgrifennir y Gymraeg gyda gwyddor Ladin, sydd defnyddio 28 llythyren yn draddodiadol, lle bo wyth ohonynt yn ddeugraffau (dwy lythyren a drinnir yn un) ar gyfer coladiad:

Yn wahanol i'r Saesneg, ystyrir w ac y yn llafariaid yn y Gymraeg, ynghyd ag a, e, i, o ac u.

Defnyddir y llythyren j mewn geiriau benthyg o'r Saesneg, megis jam, jôc, a garej. Prin iawn yw'r defnydd o k, q, v, x, a z, ond fe'u defnyddir o fewn rhai cyd-destunau technegol, megis kilogram, volt a zero, ond defnyddir amnewidiadau Cymraeg fel arfer: cilogram, folt a sero. Roedd y llythyren k yn gyffredin hyd y 16g, ond fe'i collwyd adeg cyhoeddi'r Testament Newydd yn y Gymraeg, fel yr eglurodd William Salesbury: C for K, because the printers have not so many as the Welsh requireth. Nid oedd y newid yma yn boblogaidd ar y pryd.

Yr acen grom yw'r marc diacritig mwyaf cyffredin, sy'n gwahaniaethu llafariaid hir a byr, fel arfer gyda homograffau yn bennaf, lle bo'r llafariad yn fyr mewn un gair ac yn hir yn y llall: e.e., man a mân.

Nodweddir ffonoleg y Gymraeg gan nifer o synau nad ydynt yn bodoli yn y Saesneg ac sy'n deipolegol brin mewn ieithoedd Ewropeaidd. Mae'r acen bwys fel arfer yn disgyn ar y goben (y sillaf olaf ond un) mewn geiriau aml-sillafog.

Aethpwyd ati i ysgrifennu Cymraeg yn gynnar o’i chymharu ag ieithoedd eraill canolbarth a gogledd Ewrop (heblaw am Ladin a Groeg), efallai cyn gynhared ag OC 600, er nad oes ysgrifau wedi goroesi o’r adeg honno. Ar garreg yn Eglwys Sant Cadfan, Tywyn y ceir y geiriau Cymraeg cynharaf i oroesi, carreg a naddwyd tua’r flwyddyn OC 700.

Gan fod datblygiad Cymraeg Fodern ysgrifenedig yn lled araf mae gagendor eang wedi agor rhyngddi a Chymraeg llafar. Yn wir, mae rhai o'r gwahaniaethau rhwng yr ysgrifenedig a'r llafar yn hen iawn. Ysgrifennir ffurf trydydd person lluosog y ferf yn –ant ond fe'i hyngenir yn –an. Dengys barddoniaeth y 12g, lle odlid geiriau'n diweddu ag –ant gyda rhai yn diweddu ag –an, fod y gwahaniaeth hwn eisoes yn bodoli bryd hynny. Dim ond yn ddiweddar y cydnabuwyd llawer o newidiadau yr iaith lafar yn y Gymraeg ysgrifenedig newydd a elwir yn Gymraeg Cyfoes.

Cymraeg llafar yw'r iaith fel y'i siaredir yn hytrach na'i hysgrifennu. Mae hi'n wahanol i'r iaith ysgrifenedig o ran geirfa, gramadeg a morffoleg. Ceir ynddi sawl cywair ieithyddol tra gwahanol, a sawl tafodiaith.

Credir bod tua 90% o boblogaeth Cymru yn Gymry Cymraeg ddechrau'r 19g a rhyw 70% yn Gymry uniaith. Erbyn 2001, mae rhyw 20.5% o bobl yn siarad Cymraeg (un mewn pump), sef rhyw 580,000 o bobl yn ôl y cyfrifiad.

Mae cymuned fechan o ddisgynyddion i Gymry Cymraeg wedi goroesi yn y Wladfa, ym Mhatagonia, yr Ariannin. Siaredir Cymraeg ym Mhatagonia er 1865 pan aeth grŵp o ymsefydlwyr o Gymru yno i fyw, i chwilio am fywyd gwell ac i gael byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, yn rhydd o orthrwm.

Adeg twf Anghydffurfiaeth yn ystod y 19g, daeth y capeli yng Nghymru yn ganolbwynt bywyd Cymraeg. Ymysg y llu o weithgareddau cymdeithasol a drefnwyd gan y capeli ceid eisteddfodau, corau a theithiau gwib. Ond erbyn diwedd y 19eg ganrif yn yr ardaloedd diwydiannol roedd gan y boblogaeth arian yn eu pocedi a'r gallu i dalu am adloniant y tu allan i furiau'r capel. Roedd difyrrwch ar gael yn y theatr, yn y trefi gwyliau, ac yn ddiweddarach mewn ffilm, ar y radio ac ar y teledu. Tanseiliwyd lle'r capeli Cymraeg, a fu'n ganolbwynt cymdeithas, gan yr adloniant newydd hudolus. Erbyn dechrau'r 20g, cyrhaeddai'r diwylliant Eingl-Americanaidd y byd a'r betws drwy ffilm, radio a theledu gan gystadlu ag adloniant a diwylliant traddodiadol y cartref a'r gymuned leol.

Sefydlwyd rhai mudiadau cenedlaethol Cymraeg eu cyfrwng yn ystod yr 20g, sydd i raddau yn llenwi'r bwlch a adawyd wrth i weithgaredd cymdeithasol y capeli ddihoeni. Mudiad yr Urdd a ffurfiwyd ym 1922 yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae Merched y Wawr a'r Ffermwyr Ifainc hefyd yn fudiadau o bwys yn cynnal gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir nifer o fudiadau cenedlaethol eraill Cymraeg eu hiaith megis Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg, Cymdeithas Edward Llwyd, a'r Gymdeithas Wyddonol. Sefydlwyd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1751 gan Forrisiaid Môn yn gymdeithas lenyddol i amddiffyn y Gymraeg.

Mae gan eisteddfodau le canolog yn niwylliant Cymru a'r Gymraeg. Wedi nychdod yr hen gyfundrefn eisteddfodol yn y canrifoedd wedi'r Deddfau Uno adnewyddwyd yr eisteddfod gyda chyfarfodydd taleithiol yn ystod y 19eg ganrif. Sefydlwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y 1860au ond defnyddiwyd mwy a mwy o Saesneg yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda threigl y blynyddoedd. Erbyn 1931 Saesneg oedd prif iaith y llwyfan, y beirniadaethau a seremonïau gorsedd y Beirdd, sefyllfa annerbyniol i lawer. Gwnaethpwyd y Gymraeg yn iaith swyddogol yr Eisteddfod ym 1937 ond parhau wnaeth y defnydd o'r Saesneg ar lwyfan yr eisteddfod tan 1952 pan gyflwynwyd y Rheol Gymraeg. O hyn ymlaen, y Gymraeg yn unig a glywid ar lwyfan yr Eisteddfod (heblaw am rai anerchiadau gan westeion gwadd). Mae'r Rheol Gymraeg hithau'n bwnc llosg sydd wedi peri i rai awdurdodau lleol atal eu cyfraniad ariannol tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol. Beirniedir yr Eisteddfod Genedlaethol gan rai am safon anwastad y llenyddiaeth a wobrwyir. Ar y llaw arall, clodforir yr Eisteddfod am ei bod yn ŵyl ddiwylliannol i'r werin, am roi llwyfan cenedlaethol i artistiaid Cymru, am feithrin barddoni, ac am hybu dysgu Cymraeg.

Trefnir eisteddfodau gan gymdeithasau megis yr Urdd, Mudiad y Ffermwyr Ifainc, ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Cynhelir rhai eisteddfodau taleithiol o hyd, megis eisteddfod Pontrhydfendigaid ac ambell eisteddfod drefol neu bentrefol, ond nid oes cymaint o fri ar y rhain ag a fu ac nid yw'r capeli'n trefnu eisteddfodau fel ag y buont ychwaith.

Argraffwyd llyfrau Cymraeg yn gynnar o gymharu â llawer o ieithoedd eraill Ewrop nad oeddent yn ieithoedd gwladwriaeth. Nifer fechan o lyfrau a gyhoeddwyd, cyfanswm o 116 rhwng 1546 a 1670. Crefydd oedd pwnc mwyafrif y llyfrau hyn. Yna cynyddodd nifer y llyfrau a gyhoeddwyd i gyfartaledd o 4 y flwyddyn rhwng 1670 a 1700 a 14 y flwyddyn rhwng 1700 a 1730, yn rhannol drwy nawdd y Welsh Trust a'r SPCK. Erbyn y 18g, roedd pris llyfr wedi disgyn yn sylweddol, ac o fewn cyrraedd y werin. Ymhlith y llyfrau a gyhoeddwyd yr oedd rhai o glasuron y Dadeni Dysg a llenyddiaeth grefyddol Cymru: Cannwyll y Cymry gan y Ficer Prichard (1681) a Gweledigaetheu y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne (1703). Esgorodd cynnydd aruthrol llythrennedd yn ystod y 18g yn esgor ar alw am lyfrau o bob math, yng Nghymru fel ag yn Lloegr. Sefydlwyd nifer o argraffdai yng Nghymru i gyflenwi'r farchnad newydd â llyfrau. Cyhoeddwyd dros 2,500 o lyfrau Cymraeg yn ystod y 18g.

Heddiw, cyhoeddir 500-600 llyfr Cymraeg yn flynyddol, llawer ohonynt yn lyfrau i blant. Ymysg y cyhoeddwyr pennaf mae Gwasg Gomer, Gwasg Prifysgol Cymru a'r Lolfa (). Ariennir y gwaith o gyhoeddi llawer o lyfrau Cymraeg a Chymreig gan y Llywodraeth drwy Gyngor Llyfrau Cymru a sefydlwyd fel y Cyngor Llyfrau Cymraeg ym 1961. Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd yn dosbarthu llyfrau Cymreig yn Saesneg.

Ceir casgliad helaeth o lawysgrifau, cyfnodolion a llyfrau Cymraeg yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Un o swyddogaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw rhoi ar gadw copi o bob llyfr gaiff ei gyhoeddi ym Mhrydain. Yn ogystal â deunydd ar bapur cesglir yno ddeunydd ar gyfryngau sain a llun.

Mae'r Gymraeg wedi bod yn elfen flaenllaw yn yr ymwybyddiaeth o'r hunaniaeth Gymreig. Mae'r ymwybyddiaeth hon yn treiddio i waith llenorion Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Efallai mai'r man lle mae'r Gymraeg yn fwyaf amlwg yw'r anthem genedlaethol 'Hen Wlad fy Nhadau': 'a bydded i'r heniaith barhau.' Mae'r Gymraeg, Cymreictod a cholli iaith yn themâu i nifer o weithiau llenyddol. Ymhlith y mwyaf amlwg o'r rhain yw nofel Islwyn Ffowc Elis Wythnos yng Nghymru Fydd, a cherddi Gerallt Lloyd Owen gan gynnwys 'Etifeddiaeth', cerdd Gwyneth Lewis Y Llofrudd Iaith, cerddi Jac Glan-y-gors 'Dic Siôn Dafydd', a cherddi Waldo Williams 'Yr Heniaith' a 'Cymru a Chymraeg'. Dylid hefyd grybwyll cerdd arall gan Waldo Williams, 'Cofio', sy'n alarnad i ieithoedd a  phobloedd golledig y ddaear gyfan.

Yn ogystal â cherddi sy'n moli'r Gymraeg neu weithiau yn galaru amdani neu'n ymgyrchu trosti, ceir hefyd weithiau sy'n mynegi'r profiad o fod yn Gymro Cymraeg. Mae'r profiad hwn yn annatod glwm wrth ddylanwad cenedligrwydd, cenedlaetholdeb, galar, cymhleth israddoldeb, rhamant y gorffennol, gwawd y Sais, ymgecru ymysg y Cymry, perthyn i draddodiad hir a gwerthfawr, a pherthyn i fro.

Ceir ymateb cymhleth i'r Gymraeg a'r ymwybyddiaeth o Gymreictod hefyd yng ngweithiau rhai llenorion Cymreig yn ysgrifennu yn Saesneg yn enwedig o'r 1930au ymlaen. Yn eu plith mae gweithiau Caradoc Evans, Cymro Cymraeg, megis My People, gweithiau R. S. Thomas a ddysgodd Gymraeg (megis 'Reservoirs' yn ei Collected Poems 1945-1990), a Gwyn Thomas, yn Gymro di-Gymraeg o'r union genhedlaeth na fagwyd yn Gymry Cymraeg. Rhoddwyd mynegiant am y tro cyntaf i ymdeimlad o Gymreictod di-Gymraeg gan rai o'r llenorion hyn. Ffenomenon yn perthyn i Gymru'r 20g yw'r diwylliant Cymreig di-Gymraeg a dyfodd yn sgil y mewnlifiad mawr i'r cymoedd diwydiannol yn ystod y ddau ddegawd cyntaf o'r ganrif. Diddorol sylwi bod T. Llew Jones, a hanai o'r un ardal â Caradoc Evans, wedi galw ei hunangofiant o fwriad yn Fy Mhobol i ; ynddo mae'n trafod ymateb Caradoc Evans i'r Gymraeg.

Er mai digon gelyniaethus oedd rhai o'r llenorion Cymraeg a Saesneg tuag at ei gilydd ar ddechrau'r 20g, ond erbyn diwedd y ganrif roeddynt yn tueddi i gymodi yn lle ymgecru. Llwyddwyd i gyhoeddi casgliad o farddoniaeth yn The Oxford Book of Welsh Verse in English ym 1977 a gynhwysai gerddi  Saesneg a cherddi a gyfieithwyd o'r Gymraeg mewn un gyfrol. Ym 1986 cyhoeddwyd Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru ar y cyd â The Oxford Companion to the Literature of Wales. Erbyn hyn, ceir nifer o gyfrolau a gyhoeddir yn Saesneg a Chymraeg ar y cyd, megis llyfrau yn adrodd hanes bro neu'n dathlu digwyddiad hanesyddol.

Yn gyffredinol mae datblygiadau technolegol yn y cyfryngau cyfathrebu wedi hyrwyddo'r Saesneg yng Nghymru, fel ag yn y byd yn gyffredinol. Galluogai'r dechnoleg newydd, yn bapur newydd ac yna'n radio, teledu a'r rhyngrwyd, i'r Saesneg dreiddio i aelwydydd Cymraeg, lle na chlywsid erioed Saesneg gynt. Dylanwadai'r radio a'r teledu, a gyrhaeddai aelwydydd Prydain gyfan, ar agweddau ac arferion gwrandawyr a gwylwyr.

Ym mhob un o'r cyfryngau newydd fe geisiai rhai sicrhau bod y Gymraeg yn ennill ei phlwyf yn wyneb y gystadleuaeth Saesneg, weithiau'n llwyddiannus ac weithiau'n aflwyddiannus.

Yn ystod y 19g tyfodd diwydiant papur newydd ffyniannus yng Nghymru. Erbyn 20au a 30au'r 20g, fodd bynnag, roedd y farchnad papurau newydd drwy Brydain yn mynd yn fwy-fwy canolog dan bwysau'r farchnad a bu cwymp yn nifer y papurau newydd a gyhoeddid. Peidiodd Y Darian ym 1934, traflyncwyd Y Genedl Gymreig gan gwmni'r Herald ym 1932, a pheidiodd Y Faner ym 1992.

Heddiw, mae nifer o bapurau a chylchgronau Cymraeg wythnosol neu fisol ar gael megis Golwg, Y Cymro a Barn ond does dim un papur dyddiol. Cafwyd ymdrech i lansio papur wythnosol o'r enw 'Y Byd', ond yn 2007 rhoddwyd y gorau i'r syniad oherwydd diffyg nawdd cyhoeddus.  Noddir nifer o gylchgronau arbenigol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Erbyn heddiw, mae'r galw am newyddion lleol trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei ddiwallu gan y papurau bro. Mae'r papurau bro yn aelodau o'r Gymdeithas Papurau Bro, ac yn derbyn nawdd o'r llywodraeth i ariannu'r papurau hyn. Mae dau gylchgrawn ar gyfer dysgwyr ar gael - Lingo (Golwg) ac Acen ar gyfer dysgwyr ar y lefelau isaf.

Darlledwr sy'n darparu gwasanaethau teledu yn y Gymraeg yw Sianel Pedwar Cymru neu S4C. Dechreuodd ddarlledu ar y 1af Tachwedd 1982.
Ei gyfrifoldeb yw darparu gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg. Cyn sefydlu S4C roedd Cymry Cymraeg yn ddibynnol ar raglenni achlysurol ar BBC Cymru a HTV Cymru, yn aml yn hwyr yn y nos neu ar adegau amhoblogaidd eraill. Roedd hyn yn annerbyniol i'r Cymry Cymraeg ac i'r di-Gymraeg hefyd am fod rhaglenni Saesneg o weddill Prydain yn cael eu disodli neu'n cael ei darlledu ar amseroedd gwahanol.

Yn ôl ymchwil diweddar, postiwyd y neges gyntaf ag unrhyw destun Cymraeg ynddi ar Usenet ar 15 Awst 1989 Ar 13 Tachwedd 1992, agorwyd y rhestr e-bost WELSH-L, sef y Welsh Language Bulletin Board. Hwn oedd y man trafod cyntaf penodedig ar gyfer yr iaith Gymraeg. Ers hynny, gwelwyd defnydd o'r Gymraeg mewn nifer fawr o feysydd ar y rhyngrwyd, ac yn arbennig felly ar y we.
  
Yn sgil goblygiadau Deddf Iaith 1993, mae'r sector gyhoeddus yng Nghymru yn cynhyrchu gwefannau dwyieithog. Mae rhai busnesau a chymdeithasau, yn enwedig y rhai mawrion a'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Gymraeg hefyd yn cynhyrchu gwefannau dwyieithog, yn ôl eu polisi iaith unigol eu hunain.

O ran y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg, mae dros 300 o flogiau Cymraeg erbyn 2015, a dros 4,500 o gyfrifon yn defnyddio Cymraeg ar Twitter. Nid yw'n glir beth yn union yw'r defnydd o Facebook, ond adnabu ymchwil a gynhaliwyd yn 2008 bod 238 grŵp Facebook lle roedd defnydd o'r Gymraeg.

Mae llenyddiaeth Gymraeg wedi hawlio ei le ar y we hefyd. Yn 1996 rhoddwyd holl farddoniaeth y Prifardd Robin Llwyd ab Owain ar y we fyd eang dan yr enw Rebel ar y We; dyma oedd y gyfrol gyntaf yn y Gymraeg ar y rhyngrwyd. Bu Gwasg y Lolfa, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn flaenllaw iawn yn y dyddiau cynnar hyn.

Ar gael yn y  a'r .




#Article 2: Dydd Gŵyl Dewi (295 words)


Dydd Gŵyl Dewi Sant ar 1 Mawrth yw'r diwrnod y dethlir Dewi Sant, nawddsant Cymru. Bydd nifer o blant yn gwisgo'r wisg Gymreig ac yn cystadlu mewn eisteddfodau ysgol—yn arbennig trwy ganu ac adrodd. Bydd llawer o bobl o bob oed yn gwisgo cenhinen bedr (a welir fel arwyddlun Cymreig) neu genhinen (arwyddlun Dewi Sant) ar y diwrnod. Cynhelir nifer o Nosweithiau Llawen a chyngerddau. Hefyd y mae nifer o gymdeithasau yn cael noson gawl a gŵr gwadd i'w hannerch.

Mae'r cyntaf o Fawrth wedi bod yn ŵyl genedlaethol ers canrifoedd ; yn ôl y traddodiad bu farw Dewi Sant ar y cyntaf o Fawrth 589 OC.. Gwnaed y dyddiad yn ddydd cenedlaethol (answyddogol) Cymru yn y 18g.

Cynhelir gorymdaith flynyddol yng Nghaerdydd i ddathlu'r ŵyl. Yn 2006 yn yr Unol Daleithiau cafodd Dydd Gŵyl Dewi ei gydnabod yn swyddogol fel diwrnod cenedlaethol y Cymry, ac ar y cyntaf o Fawrth cafodd Adeilad Empire State ei oleuo yn lliwiau baner Cymru. Mae cymdeithasau Cymreig drwy'r byd yn dathlu drwy gynnal ciniawau, partion a chyngerddau.

Cododd problem yn 2006 o ran agwedd grefyddol yr ŵyl, gan fod y cyntaf o Fawrth yn disgyn ar Ddydd Mercher Lludw, sy'n cael ei ystyried yn ddiwrnod anaddas i ddathlu. O ganlyniad, dathlwyd y diwrnod ar 28 Chwefror gan y Catholigion ac ar 2 Mawrth gan yr Eglwys yng Nghymru.

Mae ymgyrch ar droed i gael Dydd Gŵyl Dewi yn ddydd gŵyl banc swyddogol yng Nghymru. Yn ôl arolwg a gynhaliwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi 2006 yr oedd 87% o bobl Cymru yn cefnogi hyn, gyda 65% yn barod i aberthu gŵyl banc arall yn ei le.

Yn y 2010au cynyddodd y nifer o orymdeithiau; mae'n ymddangos mai Caerdydd, Aberystwyth a Wrecsam oedd y cyntaf gyda'r ardaloedd canlynol yn dilyn:




#Article 3: Lloegr (171 words)


Gwlad ar Ynys Prydain yng ngogledd orllewin Ewrop yw Lloegr (Saesneg: England). Yn ddaearyddol, ac o ran poblogaeth, hi yw'r wlad fwyaf o fewn y Deyrnas Unedig. Mae'n ffinio â Chymru i'r gorllewin a'r Alban i'r gogledd.

Yn y 6ed a'r 7g cyrhaeddodd llwythau Tiwtonaidd (a gynhwysai yn ôl traddodiad yr Eingl, Sacsoniaid, a Jutiaid) Brydain o dir mawr Ewrop a gwladychu de a dwyrain yr ynys gan yrru'r brodorion o Geltiaid tua'r gorllewin ac i'r ardaloedd llai ffrwythlon; arhosodd eraill ac fe'u hymgorfforwyd o fewn cymdeithas y goresgynnwyr. Ymledodd rheolaeth y Saeson cynnar o dipyn i beth tua'r gorllewin a'r gogledd gan greu nifer o deyrnasoedd fel Wessex, Mercia, Essex, Sussex, a Northumbria. Colli eu hiaith a'u harferion bu hanes y Brythoniaid a oroesodd yn yr ardaloedd hynny. Ond Wessex oedd yr unig un i gadw ei hannibyniaeth ar ôl goresgyniadau'r Llychlyniaid yn yr 8fed  a'r 9g, a theyrnas Wessex fu sail teyrnas Lloegr a'r Deyrnas Unedig wedyn.

Nawddsant Lloegr: Sant Siôr - 23 Ebrill.

Mae naw rhanbarth yn Lloegr:




#Article 4: Patagonia (204 words)


Rhanbarth daearyddol yn Ne America yw Patagonia sy'n ymestyn o Tsile ar draws yr Andes i'r Ariannin. Ar ochr Tsile o'r Andes fe ymestyn Patagonia i'r de o ledred 42°D, gan gynnwys rhan ddeheuol rhanbarth politicaidd Los Lagos a rhanbarthau Aysén a Magallanes (heblaw am y rhan o Antártica a hawlir gan Tsile).

Ar ochr yr Ariannin o'r Andes fe ymestyn Patagonia i'r de o afonydd Neuquén a Río Colorado, gan gynnwys y taleithiau Neuquén, Río Negro, Chubut, Santa Cruz, Tierra del Fuego, a rhan ddeheuol Talaith Buenos Aires. Deillia'r enw Patagonia o Batagones, sef enw'r bobl gyntaf i gyrraedd yr ardal rhyw 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Yn yr Ariannin, mae Patagonia wedi ei rhannu yn bedair talaith:

Daw'r enw o'r gair patagón sef cewir mewn mytholeg a chredwyd eu bônt ddwywaith maint dyn - 12 i 15 troedfedd (3.7 i 4.6 m).

Yng nghanol y 19g, rhwng 1865 a 1912, cyrhaeddodd minteioedd o Gymry er mwyn sefydlu gwladfa ym Mhatagonia yr Ariannin. Y Wladfa oedd enw'r Cymry hynny ar yr ardal honno.

Erys rhai siaradwyr Cymraeg yn nhalaith Chubut hyd heddiw. Er mwyn cynnal y Gymraeg yn Chubut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn anfon athrawon o Gymru at yr ysgolion Cymraeg yno.




#Article 5: Saesneg (239 words)


Iaith frodorol Lloegr ydyw Saesneg (English). Mae'n un o ddwy iaith swyddogol Cymru (ynghyd â'r Gymraeg) yn ogystal, ac yn un o ieithoedd mwyaf y byd.

Datblygodd y Saesneg o iaith llwythau Germanaidd ag ymsefydlodd ym Mhrydain rhwng y bumed a'r seithfed ganrif gan ddisodli iaith a diwylliant y Brythoniaid brodorol o rannau helaeth o dde Prydain a chreu'r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd. Erbyn y ddegfed ganrif roedd y teyrnasoedd hyn wedi uno i greu teyrnas Lloegr. Lledodd y Saesneg drwy'r byd yn sgîl anturiaethau imperialaidd y Saeson a arweiniodd at greu gwladfeydd Seisnig mewn sawl rhan o'r byd.

Oherwydd ei lle fel iaith mwyafrif yr Unol Daleithiau, mae'r Saesneg wedi dod yn brif iaith y byd ar gyfer cyfathrebu rhyngwladol. Dysgir Saesneg fel ail iaith yn fwy nag unrhyw iaith arall, ond y ffurf Americanaidd ar yr iaith a ddysgir yn amlach na'r ffurf Seisnig.

Mae llenyddiaeth Saesneg yn un o'r llenyddiaethau mwyaf yn y byd, a'i gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd. Mewn canlyniad i'r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a'r Seisnigeiddio yn y wlad, mae gan Gymru ei llenyddiaeth Saesneg hefyd: ysgrifennodd Dylan Thomas ei storïau a'i gerddi yn Saesneg, er enghraifft.

Mae gramadeg yr iaith Saesneg yn weddol debyg i'r Gymraeg i'w chymharu â'r Tsieiniaidd er enghraifft, gan fod y ddwy iaith yn dod o'r teulu Indo-Ewropeaidd. Serch hyn mae gramadeg yr ieithoedd Romawns a'r Almaeneg llawer yn fwy tebyg i Saesneg nag ydyw i'r Gymraeg.




#Article 6: Yr Ariannin (1058 words)


Mae Gweriniaeth yr Ariannin (Sbaeneg: República Argentina ) neu'r Ariannin yn wlad yn ne-ddwyrain De America. Mae'n gorwedd rhwng mynyddoedd yr Andes a rhan ddeheuol y Môr Iwerydd. Mae'n ffinio â Wrwgwái, Brasil, Paragwâi, Bolifia a Tsile. Sbaeneg yw'r iaith swyddogol. Mae'r enwau Sbaeneg a Chymraeg yn dod o'r Lladin argentum ‘arian’, metel gwerthfawr a anogodd yr ymgartrefu cynnar Ewropeaidd. Gelwir person a anwyd yn yr Ariannin yn Archentwr.

Prif Erthygl: Hanes yr Ariannin

Ceir olion y trigolion cyntaf yn y tiroedd sy'n awr yn ffurfio yr Ariannin yn rhan ddeheuol Patagonia tua 13,000 o flynyddoedd yn ôl. Daeth gogledd-orllewin o wlad yn rhan o ymerodraeth yr Inca yn ail hanner y 15g, a ceir y cofnodion cynharaf yn ffurf quipu yn y cyfnod hwnnw.

Dechreuodd hanes ysgrifenedig y wlad gyda dyfodiad yr Ewropeaid i'r rhanbarth yn gynnar yn yr 16g. Y cyntaf i gyrraedd yno oedd y Sbaenwr Juan Díaz de Solís a'i ŵyr yn 1516.

Yn 1776 sefydlodd y Sbaenwyr y Virreinato del Río de la Plata o nifer o diriogaethau blaenorol. Wedi Gwrthryfel Mis Mai yn 1810, sefydlwyd nifer o wladwriaethau annibynnol, yn cynnwys un yn dwyn yr enw Provincias Unidas del Río de la Plata. Cyhoeddwyd annibyniaeth ar 9 Gorffennaf 1816, a gorchfygwyd y Sbaenwyr mewn brwydr yn 1824. Sefydlwyd Gweriniaeth yr Ariannin rhwng 1853 a 1861,

Roedd adegau o groestyniad gwleidyddol rhwng y ceidwadwyr a'r rhyddfrydwyr, ac rhwng ymbleidiau sifil a milwrol. ar ôl yr Ail Rhyfel y Byd gwelwyd dyrchafiad y mudiad poblogol Peronistaidd. Roedd juntas gwaedlyd bob yn ail efo llywodraethau democratig tan 1983, yn dilyn problemau economaidd mawr, a'r trechiad yn Rhyfel y Falklands.

Ers dymchwel y junta milwrol ym 1983, mae pedwar etholiad rhydd wedi cadarhau lle'r Ariannin fel gweriniaeth ddemocrataidd, er gwaethaf gwaethygiad economaidd difrifol yn 2001 a dechrau 2002.

Prif Erthygl: Gwleidyddiaeth yr Ariannin

Mae cyfansoddiad yr Ariannin, sydd yn dyddio o 1853 (wedi'i ddiwygio yn 1994), yn gwahanu nerthoedd y canghennau gweithredol, deddfwriaethol a barnwrol ar y lefelau cenedlaethol a thaleithiol. Ni all yr arlywydd na'r is-arlywydd gael eu hethol am fwy na dau dymor o bedair blynedd yn olynol. Gellir sefyll am drydydd tymor neu fwy ar ôl egwyl o un tymor neu fwy. Mae'r arlywydd yn penodi gwenidogion y llywodraeth ac mae'r cyfansoddiad yn rhoi llawer o rym iddo fe fel pennaeth y wladwriaeth a phennaeth y llywodraeth, yn cynnwys yr awdurdod i wneud cyfreithiau trwy ddyfarniad arlywyddol pan fo amodau pwysig ac anghenrheidiol.

Senedd yr Ariannin yw'r Gyngres Genedlaethol dwy siambr, neu'r Congreso Naciónal, sy'n cynnwys y senedd (y Senado) o 72 o seddi a Siambr Dirpwyon (y Cámara de Diputados) o 257 o aelodau. Ers 2001 mae pob talaith, gan gynnwys y Brifddinas Ffederal, yn ethol 3 seneddwr. Mae'r Seneddwyr yn cael eu ethol am dymor o 6 blynedd, gydag etholiadau am draean o'r Senedd pob dwy flynedd. Mae aelodau Siambr y Dirpwyon yn cael eu hethol am 4 blynedd, a hanner y Siambr yn cael ei ethol bob dwy flynedd.

Prif Erthygl: Taleithiau'r Ariannin

Mae gan yr Ariannin 23 talaith (provincias, unigol provincia), ac un rhanbarth ffederal (distrito federal; a nodir gyda *)

Prif Erthygl: Daearyddiaeth yr Ariannin

Gellir rhannu'r Ariannin yn dri darn: gwastadedd ffrwythlon y Pampas dros hanner gogleddol y wlad, calon cyfoeth amaethyddol yr Ariannin; y llwyfandir Patagonia yn hanner de'r wlad ac yn ymestyn i lawr i ynys Tierra del Fuego; a mynyddoedd yr Andes yn y gorllewin.

Mae mynyddoedd uchaf yr Andes ar y ffin ogleddol rhwng Tsile ac Ariannin, Y mynydd uchaf yw Aconcagua, sydd 6,959 m uwchlaw lefel y môr – y mynydd uchaf ar gyfandir America a'r mynydd uchaf yn y byd tu allan i Asia.

Mynyddoedd uchaf yr Ariannin yw:

Mae'r prif afonydd yn cynnwys y Paragwâi, Bermejo, Colorado, Wrwgwái a'r hwyaf, y Paraná. Mae'r ddwy olaf yn ymuno â'i gilydd cyn cyrraedd y Môr Iwerydd, i ffurfio aber y Río de la Plata (Afon Plât). Mae hinsawdd yr Ariannin yn dymherus gan fwyaf, ond gyda hinsawdd isdrofannol yn y gogledd a sych/is-Antarctig yn y de pell.

Prif Erthygl: Economi'r Ariannin

Mae gan yr Ariannin adnoddau naturiol gwerthfawr, poblogaeth wybodus iawn, amaeth da, a sylfaen ddiwydiannol amrywiol. Fodd bynnag, yn y 1980au hwyr bu dyledion rhyngwladol yr Ariannin yn codi'n enfawr, a graddfa chwyddiant wedi cyrraedd 200% y mis, a cynnyrch economaidd yn syrthio. I wella'r argyfwng economaidd, dechreuodd y llywodraeth ar ffordd i rhyddfrydoli masnach, di-rheoli, a preifateiddio. Yn 1991 daeth y peso eu sefydlu i'r Doler Americanaidd.

Roedd y diwygiadau yn llwyddiannus yn y dechrau, ond roedd argyfyngau economaidd hwyrach yn Mecsico, Asia, Rwsia a Brasil yn gwaethygu pethau o 1999 i flaen. Yn 2001 dymchwelodd y system bancio, ac roedd y peso yn nofio yn erbyn y doler ers Chwefror 2002. Ers hynny mae'r sefyllfa economaidd wedi gwella'n sylweddol.

Prif Erthygl: Demograffaeth yr Ariannin

Mae pobl yr Ariannin yn dod o lawer o grwpiau cenedlaethol ac ethnig, gyda disgynyddion pobl o'r Eidal a Sbaen yn y mwyafrif. Mae tua 500,000 o bobl o'r Canol Ddwyrain (Syria, Libanus, a gwledydd eraill) yn byw yn y dinasoedd. Y Sbaeneg yw'r unig iaith swyddogol.

Daeth llenyddiaeth yr Ariannin i sylw rhyngwladol yn rhan olaf y 19g gyda chyhoeddi'r llyfr Martín Fierro gan José Hernández. Cyfieithwyd y llyfr yma i dros 70 iaith. Ymhlith prif lenorion yr 20g mae Jorge Luis Borges, Julio Cortázar a Juan Gelman, ill tri ymhlith awduron Sbaeneg pwysicaf yr 20g.

Cyhoeddwyd cryn dipyn o lenyddiaeth Gymraeg gan drigolion y Wladfa hefyd. Yr enwocaf o lenorion y Wladfa yw Eluned Morgan ac R. Bryn Williams.

Daeth y tango yn enwog fel dull o ddawnsio ac arddull cerddorol, gyda Buenos Aires fel canolbwynt. Gelwir Carlos Gardel yn Frenin y Tango.

Pêl-droed yw'r mwyaf poblogaidd o'r chwaraeon yn yr Ariannin. Enillodd y tîm cenedlaethol Gwpan Pêl-droed y Byd yn 1978 a 1986. Y mwyaf adnabyddus o bêl-droedwyr y wlad yw Diego Armando Maradona.

Mae bocsio hefyd yn boblogaidd, ac mae mwy na 30 o Archentwyr wedi dal pencampwriaeth y byd. Enillodd yr Ariannin bencampwriaeth pêl-fasged y byd yn 1950. Cafwyd cryn lwyddiant mewn tenis hefyd, gyda Guillermo Vilas a Gabriela Sabatini yn nodedig. Daeth Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin yn drydydd yng Nghwpan y Byd yn 2007. Enw adnabyddus arall ym maes chwaraeon yw'r gyrrwr Fformiwla Un Juan Manuel Fangio, a enillodd bencampwriaeth y byd bum gwaith yn y 1950au.




#Article 7: Cymru (2042 words)


Mae Cymru (hefyd Saesneg: Wales) yn wlad Geltaidd.  Gyda'r Alban, Cernyw, Gogledd Iwerddon a Lloegr, mae Cymru'n rhan o'r Deyrnas Unedig. Lleolir y wlad yn ne-orllewin gwledydd Prydain gan ffinio â Lloegr i'r dwyrain, Môr Hafren a Môr Iwerydd i'r gogledd a'r gorllewin. Cymru yw tywysogaeth fwyaf y byd, ond bellach nid yw'r term tywysogaeth yn cael ei defnyddio'n aml i'w disgrifio. Cymraeg yw iaith frodorol y wlad ond siaredir Saesneg gan y cyfan o'i dinasyddion erbyn heddiw; gall oddeutu 19% o'i phoblogaeth siarad Cymraeg.

Yn wreiddiol defnyddiwyd yr enw Cymry, ffurf luosog Cymro, i ddisgrifio'r wlad a'r bobl ynddi. Ymddengys y gair yn gyntaf mewn cerdd fawl i Cadwallon ap Cadfan sydd o bosib yn dyddio o'r 7c, a daw o'r gair Brythoneg combrogos (lluosog: combrogi) sy'n golygu cydwladwr. Mae'r elfen bro yn parhau'n air am wlad neu ardal yn yr iaith fodern. Diflanodd y b tua'r flwyddyn 600, ond mae'r mb wedi aros yn y ffurf Ladin am y wlad, Cambria, yn ogystal â'r enwau Cumbria a Cumberland yng ngogledd Lloegr. Yn yr 16g mabwysiadwyd y sillafiad Cymru i ddynodi'r wlad gan neilltuo Cymry ar gyfer y trigolion.

Y gair Germaneg walh neu wealh (estron) yw bôn yr enw Saesneg ar Gymru. O'r un gair daw enw'r Walwniaid yng Ngwlad Belg. Defnyddid y ffurf luosog Wealas yn enw ar drigolion Brythoneg a Lladin eu hiaith ym Mhrydain gan y Saeson cynnar, a Cornwealas ar drigolion penrhyn Cernyw (y Corn). Dros amser daethpwyd y ffurfiau Wales a Welsh yn enwau'r Saesneg ar wlad a phobl Cymru.

Glaniodd Iŵl Cesar ym Mhrydain ym mis Awst 55 C.C., ond ni lwyddwyd i oresgyn Cymru (a oedd, fel gweddill Prydain, yn diriogaeth Geltaidd) am fwy na chanrif wedi hynny. Roedd llwythau Celtaidd Cymru — a oedd, yn ddiwylliannol, yn debyg iawn i'w cymdogion Brythonaidd yn ne Prydain — yn cynnwys y Silwriaid yn y de a'r Ordovices yn y gogledd. Fe sefydlodd y Rhufeinwyr gadwyn o amddiffynfeydd dros dde Cymru, cyn belled â Chaerfyrddin (Maridunum). Mae tystiolaeth iddyn nhw fynd ymhellach i'r gorllewin a chroesi i Iwerddon. Adeiladasant 'gaer y lleng' Caerllion (Isca), lle mae'r amffitheatr sydd wedi goroesi orau ym Mhrydain. Roedd y Rhufeiniaid hefyd yn brysur yn y gogledd — mae hen chwedl, Breuddwyd Macsen Wledig, yn dweud wrth Macsen Wledig, un o ymerawdwyr olaf yr ymerodraeth yn y Gorllewin, briodi Helen ferch pennaeth Cymreig o Segontiwm (Caernarfon gyfoes). Mae'n debygol mai'r rheswm pam y gwladychwyd Cymru gan y Rhufeiniaid yw oherwydd eu hawch i fwyngloddio aur, plwm, copr ac arian, a pheth sinc.

Ni wnaeth yr Eingl-Sacsoniaid orchfygu Cymru, er iddynt dorri'r cysylltiad rhwng Cymru a'r Hen Ogledd ar ôl Brwydr Caer yn 615, oherwydd llwyddiannau milwrol y brenhinoedd Cymreig yn ogystal, wrth gwrs, â'r dirwedd a'r hinsawdd. Adeiladodd Offa, brenin Mercia, glawdd mawr o ddaear ar hyd y ffin rhwng ei frenhiniaeth a gwlad y Cymry. Mae darnau o Glawdd Offa i'w gweld o hyd heddiw.

Parhaodd Cymru'n wlad Gristnogol ar ôl goresgyn Lloegr gan y tylwythau paganaidd Tiwtonaidd (y Saeson). Fe aeth Dewi Sant ar bererindod i Rufain yn y 6g, ac fe weithiodd fel esgob yng Nghymru ymhell cyn y cyrhaeddodd Awstin i drosi brenin Caint a dechrau esgobaeth Caergaint. Ond ni wnaeth y Cymry fawr o ymdrech i ledu Cristionogaeth yn Lloegr, efallai oherwydd yr elyniaeth rhwng y ddwy bobl. Roedd brenhinoedd Cymru fel Rhodri Mawr a Llywelyn ap Gruffudd yn ddigon cryf neu gyfrwys i gadw eu hannibyniaeth.

Ar ddiwedd y 1060au, daeth y Normaniaid i Gymru, gan newid gwleidyddiaeth y wlad. Sefydlwyd arglwyddiaethau Normanaidd Y Mers, rhwng Cymru a Lloegr. Bu bron iawn i Gymru gyfan gael ei goresgyn ganddynt ond llwyddodd Gruffudd ap Cynan ac Owain Gwynedd i'w hatal, er iddynt ymsefydlu mewn rhannau o'r de ac ardaloedd ar y ffin. Llwyddodd Llywelyn Fawr i osod seiliau Cymru unedig a chyhoeddwyd ei ŵyr Llywelyn ap Gruffudd yn Dywysog Cymru. Ond parhaodd brenhinoedd Lloegr i ymosod ar Gymru trwy gydol y cyfnod. Ym 1282 lladdwyd Llywelyn Ein Llyw Olaf, sef tywysog olaf annibynnol Cymru, mewn ysgarmes ger Cilmeri a chipiodd Edward I o Loegr ei deyrnas. Adeiladodd Edward res o gestyll mawr i gadw'r Cymry dan reolaeth — Rhuddlan, Conwy, Caernarfon, Biwmares, a Harlech ydyw'r cestyll enwocaf.

Cafwyd cyfres o wrthryfeloedd yn erbyn llywodraeth y Saeson o ddiwedd y 13g hyd ddiwedd y 15g; gan Madog ap Llywelyn (1294—96) a Llywelyn Bren (1316) er enghraifft, ac roedd y Cymry'n disgwyl dychweliad Owain Lawgoch yn y 1370au i ryddhau'r wlad. Cododd Owain Glyndŵr mewn gwrthryfel yn 1400 a chafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru, ond marw allan yn raddol wnaeth y gwrthryfel wrth i frenhinoedd Lloegr ailosod eu hawdurdod yn y wlad.

Am ran helaeth o weddill y 15g tynnwyd Cymru i mewn i Ryfeloedd y Rhosynnau a welodd y Lancastriaid a'r Iorciaid yn ymgiprys am rym yn Lloegr. Ond er gwaethaf yr ansefydlogrwydd, fel yn y ganrif flaenorol, blodeuodd diwylliant Cymru ac yn arbennig y Traddodiad Barddol gyda Beirdd yr Uchelwyr yn cael nawdd gan yr uchelwyr Cymreig. Un o'r uchelwyr hyn oedd Harri Tudur, nai Siasbar Tudur a disgynnydd i Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr. Yn 1485 glaniodd yn Sir Benfro gyda byddin o Ffrancod. Tyrrai nifer o Gymry ato a gorchfygodd Rhisiart III o Loegr ar 22 Awst 1485 ar Faes Bosworth.

Am gyfnod gwellodd sefyllfa'r Cymry. Diddymwyd y deddfau penyd a osodwyd ar y Cymry gan y Saeson ar ddechrau'r ganrif. Dan ei fab Harri VIII cyflwynwyd y Deddfau Uno a roddodd Cymru yn yr un system gyfreithiol a gweinyddol â Lloegr ond a waharddodd yr iaith Gymraeg o fywyd cyhoeddus y wlad. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad Gatholig i fod yn wlad Brotestanaidd. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol — cyfnod y Dadeni Dysg a'r Beibl Cymraeg — ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol ymneilltuol a ymledai'n gyflym yn ystod y 17eg ganrif a'r 18fed. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal, ac erbyn diwedd y 18g a dechrau'r 19eg ganrif roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd llythrennedd ac ymledai'r wasg Gymraeg. Cynyddai'r galw am Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru ac am hunanlywodraeth ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd mudiad Cymru Fydd ar ei anterth.

Cymysg fu ffawd y genedl yn ystod y 20fed ganrif. Ond er gwaethaf y Rhyfel Byd Cyntaf, Dirwasgiad Mawr y 1930au, yr Ail Ryfel Byd a'r dirywiad ieithyddol yn y 1970au a'r 1980au, mae Cymru heddiw'n meddu Cynulliad Cenedlaethol ac ymddengys fod yr iaith Gymraeg yn wynebu dyfodol mwy gobeithiol nag a ddychmygid cenhedlaeth yn ôl er mai dim ond oddeutu 18% o'r Cymry sy'n siarad Cymraeg.

Rheolid Cymru yn wreiddiol gan frenhinoedd neu dywysogion Cymreig annibynnol neu led-annibynnol megis Rhodri Mawr, Llywelyn Fawr, a'i ŵyr Llywelyn ein Llyw Olaf, a fabwysiadodd y teitl Tywysog Cymru ym 1258: cydnabuwyd hyn gan Frenin Lloegr ym 1277 yn unol â Chytundeb Aberconwy. Ar ôl goresgyn tywysogaeth Llywelyn gan Edward I o Loegr, mynegwyd y dyhead am annibyniaeth i Gymru yn y 14g gan nifer o wrthryfeloedd bychain. Y gwrthryfel mwyaf oedd gwrthryfel Owain Glyndŵr a ddechreuodd ym 1400. Curodd gwŷr Glyn Dŵr lu Seisnig ger Pumlumon ym 1401. Cafodd Glyn Dŵr ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru ag edrychodd am gymorth gan y Ffrancwyr, ond erbyn 1409 roedd gafael y lluoedd Seisnig ar y wlad yn rhy gryf a dirwynodd y gwrthryfel i ben.

Roedd gweddill y 15g yn bur ansefydlog hefyd. Ochrai'r rhan fwyaf o'r Cymry â phlaid y Lancastriaid yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau. Uchafbwynt y rhyfeloedd hynny oedd buddugoliaeth Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth yn 1485; diolch i'r cymorth a gafodd gan y Cymry a heidiai i'w gefnogi pan laniodd yn Sir Benfro, trechodd Harri'r brenin Rhisiart III a chipiodd goron Lloegr gan gychwyn cyfnod y Tuduriaid.

Yn ystod teyrnasiad Harri VIII o Loegr, ychwanegwyd chwe sir newydd at y rhai a fodolai eisoes ar diriogaeth yr hen Dywysogaeth gan Ddeddf Uno 1536 trwy roi statws sirol i arglwyddiaethau Penfro a Morgannwg a chreu pedair sir newydd, sef Brycheiniog, Maesyfed, Trefaldwyn a Dinbych,  a gwnaethpwyd deddfau Lloegr yn ddeddfau gwlad yng Nghymru. Yng Ngwent, crëwyd sir newydd Mynwy yn y de-ddwyrain ond rhoddwyd y sir yn rhan o gylchdaith llysoedd San Steffan ac felly cafwyd yr ymadrodd cyfreithiol Cymru a Sir Fynwy, anomaledd a barhaodd hyd yr 20g er na fu'r sir newydd yn rhan o Loegr fel y cyfryw.

Mae aelodau Senedd Cymru, a grëwyd ym 1998 ac sy'n cyfarfod yng Nghaerdydd, yn cael eu hethol gan y Cymry. Tywysog Cymru yw'r teitl y mae brenin neu frenhines Prydain yn arfer rhoi i'w mab hynaf (ond nid yn ddieithriad), ond nid yw'r tywysog ei hun yn byw yng Nghymru nac yn cymryd rhan yn ei llywodraeth. Y Tywysog Siarl yw'r Tywysog Cymru Seisnig cyntaf i fedru siarad tipyn bach o Gymraeg.

Crëwyd patrwm o 13 o siroedd yng Nghymru ar ôl Deddf Uno 1536: Sir Fôn, Sir Frycheiniog, Sir Gaernarfon, Sir Aberteifi, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Forgannwg, Sir Feirionnydd, Sir Drefaldwyn, Sir Benfro, Sir Faesyfed, a Sir Fynwy. Y rhain ydyw siroedd hanesyddol Cymru. O dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888, crëwyd siroedd gweinyddol oedd wedi ei seilio ar y siroedd traddodiadol, ond nid oeddynt yn union yr un fath. Yn ad-drefnu llywodraeth leol 1974 crëwyd wyth sir gadwedig: Clwyd, Dyfed, Gwent, Gwynedd, Powys, Morgannwg Ganol, De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg. Erbyn hyn y rhain yw enwau siroedd seremonïol Cymru. Yn 1996 crëwyd 22 o awdurdodau lleol i gymryd lle'r wyth sir gadwedig, a'u henwau yn cynnwys rhai o enwau'r 13 sir hanesyddol a rhai o'r wyth sir gadwedig, a'r ffiniau yn wahanol weithiau. Mae rhai o'r trefi mawrion yn awdurdodau unedol eu hunain e.e. Caerdydd, Abertawe, Wrecsam.

Mae tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Parc Cenedlaethol Eryri a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Dyfarnwyd i'r cestyll Biwmares, Harlech, Caernarfon, a Chonwy, ym 1986, ac i  ardal ddiwydiannol Blaenafon ym 2000, statws Treftadaeth Byd UNESCO .

Gweler hefyd: Rhestr moroedd, baeau a phentiroedd Cymru, Rhestr ynysoedd Cymru, Rhestr mynyddoedd Cymru, Rhestr llynnoedd Cymru, Rhestr afonydd Cymru, Cronfeydd Cymru.

Mae rhannau o Gymru yn ddiwydiannol ers y 18g. Mae glo, copr, llechi, ac aur wedi cael eu cloddio yng Nghymru. Roedd y gweithiau haearn ac alcam a'r pyllau glo wedi denu miloedd o fewnfudwyr i'r wlad yn ystod y 19eg canrif, yn enwedig i gymoedd de Cymru. Bu'r mewnfudwyr hyn, y rhan fwyaf ohonynt o Loegr neu Iwerddon, yn allweddol yn y newid iaith a sbardunwyd yn y De-ddwyrain yr adeg hon, o'r Gymraeg i'r Saesneg.

Yn ôl Cyfrifiad 2011 yr oedd 3,063,456 o bobl yn byw yng Nghymru, sy'n rhoi dwysedd o 147.4/km².

Dylanwadwyd ar ddiwylliant Cymru gan lu o bethau: cenedl, iaith, crefydd, a daearyddiaeth. Diwylliant arbennig y Cymry Cymraeg yw diwylliant Cymraeg. Mae'n rhan hanfodol o ddiwylliant Cymru ond hefyd yn rhan o hanes Y Wladfa ym Mhatagonia, a chymunedau eraill yn y byd sy'n Gymraeg eu hiaith. Nodir diwylliant traddodiadol Cymru gan etifeddiaeth y Celtiaid wedi ei chyfuno â Christnogaeth, hen chwedlau a straeon sydd wedi ymgynefino â'r llên gwerin a'r traddodiad llenyddol, a bywyd y werin yn y cefn gwlad.

Mae gan gerddoriaeth Cymru hanes hir, ond ychydig iawn o wybodaeth fanwl sydd gennym cyn y 18g pan ddechreuodd hynafiaethwyr ymddiddori yn y pwnc. Cyfeirir at Gymru'n aml fel Gwlad y Gân, yn ystrydebol braidd.

Ac eithrio llenyddiaeth glasurol, llenyddiaeth Gymraeg yw'r hynaf yn Ewrop. Mae gan y Gymraeg draddodiad cyfoethog o lenyddiaeth sy'n dyddio o'r 6g hyd heddiw. Oherwydd eu bod yn ysgrifennu mewn iaith â mwy o bobl yn ei deall, mae ysgrifennwyr llenyddiaeth Saesneg Cymru yn aml wedi llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd llawer mwy na'u cyd-wladwyr sy'n ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg yn unig. Dwy enghraifft adnabyddus o hyn yw'r beirdd byd-enwog Dylan Thomas ac R. S. Thomas.

Dywedir yn aml taw rygbi'r undeb yw mabolgamp genedlaethol Cymru, er mae pêl-droed yn denu mwy o wylwyr i'r maes. Bu'r Cymry hefyd yn dangos eu medr yn snwcer, dartiau, golff, paffio, ac athletau. Ymhlith yr hen chwaraeon bu cnapan, bando, pêl-droed traddodiadol, a chwarae pêl.

Mae bwydydd Cymreig yn cynnwys cawl, teisen gri, bara lawr, bara brith, selsig Morgannwg, a Welsh rarebit.

Mae'n debyg taw'r Ddraig Goch, sy'n ymddangos ar y faner genedlaethol, yw symbol amlycaf Cymru. Ceir hefyd y genhinen Bedr a'r genhinen. Hen Wlad fy Nhadau yw'r anthem genedlaethol.




#Article 8: Blog (126 words)


Gwefan gan unigolyn neu grŵp sy'n cael ei ddiweddaru'n gyson gyda chofnodion mewn trefn wrth-gronolegol, gan amlaf gan ddefnyddio meddalwedd rheoli cynnwys megis Blogger, LiveJournal neu WordPress yw blog.

Mae'r term Blog yn dalfyriad o'r term Saesneg Web log, a ddefnyddwyd yn wreiddiol i ddisgrifio cofnodion, neu log, o bethau diddorol roedd person yn eu darganfod ar y we. Mae yna hefyd flogiau sydd yn arbennig ar gyfer cofnodi lluniau yn uniongyrchol o ffôn symudol neu wedi eu llwytho o gamera digidol.

Mae dros 400 o flogiau ar gael yn y Gymraeg
 
Gellir gweld detholiad o gofnodion o flogiau Cymraeg ar .

Un o nodweddion gwasanaethau blogio yw eu hygyrchedd a'r gallu i gyfieithu'r patrymlun i'r Gymraeg. Mae platfform blogio Wordpress wedi ei leoleiddio i'r Gymraeg.




#Article 9: Llangrannog (161 words)


Mae Llangrannog () yn bentref ar arfordir gorllewin Cymru, yn sir Ceredigion. Mae ganddi 771 o drigolion, a 51% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).

Mae'n gartref i Wersyll yr Urdd.

Mae gan y pentre ddwy dafarn, Y Ship a'r Pentre Arms. Mae cysylltiadau cryf rhwng y Pentre Arms a Bois y Cilie. Cafodd Dylan Thomas ei wahardd o'r dafarn am helpu ei hunan i'r cwrw.

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Sant o ddiwedd y 5ed i ddechrau'r 6g oedd Carranog (ganwyd c. 470; Gwyddeleg: Cairnech; Llydaweg: Karanteg; Lladin: Carantocus; Saesneg: Carantoc; Cernyweg: Crantoc). Yn ôl y llawysgrif Progenies Keredic Regis de Keredigan, a sgwennwyd ar ddechrau'r 13g, roedd yn fab i'r  Brenin Ceredig, ond yn ôl Peniarth 12 ac 16 (a Iolo tud. 110 a 125) roedd yn fab i Corun ac felly'n ŵyr i Ceredig. Ceir felly peth dryswch yn ei gylch.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 10: Aberystwyth (2150 words)


Tref fwyaf Ceredigion, ar arfordir gorllewin Cymru yw Aberystwyth. Mae'n sefyll ar lan Bae Ceredigion lle mae'r afonydd Rheidol ac Ystwyth ill dwy yn aberu. Cododd Edmwnt, brawd y brenin Edward I ar Loegr y castell presennol yn 1277 a thyfodd y dref o gwmpas y castell. Daeth yr harbwr yn bwysig yn y bedwaredd ganrif ar ddeg o ganlyniad i'r cloddfeydd plwm a oedd yn yr ardal. Enillodd Aberystwyth y teitl 'Tref Orau Prydain' yn 2015 gan yr Academy of Urbanisation.

Lleolir y dref lle mae'r afonydd Rheidol ac Ystwyth ill dwy yn aberu, ar yr arfordir gorllewinol Cymru. Er bod yr enw yn awgrymu fel arall, dim ond afon Rheidol sy’n rhedeg drwy’r dref. Ers i’r harbwr gael ei ailadeiladu, mae afon Ystwyth bellach yn rhedeg o gwmpas ymyl deheuol y dref. 

Mae gan Aberystwyth pier a glan môr sy’n estyn o Graig-glais ar ben gogleddol y promenâd, i geg yr harbwr yn y de. Mae dau ddarn o draeth, sy’n cael eu gwahanu gan bentir y castell. 

Yn ei hanfod, mae’r dref yn cynnwys nifer o ardaloedd gwahanol: Canol y dref, Llanbadarn Fawr, Waunfawr, Llanbadarn, Trefechan a Phenparcau (yr ardal fwyaf poblog) 

Tref arunig yw Aberystwyth, gan ystyried dwysedd poblogaeth y Deyrnas Unedig. Lleolir y trefi sylweddol agosaf 1 awr 45 munud i ffwrdd o leiaf, gan gynnwys: Abertawe, 70 milltir i’r de, Amwythig, 75 milltir i’r dwyrain dros y ffin Lloegr, Wrecsam, 80 milltir i’r gogledd-ddwyrain, a Chaerdydd, 100 milltir i’r de-ddwyrain.

Yn debyg i bron holl y Deyrnas Unedig, mae gan Aberystwyth hinsawdd gefnforol (dosbarthiad hinsawdd Köppen: Cfb). Mae effeithiau’r hinsawdd hon yn arbennig o amlwg gan fod y dref yn wynebu’r Môr Iwerddon. Mae effeithiau lleol y tir dim ond yn fach iawn ar y llif awyr, felly bod tymereddau yn adlewyrchu tymheredd y môr pan bod y gwynt yn chwythu o’r cyfeiriad trechaf, sef y de-orllewin. Mae Gorsaf y Swyddfa Tywydd agosaf yng Ngogerddan, tair milltir i’r gogledd-ddwyrain, ar uchder tebyg i’r dref ei hun. 

Roedd y tymheredd uchaf llwyr yn  
, a gofnodwyd ym mis Gorffennaf 2006. Roedd hyn hefyd yn record i fis Gorffennaf yng Nghymru gyfan, sydd yn awgrymu bod lleoliad isel y dref, ynghyd â’r posibilrwydd o effaith Föhn pan bod y gwynt yn dod o’r mewndir, yn gallu cydweithio i beri tymereddau uchel ar brydiau. Yn arferol, bydd y tymheredd cyfartalog ar y dydd poethaf yn cyrraedd , gyda 5.6 diwrnod y flwyddyn yn rhagori ar 

Roedd y tymheredd isaf llwyr yn , a gofnodwyd yn Ionawr 2010. Yn nodweddiadol, gellir arsyllu rhew awyr 39.8 dydd y flwyddyn.

Ar gyfartaledd, mae  o law yn syrthio bob blwyddyn, a chofnodir mwy na 1mm ar 161 dydd y flwyddyn.

Ar 14 Ionawr 1938 trawyd Aberystwyth gan un o stormydd gwaethaf yn ei hanes. Chwalwyd y tai a wynebai'r môr ac fe gwtogwyd y pier o 200tr. (15 Ionawr 1938: Pier Aberystwyth wedi ei thorri yn ddwy, llanw uchel, gwynt cryf o'r de, y llanw uchaf yn ffodus ychydig ddyddiau wedyn)

Mae tystiolaeth y defnyddwyd ardal Tan-y-Bwlch ger troed Pen Dinas (Penparcau) yn ystod y cyfnod Mesolithig, ar gyfer creu arfau ar gyfer helwyr-gasglwyr allan o'r callestr a adawyd yno wedi i'r iâ encilio.

Mae olion caer Geltaidd ar ben bryn Pen Dinas (neu 'Dinas Maelor'), Penparcau yn edrych dros Aberystwyth o'r de, yn dynodi yr anheddwyd y safle o tua 700 CC. Ar ben bryn i'r de o Afon Ystwyth, mae olion cylch gaer. Credir mai olion y castell yr herwgipwyd y Dywysoges Nest ohono yw'r rhain. Mae'r olion bellach ar dir preifat a gellir ei gyrchu drwy gael caniatád a threfnu gyda'r perchennog yn unig.

Mae'n debyg mai'r cofnod hanesyddol cyntaf o Aberystwyth oedd adeiladu caer yn 1109, gan Gilbert Fitz Richard (taid Richard de Clare, sy'n adnabyddus am ei rôl yn arwain Goresgyniad y Normaniaid ar Iwerddon). Rhoddwyd tiroedd ac arglwyddiaeth Aberteifi i Gilbert Fitz Richard, gan Harri I, brenin Lloegr, gan gynnwys Castell Aberteifi. Lleolwyd y caer yn Aberystwyth tua milltir a hanner i'r de o safle'r dref heddiw, ar fryn uwchben glannau deheuol yr Afon Ystwyth. Adeiladodd Edmwnt, brawd y brenin Edward I gastell newydd yn 1277, wedi iddo gael ei ddinistrio gan y Cymry. Ond, adeiladwyd ei gastell ef mewn safle gwahanol, ar bwynt uchel y dref, sef Bryn Castell. Rhwng 1404 a 1408 roedd Castell Aberystwyth yn nwylo Owain Glyndŵr, ond ildiodd i'r Tywysog Harri, a ddaeth yn Harri V, brenin Lloegr yn ddiweddarach. Yn fuan wedi hyn cyfunwyd y dref gyda Ville de Lampadarn (enw hynafol Llanbadarn Gaerog, er mwyn ei gwahaniaethu oddi wrth Llanbadarn Fawr, y pentref (1.6 km) i'r gorllewin). Dyma sut y cyfeirir ati yn y Siarter Brenhinol a roddwyd gan Harri VIII, ond fel Aberystwyth y cyfeirwyd ati yn nogfennau o oes Elizabeth I.

Gwelir siâp strydoedd Canol Oesol y dref o hyn (er, gydag adeiladu o'r 18 a'r 19g) mewn strydoedd ger y Castell ar ben uchaf Aberystwyth, megis, Heol y Wig, y Stryd Fawr, Stryd y Porth Bach a Heol y Bont.

Agorwyd un o fanciau annibynnol cynharaf Cymru, Banc y Llong yn y dref yn 1762.

Ym 1649 fe wnaeth milwyr y seneddwyr dinistrio’r castell, yn gadael dim ond rhai gweddillion bach, er bod darnau'r tri thŵr yn dal i fodoli. Yn 1988, yn ystod gwaith cloddio yn ardal y castell,  darganfuwyd ysgerbwd gwryw cyflawn, a oedd wedi’i gladdu’n fwriadol. 
Er mai anaml y mae sgerbydau yn aros yn gyfan oherwydd y pridd asidig yng Nghymru, mae’n debyg y goroesodd y sgerbwd oherwydd y presenoldeb calch yn y pridd, o’r adeilad a gwympodd. Adnabyddir fel Charlie, mae bellach wedi'i gartrefu yn Amgueddfa Ceredigion yn y dref, ac mae’n debyg yr oedd e’n byw yn ystod cyfnod y Rhyfel Cartref Lloegr, a bu farw yn ystod y gwarchae gan y seneddwyr. Gellir gweld ei ddelwedd mewn un o’r naw mosaig wedi’u creu i addurno muriau’r castell. 

Plasty ac ystâd wedi’u hadeiladu o 1783 gan Thomas Johnes oedd Hafod Uchtryd, gyda rhan ohono wedi’i gynllunio gan John Nash. Ffurfiwyd y gerddi wedi'u tirlunio gan ffrwydro darnau o’r bryniau er mwyn rhoi golygfeydd gwell o’r amgylchoedd. Adeiladwyd ffyrdd a phontydd a chafodd miloedd o goed eu plannu. Canlyniad y gwaith oedd tirlun a ddaeth yn enwog ac atynnodd llawer o ymwelwyr, gan gynnoes Samuel Taylor Coleridge, y credir bod ei gerdd, Kubla Khan, wedi cael ei ysbrydoli gan yr ystâd. Chwalwyd y tŷ ym 1955, ond mae’r gerddi yn aros yno.

Roedd diwydiannau gwledig a chrefftwyr yn rhan bwysig o fywyd mewn tref wlad. Mae'r cyfeirlyfr masnach leol o 1830 yn dangos y busnesau dilynol: ugain o gryddion, wyth pobydd, dau felinydd corn, un ar ddeg o seiri coed ac asiedyddion, un cowper, saith teiliwr, dwy wniadwraig, dau wneuthurwr het gwellt, dau wneuthurwr het, tri chwrier, pedwar cyfrwywr, dau weithiwr tun, chwe chynhyrchydd brag, dau grwynwr, pedwar barcer, wyth saer maen, un bragwr, pedwar llosgwr calch, tri saer llongau, tri gwneuthurwr olwyn, pum gwneuthurwr cabinet, un gwneuthurwr hoelion, un gwneuthurwr rhaff ac un gwneuthurwr hwyl.

Mae Aberystwyth yn dref gwyliau glan môr boblogaidd. Yn ogystal â dwy sinema a chwrs golff, mae ei atyniadau yn cynnwys:

Mae hufenfa organig cwmni Rachel's Organic wedi ei lleoli ar ystad ddiwydiannol Glan yr Afon, a dyma'r cyflogwr mwyaf yn y sector breifat yn Aberystwyth. Mae rhai yn honni fod y dref wedi datblygu economi fach ei hun gan ei fod wedi ei ynysu oddi wrth gweddill y wlad: mae Rachel yn cyflogi 130, a 1,000 wedi eu cyflogi yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru a Chyngor Ceredigion yn y dref; cyflenwir y rhan helaeth o weithwyr y sector cyflog isel gan fyfyrwyr.

Daeth papur newydd y Cambrian News i Aberystwyth o'r Bala ym 1870, wedi iddo gael ei brynu gan Syr John Gibson. Argraffwyd yn Nghroes-oswallt, ac ym mis Mai 1880 cyfunodd y papur gyda'r cyn-Malthouse Dan Dre. Y teulu Read oedd yn berchen arno o 1926, ac ym 1993, contractwyd yr argraffu allan, gan alluogi i'r cwmni symyd eu staff golygyddol i swyddfa ar Barc Gwyddoniaeth ar Gefnllan, ger Llanbadarn Fawr. Wedi marwolaeth Henry Read, prynwyd y papur gan Syr Ray Tindle ym 1999, gan ddod yn un o dros 200 o bapurau wythnosol ym Mhrydain sydd yn eiddo iddo. O ran maint ei gylchrediad wythnosol, y Cambrian News sydd yn ail yng Nghymru erbyn hyn, gan werthu 24,000 copi mewn chwe fersiwn olygyddol, a ddarllenir gan 60,000 ar draws 3000 milltir sgwar.

Lleolir gwasg Y Lolfa ym mhentref Tal-y-bont, Ceredigion nid nepell o Aberystwyth. Mae'r wasg yn cyflogi oddeutu hanner cant o bobl y fro. Sefydlwyd y wasg gan Robat Gruffudd, ond bellach mae'r wasg yn nwylo diogel ei feibion Garmon a Lefi. Dyma bellach un o'r gweisg mwyaf sy'n cyhoeddi cyfran helaeth o'i llyfrau drwy gyfrwng y Gymraeg, ynghyd â Gwasg Gomer o Landysul, Gwasg Carreg Gwalch o Lanrwst a Gwasg y Dref Wen o Gaerdydd.

Aiff y sylw ymlaen i ddweud:

Ydi’r eithin Spaen ar y Consti o hyd? Beth am fynd am dro ddiwedd mis Mai i’w weld. Ia, bydd llun o’i flodau melyn clir
yn dderbynniol iawn diolch!

Mae'r pier yn glwydfan i sawl mil(iwn?) o ddrudwennod sydd yn chwyrlio yn eu ffordd ddihafal wrth noswylio. Hon yn ddios yw'r clwydfan enwocaf o'i bath yng Nghymru.

Tref brifysgol a chyrchfan i dwristiaid yw Aberytwyth, sydd hefyd yn ffurfio cyswllt diwylliannol rhwng y Gogledd a’r De. Mae Craig-glais (neu Consti, o’r enw Saesneg Constitution Hill) yn rhoi golygfeydd panoramig o Fae Ceredigion a'i forlin, yn ogystal ag atyniadau eraill ar y copa, gan gynnwys y Camera Obscura. Gall ymwelwyr gyrraedd y copa gyda Rheilffordd y Graig, sef y rheilffordd ffwniciwlar hiraf yn y DU tan 2001. 

Mae mynyddoedd Elenydd yn ffurfio rhan o'r tirlun golygfaol sydd yn amgylchu’r dref, y mae eu cymoedd yn cynnwys coedwigoedd a dolydd sydd dim wedi newid yn fawr am ganrifoedd. Ffordd cyfleus i gyrraedd y mewntir ydy’r Rheilffordd Cwm Rheidol, lein trac cul wedi’i gadw gan wirfoddolwyr. 

Er bod y dref yn fodern yn gymharol, mae nifer o adeiladau hanesyddol, gan gynnwys gweddillion y castell, a’r Hen Goleg o Brifysgol Aberystwyth gerllaw. Adeiladwyd ac agorwyd yr Hen Goleg yn wreiddiol ym 1865 fel gwesty, ond wedi i’r perchennog fethdalu, gwerthwyd cragen yr adeilad i’r brifysgol ym 1867. 

Mae campws newydd y Brifysgol yn edrych dros Aberystwyth o Riw Penglais, a leolir i’r dwyrain o ganol y dref. Adeiladwyd yr Orsaf, sef terfynell y prif reilffordd, ym 1924 yn yr ardull nodweddiadol o’r cyfnod, gan ddefnyddio cymysgedd o bensaernïaeth Gothig, Diwygiad Clasurol a Fictoraidd. 

Prifddinas answyddogol y Canolbarth yw’r dref, ac mae gan amryw sefydliadau swyddfeydd rhanbarthol neu genedlaethol yno. Mae cyrff cyhoeddus a leolir yn y dref yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd yn corffori’r Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, un o chwe archif ffilm ranbarthol ym Mhrydain Fawr. Mae’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn trin a chadw’r Rhestr Henebion Cenedlaethol Cymru, sydd yn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd ar etifeddiaeth bensaernïol Cymru. Mae Aberystwyth hefyd yn gartref i’r swyddfeydd cenedlaethol yr Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae gan Gyngor Llyfrau Cymru swyddfa yn y dref, yn ogystal â’r Geiriadur Prifysgol Cymru, geiriadur hanesyddol cyffredin yr Iaith Gymraeg. Mae’r Sefydliad Ymchwil Glaswelltir ac Amgylchedd wedi bod yng Ngogerddan, i’r gogledd-ddwyrain o’r dref ers 1919, ond mae bellach wedi cael ei ymgorffori i mewn i Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Ym mis Medi 2009, agorwyd cymhleth swyddfeydd newydd ar Boulevard St Brieuc ar gyfer Llywodraeth Cymru a Chyngor Ceredigion.  

Yn flynyddol ers 2013, cynhelir Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth ac, ers 2014, Eisteddfod Calan Mai Aberystwyth. 

Mae Aberystwyth hefyd yn gartref i sawl sefydliad a mudiad:

Mae Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yn glwb pêl-droed sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru.

Cynhelir Gŵyl Seiclo Aberystwyth a hefyd Gŵyl Gomedi Aberystwyth yn flynyddol yn y dref. Cynhelir hefyd Ras Rwyfo'r Her Geltaidd lle bydd timau rhwyfo yn rhwyfo o dref Arklow (gefeilldref Aberystwyth) yn Iwerddon ag Aberystwyth. Cynhelir yr Her bob yn ail flwyddyn.

Mae canol tref Aberystwyth (ar ochr uchaf y dref tuag at y Castell) yn dilyn patrwn aneddiad o'r Oesoedd Canol. Ceir yn y drefn amrywiaeth eang o bensaernïaeth o'r 18g ymlaen gan gynnwys nifer o 'dai tref' chwaethus o'r cyfnod. Ceir disgrifiad llawnach o natur a hanes y strydoedd yma:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth ym 1916, 1952 a 1992. Am wybodaeth bellach gweler:

Aberystwyth yw tref genedigol:

Eraill sydd â chysylltiad ag Aberystwyth yw:

San Francisco Cymru, Aberystwyth

Mae Aberystwyth yn gartref i ysgol Gymraeg ddynodedig cyntaf Cymru, sef Ysgol Gymraeg Aberystwyth a sefydlwyd fel Ysgol Gymraeg yr Urdd ym 1939. Ysgolion cynradd eraill y dref yw Plascrug, Cwmpadarn a Llwyn yr Eos.

Mae dwy ysgol uwchradd, ysgol gyfun ddwyieithog Penweddig ac ysgol gyfrwng Saesneg Penglais.

Mae addysg uwch ac addysg bellach yn cael eu darparu yn y dref gan Brifysgol Aberystwyth a Choleg Ceredigion.

Mae Aberystwyth wedi gefeillio â phedair tref dramor:




#Article 11: David R. Edwards (128 words)


Canwr a bardd yn enedigol o Aberteifi, Ceredigion, yw David Rupert Edwards (ganed 3 Medi 1964). Daeth i'r amlwg fel arweinydd y band roc Datblygu. Yn ôl John Peel, roedd ei gyfansoddiadau gwreiddiol a chlyfar yn ddigon o reswm yn eu hunain i ddysgu'r iaith Gymraeg.

Yn ogystal a Datblygu, gweithiodd David gyda Tŷ Gwydr a Llwybr Llaethog ar L.L. v T.G. MC DRE yn 1992, tua'r un adeg daeth yn athro yn ysgol uwchradd Llanfair Caereinion. Gwahanodd y band oherwydd salwch ar ôl rhyddhau eu sengl Putsch yn 1995. Anwybyddwyd ef gan y cyfryngau tan yn ddiweddar, wedi i recordiau Ankst ail-ryddhau Libertino mewn bocs-drifflig ynghyd a'u dau albym cyntaf, Wyau a Pyst.

Cyhoeddwyd hunangofiant Edwards gan Y Lolfa ym mis Hydref 2009, sef Atgofion Hen Wanc.




#Article 12: Hen Wlad fy Nhadau (671 words)


Anthem genedlaethol Cymru yw Hen Wlad fy Nhadau. Ysgrifenwyd y geiriau gan Evan James (1809-1878), a chyfansoddwyd y dôn gan ei fab James James (1833-1902) ym mis Ionawr 1856. Roedd y ddau yn drigolion o Bontypridd. Gwehydd a bardd oedd y mab, a thelynor oedd y tad.

Ymddengys y sgwennwyd y geiriau fel ymateb i wahoddiad gan y bardd a dderbyniasai gan ei frawd i ymuno ag ef yn yr Unol Daleithiau, lle’r oedd cynifer o Gymry’r cyfnod yn chwilio am well byd, a bod y gân yn ddatganiad fod gwlad genedigaeth y bardd (sef ‘gwlad ei dadau’) yn ddigon da iddo ef. Rhoddwyd iddi yr enw ‘Glan Rhondda’, gan mai ar lannau’r afon, yn ôl traddodiad, y daeth yr alaw i feddwl y cyfansoddwr.

Perfformiwyd y gân, neu 'Glan Rhondda' fel y gelwid hi'n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, Maesteg yn Ionawr neu Chwefror 1856, gan gantores leol, Elizabeth John. Argraffwyd y geiriau'n unigrhagor ar ffurf baled, ac wedi hynny, daeth y gân yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn Eisteddfod Llangollen, 1858, ar ôl i Llewelyn Alaw (Thomas David Llewelyn) (1828–79) o Aberdâr ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi. Fodd bynnag, ni phriodolwyd y geiriau i Evan a James James!

Cynhwyswyd y geiriau a'r alaw, eto yn ddienw, gan feirniad y gystadleuaeth, John Owen (Owain Alaw; 1821–83) yn ei gasgliad cyntaf o Gems of Welsh Melody a gyhoeddwyd gan Isaac Clarke yn Rhuthun yn 1860. Dyma'r argraffiad cyntaf o'r geiriau a'r alaw ac fe'u hargraffwyd yn yr adeilad du-a-gwyn a elwir heddiw yn 'Siop Nain'.

Owain Alaw oedd yn gyfrifol am drefnu fersiwn gwreiddiol James James a rhoi i’r gân y naws emynyddol a’i gwnaeth yn gân dorfol boblogaidd: mae copïau llawysgrif cynnar yn awgrymu mai alaw ddawns ysgafn yn amseriad cyfansawdd 6/8 oedd ei ffurf wreiddiol gan James James, a oedd yn delynor poblogaidd a chwaraeai mewn tafarndai yn ei ardal. O fewn ychydig flynyddoedd, daeth y gân yn adnabyddus mewn eisteddfodau, a’i defnyddio’n gân gystadleuol gan gorau yn ogystal ag yn gân i’w chanu i gloi defodau a chyngherddau. Ceir tystiolaeth er enghraifft iddi gael ei chanu fwy nag unwaith yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth yn 1865, ac fe’i poblogeiddiwyd gan Eos Morlais (Robert Rees) wedi iddo ei chanu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1874.

Fe’i canwyd am y tro cyntaf mewn gêm rygbi ryngwladol ar achlysur gornest fawr Cymru yn erbyn Seland Newydd yn 1905. Mae ei phoblogrwydd mewn gemau rygbi rhyngwladol yn yr 20g. wedi sicrhau ei bod yn adnabyddus fel anthem ar draws y byd, ac fe’i cynhwysir yn rheolaidd mewn casgliadau printiedig o anthemau cenedlaethol y gwledydd. Mae ei symudiad llyfn a’r uchafbwyntiau a geir yn y gytgan yn ei gwneud yn gân addas tu hwnt i dorfeydd, ac fe’i hystyrir yn gyffredinol yn un o’r goreuon o blith anthemau cenedlaethol.

Gwnaed y recordiad Cymraeg cyntaf, sydd yn hysbys, yn Llundain ar 11 Mawrth 1899, pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon roedd yr anthem genedlaethol, a gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae copi o’r anthem yn dal i oroesi hyd heddiw, ac yn rhan o gasgliadau y Llyfrgell Genedlaethol.

Defnyddir fersiynau o’r anthem gan Gernyw, Bro Goth Agan Tasow ac yn Llydaw ers 1902, Bro Gozh ma Zadoù. Mae’n debyg fod fersiwn i’w chael yn India yn ogystal. Mae pobl y Khasi, yng ngogledd ddwyrain y wlad wedi mabwysiadu ein hanthem ni fel un eu hunain. Enw eu hanthem yw Ri Khasi, ac aiff y traddoddiad nôl i’r 1800au, pan aeth cenhadon meddygol Cymraeg drosodd i’r ardal.

Yn y 1970au cafwyd fersiwn roc ohoni gan Tich Gwilym yn null Jimi Hendrix.

Bu cryn dynnu coes ar John Redwood (Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd) am ei ymdrechion i ganu'r anthem yn ystod cynhadledd Gymreig y Blaid Geidwadol. Yn anffodus, doedd ddim yn gwybod y geiriau, ac ni lwyddodd guddio'r ffaith mai meimio oedd o.

.




#Article 13: Gwiwer (211 words)


Anifail cymharol fach, gyda chynffon blewog iawn yw'r wiwer, sy'n perthyn i deulu'r Sciuridae, sy'n cynnwys aelodau eraill fel y chipmunk a'r marmotiaid. Fe'i nbodweddir gan gynffon hir flewog a'i chwimdra wrth ddringo a neidio drwy ganghennau coed. Mae gwiwerod i'w cael ym mhob cyfandir heblaw am Awstralia ac Antarctica; cyflwynwyd nhw i Awstralia dros ganrif a hanner yn ôl.

Mae gwiwerod yn byw yn bennaf mewn coedwigoedd, gan fwyta'r cnau maent wedi eu casglu ar gyfer y gaeaf. Yng ngwledydd Prydain, mae niferoedd y wiwer goch (Sciurus vulgaris) wedi gostwng yn sylweddol, ond mae hi'n dal i fyw mewn ambell i le yng Nghymru. Ym mwyafrif Ynysoedd Prydain mae'r wiwer lwyd (Sciurus carolinensis) a gyflwynwyd o Ogledd America wedi gyrru'r wiwer goch i ffwrdd. Amcangyfrifir bod 85% o wiwerod cochion Prydain yn byw yn yr Alban. Yn Lloegr, Ynys Wyth yw cadarnle'r wiwer goch.

Gwyddom fod y wiwer yn byw yn ystod yr epoch Eocene ac mae'n perthyn yn eithaf agos i Ddyfrgi'r mynydd a'r llyg.

Perthyna'r gair i'r Lladin viverra (a olygai ffured) ac fe'i geir yn yr Hen Lydaweg fel guiufher. Cofnodir y gair am y tro cyntaf yn y Gymraeg yng Nghyfreithiau Hywel Dda: Tair cont cyfreithiawl y sydd: cont gast, a chont cath a chont gwiweir.




#Article 14: Ocsitaneg (148 words)


Siaredir Ocsitaneg ( a adnabyddir hefyd fel lenga d'òc) yn Ne Ffrainc, yn bennaf yn ardal Profens, rhannau o'r Eidal (Dyffrynoedd Ocsitan), rhannau o Sbaen (Dyffryn Aran) ac ym Monaco; yn answyddogol, gelwir yr ardaloedd hyn yn Ocsitania. Mae'r Ocsitaneg yn un o'r ieithoedd Romáwns ac mae'n perthyn yn agos i Gatalaneg.

Nid yw Ffrainc wedi cefnogi'r iaith yn effeithiol, ac mae'r niferoedd sy'n siarad Ocsitaneg heddiw'n lleihau, ond caiff ei hystyried yn iaith swyddogol gan Lywodraeth Catalwnia. Ymhlith y siaradwr enwog mae Frédéric Mistral, bardd Provençal. Oherwydd y diffyg cefnogaeth iddi gan Ffrainc, nid oes un iaith safonol ac mae chwe tafodiaith a chwe ffurf ysgrifenedig. Mae UNESCO yn ystyried pedair o'r tafodieithoedd hyn 'yn beryg enbyd o ddiflannu', ac wedi rhestru yn eu 'Rhestr Coch o Ieithoedd mewn Perygl'. Y bedair yw: Provençal, Auvergnat, Limousin and Languedocien. Ystyrir y ddwy arall, Gascon a Vivaro-Alpine 'mewn peryg'.




#Article 15: Owain Glyn Dŵr (4267 words)


Yn ddisgynnydd i dywysogion Powys,  Owain Glyn Dŵr neu Owain ap Gruffudd neu Owain Glyndyfrdwy (1354 – tua 1416) oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Defnyddir yr enw Owain Glyndŵr hefyd. Rhoddwyd iddo hefyd y llysenw Y Mab Darogan.

Ganwyd Owain Glyndyfrdwy yn 1359. Roedd yn etifedd llinach Powys Fadog ar ochr ei dad, a honnai ei fod yn ddisgynnydd i’r Arglwydd Rhys o’r Deheubarth ar ochr ei fam. Etifeddodd arglwyddiaethau Glyndyfrdwy a Chynllaith gyda'i ganolfan yn Sycharth, ger Llansilin, Powys. Astudiodd y gyfraith yn Llundain, a gwasanaethodd gyda lluoedd Henry Bolingbroke, gwrthwynebwr Rhisiart II, brenin Lloegr, a fyddai'n ddiweddarach Harri IV, brenin Lloegr.

Yn 1400 cododd helynt ynghylch tir rhwng Owain Glyn Dŵr a'r Arglwydd Grey o Ruthun, barwn pwerus o Loegr a oedd yn byw gerllaw. Pan ochrodd Harri IV â Grey, ymosododd Glyn Dŵr a’i ddilynwyr ar dref Rhuthun a threfi Cymreig eraill ger y ffin â Lloegr, gan achosi difrod mawr. Ddydd Gŵyl Mathew (23 Medi) 1400 llosgodd Owain dref Rhuthun i'r llawr, heblaw'r castell. Erbyn diwedd 1401 roedd yn ymddangos bod y rhan fwyaf o’r wlad yn cefnogi’r gwrthryfel. Rhwng 1401 ac 1404 ymledodd y gwrthryfel ar draws Cymru a ddatblygodd yn gyflym i fod yn wrthryfel dros annibyniaeth i Gymru. Cipiwyd cestyll Harlech ac Aberystwyth a threchwyd byddinoedd Lloegr yng Nghwm Hyddgen a Bryn Glas yng nghanolbarth Cymru. Gan sylweddoli y byddai’n rhaid iddo drechu’r Saeson mewn brwydr fawr, cynhaliodd Glyn Dŵr, a oedd yn galw ei hun yn Dywysog Cymru, senedd arbennig ym Machynlleth i godi arian ar gyfer yr achos (y senedd gyntaf o’i bath yng Nghymru). Yn y Senedd a gynhaliwyd ym Machynlleth roedd cynrychiolwyr o Ffrainc, yr Alban a Sbaen. Ffurfiodd gynghreiriau â Dug Northumberland ac Edmund Mortimer, gelynion Harri IV, a lluniodd gynghrair ffurfiol â Brenin Ffrainc.

Am gyfnod roedd yn rheoli bron y cyfan o Gymru, ond erbyn 1405, fodd bynnag, roedd y llanw wedi dechrau troi a threchwyd byddinoedd Glyn Dŵr yn y Grysmwnt a Brynbuga. Ni ddaeth cymorth gan y Ffrancwyr a’r Albanwyr, ac ildiodd dynion Morgannwg, Gŵyr, Tywi, Ceredigion ac Ynys Môn i frenin Lloegr. Erbyn 1408 roedd cadarnleoedd pwysig Harlech ac Aberystwyth wedi eu hadennill a daeth y gwrthryfel i ben. Cafwyd rhai cyrchoedd ar ôl hyn ond erbyn 1415 daeth y gwrthryfel i ben, a diflannodd Glyn Dŵr. Roedd llawer o ddifrod wedi ei wneud a nifer fawr wedi marw, a daeth pethau’n anodd pan gyflwynwyd cyfreithiau gwrth-Gymreig gan Harri IV. I rai teuluoedd cyfoethog, daeth y gwrthryfel â’u hawdurdod i ben. Newidiodd eraill eu teyrngarwch i Harri IV ac aeth llawer o’r dynion a oedd wedi ymladd ochr yn ochr â Glyn Dŵr ymlaen i ymladd yn erbyn y Ffrancwyr yn Agincourt (1415). Ond yn ystod y gwrthryfel, roedd y Cymry wedi uno o dan arweinydd cenedlaethol gan blannu gweledigaeth o Gymru annibynnol.

Mae Owain Glyn Dŵr yn sefyll fel unigolyn pwysig yn hanes Cymru, nid yn unig fel un oedd yn cael ei weld fel arweinydd cenedlaethol ond hefyd fel gwleidydd a oedd yn gweld rôl i Gymru o fewn cyd-destun Ewropeaidd. Yn Llythyr Pennal a ysgrifennwyd yn 1406 mae’n ceisio llunio cysylltiadau gyda Ffrainc drwy ddangos cefnogaeth i Bab Avignon, yn hytrach na Phab Rhufain a gefnogwyd gan Loegr. Yn y llythyr mae Glyn Dŵr hefyd yn amlinellu ei syniad am sut byddai’n creu Cymru annibynnol drwy sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru (yn y de a’r gogledd), Eglwys annibynnol i Gymru gyda'i chronfa arian ei hunan a Chymry Cymraeg yn cael eu penodi i swyddi uchel yn yr Eglwys.

Ceir y cofnod olaf am Owain yn 1412, ac nid oes neb yn sicr beth ddigwyddodd iddo ar ôl hynny. Saif, fodd bynnag, yng nghof y Gymru gyfoes fel un o arwyr pwysicaf y genedl ac mae cerflun ohono yn oriel yr arwyr cenedlaethol Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

Ganwyd Owain Glyn Dŵr i deulu uchelwrol yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Roedd ei dad Gruffudd Fychan yn etifedd i dywysogion Powys Fadog, disgynyddion Madog ap Maredudd, rheolwr olaf Teyrnas Powys unedig. Ei fam oedd Elen ferch Tomos ap Llywelyn o linach tywysogion Deheubarth. Roedd hi'n ddisgynnydd i Rhys ap Gruffudd, (yr Arglwydd Rhys), felly gallai Owain hawlio bod yn etifedd Powys a Deheubarth. Roedd etifedd olaf Teyrnas Gwynedd yn y llinach wrywaidd uniongyrchol, Owain Lawgoch, wedi ei lofruddio yn 1378, ond trwy ei hen nain roedd Owain yn ddisgynnydd i Gruffudd ap Cynan.

Roedd Owain felly mewn sefyllfa gref, o ran llinach, i hawlio bod yn Dywysog Cymru, gam ei fod yn etifedd awdurdod y ddau Lywelyn, sef Llywelyn Fawr a Llywelyn II, sefydlwyr Tywysogaeth Cymru yn y 13g.

Gweler hefyd llinach uniongyrchol ei fam a'i dad (isod).

Mae ansicrwydd ynghylch blwyddyn geni Owain. Awgryma cofnod achos cyfreithiol Grosvenor v Scrope, lle'r ymddangosodd fel tyst, ei fod wedi ei eni yn 1359. Rhydd un llawysgrif ddyddiad pendant: 28 Mai, 1354, tra ceir traddodiad iddo gael ei eni yn 1349, blwyddyn y Pla Du. Nid oes sicrwydd ymhle y ganwyd ef chwaith; mae'n bosib mai Sycharth, ger Llansilin yw'r lle mwyaf tebygol. Bu farw ei dad rywbryd cyn 1370 gan adael ei fam yn weddw. Etifeddodd Glyndyfrdwy a Chynllaith oddi wrth ei dad, a thiroedd yng nghymydau Gwynionydd ac Iscoed Uch Hirwern yng Ngheredigion oddi wrth ei fam. Mae'n debyg bod Owain wedi treulio rhywfaint o'i blentyndod yng nghartref Syr David Hanmer. Bu yn Llundain yn astudio'r gyfraith am rai blynyddoedd, yn ôl pob tebyg ym mlynyddoedd olaf teyrnasiad Edward III. Mae'n bur debyg ei fod yn Llundain adeg Gwrthryfel y Werin yn 1381. Roedd yn ôl yng Nghymru erbyn 1383, a phriododd Margaret Hanmer, a oedd yn ferch i Syr David Hanmer.

Gwyddys iddo ymladd yn yr Alban dros Rhisiart II, brenin Lloegr; ceir y cofnod cyntaf amdano fel milwr yn 1384, pan oedd yn aelod o arsiwn Berwick-upon-Tweed, gyda charfan o Gymry dan Syr Gregory Sais. Yn 1385 roedd yn ymladd yn Ffrainc yn y Rhyfel Can Mlynedd, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno roedd yn yr Alban eto dan John o Gaunt. Yn 1386 cofnodir iddo gael ei alw fel tyst yn achos Scrope v. Grosvenor yng Nghaer. Yn 1387, roedd yn ne-ddwyrain Lloegr yn gwasanaethu dan Richard FitzAlan, 11eg Iarll Arundel, a chymerodd ran mewn brwydr ar y môr oddi ar arfordir Caint, pan orchfygwyd llynges o Ffrainc, Sbaen a Fflandrys. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, bu farw ei dad-yng-nghyfraith, Syr David Hanmer, a dychwelodd Owain i Gymru i fod yn ysgutor ei ystâd.

Treuliodd Owain y blynyddoedd nesaf ar ei stad. O'r cyfnod yma, yn ôl pob tebyg, y mae cywydd enwog Iolo Goch yn canmol ei lys yn Sycharth yn dyddio. Roedd Gregory Sais wedi marw yn 1390, a thua'r un adeg, dechreuodd Iarll Arundel golli dylanwad; dienyddiwyd ef yn 1397. Yn 1399, cipiwyd grym Lloegr gan Henry Bolingbroke, a ddiorseddodd y brenin Rhisiart II a dod yn frenin fel Harri IV. Carcharwyd Rhisiart, a llofruddiwyd ef yn Chwefror 1400. Datblygodd cweryl rhwng Owain a Reginald Grey, arglwydd Dyffryn Clwyd, a hawliai gyfran o diroedd Owain Glyn Dŵr. Yn ystod teyrnasiad Rhisiart II, penderfynwyd yr achos o blaid Owain, ond wedi i Harri IV gipio'r orsedd, ail-agorodd de Grey yr achos, gan fanteisio ar y ffaith ei fod yn gyfaill i'r brenin. Dywed rhai ffynonellau fod de Grey wedi oedi gyrru gwŷs gan y brenin i Owain yn hawlio cymorth milwrol yn yr Alban. Erbyn i Owain dderbyn y wŷs, roedd yn rhy hwyr iddo ymateb.

Ar 16 Medi, 1400, gweithredodd Owain, a chafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru gan ei gefnogwyr. Roedd hyn yn ddatganiad chwyldroadol ynddo'i hun. Ymledodd yr ymgyrch drwy'r gogledd-ddwyrain. Erbyn 19 Medi, ymosodwyd ar Ruthun, cadarnle de Grey, a bu bron iawn iddo gael ei dinistrio'n llwyr. Ymosodwyd ar Ddinbych, Rhuddlan, castell y Fflint, Penarlâg, a Holt yn fuan ar ôl hynny. Ar 22 Medi cafodd tref Croesoswallt ei difrodi mor ddrwg gan gyrch Owain fel y bu rhaid ei hail-siarteru yn ddiweddarach. Erbyn y 24ain, roedd Owain yn symud i'r de drwy Bowys a dinistriodd y Trallwng. Ar yr un pryd lansiodd nifer o aelodau teulu Tuduriaid Penmynydd o ynys Môn, gyfres o ymosodiadau guerilla yn erbyn y Saeson. Roedd y Tuduriaid yn deulu blaenllaw o Fôn ac wedi mwynhau perthynas agos â Rhisiart II (bu Gwilym a Rhys ap Tudur yn gapteiniaid saethwyr bwa yn ystod ymgyrchoedd Rhisiart yn Iwerddon. Newidiasant eu teyrngarwch i Owain Glyn Dŵr wrth i'r rhyfel ymledu.

Troes Harri IV - oedd ar ei ffordd i geisio goresgyn yr Alban – ei fyddin tuag at Gymru ac erbyn 26 Medi roedd wedi cyrraedd Amwythig ac yn barod i ymosod ar Gymru. Mewn cyrch cyflym ond di-fudd arweiniodd Harri ei fyddin o amgylch gogledd Cymru. Cafodd ei boeni'n gyson gan dywydd drwg ac ymosodiadau guerilla gwŷr Owain. Erbyn 15 Hydref, roedd yn ôl yn Amwythig, heb fawr i'w ddangos am ei ymdrechion.

Prif arweinydd yr ymgyrch yn erbyn Owain yng ngogledd Cymru oedd Henry Percy (Hotspur), mab hynaf Henry Percy, Iarll 1af Northumberland. Cynigiodd ef bardwn i bawb o ddilynwyr Owain Glyn Dŵr, ac eithrio Owain eu hun a dau o Duduriaid Penmynydd, Rhys ap Tudur a'i frawd Gwilym ap Tudur. Am rai misoedd, ymddangosai fod y gwrthryfel yn dirwyn i ben. Fodd bynnag, ar ddydd Gwener y Groglith 1401, cipiodd Rhys a Gwilym ap Tudur gastell Conwy. Tua mis Mehefin yr un flwyddyn ymladdwyd brwydr Hyddgen yn uchel ar lethrau Pumlumon, ar y ffin rhwng Powys a Cheredigion. Trechodd byddin fach Owain Glyn Dŵr lu mawr o Saeson a Fflemingiaid oedd yn ceisio cyrraedd castell Aberystwyth. Arweiniodd Harri IV gyrch i dde Cymru, a dienyddiwyd un o gefnogwyr Owain, Llywelyn ap Gruffudd Fychan o Gaeo yn Llanymddyfri ar 9 Hydref. Ddiwedd Tachwedd, gyrrodd Owain lythyrau at Robert III, brenin yr Alban ac at benaethiaid Iwerddon yn gofyn am gymorth. Daeth y flwyddyn i ben gyda Brwydr Twthil ar 2 Tachwedd 1401, rhwng llu Owain Glyn Dŵr ac amddiffynwyr Caernarfon.

Ymddangosodd comed yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth 1402, a ystyrid gan lawer yn argoel o fuddugoliaeth Owain Glyn Dŵr. Tua chanol mis Ebrill, cymerwyd gelyn Owain, Reginald de Grey o Ruthun, yn garcharor ganddo gerllaw Rhuthun. Bu raid i de Grey dalu 10,000 o farciau am ei ryddid. Enillodd Owain fuddugoliaeth bwysig ym Mrwydr Bryn Glas ar 22 Mehefin 1402, ger pentref Pilalau, ar odre gogleddol Fforest Faesyfed, ger Llanandras a'r ffin rhwng Swydd Henffordd a Powys. Cymerwyd arweinydd y fyddin Seisnig, Syr Edmund Mortimer, yn garcharor. Yn nes ymlaen byddai'n priodi Catrin, ferch Owain, ac yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r Mab Darogan yn erbyn brenin Lloegr. Yn 1402 hefyd, pasiodd Senedd Lloegr y Deddfau Penyd, cyfres o ddeddfau yn erbyn y Cymry. Dan y deddfau hyn, gwaherddid unrhyw Gymro, heblaw esgobion, rhag dal unrhyw swydd gyhoeddus, rhag dwyn arfau a rhag byw mewn unrhyw fwrdeistref Seisnig. Roedd y gwaharddiad ar ddal swydd gyhoeddus hefyd yn ymestyn i unrhyw Sais oedd yn briod a Chymraes.

Yn 1403, cododd Henry Percy (Hotspur) mewn gwrthryfel yn erbyn y brenin, a gwnaeth gytundeb ag Owain. Lladdwyd Hotspur yn ymladd yn erbyn byddin y brenin ym Mrwydr Amwythig ar 21 Gorffennaf. Nid oedd Owain a'i fyddin yn bresennol, er bod rhai o'i gefnogwyr yno. Roedd Owain ei hun yn ymgyrchu yn Sir Gaerfyrddin, lle cododd Cymry Dyffryn Tywi i'w gefnogi, ac ym mis Gorffennaf ildiwyd castell a thref Caerfyrddin iddo. Ym mis Mai 1404, gyrrodd Owain lythyr at Siarl VI, brenin Ffrainc, gan ei arwyddo fel Owynus dei gratia princeps Wallie. Cludwyd y llythyr i Baris gan ddau lysgennad, ei frawd-yng-nghyfraith, John Hanmer, a'i ganghellor, Gruffudd Yonge. Rywbryd yn ystod 1404, syrthiodd Castell Harlech a Chastell Aberystwyth i Owain, gan gryfhau ei afael ar ganolbarth Cymru. Yr un flwyddyn, cofnodir gan Adda o Frynbuga i Owain gynnal senedd ym Machynlleth.

Ar 12 Ionawr 1405 arwyddwyd cytundeb ffurfiol gyda brenin Ffrainc, i gynghreirio yn erbyn Harri IV, brenin Lloegr. O fewn wythnosau, glaniodd byddin enfawr o Ffrancwyr yn Aberdaugleddau, Sir Benfro heddiw. Gorymdeithio y Ffrancwyr ochr-yn-ochr â byddin Cymru, trwy Swydd Henffordd ac ymlaen i Swydd Gaerwrangon. Fe wnaethant gyfarfod â byddin Lloegr ddim ond deng milltir o Gaerwrangon. Cymerodd y ddwy fyddin eu safleoedd yn barod i frwydro, a hynny gan wynebu ei gilydd filltir i ffwrdd, ond ni fu unrhyw ymladd. Yna, am resymau nad ydyn nhw erioed wedi dod yn amlwg, enciliodd y Cymry, a throdd y Ffrancwyr adref ychydig wedyn.

Ar 28 Chwefror 1405, arwyddwyd y Cytundeb Tridarn rhwng Owain a'i gynghreiriad Henry Percy, Iarll 1af Northumberland (tad Hotspur) ac Edmund Mortimer. Roedd y cytundeb yma'n rhannu Ynys Brydain (heb gynnwys yr Alban) rhyngddynt fel penaethiaid sofran, annibynnol. Yn ôl y ddogfen, roedd Owain Glyn Dŵr a phob Tywysog Cymru ar ei ôl, i gael:

Ym mis Mawrth 1405 roedd Rhys Gethin yn y de, yn ymosod yn aflwyddiannus ar dref Y Grysmwnt a'i chastell; curwyd ei fyddin o tua 8,000 o wŷr Gwent a Morgannwg gan fyddin gref a anfonwyd o Henffordd i godi'r gwarchae. Ym mis Mai'r un flwyddyn, gorchfygwyd byddin Owain ym Mrwydr Pwll Melyn gerllaw Brynbuga, Sir Fynwy. Lladdwyd ei frawd, Tudur, a chymerwyd ei fab, Gruffudd yn garcharor. Tua 1 Awst, cynhaliwyd ail senedd Owain yn Harlech. Yn fuan wedyn, cyrhaeddodd byddin Ffrengig o tua 2,600 o wŷr dan Jean de Hangest i Aberdaugleddau, Sir Benfro, i gynorthwyo Owain. Ymunodd cefnogwyr Owain â hwy, a chipiwyd tref Hwlffordd, ond nid y castell, yna cipiwyd tref a chastell Caerfyrddin ac Aberteifi. Erbyn diwedd Awst, roeddynt gerllaw Caerwrangon, yn wynebu byddin y brenin. Nid oedd yr un o'r ddwy fyddin yn barod i ymosod, ac ymhen wythnos, enciliodd byddin Owain. Ymosododd y brenin ar Sir Forgannwg, ond roedd y tywydd yn ddrwg, a bu raid iddo yntau encilio.

 Vester ad vota / Owynus princeps Wall[ie] yw 'Yr eiddoch yn ffyddlon, / Owain, Tywysog Cymru'.

Cynhaliwyd cynulliad o'r Cymry ym Mhennal, ger Machynlleth ym mis Mawrth, 1406, ac yno lluniwyd dogfen yn gosod allan bwriadau'r tywysog ynghyd â llythyr i'r Brenin Siarl VI o Ffrainc; adnabyddir y dogfennau pwysig hyn fel Polisi Pennal. Roedd Owain wedi derbyn llythyr gan Siarl VI ar ddechrau Mawrth, yn ei annog i drosglwyddo ei deyrngarwch i Bab Avignon, Bened XIII. Yn y llythyr a anfonodd Owain yn ôl at frenin Ffrainc ar 31 Mawrth, cytunodd i wneud hynny ar rai amodau. Yn eu plith, roedd rhaid i Bened XIII gytuno i sefydlu eglwys Gymreig, yn atebol i Dyddewi yn hytrach nag i Archesgob Caergaint, a sefydlu dwy brifysgol, neu studia generalia, yng Nghymru, un yn y gogledd ac un yn y de.

Fodd bynnag, roedd llanw'r gwrthryfel eisoes ar drai. Yn yr un flwyddyn (1406) cofnodir fod Penrhyn Gŵyr, Dyffryn Tywi a rhan helaeth o Geredigion wedi ymostwng i'r Saeson. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd nifer fawr o gefnogwyr Owain at Ynys Môn wedi ymostwng hefyd.

Yn ystod haf 1407, gwnaeth byddin brenin Lloegr, dan y tywysog Harri (yn ddiweddarach Harri V, brenin Lloegr), ymdrech i ail-gipio Castell Aberystwyth, oedd yn cael ei gadw dros Owain gan Rhys Ddu. Wedi trafodaethau heddwch, cytunodd Rhys i ildio'r castell erbyn dyddiad penodol os nad oedd y gwarchae Seisnig wedi ei godi. Fodd bynnag, pan aeth at Owain i ofyn am ganiatâd i ildio'r castell, daeth Owain i Aberystwyth ei hun, a bygwth torri pen unrhyw un a geisiai ildio'r castell, yn cynnwys Rhys. Methodd yr ymgais yma ar ran y Saeson, ond ymosododd byddin Harri eto yn 1408, a syrthiodd y castell iddynt y tro hwn.

Yn 1409 syrthiodd Castell Harlech i'r Saeson. Roedd Edmund Mortimer wedi marw yn ystod y gwarchae, a chymerwyd Margaret, gwraig Owain, a dwy o'i ferched, yn cynnwys Catrin, gwraig Mortimer, yn garcharorion.

Dienyddiwyd nifer o gefnogwyr amlwg Owain yr un flwyddyn neu yn 1410; Rhys Ddu yn Llundain, Philip Scudamore yn Amwythig a Rhys ap Tudur yng Nghaer.

Nid oes cofnod pendant am hanes Owain ar ôl 1412, gan gymerodd Dafydd Gam, un o gefnogwyr Cymreig amlycaf Harri IV, yn garcharor gerllaw Aberhonddu. Dyma'r tro olaf i Owain gael ei weld gan ei elynion. Yn ôl llawysgrif Peniarth 135, a ysgrifennwyd yn fuan ar ôl 1422:

Roedd Harri IV wedi marw yn 1413, a'i fab wedi ei olynu ar yr orsedd fel Harri V. Ail-ddechreuodd ef yr ymladd yn y Rhyfel Can Mlynedd yn erbyn Ffrainc, ac yn haf 1415 gofynnodd y brenin newydd i Gilbert Talbot gysylltu ag Owain, a chynnig pardwn iddo. Ni chafwyd ymateb, ac yn 1416 gofynnwyd i Talbot geisio eto, trwy fab Owain, Maredudd ab Owain Glyn Dŵr, y tro hwn. Unwaith eto, ni chafwyd ymateb. Derbyniodd Maredudd bardwn ar 8 Ebrill, 1421. Nid oedd sôn am ei dad, sy'n awgrymu efallai ei fod yn farw erbyn hynny. Buasai Owain Glyn Dŵr ymhell yn ei chwedegau erbyn hynny, pe bai dal yn fyw; gwth o oedran yn yr Oesoedd Canol.

Ceir nifer o draddodiadau lleol yn Swydd Henffordd sy'n awgrymu ei fod wedi cael lloches gyda'i ferch Alys, oedd yn briod a Syr John Scudamore, ym Monnington Stradel, ac iddo farw yno, a'i gladdu yno neu yn Kentchurch gerllaw. Roedd traddodiad arall yn yr ardal mai Owain oedd y bardd Siôn Cent, y bu teulu Scudamore yn un o'i noddwyr.

Yn 2015 cyhoeddodd Gruffydd Aled Williams gyfrol Dyddiau Olaf Owain Glyn Dŵr (Gwasg y Lolfa) ac ynddo mae'n awgrymu dau bosibilrwydd: yn gyntaf, sonia fod llawysgrif a fu ym meddiant Robert Vaughan o'r hengwrt yn allweddol wrth geisio ateb i'r cwestiwn ym mhle y claddwyd Owain. Mae'r cofnod, sydd yn llaw Vaughan, yn awgrymu iddo gael ei gladdu ym mynwent eglwys fechan iawn pewn pentref yn Swydd Amwythig: Cappel Kimbell lle i claddwyd Owen Glyn: yn sir Henffordd. Yn ôl Gruffydd Aled Williams, mynwent Eglwys Sant Iago, ym mhentref Kimbolton yw'r fan. Yr ail bosibilrwydd mae'n ei gynnig yw i Owain gael ei gladdu ger cartref un o'i ferched yn Monnington Straddle (Alys, a briododd Syr John Scudamore), eto yn Swydd Henffordd, gan fod traddodiad cryf yn yr ardal iddo'i gladdu yno mewn hen domen gladdu. Bu'r tir yma'n rhan o dir cysegredig a gwyddys fod ar draws y cae i'r domen dŷ o'r enw Chapel Cottage, a oedd yn y 14g yn gapel anwes.

Ychydig o gyfeiriadau sydd at Owain gan y beirdd yn y cyfnod ar ôl ei ddiflaniad, ond cadwyd nifer fawr o chwedlau a thraddodiadau gwerin o'i gwmpas. Gwelwyd Owain fel y Mab Darogan, ac fel enghraifft o thema'r Brenin yn y mynydd neu'r Arwr Cwsg, gyda'r gred ei fod yn cysgu mewn ogof, i ddeffro ryw ddydd pan fydd angen Cymru fwyaf a gorchfygu ei gelynion. Ceir traddodiadau tebyg am Owain arall, Owain Lawgoch, ac ânt aml mae ansicrwydd at ba un y cyfeirir.

Cofnododd Elis Gruffydd (Y Milwr o Galais), chwedl am Owain yn 1548. Roedd Abad Abaty Glyn y Groes wedi codi yn fore, ac yn cerdded ar y Berwyn. Cyfarfu ag Owain Glyn Dŵr, a'i cyfarchodd ef Syr Abad, rydych wedi codi yn rhy fore. Na, atebodd yr abad, chychwi a godasoch yn rhy fore, o gan mlynedd.

Anffafriol bu barn haneswyr Cymreig ar Owain yn y canrifoedd nesaf, er enghraifft David Powel yn ei Historie of Cambria, now called Wales yn y 16g. Y rheswm pennaf am hynny oedd eu bod yn dibynnu ar lyfrau am y cyfnod gan haneswyr Seisnig a chofnodion swyddogol Coron Lloegr sy'n portreadu Owain fel bradwr penboeth a chreulon a ddaeth a gwae a dioddef i Gymru. Rhoddwyd darlun mwy ffafriol ohono gan Thomas Pennant yn ei Tours in Wales yn 1778. Gyda datblygiad y mudiad Cymru Fydd yn niwedd y 19g, cynyddodd diddordeb yn hanes Owain Glyn Dŵr. Ceir portread ffafriol iawn ohono yn y cylchgrawn Cymru gan O. M. Edwards. Yn 1905, cyhoeddodd Owen Rhoscomyl ei gyfrol ddylanwadol Flame-Bearers of Welsh History sy'n disgrifio Owain fel arwr a ymgeleddai'r werin bobl: yn ateb i'r cwestiwn ble gladdwyd Glyn Dŵr? ceir yr ateb ei fod yn gorffwys yng nghalon pob gwir Gymro lle bydd yn aros yn ysbrydoliaeth i'r genedl am byth. Yn 1931, cyhoeddodd John Edward Lloyd yr astudiaeth safonol gyntaf o fywyd a gwrthryfel Owain, Owen Glendower. Diweddodd y llyfr gyda'r farn:

Yn ddiweddar mae Diwrnod Owain Glyn Dŵr wedi dod yn ddydd gŵyl answyddogol a ddethlir yng Nghymru ar 16 Medi, y dyddiad y cyhoeddwyd Owain Glyn Dŵr  yn Dywysog Cymru yn 1400. Cytunwyd i hedfan baner Glyn Dŵr ar furiau Castell Caerdydd ar 16 Medi 2006, mewn ymateb i bwysau gan y cyhoedd. Yn 2008, gydag Alun Ffred Jones AC (Plaid Cymru) yn Weinidog Treftadaeth yn Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd Cadw eu bod am chwifio baner Glyn Dŵr ar gestyll Caernarfon, Caerffili, Conwy a Harlech.

Enwyd nifer o bethau ar ôl Owain Glyn Dŵr. Rhoddwyd yr enw Llwybr Glyn Dŵr ar y llwybr cerdded pellter hir ar draws canolbarth Cymru, sy'n ymweld â nifer o safleoedd cysylltiedig ag Owain megis safle brwydr Hyddgen a thref Machynlleth, lle cynhaliodd ei senedd gyntaf. Yn 2008, derbyniodd NEWI, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, statws prifysgol, a newidiodd ei enw i Brifysgol Glyn Dŵr. Dyfernir Gwobr Glyn Dŵr yn flynyddol am gyfraniadau arbennig i'r celfyddydau yng Nghymru. Fe'i rhoddir gan Ymddiriedolaeth Tabernacl Machynlleth i ffigyrau blaenllaw ym meysydd cerddoriaeth, celf a llenyddiaeth yn eu tro.

Defnyddiwyd enw Owain hefyd gan fudiad Meibion Glyn Dŵr, fu'n cynnal ymgyrch losgi tai haf o ddiwedd y 1970au ymlaen. Roedd rhai o'r negesau a anfonid i'r awdurdodau gan y mudiad yn dwyn enw Rhys Gethin. Daeth Owain yn ail yn yr arolwg barn ar-lein 100 o Arwyr Cymru a drefnwyd gan Culturenet Cymru yn 2004.

Roedd croeso i'r beirdd ar aelwyd llys Owain Glyn Dŵr  yn Sycharth. Canodd Iolo Goch gerddi moliant i Owain Glyn Dŵr a llys Sycharth. Mae ei ddisgrifiad o lys Sycharth ymhlith y cerddi mwyaf adnabyddus o'r cyfnod. Ceir hefyd dwy gerdd o fawl i Owain gan Gruffudd Llwyd a gyfansoddwyd yn y 1380au. Mae'n amlwg o'u cynnwys fod y cerddi hyn i gyd wedi eu cyfansoddi cyn y gwrthryfel; nid erys yr un gerdd gan fardd adnabyddus a gyfansoddwyd yn ystod y gwrthryfel na marwnad i Owain (ond gweler isod am y canu darogan).

Cedwir ar glawr gerddi i Rys Gethin, uchelwr o Nant Conwy a fu'n un o gapteiniaid blaenaf Owain Glyn Dŵr. Mae'n cael ei ddisgrifio mewn un gerdd fel hyn:

Ceir cerdd arall i Hywel Coetmor, brawd Rhys Gethin, a chapten ym myddin Owain Glyn Dŵr fel ei frawd. Mae'r cerddi hyn, o awduriaeth ansicr, yn hynod wladgarol ac mae lle da i gredu eu bod yn perthyn i gyfnod y gwrthryfel.

Gwyddys fod gan Owain fardd teulu o'r enw Crach Ffinnant gydag enw iddo'i hun fel brudiwr; bu gydag Owain yng ngarsiwn Berwick yn 1384 ac yng Nglyndyfrdwy pan gyhoeddwyd Owain yn Dywysog Cymru ym Medi 1400.

Ceir Owain fel enw am y Mab Darogan mewn nifer fawr o gerddi brud poblogaidd o ddiwedd yr Oesoedd Canol, ond mae'n anodd eu dyddio yn fanwl. Mae'n bosibl fod rhai yn dyddio o gyfnod Owain Lawgoch ond mae'r mwyafrif i'w dyddio i'r 15g ac felly'n perthyn i gyfnod Owain Glyn Dŵr neu gyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau pan oedd y cof amdano fel arweinydd cenedlaethol yn fyw iawn. Mae cerdd rydd a briodolir i Taliesin yn perthyn i gyfnod y gwrthryfel, yn ôl pob tebyg. Cyfeiria at arth (rhyfelwr) sych (Sycharth (?)) a rhyfelwr arall o Eryri yn codi yn erbyn y Saeson. Yna bydd:

Mae'n bosibl fod rhannu'r deyrnas yma yn gyfeiriad at y Cytundeb Tridarn (gweler uchod).

Cyfnod diweddar

Roedd I Owain Glyn Dŵr yn un o destunau Eisteddfod Corwen 1789 a drefnwyd gan y Gwyneddigion. Cafwyd cerddi ar y testun gan Twm o'r Nant a Gwallter Mechain. Diddorol nodi i'r eisteddfod gael ei chynnal yng Ngwesty Owain Glyn Dŵr. Ailgydiodd hanes gwrthryfel Owain Glyn Dŵr yn nychymyg y Cymry yn y 19g, ond arhosodd yng nghysgod y ddau Llywelyn tan ddiwedd y ganrif honno. Cyfansoddodd Felicia Hemans gerdd Saesneg ramantaidd amdano sy'n sôn am the blazing star yn rhagfynegi dyfodiad yr arwr. Cyfansoddodd Robert Davies (Bardd Nantglyn) Gywydd o Hanes Owen Glyndyfrdwy yn 1826. Yn Eisteddfod Caerfyrddin 1867 enillodd y bardd Hwfa Môn y tlws am ei gerdd Owain Glyndwr. Enillodd Eifion Wyn gadair Eisteddfod Llangollen 1895 gyda'i awdl am Owain. Yn Eisteddfod Corwen 1900 bu T. Twynog Jeffries yn fuddugol gyda'i awdl Owain Glyn Dwr, sy'n gweld Owain fel math o ragflaenydd i'r mudiad gwladgarol Cymru Fydd.

yn yr 20g, canodd sawl bardd am Owain Glyn Dŵr. Ceir dwy gerdd nodedig gan Gwenallt, er enghraifft, cerdd i Neuadd Glyn Dŵr yn Sycharth gan John Penry Jones, Bedd Owain Glyn Dŵr gan Euros Bowen, Breuddwyd Glyn Dŵr gan Dewi Emrys James, a cherdd am Senedd-dŷ Owain Glyn Dŵr ym Machynlleth gan Cyril Jones.

Ymddengys Owain fel cymeriad yn nrama William Shakespeare Henry IV Rhan Un. Mae'r cymeriad Glendower yn ymffrostgar ac yn haeru ei fod yn medru galw ysbrydion, ond ar y llaw arall disgrifir ef fel:

Ysgrifennodd Beriah Gwynfe Evans ei ddrama boblogaidd 'Owain Glyndwr' ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Llanberis 1879. Drama ramantus iawn ydyw, sy'n ddrych i'r cyfuniad o wladgarwch Cymreig a breningarwch Prydeinig sy'n mor nodweddiadol o'r 19g.

Roedd gan Owain o leiaf chwe mab a thair merch. Y rhai y ceir gwybodaeth ddibynadwy amdanynt yn yr achau a'r cofnodion hanesyddol yw:

Mewn rhai ffynonellau achyddol diweddarach cofnodir meibion a merched eraill fel plant gordderch Owain Glyn Dŵr, ond gan nad oes cyfeiriadau atynt mewn dogfennau eraill ni ellir dibynnu ar hyn: roedd ffugio achau er mwyn dod â statws cymdeithasol i deulu o fân uchelwyr yn digwydd yn aml yng nghyfnod y Tuduriaid.

Roedd gan Owain Glyn Dŵr nifer o frodyr a chwiorydd:




#Article 16: Cyfrifiadur (282 words)


Dyfais electronig yw cyfrifiadur sy'n cynnwys uned brosesu ganolog (CPU) a chof, y gellir ei ddefnyddio fel prosesydd geiriau neu i gadw cronfa ddata a myrdd o ddibenion eraill. Y ffordd fwyaf cyffredin o gysylltu â'r rhyngrwyd yw trwy gyfrifiadur. Gellir chwarae gemau ar gyfrifiadur neu ei raglennu i wneud pethau'n otomatig.

Ceir cyfrifiadur llai, cludadwy ers tua 2000 (sef y gliniadur) a ffurf cludadwy llai byth, sef y cledrydd.

Ceir y canlynol mewn rhai cyfrifiaduron: 

Yn 1965 cyhoeddodd Donald Davies ei waith pwysicaf a oedd yn egluro sut y datblygodd system a oedd yn galluogi i gyfrifiaduron ddanfon pecynnau o wybodaeth ei gilydd drwy rwydwaith. Defnyddiwyd ei gynllun gan yr Asiantaeth Cynlluniau Ymchwil Blaengar (The Advanced Research Project Agency) yn yr Unol Daleithiau a'i ymgorffori yn ARPANET. Mae Packet Switching (fel y gwyddwn amdano bellach), yn dal yn un o gonglfeini'r Rhyngrwyd a'r we fydeang.

Cyfeirir at yr hyn rydym ni heddiw'n ei adnabod fel cyfrifiadur (ac nid 'cyfrifydd' / 'accountant') gyntaf yn y Gymraeg yn Y Cymro ar y 23 Gorffennaf 1969 gan Owain Owain pan ysgrifennodd, Yn syml, mae'r cyfrifiadur yn ei gwneud hi'n bosib i gofnodi y cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno. Rydych am weld cerflun mwyaf o geffyl sydd mewn bod? Yna, o'ch cadair freichiau, a chyn i'r bys olaf adael y botwm olaf, fe fydd llun y ceffyl ar y llen deledu yn eich ystafell.' Neu gynllun pensaernïol Eglwys St Pedr yn Rhufain? Pwyswch fotymau eraill a dyna'r cynllun pensaernïol yn dilyn y ceffyl mewn llai na chwinciad!




#Article 17: Gwlad yr Iâ (478 words)


Mae Gweriniaeth Gwlad yr Iâ neu Wlad yr Iâ yn ynys yng Ngogledd y Cefnfor Iwerydd rhwng yr Ynys Las a Phrydain. Iaith Lychlynaidd yw Islandeg, ac mae mwyafrif yr ynys yn dilyn Eglwys Lwther.

Ei llenor amlycaf, efallai, oedd Snorri Sturluson. O Wlad yr Iâ daw'r gantores pop Björk, Magnús Scheving o'r rhaglen deledu Lazytown, a'r nofelydd Halldór Laxness, enillwr Gwobr Nobel am lenyddiaeth ym 1955.

Mae gan yr Althing 63 o aelodau, a etholir pob pedair mlynedd. Y Prif Weinidog sy'n bennaeth ar y llywodraeth, tra bod yr arlywydd, a etholir am 4 mlynedd, yn penodi'r Prif Weinidog.

Ymsefydlodd Norwy-wyr yng Ngwlad yr Iâ gyda'u caethweision o'r Alban ac Iwerddon yn hwyr yn y 9g a'r 10fed. Nhw a sefydlodd y Senedd hynaf yn y byd, yr Althing, yn y flwyddyn 930.

Roedd Gwlad yr Iâ yn annibynnol am dros 300 mlynedd, ond cyn hir daeth o dan reolaeth Norwy a Denmarc. Sefydlwyd rheolaeth cartref ym 1874, ac annibyniaeth ym 1918. Arhosodd brenin Denmarc, Christian X, yn frenin ar Wlad yr Iâ tan 1944 pan sefydlwyd gweriniaeth. 

Mae Gwlad yr Iâ ar smotyn poeth daearegol ar y Grib Canol-Iwerydd. Mae yna lawer o losgfynyddoedd, yn enwedig Hekla. Hyd heddiw mae llosgfynyddoedd yn cael eu creu— crëwyd ynys newydd Surtsey ar ôl ffrwydrad ar 14 Tachwedd 1963. Mae tua 10% o'r ynys o dan iâ, ac mae ei rhewlifoedd yn enwog ledled y byd. Mae gan y wlad lawer o geysir (gair Islandeg), ac mae ynni daearthermol yn rhoi dŵr poeth a gwres cartref rhad yn y trefi.

Mae mwyafrif y trefi ar lan y môr. Y prif drefi yw Reykjavík, Keflavík—lleoliad y maes awyr cenedlaethol— ac Akureyri.

Mae geneteg pobl Gwlad yr Iâ yn debyg ac yn unigryw hyd heddiw, gan nad oes llawer o fewnfudo wedi digwydd dros y canrifoedd. O ganlyniad mae gwyddonwyr ar draws y byd yn astudio pobl yr ynys er mwyn darganfod mwy am etifeddu genynnau.

Ceir wyth rhanbarth yng Ngwlad yr Iâ, yn bennaf er mwyn hwyluso trefniadaeth ystadegol ac o ran côd-post y wlad. Mae system gyfreithiol y llysoedd hefyd wedi'i sefydlu ar y drefn hon o wyth rhanbarth. Yn rhyfedd iawn, ni ddiffinir yr wyth rhanbarth yn ôl cyfraith y wlad ac nid oes iddynt drefn weinyddol fel sydd gan siroedd Cymru.

Mae Gwlad yr Iâ yn cynnwys 23 sir neu sýslur:

Mae'r diwydiant pysgota yn bwysig iawn i'r economi. Mae 60% o enillion allforion y wlad a swyddi 8% o'r gweithlu yn dibynnu arno. Y prif allforion yw pysgod, alwminiwm a ferrosilicon.

Mae mwyafrif yr adeiladau wedi eu hadeiladu o goncrit gan fod mewnforio pren yn ddrud. Yn y 1990au dewisodd llywodraeth Gwlad yr Iâ amrywio'r economi drwy ganolbwyntio mwy ar ddiwydiannau gwneuthur a gwasanaeth, gyda datblygiadau ym miotechnoleg, gwasanaethau ariannol, a chynhyrchiad meddalwedd. Mae twristiaeth hefyd yn dod yn bwysicach.

Lleoliad-gwlad-yr-iâ.png|Lleoliad Gwlad yr Iâ yn Ewrop




#Article 18: Llywelyn ap Gruffudd (1658 words)


Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf) (tua 1225 – 11 Rhagfyr 1282), oedd y tywysog cyntaf i gael ei gydnabod yn Dywysog Cymru gan Frenin Lloegr. 

Ei nod oedd ceisio uno Cymru, a brwydrodd yn galed yn erbyn Brenhinoedd Lloegr, yn enwedig Edward I, i gyflawni hyn. Mae llawer o bobl yn ei alw’n Llywelyn ein Llyw Olaf am mai ef oedd tywysog olaf Cymru cyn i Frenin Lloegr, Edward I, reoli Cymru gyfan.

Mae ei enw yn ymddangos am y tro cyntaf mewn cofnodion yn 1243.  Ar farwolaeth ei ewyrth Dafydd ap Llywelyn yn 1246, ef oedd yr olynydd amlwg, ond yn ôl Cytundeb Woodstock yn 1247 rhannwyd Gwynedd rhwng y tri brawd: Llywelyn, Owain (ei frawd hŷn) a Dafydd. Yn 1255 gorchfygodd Llywelyn ei ddau frawd a sefydlodd ei hun yn unig reolwr Gwynedd Uwch Conwy. Y flwyddyn wedyn roedd y Berfeddwlad o dan ei arweinyddiaeth ac o fewn dwy flynedd roedd y rhan fwyaf o'r Gymru frodorol (Pura Wallia) yn ei feddiant.

Ar ôl ryfel cartref yn Lloegr yn 1263 dan arweiniad Simon de Montfort, llofnodwyd Cytundeb Trefaldwyn. Roedd y cytundeb rhwng Llywelyn a Harri III o Loegr yn cydnabod safle Llywelyn fel Tywysog Cymru gyda'r hawl i wrogaeth pob tywysog ac arglwydd yn y Gymru annibynnol. Gwnaed hynny ym mhresenoldeb Ottobuono, llysgenad y Pab.

Bu farw Harri III yn 1272 ac ar ôl i Edward I gael ei goroni yn frenin Lloegr dechreuodd y drwgdeimlad rhwng y ddwy wlad godi unwaith eto. Ar 21 Mawrth 1282 ymosododd Dafydd ap Gruffudd, brawd ieuengaf Llywelyn, ar Gastell Penarlâg, oedd ym meddiant y Saeson, gan ei feddiannu. Bu raid i Lywelyn gefnogi'r ymosodiad, gan fod y Cymry yn anesmwytho gan fod Edward wedi penodi Saeson i fod mewn grym yng Nghymru.

Cafwyd buddugoliaeth arall ger Afon Menai a llwyddodd y Cymry yng Ngheredigion a Dyffryn Tywi. Mentrodd Llywelyn ddod o'i loches yn Eryri a mynd i'r Canolbarth. Yno, mewn cynllwyn Seisnig, lladdwyd Llywelyn yng Nghilmeri gan filwr o Sais ar 11 Rhagfyr 1282. Mae 11 Rhagfyr yn ddyddiad sy'n cael ei gadw gan lawer fel Gŵyl i'w gofio.

Bu'n rhaid i dywysogion Gwynedd wrthsefyll sawl ymdrech i orchfygu gogledd Cymru. Erbyn dechrau’r drydedd ganrif ar ddeg, roedd Llywelyn Fawr yn hawlio teitl Tywysog Gogledd Cymru. Roedd ei deyrnas yn ymestyn i lawr i Bowys a Cheredigion. Yn 1267 cafodd ŵyr Llywelyn Fawr, sef Llywelyn ap Gruffudd, ei gydnabod yn Dywysog Cymru gan Harri III. Erbyn hyn, caiff ei adnabod hefyd fel ‘Llywelyn ein Llyw Olaf’, sy’n golygu ‘ein harweinydd olaf’.  

Erbyn 1247 roedd Llywelyn yn teyrnasu dros Wynedd gyda’i frawd Owain, ond erbyn 1255 roedd ei frodyr Owain a Dafydd wedi troi yn erbyn Llywelyn. Sylweddolodd Llywelyn mai'r unig obaith i Gymru oedd iddo ef fod yn Dywysog cydnabyddedig Cymru, a chasglodd ynghyd fyddin gref. Roedd rhaid i'r anghydfod ddod i ben, ac fe gafwyd brwydr hir a ffyrnig rhwng Llywelyn ac Owain, Dafydd a Rhodri ei frodyr. Llywelyn fu'n fuddugol ym Mrwydr Bryn Derwin. 

Aeth Llywelyn o nerth i nerth ar ôl Brwydr Bryn Dewin. Enillodd y Berfeddwlad yn ei hôl, a meddiannu Ceredigion, ac yna aeth yn ei flaen i Ddyffryn Tywi ac enillodd dir y Normaniaid hyd at Sir Benfro. Yn ffodus i Lywelyn roedd y barwniaid wedi codi yn erbyn y brenin Harri III o Loegr. Erbyn 1263 daeth yn rhyfel cartref dan arweiniad Simon de Montfort. Pan ddaeth y gwrthryfel i ben sylweddolodd Llywelyn y gallai brenin Lloegr fod yn fygythiad eto ac felly arwyddodd Gytundeb Trefaldwyn. 

Fe wnaeth brenin Lloegr gydnabod Cymro am y tro cyntaf a'r tro olaf yn Dywysog Cymru yn y cytundeb hwn (yn ddiweddarach cafodd Owain Glyndŵr ei gydnabod gan Ffrainc, ond nid gan Loegr). Cafodd Llywelyn hefyd gadw'r tiroedd yr oedd wedi eu hennill, ac fe wnaeth y brenin ganiatáu priodas rhwng Llywelyn ac Eleanor de Montfort, er ei bod hi a'i theulu yn Ffrainc ar y pryd, mewn alltudiaeth. Cytunodd Llywelyn i dalu gwrogaeth a'i deyrngarwch i'r brenin.

Erbyn 1270 ceisiodd Llywelyn ymestyn ei bŵer drwy ymosod ar Gastell Caerffili a'i losgi - castell a oedd yn cael ei adeiladu gan y Normaniaid. Cododd Llywelyn Gastell Dolforwyn ger Trefaldwyn. Ond roedd heriau newydd yn wynebu Llywelyn ar y gorwel yn Lloegr.

Pan ddaeth Edward I yn frenin yn 1274, roedd Llywelyn ap Gruffudd yn disgwyl iddo ei gydnabod ef yn Dywysog Cymru. Gwrthododd Edward ei gydnabod yn Dywysog Cymru nes i Lywelyn dalu gwrogaeth iddo. Er mwyn talu gwrogaeth, byddai angen i Lywelyn ddangos ei barch at y brenin yn gyhoeddus. Roedd Edward wedi rhoi lloches i frawd Llywelyn, Dafydd ap Gruffudd, ac i un o arglwyddi’r Cymry o'r enw Gruffudd ap Gwenwynwyn. Bu'n rhaid iddynt ffoi i Loegr rhag Llywelyn ar ôl iddynt gynllwynio i’w ladd. Yn ogystal, roedd Edward wedi carcharu dyweddi Llywelyn, Eleanor de Montfort. Gwrthododd Llywelyn dalu gwrogaeth nes byddai’r materion hyn wedi eu datrys. Gwrthododd Edward ddatrys y materion hyn nes byddai Llywelyn wedi talu gwrogaeth iddo. Nid oedd y naill na’r llall yn fodlon ildio. Golygai hyn bod rhyfel yn anochel rhwng y ddau.

Daeth yr ymosodiadau cyntaf ym mis Ionawr 1277.  Cynllun Edward oedd ymosod ar Lywelyn o dri chyfeiriad: Caer yn y gogledd-ddwyrain, Trefaldwyn yn y canolbarth, a Chaerfyrddin yn y de.  Yn y gogledd, cafodd byddin Lloegr help gan Dafydd, brawd Llywelyn. Yn y de, dechreuwyd ymosod ar gestyll y Cymry yn nyffryn Tywi. Erbyn mis Ebrill, roedd Castell Dinefwr wedi ei gipio. Yna, newidiodd yr arweinydd lleol Rhys ap Maredudd ei ochr, ac ymuno â'r Saeson. Cyn diwedd y rhyfel, byddai llawer o arweinwyr eraill y Cymry yn newid ochrau. Roedd Gruffudd ap Gwenwynwyn yn helpu byddin y Saeson yn y canolbarth. Ym mis Ebrill, fe wnaethon nhw ymosod ar Gastell Dolforwyn a’i gipio. 

Erbyn mis Gorffennaf 1277, roedd gan Edward fyddin fawr yn barod i ymosod ar Wynedd. Yn y fyddin roedd 800 o farchogion a 15,600 o filwyr, 9,000 ohonynt yn Gymry. Wrth i Edward symud ymlaen ar draws y gogledd, adeiladodd gestyll newydd fel cestyll y Fflint a Rhuddlan. Anfonodd Edward 2,000 o filwyr i ymosod ar Ynys Môn. Bu hyn yn llwyddiant ac roedd Llywelyn wedi ei amgylchynu ar dair ochr: y gogledd-orllewin, y dwyrain a’r de. Ar 1 Tachwedd, ildiodd Llywelyn. Llofnodwyd Cytundeb Aberconwy, gan ostwng statws Llywelyn i Dywysog Gwynedd. Roedd gweddill Cymru o dan lywodraeth y Saeson erbyn hynny. Dros y pum mlynedd nesaf, cymerodd arweinyddion Cymru yn erbyn y swyddogion Seisnig a benodwyd i lywodraethu rhan fawr o Gymru. 

Ym mis Mawrth 1282 arweiniodd Dafydd ap Gruffudd ymosodiadau ar gestyll yr oedd y Saeson yn eu dal ledled gogledd a chanolbarth Cymru. Bu’r ymosodiadau hyn yn llwyddiannus a chymerwyd rheolaeth ar sawl castell yn cynnwys Dolforwyn. Ymunodd tywysog gogledd Powys â Dafydd. O weld yr ymosodiadau hyn yn llwyddo, ymunodd Llywelyn ap Gruffudd yn y gwrthryfel. Erbyn mis Mehefin roedd y gwrthryfel wedi cyrraedd de Cymru. Ym mis Gorffennaf arweiniodd Edward fyddin o 600 o farchogion a 4,000 o filwyr i Gymru. Y tro hwn, nod Edward oedd gorchfygu Cymru gyfan. Erbyn mis Rhagfyr 1282 roedd rhan fawr o Gymru yn ôl o dan lywodraeth y Saeson. Penderfynodd Llywelyn ymosod ar Gastell Buallt a oedd yn nwylo’r Saeson.

Ar 11 Rhagfyr 1282, ymladdwyd Brwydr Pont Orewin (neu Frwydr Pont Irfon). 

Roedd Llywelyn yn un o 3,000 o Gymry a laddwyd y diwrnod hwnnw. Does neb yn gwybod yn union sut y bu i Lywelyn farw. Yn ôl un stori, cafodd ei ladd gan farchog o’r enw Stephen de Frankton. Dywed y stori bod Llywelyn wedi ei wahanu oddi wrth ei fyddin. Gwelodd Stephen farchog o Gymro ar ei ben ei hunan a’i ladd â’i waywffon. Dim ond ar ôl i Stephen ei ladd y gwelwyd mai Llywelyn ydoedd. Yn ôl stori arall, cafodd Llywelyn ei ddenu i drap gan y Saeson cyn y frwydr. Ar ôl iddynt redeg ar ei ôl i goedwig, cafodd ei ladd ganddynt. Torrwyd pen Llywelyn a’i anfon i Dŵr Llundain i'w arddangos uwchlaw'r gatiau. Claddwyd ei gorff yn Abaty Cwm-hir.

Ar ôl i Llywelyn farw, symudodd Edward ymlaen ar draws y gogledd. Aeth Dafydd ap Gruffudd ar ffo. Ar 21 Mehefin 1283 daliwyd Dafydd ac fe’i dedfrydwyd i farwolaeth. Anfonwyd ei ben i Dŵr Llundain i gael ei arddangos wrth ymyl pen ei frawd. Gyda diwedd y gwrthryfel, roedd Cymru wedi ei gorchfygu’n llwyr am y tro cyntaf.  Roedd Oes y Tywysogion wedi dod i ben.

Ym mis Gorffennaf 1284 bu Edward I yn dathlu ei fuddugoliaeth yn Nefyn. Yno roedd un o Lysoedd pwysicaf Tywysogion Gwynedd. Rhwng diwedd Medi a chanol Rhagfyr bu Edward yn teithio Cymru. Taith i ddathlu ei fuddugoliaeth ac i ddangos ei fod wedi gorchfygu Cymru gyfan yn llwyr oedd hon. Yn 1301 cyhoeddwyd bod mab Edward, a anwyd yng Nghaernarfon, yn Dywysog newydd Cymru. Dyma oedd dechrau traddodiad newydd o roi’r teitl i fab hynaf y Brenin.

Cyhoeddwyd cyfraith o’r enw Statud Cymru yn Rhuddlan yn 1284. Roedd y gyfraith yn dweud y byddai Cymru'n cael ei llywodraethu o dan Goron Lloegr. Gyda’r statud, cafodd cyfraith trosedd Cymru ei disodli gan gyfraith trosedd Lloegr. Disodlwyd tywysogion Cymru gan lywodraethwr brenhinol, Ustus Gogledd Cymru. Roedd Ustus ar gyfer De Cymru wedi ei gyflwyno yn 1280. Cyflwynwyd system newydd o siroedd ledled Cymru. Mewn rhannau o dde Cymru oedd yn cael eu rheoli gan y Saeson yn barod, bu siroedd yn eu lle ers 1241. Roedd rhai swyddi yn y llysoedd Cymreig fel y Rhingyll yn dal yn nwylo’r Cymry, ond roeddent yn gwasanaethu Coron Lloegr yn awr.

Heddiw coffeir marwolaeth Llywelyn ar safle ei gwymp yng Nghilmeri gan wladgarwyr ar Ddiwrnod Llywelyn Ein Llyw Olaf (11 Rhagfyr) bob blwyddyn. Er gwaethaf pwysau ar y Post Brenhinol yn 1982 i ryddhau stamp arbennig ar gyfer yr achlysur, ni chafwyd stamp i nodi 700 mlwyddiant ei farw, ond cyhoeddwyd stamp answyddogol. 

Dyfernir Gwobr Goffa'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd gan Brifysgol Cymru i'r traethawd gorau ar gyfer gradd MPhil neu PhD.




#Article 19: Llywelyn Fawr (4542 words)


Llywelyn ap Iorwerth (c.1173 – 11 Ebrill 1240), neu Llywelyn Fawr, oedd Tywysog Gwynedd a Thywysog de facto Cymru. Erbyn diwedd ei deyrnasiad yn 1240 roedd yn cael ei gydnabod (ac yn galw ei hun) yn Dywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri. 

Roedd yn Dywysog Cymru gyfan i bob pwrpas. Roedd yn ŵyr i Owain Gwynedd, ac yn unig fab i Iorwerth Drwyndwn, sef mab cyfreithlon hynaf Owain Gwynedd, tra'r oedd ei fam, Marged, yn ferch i Madog ap Maredudd o Bowys. Roedd Llywelyn ap Gruffudd yn ŵyr iddo drwy ei fab Gruffudd gyda Thangwystl. Drwy gyfuniad o ryfela a diplomyddiaeth amlygodd ei hun fel un o lywodraethwyr mwyaf blaengar ac abl Cymru’r Oesoedd Canol. Yn ystod ei deyrnasiad brwydrodd yn ddygn ac ymgyrchu’n daer i wireddu ei weledigaeth yng Nghymru o greu tywysogaeth Gymreig.

Yn ystod plentyndod Llywelyn, rheolwyd Gwynedd gan ei ddau ewythr, ac roeddent wedi rhannu’r deyrnas rhyngddynt, yn dilyn marwolaeth tad-cu Llywelyn, sef Owain Gwynedd, yn 1170.  Bu’r blynyddoedd ar ôl 1170 yn gyfnod ansefydlog, gyda disgynyddion Owain yn brwydro i reoli. Roedd hawl Llywelyn i fod yn rheolwr cyfreithlon yn gadarn a dechreuodd ymgyrch i ennill pŵer pan oedd yn ifanc. Bu 1197 yn drobwynt pwysig. Daliodd Llywelyn ap Iorwerth ei ewythr Dafydd ab Owain a'i alltudio o Wynedd, meddiannodd y Berfeddwlad a chipiodd weddill Gwynedd yn 1200.

Ef oedd prif reolwr Gwynedd erbyn 1201, a lluniodd gytundeb gyda Brenin Lloegr yn y flwyddyn honno. Yn y Deheubarth, manteisiodd Llywelyn ar y rhwygiadau a fu yn nheyrnas yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd rhwng ei feibion yn dilyn ei farwolaeth yn 1197. Rhannodd Llywelyn y tiroedd rhyngddynt a daeth Llywelyn yn uwch-arglwydd ar y Deheubarth.

Parhaodd perthynas dda rhyngddo ef a’r Brenin John, Brenin Lloegr, am weddill y degawd hwnnw. Priododd Llywelyn ferch John, sef Siwan, yn 1205. Pan arestiwyd Gwenwynwyn ap Owain o Bowys gan John yn 1208, cymerodd Llywelyn y cyfle i feddiannu Powys. Ond yn 1210 gwaethygodd y berthynas rhwng Llywelyn a John ac oherwydd hynny penderfynodd John ymosod ar Wynedd yn 1211. Gorfodwyd Llywelyn i ofyn am delerau i geisio cymodi, a bu’n rhaid iddo ollwng ei afael ar ei holl diroedd i’r dwyrain o’r Afon Conwy, er iddo lwyddo i’w hadfeddiannu y flwyddyn ddilynol mewn cynghrair gyda thywysogion Cymreig eraill. Lluniodd gynghrair gyda’r barwniaid a oedd wedi gorfodi John i lofnodi'r Magna Carta yn 1215. Erbyn 1216, Llywelyn oedd y prif bŵer yng Nghymru, a chynhaliodd gyngor o reolwyr Cymreig yn Aberdyfi yn yr un flwyddyn, lle tyngwyd llw o ffyddlondeb iddo ef er mwyn dosbarthu tiroedd i’r tywysogion eraill.  

Yn dilyn marwolaeth y Brenin John, llofnododd Llywelyn gytundeb gyda’i olynydd, Harri III, yn 1218. Roedd Cytundeb Caerwrangon yn gydnabyddiaeth gan Frenin Lloegr o hawliau Llywelyn yng Nghymru ac yn gadarnhad o’r hyn a gytunodd gyda thywysogion eraill Cymru yn Aberdyfi yn 1216. Bu’r pymtheg mlynedd nesaf yn gythryblus a chyfnewidiol i Llywelyn oherwydd bu mewn gwrthdaro cyson ag Arglwyddi’r Mers - yn eu plith, William Marshall, Iarll Penfro, a'i heriodd yn ne-orllewin Cymru yn 1223, a Hubert de Burgh a'i heriodd yn ne Powys yn 1228.

Bu ei berthynas â’i dad-yng-nghyfraith, John, Brenin Lloegr yn anghyson, ac roedd y ffaith ei fod wedi llunio cynghreiriau gyda rhai o brif Arglwyddi’r Mers yn dangos mor anwadal oedd gwleidyddiaeth yr oes. Roedd Cytundeb Heddwch Middle yn 1234 yn datgan diwedd gyrfa filwrol Llywelyn, oherwydd estynnwyd cadoediad heddwch y cytundeb tan ddiwedd teyrnasiad Llywelyn. Sefydlogodd ei safle a’i awdurdod yng Nghymru tan ei farwolaeth yn 1240 ac olynwyd ef gan ei fab Dafydd ap Llywelyn.  Pan alwodd ynghyd ei ddeiliaid yn Ystrad Fflur yn 1238 roedd hynny'n ddatganiad o ddymuniad Llywelyn bod ei benarglwyddiaeth ef fel Tywysog Cymru a’i syniad o greu tywysogaeth Cymru yn cael ei throsglwyddo i’w aer, Dafydd. Roedd yr arweinyddion oedd yn bresennol yn tyngu llw o ffyddlondeb i Dafydd i sicrhau bod hynny'n cael ei wireddu yn y dyfodol.

Ni wyddom lawer am flynyddoedd cynnar Llywelyn. Yn ôl y traddodiad cafodd ei eni yng Nghastell Dolwyddelan, Dyffryn Lledr tua 1173, yn fab i Iorwerth ab Owain, oedd hefyd yn cael ei adnabod fel Iorwerth Drwyndwn, ac yn ŵyr i Owain Gwynedd, a fu’n rheolwr Gwynedd tan ei farwolaeth yn 1170. Roedd Llywelyn yn ddisgynnydd ym mhrif linach Rhodri Mawr ac felly'n aelod o linach frenhinol Gwynedd. 

Bu farw ei dad, Llywelyn Drwyndwn, pan oedd Llywelyn yn blentyn bach. Does dim cofnodion bod Llywelyn Drwyndwn wedi cymryd rhan yn yr ymrafael a fu rhwng meibion eraill Owain Gwynedd yn dilyn ei farwolaeth, er mai ef oedd y mab hynaf. Yn ôl traddodiad, roedd yn anabl neu wedi ei anffurfio mewn rhyw ffordd fel na allai fod yn rhan o’r frwydr am bŵer. Yn ôl yr hanesydd, J.E Lloyd, lladdwyd Iorwerth mewn brwydr ym Mhennant Melangell, Powys, yn 1174, yn ystod y rhyfeloedd a ymladdwyd i benderfynu'r olyniaeth yn dilyn marwolaeth ei dad.

Erbyn 1175, roedd Gwynedd wedi cael ei rhannu rhwng dau o ewyrth Llywelyn, sef Dafydd ab Owain, a oedd yn rheoli’r tiroedd i’r dwyrain o Afon Conwy, a Rhodri ab Owain, a oedd yn meddiannu’r tiroedd i'r gorllewin o'r afon. Dafydd a Rhodri oedd meibion Owain drwy ei ail briodas â Cristin ferch Gronw. Nid oedd y briodas hon yn cael ei hystyried yn ddilys gan yr Eglwys gan fod Cristin ac Owain yn gefndryd cyntaf, ac roedd cyfraith eglwys yn datgan fod perthynas deuluol o'r fath yn golygu bod y briodas yn anghyfreithlon. Mae Gerallt Gymro yn cyfeirio at Iorwerth Drwyndwn fel unig fab cyfreithlon Owain Gwynedd ac yn dilyn marwolaeth Iorwerth, Llywelyn a ystyriwyd gan yr Eglwys fel yr unig ymgeisydd cyfreithlon ar gyfer gorsedd Gwynedd.

Mam Llywelyn oedd Marged, merch Madog ap Maredudd, tywysog Powys. Mae tystiolaeth yn bodoli bod Marged, ar ôl marwolaeth ei gŵr cyntaf, wedi priodi yn ystod haf 1197 â Gwion, nai Roger Powys o Gastell Whittington, a bod mab wedi ei eni iddynt, sef Dafydd ap Gwion. Felly, mae rhai yn dadlau na wnaeth Marged briodi aelod o deulu’r Corbet o Gastell Caus (ger Westbury, Swydd Amwythig) ac yn ddiweddarach Castell Moreton Corbet. Er hynny, mae dogfen yn dangos bod Llywelyn ab Iorwerth wedi rhoi rhodd o dir i’r fynachlog yn Wigmore, gyda Llywelyn yn cyfeirio at y ffaith bod ei fam yn aelod o lys Corbet.

Gyda marwolaeth Owain Gwynedd yn 1170 bu gwrthdaro a rhaniadau dwfn ymhlith disgynyddion Owain yng Ngwynedd. Tasg gyntaf Llywelyn oedd sefydlu ei awdurdod. Gwnaeth hyn yn rhannol drwy nerth arfau ac yn rhannol drwy nawdd a chynghreirio. Yn 1194, gyda chymorth ei gefndryd, Gruffudd ap Cynan a Maredudd ap Cynan, gorchfygodd Llywelyn ei ewythr Dafydd ab Owain Gwynedd, mab Owain Gwynedd, ym Mrwydr Aberconwy. Meddiannwyd tiroedd ei frawd, Rhodri ab Owain, i’r gorllewin o afon Conwy gan Gruffudd a Maredudd tra bod Llywelyn wedi cipio tiroedd Dafydd a leolwyd i’r dwyrain o afon Conwy. Bu farw Rhodri ab Owain yn 1195.

Yn ystod y blynyddoedd dilynol canolbwyntiodd Llywelyn ar gadarnhau ei awdurdod. Bu 1197 yn drobwynt pwysig arall yn ei esgyniad i bŵer yng Ngwynedd. Herwgipiodd Llywelyn ei ewythr Dafydd ab Owain a’i garcharu ond flwyddyn yn ddiweddarach perswadiwyd ef gan Hubert Walter, Archesgob Caergaint, i ryddhau Dafydd, ac fe wnaeth hwnnw ffoi i Loegr, lle bu farw ym mis Mai 1203. Erbyn 1200 roedd Llywelyn wedi meddiannu gweddill Gwynedd. Yn sgil y datblygiadau hyn, penderfynodd y Brenin John y byddai’n cydnabod awdurdod Llywelyn wrth i Llywelyn dyngu llw o ffyddlondeb iddo yn 1201.

Rhannwyd Cymru yn ddwy ran - y Pura Wallia, sef yr ardaloedd a reolwyd gan y tywysogion Cymreig, a’r Marchia Wallia, a reolwyd gan y barwniaid Eingl-Normanaidd. Ers marwolaeth Owain Gwynedd yn 1170, roedd Rhys ap Gruffydd wedi datblygu teyrnas y Deheubarth i fod y deyrnas fwyaf pwerus yng Nghymru ac wedi sefydlu ei hun fel arweinydd y Pura Wallia. Yn dilyn marwolaeth Rhys yn 1197, roedd ymladd rhwng ei feibion wedi achosi rhwyg a rhaniadau yn y Deheubarth rhwng gwahanol garfannau. Ceisiodd Gwenwynwyn ab Owain, tywysog Powys Wenwynwyn, sefydlu ei hun fel arweinydd y tywysogion Cymreig, ac yn 1198 casglodd fyddin fawr er mwyn rhoi gwarchae ar Gastell Paun (Painscastle) rhwng Llanfair-ym-Muallt a Thalgarth ym Mhowys, oedd yn cael ei feddiannu ar y pryd gan filwyr Gwilym Brewys, Arglwydd Bramber. Anfonodd Llywelyn filwyr i helpu Gwenwynwyn, ond ym mis Awst, trechwyd lluoedd Gwenwynwyn gan fyddin a arweiniwyd gan y Prif ustus, Geoffrey Fitz Peter. Rhoddodd gorchfygiad Gwenwynwyn y cyfle i Llywelyn sefydlu ei hun fel arweinydd y Cymry, ac yn 1199 cipiodd Llywelyn gastell pwysig yr Wyddgrug. Erbyn hynny roedd wedi dechrau arfer y teitl Tocius norwallie princeps, sef Tywysog Gogledd Cymru Gyfan’. Yn fwy na thebyg, nid oedd Llywelyn yn rheoli Gwynedd gyfan erbyn y cyfnod hwn gan mai ei gefnder Gruffudd ap Cynan a dalodd wrogaeth ar ran Gwynedd i’r Brenin John yn 1199. 

Yn 27 oed, daeth Llywelyn ap Iorwerth yn dywysog Gwynedd ar ôl gorchfygu ei ddau ewythr. Bu farw Gruffudd ap Cynan yn 1200 a daeth Llywelyn yn arweinydd diamheuol Gwynedd. Yn 1201 cipiodd a meddiannodd Eifionydd a Llŷn oddi wrth Maredudd ap Cynan ar sail cyhuddiad o deyrnfradwriaeth. 

Yng Ngorffennaf 1201 arwyddodd y cytundeb ysgrifenedig ffurfiol cyntaf yn hanes Cymru rhwng tywysog Cymru a choron Lloegr. Yn y cytundeb roedd cynghorwyr y brenin John yn cydnabod hawl Llywelyn i orsedd Aberffraw a'r tir a ddaliai, ac yn cydnabod hefyd ddilysrwydd Cyfraith Hywel Dda. Fel rhan o’r telerau roedd yn rhaid i Llywelyn dyngu llw a thalu gwrogaeth i’r Brenin, ac mewn achosion o dir a feddiannwyd gan Llywelyn roedd hawl i’r achosion hynny gael eu clywed yn ôl Cyfraith Hywel Dda, sef cyfraith Cymru.

Yn 1204 cipiodd Llywelyn gantref strategol Penllyn, ar y ffin â Phowys Fadog; arwydd o'i uchelgais tuag at y dyfodol i reoli'r Bowys anghytûn. 

I gadarnhau ei sefyllfa ymhellach, priododd y Dywysoges Siwan, merch y Brenin John, yn 1205. Manteisiodd Llywelyn ar ei berthynas newydd. Yn 1208 bu anghytundeb rhwng Gwenwynwyn ab Owain o Bowys a'r Brenin John, a chafodd wŷs gan y Brenin i fynd i Amwythig yn yr Hydref, ac yna arestiwyd ef a chollodd ei holl diroedd. Manteisiodd Llywelyn ar y sefyllfa gan gipio Powys Wenwynwyn (tra'r oedd Gwenwynwyn ab Owain oddi cartref, wedi ei arestio dros dro gan John, ac a oedd yn ddeiliad i goron Lloegr), a gorymdeithiodd gyda'i fyddin i Geredigion gan feddiannu ac atgyfnerthu Castell Aberystwyth a sicrhau gwrogaeth yr arglwyddi lleol.

Defnyddiodd Llywelyn y sefyllfa i yrru Maelgwn allan o ogledd Ceredigion a gellir dehongli hwn fel arwydd clir bod Llywelyn yn dangos ei fwriad i bwysleisio mai rheolwr Gwynedd oedd arweinydd y Pura Wallia. Roedd Llywelyn yn medru defnyddio ei achau hanesyddol i gyfiawnhau’r hawl hon gan ei fod yn ddisgynnydd i linach frenhinol Aberffraw ac yn un o ddisgynyddion Rhodri Mawr a Gruffydd ap Cynan. Roedd hefyd â’i fryd ar ddilyn polisi mwy herfeiddiol na Owain Gwynedd, ei dad-cu, er mwyn cael cydnabyddiaeth i’w awdurdod y tu allan i deyrnas Gwynedd.

Roedd angen cefnogaeth Llywelyn ar John yr adeg honno oherwydd problemau â Ffrainc a nerth y barwniaid yn Lloegr, ac roedd Llywelyn yn ymwybodol o hynny. Yn 1209 bu'n cefnogi John yn ystod ei gyrch yn erbyn William I o’r Alban. Erbyn 1210 roedd awdurdod Llywelyn ar seiliau cadarn, i bob golwg. Er ei fod yn anghytuno â John a'i olynydd, Harri III o Loegr weithiau, llwyddodd i gadw ei dywysogaeth yn annibynnol a hyd yn oed cipio'r rhan fwyaf o Bowys a Cheredigion, hefyd. 

Ond daeth tro ar fyd. Yn 1210 dirywiodd y berthynas rhwng Llywelyn a’r Brenin John. Awgryma’r hanesydd J.E. Lloyd bod y gwrthdaro wedi digwydd oherwydd bod Llywelyn wedi ffurfio cynghrair â Gwilym Brewys, 4ydd Arglwydd Bramber, a oedd wedi ffraeo gyda’r brenin ac wedi colli ei diroedd. Tra'r oedd John yn arwain ymgyrch yn erbyn Gwilym Brewys a’i gefnogwyr yn Iwerddon, roedd byddin o dan arweiniad Iarll Ranulph o Gaer a Peter des Roches, Esgob Caer-wynt, wedi goresgyn Gwynedd. Dinistriodd Llywelyn ei gastell ei hun yn Neganwy a thynnodd yn ôl i ochr orllewinol afon Conwy. Ailadeiladwyd Deganwy gan Iarll Caer ond talwyd y pwyth yn ôl gan Llywelyn drwy ddifetha tiroedd yr iarll. Anfonodd John filwyr i helpu i adfer rheolaeth Gwenwynwyn yn ne Powys. 

Yn 1211 goresgynnwyd Gwynedd gan John gyda chefnogaeth cyfran helaeth o’r tywysogion Cymreig, a’i fwriad yn ôl Brut y Tywysogion oedd cymryd tiroedd Llywelyn oddi wrtho a’i ddinistrio’n gyfan gwbl. Methodd yr ymosodiad cyntaf, ond ym mis Awst 1211 llwyddodd John i groesi afon Conwy a threiddio i mewn i Eryri. Llosgwyd Bangor a chipiwyd Esgob Bangor. Gorfodwyd Llywelyn i ddod i delerau â’r Brenin, ac ar gyngor ei gynghorwyr anfonwyd ei wraig Siwan i drafod gyda’i thad, Brenin Lloegr. Llwyddodd Siwan i berswadio ei thad i beidio amddifadu Llywelyn o’i holl diroedd, ond methodd osgoi sefyllfa lle collodd ei holl diroedd i’r dwyrain o afon Conwy. Bu'n rhaid iddo hefyd dalu ar ffurf gwartheg a cheffylau a throsglwyddo gwystlon i’r Brenin, gan gynnwys ei fab anghyfreithlon, Gruffydd. Roedd yn rhaid iddo gytuno hefyd, petai’n marw heb etifedd cyfreithlon oddi wrth Siwan, y byddai ei holl diroedd yn dychwelyd i’r Brenin. Trodd y mân arglwyddi Cymreig eu cefn ar Llywelyn.  Roedd yn well ganddynt gydnabod Brenin Lloegr fel eu penarglwydd, na fyddai’n ymyrryd yn ormodol yn eu teyrnasoedd, yn hytrach na Llywelyn fel rheolwr brodorol.

Roedd hon yn siom fawr i Llywelyn ond adferwyd ei statws yn fuan. Trosglwyddodd y tywysogion Cymreig eraill, a oedd yn flaenorol wedi cefnogi John yn erbyn Llywelyn, eu teyrngarwch a’i ail-gyfeirio at Llywelyn. Ffurfiodd Llywelyn gynghrair gyda Gwenwynwyn o Bowys a dau o reolwyr y Deheubarth, sef Maelgwn ap Rhys a Rhys Gryg, meibion yr Arglwydd Rhys ap Gruffudd o'r Deheubarth, a chodi mewn gwrthryfel yn erbyn John. Yn ôl Cronicl de Wallia, galwyd y cyfarfod ynghyd yn Hendy-gwyn, a dewisiwyd Llywelyn, Tywysog Gwynedd, fel eu harweinydd. Cawsant gefnogaeth y Pab Innocent III, a oedd wedi bod mewn anghytundeb gyda John ers blynyddoedd ac wedi gosod ei diroedd o dan waharddiad. Rhyddhawyd Llywelyn, Gwenwynwyn a Maelgwn o’u llwon o ffyddlondeb i John gan y Pab, a chodwyd gwaharddiad ar y tiroedd roeddent yn eu rheoli. Llwyddodd Llywelyn i adfeddiannu holl diroedd Gwynedd heblaw am gestyll Deganwy a Rhuddlan o fewn deufis yn 1212.

Roedd John wedi bwriadu lansio ymgyrch arall i oresgyn Gwynedd yn Awst 1212 ond rhybuddiwyd ef gan ei ferch a gan William I o’r Alban y byddai ei farwniaid yn cymryd y cyfle i’w ladd neu ei drosglwyddo fel carcharor i’w elynion petai’n gwneud hynny. Penderfynodd John roi’r syniad o'r neilltu, ac yn 1213 meddiannwyd cestyll Deganwy a Rhuddlan gan Llywelyn ab Iorwerth.

Lluniodd Llywelyn gytundeb gyda Philip II Augustus o Ffrainc cyn gwneud cynghrair gyda’r barwniaid oedd yn gwrthryfela yn erbyn John, ac yn 1215 gorymdeithiodd i mewn i Amwythig a meddiannu'r dref heb unrhyw wrthwynebiad. Pan orfodwyd John i lofnodi'r Magna Carta cynigiwyd telerau ffafriol i Llywelyn, oedd yn cynnwys rhyddhau ei fab Gruffudd a oedd wedi bod yn wystlon ers 1211. Yn yr un flwyddyn penodwyd Ednyfed Fychan yn ddistain Gwynedd a chydweithiodd yn agos gyda Llywelyn am weddill ei deyrnasiad.

Erbyn nawr roedd Llywelyn wedi sefydlu ei hun fel arweinydd y tywysogion Cymreig annibynol, a rhwng 1215 a 1218 llwyddodd i ehangu ei awdurdod ar draul y problemau mewnol a wynebai'r Brenin John yn ei deyrnas ac ymhlith ei farwniaid. Rhwng 1215 a 1216 meddiannodd gestyll yng Ngwent a Brycheiniog, ac arweiniodd byddin o fân dywysogion Cymreig a chipio cestyll eraill, yn eu plith, Caerfyrddin, Cydweli, Llansteffan, Arberth, Aberteifi a Chilgerran. Yn 1216 meddiannodd Powys Wenwynwyn wedi i Wenwynwyn dorri ei lw o ffyddlondeb iddo. Rhoddodd rheolwyr Powys Fadog a'r Deheubarth eu gwrogaeth iddo ac roedd yn rhoi nodded i arglwyddi Cymreig Morgannwg a Gwent a’r ardal rhwng Gwy a Hafren. Arwydd arall o’i bŵer cynyddol oedd ei fod wedi llwyddo i gael dylanwad ar benodiadau dau Gymro i ddwy swydd wag yn yr Eglwys, sef Iorwerth fel Esgob Tyddewi a Chadwgan fel Esgob Bangor.

Yn 1216 cynhaliodd Llywelyn gyngor yn Aberdyfi er mwyn penderfynu ar hawliau tiriogaethol rhai o’r mân dywysogion. Roedd hefyd yn gyfle iddynt gadarnhau eu ffyddlondeb a’u gwrogaeth i Llywelyn. Yn ôl yr hanesydd, J.Beverley Smith, roedd Llywelyn nawr yn amlinellu ei rôl fel arglwydd, yn ogystal ag yn arweinydd milwrol. Eu cynghreiriaid bellach oedd ei ddeiliaid. Newidiodd Gwenwynwyn ochrau eto ochri â’r Brenin John, a gyrrwyd ef allan o dde Powys unwaith yn rhagor gan Llywelyn. Bu farw Gwenwynwyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn Lloegr, gan adael etifedd o dan oedran. Bu farw John yn yr un flwyddyn, gan adael etifedd ifanc hefyd, sef y Brenin Harri III yn Lloegr.  

Yn 1217, gorfododd coron Lloegr un o gefnogwyr Llywelyn, sef Reginald o Frewys (a oedd hefyd wedi priodi merch Llywelyn, sef Gwladus Ddu), i newid ochrau. Ymatebodd Llywelyn drwy oresgyn tiroedd Brewys yn Aberhonddu a’r Fenni, gan fygwth Aberhonddu yn gyntaf, cyn mynd ymlaen i Abertawe, lle cyfarfu Llywelyn â Reginald Brewys. Cynigiodd Brewys ildio’r dref iddo ac aeth Llywelyn tua’r gorllewin tuag at Hwlffordd, lle cynigiodd y bwrdeistrefwyr wystlon os byddent yn ufuddhau i’w awdurdod neu dalu dirwy 1,000 o farciau.

Yn dilyn marwolaeth y Brenin John, arwyddodd Llywelyn Gytundeb Caerwrangon gyda’i olynydd, sef Harri III, yn 1218. I goron Lloegr roedd y cytundeb yn gam doeth, yn enwedig wrth ystyried mor fregus oedd gafael gorsedd frenhinol Lloegr ar ei barwniaid. Roedd y cytundeb yn cadarnhau perchnogaeth Llywelyn dros y tiroedd a oresgynnwyd ganddo, ond mewn sawl ystyr roedd y cytundeb yn gadoediad gyda chyfyngiadau ar rai o’r telerau - er enghraifft, collodd wrogaeth y Deheubarth a Phowys.

Ond er gwaethaf y Cytundeb, cafodd Llywelyn drafferthion gydag Arglwyddi’r Mers yn y blynyddoedd dilynol - yn eu plith, teulu Marshall a Hubert de Burgh, gyda’r Brenin Harri III yn procio’r gwrthdaro. Yn 1228 bu ymladd yng nghwmwd Ceri rhwng Llywelyn a Hubert de Burgh, oedd yn un o farwniaid mwyaf nerthol Lloegr. Roedd Hubert wedi derbyn Arglwyddiaeth Trefaldwyn ac wedi dechrau meddiannu rhai o diroedd Llywelyn yng Ngheri. Daeth y brenin â byddin i gynorthwyo Hubert, a ddechreuodd adeiladu castell o fewn cwmwd Ceri. Llwyddodd Llywelyn i orfodi'r fyddin Seisnig i encilio, a chytunodd y brenin i ddinistrio'r castell yn gyfnewid am daliad o £2,000 gan Llywelyn. Cododd Llywelyn yr arian drwy ofyn am yr un swm fel pris rhyddid Gwilym Brewys, oedd wedi ei gymryd yn garcharor yn yr ymladd.

Trefnodd Llywelyn gyfres o briodasau cynghreiriol gyda llawer o deuluoedd y Gororau hefyd. Er enghraifft, roedd ei ferch, Gwladus Ddu, yn briod â Reginald Brewys o Aberhonddu a’r Fenni, ond gan fod Reginald yn medru bod yn anwadal yn ei ffyddlondeb, penderfynodd Llywelyn drefnu priodas ei ferch arall, Marged, gyda nai Reginald, sef John Brewys o’r Gŵyr. Priododd merch arall iddo, Elen, â nai ac etifedd Ranulph, Iarll Caer, sef John y Sgotyn, yn 1222.  Pan fu Reginald Brewys farw yn 1228, trefnodd Llywelyn briodas wleidyddol arall gyda theulu pwerus Mortimer, pan briododd Gwladus Ddu ei hail ŵr, sef Ralph de Mortimer. 

Sylweddolai Llywelyn fod yn rhaid iddo droedio llwybr gofalus wrth geisio osgoi pechu coron Lloegr nac Arglwyddi’r Mers. Er enghraifft, perswadiodd Rhys ap Gryg yn 1220 i ddychwelyd pedwar cwmwd yn ne Cymru i’w cyn-berchnogion Eingl-Normanaidd. Adeiladodd nifer o gestyll er mwyn amddiffyn ffiniau ei diroedd, gyda’r mwyafrif wedi eu hadeiladu rhwng 1220 a 1230, mae'n debyg. Roedd y rhain yn gestyll carreg - er enghraifft, Cricieth, Deganwy, Dolbadarn, Dolwyddelan a Chastell y Bere.

Datblygodd Llywelyn yr hen gyfreithiau Cymreig, Cyfraith Hywel Dda, a blodeuodd ysgol gyfraith ogleddol yn ystod ei deyrnasiad. Datblygodd system weinyddol y dywysogaeth gyda chymorth ei ddistain galluog Ednyfed Fychan. Un o nodweddion teyrnasiad Llywelyn ab Iorwerth, ac a fu’n sail i’w lwyddiant, oedd ei fod wedi defnyddio adnoddau milwrol ac economaidd Cymru i hyrwyddo a datblygu ei deyrnas a’i awdurdod - er enghraifft, Tegeingl a Phowys Wenwynwyn, a oedd yn adnabyddus am eu plwm a’u meirch. Helpodd hefyd i greu canolfannau masnachol oddi mewn i'w diroedd yng Ngwynedd ac roedd yn defnyddio adnodd fel tir Cymru fel rhan o system ffiwdal i ennyn a gwarantu teyrngarwch a ffyddlondeb. Dyma a wnaeth gydag Ednyfed Fychan, distain Gwynedd rhwng 1216 a 1246, ac un o gyndeidiau teulu Tuduriaid Ynys Môn. 

Wedi genedigaeth Dafydd ap Llywelyn ac Elen, plant Llywelyn a Siwan, cychwynnodd Siwan berthynas â Gwilym Brewys, arglwydd Normanaidd o Frycheiniog. Oherwydd hyn dienyddiwyd Gwilym ar orchymyn Llywelyn yn 1230, er bod merch Gwilym, sef Isabella, yn mynd i briodi mab Llywelyn, sef Dafydd ap Llywelyn. Dangoswyd cryfder ei awdurdod yng Nghymru gyda’r weithred hon, oherwydd roedd Gwilym Brewys yn aelod o un o deuluoedd mwyaf pwerus Arglwyddi’r Mers.  Rhoddwyd Siwan dan glo am flwyddyn. Wedi cyfnod, maddeuodd Llywelyn i Siwan a'i hadfer yn dywysoges. Roedd gan Siwan ran bwysig ym mherthynas Llywelyn â'i thad, y Brenin John, ac ar fwy nag un achlysur cynrychiolodd Llywelyn mewn materion diplomyddol rhwng llys Gwynedd a choron Lloegr.

Yn ôl telerau’r cytundeb llwyddodd Llywelyn i ail-adfer ffiniau a thiroedd ei deyrnas fel y digwyddodd yng nghyfnod y Brenin John. Roedd Powys Wenwynwyn yn ei feddiant o hyd, roedd arglwyddi Powys Fadog a'r Deheubarth i fod yn deyrngar iddo a rhoddwyd Maelienydd, Gwrtheyrnion a Buellt iddo. Yn y cyfnod hwn mabwysiadodd y teitl ‘Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri’ er mwyn pwysleisio bod ei awdurdod y tu hwnt i ffiniau a theitl Tywysog Gwynedd. Roedd hyn yn gam oedd yn ei godi goruwch, ac yn dangos ei statws fel penarglwydd ymhlith rheolwyr Cymru. Er na wnaeth ddefnyddio’r teitl Tywysog Cymru yn swyddogol, roedd yn Dywysog Cymru i bob pwrpas fel y dywed yr hanesydd J.E Lloyd, gan ei fod yn meddiannu’r pŵer a'r awdurdod oedd yn cyfateb i hynny.

Problem fwyaf y cyfnod oedd y rheolau ynglyn ag etifeddiaeth yng Nghymru. Gan nad oedd y mab hynaf yn etifeddu holl dir a theitlau ei dad, ond yn hytrach bod eiddo'r tad yn cael ei ddosrannu rhwng yr holl feibion (y rhai cyfreithlon ac anghyfreithlon), roedd hi'n anodd adeiladu arweinyddiaeth gref ar Gymru gyfan dros genedlaethau.

Tua diwedd ei oes, ymdrechodd Llywelyn yn galed i sicrhau y byddai Dafydd, ei fab ef a Siwan, a’i unig fab cyfreithlon, yn ei olynu fel rheolwr Gwynedd, ac addaswyd Cyfraith Cymru ganddo i sicrhau hynny. Roedd addasiadau Llywelyn i Gyfraith Cymru er mwyn ffafrio plant cyfreithlon o fewn priodasau a ddilyswyd gan yr Eglwys, yn debyg i ymdrechion yr Arglwydd Rhys, Tywysog y Deheubarth, wrth benodi Gruffydd ap Rhys II fel ei etifedd yn hytrach na hawliau ei fab anghyfreithlon hynaf, sef Maelgwn ap Rhys. Roedd hawliau Gruffydd, brawd hynaf anghyfreithlon Dafydd, felly'n cael eu rhoi o’r neilltu fel prif etifedd Llywelyn. Er hynny, byddai'n derbyn tiroedd i’w rheoli. Roedd trefniant Llywelyn ar gyfer Dafydd yn wahanol i arferion Cyfraith Cymru, a oedd yn dweud mai’r mab hynaf oedd etifedd ei dad, beth bynnag oedd statws priodasol ei rieni.  

Roedd Llywelyn wedi bod yn paratoi ers blynyddoedd i sicrhau bod olyniaeth ei deyrnas yn gadarn. Yn 1220, llwyddodd Llywelyn i gael y Brenin, Harri III, i gydnabod Dafydd fel ei etifedd. Yn 1222, fe wnaeth Llywelyn hefyd anfon deiseb at y Pab, Honorius III, i gadarnhau olyniaeth Dafydd. Roedd y Pab yn croesawu’r ffaith bod Llywelyn eisiau diddymu’r arferiad hwn. Yn 1226, perswadiodd Llywelyn y Pab i gyhoeddi bod Siwan, ei wraig a mam Dafydd, yn ferch gyfreithlon i’r Brenin John, er mwyn cryfhau hawl Dafydd i’r olyniaeth. Yn 1229 derbyniodd coron Lloegr wrogaeth Dafydd am y tiroedd a fyddai’n eu hetifeddu oddi wrth ei dad. Yn 1238, cynhaliodd Llywelyn gyngor yn Abaty Ystrad Fflur, lle cyfarfu’r tywysogion Cymreig eraill i dyngu llw o ffyddlondeb i Dafydd - elfen a oedd yn allweddol i drefn ffiwdal o reoli. Bwriad gwreiddiol Llywelyn oedd y byddent yn talu gwrogaeth i Dafydd, ond ysgrifennodd y brenin at y rheolwyr eraill a’u gwahardd rhag talu gwrogaeth. Yn ychwanegol at hynny, roedd Llywelyn wedi trefnu priodas rhwng Dafydd a merch hynaf Gwilym Brewys, sef Isabella Brewys, oherwydd nad oedd etifedd gwrywaidd gan Gwilym Brewys, ac y byddai ei diroedd yn ne Cymru yn cael eu trosglwyddo i etifedd Dafydd ac Isabella.  

Yn 1228 carcharwyd Gruffydd gan Llywelyn tan 1234. Yn dilyn ei ryddhau rhoddwyd rhan o Lŷn iddo reoli, ac erbyn 1238 rhoddwyd gweddill Llŷn iddo ei reoli a chyfran sylweddol o dir ym Mhowys.

Bu farw Siwan yn 1237, ac yn yr un flwyddyn ymddengys bod Llywelyn wedi dioddef math o strôc a wnaeth ei barlysu. O’r cyfnod hwn ymlaen, cydiodd Dafydd fwyfwy yn awenau pŵer oddi wrth ei dad, ac er mwyn cael gwared ar unrhyw gystadleuaeth i’w safle, tynnodd diroedd o feddiant Gruffydd, ei hanner brawd, a chadwodd ef a’i fab hynaf, Owain, yn garcharorion yng Nghastell Criccieth. Bu Llywelyn farw ar 11 Ebrill 1240 yn Abaty Sistersaidd Aberconwy. Roedd hwn yn abaty a sefydlwyd ganddo ef a chladdwyd ef yno. Mae ei arch garreg i’w gweld yn Eglwys Sant Grwst, Llanrwst. 

Er bod Harri III yn fodlon i Dafydd olynu Llywelyn fel Tywysog Gwynedd ni chaniataodd iddo etifeddu statws ei dad yng ngweddill Cymru. Gorfodwyd Dafydd i gytuno ar gytundeb oedd yn gosod cyfyngiadau mawr ar ei bŵer, a gorfodwyd ef i drosglwyddo ei hanner-brawd, Gruffydd, i’r brenin. Medrai’r brenin wedyn ei ddefnyddio yn erbyn Dafydd. Lladdwyd Gruffydd wrth iddo geisio dianc o Dŵr Llundain yn 1244. Bu Dafydd farw yn 1246 heb unrhyw etifedd ac o ganlyniad olynwyd ef gan ei nai, sef mab Gruffydd, Llywelyn ap Gruffydd.  

Cafodd Llywelyn sawl plentyn gan fwy nag un cymar. 

Plant gyda Siwan

Plant gyda Tangwystl Goch 

Plant eraill

Yn ystod ei deyrnasiad roedd Llywelyn ap Iorwerth wedi sefydlu ei hun fel Tywysog Gwynedd, ac erbyn cyfarfod Aberdyfi yn 1216 roedd fwy neu lai wedi sefydlu ei hun yn Dywysog Cymru. Cytunodd y rheolwyr Cymreig yn swyddogol eu bod yn ymrwymo eu ffyddlondeb a’u teyrngarwch i Llywelyn. Llwyddodd i sicrhau cydnabyddiaeth Brenin Lloegr i’w statws a’i awdurdod yng Nghymru - er enghraifft, yn 1201 gyda’r Brenin John, Cytundeb Caerwrangon yn 1218 a Chytundeb Middle yn 1234, pan ddechreuodd gyfeirio ato'i hun fel Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri.

Yng ngolwg Llywelyn, byddai sicrhau olyniaeth ei fab cyfreithlon, Dafydd, yn ffon fesur bwysig o lwyddiant ei deyrnasiad. Roedd 1238 yn benllanw'r uchelgais hwnnw pan alwodd ynghyd dywysogion Cymru fel ei ddeiliaid, ac yntau’n arglwydd arnynt, yn Abaty Ystrad Fflur, i dyngu llw o ffyddlondeb i Dafydd fel ei olynydd. Roedd wedi ymgyrchu’n galed yn ystod y blynyddoedd blaenorol i sicrhau cefnogaeth y Pab, Brenin Lloegr ac arweinyddion eraill Cymru i’w nod. Roedd yn wleidydd craff a chyfrwys a oedd wedi ymdopi â’r her o ddelio ag ymddygiad Arglwyddi’r Mers, Brenin Lloegr a rheolwyr Cymreig eraill, ac wedi defnyddio ei sgiliau fel gwleidydd i lunio priodasau teuluol gyda rhai o Arglwyddi’r Mers. Nid oedd yn gyndyn o elwa ar sefyllfaoedd a oedd yn fanteisiol iddo, ac roedd yn ddewr ac yn gadarn yn ei wrthsafiad mewn gwahanol gyd-destunau. Roedd ganddo weledigaeth o dywysogaeth Gymreig annibynnol a oedd yn medru cynnal ei hun yn wleidyddol ac yn economaidd. Sicrhaodd gydnabyddiaeth i Gyfraith Cymru, roedd yn noddwr hael i’r Sistersiaid a hyrwyddodd benodiad Cymry i swyddi pwysig yn yr Eglwys yng Nghymru. Nid oes amheuaeth ei fod yn haeddu'r ymadrodd ’Mawr’ fel rhan o’i deitl ym mhantheon arwyr hanes Cymru.  




#Article 20: Owain Gwynedd (1206 words)


Owain ap Gruffudd ap Cynan, a elwid yn Owain Gwynedd, (1100 – 28 Tachwedd 1170) oedd tywysog Gwynedd o 1137 tan ei farwolaeth.  Gelwid ef yn Owain Gwynedd i'w wahaniaethu oddi wrth Owain ap Gruffudd arall a deyrnasai yn yr un cyfnod, Owain Cyfeiliog. Gwelodd ei deyrnasiad adfywiad mawr yng Ngwynedd a Chymru ac mae Brut y Tywysogion yn cyfeirio ato wrth yr enw Owain Fawr.

Roedd Owain yn fab i frenin Gwynedd, Gruffudd ap Cynan, a'i wraig Angharad ferch Owain, merch Owain ab Edwin. Ar ochr ei dad, roedd o linach Rhodri Mawr, tra'r oedd ei nain Ragnell yn ferch i Olaf Arnaid o deulu brenhinol Daniaid Dulyn. Owain oedd yr ail o dri mab Gruffudd ac Angharad.

Erbyn tua 1118 yr oedd  Gruffudd yn rhy hen i arwain mewn rhyfel ei hun, ond gallodd ei feibion Cadwallon ap Gruffudd, yr hynaf o feibion Gruffudd, Owain ac yn ddiweddarach Cadwaladr ap Gruffudd, ymestyn ffiniau Gwynedd ymhell i'r dwyrain. Yn 1123, ymosododd Cadwallon ac Owain ar gantref Meirionnydd, a oedd yn perthyn i Deyrnas Powys ar y pryd. Yn 1124 cipiasant gantref Dyffryn Clwyd o ddwylo Powys a'i adfer i Wynedd. Mewn ymgyrch ddiweddarach, lladdwyd Cadwallon gan fyddin o Bowys mewn brwydr yng nghwmwd Nanheudwy, ger Llangollen, yn 1132 (gweler Brwydr Nanheudwy). Atalwyd cynnydd tiriogaethol Gwynedd am gyfnod ar ôl hynny.

Yn 1136 enillodd Owain a Chadwaladr gyda Gruffydd ap Rhys tywysog Deheubarth fuddugoliaeth fawr dros y Normaniaid ym mrwydr Crug Mawr, ger Aberteifi, a meddiannu Ceredigion.

Etifeddodd Owain y rhan fwyaf o'r deyrnas ar farwolaeth Gruffudd yn 1137, ond gyda Cadwaladr yn dal Meirionnydd a Cheredigion. Yn 1143 lladdodd gwŷr Cadwaladr Anarawd ap Gruffudd, tywysog Deheubarth, trwy frad. Roedd amheuaeth gref fod hyn ar orchymyn Cadwaladr. Ymatebodd Owain trwy yrru ei fab Hywel ab Owain Gwynedd i gymeryd tiroedd Cadwaladr yng Ngheredigion oddi arno. Ffôdd Cadwaladr i Iwerddon lle cyflogodd lynges gan Lychlynwyr Dulyn. Glaniodd yn Abermenai yn 1144 i geisio gorfodi Owain i dychwelyd ei diroedd. Ymddengys i Gadwaladr adael y Daniaid a dod i gytundeb a'i frawd. Yn 1147 gyrrwyd Cadwaladr o'i diroedd ym Meirionnydd gan Hywel ab Owain Gwynedd a'i frawd Cynan. Wedi cweryl arall rhwng Cadwaladr ac Owain, alltudiwyd Cadwaladr i Loegr.

Yn ystod rhan gyntaf teyrnasiad Owain, roedd rhyfel cartref yn Lloegr rhwng Steffan, brenin Lloegr a'r Ymerodres Matilda. Rhoddodd hyn gyfle i Owain ymestyn ffiniau Gwynedd tua'r dwyrain. Yn 1146 cipiodd Owain gastell yr Wyddgrug a thua 1150 cipiodd Rhuddlan. Roedd hyn yn peryglu tiroedd Madog ap Maredudd o Bowys a Ranulf de Gernon, 4ydd Iarll Caer, a gwnaethant gytundeb a'i gilydd yn erbyn Owain. Fodd bynnag, gorchfygodd Owain hwy ym Mrwydr Coleshill.

Yn y diwedd, gwnaed cytundeb heddwch rhwng Steffan a Matilda; sef fod Steffan i fod ar yr orsedd hyd ei farwolaeth, ond mai mab Matilda oedd i'w olynu. Daeth ef i'r orsedd yn 1154  fel Harri II. Ceisiodd Harri II oresgyn Gwynedd a gweddill Cymru yn 1157 gyda byddin o tua 30,000 o filwyr, a chyda chefnogaeth Madog ap Maredudd o Bowys a brawd Owain, Cadwaladr ap Gruffudd. Bu bron i Harri gael ei ladd ym Mrwydr Cwnsyllt, ar safle ger Bryn y Glo, lle bu'r Cymry'n fuddugol. Wedi'r frwydr, enciliodd Owain tua'r gorllewin. Trechwyd llynges Brenin Lloegr tua'r un pryd ym Môn gan y Cymry lleol a lladd Henry FitzRoy, mab gordderch Harri I, brenin Lloegr a Nest ferch Rhys ap Tewdwr. Er i Owain gael cryn lwyddiant yn filwrol, gwnaeth gytundeb heddwch a'r brenin, gan dalu gwrogaeth iddo a chytuno y byddai Cadwaladr ap Gruffudd yn cael ei diroedd yn ôl. Collodd Owain ei afael ar Degeingl a Iâl.

Bu farw Madog ap Maredudd yn 1160, gan roi cyfle i Owain ymestyn ei ffiniau tua'r dwyrain eto. Yn 1163, gwnaeth gynhrair a Rhys ap Gruffudd, tywysog Deheubarth.  Ymosododd Harri II eto yn 1163 a 1165. Ym 1164, ymunodd y Gymru rydd gyfan, sef teyrnasoedd Gwynedd, Powys a Deheubarth, ynghyd ag arglwyddi Cymreig Rhwng Gwy a Hafren, ag Owain Gwynedd yn ei ryfel dros gadw annibyniaeth Cymru yn erbyn Harri II. Ar ôl buddugoliaethau gan y Cymry yn ardal Tegeingl, paratôdd brenin Lloegr fyddin fawr i ymosod ar Gymru. Cynulliodd byddin y Saeson yn arglwyddiaeth Croesoswallt tra arosai'r Cymry yr ochr arall i'r Berwyn.  Ceisiodd Harri II arwain ei fyddin i fyny Dyffryn Ceiriog gyda'r bwriad o groesi'r Berwyn a thorri'r llinell rhwng gogledd a de Cymru, ond roedd y tywydd yn ei erbyn. Glawiodd yn drwm a suddai ei farchogion ar eu meirch rhyfel trwm i'r llaid ac felly hefyd y milwyr traed. Roedd y Cymry yn aros eu cyfle. Ar ôl aros i'r Saeson gyrraedd man cyfyng a choediog yng Nghrogen ger Tregeiriog, ymosodasant ar golofnau blaen y fyddin Seisnig a'u dinistrio. Ffôdd gweddill y fyddin yn ôl i'r Gororau ac roedd ymgyrch brenin Lloegr ar ben. Cyfeirir at y frwydr fel Brwydr Crogen.

Wedi methiant yr ymgyrch yma, ni cheisiodd y brenin ymgyrchu yn erbyn Cymru eto. Yn 1167, cafodd Owain gymorth Rhys ap Gruffudd i gipio castell Rhuddlan.

Daeth Owain i wrthdrawiad a'r Pab ac Archesgob Caergaint, Thomas Becket, am ddau reswm. Un rheswm oedd fod Owain yn mynnu rheolaeth dros yr eglwys yn ei deyrnas, yn arbennig penodiad Esgob Bangor. Ar farwolaeth yr esgob Meurig, penododd Owain Arthur o Enlli i'r esgobaeth tua 1165. Gwrthododd Archesgob Caergaint ei gysegru, felly trefnodd Owain i Arthur gael ei gysegru yn Iwerddon.

Yr ail reswm oedd fod Owain wedi priodi ei gyfnither, Cristin, rhywbeth a waherddid gan ddeddfau'r Eglwys. Rhoddwyd pwysau ar Owain i ysgaru Cristin, ond gwrthododd, ac o ganlyniad cafodd ei ysgymuno gan y Pab.

Bu farw Owain Gwynedd ar yr 28ain o Dachwedd 1170, a chafodd ei gladdu yn yr eglwys gadeiriol ym Mangor er ei fod yn dal wedi ei esgymuno. Ymddengys i'w gorff gael ei symud o'r eglwys i'r fynwent yn ddiweddarach.

Priododd Owain ddwywaith, a bu ganddo nifer o blant gordderch gan ferched eraill hefyd. Ei wraig gyntaf oedd Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn. Cafodd ddau fab ganddi hi, Maelgwn ab Owain Gwynedd ac Iorwerth Drwyndwn, tad Llywelyn Fawr. O'i ail briodas, a Cristin, cafodd dri mab, yn cyynnwys Dafydd ab Owain Gwynedd a Rhodri ab Owain Gwynedd. Ymhlith ei blant eraill, cafodd ddau fab gan Wyddeles o'r enw Pyfog, sef Hywel ab Owain Gwynedd a Rhun ab Owain Gwynedd.

Ymddengys mai Rhun oedd ffefryn ei dad, ac mai ef a fwriadwyd fel ei olynydd. Fodd bynnag, bu ef farw yn gynamserol yn 1146. Cred rhai ysgolheigion fod Hywel wedi ei fwriadu fel olynydd Owain yn dilyn marwolaeth ei frawd. Fodd bynnag, pan fu farw Owain, gwrthwynebwyd Hywel gan feibion Cristin, Dafydd a Rhodri. Ffôdd Hywel i Iwerddon, a dychweld gyda byddin i geisio hawlio'r deyrnas, ond gorchfygwyd ef a'i ladd gan wŷr Dafydd a Rhodri ym Mrwydr Pentraeth. Rhannwyd y deyrnas rhwng Dafydd a Rhodri.

Cafodd Owain o leiaf saith o feibion, sef: 

Nid oes sicrwydd fod Madog ab Owain Gwynedd yn gymeriad hanesyddol.

Canwyd clodydd Owain gan nifer o feirdd, yn arbennig Gwalchmai ap Meilyr, oedd yn fardd llys iddo. Ystyrir Marwnad Owain (1170) yn un o gerddi gorau Cynddelw Brydydd Mawr. Canodd Llywelyn Fardd iddo hefyd. Cred llawer o ysgolheigion mai Owain oedd yn gyfrifol am gomisiynu bywgraffiad o'i dad, Historia Gruffud vab Kenan.




#Article 21: Augustus John (170 words)


Arlunydd o Gymro oedd Augustus John (4 Ionawr 1878 – 31 Hydref 1961), ac roedd yn frawd i Gwen John. Ganwyd yn Ninbych-y-Pysgod, Sir Benfro. O ganlyniad i ddylanwad James Dickson Innes o Lanelli aeth ar daith arlunio i ogledd Cymru, a daeth i sylweddoli posibiliadau paentio tirwedd panoramig y wlad. Aeth ymlaen yn ddiweddarach, wedi marwolaeth Innes, i baentio portreadau. Mae'r portreadau yn arwyddocaol yn arbennig oherwydd eu bont yn rhoi bywyd a chymeriad i'r gwrthrychau.

Ei wraig gyntaf oedd Ida Nettleship (1877–1907), a'i ail wraig oedd Dorothy Dorelia McNeill. Roedd Evelyn St. Croix Rose Fleming yn gariad iddo ac Amaryllis Fleming yn ferch gordderch iddo. Roedd John yn hoff iawn o fywyd Bohemaidd Ffrainc a noethlymuna.

Roedd ei gysylltiad gyda'r Sipsiwn yn un arbennig iawn, siaradai Romani'n rhugl ac roedd yn bresennol yn angladd y Dr. John Samson (a elwid yn 'Romano Rai' gan y sipsiwn) ar gopa'r Foel Goch ger Llangwm, Sir Conwy yn Nhachwedd 1931.

Dyma rai o'i baentiadau a ble maent yn cael eu cadw:




#Article 22: Dylan Thomas (2502 words)


Roedd Dylan Marlais Thomas (27 Hydref 1914 – 9 Tachwedd 1953) yn fardd poblogaidd yn ysgrifennu yn Saesneg, ac yn dod o Abertawe. Cafodd ei eni a'i fagu yn rhif 5, Cwmdonkin Drive yn ardal yr Uplands. Er ei fod wedi treulio ei holl blentyndod yng Nghymru oherwydd agwedd gwrth-Gymraeg ei dad ni ddysgodd yr iaith ond fe wyddir ei fod yn hoff iawn o'i wlad.

Mae'n enwog am fod yn fardd ddeiliadon ac am ei ddatganiadau hynod o'i weithiau. Mae hefyd yn enwog am or-yfed. Honnodd, An alcoholic is someone you don't like, who drinks as much as you do. Priododd Caitlin a chawsant dri o blant. Ym 1995 agorwyd Canolfan Dylan Thomas yn ardal y Marina yn Abertawe.

Ganwyd Dylan Thomas ym 5 Cwmdonkin Drive, yn ardal yr Uplands o Abertawe, Cymru ar 27 Hydref 1914. Roedd yr Uplands yn un o ardaloedd mwyaf llewyrchus y ddinas a gadwodd Thomas i ffwrdd o ardaloedd diwydiannol y ddinas. Roedd ei dad, David John Thomas, yn dysgu llenyddiaeth Saesneg yn yr ysgol ramadeg leol. Roedd ei fam, Florence Hannah Thomas (gynt Williams), yn wniadwraig a anwyd yn Abertawe. Roedd gan Dylan chwaer, Nancy, a oedd wyth mlynedd yn hŷn nag ef. Magwyd y plant i siarad Saesneg yn unig, er bod eu rhieni yn medru'r Gymraeg.

Ynganer ei enw fel Dyl-an yn y Gymraeg ac ar ddechrau ei yrfa cafodd ei enw ei ynganu yn y ffordd Gymreig. Fodd bynnag, hoffai Dylan yr ynganiad Seisnig Dill-an. Roedd enw canol Dylan yn deyrnged i'w hen ewythr, y Gweinidog Undodaidd William Thomas a chanddo'r enw barddol Gwilym Marles.

Treuliodd y mwyafrif o'i blentyndod yn Abertawe, gyda theithiau rheolaidd yn yr haf i ymweld â'i fodryb Ann Jones ar ochr ei fam pan oeddent yn denantiaid ar fferm laeth Fern Hill, Llangain, Sir Gaerfyrddin (sy'n adeilad rhestredig) a pherthnasau eraill yng nghyffiniau Llansteffan. Cyferbynnai'r teithiau gwledig hyn gyda'i fywyd yn y dref, gan ysbrydoli llawer o'i weithiau, yn benodol ei straeon byrion, traethodau radio a'i gerdd Fern Hill. Roedd Thomas yn blentyn a ddioddefodd lawer o salwch ac fe'i ystyriwyd yn rhy wanllyd i frwydro yn yr Ail Ryfel Byd. Gwasanaethodd y rhyfel drwy ysgrifennu sgriptiau ar gyfer y llywodraeth. Dioddefodd o lid y bronci ac asma er ei fod yn chwarae ar ei salwch o dro i dro.

Dechreuodd Thomas addysg ffurfiol yn Ysgol Fonheddig Mrs. Hole, ysgol breifat a leolwyd ychydig strydoedd i ffwrdd ar Mirador Crescent, a disgrifiodd ei brofiadau yno yn Quite Early One Morning.

Ym mis Hydref 1925, mynychodd Thomas ysgol i fechgyn sef Ysgol Ramadeg Abertawe, yn ardal Mount Pleasant y ddinas. Cyhoeddwyd cerdd gyntaf Thomas yng nghylchgrawn yr ysgol ac yn ddiweddarach daeth yn olygydd y cylchgrawn hwn. Yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol, cyfarfu a Daniel Jones, a fyddai'n gyfansoddwr pan yn ddyn, a bu'r ddau'n chwarae gemau o ffug-ddarlledu a datgan barddoniaeth. Gadawodd yr ysgol yn 16 er mwyn bod yn ohebydd gyda'r papur newydd lleol sef y South Wales Daily Post. Gadawodd y swydd 18 mis yn ddiweddarach ym 1932 oherwydd y pwysau. Ymunodd â chymdeithas ddrama amatur yn y Mwmbwls, ond parhaodd i weithio fel newyddiadurwr annibynnol am rai blynyddoedd.

Treuliai Thomas ei ddiwrnodau yn y sinema yn yr Uplands, yn cerdded ar hyd Bae Abertawe ac yn mynychu tafarndai Abertawe, yn enwedig y rhai yn ardal y Mwmbwls gan gynnwys yr Antelope Hotel a The Mermaid Hotel. Roedd Thomas hefyd yn gwsmer rheolaidd yng Nghaffi Kardomah ar y Stryd Fawr yng nghanol y ddinas. Roedd y caffi yn agos i'r papur newydd y gweithiai iddo ac arferai gymysgu â chyfoedion amrywiol, megis ei ffrind agos Vernon Watkins a oedd hefyd yn fardd. Adnabyddir y beirdd, cerddorion a'r artistiaid hyn fel y The Kardomah Gang.

Ym 1932, aeth Thomas ar y cyntaf o'i amryw deithiau i Lundain.

Ym mis Chwefror 1941, bomiwyd Abertawe gan y Luftwaffe dros gyfnod o dair noson o blitz. Roedd y Stryd Fawr a nifer o strydoedd eraill wedi'u dinistrio'n ddifrifol gan gynnwys siopau a Chaffi'r Kardomah. Yn hwyrach, ysgrifennodd Thomas am hyn yn ei ddrama radio Return Journey Home, lle mae'n disgrifio bod y caffi wedi'i razed to the snow. Darlledwyd Return Journey Home am y tro cyntaf ar y 15fed o Orffennaf 1947, ychydig flynyddoedd yn unig wedi'r ymgyrch fomio. Cerddai Thomas ar hyd strydoedd chwaledig y ddinas gyda'i ffrind Bert Trick. Pan welodd yr olygfa a oedd ar y ddinas, meddai Our Swansea is dead. Yn ddiweddarach, ail-agorwyd Caffi'r Kardomah ar Stryd Portland, nid nepell o'i safle gwreiddiol.

Ysgrifennodd Thomas hanner o'i gerddi a'i straeon byrion pan yn byw yng nghartref ei rieni yng Nghwmdonkin Drive, ac ysgrifennwyd And death shall have no dominion, un o'i gerddi enwocaf, yn y man hwn. Cyhoeddwyd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, 18 Poems ar y 18fed o Ragfyr 1934, yr un flwyddyn ag y symudodd i Lundain. Pan gyhoeddwyd 18 Poems, cynyddodd ei boblogrwydd ym myd barddoniaeth. Serch hynny, dyma oedd y cyfnod hefyd pan ddatblygodd ei gamddefnydd o alcohol.

Ar drothwy'r Ail Ryfel Byd, rhoddwyd statws C3 i Thomas a olygai y gallai, mewn theori, gael ei alw i wasanaethu ei wlad. Teimlai'n drist wrth weld ei gyfeillion yn ymfyddino gan ei adael ef ar ôl. Parhaodd Thomas i yfed gan frwydro i gynnal ei deulu'n ariannol. Ysgrifennodd at gyfarwyddwr adran ffilmiau'r Weinyddiaeth Wybodaeth yn gofyn am waith ond wedi iddo gael ei wrthod dechreuodd weithio i Strand Films. Cynhyrchai Strand Films ffilmiau ar gyfer y Weinyddiaeth Wybodaeth a ysgrifennodd Thomas o leiaf bum ffilm ym 1942 gyda theitlau megis This Is Colour, New Towns For Old, These Are The Men ac Our Country (taith sentimental o amgylch Prydain).

Roedd cyhoeddi Deaths and Entrances ym 1946 yn drobwynt allweddol yn ei yrfa. Roedd Thomas yn enwog am fod yn siaradwr amryddawn a huawdl, ac yn fwyaf enwog am ddarllen ei gerddi. Llwyddodd ei lais pwerus i ddal sylw cynulleidfaoedd Americanaidd yn ystod y teithiau siarad ar ddechrau'r 1950au. Gwnaeth dros 200 o ddarllediadau ar gyfer y BBC. Yn aml, ystyrir Under Milk Wood (Dan y Wenallt yn Gymraeg) fel un o'i weithiau enwocaf, drama radio sy'n ymdrin â chymeriadau'r pentref Llareggub, pentref pysgota Cymreig dychmygol. Ceir hiwmor yn enw'r pentref am fod Llareggub yn sillafu 'Bugger All' am yn ôl, sy'n awgrymu nad oedd unrhyw beth i'w wneud yn y pentref. Actiodd Richard Burton yn y darllediad cyntaf; ymunodd Elizabeth Taylor ag ef yn y ffilm a ddilynodd.

Yng Ngwanwyn 1936, cyfarfu Dylan Thomas â dawnswraig o'r enw Caitlin Macnamara. Cyfarfu'r ddau yn nhafarn y Wheatsheaf, yn ardal Fitzrovia o West End Llundain. Cawsant eu cyflwyno i'w gilydd gan Augustus John, sef cariad Macnamara ar y pryd. Ceir hanesion bod MacNamara wedi parhau ei pherthynas gyda John ar ôl iddi briodi Thomas. Gofynnodd y Thomas meddw iddi ei briodi yn yr unfan a dechreuodd y ddau ganlyn.

Ar yr 11eg o Orffennaf 1937, priododd Thomas a MacNamara mewn swyddfa gofrestru yng Nghernyw. Ym 1938 rhentodd y pâr fwthyn ym mhentref Talacharn yn Sir Gaerfyrddin. Ganwyd eu plentyn cyntaf, mab o'r enw Llewelyn Edouard, ar y 30ain o Ionawr 1939. Bu farw ef yn 2000. Cawsant blentyn arall, merch o'r enw Aeronwy ar y 3ydd o Fawrth 1943. Ganwyd ail fab iddynt, Colm Garan Hart, ar y 24ain o Orffennaf 1949.

Roedd perthynas Thomas a Macnamara yn un cythryblus, gyda hanesion am berthynas tu allan i'r briodas ar y ddwy ochr. Yn 2004 gwerthwyd llythyrau serchus Macnamara mewn ocsiwn.

Roedd Thomas yn hoff o frolio am ei arferion yfed, gan ddweud, An alcoholic is someone you don't like, who drinks as much as you do.

Roedd Thomas yn hoffi blas cwrw ac er iddo yfed cryn dipyn mae'n bosib fod faint yr oedd yn yfed wedi cael ei or-ddweud. Ar ôl i'r bardd o Albanwr, Ruthven Todd, gyflwyno Thomas i'r White Horse Tavern, daeth y dafarn hon yn un o ffefrynnau'r Cymro. Mewn digwyddiad ar 3 Tachwedd 1953, dychwelodd Thomas i'r Chelsea Hotel yn Efrog Newydd o'r White Horse Tavern gan ddatgan I've had eighteen straight whiskies, I think that is a record. Yn ddiweddarach fodd bynnag, dywedodd perchennog y dafarn, a weinodd ar Thomas bryd hynny, nad oedd Thomas wedi yfed hanner y diodydd yr oedd yn honni iddo wneud.

Dyma rai o'r tafarndai lle'r arferai Thomas yfed:

Cyn i Thomas adael am Efrog Newydd yn 1953, arhosodd yng Ngwesty'r Bush yn Abertawe. Yn ddiweddarach, newidiwyd enw'r gwesty i The Bush Inn.

Bu farw Dylan Thomas yn Efrog Newydd ar 9 Tachwedd 1953. Yn wreiddiol, cafwyd sibrydion ei fod wedi cael gwaedlif ar ei ymennydd ac yna cafwyd suon ei fod wedi cael ei fygio. Yn fuan iawn ar ôl hyn, daeth straeon am ei alcoholiaeth a'i fod wedi yfed ei hun i farwolaeth. Yn ddiweddarach, credai rhai iddo farw o effaith cyffuriau a chlefyd y siwgr.

Roedd Thomas eisoes yn sal pan gyrhaeddodd Efrog Newydd ar yr 20fed o Hydref. Roedd ef yno er mwyn cymryd rhan yn Dan y Wenallt yng Nghanolfan Farddoniaeth uchelael y ddinas. Roedd gan Thomas hanes o lewygu a phroblemau gyda'i fynwes ac arferai ddefnyddio anadlwr er mwyn helpu gyda'i anadlu.

Cyfarwyddwr y Ganolfan oedd John Brinnin. Ef hefyd oedd trefnwr taith Thomas, gan gymryd canran helaeth o 25% o'r arian a wnaed. Er ei ddyletswydd i ofalu am Thomas, arhosodd Brinnin yn ei gartref ym Moston gan drosglwyddo'r cyfrifoldeb i'w gynorthwyydd uchelgeisiol, Liz Reitell... Cyfarfu Reitell â Thomas ym maes awyr Idlewild a sylweddodd yn gyflym iawn ei fod yn ŵr tost. Serch hynny, roedd Reitell yn benderfynol y byddai'r sioe yn llwyddiant a gweithiodd Thomas drwy pedwar ymarfer a dau berfformiad o'r sioe mewn cyfnod o bump diwrnod yn unig.

Yn y diwedd daeth Brinnin i weld yr ymarfer olaf o'r sioe a chafodd sioc o weld pryd a gwedd Thomas. Gwelodd yn syth fod rhywbeth difrifol yn bod arno. Rhybuddiodd Reitell ef hefyd fod Thomas wedi disgyn yn yr ymarfer blaenorol a chred nifer y dylai hyn fod wedi bod yn ddigon o ysgogiad i fynd â Thomas at ddoctor.

Fodd bynnag, roedd Brinnin angen ei siâr ef o enillion Thomas. Roedd Brinnin mewn trafferthion ariannol dwys, yn wynebu torriad yn ei gyflog a'i ddyledion yn cynyddu o'i amgylch. O ganlyniad, anwybyddodd salwch Thomas a dychwelodd i Foston. Galwodd Reitell ei doctor ei hun, Milton Feltenstein, i weld Thomas. Yn ddiweddarach, disgrifiodd Feltenstein fel doctor gwyllt a gredai y gallai chwystrelliad iachau unrhyw salwch. Rhoddodd chwystrelliad iddo a llwyddodd Thomas i weithio drwy'r ddau berfformiad o Dan y Wenallt ond syrthiodd yn syth ar ddiwedd y sioe.

Roedd penblwydd Dylan yn 39 oed ar 27 Hydref. Y noson honno, aeth i barti er ei fwyn ond am nad oedd yn teimlo'n hwylus, dychwelodd i'w westy. Daeth y trobwynt ar 2 Tachwedd pan gynyddodd y llygredd awyr i'r fath raddau yn y ddinas fel ei bod yn beryglus i bobl gyda phroblemau anadlu. Erbyn diwedd y mis, roedd dros ddau gant o drigolion Efrog Newydd wedi marw o achos y smog.

Dihunodd Thomas am ganol dydd ar 4 Tachwedd a dywedodd wrth Reitell ei fod yn mogu. Roedd ei lais mor ddwfn a garw fel ei fod yn swnio fel Louis Armstrong yn ôl un o'i ffrindiau. Roedd gan Thomas haint respiradu difrifol, a ddechreuodd yn ei lwnc ac a ymestynnodd i'w ysgyfaint.

Y diwrnod hwnnw, daeth Feltenstein i'w weld deirgwaith ond methodd a sylwi ar yr afiechyd ar ei frest. Rhoddodd gwrs o chwystrelliadau peryglus o forffîn iddo hefyd. Roedd Thomas mewn sefyllfa peryglus. Roedd yr haint ar ei fron yn dechrau effeithio ar ei anadlu a gwaethygodd y morffîn ei gyflwr ymhellach. Am ganol nos ar 4/5 Tachwedd, aeth Thomas i mewn i goma. Mae'n bosib y gallai fod wedi goroesu pe bai Reitell wedi galw am ambiwlans. Fodd bynnag, aeth Reitell i banig a gwastraffodd amser gwerthfawr yn ceisio cael gafael ar Feltenstein.

Aeth dwy awr heibio cyn y cyrhaeddodd Thomas ysbyty cyfagos St Vincents. Erbyn hyn, roedd ganddo niwed i'w ymennydd. Darganfu'r doctoriaid a oedd ar ddyletswydd froncitis ymhob rhan o'i froncia, ar yr ochr dde a'r chwith. Dangosodd belydr-X niwmonia ac roedd y ffaith i'w nifer o gelloedd gwyn gynyddu yn dangos fod haint ganddo. Bu farw Thomas ar 9 Tachwedd.

Yn y post-mortem, darganfu'r patholegwr nad oedd unrhyw dystiolaeth fod ymennydd Thomas wedi cael ei wenwyno, niweidio na newid o ganlyniad i alcohol. Dywedodd nad oedd yn medru cadarnhau unrhyw ddeiagnosis o ddifrod i'r ymennydd a achoswyd gan alcohol. Ni ddaeth o hyd i unrhyw arwyddion o hepatitis na sirosis yr afu chwaith. Bu fawr o ganlyniad i'r ymennydd chwyddo. Achoswyd hyn gan y niwmonia a arweiniodd at ddiffyg ocsigen i'r ymennydd.

Wedi ei farwolaeth, daethpwyd a'i gorff yn ôl i Gymru er mwyn ei gladdu ym mynwent pentref Talacharn ar 25 Tachwedd. Un o'r bobl a arhosodd wrth ymyl ei fedd tan ddiwedd yr angladd oedd ei fam, Florence. Bu farw ei wraig, Caitlin, ym 1994 a chafodd ei chladdu gydag ef.

Roedd arddull lafar Thomas yn cyferbynnu â ffurfiau penillion caeth. Strwythurwyd ei ddelweddau mewn patrwm pendant ac un o'i brif themâu oedd yr undod rhwng popeth byw, y broses barhaus o fywyd a marwolaeth a'r bywyd newydd sy'n cysylltu cenedlaethau. Gwelai Thomas fioleg fel trawsnewidiad rhyfeddol a gynhyrchai undod allan o amryfaliaeth ac ystyriai ei gerddi fel modd o ddathlu'r amrywiaeth hwn. Gwelai ddynion a menywod mewn cylch parhaus o dyfu, caru, atgynhedlu, tyfiant newydd, marwolaeth ac yna bywyd newydd unwaith eto. Yn aml, deuai ei ddelweddau o'r Beibl, chwedloniaeth Gymreig, a Freud.

Ceir nifer o gofgolofnau er cof am Thomas, a lleolir y mwyafrif ohonynt yn ei ddinas enedigol Abertawe.

Gall twristiaid ymweld â cherflun ohono yn ardal y marina o'r ddinas, Theatr (Fechan) Dylan Thomas a Chanolfan Dylan Thomas. Bellach, mae Canolfan Dylan Thomas yn ganolfan lenyddol lle cynhelir arddangosfeydd a darlithoedd, ac yno y cynhelir Gwyl Dylan Thomas yn flynyddol. Ceir carreg goffa iddo ym Mharc Cwmdonkin, un o'i hoff lefydd pan yn blentyn ac nepell o'i fan enedigol yn 5 Cwmdonkin Drive. Mae'r carreg goffa mewn gardd caëdig o fewn y parc. Ar y garreg, gwelir y geiriau o linellau olaf y gerdd Fern Hill:

Time held me green and dying

Though I sang in my chains like the sea. 
 
Mae sied ysgrifennu Thomas a gostiodd £5 yn Nhalacharn. Costiodd £75 er mwyn adeiladu'r sied ar ochr y clogwyn yn ystod y 1920au, pan gawsai ei ddefnyddio fel garej ar gyfer ei gar Wolseley. Mae'r tŷ cwch, sef cartref Thomas yn Nhalacharn, bellach yn gofeb iddo hefyd.

Mae gan nifer o dafarndai Abertawe gysylltiad â'r bardd hefyd. Arferai fynychu un o dafarndai hynaf y ddinas, y No Sign Bar. Sonir am y dafarn yn ei stori, The Followers ond ers hynny, newidiwyd ei enw i'r Wine Vaults.

Yn 2004, sefydlwyd gwobr llenyddol newydd, Gwobr Dylan Thomas, er cof amdano. Caiff ei rhoi i'r llenor cyhoeddedig gorau o dan 30 oed.

Ym 1982, dadorchuddiwyd plac er cof am Dylan Thomas yng Nghornel y Beirdd, yn Abaty San Steffan.




#Article 23: Emlyn Williams (actor) (573 words)


Dramodydd ac actor oedd (George) Emlyn Williams CBE (26 Tachwedd 1905 – 25 Medi 1987).

Ganed ef ym Mostyn, Sir Fflint, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, i deulu dosbarth gweithiol, Cymraeg ei iaith. Enillodd ysgoloriaeth i ysgol Ramadeg Treffynnon yn unarddeg oed ac aeth ymlaen i Brifysgol Rhydychen, gydag ysgoloriaeth agored i Goleg Christ Church. Tra roedd yn Rhydychen ymunodd â chymdeithas drama’r Brifysgol.

Cychwynnodd ei yrfa ar y llwyfan pan ymunodd Williams â chwmni theatr rep ym 1927 ac erbyn 1930 roedd hefyd yn awdur dramâu fel A Murder Has Been Arranged a The Late Christopher Bean. Daeth yn enwog dros nos ym 1935 gyda’i ddrama gyffrous Night Must Fall, gydag ef ei hun yn chwarae rhan y prif gymeriad, llofrudd seicopathig. Yr hyn oedd yn gwneud y ddrama hon yn nodedig oedd ei bod yn archwilio cyflwr seicolegol cymhleth y llofrudd. Addaswyd y ddrama yn ffilm ym 1937 gyda Robert Montgomery yn y brif ran ac eto ym 1964 gydag Albert Finney.

Ei ddrama fawr arall oedd The Corn is Green (1938) a seiliwyd ar ei blentyndod yng Nghymru. Williams chwaraeodd ran y bachgen ysgol yn y perfformiad llwyfan cyntaf yn Llundain. Agorodd y ddrama ar Broadway ym 1940 gydag Ethel Barrymore yn chwarae rhan yr athrawes, Miss Moffat, cymeriad oedd wedi’i seilio ar athrawes ysgol Williams, Miss Cook. Addaswyd y ddrama yn ffilm gyda Betty Davies yn chwarae Miss Moffat (1945).

Ym 1944 perfformiwyd ei gomedi ysgafn hunangofiannol The Druid’s Rest yn theatr St Martin’s yn Llundain gyda Richard Burton yn chwarae ei ran lwyfan broffesiynol gyntaf ar ôl i Williams ei weld mewn clyweliad yng Nghaerdydd.

Yn ogystal â dramâu llwyfan ysgrifennodd Williams nifer o sgriptiau ffilm, gan weithio gydag Alfred Hitchcock (The Man Who Knew Too Much), Carol Reed a chyfarwyddwyr eraill. Bu’n actio a chyfrannu at ddeialog ffilmiau amrywiol wedi’u seilio ar nofelau A. J. Cronin gan gynnwys The Citadel (1938); The Stars Look Down (1939); Hatter’s Castle (1942), a Web of Evidence (1959).

Ei unig ffilm fel cyfarwyddwr oedd The Last Days of Dolwyn (1949). Ef hefyd oedd awdur y sgript a chwaraeodd y brif ran. Gwelwyd Richard Burton yn ei rôl gyntaf ar y sgrin yn y ffilm hon.

Roedd Williams yn enwog am ei sioeau un dyn ac fe deithiodd y byd gyda noson o ddetholiadau o nofelau Dickens, a gellid dadlau iddo greu genre theatrig newydd gyda’r sioeau hyn.

Ar ôl y rhyfel bu’n actio yn The Winslow Boy gan Terence Rattigan a The Deputy neu The Representative gan Rolf Hochhuth ar Broadway. Williams oedd llais David Lloyd George yn rhaglen ddogfen arloesol y BBC The Great War (1964).

Ymhlith ei waith arall roedd y gyfrol boblogaidd, Beyond Belief: A Chronicle of Murder and its Detection (1968), cyfrol hanner ffuglennol yn rhoi hanes llofruddwyr ‘Moors’, Ian Brady a Myra Hindley.

Ysgrifennodd hunangofiant mewn dwy gyfrol George (1961) ac Emlyn (1973) ac roedd y rhain yn llwyddiannus iawn hefyd.

Ym 1935 priododd Williams yr actores Molly Shan a fu farw ym 1970. Cawsant ddau fab, Alan a Brook, a aeth ymlaen i fod yn actor. Roedd Brook yn ffrind agos i Richard Burton, gan weithio fel cynorthwywr personol iddo.

Dyfarnwyd anrhydedd Comander Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) i Williams ym 1962.

Pan fu farw ym 1987 roedd wedi actio mewn 41 o ffilmiau a dramâu teledu ac roedd yn awdur 20 o sgriptiau. Bu farw yn ei fflat yn Llundain o gancr ar 25 Medi 1987.




#Article 24: Henry Vaughan (150 words)


Bardd Metaffisegol Cymreig yn yr iaith Saesneg oedd Henry Vaughan (17 Ebrill 1621 – 23 Ebrill 1695).

Ganed ef a'i efaill, yr athronydd Thomas Vaughan, yn nhreflan Trenewydd, Sgethrog, Sir Frycheiniog yn 1621/1622. Roedd ei daid yn berchennog Llys Tre-tŵr.

Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Yr Iesu, Rhydychen, er na raddiodd yno, a bu'n astudio'r gyfraith am gyfnod yn Llundain cyn cael ei alw adref ar ddechrau Rhyfeloedd Cartref Lloegr.  Roedd yn cefnogi'r blaid frenhinol yn ystod y Rhyfelau Cartref.  Cafodd droedigaeth grefyddol tua'r flwyddyn 1650 o dan ddylanwad George Herbert.  Bu'n darllen llyfrau defosiynol a gweithiau ar athroniaeth gudd a chyfrin. Dechreuodd weithio fel meddyg.

Ysgrifennodd Siegfried Sassoon soned iddo: At the Grave of Henry Vaughan.

Bu farw yn 1695 ac fe'i gladdwyd yn Llansantffraed, Sir Frycheiniog.

Ymwelodd y bardd Seisnig Siegfried Sassoon â'r bedd Vaughan ac ysgrifennodd y soned At the Grave of Henry Vaughan ym mis Awst 1924.




#Article 25: Ivor Novello (164 words)


Roedd David Ivor Davies neu  Ivor Novello (15 Ionawr 1893 – 6 Mawrth 1951) yn ddifyrrwr, yn ddramodydd, yn actor ac yn fab i David Davies a Madame Clara Novello Davies, cantores enwog. Fe'i ganed yn Llwyn-yr-Eos, Heol y Bontfaen, Dwyrain Caerdydd. Bu farw yn Theatr y Strand, Llundain.

Cyfansoddodd Novello y gân enwog, Keep the Home Fires Burning yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd lwyddiant gyda sioeau megis Glamorous Nights a King's Rhapsody.

Pan oedd yn 12 oed, enillodd am ganu dan 12 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon, 1906. Ond cafodd ei garcharu yn ystod yr Ail Ryfel Byd am ddefnyddio petrol anghyfreithlon, profiad a effeithiwyd arno'n fawr.  Roedd Novello yn ddyn hoyw agored a hapus. Am 35 mlynedd roedd yn gymar i'r actor Bobbie Andrews, dywedir iddo fod yn gariad i Siegfried Sassoon, y bardd o Sais. Am flynyddoedd llawer bu'n byw yn Littlewick Green, Berkshire.

Mae cerflun ohono ym Mae Caerdydd, sydd y rhestru rhai o'i ganeuon enwocaf.




#Article 26: Walford Davies (213 words)


Cerddor a chyfansoddwr oedd Syr Henry Walford Davies (6 Medi 1869 – 11 Mawrth 1941) a oedd yn adnabyddus i lawer a wrandawai arno’n darlledu am gerddoriaeth ar y radio.

Ganed Walford Davies yng Nghroesoswallt, Lloegr.

Ymunodd â chôr Capel Sant Siôr, Windsor pan yn 12 oed, lle y bu yn astudio ac yna’n cynorthwyo yr organydd Syr Walter Parratt.  Aeth oddi yno yn 1890 i astudio yn y  Coleg Cerdd Brenhinol.  By’n athro gwrthbwynt yn y coleg o 1895 hyd at 1903.

O 1919 hyd at 1926 bu’n athro cerdd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.  Bu’n weithgar yn hybu cerddoriaeth Gymreig yn ei swydd fel cadeirydd Cyngor Genedlaethol Cerddoriaeth Cymru a ddaliodd o 1919 hyd at ei farw.

Bu’n organydd mewn nifer o eglwysi gan gynnwys Eglwys Temple, Llundain a Chapel Sant Siør, Windsor.  Bu’n gyfarwyddwr cerdd mewn sawl man gan gynnwys bod yn gyfarwyddwr cerdd i’r Awyrlu Brenhinol ac yn arweinydd Côr Bach.

Cyfansoddodd Walford Davies weithiau ar gyfer cerddorfeydd, bandiau pres, corau ac unawdwyr.  Gweithiau crefyddol oedd y mwyafrif o’i gyfansoddiadau.

Yn y 1920’au dechrewyd gyhoeddi recordiau o ddarlithoedd Walford Davies ar fiwsig.  O 1926 hyd at 1939 bu’n darlledu ar bwnc miwsig clasurol ar wasanaeth radio y BBC.  Oherwydd y gwaith radio yma y daeth yn adnabyddus i lawer.




#Article 27: Abertawe (2393 words)


Dinas yn ne Cymru, ar aber Afon Tawe yw Abertawe (Saesneg: Swansea). Ail ddinas fwyaf Cymru o ran maint ydyw, ar arfordir deheuol y wlad, i'r dwyrain o Benrhyn Gŵyr. Tyfodd yn dref fawr yn ystod y 18fed a'r 19fed canrif.
Mae sir weinyddol Abertawe tua 378 km² mewn maint, ac mae'n cynnwys rhan isaf Cwm Tawe a Gŵyr.

Yn 2017, roedd gan y ddinas boblogaeth o 245,500, gan ei gwneud hi'n ail ddinas mwyaf poblog Cymru ar ôl Caerdydd. Yn ystod ei hanterth diwydiannol yn ystod y 19eg ganrif, roedd Abertawe yn ganolfan allweddol i'r ddiwydiant copr, gan fagu'r llysenw 'Copperopolis'.

Yn gyffredinol, mae darganfyddiadau archeolegol wedi'u cyfyngu i Benrhyn Gŵyr, ac maent yn cynnwys eitemau o Oes y Cerrig, yr Oes Efydd a'r Oes Haearn. Ymwelodd y Rhufeiniaid a'r ardal, yn ogystal a'r Llychlynwyr.

Yn wreiddiol, datblygodd Abertawe fel man masnachu i'r Llychlynwyr, ac yn gyffredinol credir i enw Saesneg y ddinas darddu o Sweyn's Ey (ey oedd gair yr Hen Lychlynwyr am ynys). Fodd bynnag, nid oes ynys ym Mae Abertawe, ac felly mae'n bosib hefyd fod yr enw wedi dod o 'r gair Sweyn (newidiad o'r enw Llychlynaidd Sven) a sey (gair yr Hen Lychlynwyr a olygai inlet). Credir mai sylfaenydd Abertawe oedd brenin Llychlynaidd Denmarc, Sweyn I, a drechodd Eingl-Sacsoniaid Wessex a Mersia yn 1013, ac a deyrnasodd dros ymerodraeth fawr a oedd yn cynnwys de Lloegr, Denmarc a Norwy. Y fersiwn cynharaf o'r enw a wyddir amdano yw Sweynesse, a ddefnyddiwyd yn y siarter gyntaf a roddwyd rhyw bryd rhwng 1158-1184 gan William de Newburgh, 3ydd Iarll Warwick. Rhoddodd i siarter hwn statws bwrdeistref i Abertawe, gan alluogi trigolion y dref hawliau penodol i ddatblygu'r ardal. Rhoddwyd ail siarter yn 1215 gan y Brenin Ioan. Yn y siarter hwn, ymddengys yr enw fel Sweyneshe. Mae sêl trefol o'r cyfnod hwn yn enwi'r dref fel Sweyse.  Ymwelodd Gerallt Gymro ag Abertawe yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.Ymddengys yr enw Cymraeg am y tro cyntaf mewn cerddi Cymraeg ar ddechrau'r 13g, lle sonir am Aber Tawy.

Yn wreiddiol, arferai porthladd Abertawe fasnachu mewn gwin, gwlan, ffabrig ac yn ddiweddarach, glo. Wrth i'r Chwyldro Diwydiannol gyrraedd Cymru, ystyriwyd Abertawe  yn lleoliad synhwyrol i leoli safle mwyndoddfeydd copr oherwydd y cyfuniad o borthladd, glo lleol a chysylltiadau masnachu gyda De-orllewin Lloegr, Cernyw a Dyfnaint. Gweithredodd mwyndoddfeydd yno o 1720 ymlaen. Yn sgîl hyn, agorwyd mwy o byllau glo (ymhobman o ogledd-ddwyrain Gŵyr o Clun i Langyfelach a gwelwyd mwy o fwyndoddfeydd, yn bennaf yng Nghwm Tawe. Dros y ganrif a hanner a ddilynodd, sefydlwyd gweithfeydd i brosesu arsenig, sinc, a thun ac er mwyn creu tunplat a chrochenwaith. Ehangodd y ddinas yn gyflym iawn yn y 18fed a'r 19g a chafodd y ddinas y ffugenw Copperopolis.

O ddiwedd yr 17g tan 1801, tyfodd poblogaeth Abertawe o 500% - dengys y cyfrifiad swyddogol cyntaf (ym 1841) fod Abertawe dipyn yn fwy o ran maint na thref sirol Morgannwg, Caerdydd, gyda phoblogaeth o 6,099 o drigolion. Abertawe oedd yr ail dref fwyaf poblog ar ôl Merthyr Tudfil (lle'r oedd poblogaeth o 7,705). Fodd bynnag, nid oedd y cyfrifiad yn adlewyrchu gwir faint Abertawe, am fod rhannau helaeth o'r ardaloedd poblog tu allan i ffiniau'r fwrdeistref; cyfanswm y boblogaeth mewn gwirionedd oedd 10,117. Gellir priodoli llawer o dŵf poblogaeth Abertawe i fewnlifiad tu fewn a thu hwnt i Gymru. Ganwyd traean o boblogaeth y fwrdeistref tu allan i Abertawe a Morgannwg, ac ychydig o dan chwarter wedi eu geni tu hwn i Glawdd Offa.

Yn ystod yr 20g, lleihaodd y diwydiannau trymion yn y dref, gan adael Cwm Tawe Isaf yn llawn gweithfeydd gwag a phentyrrau o wastraff o'r hen safleoedd. Ail-ddatblygwyd rhannau helaeth o'r tir yng Nghynllun Cwm Tawe Isaf (sy'n parhau o hyd). Ystad Ddiwydiannol Llansamlet oedd y canlyniad, a dim ond dociau tu allan i'r ddinas a barhaodd i fod yn weithredol. Bellach mae Doc y Gogledd yng nghanol y ddinas wedi newid i fod yn ganolfan siopa Parc Tawe tra bod Doc y De wedi ei gweddnewid i fod yn Farina Abertawe.

Ar 27 Mehefin 1906, trawodd un o'r daeargrynfeydd fwyaf erioed y Deyrnas Unedig ddinas Abertawe, gyda chryfder o 5.2 ar Raddfa Richter. Pur anaml y bydd daeargrynfeydd yn achosi difrod yn y DU am fod y mwyafrif yn digwydd ymhell o'r ardaloedd poblog, ond pan drawodd y daeargryn Abertawe, achoswyd difrod i nifer o'r adeiladau talaf.

Derbyniodd Abertawe statws dinas ym 1969 i nodi arwisgiad Tywysog Cymru. Gwnaed y cyhoeddiad gan y tywysog ar y 3ydd o Orffennaf, 1969 tra'n teithio yng Nghymru. Cafodd y ddinas yr hawl i gael arlgwydd faer ym 1982.

Ychydig iawn o dystiolaeth a welir o fywyd Canol Oesol Abertawe.

Effeithiwyd y dref yn ddrwg gan fomiau'r Almaen, yn yr Ail Ryfel Byd. Amcan y bomio oedd dinistrio'r dociau ond canol y dref a ddioddefodd y difrod mwyaf. Ym mis Chwefror 1941, yn ystod y Blitz, bomiodd 250 o awyrennau Abertawe gan ladd 400 o bobl. Roedd y fflamau i'w gweld mor bell i ffwrdd â Sir Benfro a Dyfnaint. Ysgrifennodd y bardd Waldo Williams gerdd am y bomio, sef 'Y Tangnefeddwyr' ('yr heddychwyr').

Mae Canol Dinas Abertawe wedi datblygu cryn dipyn. Mae gan y ddinas dair adeilad cofrestredig Graddfa I, sef y Guildhall, Castell Abertawe a Thabernacl Treforys. Yng nghanol y ddinas, ceir adfeilion y castell, y Marina, Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe, Canolfan Dylan Thomas, Canolfan Amgylcheddol Abertawe a'r Farchnad, sef marchnad dan-do fwyaf Cymru. Mae'r farchnad yn cefnu ar ganolfan siopa'r Quadrant a agorodd ym 1978 a Chanolfan Dewi Sant a agorodd ym 1982. Mae adeiladau nodedig eraill yn cynnwys Tŵr BT, Abertawe a adeiladwyd tua 1970, Tŷ Alexandra a adeiladwyd ym 1976, Neuadd y Sir a adeiladwyd ym 1982. Agorodd Canolfan Hamdden Abertawe ym 1977; derbyniodd wedd-newidiad sylweddol ar ddechrau'r 21ain ganrif ac ail-agorodd ym mis Mawrth 2008. Tu ôl y Ganolfan Hamdden, saif Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a agorodd ym mis Hydref 2005.

Mae gan Abertawe hinsawdd cymhedrol sydd yn nodweddiadol o orllewin y Deyrnas Unedig. Fel rhan o'r ardal arfordirol, mae Abertawe yn profi tymheredd ychydig cynhesach na'r ardaloedd mynyddig neu yn y dyffrynoedd ymhellach i mewn i'r wlad. Serch hynny, mae Abertawe'n agored i wyntoedd gwlyb yr Iwerydd:dengys ffigyrau o'r Swyddfa Dywydd mai Abertawe yw'r ddinas wlypaf ym Mhrydain. Ganol Haf gall y tymheredd yn Abertawe gyrraedd yr ugeiniau uchel (graddau canradd), yn dibynnu ar y tywydd; y tymheredd uchaf a recordiwyd yn Abertawe oedd 31.6 °C ym 1980.

Roedd poblogaeth Abertawe yn yr ardaloedd adeiledig o fewn ffiniau'r awdurdodau unedol tua 179,485 yn 2011, a 238,700 oedd poblogaeth y cyngor. Gorseinon a Phontarddulais yw'r ardaloedd adeiledig eraill o fewn yr awdurdod unedol.Yn 2011, roedd gan ardal adeiledig Gorseinon boblogaeth o 20,581 ac roedd gan Bontarddulais boblogaeth o 9,073. Fodd bynnag, mae gan yr ardal drefol ehangach, gan gynnwys y rhan fwyaf o Fae Abertawe, gyfanswm poblogaeth o 300,352 (gan ei gwneud hi'n bedwaredd ardal drefol ar hugain fwyaf yng Nghymru a Lloegr). Mae dros 218,000 o'r trigolion yn wyn; 1,106 o hil gymysg; 2,215 yn Asiaidd - yn bennaf Bangladeshi (1,015); 300 yn ddu; a 1,195 yn perthyn i grwpiau ethnig eraill. gydag 13.4% o'r boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg.

O 1804 tan y 1920au, profodd Abertawe dwf parhaol yn ei phoblogaeth. Roedd y 1930au a'r 1940au yn gyfnod o ddirywiad bychan. Yn y 1950au a'r 1960au tyfodd y boblogaeth ac yna syrthiodd yn y 1970au. Tyfodd y boblogaeth eto yn y 1980au, cyn ostwng eto yn y 1990au. Erbyn y 2000au, profodd ychydig o dwf yn y boblogaeth eto. Erbyn 2007 poblogaeth yr ardal oedd 228,100, ac erbyn 2011 y boblogaeth oedd 239,000.

Defnyddir traethau Langland, Caswel a Limeslade gan nofwyr a thwristiaid â phlant, tra bod traeth Bae Abertawe yn denu pobl sydd â diddordeb mewn chwaraeon dŵr. Cysyllta llwybrau cerdded arfordirol y rhan fwyaf o gilfachau Penrhyn Gŵyr â Bae Abertawe ei hun, a denir cerddwyr i'r rhan hon o'r wlad trwy gydol y flwyddyn. Er nad yw'n enwog ymhlith twristiaid, mae ardaloedd yng ngogledd Abertawe yn cynnig golygfeydd panoramig amrywiol o dirweddau mynyddog. Yn hen bentref pysgota'r Mwmbwls (sydd wedi ei leoli ar ochr orllewinol Bae Abertawe), ceir pier Fictorianaidd ynghyd â nifer o fwytai, tafarndai a siopau coffi. Ceir golygfa banoramig o Fae Abertawe o'r promenad. Ym Mehefin 2015 rhoddwyd caniatâd cynllunio i godi Lagŵn Bae Abertawe, sef cynllun i harneisio ynni carbon isel ym Mae Abertawe a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar ôl ei gwbwlhau. Disgwylir y bydd y prosiect yn cynhyrchu £76 miliwn o bunnoedd, sy'n cynnwys elfen gref o dwristiaeth.

Ar lan y môr, mae gan Fae Abertawe arfordir o bum milltir (8 km) sy'n cynnwys y traeth, promenad, pwll nofio awyr agored i blant, canolfan hamdden, marina sy'n cynnwys yr amgueddfeydd mwyaf newydd a'r hynaf yng Nghymru - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Amgueddfa Abertawe. Yn y marina hefyd y lleolir Canolfan Dylan Thomas sy'n dathlu bywyd a gwaith yr awdur gydag arddangosfa parhaol o'r enw 'Dylan Thomas - Man and Myth'. Y ganolfan hon hefyd yw canolbwynt Gŵyl Flynyddol Dylan Thomas (27 Hydref - 9 Tachwedd). SA1 Glannau Abertawe yw'r datblygiad diweddaraf ar gyfer cartrefi, bwyta ac adloniant. Mae Bae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr yn gartref i amrywiaeth o barciau a gerddi a cheir yno bron i 20 warchodfa natur. Mae Gerddi Clun hefyd yn gartref i gasgliad o blanhigion a chynhelir 'Clyne in Bloom' yno ym mis Mai. Mae gan Barc Singleton erwau o dir agored, gardd fotaneg, llyn cychod gyda chychod pedlo, a golff gwallgo'. Mae Plantasia yn byramid gwydr sy'n cynnwys planhigion amrywiol, gan gynnwys mathau sydd wedi diflannu yn y gwyllt. Ceir yno fwncïod, reptiliaid, pysgod a thŷ ieir bach yr haf. Mae parciau eraill y ddinas yn cynnwys Parc Cwmdonkin, lle chwaraeodd Dylan Thomas pan yn blentyn a Pharc Fictoria, Abertawe sydd yn agos i'r promenad ar lan y mor.

Mae gan Abertawe ystod eang o weithgareddau yn cynnwys hwylio, sgïo dŵr, syrffio a chwareon dŵr eraill, cerdded a beicio. Ym mis Medi 2012, agorwyd canolfan Chwaraeon Dŵr o'r enw 360 ger San Helen ar lan y môr, ar gost o £1.4 miliwn. Yn rhan o'r Lôn Geltaidd a Rhwydwaith Feicio Cenedlaethol, cynigia Abertawe lwybrau beicio di-draffig ar hyd y glannau a thrwy Barc Gwledig Dyffryn Clun. Ceir sawl cwrs golff ym Mae Abertawe, y Mwmbwls a Gŵyr hefyd.

Cyn iddo gau yn 2003, roedd Canolfan Hamdden Abertawe yn un o'r deg atyniad mwyaf poblogaidd yn y DU; cafodd ei ail-ddatblygu fel parc dŵr dan-do a'i ail-farchnata fel yr 'LC'. Cafodd ei agor yn swyddogol gan Frenhines Elizabeth II ar y 7fed o Fawrth, 2008. Lleolir Pwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe hefyd.

Mae gan Abertawe ystod eang o dafarndai, bariau, clybiau, bwytai a dau gasino. Lleolir y mwyafrif o fariau'r dref ar Stryd y Gwynt, tra bod y mwyafrif o glybiau nos, gan gynnwys Oceana wedi'u lleoli ar y Ffordd y Brenin. Mae Milltir y Mwmbwls, a gafodd ei ddisgrifio gan y BBC fel pub crawls enwocaf Cymru, wedi lleihau yn ei boblogrwydd dros y blynyddoedd diwethaf, gyda nifer o'u tafarnai wedi'u trosi'n fflatiau neu'n fwytai.

Yn 2007, enwyd Bae Oxwich ar Benrhyn Gŵyr fel y traeth mwyaf prydferth yn y Deyrnas Unedig gan ysgrifennwyr teithio a oed wedi ymweld â thros 1,000 o draethau ledled y byd er mwyn dod o hyd i'r tywod perffaith. Canmolodd The Travel Magazine Oxwich am ei golygfeydd magnificent and unspoilt, gan ei ddisgrifio fel man gwych i oedolion a phlant i ddarganfod. Mae gan y traeth dair milltir (5 km) o dywod euraidd, meddal, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd. Enwyd y traeth hefyd gan The Guardian fel un o ddeg traeth gorau'r DU.

Ym 1887, roedd Abertawe yn drefgordd ger aber yr afon Tawe, a orchuddiai 4,562 era yn sir Morgannwg. Cafwyd tri prif estyniad i ffiniau'r fwrdeistref, ym 1835 am y tro cyntaf, pan ychwanegwyd Treforys, St.Thomas, Glandŵr a rhan o blwyf Lansamlet. Gwelwyd yr ail estyniad ym 1889, pan gynhwyswyd yr ardaloedd o amgylch Cwmbwrla a Threwyddfa, ac yna ym 1918 pan ehangwyd ymhellach i gynnwys hen blwyf Abertawe yn ei chyfanrwydd, y rhan ddeheuol o blwyf Llangyfelach, plwyf Llansamlet yn ei chyfanrwydd, ardal drefol Ystumllwynarth a phlwyf Brynau.

Ym 1889, derbyniodd Abertawe statws cyngor bwrdeistref, a chafodd statws dinas ym 1969. Arferai Abertawe fod yn un o fannau cryfaf y Blaid Lafur, a than 2004 roedd gan y blaid fwyafrif, ac o ganlyniad, reolaeth dros y cyngor am 24 mlynedd.  Bellach y Democratiaid Rhyddfrydol yw'r prif blaid o fewn y weinyddiaeth a daethant i bŵer yn etholiadau lleol 2004. Ar gyfer 2009/2010, Arglwydd Faer Abertawe oedd Cynghorydd Alan Lloyd ac am 2010/2011: Richard Lewis.

Etholaethau Cynulliad Cenedlaethol yw:

Mae'r ddinas yn rhan hefyd o'r Rhanbarth Gorllewin De Cymru a chaiff ei wasanaethu gan Peter Black AC, Alun Cairns AC, Dai Lloyd AM a Bethan Jenkins AC.

Etholaethau Abertawe yn Senedd y Deyrnas Unedig yw:

Yn wreiddiol, datblygidd Abertawe yn ganolfan ar gyfer mwyngloddio a metelau, yn enwedig y diwydiant copr, o ddechrau'r 18g. Cyrhaeddodd y diwydiant ei uchafbwynt yn y 1880au, pan mwyndoddwyd 60% o'r copr a fewnforiwyd i Brydain yn Nghwm Tawe Isaf. Fodd bynnag, erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd y diwydiannau hyn wedi lleihau'n sylweddol, ac yn y degawdau a ddilynodd gwelwyd newid at economi yn y sector wasanaeth. 

O'r 105,900 yr amcangyfrifir sy'n gweithio yn Ninas a Sir Abertawe, cyflogir 90% yn y gwasanaethau cyhoeddus, gyda chanran gymharol uchel (o'i gymharu â chyfartaledd Cymru a'r DU) yn gweithio ym meysydd gweinyddiaeth gyhoeddus, addysg ac iechyd a bancio, cyllid ac yswiriant, a chanrannau cyfatebol o uchel mewn swyddi cysylltiedig â'r sector wasanaeth, gan gynnwys galwedigaethau gweinyddol/ysgrifenyddol a gwerthiant/gwasanaethau cyhoeddus. Cred yr awdurdod lleol fod y patrwm hwn yn adlewyrchu rôl y ddinas fel canolfan wasanaeth ar gyfer De Orllewin Cymru.

Yn Hydref 2009, roedd gweithgarwch economaidd a chyfraddau diweithdra Abertawe ychydig yn uwch na'r cyfartaledd Cymreig, ond yn is na chyfartaledd y DU. Yn 2005, y GYC y pen yn Abertawe oedd £14,302 – bron 4% yn uwch na'r cyfartaledd Cymreig ond 20% yn is na'r cyfartaledd Prydeinig. Y cyflog cyfartalog llawn-amser yn Abertawe oedd £21,577 yn 2007, a oedd bron yn union yr un peth a'r cyfartaledd Cymreig

Gŵn

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe ym 1891, 1907, 1926, 1964, 1982 a 2006. Am wybodaeth bellach gweler:




#Article 28: David Jones (bardd ac arlunydd) (579 words)


Arlunydd a bardd oedd David Jones (1 Tachwedd 1895 – 28 Hydref 1974), a aned yn Brockley, Caint, Lloegr.

Roedd ei dad yn oruchwyliwr mewn argraffdy yn Sir y Fflint a symudodd i fyw i Lloegr yn 1885, a Saesnes oedd ei fam.

Er iddo gael ei eni yn Lloegr roedd yn ymwybodol iawn o'i Gymreictod, ffaith a welir yn aml yn ei waith fel bardd ac arlunydd. Enillodd Wobr Hawthornden ym 1938 am ei gerdd In Parenthesis.

Roedd yn  ddisgybl i Eric Gill ac yn ffrind i Saunders Lewis, Aneirin Talfan Davies a Vernon Watkins.

Nid tan 1937 y cyhoeddodd Jones ei ymdrech lenyddol gyntaf. In Parenthesis, a gyhoeddwyd gan Faber and Faber gyda chyflwyniad (yn 1961) gan TS Eliot. Enillodd hyn iddo Gwobr Hawthornden yn y flwyddyn ganlynol. Mae'r gerdd yn tynnu ar ddylanwadau llenyddol o'r epig Cymreig  Y Gododdin a gwaith Malory Morte d'Arthur i geisio gwneud synnwyr o'r lladdfa bu'n dyst iddi yn y ffosydd. Yn 1967 ymddangosodd ei waith yn y llyfr llafar Artists Rifles.

Ymddangosodd ei lyfr nesaf, The Anathemata, ym 1952 (a gyhoeddwyd eto gan Faber). Wedi'i ysbrydoli gan ymweliad â Phalesteina chafodd y gerdd adolygiadau cadarnhaol gan awduron fel W. H. Auden. Cynhyrchwyd darlleniadau wedi eu dramateiddio o In Parenthesis a The Anathemata ar gyfer Trydydd Rhaglen y BBC.

Yn 1974 cyhoeddwyd Yr Arglwydd Ynghwsg a Darnau Eraill (eto o dan nawdd Faber). 
Ar 11 Tachwedd 1985 roedd Jones ymhlith un ar bymtheg o feirdd y Rhyfel Mawr gafodd eu coffáu ar garreg llechi yn Abaty Westminster yng Nghornel y Beirdd.

Ysgrifennodd Jones nifer o ysgrifau ar gelf, llenyddiaeth, crefydd a hanes. Ysgrifennodd gyflwyniadau am lyfrau megis argraffiad newydd o 'Wild Wales' gan  George Borrow ; rhoddodd sgyrsiau radio ar Drdydd Rhaglen y BBC; Cyhoeddwyd dau gasgliad o ysgrifau, Epoch a Artist (Faber, 1959) a The Gâl Marw (Faber, 1978).

Mae DJ yn awdur modernaidd megis TS Eliot, Ezra Pound, a James Joyce sydd yn cael ei ystyried yn gynyddol fel bardd arloesol pwysig, sydd wedi ymestyn a mireinio technegau moderniaeth lenyddol, yn ôl Dictionary of Biography Llenyddol. Roedd DJ yn artist graffeg yn ogystal â bardd, ond mae Jones yn fwyaf adnabyddus am ei gerddi naratif hir In Parenthesis a The Anathemata Mae ei argraffiadau a phaentiadau wedi ennill nifer o wobrau. Mae llawer o waith Jones wedi seilio ar ei dreftadaeth Gymreig. Roedd ei dad yn oruchwyliwr mewn argraffdy yn Sir y Fflint .
Ym mis Ionawr 1915 ymunodd Jones a'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a gwasanaethodd ar Ffrynt y Gorllewin hyd at fis Mawrth 1918. Ar ôl y rhyfel cofleidiodd Babyddiaeth ac ymunodd a chymuned fach o artistiaid Catholig dan arweiniad crefftwr Eric Gill. Nid oedd yn dechrau ysgrifennu In Parenthesis, fersiwn o'i weithgareddau yn y rhyfel ar ffurf ffuglen, tan 1928. Mae pob un o'r saith rhan o'r gerdd yn agor efo dyfyniad o epig hynafol Cymreig arwrol, Y Gododdin. Mae yn anfarwoli y soldiwr Dai Greatcoat

Mae'r beirniad Dilworth yn datgan mai In Parenthesis yw'r unig gerdd epig dilys a llwyddiannus yn yr iaith (Saesneg) ers Paradise Lost.
Yn 1952, ar anogaeth ei ffrind T. S. Eliot cyhoeddodd ei ail gerdd hir, The Anathemata, sydd yn mynegi ei ffydd bersonol.
Mae'r bardd gwyddeleg Seamus Heaney yn dod i'r casgliad bod Jones yn awdur rhyfeddol sydd wedi dychwelyd i'r ffynhonnell ac wedi dod â rhywbeth yn ôl, rhywbeth sy'n cyfoethogi, nid yn unig yr iaith ond ymwybyddiaeth y bobl o bwy oeddynt ac, oherwydd hyn, pwy ydynt heddiw




#Article 29: Eryri (1980 words)


Rhanbarth o ogledd Cymru yw Eryri. Mae'n gartref i fynyddoedd uchaf Cymru. Yn draddodiadol defnyddir yr enw am fynyddoedd Arfon, gyda'r Wyddfa fel canolbwynt, ac yn cynnwys Glyderau, y Carneddau, Crib Nantlle, Moel Hebog a Moel Siabod. Ers ffurfio Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n cynnwys ardaloedd tu allan i'r Eryri draddodiadol, er enghraifft ym Meirionnydd, mae tuedd wedi bod gan rai, yn enwedig o'r tu allan i Gymru, i gyfeirio at y cyfan o ardal y Parc fel Eryri ond mae'r Parc Cenedlaethol dros ddwywaith mwy ei faint na'r Eryri go iawn. Ffiniau'r Eryri draddodiadol, yn fras, yw'r briffordd A487 o Gaernarfon trwy Borthmadog cyn belled a Maentwrog yn y gorllewin a'r de, y briffordd A470 ymlaen i Fetws y Coed yn y de-ddwyrain ac Afon Conwy yn y dwyrain.

Mae'n gred boblogaidd fod yr enw Eryri yn golygu Gwlad yr Eryrod, ond mae Ifor Williams wedi profi mai Ucheldir yw'r ystyr. Eryrod yw lluosog arferol y gair eryr; ni cheir enghraifft o'r ffurf 'eryri' am eryrod. Mae eryr ac Eryri yn tarddu o'r un gwreiddyn ieithyddol, serch hynny. O'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd -er/-or (codi) y daw'r gair Cymraeg eryr a'r gair Groeg oros (mynydd'). Ceir enghraifft o'r gair eryr yn Llyfr Du Caerfyrddin yn yr ystyr glan (afon neu fôr), Codiad tir yw eryr(i) felly, tir uchel' neu 'ucheldir.

Dros y canrifoedd mae sawl bardd a llenor wedi mabwysiadu enw barddol sy'n cynnwys y gair Eryri. Yr enghraifft gynharaf yw'r bardd canoloesol Rhys Goch Eryri (fl. 1385–1448), a oedd yn frodor o ardal Beddgelert. Yn ddiweddarach cafwyd Dafydd Ddu Eryri (1759–1822) yn arddel yr enw.

Er nad felly y tarddodd yr enw, mae traddodiad a sylwadau gan deithwyr yn awgrymu yr arferai yr Eryr Aur nythu yn Eryri, efallai hyd y 18g.

Canolbwynt Eryri yw copa'r Wyddfa. O'i gwmpas mae chwe chefnen hir. Nodweddir y llethrau sy'n wynebu'r gogledd a'r dwyrain gan glogwynau syrth ond mae'r llethrau sy'n wynebu'r de a'r gorllewin yn tueddu i fod yn llai syrth a chreigiog ac yn fwy agored a glaswelltog. Rhwng y cefnennau mae cymoedd wedi eu llunio yn ystod Oes yr Iâ, rhai ohonynt â llynnoedd ynddynt. Yr uchaf o'r mynyddoedd yw'r Wyddfa (1,085m); ymhlith y copaon o'i chwmpas mae Carnedd Ugain (1,065 m), Crib Goch (923 m), Y Lliwedd (898 m) a'r Aran (747 m).

I'r gogledd-ddwyrain o'r Wyddfa, tu draw i Fwlch Llanberis, mae mynyddoedd y Glyderau; y prif gopaon yma yw'r Glyder Fach (994 m), Glyder Fawr (999 m) a Tryfan (915m). I'r gogledd o'r Glyderau, tu draw i Lyn Ogwen a Nant Ffrancon mae prif gadwyn y Carneddau yn ymestyn tua'r gogledd-ddwyrain, gan orffen nepell o'r môr uwchben Abergwyngregyn. Y prif gopaon yn y Carneddau yw Carnedd Llywelyn (1,064 m), Carnedd Dafydd (1,044 m) a Pen yr Ole Wen (978 m).

I'r gorllewin o'r Wyddfa, mae Mynydd Mawr ar ei ben ei hun, a'r ochr arall i bentref Rhyd Ddu mae Crib Nantlle yn ymestyn tua'r de-orllewin. Tua'r de mae Moel Hebog. Tua'r de-ddwyrain, yr ochr draw i Nant Gwynant mae Cnicht, y Moelwyn Mawr a'r Moelwyn Bach, ac i'r dwyrain o'r Wyddfa mae Moel Siabod.

O ran daeareg, creigiau Ordoficaidd sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o'r mynyddoedd, ond daw creigiau Cambriaidd i'r wyneb yn y gogledd-orllewin, i ffurfio mynyddoedd megis Elidir Fawr a Moel Eilio. Gellir gweld olion rhewlifoedd o Oes yr Iâ yn glir mewn llawer man yn Eryri; mae Cwm Idwal yn enghraifft glasurol.

Oherwydd uchder y mynyddoedd a'i safle yn agos i'r arfordir gorllewinol, mae Eryri yn cael llawer o law; ac ystyrir Capel Curig er enghraifft yn un o'r mannau gwlypaf ym Mhrydain. Er nad yw'r glaw yn cael ei fesur yn rheolaidd, credir fod y llethrau o gwmpas Llyn Llydaw ar yr Wyddfa yn cael mwy o law fyth, heb fod ymhell o 5000 mm y flwyddyn. Mae nifer o afonydd yn tarddu yn Eryri, yn arbennig Afon Glaslyn, Afon Ogwen ac Afon Llugwy, sy'n llifo i Afon Conwy. Ceir nifer fawr o lynnoedd yn Eryri; y mwyaf ohonynt yw Llyn Padarn (280 acer), Llyn Cowlyd (269 acer), Llyn Cwellyn (215 acer), Llyn Eigiau (120 acer) a Llyn Llydaw (110 acer).

Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri ar 18 Hydref 1951 yn dilyn Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, fel y trydydd parc cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Roedd ei ffiniau wedi'u dynodi flwyddyn ynghynt yn dilyn argymhellion Comisiwn y Parc Cenedlaethol lle gwasanaethodd Syr Clough Williams-Ellis fel aelod. Gan mai un o brif feini prawfar gyfer cynnwys tir o fewn y Parc oedd harddwch golygfaol eithriadol, roedd rhai ardaloedd trefol wedi eu gwahardd, ac y tu allan i'w ffiniau.

Mae'n un o dri pharc cenedlaethol yng Nghymru (gweler hefyd Bannau Brycheiniog a Phenfro). Mae ffiniau'r parc yn cynnwys tua 214,159 hectar (837 milltir sgwâr), ardal llawer ehangach na'r ardal a adwaenid fel Eryri yn hanesyddol.

Sefydlwyd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a ddaeth yn weithredol ar 1 Ebrill 1996, ac a ddiffinniodd bwrpas y parc, sef:

Mae'r tir cyhoeddus a'r tir preifat ill dau o dan reolaeth yr un awdurdod cynllunio.

Er bod tirwedd Eryri yn ymddangos yn wyllt, mae dylanwad dyn yn drwm arno. Yn wreiddiol roedd coedwigoedd yn tyfu ar y rhan fwyaf o'r llethrau, heblaw y llethrau uchaf un. Y rhywogaethau nodweddiadol oedd derw, ynn, bedw, cyll a chriafolen. Erbyn hyn mae'r coed wedi diflannu oddi ar lawer o'r llethrau, ac mae pori gan ddefaid yn eu cadw yn laswelltir. Plannwyd llawer o goed bytholwyrdd yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn arbennig Coedwig Gwydyr ar lethrau dwyreiniol Eryri o gwmpas Betws y Coed a Choedwig Beddgelert.

Ar y clogwyni lle na all y defaid gyrraedd, er enghraifft ar Glogwyn Du'r Arddu ar yr Wyddfa a chlogwyni Cwm Idwal, ceir amrywiaeth ddiddorol o blanhigion arctig-alpaidd, rhai ohonynt yn eithriadol o brin. Yr enwocaf o'r rhain yw Lili'r Wyddfa (Lloydia serotina); Eryri yw'r unig fan ym Mhrydain lle ceir y planhigyn yma. Dim ond yn Eryri y ceir Chwilen yr Wyddfa (Chrysolina cerealis).

Heblaw gor-bori gan ddefaid, un o'r prif broblemau yw tŵf Rhododendron ponticum mewn rhai rhannau o Eryri, er enghraifft yn ardal Beddgelert. Mae'r planhigyn yma yn medru lledaenu'n gyflym, ac yn cael effaith andwyol ar y llystyfiant naturiol. Erbyn hyn mae ymdrechion i'w ddifa wedi lleihau'r broblem rywfaint. Gall y nifer fawr o gerddwyr a dringwyr hefyd greu problemau yn y mannau mwyaf poblogaidd.

Y brithyll yw'r pysgodyn mwyaf cyffredin yn afonydd a llynnoedd Eryri, ond yn ambell un o'r llynnoedd dyfnaf ceir y Torgoch. Ymhlith adar nodweddiadol Eryri mae Tinwen y Garn, Corhedydd y waun, Mwyalchen y Mynydd, y Frân Goesgoch a'r Gigfran; mae nifer dda o barau o'r Hebog Tramor yn nythu ar y clogwyni yma hefyd.

Y prinnaf o famaliaid Eryri yw'r Bela (Martes martes), yn wir, er fod cryn nifer o bobl wedi adrodd eu bod wedi gweld y Bela yn Eryri yn y blynyddoedd diwethaf, nid oes neb wedi llwyddo i gael llun i brofi hyn. Gellir gweld geifr gwylltion yn aml ar y llechweddau; mae'r rhain yn ddisgynyddion geifr wedi dianc o ffermydd. Mae rhannau o Eryri yn gartref i'r merlyn mynydd Cymreig; maent yn arbennig o niferus ar lethrau gogleddol y Carneddau, lle ceir rhwng 200 a 300.

Yn ystod y cyfnod Neolithig, ymddengys mai o gwmpas godreuon Eryri yr oedd presenoldeb dynol. Ymysg yr olion o'r cyfnod hwn mae siambr gladdu Maen y Bardd ar ochr ddwyreiniol y Carneddau, ac olion tŷ yn Llandegai ger Bangor. Yn ystod rhan gyntaf Oes yr Efydd roedd y tywydd yn gynhesach ac yn sychach, gan wneud y tir uchel yn fwy atyniadol. Ceir llawer o weddillion tai a chladdfeydd o'r cyfnod hwn, er enghraifft yng Ngwm Anafon uwchben Abergwyngregyn ac yng Nghwm Ffrydlas uwchben Bethesda. Yn y cyfnod yma y codwyd y meini hirion megis y rhai ym Mwlch y Ddeufaen, ac y codwyd llawer o'r carneddi a welir ar fynyddoedd a bryniau Eryri.

Nid oes cymaint o olion o Oes yr Haearn ar y tir uchel; nid oedd y tywydd mor ffafriol erbyn hyn ac roedd mawnog yn dechrau ffurfio. Ceir cryn nifer o fryngeiri o gwmpas godreuon Eryri, er enghraifft Braich-y-Dinas ger Penmaenmawr a Pen y Gaer gerllaw Llanbedr-y-cennin. Adeiladodd y Rhufeiniaid hefyd nifer o geiri i warchod gororau Eryri, megis Segontium, Caerhun a Thomen y Mur.

Yn niogelwch y mynyddoedd megid gwartheg y tywysogion mewn porfeydd brenhinol arbennig (vaccarii) er mwyn cael stôr o gig i'r fyddin pan fo rhaid. Ceir un o'r cyfeiriadau cynharaf at Eryri ym marddoniaeth Gymraeg yn y cyd-destun hyn, ym marwnad y bardd Meilyr Brydydd i Gruffudd ap Cynan: Dybu brenin Lloegr yn lluyddawg, / Cyd doeth ef nid aeth yn warthegawg; / Ni yn Eryri yn rheïawg, / Ni thorres i bawr a fu breiddiawg (Daeth Brenin Lloegr yn fyddinog / Er iddo ddod nid aeth ag anrhaith wartheg; / [Yr oeddem] ni yn Eryri yn oludog / Ni thorrodd [Brenin Lloegr] i mewn i borfa a fu'n llawn preiddiau).

Ar ôl cwymp y tywysogion parhaodd enw a thraddodiadau Eryri yn fyw dros y canrifoedd.

Amaethyddiaeth a thwristiaeth yw'r diwydiannau pwysicaf yn Eryri ar hyn o bryd. Mae amaethyddiaeth wedi bod yn bwysig ers canrifoedd, ond gan nad yw'r rhan fwyaf o Eryri yn addas ar gyfer tyfu cnydau, canolbwyntir ar gadw da byw. Defaid yw'r mwyaf cyffredin o'r rhain bellach, ond yn y gorffennol roedd gwartheg yn fwy niferus, yn arbennig y Gwartheg Duon Cymreig, sydd wedi eu datblygu i fedru byw ar y llechweddau. Ar un adeg arferid mynd a'r da byw i fyny i'r hafod ar y llechweddau uchaf i bori yn ystod yn haf, ac yna eu symud i lawr i'r hendre ar dir is dros y gaeaf. Yn y 18g byddai'r porthmyn yn eu gyrru i Loegr i'w gwerthu.

O ddiwedd y 18g hyd ddechrau'r 20g roedd y diwydiant llechi yn bwysig iawn yn Eryri, a cheid rhai o chwareli llechi mwyaf y byd ar lechweddau isaf rhai o fynyddoedd Eryri, megis Chwarel y Penrhyn a Chwarel Dinorwig. Ychydig iawn o bobl sy'n cael eu cyflogi yn y diwydiant yma bellach, ond mae tomennydd sbwriel y chwareli yn parhau yn nodweddiadol o'r ardal. Bu nifer o fwyngloddiau copr yn Eryri hefyd yn y cyfnod yma.

Mae Eryri yn ardal boblogaidd iawn ar gyfer mynydda. I ddringo'r Wyddfa y llwybr mwyaf poblogaidd yw Llwybr Pen-y-Gwryd, sy'n dechrau o westy Gorffwysfa, Pen-y-pas, uwchben Bwlch Llanberis. Mae'n hen lwybr mwynwyr sydd yn mynd heibio Llyn Llydaw a'r Glaslyn ac wedyn yn dringo'n igam-ogam i fyny Bwlch Glas. Y llwybr anoddaf i ddringo'r Wyddfa yw Pedol yr Wyddfa, sy'n golygu dringo Crib Goch gyntaf, yna copa'r Wyddfa ei hun cyn dychwelyd i Ben-y-pas dros gopa Lliwedd. Mae'r Glyderau hefyd yn boblogaidd iawn, yn enwedig Tryfan, yr unig fynydd yng Nghymru, fe ddywedir, lle mae'n rhaid defnyddio'r dwylo yn ogystal a'r traed i gyrraedd y copa. Llwybr poblogaidd arall yn y Glyderau yw'r llwybr heibio Llyn Idwal a'r Twll Du i ben y Glyder Fach a'r Glyder Fawr. Ceir llawer llai o ddringwyr ar y rhannau llai adnabyddus o Eryri, megis Crib Nantlle. Mae poblogrwydd rhai o'r llwybrau wedi creu problem erydu, ac mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gwneud cryn dipyn o waith i sefydlogi rhai ohonynt.

Mae clogwynnau Eryri wedi chwarae rôl bwysig yn hanes dringo mynyddoedd Prydain. Ymhlith y cyntaf i ddringo mynydd yn yr ardal oedd y Parchedig Peter Williams a'r Parchedig William Bingley oedd yn arfer dringo Clogwyn Du'r Arddu wrth chwilio am blanhigion arctig-alpaidd ym 1798. Lliwedd oedd pwnc y llawlyfr dringo (yn hytrach na cherdded mynyddoedd) cyntaf i'w gyhoeddi ym Mhrydain yn 1909, The climbs on Lliwedd gan J. M. A. Thomson ac A. W. Andrews. Ers hynny mae Eryri wedi parhau'n gyrchfan boblogaidd i ddringwyr; er enghraifft yn Eryri y bu'r tîm a ddringodd Mynydd Everest am y tro cyntaf yn 1952 yn ymarfer cyn yr ymgyrch.




#Article 30: Henry Morton Stanley (1430 words)


Newyddiadurwr, fforiwr, milwr, gweinyddwr trefedigaethol, awdur a gwleidydd a ddaeth yn adnabyddus am fforio yng nghanol Affrica oedd Syr Henry Morton Stanley (ganwyd John Rowlands) (28 Ionawr 1841 – 10 Mai 1904).

Daeth i sylw’r cyhoedd oherwydd ei ymgyrch i chwilio am y cenhadwr a'r fforiwr David Livingstone, a honnodd yn ddiweddarach iddo ei gyfarch â'r llinell sydd bellach yn enwog: Dr Livingstone, I presume? Mae'n adnabyddus yn bennaf am ei ymgyrch i ddarganfod  tarddiad yr afon Nîl, gwaith a ymgymerodd fel asiant i'r Brenin Leopold II o Wlad Belg. Galluogodd hyn i ranbarth Basn Congo gael ei feddiannu, ac i Stanley arwain Alldaith Rhyddhad Emin Pasha. Yn 1871 sefydlwyd pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin i ymchwilio i ymddygiad Stanley yn Affrica. Cafodd ei gyhuddo o drais gormodol, dinistrio diangen, gwerthu llafurwyr i gaethwasiaeth, camfanteisio rhywiol ar ferched brodorol ac ysbeilio pentrefi am ifori a chanŵau. Yn seiliedig ar gofnodion a chyfrifon eraill, mae rhai haneswyr yn awgrymu bod llawer o'r adroddiad, a ysgrifennwyd gan elyn hysbys i Stanley, wedi ei ffugio'n bennaf. Fodd bynnag, roedd Stanley yn sicr yn cysylltu ei hun â masnachwyr caethweision tra'r oedd yn Affrica, ac yn ei ysgrifau ei hun mae'n aml yn mynegi barn hiliol. Cyhuddwyd Stanley hefyd o greulondeb diwahân yn erbyn Affricaniaid gan gyfoeswyr, a oedd yn cynnwys dynion a wasanaethodd oddi tano neu a oedd fel arall yn meddu ar wybodaeth uniongyrchol. Cafodd ei urddo'n farchog yn 1899.

Fe'i ganwyd ym 1841 yn Ninbych, Sir Ddinbych, Cymru. Roedd ei fam, Elizabeth Parry, yn 18 oed ar adeg ei eni. Amddifadodd ei fam ef pan oedd yn fabi ifanc iawn a thorrodd bob cysylltiad ag ef. Nid oedd Stanley erioed yn adnabod ei dad, a fu farw o fewn ychydig wythnosau i'w eni. Mae rhywfaint o amheuaeth ynghylch ei wir rieni. 

Rhoddwyd cyfenw ei dad iddo, sef Rowlands, a magwyd ef gan ei dad-cu, Moses Parry a oedd yn gigydd tlawd. Bu'n gofalu am y bachgen nes iddo yntau farw, pan oedd John yn bump oed. Arhosodd y bachgen gyda chefndryd a nithoedd am gyfnod byr, ond yn y pen draw fe’i hanfonwyd i Wyrcws Undeb y Tlodion Llanelwy. Arweiniodd y gorlenwi a'r diffyg goruchwyliaeth ato'n cael ei gam-drin yn aml gan fechgyn hŷn.

Ymfudodd Rowlands i'r Unol Daleithiau ym 1859 yn 18 oed. Cyrhaeddodd New Orleans ac, yn ôl ei ddatganiadau ei hun, daeth yn ffrindiau ar ddamwain gyda Henry Hope Stanley, masnachwr cyfoethog. Allan o edmygedd, cymerodd John enw Stanley.

Roedd yn anfodlon ymuno â Rhyfel Cartref America, ond ymrestrodd yn gyntaf gyda 6ed Catrawd Troedfilwyr Arkansas ym Myddin y Taleithiau Cydffederal ac ymladd ym Mrwydr Shiloh ym 1862.  Ar ôl cael ei gymryd yn garcharor yn Shiloh, ymunodd â Byddin yr Undeb ar 4 Mehefin 1862 ond cafodd ei ryddhau 18 diwrnod yn ddiweddarach oherwydd salwch difrifol. Ar ôl gwella, gwasanaethodd ar sawl llong fasnach cyn ymuno â Llynges yr Unol Daleithiau ym mis Gorffennaf 1864. Daeth yn geidwad cofnodion ar fwrdd yr USS Minnesota, ac arweiniodd hynny ato'n troi ei law at newyddiaduraeth ar ei liwt ei hun. Neidiodd Stanley a chydweithiwr iau ar long ar 10 Chwefror 1865 oedd yn ymadael â Portsmouth, New Hampshire. Bwriad y ddau oedd chwilio am fwy o anturiaethau. Mae’n ddigon posib mai Stanley oedd yr unig ddyn i wasanaethu yn y Fyddin Cydffederal, Byddin yr Undeb a Llynges yr Undeb.

Yn dilyn y Rhyfel Cartref, daeth Stanley yn newyddiadurwr yn y cyfnod pan oedd ehangu ffiniau yn digwydd yng Ngorllewin America. Yna trefnodd alldaith i'r Ymerodraeth Otomanaidd ond daeth y daith i ben yn drychinebus pan gafodd ei garcharu. Yn y pen draw, siaradodd ei ffordd allan o'r carchar a derbyniodd iawndal am offer alldaith a ddifrodwyd.

Yn 1867, cafodd cennad Prydeinig a rhai eraill eu cymryd yn wystlon gan Ymerawdwr Ethiopia, Tewodros II, ac anfonwyd llu i ryddhau’r gwystlon. Aeth Stanley gyda'r llu hwnnw fel gohebydd arbennig papur newydd y New York Herald. Adroddiad Stanley ar Frwydr Magdala ym 1868 oedd y cyntaf i gael ei gyhoeddi. Yn dilyn hynny, cafodd ei aseinio i adrodd ar Chwyldro Gogoneddus Sbaen ym 1868.

Daeth Stanley yn enwog oherwydd iddo ddod o hyd i'r cenhadwr David Livingstone, a oedd ar goll yn Affrica yn 1871. Yn ôl yr hanes, pan gyfarfu'r cenhadwr coll llefarodd y geiriau enwog Dr Livingstone, I presume?. Roedd y tri llyfr a ysgrifennodd am ei daith yn Affrica i ddarganfod Livingstone ymhlith y llyfrau a werthodd orau yn y cyfnod.

Ym 1874, ariannodd y New York Herald, a'r Daily Telegraph ym Mhrydain, Stanley ar alldaith arall i Affrica. Ei amcan uchelgeisiol oedd cwblhau'r gwaith o archwilio a mapio Llynnoedd Mawr ac afonydd Canol Affrica, ac yn y broses amgylchynu Llynnoedd Victoria a Tanganyica a lleoli tarddiad yr afon Nîl. Roedd yr alldaith yn gostus, gyda llawer o griw Stanley yn colli eu bywydau yn y tir anodd. Mae rhestrau casglu a dyddiadur Stanley (12 Tachwedd 1874) yn dangos iddo ddechrau gyda 228 o bobl a chyrraedd Boma gyda 114 o oroeswyr. Fodd bynnag, cwblhaodd Stanley ei genhadaeth gan ennill enw da fel un o archwilwyr mwyaf llwyddiannus y 19eg ganrif. 

Daeth y Brenin Leopold II, y brenin uchelgeisiol o Wlad Belg, at Stanley a chynigiodd gyflog iddo er mwyn datblygu canolfannau masnachu ar hyd y Congo. Yn ddiweddarach, dywedodd y Brenin yn glir mai ei gynllun oedd creu gwladwriaeth newydd a fyddai’n cael ei gweinyddu gan Wlad Belg. Roedd hefyd yn glir na fyddai unrhyw bŵer yn y wladwriaeth newydd hon yn cael ei roi i'r boblogaeth leol. Siomwyd Stanley pan gafodd wybod am wir uchelgais y Brenin.

Rhoddodd y Brenin Leopold gyfarwyddyd i Stanley wneud bargeinion gyda phenaethiaid lleol oedd yn rhoi rheolaeth lawn i Leopold ar y tir, ond ni ddilynodd Stanley y cyfarwyddiadau hyn. Yn lle hynny rhoddodd delerau llawer gwell i benaethiaid lleol gan gynnwys cytundebau rhentu, a fyddai’n cael eu talu ar ffurf nwyddau. Roedd Leopold yn anhapus iawn gyda’r trefniant hwn a symudodd Stanley draw o’r gwaith.

Fodd bynnag, bu Stanley yn llwyddiannus iawn wrth ddatblygu masnach ar hyd y Congo.

Ym 1886, arweiniodd Stanley Alldaith Rhyddhad Emin Pasha i achub Emin Pasha, llywodraethwr Equatoria yn ne'r Swdan. Mynnodd y Brenin Leopold II fod Stanley yn cymryd y llwybr hirach ar hyd Afon Congo, gan obeithio cipio mwy o diriogaeth ac efallai hyd yn oed Equatoria. Ar ôl caledi aruthrol a nifer yn colli eu bywydau, cyfarfu Stanley ag Emin ym 1888, llwyddodd i fapio Mynyddoedd Ruwenzori a Llyn Edward, ac achub Emin a'i ddilynwyr oedd wedi goroesi, ar ddiwedd 1890. Ond fe wnaeth yr alldaith hon bardduo enw Stanley oherwydd ymddygiad yr Ewropeaid eraill - boneddigion Prydain a swyddogion y fyddin. Cafodd Uwchgapten y Fyddin Edmund Musgrave Barttelot ei saethu gan gludwr ar ôl ymddwyn gyda chreulondeb eithafol. Prynodd James Sligo Jameson, etifedd y gwneuthurwr wisgi Gwyddelig Jameson, ferch 11 oed a'i chynnig i ganibaliaid er mwyn dogfennu a braslunio sut fyddai’n cael ei choginio a'i bwyta. Dim ond pan fu Jameson farw o’r dwymyn y darganfu Stanley hyn. 

Mae'r cofnodion yn yr Archifau Cenedlaethol yn Kew, Llundain, yn cadarnhau bod Stanley yn ymwybodol iawn bod atodi ac ychwanegu tiriogaeth newydd yn rhan o'r rheswm dros yr alldaith. Mae hyn oherwydd bod nifer o gytundebau wedi'u curadu yn y cofnodion (ac a gasglwyd gan Stanley ei hun o'r hyn sydd heddiw yn Wganda yn ystod Alldaith Emin Pasha). Yn ôl pob golwg, mae'r cytundebau hyn yn dangos bod Prydain wedi rhoi amddiffyniad i nifer o benaethiaid Affrica. Ymhlith y rhain roedd nifer sydd bellach wedi cael eu diystyru fel rhai twyllodrus, er enghraifft, cytundeb rhif 56, y cytundeb honedig a gytunwyd rhwng Stanley a phobl Mazamboni, Katto, a Kalenge. Drwy arwyddo, roedd y bobl hyn wedi trosglwyddo i Stanley, Hawl Llywodraethol Sofran dros ein gwlad am byth o ystyried y gwerth a dderbyniwyd ac am yr amddiffyniad y mae wedi'i roi inni a'n Cymdogion yn erbyn KabbaRega a'i Warasura.

Ar ôl dychwelyd i Ewrop, priododd Stanley â'r artist o Gymru, Dorothy Tennant, a mabwysiadodd y ddau blentyn o'r enw Denzil. Ymunodd Stanley â'r Senedd fel aelod Unoliaethol Rhyddfrydol dros Ogledd Lambeth, gan wasanaethu rhwng 1895 a 1900. Urddwyd ef yn Syr Henry Morton Stanley pan gafodd ei wneud yn Farchog Croes Fawreddog Urdd y Baddon (Knight Grand Cross of the Order of the Bath) fel rhan o Anrhydeddau Pen-blwydd 1899, fel cydnabyddiaeth o’i wasanaeth i'r Ymerodraeth Brydeinig yn Affrica. Yn 1890, cafodd ei anrhydeddu gan y Brenin Leopold II gyda’r teitl Cordon Mawreddog Urdd Leopold.

Bu farw Stanley yn ei gartref yn 2 Richmond Terrace, Whitehall, Llundain ar 10 Mai 1904.  




#Article 31: Prifddinas (143 words)


Prifddinas yw'r ddinas sy'n brif ganolfan llywodraeth mewn gwlad. Lleolir swyddfeydd y llywodraeth yno, a chynhelir cyfarfodydd y senedd a'r llywodraeth yno hefyd. Caerdydd yw prifddinas Cymru. Yn yr Unol Daleithiau, Washington, D.C. yw'r brifddinas, ac mae Llundain yn brifddinas i'r Deyrnas Unedig a Lloegr.

Mae gan bob gwlad yn y byd brifddinas; mae gan rai (er enghraifft, yr Iseldiroedd) fwy nag un. Yn aml, canolfan economaidd y wlad yw'r brifddinas hefyd. Enghreifftiau yw Paris yn Ffrainc a Moskva yn Rwsia. Mewn llawer o achosion, y brifddinas yw dinas fwyaf y wlad o ran poblogaeth, ond mae yna eithriadau, megis India, Tsieina, Brasil ac Awstralia. Weithiau dewisir prifddinas newydd y tu allan i ardaloedd mwyaf poblog er mwyn osgoi datblygiad pellach yn yr ardaloedd hynny (gweler y map). Mae dinasoedd Brasilia ym Mrasil a Canberra yn Awstralia wedi'u cynllunio'n fwriadol fel prifddinasoedd newydd.




#Article 32: Iesu (746 words)


Iesu o Nasareth (c. 6CC - c. 27), a elwir hefyd Iesu (neu Isa gan Fwslimiaid; Iesu Grist neu Crist gan Gristnogion), yw'r unigolyn canolog mewn Cristnogaeth. Mae'n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl:

Iddew oedd Iesu Grist yn byw ym Mhalesteina tua dwy fil o flynyddoedd yn ôl. Yn draddodiadol, cymerwyd dyddiad geni Iesu ar 25 Rhagfyr yn y flwyddyn 1 CC yn ôl y drefn Anno Domini a grewyd gan Dionysius Exiguus yn 525. Cred rhai ysgolheigion mai 1 OC oedd Dionysius yn ei fwriadu fel blwyddyn geni Iesu. Mae'r hanes yn yr Efengylau yn awgrymu dyddiad ychydig cynharach, gan fod cyfeiriad at Herod Fawr a fu farw yn 4 CC.

Ganed ef yn nhref Bethlehem, ond treuliodd ei ieuenctid yn Nasareth, Galilea. Roedd yr Iddewon yn cael eu rheoli gan y Rhufeiniaid, ac roedd yn gas ganddynt hyn ac yn credu bod y proffwydi wedi rhag-ddweud y byddai y Meseia yn dod i'w rhyddhau. Daeth llawer ohonynt i gredu mai Iesu Grist oedd y Meseia hwnnw. Crwydrodd o gwmpas Palesteina yn pregethu a dysgu'r bobl gyda deuddeg disgybl yn ei helpu. Roedd hefyd yn iacháu pobl ac yn gwneud gwyrthiau. Am ei fod mor boblogaidd roedd yr awdurdodau crefyddol Iddewig yn ofni bod Iesu Grist yn cael gormod o ddylanwad ar y bobl ac roeddent am gael gwared ohono. Yn y fe lwyddon nhw i berswadio Pontius Pilat , y rhaglaw Rhufeinig, i gytuno i'w groeshoelio am ei fod, yn ôl yr awdurdodau Iddewig, yn fygythiad i awdurdod Rhufain.

Mae'r Efengylau yn dweud wrthym fod Iesu Grist wedi codi o'r bedd ar y trydydd dydd ar ôl ei groeshoelio.

Roedd Iesu Grist wedi gofyn i'r disgyblion barhau gyda'r gwaith o ddysgu'r bobl am Dduw. Dau berson pwysig a wnaeth lawer i sicrhau y byddai Cristnogaeth yn tyfu oedd Pedr a Paul a weithiasant fel cenhadon dros y ffydd newydd yn y Lefant ac Asia Leiaf.

Ceir sawl hanes a thraddodiad apocryffaidd am yr Iesu yn y traddodiad Cristnogol. Y llyfr apocryffaidd enwocaf amdano yng Nghymru'r Oesoedd Canol yw Mabinogi Iesu Grist.

Yn Islam, ystyrir fod Isa (Arabeg: عيسى) yn broffwyd annwyl gan Dduw ac yn Feseia. Yn ôl y Coran ganwyd Isa heb dad biolegol i Miriam (neu Maryam: y Forwyn Fair) trwy ewyllys Allah (Duw). Felly fe'i gelwir Isa ibn Maryam (Iesu mab Mair), gan ddefnyddio'r enw mamiarchaidd am nad oes ganddo dad (Coran 3:45, 19:21, 19:35, 21:91). Fel y proffwydi eraill roedd bywyd Isa yn ddi-fai. Roedd yn garedig i bobl ac anifeiliaid ac yn byw mewn tlodi a phurdeb.

Roedd yn medru gwneud gwyrthiau ond dim ond trwy ewyllys Duw; dyn oedd ef, nid Mab Duw. Mae'r Coran yn rhybuddio yn erbyn credu mewn dwyfolaeth Isa (Coran 3:59, 4:171, 5:116-117). Dyw Mwslemiaid ddim yn credu yn y croeshoeliad ac aberth Iesu; credant mai hud a lledrith gan Dduw oedd hynny i dwyllo gelynion Isa a'i fod wedi'i ddwyn yn syth i'r nef (Coran 4:157-158).

Ceir sawl traddodiad apocryffaidd ynglŷn ag Isa. Roedd yn gwrthod alcohol ac yn llyseuwr. Credir bod Isa wedi derbyn efengyl o'r enw Injil gan Dduw a bod honno'n cyfateb i'r Testament Newydd, ond ei fod wedi cael ei llygru gydag amser.

Gan ddilyn rhai o'r dywediadau a briodolir i Mohamed, mae rhai Mwslemiaid yn credu y daw Isa yn ôl yn y cnawd ar ôl Imam Mahdi (y proffwyd ail olaf) i drechu'r Dajjal (Y Twyllwr; ffigwr Gwrth-Grist). Bydd yn disgyn yn Damascus o'r nef ac yn byw gweddill ei oed naturiol yn ymladd drygioni. Mae Mwslemiaid Sunni yn credu y bydd yn cael ei gladdu ym Medina, yn ymyl Mohamed. Nid yw pawb yn derbyn hynny o bell ffordd.

Mae enwad fach yr Ahmadiyyaid yn credu bod Isa wedi goroesi'r croesholiad a theithio i Kashmir lle bu farw fel proffwyd dan yr new Yuz Asaf a chael ei gladdu yn Srinagar: mae hyn yn heresi i'r mwyafrif o Foslemiaid.

Mae sawl awdur wedi ystyried yr Iesu yng ngoleuni mytholeg gymharol ac yn honni bod elfennau o gredoau a thraddodiadau paganaidd y cyfnod wedi eu benthyg, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, gan yr eglwys gynnar.

Y Testament Newydd yw'r brif ffynhonnell. Golygwyd y pwysicaf o'r llyfrau apocryffaidd gan M.R. James yn The Apocryphal New Testament (Rhydychen, 1924; arg. newydd 1953).

Mae sawl pennod yn y Coran yn ymwneud â'r proffwyd Isa a'i fam Miriam. Ceir yn ogystal sawl llyfr â thraddodiad apocryffaidd amdano (ceir manylion am rai ohonynt yng ngolygiad M.R. James o Apocryffa'r Testament Newydd, uchod).




#Article 33: Rhodri Morgan (1653 words)


Gwleidydd Cymreig a Phrif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol o 2000 i 2009 oedd Hywel Rhodri Morgan (29 Medi 1939 – 17 Mai 2017). Daeth i swydd y Prif Weinidog ar ôl ymddiswyddiad Alun Michael, ac felly ef oedd yr ail berson i arwain Cynulliad Cenedlaethol Cymru ond y cyntaf i ddefnyddio'r teitl Prif Weinidog. Fe'i etholwyd yn swyddogol yn Brif Weinidog ar 16 Chwefror 2000. Cyhoeddodd yn Chwefror 2008 y byddai'n ymddeol yn 2009 pan fyddai'n 70 mlwydd oed.  Ar 1 Hydref 2009 cadarnhaodd ei fwriad i sefyll lawr, ac ymddiswyddodd yn swyddogol ar 8 Rhagfyr 2009. Y diwrnod canlynol ar 9 Rhagfyr 2009 enwebwyd Carwyn Jones, ei olynydd fel arweinydd Llafur Cymru, yn Brif Weinidog.

Ganwyd Morgan ar 29 Medi 1939 yng Nghaerdydd, yn fab i'r Athro T. J. Morgan ac roedd yn frawd i'r hanesydd Prys Morgan. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, a mynychodd brifysgolion Rhydychen (Coleg Sant Ioan) a Harvard. Priododd Julie Morgan yn 1967; roedd hithau hefyd yn weithgar yn y Blaid Lafur. Trigodd y ddau yn Llanfihangel-y-pwll gan gefnogi Cymdeithas Dyneiddiaeth Prydain. Ganwyd dwy ferch i'r cwpl a fe mabwysiadwyd mab ganddynt.

Ymunodd â'r Gwasanaeth Sifil a gweithiodd yn Adran Masnach a Diwydiant, fel Swyddog Datblygiad Diwydiannol i Gyngor Sir De Morgannwg o 1974 i 1980. Ef oedd y gwas sifil â'r cyflog uchaf yng Nghymru. Daeth yn bennaeth swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru o 1980 i 1987.

Ar 9 Gorffennaf 2007 cafodd llawdriniaeth yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd i wella llif y gwaed i'w galon ar ôl iddo dioddef o boenau yn ei stumog.

Bu farw ar 17 Mai 2017 yn 77 oed. Y diwrnod canlynol agorwyd llyfr coffa yn y Senedd ym Mae Caerdydd ac yn swyddfa'r Cynulliad ym Mae Colwyn. Talwyd teyrnged iddo gan wleidyddion o sawl plaid:

.
Cynhaliwyd ei angladd yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar 31 Mai 2017 a llywiwyd y seremoni gan yr offeiriad dyneiddiol Lorraine Barret.

Etholwyd Morgan yn Aelod Seneddol Llafur dros Orllewin Caerdydd yn etholiad cyffredinol 1987, sedd a ddaliodd nes iddo ei gadael yn 2001. Yn yr Wrthblaid daeth yn llefarydd y Blaid Lafur ar Ynni (1988-1992) a materion Cymreig (1992-1997). Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 1997 bu'n Gadeirydd Pwyllgor Dethol y Tŷ Cyffredin ar Weinyddiaeth Gyhoeddus (1997-1999).

Daeth Morgan yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd yn etholiad Cynulliad 1999 ac fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd y Cynulliad dros Ddatblygu Economaidd a Materion Ewropeaidd.

Ymgeisiodd am enwebiad Llafur am swydd y Prif Ysgrifennydd, gan golli i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Ron Davies. Ymddiswyddodd Davies yn dilyn sgandal ynghylch eiliad o wallgofrwydd ar Gomin Clapham yn 1998, ac ymgeisiodd Morgan am y swydd unwaith eto. Y tro hwn, etholwyd ei wrthwynebydd Alun Michael fel y Prif Ysgrifennydd ond ymddiswyddodd hwnnw lai na blwyddyn yn ddiweddarach yn dilyn ansicrwydd am gefnogaeth digonol o fewn ei blaid ei hun, a bygythiad o bleidlais o ddiffyg hyder gan y gwrthbleidiau. Daeth Rhodri yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ac yn Brif Ysgrifennydd Cymru ar 9 Chwefror 2000 a Phrif Weinidog Cymru ar 16 Hydref 2000 pan newidwyd enw'r swydd.

Cafodd ei benodi'r i'r Cyfrin Gyngor yng Ngorffennaf 2000. Bu'n arweinydd rhwng Chwefror 2000 a Mai 2003 mewn clymblaid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol. Ar ôl etholiad y Cynulliad ym Mai 2003, enillodd Llafur digon o seddau i allu llywodraethu heb glymblaid.

Yn Ebrill 2007 yn ystod yr ymgyrch etholiadol, dywedodd y byddai yn ymddeol fel Prif Weinidog pe bai Llafur yn colli'n drwm yn etholiad Cynulliad 2007 ond gwrthododd ddweud faint o seddau fyddai rhaid colli cyn i hynny ddigwydd.

Yn dilyn yr etholiad yr oedd gan Lafur 26 sedd o gymharu â 30 yn 2003, ac wrth i drafodaethau ddechrau ar ffurfio llywodraeth newydd dywedodd Morgan y byddai hi'n annhebyg i Lafur gytuno i glymbleidio ag unrhyw blaid arall. Ond dechreuwyd trafodaethau rhwng Ceidwadwyr, Plaid Cymru, a'r Democratiaid Rhyddfrydol,  a dywedodd Rhodri ei fod yn dal yn obeithiol y gallai Llafur ddal i arwain y llywodraeth fel y blaid fwyaf. Methwyd ffurfio clymblaid ar ôl i'r Democratiaid Rhyddfrydol rhoi'r gorau i'r trafodaethau, a chynhaliwyd sesiwn arbennig yn y Cynulliad ar 25 Mai, tair wythnos ar ôl yr etholiad, i enwebu Morgan i gadw swydd y Prif Weinidog gyda llywodraeth leiafrifol o 26 sedd allan o 60. Dywedodd yn ystod y sesiwn:
Ym Mehefin 2007 dechreuodd trafodaethau rhwng Llafur a Phlaid Cymru am ffurfio llywodraeth glymblaid a lluniwyd y rhaglen llywodraethu ddadleuol Cymru'n Un. Ffurfiwyd y glymblaid ar ôl i 78.43% o aelodau Llafur pleidleisio o blaid clymblaid â Phlaid Cymru (mwyafrif llethol yn ôl Morgan) ar 6 Gorffennaf, a 92% o aelodau Plaid Cymru o blaid y diwrnod wedyn.

Ar rifyn 2 Chwefror 2006 y rhaglen BBC Question Time, recordiwyd yn Aberystwyth, gwrthododd Morgan dweud a oedd yn cefnogi Rhyfel Irac ar ôl i'r cwestiwn cael ei ofyn sawl tro gan aelodau'r gynulleidfa a'r panel a'r cyflwynydd, David Dimbleby. Dywedodd nid oedd ganddo farn oherwydd: Ro'n i wedi gadael Tŷ'r Cyffredin - pe bawn i wedi aros yn y Senedd, byddwn i wedi cael pleidlais. Ar 16 Ebrill, 2007 cyfaddefodd i BBC Cymru y byddai mwy na thebyg wedi pleidleisio yn erbyn y rhyfel pe bai'n AS ar y pryd.

Roedd Morgan yn siaradwr y Gymraeg ac yn credu nad yw'n iaith y gorffennol, ond ni chefnogodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 gan ddweud taw deddf wan i sefydlu cwangos oedd hi. Derbyniodd Morgan feirniadaeth gan Gymdeithas yr Iaith am newid ei feddwl am y ddeddf ar ôl dod yn Brif Weinidog. Cefnogodd ddileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ond nid pasio Deddf Iaith Newydd.

Gwnaeth Morgan nifer o addewidion ar ran y Blaid Lafur yng Nghymru ym maes iechyd. Yn ystod ei arweinyddiaeth cyflwynwyd gwaharddiad ysmygu a presgripsiynau am ddim yng Nghymru. Cyn etholiad Cynulliad 2007 amlinellodd cynlluniau ar gyfer sefydlu system gwyno er mwyn i gleifion a theuluoedd yng Nghymru fynegi eu pryderon am bolisi iechyd y llywodraeth. Dywedodd yn Ebrill 2007, mae gweddill Prydain yn cenfigennu aton ni am fod y Cymry'n cael moddion am ddim, ac am fod y gwaharddiad smygu wedi dod i rym ymhell cyn Lloegr.

Ar ôl i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Tony Blair, ddatgan ar 10 Mai 2007 ei fwriad i ymddiswyddo ar 27 Mehefin y flwyddyn honno, dywedodd Morgan:

Ar yr un ddiwrnod dywedodd yn ystod cyfweliad ag ITV ei fod yn teimlo iddo gael ei drin yn wael gan Blair ar ôl i Blair sicrhau swydd Prif Weinidog Cymru i Alun Michael yn 1999:

Amddiffynnodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain, sylwadau Morgan gan ddweud: Dwi wedi cysylltu â swyddfa Rhodri ac mae'r sylw wedi ei gymryd allan o'i gyd-destun.

Roedd Morgan yn cael ei adnabod am ambell i sylw dadleuol, a arweinidod yn anochel at feirniadaeth gan ei wrthwynebwyr.

Yn Chwefror 2007, derbyniodd Morgan feirniadaeth gan arweinwyr pleidiau eraill ar ôl dweud mewn araith ar newid hinsawdd: Dywedodd Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru, bod y sylwadau yn hollol anghyfrifol a Mike German, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad, bod gan Morgan agwedd hunanfodlon iawn tuag at gynhesu byd-eang.

Yn hwyrach yn yr un mis, bu ragor o feirniadaeth ar ôl i Morgan ddweud jôc am Ian Paisley, arweinydd yr Unoliaethwyr Democrataidd, mewn cinio cyn cynhadledd y Blaid Lafur. Dywedodd fod Dr Paisley wedi troi'n Babydd cyn marw oherwydd y byddai'n well colli Pabydd na Phrotestant. Dywedodd llefarydd ar ran yr Unoliaethwyr Democrataidd nid oedd yn sylw y byddai disgwyl i Brif Weinidog unrhyw ran o'r Deyrnas Gyfunol ei wneud, ac ymateb mab Dr Paisley, Ian, oedd dylai gwleidyddion gael eu geni â chromosôm ychwanegol fel bod eu croen yn fwy trwchus.

Bu Morgan yn enwog yn llygad y cyhoedd am ei ddyfyniadau dryslyd yn y Saesneg, a rhoddwyd gwobr baglu dros eiriau (Foot in Mouth) yr Ymgyrch Saesneg Clir (The Plain English Campaign) iddo dwywaith. Enillodd y tro cyntaf yn 1998 pan atebodd Jeremy Paxman mewn cyfweliad ar y rhaglen BBC Two Newsnight, pan gafodd ei ofyn os oedd e'n dymuno bod yn arweinydd Llafur yn y Cynulliad newydd, gan ddweud Does a one-legged duck swim in circles?. Yr ail dro, yn 2005, dywedodd mewn dadl yn y Cynulliad ar ddyfodol heddluoedd Cymru: The only thing which isn't up for grabs is no change and I think it's fair to say, it's all to play for, except for no change. Ymatebodd Morgan i ennill y wobr yr ail waith gan ddweud:

Bu Morgan hefyd yn adnabyddus am y ddelwedd ganfyddadwy o'i wallt a'i ddillad anniben. Cafodd ei ddychanu ar y rhaglen S4C Cnex, gyda chyfeiriadau aml i'w wallt. Ar ail rifyn y pumed cyfres o raglen comedi BBC Cymru High Hopes, atebodd y cymeriad Kurt Stable (a chwaraewyd gan yr actor gwadd Dewi 'Pws' Morris) cwestiwn amlwg gan ddweud Does Rhodri Morgan need a new jacket?.

Ym Mawrth 2005 cyrhaeddodd Morgan stiwdios BBC Cymru i ymddangos ar y rhaglen Dragon's Eye pan gafodd ei anfon i'r ystafell gwisgo anghywir gan aelod newydd o staff ar ôl cael ei gamgymryd am rodiwr ar gyfer y gyfres ffuglen wyddonol Doctor Who.

Ymddangosodd Morgan ar y rhaglen The Big Welsh Joke, a gyflwynwyd gan Rhod Gilbert ar BBC 2W, ym Mawrth 2007 yn dweud jôc am dân yn y Rhondda a dyn-tân Jamaicaidd o Gaerdydd.

Yn 2017 sefydlwyd Academi Morgan ym Mhrifysgol Abertawe, melin drafod newydd, wedi ei enwi ar ôl Rhodri. Nod yr Academi yw gwneud ymchwil a gomisiynwyd ac ymchwil 'awyr las' yn y gwyddorau cymdeithasol a'r celfyddydau a'r dyniaethau. Maent hefyd yn trefnu darlith flynyddol er cof am Rhodri Morgan. Traddodwyd y cyntaf ar 25 Medi 2018 gan Bruce Adamson, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban, yn cymharu’r cynnydd a wnaed o ran sicrhau hawliau dynol plant a phobl ifanc yng Nghymru a’r Alban ers datganoli.

Enwyd cwch patrolio newydd yn FPV Rhodri Morgan, cwch sy'n rhan o fflyd fydd yn gofalu am ddyfroedd Cymru gan chwilio am weithgarwch pysgota anghyfreithlon.




#Article 34: Rhyfel Irac (828 words)


Yn 2003, fe aeth llywodraethau Unol Daleithiau America a'r Deyrnas Unedig i ryfel yn erbyn Irac a'i harlywydd Saddam Hussein, rhyfel a barodd hyd at 2011 pan adawodd yr UDA.

Cred llawer fod yr Americanwyr, o dan eu llywydd George W. Bush am ddial ar Saddam Hussein ar ôl ymosodiadau terfysgol 11 Medi 2001, ond nid oes tystiolaeth am unrhyw gysylltiad rhwng Irac a'r ymosodiadau.

Fe brotestiodd miliynau o bobl yn erbyn y rhyfel yn Llundain ac yn ninasoedd eraill trwy'r wlad a thrwy'r byd ym mis Chwefror 2003, ond ni chafwyd effaith ar arweinwyr y ddwy wlad. Er hyn, parhaodd protestiadau am fisoedd i ddod.

Yn dilyn Rhyfel y Gwlff yn 1991 gosodwyd sancsiynau ar gyfundrefn Saddam hyd nes y cadarnhawyd fod unrhyw arfau dinistriol wedi eu dinistrio'n llwyr. Yn dilyn y rhyfel hyd 1998 arolygwyd Irac gan UNSCOM, gan ddarganfod a dinistrio deunydd cemegol a chyfarpar niwclear a deunydd arall a waharddwyd. Datblygodd gwrthdarro rhwng Irac a'r Cenhedloedd Unedig yn 1998 ac awdurdodwyd gan gyfundrefn Clinton ymgyrch fomio i rwystro Saddam rhag datblygu arfau dinistriol ac i ddileu ei allu i fygwth ei gymdogion.

Mae'r rhesymau dros yr ymosodiad ar Irac yn 2003 fel ei rhoddir gan UDA yn ddadleuol. Daeth y galwadau cyntaf am ryfel oddi wrth PNAC (Project for the New America) a'r American Enterprise Institute gyda dadleuon wedi eu seilio yn bennaf ar honiadau bod Saddam yn bygwth diddordebau America yn y rhanbarth. Nid dyma'r rhesymau serch hynny a roddodd gweinyddiaeth Bush ac nid yw'r rhesymau hyn erioed wedi cael eu cydnabod gan gyfundrefn America.

Mewn araith ar 12 Medi 2002 dechreuodd George W. Bush ymgyrch gyhoeddus i geisio argyhoeddi'r byd bod Saddam Hussein yn torri cyfyngiadau ar arfau dinistriol, hawliau dynol, carcharorion rhyfel Ciwait, terfysgaeth a gwrthod gadael i arolygwyr y CU yn ôl i Irac. Er honodd awdurdoadau Irac taw llawn anwireddau oedd yr araith, cytunodd nhw i adael yr arolygwyr i fewn ar 17 Medi 2002.

Dechreuodd yr ymosodiad a'r gwladychiad ar yr 20fed o Fawrth 2003 pan oresgynnodd lluoedd America gyda chynorthwy lluoedd Prydain, Awstralia, Denmarc a Gwlad Pwyl. Gorchfygwyd byddinoedd Saddam Hussein yn gyflym ac fe wnaeth ffoi. Ceisiodd y cynghrair a arweiniwyd gan America i sefydlu llywodraeth ddemocrataidd, ond methodd  adfer cyfraith a threfn yn Irac. Arweiniodd yr anhrefn i ryfel cartref rhwng y Sunni a'r Shia yn Irac ac fe ddaeth al-Qaedia i weithredu yno. Dechreuodd gwledydd y cynghrair dynnu allan fel y cryfhodd y farn gyhoeddus yn erbyn y rhyfel. Mae'r rhyfel yn dal yn ddadleuol o gwmpas y byd.

Ar 20 Mai, 2003, cyhoeddodd America cynllun i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ar gyfer ail-adeiladu Irac.. Sonir yn y cynllun am greu llywodraeth newydd ac am osod y rhaglen ddadleuol olew am fwyd am gyfnod hirach na'r disgwyl.

Wrth drafod dyfodol llywodraeth Irac yn ystod cyfarfod yng Nghastell Hillsborough, Belffast, dywedodd yr Arlywydd Bush Iraciaid o du mewn a thu allan y wlad fydd yn ffurfio'r llywodraeth newydd yno. Ar ôl sefydlu'r llywodraeth newydd, daeth galwadau o'r gwledydd sy'n ffinio ag Irac ar luoedd America a Phrydain i adael y wlad,.

Mater gymharol hawdd oedd gorchfygu byddin aneffeithiol Irac ar y maes agored ond yn fuan ar ôl diwedd swyddogol y rhyfel dechreuodd gwrthryfelwyr daro'n ôl yn erbyn lluoedd UDA.

Un o frwydrau mwyaf y gwrthryfel oedd Brwydr Fallujah yn 2004 pan wnaeth lluoedd America gyfres o gyrchoedd milwrol yn erbyn y ddinas honno am ei bod yn gadarnle i wrthryfelwyr.

Roedd y gwrthryfelwyr yn cynnwys cyn-aelodau o'r Blaid Baath a chefnogwyr Saddam Hussein, grwpiau Sunni, a grwpiau Shia fel Byddin y Mahdi dan arweinyddiaeth Muqtada al-Sadr. Cymhlethwyd y sefyflla gan y ffaith fod y grwpiau hyn yn tueddu i fod yn elyniaethus i'w gilydd, yn arbennig y Baathiaid a'r grwpiau Sunni ar y naill law a'r grwpiau Shia ar y llaw arall. Credir yn ogystal fod nifer o dramorwyr yn y wlad, rhai ohonyn nhw'n ymladd gyda'r grwpiau uchod ac eraill yn perthyn i grwpiau terfysgol gan gynnwys Al Qaeda a grwpiau sy'n gweithredu yn enw y mudiad terfysgol hwnnw.

Yn ystod y rhyfel, protestiodd miliynau o bobl yn erbyn y rhyfel yn Llundain a thrwy'r byd gan ddod i'w hanterth yn Chwefror 2003; ond ni chafwyd effaith ar arweinwyr yr UDA, Prydain na gwledydd eraill y Cynghreiriaid. Un o'r prif resymau dros benderfyniad Tony Blair dros fynd i'r Rhyfel oedd ei honiad fod gan Irac y gallu i ymosod gyda chemegau gwenwynig ar Brydain, gyda dim ond 45 munud o rybydd.

Ar 15 Mehefin 2009 cyhoeddodd Prif Weinidog Prydain, Gordon Brown, ymchwiliad i'r hyn a arweiniodd i'r Rhyfel gan gynnwys y 'rhesyma' a'r dystiolaeth a oedd ar gael i wneud y penderfyniad o fynd i'r rhyfel, 'er mwyn dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol'. Gelwir yr ymchwiliad hwn yn Ymchwiliad Chilcot i Ryfel Irac a chychwynwyd ar y gwaith ar 24 Tachwedd 2009.

Yn ystod Rhyfel Irac, a hyd at ddiwedd Mehefin 2005, bu farw 654,965 o bobl yn ôl y Lancet




#Article 35: Senedd Cymru (456 words)


Senedd Cymru () neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng Mai 1999 a Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (). Sefydlwyd y Cynulliad ym 1999 ar ôl cynnal refferendwm ym 1997.

Ceir 60 o aelodau, neu 'Aelodau o'r Senedd' (AS) a etholir (ers 2011) am dymor o 5 mlynedd; mae 40 ohonynt yn cynrychioli etholaeth daearyddol ac 20 yn cael eu hethol dan drefn cynrychiolaeth gyfrannol Dull D'Hondt dros y pum etholaeth ranbarthol yng Nghymru. Mae'n system unsiambr, hynny yw, nid oes 'ail siambr' i'r Ddeddfwrfa Gymreig.

Ffurfiwyd y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998, a oedd yn ymateb i Refferendwm datganoli i Gymru, 1997. Mae'r Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Y corff democrataidd sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yr enw ar gorff corfforaethol Senedd Cymru yw Comisiwn y Senedd. Caiff yr aelodau etholedig eu cefnogi gan Weision Sifil sy'n gweithio yn y meysydd datganoledig. Mae'r rhain yn cynnwys meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus, fel iechyd, addysg a'r amgylchedd.

Mae aelodau yn cael eu hethol am dymor penodedig. Pedair blynedd oedd y tymor gwreiddiol, ond yn sgil deddfwriaeth yn San Steffan i greu Seneddau o 5 mlynedd ymestynwyd cyfnod y Cynulliad i 5 mlynedd. Cynhaliwyd etholiadau ym 1999, 2003, 2007, 2011 a 2016. Cynhelir is-etholiadau os oes Etholaeth leol o'r Cynulliad yn dod yn wag, ond os oes gwagle ar y rhestr rhanbarthol bydd pleidiau gwleidyddol yn enwebu yr unigolyn nesaf ar y rhestr i ymuno gyda'r Cynulliad.

Ar 27 Tachwedd 2019 pasiwyd Deddf yn y Cynulliad, Deddf Senedd ac Etholiadau, i roi'r bleidlais i bobl 16 oed, yn dechrau o etholiadau'r Cynulliad nesaf yn 2021. Yn ogystal a hyn bydd preswylwyr tramor yng Nghymru hefyd yn cael yr hawl i bleidleisio. Roedd 41 o 60 aelod y Cynulliad o blaid y newid gyda Llafur a Phlaid Cymru a'r Ceidwadwyr a Phlaid Brexit yn erbyn. Roedd y ddeddf hefyd yn  rhoi enw newydd dwyieithog i'r Cynulliad - Senedd Cymru a Welsh Parliament. Yn gynharach yn y mis roedd cynnig i ddewis enw uniaith Gymraeg i'r Senedd ond cafodd ei wrthod gan y mwyafrif.

Cafodd grymoedd i basio mesurau deddfwriaethol o fewn meysydd penodol eu rhoi ar ddechrau'r Trydydd Cynulliad ym mis Mai 2007 dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Ar 3 Mawrth 2011, cynhaliwyd Refferendwm ar bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011 i benderfynu a ddylai'r Cynulliad gael y pwer y lunio deddfau ei hun.




#Article 36: Llywodraeth Cymru (143 words)


Llywodraeth Cymru (Saesneg: Welsh Government) yw'r llywodraeth ar gyfer Cymru sy'n cynnwys y Prif Weinidog a'i Gabinet. Hyd mis Mai 2011, yr enw oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru (Saesneg: Welsh Assembly Government). Newidwyd yr enw er mwyn osgoi dryswch rhwng y llywodraeth ei hun sydd, fel pob llywodraeth, yn gorff gweithredol, a Senedd Cymru, sy'n gorff deddfwriaethol. Fe'i cyfansoddwyd dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; mae Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig neu unrhyw lywodraeth a senedd arall. Y corff democrataidd, etholedig, sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Senedd Cymru. Hyd at Mai 2020 yr enw ar Senedd Cymru oedd 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru'.

Dyma gyfansoddiad presennol Llywodraeth Cymru (ers 13 Rhagfyr 2018):

Dyma'r adrannau Llywodraeth Cymru.




#Article 37: Tywysog Cymru (525 words)


Tywysog Cymru yw teitl etifedd diymwad coron y Deyrnas Unedig. Diben gwreiddiol y teitl oedd i uno Cymru dan benarglwyddiaeth Tywysog Gwynedd. Y person cyntaf i ddefnyddio'r teitl oedd Dafydd ap Llywelyn, ond Llywelyn ap Gruffudd oedd y cyntaf i gael ei gydnabod fel Tywysog Cymru, gyda sefydliad Tywysogaeth Cymru ym 1267. Ar ôl cwymp Llywelyn ym 1282 cafodd y dywysogaeth a'r teitl eu meddiannu gan goron Lloegr, ac ers arwisgo Edward o Gaernarfon ym 1301 mae'r teitl wedi cael ei roi i aer brenin Lloegr. Mae rhai eraill wedi hawlio'r teitl, yn bennaf Dafydd ap Gruffudd, Owain Lawgoch ac Owain Glyn Dŵr.

Brenin oedd y teitl a ddefnyddiai rheolwyr Cymreig cyn i'r term tywysog gael ei fabwysiadu. Serch hynny nid y tywysogion oedd y cyntaf i geisio uno Cymru dan un penarglwydd.

Bu tueddiad i ddefnyddio'r gair Tywysog am reolwyr Cymru o tua 1200 ymlaen. Cyn hynny defnyddiwyd y gair brenin hyd yn oed gan groniclwyr Lloegr. Daeth Owain Gwynedd i ddefnyddio'r teitl princeps Wallensium (tywysog y Cymry) erbyn diwedd ei oes. Disgrifir ei fab Dafydd ab Owain Gwynedd fel princeps Norwalliae (tywysog gogledd Cymru) a Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth fel proprietarius princeps Sudwalie, (priod dywysog de Cymru). Mae John Davies (hanesydd) yn ei gyfrol Hanes Cymru yn pwysleisio nad yw newid teitl o frenin i dywysog yn golygu lleihad yn eu statws o angenrheidrwydd. Ystyr y gair Cymraeg 'tywysog' yw un sy'n tywys, arweinydd, rheolwr neu'n llythrennol un sydd ar y blaen, un sy'n arwain.

Defnyddiai Llywelyn Fawr y teitl Tywysog Gogledd Cymru.

Nod pob un o'r tywysogion hyn oedd i benarglwyddiaethu ar Gymru gyfan. Y rhai yn eu plith a lwyddodd i ddod yn benarglwyddi a de facto tywysogion Cymru oedd Owain Gwynedd, Rhys ap Gruffudd a Llywelyn Fawr; ond Llywelyn ap Gruffudd a lwyddodd i sefydlu Tywysogaeth Cymru.

Prif Erthygl: Tywysogaeth Cymru

Sefydlwyd Tywysogaeth Cymru ym 1267 gan Lywelyn ap Gruffudd gyda chydnabyddiaeth Brenin Lloegr a'r Pab. Ar ôl cwymp Llywelyn ym 1282 cafodd y dywysogaeth a'r teitl eu meddiannu gan goron Lloegr, ac ers arwisgo Edward o Gaernarfon ym 1301 mae'r teitl wedi cael ei roi i aer brenin Lloegr.

Ers y Deddfau Uno ym 1536 a 1543 nid oes gan ddeilydd y teitl unrhyw rôl gyfansoddiadol yng Nghymru

Hawliodd Dafydd ap Gruffudd y teitl ar ôl marwolaeth ei frawd Llywelyn ap Gruffudd, ond ni oroesodd y rhyfel yn erbyn Edward I, brenin Lloegr. 

Hawliodd Owain Lawgoch y teitl fel etifedd olaf llinach tywysogion Aberffraw, ond cafodd ei lofruddio cyn iddo wirioneddu ei gynlluniau. 

Arweinydd gwrthryfel yn erbyn Harri IV, brenin Lloegr, coronwyd Owain yn Dywysog Cymru gan ei gefnogwyr ym 1400 a chafodd ei gydnabod gan frenin Ffrainc. Ffurfiodd Owain gynghrair strategol gyda gwrthwynebwyr mwyaf nerthol Harri. Carcharodd Edmund Mortimer, ewythr 5ed Iarll y Mers (Sir Caergrawnt), a oedd yn hawlio gorsedd Lloegr, ym 1402. Am gyfnod roedd yn rheoli bron y cyfan o Gymru, ond ar ôl 1405 dechreuodd y gwrthryfel edwino'n raddol. Ceir y cofnod olaf am Owain yn 1412, ac nid oes unrhyw sicrwydd am ei hanes ar ôl hynny. Saif, fodd bynnag, yng nghof y Gymru gyfoes fel un o bileri pwysicaf y genedl.




#Article 38: Alun Lewis (106 words)


Bardd Eingl-Gymreig o Aberdâr oedd Alun Lewis (1 Gorffennaf 1915 – 5 Mawrth 1944). Roedd yn frodor o Gwmaman ger Aberdâr. Yn ôl rhai, dyma fardd gorau'r Ail Ryfel Byd.

Ymunodd â'r fyddin yn 1940 er ei fod yn heddychwr. Priododd Gwenno Ellis, athrawes, yn 1941.

Athro oedd ei dad, Thomas John Lewis, a daeth yntau'n athro yn Ysgol Lewis i Fechgyn, Pengam, am ychydig. Ond i lawr yn y lofa y gweithiai ei dri brawd.

Ac yntau'n ddim ond 28 mlwydd oed, fe'i lladdwyd gan ei ddrull ei hun ger Arakan yn Byrma ar 5 Mawrth 1944 a chafodd ei gladdu ym mynwent rhyfel Taukyan.




#Article 39: Llundain (1128 words)


Prifddinas y Deyrnas Unedig a phrifddinas Lloegr yw Llundain (Saesneg: London). Saif y ddinas ar lan afon Tafwys yn ne-ddwyrain Lloegr, gyda phoblogaeth o tua 7.5 miliwn. Mae 130 o filltiroedd rhwng Llundain a Chaerdydd.

Mae'r ddinas wedi bodoli ymhell cyn dyfodiad y Saeson i Loegr: ceir olion Celtaidd a Rhufeinig, ac mae'n debyg bod yr enwau modern arni, drwy'r enw Lladin Londinium, o darddiad Celtaidd. Yn ôl Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae (12fed ganrif) a'r chwedl Gymraeg Cyfranc Lludd a Llefelys, Lludd fab Beli a roddodd ei enw i'r ddinas drwy'r enw Caer Ludd.

Mae pencadlys a phrif faes rygbi Lloegr yn Twickenham, ardal faestrefol yn ne-orllewin y ddinas. Mae'r ddinas hefyd yn gartref i sawl tîm pêl-droed. Lleolir stadiwm genedlaethol newydd Lloegr yn Wembley ers 2007; fe'i codwyd ar gost o £800,000,000.

Mae tarddiad yr enw Llundain yn dal i fod yn ddirgelwch. Sieffre o Fynwy oedd yn gyfrifol am darddiad yr enw cynnar gan iddo ysgrifennu hanes y brenin Celtaidd Lludd fab Beli, a gymerodd drosodd y ddinas a'i galw'n Kaerlud. Newidiodd yr enw yma dros amser i Kaerludien ac yna London. Mae yna ddamcaniaethau eraill dros darddiad y gair, rhai yn dod o'r Frythoneg ac un honiad heb fawr o goel arno yn deillio nôl i'r Eingl-sacsonaidd. Mae tystiolaeth fod aneddiadau Brythonig gwasgaredig yn yr ardal yn deillio nôl cyn y Rhufeiniaid, ond sefydlwyd yr anheddiad sylweddol cyntaf gan y Rhufeiniaid a'i alw'n Londinium, yn dilyn concwest y Rhufeiniaid yng ngwledydd Prydain. Goroesodd y Londinium yma am 17 mlynedd yn unig oherwydd yn y flwyddyn 61 O. C. ymosododd Llwyth yr Iceniaid ar Lundain o dan arweiniad Brenhines Buddug (Boundica). Roedd hon yn fuddugoliaeth ysgubol a llosgwyd Llundain (a oedd eisoes yn datblygu'n brifddinas de facto y dalaith) i'r llawr. Mae'r lludw yn dal i gael ei gloddio oddi yno ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach.. Ailadeiladwyd Llundain ar ôl yr ymosodiad, a daeth yn brif ddinas ar ôl Colchester. Roedd gan y Llundain Rhufeinig boblogaeth o tua 60,000 erbyn yr amser yma.

Yn 450 O.C. roedd Llundain yn parhau i fod yn nwylo'r Brythoniaid.

Erbyn y 600au, cododd yr Eingl-sacsonaidd adeiladau newydd a galw'r dref yn Lundenwic a oedd tua 1000 troedfedd i fyny’r afon o’r hen ddinas Rufeinig; bellach a elwir yn Covent Garden. Mae'n debygol y byddai harbwr wedi bod ar aber afon Fleet bryd hynny ar gyfer pysgota a masnachu. Tyfodd y masnachu hyd oni chafodd yr ardal ei goresgyn gan Y Llychlynwyr. Bu'n rhaid i’r ddinas ailsefydlu ei hun yn yr hen safle, sef safle Llundain Rufeinig lle'r oedd yna furiau i'w hamddiffyn. Parhaodd yr ymosodiadau gan y Llychlynwyr yn ne-ddwyrain Lloegr tan 886 pan ail-gipiodd Alfred Fawr y ddinas a chreu heddwch efo’r arweinydd Daneg, Guthrum. Daeth y ddinas Sacsonaidd, wreiddiol sef ‘’Lundenwic’’ yn ‘’Ealdwic’’ (Hen Ddinas), enw a oroesodd tan heddiw fel ‘’Aldwych’’ sydd yn Ninas San Steffan.

Mewn dial, ymosododd byddin y Saeson gan ddymchwel Pont Llundain. Roedd y Saeson yn ôl, ac yn rheoli mewn safle pwerus. Daeth Canute Fawr i rym yn 1016,  arweiniodd y ddinas tan ei farwolaeth yn 1035. Pan fu farw, dychwelodd arweiniad y dalaith i'r Sacsoniaid. Erbyn hyn, roedd Llundain yn un o ddinasoedd mwyaf (a mwyaf ffyniannus) Lloegr er bod pencadlys y llywodraeth yn Winchester. Yn dilyn buddugoliaeth Brwydr Hastings yn 1066, coronwyd Gwilym y Gorchfygwr ac yna Dug Normandi fel Brenin Lloegr mewn abaty newydd yn San Steffan ar ddydd Nadolig 1066. Rhoddodd Gwilym (William) freintiau i’r dinasyddion, ac ar yr un pryd adeiladwyd Tŵr Llundain i gadw trefn ar ei dinasyddion.

Dechreuwyd adeiladu Palas San Steffan yn 1097 yn agos i’r abaty o’r un enw. Mae San Steffan wedi bod yn ardal lywodraethol o’r cyfnod hwnnw hyd heddiw. Tyfodd Llundain mewn cyfoeth a phoblogaeth yn ystod yr Oesoedd Canol. Yn 1100 roedd poblogaeth Llundain tua 18,000; erbyn 1300 tyfodd i bron 100,000. Gwaharddodd Brenin Edward Iddewon o'r ddinas a lleihaodd y boblogaeth.

Daeth trychineb y Pla du yn y 14eg ganrif. Collodd Llundain traean o’i phoblogaeth. Roedd yn weddol dawel yn ystod y canol oesoedd, oni bai am rhai rhyfeloedd cartref megis Rhyfeloedd y Rhosynnau. Ar ôl trechu'r Armada Sbaeneg yn 1588, cafwyd sefydlogrwydd llywodraethol a gwelwyd twf yn y ddinas. Yn 1603 daeth Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI) yn frenin Lloegr. Roedd ei ddeddfau gwrth-Gatholig yn amhoblogaidd iawn, ac felly cafwyd ymgais i'w lofruddio; adnabyddir hyn fel Cynllwyn y Powdr Gwn ar 5 Tachwedd 1605.

Achosodd y Pla Mawr nifer o broblemau yn Llundain yn gynnar yn yr 17g. Lladdwyd rhwng 70,000 a 100,000 yn y pla rhwng 1665-66. Daeth y pla i ben fwy na thebyg oherwydd i’r dân mawr Llundain, ei glirio yn 1666. Cynnwyd y tân yn y ddinas wreiddiol ac ymledodd  drwy’r adeiladau pren a'r toeau gwellt. Cymerodd yr ailadeiladu 10 mlynedd i'w hailadeiladu.

Yn dilyn twf mawr Llundain yn y 18fed ganrif, fe gafodd yr anrhydedd o'i galw'r ddinas fwyaf yn y byd o 1831 i 1925. Arweiniodd y cynnydd mewn cludiant at adeiladu’r system danddaearol cyflyma'r byd.

Lladdwyd dros 30,000 o bobl yn ystod Y Blitz gan ddinistrio nifer fawr o adeiladau ar draws Llundain.

Awdurdodau lleol o fewn Llundain Fwyaf yw Bwrdeistrefi Llundain (Saesneg: London Boroughs). Ceir 32 o Fwrdeistrefi Llundain ynghyd a Dinas Llundain, nad sydd yn cael ei ystyried yn fwrdeistref.

Yn anad un ddinas arall yn Lloegr mae gan Lundain gysylltiadau hir â Chymru. Mae Cymry Llundain wedi cael eu disgrifio fel yr hynaf a'r fwyaf o'r holl gymunedau o alltudion o Gymru. O'r Oesoedd Canol Diweddar ymlaen, ceir cofnodion am Gymry yn ymweld â Llundain – ac weithiau'n aros yno – fel milwyr hur, masnachwyr, ac ati. Erbyn canol y 18g roedd cymuned bur sylweddol o Gymry alltud yn byw yno, naill ai dros dro neu'n barhaol. Am fod Cymru yn amddifad o brifddinas a chanolfannau trefol mawr, daeth Llundain yn ganolbwynt i lenorion a hynafiaethwyr hefyd a sefydlwyd sawl cymdeithas ddiwylliannol wladgarol yno, gan gynnwys y Gwyneddigion a'r Cymmrodorion. Sefydlwyd Ysgol Gymraeg Llundain a fu'n gartref dros dro i gasgliad pwysig o lawysgrifau Cymraeg.

Daeth newid pwysig yn y 1950au a'r 1960au gyda chyhoeddi Caerdydd yn brifddinas Cymru a'r cynnydd mewn gwaith gweinyddol a ddaeth yn sgil hynny, a lleihaodd nifer y Cymry a aethai i Lundain er mwyn eu gyrfa broffesiynol. Amcangyfrifir gan rai bod tua 100,000 o bobl a aned yng Nghymru (heb sôn am bobl o dras Gymreig) yn byw yn Llundain heddiw, ond erbyn hyn mae rhwymau cymdeithas wedi llacio a bychan iawn mewn cymhariaeth â'r hen ddyddiau mae cymdeithas Gymraeg/Gymreig y ddinas erbyn heddiw.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llundain ym 1887 a 1909:

Mae gan Lundain y system trenau dan-ddaear hynaf yn y byd, y London Underground a adnabyddir fel yr Underground neu'r Tube.




#Article 40: Wikipedia (662 words)


Gwyddoniadur rhyngwladol, amlieithog a reolir gan y Wikimedia Foundation yw Wikipedia (). Dechreuodd y fersiwn Saesneg ar 15 Ionawr 2001, ac yn ystod y pum mlynedd ddilynol, dechreuwyd fersiynau mewn dros 200 iaith arall. Ar ddiwedd 2001, roedd dros 20,000 erthygl yn y fersiwn Saesneg a 18 o wahanol ieithoedd. Erbyn Mehefin 2010, roedd 3.3 miliwn erthygl.

Lansiwyd y Wicipedia Cymraeg ar 14 Gorffennaf 2003. Roedd dros 21,600 erthygl yn y Wicipedia Cymraeg ym Mai 2009 ac roedd yn 60ain o ran safle ieithyddol â 5,500 o ddefnyddwyr cofrestredig. Erbyn Rhagfyr 2010 roedd nifer yr erthyglau wedi codi i dros 30,000 a'i safle ar y rhestr yn 66ed. Ar hyn o bryd, ceir  erthygl ar y fersiwn Cymraeg, sef y 64ydd iaith allan o 280 iaith. Yn 2012 roedd y nifer o dudalennau  a oedd yn cael eu hagor ar y Wicipedia Cymraeg (ar gyfartaledd y diwrnod) yn: 62,161.

Ymhlith y fersiynau eraill o Wicipedia a geir mae Catalaneg, Llydaweg a Gwyddeleg.

Mae gan brosiect Wicipedia dair nodwedd bwysig, sy'n diffinio'i le ar y we fyd-eang:

Mae fandaliaeth yn fater pwysig ar Wicipedia: fandaliaeth ydy gosod dwli, nonsens, neu unrhyw wybodaeth anghywir (yn fwriadol) mewn erthyglau. Mae erthyglau sydd wedi cael eu fandaleiddio yn cael eu gwrthdroi ac mae'n bosibl gwahardd y fandal.

Mae cyfranogwyr Wicipedia yn dilyn ychydig o bolisïau sylfaenol.

Mae Wicipedia wedi cael ei newid gan filoedd o bobl. Mae Wicipedia yn galw pobl sydd yn ei newid yn Wicipedwyr. Mae cyfanswm y newidiadau yn y fersiwn Saesneg wedi dyblu rhwng Ionawr 2002 ac Ionawr 2003, o 1000 y dydd i 2000 y dydd.

Does dim prif newidiwr, fel y mae. Y ddau berson a sefydlodd Wicipedia yw Jimmy Wales (Prif Swyddog Gweithredol y cwmni bach rhyngrwyd Bomis Inc) a Larry Sanger. Yn y 13 mis cyntaf talwyd Sanger gan Bomis i weithio ar Wicipedia. Dywedwyd bod Sanger wedi cymryd rôl canolwr, yn gwneud penderfyniadau mewn amser o ddadlau poeth. Nid oedd hyn yn seiliedig ar awdurdod ffurfiol, ond gofynion y defnyddwyr. Daeth yr arian ar gyfer ei safle i ben, yn dilyn ei ymddeoliad yn Chwefror 2002. Mae gweithwyr Bomis, sydd wedi gweithio ar y gwyddoniadur, yn cynnwys Tim Shell, un o gyd-sefydlwyr Bomis, a hefyd Jason Richey a Toan Vo.

Dywedodd Richard Stallman, yr ymgyrchydd dros feddalwedd di-dâl, fod sefydliad Wicipedia yn newyddion cyffrous.

UseModWiki, a ysgrifennwyd gan Clifford Adams (Cyfnod I), oedd y fersiwn o feddalwedd wici a ddefnyddid i gynnal Wicipedia yn wreiddiol. I gychwyn, roedd rhaid defnyddio CamelCase ar gyfer dolenni, ond yn fuan roedd yn bosibl defnyddio'r dull cromfachau dwbl presennol. Yn Ionawr 2002, fe gychwynnodd Wicipedia ddefnyddio meddalwedd wici PHP a ysgrifennwyd ar gyfer Wicipedia gan Magnus Manke, gyda chronfa ddata MySQL, ac ychwanegwyd sawl rhinwedd newydd (Cyfnod II). Ar ôl ychydig, arafodd y safle nes bod golygu bron yn amhosibl; fe newidwyd y feddalwedd sawl tro ond dim ond am ychydig y lleddfodd hynny'r broblem. Yna, ysgrifennodd Lee Daniel Crocker y feddalwedd o'r newydd, ac mae'r fersiwn newydd, sy'n llawer gwell, wedi bod yn rhedeg ers Gorffennaf 2002. Gelwid y meddalwedd Cyfnod III hwn yn MediaWiki. Ers hynny, mae Brion Vibber wedi ymgymryd â thrwsio gwallau.

Yn Rhagfyr 2009, roedd 300 gweinydd (Saesneg: server) yn Fflorida a 44 yn Amsterdam yn cynnal holl wybodaeth Wikipedia. Tan 2004 un gweinydd oedd yn dal yr holl wybodaeth.

Cynhelir y prosiect ar weinydd neilltuol, a leolwyd yn San Diego. Mae'r gweinydd hwn yn gyfrifol am Wicipedia ymhob iaith. CPU Athlon deublyg 1700+ ydyw, gyda 2 GB o RAM, ac yn rhedeg Red Hat Linux â'r gweinydd gwe Apache.

Yng Ngorffennaf 2013 bydd rhyngwyneb Wicipedia yn newid (pob iaith), gan symlhau'r weithred o olygu. Bydd y Golygydd Gweladwy (Visual Editor) yn caniatau golygu ar y sgrin, yn ogystal â thrwy'r ffenestr olygu a wici-gôd arferol. Dywedir mai hwn fydd y datblygiad mwyaf, yn weladwy, o fewn Wicipedia ers ei chreu. Ni fydd yn gweithio ar y tudalennau Sgwrs, fodd bynnag.

Mae gan Wicipedia brosiectau cysylltiedig:




#Article 41: Y Deyrnas Unedig (1541 words)


Gwladwriaeth yw Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon neu'r Deyrnas Unedig (DU) (hefyd Y Deyrnas Gyfunol (DG)), sy'n cynnwys gwledydd Prydain Fawr (Lloegr, Yr Alban, Cymru) a thalaith Gogledd Iwerddon. Fe'i lleolir i ogledd-orllewin cyfandir Ewrop ac fe'i hamgylchynir gan Fôr y Gogledd, Môr Udd a Môr Iwerydd. Hefyd o dan sofraniaeth y Deyrnas Unedig, ond heb fod yn rhan o'r brif uned gyfansoddiadol, mae tiriogaethau dibynnol y Goron yn Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, a nifer o diriogaethau tramor.

Daeth Lloegr yn deyrnas unedig yn y 10g. Daeth Cymru, a fu dan reolaeth Seisnig ers Statud Rhuddlan ym 1284, yn rhan o Deyrnas Lloegr at bwrpasau deddfwriaethol trwy Ddeddfau Uno 1536. Gyda Deddf Uno 1707, cytunodd seneddau Lloegr a'r Alban i uno eu teyrnasoedd fel Teyrnas Prydain Fawr (er iddynt rannu'r un brenin er 1603). Ym 1800, cyfunwyd Teyrnas Prydain Fawr â Theyrnas Iwerddon (a fu dan reolaeth Seisnig uniongyrchol o 1169 hyd 1603) i greu Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Wedi cread y Dalaith Rydd Wyddelig ym 1922, allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd 6 sir yn y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth honno ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927.

Chwaraeodd y Deyrnas Unedig, gwladwriaeth ddominyddol y 19g mewn diwydiant a grym morwrol, rôl sylweddol yn natblygiad democratiaeth seneddol, ynghyd â chyfraniadau pwysig ym myd gwyddoniaeth. Yn anterth ei grym teyrnasai'r Ymerodraeth Brydeinig dros chwarter y ddaear. Yn ystod hanner cyntaf yr 20g gwanhaodd nerth y DU, yn rhannol oherwydd y ddau Ryfel Byd. Yn ystod ail hanner y ganrif gwelwyd datgymalu'r Ymerodraeth a chryfhau cysylltiadau â'r Ewrop fodern a llewyrchus. Serch hynny, er fod y DU wedi ymaelodi a'r Undeb Ewropeaidd, roedd gwahaniaeth barn ynghylch aelodaeth gan unigolion o fewn y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr. Parhaodd yr hollt o fewn y Ceidwadwyr i'r 2000au gan arwain at refferendwm aelodaeth yn 2016. Mae diwygiad cyfansoddiadol yn fater dadleuol ar hyn o bryd: mae Tŷ'r Arglwyddi wedi cael ei ddiwygio'n ddiweddar ac mae gan Gymru, Gogledd Iwerddon a Llundain gynulliadau gyda graddau gwahanol o bŵer; fe sefydlwyd hefyd senedd yn yr Alban. Mae mudiad Gweriniaeth Brydeinig yn cael sylw yn y cyfryngau o bryd i'w gilydd, er bod cefnogaeth i'r frenhiniaeth Brydeinig yn dal i fodoli, yn enwedig yn Lloegr, ond heb fod mor gryf ag yr oedd hi yn y gorffennol: ond dydy'r syniad o gael Gweriniaeth Brydeinig ddim yn cael ei gefnogi gan weriniaethwyr a chenedlaetholwyr yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Mae'r Deyrnas Unedig yn aelod o'r Gymanwlad a Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO). Mae hefyd yn aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, gyda phŵer gwaharddiad. Ymunodd a'r Gymuned Ewropeaidd yn 1973. Yn dilyn refferendwm yn 2016 gadawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020.

Gweler hefyd: Brenhinoedd a breninesau'r Deyrnas Unedig; Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon; Hanes Cymru; Hanes Iwerddon; Hanes yr Alban; Hanes Lloegr.

Mae'r Deyrnas Unedig (neu'r Deyrnas Gyfunol i ddefnyddio fersiwn arall ar yr enw yn y Gymraeg) yn frenhiniaeth gyfansoddiadol. Mae'r llywodraeth yn gweithredu yn enw'r Frenhines ac mae'n atebol i'r senedd a thrwy'r senedd i'r etholwyr. Llundain yw prifddinas y DU a Lloegr a dyna leoliad y llywodraeth a'r senedd. Y Frenhines Elisabeth II yw pennaeth y wladwriaeth ac fe'i coronwyd ym 1953, wedi iddi esgyn i'r orsedd ym 1952. Ar y cyfan y mae'n cyflawni dyletswyddau seremonïol, a'r Prif Weinidog sy'n rheoli'r wladwriaeth mewn gwirionedd.

Mae'r Deyrnas Unedig yn cynnwys tair gwlad - Yr Alban, Cymru, Lloegr - a thalaith Gogledd Iwerddon, sydd yn eu tro yn cynnwys yr israniadau canlynol:

Mae Cymru yn cynnwys 22 Awdurdod Unedol, sef 10 Bwrdeistref Sirol, 9 Sir, a 3 Dinas. Yn ogystal cedwir siroedd 1974-1996 fel 'siroedd seremonïol' ond heb unrhyw swyddogaeth mewn llywodraeth leol.

Mae'r Alban yn cynnwys 32 Awdurdod Unedol. Mae Gogledd Iwerddon yn cynnwys 24 o Ardaloedd, 2 Ddinas, a 6 Sir.

Mae Lloegr wedi ei rhannu yn naw Rhanbarth Swyddi'r Llywodraeth, sef Gogledd-ddwyrain Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Dwyrain Lloegr, Llundain Fwyaf, De-ddwyrain Lloegr a De-orllewin Lloegr. Mae gan bob rhanbarth ei Siroedd a/neu Siroedd Metropolitan a/neu awdurdodau unedol, ac eithrio Llundain a rennir yn fwrdeistrefi.

Yn ogystal mae nifer o diriogaethau dibynnol gwahanol yn perthyn i'r Deyrnas Unedig; gweler Gwladfa'r Goron. Ni chyfrifir Ynys Manaw nac Ynysoedd y Sianel yn rhanbarthau o'r Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith; dibynyddion y goron Brydeinig ydynt, ond y mae'r Deyrnas Unedig yn gyfrifol am eu materion allanol.

Rhennir brenhines y Deyrnas Unedig yn symbolaidd gyda 16 prif wledydd eraill, a adnabyddir gyda'i gilydd fel Teyrnasoedd y Gymanwlad, er bod y DU ddylanwad gwleidyddol bychan dros y cenedlaethau annibynnol hyn.

Erthyglau eraill: Dinasoedd y Deyrnas Unedig, Trefydd y Deyrnas Unedig.

Mae'r rhannau helaeth o dir Lloegr yn fryniog, ond mae'r wlad yn fwy mynyddig yn y gogledd; mae'r llinell rhwng y tiroedd hyn yn rhedeg rhwng yr afonydd Tees ac Exe. Afonydd Tafwys a Hafren yw prif afonydd Lloegr (er bod yr ail yn tarddu ger Pumlumon yng Nghymru); mae'r prif ddinasoedd yn cynnwys Llundain, Birmingham, Manceinion, Sheffield, Lerpwl, Leeds, Bryste a Newcastle upon Tyne. Ger Dover mae Twnnel Môr Udd yn cysylltu'r Deyrnas Unedig a Ffrainc.

Mae Cymru yn wlad fynyddig gan fwyaf: yr Wyddfa yw'r copa uchaf, gydag uchder o 1,085 m uwch lefel y môr, ac mae'r mynyddoedd mawr eraill yn cynnwys Bannau Brycheiniog, Pumlumon, Y Berwyn, Y Carneddau a'r Glyderau yn Eryri, a Bryniau Clwyd. I'r gogledd mae Ynys Môn. Mae'r prif afonydd yn cynnwys afon Hafren, afon Gwy, afon Teifi, afon Conwy ac afon Dyfrdwy. Caerdydd yw'r Brifddinas, yn ne Cymru; mae dinasoedd a threfi mawr eraill yn cynnwys Abertawe, Castell-nedd, Caerfyrddin, Penfro, Aberystwyth, Dolgellau, Caernarfon, Bangor, Caergybi, Llandudno, Bae Colwyn, Y Rhyl, a Wrecsam.

Mae daearyddiaeth yr Alban yn gymysg, gydag iseldiroedd yn y de a'r dwyrain ac ucheldiroedd yn y gogledd a'r gorllewin, yn cynnwys Ben Nevis, mynydd uchaf y DU (1343 m). Mae llawer o lynnoedd a breichiau Môr hir a dwfn yn yr Alban, a elwir yn firthau, a lochau. Fe gyfrir hefyd dyrfa o ynysoedd i orllewin a gogledd yr Alban, e.e. Ynysoedd Heledd, Ynysoedd Erch, ac Ynysoedd Shetland. Caeredin, Glasgow, ac Aberdeen yw'r prif ddinasoedd.

Mae Gogledd Iwerddon, rhanbarth gogledd-ddwyrain ynys Iwerddon, yn fryniog gan mwyaf. Belffast a Deri yw'r prif ddinasoedd.

Mae'r Deyrnas Unedig, sy'n fasnachwr pwysig a chanolfan ariannol, yn meddu economi cyfalafol, sy'n un o'r fwyaf yng ngorllewin Ewrop. Dros y ddau ddegawd diwethaf fe leiheuwyd perchenogaeth gyhoeddus yn ddirfawr gan y llywodraeth trwy raglenni preifateiddio, ac fe gyfyngwyd ar dwf y Wladwriaeth Les. Mae amaethyddiaeth yn ddwys, wedi ei mecaneiddio yn drwm, ac yn effeithlon yn ôl safonau Ewropeaidd, gan gynhyrchu tua 60% o anghenion lluniaethol gyda dim ond 1% o'r llu llafur. Mae gan y DU gronfeydd eang o lo, nwy naturiol, ac olew; mae cynhyrchiad cynradd egni yn cyfrif tuag at 10% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth, un o rannau uchaf unrhyw wladwriaeth ddiwydiannol. Mae gwasanaethau, yn enwedig bancio, yswiriant, a gwasanaethau busnes, yn ffurfio cyfartaledd uchaf GWC o bell ffordd, wrth i ddiwydiant trwm barhau i edwino.

Gohiriodd llywodraeth Blair ateb cwestiwn cyfranogiad y DU yn y system Ewro, gan nodi pump o brofion economaidd y dylai eu pasio cyn i'r wlad gynnal refferendwm.

Saesneg yw'r brif iaith. Mae ieithoedd eraill yn cynnwys y Gymraeg, Gaeleg yr Alban a Sgoteg. Siaredir hefyd llawer o ieithoedd eraill gan fewnfudwyr o lefydd eraill yn y Gymanwlad.

Mae'r Deyrnas Unedig yn gartref i ddwy o brifysgolion enwocaf y byd: Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Rhydychen, ac y mae wedi cynhyrchu gweinyddwyr a pheirianwyr enwog, er enghraifft James Watt, Charles Darwin, ac Alexander Fleming.

Mae ysgrifenwyr enwog o'r DU yn cynnwys y chwiorydd Bronte, Agatha Christie, Charles Dickens, Syr Arthur Conan Doyle a J. R. R. Tolkien. Mae beirdd pwysig yn cynnwys Robert Burns, Thomas Hardy, Alfred Tennyson, Dylan Thomas a William Wordsworth.

Mae'r cyfansoddwyr Edward Elgar, Arthur Sullivan, William Walton, Ralph Vaughan Williams, Benjamin Britten a Michael Tippett wedi gwneud cyfraniadau mawr i gerddoriaeth. Cyfansoddwyr sydd dal yn byw yw John Tavener, Harrison Birtwistle a Oliver Knussen.

Mae gan y Deyrnas Unedig amryw gerddorfeydd gan gynnwys Cerddorfa Symffoni'r BBC, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, y Ffilharmonia, Cerddorfa Symffoni Llundain a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, ac fe astudiodd llawer o gerddorion enwog yng ngholegau cerddoriaeth y DU. Oherwydd ei lleoliad ac am resymau economaidd eraill, Llundain yw un o ddinasoedd pwysicaf am gerddoriaeth yn y byd - mae gan y ddinas sawl neuadd gyngerdd bwysig ac mae hi'n gartref i'r Tŷ Opera Brenhinol, un o ddwy opera arweiniol y byd.

Mae'r Deyrnas Unedig wedi cynhyrchu'r bandiau enwog Roc a rôl The Beatles, y Rolling Stones, Led Zeppelin, The Who, Pink Floyd, Catatonia, ac Oasis.

Mae arlunwyr enwog o'r DU yn cynnwys pobl megis John Constable, Joshua Reynolds, William Blake a J.M.W. Turner. yn yr 20g, mae Francis Bacon, David Hockney, Bridget Riley, Kyffin Williams a'r celfyddwyr pop Richard Hamilton a Peter Blake yn bwysig. Yn ein hamser ni mae arlunwyr eraill wedi bod yn enwog, yn enwedig Damien Hirst a Tracey Emin.

Mae gan y Deyrnas Unedig draddodiad theatraidd, ac mae gan Lundain lawer o theatrau, gan gynnwys y Theatr Genedlaethol Frenhinol.




#Article 42: 1963 (782 words)


Dyma gip ar fywyd yn ystod y gaeaf caled hwn. Dechreuodd gyda barrug trwm ar 23 Rhagfyr 1962 a’r rhagarwydd o’r tywydd i ddod gyda symudiad o 6,300 o gornchwiglod mewn 39 haid yn hedfan i’r gorllewin 300 ohonyn nhw dros Gaergybi yn anelu am Iwerddon fwyn. Nododd yr adarydd Peter Hope Jones Cofnododd JH Jones, Hiraethog, Cerrigydrudion ar 24 Rhagfyr: “Bwrw codl eira drwy'r dydd, caenen go arw erbyn y nos” gyda thywydd niwlog, sych, barugog yn parhau am rai dyddiau gydag eira tan ddiwedd y mis. Ar ddiwrnod olaf Rhagfyr cofnododd Defi Lango  yn ei ddyddiadur Perlau’r Pridd, 2009: Ychydig o eira wedi disgyn neithiwr eto - a'r gwynt cryf yn para i'w chwythu. Mae lluwchfeydd mawr ar y tir uchel ac ambell luwch chwe troedfedd o uchder ar yr heol fawr - top Rhiw Lango a thop Crachdir”.

Profodd sir Fôn sychder ac oerfel parhaus yn Ionawr a Chwefror 1963, ac yn wahanol i weddill y wlad, sychder o’r bron a gwelwyd eira ysgafn dros y tir yno am ddau neu dri diwrnod yn unig (PHJ). Ar yr 2 Ionawr dechruodd ffermwyr dorri llwyni fel porthiant: “Torri eiddaw i wintrin”, (Dyddiadur Ellis Morris, Pant y Maen, Cymdu, Llanrhaeadr ym Mochnant). Ar y 3 Ionawr cofnododd EM iddi fwrw “eira drwy'r dydd a drifftio” ac yng Ngherrigydrudion yr un diwrnod roedd hi’n  “Bwrw eira drwy'r dydd bron... Mynd efo Landrover Cwmain o'r Cerrig.. Aradr eira yn mynd o flaen y claddedigaeth o Pentre Mawr i'r fynwent” (JHJ). Ar y 6 Ionawr roedd Edwina Fletcher yn mudo o Llanffestiniog yng nghanol eira mawr, a dwyreinwynt yn ôl Ellis Morris - cofnododd  y diwrnod wedyn: “Rhew caled iawn. Torri lot o'r eiddew i'r wyn. Oer ofnadwy rhew eto” ac “Oen bach a snow fever”. Parhaodd y tywydd rhewllyd dros Gymru gyda Defi Lango yn Esgairdawe yn nodi iddo dorri “ychydig o'r onnen, Waun Pistyll” ar y 9ed ar gyfer ei dda mae’n siwr pan u bu’n “Mwy o rew nag arfer neithiwr”. Yng Ngherrigydrudion ar y 10ed doedd hi “Ddim mor oer, ond yn oeri yn arw ar ol te. Yn rhy oer i mi gael myned i'r capel...Wedi methu godro neithiwr na bore heddiw y peipiau wedi rhewi” a chymerodd JMJ “blowe [sic] lamp” atynt ond heb lwyddiant

Caewyd yr ysgolion yn Sir Gaerfyrddin am dridiau gyda pharhad yn y tywydd “Arctic..... and we're having to feed hay to sheep morning and evening” (DL). Nododd perchen newydd Craflwyn, Beddgelert yn y dyddiadur o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar 12 Ionawr, “bloody freezing  getting worse.... went to Caernarvon shopping water still froze”. “Rhewi’n gynddeiriog” meddai EM yn Llanrhaeadr; roedd Llyn Ogwen a Llyn Padarn dan rew yn ôl y cofnodwr tywydd Les Larsen. “13 January 1963 Bitter cold. Doing nothing much. Everything iced up” meddai’r cyn-yrrwr tacsi o Craflwyn. Ar 16 Ionawr bu EM yn Llanrhaeadr yn “Cwympo pren celyn berllan i wintrin” ac ar “Noson felltigedig [y 19eg]....” fe nododd “East wind a chwythu eira yn gymylau. Torri ivy Cae Pig” - ar y 19 Ionawr “y diwrnod oera eto” meddai, yn dal i luwchio ar y 21ain, ac eto ar y 22ain “Rhew fel asgwrn. Torri eiddew hen geubren Alltfawr”. Meiriolodd ychydig ar y 26 Ionawr yn y gogledd (JMJ) ac yn y de: “Y tywydd fel pe'n gwella. Bu tipyn o doddi ar yr eira heddiw - a mannau o'r tir yn dod i'r golwg“ ac ar y 29 Ionawr “The milk lorry took our milk from the stand at the end of the lane today - it's nearly 5 weeks since it was picked up from there (DL). Ond dychwelodd yr eira ddiwedd y mis

Ar 2 Chwefror cofnododd DL eto “Bwrw eira ar brydiau y bore, gwynt cryf prynhawn yn symud yr eira o'r caeau agored a heno mae'n rhewi'n ffyrnig. Y defaid a'r w^yn menywod [sic] yn bwyta tua phum be^l o wair y dydd - y defaid yn cael ce^c hefyd. Oherwydd fod yr heolydd mor anodd fe grasodd y menywod 'ma bump torth o fara yn hytrach na mynd i Lansawel i mofyn bara.” Ar 6 Chwefror yn ol JMJ y “Noson waethaf eto yn Wales 25 main roads blocked Gwynt mawr”

Parhaodd yr heth yn yr un modd, peipiau wedi rhewi, cario dwr a bywyd yn gyffredinol wedi ei droi wyneb i waered tan yr 8 Mawrth pam gofnododd Goronwy Davies “Hoffwn gyfeirio at Fawrth 1962, mae llawer yn cam ddeallt am y gaeaf caled 1963, wrth edrych ar hen Galendr (fyddai hen gyfaill yn ysgrifen[nu] hanes tywydd ar ei gefn) fe pallodd yr rhew ar ol yr 9fed o Fawrth 1963, ond roedd y llywchfeudd eira yn bodoli am wythnosau lawer wedi hynnu.”




#Article 43: 2012 (654 words)


Crynodeb tywydd Penisarwaun 2012
Mae'r hen drigolion yn cofio gaeafau 1947, 1963 ac 1979 oherwydd y tywydd oer gydag eira a rhew am wythnosau, gyda'r afonydd a'r llynnoedd wedi rhewi. Heb os mi fydd 2012 hefyd yn aros yn cof oherwydd y glaw di-baid. Cawsom 1888mm. a hwnnw'n disgyn arnom ar 242 o ddyddiau o'r flwyddyn. Serch hynny y flwyddyn wlybaf yn y cyfnod 1984-2012 oedd 2000 pan dadlwythodd y cymylau 1959mm.arnom. Fe ddaeth y glaw trwm yn ystod Hydref, Tachwedd a Rhagfyr, ond yn 2012 daeth bron ar hyd y flwyddyn. ...Ac mae y diwrnod gwlybaf yn hysbys i bawb sef yr 22 o Dachwedd pan gwelsom 64mm hynny yw 2.5 modfedd yn dod i lawr ar ein pennau.

Roedd y flwyddyn yn drychinebus i amaethwyr.

Gweler Llenyddiaeth yn 2012

Dyma ychydig o ansoddeiriau parchus am haf 2012: glawog, cymylog, gwyntog, diflas, undonog, gyda bwrw, haul yn aml ac ambell i daran. Yr oedd yr haf yn wlypach na hyd yn oed haf 2007 pan gawsom 476 mm o law [tua 19 modfedd]. Eleni daeth 511mm [20 modfedd] i lawr ar y pentref [Penisarwaun]; 243.5mm ym Mehefin, 132.5mm yng Ngorffennaf a 135mm yn Awst, a hynny ar 70 ddyddiau allan o 92. Ar ben hyn oll ni chafwyd llawer o ddyddiau poeth. Yr unig ddiwrnod poeth oedd yr 11eg o Awst pan aeth y tymheredd i fyny i 24.6C. Gyda llaw yn ystod haf 2011, 49 o ddyddiau gyda glaw a gawsom.
Gwnaed yr haf yn fwy llwm oherwydd absenoldeb nifer o greaduriaid: ee. 1. Y fuwch goch gota; 2. sboncyn [sioncyn] y gwair o unrhyw fath; 3. gloynod byw onibai am y gwynion; 4. pry llwyd a'i bigiad distaw. Ar yr ochr orau o'r haf oedd ymweliad y barcut coch wrth yr hen ysgol a gardd yn Nhanycoed, LLanrug yn lloches i ddraenog. A braf oedd gweld llyffant du y dafedennog yn yr ardd acw. Hefyd bu adar y to yn llwyddiannus yn magu teulu yn nho y modurdy. Roedd gwennol y bondo hefyd yn llwyddiannus yn magu teulu ym mondo ty gerllaw.

Cawsom fis gwlyb, diflas, a gwyntog. Y diwrnod gorau oedd yr un olaf o’r mis pan aeth y tymheredd i fyny i 16.6C (62.F); fel arall isel oedd tymheredd y prynhawnau. Hefyd nid aeth hi’n oer iawn; yr isaf oedd 0.3C ar y 4ydd o’r mis. Yn sicr yr oedd Ebrill yn fis gwlyb iawn gyda 24 ddyddiau efo glaw a chawsom drochiad o 159.5mm [6 modfedd] ohono. Dim ond un Ebrill sydd wedi bod wlybach ers 1984 a hwnnw oedd Ebrill 2005 gyda 179.5 mm. Cofiwch nid yw Ebrill yn fis gwlyb o gwbl; yn 2010 dim ond 14.5mm o law a gafwyd. Ar y 3ydd o’r mis yr oedd eira ar y mynydd tros 3000 tr. ond drannoeth cawsom dywydd stormus gydag eira dros 700tr. Yma bu ychydig o eira, eirlaw a modfedd o law. Ar y mynyddoedd yr oedd hi’n dymhestlog iawn yn peri i’r eira ffurfio lluwchfeydd anferth a bu nifer ohonynt yn llechu yma ac acw hyd at y diwrnod olaf o’r mis ac yna i fis Mai. Gan fy mod yn son am Ebrill, mae’n braf cael enwi rhai o’r blodau a fu’n addurno ymyl ein ffyrdd; bwtsias y gog, llygad Ebrill, botwm crys, blodyn llefrith, suran y coed, dant y llew, blodau’r ddraenen ddu, cywion gwyddau, blodau,r helygen, crinllys, ceiriosen, mefus gwyllt a braidd cyn ei amser, llau’r offeiriad. Yr oeddwn wrth fy modd yn gweld wenci/bronwen yn croesi’r ffordd yn ddiofn wrth ymyl Perthi. Ond y siom o’r mwyaf oedd y ffaith nad yw’r wennol na gwennol y bondo wedi gweld yn dda ddod yma i gyfarch y gwanwyn. Y mae’r wennol wedi cyrraedd Ceunant, a’r gog. Mi wn i am un wedi tynnu llun y gog yn ei ardd. Yma rydym wedi colli’r gog, y wennol y gylfinir ac yn eu lle nhw cael yr aderyn swnllyd, y durtur dorchog.”




#Article 44: 2013 (229 words)


Go brin y bydd rhai yn anghofio Rhagfyr 2013. Bu’n fis o dristwch i nifer a ddioddefodd oherwydd llifogydd a gwyntoedd cryfion, ar hyd a lled yr ynysoedd yma a gogledd Ewrop. Cofnodwyd hyrddiad gwynt o 109 m.y.a. yn Aberdaron ar yr 26ain, y gwaethaf ers 19 mlynedd yn ôl Gwasanaeth Tywydd S4C, a disgynnodd y pwysau awyr o 936mb yn Stornoway, yr isaf ers can mlynedd. Yn Llanfaglan (data Ifor Williams), syrthiodd pwysau’r awyr dair gwaith o dan 980mb yn ystod 2013, y cwbl ym mis Rhagfyr, sef 18fed, 23ain i’r 25ain ac o’r 26 i’r 27ain. Ar yr 18fed, ‘roedd yn 980mb rhwng 10:30 a 11:30, ac o 11:30 ar y 23ain i 09:00 y 25ain, gyda’r pwynt isaf yn 964.8 am 23:30 ar yr 23ain. Yna ar y 26ain, o 21:00 hyd at 16:30 ar yr 27ain, gyda’r pwynt isaf yn 967 am 06:00. O ganlyniad, cawsom hyrddiadau yn 59mya am 17:30 ar y 18fed o’r de, de-ddwyrain, 70mya am 22:30 ar y 26, eto o’r un cyfeiriad a phan aeth y trydan i ffwrdd yn yr ardal, a 57mya am 04:30 ar yr 27ain y tro yma o’r de ddwyrain.
Y diwrnod gwlypaf oedd, yr 18fed 19.8mm, (.78 modfedd) 23ain 28.5mm (1.12modfedd) a’r 29ain 38mm (1.5 modfedd), a’r cyfanswm misol yn 194.1mm, fymryn yn sychach na misoedd Rhagfyr 1994 204.8mm, 2000 258.4mm a 2006 215,4mm.




#Article 45: 1960au (2961 words)


Roedd y 1960au yn cael ei weld fel degawd chwyldroadol, gyda newidiadau anferth a ddylanwadodd ar ffasiwn, cerddoriaeth ac agweddau pobl ifanc tuag at gymdeithas. Roedd llawer yn amau syniadau gwleidyddol a chymdeithasol eu rhieni ac yn fwy parod i holi a herio syniadau a’r drefn draddodiadol. Gwelodd y degawd ymgyrchoedd, grwpiau ymgyrchu a phrotestio, yn enwedig ymhlith pobl ifanc a myfyrwyr, a oedd yn awyddus i leisio eu barn ar bynciau fel hawliau pobl dduon, hawliau menywod, hawliau pobl hoyw, yr amgylchedd ac i feirniadu rôl ac ymyrraeth y Llywodraeth. Yn America, bu llawer yn protestio yn erbyn rôl America yn Rhyfel Fietnam, a gwrthododd y bocsiwr Cassius Clay yr alwad gyffredinol i fod yn filwr. Bu actorion fel Jane Fonda hefyd yn protestio’n gyhoeddus yn erbyn ymyrraeth America yn y sefyllfa wleidyddol yn Fietnam. Roedd disgwyliadau a dealltwriaeth pobl o ystyr hawliau sifil a dyletswydd filwrol yn cael eu herio a’u chwalu.

Roedd yn ddegawd lle heriwyd disgwyliadau cymdeithas ynghylch ffasiwn dillad, cerddoriaeth, cyffuriau, rhywioldeb, ffurfioldeb ac addysg. Mae’n aml yn cael ei labelu fel degawd y ‘Swinging Sixties’ oherwydd yr ymlacio a fu mewn tabŵs cymdeithasol yn y cyfnod hwn a’r datblygiad mewn amrywiaeth eang o gerddoriaeth; o adfywiad mewn cerddoriaeth werin i chwyldro’r Beatles, i eiriau caneuon Bob Dylan a Paul Simon a oedd yn fwy mewnddrychol.

Dominyddwyd gwleidyddiaeth y cyfnod gan y gwrthdaro rhwng UDA a’r Undeb Sofietaidd, sef y Rhyfel Oer, a’r ‘râs i’r gofod’ a ddatblygodd rhwng y ddau arch-bŵer. Bu ymgyrchoedd uniongyrchol di-drais gan yr SNCC (Student Nonviolent Coordinating Committee) a’r SCLC (Southern Christian Leadership Conference) yn protestio dros hawliau sifil a diwygiadau cymdeithasol. Brawychwyd y byd gan nifer o lofruddiaethau yn ystod y degawd, fel llofruddiaeth John F. Kennedy yn 1963, ond pasiwyd ei ddiwygiadau o ran hawliau sifil i bobl dduon a gofal iechyd i’r bobl hŷn a phobl dlawd gan ei olynydd Lyndon Johnson. Cafodd llofruddiaeth Martin Luther King yn 1968 effaith ysgytwol ar gymdeithas UDA, gan ddiffinio natur dreisgar gwleidyddiaeth y cyfnod. Yn Ewrop roedd mudiadau cymdeithasol newydd yn datblygu ac roedd protestiadau Mai 1968 yn Ffrainc yn crisialu gwrthwynebiad y genhedlaeth ifanc tuag at gyfalafiaeth, materoldeb, sefydliadau traddodiadol a dominyddiaeth America. Bu’n rhaid i’r Arlywydd Charles de Gaulle ffoi o’r wlad am gyfnod.

Defnyddiwyd y term ‘teenager’ am y tro cyntaf yn America yn y 1930au fel ffordd o gyfeirio at grŵp oedran penodol i'w dargedu gan hysbysebion. Roedd yn cael ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig yn y 1950au. Cyn hyn, roedd pobl yn meddwl eich bod yn blentyn, ac yna roeddech chi’n oedolyn, heb unrhyw gyfnod pontio rhwng y ddau. Roedd plant yn fersiynau llai o oedolion; roedd disgwyl iddyn nhw wisgo’r un math o ddillad, mabwysiadu’r un steiliau gwallt a dilyn yr un diddordebau. 

O’r 1950au ymlaen, roedd pobl ifanc yn dod yn ddylanwad pwysicach o lawer yn y gymdeithas. Erbyn 1960, roedd oddeutu 40% o boblogaeth y Deyrnas Unedig o dan 25 oed.  Roedd pobl ifanc y 1950au yn rhy ifanc i gofio Dirwasgiad y 1930au, ynghyd â pheryglon a phrinderau’r Ail Ryfel Byd a’r caledi a ddilynodd. Roedden nhw’n tyfu i fyny mewn byd llawer mwy sefydlog a ffyniannus. Roedden nhw’n fwy iach nag yr oedd pobl ifanc erioed wedi bod, o ganlyniad i gyflwyno’r Wladwriaeth Les. 

Roedden nhw’n fwy cyfoethog am fod cyflogaeth lawn wedi rhoi sicrwydd swydd a chyflogau uwch i’w rhieni. Nid dim ond oherwydd eu rhieni roedd pobl ifanc yn fwy cyfoethog. Roedden nhw’n ei chael yn haws dod o hyd i waith rhan-amser neu waith ar y penwythnos ac roedden nhw’n gallu edrych ymlaen at gael swydd ac ennill cyflog teg ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed. Yn ogystal â hynny roedd gwelliannau technolegol yn golygu bod llawer o alw am lafur di-grefft, felly gallai pobl ifanc osgoi gorfod gwneud prentisiaethau nad oedd yn talu cyflog uchel. Nid oedd ychwaith ddisgwyl i bobl ifanc dosbarth gweithiol roi eu henillion yng nghyllideb y teulu bellach, gan fod cyflogau eu rhieni yn llawer gwell. Roedd pobl ifanc yn dal yn ddigon ifanc i fyw gartref, a oedd yn eu gadael â mwy o gyflog i wario arnyn nhw eu hunain. O 1960 ymlaen, gallai dynion ifanc ennill cyflog go lew yn gynt oherwydd nid oedd yn rhaid iddyn nhw wneud Gwasanaeth Cenedlaethol, sef cyfnod gofynnol o ddwy flynedd yn y lluoedd arfog, a phedair blynedd yn y fyddin wrth gefn, i bob dyn 18 oed.

Roedd gwaith ymchwil a gynhaliwyd rhwng 1959 ac 1961 yn dangos bod gan bobl ifanc £8 yr wythnos i’w wario ar gyfartaledd, a oedd yn golygu eu bod yn cyfrif am 10% o gyfanswm incwm gwladol y Deyrnas Unedig. Roedden nhw’n gwario hanner yr arian hwn ar adloniant – roedd pobl ifanc yn cyfrif am draean gwerthiant tocynnau sinema a dwy ran o bump o werthiannau recordiau a chwaraewyr recordiau.

Daeth gwahaniaethau ffasiwn yn arwydd gweledol o fwlch y cenedlaethau. O ran dillad, cafwyd datblygiadau fel sgertiau byrrach i ferched, ac roedd steiliau gwallt hirach yn fwy derbyniol i fechgyn. Caiff elfennau eithafol y gwahaniaethau hyn yn ffasiwn y 1960au eu dychanu yn y gân ‘Dedicated Follower of Fashion’ 72 (1966) gan The Kinks. 

Roedd ystod eang o faterion lle’r oedd gan y genhedlaeth hŷn a’r genhedlaeth iau farn wahanol: 

Erbyn y 1960au cynnar, roedd pobl ifanc wedi dod yn grŵp pwysig o ddefnyddwyr. Erbyn 1967, roedd hanner y dillad menywod a oedd yn cael eu gwneud ym Mhrydain yn cael eu gwerthu i ferched rhwng 15 a 19 oed. Dechreuodd ffasiwn newid yn gyflym iawn wrth i ddillad gael eu creu i fod yn dafladwy yn hytrach nag i’w cadw. Daeth ffasiwn yn fwy llachar ac yn fwy arbrofol wrth i ddatblygiadau technolegol arwain at ddeunyddiau newydd fel plastig PVC, neilon, polyester ac acrylic, a oedd i gyd yn rhatach, yn ogystal â bod yn haws i’w siapio a’u lliwio. Cafodd dylunwyr fel Mary Quant, a’i chadwyn o siopau bwtîc, ddylanwad mawr ar y ffasiynau newydd hyn, gan gyflwyno syniadau newydd mentrus fel y sgert mini. Cynyddodd poblogrwydd y ffasiynau newydd hyn oherwydd modelau fel Twiggy a Jean Shrimpton. Daeth ffasiwn yn ddiwydiant pwysig iawn ym Mhrydain, gyda’i ganolfan o amgylch Carnaby Street yn Llundain. 

Roedd gan bobl ifanc yn y 1950au a’r 1960au fwy o annibyniaeth ar eu rhieni nag unrhyw genhedlaeth o bobl ifanc o’u blaenau. Roedden nhw’n cael addysg well ac roedd ganddyn nhw fwy o sicrwydd ariannol, felly roedden nhw’n gallu datgan yn fwy hyderus eu hawl i gwestiynu pethau a gwneud eu dewisiadau eu hunain. Roedd mwy a mwy o blant dosbarth canol yn benodol yn gadael yr ysgol yn 16 oed neu’n aros i fynd i’r brifysgol – grantiau’r wladwriaeth oedd yn talu am hynny bellach. Rhwng 1961 ac 1969, cynyddodd nifer y myfyrwyr amser llawn mewn addysg bellach o 200,000 i 390,000. 

Gan fod pobl ifanc yn treulio mwy o amser mewn addysg, roedden nhw’n teimlo llai o angen i ganolbwyntio ar waith ac ennill arian, a oedd wedi bod yn bwysig iawn i genhedlaeth eu rhieni. Roedd ganddyn nhw fwy o amser a mwy o annibyniaeth, ac roedden nhw’n gallu canolbwyntio mwy ar ddatblygu eu hunaniaeth benodol nhw.

Roedd gan bobl ifanc hyd yn oed eu lleoedd eu hunain i fynd iddyn nhw, i dreulio amser gyda phobl ifanc eraill. Daeth bariau coffi fel 2is yn Soho, El Toro yn Muswell Hill neu’r Kardomah yn Lerpwl yn fannau cyfarfod ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, oherwydd byddai landlordiaid tafarndai yn gwrthod mynediad i'r rhai a oedd dan oed. Roedd gan fariau coffi jiwcbocsys a oedd yn chwarae’r gerddoriaeth ddiweddaraf o America, a chynhaliwyd perfformiadau cerddoriaeth fyw yn y bariau weithiau, hyd yn oed. Daeth bariau byrgyrs Wimpy yn lleoedd lle byddai pobl ifanc yn cyfarfod â’i gilydd hefyd.

Oherwydd hynny, roedd gan bobl ifanc safbwynt gwahanol ar y byd o gymharu â’u rhieni. Roedd y genhedlaeth hŷn wedi cael ei magu mewn cyfnod o ryfel a chaledi, ac roedd y genhedlaeth iau wedi cael ei magu mewn cyfnod o gyfoeth. Roedd y syniadau o ddyletswydd, cyfrifoldeb ac ufuddhau i orchmynion yn cael eu gweld yn llai pwysig gan bobl ifanc nad oedden nhw wedi ymladd mewn rhyfel na gwneud Gwasanaeth Cenedlaethol. Yn y 1960au, arweiniodd y gwahaniaeth mewn safbwyntiau rhwng y ddwy genhedlaeth hyn at ddisgrifio diddordebau pobl ifanc yn 'wrth-ddiwylliannol'. Caiff y gwahaniaethau hyn rhwng y genhedlaeth hŷn a’r genhedlaeth iau eu harchwilio yn y gân ‘My Generation’ (1965) gan The Who, sy’n dechrau gyda’r llinell ‘People try to put us down’.

Bu rôl cenhedlaeth ifanc America yn ganolog i ysbryd chwyldroadol y 1960au. Roedd agweddau pobl ifanc tuag at awdurdod a thuag at fywyd yn gyffredinol yn elfen ganolog i’r chwyldro a fu yn y gymdeithas yn ystod y 1960au. Trodd llawer o bobl ifanc yn erbyn ffordd o fyw eu rhieni, gyda rhai yn troi at wleidyddiaeth radicalaidd a throi yn hipis. Daeth dillad yr hipis, gyda’u gwallt hir a'u crefyddau cyfriniol, yn boblogaidd iawn, ac roedd eu parodrwydd i ddefnyddio cyffuriau, i fabwysiadu ymddygiad rhywiol llac ac i arbrofi gyda myfyrdod yn symbol o’u hymateb i geidwadaeth a natur gydymffurfiol y gymdeithas y 1950au. Eu slogan oedd ‘Make Love not War’ a doedd ganddyn nhw ddim ffydd yng ngallu'r gwleidyddion. Roedd  llawer yn cefnu ar syniadau eu rhieni o gael swydd a oedd yn talu’n dda. Roedden nhw’n grac gydag ymyrraeth Llywodraeth UDA yn Fietnam ac yn ymgyrchu yn erbyn yr hiliaeth a fodolai yng nghymdeithas UDA. Roeddent am greu cymdeithas fwy rhyddfrydol ei natur, oedd yn cwestiynu awdurdod a llywodraeth ac yn mynnu mwy o ryddid a hawliau i fenywod a lleiafrifoedd. Roedd y ‘gwrth-ddiwylliant’ yma'n hyrwyddo’r defnydd o gyffuriau fel LSD a marijuana, ac roedd cerddoriaeth seicedelig yn rhan o’r un diwylliant. Roedd llawer ohonynt yn cefnogi dulliau di-drais, ac oherwydd eu bod yn gwisgo blodau ac yn dosbarthu blodau i’r heddlu fe gawson nhw eu galw yn ‘Blant y Blodau’. Roeddent yn byw mewn cymunedau (communes) a daeth Califfornia a San Francisco yn ganolfannau pwysig i’r hipis yn UDA. Yn ystod haf 1967 daeth tua 100,000 ohonynt ynghyd yn ardal Haight-Ashbury yn San Francisco er mwyn dathlu'r Summer of Love. 

Achosodd eu defnydd o gyffuriau iddynt wrthdaro'n gyson gyda’r heddlu. Roedd cerddoriaeth oedd yn sôn am gariad a chyffuriau yn rhan bwysig o wrthryfel yr ifanc, ac roedd miloedd yn tyrru i’r gwyliau cerddoriaeth poblogaidd.  Cynhaliwyd yr ŵyl fwyaf yn Woodstock, Efrog Newydd yn 1969 lle'r oedd artistiaid fel Jimi Hendrix, Janis Joplin a Bob Dylan yn canu. Roedd caneuon Bob Dylan fel ‘Blowin in the Wind’ a ‘The Times they are a changin’  yn cynrychioli’r caneuon protest yn erbyn rhyfel a oedd taro tant yn ystod y cyfnod hwn.

Roedd ymgyrchu dros hawliau cydradd i fenywod yn un o bynciau llosg y 1960au, gyda’r cyfnod hwn yn gweld newidiadau mawr o safbwynt hawliau a chydraddoldeb y fenyw yn y gymdeithas.

Y rôl draddodiadol ar gyfer menywod oedd bod yn wraig ac yn fam dda – cadw’r tŷ yn lân a gwneud yn siwr bod y plant a’r gŵr yn cael eu bwydo. Roedd hyn yn dal yn wir yn y 1960au cynnar, yn enwedig ymysg menywod dosbarth gweithiol. Roedd disgwyl i fenywod roi’r gorau i’w swydd a’u hannibyniaeth bersonol pan roeddent yn priodi neu adeg geni eu plentyn cyntaf. Gyda newidiadau mewn arferion siopa fel datblygiad bwydydd cyfleus, archfarchnadoedd ac offer rhatach yn gwneud rôl menywod fel gwragedd tŷ yn haws, golygai hyn nad oedd menywod mor gaeth i’w dyletswyddau traddodiadol a bod ganddynt fwy o annibynniaeth i ddatblygu rôl y tu allan y cartref.

Yn ystod y 1960au gwelwyd newidiadau tyngedfennol eraill o ran hawliau menywod gyda mwy o fenywod yn gweithio mewn swyddi y tu allan y cartref, a mwy o ymgyrchu dros gyflogau cydradd i fenywod yn y lle gwaith. Dechreuwyd newid agweddau tuag at erthylu, ac yn sgil pasio Deddf Erthylu 1967 rhoddwyd mwy o ddewis i fenywod. Cyflwynwyd y bilsen ddiwedd y 1960au a oedd yn rhoi mwy o reolaeth i’r ferch dros ddulliau atal cenhedlu, a phasiwyd y Ddeddf Diwygio Ysgariad yn 1969. Yn ystod y 1960au hefyd pasiwyd cyfreithiau a oedd yn gwella statws menywod o fewn priodas - er enghraifft, Deddf Eiddo Menywod Priod 1964, Deddf Cartrefi Priodasol 1967, Deddf Eiddo Priodasol 1970 a Deddf Gwarchodaeth Plant 1973.

Erbyn y 1960au roedd ffeministiaeth yn syniad a oedd wedi dod fwyfwy i’r amlwg fel ymgyrch bwysig dros gydraddoldeb cyffredinol i fenywod, ac erbyn hynny roedd menywod o bob oed yn cefnogi ffeministiaeth. Roedd yn galw am newid radical yng nghydbwysedd pŵer rhwng dynion a menywod. Nid oedd y Mudiad Rhyddid Merched, fel y’i gelwir, yn un sefydliad, ond yn hytrach roedd yn gasgliad o syniadau a grwpiau ffeministaidd gwahanol a oedd yn rhannu un thema gyffredin, sef ceisio gwella bywydau menywod yn y Deyrnas Unedig.

Ymddangosodd llenyddiaeth ffeministaidd ac roedd menywod a oedd yn actorion, awduron a gwleidyddion yn rhoi cefnogaeth gyhoeddus i ffeministiaeth. Roedd llyfrau fel The Female Eunuch (1969) gan Germaine Greer, yr ysgolhaig o Awstralia, yn llyfr ffeministaidd pwysig yn ogystal â dylanwad ffeministiaid yn UDA fel Betty Friedan, a ysgrifennodd The Feminine Mystique (1963) ac a fu’n ysbrydoliaeth i sefydliad Mudiad Rhyddid Merched yn UDA yn y 1960au hwyr. Dylanwadwyd yn drwm ar y mudiad hwnnw gan fudiadau protest myfyrwyr am iawnderau sifil a Rhyfel Fietnam. Yn 1966 aeth Betty Friedan yn ei blaen i sefydlu Mudiad Cenedlaethol y Menywod er mwyn ymgyrchu dros bartneriaeth gydradd rhwng y rhywiau.

Bu cyfnod y 1960au yn gyfnod pwysig o ran gosod cynsail ar gyfer ymgyrchoedd pellach yn ystod y 1970au mewn meysydd fel cyflogau cydradd, cyfleoedd gwaith ac addysg gyfartal, er enghraifft, ac o ran ymgyrchu yn erbyn cystadlaethau fel ‘Miss World’.

Dechreuodd y gwrthwynebiad i rôl UDA yn Rhyfel Fietnam yn 1964. Arweiniodd hyn at bolareiddio dwfn yn y gymdeithas yn America, yn enwedig ar ddiwedd y 1960au a dechrau’r 1970au, ynghylch sut i roi diwedd ar y rhyfel. Gwrthwynebwyd y rhyfel gan sawl grŵp o bobl a mudiadau gwahanol, yn amrywio o fudiadau heddwch, myfyrwyr, mudiadau hawliau sifil, mudiadau ffeministaidd, grwpiau hipis i academyddion, addysgwyr, sefydliadau crefyddol, meddygon, cyfreithwyr i gyn-filwyr. Erbyn 1967 roedd polau piniwn yn dangos bod y mwyafrif o Americaniaid yn credu bod rhan UDA yn y rhyfel wedi bod yn gamgymeriad.  

Gwelodd y 1960au ymgyrch gan y Mudiad Hawliau Sifil i anghyfreithloni gwahaniaethu hiliol a sicrhau hawliau pleidleisio i bobl dduon. Un o nodweddion y mudiad oedd ymgyrchoedd a oedd yn defnyddio gwrthsafiad sifil a phrotest di-drais fel rhan o’u gweithgareddau ac wrth wynebu awdurdodau’r Llywodraeth. Roedd boicotiau, ‘sit-ins’ a gorymdeithiau ymhlith y strategaethau protestio hyn. Llwyddwyd i ennill deddfwriaeth trobwyntiol yn hanes pobl dduon UDA yn sgil pasio Deddf Hawliau Sifil 1964, Deddf Hawliau Pleidleisio 1965 a Deddf Llety Teg 1968.

Wedi eu hysbrydoli gan y Mudiad Hawliau Sifil a’r mudiad merched, erbyn y 1960au dechreuodd pobl sefydlu mudiad a oedd yn awyddus i hyrwyddo hawliau pobl hoyw. Eu bwriad oedd sicrhau cydraddoldeb i bobl hoyw ac annog balchder mewn bod yn hoyw. Nid oedd pobl hoyw yn cael ymgynnull ac roedd yr heddlu yn cynnal cyrchoedd rheolaidd ar y Stonewall Inn yn Efrog Newydd er mwyn arestio pobl hoyw. Ar 28 Mehefin 1969, pan gynhaliwyd cyrch gan yr heddlu yno, penderfynodd y gymuned LGBT wrthryfela a bu terfysg agored yn y strydoedd. Dyma derfysgoedd Stonewall ac roedd yn gychwyn ar gyfnod newydd yn hanes mudiad hawliau LGBT, a fyddai'n gweddnewid cymdeithas a hanes diwylliant America yn ystod y degawd nesaf.

Y gwrthrych cyntaf a wnaed gan bobl i gyrraedd wyneb y Lleuad oedd Luna 2 yr Undeb Sofietaidd ar 13 Medi 1959. Digwyddodd hynny yn dilyn methiant Luna 1 yn gynharach yr un flwyddyn. Yn 1962 llwyddodd yr Unol Daleithiau hefyd i roi cerbyd - y Ranger 4 - ar y Lleuad. Apollo 11 yr Unol Daleithiau oedd y cerbyd cyntaf â phobl arno i gyrraedd y Lleuad, a hynny ar 20 Gorffennaf 1969. Fe wnaeth dros 53 miliwn o gartrefi wylio'r glaniad ar y teledu, ac amcangyfrifwyd bod 650 miliwn o wylwyr ledled y byd wedi gwylio'r glaniad.

Gwelodd y degawd hwn ddeffroad yn ymwybyddiaeth Cymru o’i hunaniaeth. Dyma’r degawd hefyd a welodd genhedlaeth o bobl ifanc yn ymgyrchu i dynnu sylw at hawliau Cymru fel gwlad ac at ei hiaith a’i diwylliant.

Ar ddechrau'r 1960au, cyffrowyd nifer o bobl Cymru gan neges broffwydol Saunders Lewis yn ei ddarlith ‘Tynged yr Iaith’ y byddai’r iaith yn marw oni bai bod ei siaradwyr yn dechrau ei hamddiffyn ac ymgyrchu dros sicrhau dyfodol gwell iddi. Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith yn yr un flwyddyn, gan roi cychwyn ar brotestio ac ymgyrchu gan fyfyrwyr a chenhedlaeth newydd o Gymry a oedd yn awyddus i wireddu dyfodol mwy sicr i’r iaith. Gwelodd Gymru Ddeddf Iaith newydd yn 1967 a bu gweithgareddau’r Gymdeithas yn hollbwysig o ran y gwelliannau a ddaeth i’r iaith yn y degawdau dilynol.

Dyma’r degawd a welodd ymgyrchu gan Gymry blaenllaw, gan wleidyddion Plaid Cymru, myfyrwyr a thrigolion lleol yn erbyn boddi Cwm Tryweryn, protestio yn erbyn boddi Cwm Clywedog yn Llanidloes, ac yn erbyn yr Arwisgiad yn 1969.

Gwelodd y degawd ddechrau cyfnod newydd yn hanes gwleidyddol Cymru yn sgil ethol Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, sef Gwynfor Evans fel Aelod Seneddol Caerfyrddin yn 1966. 

Roedd sîn gerddorol Cymru’r 60au a'r 70au yn adlewyrchu’r cyffro gwleidyddol yn y wlad. Daeth canu gwerin a phop ysgafn yn boblogaidd iawn, a sefydlwyd y label recordio Cymraeg cyntaf, Sain, ym 1969. Roedd y gân brotest yn un o nodweddion cerddoriaeth bop Gymraeg y cyfnod. Yn lle cyfansoddi caneuon serch roedd artistiaid ifainc yn mynd â’u gitârs i’r dafarn a chanu caneuon dychanol a gwleidyddol.  

Mae Dafydd Iwan yn adnabyddus am ei ganeuon gwleidyddol, a chyfansoddwyd y caneuon protest dychanol Carlo / Y Dyn Pwysig fel ymateb i Arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghaernarfon yn haf 1969.  

Roedd hwn yn ddegawd lle'r oedd agwedd newydd y 1960au yn golygu nad oedd pobl bellach yn fodlon derbyn y drefn draddodiadol, ac yn fwy parod i herio a chwestiynu'r awdurdodau.




#Article 46: 20fed ganrif (4144 words)


Yn ystod yr 20fed ganrif bu newidiadau pellgyrhaeddol a thrawsnewidiol yn hanes y byd. Cafwyd nifer o ddigwyddiadau pwysig a newidiodd y byd am byth, gan gynnwys y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, twf pŵer niwclear, teithiau i’r gofod, twf cenedlaetholdeb a gwledydd yn dod yn annibynnol o drefedigaethau, y Rhyfel Oer, datblygiadau mewn trafnidiaeth a thechnoleg cyfathrebu, twf enfawr yn y boblogaeth ledled y byd, ymwybyddiaeth o ddirywiad yn amgylchedd ac ecoleg y byd, a’r Chwyldro Digidol.  Roedd yn gyfnod lle gwelwyd cynnydd a datblygiad ar raddfa gyflym, yn enwedig ym meysydd technoleg feddygol. Cafwyd darganfyddiadau geneteg a oedd yn trawsnewid hanes y ddynoliaeth ac fe wnaeth y defnydd o gyfrifiaduron weddnewid bywyd ar draws y byd.

Bu farw miliynau o bobl yn ystod y ganrif ar raddfa na welwyd erioed mo’i debyg. Achoswyd y marwolaethau hyn gan ryfeloedd, hil-laddiad, cyfundrefnau gwleidyddol, milwrol ac unbenaethol a llofruddiaethau ar raddfa eang. Amcangyfrifir bod rhwng 50 ac 80 miliwn wedi marw oherwydd sgil effeithiau'r ddau ryfel byd yn unig. Amcangyfrifir bod 70 miliwn o Ewropeaid wedi marw oherwydd rhyfel, trais a newyn rhwng 1914 a 1945.

Gwelodd yr 20fed ganrif ddau ryfel diarbed byd-eang rhwng arch-bwerau’r byd. Gwasgarwyd meysydd ymladd y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd ar draws cyfandiroedd a moroedd ledled y byd. Roedd hon yn ganrif lle gwelwyd twf cenedlaetholdeb mewn gwahanol wledydd, gyda gwledydd yn hawlio hunanlywodraeth, a phan gafodd ymerodraethau eu chwalu. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd ymerodraethau Otoman ac Awstria-Hwngari eu diddymu, diorseddwyd Tsar Nicholas II gan y Chwyldro Rwsiaidd yn 1917 a chafodd y wladwriaeth Gomiwnyddol gyntaf ei sefydlu yn Rwsia.

Dynododd y Rhyfel Byd Cyntaf drobwynt o ran dulliau rhyfela. Achosodd datblygiadau technolegol newidiadau mawr yn y ffordd roedd rhyfel yn cael ei ymladd a sut roedd yn effeithio ar sifiliaid. Defnyddiwyd dyfeisiadau newydd fel y tanc, arfau cemegol fel clorin a nwy mwstard, llongau tanfor, a chyflwynwyd awyrennau i faes y gad yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif.  Achosodd y rhain newidiadau yn nhactegau ymladd rhyfeloedd modern. Nododd y defnydd o arfau niwclear yn Hiroshima a Nagasaki yn Awst 1945 gychwyn cyfnod newid o ryfela modern.

Bu rhyfeloedd cartref mewn llawer o wledydd. Bu rhyfel cartref treisgar yn Sbaen yn 1936 pan arweiniodd y Cadfridog Franco wrthryfel yn erbyn Ail Weriniaeth Sbaen, sef y llywodraeth ddemocrataidd a fu’n rheoli’r wlad rhwng 1931 a 1939. Gwelwyd y gwrthryfel fel arwydd o’r tensiynau cynyddol oedd yn Ewrop cyn cychwyn yr Ail Ryfel Byd. Bu Dirwasgiad Mawr y 1930au yn ffactor pwysig a arweiniodd at dwf ym mhoblogrwydd Ffasgaeth a Natsïaeth yn Ewrop.

Effeithiodd yr Ail Ryfel Byd (1939-1945) ar Ddwyrain Asia a’r Cefnfor tawel oherwydd ymosodiad Siapan yn erbyn Tseina a’r Unol Daleithiau. Cafodd sifiliaid eu heffeithio yn llawer mwy yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd bomio o’r awyr ar ardaloedd poblog fel dinasoedd a threfi gan y ddwy ochr, er enghraifft, Brwydr Prydain a’r Blitz gan yr Almaen yn erbyn Prydain a’r dacteg bomio carped a ddefnyddiwyd gan Brydain ar ddinasoedd fel Dresden, Cologne a Berlin yn yr Almaen; a hil-laddiad yr Iddewon gan yr Almaen, sef yr Holocost.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, gwelwyd sefydlu Comiwnyddiaeth fel cyfundrefn wleidyddol mewn llawer o wledydd ar draws y byd.  Yn sgil y Chwyldro Comiwnyddol yn Rwsia yn 1917 llofruddiwyd teulu brenhinol y Romanovs gan y Bolsieficiaid a chrëwyd llywodraeth Gomiwnyddol newydd o dan arweinyddiaeth Vladimir Lenin.  Roedd 300 mlynedd o deyrnasiad brenhinol wedi dod i ben ac yn lle hynny crëwyd gwladwriaeth Gomiwnyddol gyntaf y byd. Ar ôl rôl yr Undeb Sofietaidd yn yr Ail Ryfel Byd, daeth comiwnyddiaeth yn bŵer pwysig mewn gwleidyddiaeth fyd-eang. Sefydlwyd llywodraethau comiwnyddol, er enghraifft yn Nwyrain Ewrop (er enghraifft, Hwngari, Dwyrain yr Almaen, Rwmania), Tseina, Indo-Tsieina, a Chiwba. Roedd gan Gomiwnyddiaeth bŵer absoliwt, bron, yn llawer o’r gwledydd a’r ardaloedd hyn.

Trechwyd yr Almaen yn 1945 wedi iddi gael ei goresgyn gan yr Undeb Sofietaidd a Gwlad Pwyl o gyfeiriad y dwyrain a’r Unol Daleithiau, Prydain, Canada a Ffrainc o’r gorllewin.  Wedi buddugoliaeth y Cynghreiriaid yn Ewrop daeth y rhyfel yn Asia yn erbyn Siapan i ben yn sgil gollwng dau fom atomig gan yr Unol Daleithiau ar Hiroshima a Nagasaki. Ar ôl y rhyfel rhannwyd yr Almaen rhwng y Pwerau Gorllewinol a’r Undeb Sofietaidd.  

O hynny ymlaen daeth Dwyrain yr Almaen a gweddill gwledydd dwyrain Ewrop yn llywodraethau Comiwnyddol. Yng Ngorllewin yr Almaen sefydlwyd llywodraeth ddemocrataidd debyg i’r gwledydd gorllewinol. Ail-adeiladwyd gorllewin Ewrop gyda chymorth ariannol Cynllun Marshall America ac felly daeth America yn gyfaill agos i’r gorllewin.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd trodd y cydweithio rhwng yr Unol Daleithiau a’r Undeb Sofietaidd yn berthynas fwy gelyniaethus a drwgdybus. Dyma gyfnod y Rhyfel Oer. Roedd yn ffactor yn achosi’r rhyfeloedd yng ngwledydd Corea (1950-53) a Fietnam (1957-1975).

Cynrychiolai’r ddau arch-bwer syniadau gwleidyddol gwahanol rhwng cyfalafiaeth a democratiaeth, a chafodd Ewrop ei rhannu gan y Llen Haearn. Rhannwyd Berlin gan Fur Berlin oedd yn gwahanu’r rhanbarth gorllewinol, democrataidd oddi wrth y rhanbarth dwyreiniol, comiwnyddol.  Ffurfiodd y ddwy ochr gynghreiriau milwrol, sef NATO a Chytundeb Warsaw; datblygodd ras arfau gyda phwyslais ar ddatblygiad arfau niwclear a bu cystadleuaeth rhwng y ddau arch-bwer yn y ras i’r gofod.  

Dymchwelwyd Wal Berlin adeg Chwyldroadau 1989 yn Ewrop gan greu Almaen unedig yn 1990, a chwalodd yr Undeb Sofietaidd yn 1991. Roedd 1989 yn flwyddyn lle gwelwyd dymchwel llywodraethau comiwnyddol ar draws y byd.  Chwalwyd llawer o’r llywodraethau comiwnyddol roedd yr Undeb Sofietaidd wedi eu cefnogi ar draws y byd heblaw am Tsiena, Gogledd Corea, Ciwba, Fietnam a Laos.  Roedd Protestiadau Sgwâr Tiananmen yn 1989 yn brotestiadau treisgar lle lladdwyd cannoedd o brotestwyr yn Sgwâr Tiananmen, Beijing, Tseina mewn ymdrech i ddymchwel y llywodraeth gomiwnyddol. 

Methodd y Rhyfel Byd Cyntaf neu’r ‘rhyfel i orffen pob rhyfel’ sicrhau heddwch. Disgrifiwyd yr Ail Ryfel Byd fel busnes anorffenedig y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn dilyn y ddau ryfel byd ffurfiwyd Cynghrair y Cenhedloedd ac yna'r Cenhedloedd Unedig.  Sefydlwyd Cynghrair y Cenhedloedd yn 1919 ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna disodlwyd ef gan y Cenhedloedd Unedig yn 1945 ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Roedd hwn yn fforwm rhyngwladol lle gallai gwledydd y byd drafod materion a oedd yn peryglu heddwch byd-eang; trafod materion diplomyddol, trafod canllawiau ynghylch rheolau rhyfel, sut i amddiffyn yr amgylchedd, sofraniaeth gwledydd a hawliau dynol. Roedd lluoedd cadw heddwch y Cenhedloedd Unedig (oedd yn cynnwys milwyr gwahanol aelodau’r Cenhedloedd Unedig) ac asiantaethau eraill y Cenhedloedd Unedig yn rhoi cymorth mewn gwahanol ardaloedd argyfyngus ar draws y byd.  Roeddent yn helpu i leihau newyn, afiechydon a thlodi. Methodd sefydliadau fel Cynghrair y Cenhedloedd a’i olynydd y Cenhedloedd Unedig ag atal rhyfeloedd. Ers 1945, fodd bynnag, does dim rhyfel wedi bod rhwng y pwerau mawr gan fod y syniad o Gyd–ddinistr Sicr (MAD: Mutually Assured Destruction) wedi llwyddo i atal rhyfel. Yn y cyfnod ar ôl 1945 mae 9 rhyfel o bob 10 wedi digwydd mewn gwledydd gwan, ansefydlog yn y Trydydd Byd.  

Arweiniodd mwy o gydweithrediad rhwng y gwledydd at ddatblygiad yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y 1950au. Roedd hwn yn grŵp o wledydd yn Ewrop a oedd yn cydweithio yn wleidyddol, yn economaidd ac yn fasnachol. 

Roedd dulliau heddychlon Gandhi a’r mudiad i sicrhau annibyniaeth i India oddi ar Ymerodraeth Prydain yn ddylanwad mawr ar ddulliau protestio mudiadau gwleidyddol eraill ar draws y byd, er enghraifft, y Mudiad Hawliau Sifil yn America a’r mudiadau rhyddid yn ne Affrica a Burma. Bu mudiadau cenedlaetholgar yn bwysig yn yr ymgyrch i sicrhau annibyniaeth i India a Phakistan yn 1947. Yn y Dwyrain Canol yn 1948 crëwyd gwladwriaeth Iddewig newydd, Israel. Roedd chwalfa llawer o ymerodraethau wedi arwain at annibyniaeth i lawer o wledydd yn Affrica ac Asia.

Yn ystod y 1950au a’r 1960au heriodd y Mudiad Hawliau Sifil yn America dan arweiniad Martin Luther King a’r mudiad yn erbyn apartheid yn ne Affrica o dan arweiniad Nelson Mandela yr arwahanu hiliol a oedd yn digwydd yn y gwledydd hynny. Bu’n ymgyrch a barhaodd ar hyd gweddill y ganrif yn y ddwy wlad.  Un o’r cerrig milltir pwysig ym mrwydr de Affrica oedd ethol Nelson Mandela yn Arlywydd du cyntaf De Affrica rhwng 1994-1999.  Etholwyd ef yn yr etholiad democrataidd llawn cyntaf yn hanes de Affrica.

Bu farw degau o filiynau o daeogion Tsieineaidd rhwng 1959 a 1962 oherwydd Newyn Mawr Tsieina. Credir mai hwn oedd y newyn mwyaf yn hanes y ddynoliaeth.

Achosodd y Rhyfel Sofietaidd yn Affghanistan rhwng 1979 a 1989, dros filiwn o farwolaethau, ac roedd yn un o’r rhesymau pam chwalodd yr Undeb Sofietaidd.

Daeth cerddoriaeth blues a jazz yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 1910au a’r 1920au.

Yn y 1950au daeth Roc a Rôl yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau, a Jerry Lee Lewis ac Elvis Presley yn dod yn rhai o eiconau’r cyfnod. Yn ystod y 1960au daeth The Beatles yn fyd-enwog am eu caneuon poblogaidd wedi eu dylanwadu gan roc a rôl.

O ganol yr 20fed ganrif ymlaen daeth ‘roc a rôl’, cerddoriaeth werinol/roc, metal trwm a phync roc yn rhan o gerddoriaeth boblogaidd.  Yn y 1980au a’r 1990au daeth hip hop yn boblogaidd.  Ar yr un adeg datblygwyd cerddoriaeth house, techno, reggae a soul.  Dechreuwyd defnyddio syntheseiswyr mewn cerddoriaeth, gyda hynny'n trosi i gerddoriaeth boblogaidd yn y 1980au ar ffurf cerddoriaeth ‘new wave’.  Cafodd offerynnau electronig ddylanwad ar bob math o gerddoriaeth boblogaidd, ac arweiniodd hynny at ddyfeisio genres (mathau) newydd o gerddoriaeth, fel house, synthpop, cerddoriaeth dawns electronig a cherddoriaeth ddiwydiannol.

Cafodd ffilm ei greu fel cyfrwng artistig yn ystod yr 20fed ganrif. Agorwyd y sinema gyntaf yn Pittsburgh yn 1905.  

Datblygodd Hollywood yn Los Angeles i fod yn ganolfan ar gyfer y diwydiant ffilmiau. Tra bod y ffilmiau cyntaf yn rhai du a gwyn, erbyn y 1920au datblygwyd ‘Technicolor’ i greu ffilmiau lliw.  Rhyddhawyd y ffilm hir gyntaf gyda sain, sef The Jazz Singer, yn 1927.  Sefydlwyd Gwobrau Academi yr Oscars yn 1929.

Datblygwyd animeiddio yn ystod y 1920au. Snow White and the Seven Dwarfs oedd y ffilm hir gyntaf wedi ei hanimeiddio. Rhyddhawyd y ffilm yn 1937. Datblygwyd CGI yn ystod y 1980au. Y ffilm hir CGI gyntaf gydag animeiddio yn rhan ohoni oedd Toy Story a ryddhawyd yn 1995.

Yn y theatr, daeth Broadway yn Efrog Newydd yn ganolfan bwysig yn fyd-eang ar gyfer awduron drama ac ar gyfer theatr gerddorol.  Cafodd gwaith awduron fel Arthur Miller a Tennessee Williams ei berfformio ar Broadway ac roedd cyfansoddwyr fel Rodgers and Hammerstein, Lerner and Loewe ac Irving Berlin yn ddylanwadau pwysig ar y diwydiant a’r diwylliant ffilm.

Gyda datblygiadau technolegol mewn cyfrifiaduron ers yr Ail Ryfel Byd, crëwyd math newydd o adloniant yn yr 20fed ganrif – sef y gêm fideo. Tra bod y syniad o gemau fideo wedi cael eu llunio yn ystod y 1940au a'r 50au, ni wnaeth gemau fideo ddatblygu fel diwydiant a busnes tan y 1970au.   Roedd hwn yn ffenomenon cymdeithasol a diwylliannol ac yn gychwyn ar oes aur gemau fideo arcêd – dyma’r cyfnod pan ryddhawyd Space Invaders gan Taito, Asteroids gan Atari a Pac-Man gan Namco.

Cafodd cwmni Nintendo lwyddiant ysgubol gyda gwerthiant gêm Super Mario Bros ar draws y byd.  Yn ystod y 1990au rhyddhawyd pecyn gêm fideo PlayStation gan Sony gyda gwerthiant yn cyrraedd 100 miliwn.  Roedd gemau fideo mor boblogaidd fel bod y diwydiant wedi creu swyddi newydd - er enghraifft, cynllunwyr gemau fideo.

Datblygodd ffurfiau a steiliau newydd o gelfyddyd fel Mynegiadaeth (Saesneg:Expressionism), Dada (Saesneg:Dadaism), Ciwbiaeth (Saesneg:Cubism), Swrealaeth, (Seasneg:Surrealism), Celf bop (Saesneg:Pop Art) a chelf gysyniadaol (Saesneg:Conceptual art). Roedd y syniadau newydd hyn yn bwysig yn natblygiad Moderniaeth.

Yn Ewrop, datblygodd pensaernïaeth fodern mewn ffurf wahanol iawn i steiliau addurniadol oes Fictoria. Roedd datblygiadau mewn defnyddiau adeiladu a thechnoleg yn golygu bod ffurfiau newydd o bensaerniaeth fwy syth ac onglog yn bosibl. 

Datblygwyd meysydd newydd o fathemateg yn yr 20fed ganrif.  Yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif lluniwyd theori mesur, dadansoddiad swyddogaethol (Saesneg:functional analysis), a thopoleg (Saesneg:topology).  Bu datblygiadau pwysig hefyd mewn meysydd fel algebra haniaethol, a syniadau tebygolrwydd (Saesneg:probability).

Yn nes ymlaen yn y ganrif, fe wnaeth datblygiad cyfrifiaduron arwain at greu theori gyfrifiadurol. Dyma’r ganrif pan wnaeth Alan Turing ddod i’r amlwg fel un o benseiri gwyddoniaeth gyfrifiadurol.

Yn yr ugeinfed ganrif, daeth chwaraeon yn weithgaredd hamdden boblogaidd a hefyd yn fath o adloniant, yn enwedig ar y teledu. Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd modern cyntaf yn 1896 a daeth yn un o ddigwyddiadau chwaraeon pwysicaf yr oes fodern. Cynhaliwyd Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf yn 1930, ac fe'i cynhaliwyd bob 4 mlynedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd.  Dyma’r ganrif a welodd ddechrau Cwpan Rygbi'r Byd  a llu eraill o dwrneimantau chwaraeon byd-eang yn cael eu darlledu.

Yn ystod hanner cyntaf y ganrif datblygwyd meysydd newydd o ffiseg, fel perthynoledd arbennig, perthynoledd cyffredinol a mecaneg cwantwm. Drwy astudio’r meysydd hyn ym maes ffiseg cafwyd gwell dealltwriaeth o strwythur yr atom.  Roedd y ffisegwr Albert Einstein yn hollbwysig yn profi ei bod hi’n bosibl rhannu atom.

Darganfuwyd adweithiau niwclear, ac yn arbennig ymasiad niwclear.  Roedd y ddeubeth hyn yn allweddol i ddeall gwreiddiau egni'r haul.

Darganfuwyd dyddio radiocarbon, a ddaeth yn dechneg bwerus a chywir wrth benderfynu oedran anifeiliaid a phlanhigion cynhanesyddol, ac arteffactau ac eitemau hanesyddol.

Datblygwyd dealltwriaeth well o sut oedd y bydysawd wedi datblygu a beth oedd ei oedran. Amcangyfrifwyd ei fod tua 13.8 biliwn o flynyddoedd. Cyflwynwyd Damcaniaeth y Glec Fawr a oedd yn cynnig syniadau ynghylch sut oedd y byd wedi dod i fodolaeth. Cafodd y syniad hwn ei dderbyn yn gyffredinol.

Daeth seryddwyr i gasgliadau mwy pendant ynghylch oedran Cysawd yr Haul, gan gynnwys y Ddaear. Roedd y ddaear yn llawer hynach na'r hyn a gredwyd ynghynt – mae ei hoedran tua 4 biliwn o flynyddoedd yn hytrach na’r 20 miliwn o flynyddoedd a grybwyllwyd gan seryddwyr blaenorol.

Dechreuwyd arsylwi planedau Cysawd yr Haul a’r lleuadau yn llawer mwy manwl drwy ddefnyddio chwiliedyddion gofod.  Darganfuwyd y blaned Plwton yn 1930 ar gyrion Cysawd yr Haul, ond cafodd ei hail-gategoreiddio ar ddechrau'r 21ain ganrif fel ‘plutoid’ yn hytrach na phlaned go iawn. Golyga hyn mai dim ond 8 planed sydd yng Nghysawd yr Haul.

Gwnaed cynnydd pwysig ym maes geneteg a phwysigrwydd gwyddonol y maes hwnnw. Yn 1953 cyhoeddodd James Watson, Francis Crick, Rosalind Franklin a Maurice Wilkins eu darganfyddiad bod gan DNA strwythur pendant.  Bu hyn o gymorth mawr wrth ddatblygu technegau a fyddai’n medru darllen dilyniant DNA (DNA sequences) ac a arweiniodd at Brosiect Genom Dynol (Saesneg:Human Genome Project) fel y bu modd clonio mamal am y tro cyntaf yn 1996.

Darganfuwyd penisilin gan Alexander Fleming yn 1928. Roedd darganfyddiad Gwrthfiotig tebyg i hyn yn gweddnewid y byd meddygaeth modern. Byddai Gwrthfiotig yn arf pwysig wrth leihau marwolaethau oherwydd afiechydon bacteriol.

Datblygwyd brechiad ar gyfer Poliomyelitis. Datblygwyd brechiadau effeithiol ar gyfer nifer o afiechydon heintus eraill, gan gynnwys y ffliw, Melyn mannog, y pâs, tetanws, y frech goch, clwy’r pennau (mumps), brech ieir, hepatitis A a hepatitis B.  Arweiniodd mwy o ymchwil ym maes brechiadau at ddileu feirws y frech wen yn gyfan gwbl mewn pobl.  Mae brechiadau, gwell safonau glendid a chyflenwadau dŵr glân wedi lleihau achosion marwolaethau, yn enwedig ymhlith babanod a phlant.

Sefydlwyd y clinig atal cenhedlu cyntaf ym Mhrydain gan Marie Stopes yn 1920.  Bu datblygiadau ym maes dulliau atal cenhedlu yn hollbwysig o ran lleihau twf ym mhoblogaeth gwledydd diwydiannol y byd.

Bu darganfyddiad inswlin meddygol yn ystod y 1920au yn bwysig o ran gwella disgwyliadau oedran cleifion diabetig gymaint â thair gwaith.

Daeth pelydr-X yn rhan bwysig o wneud diagnosis wrth drin cleifion – o dorri asgwrn i ganser. O’r 1960au ymlaen datblygwyd offer diagnostig eraill, er enghraifft, sonograffi, ac o’r 1970au ymlaen defnyddiwyd MRI (magnetic resonance imaging).

Yn ystod y 1950au profodd ymchwil bod cysylltiad uniongyrchol rhwng ysmygu tybaco a chanser. Datblygwyd dulliau newydd o drin canser, er enghraifft, cemotherapi, therapi ymbelydrol ac imiwnotherapi. O ganlyniad roedd modd gwella’n llwyr o ganser neu wella am ysbaid.

Dechreuwyd categoreiddio gwaed a sefydlwyd banciau gwaed. Golygai hyn bod trawsarllwysiad gwaed yn fwy diogel ac yn dod yn fwy cyffredin. Cynhaliwyd y trawsblaniad calon cyntaf lle llwyddwyd i ddod â'r claf yn ôl yn ymwybodol yn 1967 gan Dr Christiaan Barnard. Bu dyfeisiadau a datblygiadau mewn meddyginiaethau gwrthimiwnaidd a sut roedd meinwe yn cael ei gategoreiddio, a golygodd hynny bod trawsblaniadau organau a meinwe yn dod yn fwy cyffredin. Datblygwyd triniaethau newydd ar gyfer llawdriniaethau ar y galon – er enghraifft, datblygu amseriaduron calon a chalonnau artiffisial.

Lladdwyd rhwng 20 a 100 miliwn o bobl rhwng 1918 a 1919 gan bandemig ffliw y Ffliw Sbaenaidd.

Darganfuwyd feirws newydd, sef HIV, a gychwynnodd yn Affrica.  Roedd y feirws HIV yn arwain at gyflwr AIDS a lledaenodd y feirws ar draws y byd, gan ladd miliynau o bobl. Datblygwyd brechiadau a meddyginaethau i drin y cyflwr.

Gan fod cyfraddau oedran wedi cynyddu mae afiechydon fel canser, Clefyd Alzheimer a Chlefyd Parkinson wedi dod yn fwy cyffredin.

Yn ystod yr 20fed ganrif defnyddiwyd mwy o adnoddau ffosil fel glo, olew a phetrol. Gwnaed mwy o ddefnydd o bŵer niwclear hefyd.

Achosodd y defnydd cynyddol o danwydd ffosil drafodaeth fyd-eang am ei effaith ar lygredd awyr, cynhesu byd-eang a’r newid oedd yn digwydd yn nhymheredd yr hinsawdd.

Roedd plaladdwyr, chwynladdwyr a chemegau gwenwynig eraill yn crynhoi yn yr amgylchedd, yng nghyrff pobl ac mewn anifeiliaid.

Un o nodweddion pennaf yr 20fed ganrif oedd twf a dylanwad technoleg. Cafodd yr ymchwil a wnaed ym maes technoleg effaith ar feysydd eraill fel cyfathrebu, electroneg, peirianneg, teithio, meddygaeth a rhyfel. Dechreuwyd defnyddio offer sylfaenol technolegol yn y cartref o’r 1920au ymlaen, gan ennill mwy o boblogrwydd o’r 1950au ymlaen: er enghraifft, peiriant golchi, sychwyr dillad, rhewgelloedd, rhewgistiau, ffyrnau trydan a sugnwyr llwch.  Poblogeiddiwyd y radio fel ffurf o adloniant o’r 1920au ymlaen. Defnyddiwyd y radio hefyd ar adegau o argyfwng cenedlaethol i gyfathrebu gyda chynulleidfa eang. Daeth F. D. Roosevelt, Arlywydd America, yn enwog yn ystod ei gyfnod fel Arlywydd am ei ‘sgyrsiau ger y tân’ ar y radio gyda phobl America. Roedd Winston Churchill hefyd yn defnyddio’r radio fel arf propaganda wrth iddo geisio codi morâl pobl Prydain adeg yr Ail Ryfel Byd. Daeth y teledu yn fwyfwy cyffredin yn ystod y 1950au a’r 1960au hefyd.

Hedfanwyd yr awyren gyntaf yn 1903.  Dyfeisiwyd yr injan jet gyflymach yn ystod y 1940au ac oherwydd hynny daeth teithio drwy'r awyr o fewn cyrraedd i filiynau o bobl. Daeth cwmnïau teithio masnachol oedd yn darparu gwyliau drwy deithio drwy'r awyr yn fwy cyffredin.

Roedd datblygiad y ‘llinell gynhyrchu’ yn caniatáu adeiladu ceir ar raddfa gyflymach. Ar ddechrau’r 20fed ganrif cwmni ceir Henry Ford yn America oedd yr un cyntaf yn y byd a fedrai gynhyrchu car ar raddfa eang oherwydd y defnydd o’r llinell gynhyrchu. Ceir Ford oedd y rhain.

Dyfeisiwyd a defnyddiwyd defnyddiau newydd fel dur gloyw, felcro, silicon, tefflon. Daeth plastigau fel polystyren, PVC, polyethylen a neilon yn fwy cyffredin a dechreuwyd eu defnyddio ar gyfer sawl pwrpas gwahanol. Roedd y defnyddiau newydd hyn yn cynnig cryfder, yn medru goddef tymheredd uchel, ac yn medru gwrthsefyll gwahanol gemegau roedd llawer o ddefnyddiau cyn yr 20fed ganrif yn methu eu gwrthsefyll. Daeth alwminiwm yn fwyfwy cyffredin ac yn ail o ran defnydd i haearn. Datblygwyd miloedd o gemegau ar gyfer cael eu prosesu mewn diwydiant neu ar gyfer defnydd yn y cartref.

Ar ddiwedd yr 20fed ganrif bu chwyldro digidol a oedd hefyd yn cael ei adnabod, ymhlith enwau eraill, fel yr ‘oes wybodaeth’ neu'r ‘chwyldro gwybodaeth’.

Dyfeisiwyd y microsglodyn ar ddechrau’r 1960au. Datblygwyd y microsglodyn ymhellach yn y 1970au ac erbyn dechrau'r 1980au roedd y chwyldro microsglodion wedi dechrau. Arweiniodd hyn at y cyfrifiaduron personol yn y 1980au, yna at ddyfeisio ffonau symudol a’r rhyngrwyd byd-eang yn ystod y 1990au.

Erbyn y 1980au a’r 1990au roedd teledu lloeren yn dod yn fwy poblogaidd ac roedd cyfrifiaduron wedi dechrau cael eu defnyddio yn nhai pobl yn ystod y 1970au a’r 1980au. Daeth camerâu digidol yn fwy cyffredin yn ystod y 1980au a’r 1990au. 

Bu radio transistor, traciau 8 sain a thapiau casét yn ystod y 1960au yn gamau pwysig yn natblygiad chwaraewyr cerddoriaeth symudol.  Yn raddol disodlodd y rhain chwaraewyr recordiau, gyda’r Sony Walkman yn cael ei gyflwyno yn y 1970au. Wedyn daeth Cryno-ddisgiau yn ystod y 1980au a’r 1990au.  Fe wnaeth dyfodiad yr MP3 ar y we yn ystod canol a ddiwedd y 1990au y broses o ddosbarthu cerddoriaeth yn ddigidol yn bosib. Roedd chwaraewyr tapiau fideo (VCRs) yn boblogaidd yn ystod y 1970au ond erbyn diwedd yr 20fed ganrif roeddent wedi dechrau cael eu disodli gan chwaraewyr DVD.  Erbyn diwedd degawd cyntaf yr 21ain ganrif roedd VHS wedi dod i ben fel cyfrwng hyfyw.

Bu twf enfawr hefyd yn y diwydiant telegyfathrebu tuag at ddiwedd yr 20fed ganrif, gyda chyfathrebu di-wifr yn dod yn gyffredin. Gwelwyd twf mewn rhwydweithiau a chwmnïau ffonau symudol yn sgil hynny.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd datblygodd Ras Arfau a Ras i’r Gofod rhwng yr arch-bwerau, sef Unol Daleithiau America a’r Undeb Sofietaidd.  Roedd hyn yn rhan o’r Rhyfel Oer.

Teithiau dyn i’r gofod

Yn nes ymlaen lansiodd rhaglen ofod yr Undeb Sofietaidd yr orsaf ofod gyntaf.

Roedd lloerenni Di-griw hefyd yn hanfodol ar gyfer parhau i fforio a darganfod pethau am y gofod. Lansiwyd lloeren Sputnik 1 yn 1957 gan yr Undeb Sofietaidd, sef y lloeren gyntaf erioed i gael ei lansio i’r gofod. Roedd y lloeren hon yn teithio'n gyson i wahanol fannau yn y gofod. Lansiwyd nifer o loerenni yn ddiweddarach oedd yn teithio o gwmpas y ddaear.  Erbyn diwedd yr 20fed ganrif roedd nifer o loerenni wedi ymweld â’r lleuad, planedau Mercher, Fenws, Mawrth, Iau, Sadwrn, Wranws a Neifion yn ogystal ag asteroidau a chomedau eraill. Lansiwyd Telesgop Gofod Hubble yn 1990 a oedd yn galluogi darlledu lluniau o’r bydysawd ar gyfrifiaduron a theledu ar draws y byd. Roedd hyn yn ddatblygiad pellach o ran faint o wybodaeth oedd yn medru cael ei chasglu am y bydysawd a dealltwriaeth dyn o’r bydysawd.

Daeth dechrau canrif newydd â chyfnod cyffrous o dwf economaidd a newidiadau gwleidyddol pellgyrhaeddol yng Nghymru. Dyma ganrif hefyd a welodd Cymru yn magu mwy o ymwybyddiaeth o’i hunaniaeth fel gwlad ac o ran ei hiaith a’i diwylliant.

Ar ddechrau’r ganrif roedd cymoedd y de a’r diwydiant glo yn ffynnu ac yn cynhyrchu traean o holl allforion glo'r byd. Ar y llaw arall, roedd 1900-1913 yn gyfnod o anghydfod diwydiannol gyda streic Chwarel y Penrhyn, a therfysgoedd Tonypandy a Llanelli yn ddiweddarach. Mewn materion gwleidyddol clywid llais y merched am y tro cyntaf gyda chychwyn ymgyrch y Swffragetiaid.  Roedd yn gyfnod o lwyddiant ac optimistaeth mawr, ond buan y tarfwyd ar hynny gyda dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914. Yn ei sgil daeth un o brif ffigurau gwleidyddol amlycaf Cymru’r 20fed ganrif i’r amlwg, sef David Lloyd George.  Amlygodd y Cymro ei hun fel arweinydd medrus ac adnabuwyd ef fel ‘y dyn a enillodd y rhyfel’. 

Ond er mor deyrngar oedd Cymru i’r Rhyddfrydwyr ar ddechrau’r ganrif gwelwyd newidiadau mawr ym map gwleidyddol Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Erbyn y 1920au a’r 1930au roedd de Cymru wedi dod yn gadarnle i’r Blaid Lafur, gyda hyd yn oed rywfaint o gefnogaeth i’r Blaid Gomiwnyddol. Er enghraifft, roedd y Rhondda yn cael ei hadnabod fel ‘Moscow Fach’ yn ystod y cyfnod hwn. Sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru yn 1925, ac yn ystod y degawdau dilynol enillodd y blaid dir newydd yng Nghymru. 

Ym myd gwaith symudodd Cymru o fod yn wlad a oedd yn ddibynnol ar y diwydiannau trwm traddodiadol i fod yn wlad ag economi fwy amrywiol, gyda symudiad tuag at waith cynhyrchu ceir, swyddi gweinyddol a byd twristiaeth. Roedd hon yn ganrif lle gwelwyd y gwerthoedd traddodiadol crefyddol yn crebachu, ac roedd yr hen Gymru Anghydffurfiol, a fu’n ddylanwad mor hollbwerus ym mywyd Cymru ar ddechrau’r ganrif, wedi colli ei hapêl i genedlaethau newydd erbyn diwedd y ganrif.

Magodd Cymru hyder cynyddol yn ei hunaniaeth yn ystod y ganrif, gyda sefydliadau cenedlaethol yn cael eu sefydlu fel Prifysgol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa. Meithrinwyd hefyd ymwybyddiaeth a balchder cynyddol yn ei hiaith a’i diwylliant, gyda thwf mewn addysg Gymraeg, deddfau iaith yn cael eu pasio a hefyd mudiadau yn cael eu sefydlu er mwyn amddiffyn a hyrwyddo hawliau’r iaith. Cryfhawyd yr ymdeimlad hwn o genedlaetholdeb yn sgil profiadau Cymru yn ystod y ganrif - er enghraifft, y cronfeydd dŵr a agorwyd ar draul dinistrio cymunedau Cymraeg eu hiaith, Boddi Tryweryn a’r defnydd a wnaed o’i thir ar gyfer pwrpas milwrol. Roedd y 1960au yn gyfnod lle gwelwyd newid mewn agweddau tuag at werthoedd traddodiadol y genhedlaeth hŷn. Roedd y genhedlaeth ifanc yn herio’r hen drefn. Dyma’r cyfnod pan ddatblygodd ‘Y bwlch rhwng cenedlaethau’. Adlewyrchwyd y newid hwn mewn cerddoriaeth boblogaidd Cymraeg. Ysbrydolwyd nhw gan gynnwrf protestiadau gwleidyddol y cyfnod - er enghraifft, Dafydd Iwan yn cyfansoddi caneuon adeg Arwisgiad 1969. Wedi i’r Blaid Lafur ennill etholiad 1974, ailgydiwyd yn y drafodaeth ynghylch ymreolaeth i Gymru, ac roedd sefydlu mudiadau fel mudiad ysgolion meithrin yn dyst i’r ffaith nad iaith i’r henoed yn unig oedd y Gymraeg.

Coronwyd diwedd y ganrif gyda sefydliad gwleidyddol newydd i Gymru. Etholwyd llywodraeth newydd i Brydain, ac mewn refferendwm yn 1997 pleidleisiodd pobl Cymru dros ddatganoli. Trawsnewidiwyd Bae Caerdydd gydag adeiladau trawiadol y Senedd a Chanolfan y Mileniwm.




#Article 47: William Ewart Gladstone (543 words)


Gwleidydd Rhyddfrydol a Phrif Weinidog Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon bedair gwaith (1868-1874, 1880-1885, 1886, a 1892-1894) oedd William Ewart Gladstone (29 Rhagfyr 1809 - 19 Mai 1898). Parhaodd ei yrfa fel gwleidydd am gyfnod o dros 60 mlynedd. Caiff ei gyfri'n un o Brif Weinidogion y Deyrnas Unedig a chopiwyd rhai o'i ddulliau economaidd cynnil gan Thatcher.

William Gladstone oedd pedwerydd mab Syr John Gladstone, masnachwr o Lerpwl, a siaradodd ef gydag acen Lerpwl trwy gydol ei oes. Aeth William i Goleg Eton ac wedyn i Goleg Eglwys Grist, Rhydychen i astudio'r Clasuron a Mathemateg. Roedd e am fod yn offeiriad, ond yng Nghymdeithas Trafod Undeb Rhydychen (Oxford Union debating society) gwnaeth ei enw fel areithiwr arbennig.

Roedd ef a'r Frenhines Victoria'n anghytun a'i gilydd drwy gydol ei oes; unwaith fe ddywedodd hi amdano, He always addresses me as if I were a public meeting. Roedd yn cael ei alw'n Grand Old Man, fodd bynnag. Dywedodd David Lloyd George amdano: What a man he was! Head and shoulders above anyone else I have ever seen in the House of Commons. I did not like him much. He hated Nonconformists and Welsh Nonconformists in particular, and he had no real sympathy with the working-classes. But he was far and away the best Parliamentary speaker I have ever heard. He was not so good in exposition. Galwyd ef gan Disraeli yn God's Only Mistake.

Nododd Margaret Thatcher yn 1983: We have a duty to make sure that every penny piece we raise in taxation is spent wisely and well. For it is our party which is dedicated to good housekeeping—indeed, I would not mind betting that if Mr Gladstone were alive today he would apply to join the Conservative Party. Yn 1996, dywedodd: The kind of Conservatism which he and I...favoured would be best described as 'liberal', in the old-fashioned sense. And I mean the liberalism of Mr Gladstone, not of the latter-day collectivists. Mynnodd y cyn-Ganghellor Nigel Lawson, mai Gladstone oedd y Canghellor gorau a fu erioed.

Cafodd Gladstone ei ethol i San Steffan am y tro cyntaf yn 1832, fel Aelod Seneddol Ceidwadol Newark, Swydd Nottingham. Roedd yn erbyn y ddeddf i ddileu caethwasanaeth yn 1833, a'r deddfau ffatrioedd i wellha bywyd y gweithwyr.

Dadleuodd dro ar ôl tro dros Iwerddon Rydd, a llwyddodd i fynd a Mesur Home Rule for Ireland drwy'r Tȳ Cyffredin yn 1886; pan daflwyd ei gynnig dros hunan lywodraeth ymddiswyddodd fel Prif Weinidog.

Yn 1839 priododd Catherine Glynne (6 Ionawr 1812 – 14 Mehefin 1900) merch Stephen Glynne (8ed Barwn Castell Penarlâg) yn y castell yn Sir y Fflint. Drwy ei brawd Syr Stephen Glynne (a oedd yn Aelod Seneddol Ceidwadol) y gwnaeth hi gyfarfod â William Gladstone. Cawsant wyth o blant: William, Agnes, Helen, Henry, Herbert, Mary, Catherine Jessie a John.

Roedd teulu'r Glynne-iaid o Benarlâg yn olrhain eu llinach yn ôl at deulu'r Glyniaid o Lynllifon (i Syr William Glynne o a chynt).

Gladstone oedd sefydlydd Llyfrgell Gladstone (a alwyd yn 'Llyfrgell Deiniol Sant' tan y 2010au), ym Mhenarlâg sy'n dal i fod  ar agor i'r cyhoedd.

Oherwydd ei gysylltiadau â Chymru ar adeg pan fu Rhyddfrydiaeth yn cael cefnogaeth y mwyafrif o'r Cymry, ceir sawl llyfr am Gladstone yn y Gymraeg. Er enghraifft:




#Article 48: Tom Jones (778 words)


Canwr Cymreig sy'n nodweddiadol am ei lais sy'n ymestyn dros sawl wythfed ydy Syr Thomas Jones Woodward neu Tom Jones (ganwyd 7 Mehefin 1940, Pontypridd). Mae'n enedigol o bentref Trefforest. Mae e wedi ennill Gwobr Grammy, ac ymhlith ei ganeuon enwocaf, gellid crybwyll The Green Green Grass of Home a Delilah.

Ganwyd Thomas John Woodward, yn 57 Kingsland Terrace, Trefforest, Pontypridd, Sir Forgannwg. Ei rieni oedd Thomas Woodward (bu farw 5 Hydref 1981), glöwr, a Freda Jones (bu farw 7 Chwefror 2003). Roedd tri o'i deulu o dras Seisnig: roedd ei dad-cu tadol, James Woodward, yn haliwr haearnwerthwr o Swydd Gaerloyw, ac roedd ei fam-gu dadol o Wiltshire. Roedd ei dad-cu mamol yn Gymraeg, a ganwyd ei fam-gu famol ym Mhontypridd, i rieni o Wlad yr Haf a Wiltshire.

Mynychodd Jones Ysgol Fabanod Wood Road, Ysgol Gynradd Wood Road ac Ysgol Uwchradd Fodern Pontypridd Central. Dechreuodd ganu yn ifanc iawn: Roedd yn canu'n rheolaidd mewn digwyddiadau teuluol, priodasau ac yng nghôr yr ysgol. Nid oedd Jones yn hoffi ysgol na chwaraeon, ond magodd hyder drwy ei dalent i ganu. Yn 12 oed cafodd fod y diciâu arno. Blynyddoedd yn ddiweddarach dywedodd: Treuliais i ddwy flynedd yn y gwely yn gwella. Dyna'r adeg waetha yn fy mywyd. Wrth wella nid oedd ganddo ddim i'w wneud heblaw gwrando ar gerddoriaeth a darlunio.

Datblygodd arddull canu Jones allan o synau cerddoriaeth soul Americanaidd. Roedd ei ddylanwadau cynnar yn cynnwys cantorion y felan ac RB fel Little Richard, Solomon Burke, Jackie Wilson a Brook Benton, ynghyd â Elvis Presley, oedd yn eilun i Jones a daeth yn ffrindiau agos gydag e yn ddiweddarach.

Yn Mawrth 1957 priododd Jones ei gariad o'r ysgol uwchradd, Linda Trenchard, pan oedd y ddau yn 16 mlwydd oed a Linda yn disgwyl plentyn ganddo. Ganwyd ei mab Mark yn y mis yn dilyn y briodas. I gynnal ei deulu ifanc, cymerodd Jones swydd mewn ffatri fenig ac yn ddiweddarach mewn gwaith adeiladu.

Roedd Jones yn briod gyda'i wraig Linda rhwng 1957 hyd ei marwolaeth yn 2016, er gwaetha bod yn anffyddlon yn ystod ei yrfa. Mae gan y cwpl un mab, Mark Woodward (1957). Ar anterth ei enwogrwydd, honnodd Jones ei fod wedi cael rhyw gyda fyny at 250 o grwpis y flwyddyn Unwaith arweiniodd ei fercheta at Linda i ymosod yn gorfforol arno.  Ar ôl darllen am un garwriaeth yn y papur newydd, fe bwniodd a chiciodd Jones, ond ni ymladdodd 'e nôl. I took it, dywedodd. Cafodd Jones garwriaethau gyda nifer o fenywod adnabyddus yn cynnwys Mary Wilson o The Supremes, cyflwynydd teledu Charlotte Laws a'r cyn Miss Byd Marjorie Wallace.  Honnodd Cassandra Peterson, sy'n fwy adnabyddus fel Elvira, Mistress of the Dark, ei bod wedi colli ei gwyryfdod i Jones.

Ganwyd bachgen o ganlyniad i un garwriaeth. Yn Hydref 1987, tra ar daith yn yr UDA, cafodd Jones berthynas byr gyda'r model Katherine Berkery, a ddarganfu wedyn ei bod yn feichiog. Ar ôl brwydr gyfreithiol oedd yn cynnwys profi DNA, dyfarnodd llys yn yr Unol Daleithiau yn 1989 mai Jones oedd tad y bachgen. Gwadodd Jones ganfyddiad y llys, hyd at 2008 pan gyfaddefodd y gwir. Nid yw wedi dangos diddordeb mewn cyfarfod ei fab, Jonathan Berkery.

Yn dilyn etholiad Harold Wilson o'r Blaid Lafur fel Prif Weinidog yn 1974, daeth Jones yn alltud treth. Yn Mehefin 1976, prynodd blasty bric coch ar 363 Copa De Oro Road yn East Gate Bel Air, Los Angeles o Dean Martin am $500,000. Fe'i gwerthodd i Nicolas Cage yn 1998 am $6.469 miliwn yn ôl adroddiadau. Yn 2009 ar ôl 35 mlynedd o fyw yn yr UDA, datgelodd Jones ei fod e a'i wraig yn bwriadu symud yn ôl i Brydain. Dywedodd Jones I've had a great time living in Los Angeles but after all these years, we think now is the time to move home. Ar sioe The Chris Moyles Show ar 27 Gorffennaf 2009, dywedodd ei fod dal i fyw yn Los Angeles a'i fod am aros yno am y tro, ond ei fod dal yn ymweld â gwledydd Prydain yn aml.

Yn Hydref 2014 cyhoeddwyd ei hunangofiant Over the Top and Back: The Autobiography gan Michael Joseph. Yn adolygu'r llyfr yn The Express, dywedodd Clair Woodward, Yn nhraddodiad gymaint o hunangofiannau dyddiau yma, 'dyw Tom Jones ddim wir yn dweud beth ydych chi wir eisiau glywed. ... Beth sydd yn weddill yw stori ddifyr tu hwnt o Jones 'The Voice' sydd hefyd yn dweud stori am bop Prydeinig ac adloniant ysgafn o'r Chwedegau ymlaen.

Bu farw y Fonesig Melinda Rose Woodward (Linda) ar 11 Ebrill 2016, wedi brwydr fer gyda chanser. Roedd Jones wedi canslo cyngherddau wythnos ynghynt oherwydd salwch difrifol yn y teulu.




#Article 49: Daearyddiaeth (239 words)


Astudiaeth wyddonol o wyneb y Ddaear yw daearyddiaeth, yn ogystal ag asturdiaeth o'i nodweddion, ei thrigolion a ffenomenâu amrywiol. Y gair Groeg am y maes hwn oedd γεωγραφία ('geograffia', sef 'disgrifiad o'r Ddaear') ac fe'i defnyddiwyd yn gyntaf gan Eratosthenes (276–194 BC). Yn grynno, rhennir y pwnc yn ddwy ran, sef: nodweddion ffisegol, naturiol (daearyddiaeth ffisegol) a daearyddiaeth ddynol.

Mae daearyddiaeth fodern yn ddisgyblaeth eang sy'n ceisio deall gwahanol rannau o'r Ddaear (llefydd, cyfandiroedd, gwledydd), sut y daethant i fodolaeth (sy'n cynnwys elfennau o ddaeareg), ffenomenau naturiol a dynol a'r berthynas rhwng dyn a'r tir.

Prif faes daearyddiaeth ffisegol yw gwyddor Daear. Mae'n ceisio deall y lithosffer, yr hydrosffer, yr atmosffer, y pedosffer a phatrymau fflora a ffawna (sef y bioseffer). Gellir dosbarthu daearyddiaeth ffisegol fel hyn:

Y termau arferol am Ddaearyddiaeth ffisegol yn Saesneg yw: Physical geography, geosystems a physiography.

Mae daearyddiaeth ddynol yn cael ei chyfri'n un o'r 'gwyddorau cymdeithas' ac yn cynnwys astudiaeth o'r Ddaear, ei phobl a'u cymuned, eu diwylliant, economeg a sut y mae pobl yn parchu neu'n amharchu eu hamgylchedd.

Mae'n cynnwys agweddau dynol, gwleidyddol, diwylliannol, cymdeithasol, ac economaidd, sef yr hyn a elwir yn wyddorau cymdeithas. Er nad prif canolbwynt daearyddiaeth ddynol yw tirwedd ffisegol y Ddaear (gwelwch daearyddiaeth ffisegol) mae bron yn amhosib i drafod daearyddiaeth ddynol heb gyfeirio at y tirwedd ffisegol ble mae gweithgareddau dynol yn digwydd, ac mae daearyddiaeth amgylcheddol yn ymddangos fel cyswllt pwysig rhwng y ddau.
 




#Article 50: Mathemateg (407 words)


Astudiaeth o niferoedd a rhifau ydy Mathemateg, ynghŷd â strwythur, gofod a lle, newid (Calcwlws), a nifer o israniadau eraill. Nid oes iddo ddiffiniad perffaith, safonol, fodd bynnag.

Gellir gweld mathemateg fel estyniad o iaith, ar lafar neu'n ysgrifenedig, gyda geirfa a chystrawen trachywir tu hwnt, ar gyfer disgrifio ac archwilio perthnasedd materol a chysyniadol. Mae hefyd yn ymchwil i batrymau ac mae'n cyrraedd canlyniad ac yn dod i gasgliad drwy brofion mathemategol.

Daw'r gair mathemateg o'r Groeg μάθημα (máthema) sy'n golygu gwyddoniaeth, gwybodaeth, neu ddysg a μαθηματικός (mathematicós) sy'n golygu yn hoff o ddysgu. Yn Lladin a Saesneg hyd at oddeutu 1700, roedd y term yn cyfeirio at seryddiaeth a sêr-ddewiniaeth, ond newid ystyr y gair rhwng 1500 a 1800. Mae hyn wedi achosi peth camgyfieithu e. e. pan rybuddiodd Awstin o Hippo (sef Sant Awgwstin) y dylai Cristnogion fod yn ddrwgdymus o mathematici (seryddwyr) gan nad oedd yn cyfeirio at ystyr fodern o'r gair o gwbwl.

Gellir rhannu mathemateg, yn fras, yn ddwy ran: mathemateg bur a mathemateg gymhwysol (yn cynnwys mecaneg, ystadegaeth a thebygolrwydd).

Rhaid cofio fod mathemateg yn rhan hanfodol o sawl astudiaeth arall e. e. ffiseg, bioleg, cemeg a chaiff ei ystyried yn flociau adeiladu hanfodol o fewn y pynciau hyn.

Yn gyffredinol, gellir rhannu mathemateg i sawl maes gan gynnwys: astudiaeth o faint, strwythur, gofod a newid (ee rhifyddeg, algebra, geometreg a dadansoddi). Yn ychwanegol at hyn, ceir is-adrannau hefyd sy'n ymroddedig i archwilio cysylltiadau rhwng mathemateg craidd a meysydd eraill: rhesymeg, theori setiau, mathemateg empirig y gwahanol wyddoniaethau (mathemateg gymhwysol), ac yn fwy diweddar i'r astudiaeth o ansicrwydd. Er y gallai rhai ardaloedd ymddangos heb gysylltiad, mae rhaglen Langlands wedi canfod cysylltiadau rhwng ardaloedd a ystyriwyd yn flaenorol, megis grwpiau Galois, arwynebau Riemann a damcaniaeth rhif.

Er mwyn egluro sylfeini mathemateg, datblygwyd meysydd rhesymeg mathemategol a theori set. Mae rhesymeg fathemategol yn cynnwys astudiaeth fathemategol o resymeg a chymhwyso rhesymeg ffurfiol i feysydd mathemateg eraill; set theori yw'r gangen o fathemateg sy'n astudio setiau neu gasgliadau o wrthrychau. Mae theori categori, sy'n delio mewn ffordd haniaethol gyda strwythurau mathemategol a'r berthynas rhyngddynt, yn dal i gael ei ddatblygu.

Mae mathemateg bur yn cynnwys yr isadrannau canlynol: maint (gweler rhifyddeg), strwythur (gweler algebra), gofod (gweler geometreg) a newid (gweler calcwlws).

Mae'r astudiaeth o faint yn dechrau gyda rhifau: rhifau naturiol a chyfanrifau a'r gweithrediadau rhifyddol arnyn nhw (rhifyddeg. O astudir nodweddion dyfnach cyfanrifau yn y Ddamcaniaeth rifau, deilliodd Theorem Olaf Fermat.




#Article 51: Cemeg (200 words)


Astudiaeth mater yw Cemeg (o'r Groeg: χημεία), sy'n ymwneud â'i gystrawen, strwythur a nodweddion, ynghyd â'i drawsnewidiadau ar y lefel atomig. Mae'n delio gan fwyaf gyda chasgliadau o atomau fel nwyon, moleciwlau, crisialau a metelau, yn ogystal â'u trawsffurfiadau a'u rhyngweithiadau i ddod yn ddefnydd a ddefnyddir ym mywyd cyffredin. Yn ogystal â hynny, mae cemeg yn ymwneud â deall priodweddau a rhyngweithiadau o atomau unigol a defnyddio'r wybodaeth yna ar y lefel macrosgobig. Yn ôl cemeg fodern, mae priodweddau ffisegol defnyddiau wedi eu penderfynu ar y raddfa atomig, sydd yn ei dro yn cael ei ddiffinio gan rymoedd electromagnetig rhyngatomig a deddfau mecaneg cwantwm.

Mae cemeg yn gorgyffwrdd â ffiseg, gan drin ynni a sut mae o'n adweithio gyda mater. Mae hefyd yn gorgyffwrdd cryn dipyn gyda bioleg, yn arbennig trwy'r disgyblaethau cysylltiedig o fiocemeg a bioleg foleciwlaidd.

Mae'n bosib gweld  trefn yr elfennau yn y Tabl Cyfnodol sy'n dangos y nifer o brotonau sydd gan bob un a beth yw pwysau atomau'r elfen honno gan ddefnyddio Rhif Avogadro. Mae'n bosib gweld erthyglau sydd yn ymdrin â chemeg trwy edrych yn y categori cemeg.

Yng Nghymru, mae'n orfodol i fyfyrwyr ysgol astudio cemeg hyd at lefel TGAU (16 oed).




#Article 52: Y Swistir (865 words)


Mae'r Swistir (enw Lladin swyddogol: Confoederatio Helvetica, Almaeneg: Schweiz, Ffrangeg: Suisse, Eidaleg: Svizzera, Románsh: Svizra) yn wladwriaeth ffederal yng nghanol Ewrop, ac felly heb arfordir. Mae'n ffinio â'r Almaen, Ffrainc, yr Eidal, Awstria a Liechtenstein. Bern ydy'r brifddinas, a Zürich ydy'r ddinas fwyaf. Mae'n wlad fynyddig iawn ac mae rhan helaeth o'r Alpau o fewn ei ffiniau.

Mae'r Swistir yn un o wledydd cyfoethocaf y byd 'per capita', gyda thraddodiad cryf o fod yn niwtral yn wleidyddol ac yn filwrol. Serch hynny, mae'r Swistir wedi bod yn flaenllaw ym myd cydweithrediad rhyngwladol, gan roddi cartref i nifer o fudiadau rhyngwladol megis Y Groes Goch.

Mae'r enw Lladin ar y wlad Confoederatio Helvetica yn osgoi gorfod dewis un o bedair iaith swyddogol y wlad, sef Almaeneg, Ffrangeg, Eidaleg a Románsh.

Yn y cyfnod Rhufeinig, roedd nifer o lwythau Celtaidd yn byw yn yr ardal sy'n awr yn ffurfio'r Swistir. Y pwysicaf o'r rhain oedd yr Helvetii. Daw enw swyddogol Lladin y Swistir, Confoederatio Helvetica neu Helvetia, o enw'r llwyth yma. Ceir manylion amdanynt gan Iŵl Cesar yn ei Commentarii de Bello Gallico. Dywed Cesar fod un o uchelwyr yr Helvetii, Orgetorix, wedi cynllunio i'r holl lwyth ymfudo o ardal yr Alpau i orllewin Gâl. Gadawodd yr Helvetii eu cartrefi yn 58 CC. Erbyn iddynt gyrraedd ffîn tiriogaeth yr Allobroges, roedd Cesar wedi malurio'r bont yn Genefa i'w hatal rhag croesi. Gyrrodd yr Helvetii lysgenhadon i ofyn am ganiatad i fynd trwy'r tiriogaethau hyn, ond wedi i Cesar gasglu ei fyddin ynghyd, gwrthododd roi hawl iddynt basio. Dilynodd yr Helvetii lwybr arall, trwy diriogaethau'r Sequani, ac anrheithio tiroedd yr Aedui, a ofynnodd i Cesar am gymorth. Ymosododd Cesar arnynt wrth iddynt groesi Afon Saône, a'u gorchfygu. Gorchfygwyd hwy eto ger Bibracte, a bu raid iddynt ildio i fyddin Cesar yn fuan wedyn. Gorchmynodd iddynt ddychwelyd i'w hen diriogaethau.

Sefydlwyd y Swistir ar 1 Awst 1291, pan ddaeth tri canton, Uri, Schwyz ac Unterwalden, at ei gilydd a gwneud cytundeb i gynothwyo ei gilydd i ddod yn annibynnol ar frenhinllin yr Habsburg.

Cydnabyddwyd annibyniaeth y Swistir yn Heddwch Westffalia yn 1648, a roddodd ddiwedd ar y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Ychwanegodd cantonau eraill ei hunain at y conffederasiwn dros y blynyddoedd.

Yn ystod y Chwyldro Ffrengig, newidiwyd y dull o lywodraethu, a sefydlwyd y Weriniaeth Helfetaidd fel gweriniaeth ganolog. Fodd bynnag, dychwelwyd at drefn conffederasiwn yn 1803.

Bu'r Swistir yn niwtral yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd.

Dominyddir daearyddiaeth y Swistir gan ei mynyddoedd a'i bryniau. Saif y Swistir yng nghanolbarth Ewrop fel gwlad tirgaeedig, felly nid oes ganddi arfordir. Yn y de mae prif gadwyn yr Alpau yn ymestyn ar hyd y ffin â'i copaon uchaf yn dynodi'r ffin honno. Copa uchaf y Swistir yw'r Dufourspitze, 4634 medr o uchder. Ymhlith copaon enwocaf yr Alpau Swisaidd mae'r Matterhorn, yr Eiger a'r Jungfrau. Yn y canolbarth mae llwyfandir, tra yn y gogledd-orllewin mae mynyddoedd y Jura o gwmpas y ffîn a Ffrainc. Mae'r mynyddoedd hynny a'r bryniau llai sy'n llenwi'r rhan fwyaf o ganolbarth a gogledd y wlad yn cael eu gwahanu gan nifer o ddyffrynoedd a chymoedd mawr a bach.

Mae'r Swistir yn wlad â nifer fawr o lynnoedd ac afonydd yn ogystal. Rhennir y ddau lyn mwyaf, Llyn Léman (Llyn Genefa) (581.3 km2) a'r Bodensee (541.1 km2) gyda gwledydd eraill. Y llyn mwyaf sy'n gyfangwbl o fewn y Swistir yw Llyn Neuchâtel (218.3 km2). Mae'n wlad goediog iawn.

Saif y Swistir yng nghanolbarth Ewrop, ac mae'n fan cyfarfod i nifer o ddiwylliannau Ewrop, gan fod y wlad yn ffinio â Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal. Mae 75% o'r boblogaeth yn byw ar y llwyfandir yng nghanol y wlad, rhwng yr Alpau a mynyddoedd y Jura ac o ddinas Genefa yn y gorllewin hyd at afon Rhein a'r Bodensee yn y gogledd-ddwyrain. Mae gan y wlad safon byw gyda'r uchaf yn y byd.

Ceir nifer sylweddol o drigolion nad ydynt yn ddinasyddion y Swistir; 1,524,663 (20.56%) yn 2004, o'i gymharu a tua 5.9 miliwn o ddinasyddion yr un flwyddyn. Roedd tua 623,100 o ddinasyddion y Swistir yn byw mewn gwledydd eraill, y nifer fwyaf yn Ffrainc (166,200).

O ran crefydd, disgrifia 5.78 miliwn (79.2%) o'r trigolion eu hunain fel Cristnogion yn 2000 (Catholig 41.8%, Protestaniaid 35.3%, Eglwys Uniongred 1.8%). Roedd 809,800 (11.1%) heb grefydd, 310,800 (4.3%) yn ddilynwyr Islam a 17,900 (0.2%) yn Iddewon.

Dinasoedd mwyaf y Swistir yn ôl poblogaeth yw:

Ceir nifer o ieithoedd swyddogol yn y Swistir. Almaeneg yw mamiaith y nifer fwyaf o'r trigolion, 63.7% yn ôl cyfrifiad 2000. O 26 canton y Swistir, Almaeneg yw iaith 17 ohonynt. Siaredir nifer o dafodieithoedd Almaeneg y Swistir, Schwyzerdütsch, a dim ond yn y sefyllfaoedd mwyaf ffurfiol y defnyddir Almaeneg safonol (Hochdeutsch).

Siaredir Ffrangeg fel mamiaith gan 20.4% o'r boblogaeth, yng ngorllewin y wlad yn bennaf. Ffrangeg yw iaith swyddogol pedair canton: Genefa, Jura, Neuchâtel a Vaud, gyda thair arall yn ddwyieithog gyda Ffrangeg yn un o'r ieithoedd swyddogol. Siaredir Eidaleg fel iaith gyntaf gan 6.5%, yn y de yn bennaf, ac mae'n iaith swyddogol canton Ticino. Siaredir Románsh gan 0.5%, yn bennaf yng nghanton Grisons. Roedd tua 9% a mamiaith nad oedd yn un o ieithoedd swyddogol y Swistir.




#Article 53: Pêl-droed (502 words)


Pêl-droed yw'r gêm mwyaf poblogaidd o holl chwaraeon tîm y byd. 
Fe'i chwaraeir gyda phêl rhwng dau dîm o unarddeg o chwaraewyr, gan geisio ennill trwy gael y bêl y nifer fwyaf o weithiau drwy gôl eu gwrthwynebwyr.Cafodd y gêm pêl droed ei greu o gwmpas y flwyddyn 476 B.C yn Tsieina.

Mae'n cael ei chwarae drwy'r byd ar lefel broffesiynol erbyn hyn ond mae nifer fawr yn ei chwarae ar lefel amatur hefyd.

Mae FIFA a'r Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol (IFAB) yn rheoli'r gêm. Y prif gystadleuaeth ydy Cwpan y Byd

Mae yna fwy o cystadleuthau enwog. Y prif gystadleuaeth I clybiau yw 'UEFA Champions League'.

Rhaid gwisgo dillad ac offer addas I chwarae pel droed. Rydych angen crys, siorts, sanau pen glin, ac sgidiau arbennig, Rhain yw gwisg y chwaraewyr sydd tu allan i'r cae. Mae gol geidwad yn gwisgo yr un peth, ond mae'r grys hefo llewys hir. Mae'r gol geidwad hefyd yn gwisgo mennig I reoli'r bel. Mae'r capten yn gwisgo band ar ei cyhyr deuben I ddangos mai fo/hi yw'r capten

Mae gan wahanol chwaraewyr eu dyletswyddau a safleodd eu hunain o fewn y tîm o unarddeg.

Gôl-geidwad yw'r safle mwyaf unigol mewn dîm pel-droed. Yn ôl y rheolau caniateir un gôl-geidwad i dîm. Y gôl-geidwad yw'r unig chwaraewr sy'n cael defnyddio ei ddwylo i reoli'r bêl, ac mae'n rhaid iddo wisgo gwisg o liw gwahanol i'w wahaniaethu oddi wrth chwaraewyr eraill y tîm.

Swydd y gôl-geidwad yw defnyddio unrhyw ran o'i gorff i atal y bel rhag mynd trwy'r gôl mae ei dîm yn amddiffyn. Ar ôl dal y bêl, mi fydd y gôl-geidwad yn ei throsglwyddo i chwaraewr arall o'i dîm trwy ei lluci ato neu ei rhoid ar lawr ac ei chicio ato. Y gôl-geidwad yw'r unig chwaraewr sy'n cael sefyll rhwng y bel a'r gôl pan mae cig gosb yn cael ei chymryd gan y tîm arall. Yn aml, y gôl-geidwad fydd yn rheoli lleoliad chwaraewyr ei dîm tra maent yn amddifyn cic rydd yn agos at eu gôl.

Mae chwaraewyr yn y safle yma yn aml yn dal, i'w galluogi i ddal y bêl yn haws.

Prif swydd amddiffynwr yw rhwystro chwaraewyr y tîm arall rhag cael siawns i gicio'r bel tuag at y gôl. Bydd amddifynwr yn gwneud hyn wrth leoli ei gorff rhwng y bêl ac y gôl, ac wrth fygwth cymryd y bel o ei wrthwynebwr. Bydd amddiffynwr yn aml yn aros yn agos i chwaraewr penodol, i allu amddifyn yn haws os bydd y chwaraewr yn cael y bel.

Mae amddiffynwr canol yn sefyll o flaen y gôl, ac yn defnyddio ei gorff i rwystro ciciau i mewn i'r gôl. Mae amddiffynwyr canol yn aml yn dal ac yn gryf yn gorfforol. Maent yn gallu defnyddio eu cryfder i guro blaenwyr y tîm arall i'r bêl pan mae'n cael ei gicio drwy'r awyr.

Prif swydd y blaenwr yw derbyn y bel oddiwrth ei chyd chwaraewyr, ac yna ynelu I gael y pel yn gol y tim arall .




#Article 54: Calendr Gregori (468 words)


Calendr Gregori ydy'r calendr mwyaf cyffredin drwy'r byd; caiff ei ddefnyddio drwy Ewrop. Cafodd ei dderbyn (yn answyddogol) fel y dull rhyngwladol o fesur amser a dyddiadau ers degawdau yn y byd cyfathrebu, teithio a diwydiant, a chaiff ei adnabod gan sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig.

Fe'i mabwysiadwyd gan y Pab Gregory XIII ar 24 Chwefror 1582, er fod y ddogfen wreiddiol wedi'i dyddio '1581'.

Roedd y flwyddyn yn Y Calendr Iwliaidd, a wnaed yn nheyrnasiad Iŵl Cesar, yn cynnwys 365.25 o ddyddiau yn union, ond mae'r flwyddyn drofannol yn union 365.2422 diwrnod, felly pob 4 canrif roedd y Calendr Iwliaidd yn cynnwys tridiau yn ormod! Cafodd hyn ei gywiro yn y diwygiad Gregori yn 1582, sy'n cyflwyno'r dyddiau naid mewn dull gwahanol. O ganlyniad i hyn mae'r Calendr Iwlaidd 13 diwrnod y tu ôl i'r Calendr Gregori h.y. y 1af o Ionawr ar y Calendr Iwliaidd ydy'r 14eg ar y Calendr Gregori.

Roedd yr Eglwys Gatholig eisiau calendr a fyddai'n caniatáu iddynt ddathlu'r Pasg ar yr amser a benodwyd gan Gyngor Cyntaf Nicaea yn y flwyddyn 325, sef y dydd Sul wedi 14eg dydd y Lleuad sydd ar (neu wedi'r) Cyhydnos Wanwynol, tua 21 Mawrth yn amser y cyngor. Yn y flwyddyn 325 roedd y nam hwn wedi'i weld, ond, yn hytrach na thrwsio'r calendr symudodd y cyngor ddyddiad y Cyhydnos o 24 Mawrth neu 25 Mawrth i 21 Mawrth! Erbyn y 16eg canrif roedd y cyhydnos wedi symud llawer mwy a mynnodd yr Eglwys Babyddol ddiwygio'r drefn. Y gwledydd Pabyddol, felly, oedd y gwledydd cyntaf i fabwysiadu'r calendr newydd hwn.

Roedd dau newid sylfaenol felly yn y calendr newydd: yn gyntaf, addasu'r hen galendr Iwliaidd ac yn ail addasu calendr y lleuad a ddefnyddid gan yr eglwys i nodi dyddiadau'r Pasg. Meddyg o Galbria, sef Aloysius Lilius (neu Lilio), fu'n bennaf gyfrifol am y gwaith o'u cymhathu a'u diwygio. Yn gonglfaen i'w waith nododd fod angen lleihau'r nifer o ddyddiau naid o fewn pob pedair canrif o 100 i 97, gan wneud 3 allan o'r 4 blwyddyn yn gyffredin yn hytrach na blwyddyn naid.

Nodwyd hyn fel a ganlyn:
Os medrid rhannu'r flwyddyn gyda 4 - yn union - yna fe'i hystyrir yn flwyddyn naid, ar wahân i'r blynyddoedd a ellir eu rhannu gyda 100 (yn union). Ar ben hyn, mae'r blynyddoedd hynny y gellir eu rhannu gyda 400 hefyd yn flynyddoedd naid. Er enghraifft, nid ydy'r flwyddyn 1900 yn flwyddyn naid ond mae'r flwyddyn 2000 yn flwyddyn naid.

Calendr solar ydyw ef mewn gwirionedd. Mae blwyddyn Gregori'n cynnwys 365 diwrnod, ac mewn blwyddyn naid ceir diwrnod naid, sef 29 Chwefror sy'n gwneud cyfanswm o 366 diwrnod. Fel arfer mae blwyddyn naid yn diwgwydd pob pedair mlynedd ond mae'r Calendr Gregori'n gadael allan 3 diwrnod naid pob 400 mlynedd, yn wahanol i'r calendr a'i ragflaenodd.




#Article 55: Terry Jones (591 words)


Actor, awdur a chomedïwr o Gymro oedd Terence Graham Parry Jones (1 Chwefror 1942 – 21 Ionawr 2020). Fel rhan o'r tîm comedi Monty Python, roedd yn gyfrifol am gynhyrchu nifer o sgetshis gyda'i gyd-awdur, Michael Palin. Aeth ymlaen i gyfarwyddo Monty Python and the Holy Grail (1975) a nifer o ffilmiau eraill.

Enwyd yr asteroid 9622 Terryjones ar ei ôl.

Roedd Terry Jones hefyd yn academydd cydnabyddedig ar hanes y canol oesoedd. Roedd yn awdur nifer o lyfrau a cyflwynodd nifer o raglenni teledu ar y pwnc.

Tad Terry oedd Alec Parry Jones a'i fam oedd Dilys Louisa Newnes. Tra roedd ei dad yn gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd gyda'r RAF yn India aeth ei fam nôl i fyw gyda'i rhieni ym Mae Colwyn lle ganwyd Terry; Bodchwil oedd enw cartre'r teulu. Wythnos ar ôl ei eni, cafodd ei dad ei ddanfon i'r India fel Awyr-Lefftenant (Dros Dro) Roedd ganddo frawd, Nigel, dwy flynedd yn hyn nag e. Gwelodd ei dad eto ymhen pedwar blynedd, wrth i'r rhyfel orffen, gan gyfarfod yng ngorsaf drên Bae Colwyn. Dywedodd mai dim ond cusan gan fenyw roedd wedi ei gael cyn hynny, felly roedd mwstash pigog ei dad yn dipyn o sioc.

Symudodd y teulu i Claygate, Surrey pan oedd Terry yn 4½ oed. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Guildford,
wedyn yn Neuadd Sant Edmwnd, Prifysgol Rhydychen lle cofrestrwyd ef ar gyfer Saesneg ond crwydrodd mewn i Hanes.

Ymddangosodd yn Twice a Fortnight (1967) gyda Michael Palin, Graeme Garden a Bill Oddie, ac mewn rhaglen deledu The Complete and Utter History of Britain (1969). Ymddangosodd hefyd ar y rhaglen deledu comedi arloesol i blant Do Not Adjust Your Set (1967–69) gyda Palin, Eric Idle a David Jason. Ysgrifennodd sgriptiau ar gyfer The Frost Report a nifer o raglenni eraill David Frost ar deledu Lloegr.

Roedd gan Jones ddiddordeb mewn dyfeisio fformat newydd ar gyfer rhaglen gomedi a arweiniodd i greu Monty Python's Flying Circus yn 1969 ar y cyd gyda Graham Chapman, John Cleese, Terry Gilliam, Eric Idle a Michael Palin.

Yn seiliedig yn fras ar raglen sgetshis roedd sefyllfaoedd Monty Python yn llifo tu hwnt i unrhyw synnwyr gan dorri gyda realiti i wthio'r hiwmor i eithafion swreal. Cymerodd Jones ddiddordeb mawr yn y proses o gyfarwyddo'r rhaglenni ac aeth ymlaen i fod yn gyfarwyddwr ffilmiau.

O'i gyfraniadau fel perfformiwr, mae ei ddehongliadau o ferched canol-oed yn aros yn y cof. Yn cydweithio gyda Michael Palin, roedd eu sgriptiau Python yn dueddol o fod yn ddamcaniaethol ac absẃrd. Mae sgetshis nodweddiadol o'i steil yn cymryd y hiwmor i afrealrwydd afresymegol. Er enghraifft yn y Summarise Proust Competition mae Jones yn cymryd rhan cyflwynydd sioe cystadleuaeth seimllyd i grynhoi gwaith athronyddol dwys Marcel Proust mewn 15 eiliad, eu sgôr yn cael eu cofnodi ar y 'Proustometer'.

Ysgrifennodd Jones nifer o ddarnau golygyddol i The Guardian, The Daily Telegraph a The Observer yn condemio rhyfel Irac. Cyhoeddwyd llawer o'r erthyglau golygyddol yma mewn casgliad Terry Jones's War on the War on Terror.

Lanswyd ei lyfr Evil Machines ar lein gan y cyhoeddwyr cyllid tyrfa (crowdfunding) yn 2011, gyda Jones yn cefnogi sefydlu'r fenter.

Yn Medi 2016 cyhoeddwyd fod Jones yn dioddef o affasia cynradd flaengar, math o dementia sy'n effeithio ar y gallu i siarad a chyfathrebu, felly nid oedd yn gallu gwneud cyfweliadau bellach. Cyhoeddwyd ei fod wedi ennill gwobr BAFTA Cymru am gyfraniad eithriadol i Ffilm a Theledu, a cyflwynwyd yr anrhydedd iddo yn seremoni BAFTA Cymru ar 2 Hydref 2016.

Bu farw ar 21 Ionawr 2020.

Gweler Llyfryddiaeth Terry Jones




#Article 56: Anthony Hopkins (185 words)


Actor Cymreig ydy Syr Philip Anthony Hopkins CBE (ganwyd 31 Rhagfyr 1937), sy'n adnabyddus am ymddangos mewn nifer o ffilmiau llwyddiannus. Mae wedi ennill nifer o wobrau am ei berfformiadau megis Gwobr Academi, Gwobr Golden Globe a Gwobr Emmy ac yn bennaf nodedig am ei ran yn chwarae Hannibal Lecter. Mae'n un o Ymddiriedolwyr Parc Cenedlaethol Eryri a chyfrannodd yn ariannol at gadwraeth y Parc.

Ganwyd Anthony Hopkins ym Margam, ym Mhort Talbot. Roedd ei dad Richard yn bobydd a pherthynai ei fam, Muriel, o bell i'r bardd Gwyddelig W. B. Yeats. Dywedir ei fod yn siarad Cymraeg. Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Ramadeg y Bont-faen. Mynychodd Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd a threuliodd dwy flynedd yn y fyddin, cyn mynychu RADA yn Llundain. Ar ôl degawd ar y llwyfan actiodd yn y ffilm The Lion in Winter a dechreuodd ar yrfa llwyddiannus iawn ym myd ffilmiau.

Priododd deirgwaith ac mae ganddo un ferch, o'r enw Abigail Hopkins. Santa Monica, Califfornia yw ei gartref presennol, ac mae wedi bod yn ddinesydd Americanaidd ers 12 Ebrill 2000. Mae'n gyn-alcoholig sydd heb yfed ers 1975.




#Article 57: Jonathan Pryce (181 words)


Actor a chanwr Cymreig ydy Jonathan Pryce CBE (ganwyd 1 Mehefin 1947) o Dreffynnon, Sir y Fflint. Ar ôl iddo astudio yn RADA a phriodi'r actores Wyddelig Kate Fahy ym 1974, dechreuodd ei yrfa fel actor llwyfan yn ystod y 1970au. Arweiniodd ei waith yn y theatr iddo dderbyn mwy o rôlau cefnogol mewn ffilmiau ac ar y teledu. Daeth ei berfformiad sgrîn fawr mwyaf arwyddocaol yn ffilm gwlt Terry Gilliam Brazil (1985).

Mae Pryce wedi serennu mewn nifer o ffilmiau cyllid uchel, fel Evita, Tomorrow Never Dies, Pirates of the Caribbean a The New World, yn ogystal a phrosiectau annibynnol fel Glengarry Glen Ross a Carrington. Mae ei yrfa ym myd y theatr hefyd wedi bod yn llwyddiannus, gan ennill dwy Wobr Tony - y cyntaf ohonynt ym 1977 am ei berfformiad cyntaf ar Broadway yn Comedians, a'r ail am ei ran fel y Peiriannydd yn y sioe gerdd Miss Saigon.

Yn 2015, roedd Pryce yn actor gwadd ar gyfres HBO Game of Thrones yn chwarae'r cymeriad The High Sparrow cyn dod yn actor rheolaidd ar y gyfres yn 2016.




#Article 58: Shirley Bassey (1288 words)


Cantores o Gymraes yw Shirley Veronica Bassey DBE (ganwyd 8 Ionawr 1937), yn enedigol o Gaerdydd.

Mae ei chaneuon enwocaf yn cynnwys As Long as He Needs Me (1960), What Now My Love (1962), I, Who Have Nothing (1963) Goldfinger (1964), Big Spender (1967), Something (1970) a Diamonds are Forever (1971). Ym 1995, cafodd ei phleidleisio fel Personoliaeth y Flwyddyn ym Myd Adloniant gan y Variety Club Prydeinig. Hi oedd yr artist Cymreig cyntaf i fynd i rif un yn siart senglau y Deyrnas Unedig.

Ganwyd Bassey yn 182 Stryd Bute, Tiger Bay, Caerdydd i forwr o dad a oedd yn Efik Nigeriaidd a mam o Swydd Efrog. Ysgarodd ei rhieni pan oedd yn dair oed. Fe'i magwyd yn ardal dosbarth gweithiol y ddinas yn Tiger Bay. Yr ieuengaf o saith o blant, gadawodd Bassey Ysgol Moorland yn 15 oed gan fynd i weithio mewn ffatri a pherfformio mewn clybiau lleol ar y penwythnosau. Yn fuan iawn, trodd yn gantores broffesiynol a chafodd nifer o senglau llwyddiannus tu hwnt a gyrfa a ymestynnodd dros bedwar degawd. Ym 1953, perfformiodd mewn sioe gerdd o'r enw Memories of Jolson a oedd yn seiliedig ar fywyd y canwr Al Jolson. Yna symudodd ymlaen i Hot from Harlem a barhaodd tan 1954.

Erbyn hyn, roedd Bassey wedi cael ei dadrithio gan fyd canu a beichiogodd yn 16 oed gyda'i merch Sharon a dychwelodd i weithio fel gweinyddes yng Nghaerdydd. Ym 1955 fodd bynnag, cafodd ei henw ei grybwyll i Michael Sullivan, asiant o Streatham ac ail-ddechreuodd ei gyrfa. Pan welodd ef Bassey, penderfynodd fod ganddi'r potensial i fod yn seren. Teithiodd Bassey gan berfformio mewn amryw theatrau tan iddi dderbyn rhan mewn sioe a ddaeth ag enwogrwydd iddi sef sioe Al Read Such is Life yn Theatre yr Adelphi yn y West End yn Llundain. Tra'n y sioe hwn, cynigiodd Johnny Franz, cynhyrchydd recordiau, gytundeb recordio iddi. Recordiodd Bassey ei record cyntaf o'r enw Burn My Candle a gafodd ei ryddhau ym mis Chwefror 1956 pan oedd Bassey yn 19 oed yn unig.

O ganlyniad i eiriau awgrymog y gân, penderfynodd y BBC ei gwahardd. Serch hynny, gwerthodd y record yn dda, yn enwedig gyda fersiwn pwerus Bassey o Stormy Weather. Dilynwyd hyn gan fwy o senglau ac ym mis Chwefror 1957, cafodd Bassey ei llwyddiant mawr cyntaf gyda Banana Boat Song a aeth i rif 8 yn y Siart Senglau Prydeinig. Yn yr un flwyddyn recordiodd y sengl If I Had a Needle and Thread o dan arweiniad y cynhyrchydd Americanaidd Mitch Mitchell o dan y label Columbia. Yng nghanol 1958, recordiodd ddwy sengl a fyddai'n datblygu i fod yn glasuron yng ngyrfa gerddorol Bassey: As I Love You a oedd ar ail ochr sengl y gân serch Hands Across the Sea. Nid oedd y gwerthiant yn dda fodd bynnag, ond wedi iddi berfformio yn y Palladium yn Llundain gwelwyd cynnydd yn y gwerthiant. Ym mis Chwefror 1959, cyrhaeddodd rif 1 yn y siart ac arhosodd yno am bedair wythnos. Recordiodd Bassey Kiss Me, Honey Honey, Kiss Me hefyd yr un cyfnod ac wrth i As I Love You ddringo'r siart, gwnaeth Kiss Me, Honey Honey, Kiss Me hefyd, gyda'r ddwy gân yn nhri uchaf y siart yr un pryd. Rhai misoedd yn ddiweddarach, arwyddodd Bassey gytundeb gyda EMI Columbia, a dechreuodd yr ail gyfnod yn ei gyrfa.

Ar ddechrau ac yng nghanol y 1960au, cafodd Bassey lawer o lwyddiant yn siartiau cerddorol y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pum albwm a gyrhaeddodd y 15 uchaf. Ym 1960, cyrhaeddodd ei recordiad o As Long As He Needs Me o Olover! gan Lionel Bart #2, a bu yn y siart am 30 wythnos. Ym 1962, cydweithiodd Bassey gyda Nelson Riddle a'i gerddorfa i gynhyrchu'r albwm Let's Face the Music (#12) a'r sengl What Now My Love (#5). Roedd caneuon eraill o'r cyfnod a aeth i Ddeg Uchaf y siart yn cynnwys ei hail #1, gyda'r ochr-A-dwbl Reach for the Stars / Climb Ev'ry Mountain (1961), I'll Get By (hefyd ym 1961), a'i fersiwn hi o gân lwyddiannus Ben E. King I (Who Have Nothing) ym 1963. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, gwahoddodd John F. Kennedy Bassey i ganu yn ei Ddawns Urddo. Ym 1965, mwynhaodd Bassey ei chân lwyddiannus cyntaf yn siart yr Unol Daleithiau gyda'r gân Goldfinger o'r ffilm James Bond o'r un enw. Yn sgîl llwyddiant y gân honno, ymddangosodd Bassey ar nifer o sioeau siarad Americanaidd fel y rhai a gyflwynwyd gan Johnny Carson a Mike Douglas. Hefyd ym 1965, canodd y trac teitl ar gyfer y ffilm ddychanol o James Bond, The Liquidator, ac aeth yr albwm a recordiodd yn fyw yn Pigalle Llundain i'r 20 Uchaf.

Ar ôl 1964, cafodd y sengl Goldfinger ddylanwad hir-dymor ar ei gyrfa; pan yn ysgrifennu nodiadau ar gyfer clawr yr albwm Bassey's 25th Anniversary Album ym 1978, dywed Clayton fod: Acceptance in America was considerably helped by the enormous popularity of (Goldfinger)...But she had actually established herself there as early as 1961, in cabaret in New York. She was also a success in Las Vegas...'I suppose I should feel hurt that I've never been really big in America on record since Goldfinger...But, concertwise, I always sell out.'... Adlewyrchwyd hyn yn y ffaith mai dim ond un o LPs Bassey a gyrhaeddodd yr 20 Uchaf yn siart yr Unol Daleithiau, (RB, Live at Carnegie Hall), ac felly roedd yn llwyddiant un-cân, a ymddangosodd unwaith yn unig ym 40 Uchaf y Billboard Hot 100, gyda Goldfinger. Serch hynny, ar ôl Goldfinger dechreuodd ei gwerthiant leihau yn y Deyrnas Unedig hefyd, gyda dwy o'i senglau'n unig yn cyrraedd y 40 Uchaf tan 1970. Roedd ganddi gytundeb gyda United Artists, a threuliodd ei halbwm cyntaf gyda'r label hynny, sef I've Got a Song for You (1966), wythnos yn y siart; o bryd hynny tan 1970, dim ond dwy o'i halbymau aeth i 40 Uchaf y siart, gydag un o'r albymau hynny yn gasgliad o ganeuon. Ym 1967 fodd bynnag, rhyddhawyd un o'i senglau enwocaf Big Spender, er iddo gyrraedd ychydig tu allan i 20 Uchaf y Deyrnas Unedig yn unig.

Trwy gydol y rhan fwyaf o'r 1980au, canolbwyntiodd Bassey ar waith elusennol gan berfformio ambell daith gyngherddol yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Roedd ei chytundeb gyda EMI-United Artists wedi dod i ben a dechreuodd Bassey yr hyn a gyfeiriodd ato fel 'ymddeoliad-rhannol'. Ym 1982, recordiodd Bassey albwm o'r enw All by Myself a gwnaeth raglen deledu arbennig ar gyfer Thames Television o'r enw A Special Lady gyda Robert Goulet yn westai iddi. Ym 1983 recordiodd ddeuawd gydag Alain Delon, Thought I'd Ring You, a fu'n llwyddiannus yn Ewrop. Bellach roedd Bassey yn recordio tipyn llai ond rhyddhaodd albwm o'i chaneuon mwyaf adnabyddus ym 1984, I Am What I Am, a berfformiwyd gyda Cherddorfa Simffoni Llundain. Ym 1986, rhyddhaodd sengl a fideo i gefnogi Bwrdd Twristiaeth Llundain, There's No Place Like London. Ym 1987 recordiodd albwm o draciau sain James Bond, The Bond Collection, ond mae'n debyg ei bod yn anhapus gyda'r canlyniad, ac felly gwrthododd ei ryddhau. (Pum mlynedd yn ddiweddarach cafodd ei ryddhau ta beth. Aeth Bassey ag achos yn erbyn y cwmni a tynnwyd pob copi na werthwyd yn ôl.) Ym 1987 hefyd, recordiodd Bassey ei llais ar gyfer yr artistiaid o'r Swistir Yello ar The Rhythm Divine, cân a ysgrifennwyd ar y cyd â'r canwr Albanaidd Billy Mackenzie. Ym 1989 rhyddhaodd albwm a oedd wedi ei chanu yn ei chyfanrwydd yn Sbaeneg, La Mujer. Ar ddiwedd canol y 1980au, roedd Bassey wedi dechrau gweithio gyda hyfforddwr lleisiol, cyn ganwr opera, a dangosodd ei halbwm Keep the Music Playing ym 1991 arddull grand, pop operatig ar nifer o'r caneuon (a ddylanwadwyd o bosib gan ei halbwm gyda Cherddorfa Symffoni Llundain rai blynyddoedd ynghynt).




#Article 59: Richard Burton (117 words)


Roedd Richard Burton (10 Tachwedd 1925 –  5 Awst 1984) yn actor o Bontrhydyfen ger Port Talbot.

Fe'i ganwyd ym Mhontrhydyfen.  Ei enw bedydd oedd Richard Walter Jenkins. Fe gymerodd yr enw Burton ar ôl ei athro Saesneg Philip H. Burton yn Ysgol Ramadeg Aberafan.

Roedd yn Gymro Cymraeg yn falch o'r iaith.

Actiodd ar y radio yn nrama Brad Saunders Lewis yn y ddwy iaith. 
Y cast oedd Emlyn Williams, Sian Phillips a Clifford Evans a'r cynhyrchydd oedd Emyr Humphreys.

Cyhoeddwyd bywgraffiad Cymraeg Richard Burton Seren Cymru gan Gethin Mathews yn 2002 gan Wasg Gomer.

Bu farw Burton yn Celigny, Genefa, y Swistir.

Adrodd hefyd Jeff Wayne's Musical Version of The War of the Worlds (1978).




#Article 60: Bonnie Tyler (293 words)


Cantores bop o Gymraes yw Bonnie Tyler (ganwyd Gaynor Hopkins; 8 Mehefin 1951) sy'n adnabyddus am ei llais pwerus a chryg.

Ganwyd Gaynor Hopkins yn Sgiwen ger Castell Nedd, i'r glöwr Glyndwr a'r wraig tŷ Elsie Hopkins. Fe'i magwyd mewn tŷ cyngor pedwar stafell wely gyda thair chwaer a dau frawd. Roed gan ei brodyr a chwiorydd gyda chwaeth eang ewn cerddoriaeth, gan ei cyflwyno i artistaid fel Elvis Presley, Frank Sinatra and the Beatles. Roedd Hopkins a'i theulu yn Brotestaniaid crefyddol iawn. Perfformiodd yn gyhoeddus am y tro cyntaf fel plentyn yn y capel, yn ganu yr emyn Anglicanaidd All Things Bright and Beautiful.

Gadawodd ysgol heb gymwysterau ffurfiol a cychwynodd weithio mewn siop groser. Yn 1969, cystadlodd mewn cystadleuaeth ddoniau lleol ac ar ôl dod yn yr ail safle, cafodd ei ysbrydoli i ddilyn gyrfa fel canwr. Drwy ymateb i hysbyseb papur newydd, cafodd waith fel canwr cefndir i Bobby Wayne  the Dixies cyn ffurfio ei band soul ei hunan o'r enw Imagination. Tua'r adeg hyn y newidiodd ei henw llwyfan i Sherene Davis, i osgoi cael ei drysu gyda'r gantores werin Mary Hopkin.

Ar ôl blynyddoedd o ganu yn nhafarnau a chlybiau (gyda'r darlledydd Chris Needs yn cyfeilio iddi yn y dyddiau hynny) cyrhaeddodd 10 uchaf senglau Prydain ym 1975 gyda'r gân Lost in France.

Daeth uchafbwynt ei gyrfa yn 1983 wrth iddi recordio albwm Faster Than The Speed of Night, a'r sengl Total Eclipse of the Heart gan Jim Steinman arno. Aeth y ddau i rif 1 y siartiau pop ym Mhrydain. Roedd Total Eclipse of the Heart yn llwyddiant masnachol rhyngwladol.

Heddiw mae ganddi dŷ yn y Mwmbwls ger Abertawe ond mae'n treulio llawer o'r flwyddyn ym Mhortiwgal.

Cynrychiolodd Bonnie y Deyrnas Unedig yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2013.




#Article 61: Y Ddaear (2082 words)


Y Ddaear (hefyd y byd; Groeg: Γαῖα neu Gaia sef Mam-ddaear) yw'r blaned yr ydym ni'n byw arni. Hi yw'r drydedd blaned oddi wrth yr Haul, canolbwynt Cysawd yr Haul. Mae gan y Ddaear un lloeren naturiol: y Lleuad. Mae'r Ddaear yn cylchdroi unwaith o amgylch yr Haul bob blwyddyn (sef 365.2422 niwrnod), ac yn troi o gylch ei hechel ei hun unwaith bob diwrnod serol (23.934 awr), sef yr amser sydd ei angen er mwyn i'r haul ddychwelyd i'r un lle yn yr wybren. Gellir dweud fod y ddaear yn unigryw o blith y planedau gan fod arni fywyd, digonedd o ddŵr ac awyr sy'n gyfoethog o nitrogen ac ocsigen; ond er hynny dydi hi ddim yr unig enghraifft o blaned yn y bydysawd a all gynnal bywyd. Credir i fywyd ddechrau arni o leiaf 3.5 biliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP), er bod tystiolaeth o 'fywyd biotig' yng ngorllewin Awstralia'n mynd yn ôl i 4.1 biliwn CP.

O astudiaeth radiometrig gallwn ddyddio ffurfiad y Ddaear, sef tua 4.54 biliwn o flynyddoedd yn ôl. O fewn i biliwn blwyddyn cyntaf ei chreu, ymddangosodd bywyd yn ei moroedd. Yr hyn sy'n caniatáu hyn yw pellter y Ddaear o'r haul, ei nodweddion ffisegol a'i gwneuthuriad daearegol.

Ceir pob math o diroedd ar wyneb y ddaear a elwir yn gyfandiroedd, a orchuddir gan goedwigoedd, glaswellt, tir diffaith lle nad oes dim yn tyfu a cheir tir wedi'i orchuddio gan eira a iâ. Gall ei hwyneb fod yn wastad, yn fryniog neu yn fynyddig. Hefyd mae pob math o bethau byw ar y ddaear, yn blanhigion ac anifeiliaid ac organebau byw eraill.

Erbyn  roedd y Ddaear gysefin wedi cael ei ffurfio.

Mae gwyddonwyr wedi gallu adlunio darlun o orffennol y ddaear, drwy ymchwil gwyddonol a chredir fod y mater solar hynaf (sy'n rhoi oed yr haul) yn . Erbyn  roedd y Ddaear wedi'i ffurfio.

Prif erthygl: Esblygiad

Oddeutu 4 biliwn o flynyddoedd yn ôl, yn dilyn adweithiau cemegol cryf, crewyd moleciwlau a oedd yn medru creu copi ohonynt eu hunain drwy'r broses a elwir yn atgynhyrchu. Hanner biwliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach crewyd yr hynafiad sy'n perthyn i bopeth byw. Drwy ddatblygu'r broses o ffotosynthesis, cynaeafwyd golau'r haul gan yr hynafiaid hyn a gynhyrchodd ocsigen moleciwlar (O2) a ymledodd drwy'r atmosffer, a ffurfiodd yn ei dro darian o haen osôn a amddiffynnodd yr hyn a oedd yn brysur ddatblygu oddi tano: bywyd. O'r hynafiaid un-gell yma, datblygwyd y gallu i gell ffurfio oddi fewn i gell arall, gan greu organebau amlgellog sef ewcaryotau (eukaryotes). Drwy arbenigedd, ffurfiwyd mathau gwahanol a thrwy amsugno ymbelydredd electromagnetig uwchfioled, lledodd y bywyd newydd hwn ar draws ac ar hyd wyneb y Ddaear. Mae'r ffosil cyntaf (neu hynaf) a ganfuwyd hyd yma (2015) oddeutu 3.7 biliwn o flynyddoedd oed, mewn tywodfaen yng Ngorllewin yr Ynys Las.

Prif erthygl: Gwyddorau daear

Mae'r Ddaear yn blaned ddaearol, sy'n golygu fod ganddo gorff creigiog, yn hytrach na chawr ia fel Iau. Dyma yw'r blaned fwyaf allan o'r pedwar planed ddaearol sydd yng nghysawd yr haul. Mae gan y Ddaear y dwysedd fwyaf, disgyrchedd fwyaf, y grym magnetig cryfaf, cylchdroed cyflymaf a hefyd y blaned efo tectonig fwyaf gweithgar.

Mae gan y Ddaear siâp sffêr oblad. Mae hyn yn golygu ei bod yn chwyddo yn y canol ar y cyhydedd.

Prif erthygl: Tectoneg platiau

Tectoneg platiau, neu symudiadau'r platiau, yw'r theori ddaearegol sy'n esbonio symudiadau mawr o fewn cramen y Ddaear.

Prif erthygl: Daeareg

Mae'r tu mewn i'r ddaear wedi ei wneud o haenau gwahanol sydd efo priodweddau ffisegol a cemegol gwahanol:

Crëir gwres mewnol y ddaear gan ddadelfeniad isotopau ymbelydrol.

Mae 70.8% o'r ddaear wedi'i gorchuddio efo dwr. Mae'r gweddill uwchben y môr yn cynnwys mynyddoedd, platiau a gwastatiroedd.

Prif erthygl: atmosffer y ddaear

Mantell o nwyon amddiffynnol o amgylch y Ddaear yw atmosffer y ddaear (hefyd atmosffer) sy'n ein hynysu oddi wrth newidiadau tymheredd eithafol a fyddai'n digwydd hebddo.

Mae tynfa disgyrchiant yn cynyddu'r dwysedd yn nes at arwynebedd y ddaear fel bod 80% o'r màs atmosfferig yn y 15 km isaf.

Cynnwys dŵr y Ddaear yw'r hydrosffer. Mae 97.5 o dwr y ddaear yn cynnwys halen. Mae'r moroedd yn amsugno Carbon Deuocsid o'r atmosffer.

Prif erthygl: Hinsawdd

Hinsawdd yw cyflwr y tywydd mewn ardal dros gyfnod o amser. Cyflwr tymor hir o dywydd rhagweladwy yw hinsawdd. Mae hinsawdd y ddaear yn amrywio o le i le ac yn cael ei heffeithio gan nodweddion ffisegol y ddaear megis mynyddoedd, afonydd, lledred, diffeithdiroedd a diwasgeddau.

Mae'r Ddaear yn cymryd 24 awr i gylchdroi unwaith. Gelwir hyn yn ddiwrnod. Mae'r ddaear yn cymryd tua 365 diwrnod i fynd o amgylch yr haul. Gelwir hyn yn flwyddyn. Ar gyfartaledd mae'r Ddaear tua 150 miliwn milltir o'r haul, ac yn symud ar fuanedd o 108,000 m. y. a. Mae'r Lleuad yn cylchdroi'r Ddaear bob 27.3 diwrnod. Mae atyniad disgyrchol y lleuad yn creu Llanw morol.

Mae gan pob diwylliant ei stori am y creu – ceir dwy yn Genesis hyd yn oed. Serch hynny, er yr amrywiaeth rhyfeddol ym manylion y straeon hyn cawn sawl thema gyffredin.

Yn ôl y mwyafrif ohonynt doedd dim ond anhrefn yma ar y cychwyn ar ffurf môr diderfyn neu anialwch di-ffurf mewn tywyllwch llwyr. Cred eraill mai o freuddwyd y daeth popeth. Ond i gael trefn ar yr anhrefn cychwynnol yma, a chreu bodolaeth o anfodolaeth, roedd angen gweithred ac fe ddigwyddodd hynny un ai drwy ddamwain neu drwy fwriad rhyw greawdwr neu'i gilydd.

I'r Sgandinafiaid damwain oedd y cyfan, a'r byd wedi cychwyn drwy hap pan ddaeth tân a rhew at ei gilydd yng ngheubwll anhrefn, a elwir Ginnungagap. Ond y gred fwyaf cyffredin yw mai rhyw greawdwr fu ar waith, e.e. yn ôl y Tiv yng ngogledd Nigeria, saer coed oedd y creawdwr, oedd wedi cerfio popeth yn ôl ei ddelwedd ef o berffeithrwydd a rhoi bywyd iddynt.

Prif themau stori'r creu drwy'r byd:

I frodorion Awstralia cychwynnodd popeth yn amser y freuddwyd (dream time) ac mae'r ffin rhwng y freuddwyd fawr honno a'n realaeth ni yn dal yn un denau iawn ar y gorau, yn ôl y brodorion. Rhaid cynnal y defodau priodol, cadw at reolau tabŵ a pharchu ysbrydion pawb a phopeth os am i bethau aros yn eu priod le. Efallai bod perthynas â hyn yn y syniad Hindwaidd mai myfyrdod y duw Brahma wedi troi'n realaeth yw ein bodolaeth ni ac mai drwy fyfyrdod y cawn ninnau'r allwedd i ystyr y bodolaeth hwnnw.

Dyma'r stori fwyaf gyffredin ac eang ei dosbarthiad drwy'r byd am yr hyn oedd yma gyntaf, sef anhrefn dyfrllyd neu fôr di-ffurf ac, yn aml iawn, efo angenfilod dinistriol yn byw ynddo. Rhaid oedd lladd yr angenfilod hyn cyn i'n byd ni fedru dod i fodolaeth. Ym mytholeg y Sumeriaid, 3,500 CC, ceir hanes Nammu (duwies y dyfroedd) roddodd enedigaeth i'r awyr a'r ddaear. Yn un rhan o'r stori mae'r arwr-dduw Ninwta yn lladd y sarff-ellyll Kur ac yn defnyddio'r corff fel morglawdd i wahanu'r tir oddi ar y môr.

Hon yw'r fersiwn gynharaf o deulu cyfan o fythau Indo-Ewropeaidd am rai'n brwydro yn erbyn draig, e.e. Hercules a'r Hydra; Perseus a Medusa; Sant Siôr a'r ddraig; Beowulf a Grendel; Krishna a Kaliya a cheir sawl stori leol drwy'r byd Celtaidd am arwr yn lladd anghenfil y llyn i achub y ferch oedd am gael ei haberthu iddo.

Ceir straeon tebyg yn Tsieina am y dduwies-greawdwr Nu Wa yn brwydro yn erbyn draig yr Afon Felen, tra yn yr Aifft bu raid trechu sarff y dyfroedd a'i halltudio i'r is-fyd cyn y daethai'r byd i drefn. Mae brwydro yn erbyn sarff neu grocodeil enfawr yn thema gyffredin yn y straeon creu o Indonesia tra yn Awstralia ceir stori o amser y freuddwyd am y frwydr rhwng y dduwies-greawdwr ar ffurf sarff yr enfys a'i mab. Yn ystod y frwydr honno y daeth tir, mynyddoedd ac afonydd i fodolaeth.

Ym mhennod gyntaf Genesis sonir am “ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd”, ac “Yna dywedodd Duw 'casgler ynghyd y dyfroedd dan y nefoedd i un lle, ac ymddangosed tir sych'”. Ni sonir am ddraig yma, ond yn Eseia 27, 1 dywedir: “Yn y dydd hwnnw bydd yr Arglwydd a'i gleddyf… yn cosbi Lefiathan y sarff…  ac yn lladd y ddraig sydd yn y môr”, ac yn y Salmau 74, 13-14: “Ti a'th nerth rannodd y môr, torraist bennau'r dreigiau yn y dyfroedd. Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan…”.

Yn rhai fersiynau o'r creu o anhrefn dyfrllyd ceir bod tir sych wedi ei godi o waelod y môr, un ai gan greawdwr-bysgotwr oedd wedi ei fachu a'i godi o'r dyfnder (Polynesia); crwban môr yn gwthio tywod i fyny (Hawai, de-ddwyrain Asia ac India) neu aderyn neu greadur arall yn plymio a chodi llaid (canol Asia, Siberia a Gogledd America).

Daw'r mwyafrif o'r straeon hyn o dde-ddwyrain Asia a'r rhannau sych o Affrica ac Awstraila, e.e. yn Gini Newydd sonir am fyd sych a chreigiog a phobl yn ymddangos o dwll yn y ddaear.

Yn ôl dehongliad rhai, ceir fersiwn arall o'r creu sych yn Genesis 2, 4-7. Yma, fel rhagymadrodd i hanes creu Adda o lwch y tir ac Efa o'i asen, dywedir: “Yn y dydd y gwnaeth yr Arglwydd Dduw ddaear a nefoedd, nid oedd un o blanhigion y maes wedi dod i'r tir…”. Ni cheir son o gwbwl am y môr yn y fersiwn hon a daw dŵr i fodolaeth fel “tarth yn esgyn o'r ddaear ac yn dyfrhau holl wyneb y tir”.

I'r Dogon yng ngorllewin Affrica, y creawdwr Amma dorrodd blisgyn yr ŵy dwyfol oedd yma ar y cychwyn, gan ollwng yn rhydd y ddau dduw sy'n cynrychioli trefn ac anhrefn.

Yn Tsieina datblygodd y cawr dwyfol Pan Gu oddi mewn i ŵy cosmig a nofiai yn anhrefn. Pan ddeffrodd y cawr torrodd y plisgyn yn ddau ddarn a elwir yn Yin (tywyllwch) a Yang (goleuni). Cyferbynia Yin a Yang hefyd i fennyw a gwryw, oerni a gwres, meddal a chaled, da a drwg ayyb. Safodd Pan Gu, fel y gwnaeth Atlas, am oes gyfan yn cadw'r dau ddarn (y ddaear a'r awyr) ar wahân a phan fu farw daeth yr haul o'i lygad dde, y lleuad o'i lygad chwith, y gwynt o'i anadl, glâw a gwlith o'i chwys a mynyddoedd, afonydd, ffyrdd, coed, metalau a phobeth arall o wahanol rannau o'i gorff.

O Tsieina daw hanes dau o Ymerawdrwyr y Moroedd yn cyfarfod ag Ymerawdwr Anhrefn. Sylwodd y ddau nad oedd gan Ymerawdwr Anhrefn y 7 twll corfforol arferol, fel yr oedd ganddynt hwy, i weld, clywed, anadlu ayyb. Dyma fynd ati felly, fel ffafr iddo, i dorri'r cyfryw dyllau efo ebillion a drilau, un twll y dydd. Ond roedd yr holl dyllu'n ormod ac ar ddiwedd y seithfed dydd bu farw Ymerawdwr Anhrefn druan. Ac o'r eiliad honno fe ddaeth ein byd trefnus ni i fodolaeth.

Yn y frwydr ddi-derfyn rhwng trefn ac anhrefn disgrifia rhai mythau sut mae'r byd yn cael ei greu a'i ddinistrio'n gyson. I'r Hopi yn Arizina bu sawl byd, ond dinistriwyd y cynta gan dân, yr ail gan rew a'r trydydd gan ddilyw. Rydym yn awr yn y pedwerydd byd a bydd hwn yn dod i ben cyn bo hir.

Mae hyn yn debyg i syniad yr Aztec o greu a chwalu parhaus yn deillio o ffraeo rhwng pedwar mab y creawdwr. Gwaed aberth oedd yr unig beth gadwai byd yr Aztec rhag chwalu'n ôl i anhrefn.

Yn yr India gollyngodd y duw Vishnu lotus o'i fogail, ac ynddi y creawdwr Brahma. O fyfyrdod Brahma y creuwyd y byd cyntaf cyn i'r byd hwnnw ymdoddi yn ei ôl i anhrefn ac i fyd arall godi yn ei le. Erbyn hyn rydym yn y pedwerydd byd.

Er nad ydy'r traddodiad Groegaidd / Rhufeinig yn son am ddinistr y byd ar ddiwedd pob cylch, fe soniant am 5 oes, a phob oes yn gysylltiedig â phobol wahanol. Efallai bod cysylltiad yma â'r traddodiad Celtaidd a welwn ar ei fwyaf cyflawn yn stori 5 goresgyniad Iwerddon gan bump tylwyth chwedlonol cyn dyfodiad y Gwyddelod eu hunain.

Prin a gwasgaredig yw'r wybodaeth am stori'r creu yn ôl y Derwyddon. Fe esgeulusodd y mynachod a gofnododd yr hen chwedlau yn yr Oesoedd Canol wneud hynny am ryw reswm. Ond yn ôl haneswyr Rhufeinig ystyriai'r Derwyddon eu hunain yn gyfrifol am y creu a bod angen aberthu pobl yn flynyddol i gadarnhau ail-enedigaeth (neu ail-greu) yr haul yn rheolaidd. Roeddent hefyd yn credu mai'r modd y deuai'r byd i ben fyddai i'r awyr gwympo ar y ddaear!




#Article 62: Haul (217 words)


Yr Haul yw'r seren agosaf at y Ddaear a chanolbwynt Cysawd yr Haul.

Mae'r Haul rhyw 4,000,000,000 o flynyddoedd oed ac mae tua hanner ffordd trwy ei oes. Mae diamedr yr Haul tua 865,000 milltir (1,400,000 km), ac mae tua 93,000,000 o filltiroedd (tua 150,000,000 km) o'r Ddaear (+/- 1,500,000 milltir / 2,400,000 km trwy'r flwyddyn). Mae'n pwyso tua 330,000 gwaith yn fwy na phwysau'r ddaear. Mae'n llosgi drwy ymasiad niwclear sef proses sy'n asio niwclei hydrogen yn ei gilydd gan ei droi'n heliwm.

Yr haul yw ffynhonnell gwres a golau planedau cysawd yr haul. Credir fod tymheredd yr haul yn cyrraedd hyd at 15 miliwn gradd Canradd yn y canol a thymheredd yr wyneb optic tua 5,505 gradd Canradd.

Mae enw'r Haul yn dod o'r gair Brythoneg tybiedig *sāul, sydd yn ei dro yn deillio o'r un gwreiddyn Indo-Ewropeaidd â'r gair Groeg Helios (ἑλιος), a'r gair Lladin Sol. Y gair cyfatebol yn Llydaweg yw heol (Hen Lydaweg: houl). Ym mytholeg Roeg, duw'r haul oedd Helios, a Sol oedd enw'r un duw ym mytholeg y Rhufeiniaid. Yr enw Celtaidd ar dduw'r goleuni oedd Lleu, fel a geir yn y geiriau lleuad a goleu (golau).

(gweler:Brycheuyn haul)

Ffenomena dros dro yn ardal ffotosffer yr haul sy'n ymddangos yn weladwy fel smotiau tywyll i'w gymharu efo'r ardaloedd o amgylch.




#Article 63: Richard Hughes (nofelydd) (133 words)


Roedd Richard Hughes (19 Ebrill 1900 – 28 Ebrill 1976) yn nofelydd a bardd yn yr iaith Saesneg ac yn gymydog i Dylan Thomas ym mhentref Talacharn. Ysgrifennodd hefyd nifer o storiau byrion a dramâu.

Ganwyd yn Walton-on-Thames, Surrey. Gwas sifil oedd ei dad Arthur a ganed ei fam Louisa Grace Warren yn Jamaica. Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Charterhouse, Godalming, Surrey a graddiodd yng Ngholeg Oriel, Rhydychen yn 1922.

Yn Rhydychen cyfarfu Robert Graves, a chyd-olygodd y ddau gylchgrawn ar farddoniaeth (Oxford Poetry) yn 1921. Sgwennodd ddrama fer The Sisters' Tragedy a lwyfanwyd yn Theatr y Royal Court, yn y West End yn 1922. Ef hefyd oedd y cyntaf i sgwennu drama radio; comisiynwyd Danger gan y BBC a chafodd ei darlledu ar 15 Ionawr 1924. Bu farw yn Nhalsarnau, Gwynedd




#Article 64: Gwen John (467 words)


Arlunydd Gymreig oedd Gwen John (22 Mehefin 1876 – 18 Medi 1939). Ganed Gwendolen Mary John yn Hwlffordd, Sir Benfro a roedd yn chwaer i'r arlunydd Augustus John (4 Ionawr 1878 - 31 Hydref 1961).

Yn 1884, yn ferch ifanc, symudodd y teulu i Ddinbych-y-pysgod. Hi oedd yr ail o bedwar plentyn Edwin William John ac Augusta (née Smith). Brawd hynaf Gwen oedd Thornton John a'i chwaer ieuengaf oedd Winifred. Bu ei mham, a oedd yn mwynhau peintio dyfrlliw, yn wael am flynyddoedd a bu farw pan oedd Gwen yn wyth oed. Yn aml, byddai'r pedwar plentyn yn mynd i'r traeth i ymarfer sgetsio, ond nid oes gwaith wedi goroesi o'r cyfnod cynnar; y gwaith cyntaf yw llun a beintiodd pan oedd yn 19 oed.

Yn 1896 dilynodd ei brawd iau i Ysgol y Slade, Llundain i astudio celf, ac fel yntau arbenigodd mewn portreadau o bobl. Y Slade oedd yr unig goleg yng ngwledydd Prydain i ganiatau merched. ac i gynilo, rhannodd fflat gyda'i brawd Augustus, gan fwyta ffrwythau a chnau, fel arfer.

Treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes yn Ffrainc a rhoddwyd mwy o sylw tan y 2000au i'w brawd Augustus, ond bellach mae wedi ennill ei phlwyf fel un o arlunwyr mwyaf sensitif Cymru. Symudodd i Ffrainc yn 1903 ac ni ddychwelodd i Gymru. I Baris y symudodd i ddechrau, gan fyw ar ei phen ei hun, gan astudio yn Académie Carmen dan James McNeill Whistler ac yna i faestref Meudon. Dychwelodd i Lundain yn 1899, ac arddangosodd ei gwaith am y tro cyntaf yn 1900, yn y New English Art Club (NEAC).. Oherwydd prinder o arian, ychydig iawn o ddeunydd peintio oedd ganddi a bu'n byw fel sgwatwraig rhwng 1900–01.

Cafodd berthynas am gyfnod o ddeg mlynedd gyda'r cerflunydd a pheintiwr enwocaf ei ddydd, Auguste Rodin, a bu'n modelu iddo hefyd. Ceir llawer o lythyrau rhwng y ddau sy'n dangos fod Gwen yn berson cryf iawn, a bod gan Gwen deimladau cryf at ferched yn ogystal â dynion. Wedi deg mlynedd, roedd ffordd newydd o feddwl Gwen yn dychryn Rodin a chadwodd hi led braich i ffwrdd, a daeth y berthynas i ben. Cyfarfu Gwen a nifer o beintwyr a meddylwyr mawr y dydd gan gynnwys Matisse, Picasso, Brâncuși, a'r bardd Rainer Maria Rilke, ond ni ddilynodd ffasiwn y dydd, ac felly ni ddaeth yn enwog a gweithiodd fel meudwy am lawer o'r amser.

Roedd Gwen yn gymeriad tawel, teimladwy ac roedd ei gwaith yn adlewyrchu hynny: yn gynnil ei phaent, yn llawn teimlad, yn fyfyrgar eu naws, a gellir disgrifio ei genre artistig fel 'mewnoliaeth', gydag un person fel arfer yn y llun, a'r gweddill yn adlewyrchu teimladau a hanes y person hwnnw.

Erbyn y 2010au roedd llawer yn rhoi mwy o werth parhaol i'w gwaith nag i waith ei brawd Augustus.




#Article 65: David Lloyd George (2222 words)


Roedd David Lloyd George, Iarll 1af Lloyd George o Ddwyfor (17 Ionawr 1863 – 26 Mawrth 1945), a adnabyddid fel y 'Dewin Cymreig', yn wleidydd ac yn Brif Weinidog ar y Deyrnas Unedig rhwng Rhagfyr 1916 a Hydref 1922. Hyd yma, ef yw'r unig Gymro i ddal y swydd; y Gymraeg oedd ei famiaith. Caiff ei gydnabod fel pensaer y wladwriaeth les. Ef oedd prif weinidog Rhyddfrydol diwethaf y Deyrnas Unedig. Ym mlwyddyn olaf ei oes cafodd ei ddyrchafu'n iarll gan y brenin Siôr VI.

Yn Chorlton-on-Medlock, Manceinion, Lloegr, y cafodd ei eni. Treuliodd ei blentyndod ym mhentref Llanystumdwy, Eifionydd, o 1864 hyd 1880, lle cafodd ei fagu ar aelwyd Gymraeg gan ei fam weddw a'i ewythr Richard Lloyd. Daeth yn gyfreithiwr gyda phractis yn Nghricieth erbyn 1885.

David Lloyd George yw’r gwladweinydd rhyngwladol mwyaf a gynhyrchodd Cymru erioed.  Bu ei ddylanwad yn drwm ar wleidyddiaeth, nid yn unig yng Nghymru a Phrydain, ond hefyd yn Ewrop, yn enwedig yn ei rôl fel un o’r ‘Tri Mawr’ a fu’n gyfrifol am lunio Cytundeb Versailles wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Bu'n aelod seneddol Rhydfrydol am hanner can mlynedd, gan wasanaethu mewn llywodraeth fel Llywydd y Bwrdd Masnach (1905-08), Canghellor y Trysorlys (1908-15), Gweinidog Arfau (1915-16) a Gweinidog Rhyfel (1916).  Ym mis Rhagfyr 1916 daeth yn Brif Weinidog ar ganol y Rhyfel Byd Cyntaf yn dilyn ymddiswyddiad Herbert Asquith.

Roedd yn un o Brif Weinidogion mwyaf amlwg Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif, ac arweiniodd y wlad drwy gyfnod argyfyngus yn ei hanes yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn adnabyddus am ei sgiliau fel arweinydd ac fel siaradwr effeithiol a huawdl. Medrai ennill cefnogaeth a brwdfrydedd gwahanol gynulleidfaoedd ar draws y deyrnas ar gyfer gwahanol ymgyrchoedd ac achosion. Er ei fod yn erbyn mynd i ryfel ar y dechrau yn 1914, erbyn 1918 roedd yn cael ei ddisgrifio ym Mhrydain fel  Y Dewin Cymreig a'r ‘y dyn a wnaeth ennill y rhyfel’. Mae’n cael ei gofio hyd heddiw hefyd am ei ddefnydd o filwyr Prydeinig yn Iwerddon ac am fod yn brif negodydd Cytundeb Eingl-Wyddelig a sefydlodd Wladwriaeth Rydd Iwerddon, ond drwy wneud hynny rhannwyd yr ynys yn ddwy.

Ganwyd Lloyd George yn Chorlton-on-Medlock, Manceinion, Lloegr ar 17 Ionawr, 1863.  Ei dad oedd William George o Drefwrdan, Sir Benfro a’i fam oedd Elizabeth Lloyd o Lanystumdwy, Gwynedd.  Cyfarfu’r ddau pan oedd William George yn dysgu yn Ysgol Troed-yr-allt, Pwllheli ac wedyn symudodd y teulu i Fanceinion lle ganwyd David Lloyd George. Cyn diwedd y flwyddyn symudodd y teulu yn ôl i Sir Benfro i gadw tyddyn. Nid oedd William George yn ddyn iach yn gorfforol ac roedd yn cael ei flino gan iselder ysbryd. Ym Mehefin 1864 bu farw William George ac o fewn pedwar mis symudodd Elizabeth, ei weddw, a’i phlant, Ellen a David, yn ôl i Lanystumdwy i fyw at Richard, ei brawd. Ymhen ychydig fisoedd ganwyd plentyn arall iddi a enwyd yn William ar ôl ei dad. 

Felly er mai yn Lloegr y ganwyd ef, Llanystumdwy yn Eifionydd fu ei ‘gartref’ erioed. Dyma fro mebyd ei fam ac yma y bu’n byw tan roedd yn ddwy ar bymtheg. Bu brawd ei fam, Richard Lloyd (Uncle Lloyd) yn ddylanwad mawr ar y David Lloyd George ifanc. Mewn gwirionedd roedd yn athro ac arweinydd i’w nai hyd 1917, pan fu farw yn ei wythdegau. Gweithiai fel crydd. Roedd yn Rhyddfrydwr cryf o ran ei wleidyddiaeth ac yn gapelwr cadarn ei argyhoeddiad.  

Priododd ei wraig gyntaf, Margaret Owen, merch fferm leol, ar Ionawr 24, 1888 a chawsant pump o blant: Richard (1889), Mair (1890, bu farw yn 1907), Olwen (1892), Gwilym (1894) a Megan (1902).  Bu farw’r Fonesig Margaret yn 1941 ac yn 1943 ail-briododd Lloyd George. Ei ail wraig oedd Frances Stevenson ac ym Medi 1944 ymgartrefodd y ddau yn Tŷ Newydd, Llanystumdwy.  Ar Ionawr 1af 1945 cafodd ei ddyrchafu yn Iarll Lloyd George o Ddwyfor.  Bu farw ar Mawrth 26, 1945 yng Nghricieth yn 82 oed, ac fe’i claddwyd ar lan afon Dwyfor yn Llanystumdwy.

Wedi iddo lwyddo yn arholiadau rhagbaratoawl Cymdeithas y Gyfraith cafodd waith fel prentis-gyfreithiwr yn swyddfa Breese, Jones a Casson ym Mhorthmadog yn 1878. Yn dilyn anghydweld yn y swyddfa ym Mhorthmadog sefydlodd ei fusnes ei hun yng Nghricieth yn 1885. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd roedd yn dangos diddordeb mewn gwleidyddiaeth ac roedd ganddo syniadau radicalaidd. Cymerodd ran flaenllaw yn yr etholiad cyffredinol yn etholaeth Meirionnydd yn 1885.

Dangosodd ei fod yn ddyn radical ei ddaliadau yn achos mynwent Llanfrothen, lle dadleuodd bod yr un hawliau gan Anghydffurfwyr i gael eu claddu ym mynwent Eglwys y plwyf ag oedd gan Eglwyswyr. Rhoddodd yr achos lwyfan cyhoeddus i Lloyd George gael ei weld fel amddiffynnwr hawliau anghydffurfiol. Aeth yr achos i’r Llys Apêl yn Llundain, a gyda’r fath sylw llwyddodd i gael ei enwebu fel ymgeisydd y Blaid Ryddfrydol yn etholaeth Bwrdeisdrefi Caernarfon. Daeth yn adnabyddus am lefaru ac amddiffyn achosion radicalaidd dro ar ôl tro. Etholwyd ef yn Aelod Seneddol Caernarfon ar 10 Ebrill, 1890. Hon oedd ei fuddugoliaeth gyntaf mewn cyfres o bedwar ar ddeg o etholiadau a frwydrodd rhwng 1880 a 1945.

Yn y 1890au, gyda mudiad gwladgarol Cymru Fydd ar ei anterth, defnyddiodd ei safle fel Aelod Seneddol i ddadlau'n frwd yn Senedd San Steffan dros achosion fel Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru a hunanlywodraeth (Home Rule neu Ymraeolaeth) i Gymru, yr Alban ac Iwerddon. Ond daeth trai ar ffawd Cymru Fydd a throdd Lloyd George fwyfwy at wleidyddiaeth Brydeinig, gan godi yn rhengoedd y Blaid Ryddfrydol. Gwrthwynebodd y rhyfel gwladychol yn Ne Affrica a adnabyddir fel Rhyfel y Boer ac am gyfnod bu'n amhoblogaidd yn Lloegr, ond ni chollodd ei gefnogaeth frwd yng Nghymru, yn enwedig am iddo aros yn gefnogol I’r ymgyrch i Ddatgysylltu'r Eglwys.

Roedd David Lloyd George yn aelod o Gabinet y Llywodraeth Ryddfrydol a ddaeth i rym wedi Etholiad Cyffredinol 1906. Roedd wedi ei benodi yn Llywydd y Bwrdd Masnach flwyddyn ynghynt, ac yn 1908 penodwyd ef yn Ganghellor y Trysorlys gan Herbert Asquith, y Prif Weinidog. Un o’r pethau cyntaf a wnaeth Lloyd George fel Canghellor y Trysorlys oedd ceisio gwarchod pobl llai ffodus, fel pobl dlawd, pobl anabl, plant a’r henoed. Dyma pam y vyflwynodd ‘Gyllideb y Bobl’ yn 1909. Roedd hon yn gyllideb a oedd yn datgan rhyfel yn erbyn tlodi ymhlith y grwpiau mwyaf anghenus yn y gymdeithas. Byddai’n codi trethi’r dosbarth uwch er mwyn ariannu’r gyllideb. Dyma’r gyllideb a ddefnyddiodd i gyflwyno pensiwn i'r henoed ac yswiriant iechyd cenedlaethol. Yn 1911 cyflwynodd y Mesur Yswiriant Cenedlaethol a fyddai’n golygu bod y llywodraeth, cyflogwyr a gweithwyr yn talu tuag at gynlluniau yswiriant iechyd a diweithdra. Ac yntau'n aelod pwysig o’r llywodraeth ac wedyn yn Brif Weinidog, roedd Lloyd George yn darged cyson ar gyfer protestiadau'r Swffragetiaid a alwai am bleidlais i ferched. Gwaeddodd Swffragetiaid ar draws ei areithiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac ym Mhafiliwn Caernarfon, lle cafodd y protestwyr (yn ddynion a merched) eu curo gan y dorf. Ym 1912 cafwyd protest enwocaf y Swffragetiaid yng Nghymru pan ddychwelodd Lloyd George i’w bentref genedigol Llanystumdwy i agor neuadd newydd y pentref. Gwaeddodd y Swffragetiaid ar draws ei araith. Cafodd y merched eu llusgo o’r neuadd yn filain iawn a'u curo. Tynnwyd dillad un o’r merched a bu bron i un arall gael ei thaflu ar y creigiau oddi ar bont Afon Dwyfor gerllaw.

Pan ddechreuoddy Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 petrusodd Lloyd George cyn ei chefnogi, ond unwaith iddo benderfynu ei bod yn rhyfel angenrheidiol bu'n gefnogwr brwd: mae rhai haneswyr yn gweld hyn fel y cyfnod y bradychodd Lloyd George ei egwyddorion drwy gefnogi rhyfel imperialaidd a rhoi pellter mawr rhyngddo a'r syniad o gael hunanlywodraeth i Gymru. Yn 1915 penodwyd ef yn Weinidog Arfau o 1915 hyd 1916 ac yn Rhagfyr 1916 daeth yn Brif Weinidog gyda phwerau eang iawn am ei bod yn adeg rhyfel.

Yn 1915 penodwyd ef yn Weinidog Arfau gyda chyfrifoldeb dros sicrhau bod mwy o arfau, fel bwledi a bomiau, yn cael eu cynhyrchu a bod y lluoedd arfog ar feysydd y gad yn derbyn digon o arfau ac adnoddau. Cyn hynny doedd Prydain ddim yn cynhyrchu digon o sieliau ac arfau i gyflenwi’r milwyr ar Ffrynt y Gorllewin. Sylweddolodd hefyd mor bwysig oedd merched i’r gweithlu yn ystod y rhyfel ac felly recriwtiodd hwy i weithio mewn ffatrïoedd arfau.  Bu hyn yn allweddol bwysig o ran rhoi’r bleidlais i rai ohonynt ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bu Lloyd George yn llwyddiannus iawn fel Gweinidog Arfau ond roedd hefyd wedi cael llond bol ar arafwch ac aneffeithlonrwydd ei Lywodraeth ei hun yn y Rhyfel. Roedd yn anghydweld â’r Prif Weinidog, Asquith, yn arbennig ynghylch gorfodaeth filwrol. Cefnogai Lloyd George y polisi yn gyhoeddus ac fe gryfhawyd ei safle oddi fewn y Cabinet pan fu’n rhaid i Asquith gyflwyno mesur gorfodaeth ar ddechrau 1916. Gwanhawyd awdurdod Asquith yn sgil beirniadaeth i'w Lywodraeth pan benderfynwyd saethu pedwar ar ddeg o’r arweinwyr cenedlaethol oherwydd eu rôl yng Ngwrthryfel y Pasg yn Nulyn, Iwerddon.

Yn dilyn marwolaeth Kitchener, a foddwyd mewn ymosodiad torpedo gan yr Almaenwyr, penodwyd Lloyd George yn Ysgrifennydd Gwladol y Rhyfel ym mis Gorffennaf 1916. Rhoddodd hyn Lloyd George mewn safle cryfach fyth i herio’r Prif Weinidog, ac yn Rhagfyr 1916 daeth yn Brif Weinidog yn lle Asquith. Un o’r pethau cyntaf a wnaeth fel Prif Weinidog oedd creu Cabinet Rhyfel o 5 unigolyn a fyddai’n rheoli popeth ynglyn â’r rhyfel. Lloyd George oedd cadeirydd y Cabinet. Un o’i orchestion pwysig fel Prif Weinidog oedd cyflwyno’r system gonfoi yn 1917 er mwyn amddiffyn llongau oedd yn cludo bwyd i Brydain, ar draws Cefnfor yr Iwerydd, rhag cael eu suddo gan longau tanfor yr Almaenwyr. Rhoddodd Lloyd George ei stamp personol ei hun ar bopeth a wnai’r Llywodraeth, ac roedd ei bersonoliaeth a'i arweinyddiaeth yn allweddol o ran arwain Prydain i fuddugoliaeth yn 1918. Pan ddaeth heddwch yn 1918 Lloyd George oedd ‘y dyn a enillodd y Rhyfel’.

Sicrhaodd llwyddiant David Lloyd George yn y Rhyfel ei le fel Prif Weinidog pan enillodd fwyafrif llethol yn Etholiad Cyffredinol Rhagfyr 1918.   

Roedd Lloyd George yn gefnogol i’r syniad o sefydlu Byddin Gymreig, fel y dangosodd mewn araith a draddododd yn Neuadd y Frenhines yn Langham Place, Llundain ar Medi 19, 1914. Gyda’r Rhyfel Byd Cyntaf newydd ddechrau, ac yntau ar y pryd yn Ganghellor y Trysorlys, pwysleisiodd mor bwysig oedd hi bod gwledydd pwerus fel Prydain yn helpu i amddiffyn gwledydd bach fel Gwlad Belg a Serbia. Apeliodd at hanes a gwladgarwch Cymru er mwyn hyrwyddo’r syniad o sefydlu byddin Gymreig. Dyma oedd hedyn cychwyn Corfflu’r Fyddin Gymreig neu ‘Byddin Lloyd George’ fel y daeth i gael ei hadnabod. Cyn pen diwedd mis Medi 1914 roedd cyfarfod wedi ei gynnal yn 11 Stryd Downing, a chynhaliwyd cyfarfod yng Nghaerdydd er mwyn lansio cynllun ar gyfer sefydlu Corfflu Cymreig, gydag Iarll Plymouth yn Gadeirydd ac Owen W. Owen yn Ysgrifennydd. Penderfynwyd y byddai Cymru a Sir Fynwy yn codi Corfflu cyfan, a hynny gyda sêl bendith Ysgrifennydd Gwladol y Rhyfel, sef Arglwydd Kitchener.

Penodwyd y Parchedig John Williams, Brynsiencyn, Ynys Môn, a chyfaill i Lloyd George, yn Gaplan i’r Fyddin Gymreig yn ddiweddarach. Erbyn diwedd Chwefror 1915 roedd y Corfflu Cymreig yn cynnwys 20,000 o ddynion, sef digon ar gyfer sefydlu un Adran o’r ddwy Adran a gynlluniwyd. Cafodd yr Adran gyntaf hon ei hadnabod fel y 38ain Adran Gymreig a fu’n brwydro yn ddiweddarach ym Mrwydr Coed Mametz, Gorffennaf 1916.

Fel Prif Weinidog Prydain, David Lloyd George oedd prif gynrychiolydd Prydain yng Nghynhadledd Heddwch Paris, lle drafftiwyd Cytundeb Versailles ym Mehefin 1919. Pwrpas y cyfarfod oedd trafod telerau heddwch ar ôl diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd yn un o benseiri'r Cytundeb a fu’n gyfrifol am ail-lunio ffiniau gwledydd newydd yn Ewrop ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Nid oedd yn awyddus i lunio cytundeb llym a oedd yn gwneud i’r Almaen ‘dalu’ am y rhyfel, ond ni lwyddodd i osgoi hynny oherwydd roedd y galwad am ddial yn gryf iawn, yn enwedig yn Ffrainc. Dadl rhai haneswyr dylanwadol iawn yw mai’r amodau llym a osodwyd ar yr Almaen yng Nghytundeb Versailles, ac effeithiau’r rhain ar economi ac ysbryd pobl yr Almaen, oedd rhai o’r ffactorau pwysicaf wnaeth arwain at boblogrwydd Hitler a’i bolisi tramor yn ystod y 1930au, ac yn y pen draw felly at yr Ail Ryfel Byd. 

Erbyn 1922 roedd wedi ymddeol o fywyd gwleidyddol ac nid ymgymerodd ag unrhyw swydd mewn awdurdod byth eto.

Ym Mis Medi 1936 treuliodd David Lloyd George bythefnos yn yr Almaen gan gyfarfod ag Adolf Hitler ddwywaith. Roedd Hitler wedi bod mewn grym am dair blynedd a hanner ac wedi llwyddo i ddileu diweithdra ar raddfa eang, a hyn oedd y rheswm pam roedd Lloyd George yn awyddus i'w gyfarfod. Trafodwyd y sefyllfa ryngwladol, amaethyddiaeth a materion cymdeithasol. Roedd Lloyd George yn frwdfrydig iawn am agweddau'r Almaen tuag at ddiweithdra, yswiriant iechyd, a mudiadau lles a hamdden.

Ar 26 Mawrth 1945, ar ôl salwch byr, bu farw David Lloyd George yn dawel yng Nghricieth, ac yntau'n 82 oed, ac fe'i claddwyd yn Llanystumdwy ar lan afon Dwyfor, dafliad carreg o weithdy’r crydd lle magwyd ef. Cynlluniwyd y beddrod gan Clough Williams-Ellis, sef pensaer Portmeirion rhwng Penrhyndeudraeth a Phorthmadog.

Yng ngwanwyn 2013 cyhoeddodd y Swyddfa Bost stamp gyda llun ohono i ddathlu 150 mlynedd ers ei eni.




#Article 66: Aneurin Bevan (251 words)


Gwleidydd Llafur oedd Aneurin 'Nye' Bevan (15 Tachwedd 1897 - 6 Gorffennaf 1960). Bu'n aelod seneddol dros y Blaid Lafur, yn etholaeth Glynebwy o 1929 tan 1960. Roedd yn arwr i'r chwith gwleidyddol, yn arbennig am ei weithgarwch yn sefydlu y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Roedd yn areithiwr huawdl iawn er fod ganddo atal dweud pan yn ifanc. Fe ddaeth yn gyntaf mewn arolwg o arwyr Cymru.

Ganwyd Bevan yn Nhredregar yn fab i lowr a Bedyddiwr, David Bowen. Roedd ei fam yn Fethodist. Yn un o ddeg o blant ni chafodd fawr o lwyddiant yn yr ysgol. Yn dair ar ddeg oed aeth i weithio yn y pwll glo lleol. Rhyddfrydwr oedd ei dad pan yn ifanc ond yn ddiweddarach ymunodd â'r Blaid Lafur Annibynnol.

Roedd etholiad cyffredinol 1945 yn llwyddiant ysgybol i'r Blaid Lafur, gan eu galluogi i greu diwygiad cymdeithasol. Clement Attlee oedd y Prif Weinidog newydd, ac fe apwyntiodd Aneurin Bevan yn Gweinidog Iechyd. Fe'i heriwyd i greu Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a arianwyd gan drethi, er mwyn darparu gwasanaeth safonol i'r boblogaeth am ddim. Daeth y Gwasanaeth i fodolaeth ar y 5 Gorffennaf, 1948. Fe wladolwyd 2,688 o ysbytai yng Nghymru a Lloegr, a daethant dan orychwyliaeth Bevan. Ar yr un pryd, roedd yn gyfrifol am dai - a oedd yn bwnc problemus yn sgil dinistr yr Ail Ryfel Byd.

Yn 1951, fe'i ostyngwyd i fod yn Weinidog Llafur, ond yn fuan iawn fe ymddiswyddodd mewn safiad yn erbyn cyflwyniad taliadau presgripsiwn ar gyfer dentyddiaeth a sbectol.




#Article 67: Neil Kinnock (238 words)


Mae Neil Gordon Kinnock (ganwyd 28 Mawrth 1942 yn Nhredegar), yn wleidydd o Gymro, arweinydd y Blaid Lafur 1983-1992. Mae'n briod â Glenys Kinnock.

Roedd yn un o'r prif ymgyrchwyr yn erbyn polisi'r Blaid Lafur adeg refferendwm 1979 i gael Cynulliad i Gymru. Fel prif arweinydd y Gang o Chwech, gyda'r ASau Llafur Cymreig Leo Abse, Ifor Davies, Donald Anderson, Alfred Evans a Ioan Evans, chwaraeodd ran amlwg iawn yn yr ymgyrch dros bleidlais nacaol a'r canlyniad fu i nifer o bleidleiswyr Llafur naill ai beidio â phleidleisio neu bleidleisio yn erbyn cael Cynulliad.

Bu Kinnock yn wrthwynebus i'r iaith Gymraeg ar hyd ei yrfa. Cyhuddodd un o ysgolion Gwynedd o rwystro plentyn rhag mynd i'r toiled am nad oedd yn gallu gofyn yn y Gymraeg. Dangosodd ymchwiliad bod y cyhuddiad yn gwbwl ddi-sail. Cred llawer ei fod wedi bradychu'r glowyr yn ystod Streic Fawr y Glowyr (1984-5) a arweiniodd at danseilio'r diwydiant glo, gan chwalu nifer fawr o gymunedau.

Er gwaethaf ymrwymiad Kinnock i'r wladwriaeth Brydeinig a'i wrthwynebiad ffyrnig i unrhyw fath o genedlaetholdeb Cymreig, pan oedd yn arweinydd ei blaid cafodd ei ddilorni'n gyson gan y wasg yn Lloegr am ei fod yn Gymro. Y disgrifiad enwocaf ohono gan y wasg tabloid oedd Welsh windbag.

Roedd yn is-arlywydd Comisiwn Prodi yn Senedd Ewrop o 1999 hyd 2004. Fe'i hadnabyddir bellach fel 'Baron Kinnock' ac mae ganddo sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn Llundain.

Mae'n Llywydd Prifysgol Caerdydd.




#Article 68: Gwynfor Evans (862 words)


Roedd Gwynfor Richard Evans (1 Medi 1912 – 21 Ebrill 2005) yn un o brif wleidyddion Cymru trwy gydol ail hanner yr ugeinfed ganrif, Llywydd Plaid Cymru o 1945 hyd at 1981, a'r cyntaf i gipio sedd yn San Steffan ar ran Plaid Cymru yn is-etholiad Caerfyrddin ym 1966. Mae hefyd yn awdur nifer o gyfrolau hanes a chenedlaetholgar.

Ganed Gwynfor Evans yn y Barri, Sir Forgannwg, yn fab i Dan Evans a Catherine Mary Richard ei wraig. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Gladstone Road, Y Barri, Ysgol Ramadeg y Barri, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth a Choleg Sant Ioan, Rhydychen.

Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn Ysgol Sir y Barri. Yn ddeunaw oed aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth i astudio'r gyfraith ac yna i Brifysgol Rhydychen. Bu yn gweithio mewn swyddfa cyfreithwyr yng Nghaerdydd yn 1939 Roedd erbyn hyn yn heddychwr argyhoeddiedig ac yn aelod o Blaid Cymru. Ym 1939 dewiswyd Gwynfor Evans yn ysgrifennydd mudiad Heddychwyr Cymru, ac ym 1941 etholwyd ef yn is-lywydd Plaid Cymru.

Roedd yn wynebu carchar fel gwrthwynebydd cydwybodol, ond fe roddodd y Tribiwnlys ryddhad diamod iddo. Teimlai Gwynfor na allai barhau i ennill cyflog da fel cyfreithiwr tra roedd ei gyfoeswyr yn ymladd yn y rhyfel. Roedd ei wreiddiau yn Sir Gaerfyrddin, ac felly aeth yn ôl i'r sir a chadw gardd yn tyfu tomatos yn Llangadog.

Ym 1941 ymbriododd â Rhiannon Prys Thomas, un a fu'n gefn cyson iddo drwy gydol ei fywyd cyhoeddus, a bu iddynt bedwar mab a thair merch sef Dafydd, Alcwyn, Meleri, Guto, Meinir, Branwen a Rhys.

Fe'i etholwyd yn Llywydd Plaid Cymru yn 1945, ac fe wnaeth barhau yn llywydd tan 1981. Ymladdodd etholaeth Sir Feirionydd yn etholiad cyffredinol 1945. Yn 1949 fe'i hetholwyd i'r Cyngor Sir a thros y 25 mlynedd nesaf bu'n ymladd amryw i frwydr dros Gymreictod yn aml yng ngwyneb atgasedd mawr yn ei erbyn gan y Blaid Lafur. Ymladdodd etholiadau seneddol yn gyson heb fawr o lwyddiant tan is-etholiad Caerfyrddin yng Ngorffennaf 1966. Roedd y fuddugolaeth hon yn syfrdanol a newidiwyd cwrs hanes Cymru gydag ethol aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru i San Steffan.

Collodd ei sedd seneddol yn 1970 ond fe'i ail-etholwyd yn etholiad cyffredinol Hydref 1974 ar  ôl colli o dair pleidlais yn etholiad cyffredinol gwanwyn 1974. Fe'i collodd unwaith yn rhagor yn 1979.  Safodd yn aflwyddiannus yn 1983. Dywed rhai na ddylai fod wedi sefyll yr etholiad hwn, ond roi lle i ymgeisydd ifanc i ymladd yr etholaeth.

Chwaraeodd Gwynfor Evans ran ganolog yn natblygiad ei blaid fel grym gwleidyddol, a bu'n hollol allweddol ym mhob menter dros genedlaetholdeb Cymreig o'r Ail Ryfel Byd ymlaen. Hyd ddiwedd y ganrif roedd yn ffigwr dylanwadol ym mywyd cyhoeddus Cymru a pharhaodd yn uchel ei barch hyd yn oed ymhlith aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill yng Nghymru a gweddill gwledydd Prydain.

Roedd hefyd yn hynod amlwg yn y frwydr i sicrhau pedwaredd sianel a fyddai darlledu'n bennaf yn yr iaith Gymraeg, ac ym 1980 cyhoeddodd ei barodrwydd i ymprydio hyd angau pe bai angen oni chyflawnai'r Llywodraeth ei hymrwymiad i ddarparu'r fath wasanaeth yn unol ag addewid ei faniffesto etholiadol ym 1979. Mewn canlyniad i hynny a phwysau eraill ar lywodraeth y DU, sefydlwyd S4C.

Gwasanaethodd hefyd fel aelod o fyrdd o bwyllgorau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Cyngor a Llys Llywodraethwyr Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Chyngor Darlledu Cymru.

Dyfarnwyd i Gwynfor Evans radd Ll.D. (Cymru) honoris causa ym 1973 a medal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1984. Ers blynyddoedd roedd yn byw yn Nhalar Wen, Pencarreg ger Llanybydder, sir Gaerfyrddin, lle bu farw ar 21 Ebrill 2005 yn 92 mlwydd oed.

Ei awr fawr oedd ennill is-etholiad Caerfyrddin yn 1966 er roedd ei fygythiad i ymprydio hyd angau yn unigryw gan iddo orfodi Margaret Thatcher i newid ei meddwl.

Un o ddyfyniadau enwocaf Gwynfor efallai yw: Mae Prydeindod yn gyfystyr â Seisnigrwydd sy'n ymestyn y diwylliant Seisnig dros yr Albanwyr, y Cymry a'r Gwyddelod.

Dadorchuddiwyd penddelw ohono, y gofeb gyntaf iddo yn nhref ei febyd, yn Llyfrgell y Barri yn 2010 ar ôl ymgyrch gan athrawes ysgol gynradd leol, Gwenno Huws. Y cerflunydd oedd John Meirion Morris o Lanuwchllyn. Yn 2009 cafodd plac glas ei osod ar ei gartref cyntaf yn Somerset Road, Y Barri, gan fudiad Balchder yn y Barri.

Roedd Gwynfor Evans yn awdur toreithiog. Cyhoeddodd nifer fawr o bamffledi ac erthyglau gwleidyddol eu naws yn y Gymraeg a'r Saesneg sydd yn adlewyrchu ei gred mewn cenedlaetholdeb a heddychiaeth. Ymhlith ei gyfrolau niferus mae Diwedd Prydeindod (1981), (cyfrol sydd yn ddadansoddiad llym o 'Brydeinrwydd' y Cymry), Pe Bai Cymru'n Rhydd (1989) a Fighting for Wales (1990). Cyhoeddodd hefyd hanes cynhwysfawr Cymru yn ei gyfrol Aros Mae (1971), astudiaeth a enillodd cryn fri ac a chyfieithwyd i'r Saesneg dan y teitl Land of My Fathers (1974). Fel hanesydd roedd Evans yn olynydd teilwng i awduron fel Theophilus Evans ac Owen M. Edwards. Roeddent oll yn gwneud defnydd o ymchwil ysgolheigion eraill er mwyn ceisio meithrin yn eu cyd-Gymry falchder yng ngogoniant eu hanes a'u llên. Gweithiau eraill o bwys o'i eiddo yw Seiri Cenedl (1986), cyfrol o fywgraffiadau byrion o Gymry blaenllaw drwy'r oesoedd ynghyd â fersiwn Saesneg, Welsh Nation Builders (1987).




#Article 69: Harry Secombe (127 words)


Difyrrwr (canwr a chomedïwr) o Abertawe oedd Syr Harold Donald Secombe (8 Medi 1921 - 11 Ebrill 2001). Cafodd ei fagu yn Abertawe, yng nghyffiniau'r dociau a gweithiodd fel clerc yn y gwaith dur, gan ganu yng nghôr yr eglwys. Tra'n filwr ym myddin Lloegr yng Ngogledd Affrica  a'r Eidal, cafodd y cyfle i ddiddannu. Ar ôl y rhyfel bu'n gweithio yn y Windmill Theatr, Llundain.

Roedd yn ddarlledwr radio a theledu amlwg iawn ac yn aelod o griw'r Goon Show drwy gydol y 1950'au.

Cyfarfu Secombe ei ddarpar-wraig Myra Joan Atherton yn neuadd ddawns Pier Y Mwmbwls yn 1946. Roedd y ddau yn briod o 1948 hyd ei farwolaeth. Cawsant pedwar o blant:

Bu farw ei weddw Myra ar 7 Chwefror 2018 yn 93 mlwydd oed.




#Article 70: Cerddoriaeth (280 words)


Cerddoriaeth yw celfyddyd a fynegir drwy gyfrwng sŵn wedi'i drefnu mewn amser. Elfennau cyffredinol cerddoriaeth yw traw sy'n rheoli alaw a harmoni, rhythm (a'i gysyniadau perthynol tempo a mydr), deinameg, soniaredd a gwead.

Mae'r cread, perfformiad, arwyddocâd a hyd yn oed diffiniad cerddoriaeth yn amrywio yn ôl diwylliant a chyd-destun cymdeithasol. Mae cerddoriaeth yn amrywio o gyfansoddiadau trefniedig llym (a'u hail-gread yn ystod perfformiad) i ffurfiau cerddorol byrfyfyriol. Fe ellir rhannu cerddoriaeth i mewn i genres gwahanol.

I bobl yn nifer o ddiwylliannau, mae cerddoriaeth yn rhan hanfodol o'u ffordd o fyw. Diffiniodd athronwyr Groeg ac India hynafol gerddoriaeth fel tonau wedi'u trefnu'n llorweddol fel melodïau ac yn fertigol fel harmonïau. Yn gyffredinol nid oes un cysyniad rhyng-ddiwylliannol sy'n diffinio beth yw cerddoriaeth heblaw ei bod yn 'sŵn drwy amser'.

Mae'n rhaid bod datblygiad cerddoriaeth ymhlith bodau dynol cynnar wedi digwydd wrth iddynt sylwi ar synnau naturiol fel y synnau y mae adar ac anifeiliaid eraill yn gwneud wrth gyfathrebu. Cerddoriaeth gyn-hanesyddol yw'r enw a roddir ar gerddoriaeth a gynhyrchwyd gan ddiwylliannau cyn-ysgrifen. Gall ysgolheigion ddychmygu cerddoriaeth gyn-hanesyddol wrth astudio olion a ddargynfuwyd ar safleoedd paleolithig, fel esgyrn gyda thyllau a ddefnyddiwyd fel ffliwt o ryw fath.

Fe welir y cofnodion cynharach o fynegiant cerddorol yn y Samaveda yn India ac mewn sgript gynffurf yn Ur sy'n dyddio o 2,000 C.C. Hefyd fe ddarganfyddwyd offerynnau llinynnol o'r Gwareiddiad Dyffryn Indus.

Mae gan India un o'r traddodiadau cerddorol hynaf yn y byd; fe welir cyfeiriadau at gerddoriaeth glasurol Indiaidd (marga) yn llenyddiaeth hynafol y traddodiad Hindwaidd, y Veda. Mae gan draddodiad cerddorol Tsieina hanes o dair mil o flynyddoedd ac roedd cerddoriaeth yn agwedd bwysig ar fywyd diwylliannol yng Ngroeg hynafol




#Article 71: Crefydd (369 words)


Cyfundrefn o ffydd ac addoliad neu gred yw crefydd. Bodolasai crefyddau cyn hired â'r hil ddynol; nid oes yna adeg a ŵyr amdani yn hanes y ddaear a chrefydd ddim mewn bodolaeth yn ei hystod. Credir fod pump chweched ran o boblogaeth y ddaear yn ystyried eu hunain yn grefyddol.

Dyma'r grŵp mwyaf o grefyddau gyda 3.8 biliwn o ddilynwyr yn fyd-eang.

Mae Cristnogaeth neu Gristionogaeth yn grefydd undduwiaeth sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth Iesu Grist. Gosodir allan prif egwyddorion Cristnogaeth yn y Testament Newydd, casgliad o lyfrau a llythyrau a ysgrifennwyd yn yr iaith Roeg yn wreiddiol ac sy'n rhan, gyda'r Hen Destament Iddewig (ac weithiau'r Apocryffa), o'r Beibl. Mae'r enw 'Crist' yn dod o'r gair Groeg Χριστός (Christos), sy'n golygu yr Eneiniog.

Crefydd undduwiaeth yw Iddewiaeth, â thua 14 miliwn o ddilynwyr (Iddewon) byd-eang.

Un o grefyddau mwyaf poblogaidd a gwasgaredig y byd yw Islam. Ystyr y gair 'Islam' yw ymostyngiad i ewyllys Duw (Allah) a'r cyflwr tangnefeddus o fod yn un â Duw a phopeth a grëwyd ganddo. Mae'r gair yn gyfuniad o ddau air, sef salām sy'n golygu tangnefedd a'r gair slm sy'n golygu ymostyngiad. Mae dilynwr Islam yn Fwslim, sef un sy'n ymostwng i ewyllys Duw.

Crefydd lle addolir Duw(iau) a/neu Dduwies(au) yw Paganiaeth, sydd hefyd yn ffurf o amldduwiaeth. Mae'n grefydd sydd yn credu mewn natur a phweroedd naturiol. Un o lwybrau modern o Baganiaeth yw Wica.

Crefydd un Duw yw Siciaeth neu Sikhiaeth sydd yn seiliedig ar athrawiaeth y deg Guru a drigai yng ngogledd India yn yr 16g a'r 17g. Mae'n un o brif grefyddai'r byd gyda dros 23 miliwn o ddilynwyr.

Crefydd ddi-dduw yn ei hanfod yw Bwdhaeth neu Bwdïaeth. Gellir ei ystyried hefyd yn athroniaeth gymhwysol neu'n ffurf o seicoleg. Canolbwynt Bwdhaeth yw'r hyn a ddysgodd Gotama Buddha, ac annwyd yn Kapilavastu (sydd yn Nepal erbyn hyn), gyda'r enw Siddhattha Gotama oddeutu'r 5g CC. Lledaenodd Bwdhaeth trwy is-gyfandir India yn y 5g nesaf, ac i ardaloedd ehangach o Asia wedi hynny. Er ei fod yn grefydd neu athroniaeth ddi-dduw, ceir nifer o dduwiau a bodau goruwchnaturiol eraill ym Mwdhaeth Mahayana (Y Cerbyd Mawr), e.e. ym Mwdhaeth Tibet.

Hindŵaeth yw crefydd gynhenid is-gyfandir India a phrif grefydd India ei hun heddiw.




#Article 72: Cristnogaeth (315 words)


Mae Cristnogaeth neu Cristionogaeth yn grefydd undduwiaeth sy'n seiliedig ar ddysgeidiaeth a ffydd bersonol yn Iesu Grist. Gosodir prif egwyddorion Cristnogaeth yn y Beibl, casgliad o lyfrau a llythyrau a ysgrifennwyd yn yr iaith Aramaeg, Hebraeg, a Groeg yn wreiddiol. Mae'r enw Crist yn dod o'r gair Groeg Χριστός (Christos) sy'n golygu yr Eneiniog.

Gorchymyn cyntaf Iesu Grist oedd caru Duw, a'r ail orchymyn oedd câr dy gymydog (Marc XII:30,31 a Luc X:27). Mae haelioni (anhunanoldeb), trugaredd a chyfiawnder yn ganolog i Gristnogaeth ond y cysyniad creiddiol yn y ffydd Gristnogol ydy Gras Duw. Hanfod Cristnogaeth ydy fod pob peth yn bosib trwy ras Duw a bod y ddynoliaeth yn medru dod i berthynas a Duw ac etifeddu bywyd tragwyddol yn y Nefoedd trwy ffydd sy'n bosib trwy ras Duw ac nid trwy weithredoedd dynion. Canolbwynt y ffydd Gristnogol oedd gwaith Iesu Grist, rhan o'r Duwdod Cristnogol, a'r Groes yn cymodi dyn a Duw. Gwêl Cristnogion y weithred yma fel yr ymddangosiad amlycaf o ras eu Duw ac i'r Cristion Crist ac yntau wedi ei groeshoelio yw canolbwynt a man cychwyn eu ffydd.

Mae'n ymddangos nawr fod yr Iesu wedi ei eni tua 4 CC ym Methlehem. Does dim llawer o wybodaeth am ei fywyd cynnar nes iddo gyrraedd 30 oed pan benododd ddeuddeg o ddisgyblion (yr Apostolion). Cafodd Iesu ei groeshoeli tua 29 OC, neu yn ôl amseryddiaeth yr Eglwys Gatholig 7 Ebrill 30.

Ni ellir bod yn sicr pryd yn union y cafwyd y Cristnogion cyntaf yng Nghymru, ond mae'n bosibl bod rhai i'w cael yno yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Daeth cenhadon i Gymru o Gâl tua'r bumed ganrif i bregethu o gwmpas y wlad ac i addysgu a sefydlu eglwysi. Erbyn yr 8g credir fod Cymru gyfan wedi derbyn y ffydd Gristnogol.

Mae hi'n debyg fod gan Gristnogaeth tua 1,719 miliwn o ddilynwyr o gwmpas y byd. Y prif draddodiadau Eglwysig yw:




#Article 73: Radio (399 words)


Ffordd o anfon signalau heb fod trwy weiar, trwy modyliad tonnau electromagnetig ar amleddau is nag amleddau golau yw radio. Gelwir y peiriant sydd yn derbyn y signalau a'u troi yn sain, sef y derbynnydd radio, hefyd yn aml yn 'radio'.

Dechreuodd hanes y radio mewn nifer o lefydd. Dangosodd Nikola Tesla y radio cyntaf i'r cyhoedd yn St. Louis, Missouri yn UDA ym 1893. Y flwyddyn wedyn, bu Syr Oliver Lodge, ffisegydd o Brydain yn defnyddio peiriant o'r enw coherer i gario signalau ar donnau radio. Bu Edouard Branly o Ffrainc ac Alexander Popov o Rwsia yn diwygio'r peiriant hon.

Cofrestrodd Guglielmo Marconi breinlen cyntaf y byd ar gyfer radio ym 1896 (British Patent 12039) ac ym 1909 cafodd Marconi a Karl Ferdinand Braun Gwobr Nobel Ffiseg am gyfrannu i ddatblygiad technoleg radio. Ym 1898, adeiladwyd y ffatri radio cyntaf gan Marconi, hefyd. Safai'r ffatri yn Hall Street, Chelmsford, Lloegr ac roedd tua 50 o bobl yn gweithio ynddi.

Trawsyrrwyd y rhaglen radio cyntaf ar Noswyl Nadolig 1906 o Brant Rock, Massachusetts i longau ar y môr. Darlledwyd y rhaglen newyddion cyntaf ar 31 Awst, 1920 o Detroit, Michigan ac ym 1922 dechreuwyd darlledu rhagleni adloniant yn rheolaidd am y tro cyntaf o'r Marconi Research Centre (Canolfan Ymchwil Marconi) a oedd  yn y ffatri radio yn Writtle ger Chelmsford.

Mae datblygiadau technolegol yr ugeinfed ganrif ym maes radio yn cynnwys transistorau, lloerenni i drosglwyddo signalau a radio rhyngrwyd.

Hwyrfrydig iawn oedd y BBC o ddarlledu yn Gymraeg a Gaeleg yn ystod dyddiau cynnaf y radio. Cynhyrchai gorsaf darlledu Caerdydd peth o'i deunydd ei hun yn y 1920au, gan gynnwys ambell i gân a sgwrs Gymraeg. Ar orsaf 5WA, Caerdydd, y clywyd Cymraeg gyntaf erioed ar y radio ar 13 Chwefror, 1923 ar gân gan Mostyn Thomas, ac ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1923 ar lafar gan y Parchedig Gwilym Davies ac yna gan Huw J. Huws. Ond ardal Caerdydd yn unig a glywai'r darllediadau Cymraeg hyn. Yr unig raglen Gymraeg a glywid ledled Cymru oedd y rhaglen a ddarlledwyd o 1927 ymlaen o Ddulyn. Roedd arweinyddiaeth y BBC yn cynnal polisi darlledu cenedlaethol Brydeinig a Seisnig ac yn gwrthod sefydlu gwasanaeth Cymreig na Chymraeg am hir amser. Wedi ymgyrchu dygn yng Nghymru caniatawyd i stiwdio Bangor gynhyrchu rhaglenni Cymraeg o 1935 ymlaen. Darllediad gan David Lloyd George ar 8 Tachwedd 1923 oedd y darllediad Cymraeg cyntaf o stiwdio Bangor.




#Article 74: Lladin (587 words)


Lladin yw hen iaith Rhufain.  Lladin oedd sylfaen yr ieithoedd Romáwns (Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg, Rwmaneg ayyb.), a chafodd gryn dipyn o ddylanwad ar ieithoedd eraill Ewrop.  Defynyddid Lladin fel lingua franca ysgolheictod ledled Ewrop trwy'r oesoedd canol a'r dadeni dysg, ac yn oedfaon Eglwys Rufain hyd at 1962.

Mae Lladin yn aelod o gangen yr ieithoedd Italaidd. Yn y 9fed neu'r 8g CC, daeth llwythau â'r ieithoedd Italaidd i Benryn yr Eidal ac fe ddatblygodd y dafodiaith a siaredid yn Latium ar lân yr Afon Tiber yn Ladin yn ddiweddarach.

Er bod y rhan fwyaf o lenyddiaeth Rufeinig wedi'i hysgrifennu yn Lladin Clasurol, roedd y ffurf a siaredid yn Ymerodraeth Orllewinol Rhufain yn wahanol i Ladin Clasurol yn ei gramadeg, geirfa ac ynganiad, ac fe'i gelwir yn Lladin Llafar. Datblygodd y tafodieithoedd hyn i fod yr ieithoedd Romáwns.

Er mwyn ysgrifennu yn Lladin, defnyddiai'r Rhufeiniaid yr Wyddor Ladin, a darddodd o'r Hen Wyddor Italaidd, a darddodd o'r Wyddor Roeg yn wreiddiol. Heddiw mae'r Wyddor Ladin yn bucheddu fel systemau ysgrifennu'r ieithoedd Romáwns, Celtaidd, Germanaidd, rhai o'r ieithoedd Slafeg a rhan fwyaf o ieithoedd bychain y byd.

Ni ddefnyddiai'r Rhufeiniaid hynafol atalnodi ac felly byddai frawddeg a ysgrifennwyd yn wreiddiol fel:

yn cael ei hysgrifennu mewn argraffiad cyfoes fel:

neu gyda macron

sy'n cyfieithu i'r Gymraeg fel:

Fel arfer ni roddwyd bylchau rhwng geiriau mewn dogfenni ffurfiol.

Pan ledai'r Ymerodraeth Rufeinig drwy Ewrop dechreuodd Lladin Llafar ddatblygu i mewn i dafodieithoedd gwahanol. Erbyn y 9g esblygasai Lladin Llafar i mewn i'r ieithoedd Romáwns. Am nifer o ganrifoedd yn ddiweddarach roedd yr Ieithoedd Romáwns yn ieithoedd llafar yn unig, gyda Lladin Clasurol yn cael ei defnyddio fel iaith ysgrifenedig o hyd. Er enghraifft defnyddid Lladin fel iaith swyddogol ym Mhortiwgal hyd nes 1296 pan gafodd ei disodli gan Bortiwgaleg.

Eidaleg yw'r iaith fwyaf ceidwadol yn ei geirfa Ladin, a Sardiniaidd yw'r iaith fwyaf ceidwadol yn nhermau'i ffonoleg.

Defnyddiwyd rhai o'r gwahaniaethau rhwng Lladin Clasurol a'r ieithoedd Romáwns i geisio ail-greu Lladin Llafar. Er enghraifft, mae gan yr ieithoedd Romáwns bwyslais ar sillafau penodol a oedd yn bresennol yn Lladin yn ogystal â'r hyd croyw ar lafariaid. Yn Eidaleg, mae yna hyd croyw ar gytseiniaid yn ogystal â phwyslais; yn Sbaeneg a Phortiwgaleg dim ond pwyslais croyw sydd; tra yn Ffrangeg nid yw hyd na phwyslais yn groyw rhagor. Gwahaniaeth mawr rhwng Lladin a Romáwns yw bod yr Ieithoedd Romáwns wedi colli'r holl ffurfdroadau cyflwr.

Mae yna ychydig o eiriau Lladin yn Gymraeg, yn enwedig geiriau crefyddol; llyfr, beibl, eglwys, credo; yn ogystal â geiriau gwyddonol a fenthycwyd yn ddiweddar.

 
Mae Lladin yn iaith synthetig ac ymasiadol gyda lefelau uchel o ffurfdroad enwol a berfol. Mae enwau yn gogwyddo i mewn i 7 cyflwr; gwrthrychol, goddrychol, derbynniol, genidol, abladol, cyfarchol a chyfryngol (gyda ffurfiau lleol o rai enwau lleoedd yn Rhufain Hynafol); gyda phum grŵp gogwyddiad. Mae berfau Lladin yn ffurfdroi yn ôl person, amser a modd gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn cwympo i mewn i un o'r pedwar grŵp rhediad. Nid oes banodau gan Ladin ac felly ni wahaniaethir rhwng enwau pendant ac amhendant, er enghraifft fe ddefnyddir yr un gair i gynrychioli y ferch a merch; puella.

Y gystrawen gyffrednol yw Goddrych Gwrthrych Berf, ond mae'n newid yn aml ym marddoniaeth a rhyddiaith ar gyfer effaith neu bwyslais. Mae Lladin yn defnyddio rhagddodiaid ac fel arfer fe leolir ansoddeiriau ar ôl enwau. Yn aml fe ollyngir rhagenwau oherwydd fe ellir dadansoddi'r person o'r rhediad neu'r genedl; fe ddefnyddir rhagenwau ond pan nad yw'r ystyr yn hollol amlwg.




#Article 75: Saunders Lewis (481 words)


Dramodydd, bardd, nofelydd, ysgolhaig, beirniad llenyddol a gwleidydd oedd John Saunders Lewis (15 Hydref 1893 – 1 Medi 1985). Ar 5 Awst 1925 roedd yn un o brif sylfaenwyr Plaid Cymru. Ar 19 Ionawr 1937 dedfrydwyd ef i 9 mis o garchar am ei ran yn llosgi ysgol fomio yn Llŷn. Bu ei ddarlith radio enwog Tynged yr Iaith, a draddodwyd yn 1962, yn sbardun i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Ganwyd Saunders i deulu o Gymry oedd yn byw yn Wallasey, ger Lerpwl. Roedd yn ail o dri mab i'r gweinidog Methodist Calfinaidd, y Parch. Lodwig Lewis (1859–1933), oedd yn hanu o Sir Gaerfyrddin. Ganwyd ei fam Mary Margaret (née Thomas, 1862–1900) yn Llundain ond roedd y teulu'n hanu o Sir Fôn.

Mynychodd ysgol y bechgyn yn Liscard, sef rhan o dref Wallasey. Roedd Saunders yn astudio Saesneg a Ffrangeg ym Mhrifysgol Lerpwl pan gychwynnodd Y Rhyfel Byd Cyntaf. Cofrestrodd fel gwirfoddolwr gyda Chatrawd y Brenin, Lerpwl ym Medi 1914 ac yn Ebrill 1915 ceisiodd am gomisiwn gyda Chyffinwyr De Cymru a fe'i ddyrchafwyd i Is-Gapten yn Chwefror 1916. Gwasanaethodd yn Ffrainc lle fe'i anafwyd. Ar ôl gadael y fyddin, dychwelodd i'r brifysgol i orffen ei radd yn Saesneg.

Yn 1922, fe'i apwyntiwyd yn ddarlithiwr yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe. Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe, cynhyrchodd rhai o'i weithiau mwyaf sylweddol o feirniadaeth lenyddol: A School of Welsh Augustans (1924), Williams Pantycelyn (1927), a Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (1932).

Cafodd ei benodi'n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn 1957 ymddeolodd i'w gartref ym Mhenarth, ger Caerdydd ac ymroddodd i ysgrifennu ar gyflwr gwleidyddol ac ieithyddol Cymru. Yn 1962 cyhoeddodd Tynged yr Iaith, sef darlith Radio BBC Cymru; y canlyniad fu sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Fe enwebwyd Saunders Lewis am wobr lenyddol Nobel yn 1971.

Priododd Margaret Lewis (née Gilcriest) (1891-1984) ar 31 Gorffennaf 1924 yn eglwys Gatholig Our Lady and St Michael yn Workington, Cumberland. Cafwyd iddynt un plentyn, Mair Gras Saunders (1926-2011).

Yn fab i weinidog Methodistaidd, ymunodd â 'r Eglwys Babyddol yn 1932, yn bennaf oherwydd dylanwad ei wraig Margaret. Yn 1936 llosgodd Saunders, ynghyd â D. J. Williams a Lewis Valentine, adeiladau yr ysgol fomio ym Mhenyberth ac o ganlyniad collodd ei swydd fel darlithydd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe.

Bu farw wedi salwch hir yn Ysbyty St Winifred, Caerdydd, ar 1 Medi 1985.

Ar Fedi 22, 2016 cafodd plac glas ei ddadorchuddio er cof amdano yn Stryd Hanover, Abertawe, lle bu'n byw pan symudodd i'r ddinas ar ôl cael ei benodi i Adran y Gymraeg, Coleg Prifysgol Abertawe yn 1922.

Cyfrol o'i farddoniaeth ydy Siwan a Cherddi Eraill, er fod y gerdd Siwan hefyd yn cael ei chyfri fel drama fydryddol.

Casglwyd ei gerddi ynghyd yn y gyfrol Cerddi Saunders Lewis (gol. R. Geraint Gruffydd).

Casglwyd ei holl ddramâu ynghyd yn y ddwy gyfrol, Dramâu Saunders Lewis, dan olygyddiaeth Ioan Williams.




#Article 76: I. D. Hooson (192 words)


Roedd Isaac Daniel Hooson (2 Mai 1880 – 18 Hydref 1948), neu I.D. Hooson, yn fardd Cymraeg a sgwennai cerddi syml a phoblogaidd ar y mesurau rhydd, yn enwedig telynegion a baledi. Un o'i faledi enwocaf yw'r Fantell Fraith a gyhoeddodd yn 1934.

O Gernyw y daeth ei dad Edward, gan setlo yn Sir y Fflint yn y gwaith plwm. Cafodd Isaac ei eni yn Rhosllannerchrugog, yn fab i Edward a Harriet Hooson ac yno y bu byw - yn Nhŷ Fictoria, Stryd y Farchnad. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Rhiwabon. Roedd yn gyfreithiwr wrth ei waith ac adnabyddid ef fel Cyfaill i Blant Cymru.

Enwyd Ysgol I.D. Hooson ar ei ôl.

Rhwng 1897 a 1904 bu'n gweithio i Mri Morris  Jones yn Lerpwl, ond ar farwolaeth ei dad, daeth yn nes adref i weithio yn y dref agosaf, sef Wrecsam. Bu yno gyda cwmni o gyfreithwyr nes i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau a gorfodwyd ef i wasanaethu yn y llynges. Yn 1919 dychwelodd i weithio fel partner mewn ffyrm o gyfreithwyr yn Wrecsam a rhwng 1920 a 1943 ef oedd yr ‘Official Receiver in Bankruptcy’ yng nghylch Caer a Gogledd Cymru.




#Article 77: Dawns (319 words)


Mae dawns neu dawnsio (o'r Ffrangeg danser) yn gelfyddyd, ymarfer corff neu ddifyrwaith sydd, yn ei hanfod, yn gyfres o gamau ac ysgogiadau corfforol rhythmig gan unigolyn, parneriaid neu grŵp o bobl, fel rheol i gyfeiliant cerddoriaeth. Mae'n cymryd sawl ffurf ac mae ei gwreiddiau yn hynafol iawn gyda pherthynas agos â hanes cerddoriaeth a defodau crefyddol; gwelir olion o hynny yn y dawnsiau gwerin traddodiadol.

Mae'r diffiniad o beth yn union yw dawns yn dibynnu ar gyfyngiadau cymdeithasol, diwylliannol, artistig a moesol. Mae'n amrywio o symudiadau gweithredol (megis dawnsio gwerin) i dechnegau meistrolgar fel ballet. Gellir cymryd rhan mewn dawns neu ei berfformio ar gyfer cynulleidfa. Gall fod yn seremonïol, cystadleuol neu'n rywiol hefyd. Gall dawns ymgorffori neu fynegi syniadau, emosiynau neu adrodd stori.

Mae dawns wedi esblygu i nifer o ddulliau gwahanol. Mae breg-ddawnsio yn gysylltiedig â diwylliant hip hop. Mae dawns Affricanaidd yn ddeongliadol. Dulliau clasurol o ddawns yw ballet, ballroom, y waltz a'r tango tra bod Sgwâr a'r Llithriad Trydanol yn fathau o gamau dawns.

Mae gan bob dawns, waeth beth fo'i ffurf, rhywbeth yn gyffredin. Nid yn unig mae angen cael hyblygrwydd a symudiad corfforol ond rhaid cael ffiseg hefyd. Os na ystyrir y ffiseg cywir, gellir disgwyl cael anafiadau.

Coreograffiaeth yw'r celfyddyd o greu dawnsiau. Gelwir person sy'n creu (h.y. coreograffio) dawns yn goreograffwr.

Mae cystadleuaeth ddawnsio yn ddigwyddiad a drefnir lle mae'r cystadleuwyr yn perfformio dawns gerbron beirniaid er mwyn ennill tlysau neu weithiau gwobr ariannol. Ceir nifer o wahanol fathau o gystadlaethau dawns, yn dibynnu ar y math neu fathau o ddawns a berfformir. Mae'r prif fathau o gystadlaethau dawns yn cynnwys:

A dance competition is an organized event in which contestants perform dances before a judge or judges for awards and, in some cases, monetary prizes. There are several major types of dance competitions, distinguished primarily by the style or styles of dances performed. Major types of dance competitions include:




#Article 78: Amaeth (670 words)


Y gelfyddid o drin y tir i gynhyrchu bwyd neu rhyw nwyddau eraill yw amaeth neu amaethyddiaeth. Gelwir y weithred o wneud hyn yn 'amaethu' neu 'ffermio'. Dyma'r dechneg o dyfu planhigion megis llysiau neu ffrwythau, a rheoli, amddiffyn a bridio preiddiau o anifieliaid er mwyn cael cynnyrch megis cig, llaeth, gwlan neu ledr.

Roedd amaethu'n ddatblygiad allweddol yn nhwf gwareiddiad gan fod medru darparu bwyd yn rhyddhau pobl i ymhel â thechnolegau newydd, diwylliant ayb. Datblygiad o hyn oedd y Chwyldro Diwydiannol a ryddhaodd bobl ymhellach o fod yn gaeth i amaethu i wneud pethau eraill. Cyn y Chwyldro Diwydiannol, roedd mwyafrif llethol o bobl yn amaethwyr, gyda math o fodolaeth hunan-gynhaliol o dyfu planhigion ac anifeiliaid i'r teulu'n unig yn hytrach na'u gwerthu am arian. Yng Nghymru, gwelwyd effaith hyn yn bennaf ar ddau fath o ffermwr: y ffermwyr godro a drodd i werthu llaeth a'r ffermwyr defaid a ddechreuodd farchnata gwân.

Mae'n ymddangos mai yn y Cilgant Ffrwythlon, sef y tiroedd sy'n ymestyn o Balesteina drwy ogledd Syria, Irac, Cyrdistan ac i lawr afonydd y Tigris a'r Ewffrates i fôr Gwlff Arabia, y cychwynodd amaeth a hynny tua 11,500 CP. Roedd y tir hwn yn llawer mwy ffrwythlon nag ydy heddiw. Ceir tystiolaeth fod barlys, gwenith a lentils a fridiwyd ar gyfer y bwrdd bwyd yn cael ei dyfu 9,800 o flynyddoed yn ôl. Wrth gwrs, mae'n ddigon posib i hyn ddigwydd mewn sawl lle yn annibynnol o'i gilydd tua'r un amser e.e. yn ne Tsieina, Sahel yn Affrica ac yn Gini Newydd. Roedd Oes yr Iâ'n dal i afael yn y tir ond roedd y glawiad yn llawer mwy ffafriol na'r hyn  a geir heddiw, ac yn cynnal coedwigoedd a thiroedd agored fel y'i gilydd.

Erbyn tua 10,000 CP dofwyd sawl math o anifail gwyllt. Roedd y bual (neu'r fuwch) wyllt yn greadur peryglus, fel y mochyn gwyllt hwnnw a ddisgrifir yn Culhwch ac Olwen. Ni ddofwyd y cwbwl ac anodd yw meddwl fod pob buwch dan haul wedi tarddu o'r bualod gogleddol hyn (y buffalo). Drwy reoli ac amddiffyn preiddiau, gwelwyd newid sylweddol yn y ffordd roedd pobl yn byw a daeth cynnydd yn y boblogaeth. Erbyn tua 9,000 gwelwyd pobl yn dod at ei gilydd a gwelir strwythur i'r amaethyddiaeth gyntefig hwn: caeau, cloddiau, ffosydd amddiffynol a phentrefi. Ymhlith yr olion y mae: Jarma, Irac a Jerico ym Mhalesteina. Gelwir y cyfuniad hwn o dyfu cnydau a magu anifeiliaid dof yn 'Chwyldro Neolithig'.

Erbyn 6,500 CC roedd amaethu wedi cyrraedd de-ddwyrain Ewrop, ac erbyn tua 3,000 CC, fel y dengys lluniau a cherfiadau'r cyfnod, gwelwn fod teirw'n tynnu ceir llusg, gwartheg yn cael eu bwydo gan ddyn ac eraill yn cael eu godro. O'r ddafad moufflon mae defaid Ewrop yn tarddu. Yng nghymuned Argissa yn Thesally, Gwlad Groeg, ceir olion yr anifeiliaid dof hyn fel a ganlyn: defaid a geifr (84%), moch (10%), gwartheg (5%) a chŵn (1%).

Daw'r gair amaeth o'r Lladin ambactus sef 'gwas', ond mae'n bosibl mai o'r Hen Gelteg yr aeth i'r Lladin. Fe'i cofnodwyd yn gyntaf yn y 13g yn Llyfr Du'r Waun: ni ddylai neb gymryd amayath arno oni heb wneuthur aradr....

Roedd dyddiau pwysig ar y fferm ers stalwm pan oedd cymdogion yn dod i'r fferm i helpu i gneifio, dyrnu, lladd mochyn pluo ac ati, ond erbyn hyn mae peiriannau ar gael i wneud y gwaith a'r elfen gymdeithasol wedi lleihau. Oherwydd mynyddoedd, tywydd ac answadd ei phridd, ychydig iawn o dir sy'n addas ar gyfer cnydau, yn wahanol i Loegr. Canolbwyntiwyd, felly ar gig anifail.

Daeth Dafydd Whiteside Thomas ar draws y chwe phennill canlynol (dienw) wedi eu teipio ar gefn hen fil cigydd o Gaernarfon tua’r 1940au. Yn anffodus, roedd y pennill cyntaf ar goll.

Mae'r penillion yn mynd a ni'n ôl i oes amaethyddol go wahanol. Faint o ffermwyr sy'n 'torri cefn' erbyn heddiw, neu hyd yn oed yn tyfu haidd? Ac er fod llawer o ladd a thorri rhedyn yn dal i ddigwydd, ychydig iawn sy'n ei gasglu ar gar neu drol”.




#Article 79: Edward I, brenin Lloegr (1233 words)


Edward I (17 Mehefin 1239 – 7 Gorffennaf 1307),a elwir hefyd yn Edward Hirgoes  neu  Morthwyl yr Albanwyr, oedd brenin Lloegr rhwng 1272 a 1307. Mae'n cael ei gofio fel goresgynnwr Cymru a'r Alban.
Cyn iddo ddod yn frenin, cyfeiriwyd ato'n gyffredin fel Yr Arglwydd Edward. Roedd yn fab cyntaf i Harri III. O oedran ifanc roedd gan Edward ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth teyrnas ei dad, lle'r oedd llawer o wrthryfela gan farwniaid Lloegr. Ar ôl Brwydr Lewes ym 1264, cafodd Edward ei ddal yn wystl gan y barwniaid gwrthryfelgar, ond llwyddodd i ddianc ar ôl ychydig fisoedd gan drechu eu harweinydd Simon de Montfort ym Mrwydr Evesham ym 1265. Yna ymunodd Edward â Chroesgad i'r Wlad Sanctaidd. Roedd ar ei ffordd adref ym 1272 pan gafodd wybod bod ei dad wedi marw. Cyrhaeddodd Loegr ym 1274 a choronwyd ef yn Abaty Westminster.

Treuliodd Edward lawer o'i deyrnasiad yn diwygio gweinyddiaeth frenhinol a'r gyfraith. Ond, yn gynyddol, tynnwyd sylw Edward tuag at faterion milwrol. Ar ôl atal gwrthryfel yng Nghymru ym 1276–77, ymatebodd Edward i ail wrthryfel ym 1282–83 gyda rhyfel concwest ar raddfa lawn. Ar ôl i'w fyddin drechu a lladd y tywysog Llywelyn ap Gruffydd, daeth Cymru o dan reolaeth Lloegr. Adeiladodd Edward gyfres o gestyll a threfi yng nghefn gwlad a rhoi Saeson i fyw yno. Nesaf, cyfeiriwyd ei ymdrechion tuag at Deyrnas yr Alban. Parhaodd y rhyfel a ddilynodd hyd yn oed ar ôl ei farwolaeth. Ar yr un pryd, roedd Edward yn rhyfela â Ffrainc, a oedd yn un o gynghreiriaid yr Alban, ar ôl i’r Brenin Philippe IV o Ffrainc atafaelu Dugiaeth Vasconia. Er i Edward adfer ei ddugiaeth, rhyddhaodd y gwrthdaro hwn bwysau milwrol Lloegr yn erbyn yr Alban. Ar yr un pryd roedd problemau gartref. Yng nghanol y 1290au, arweiniodd cost ei ryfeloedd at lefelau uchel o drethiant, a chyfarfu Edward â gwrthwynebiad gan ei bobl ei hun. Pan fu farw'r Brenin ym 1307, gadawodd i'w fab Edward II ryfel parhaus gyda'r Alban a llawer o broblemau ariannol a gwleidyddol.

Ganwyd Edward, mab i Harri III ac Eleanor o Brovence, yn 1239 yn Llundain; priododd ag Eleanor o Castile yn 1254. Arweiniodd fyddin yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd yn 1263, ond heb lawer o lwyddiant. O 1268 i 1274 roedd oddi cartref, yn brwydro ar yr wythfed Groesgad, ac wedyn bu'n ymweld â'r Pab yn yr Eidal a Ffrainc. Bu farw ei dad Harri III yn 1272, a daeth Edward yn frenin Lloegr o hynny ymlaen.

Roedd y cyfnod cyn i Edward goncro Cymru yn gyfnod o wrthdaro ac ymladd rhwng arweinwyr gwahanol ranbarthau Cymru. Cyn adeg y Goncwest Normanaidd, roedd Cymru yn bedair brenhiniaeth gymharol sefydlog. I’r gogledd orllewin roedd Gwynedd, Powys yn y canolbarth, y Deheubarth yn y de orllewin a Morgannwg yn y de ddwyrain.

Wedi Brwydr Hastings yn 1066, creodd y Normaniaid dair arglwyddiaeth ar ffiniau Cymru a oedd wedi eu canoli yng Nghaer, yr Amwythig a Henffordd. Cafodd y rhain eu galw yn arglwyddiaethau’r Mers; ystyr ‘mers’ yw ffin. Eu rôl oedd rhwystro’r Cymry rhag ysbeilio dros y ffin.

Yn ystod y 13eg ganrif, llwyddodd arweinwyr tair cenhedlaeth o deulu brenhinol Gwynedd i uno’r penrhyn mor effeithiol fel iddyn nhw gael eu derbyn yn arweinwyr Cymru gyfan. Y cyntaf oedd Llywelyn ap Iorwerth neu Lywelyn Fawr, a ddisgrifiwyd fel ‘Tywysog Cymru’ ar ei farwolaeth yn 1240. Ei fab Dafydd oedd y cyntaf i hawlio’r teitl mewn gwirionedd. Yn 1244, cafodd nai Dafydd, Llywelyn ap Gruffydd, ei gydnabod yn Dywysog Cymru gan Harri III a’r holl arweinwyr Cymreig a dalodd wrogaeth iddo.

Newidiodd y sefyllfa yn llwyr pan esgynnodd Edward I i orsedd Lloegr. Ar y cefndir hwn a’r datblygiadau gwleidyddol cysylltiedig bu gwrthdaro cyson rhwng Llywelyn ap Gruffydd, Tywysog Cymru, ac Edward I, Brenin Lloegr.

Penderfynodd Edward felly bod nifer o resymau o blaid concro Cymru:

Drwy gydol yr Oesoedd Canol roedd tywysogion Cymru wedi parhau i fod yn ddeiliaid i frenhinoedd Lloegr, a chymerodd Edward yn ganiataol y byddai Llywelyn yn talu gwrogaeth iddo. Gwrthododd Llywelyn ar bum achlysur ac, i rwbio halen yn y briw, cynigiodd briodi merch hen elyn Edward, sef Eleanor, merch Simon de Montfort.

Ceisiodd Edward fanteisio i’r eithaf ar gweryla a gwrthdaro Llywelyn gydag arweinwyr eraill Cymru. Ymunodd un o’r rhain, Gruffudd ap Gwenwynwyn o Bowys, â brawd Llywelyn, Dafydd, gan gynllwynio i’w lofruddio. Methiant oedd y cynllwyn hwn a bu’n rhaid i Dafydd ffoi am ei fywyd i Loegr.

Erbyn 1277 roedd Edward wedi colli amynedd ac arweiniodd byddin enfawr o 15,000 i Gymru, gyda 9,000 o’r milwyr hyn wedi eu recriwtio yng Nghymru. Hwn oedd yr achlysur cyntaf i Edward geisio goresgyn Cymru, sef Rhyfel Cyntaf Annibyniaeth yn 1276-77.

Daeth y methiant hwn â goblygiadau i Gymru:

Cafodd Dafydd ei wobrwyo â thiroedd i’r dwyrain o afon Conwy, ond daeth yn fwy anfodlon â rheolaeth Lloegr a threfnodd wrthryfel yn 1282 ynghyd â Llywelyn. Ymledodd hwn yn fuan iawn ar draws y rhan fwyaf o Gymru. Dyma'r Ail Ryfel Annibyniaeth, a barodd rhwng 1282 a 1283. Ymosododd Edward unwaith eto a threchwyd y Cymry. Lladdwyd Llywelyn mewn sgarmes ger Cilmeri, yn ardal Llanfair-ym-Muallt, ym mis Rhagfyr 1282, ac ar ôl i Dafydd gael ei ddal ym mis Ebrill 1283, cafodd yntau ei ddienyddio. O hynny ymlaen, roedd Edward yn rheoli'r tiroedd yng Nghymru a ddaeth i gael eu hadnabod fel ‘y Dywysogaeth’, ac yn y tiroedd hyn ‘cyfraith y Brenin’ oedd mewn grym. Rhannwyd gweddill tir Cymru yn Arglwyddiaethau’r Mers, a’u rheolwyr nhw oedd Arglwyddi’r Mers.

Wynebodd Edward rai gwrthryfeloedd ymhlith uchelwyr Cymru i’w drefn newydd - er enghraifft, Rhys ap Maredudd, a ddechreuodd wrthryfel yn y de yn 1287, a Madog ap Llywelyn, a hawliodd deitl Tywysog Cymru mewn gwrthryfel yn 1294-95.

Ar ôl i Edward eu trechu, gwelwyd cynnydd yn statws a nifer gwŷr traed y Cymry.  Roedd 10,000 o’r 12,000 o wŷr traed a saethwyr a drechodd yr Albanwyr yn Falkirk (1298) yn Gymry. Gwasanaethodd tua 5,000 o Gymry yn Bannockburn (1314) a’r un nifer o bosibl yn Crécy (1346). Er eu bod yn edrych yn drawiadol yn eu lifrai gwyn a gwyrdd, roedd y Cymry yn anufudd ac annisgybledig, ac roedd yn well ganddynt lofruddio eu gwrthwynebwyr yn hytrach na’u dal.

Er mwyn dal gafael ar y tiroedd roeddent wedi eu meddiannu, aeth y Saeson ati i godi neu ailgodi cestyll ledled Cymru. Roedd cestyll Edward yn adeiladau mawr urddasol ac roedd iddynt ddwy brif swyddogaeth. Swyddogaeth filwrol oedd y gyntaf. Byddent yn gartref i filwyr yn barod i ymladd os oedd y Cymry’n gwrthryfela. Yr ail swyddogaeth oedd dychryn y Cymry er mwyn iddynt ildio.

Trefi newydd a adeiladwyd o gwmpas cestyll oedd y bwrdeistrefi. Mewnfudwyr Seisnig oedd yn byw yn y bwrdeistrefi ac roeddent yn cael breintiau arbennig. Yn swyddogol, doedd y Cymry ddim yn cael byw yn y rhan fwyaf o’r bwrdeistrefi. Roedd y Cymry’n dal dig at y bwrdeistrefi a daethant yn symbol o oresgyniad y Saeson. Roedd Saeson yn ymsefydlu mewn ardaloedd gwledig hefyd. Yn Ninbych, gorfodwyd ffermwyr o Gymry i adael eu cartrefi a mynd i fyw yn rhywle arall. Yna, rhoddwyd eu tir i Saeson o Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog.

Ym mis Chwefror 1307 ymosododd Robert Bruce ar y Saeson. Pan oedd Edward ar ei ffordd i'r Alban, dioddefodd o dysentri. Bu farw Edward yn Burgh by Sands.

Cafodd ei bortreadu gan yr actor Patrick McGoohan yn y ffilm Braveheart.




#Article 80: Aberhonddu (364 words)


Mae Aberhonddu (Saesneg: Brecon) yn dref ym Mhowys, Cymru, sy'n cymryd ei henw oddi ar aber Afon Honddu ag Afon Wysg. Yng nghanol y dre mae'r ddwy afon yn uno, ac mae Afon Tarrell hefyd yn llifo i mewn i Wysg gerllaw.

Ceir eglwys gadeiriol fechan ond diddorol yn Aberhonddu. Priordy a sefydlwyd gan y Normaniaid yn yr 11g oedd hi i ddechrau. Fe'i gwnaed yn eglwys gadeiriol yn 1923 wrth greu Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Prif eglwys y dref yw'r Santes Fair.

Tua 7 cilometr i'r gogledd ceir dwy domen o'r Oesoedd Canol gan gynnwys Castell Madog (De).

Enw hen iawn yw Aberhonddu, a arferir gan Gerallt Gymro ym 1191. Ym 1684 cyfeiriodd y hynafiaethydd o Sais Thomas Dingley at Brecknock, called by the vulgar Aberhonddy. Hyd at yr 17g Aberhoddni oedd y ffurf arferol. Newidiodd yr -dd- a'r -n- eu lle ac aeth yr -i- yn -u-, dan ddylanwad y gair du yn ôl Tomos Roberts, ac o hynny ymlaen Aberhonddu yw'r ffurf arferol. Ystyr yr elfen aber yma yw'r fan lle rhed afon fechan i afon fwy. Deillia enw Afon Honddu o'r gair hawdd, hynny yw afon hawddgar, ddymunol.

Daw enw Saesneg y dref, Brecon, a'r hen ffurf Brecknock, o'r enw Brecknock a roddir gan y Normaniaid ar Arglwyddiaeth Brycheiniog (ynganiad Hen Gymraeg: Brechenog), a luniwyd ganddynt o hen deyrnas Brycheiniog ar ddiwedd yr 11g. Lluniodd y Saeson sir o'r arglwyddiaeth ym 1536 a'i galw yn Brecknockshire, yn Gymraeg Sir Frycheiniog.

Mae tŵr perpendiciwlar yr eglwys Benedictaidd hon yn hynod iawn ac i'w gweld o bob rhan o'r dref bron. Fe'i codwyd yn y 12g fel capel ar gyfer y Priordy, er mwyn gweinyddu'r Cymun. Atgyweiriwyd yr eglwys yn y 14eg a'r 15g ac eto yn y 19g a chollwyd llawer o'r ysbryd hynafol a berthynai i'r eglwys. Ceir yma golofn Normanaidd a chroes i goffau marchog, ger y prif fynedfa. Mae'r tŵr (a elwir yn dŵr Buckingham wedi'i hadeiladu at ddibenion militaraidd, sef i amddiffyn yr eglwys, ac fe'i codwyd yn 1521 gan Edward Stafford, Dug Buckingham ac Arglwydd Brycheiniog.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberhonddu ym 1889. Am wybodaeth bellach gweler:




#Article 81: Barddoniaeth (246 words)


Barddoniaeth ydy'r gelfyddyd o fynegi'n brydferth y meddyliau a gynhyrchir gan y teimlad a'r dychymyg, fel arfer ond nid bob amser gyda llinellau o hyd arbennig, rythm arbennig a'r llinellau yn odli. Mae rhai wedi disgrifio barddoniaeth fel ffordd arbennig o drin geiriau. Ymhlith y technegau y gall bardd eu defnyddio mae cymariaethau, trosiadau, odl, cyflythreniad ac ailadrodd.

Ymhlith y mathau o fesurau barddoniaeth y gellir eu cael mae englyn, haiku, telyneg, soned, cywydd, a baled.

Daw'r enghreifftiau cynharaf o farddoniaeth Gymraeg o'r 6g, sef Canu Aneurin a Chanu Taliesin. Tua'r 9g cafwyd Canu Llywarch Hen a Chanu Heledd. Gelwir y beirdd o'r cyfnod cynnar yn Gynfeirdd a'r beirdd yng nghyfnod y tywysogion yn Ogynfeirdd. Gelwir beirdd yr oes wedi cwymp Llywelyn 1282 yn Feirdd yr Uchelwyr. Ysgrifennau Beirdd yr Uchelwyr megis Dafydd ap Gwilym a Iolo Goch llawer o gywyddau. Bu trai ar ysgrifennu barddoniaeth ar ôl uno Cymru a Lloegr. Rhaid cofio serch hynny bod emynau yr emynwyr yn farddoniaeth aruchel, yn enwedig gwaith William Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths. Ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g caed dadeni gyda beirdd fel T. Gwynn Jones. Nes ymlaen yn y ganrif roedd T. H. Parry-Williams a Gwenallt yn ysgrifennu, a thua chanol y ganrif bardd mawr arall oedd Waldo Williams. Mae llu o feirdd wedi ysgrifennu barddoniaeth o safon uchel o hynny hyd at ddechrau'r unfed ganrif ar hugain, nifer ohonynt yn ysgrifennu mewn cynghanedd.

Yn y Gymraeg ceir Cynghanedd, rhywbeth sy'n unigryw i'r Gymraeg.




#Article 82: Diana, Tywysoges Cymru (693 words)


Diana Spencer, a adnabyddir wrth ei theitl swyddogol fel Diana, Tywysoges Cymru (Diana Frances; née Spencer; 1 Gorffennaf 1961 – 31 Awst 1997) oedd gwraig gyntaf Y Tywysog Siarl. Ei meibion, y Tywysog William a'r Tywysog Harri, yw'r ail a'r trydydd etifeddion yr orsedd ym Mhrydain a'r pymthegfed yn Nheyrnas y Gymanwlad.

Roedd Diana yn ffigwr cyhoeddus ers i'w dyweddiad i'r Tywysog Siarl gael ei gyhoeddi. Ers hynny roedd Diana bron yn ddi-baid, yn ganolbwynt ar gyfer archwiliadau'r wasg ym Mhrydain ac o gwmpas y byd, yn ystod ei phriodas ac yn dilyn ei hysgariad. Bu farw mewn damwain car ym Mharis. Daeth Ymchwiliad y Crwner, a oedd yn hir-ddisgwyliedig, i ben ym mis Ebrill 2008, a daeth i'r casgliad y lladdwyd Diana yn anghyfreithlon gan y gyrrwr a'r paparazzi a oedd yn ei herlid. 
 

Roedd Diana yn ferch ieuengaf i Spencer, Is-iarll Althorp, sef 8fed Iarll Spencer yn ddiweddarach, a'i wraig cyntaf, Frances, Is-iarlless Althorp (yr Anrhydeddus Frances Burke Roche gynt, a Frances Shand Kydd yn ddiweddarach). Ganwyd yn Park House, Sandringham yn Norfolk ar 1 Gorffennaf 1961 am 6.45 y prynhawn. Bedyddwyd yn Egwlys St. Mary Magdalene gan y gwir barchedig Percy Herbert (rheithor yr eglwys a chyn Esgob Norwich a Blackburn); roedd ei rhieni bedydd yn cynnwys John Floyd (cadeirydd Christie's). Hi oedd trydydd plentyn y cwpl, roedd ei brodydd a'i chwiorydd oedd y Fonesig Sarah Spencer (ganwyd 1955), y Fonesig Jane Spencer (ganwyd 1957), yr Anrhydeddus John Spencer (bu farw 12 Ionawr 1960), a'r Anrhydeddus Charles Spencer (ganwyd 1964). Yn dilyn ysgariad chwerw eu rhieni ym 1969 (ynglŷn a helynt y Fonesig Althorp gyda Peter Shand Kydd), cymerodd mam Diana hi a'i brawd ifengaf i fyw mewn fflat yn Knightsbridge, Llundain, ble mynychodd Diana ysgol leol. Y Nadolig hwnnw, fe aeth y plant i gyd i ddathlu gyda'u tad, ond gwrthodof ef i'w gadael i ddychwelyd i Lundain wedyn. Fe erlynodd y Fonesig Althorp er mwyn cael gwarchodaeth o'i phlant, ond fe gynorthwywyd y llys i wobrwyo'r warchodaeth i'r tad gan dystiolaeth mam y Fonesig Althorp yn ei herbyn.

Ym 1976 priododd yr Arglwydd Spencer Raine, Iarlles Dartmouth, unig ferch y nofelydd rhamantus Barbara Cartland, ar ôl iddo achosi ysgariad yr Iarll a'r Iarlles Dartmouth. Bu Diana yn teithio ar hyd y wlad yn ystod y cyfnod hwn, gan fyw rhwng cartrefi ei rhieni, gyda'i thad yn sedd y teulu Spencer yn Swydd Northampton, a gyda'i mam a oedd wedi symud i fyw i Ynys Seil, oddi ar ardfordir gorllewinol yr Alban. Yn wahanol i'w brodyr a'i chwioryddid, nid oedd Diana yn cyd-dynnu gyda'i llysfam.

Derbyniodd Diana ei haddysg yn Ysgol Silfield, Kings Lynn, Norfolk, ac yna yn Neuadd Riddlesworth yn Norfolk ac yn Ysgol West Heath i Ferched yn Sevenoaks, Swydd Gaint. Nid oedd yn fyfyrwraig llwyddiannus, wedi iddi sefyll ei haroliadau lefel O a'u methu ddwywaith. Derbyniodd wobr yn West Heath am ei chyfraniad eithriadol i'r gymuned. Pan oedd yn 17 oed ym 1977, gadawodd West Heath ac am gyfnod byr mynychodd Institut Alpin Videmanette, ysgol berffeithio yn Rougemont, Y Swistir. Tua'r un cyfnod, cyfarfu â'r Tywysog Siarl, a oedd yn canlyn ei chwaer, Sarah ar y pryd. Dywedir fod Diana yn rhagori mewn nofio a phlymio a'i bod yn dyheu i fod yn falerina Astudiai fallet am gyfnod, ond am ei bod yn 5'10, roedd yn rhy dal i wneud ballet yn broffesiynol.

Cyn iddi droi'n 17 oed, symudodd Diana i Lundain, gan fyw yn fflat ei mam am fod ei mam yn byw yn yr Alban am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Prynwyd apartment iddi yn Coleherne Court yn ardal Earls Court am £50,000 fel anrheg penblwydd wrth ei thad yr Iarll Spencer. Bu'n byw yno tan 1981 gan rannu'r aprtment gyda thri person arall.

Tra'n sefydlu ei hun yn Llundain, aeth ar gwrs coginio a gweithiodd fel hyfforddwraig ddawns nes i ddamwain sgïo beri iddi golli tri mis o waith. Yna cafodd waith fel cynorthwyydd mewn meithrinfa, gweithiodd fel glanheuwraig i'w chwaer Sarah a nifer o'i ffrindiau a gweithiodd fel croesawferch mewn partïon.

Fel ei phriod, nid oedd y dywysoges yn byw yng Nghymru. Ni ddysgodd Gymraeg ac anaml oedd ei hymweliadau â'r wlad.




#Article 83: 1888 (134 words)


Blwyddyn naid a ddechreuodd ar Ddydd Sul yng nghalendr Gregori ac ar Ddydd Gwener yng nghalendr Iŵl oedd 1888 (ynganer: mil-wyth-wyth-wyth neu un-wyth-wyth-wyth; rhifolion Rhufeinig: MDCCCLXXXVIII). Hon oedd yr wythfed flwyddyn ar bedwar ugain wedi'r fil ac wyth gant (1888fed) yn ôl trefn Oed Crist, yr wythfed flwyddyn ar bedwar ugain wedi'r wyth gant (888fed) yn yr 2il fileniwm, yr wythfed flwyddyn ar bedwar ugain (88fed) yn y 19g, a'r nawfed flwyddyn yn negawd y 1880au. Ar gychwyn 1888, mi oedd calendr Gregori 12 diwrnod o flaen calendr Iŵl.

Enw difyr arni yw blwyddyn y tair sbectol. Fe'i elwir yn Flwyddyn y Tri Caiser () yn yr Almaen, oherwydd dyma oedd y flwyddyn i Wilhelm I, Friedrich III, a Wilhelm II i gyd deyrnasu dros Ymerodraeth yr Almaen.

Daeargryn honedig Waunfawr 18 Ebrill 1888




#Article 84: Amhrán na bhFiann (197 words)


Amhrán na bhFiann (Cân y Milwr) yw anthem cenedlaethol Gweriniaeth Iwerddon. Peadar Kearney ysgrifennodd y geiriau, a Kearney a Patrick Heeney y dôn. Cyhoeddwyd y gân am y tro cyntaf yn yr Irish Freedom yn 1912 (ond cyfansoddwyd y gân yn 1907).

Roedd y gân yn anhysbys tan y cafodd ei chanu yn Swyddfa'r Post Cyffredinol (GPO) yng Ngwrthryfel y Pasg yn 1916, ac wedyn mewn gwersylloedd dalgadwraeth ym Mhrydain. Daeth yn anthem swyddogol y wladwriaeth yn 1926.

Mae'r anthem yn cynnwys y gytgan yn unig, (dechrau Sinne Fianna Fáil . . . tan . . . Amhrán na bhFiann. isod). Mae'r ddwy linell gyntaf, a'r ddwy linell olaf, yn ffurfio'r Cyfarchiad Llywyddol, sydd yn cael eu chwarae pan mae Arlywydd Iwerddon yn mynychu digwyddiadau.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae rhai papurau newydd Gwyddelig wedi cynnig newid yr anthem am fod y geiriau'n rhy dreisiol a gwrth-Brydeinig, a bôd y dôn yn rhy anodd i fandiau ei chwarae yn iawn (fel mae tîmau chwaraeon Gwyddelig yn darganfod yn aml pan mae'r gân gyfan yn cael ei chwarae (nid ond y cytgan), neu pan mae'r darn iawn yn cael ei chwarae yn rhy gyflym neu yn rhy araf!).




#Article 85: Arlywydd Iwerddon (243 words)


Arlywydd Iwerddon yw pennaeth gwladwriaeth Gweriniaeth Iwerddon a goruchaf reolwr Lluoedd Amddiffyn Iwerddon. 
Mae'r arlywydd yn dal ei swydd am saith mlynedd, a gellir ei ethol am uchafswm o ddau dymor.  Caiff ei ethol yn uniongyrchol gan y bobl, er nad oes etholiad os mai dim ond un ymgeisydd sy'n cael ei enwebu, sydd wedi digwydd chwe gwaith hyd yn hyn. Swydd seremonïol yw'r arlywyddiaeth i raddau helaeth, ond mae'r llywydd yn arfer rhai pwerau cyfyngedig gyda disgresiwn llwyr. Mae'r arlywydd yn gweithredu fel cynrychiolydd gwladwriaeth Iwerddon a cheidwad cyfansoddiad y wlad. 

Yr arlywydd presennol yw Michael D. Higgins, a etholwyd gyntaf ar 29 Hydref 2011. Cafodd ei urddo ar 11 Tachwedd 2011. Cafodd ei ailethol am ail dymor ar 26 Hydref 2018.

Preswylfa swyddogol yr arlywydd yw Áras an Uachtaráin ym Mharc Phoenix, Dulyn. Sefydlwyd y swyddfa gan Gyfansoddiad Iwerddon ym 1937, daeth yr arlywydd cyntaf i'w swydd ym 1938, a chafodd gydnabyddiaeth ryngwladol fel pennaeth y wladwriaeth ym 1949, yn dilyn Deddf Gweriniaeth Iwerddon.

Does dim Dirpwy-Arlywydd neu Is-Arlywydd. Ar ôl marwolaeth neu ymddiswyddiad arlywydd mae Comisiwn Arlywyddol yn gweithredu fel arlywydd - mae'r Comisiwn yn cynnwys y Prif Ustus, y Ceann Comhairle (Siaradwr) Dáil Éireann, a Cathaoirleach (Cadeirydd) Seanad Éireann.

I sefyll mewn etholiad arlwyddol, mae'n rhaid i ymgeisydd gael ei enwebu gan 20 aelod o'r Oireachtas (y Dáil a'r Senead), neu gan 4 cyngor sir, neu mae'n bosibl i gyn-Arlywydd sydd heb gael 2 dymor fel arlywydd enwebu'i hun.




#Article 86: Esperanto (338 words)


Yr iaith artiffisial fwyaf llwyddiannus a dylanwadol yw Esperanto. Mae ganddi fwy o siaradwyr nag unrhyw iaith artiffisial arall. Daw'r enw o'r ffugenw Dr Esperanto, a ddefnyddid gan ddyfeisiwr yr iaith L. L. Zamenhof. Ystyr yr enw yn yr iaith Esperanto yw yr un sy'n gobeithio.

Iddew o Białystok a symudodd i fyw yn Warsaw oedd Zamenhof. Cyhoeddodd y gyfrol gyntaf ar yr iaith, Unua Libro, yn 1887 ar ôl gweithio arni am ryw ddeng mlynedd. Nod Zamenhof oedd cynorthwyo pobloedd yr holl fyd i ddeall ei gilydd yn well. Nid oedd yn bwriadu i Esperanto ddisodli unrhyw iaith arall ond yn hytrach i fod yn ail iaith ryngwladol a niwtral

Mae cefnogwyr Esperanto yn gweld dwy brif fantais i'r iaith. Maent yn honni ei bod yn hawdd iawn i'w dysgu, ac mae hyn yn amlwg. Nid yw'n perthyn i unrhyw grŵp cenedlaethol neu ethnig yn fwy nag i unrhyw grŵp arall. Mae pob iaith ryngwladol arall wedi lledaenu oddi wrth un grŵp ethnig (megis y Saeson a'r Americanwyr yn achos Saesneg, neu'r Ffrancod yn achos Ffrangeg).

Mae Esperanto yn iaith ddodiadol iawn sy'n defnyddio blaenddodiadau ac olddodiaidau wrth adeiladu geiriau er mwyn lleihau'r gwreiddiau gwahanol. Oherwydd ei natur dodiadol mae hi'n iaith reolaidd iawn. Er enghraifft, mae'r gwraidd san-, sy'n golygu iach, yn cynhyrchu amrywiaeth eang o eiriau gydag arddodiadau gwahanol; mae'r tabl canlynol yn cynnwys pigion ohonynt:

Gellir uno mwy nag un gwraidd hefyd. Er enghraifft, mae'r gwraidd naz- yn golygu trwyn, ac mae'r gwraidd tru- yn golygu twll, felly mae naztruo yn golygu ffroen.

 llythyren 
    ynganiad
 a  a
 b  b
 c  ts (z yn Almaeneg/Eidaleg)
 ĉ  ch yn Saesneg
 d  d
 e  e
 f  ff
 g  g
 ĝ  j
 h  h
 ĥ  ch
 i  i
 j  i byr/cytsain (fel yn ia / mai)
 ĵ  j yn Ffrangeg
 k  c
 l  l
 m  m
 n  n
 o  o
 p  p
 r  r
 s  s
 ŝ  si (sh yn Saesneg)
 t  t
 u  w
 ŭ  w cytsain (fel yn naw, tew)
 v  f
 z  z yn Saesneg




#Article 87: Iaith (104 words)


Cyfundrefn gyfathrebu yw iaith. Gelwir astudiaeth ieithoedd yn ieithyddiaeth. Mae'n cynnwys astudiaeth cystrawen, seineg a morffoleg iaith.

Does dim cytundeb pryd y dechreuwyd defnyddio iaith gan yr hil ddynol. Mae amcangyfrifon yn amrywio o ryw ddwy filiwn o flynyddoedd yn ôl hyd at mor ddiweddar â phedwar deng mil o flynyddoedd yn ôl.

Mae ieithoedd y byd wedi eu rhannu'n deuluoedd ieithyddol lle mae'r ieithoedd ym mhob teulu yn tarddu o'r un ffynhonnell hanesyddol. Ond mae rhai ieithoedd sydd ddim yn dangos perthynas ag unrhyw iaith arall e.e. Basgeg. Mae'r prif deuluoedd ieithyddol yn cynnwys yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd, yr ieithoedd Affro-Asiaidd, a'r ieithoedd Sino-Tibetaidd.




#Article 88: Blaenau Gwent (384 words)


Mae Blaenau Gwent yn fwrdeistref sirol yn rhanbarth Gwent, de-ddwyrain Cymru. Mae'n ffinio ag ardaloedd awdurdod unedol o Dorfaen a Sir Fynwy i'r dwyrain, Caerffili i'r gorllewin, a Phowys i'r gogledd. Abertyleri, Brynmawr, Glyn Ebwy, a Thredegar yw'r prif drefi.

Sefydlwyd y fwrdeistref ym 1974 fel dosbarth llywodraeth leol o Went. Cyfunwyd hen ddosbarthau trefol Sir Fynwy, gan gynnwys Abertyleri, Glyn Ebwy, Nant-y-glo, y Blaenau a Thredegar, yn ogystal â Brynmawr a phlwyf Llanelli yn Sir Frycheiniog.

Ailansoddiwyd ym 1996 fel bwrdeistref sirol, gan eithrio Llanelli a aiff yn lle i Sir Fynwy. Rheolir yr ardal gan Gyngor Bwrdeistref Siriol Blaenau Gwent bellach.

Mae pobl wedi byw yn yr ardal hon ers dros 4,000 o flynyddoedd. Dyma ble roedd pobl Geltaidd o'r enw'r Silwriaid yn byw. I'r Cymry, yr enw ar yr ardal hon rhwng Afon Sirhywi ac Afon Gwy oedd Gwent. Roedd pobl Gwent yn siarad tafodiaith Gymraeg o'r enw 'Gwenhwyseg' am amser hir iawn. Ym 1542, daeth enw newydd i'r ardal - Sir Fynwy. Yna, daeth y Chwyldro Diwydiannol a daeth newid. Agorodd gwaith haearn yn Sirhywi ym 1779 ac wedyn mewn llefydd fel Glyn Ebwy, Tredegar, a Nant-y-glo. Daeth llawer o bobl newydd i'r ardal i weithio ac roedd llawer iawn yn Gymry Cymraeg. Wedyn, daeth y gwaith glo ac wedyn y gwaith dur. Roedd llawer iawn o bobl yn dod i'r ardal ac roedd iaith y Cymoedd yn newid yn araf o Gymraeg i Saesneg. Ym 1801, roedd 45,000 o bobl yn byw yn yr hen Sir Fynwy ac erbyn 1901, roedd 450,000 o bobl yn yr ardal ac roedd y rhan fwyaf yn siarad Saesneg. Ym 1991, dim ond 2.2% o'r bobl oedd yn gallu siarad Cymraeg, ond erbyn 2001, roedd 9.5% yn siarad Cymraeg ac mae nifer y bobl ifanc sy'n siarad yr iaith yn codi bob blwyddyn, gan fod ysgol gynradd Gymraeg newydd yno o'r enw Ysgol Gynradd Bro Helyg a leolir yn y Blaenau (Ysgol Gymraeg Brynmawr] cyn hynny); Ysgol Gymraeg Bro Helyg.

Mae gan Blaenau Gwent y lefel uchaf o dlodi plant difrifol yng Nghymru, fel y datgelir gan ddata ystadegol yn ôl adroddiad gan Achub y Plant.

Yn ôl y Cyfrifiad 2011, mae 5,284 o breswylwyr y sir (neu 7.8%) yn gallu siarad Cymraeg, mewn cymhariaeth â 6,417 o siaradwyr (neu 9.5%) yn 2001.




#Article 89: Caerdydd (531 words)


Prifddinas Cymru yw Caerdydd ((); ); hon yw dinas fwyaf Cymru a'r ddegfed fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Daeth yn ddinas yn 1905 ac yn brifddinas Cymru yn 1955. Yma mae canolfan fasnachol fwyaf Cymru ac mae'r rhan fwyaf o sefydliadau cenedlaethol Cymru wedi eu lleoli yma hefyd. Mae poblogaeth Caerdydd oddeutu .

Roedd Caerdydd yn dref fechan tan ddechrau'r 19eg ganrif. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn enwedig pan gysylltwyd cymoedd De Cymru â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o borthladd Caerdydd. Yn 1851 roedd poblogaeth Caerdydd yn 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 1991 roedd yn 269,000. Yn 1891 roedd Caerdydd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.

Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel Tiger Bay, ac ar un adeg hon oedd un o borthladdoedd prysuraf y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu fel Bae Caerdydd. Gobeithir y daw yn ardal boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu argae ar draws y bae, gan greu llyn enfawr. Roedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yno mae Canolfan y Mileniwm hefyd, sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Stadiwm y Mileniwm.

Ystyr yr enw Caerdydd yw 'caer (ar lan) afon Taf'. Datblygodd y ffurf honno o'r ffurf gynharach Caerdyf. Mae'r elfen -dyf yn tarddu o ffurf dreigledig gynnar ar enw afon Taf. Mae'n dangos affeithiad i'r llafariad (taf  tyf) dan ddylanwad terfyniad sydd bellach wedi ei golli.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 36,700 o bobl Caerdydd yn gallu siarad Cymraeg.

Fel prifddinas Cymru, economi Caerdydd yw'r brif fan am dwf economi Cymru. Mae'r ddinas wedi'i lleoli ar Goridor yr M4, ac mae ei heconomi a'i hardaloedd cyfagos yn cyfrif am bron 20% o CMC Cymru. Yn y 19g, allforio glo a chynhyrchu dur oedd seiliau economi Caerdydd, gyda phorth y brifddinas yn allforio mwy o lo na Llundain a Lerpwl. Heddiw, mae'r ddinas yn dibynnu ar sectorau adwerthu, gwasanaethau ariannol, y cyfryngau, a thwristiaeth, ac wedi bod yn lleoliad i adfywiad ers hwyr yr 20g yn enwedig yng nghanol dinas Caerdydd a Bae Caerdydd.

Mae clwb pêl-droed proffesiynol y ddinas, C.P.D. Dinas Caerdydd (Cardiff City), yn chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Ar hyn o bryd mae'r clwb yn chwarae yn y Bencampwriaeth. Enillodd y clwb Gwpan FA Lloegr yn 1927.

Mae'r rhwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus yn y ddinas yn cael ei redeg gan Fws Caerdydd a Trafnidiaeth Cymru. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys wyth rheilffordd, i Faesteg, Bro Morgannwg a Maes Awyr Caerdydd, Treherbert, Merthyr Tudful ac Aberdâr, Coryton, Rhymni, a Bae Caerdydd. Mae gan y ddinas 22 orsaf fel gorsafoedd Caerdydd Canolog a Chaerdydd Heol Y Frenhines, ill dwy yng nghanol y ddinas.

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ym Mro Morgannwg.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ym 1883, 1899, 1938, 1960, 1978 a 2008. Am wybodaeth bellach gweler:




#Article 90: John Charles (276 words)


Roedd John Charles (27 Rhagfyr 1931 – 21 Chwefror 2004) yn chwaraewr pêl-droed o Abertawe — y chwaraewr gorau mae Cymru erioed wedi'i gynhyrchu, yn ôl rhai.

Fe'i ganwyd yng Nghwmdu, ger Abertawe, a bu'n chwarae dros glwb pêl-droed Leeds United o 1949 i 1957. Yn ystod yr adeg hon, fe sgoriodd 150 o goliau, gan gynnwys 42 o goliau yn y tymor 1953-1954.

Ym 1957 fe'i trosglwyddwyd i'r tîm enwog Eidalaidd, Juventus, am dâl o £65,000, a oedd yn record ar y pryd. Bu'n chwarae dros Juventus am bum mlynedd, gan sgorio 93 o weithiau mewn 155 o gêmau. Enillodd y scudetto (pencampwriaeth y cynghrair Eidalaidd) dair gwaith, a'r Cwpan Eidaleg ddwywaith. Ei lysenw yn yr Eidal oedd Il Gigante Buono, neu Y Cawr Caredig, gan na chafodd ei rybuddio na'i anfon o'r cae trwy gydol ei yrfa.

Ar ôl iddo adael Juventus ym 1962, chwaraeodd dros glwb Leeds United eto, ac A.S. Roma yn yr Eidal, a gorffennodd ei yrfa gyda chlwb Dinas Caerdydd.

Chwaraeodd John Charles am y tro cyntaf dros dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru pan oedd yn 18 mlwydd a 71 diwrnod o oedran. Charles oedd calon tîm Cymru yng Nghwpan y Byd 1958 yn Sweden pan gollodd Cymru y rownd chwarter-derfynol 1-0 i dîm Brasil, enillwyr y twrnamaint—ni chwaraeodd Charles yn y gêm hon oherwydd anaf.

Tra'n hybu llyfr ym Milano yn yr Eidal yn Ionawr 2004, fe ddioddefodd drawiad ar y galon, a bu'n rhaid torri rhan o'i droed cyn ei hedfan yn ôl i Loegr. Yn gynnar ar fore Dydd Sadwrn, 21 Chwefror, bu farw yn ysbyty Pinderfields yn Wakefield.

Roedd ei frawd Mel Charles hefyd yn beldroediwr rhyngwladol.




#Article 91: Caergrawnt (105 words)


Dinas yn Swydd Gaergrawnt, Dwyrain Lloegr, ydy Caergrawnt (Saesneg: Cambridge). Hi yw'r tref sirol ac mae hi'n gartref i ail brifysgol hynaf y byd Seisnig, Prifysgol Caergrawnt. 

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Caergrawnt boblogaeth o 145,818.

Beic ydy modd cludiant llawer o bobl yng Nghaergrawnt, oherwydd y brifysgol, a'r diffyg bryniau.

Anheddwyd yr ardal er cyn y Rhufeiniaid ond datblygodd gyda dyfodiad y Rhufeiniaid tua 40 O.C. Yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid, gwladychwyd yr ardal gan y Sacsoniaid. Nodir dyfodiad y Llychlynwyr mewn cronicl yn 878.

Gwraidd Gwasg Prifysgol Caergrawnt oedd rhoi trwydded argraffu yn 1534. Sefydlwyd Ysbyty Addenbrooke (Addenbrooke's Hospital) yn 1719.




#Article 92: Amy Dillwyn (209 words)


Roedd Elizabeth Amy Dillwyn (16 Mai 1845 - 13 Rhagfyr 1935) yn nofelydd, yn gymwynaswraig ac yn wraig fusnes, o Abertawe.

Fe'i ganed yn Sketty, yn ferch i Lewis Llewelyn Dillwyn ac Elizabeth (née De la Beche).  Roedd ei thad yn ŵr amlwg yn natblygiad diwydiannol ardal Abertawe a bu'n aelod seneddol Rhyddfrydol dros Abertawe rhwng 1855 a 1892. Bu farw dyweddi Amy Dillwyn, LLewellyn Thomas o Lwynmadog, yn ddisymwyth cyn eu priodas ym 1864. Bu farw ei mam ym 1866 ac ar ôl marwolaeth ei brawd ym 1890 a'i thad ym 1892, etifeddodd hi weithfeydd ei thad. Ymgymrodd â'r gwaith o reoli'r gweithfeydd ei hun ac felly daeth yn adnabyddus fel arloeswraig ym myd busnes a diwydiant.Gadawodd ei thad ddyled a fuasau yn cyfateb i £8m yng ngwerthoedd heddiw..Serch hynny arbedodd 300 o swyddi.

Roedd Amy Dillwyn yn gymeriad lliwgar ac fe ddaeth hi'n adnabyddus am ei barn di-flewyn-ar-dafod, ei gwisg ecsentrig a'i hoffter o ysmygu sigârs.  Rhwng 1880 ac 1892, cyhoeddodd Amy Dillwyn chwe nofel ac mae pob un yn ymdrin â safle menywod yn y gymdeithas Fictorianaidd. Etholwyd hi yn llywydd cangen Abertawe o'r .

Bu farw yn 90 oed ar 13 Rhagfyr 1935; amlosgwyd hi a chladdwyd ei llwch ym mynwent Eglwys St Paul, Sketty.




#Article 93: Rhydychen (229 words)


Dinas yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr, yw Rhydychen (, hen enw Oxenaford). Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Dinas Rhydychen. Hi yw tref sirol Swydd Rydychen. 

Yng nghyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 134,248.

Llifa Afon Cherwell ac Afon Tafwys drwy ganol Rhydychen gan gyfarfod i'r de o ganol y ddinas. Fodd bynnag, yn Rhydychen ac am tua 10 milltir (16 km) a'r ardal gyfagos, gelwir Afon Tafwys yn Isis. 

Saif sy tua 60 milltir i'r gogledd-orllewin o Lundain.

Mae gan y ddinas ddwy brifysgol. Prifysgol Rhydychen yw'r brifysgol hynaf yn Lloegr; ymhlith y Cymry fu yno oedd Owain Glyndŵr ac Owen M Edwards. Mae Prifysgol Brookes (Oxford Polytechnic yn gynt) yna hefyd. Mae'r diwydiant ceir yn bwysig i'r economi lleol — cynhyrchir y BMW Mini yn Cowley yn ne-ddwyrain y ddinas — ond lleihawyd y cynnyrch ers y 1970au.

Mae hanes Rhydychen yn estyn yn ôl i gyfnod y Sacsoniaid. Ganwyd John, brenin Lloegr, yn Rhydychen. Defnyddiodd Brenin Siarl I Rydychen fel ei lys yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Mae'r adeiladau yn Rhydychen yn adlewyrchu pob cyfnod pensaernïol yn hanes Lloegr ers dyfodiad y Sacsoniaid, gan gynnwys y Radcliffe Camera o ganol y 18g. Mae adeilad hynaf y ddinas, sef eglwys Mihangel Sant, yn dyddio o 1040. Adnabyddir Rhydychen fel y city of dreaming spires, term a fathwyd gan y bardd Matthew Arnold i ddisgrifio pensaernïaeth adeiladau prifysgol Rhydychen.




#Article 94: Lerpwl (989 words)


Dinas yng Nglannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Lerpwl (Saesneg: Liverpool). Saif ar lannau Afon Merswy. 

Sefydlwyd Lerpwl fel dinas gan y brenin Seisnig John yn 1207 gyda dim ond 500 o bobl, ac arhosodd yn gymharol fach tan ddechrau'r Chwyldro Diwydiannol; ar un adeg, oherwydd fod yma cymaint o Gymry Cymraeg, fe elwid y lle yn Brifddinas Gogledd Cymru. Tyfodd drwy ddatblygu dociau enfawr. Un ffynhonnell sylweddol o arian oedd y masnach mewn caethweision o'r Affrig; a cheir arddangosfa ar hyn lawr yn y dociau. Poblogaeth Lerpwl ydyw 439,473 (Cyfrifiad 2001).

Heddiw y ddinas ydyw ardal canolog Glannau Merswy (Saesneg: Merseyside). Yr ardaloedd eraill ydyw Knowsley, Sefton, St Helens a Chilgwri (Saesneg: Wirral). Mae pobl tu allan i Lannau Merswy yn aml yn defnyddio 'Lerpwl' (mewn ffordd anghywir) i ddisgrifio'r holl ardal.

Adnabyddir poblogaeth Lerpwl fel 'Scousers' ar ôl y cawl cynhenid o'r enw scouse, sy'n debyg i gawl Cymreig. Symbol Lerpwl ydyw aderyn sy'n edrych yn debyg i filidowcar o'r enw Liver Bird (ynghanir fel 'Laifr'). Hen enw Gymraeg ar y ddinas yw Llynlleifiad. Mae rhai yn tybio mai hyn yn cyfeirio at yr aderyn 'Lleifr', hen enw am filidowcar. Os felly, 'Llyn y Bilidowcar' yw enw'r ddinas. Ond mae yna llawer o theoriau eraill am darddiad yr enw - does neb yn siŵr o ble y daeth.

Roedd yn brifddinas answyddogol i Ogledd Cymru am gyfnod maith ac mae llawer o'r boblogaeth presennol o gefndir Gymreig. Surodd y berthynas rhwng Cymru a Lerpwl pan foddwyd Capel Celyn a Chwm Tryweryn gan Gorfforaeth Lerpwl ym 1965 er mwyn creu cronfa dŵr i gyflenwi dŵr i'r ddinas. Dywed rhai nad oedd angen boddi'r cwm o gwbl.

Mae nofel Marion Eames Hela Cnau yn rhoi hanes dynes ifanc a aeth i weini o Ogledd Cymru i Lerpwl.

Lerpwl oedd Dinas Diwylliant Ewrop 2008.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Lerpwl ym 1884, 1900 a 1929. Am wybodaeth bellach gweler:

Mae dros 2500 o adeiladau rhestredig yn y ddinas, gan gynnwys 25 sydd yn Gradd I.

Un o bensaeri enwocaf y ddinas oedd Richard Owen (1831 - 24 Rhagfyr 1891). 

Roedd yn un o benseiri mwyaf toreithiog capeli Cymreig a thai teras yn Lerpwl. Yn ôl yr hanesydd Dan Cruickshank Roedd Owens mor llwyddiannus gallai bod yn gyfrifol am (gynllunio) mwy o dai teras yng ngwledydd Prydain Oes Victoria na neb arall.

Mae Merseytravel yn cydlynu trafnidiaeth yn ardal Glannau Merswy, gan gynnwys y ddinas.

Gorsaf reilffordd Lime Street Lerpwl yw'r brif orsaf sydd yn cysylltu Lerpwl gyda gweddill Lloegr a'r Alban. Mae trenau trydanol yn mynd o Lerpwl i Birmingham a Llundain ers 1 Ionawr 1962. Cwblhawyd trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Lerpwl a Manceinion ym Mai 2015. Mae gwasanaethau lleol yn cysylltu'r orsaf a Warrington, Preston a Wigan. Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am wasanaethau rhwng Lerpwl, Caer a Wrecsam trwy Runcorn ers 19eg Mai 2019.

Mae gwasanaethau ar y Llinell Gogleddol yn gweithredu o Hunts Cross yn y de o Lerpwl, drwy dwnnel o orsaf Brunswick drwy Lerpwl Canolog a Moorfields, i Southport. Mae gwasanaethau hefyd yn rhedeg o Lerpwl Canolog i Ormskirk a Kirkby.

Mae gwasanaethau ar y Llinell Cilgwri yn gweithredu o'r ddolen drwy Dwnnel Reilffordd Merswy i orsaf Hamilton Square ym Mhenbedw. Oddi yno, naill ai eu bod yn rhedeg i'r de i Hooton, lle maent yn parhau i naill ai Gaer neu Ellesmere Port, neu i'r gorllewin i ogledd Benbedw, lle mae'r llinell yn rhannu i New Brighton a West Kirby.

Mae trenau’r Llinell y Ddinas i gyd yn gadael Lime Street, ac yn mynd at Wigan neu at Fanceinion, Caer a Wrecsam neu Gryw; maent yn wasanaethau rheilffyrdd eraill yn hytrach na threnau Merseyrail.

Mae gwasanaeth fferi rhwng Lerpwl a Seacombe, a drefnir gan Mersey Ferries. Mae hefyd taith 50 munud ar Afon Merswy Mae ganddynt ddau gwch, 'Snowdrop' a 'Royal Iris of the Mersey'.

Gweithredir mwyafrif gwasanaethau bysiau’r ardal gan gwmni Arriva, er bod cymnïau llai yn gweithio yn yr ardal hefyd, megis Cumfybus, HTL a Bysiau Avon.

Mae Maes Awyr John Lennon ar lan Afon Merswy, 6.5 cilomedr i de dwyrain canol y ddinas
. Enw gwreiddiol y maes awyr oedd Maes Awyr Speke; ailenwyd y maes awyr yn 2001. Mae awyrennau’n mynd o Lerpwl i Ewrop, gogledd Affrica a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae cerflun o John Lennon yn sefyll uwchben y neuadd ‘check in’, a gwelir ar y nenfwd y geiriau ‘Above us, only sky’, llinell o’r gân Imagine.

Mae Parc Chwareuon Wavertree yn gartref i glwb athletaidd Liverpool Harriers.

Mae bocsio’n boblogaidd yn Lerpwl, ac mae 22 o glybiau bocsio yn y ddinas.

Mae Clwb Criced Swydd Gaerhirfryn yn chwarae gemau yn Lerpwl bob tymor. Mae Cystadleuaeth Criced Lerpwl a Chylch yn un bwysig.

Lleolir Clwb Golff Brenhinol Lerpwl yn Hoylake, ar Gilgwri. Cynhaliwyd y Bencampwriaeth Agored a Chwpan Walker yno sawl gwaith.

Mae Canolfan Gymnasteg Heol y Parc yn cynnig hyfforddiant o safon uchel.

Agorwyd canolfan nofio ym Mharc Chwareuon Wavertree yn 2008. Mae Clwb Nofio Dinas Lerpwl wedi bod yn bencampwyr y cynghrair genedlaethol wythwaith yn ystod yr un ar ddeg mlynydd diwethaf.

Mae gan Lerpwl 2 dîm yn chwarae yn Uwch Gyngrair Lloegr, Liverpool F.C., sydd yn chwarae yn Anfield, ac Everton F.C., sydd yn chwarae ym Mharc Goodison.

Mae Lerpwl yn un o 3 dinas ym Mhrydain lle chwareuir pêl fas (Caerdydd a Chas-Newydd yw’r lleill) Y clwb hynaf ym Mhrydain yw Liverpool Trojans.

Ymunodd Everton Tigers, yn cysylltiedig â’r club pêl-droed, â Chynghrair Brydeinig  Pêl fasged yn 2007, yn chwarae yn Academi Chwareuon Greenbank, cyn symud i Arena Echo.Torrwyd y cysylltiad gyda’r clwb  pêl-droed yn 2010, ac ail-enwyd y clwb Mersey Tigers.

Cynhelir y Grand National yn Aintree bob mis Ebrill.

Mae clybiau seiclo yn y ddinas, megys Liverpool Century, yn ogystal â nifer o glybiau seiclo cymdeithasol.

Mae Clwb Criced Lerpwl wedi cynnal Cystadleuaeth Rhyngwladol Tenis Lerpwl ers 2014
. Mae Rhaglen Ddatblygu Tenis Lerpwl, cynhaliwyd yng Nghanolfan Tenis Wavertree, yn un o’r mwyaf ym Mhrydain.




#Article 95: Casnewydd (569 words)


Casnewydd, neu Casnewydd-ar-Wysg (Saesneg Newport), yw trydedd ddinas fwyaf Cymru, a thref fwyaf yr hen Sir Fynwy. Er ei bod yn rhan hanesyddol o Sir Fynwy, heddiw mae'r ddinas yn cael ei gweinyddu gan gyngor dinas fel awdurdod unedol. Y ddinas agosaf ydy Caerdydd, sydd 19 km i ffwrdd.

Mae'r chwedl yn disgrifio Gwynllaw, tywysog De Cymru, yn sefydlu'r dre ar ôl cyfarfod ag Ych hudol.

Ymwelodd Gerallt Gymro â Chasnewydd yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Ar 4 Mawrth 1839, arweiniodd John Frost, Zephaniah Williams a William Jones orymdaith o tua 3,000 o Siartwyr i Gasnewydd, gan geisio rhyddhau Siartwyr oedd wedi eu carcharu yn y Westgate Hotel. Daeth dilynwyr Frost o'r Coed Duon, dilynwyr Williams o Lyn Ebwy a chriw Jones o Bont-y-Pŵl. Roedd llawer o golofnau'r sefydliad yn y gwesty ynghyd â 60 o filwyr arfog. Taniwyd at y 'mob' gan filwyr Lloegr y tu allan i westy'r Westgate am tua 25 munud o gythrwfl, a bu farw 22 o bobl ac anafwyd dros hanner cant.

Rhoddwyd John Frost, William Jones a Zephaniah Williams ar eu prawf, eu cael yn euog a'u dedfrydu i gael eu crogi a'u chwarteru. Wedi protest gyhoeddus, newidiwyd y ddedfryd i alltudiaeth, ac aed â hwy i Van Diemen's Land (Tasmania heddiw). Yn ôl rhai haneswyr, dyma gwrthryfel mwyaf a chryfaf gwledydd Prydain yn ystod y 19eg ganrif.

Yn hanesyddol diwydiant trwm, yn enwedig cynhyrchu dur, oedd sail economi Casnewydd. Tyfodd y dref yn gyflym yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, ac erbyn hanner cyntaf y 19g Casnewydd oedd brif dref y De gyda mwy o gyfoeth na Chaerdydd ac Abertawe gyda'i gilydd. Ar ôl eu gorffen, Dociau'r Hen Dref oedd y dociau mwyaf yn Ewrop yn anterth y diwydiant llongau. Yn y cyfnod ôl-ddiwydiannol mae'r ddinas wedi teimlo ergydion cau a lleihau'r gweithlu mewn gweithfeydd diwydiannol.

Heddiw saif Casnewydd ar Goridor yr M4, rhwng prifddinas Cymru, Caerdydd, a Bryste yn Lloegr. Ym mlynyddoedd diweddar mae'r ddinas wedi buddsoddi'n uchel mewn sectorau economaidd modern, yn bennaf diwydiannau gwasanaethau ac uwch-dechnoleg. Yn y degawd diwethaf bu mwy na £3 biliwn o fuddsoddiad preifat a grëwyd dros 10,000 swydd. Mae Casnewydd ymhlith y pum lleoliad uchaf o ran sefydlu busnesau yn y Deyrnas Unedig.

Casnewydd fydd yn cynnal Cwpan Ryder 2010 ar gwrs golff y Celtic Manor. Ystyrid y fydd hyn yn hwb i economi Casnewydd a Chymru i gyd, yn enwedig y diwydiant twristiaeth; rhagwelir y bydd y gystadleuaeth golff yn denu 30 000 o ymwelwyr ychwanegol i Gymru. Yn ôl gwefan swyddogol y gystadleuaeth, amcangyfrifir bod cynnal y digwyddiad yng Nghymru (gwerth) dros £40m mewn mewnlif arian uniongyrchol, gyda chyfanswm effaith gwariant o £67m o bosibl.

Saif Casnewydd ar y brif linell reilffordd rhwng Abertawe a Llundain Paddington. Mae llinell reilffordd y Gororau yn mynd i'r gogledd o Gasnewydd, i Henffordd ac Amwythig, a bwriedir ail-agor y llinell i Lyn Ebwy yn 2009. Mae traffordd yr M4 a hen briffordd yr A48 yn pasio drwy Gasnewydd. Mae Pont Gludo Casnewydd, sy'n croesi Afon Wysg, yn un o ddim ond tuag wyth enghraifft o Bont Gludo sy'n parhau i gael ei defnyddio yn y byd.

Lleolir un o golegau Prifysgol Cymru yng Nghasnewydd. Mae gan Gasnewydd dair ysgol gynradd Gymraeg, sef Ysgol Gymraeg Casnewydd, Ysgol Ifor Hael ac Ysgol Bro Teyrnon, ac un Ysgol Uwchradd Gymraeg, sefy Ysgol Gwent Is Coed.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd ym 1897, 1988 a 2004.




#Article 96: Ysgrifennydd Gwladol Cymru (482 words)


Daeth swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i fodolaeth ym mis Hydref 1964, a Jim Griffiths, Aelod Seneddol Llanelli oedd y cyntaf i'w llenwi. Penderfynodd llywodraeth San Steffan alluogi'r Ysgrifennydd i reoli gwariant ar ambell wasanaeth cyhoeddus a fu gynt o dan reolaeth adrannau eraill. Sefydlwyd y Swyddfa Gymreig ym mis Ebrill 1965.

Yn ystod y 1980au a'r 1990au llywodraeth Geidwadol oedd mewn grym yn San Steffan. O 1987 tan 1997 roedd yr ysgrifenyddion i gyd yn cynrychioli seddau o tu allan i Gymru oherwydd diffyg cynrychiolaeth y Toriaid yng Nghymru - 1987 - 8 aelod, ac 1992 - 6 aelod.

Yn dilyn sefydliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, daeth newid mawr yn rôl yr Ysgrifennydd Gwladol, gan fod y rhan fwyaf o'i swyddogaethau bellach yn nwylo'r corff newydd. Diddymwyd y Swyddfa Gymreig, ond cadwyd swydd yr ysgrifennydd gwladol, gan ei wneud yn bennaeth ar swyddfa newydd, Swyddfa Cymru.

O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru (1998) gall Ysgrifennydd Gwladol Cymru fynychu sesiynau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a siarad ynddynt yn ogystal â chael arian o'r Senedd. Fodd bynnag, mae'n gorfod trosglwyddo hynny i'r Cynlliad Cenedlaethol, heblaw am yr arian sydd yn angenrheidiol i redeg ei swyddfa ei hun. Mae'n rhaid iddo ymgynghori â'r Cynulliad dros raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth hefyd.

Cafwyd 18 Ysgrifennydd Gwladol, gyda 3 ohonynt (David Hunt, Paul Murphy  a Peter Hain) wedi eu penodi i'r swydd ar fwy nag un achlysur. Mae pedwar ohonynt, sef yr Arglwydd Morris o Aberafan (John Morris), Nicholas Edwards, Barwn Crughywel, Ron Davies, a’r Barwn Cledwyn o Benrhos (Cledwyn Hughes) wedi traddodi darlith flynyddol Archif Wleidyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Peter Thomas, y Ceidwadwr cyntaf yn y swydd, oedd yr Ysgrifennydd Gwladol cyntaf i gynrychioli sedd y tu allan i Gymru.

Mae nifer o Ysgrifenyddion Gwladol hefyd wedi dal swyddi dylanwadol eraill: daeth Is-iarll Tonypandy (George Thomas) yn Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, daeth William Hague yn Arweinydd y Ceidwadwyr a daeth Alun Michael yn Brif Ysgrifennydd cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 AS yn flaenorol dros Sir Benfro, ond yn cynrychioli etholaeth yn Lloegr tra yn y swydd.

 AS yn flaenorol dros Gonwy, ond yn cynrychioli etholaeth yn Lloegr tra yn y swydd.

 Ymddiswyddodd Redwood i sefyll yn etholiad arweinydd y Ceidwadwyr yn 1995. Yn ystod yr etholiad, gweithredodd Hunt fel y Ysgrifennydd Gwladol.

 Ymddiswyddodd ar ôl moment o wallgofrwydd ar Clapham Common.

 Yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998, daliodd y swydd fel Prif Weinidog cyntaf cymru o 12 Mai 1999.

 Ymddiswyddodd yn dilyn ffrae dros yr hyn oedd yn ei wybod am ran cyn-gydweithiwr mewn dymchwel achos llys.

Mae dyfodol y swydd wedi cael ei gwestiynu nifer o weithiau ers dyfodiad datganoli. Galwyd am ddileu’r swydd gan 'Uned y Cyfansoddiad' yn 2001, a gan  yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, cyn Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol yn 2011. Yn ei ddarlith yn 2013, galwodd yr Arglwyd Morris am ddileu’r swydd gan fod y rhan fwyaf o’r dyletswyddau wedi cael eu trosglwyddo i’r Cynulliad gan ddweud. Dywedodd:




#Article 97: Bangor (883 words)


Dinas a chymuned yw Bangor yng Ngwynedd, gogledd-orllewin Cymru; Cyfeirnod OS: SH 58179 72393. Mae ganddi boblogaeth o tua 15,000 (neu tua 21,735 gan gynnwys ei chyrion). Mae Prifysgol Bangor, Pontio ac Eglwys Gadeiriol Bangor yn y ddinas. Bangor yw canolfan Esgobaeth Bangor a sedd Esgob Bangor. Yr enw llawn tan yn ddiweddar oedd 'Bangor Fawr yn Arfon'. Yn yr 20g, cafodd Bangor sefydliad pellach, gan gynnwys pencadlys gogleddol y BBC yng Nghymru ac yn ystod y rhyfel, o 1941 i 1944, symudodd adran adloniant ysgafn y BBC o Lundain i'r dre.

Mae rhannau hynaf Bangor yn gorwedd yn nyffryn Afon Adda, sy'n wastadedd cyfyng rhwng dwy res o fryniau a red o'r gorllewin i'r dwyrain. Mae'r dyffryn yn agored i'r môr yn y dwyrain ar y bae bychan mewn braich agored o Afon Menai. Uwchlaw'r eglwys gadeiriol mae'r Stryd Fawr hir, gul, tra bod prif adeiladau'r coleg yn coronni'r bryn i'r gogledd. I'r de o'r ddinas mae bryn coediog, serth Mynydd Bangor yn codi i 300 troedfedd. I'r gorllewin rhed Ffordd Caernarfon allan o'r ddinas dan y bont reilffordd ar hyd dyffryn Afon Adda; yma mae Ysbyty Gwynedd, nifer o stadau tai a datblygiadau siopau newydd gan gynnwys archfarchnadoedd mawrion.

Rhwng Bangor ac Ynys Môn, mae dwy bont: Pont Y Borth a Phont Britannia.  Mae Pont Britannia yn fawr, gyda dwy lefel ar ben ei gilydd, ar y lefel uchaf mae ffordd geir, ac ar y lefel isaf mae rheilffordd.  Adeiladwyd Pont y Borth gan Telford; hon oedd bont grog fwya'r byd ar un cyfnod ac mae'n gul, oherwydd ei hoed, a does dim caniatâd pasio arno.

Yn ôl traddodiad sefydlodd Deiniol Sant fynachlog (clas) ar lannau Afon Adda yn y 6g. Mae enw'r dref yn dod o'r gair bangor, sef clawdd plethiedig neu'r tir a amgeir ganddo (llan). Cafodd Deiniol ei gysegru'n esgob cyntaf Bangor gan Dyfrig Sant (Dubricius).

Ymddengys fod y fynachlog a'r hen eglwys gadeiriol wedi parhau i sefyll hyd 1071 nes iddynt gael eu llosgi gan y Normaniaid. Ailadeiladwyd yr eglwys gadeiriol tua 1102 dan nawdd Gruffudd ap Cynan, Brenin Gwynedd, ond iddi gael ei dinistrio unwaith yn rhagor gan luoedd y brenin John o Loegr yn 1210 pan ymosododd ar Wynedd. Claddwyd Gruffudd ap Cynan a'i ŵyr Owain Gwynedd yn y gadeirlan. Fe'i adeiladwyd o'r newydd bron yn y 13g.

Ymwelodd Gerallt Gymro â Bangor yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Yn y 13g, sefydlwyd mynachlog fymryn i'r gogledd o'r hen dref gan Urdd y Dominiciaid. Ym 1557, sefydlwyd ysgol rad, sef Ysgol Friars ar y safle hwnnw. Mae'r ysgol yn parhau i fodoli, er ei bod wedi symud safle sawl gwaith.

Yn raddol tyfodd tref fechan o gwmpas yr eglwys gadeiriol ond nid oedd yn llawer mwy na phentref tan ddiwedd y 18g pan agorwyd chwareli llechi Penrhyn ac adeiladwyd porthfa newydd yn Abercegin, fymryn i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas. Gydag agoriad ffordd newydd Thomas Telford (yr A5 heddiw) ac wedyn Pont y Borth yn 1826 daeth Bangor yn ganolfan cludiant o bwys a datblygodd yn gyflym. Cyrhaeddodd y rheilffordd yn 1848. Yn 1883 rhoddwyd siartr bwrdeistref i'r ddinas ac yn 1885 adnabuwyd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru â siartr brifysgol.

Yn yr 1960au sefydlwyd yma'r gell gyntaf o Cymdeithas yr Iaith a arweiniodd y ffordd i weddill Cymru drwy greu ymgyrchoedd newydd dros y Gymraeg megis y frwydr dros Ysgol Uwchradd Gymraeg ym Mangor; yma hefyd yr argraffwyd copiau cyntaf o Dafod y Ddraig.

Gwelodd Bangor ddatblygiadau mawr yn yr 20g gyda nifer o dai yn cael eu codi ar ymyl y ddinas, yn arbennig ar y bryn lle saif y coleg (Bangor Uchaf) ac ar gyrion y dref ym Maesgeirchen.

Mae tîm y dref yn un o'r hynaf yng Nghymru gan iddo gael ei sefydlu yn 1876. Tan y 2000'au arferid chwarae ar gae Ffarar Road.

Mae gan Fangor y pier ail hiraf yng Nghymru (y nawfed hiraf yng ngwledydd Prydain), sy'n ymestyn 1,500 troedfedd (472 medr) i Afon Menai. Fe'i lleolir tua hanner milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r ddinas ei hun, yn ymyl Y Garth, sy'n rhoi ei enw iddo'n swyddogol er mai fel Pier Bangor y mae'n cael ei adnabod gan bawb bron. Bu bron iddo gael ei ddymchwel yn 1974 oherwydd ei gyflwr ar y pryd. Ond gwrthwynebwyd y cynllun gan bobl leol ac erbyn hyn mae'r pier wedi cael ei drwsio (rhwng 1982 a 1988) ac yn adeilad rhestredig Graddfa II.

Ar ochr ddwyreiniol y ddinas ar lan Afon Menai mae porthladd bychan Porth Penrhyn, oedd o bwysigrwydd mawr yn y 19g fel porthladd i allforio llechi o Chwarel y Penrhyn.

Yr ymgyrch dros ysgol uwchradd Gymraeg i Fangor (a Llandudno) oedd ymgyrch gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1963); cangen Bangor oedd y gyntaf drwy Gymru.

Dyma'r ysgolion fel ag y maent heddiw:

Bu Ysgol Gymraeg St. Pauls yma am gyfnod, cyn Ysgol y Garnedd.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor ym 1890, 1902, 1915, 1931 a 1971. Am wybodaeth bellach gweler:

Mae gan Bangor orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n ei chysylltu â Chaergybi a Chaer. Yn ogystal, Bangor yw prif echel rhwydwaith bysus y rhan yma o Wynedd, gyda gwasanaethau niferus i bentrefi lleol a lleoedd eraill. Mae gwasanaeth cyflym y Traws Cambria yn cysylltu Bangor a Chaerdydd trwy Aberystwyth.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 98: Tyddewi (161 words)


Tyddewi (Mynyw mewn Cymraeg Canol, o'r enw lle Lladin Menevia; St David's yn Saesneg) yw dinas leiaf Cymru a sedd esgobaeth Tyddewi. Mae yng nghymuned Tyddewi a Chlos y Gadeirlan, o ran llywodraeth leol. Yn ôl traddodiad fe'i sefydlwyd gan Dewi Sant yn y 6g. Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn dominyddu'r dref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Mynyw (Lladin: Menevia) yw'r hen enw am y fan lle y sefydlodd Dewi Sant ei abaty. Enw arall ar y lle yw Glyn Rhosyn. Mae cyfeiriad at y fynachlog mewn llawysgrif Wyddelig a ysgrifennwyd tua 800, sef merthyradur Oengus. Roedd yn safle brysur yn y cyfnod hwn gan fod y rhan fwyaf o'r teithio yn y cyfnod hwn yn cael ei wneud ar y môr, o'r cyfandir, o Lydaw a Chernyw i Iwerddon ac i'r gogledd.

Ymwelodd Gerallt Gymro â Thyddewi yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yma yn 2002.




#Article 99: Ffrwydradau trenau Madrid 11 Mawrth 2004 (257 words)


Ymosodiadau bom yn Madrid, 11 Mawrth 2004.
Dydd Iau, 11 Mawrth 2004, ffrwydrodd deg bom ar cercanías (trenau lleol) yn ninas Madrid, Sbaen rhwng 07:39 a 07:42 yn y bore. Bu farw 190 o bobl, o leiaf, a chafodd dros 1,800 o bobl eu hanafu.

Ffrwydrodd tair bom, ym mlaen, canol, a thu ôl y trên ym mhrif orsaf y ddinas, Atocha, am 07:39, a hefyd ffrwydrodd pedair bom ar yr un pryd ar drên arall tu allan i orsaf Atocha, yn Calle Téllez. Am 07:41 ffrwydrodd dwy fom ar drên arall yng ngorsaf El Pozo del Tío Raimundo, ac am 07:42 ffrwydrodd un bom ar drên yng ngorsaf Santa Eugenia.

Bu farw'r mwyafrif o'r dioddefwyr yn Atocha/Téllez (89 o bobl), ac El Pozo (67), efo 17 yn Santa Eugenia.

Roedd 41 o'r meirwon yn dod o 13 gwlad dramor—15 o Rwmania, 5 yr un o Ecwador a Pheriw, 4 o Wlad Pwyl, 3 o Colombia, 2 o Hondwras, ac un yr un o Bwlgaria, Tsile, Ciwba, Gweriniaeth Dominica, Gini Bisaw, Ffrainc a Moroco.

Roedd llywodraeth Sbaen yn beio'r mudiad Basg, ETA, ar y dechrau, ond roedd modd yr ymosodiad yn anarferol i ETA—byddan nhw fel arfer yn rhoi rhybudd, neu yn ymosod ar blismyn neu swyddogion y llywodraeth. Ar 11 Mawrth gyda'r hwyr, dywedodd y papur newydd Arabeg rhyngwladol Al-Quds Al-Arabi, a gyhoeddir yn Llundain, eu bod wedi cael e-bost gan rywun yn dweud mai Al Qaeda oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

Tri diwrnod ar ôl yr ymosodiad, collodd Aznar yr etholiad, mewn canlyniad syn.




#Article 100: Ynys Môn (3418 words)


Sir ac ynys yng ngogledd-orllewin Cymru yw Ynys Môn (Saesneg: Anglesey, Lladin: Mona). Gwahenir yr ynys oddi wrth y tir mawr gan gulfor Afon Menai. Cysylltir y tir mawr â'r ynys gan ddwy bont, y bont wreiddiol Pont y Borth a godwyd gan Thomas Telford ym 1826 a'r un fwy, Pont Britannia sydd yn cysylltu'r A55 â'r ynys ynghyd â Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd poblogaeth yr ynys yn 69,751. Mae'r canran o'r boblogaeth sy'n siarad rhywfaint o Gymraeg oddeutu 70%, yn ôl Cyfrifiad 2011.

Ymhlith yr ynysoedd llai o gwmpas arfordir Môn mae Ynys Gybi, Ynys Seiriol, Ynys Llanddwyn ac Ynys Moelfre. Dynodwyd arfordir yr ynys yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn mynd o'i chwmpas. Er i rannau o'r sir gael eu Seisnigeiddio dros y degawdau diweddar wrth i bobl symud yno i fyw o Loegr a llefydd eraill, erys Môn yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg a gellir cyfrif rhan sylweddol ohoni yn rhan o'r Fro Gymraeg. Gweinyddir y sir gan Gyngor Sir Ynys Môn sydd â'i bencadlys yn Llangefni.

Ymddengys enw'r ynys gyntaf mewn ysgrifen yng nghofnodion yr awduron clasurol yn ei ffurf Ladin fel Mona. Dywed Owen a Morgan nad oes eglurhad boddhaol ar ystyr yr enw Môn, a'i fod yn ôl pob tebyg yn tarddu o wraidd cyn-Geltaidd. Mae enw Saesneg yr ynys o darddiad Llychlynnaidd, a cheir y cyfeiriad cynharaf at Anglesege yn 1098. Ymddengys mai'r ystyr yw ynys Ongull, lle mae Ongull yn enw person. Ceir nifer o enwau eraill ar yr ynys, megis yr Ynys Dywyll ac Ynys y Cedairn.

Gydag arwynebedd o 720 km2, Ynys Môn yw ynys fwyaf Cymru. Hi yw'r bumed fwyaf o'r ynysoedd llai Ynysoedd Prydain, heb gynnwys dwy ynys fawr, sef Ynys Prydain ac Iwerddon. Mae bron y cyfan o'r ynys yn dir cymharol isel; y pwynt uchaf yw Mynydd Twr ar Ynys Cybi, 220 medr (722 troedfedd). Y pwyntiau uchaf ar y brif ynys yw Mynydd Bodafon (178 medr) a Mynydd Eilian (177 medr), tra mae Mynydd Parys ychydig yn is. O gwmpas y brif ynys, ceir nifer o ynysoedd llai. Y fwyaf o'r rhain yw Ynys Cybi, ynys ail-fwyaf Cymru gydag arwynebedd o 39.44 km2 (15.22 mi2), lle ceir tref fwyaf Môn, Caergybi, ac sydd â chob yn ei chysylltu â'r brif ynys. Ymysg yr ynysoedd eraill mae Ynys Seiriol, Ynys Moelfre ac Ynys Llanddwyn. Gwahenir yr ynys o'r tir mawr gan Afon Menai, sydd tua 14 milltir o hyd. Mae lled y Fenai yn amrywio o lai na chwarter milltir ger Porthaethwy, lle mae Pont Y Borth yn ei chroesi, a ger Llanfairpwll lle mae Pont Britannia yn ei chroesi, i tua 3 milltir a hanner yn ei rhan orllewinol, er ei bod yn culhau eto ger Trwyn Abermenai yn ei heithaf gorllewinol. I'r gogledd-ddwyrain o'r pontydd mae'r Fenai yn ymledu dros Draeth Lafan rhwng Penmon ac Ynys Seiriol yn y gogledd a Phenmaenmawr yn y de ac yn mynd yn rhan o Fae Conwy.

Ceir nifer o lynnoedd naturiol, yn bennaf yng ngorllewin yr ynys, yn cynnwys Llyn Coron, Llyn Traffwll a Llyn Llywenan. Mae dwy gronfa ddŵr fawr wedi eu creu, Llyn Alaw a Llyn Cefni. Cymharol fychan yw'r rhan fwyaf o afonydd Môn, sy'n cynnwys Afon Cefni, Afon Alaw ac Afon Braint. Ceir nifer o gorsydd ar yr ynys hefyd. Ar un adeg, roedd Cors Ddyga yn ymestyn yr holl ffordd o Falltraeth hyd at gyrion Llangefni, hanner y ffordd ar draws yr ynys. 

Yn ddaearegol, mae llawer o greigiau Môn yn perthyn i'r cyfnod Cyn-Gambriaidd. Daw'r rhain i'r wyneb mewn pedair ardal:

Ystyrir fod Ynys Môn yn cynnwys yr amrywiaeth fwyaf o greigiau o'r cyfnod Neobroterosöig hyd y cyfnod Palalosöig (700–300 miliwn o flynyddoedd yn ôl) o fewn ardal fechan ym Mhrydain  Ceir creigiau iau mewn rhai mannau, yn arbennig creigiau Carbonifferaidd yn ne-ddwyrain yr ynys, yn cynnwys calchfaen, er enghraifft yn ardal Penmon. Ym mis Mai 2009, dynodwyd Ynys Môn fel Geoparc gan UNESCO dan yr enw GeoMôn.

Nid oes unrhyw goedwig naturiol o faint sylweddol yn parhau ar yr ynys, ac ymddengys fod hyn wedi bod yn wir am rai canrifoedd o leiaf. Yr unig goedwigoedd mawr yw'r rhai conifferaidd a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth yn ystod yr 20g; y mwyaf o'r rhain yw Coedwig Niwbwrch yn ne-orllewin yr ynys a Choedwig Pentraeth ar Fynydd Llwydiarth yn y de-ddwyrain.

Ceir amrywiaeth o fywyd gwyllt ar Ynys Môn, a sefydlwyd nifer o warchodfeydd ar yr ynys. Mae'r ynys yn un o ychydig gadarnleoedd y Wiwer Goch ym Mhrydain, ac yn y blynyddoedd diwethaf bu ymgyrch i ddifa'r Wiwer Lwyd o'r ynys i roi cyfle i'r goch ffynnu. Ceir y boblogaeth fwyaf o'r Wiwer Goch yng Nghoedydd Pentraeth.

Ymhlith y gwarchodfeydd ar yr ynys mae gan yr RSPB warchodfeydd yn Ynys Lawd, Gwlypdiroedd y Fali a Chors Ddyga. Ar greigiau gwarchodfa Ynys Lawd, mae rhai cannoedd o barau o'r Wylog a'r Llurs yn nythu, ac ychydig barau o'r Pâl. Mae gwarchodfa Cemlyn yn perthyn i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ond yn cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, sydd hefyd yn berchen gwarchodfa Cors Goch. Ceir nifer o blanhigion prin yma, ac ar ddwy ynys yn y llyn mae nifer sylweddol o Forwenoliaid yn nythu. Y Forwennol Bigddu yw'r fwyaf cyffredin fel rheol, gyda dros fil o barau yn nythu yma ambell flwyddyn. Ceir hefyd niferoedd llai o'r Forwennol Gyffredin a Morwennol y Gogledd. Mae Ynysoedd y Moelrhoniaid yn bwysig fel man nythu Morwennol y Gogledd, gyda dros 2,000 o barau yn nythu yno yn 2006. Oherwydd pwysigrwydd y safle mae gwardeiniaid yr RSPB yn aros yno dros yr haf i'w gwarchod.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru hefyd yn berchen gwarchodfa Cors Goch, tra mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol Cors Erddreiniog a Chwningar Niwbwrch yn perthyn i Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Yn ôl cyfrifiad 2001, roedd poblogaeth yr ynys yn 66,829, gostyngiad o 2,300 (3.4%) ers 1991. Caergybi yw'r dref fwyaf, gyda phoblogaeth o 11,237 yn 2001; mae poblogaeth prif dref yr ynys, Llangefni yn 4,499. Mae poblogaeth  Porthaethwy ac Amlwch oddeutu tair mil yr un, a dilynir hwy gan Llanfairpwllgwyngyll, Benllech a Biwmares.

Roedd 60.13% o boblogaeth yr ynys yn medru siarad Cymraeg yn 2001, y ganran ail-uchaf ymhlith awdurdodau Cymru. Fesul cymuned, roedd y ganran oedd yn siarad Cymraeg yn amrywio o 83.85% yng nghymuned Llangefni i 37.05% yng nghymuned Llanfair-yn-neubwll 

Roedd y ganran o'r boblogaeth oedd dros oedran ymddeol wedi cynyddu o 20.5% yn 1991 i 28.5% yn 2001. Dewiswyd Môn fel un o'r tair ardal ym Mhrydain ar gyfer ymarfer peilot i baratoi ar gyfer Cyfrifiad 2011 yn 2009.

Ceir cryn nifer o gromlechi neu siambrau claddu o Oes y Cerrig Newydd ar yr ynys, y rhan fwyaf ohonynt yn esiamplau o feddau cyntedd, ac yn dangos tebygrwydd i feddau o'r un cyfnod yn Iwerddon. Yn Oes yr Efydd, newidiodd y dull o gladdu. Y beddrod enwocaf o'r cyfnod hwn ar yr ynys yw Bedd Branwen, ger afon Alaw. Mae nifer o fryngaerau o Oes yr Haearn i'w cael ar yr ynys hefyd, er enghraifft Din Silwy (Bwrdd Arthur). Y darganfyddiad enwocaf o'r cyfnod yma yw'r casgliad mawr o arfau a chelfi eraill yn arddull diwylliant La Tène a ddarganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach yng ngogledd-orllewin yr ynys. Credir fod y rhain wedi eu gosod yn y llyn fel offrymau.

Ymhlith yr henebion o'r cyfnod hwn mae:

Ymosododd y Rhufeiniaid ar Ynys Môn am ei fod yn fangre lle yr oedd eu gelynion yn gallu cael lloches. Roedd y Derwyddon yn arwydd o wrthwynebiad gwleidyddol iddynt, ac roedd yno ysguboriau grawn i borthi eu gelynion. Yn ogystal yr oedd posibilrwydd cael copr yno. Mae'r hanesydd Rhufeinig Tacitus yn disgrifio brwydr waedlyd ar yr ynys yn 60 neu 61 O. C. pan groesodd byddin dan Gaius Suetonius Paulinus dros Afon Menai mewn cychod a chipio'r ynys.

O eiriau Tacitus, mae llawer o haneswyr wedi casglu fod yr ynys o bwysigrwydd mawr i'r Derwyddon. Fodd bynnag, nid yw Tacitus yn dweud hynny'n benodol. Bu'r Rhufeiniaid ym mwyngloddio copr ym Mynydd Parys, ac adeiladwyd caer, Caer Gybi, ar yr arfordir. Nid oes sicrwydd am ei dyddiad, ond credir ei bod yn perthyn i gyfnod olaf rheolaeth y Rhufeiniaid, a bod ganddi gysylltiad â'r llynges. Gerllaw, roedd tŵr gwylio ar Fynydd Twr.

Yn ôl y traddodiad, ymsefydlodd Gwyddelod ar Ynys Môn wedi i'r Rhufeiniaid ymadael, nes i'r brenin Cadwallon Lawhir, tad Maelgwn Gwynedd, eu gorchfygu yn gynnar yn y 6g a'u gyrru o'r ynys. Erbyn y cyfnod yna, roedd Cristnogaeth yn lledaenu tros yr ynys. Ymhlith y seintiau y cysegrwyd eglwysi iddynt mae Cybi, Seiriol, Dona ac wrth gwrs Dwynwen, santes cariadon Cymru, y ceir ei heglwys ar Ynys Llanddwyn.

Mae henebion yr ynys o'r cyfnod hwn yn cynnwys:

Aberffraw ar arfordir gorllewinol Ynys Môn oedd prif lys brenhinoedd a thywysogion Teyrnas Gwynedd, a disgrifir teyrn Gwynedd yn aml fel Brenin Aberffraw neu Tywysog Aberffraw. Yn yr Oesoedd Canol roedd Ynys Môn yn cynnwys y cantrefi a chymydau canlynol:

Dioddefodd yr ynys ymosodiadau gan y Llychlynwyr, yn enwedig y Daniaid yn y cyfnod rhwng 950 a 1000. Dywedir i Godfrey Haroldson gymryd dwy fil o gaethion o Ynys Môn yn 987, a thalodd brenin Gwynedd, Maredudd ab Owain, swm mawr i'r Daniaid i brynu ei bobl yn ôl o gaethiwed. Yn 1994,cafwyd hyd i safle archeolegol yn Llanbedrgoch sef olion sefydliad o gyfnod y Llychlynwyr, efallai tua'r 10g. Mae cloddio archeolegol yma dros y blynyddoedd diwethaf wedi darganfod tystiolaeth yn awgrymu fod Llychlynwyr wedi ymsefydlu yma am gyfnod.

Ymladdwyd nifer o frwydrau ar yr ynys. Yn 1088 ymunodd Hugh d'Avranches, Iarll Caer gyda Hugh arall, Iarll Amwythig i geisio adennill ei diroedd yng Ngwynedd oddi ar Gruffudd ap Cynan. Enciliodd Gruffudd i Fôn, ond yna bu raid iddo ffoi i Iwerddon pan gafodd y llynges yr oedd wedi ei chyflogi gan Ddaniaid Iwerddon well cynnig gan y Normaniaid a throi yn ei erbyn. Newidiwyd y sefyllfa pan gyrhaeddodd llynges dan arweiniad Brenin Norwy, Magnus III, a ymosododd ar y Normaniaid a lladd Hugh o Amwythig ger rhan ddwyreiniol Afon Menai. Gadawodd y Normaniaid yr ynys, a'r flwyddyn ganlynol dychwelodd Gruffudd i gymryd meddiant. Yn 1157, pan ymosododd Harri II ar Owain Gwynedd, gyrrodd Harri lynges i ymosod ar Ynys Môn tra'r oedd prif fyddin y brenin yn ymosod ar hyd arfordir gogledd Cymru. Glaniodd y llynges ym Môn, ond gorchfygwyd hwy gan y Cymry lleol, gyda Henry FitzRoy, mab gordderch Harri I, brenin Lloegr a Nest ferch Rhys ap Tewdwr, yn un o'r lladdedigion. Yn 1170, lladdwyd Hywel ab Owain Gwynedd mewn brwydr yn erbyn ei frawd Dafydd ym Mrwydr Pentraeth. Ymladdwyd Brwydr Moel-y-don ar 6 Tachwedd 1282 ar Afon Menai rhwng milwyr Edward I o Loegr a milwyr Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Roedd y Saeson wedi meddiannu Môn, ond gorchfygwyd hwy pan geisiasant groesi i Arfon.

Pan oedd Tywysogion Cymru yn ymladd yn erbyn y gelyn roeddent yn aml yn dibynnu ar Ynys Môn am eu cyflenwad o ŷd. Yn ystod rhyfel 1282 yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd, cofnodir i Edward I, Brenin Lloegr yrru gweithwyr i'r ynys i gipio'r cynhaeaf. Wedi marwolaeth Llywelyn, adeiladodd Edward gastell ym Miwmares i'w helpu i ddal ei afael ar yr ynys.

Yn y blynyddoedd wedi'r goncwest Edwardaidd, roedd teulu Tuduriaid Penmynydd yn arbennig o ddylanwadol ar yr ynys, er iddynt golli llawer o'u tiroedd fel cosb am gefnogi Owain Glyndŵr.

Ymhlith yr henebion o'r cyfnod yma mae:

Bu llawer o ymladd ar yr ynys adeg y rhyfel cartref rhwng y brenin ac Oliver Cromwell. Y teulu mwyaf dylanwadol ar yr ynys yn y cyfnod yma, a hyd ddechrau'r 19g, oedd teulu Bulkeley, Baron Hill ger Biwmares.

Ar 2 Mawrth 1768 cafwyd hyn i haen fawr o gopr ym Mynydd Parys ger Amlwch. Erbyn y 1780au Mynydd Parys oedd yn cynhyrchu'r mwyafrif o gopr y byd. Erbyn 1778 roedd y cwmni yn cael ei redeg gan Thomas Williams, Llanidan, a ddaeth yn un o ddiwydianwyr mwyaf ei gyfnod. Erbyn diwedd y 18g roedd poblogaeth Amlwch wedi cynyddu i tua 10,000, gan ei gwneud yr ail dref yng Nghymru ar ôl Merthyr Tudful. Estynnwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle am longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr.

Hyd at ddechrau'r 19g, roedd yn rhaid defnyddio'r fferi i groesi o'r tir mawr i Fôn. Fferi Bangor i Borthaethwy oedd y bwysicaf ohonynt, ac mae cofnod i Elisabeth I o Loegr osod yr hawl i un John Williams yn 1594. ‘Roedd Undeb Prydain Fawr gydag Iwerddon wedi creu galw am gryfhau’r cysylltiad ymarferol rhwng Llundain a Dulyn. Wedi sefydlu pwyllgor seneddol, comisiynwyd Thomas Telford i adeiladu pont dros Afon Menai ac i wella safon y ffyrdd yr holl ffordd o Lundain i Gaergybi. Cychwynnwyd ar y gwaith o adeiladu Pont y Borth ar 10 Awst 1819 wrth osod y garreg sylfaen. Agorwyd y bont i’r cyhoedd (er bod angen talu toll) am 1.35am ar 30 Ionawr 1826.

Erbyn hyn, roedd y rheilffyrdd yn datblygu, ac adeiladwyd Pont Britannia ar gyfer Rheilffordd Caer a Chaergybi. Rhoddwyd y gwaith i’r peiriannydd Robert Stephenson. Fel Pont y Borth, ‘roedd rhaid i’r bont fod yn ddigon uchel i ganiatáu mynediad tani i longau hwylio. Wedi cychwn ar y gwaith adeiladu ym 1846, agorwyd y bont ar 5 Mawrth, 1850. Roedd bellach yn bosibl cyrraedd Caergybi ar y rheilffordd mewn naw awr o gymharu â rhyw ddeugain awr ar y goets.

Yn 1974 peidiodd Môn a bod yn sir, pan unwyd hi a Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd i greu sir newydd Gwynedd. Yn 1996, daeth yn sir unwaith eto.

Heddiw Llangefni yw prif dref yr ynys, ac yno mae pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn. Cynghorwyr annibynnol sydd yn y mwyafrif ar y cyngor. Ers etholiad 2008, dim ond Plaid Cymru a'r Blaid Lafur sydd wedi eu trefnu yn grwpiau pleidiol ar y cyngor. Mae gweddill y cynghorwyr, yn aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill ac yn Annibynwyr, yn ymrannu yn grwpiau neu ffasiynau answyddogol: y mwyaf o'r ffasiynau hyn ar hyn o bryd (ers 2008) yw'r 'Annibynwyr Gwreiddiol', gyda 22 o gynghorwyr.

Mae'r ynys yn Etholaeth Cynulliad ac yn Etholaeth Seneddol ac yn rhan o Ranbarth Gogledd Cymru i'r Cynulliad Cenedlaethol. Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) yw Aelod Cynulliad Ynys Môn, ac Albert Owen (Plaid Lafur) yw'r Aelod Seneddol. Ynys Môn yw'r unig etholaeth yng Nghymru i gael ei chynrychioli yn San Steffan gan bedair plaid wahanol yn ystod yr 20g. Daliodd Megan Lloyd George y sedd dros y Rhyddfrydwyr o 1929 hyd 1951, yna daliwyd hi gan Cledwyn Hughes dros y Blaid Lafur o 1951 hyd 1979, gan Keith Best dros y Ceidwadwyr o 1979 hyd 1987 a gan Ieuan Wyn Jones dros Blaid Cymru o 1987 hyd 2001.

Ceir 41 cymuned ym Môn:

Y ddau brif ddiwydiant ar yr ynys yw twristiaeth ac amaethyddiaeth. Er nad yw'r rhan fwyaf o dir Môn yn arbennig o ffrwythlon, mae'r tir isel yn eu gwneud yn llawer haws tyfu cynydau nag yn y rhannau cyfagos o'r tir mawr. Oherwydd pwysigrwydd y cymydau a dyfid ar yr ynys, mae'r ynys wedi bod yn adnabyddus ers canrifoedd lawer fel Môn Mam Cymru. Ceir y cyfeiriad cynharaf at yr enw sydd ar glawr yn y llyfr Hanes y Daith Trwy Gymru (1188) gan Gerallt Gymro:

Mae cadw gwartheg hefyd wedi bod yn elfen bwysig yn amaethyddiaeth yr ynys ers canrifoedd. Yn y 18g roedd un o'r llwybrau porthmyn yn cychwyn ym Môn. Byddai'r gwartheg a gesglid o'r ffermydd ar yr ynys gan y porthmyn yn cael eu gyrru i Borthaethwy, a chyn codi'r pontydd presennol byddai rhaid iddynt nofio'r Fenai gyda gwŷr mewn cychod i ofalu amdanynt. Erbyn hyn, mae cadw gwartheg yn llawer mwy cyffredin na thyfu cnydau ar yr ynys.

Mae sioe fawr amaethyddol, Sioe Môn, yn cael ei chynnal ar yr ail Ddydd Llun a Dydd Mawrth yn Awst bob blwyddyn ar gae Primin, sydd yn agos i bentref Gwalchmai.

Datblygodd twristiaeth o ganlyniad i adeiladu'r pontydd, oedd yn gwneud mynediad i'r ynys yn llawer haws. Dynodwyd y cyfan o arfordir Môn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn arwain mewn cylch o gwmpas yr ynys. Mae twristiaeth yn arbennig o bwysig i rai o'r trefi arfordirol megis Benllech a Rhosneigr. Dyfeisiwyd yr enw hir ar Lanfairpwll, sef Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch, er mwyn annog twristiaeth.

Collwyd cryn nifer o swyddi ar yr ynys yn ystod 2009. Un o'r cyflogwyr mwyaf oedd Anglesey Aluminium Metal Ltd, a gaeodd ar 30 Medi 2009. Bwriedir i Atomfa'r Wylfa, cyflogwr mawr arall yng ngogledd yr ynys, roi'r gorau i gynhyrchu trydan yn Rhagfyr 2010, er bod posibilrwydd parhau i gynhyrchu am rai blynyddoedd wedyn. Mae trafod wedi bod am y posibilrwydd o adeiladu atomfa newydd ar y safle. Ymhlith cyflogwyr sylweddol eraill yr ynys, mae porthladd Caergybi a'r gwasanaethau fferi oddi yno i Dún Laoghaire a Dulyn, a gorsaf Llu Awyr Brenhinol y Fali sy'n cyflogi rhai cannoedd.

Y gwasanaeth fferi rhwng porthladd Caergybi a Dún Laoghaire a Dulyn yn Iwerddon yw un o'r cysylltiadau pwysicaf rhwng Iwerddon a Phrydain. Mae dau gwmni yn cynnig gwasanaeth fferi, Stena Line ac Irish Ferries. Ymhlith y llongau a ddefnyddir rhwng Caergybi a Dulyn, mae'r MS Ulysses, fferi yn perthyn i Irish Ferries sy'n medru cario mwy o geir nag unrhyw fferi arall yn y byd.

Gan fod hwn yn un o brif gysylltiadau Iwerddon â gweddill yr Undeb Ewropeaidd, mae'r cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd ar draws yr ynys o Bont Britannia i borthladd Caergybi o gryn bwysigrwydd. Caergybi yw cychwyn Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru, sy'n ei chysylltu â Crewe. Ceir nifer o orsafoedd bychain eraill ar yr ynys, yn Y Fali, Rhosneigr, Tŷ Croes, Bodorgan a Llanfairpwll, ond nid yw pob trên yn aros yn y rhain.

Y brif ffordd ar draws yr ynys oedd yr A5, ond cymerwyd lle hon yn 2001 gan yr A55, sydd yn awr yn ffordd ddeuol ar draws yr ynys. Fel yr E22 Ewropeaidd mae'n cysylltu Caergybi ag Ekaterinburg yn Rwsia. Mae'r A5025 yn ymestyn fel hanner cylch ar hyd  dwyrain a gogledd yr ynys, rhwng Porthaethwy a'r Fali, trwy Bentraeth, Benllech, Amlwch a Cemaes, gan gychwyn a gorffen ar yr A55.  Ar ochr de-orllewinol yr ynys, mae'r A4080 yn ymestyn fel hanner cylch o'r A55 yn Llanfairpwllgwyngyll trwy Niwbwrch, Aberffraw a Rhosneigr, ac ail-ymuno a'r A55 ger Bryngwran.

Ceir hefyd wasanaeth awyr yn cysylltu Maes Awyr Môn yn y Fali a dinas Caerdydd. Yn Ionawr 2010, adroddwyd fod cwmni Highland Airways, sy'n cynnal y gwasanaeth, mewn trafferthion ariannol.

Mae gan Goleg Menai gampws yn Llangefni, tra mae Porthaethwy yn gartref i Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Cymru, Bangor sydd yn defnyddio’r pier i gartrefu’r llong ymchwil, Prince Madog.

Ceir pum ysgol uwchradd ar yr ynys. Ysgol Uwchradd Caergybi oedd yr ysgol gyfun gyntaf yng Nghymru a Lloegr.

Ceir 52 o ysgolion cynradd ar yr ynys, yn cynnwys:

Roedd nifer o Feirdd y Tywysogion yn frodorion o'r ynys, yn cynnwys teulu o feirdd a gysylltir â Threwalchmai; Meilyr Brydydd (fl. 1100–1147), Gwalchmai ap Meilyr (fl. 1130–1180) a Meilyr ap Gwalchmai (fl. ail hanner y 12g). Ymhlith Beirdd yr Uchelwyr, roedd Gruffudd Gryg a Lewys Môn o Fôn, ac ysgrifennodd Gruffudd y gerdd gynharaf sydd ar glawr yn clodfori'r ynys.

Bu'r ynys yn ganolbwynt i adfywiad diwylliannol yn y 18g, pan dyfodd cylch o lenorion ac ysgolheigion o gwmpas Morysiaid Môn, yn wreiddiol o blwyf Llanfihangel Tre'r Beirdd, ac yn ddiweddarach Pentrerianell. Yr enwocaf o'r teulu oedd Lewis Morris (1701–1765). Ymhlith y beirdd oedd yn rhan o'r cylch yma, daeth Goronwy Owen yn enwog. Bardd alltud oedd, wedi gadael y Sir am y tro olaf yn 23 oed, ond mae ei gerdd i'r ynys yn un o'i weithiau enwocaf:

Cynhelir Eisteddfod Gadeiriol Môn yn flynyddol mewn gwahanol fannau ar yr ynys. Dilyna'r un drefn a'r Eisteddfod Genedlaethol yn fras, gyda seremonïau megis y Cadeirio, ac mae ganddi ei Gorsedd ei hun. Cynhaliwyd yr eisteddfod gyntaf yng Nghaergybi yn 1907.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi bod ym  Môn bedair gwaith yn ystod yr 20g: Caergybi 1927, Llangefni 1957, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1983 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1999.

Gyda phrif lys Teyrnas Gwynedd yn Aberffraw, mae'n debyg fod llawer o frenhinoedd a thywysogion Gwynedd wedi eu geni ar yr ynys, ond nid oes cofnod o fan geni'r rhan fwyaf.

Mae canlyniadau ymchwiliadau DNA diweddar sy'n cysylltu cyndadau'r Cymry â'r Basgwyr yn codi'r posibilrwydd bod yr enw Môn (Mona yn yr Hen Frythoneg) yn rhannu'r un tarddiad â'r gair Basgeg amona, nain, yn llythrennol mam fawr.




#Article 101: Gwynedd (516 words)


Sir yng ngogledd-orllewin Cymru yw Gwynedd. Mae'n ffinio â Sir Conwy i'r dwyrain a gogledd, a Phowys a Cheredigion i'r de. Gwynedd yw y sir sydd â'r gyfartaledd uchaf o'i phoblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae'r prif drefi yn cynnwys dinas Bangor, Caernarfon, Dolgellau, Harlech, Blaenau Ffestiniog, Y Bala, Porthmadog, Pwllheli, Bethesda a Llanberis. Lleolir Prifysgol Bangor yn y sir. Plaid Cymru sydd wedi rheoli'r cyngor ers ei sefydlu yn 1995.

Yn y gorffennol tybiodd haneswyr megis J. E. Lloyd taw tarddiad Celtaidd y gair Gwynedd oedd casgliad o lwythau – yr un gwraidd â'r Wyddeleg fine, sef llwyth. Bellach, cydnabyddir cysylltiad rhwng yr enw â'r Wyddeleg Féni, sef un o enwau cynnar y Gwyddelod arnynt eu hunain, sy'n perthyn i fían, mintai o ŵyr yn hela a rhyfela, mintai o ryfelwyr dan arweinydd. Efallai *u̯en-, u̯enə (ymdrechu, dymuno, hoffi) yw'r bôn Indo-Ewropeg. Ymsefydlodd Gwyddelod yng ngogledd-orllewin Cymru, ac yn Nyfed, ar ddiwedd cyfnod y Rhufeiniaid. Venedotia oedd y ffurf Ladin, ac ym Mhenmachno mae carreg goffa o tua'r flwyddyn 500 sy'n darllen Cantiori Hic Iacit Venedotis (Yma y gorwedd Cantiorix, dinesydd o Wynedd). Cedwid yr enw gan y Brythoniaid pan ffurfiwyd Teyrnas Gwynedd yn y 5g, a barhaodd hyd oresgyniad Edward I. Adferwyd yr enw hanesyddol hwn pan ffurfiwyd y sir newydd ym 1974.

Roedd yr hen sir Gwynedd (1974–1996) yn cyfateb yn fras i Gwynedd Uwch Conwy, prif diriogaeth Teyrnas Gwynedd. Roedd yn cynnwys rhan orllewinol Sir Conwy, yn cynnwys y Creuddyn, ac Ynys Môn, sef yr hen Sir Gaernarfon, Sir Fôn a Sir Feirionnydd. Mae'r hen sir yn bodoli o hyd fel un o siroedd cadwedig Cymru at bwrpasau seremonïol.

Ceir economi cymysg yn y sir. Mae rhan bwysig o'r economi yn seiliedig ar dwristiaeth gyda nifer o ymwelwyr yn cael eu denu gan y traethau niferus a'r mynyddoedd. Gorwedd rhan sylweddol o'r sir ym Mharc Cenedlaethol Eryri, sy'n ymestyn o arfordir y gogledd i lawr i ardal Meirionnydd yn y de ac yn llawer ehangach na'r Eryri go iawn. Ond gwaith tymhorol yw twristiaeth ac mae hynny'n golygu diffyg gwaith yn y gaeaf. Problem arall gyda thwristiaeth yw'r alwad a greir am dai haf. Mae hyn yn gwthio prisiau tai i fyny allan o gyrraedd pobl leol ac yn effeithio ar sefyllfa'r iaith Gymraeg yn yr ardaloedd gwledig.

Mae amaethyddiaeth yn llai pwysig nag yn y gorffennol, yn enwedig yn nhermau y nifer o bobl sy'n ennill eu bywiolaeth o'r tir, ond mae'n aros yn elfen bwysig.

Y pwysicaf o'r diwydiannau traddodiadol yw'r diwydiant llechi, ond canran isel o weithwyr sy'n ennill eu bywoliaeth yn y chwareli erbyn heddiw.

Mae diwydiannau sydd wedi datblygu yn fwy diweddar yn cynnwys stiwdios teledu a sain (lleolir pencadlys Cwmni Recordiau Sain yn y sir). Ceir dau atomfa yng Ngwynedd: mae atomfa Trawsfynydd wedi cau ond ar hyn o bryd mae atomfa Wylfa yn dal i redeg.

Mae'r sector addysg yn bwysig iawn i'r economi lleol hefyd. Lleolir Prifysgol Bangor yma a cheir sawl coleg arall fel Coleg Menai hefyd.

Ar gyfer llywodraeth leol ceir sawl cymuned yng Ngwynedd. Mae nifer o'r rhain gyda'i chynghorau eu hunain.




#Article 102: Powys (1482 words)


Sir yn nwyrain canolbarth Cymru sy'n ymestyn ar hyd y gororau yw Powys, a'r sir gyda'r arwynebedd mwyaf yng Nghymru: 5,179 km² (2,000 mi sg). Cafodd ei henwi ar ôl teyrnas ganoloesol Powys. Mae'n cynnwys tiriogaeth hen siroedd Maldwyn, Maesyfed a Brycheiniog. Mae'n ardal wledig sy'n cynnwys sawl tref farchnad hanesyddol fel Machynlleth, Llanfair-ym-Muallt a'r Trallwng. Y Drenewydd yw canolfan weinyddol y sir, lle ceir prif swyddfeydd yr awdurdod lleol, Cyngor Sir Powys. Yn 2011 roedd y boblogaeth yn 132,200.

Yng Nghyfrifiad 2001 roedd 21% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg.

Mae Powys yn rhanbarth mawr – yn chwarter arwynebedd Cymru, ac yn ymestyn o fynyddoedd Y Berwyn yn y gogledd i fynyddoedd Bannau Brycheiniog yn y de. Yn y gorllewin ceir brynia'r Elenydd, tarddle'r afonydd Hafren a Gwy.

Daw enw'r sir cyfredol o hen ardal weinyddol Gymreig, sef Teyrnas Powys. Gwêl yr hanesydd y Dr John Davies gysylltiad rhwng y gair Lladin pagus â'r ardal honno yng nghanolbarth Cymru, Powys. Dywed: Mae'n debygol bod perthynas rhwng y gair pagus a'r enw Powys; maent yn gytras felly â'r gair pagan. Credir mai cnewyllyn teyrnas Powys oedd pagus neu gefn gwlad teyrnas y Cornovii ac i Bowys ehangu i gynnwys y diriogaeth honno....

Roedd Teyrnas Powys yn y 6g yn cynnwys dau dreuan o'r hyn a elwir yn Bowys heddiw – y ddau dreuan mwyaf gogleddol, ynghyd â'r rhan fwyaf o Swydd Amwythig. Daeth i ben pan gafodd ei uno gyda Theyrnas Gwynedd dan arweiniad Llywelyn ap Gruffudd (c. 1223 – 11 Rhagfyr 1282). Ceir 60 o lannoedd ym Mhowys – llefydd sy'n cychwyn gyda Llan, sy'n dangos fod yma gryn weithgarwch crefyddol yn y 6ed a'r 7ed ganrif.

Ond ceir olion pobl ganrifoedd cyn hyn: gwyddys hyn oherwydd fod arfau callestr o Oes Ganol y Cerrig (y mesolythig) wedi'i ganfod yma. Yr hyn sy'n allweddol i'n dealltwriaeth o olion cynhanes (ac wedi hynny) Powys yw fod ynddi dair prif afon, tri dyffryn a thri mynedfa – a thrwyddynt y deuai pobl i'r ardal. Mae'r rhostiroedd i'r de o Afon Wysg yn debyg iawn i diroedd gogledd Morgannwg, a thrwyddynt hwy y cysylltwyd de Powys gyda Dyffryn Morgannwg a'r Môr Hafren. Yng nghanol y sir, mae dyffrynoedd yr Wysg ac Afon Gwy hefyd yn fynedfa ac yn ffyrdd tramwy naturiol i'r ardal, a thrwyddynt hwy y daeth y bobl a'r diwylliant Celtaidd a gododd gloddfeydd nodedig Talgarth. Ychydig i'r gogledd ceir y trydydd mynedfa i Bowys: dyffryn Afon Hafren, gyda'i diroedd ffrwythlon, cyfoethog.

Ceir dros 1130 o siambrau claddu o wahanol fathau ym Mhowys, yn dyddio o 4,000CC i 1000CC, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn perthyn i'r Oes Efydd. Mae 339 ohonynt wedi eu cofrestru fel henebion cofrestredig. Saif yma, fel cerfluniau o'r Oes Efydd 275 o feini hirion, gyda 92 wedi'u cofrestru. Mae yma hefyd 90 o fryngaerau o Oes yr Haearn a 54 lloc (tir caeedig) ac aneddiadau. Yn Nhalgarth, o fewn ardal o tua dwy filltir sgwar, ceir 16 siambr claddu o Oes Ganol y Cerrig (y mesolythig) a ystyrir yn nodedig iawn. Siambrau hirion yw'r rhan fwyaf, gyda cherrig anferthol yn eu gorchuddio fel nenfydau; mae eu cynlluniau mewnol yn hynod o gymhleth ac yn arwydd fod yma bobl soffistigedig iawn, amaethwyr cynnar gyda defodau claddu arbennig. Canfuwyd yr offeryn cerdd hynaf yng Nghymru ym Mhenywyrlod, Talgarth a ddyddiwyd i c. 4000 BC; darganfuwyd y siambr gan ffermwr lleol a'r offeryn cerdd ym Mehefin 1972. Ceir siambrau tebyg ym Morgannwg ac yn y Cotswolds a gelwir y math hwn yn Feddrodau Hafren-Cotswold.

Rhwng 2,000 a 1,500 CC daeth Diwylliant Bicer Gloch i Ynys Prydain, ond ychydig iawn o'u holion sydd ym mhowys, gyda'r rhan fwyaf tua diwedd y cyfnod. Yn eu plith mae Gallt Caebetin, Ynys Hir (Mynydd Epynt) a glannau Afon Tefeidiad, ger Tref-y-clawdd. Carneddi bychain oedd y rhain, a oedd yn aml yn cynnwys wrn o lwch un neu ddau person wedi'i amlosgi. Ceir hefyd gylchgoedd neu resi o gerrig o'r cyfnod yma ger Llyn Bugeilyn a Phant Sychbant (Fforest Fawr). Yn Heyop ac yn Llanwrthwl cafwyd casgliadau o dorchau aur a grewyd tua diwedd yr Oes Efydd. Mae'n debygol iawn iddynt gael eu gwneud yn lleol, mewn arddull Gwyddelig.

Mae Powys yn hynod iawn o ran ei neuaddau canoloesol, gan ei bod yn dilyn patrwm arbenng lle ceir neuaddau a godwyd o garreg yn Sir Frycheiniog, neuaddau pren yn Sir Drefaldwyn a neuaddau o garreg a choed yn Sir Faesyfed. Mewn geiriau eraill, dyma'r patrwm: neuaddau carreg i'r gorllewin o'r sir a phren i ddwyrain y sir. Ceir nifer o neuaddau sy'n dyddio i'r 14g ym Mhowys (a'r tri ym Mrycheiniog), gan gynnwys Neuadd Fawr a'r Neuadd Fach (Coleg Crist, Aberhonddu) a Phalas yr Esgob (Sant Dewi, Llan-ddew). Yn lled ddiweddar, deuthpwyd i ddeall fod Tŷ Uchaf (Castell Paun, Sir Faesyfed) hefyd yn dyddio i'r 14g. Codwyd Tŷ Mawr (Castell Caereinion) tua 1400 o garreg a phren ac felly hefyd Cwrt-Plas-y-Dre (y Drenewydd.

Y neuadd fawr garreg fwyaf ym Mhowys yw Tretŵr a oedd yn eiddo i William ap Thomas a'i deulu; ef hefyd oedd perchennog Castell Rhaglan yng Ngwent. Ymhlith y neuaddau eraill mae: Porthaml (Talgarth) c. 1460, yr Hen Ficerdy (y Clas-ar-Wy) c. 1400.

Ceir sawl tŷ ffrâm nenfforch (cruck framed houses) ym Mhowys, sef dull o dorri coeden ar i lawr (yn fertig) – coeden gyda thro ynddi – er mwyn furfio ffrâm yr adeilad; roedd hyn yn hynod o boblogaidd yn y 15g a'r 16g. Ceir nifer ohonynt drwy Bowys: yn Sir Frycheiniog ceir dros 25, Sir Drefaldwyn 100 a Sir Faesyfed dros 50. Y tŷ ffrâm nenfforch mwyaf ym Mhowys yw Tŷ Mawr (Newchurch, Powys; 25 tr) ac ymhlith y goreuon mae: Bryndraenog (Bugeildy; 19 tr), a cheir sawl ysgubor ar y ffurf hwn yn Maestorglwydd Ganol (Llanigon), Hen Rydycarw (Trefeglwys).

Wrth i'r ffasiwn o godi tai ffrâm nenfforch ddirwyn i ben tua diwedd y 16g, dechreuwyd codi tai ffrâm bren: Bryndraenog, Gwernfyda, Llanllugan a Ciliau (Llandeilo Graban). Codwyd tai hir ledled Cymru i gysgodi pobl ac anifeiliaid dan yr un to; mae Tŷ Mawr (Llanfihangel Nant Melan) yn esiampl gwerth chweil, ac felly hefyd Cileos (Penybontfawr) a Hepste Fawr (Ystradfellte), gyda drws yn cysylltu'r ddwy ran wedi goroesi'r canrifoedd.

Codwyd 23 o gestyll carreg ym Mhowys, gyda'r rhan fwyaf wedi'u codi o ganlyniad i frwydro rhwng y Cymry a'r Saeson yn y 12g.

Cyn hynny cafwyd nifer o gestyll mwnt a beili wrth i'r Normaniaid geisio cipio tir oddi wrth y Cymry brodorol.

Tyrau petrual oedd cestyll carreg y 12g, gan gynnwys Castell Powys neu weithiau Gastell Coch (ger y Trallwng) a chestyll y Gelli Gandryll a Chastell Dinas Brân. Erbyn 1220 gwelwyd tyrau crwn: Bronllys, Tretŵr a Chastell Cwm Camlais – un o gestyll Llywelyn ap Gruffudd. Yn dilyn gwaith cloddio yng Nghastell Trefaldwyn, cafwyd tystiolaeth fod yno borth deudwr (porth a wnaed drwy uno dau dŵr) – y cyntaf o'i fath i'w adeiladu yng Nghymru.

Doedd dim gwahaniaethau mawr rhwng cestyll Cymreig a'r rhai a godwyd gan y goresgynwyr Seisnig, fel rheol, ond weithiau, cododd y Tywysogion Cymreig gestyll siâp D ee Castell Coch ac Ystradfellte (yn y Fforest Fawr) a Chastell Powys, a godwyd gan Gruffudd ap Gwenwynwyn c. 1280, ac sydd wedi goroesi'r canrifoedd.

Yn 1277 y cychwynwodd Edward I, brenin Lloegr ar y gwaith o godi ei unig gastell ym Mhowys, a hynny ym Muellt. Wedi llofruddio Llywelyn ar 11 Rhagfyr 1282, codwyd waliau i amddiffyn nifer o drefi, gan gynnwys: Tref-y-clawdd (fel yr awgryma'r enw), Maesyfed, Llanandras a Rhaeadr Gwy.

Ceir dros 80 o seintiau a roddodd eu henwau i lannoedd ym Mhowys ond nid oes unrhyw olion o'r eglwysi cynnar (6g-11g) wedi goroesi ar wahân i un eglwys: Llanandras lle ceir wal a bwa a all berthyn i arddull Sacsonaidd. Ond ceir dros 20 o gerrig wedi'u haddurno, gan gynnwys bedyddfaeni; yn eu plith mae bedyddfaen Pencraig (8g), Newchurch, Powys (10g neu'r 11g), Defynnog (11g)  a Phartrishow (11g). Mae bedyddfaen Defnnog yn cynnwys addurniadau o ddail ac ysgrifen rwnig a Lombardaidd (ardal yng ngogledd yr Eidal). Ceir nifer o golofnau cerfiedig hefyd (o'r 5g a'r 6g) gan gynnwys: Trallong, Carreg Turpillius, Maen Madog, Ystradfellte a Charreg Rustece (Llanerfyl), nifer ohonynt yn cynnwys addurn y Groes Geltaidd a chlymau Celtaidd cain. Y mwyaf cain, efallai, yw Carreg Llywel o'r 8g, sydd bellach wedi'i werthu i'r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain am £10.

Mae'r rhan fwyaf o'r eglwysi mewn llannau crwn, ar gopa bryn neu ar lan afon, ac mae'r tri ffactor hyn yn dangos eu bod yn perthyn i gyfnod cyn-Gristnogaeth. O'r 10g i'r 12g, trodd y mynachlogydd yn glasau, gyda phob eglwys yn cyfrannu tuag atynt a phob un yn cynnwys abad, offeiriad a chanon. Parhaodd y rhain yn eitha annibynnol hyd nes iddynt gael eu hymgorffori o fewn yr Eglwys Gatholig. Roedd 7 clas ym Mhowys: Llandinam, Llangurig, Meifod, y Clas-ar-Wy, Glascwm, Sant Harmon a Llanddew.

Mae'r eglwysi'r Oesoedd Canol yn gymysgedd o bensaerniaeth.




#Article 103: Sarah Siddons (145 words)


Roedd Sarah Siddons (5 Gorffennaf 1755 – 8 Mehefin 1831; nee Kemble) yn actores Gymreig, a gofir yn bennaf am ei phortread o 'Lady Macbeth'. Fe'i hystyrir gan lawer fel actores drasig fwya'r 18g. Ganwyd Sarah yn Aberhonddu, yn ferch i Roger Kemble a oedd yn rheolwr cwmni o actorion, sef y  Warwickshire Company of Comedians. Roedd ei chwaer Ann Hatton yn nofelydd poblogaidd.

Yn Aberhonddu ceir tafarn o'r enw Sarah Siddons a pheiriant rheilffordd a adeiladwyd gan gwmni Metropolitan-Vickers a oedd yn rhedeg ar rwydwaith Trafnidiaeth Llundain sy'n dwyn ei henw, ond a roddwyd i orffwys yn 1961. Mae'r 'Cymdeithas Sarah Siddons Society' yn parhau i gyflwyno gwobr The Sarah Siddons Award yn Chicago'n flynyddol i actores amlwg.

Ar 12 Ebrill 2010, darlledodd BBC Radio 4 y cyntaf bum rhaglen am ei pherthynas hir gyda'r arlunydd Thomas Lawrence. Sgwennwyd y sgript gan David Pownall.




#Article 104: Sir y Fflint (183 words)


Sir yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Sir y Fflint (Saesneg: Flintshire). Llywodraethir y sir gan yr awdurdod llywodraeth leol Cyngor Sir y Fflint. Crëwyd y sir bresennol pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru yn 1996.

Daw'r enw 'Sir y Fflint' o'r hen sir a sefydlwyd ym 1536 a barodd tan 1974 pan gafodd ei diddymu o dan Ddeddf Llywodraethu Lleol 1972. Cafodd ei hail-sefydlu ym 1996 o dan Ddeddf Llywodraethu Lleol (Cymru) 1994 ond nid yw'r ffiniau presenol yn dilyn yr un ffiniau ac mae'r sir bellach yn llai nag y bu.

Ymhlith siaradwyr Cymraeg yr ardal, tueddir i ollwng y fanod yn yr enw wrth gyfeirio at y sir - Sir Fflint.
Mae tafodiaith unigryw iawn yn yr ardal sy' bellach dan fygythiad tafodieithoedd gorllewinol y Gymraeg.

Roedd yr hen sir yn llawer mwy sylweddol, yn cynnwys rhannau o'r Sir Ddinbych bresennol ac alldir - darn o'r sir ar wahân - ar y ffin â Lloegr sy'n rhan o fwrdeistref sirol Wrecsam heddiw.

Gorwedd y sir ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru, ar Lannau Dyfrdwy.

Gweler hefyd .

Ceir sawl cymuned yn Sir y Fflint.




#Article 105: Sir Fynwy (190 words)


Sir yn ne-ddwyrain Cymru yw Sir Fynwy (Saesneg: Monmouthshire) a grewyd wrth ad-drefnu llywodraeth leol yn 1996. Roedd yr hen Sir Fynwy yn un o'r tair sir ar ddeg yng Nghymru a ddilëwyd gan adrefnu llywodraeth leol yn 1974. Rhwng 1974 a 1996 bu'r ardal yn rhan o sir Gwent. Trefynwy, ar Afon Mynwy, yw prif dref a chanolfan weinyddol y sir. Mae'r sir yn cynrychioli pen deheuol Cymru yn yr hen ddywediad O Fôn i Fynwy (h.y. 'Cymru benbaladr'). Llywodraethir y sir gan Gyngor Sir Fynwy, sydd å'i bencadlys yn nhref Brynbuga.

Yn yr Oesoedd Canol Cynnar bu'r diriogaeth yn rhan o deyrnas Gwent. O 1069 ymlaen syrthiodd rhan helaeth yr ardal i ddwylo'r Normaniaid a daeth yn rhan o dir Y Mers, er bod rhannau o'r ucheldir yn dal yn nwylo arglwyddi Cymreig lleol.

Crëwyd yr hen Sir Fynwy yn y flwyddyn 1542 allan o'r hen arglwyddiaethau yn yr ardal. Roedd yn cynnwys Casnewydd ac yn ffinio â Swydd Gaerloyw i'r dwyrain, Swydd Henffordd i'r gogledd-ddwyrain, Sir Frycheiniog i'r gogledd a Morgannwg i'r gorllewin.

Daeth yn rhan o sir Gwent yn 1974. Ffurfwyd y sir newydd yn 1996.




#Article 106: Pen-y-bont ar Ogwr (274 words)


Mae Pen-y-bont ar Ogwr () yn dref ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr ag oddeutu 40,000 o bobol. Mae hefyd yn gymuned. Ei gefeilldref yw Langenau yn Yr Almaen. Tan yr 20g, tref marchnad oedd hi yn bennaf. Mae hi bellach yn dref ddiwydiannol oherwydd datblygu ystadau diwydiannol ger yr M4 sydd wedi denu cwmnïau megis Sony a Ford i'r ardal. Mae Pen-y-bont yn gartref hefyd i bencadlys Heddlu De Cymru. Adeiladwyd carchar preifat (Carchar Parc Ei Mawrhydi) yn niwedd y 1990au ar safle hen ysbyty seiciatreg ar gyrion y dref uwchben pentref Coety.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Mae Afon Ogwr yn llifo trwy'r dref, gyda'r Nant Morfa yn ei chyfarfod ger Meysydd y Bragdy. Mae'r Afon Ewenni yn llifo ar gyrion y dref yn Nhredŵr i gyfarfod yr Ogwr ger Castell Ogwr ar ben yr aber.

Mae Pen-y-bont yn agos i gyffyrdd 35 a 36 traffordd yr M4, hanner ffordd rhwng dinas Abertawe a dinas Caerdydd.
Mae gan Pen-y-bont orsaf rheilffordd ar lein y Great Western, gyda gwasanaethau cyflym i ddinas Llundain ac Abertawe. Mae yna orsaf arall ym Melin Wyllt ar lein Maesteg. Mae gwasanaethau lleol yn rhedeg i Gaerdydd a Gorllewin Lloegr ar y brif lein a lein Bro Morgannwg. I'r gorllewin mae gwasanaethau lleol i Abertawe a Gorllewin Cymru. Hefyd mae gwasanaethau lleol i Faesteg. Gweithredir y gwasanaethau lleol gan Trafnidiaeth Cymru, a'r gwasanaethau cyflym gan Great Western Railway.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym 1948. Am wybodaeth bellach gweler:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998 ym Mhencoed.




#Article 107: Port Talbot (192 words)


Mae Port Talbot yn dref ddiwydiannol o dua 50,000 o bobol yng Nghastell-nedd Port Talbot ar ochr dwyreiniol Bae Abertawe yn ne Cymru. Saif ar lan Afon Afan. Mae Caerdydd 44.9 km i ffwrdd o Bort Talbot ac mae Llundain yn 256.1 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 12 km i ffwrdd.

Cnewyllyn y dref fodern yw'r hen dref Aberafan sydd ar ochr orllewinol Afon Afan, yn ogystal â phentrefi hynafol eraill fel Baglan a Groes.  Crewyd Port Talbot ei hun ym 1840 gydag agoriad y dociau newydd ar ochr ddwyreiniol yr afon gan y teulu Talbot o Swydd Wilton a oedd yn berchen ar Abaty Margam ar y pryd.  Mae'r dref fodern hefyd yn cynnwys ardaloedd Taibach, Traethmelyn, Margam a Felindre.  Felly Port Talbot yw enw rhan canolog o'r dref a hefyd enw'r dref gyfan.  Mae llawer yn defnyddio Aberafan fel enw Cymraeg Port Talbot er yr enw safonol yw Porth Talbot.  Enw amgen yw Porth Afan.
Mae'r dref wedi bod yn enwog am ei dociau a gweithio metel, yn enwedig y gwaith dur enfawr sydd ar ochr ddwyreiniol y dref.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 108: Sir Ddinbych (534 words)


Sir yng ngogledd Cymru yw Sir Ddinbych (Saesneg: Denbighshire). Mae'n ffinio â Gwynedd a Chonwy i'r gorllewin, Sir y Fflint a Wrecsam i'r dwyrain, a Phowys i'r de. Mae'r sir bresennol yn llawer llai na'r hen sir (gweler isod) ac yn cynnwys rhan o'r hen Sir y Fflint. Lleolir pencadlys y cyngor sir yn nhref Dinbych.

Ceir olion pwysig o gyfnod Oes y Cerrig yn y diriogaeth a adwaenir fel Sir Ddinbych heddiw a ddarganfuwyd yn Ogof Bontnewydd ac yn Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno. Yn Oes yr Haearn codwyd sawl bryngaer, yn cynnwys Penycloddiau, Moel Fenlli a Moel Arthur. Roedd yr ardal yn rhan o diriogaeth llwyth y Deceangli, un o lwythau Celtaidd Cymru.

Goresgynwyd y Deceangli gan y Rhufeiniaid yn 48 OC ac am bedair canrif bron rheolwyd yr ardal gan Rufain. Ond parhaodd y gyfundrefn frodorol i raddau hefyd, ac yn y cyfnod ôl-Rufeinig daw teyrnas Rhos, a oroesoedd fel cantref canoloesol, i'r amlwg. Dyma 'Oes y Seintiau'. Yr enwocaf o seintiau'r ardal yw Cyndeyrn, a gysylltir â Llanelwy ond sydd hefyd yn nawddsant Glasgow yn yr Alban.

Yn yr Oesoedd Canol roedd yr ardal yn rhan o'r Berfeddwlad. Bu dan reolaeth teyrnas Gwynedd, fel rhan o Wynedd Is Conwy, am gyfnodau hir yn yr Oesoedd Canol. Dyma'r cyfnod pan godwyd adeiladau eglwysig fel Abaty Glyn y Groes a chofebion fel Piler Eliseg. Codwyd sawl castell gan y Cymry hefyd, e.e. Tomen y Rhodwydd. Yn dilyn goresgyniad Tywysogaeth Cymru gan y Saeson yn 1282-1283, rhanwyd yr ardal rhwng arglwyddi'r Mers; y mwyaf o'r arglwyddiaethau hyn oedd Arglwyddiaeth Dinbych.

Cafodd yr hen Sir Ddinbych ei chreu yn 1536. Parhaodd fel sir weinyddol hyd adrefnu llywodraeth leol yn 1972. Roedd yn ffinio â Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd i'r gorllewin, Sir Drefaldwyn i'r de, a Sir y Fflint, a Sir Gaer a Swydd Amwythig (y ddwy olaf yn Lloegr) i'r dwyrain. Daeth yn rhan o sir Clwyd.

Pan ad-drefnwyd llywodraeth leol unwaith eto, yn 1996, diddymwyd Clwyd fel sir weinyddol a chrëwyd y Sir Ddinbych bresennol, sy'n llai na'r hen sir o'r un enw ac yn cynnwys rhan o'r hen Sir y Fflint.

Dyffryn Clwyd yw asgwrn cefn y sir, gyda Bryniau Clwyd yn ffin rhyngddo â'r dwyrain ac yn weladwy amlwg o bob rhan, bron, o'r sir. Llifa Afon Clwyd i lawr trwy'r dyffryn o'r bryniau i'r arfordir lle ceir gwastadedd isel Morfa Rhuddlan. Ceir cryn wahaniaeth daearyddol, diwylliannol a gwleidyddol rhwng yr arfordir honno a rhannau isaf Dyffryn Clwyd, sy'n tueddu i fod yn Seisnigedig i gryn raddau, yn arbennig o gwmpas Y Rhyl a Phrestatyn, a'r de sy'n llawer mwy gwledig a Chymreig o ran iaith a phoblogaeth.

Cymharol ychydig o lynnoedd sydd yn y sir. Maent yn cynnwys:

Afon Clwyd yw'r brif afon yn y sir. Llifa Afon Dyfrdwy trwy ran ddeheuol y sir. Ceir sawl afon arall, yn cynnwys Afon Alwen, Afon Ceirw, Afon Elwy, Afon Gele ac Afon Ystrad.

Bryniau Clwyd yw'r gadwyn o fryniau canolig eu huchder yng ngogledd-ddwyrain Cymru sy'n ymestyn o gyffiniau Llandegla-yn-Iâl yn y de i gyffiniau Prestatyn yn y gogledd, gan gyrraedd ei phwynt uchaf gyda Moel Famau.

Y prif drefi yw:

Gweler hefyd .

Rhennir y sir yn sawl cymuned:




#Article 109: Llanfair Pwllgwyngyll (281 words)


Pentref a chymuned ar Ynys Môn yw Llanfairpwllgwyngyll () (neu Llanfair Pwllgwyngyll; Llanfairpwll ar lafar yn lleol). Fe'i lleolir ar ffordd yr A5 tua 3 milltir i'r gorllewin o Borthaethwy.

Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yw enw gwneud y pentref (cyfieithiad i'r Saesneg: St Mary's church in the hollow of the white hazel, near to the fierce whirlpool of St Tysilio of the red cave). Ei enw gwreiddiol oedd Llanfair Pwllgwyngyll ond fe'i estynnwyd gan ddyn lleol yn y 19g, ar ôl i'r rheilffordd gyrraedd yr ynys (1846–1850) i geisio denu twristiaid. Yn ôl Syr John Morris-Jones, teiliwr lleol a ddyfeisiodd yr enw, ond nid yw'n ei enwi. Dyma'r enw hiraf yng Nghymru, a'r trydydd hiraf yn y byd. Does fawr neb ond y Bwrdd Croeso yn defnyddio'r enw hir. Fel arfer mae'r pentref yn cael ei alw yn Llanfairpwll (gan siaradwyr Cymraeg) neu Llanfair PG (gan siaradwyr Saesneg). Pwllgwyngyll oedd enw'r dreflan ganoloesol lle safai'r eglwys yn yr Oesoedd Canol (pwll + yr ansoddair gwyn + coed cyll). Cyfeiria Llantysilio at blwyf eglwysig Llandysilio.

Yn yr Oesoedd Canol roedd plwyf (Llanfair) Pwllgwyngyll yn rhan o gwmwd Dindaethwy, yng nghantref Menai.

Yn y pentref hwn y dechreuodd mudiad y Women's Institute yn 1915. Erbyn heddiw mae yna amgueddfa ar y safle.

Mae gorsaf reilffordd yma, ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru, ond mae mwyafrif y trenau yn mynd trwyddo i Gaergybi neu i Fangor heb aros.

Yn 2011, roedd Llanfairpwll yn ganolbwynt dadl yngylch yr hawl i siarad Cymraeg ar ôl i berchennog bwyty Carreg Môn yn y pentref wahardd ei staff rhag siarad Cymraeg tra'n gweithio yno, gan ddweud mai dim ond Saesneg y dylent siarad.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 110: Harri VIII, brenin Lloegr (775 words)


Brenin Lloegr o 22 Ebrill 1509 hyd ei farwolaeth oedd Harri VIII (28 Mehefin 1491 – 28 Ionawr 1547). Roedd hefyd yn Arglwydd Iwerddon (Brenin Iwerddon yn ddiweddarach) ac yn hawliwr ar deyrnas Ffrainc. Harri oedd yr ail deyrn yn Nhŷ'r Tuduriaid, gan olynu ei dad, Harri VII.

Yn nheyrnasiad Harri VIII penderfynwyd 'uno' Cymru a Lloegr fel uned gyfreithiol (gweler Deddfau Uno 1536 a 1543).

Harri VIII a sefydlodd Eglwys Loegr. Ar ei orchymyn ef diddymwyd y mynachlogydd yng Nghymru a Lloegr yn 1537.

Ganwyd Harri VIII ym Mhalas Greenwich, ger Llundain, yn drydydd plentyn i Harri VII, brenin Lloegr ac Elisabeth o Efrog. Dim ond tri o frodyr neu chwiorydd Harri a oroesodd plentyndod, sef Arthur, Tywysog Cymru, Marged a Mari; y rhai a fu farw oedd Elisabeth Tudur, Edmwnd Tudur, Dug Somerset a Catherine Tudur. Ym 1493, ag yntau'n ddeuflwydd oed, apwyntwyd Harri yn Gwnstabl Castell Dover ac Arglwydd Warden y Cinque Ports. Ym 1494, crewyd yn Ddug Efrog. Apwyntwyd yn ddiweddarach yn Iarll Marsial Lloegr ac Arglwydd Raglaw Iwerddon. Derbyniodd Harri addysg o'r safon uchaf gan diwtoriaid blaengar, gan ddod yn rhugl mewn Lladin, Ffrangeg a Sbaeneg. Gan y disgwylwyd i'w frawd hŷn, y Tywysog Arthur, etifeddu'r orsedd, paratowyd Harri ar gyfer gyrfa yn yr eglwys.

Ym 1502, bu farw Arthur yn 15 oed. Wedi ei farwolaeth, disgynodd ei ddyletswyddau i Harri, a ddaeth yn Dywysgo Cymru. Ail-gydiodd Harri VII yn ei ymdrechion i greu cynghrair rhwng Lloegr a Sbaen odan sêl priodas, gan gynnig Harri yn ŵr i gweddw Arthur, Catrin o Aragón, sef plentyn ifengaf a oroesodd i Fernando II, brenin Aragón a Isabel I, brenhines Castilla.

Fel arfer, er mwyn i'r tywysog newydd briodi gweddw ei frawd, buasai'n rhaid gwneud cais am ollyngiad gan y Pab er mwyn goruwchreoli y rhwystr o affinedd, fel y dywed yn llyfr Lefiticus Os bydd brawd yn priodi gwraig ei frawd byddent yn aros yn ddi-blant. Mynodd Catrin nad oedd ei phriodas â'r tywysog Arthur wedi cael ei gyflawni. Ond, cytunodd Lloegr a Sbaen y buasai gollyngiad gan y Pab yn ddoeth er mwyn cael gwared ar unrhyw amheuaeth ynglyn â chyfreithlondeb y briodas.

Achosodd di-amyneddgaraeth mam Catrin, y Frenhines Isabel I, i'r Pab Iŵl II addef gollyngad ar ffurf Bwla Pabaidd. Felly, 14 mis wedi marwolaeth Arthur roedd Catrin a Harri am briodi, ond erbyn 1505, roedd Harri VII wedi colli diddordeb yn y gynghrair, a datganodd yr Harri ifengaf fod y briodas wedi cale ei drefnu heb ei gytundeb.

Parhaodd symudiadau diplomyddol ynglyn a tynged y briodas a gynnigwyd hyd marwolaeth Harri VII ym 1509. Priododd Harri â Catrin, ag yntau ond yn 17 oed, ar 11 Mehefin 1509, a coronwyd y ddau ar 24 Mehefin 1509, yn Abaty San Steffan.

Ychydig ddyddiau wedi ei gorono, arestiodd dau o weinidogion mwyaf amhoblogaidd ei dad, Syr Richard Empson ac Edmund Dudley. Cawsont eu cyhuddo'n ddi-sail o uwchel frad a dieinyddwyd hwy ym 1510. Daeth hyn yn un o brif dactegau Harri er mwyn ymdrin â'r rhai a safai yn ei ffordd.

Roedd Harri yn bolymath, ac roedd ei lys yn ganolfan ar gyfer datblygiadau newydd celfyddydol ac ysgoliaethol a gormodaeth cyfareddol, caiff hyn ei arddangos gan Faes y Defnydd Aur. Roedd yn gerddor, awdur a bardd galluog. Pastime with Good Company neu The Kynges Ballade yw ei gyfansoddiad cerddorol mwyaf adnabyddus. Roedd yn gamblwr a chwaraewr dis o fri, ac roedd yn rhagori mewn chwaraeon, yn enwedig ymwanu, hela, a tenis brenhinol. Roedd hefyd yn adnabyddus am ei gysegriad cryf i Gristnogaeth.

Ym 1511, datganodd y Pab Iŵl II Gynghrair Sanctaidd yn erbyn Ffrainc. Tyfod y gynghrair yn gyflym i gynnwys nid yn unig Sbaen a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, ond hefyd Lloegr. Penderfynnodd Harri ddefnddio'r digwyddiad fel esgus i ymestyn ei ddeiliadau yng ngogledd Ffrainc. Casglodd Gytundeb San Steffan, sef addewid o gymorth cilyddol gyda Sbaen yn erbyn Ffrainc, ym mis Tachwedd 1511, a paratodd i gymryd rhan yn Rhyfel Cynghrair Cambrai. Ym 1513, goresgynodd Harri Ffrainc a gorchfygwyd y fyddin Ffrengig gan ei luoedd ym Mrwydr y Spurs. Goresgynodd ei frawd-yng-nghyfraith, Iago IV, brenin yr Alban Loegr yn ôl ewyllys Louis XII, brenin Ffrainc, ond ni lwyddodd i ddenu sylw Harri oddiar Ffrainc. Cafodd yr Albanwyr eu gorchfygu'n drychinebus ym Mrwydr Flodden Field ar 9 Medi 1513. Ymysg y marw roedd brenin yr Alban, a daeth a'r frwydr a ymglymiad yr Alban yn y rhyfel i ben.

Ar 18 Chwefror 1516, roddodd y frenhines Catrin eni i blentyn cyntaf Harri i oroesi genedigaeth, Mari, Tywysoges Lloegr, a deyrnasodd yn ddiweddarach fel Mari I, brenhines Lloegr. (Ganwyd mab, Harri, Dug Cernyw, ym 1511 ond goroesodd ychydig wythnosau yn unig.)

Gweler hefyd:




#Article 111: Yr Alban (614 words)


Gwlad yng ngogledd orllewin Ewrop yw'r Alban (hefyd Sgotland) (Gaeleg yr Alban: Alba; Sgoteg a Saesneg: Scotland). Perthynai trigolion ei deheudir i'r un grŵp ethnig a phobl Cymru am gyfnod o fileniwm, gyda'r Frythoneg Orllewinol (ac yna'r Gymraeg) yn cael ei siarad o lannau'r Fife i Fynwy. Mae felly'n un o'r gwledydd Celtaidd ac yn un o wledydd Prydain, enwog am ei wisgi. Ar 18 Medi cynhaliwyd Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 a flwyddyn yn ddiweddarach cafwyd Etholiad Cyffredinol lle gwelwyd newid syfrdanol yng nghenedlaetholdeb ei thrigolion.

Sant Andreas, un o apostolion Iesu Grist, yw nawddsant yr Alban – 30 Tachwedd yw dyddiad dygwyl Sant Andreas. Roedd yr Alban yn deyrnas annibynnol tan y 18g. Ar 26 Mawrth 1707, unwyd senedd yr Alban â senedd Lloegr a ffurfiwyd teyrnas unedig Prydain Fawr. Ail-sefydlwyd senedd yr Alban yn 1999 fel senedd ddatganoledig o dan lywodraeth Llundain.

Siaredir dwy iaith frodorol yn yr Alban yn ogystal â'r Saesneg – Gaeleg a Sgoteg. Mae Gaeleg yn iaith Geltaidd. Hi oedd iaith wreiddiol teyrnas yr Alban ac mae'n dal yn iaith fyw yn y gogledd orllewin. Mae Sgoteg yn perthyn i'r Saesneg, ac fe'i hystyrir yn dafodiaith Saesneg gan rai, er bod Llywodraeth yr Alban a Siarter Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop yn ei chyfrif yn iaith leiafrifol draddodiadol. Mae'n dal i gael ei siarad yn nwyrain a de'r Alban.

O ran arwynebedd, mae'r tir mawr yn draean y gweddill o wledydd Prydain, sef . Mae felly tua'r un maint â'r Weriniaeth Tsiec Yr unig ffin wleidyddol ydy hwnnw yn ne'r wlad gyda Lloegr, sy'n  – rhwng aber yr Afon Tuedd yn y dwyrain hyd at Moryd Solway (Solway Firth). Saif Iwerddon  i'r gorllewin o  benrhyn Kintyre; mae Norwy  i'r gogledd ddwyrain, ac mae Ynysoedd Ffaröe 270 km i'r gogledd.

Mae'r Alban yn nodedig am ei mynyddoedd. Yn ystod y cyfnod Pleistosen, roedd y wlad wedi'i gorchuddio o dan rew ac mae olion y rhewlifau i'w gweld yn amlwg ar y tirwedd. Y prif nodwedd ddaearegol yw'r ffalt a red o Arran hyd at Stonehaven ac mae'r creigiau sydd i'r gogledd o'r ffin hwn (sef Ucheldir yr Alban) yn hen iawn ac yn perthyn i gyfnod Cambriaidd a Chyn-Gambriaidd.

Mae'r iseldir yn perthyn i ddau gyfnod gwahanol; mae gogledd yr iseldir yn perthyn i'r Paleogen a'r de'n perthyn i'r cyfnod Silwraidd, sef 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Dyma restr o awdurdodau unedol yr Alban a map sy'n dangos eu lleoliad yn y wlad:

Y deg prif afon yn yr Alban, yn nhrefn eu hyd, yw:

Dinistriodd y rhewlifoedd parhaus, a orchuddiai arwynebedd tir yr Alban yn llwyr, unrhyw olion o fodolaeth dynol yn ystod y cyfnod Oes Ganol y Cerrig. Credir i'r criwiau cyntaf o helwyr-gasglwyr gyrraedd yn yr Alban oddeutu 12,800 o flynyddoedd yn ôl, am fod yr iâ wedi diflannu wedi'r cyfnod rhewlifol olaf.

Dechreuodd y setlwyr cyntaf adeiladu eu tai parhaol cyntaf yn yr Albaen tua 9,500 o flynyddoedd yn ôl, a gwelwyd y pentrefi cyntaf tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Daw'r pentref Skara Brae ar prif dir Orkney o'r cyfnod hwn. Mae cynefinoedd Neolithig, safleoedd claddu a defodau yn gyffredin iawn yn Ynysoedd y Gogledd ac Ynysoedd y Gorllewin, lle roedd prinder o goed wedi arwain at y rhan fwyaf o adeiladau'n cael eu codi o garreg.

Siaradwyd y Frythoneg Ddwyreiniol o lannau'r Fife i lannau'r Hafren a Chynfeirdd o ddeheudir yr Alban oedd Taliesin ac Aneirin. Arweinydd o Fanaw Gododdin yn Nyffryn y Forth oedd Cunedda yn ôl yr hanes, sef sefydlydd Teyrnas Gwynedd. Roedd cryn gyfathrach a mynd-a-dod rhwng Cymru a'r Alban hefyd yn Oes y Seintiau: mae Cyndeyrn (Saesneg: Mungo) yn dal i gael ei gofio yn Llanelwy ac yn Glasgow.




#Article 112: Harri VII, brenin Lloegr (2935 words)


Roedd Harri Tudur (Saesneg Henry Tudor), y brenin Harri VII o Loegr (28 Ionawr 1457 - 21 Ebrill 1509), yn frenin teyrnas Lloegr o 1485 hyd at ei farwolaeth. Mab Edmwnd Tudur, un o feibion Owain Tudur a Margaret Beaufort oedd Harri; roedd Siasbar Tudur yn frawd i'w dad. Yng nghastell Penfro, pencadlys ei ewythr Siasbar yn Sir Benfro y cafodd ei eni a'i fagu.

Daeth yn frenin Lloegr yn 1485 ar ôl ennill Brwydr Maes Bosworth a churo'r brenin Rhisiart III a laddwyd ar y maes ar ôl y frwydr. Cynrychiolai blaid y Lancastriaid yn erbyn yr Iorciaid yn rhan olaf Rhyfeloedd y Rhosynnau. Ond, maes o law, llwyddodd i uno'r ddwy blaid a rhoi terfyn ar y rhyfel drwy briodi aeres Iorcaidd - Elisabeth o Efrog. Bregus iawn oedd ei hawl i fod yn frenin Lloegr, ond medrai aros mewn grym drwy ei ddoniau gwleidyddol. Llwyddodd i greu perthynas dda rhwng Lloegr â'r Alban drwy drefnu priodas ei ferch Marged â'r brenin Iago IV, brenin yr Alban.

Elisabeth o Efrog oedd ei wraig.

Defnyddiodd ei gysylltiadau teuluol â Chymru i ennill cefnogaeth y Cymry i'w ymgyrch i gipio'r goron, ond ni ddefnyddiodd ei ddylanwad wedyn i adfer ymreolaeth y Cymry. Roedd y Cymry a'i dilynodd i faes Bosworth yn gobeithio mai Harri oedd y Mab Darogan - fel Owain Lawgoch ac Owain Glyn Dŵr o'i flaen - a fyddai'n adfer Ynys Brydain i'r Brythoniaid, sef y Cymry. Erys ar glawr nifer o gerddi darogan neu frudiau o'r cyfnod hwnnw sy'n dangos mor angerddol oedd y gobaith fod yr amser hir-ddisgwyliedig wedi dod. Wythfed rhan o Gymro o ran ei waed oedd Harri ac nid oes sicrwydd ei fod yn medru siarad Cymraeg er iddo gael ei fagu yn y castell ym Mhenfro. Treuliodd gyfnod mewn alltudiaeth yn Llydaw. Yn ôl yr hanesydd Chris Skidmore, fodd bynnag, fe'i nyrsiwyd am flynyddoedd gan wraig Philip ap Howel o Gaerfyrddin a fyddai fwy na thebyg wedi ei ddysgu i ddeall a siarad Cymraeg'. Rhaid cofio hefyd, er mai Iorcydd oedd yn rheoli'r rhan fwyaf o Dde Cymru yr adeg honno, gan gynnwys Castell Penfro, sef William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469), ei fod yn ŵr diwylliedig iawn, ac yn dipyn o arwr i Feirdd yr Uchelwyr fel Guto'r Glyn. Mae Skidmore yn ei alw'n 'Gymro' drwy gydol ei waith.

Mewn llythyr gan Louis XI at Guillaume Compaing, deon o Orleans, dywedodd Louis dro ar ôl tro (gan gyfeirio at ei ymosodiad aflwyddiannus gyda Siasbar, pan laniodd tair llong Ffrengig yn aber yr afon Dyfi): Pe bai Siasbar yn dymuno dychwelyd i Gymru i adennill ei diroedd yna byddai'n cael ffafrau (gen i) i gyflawni hynny, a sawl tro bu pwysau arno gan bobl yng Nghymru i wneud hynny.... Rhoddodd y Brenin (Ffrainc) pob ffafr posibl iddo wneud hynny oherwydd clymiadau teuluol agos, fel y gallai adennill, cadw ac amddiffyn ei ystadau a'i diroedd yng Nghymru. Nid unwaith y sonia'r y Brenin mai ymosodiad ar Loegr ydoedd. Barn rhai haneswyr o Loegr yw nad oedd llinach Gymreig Harri wedi chwarae unrhyw ran ym Mrwydr Bosworth a gorseddu Harri yn Frenin Lloegr.

Roedd ei dad Edmwnd yn hanner brawd i frenin Lloegr, sef Harri VI a bu Edmwnd (a'i frawd Siasbar) yn driw iddo tan ei ddydd olaf. Yn eironig, yng Nghymru y bu farw Edmwnd, wedi iddo gael ei ddanfon gan y brenin o'i gartref yn Llundain i roi trefn ar ddeheubarth Cymru, gan nad oedd llawer o'r bobl yn derbyn awdurdod Dug Efrog a'i gynrychiolydd sef William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469) yng Nghymru, i arglwyddiaethu drostynt. Dyma ddechrau'r cyfnod a elwir yn Rhyfel y Rhosynnau, gyda'r brenin, Siasbar, Edmwnd - a'u tad Owain Tudur yn ochri gyda Lancastriaid a'r Dug Efrog ac eraill gyda'r Iorciaid. Fe'i carcharwyd am ychydig gan Herbert yng Nghastell Caerfyrddin, lle'r aeth yn wael; ni wyddus yn union beth a achosodd ei farwolaeth, ac mae'n bosibl mai cael ei wenwyno a wnaeth.

Canodd y beirdd am Edmwnd: 'yn frawd i'r brenin, nai i'r Dauphin a mab Owain', bu farw yn ddim ond 26 oed. Llai na hanner hynny oedd oedran ei ail-wraig Margaret o Anjou, pan anwyd Harri: deuddeg oed. Ac ar ddiwrnod ei farwolaeth, ni wyddai Edmwnd fod yn ei chroth blentyn - Harri a chymerodd brawd Edmwnd, Siasbar, ofal ohono a'i ystâd enfawr. Yn dilyn buddugoliaeth yr Iorciaid ym Mrwydr Mortimer's Cross gorseddwyd Edward IV yn frenin a dihangodd Sisbar a mam Harri, Margaret, i'r Alban, Ffrainc, Llydaw a gwledydd eraill gan geisio annog ailfeddianu coron Lloegr i Harri VI.

Ar 1 Hydref 1456 bu farw Edmwnd; ar 28 Ionawr 1457, 4 mis yn ddiweddarach, ganwyd Harri yng Nhastell Penfro, gan adael ddeufis yn ddiweddarach yn ôl i'w cartref yn Llundain. Ond cafodd y plentyn Harri lonydd gan y brenin newydd, a rhoddwyd ef i'w fagu gan William Herbert yng Nghastell Penfro.

Harri oedd unig blentyn Margaret. Yn ôl y croniclwr Elis Gruffydd ('Y Milwr o Galais') a sgwennodd yn yr 16g, dywedwyd wrtho gan sawl hen berson mai enw canol Harri Tudur pan gafodd ei fedyddio oedd Owain ond gwrthwynebwyd hynny gan y fam, a bwysleisio mai enw Lancastraidd oedd ei angen.

Dywed un cofianydd cynnar, Bernard André, mai plentyn eitha gwan oedd Harri Tudur a oedd wastad yn llawn anhwylder o bob math. Dywedir iddo dderbyn addysg bersonol 'o'r radd flaenaf' gan rai megis Philip ap Howel, Edward Haseley (a ddaeth yn y man yn Ddeon Warwick), Andrew Scot (Athro prifysgol mewn Diwynyddiaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, ac addysg filwrol oddi wrth Syr Hugh Johns, tirfeddiannwr lleol. Ni welais i erioed blentyn mor gyflym am ddysgu, ac mor ddwfn ei allu oedd barn Scot wrth André. Sylweddoddolodd lawer o'r beirdd yn yr adeg yma bwysigrwydd Harri i Gymru, gan annog Herbert i edrych ar ôl y 'wennol', a'i warchod yn ofalus.

Roedd buddugoliaeth Edward IV dros y Lancastriaid ym Mrwydr Tewkesbury yn ysgubol. Lladdwyd nifer o uchelwyr gan gynnwys: John Beaufort, Somerset a Warwick. Yn dilyn y frwydr, ar 21 Mai, martisodd Edward ei filwyr i Lundain, gan hawlio Coron Lloegr, a'r noson honno bu farw Harri VI yn Nhŵr Llundain, yn fwy na thebyg dan orchymyn Edward. Tra ymladdwyd y frwydyr, roedd yr Harri Tudur ifanc yn saff yng Nghastell Penfro a'i ewyrth Siasbar Tudur; pendronodd Siasbr beth oedd oblygiadau'r frwydr i'w deulu ac i'r Lancastriaid, a pha gamau i'w cymryd i ddyrchafu Harri i'r orsedd. Danfonodd y brenin newydd Roger Vaughan o Dretower i ddal Siasbar, ond Siasbar symudodd gyntaf, gan ddienyddio Roger; yn eironig Roger Vaughan oedd y person a orchmynodd ladd tad Siasbar, sef Owain Tudur, ddeg mlynedd ynghynt. Yn dilyn hyn, hwyliodd Siasbar a Harri i Ffrainc ond chwythodd y gwynt eu llong i Le Conquet, Penn-ar-Bed (Finistere), Llydaw lle croesawyd y ddau gan Ffransis II, Dug Llydaw a chawsant eu cadw yn Château de l'Hermine i ddechrau cyn eu trosglwyddo i Château de Suscinio, Morbihan, yn Hydref 1472. Credodd Harri iddynt gael eu hachub gan sant lleol o'r enw Sant Arthfael (Sant Arfel yn Llydaweg), sant a oedd a'i eglwys (yn Plouharnel) bum milltir o Josselin.

Bu farw Henry Stafford, ail ŵr Maragret Beaufort, mam Harri, o'r clwyfau a dderbyniodd ym Mrwydr Tekesbury ac ar 2 Mehefin 1472 priododd a Iorcydd cyfoethog Thomas Stanley oedd a thir yng Ngogledd Cymru, Sir Gaer a Swydd Gaerhirfryn. Gwahanwyd Harri a Siasbar yn Llydaw: rhoddwyd lloches i Harri yn nhref caerog Gwened am gyfnod hir, ger Château de l'Hermine y dug, rhag ofn iddo gael ei gipio. Yn Hydref 1476 symudwyd ef i ddyffryn Oust, ger Largoet, dan ofal Vincent de la Landelle. Yn Gwened y bu Siasbar hefyd rhwng 1475 ac 1483, yng ngofal Bertrand du Parc.

Ceisiodd Edward IV 'brynnu' Siasbar a Harri ar sawl achlysur, er mwyn dod â bygythiad y Lancastriaid i ben unwaith ac am byth. Rhoddodd Louis XI, Brenin Ffrainc, gryn bwysau arno, hefyd, i drosglwyddo'r ddau iddo, gan ei fod yn gefnder cyntaf i Siasbar. Penderfyniad Ffransis yn 1474 oedd gwahanu'r ddau gan drosglwyddo Siasbar i Gastell Josselin, 25 milltir o Gwened (Vannes) lle y bu tan 1475 a Harri i 'Gastell yr Un Tŵr ar Ddeg' (Ffrangeg: Château de Largoët), dan ofalaeth Jean de Rieux. Pan ddaeth Richard III, brenin Lloegr yn Arglwydd Amddiffynnydd ar farwolaeth disyfyd ei frawd Edward IV, dechreuodd erlyn rai o deulu-yng-nghyfraith ei frawd (y Woodvilles) a ffôdd Syr Edward Woodville i Lydaw gyda £10,250 mewn darnau aur, gan geisio Siasbar Tudur a Harri VII fel cyd-gynllwynwyr ymosodiad potensial ar Goron Lloegr. Yn nechrau'r 1480au trosglwyddwyd Harri i ofal Jean Guillemet ac yn 1481 bu gyda Louis de Kermene a'i fab Giles yn Sant Brieg ac yn 1482 gyda Jean de Robichen yng Nghastell Naoned. Rhwng 1481-2 costiodd £2,000 i warchod Harri a £607 i warchod Siasbar. Ar farwolaeth, Edward IV, credodd y Dug Francis fod y perygl drosodd a chaniataodd i'r ddau fynd a dod yn gymharol rydd.

Pan oedd Harri tua pymtheg oed, bu ganddo Lydawes yn gariad; ni wyddys ei henw, ond cafodd blentyn: Rowland Filfel, a ddychwelodd efo Siasbar a Harri i Gymru flynyddoedd yn ddiweddarach.

Yn dilyn coroni Harri III, cafwyd llawer o fân wrthryfela ledled Lloegr gydag ymateb y brenin newydd yn hynod o llawdrwm, a dihangodd llawer o bobl i Lydaw at Harri. Yn haf 1483 cydgordiodd mamau Harri ac Elisabeth o Efrog, sef Margaret Beaufort ac Elizabeth Woodville wrthryfel arall, fyddai'n digwydd ar yr un adeg ag ymosodiad Harri ar Loegr. Cytunodd y dug Francis II brenin Llydaw i ddanfon saith llong gyda 517 o filwyr arfog, a gostiodd iddo dros 13,000 coron. Ond ar 18 Hydref, trodd y gwynt yn storm a gorfodwyd y cychod yn ôl i Lydaw. Roedd si o'r gwrthryfel wedi cyrraedd Richard III ac aeth ati i ddial; daliwyd Henry Stafford, ail ddug Buckingham a lladdwyd ef yng nghanol yr Amwythig. Yn dilyn ei farwolaeth, priododd Siasbar Tudur ei weddw Catherine. Methodd y gwrthryfel am ddau reswm, yn gyntaf roedd rebeliaid Caint wedi codi wythnosau cyn y dyddiad a gytunwyd, a thrwy hynny daeth Richard i glywed am y cynlluniau. Yn ail, nid ymunodd y Cymry gyda'r gwrthryfel.

Tyngodd Harri Tudur lw o ffyddlondeb i Elizabeth ar Ddiwrnod Nadolig 1483 yn Eglwys Gadeiriol Gwened (Vannes), gyda thua 500 o'i ffyddloniaid wedi ymgynull. Tyngodd hwythau lw o ffyddlondeb i Harri. I deuluoedd y Woodvilles a'r Iorciaid, roedd hyn yn golygu parhad y gwaed Iorcaidd ym mrenhiniaeth Lloegr; ac yn uno'r Iorciaid gyda'r Lancastriaid. Oherwydd hyn dyfnhaodd y teimlad mai Harri oedd gwir frenin Lloegr. O safbwynt Cymru, roedd yn uno'r Iorciaid fel Guto'r Glyn a'r Lancastriaid, ac felly'n uno Cymru dan faner y Tuduriaid, drwy'r Cymro Harri Tudur.

Ymgasglodd llu enfawr ym Mhorthladd Ffrengig Honfleur yn niwedd Gorffennaf 1485, tua 500 ohonynt yn Saeson a Chymru. Yn hanes 'John Major' a gyhoeddwyd yn 1521 sonir i Siarl VIII, brenin Ffrainc gynnig 5,000 o filwyr i Harri, gyda mil o'r rheiny'n dod o'r Alban, gyda Syr Alexander Bruce yn eu harwain. Ond nid yw'n glir faint yn union o Ffrancwyr a ddaeth ar fwrdd y llongau. Yn rhyfeddol, ni sonia'r un hanesydd o Loegr am yr Albanwyr hyn. Wedi'r frwydr fe welwn i Harri wobrwyo Bruce gyda thaliad blynyddol o £20. Mae'r hanesydd Saesneg Chris Skidmore yn awgrymu fod dros hanner milwyr y llynges yn Ffrancwyr, llawer ohonynt o arsiwn Phillipe de Crevecoeur, Arglwydd Esquerdes. Cytuna Croniclwr Crowland gyda hynny, pan ddywedodd fod cymaint o Ffrancwyr ag oedd o 'Saeson'. Yn ôl Commynes roedd y 3,000 o Ffrancwyr a gasglodd 'ymhlith y dynion mwyaf didrefn Normandi cyfan!' Mae'n bosibl fod cadw'r rhain ar wahân i fyddin Rhys ap Thomas wedi bod yn ffactor pam y trafeiliodd y ddwy garfan ar wahân drwy Gymru.

Gadawodd 30 o longau Honfleur ar 1 Awst 1485 a chafwyd 'gwynt teg a ffafriol' y tu ôl iddynt. Saith diwrnod yn ddiweddarach cyrhaeddodd y llynges arfordir Penfro gan lanio ym Mae Pont y Pistyll, ger Dale ar 7 Awst.

Wedi cyrraedd arfordir Penfro, ar y 7fed o Awst, aeth rhan o'r fyddin gan gynnwys Harri ar y lan ac ni chafwyd ymosodiad arnynt o fath yn y byd, a chysgodd byddin Harri o fewn tafliad carreg i Gastell Dale. Yn y bore, martsiodd y fyddin i Hwlffordd, dinas weinyddol Sir Benfro yr adeg honno, a chawsant gryn groeso gan y dinasyddion, yn enwedig gan fod y gwir 'Iarll Penfro', sef Siasbar Tudur yn un o'r criw. Ymunodd y Cymro Arnold Butler gyda Harri gan fynegi fod y cyfan o Benfro y tu ôl iddo; roedd y ddau wedi cyfarfod misoedd ynghynt yn Llydaw i drefnu'r ymosodiad. Cyfaill agosaf Arnold Butler oedd Rhys ap Thomas, ac roedd hyn yn allweddol i lwyddiant y Cymry. Ymunodd dau arall: Gruffydd Rede o Gaerfyrddin a'i filwyr a John Morgan o Dredegar, Gwent. Ar yr ail o Awst, dringodd y fyddin drwy Fwlch-y-gwynt a thros Mynyddoedd y Preselau ac ymlaen i'r gogledd tuag at y Fagwyr Lwyd, ychydig i'r de o Gilgwyn.

Yn hytrach na theithio'n uniongyrchol i Lundain i ymladd am Goron Lloegr, teithiodd Harri i'r gogledd - i Fachynlleth, tref a oedd yn orlawn o symboliaeth cenedlaethol Gymreig, gan mai yno y bu Senedd Owain Glyn Dŵr. Yma hefyd y brwydrodd hynafiaid Harri yn erbyn Harri IV, brenin Lloegr. Ar ei ffordd i Fachynlleth, casglodd llu enfawr, ac yn gyfochrog i'w daith, teithiodd Rhys ap Thomas (1449 – 1525), un o uchelwyr mwyaf grymus De Cymru gan gasglu dros 3,000 o Gymry. Wedi cyrraedd Machynlleth, a thrafod gyda Gwyr Gwynedd, trodd Harri ei fyddin tua Lloegr ac ar 16 Awst unwyd y ddwy fyddin ar gopa bryn gwastad enfawr ychydig i'r dwyrain o'r Trallwng sef Cefn Digoll, ger y ffin â Swydd Amwythig.

Wedi cyfnod byr yng Nghaerlŷr, ar y 3ydd o Fedi, teithiodd Harri a'i osgordd i Lundain gan arwain prosesiwn o Shoreditch i Eglwys Gadeiriol Sant Paul gan osod y Ddraig Goch a dwy faner arall i orffwys wrth yr allor. Pythefnos yn ddiweddarach daeth wyneb yn wyneb â'i fam am y tro cyntaf ers pan oedd yn 14 oed (1470); daeth hithau i Lundain i fyw yn un o'i dai: Coldharbour, ar lan y Tafwys.

Yn dilyn y frwydr canodd y beirdd, gan gynnwys Guto'r Glyn a ganodd gywydd i Rhys ap Tomas o Abermarlais a'i ran ym muddugoliaeth Harri:

Roedd nifer o noddwyr eraill Guto'r Glyn yn cefnogi Harri ac yn eu plith roedd Syr Water Herbert, Wiliam ap Gruffudd o Gochwillan, Rhys ap Llywelyn ap Hwlcyn o Fôn a mwy na thebyg yr Abad Dafydd ab Owain o Ystrad Marchell. Roedd Siôn Edward o Blasnewydd yno ym myddin Syr William Stanley, a chyfeiria Guto at y pryder amdano ac yntau wedi teithio i Loegr 'yn awr angen y baedd':

Gwobrwywyd llawer o gefnogwyr Cymreig, wedi'r frwydr, gan gynnwys Siasbar Tudur (Dug Bedford) a Rhys ap Thomas (marchog). Erbyn 1496 aeth y rhan fwyaf o swyddi cyhoeddus Cymru i ddwylo'r Cymry ac ehangodd eu cyfle yn Lloegr i ddal swyddi a gwneud gyrfa iddynt eu hunain yno. Dyrchafwyd hefyd lawer o Gymry'n esgobion a swyddi eraill yn yr Eglwys yng Nghymru; cafwyd esgobion Cymreig yn Nhyddewi (1496), Llanelwy (1500) a Bangor (1542). Daeth  arglwyddi'r Mers hefyd i ben ac erbyn 1509, tri'n unig oedd ar ôl: Buckinham (Brycheiniog a Chasnewydd), Charles Somerset (Cas-Gwent, Cruchywel, Rhaglan a Gŵyr) ac Edward Grey (rhan o Bowys).

Ymhlith y rhai dderbyniodd anrhydeddau neu nawdd roedd ei dad gwyn, Thomas Stanley, a dderbyniodd faenorau yn Fflint, Caer a Warwick. Gwnaed Rhys ap Thomas yn Farchog ac yn Siambrlaen De Cymru a'i ewyrth Siasbar yn Arglwydd Brif Ustus De Cymru ac Adam ap Jevan ap Jenkins yn Dwrnai'r Brenin yng Nghaerfyrddin ac Aberteifi. Gwobrwywyd hefyd lawer o Gymry a ymunodd â Harri ar eu taith drwy Gymru, gan gynnwys: Morris Lloyd, Owen Lloyd (Cwnstablaeth Castell Aberteifi) ac William Gruffudd (William Griffith) yn Siambrlaen Gogledd Cymru a William Stanley (perthynas teulu'r Stanley) yn Arglwydd Brif Ustus Gogledd Cymru. Gwobrwywyd meddyg Elizabeth Woodville, sef Lewis o Gaerleon a heriodd farwolaeth sawl tro yn mynd a negeseuon rhwng Elizabeth a Margaret Beaufort, mam Harri, gyda nawdd blynyddol o £40. Yn ôl J. M. Edwards, chwaraeodd y telu Mostyn ran blaenllaw iawn yn y frwydr; dywed i un o'r teulu, Huw Conwy o Fodrhyddan ddilyn Harri i Lydaw gyda neges am y trefniadau diweddaraf. Noda hefyd i Richard ap Howell, Mostyn arwain 1,600 o ddynion i gyfarfod Harri, ychydig cyn y frwydr. Am hyn derbyniodd gleddyf a gwregys Harri.

Derbyniodd y canlynol hefyd roddion a gwobrau: Rhydderch ap Rhys, Maurice ap Owen a Richard Owen (Stiwardiaeth Cydweli), Rhys ap llywelyn ap Hulkyn (Statws 'Sais'); rhoddwyd rhodd i un o brif filwyr Harri a fu gydag ef ar hyd y daith o Lydaw, sef yr Albanwr Alexander Bruce. Gwobrwywyd dros 400 o bobl yn ystod y blynyddoedd dilynol.

Y ddwy brif ymgais a wynebodd Harri’r VII i’w orsedd oedd oddi wrth Lambert Simnel a Perkin Warbeck. Elfen gyffredin rhwng y ddau gais hyn i ddiorseddu Harri’r VII oedd eu bod yn ceisio dynwared neu ffugio bod yn rhywun arall.  Cefnogwyd ymgyrchoedd y ddau am goron Lloegr gan un o brif gefnogwyr y Iorciaid, sef Margaret, Duges Burgundy a chwaer ieuengaf Rhisiart III. Llwyddodd y Dduges i ddenu cefnogaeth i’w hymdrechion gan rai o brif elynion Lloegr, sef Ffrainc a’r Alban. Cyflwynwyd y ddau fel ymgeiswyr oedd â hawl fwy cyfiawn na Harri’r VII i orsedd Lloegr.

Roedd ganddo hefyd blentyn anghyfreithlon, ers ei ddyddiau yn Llydaw, sef Roland de Velville. Llydawes oedd ei fam.

Ceir nifer o lyfrau am Harri Tudur ond ychydig iawn ohonynt sy'n edrych ar ei yrfa o safbwynt Cymreig. Ymhlith yr ychydig eithriadau ceir:




#Article 113: Gwent (211 words)


Mae Gwent yn 'sir seremonïol' yn ne-ddwyrain Cymru. Bu'n sir weinyddol rhwng 1974 a 1996. Fe'i cedwir at bwrpasau seremonïol sy'n ymwneud â swydd Uchel Siryf Gwent fel cynrychiolydd Brenhines y DU yn unig. Defnyddir yr enw gan sawl cymdeithas ranbarthol hefyd, e.e. Ymddiriedolaeth Natur Gwent.

Mae hanes hir o ddefnyddio'r enw am y rhan hon o Gymru ar ochr orllewinol rhan fwyaf deheuol Glawdd Offa. Roedd Teyrnas Gwent yn un o hen deyrnasoedd y Cymry. Mae tiriogaeth sir seremonïol Gwent yn debyg i diriogaeth yr hen Sir Fynwy, a grëwyd adeg y Deddfau Uno, ac am flynyddoedd byddai cyfeirio mewn ffynonellau Seisnig at 'Gymru a Sir Fynwy' (Wales  Monmouthshire). Yr unig wahaniaeth rhyngddi a siroedd eraill Cymru oedd ei bod yn rhan o gylchdaith llysoedd Rhydychen yn hytrach na Chymru.

Edrychir ar yr ardal heddiw fel ardal Seisnig ond roedd yn ardal Gymreig iawn tan ddechrau'r chwyldro diwydiannol. Yn y 14g a'r 15g roedd beirdd fel Guto'r Glyn a Lewis Glyn Cothi yn cael nawdd gan ŵyr mawr yr ardal. Cyfeiria Dafydd ap Gwilym at un o deulu'r Morganiaid Ifor ap Llywelyn fel Ifor Hael.

Gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ffurfiwyd nifer o gymdeithasau Cymraeg yng Ngwent. Yr enwocaf oedd Cymdeithas y Cymreigyddion.

Y siroedd cyfoes yn ardal Gwent yw:




#Article 114: Sir Gaernarfon (167 words)


Sir yng ngogledd-orllewin Cymru yw Sir Gaernarfon.  Ffurfiwyd y sir ym 1284 trwy uno cantrefi Arfon, Arllechwedd a Llŷn.  Defnyddwyd Sir Weinyddol Caernarfon ar gyfer llywodraeth leol rhwng 1889 a 1974 pan adrefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru. Heddiw, caiff tiriogaeth y sir ei gweinyddu gan gynghorau Gwynedd a Sir Conwy. Cofrestrwyd baner swyddogol ar gyfer y sir yn 2012.

Bu peth newid yn ffiniau'r sir yn 1895, pan symudwyd y rhannau hynny o blwyf Beddgelert a arferai fod yn Sir Feirionnydd, sef y tir i'r de a'r dwyrain o'r Afon Gwynant/Afon Glaslyn i fod yn rhan o Sir Gaernarfon. Roedd plwyf Llysfaen a threfgordd Eirias ym mhlwyf Llandrillo-yn-Rhos yn ynys fach o Sir Gaernarfon o fewn ffiniau Sir Ddinbych hyd 1922, pan unwyd hwy â gweddill Sir Ddinbych.

Dros y blynyddoedd bu rhai yn ceisio dadlau bod Ynys Enlli yn rhan o Sir Benfro ond ni chafwyd unrhyw gyfiawnhad dros y fath honiad, a dichon mai ymdrech imosgoi talu trethi'r sir oedd y tu ôl i'r awgrym.




#Article 115: Ewrop (731 words)


Un o'r saith cyfandir yw Ewrop, sydd, yn yr achos hwn, yn fwy o gyfandir yn yr ystyr ddiwylliannol a gwleidyddol nag yn ffisioddaearyddol. Yn ffisegol ac yn ddaearegol, mae Ewrop yn isgyfandir neu'n benrhyn mawr, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf gorllewinol o Ewrasia. Ar y ffin i'r gogledd ceir y Cefnfor Arctig, i'r gorllewin Cefnfor Iwerydd ac i'r de ceir y Môr Canoldir a'r Cawcasws. Mae ffin Ewrop i'r dwyrain yn amhendant, ond yn draddodiadol ystyrir Mynyddoedd yr Wral a Môr Caspia i'r de-ddwyrain fel y ffin dwyreiniol. Ystyrir y mynyddoedd hyn gan y rhan fwyaf o ddaearyddwyr fel y tirffurf daearyddol a thectonig sy'n gwahanu Asia oddi wrth Ewrop.

Ewrop yw'r cyfandir lleiaf ond un yn nhermau arwynebedd, sy'n cynnwys tua 10,790,000 km² (4,170,000 mi sg) neu 7.1% o arwynebedd y Ddaear, gyda Awstralia yn unig yn llai. Yn nhermau poblogaeth, dyma'r trydydd cyfandir mwyaf (mae Asia ac Affrica yn fwy) â phoblogaeth o dros 700,000,000, neu tua 11% o boblogaeth y byd.

Ym mytholeg Roeg, roedd Ewropa yn dywysoges Ffeniciaidd a gafodd ei herwgipio gan Zeus ar ffurf tarw, a aeth â hi i ynys Creta, lle rhoddodd hi enedigaeth i Minos. I'r bardd Homer, roedd Eurṓpē (Hen Roeg: Εὐρώπη) yn frenhines fytholegol o Greta, yn hytrach na dynodiad daearyddol. Daeth Europa yn enw am dir mawr Groeg, ac erbyn 500 CC roedd ei ystyr wedi ehangu i gynnwys gweddill y cyfandir.

Rhannodd ffin ogleddol yr Ymerodraeth Rhufeinig y cyfandir ar hyd afonydd Rhein a Donaw am sawl canrif. Yn dilyn cwymp yr Ymerodraeth Rhufeinig, syrthiodd rhan helaeth o Ewrop i'r Oesoedd Tywyll. Ond parhaodd gwareiddiad y Rhufeinwyr i flodeuo, ond ar ffurfiau newydd, mewn rhannau o dde Ewrop ac yn y de-ddwyrain dan yr Ymerodraeth Fysantaidd. Yn raddol, troes yr Oesoedd Tywyll yn gyfnod goleuach a adnabyddir fel yr Oesoedd Canol. Blodeuodd dysg eto ond ar ffurf geidwadol a dueddai i edrych yn ôl i'r Byd Clasurol a'r Beibl. Ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, cwncwerodd Ymerodraeth yr Otomaniaid ddinas Caergystennin (Istanbwl) – gan dod â diwedd yr Ymerodraeth Fysantaidd – a daeth yn bŵer pwysicaf Ewrop. Un canlyniad o hynny oedd y Dadeni, cyfnod o ddarganfyddiad, fforio a chynydd mewn gwybodaeth wyddonol. Yn ystod y bymthegfed ganrif agorodd Portiwgal yr oes o ddarganfyddiadau, efo Sbaen yn ei dilyn. Ymunodd Ffrainc, yr Iseldiroedd a Phrydain Fawr yn y ras i greu ymerodraethau trefedigaethol enfawr yn Affrica, yr Amerig, Asia ac Awstralasia.

Ar ôl yr oes o ddarganfyddiadau, dechreuodd cysyniadau democratiaeth gymryd drosodd yn Ewrop. Cafwyd nifer o frwydrau am annibyniaeth, er enghraifft yn Ffrainc yn ystod cyfnod y Chwyldro Ffrengig. Arweiniodd y cynydd hwn mewn democratiaeth i gynydd mewn tensiynau yn Ewrop ar ben y tensiynau oedd yn bodoli'n barod oherwydd cystadleuaeth â'r Byd Newydd. Y gwrthdaro mwyaf enwog oedd hwnnw pan daeth Napoleon Bonaparte i rym a dechrau ar gyfres o oresgyniadau a ffurfiodd yr Ymerodraeth Ffrengig, ac wedyn cwympo'n fuan iawn. Ar ôl y concwestau yma, ymsadrodd Ewrop, ond roedd yr hen sefydliadau eisoes yn ddechrau cwympo.

Dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain Fawr yn hwyr yn y ddeunawfed ganrif, ac arweiniodd hyn at symud i ffwrdd o amaeth, mwy o ffyniant economaidd a chynydd cyfatebol mewn poblogaeth. O ddiwedd yr Ail Ryfel Byd tan ddiwedd y Rhyfel Oer, rhannwyd Ewrop yn ddau brif bloc gwleidyddol ac economaidd: y gwledydd Comiwnyddol yn Nwyrain Ewrop (ac eithrio Twrci a Gwlad Groeg) a gwledydd cyfalafol Gorllewin a De Ewrop. O gwmpas 1990, yn ddilyn cwymp Wal Berlin, chwalodd y Bloc Dwyreiniol.

Yn daearyddol mae Ewrop yn rhan o'r ehangdir fwy a elwir yn Ewrasia. Mae'r cyfandir yn dechrau ym Mynyddoedd yr Wral yn Rwsia, sy'n diffinio'r ffin rhwng dwyrain Ewrop ac Asia. Nid yw'r ffin dde-ddwyreiniol ag Asia yn cael ei diffinio'n gyffredinol; gan amlaf mae Afon Wral neu, fel arall, Afon Emba, yn cael ei disgrifio fel ffin y cyfandir yn yr ardal yma. Mae'r ffin yn parhau â Môr Caspia, ac yna Afon Araxes yn y Cawcasws, ac ymlaen i'r Môr Du; mae'r Bosphorus, Môr Marmara, a'r Dardanelles yn diweddu'r ffin ag Asia. Mae Môr y Canoldir i'r de yn gwahanu Ewrop ac Affrica. Y Cefnfor Iwerydd sy'n ffurfio'r ffin orllewinol, ond mae Gwlad yr Iâ, sydd llawer pellach i ffwrdd na'r pwyntiau agosaf i'r cyfandir yn Affrica ac Asia, fel arfer yn cael ei chynnwys yn Ewrop.

Ystyrir y gwladwriaethau annibynnol canlynol i fod yn Ewrop:




#Article 116: De America (177 words)


Mae De America yn gyfandir yn Hemisffer y Gorllewin rhwng y Cefnfor Tawel a'r Iwerydd. Mae'r rhan fwyaf ohono yn Hemisffer y De.

Cyfeirir ato yn aml fel yn rhan o'r Amerig, fel a wneir yn achos Gogledd America. Enwyd De America ar ôl Amerigo Vespucci, yr Ewropead cyntaf i awgrymu nad India'r Dwyrain oedd yr Amerig, ond y Byd Newydd.

Mae gan De America arwynebedd o 17,820,000 km² (6,880,000 mi sg), neu tua 3.5% o arwynebedd y Ddaear. Yn 2005, amcangyfrifwyd fod y boblogaeth yn fwy na 371,200,000. Dyma'r pedwerydd cyfandir o ran arwynebedd (ar ôl Asia, Affrica, a Gogledd America) a'r pumed o ran poblogaeth (ar ôl Asia, Affrica, Ewrop, a Gogledd America).

Yr oes agos y cyfandir De America nifer o ynysoedd, y rhan fwyaf ohonynt yn perthyn i wledydd ar y gyfandir. Mae tiriogaethau'r Caribî yn cael eu dosbarthu gyda Gogledd America gan ddaearyddwyr. Mae gwledydd De America sy'n ffinio â Môr y Caribî – yn cynnwys Colombia, Feneswela, Gaiana, Swrinam, a Guiana Ffrengig – yn cael eu adnabod fel De America Caribïaidd.




#Article 117: Gogledd America (314 words)


Mae Gogledd America yn gyfandir yn hemisffer gogleddol a hemisffer gorllewinol y Ddaear, wedi'i ffinio i'r gogledd gan y Cefnfor Arctig, ar y ddwyrain gan gogledd y Cefnfor Iwerydd, ar y dde-dwyrain gan Môr y Caribi, ac ar y dde a'r gorllewin gan gogledd y Cefnfor Tawel. Mae gan Ogledd America arwynebedd o 24,480,000 km² (9,450,000 mi sg), neu tua 4.8% o arwynebedd y Ddaear. Yn 2002, credir bod y boblogaeth yn fwy na 514,600,000. Dyma'r trydydd cyfandir o ran arwynebedd (ar ôl Asia ac Affrica) a'r pedwerydd o ran poblogaeth (ar ôl Asia, Affrica ac Ewrop).

Yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd Gogledd America yn sicr (Newfoundland) oedd y Llychlynwyr, wnaeth galw'r ardal yn Vinland. Cyrrhaeddon nhw yna tua 1000. Er sefydlon nhw rhai gwladfeydd yna, ni gadawon nhw ryw lawer o farc ar y gyfandir.

Ar ôl fordaith Christopher Columbus yn 1492, y Sbaenwyr oedd yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd ac aros. Ennillon nhw reolaeth o rhan fwyaf o ynysoedd mwyaf y Caribi a gorchfygon nhw'r Aztecs, ac felly cymryd dros Mecsico a Chanolbarth America.

Y gwladfeydd Seisnig cyntaf oedd Jamestown a Plymouth Rock, yn nhaleithiau Virginia a Massachusetts heddiw. Y gwladfeydd llwyddiannus Ffrengig cyntaf oedd Port Royal (1604) a dinas Québec (1608), yn nhaleithiau Nova Scotia a Québec heddiw.

Rhannwyd economi Gogledd America rhwng Canada a'r UDA, dau o wledydd mwyaf cyfoethog a ddatblygol y byd, a chenhedloedd Canolbarth America a'r Caribi, sydd, er nad yn dioddef o economïau gwael, yn wledydd llai economaidd ddatblygol.

Mae Cytundeb Masnach Rydd Canolbarth America (CAFTA) yn cytundeb rhwng yr Unol Daleithiau a'r wledydd Canolbarth America Costa Rica, Gwatemala, El Salfador, Hondwras a Nicaragwa. Amcan y gytundeb yw i hybu masnach rydd rhwng yr aelodau. Mae Canada a Mecsico yn trafod aelodaeth. Mae Cytundeb Masnach Rydd Gogledd America (NAFTA) yn cytundeb rhwng Canada, Mecsico a'r Unol Daleithiau i ddileu tollau ar nwyddau masnachir rhwng ei gilydd.




#Article 118: Affrica (982 words)


Affrica neu Yr Affrig yw'r cyfandir mwyaf ond un yn nhermau arwynebedd a phoblogaeth, yn dilyn Asia. Mae tua 30,370,000 km² o dir yn Affrica – gan gynnwys ei hynysoedd cyfagos – sef 5.9% o arwynebedd y Ddaear, a 20.3% o arwynebedd tir y Ddaear. Mae dros 840,000,000 o bobl (2005) yn byw yng 61 tiriogaeth Affrica, sef dros 12% o boblogaeth ddynol y byd.

Affrica yw'r mwyaf o'r tri allaniad deheuol enfawr o brif fàs arwynebedd y Ddaear. Mae ganddi arwynebedd o tua  30,360,288 km² (11,722,173 mi sg); gan gynnwys yr ynysoedd.

Saif y Môr Canoldir rhwng Affrica ac Ewrop, tra bod Culdir Suez yn ei chysylltu ag Asia (mae Camlas Suez yn gorwedd rhyngddynt), sydd 130 km (80 milltir) o led (yn nhermau gwleidyddol, ystyrir penrhyn Sinai yn yr Aifft, sydd i'r dwyrain o Gamlas Suez, fel rhan o Affrica hefyd).

O'r pwynt mwyaf gogleddol, sef Cap Blanc (Ra’s al Abyad) yn Tiwnisia (37°21′ G), i'r pwynt mwyaf deheuol, sef Penrhyn Agulhas yn Ne Affrica (34°51′15″ D), mae pellter o tua 8,000 km (5,000 milltir). O'r pwynt mwyaf gorllewinol sef Cap-Vert yn Senegal, 17°33′22″ Gn, i'r pwynt mwyaf dwyreiniol sef Ras Hafun yn Somalia, 51°27′52″ Dn, mae pellter o tua 7,400 km (4,600 milltir).

Mae arfordir Affrica 26,000 km (16,100 milltir) o hyd. Wrth gymharu hyn ag Ewrop, sydd ag arwynebedd o 9,700,000 km² (3,760,000 mi sg); yn unig, tra bod hyd ei harfordir oddeutu 32,000 km (19,800 milltir), gwelwn fod siâp amlinelliad Affrica yn nodweddiadol rheolaidd, tra bod arfordir Ewrop yn llawn o ddanheddiadau dwfn.

Mae Affrica yn gartref i'r tir cyfannedd hynaf ar y ddaear, â'r hil ddynol yn tarddu o'r cyfandir yma. Yn ystod blynyddoedd canol yr ugeinfed ganrif, darganfu anthropolegwyr nifer o ffosilau a thystiolaeth o weithgaredd ddynol, mor gynnar â 7 miliwn o flynyddoedd yn ôl, efallai. Darganfu'r teulu Leakey enwog (sydd â chysylltiadau â Phrydain ag Affrica), gweddillion ffosilaidd nifer o rywogaethau o fodau dynol cynnar, oedd yn debyg i epaod, megis Australopithecus afarensis (wedi'i ddyddio'n radiometregol i 3.9–3.0 miliwn o flynyddoedd CC), Paranthropus boisei (2.3–1.4 miliwn CC) a Homo ergaster (c. 600,000–1.9 miliwn CC). Credir eu bod wedi esblygu'n ddyn modern. Mae'r rhain yn ddarganfyddiadau pwysig yn astudiaeth esblygiad dynol.

Datblygodd Affrica nifer o wareiddiaid unigryw, er enghraifft gwareiddiad yr Hen Aifft a Kush, Ethiopia, Simbabwe Fawr, ymerodraeth Mali a theyrnasoedd y Maghreb.

Yn 1482, sefydlodd y Portiwgaliaid y gyntaf o nifer o orsafoedd masnachu ar hyd arfordir Gini, yn Elmina. Y prif nwyddau a fasnachwyd oedd caethweision, aur, ifori a sbeisiau. Cafodd darganfyddiad America yn 1492 ei ddilyn gan ddatblygiad mawr yn y fasnach caethweision.

Ond ar yr un pryd roedd caethwasiaeth yn dod i ben yn Ewrop, ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuodd y pweroedd ymerodraethol Ewropeaidd Ymgiprys am Affrica. Meddiannon nhw ran fwyaf o'r cyfandir, a chreu nifer o wladwriaethau a chenhedloedd trefedigaethol, gan adael ddim ond dwy genedl annibynnol: Liberia, gwladfa'r Americanwyr Duon, ac Ethiopia. Parhaodd y feddiannaeth tan ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Wedi hynny, fe enillodd y gwladwriaethau trefedigaethol annibyniaeth yn raddol, ac erbyn hyn maent i gyd yn annibynnol.

Heddiw, mae Affrica'n gartref i dros 50 o wledydd annibynnol, ac mae gan bob un ond am ddau yr un ffiniau a luniwyd yn ystod oes gwladychiaeth Ewropeaidd.

Fe ddi-sefydlogodd gwladychiaeth cytbwysedd grwpiau ethnig niferus y cyfandir, effaith sydd i'w deimlo yng ngwleidyddiaeth Affrica hyd heddiw. Cyn dylanwad Ewropeaidd, nid oedd ffiniau cenedlaethol yn llawer o broblem, ac ar y cyfan fe ddilynodd Affricanwyr arferion ardaloedd eraill y byd, megis Arabia, lle'r oedd tiriogaeth grŵp yn gyfath â'i ddylanwad milwrol neu fasnachol. Roedd gan yr arferiad Ewropeaidd o lunio ffiniau o gwmpas tiriogaethau, i'w arwahanu o diriogaethau'r pŵeroedd trefedigaethol eraill, yr effaith o arwahanu grwpiau ethnig cyfagos, neu orfodi gelynion traddodiadol i gyd-fyw, heb wahandir rhyngddynt. Er enghraifft, er bod Afon y Congo yn ymddangos fel ffin ddaearyddol naturiol, roedd pobl y ddwy ochr yn rhannu iaith, diwylliant a sawl tebygrwydd arall. Roedd rhaniad y tir rhwng Gwlad Belg a Ffrainc ar hyd yr afon yn arwahanu'r grwpiau yma o'i gilydd. Roedd y rhai oedd yn byw yn y Sahara neu'r Sahel ac wedi arfer masnachu dros y cyfandir am ganrifoedd yn gorfod croesi ffiniau oedd yn bodoli dim ond ar fapiau Ewropeaidd.

Affrica yw gyfandir cyfannedd tlotaf y byd: darganfu  2003 y Cenhedloedd Unedig (o 175 o wledydd) caiff safleoedd 151 (Gambia) i 175 (Sierra Leone) eu cymryd i gyd gan wledydd Affricanaidd.

Fe gafodd Affrica trawsnewidiad ansefydlog ac ansicr o wladychiaeth, ac mae effeithiau hyn i'w gweld o hyd; mae cynnydd llygredigaeth ac unbennaeth wedi cyfrannu'n sylweddol i'r sefyllfa economaidd wael. Er bod tyfiant cyflym yn Tsieina ac India erbyn hyn, a thyfiant cymedrol yn America Ladin, wedi codi miliynau tu hwnt i fywoliaeth ymgynhaliol, mae Affrica wedi symud tuag yn ôl yn nhermau masnach dramor, buddsoddiad, ac incwm y pen. Mae gan y tlodi yma effeithiau eang, yn cynnwys disgwyliad oes is, trais, ac ansefydlogrwydd – ffactorau sydd yn eu tro'n gwaethygu'r tlodi.

Mae llwyddiannau economaidd y cyfandir yn cynnwys Botswana a De Affrica, sydd wedi datblygu cymaint bod ganddo gyfnewidfa stoc aeddfed ei hun. Mae dwy brif reswm am hyn: cyfoeth nwyddau naturiol y wlad (prif gynhyrchydd aur a diemyntau'r byd); a system gyfreithiol sefydledig y wlad. Hefyd mae gan De Affrica mynediad i gyfalaf economaidd, nifer o farchnadoedd a llafur medrus. Mae gwledydd Affricanaidd eraill (megis Ghana) yn gwella'n gymharol, ac mae gan rai (megis yr Aifft) hanes hir o lwyddiant masnachol ac economaidd.

Mae rhan fwyaf o amcangyfrifon yn dweud fod gan Affrica dros fil o ieithoedd. Mae yna bedwar prif deulu ieithyddol sy'n frodorol i Affrica.

Mae llawer o dir Gogledd Affrica yn sych iawn ac yn llawn diffeithiwch. Adnabyddir rhanbarth gorllewinol Gogledd Affrica fel y Maghreb.

Mae canol Affrica wedi ei gorchuddio â fforestydd, ac mae'n boeth a gwlyb iawn yno. Mae'r cyhydedd yn mynd trwy ganol Affrica.




#Article 119: Cyfandir (667 words)


Mae cyfandir yn ehangdir enfawr o dir. Maent yn cael eu diffinio gan ddaearyddiaeth gan amlaf, ond hefyd gan wleidyddiaeth (gweler daearwleidyddiaeth) a diwylliant. Fel arfer ym Mhrydain ceir saith cyfandir.

Mae gwyddonwyr yn credu mai lafa yn llifo i arwyneb y Ddaear o'r craidd tawdd wnaeth creu'r cyfandiroedd. Ar yr arwyneb, ymsolidodd y lafa i gramen, a wnaeth erydu'n gwaddodion trwy brosesau hindreuliad. Ffurfiodd, chwalodd ac ailffurfiodd y gwaddodion yma tro ar ôl tro, wedi'u heffeithio gan nwyon poeth yn codi o ganol y Ddaear. Ar ôl caledu, trodd y llwyfandiroedd gwaddodol oedd ar ôl yn y cyfandiroedd, sydd yn gorchuddio tua 30% o wyneb y Ddaear.

Mae daearyddwyr, daearegwyr, llywodraethau, economegwyr, hanesyddion a phobl cyffredin i gyd yn dadlau dros ddosbarthiad cyfandiroedd, ac nid yw cymdeithas eto wedi penderfynu ar union ffiniau'r cyfandiroedd, neu hyd yn oed pa rai sydd yn gyfandiroedd, a pha rai i ddosbarthu fel uwchgyfandiroedd, isgyfandiroedd, microgyfandiroedd, ac ynysoedd. Bu'n arfer cyffredinol i gyfrif bod yna saith cyfandir yn y byd i gyd, ond mae nifer dal yn uno Ewrop ac Asia a Gogledd a De America, yn dadlau am wledydd trawsgyfandirol (megis Rwsia a'r Aifft) ac yn cwestiynu ffiniau, statws ac hyd yn oed enw Awstralia/Awstralasia/Oceania. Mae'n debyg mai Antarctica yw'r unig gyfandir y mae pawb yn cytuno arno.

Mae'r enw cyfandir ei hunan yn awgrymu taw pwnc daearyddol yw dosbarthiad cyfandiroedd, ond yn ddiweddar bu rhai yn galw am ailddosbarthiad cyfandiroedd yn ôl rhesymau gwleidyddol (e.e. cefnogaeth am esgyniad (annhebygol) Canada i'r Undeb Ewropeaidd) neu am resymau hanesyddol (e.e. cynhwysiad gwledydd megis Iwerddon ac Angola yn yr Amerig).

Nid yw pawb yn cytuno sawl cyfandir sydd nac ar faint a ffiniau'r cyfandiroedd. Defnyddir nifer o fodelau ar draws y byd:

Dysgir y model 7-cyfandir yn Tsieina, rhannau o Orllewin Ewrop, a'r rhan fwyaf o wledydd Saesneg. Dysgir y model 6-chyfandir (un America) yn America Ladin, Iberia, a'r rhan fywaf o Orllewin Ewrop. Dysgir y model 6-chyfandir (Ewrasia) yn Rwsia, Dwyrain Ewrop, a Japan. Mae'n well gan y gymuned ddaearyddol y model hon, gan fod Ewrop ac Asia yn yr un tir yn ddaearyddol. Mae rhai haneswyr (megis Jared Diamond) yn defnyddio model 5-cyfandir lle gwahanir Gogledd Affrica o Affrica Is-Saharaidd a'i chynnwys yn Ewrasia, tra bo eraill (megis Andre Gunder Frank) yn ffafrio'r model 4-cyfandir (Affrica-Ewrasia). Ni welir y model 5-cyfandir (Lawrasia) yn aml – dim ond am resymau diwydiannol neu ddaearegol (roedd Gogledd America ac Ewrasia yn un gyfandir blynyddoedd maith yn ôl) y'i defnyddir.

Oherwydd symudiadau'r platiau, bu nifer o gyfandiroedd eraill trwy hanes y Ddaear, gyda siapiau cwbl wahanol i gyfandiroedd heddiw, ac mae o i fyny i ddaearegwyr i benderfynu beth oedd ffurfiau [yr eangdiroedd yma. 

Rhanbarth mawr o gyfandir yw isgyfandir. Nid oes cydwelediad ar beth sy'n gwneud isgyfandir, ond fel arfer gwahanir isgyfandir o weddill y cyfandir gan rhyw tirffurf mawr neu nodwedd ddaearegol, megis cadwyn o fynyddoedd neu blât tectonig.

Gwahaniaethir cyfandir o ynys neu orynys nid yn unig gan faint mwy ond hefyd gan strwythur a datblygiad daearegol. Mae'r ardal gyfandirol – sef yr holl tir uwchben lefel y môr – yn gorchuddio 29% o gyfanswm arwynebedd y Ddaear. Mae mwy na dau draean o arwynebedd y tir cyfandirol i ogledd y cyhydedd. Ar ben hynny, mae'r eangdiroedd cyfandirol yn cynnwys yr ysgafellau cyfandirol suddedig, sy'n goleddu o lannau cefnforol y cyfandiroedd i ddyfnderoedd o dua 183 m; ar dua'r pwynt yma mae'r plymiad mwy sydyn yn dechrau i'r ffos gefnforol a elwir yn y llethr cyfandirol. Os ystyrir yr ysgafellau cyfandirol, mae cyfanswm yr ardal gyfandirol yn cynyddu i 35% o arwynebedd y Ddaear. Mae ynysoedd sy'n sefyll ar ysgafell gyfandirol rhyw cyfandir yn cael eu hystyried fel rhan o'r cyfandir hwnnw. Mae enghreifftiau yn cynnwys Prydain Fawr ac Iwerddon yn Ewrop; Ynysfor Malei a Siapan yn Asia; Gini Newydd, Tasmania, a Seland Newydd yn Awstralasia; a'r Ynys Las yng Ngogledd America.

Yn naeareg, diffinir cyfandiroedd yn nhermau strwythur cramennol y Ddaear a phlatiau tectonig, yn hytrach nag arwynebau tir.




#Article 120: Yr Antarctig (234 words)


Yr Antarctig yw cyfandir mwyaf deheuol y Ddaear, ac mae'n cynnwys Pegwn y De daearyddol. Fe'i lleolir, felly, yn Hemisffer y De - i'r de o Gylch yr Antartig, gyda Chefnfor y De yn ei amgylchynu. Caiff ei reoli dan amodau Cytundeb yr Antarctig. Ceir iâ dros 98% ohono a hwnnw'n 1.9 km (1.2 mi; 6,200 tr) o drwch, ar gyfartaledd. ceir ychydig o dir yn y rhan gogleddol eithaf.

Mae ei arwynebedd yn 14,000,000 kilometr sgwâr (5,400,000 milltir sgwâr), a'r cyfandir hwn yw'r 5ed mwyaf: ar ôl Asia, Affrica, gogledd America a De America. Mewn cymhariaeth mae Antartica oddeutu dwywaith yn fwy nag Awstralia.

Ar gyfartaledd yrAntartig yw'r cyfandir oeraf, sychaf a mwyaf gwyntog. Mae cyfartaledd ei uchter (uwch y môr) yn uwch nag unrhyw gyfandir arall. Gellir diffion Antarctig yn ddiffeithwch, gyda glawiad o ddim ond 200 mm (8 mod) ar yr arfordir a llai nahynny i fewn i'r tir mawr. Mae'r tymheredd yn amrywio: gostyngodd i −89.2 °C (−128.6 °F) ychydig yn ôl, ond mae'r tymheredd fel arfer rhwng yn y trydych chwarter (y chwarter oeraf o'r flwyddyn) yn −63 °C (−81 °F).

Yn 2016 roedd 135 o bobl yn byw yno'n barhaol, ond ceir rhwng 1,000 a 5,000 yn byw yno'n achlysurol: y rhan fwyaf yn y gorsafoedd ymchwil. mae'r rhan fwyaf yn wyddonwyr sy'n astudio algae, bacteria, ffwng, planhigion, protista, ac anifeiliaid fel chwain, nematodeau, pengwiniaid, morloi a tardigradau.




#Article 121: Awstralasia (200 words)


Term amrywiol a ddefnyddir i ddisgrifio rhanbarth yn Oceania yw Awstralasia – mae fel arfer yn cyfeirio at Awstralia, Seland Newydd, ac ynysoedd cyfagos yn y Cefnfor Tawel.

Bathwyd y term gan Charles de Brosses yn Histoire des navigations aux terres australes (1756). Daw o'r gair Lladin am i de Asia a nododd Brosses y gwahaniaeth rhwng y rhanbarth â Pholynesia (i'r dwyrain) a de ddwyrain y Cefnfor Tawel (Magellanica); mae hefyd yn wahanol i Ficronesia (i'r gogledd ddwyrain).

Yn ddaearwleidyddol, defnyddir Awstralasia weithiau fel term am Awstralia a Seland Newydd yn unig. Mae yna nifer o gyfundrefnau gydag enwau sydd wedi'u rhagddodi â Y Gymdeithas Awstralasiaidd ar gyfer (Australasian Society for) sydd wedi'u cyfyngu i Awstralia a Seland Newydd.

Yn y gorffennol, mae Awstralasia wedi cael ei ddefnyddio fel enw ar gyfer timau chwaraeon cyfunol Awstralia/Seland Newydd. Mae enghreiffitau'n cynnwys tennis rhwng 1905 ac 1913, pan cyfunodd Awstralia a Seland Newydd eu goreuon i gystadlu yng Nghwpan Davis (ac ennillon nhw yn 1907, 1908, 1909 ac 1911), ac yng Ngemau Olympaidd 1908 ac 1912.

Yn gyffredinol mae anthroploegwyr, er yn anghytuno ar fanylion, yn cefnogi theorïau sy'n priodoli tarddiad de ddwyreiniol Asiaidd am frodorion ynysoedd Awstralasia ac isranbarthau cyfagos.




#Article 122: Oceania (789 words)


Mae Oceania () – weithiau Ynysoedd y Determinoleg – yn rhanbarth daearyddol, ac yn aml daearwleidyddol, sydd yn cynnwys nifer o diroedd – ynysoedd gan mwyaf ond fel arfer yn cynnwys Awstralia – yn y Cefnfor Tawel a chyffiniau. Mae hefyd yn cael ei hystyried yn gyfandir, ond mae hyn yn bwnc dadleuol. Mae diffiniad ystent union Oceania yn amrywio, gyda dehongliadau yn cynnwys Awstralia, Seland Newydd, Gini Newydd, ac ynysoedd gwahanol yn Ynysfor Malei. Oceania yw'r cyfandir lleiaf yn nhermau arwynebedd a'r lleiaf ond un yn nhermau poblogaeth, yn dilyn yr Antarctig.

Mae defnydd pennaf y term Oceania yn disgrifio rhanbarth macroddaearyddol sydd rhwng Asia a'r Amerig, gyda chyfandir Awstralia fel y brif ehangdir ac yn cynnwys rhyw 25 000 o ynysoedd yn y Cefnfor Tawel. Defnyddir yr enw Oceania yn hytrach nag Awstralia oherwydd, yn annhebyg i ddosbarthiadau cyfandirol eraill, y cefnfor a'r moroedd cyfagos yn hytrach na'r cyfandir sydd yn cysylltu'r tiroedd at ei gilydd.

Daw Oceania o'r gair Groegaidd Okeanis (Ωκεανίς), merch nymff y duw Okeanos (Ωκεανός), y Titan cyntaf-anedig. Daeth y term i'r Gymraeg trwy'r Saesneg: daw'r gair Saesneg am gefnfor – ocean – o Okeanos.

Mae Oceania yn aml yn cael ei chymysgu â thermau arall am ranbarthau yn y Cefnfor Tawel. Defnyddir y term Awstralasia i gyfeirio at Awstralia, Seland Newydd, Gini Newydd, a nifer o'r ynysoedd llai sydd yn yr ardal, y rhan fwyaf ohonynt yn nwyrain Indonesia. Mae'r term yn cynnwys prif ynysoedd Oceania, ond nid yw'n cynnwys yr ynysoedd a chylchynysoedd bychain yn y Cefnfor Tawel. Mae Awstralasia yn aml yn cael ei ddefnyddio yn y Gymraeg i ddisgrifio Oceania, gan nad yw Oceania yn ymddangos fel gair Cymraeg. Mae Ynysoedd y De i'w gweld ar draws y we fel term Cymraeg am Oceania, ond gan nad yw hyn wedi'i sefydlu fel gair safonol, defnyddir Oceania trwy'r erthygl hon.

Bathwyd y gair Oceania gan y fforiwr Ffrengig Dumont d'Urville yn 1831. Mae'n arfer cyffredinol i rannu Oceania yn Micronesia, Melanesia, Polynesia, ac Awstralasia. Ond fel unrhyw rhanbarth, mae dehongliadau yn amrywio; fwyfwy, rhannwyd Oceania gan ddaearyddwyr a gwyddonwyr i Oceania Agos ac Oceania Bell.

Mae'r rhan fwyaf o Oceania yn cynnwys gwledydd ynysoedd bychain. Awstralia yw'r unig wlad gyfandirol; yn ôl rhai diffiniadau, mae gan Indonesia gororau tir â Papua Gini Newydd, Dwyrain Timor, a Maleisia.

Un o wyth ecoranbarth daearol yw Oceania, sef rhanbarthau ecolegol pennaf y blaned. Mae ecoranbarth Oceania yn cynnwys Micronesia i gyd, Ffiji, a Pholynesia i gyd ar wahân i Seland Newydd. Mae Seland Newydd, gyda Gini Newydd ac ynysoedd cyfagos, Awstralia, Ynysoedd Selyf, Fanwatw, a Chaledonia Newydd, yn gwneud ecoranbarth Awstralasia.

Mae'r mwyafrif eang o bobl yn y Cefnfor Tawel (nid yn cynnwys Awstralia a Seland Newydd) yn gweithio yn y diwydiant cynradd. Mae nifer o wledydd dal yn amaethyddol yn bennaf; er enghraifft, mae 80% o boblogaeth Fanwatw a 70% o boblogaeth Ffiji yn gweithio yn amaethyddiaeth. Prif gynnyrch y rhanbarth yw copra (neu gnau coco), a thyfir coedwydd, cig eidion, olew palmwydd, coco, siwgr a sinsir yn gyffredin ar draws drofannau'r Cefnfor Tawel. Caiff datgoedwigo coetir hynafol ei ecsbloetio ar ynysoedd mwy, yn cynnwys Ynysoedd Selyf a Papua Gini Newydd. Mae pysgota yn brif ddiwydiant mewn nifer o ynysoedd a chylchynysoedd llai y Cefnfor Tawel, er caiff nifer o ardaloedd pysgota eu hecsbloitio gan wledydd mwy, yn enwedig Siapan. Mwyngloddir adnoddau naturiol, megis plwm, sinc, nicel ac aur, yn Ynysoedd Selyf ac Awstralia, yng ngorllewin y rhanbarth.

Yn ddiweddar mae twristiaeth wedi bod yn ffynhonnell fawr o incwm am nifer o ynysoedd y Cefnfor Tawel (ar wahân i Awstralia a Seland Newydd, er fod ganddyn nhw busnes twristiaeth buddiol iawn); mae twristiaid yn dod o Awstralia, Seland Newydd, Siapan, y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau. Ar hyn o bryd mae Ffiji yn denu bron i hanner miliwn o dwristiaid y flwyddyn; mwy na chwarter ohonynt o Awstralia. Mae hyn yn cyfrannu $300 miliwn i economi Ffiji.

Yn ogystal â hyn, mae nifer o leoedd yn y Cefnfor Tawel dal yn dibynnu ar gymorth tramor ar gyfer datblygiad. Yn Ynysoedd Selyf talwyd 50% o wariadau'r llywodraeth gan roddwyr rhyngwladol; sef Awstralia, Seland Newydd, yr Undeb Ewropeaidd, Siapan a Gweriniaeth Tsieina (Taiwan).

Un o chwe chydffederasiwn pêl-droed o dan nawddogaeth FIFA yw Cydffederasiwn Pêl-droed Oceania (OFC). Yr OFC yw'r unig gydffedrasiwn heb hawl awtomatig i Rownd Derfynol Cwpan y Byd. Ar hyn o bryd, mae angen i enillwr yr OFC chwarae play-off yn erbyn ochr o Gydffederasiwn Pêl-droed De America.

Mae Oceania wedi cael ei chynrychioli mewn tair Rownd Derfynol yng Nghwpan y Byd – Awstralia yn 1974, Seland Newydd yn 1982 ac Awstralia yn 2006. Ond nid yw Awstralia yn aelod o'r OFC bellach, gan ymunodd â Chydffederasiwn Pêl-droed Asia yn 2006.




#Article 123: Daearyddiaeth Cymru (434 words)


Lleolir Cymru ar orynys yng ngorllewin Prydain. Mae Cymru yn rhan o'r Deyrnas Unedig. Mae Cymru yn ffinio â Lloegr i'r dwyrain, ac amgylchynir y wlad gan y môr ar yr ochrau arall: Môr Hafren i'r de, Sianel San Siôr i'r de a'r Môr Celtaidd i'r gogledd a rhwng gogledd Cymru ag Iwerddon. Hyd Cymru yw tua 274 km a'i lled tua 100 km. Mae gan yr wlad arwynebedd o 20,779 km² (8,023 milltir sgwâr). Mae ganddi dros 1,200 km o arfordir.

Mae'r rhan fwyaf o Gymru yn dir cymharol uchel. Y prif ardaloedd o dir uchel yw mynyddoedd Gwynedd, sy'n cynnwys yr Eryri hanesyddol a'r mynyddoedd i'r de o'r ardal yma, mynyddoedd Elenydd yng nghanolbarth Cymru a Bannau Brycheiniog yn y de. Yn Eryri y ceir y copaon uchaf, gyda pymtheg copa dros 3,000 o droedfeddi, Y copaon uchaf yw Yr Wyddfa (1,085m/3,560 troedfedd), Carnedd Llywelyn 1,064m/3,491 troedfedd a Carnedd Dafydd (1,044m/3,425 troedfedd).

Yr afonydd hwyaf sy'n tarddu yng Nghymru yw Afon Hafren, Afon Gwy ac Afon Dyfrdwy, ond mae'r tair yma yn llifo trwy Loegr yn ogystal a thrwy Gymru. Yr afon hwyaf sydd yng Nghymru yn unig yw Afon Tywi; ymhlith y gweddill mae Afon Wysg, Afon Conwy, Afon Clwyd ac Afon Teifi.

Llynnoedd naturiol mwyaf Cymru yw Llyn Tegid a Llyn Syfaddan. Ceir nifer o gronfeydd dŵr mawr hefyd, yn cynnwys Llyn Trawsfynydd, Llyn Efyrnwy, Llyn Brenig, Llyn Celyn, Llyn Alaw, Llyn Claerwen a Llyn Clywedog.

Yn ôl Cyfrifiad 2001 yr oedd 2,903,085 o bobl yn byw yng Nghymru, 1,403,782 ohonynt yn wrywod a 1,499,303 yn fenywod; roedd hwn yn gynnydd o 1% ers cyfrifiad 1991. Mae gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio; roedd y cyfartaledd oedran yn 2001 yn 36 o'i gymharu â 34 yn 1981.

Ceir y rhan fwyaf o'r boblogaeth yn y de-ddwyrain, yn ninasoedd Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe ac yn y Cymoedd.

Crewyd patrwm o 13 o siroedd yng Nghymru ar ôl Deddf Uno 1536: Sir Fôn, Sir Frycheiniog, Sir Gaernarfon, Sir Aberteifi, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Forgannwg, Sir Feirionnydd, Sir Drefaldwyn, Sir Benfro, Sir Faesyfed, a Sir Fynwy.  Y rhain ydyw siroedd hanesyddol Cymru. Yn ad-drefnu llywodraeth leol 1974 crewyd wyth sir weinyddol: Clwyd, Dyfed, Gwent, Gwynedd, Powys, Morgannwg Ganol, De Morgannwg a Gorllewin Morgannwg. Erbyn hyn y rhain yw enwau siroedd seremonïol Cymru.  Yn 1996 crewyd 22 o awdurdodau unedol i gymryd lle'r wyth sir weinyddol, a'u henwau yn cynnwys rhai o enwau'r 13 sir hanesyddol a rhai o'r wyth sir weinyddol, a'r ffiniau yn wahanol weithiau. Mae rhai o'r trefi mawrion yn awdurdodau unedol eu hunain e.e. Caerdydd, Abertawe, Wrecsam.




#Article 124: Asia (688 words)


Gyda arwynebedd tir o 44.4 miliwn km² a phoblogaeth o tua 3.4 biliwn, Asia yw'r cyfandir mwyaf yn y byd. Fe'i diffinir yn draddodiadol fel y rhan o ehangdir Affrica-Ewrasia sy'n gorwedd i'r dwyrain o Gamlas Suez a Mynyddoedd yr Ural, ac i'r de o Fynyddoedd y Cawcasws, Môr Caspia a'r Môr Du. Mae tua 60% o boblogaeth ddynol y byd yn byw yn Asia. Dim ond 2% o'r boblogaeth honno sydd yn byw yn hanner gogleddol a mewndirol y cyfandir, sef Siberia, Mongolia, Casachstan, Xinjiang, Tibet, Qinghai, gorllewin Wsbecistan a Tyrcmenistan); mae'r 98% arall yn byw yn hanner arall y cyfandir, i'r de.

Daw'r gair Asia o'r gair Groeg Ασία (Asia). Digwydd y gair am y tro cyntaf yng ngwaith yr hanesydd Groeg Herodotus (c. 440 C.C.), sy'n cyfeirio at Asia Leiaf ac Asia wrth drafod Rhyfeloedd Groeg a Phersia a'r Ymerodraeth Bersiaidd.

Mae Asia yn cynnwys tua thraean o dir y byd (44.4 miliwn km²). Mae ei hyd eithaf o'r gorllewin i'r dwyrain yn 11,000 km, ac yn 8,500 km o'r gogledd i'r de. Mae'r rhan fwyaf o Asia, o bell ffordd, yn gorwedd yn uwch na'r Cyhydedd yn hemisffer y gogledd. Dim ond rhai rhannau o Dde-ddwyrain Asia ac is-gyfandir India sydd i'r de o'r Cyhydedd.

Mae'r cyfandir yn cyffwrdd â'r Môr Arctig yn y gogledd, y Cefnfor Tawel yn y dwyrain a Chefnfor India yn y de. Yn y gorllewin mae Asia yn ffinio ag Ewrop, y Môr Canoldir, rhan ddwyreiniol Gogledd Affrica a'r Môr Coch. Mae Môr Bering, sy'n rhan o'r Cefnfor Tawel, yn gwahanu Siberia yng ngogledd-ddwyrain Asia a Gogledd America. Gorynys Arabia, India, Gorynys Malaya, Corea a Kamchatka yw'r mwyaf a'r pwysicaf o'r gorynysoedd niferus ar y cyfandir. Oddi ar arfordir y gogledd-ddwyrain ceir ynys Sachalin, ynysoedd Japan a Taiwan.

Yn is i lawr mae De-ddwyrain Asia yn cynnwys nifer fawr iawn o ynysoedd; y pwysicaf ohonynt yw ynysoedd Luzon a Mindanao yn y Y Philipinau, Borneo, yr ynysoedd Indonesaidd Sumatra, Java a Sulawesi, Timor a Gini Newydd. Yr ynysoedd pwysicaf oddi ar arfordir de Asia yw Ceylon (Sri Lanca), y Maldives ac Ynysoedd Andaman. Mae'r moroedd llai sy'n perthyn i Asia yn cynnwys y Môr Coch rhwng Arabia a gogledd-ddwyrain Affrica, Môr Arabia rhwng dwyrain Arabia a gorllewin India, Bae Bengal rhwng dwyrain India a Myanmar, Môr De Tsieina, Môr Dwyrain Tsieina rhwng Taiwan a Japan, y Môr Melyn rhwng gogledd-ddwyrain Tsieina a Corea, Môr Japan rhwng Japan a Manchuria, a Môr Okhotsk rhwng Siberia a Kamchatka.

Mae cadwyni mynydd pwysicaf Asia yn cynnwys Mynyddoedd Cawcasws, yr Hindu Kush, y Karakoram, Mynyddoedd Pamir, y Tien Shan, y Kunlun Shan a'r Himalaya ei hun sy'n cynnwys Everest, mynydd uchaf y byd.

Mae Asia yn gartref i'r rhan fwyaf o grefyddau mawr y byd ers canrifoedd lawer. Mae Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam yn tarddu o'r un ardal yng ngorllewin Asia. India yw crud Hindŵaeth, Siciaeth a Bwdiaeth, a daw Taoaeth a Chonffiwsiaeth o Tsieina. Yn y gogledd Arctaidd Shamaniaeth yw'r grefydd frodorol ac yn Japan mae Shinto yn cydfyw â Bwdiaeth.

Yn nhermau cynnyrch mewnwladol crynswth (PPP), ceir yr economi genedlaethol fwyaf yn Asia yn Ngweriniaeth Pobl Tsieina (GPCh). Dros y degawd diweddaf, mae economïau Tsieina ac India wedi tyfu'n gyflym iawn, gyda'r ddwy wlad yn mwynhau cyfradd cynydd blynyddol cyfartalog o dros 7%. GPCh yw'r economi ail fwyaf yn y byd ar ôl yr Unol Daleithiau, ac mae'n cael ei dilyn gan Japan ac India fel economïau trydydd a phedwaredd mwyaf y byd yn ôl eu trefn (yn nesaf daw economïau'r gwledydd Ewropeaidd, er enghraifft yr Almaen, DU, Ffrainc a'r Eidal).

Asia yw cyfandir mwyaf y byd, ac felly'n gyfoethog mewn nwyddau naturiol, megis petroliwm a haearn.

Mae cynhyrchiant uchel ym myd amaeth, yn enwedig yn achos reis, yn cynnal dwysedd poblogaeth uchel yn y gwledydd sydd yn yr ardal gynnes a llaith ar y Cyhydedd neu yn ei gyffiniau. Mae'r prif cynhyrchion amaethyddol eraill yn cynnwys gwenith ac ieir.

Mae coedwigaeth i'w chael ar raddfa helaeth drwy Asia i gyd, ac eithrio de-orllewin a chanolbarth y cyfandir. Mae pysgota yn un o brif ffynonellau bwyd Asia, yn enwedig yn Japan.




#Article 125: Yr Ynys Las (360 words)


Yr ynys fwyaf yn y byd yw'r Ynys Las neu'r Lasynys (Kalaallisut: Kalaallit Nunaat; Daneg: Grønland), yng Ngogledd Môr yr Iwerydd rhwng Canada a Gwlad yr Iâ. Mae brenhines Denmarc, Margrethe II, hefyd yn frenhines ar yr Ynys Las. Prifddinas yr ynys yw Nuuk.

Mae iâ yn gorchuddio 84% o'r tir. Gorchuddir y rhan fwyaf o'r wlad gan gap rhew anferth â nunatakau yn torri trwodd o gwmpas ei ymylon. O'r cap rhew hwn mae nifer o rewlifoedd, neu afonydd iâ, yn llifo, gan gynnwys Rhewlif Humboldt, ac yn torri i fyny'n fynyddoedd iâ wrth gyrraedd y môr. Nodwedd arall ar dirwedd yr Ynys Las yw'r nifer sylweddol o pingos (bryniau crwn gyda rhew yn eu canol) a geir yno.

Er gwaethaf yr holl rew, mae'r enw yn y Ddaneg (ac mewn ieithoedd Almaenaidd eraill) yn golygu Tir (neu wlad) glas (gweler isod).

Mae'r Ynys Las (2 miliwn km²) yn ymddangos ar fapiau o dafluniad Mercator cymaint ag yr Affrig (30 miliwn km²),

Cyrhaeddodd pobl yr Ynys Las am y tro cyntaf tua 2500 CC. Tua'r flwyddyn 986, darganfu'r morwr o Lychlynwr Eric Goch yr ynys. Fe'i galwodd yr Ynys Las er mwyn denu pobl yno o Wlad yr Iâ a Norwy. Cyrhaedodd yr Inuit modern o'r gogledd-orllewin tua 1200. Am gyfnod bu nifer fach o drefedigaethau Llychlynaidd ar yr arfordir, ond diflanasant erbyn y 15g, naill ai o ganlyniad i afiechyd neu ymosodiadau gan y brodorion. Yn 1721 creuwyd tref fechan Ddanaidd newydd ar yr ynys a hawliodd coron Denmarc y tir.  Cafodd yr Ynys Las ei gwahanu oddi wrth Denmarc yn ystod yr Ail Ryfel Byd o ganlyniad i feddiannaeth Denmarc gan yr Almaen. Daeth y wlad yn rhan gymathedig o Ddenmarc yn 1953. Yn 1979, y flwyddyn y collwyd y refferendwm ar ddatganoli yng Nghymru, enillodd yr Ynys Las hunanlywodraeth dan sofraniaeth Denmarc, gyda'i senedd ei hun ar gyfer materion mewnol.

Ers Mehefin 2009 yr iaith yn swyddogol yw Kalaallisut; cyn hynny roedd y Ddaneg hefyd yn iaith swyddogol. Yn ieithyddol, mae'n un deulu'r Inuit. Yn 2007 roedd 56,200 yn ei siarad yn fyd-eang. Credir i'r iaith gyrraedd yr Ynys Las pan gyrhaeddodd y Thuliaid oddeutu 1200.




#Article 126: Sbaen (629 words)


Gwlad yn ne-orllewin Ewrop yw Teyrnas Sbaen neu Sbaen (). Mae'n rhannu gorynys Iberia gyda Gibraltar a Phortiwgal, ac mae'n ffinio â Ffrainc ac Andorra yn y gogledd. Madrid yw'r brifddinas. Felipe VI yw brenin Sbaen.

Mae Sbaen yn wlad yn ne-orllewin Ewrop sy'n llenwi'r rhan fwyaf o orynys Iberia. Mae hi'n ffinio â Portiwgal i'r gorllewin, Gibraltar i'r de, a Ffrainc ac Andorra i'r gogledd dros y Pyreneau.  Mae dinasoedd Sbaen yng ngogledd yr Affrig (Ceuta a Melilla) yn ffinio â Moroco.

Ceir llawer o lwyfandiroedd uchel a mynyddoedd fel y Sierra Nevada. Rhed sawl afon o'r ucheldiroedd, Afon Tajo, Afon Ebro, Afon Duero, Afon Guadiana a Guadalquivir, er enghraifft.

Dechreua hanes Sbaen gyda dyfodiad Homo sapiens i Benrhyn Iberia a'r diriogaeth sy'n awr yn Sbaen tua 35,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ddiweddarach, meddianwyd y diriogaeth yn eu tro gan y Celtiaid, y Ffeniciaid a'r Groegiaid. Dechreuodd Gweriniaeth Rhufain feddiannu Sbaen yn y 3g CC, ac yn ddiweddarach daeth yn rhan bwysig o'r Ymerodraeth Rufeinig. Wedi cwymp yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, meddiannwyd Sbaen gan y Fisigothiaid. Yn 711 ymosodwyd ar y deyrnas Fisigothig gan fyddin Islamaidd, a chyn pen ychydig flynyddoedd roedd bron y cyfan o Sbaen ym meddiant dilynwyr Islam, heblaw am ran fechan yn y gogledd. Dan yr enw Al-Andalus, datblygodd Sbaen Islamaidd ei diwylliant unigryw ei hun yn ystod y 750 mlynedd nesaf.

Yn rhannol oherwydd ymraniadau'r Mwslimiaid, gallodd y Cristionogion yn y gogledd ddechrau proses o adennill tiriogaeth, a elwir y Reconquista, a ddaeth i ben pan orchfygwyd y deyrnas Islamaidd olaf, Teyrnas Granada. Gyda chwymp dinas Granada yn 1492 dechreuodd cyfnod newydd yn hanes Sbaen, oherwydd yr un flwyddyn hwyliodd Christopher Columbus i'r Byd Newydd. Hyn oedd dechrau Ymerodraeth Sbaen; goresgynnwyd Mecsico gan Hernando Cortés (1485—1547), a goresgynnodd Francisco Pizarro (1476—1541) diriogaeth Periw gan ddinistrio Ymerodraeth yr Inca. Meddiannwyd rhannau helaeth o ganolbarth a de America gyda rhai meddiannau yn Asia ac Affrica hefyd.

Dechreuodd nerth milwrol Sbaen edwino yn y 18g, ac yn nechrau'r 19g rhoddodd Napoleon ei frawd José Bonaparte ar orsedd Sbaen. Bu gwrthryfel poblogaidd yn erbyn y Ffrancod, a chyda chymorth byddin Brydeinig gyrrwyd hwy o'r wlad. Dilynwyd hyn gan gyfnod o ansefydlogrwydd, a chollodd Sbaen ei meddiannau tramor.

Yn 1936 dechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen, a arweiniodd at fuddugoliaeth Francisco Franco, a fu'n rheoli Sbaen fel unben hyd ei farwolaeth yn 1975. Wedi ei farwolaeth ef, daeth y brenin Juan Carlos I i'r orsedd, a chytunwyd ar gyfansoddiad democrataidd yn 1978. Ymunodd Sbaen a'r Undeb Ewropeaidd, a gwelwyd tŵf economaidd sylweddol. Yn 2002 derbyniwyd yr Euro fel arian.

Ar 1 Ionawr 2017, roedd poblogaeth Sbaen yn 46.528.966 yn ôl yr Instituto Nacional de Estadística (INE). Sbaen yw'r bumed wlad yn yr Undeb Ewropeaidd o ran poblogaeth, ond mae dwysder y boblogaeth yn gymharol isel, 92.0 person/km sgwar.

Fel llawer o wledydd Ewrop, mae'r boblogaeth yn tueddu i heneddio; yn 2006 roedd cyfartaledd oedran trigolion Sbaen yn 40.2. Roedd 14.3% o'r boblogaeth dan 15 oed, 69,0% rhwng 15 a 64, a 16.7% dros 65. I raddau, mae mewnfudiad wedi gwrthweithio'r duedd yma. Yn 2005, roedd disgwyliad bywyd yn Sbaen yn 80.2 ar gyfartaledd; 77.0 i ddynion a 83.5 i ferched.

Mae dwysder y boblogaeth yn uwch o gwmpas yr arfordir ac o amgylch Madrid. Yng nghanol y wlad, mae diboblogi yn broblem yn yr ardaloedd gwledig (mae llawer o bentrefi wedi'u gadael).

Yr ardaloedd dinesig mwyaf o ran poblogaeth yw:

Yr ynysoedd gyda'r boblogaeth fwyaf yw:

Yn ôl cyfrifiad 2006, roedd 9.27 o boblogaeth Sbaen yn dramorwyr. Roedd y mwyafrif o America Ladin (36.21%), Gorllewin Ewrop (21.06%), Dwyrain Ewrop (17.75%) a'r Magreb (14.76%).

Rhennir y wlad yn nifer o Gymunedau ymreolaethol (Comunidades autonomas yn Sbaeneg).

Ceir 50 provincia neu ranbarth, sy'n tarddu nôl i archwiliad tir 1833:




#Article 127: Ffrainc (1017 words)


Gwladwriaeth yng ngorllewin Ewrop yw Ffrainc (); enw swyddogol: Gweriniaeth Ffrainc (). Mae'n ffinio â Môr Udd, Gwlad Belg a Lwcsembwrg yn y gogledd, yr Almaen, y Swistir, a'r Eidal yn y dwyrain, Monaco, Môr y Canoldir, Sbaen ac Andorra yn y de, a Môr Iwerydd yn y gorllewin. Paris ydy'r brifddinas.

Mae'r mwyafrif o bobl Ffrainc yn siarad Ffrangeg, unig iaith swyddogol y wlad, ond ceir sawl iaith arall hefyd, megis Llydaweg yn Llydaw, Basgeg yn y rhan o Wlad y Basg sydd yn ne-orllewin Ffrainc, Corseg ar ynys Corsica, ac Ocsitaneg - iaith draddodiadol rhan helaeth o'r De. Mae nifer o fewnfudwyr a'u teuluoedd, o'r Maghreb yn bennaf, yn siarad Arabeg yn ogystal.

Yng nghyfnod yr Henfyd, adnabyddid rhan helaaeth y diriogaeth sy'n awr yn Ffrainc fel Gâl, ac fe'i preswylid gan nifer o lwythau Celtaidd mewn sawl teyrnas frodorol annibynnol. Yn 125 CC ymosododd y Rhufeiniaid ar dde Gâl, yn dilyn cais am gymorth gan drigolion Groegaidd dinas Massilia. Erbyn 121 CC roeddynt wedi concro rhan dde-ddwyreiniol Gâl; yn ddiweddarch daeth y rhan yma yn dalaith Rufeinig dan yr enw Gallia Narbonensis. Concrwyd gweddill Gâl gan Iŵl Cesar mewn cyfres o ymgyrchoedd rhwng 58 CC a 51 CC. Y frwydr dyngedfennol oedd Brwydr Alesia yn 52 CC, pan orchfygodd Cesar gynghrair o lwythau Celtaidd dan arweiniad Vercingetorix o lwyth yr Arverni.

Daeth Gâl yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig, a datblygodd diwylliant Galaidd-Rufeinig nodweddiadol yma. Daw enw presennol y wlad o'r Ffranciaid, yn wreiddiol yn nifer o lwythau Almaenig a ddaeth at ei gilydd mewn cynghrair. Yn ddiweddarch llwyddasant i greu teyrnas dan yr enw Francia mewn ardal sy’n cynnwys Ffrainc a rhan orllewinol yr Almaen. Bu Ffrainc yn rhan o deyrnas Siarlymaen a'i fab Louis Dduwiol. Wedi marwolaeth Louis, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei dri mab yng Nghytundeb Verdun. Derbyniodd  Siarl Foel Ffrancia Orllewinol, a ddaeth yn deyrnas Ffrainc yn ddiweddarach.

Yn 1337 dechreuodd rhyfel am orsedd Ffrainc rhwng Brenhinllin Plantaganet o Loegr a Brenhinllin Valois o Ffrainc, y Rhyfel Can Mlynedd. Parhaodd yr ymladd am 116 mlynedd, hyd 1453, ond gyda nifer o ysbeidiau byr o heddwch a dwy ysbaid hirach. Bu tua 81 mlynedd o ymladd i gyd. Diweddodd gyda'r Saeson yn cael eu gyrru allan o Ffrainc heblaw am Calais, ond roedd rhannau helaeth o Ffrainc wedi eu hanrheithio.

Dymchwelwyd y frenhiniaeth gan y Chwyldro Ffrengig rhwng 1789 a 1799. Cipiwyd grym gan Napoleon Bonaparte fel yr ymerawdwr Napoleon I, ac enillodd byddinoedd Ffrainc gyfres o fuddugoliaethau. Daeth y cyfnod o lwyddiannau i ben pan ymosododd Napoleon ar Rwsia yn 1812; collwyd y rhan fwyaf o'r fyddin wrth geisio dychwelyd o Rwsia. Alltudiwyd Napoleon i Ynys Elba wedi iddo gael ei orchfygu ym Mrwydr Leipzig, a phan geisiodd dychwelyd, gorchfygwyd ef yn Mrwydr Waterloo a'i alltudio i Ynys Sant Helena. Adferwyd y frenhiniaeth dros dro, yna daeth nai Napoleon yn ymerawdwr.

Yn y Rhyfel Byd Cyntaf, bu ymladd anm flynyddoedd ar diriogaeth Ffrainc rhwng yr Almaen a Ffrainc a'i chyngheiriaid. Ymhlith brwydrau enwocaf byddinoedd Ffrainc yn y cyfnod yma mae Brwydr y Marne a Brwydr Verdun. Er i Ffrainc a'i chyngheiriaid fod yn fuddugol, dioddefodd y wlad golledion enbyd.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu Ffrainc yn un o'r Cynghreiriaid. Yn dilyn Brwydr Ffrainc ym 1940 rhannwyd Ffrainc fetropolitanaidd yn rhanbarthau a feddiannwyd gan yr Almaen a'r Eidal a rhanbarth Llywodraeth Vichy oedd yn cydweithio â Phwerau'r Axis. Yn ystod blynyddoedd y feddiannaeth, brwydrodd mudiad y résistance yn erbyn y meddianwyr a'r cydweithredwyr. Adferwyd sofraniaeth Ffrengig ym 1944 ac aeth y Cynghreiriaid ymlaen i ennill y rhyfel ym 1945.

Tyfir gwenith yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, ac yno hefyd mae'r diwydiannau trymion. O gwmpas y maes glo sy'n ymestyn o Béthune hyd at Valenciennes mae'r diwydiannau haearn a dur, cemegau a gweolion. Mae ffatrioedd y cwmni rwber Michelin yn y Massif Central. Yn y de-ddwyrain tyfir gwinwydd, ffrwythau a llysiau ac wrth gwrs mae cynhyrchu gwin yn bwysig yn Ffrainc.

Mae gan Ffrainc amrywiaeth mawr o ran tirwedd, o'r gwastadeddau arfordirol yn y gogledd a'r gorllewin i fynyddoedd yr Alpau a'r Pyreneau yn y de-ddwyrain a'r de-orllewin. Yn yr Alpau Ffrengig y mae Mont Blanc, y mynydd uchaf yng ngorllewin Ewrop gydag uchder o 4810 m. Mae ardaloedd mynyddig eraill yn ogystal, gan gynnwys y Massif central, y Jura, y Vosges, y massif armoricain a'r Ardennes. Mae sawl afon nodedig yn llifo trwy'r wlad, gan gynnwys  Afon Loire, Afon Rhône (sy'n tarddu yn y Swistir), Afon Garonne (sy'n tarddu yn Sbaen), Afon Seine, ac Afon Vilaine.

Gyda phoblogaeth o 64.5 miliwn, saif Ffrainc yn 19eg ymysg gwledydd y byd. Mae tŵf naturiol (heb gynnwys mewnfudiad) y boblogaeth wedi cyflynu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn 2004, tyfodd y boblogaeth o 0.68%, tra yn 2006 roedd  299,800 mwy o enedigaethau nag o farwolaethau.

Yn 2004, ymfudodd 140,033 o bobl i Ffrainc, 90,250 ohonynt o wledydd Affrica a 13,710 o Ewrob. Yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ystadegau ac Astudiaethau Economaidd, roedd tua 4.9 miliwn o bobl wedi ei geni mewn gwledydd eraill yn byw yn Ffrainc, 2 filiwn ohonynt wedi dod yn ddinasyddion Ffrengig.

Er fod poblogaeth y wlad yn cynyddu, mae poblogaeth llawer o ardaloedd gwledig yn parhau i leihau. Yn y cyfnod 1960-1999, gostyngodd poblogaeth pymtheg o départements gwledig; y gostyngiad mwyaf oedd 24% yn Creuse.

Dinasoedd mwyaf Ffrainc yw:

Rhennir Gweriniaeth Ffrainc yn 27 région. Mae 21 ohonynt yn ffurfio'r Ffrainc gyfandirol, felly wrth gyfri Corsica hefyd, mae yna 22 région yn Ffrainc fetropolitanaidd. Y régions tramor — Guadeloupe, Martinique, Réunion, Mayotte a Guiana Ffrengig — yw'r 5 arall.

Rhennir y régions ymhellach yn 101 département. Mae pob un o'r régions tramor hefyd yn département ynddi'i hun. Mae rhif gan bob département rhif a ddefnyddir ar gyfer codau post, cofrestru ceir ac yn y blaen. Rhennir pob un o'r départements metropolitanaidd yn sawl arrondissement, a rennir wedyn yn cantons llai. Rhennir y cantons yn communes - mae yna 36,697 commune, ac mae cyngor trefol etholedig gan bob un. Rhennir communes Paris, Lyon a Marseille yn arrondissements trefol yn ogystal.

Yn ogystal â'r uchod, mae sawl tiriogaeth dramor gan Weriniaeth Ffrainc.




#Article 128: Gweriniaeth Iwerddon (650 words)


Gweriniaeth ar ynys Iwerddon yw Gweriniaeth Iwerddon (Gwyddeleg: Poblacht na hÉireann, Saesneg: Republic of Ireland; yn swyddogol Éire neu Ireland). Dulyn yw prifddinas y weriniaeth. Mae'n cynnwys 26 o 32 sir Iwerddon.

Gelwir pennaeth y wladwriaeth yn Uachtarán neu Arlywydd, ond y Taoiseach ydyw pennaeth y llywodraeth neu'r Prif Weinidog. Nid yw'r wladwriaeth Wyddeleg yn defnyddio'r enw Gweriniaeth Iwerddon i ddisgrifiio ei hunan o gwbl, mewn cytundebau rhyngwladwol a chyfansoddiadol Iwerddon (Éire, Ireland) yw'r enw a ddefnyddir.

Yn fras, gellir disgrifio nodweddion daearyddol Iwerdon fel gwastadeddau eang yng nghanol yr ynys, gyda mynyddoedd gerllaw'r arfordir yn amgylchynu'r gwastadedd hwn. Y mynydd uchaf yw Carrauntoohil (Gwyddeleg: Corrán Tuathail), sy'n 1,041 medr (3,414 troedfedd) o uchder. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd o amgylch yr arfordir, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol.

Yr afon fwyaf ar yr ynys yw Afon Shannon, sy'n 259 km (161 millir) o hyd, gydag aber sy'n 113 km (70 milltir) arall o hyd. Mae'n llifo i Fôr Iwerydd ychydig i'r de o ddinas Limerick. Ceir hefyd nifer o lynnoedd sylweddol o faint.

Mae'n anodd penderfynu pryd yn union y sefydlwyd Gweriniaeth Iwerddon. Yn 1921 llofnodwyd Cytundeb rhwng cynrychiolwyr y Weriniaeth Wyddelig (Gwyddeleg: Saorstát Éireann) a chynrychiolwyr Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon yn sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon (Saesneg: Irish Free State), roedd yr enw Saesneg, Irish Freestate, yn gyfieithiad llythrennol o enw Gwyddeleg y Weriniaeth Wyddelig, ond o dan y cytundeb hwn, roedd y wladwriaeth newydd yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig ac roedd Brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon i barhau fel brenin Iwerddon. Arweinodd hyn at ryfel cartref a gollwyd gan y gweriniaethwyr a sefydlwyd gwladwriaeth Wyddelig gyda Brenin Prydain Fawr ac Iwerddon yn frenin arni.

Yn 1937 cynhaliwyd refferendwm i sefydlu cyfansoddiad newydd i Iwerddon. Mae Cyfansoddiad Iwerddon  mewn grym hyd heddiw. Nid oedd unrhwy son yn y cyfansoddiad hwn am na brenin na chynrychiolydd Brenhinol yn Iwerddon, er ni fu i'r cyfansoddiad ddweud bod Iwerddon bellach yn wladwriaeth nac yn hollol annibynnol. I bob pwrpas roedd y cysylltiad rhwng y Deyrnas Unedig a'r Wladwriaeth Rydd ar ben. O dan y cyfansoddiad hwn Iwerddon (Éire, Ireland) oedd enw'r wlad, nid y Weriniaeth Rydd, a dyma'r sefyllfa gyfreithiol hyd heddiw.

Yn 1949 pasiwyd Deddf gan Senedd Iwerddon o'r enw Deddf Gweriniaeth Iwerddon a ddatganodd yn glir bod Iwerddon yn Weriniaeth. Ni newidiodd y Ddeddf hon gyfansoddiad 1937 ac mewn gwirionedd nid oedd ynddi ond datganiad clir a diamwys o'r sefyllfa fel y roedd mewn gwirionedd.

Nid yw'r ddau derm hyn yn gyfystyr â'i gilydd. Defyddir yr enw y Weriniaeth Wyddelig (Saesneg: The Irish Republic) i gyfeirio at y wladwriaeth chwildroadol a sefydlwyd yn 1916 gyda gwrthryfel y Pasg yn Nulyn a mannau eraill yn Iwerddon. Dyma'r wladwriaeth a anfonodd gynrychiolwyr i negodi gyda chynrychiolwyr Prydain Fawr ac Iwerddon yn 1921. Gwrthododd nifer helaeth o'r boblogaeth a'r Dáil (Senedd Iwerddon) dderbyn bod y wladwriaeth hon wedi dod i ben pan sefydlwyd y 'Wladwriaeth Rydd' ac mae rhai'n mynnu bod y wladwriaeth hon yn parhau i fodoli'n de juré (yn ôl y gyfraith o hyd). Dyma'r wladwriaeth a roddodd Byddin Weriniaethol Iwerddon ei theyrngarwch iddi tan yn ddiweddar iawn, ac mae rhai carfanau 'milwriaethus' yn honni bod y wladwriaeth hon yn bodoli o hyd, er yn guddiedig, a bod pob gwladwriaeth arall (Éire/Ireland a Gogledd Iwerddon) yn anghyfreithlon.

Defnyddir yr enw Gweriniaeth Iwerddon (Saesneg: The Republic of Ireland) ar lafar gwlad i gyfeirio at Éire/Iwerddon wedi pasio Deddf Gweriniaeth Iwerddon.

Yn draddodiadol, rhennir ynys Iwerddon yn 32 o siroedd. O'r rhain, mae 26 yng Ngweriniaeth Iwerddon, a chwech yng Ngogledd Iwerddon.

Sylwer nad yw'r siroedd hyn yn cyfateb ym mhob achos i'r unedau gweinyddol presennol.

Nodyn: * - Mae'r hen Swydd Ddulyn yn awr yn dair swydd newydd: (i) Contae Átha Cliath Theas / County of South Dublin; (ii) Contae Fine Gall / County of Fingal; (iii) Contae Dún Laoghaire–Ráth an Dúin / County of Dún Laoghaire-Rathdown.




#Article 129: Iwerddon (1018 words)


Un o'r gwledydd Celtaidd yng ngogledd orllewin Ewrop ac un ynys ym Môr Iwerydd yw Iwerddon (Gwyddeleg: Éire, a Saesneg: Ireland). Gwyddeleg, iaith Geltaidd yn perthyn i Aeleg a Manaweg, ydyw'r iaith gynhenid ond Saesneg a siaredir gan y mwyafrif ers y 19g. Mae dwy uned wleidyddol yn rhannu'r ynys: Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon (darn o'r Deyrnas Unedig).

Yn y cyfnod cynnar, nid oedd Iwerddon yn ynys, gan fod tir yn ei chysylltu ag Ynys Prydain ac ag Ewrop. Mae'r olion cyntaf sydd wedi eu darganfod hyd yn hyn yn dyddio i tua 8000 CC.. Mae llawer mwy o olion o'r cyfnod Neolithig, gyda nifer o feddau neu gromlechi enwog o'r cyfnod yma, megis Newgrange.

Credir i'r cenhadon Cristionogol cyntaf gyrraedd yr ynys tua dechrau neu ganol y 5g, gyda Sant Padrig yn arbennig o amlwg. Erbyn tua 600 roedd yr hen grefydd wedi diflannu i bob pwrpas. O tua 800 bu llawer o ymosodiadau gan y Llychlynwyr, a bu difrod fawr ar y mynachlogydd o ganlyniad. Ymsefydlodd rhai o'r Llychlynwyr ar arfordir dwyreiniol Iwerddon a thyfodd Dulyn yn ganolfan bwysig yn y byd Llychlynaidd. Roedd yna gysylltiadau cryf rhwng Gwŷr Dulyn a brenhinoedd Gwynedd erbyn yr Oesoedd Canol. Ganwyd Gruffudd ap Cynan yn Nulyn a'i fagu yn Swords gerllaw. Roedd yn fab i Cynan ap Iago a Ragnell ferch Olaf Arnaid, brenin Daniaid Dulyn, ac yn ystod ei ymdrechion i ennill rheolaeth dros Wynedd cafodd Gruffudd lawer o gymorth o Iwerddon. Yn 1169 ymosodwyd ar yr ynys gan arglwyddi Normanaidd, llawer ohonynt o arglwyddiaethau Normanaidd Cymru, megis eu harweinydd Richard de Clare, 2il Iarll Penfro, a elwid yn Strongbow. Roedd y rhain yn ddeiliaid y goron Seisnig, ond dim ond yn raddol y daeth brenhinoedd Lloegr i lwyr reoli Iwerddon. Am ganrifoedd dim ond Y Rhanbarth Seisnig yr oeddynt yn ei reoli, gyda ffiniau hwn yn amrywio yn ôl llwyddiant milwrol y ddwy ochr. Bu cyfres o ymgyrchoedd milwrol rhwng 1534 a 1691, yn cynnwys ymgyrch gan Oliver Cromwell yn 1649–50 pan laddwyd miloedd o Wyddelod. Yn yr un cyfnod trawsblannwyd miloedd o ymfudwyr o Loegr a'r Alban i Iwerddon.

Yn y cyfnod yma roedd gan Iwerddon ei senedd ei hun, er nad oedd gan y mwyafrif o'r brodorion, oedd yn Gatholigion, unrhyw ran mewn llywodraeth. Bu gwrthryfel yn 1798 gyda rhywfaint o gymorth o Ffrainc, ond cafodd ei orchfygu a lladdwyd miloedd lawer. Yn 1801, gwnaed i ffwrdd a senedd Iwerddon a chafodd yr ynys ei hymgorffori yn y Deyrnas Unedig. Yn 1823, dechreuodd cyfreithiwr Catholig, Daniel O'Connell, ymgyrch i sicrhau'r bleidlaid i Gatholigion, a llwyddwyd i sicrhau hyn yn 1829. Yn y cyfnod 1845-1849 effeithiwyd ar yr ynys gan Y Newyn Mawr (Gwyddeleg: An Gorta Mór). Credir i tua miliwn o bobl farw o newyn a gorfodwyd i nifer llawer mwy ymfudo o Iwerddon i geisio bywoliaeth. Lleihaodd poblogaeth Iwerddon o 8 miliwn cyn y newyn i 4.4 miliwn yn 1911. Yn rhannol oherwydd hyn, ac hefyd oherwydd effaith ysgolion Saesneg eu hiaith, dechreuodd y ganran o'r boblogaeth a fedrai'r iaith Wyddeleg leihau, a diflannodd yn hollol o rai ardaloedd.

Parhaodd cenedlaetholdeb yn gryf, a bu nifer o wrthryfeloedd yn ystod hanner cyntaf y 19g. Bu hefyd ymgyrchoedd am hunanlywodraeth trwy ddulliau seneddol, ac yn y 1870au daeth hyn yn bwnc llosg trwy ymdrechion Charles Stewart Parnell. Cyflwynodd y prif weinidog Prydeinig William Ewart Gladstone ddau fesur i roi hunanlywodraeth i Iwerddon yn 1886 a 1893, ond gorchfygwyd hwy yn Nhy'r Cyffredin. Yn 1910 roedd y Blaid Seneddol Wyddelig dan John Redmond mewn sefyllfa gref yn Nhy'r Cyffredin, gyda'r Rhyddfrydwyr yn dibynnu ar eu cefnogaeth i barhau mewn grym. Yn 1912 cyflwynwyd mesur arall i roi hunanlywodraeth i Iwerddon o fewn y Deyrnas Gyfunol, ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan y Protestaniaid yn y gogledd-ddwyrain. Rhoddodd dechreuad y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 derfyn ar y mesur am y tro.

Yn 1916 bu gwrthryfel arall, Gwrthryfel y Pasg, gydag ymladd ffyrnig yn ninas Dulyn dros wythnos y Pasg. Gorchfygwyd y gwrthryfel gan y fyddin Brydeinig a dienyddiwyd nifer o'r arweinwyr, yn cynnwys Padraig Pearse a James Connolly. Fodd bynnag, trodd hyn lawer o boblogaeth Iwerddon o blaid annibyniaeth lwyr. Yn Ethloliad Cyffredinol 1918, collodd y Blaid Seneddol Wyddelig, oedd yn ceisio hunanlywodraeth, bron y cyfan o'u seddau yn Iwerddon i Sinn Féin, oedd yn hawlio annibyniaeth lwyr.  Roedd llawer o'r rhai a gymerodd ran yn y gwrthryfel ymysg y rhai a sefydlodd y Dáil Cyntaf yn 1919, yn eu plith Éamon de Valera a Michael Collins. Datblygodd rhyfel rhwng Byddin Weriniaethol Iwerddon (yr I.R.A) a'r fyddin Brydeinig a'i hunedau cynorthwyol megis y Black and Tans. Yn 1922 arwyddwyd cytundeb rhwng yr arweinwyr Gwyddelig, Arthur Griffith a Michael Collins, a'r llywodraeth Brydeinig dan David Lloyd George. Roedd y cytundeb yma yn rhoi annibyniaeth i 26 o siroedd Iwerddon, gan greu Gweriniaeth Iwerddon, ond gyda chwech sir yn y gogledd-ddwyrain, lle roedd y mwyafrif o'r boblogaeth yn Brotestaniaid, yn parhau yn rhan o'r Deyrnas Unedig.

Yn fras, gellir disgrifio nodweddion daearyddol Iwerdon fel gwastadeddau eang yng nghanol yr ynys, gyda mynyddoedd gerllaw'r arfordir yn amgylchynu'r gwastadedd hwn. Y mynydd uchaf yw Corrán Tuathail (Saesneg: Carrauntoohil), ym mynyddoedd Macgillycuddy’s Reeks yn Swydd Kerry yn y de-orllewin, sy'n 1,041 medr (3,414 troedfedd) o uchder. Ymhlith mynyddoedd eraill yr ynys mae Mynyddoedd Wicklow. Ceir nifer sylweddol o ynysoedd o amgylch yr arfordir, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol.

Yr afon fwyaf ar yr ynys yw Afon Shannon, sy'n 259 km (161 millir) o hyd, gydag aber sy'n 113 km (70 milltir) arall o hyd. Mae'n llifo i Fôr Iwerydd ychydig i'r de o ddinas Limerick. Ceir hefyd nifer o lynnoedd sylweddol o faint; Lough Neagh yn y gogledd yw'r mwyaf; Loch Coiribe yn y gorllewin yw'r ail o ran maint, a llyn mwyaf Gweriniaeth Iwerddon. Trydydd llyn Iwerddon o ran maint yw Loch Deirgeirt (Lough Derg) ar Afon Shannon.

Mae gan Iwerddon nifer o ynysoedd, yn enwedig oddi ar yr arfordir gorllewinol. Y fwyaf o'r ynysoedd hyn yw Ynys Achill; mae Ynysoedd Arann hefyd yn nodedig. Ymhlith yr ynysoedd eraill mae Ynysoedd Blasket, Ynys Rathlin ac Ynys Toraigh.




#Article 130: Éamon de Valera (277 words)


Éamon de Valera (ganwyd Edward George de Valera, enw Gwyddeleg Éamonn de Bhailéara) (14 Hydref 1882 - 29 Awst 1975), oedd un o arweinyddion y mudiad dros annibyniaeth Iwerddon oddi wrth Brydain ar ddechrau'r ugainfed ganrif. Cymerodd ran yng Ngwrthryfel y Pasg yn 1916, a bu bron iddo gael ei ddienyddio gydag arweinwyr eraill y gwrthryfel.

Gwrthododd arwain y ddirprwyaeth a aeth i Lundain i gael Cytundeb gyda Llywodraeth Prydain. Arhosodd yn ôl yn Nulyn. Ond roedd yn anghytuno'n llwyr gyda'r teledau a arwyddwyd ar ei ran gan Michael Collins, Arthur Griffith a'r dirprwyaeth, ac yn flin na wnaethant gysylltu a thrafod ag ef cyn arwyddo. Achosodd teledau'r cytunedb a arwyddwyd, Cytundeb Eingl-Wyddelig iddo ymddiswyddo fel Arlywydd Iwerddon.

Yn ddiweddarch daeth yn arweinydd yr wrthblaid Weriniaethol yn ystod y Rhyfel Cartref Iwerddon 1922-23. Wedi methiant y Rhyfel Cartref i newid polisi y wladwriaeth newydd, fe sefydlodd de Valera blaid weriniaethol newydd, Fianna Fáil a ddaeth fewn i rym yn 1932. Yn ddiweddarach, daeth yn Brif Weinidog dair gwaith (y tro cyntaf fel ail Arlywydd y Cyngor Gweithredol, ac fel y Taoiseach cyntaf (teitl y Prif Weinidog yn ôl Cyfansoddiad 1936)). Gorffennodd ei yrfa wleidyddol fel trydydd Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon (Gwyddeleg: Uachtarán na hÉireann), rhwng 25 Mehefin 1959 a 24 Mehefin 1973.

De Valera oedd prif awdur a symbylydd ysgrifennu Cyfansoddiad Iwerddon ar ddiwedd yr 1930au. Rhoddodd y Cyfansoddiad statws a threfn i Wladwriaeth Rydd Iwerddon. Er bod pwyslais fawr ar ddysgeidiaeth grefyddol Catholig mae'n ymwerthod â gwneud Catholigiaeth yn grefydd swyddogol y wladwriaeth newydd. Bu sawl newid i'r cyfansoddiad dros y degawdau, ond mae'n dal i fod, yn ei hanfod, yn arwydd o lwyddiant gwaddol de Valera.




#Article 131: Yr Almaen (798 words)


Gweriniaeth Ffederal yr Almaen neu'r Almaen (Almaeneg: Bundesrepublik Deutschland ). Gweriniaeth ffederal yng nghanol Ewrop yw'r Almaen. Mae'n ffinio â Môr y Gogledd, Denmarc, a'r Môr Baltig (Almaeneg: Ostsee, sef Môr y Dwyrain) yn y gogledd, Gweriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl yn y dwyrain, y Swistir ac Awstria yn y de, a Ffrainc, Lwcsembwrg, Gwlad Belg a'r Iseldiroedd yn y gorllewin. Berlin yw'r brifddinas.

Ni chafwyd chwyldro Almaenig ond y mae’r modd yr ymatebodd y tiroedd Almaenig i her chwyldroadol y Chwyldro Ffrengig, gan addasu syniadau 1789, wedi llunio datblygiad gwleidyddol a chymdeithasol yr Almaen hyd at yr 20g.

Y cofnod cyntaf a geir o hanes yr Almaen yw am nifer o lwythau Almaenig a oedd yn byw yn y diriogaeth sy'n awr yn wladwriaeth yr Almaen. Gorchfygwyd rhai o'r rhain gan y Rhufeiniaid, a daeth y rhannau i'r gorllewin o Afon Rhein yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Bu'r Rhufeiniaid yn ymgyrchu tu hwnt i afon Rhein hefyd, ond ni lwyddasant i'w gwneud yn rhan o'r ymerodraeth. Yn 9 OC. gorchfygwyd byddin Rufeinig dan Publius Quinctilius Varus gan gynghrair o lwythau Almaenig dan Arminius ym Mrwydr Fforest Teutoburg. Dinistriwyd tair lleng Rufeinig yn llwyr. Dilynwyd y frwydr gan saith mlynedd o ymladd, cyn i'r ffin gael ei sefydlogi ar hyd afon Rhein.

Sefydlwyd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn y 9g, a pharhaodd hyd 1806. Yr Almaen oedd cnewyllyn yr ymerodraeth, er ei bod ar adegau yn cynnwys Awstria, Slofenia, Gweriniaeth Tsiec, gorllewin Gwlad Pwyl, yr Iseldiroedd, dwyrain Ffrainc, y Swistir a rhan o ogledd yr Eidal. Collwyd llawer o'r tiriogaethau hyn erbyn canol y 16g, a daeth i'w galw yn Ymerodraeth Lân Rufeinig y Genedl Almaenig.

Rhwng 1618 a 1648, effeithiwyd yn fawr ar yr Almaen gan frwydrau'r Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain. Dechreuodd y rhyfel fel anghydfod crefyddol rhwng y Protestaniaid a'r Catholigion o fewn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn raddol, tynnwyd y rhan fwyaf o wledydd Ewrop i mewn i'r ymladd, llawer ohonynt am resymau nad oedd yn gysylltiedig â chrefydd. Ymladdwyd y rhan fwyaf o'r brwydrau yng nghanolbarth Ewrop, yn enwedig yr Almaen. Gwneid llawer o ddefnydd o fyddinoedd o hurfilwyr, ac anrheithiwyd tiriogaethau eang ganddynt. Credir i boblogaeth y gwladwriaethau Almaenig ostwng o tua 30% yn ystod y rhyfel; yn Brandenburg roedd y colledion tua hanner y boblogaeth. Diweddodd y rhyfel gydag arwyddo Cytundeb Münster, rhan o Heddwch Westphalia.

Ffurfiwyd y Conffederasiwn Almaenig yn 1815, yna ffurfiwyd Ymerodraeth yr Almaen yn 1871, gydag Otto von Bismarck yn ffigwr allweddol. Daeth yr ymerodraeth i ben ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a ffodd yr ymerawdwr Wilhelm II i'r Iseldiroedd.

Sefydlwyd Gweriniaeth Weimar yn 1919, ond dilynwyd y rhyfel gan gyni mawr, a wnaed yn waeth gan y teimlad gan ran o'r boblogaeth o ddarostyngiad cenedlaethol oherwydd Cytundeb Versailles. Yn 1933 daeth Adolf Hitler yn Ganghellor. Daeth diwedd ar Weriniaeth Weimar a dechreuodd y Drydedd Reich. Arweiniodd hyn at yr Ail Ryfel Byd 1939–1945. Wedi i'r Almaen gael ei gorchfygu, rhannwyd y wlad yn ddwy, Gorllewin yr Almaen a Dwyrain yr Almaen. Parhaodd hyn hyd 1990, pan adunwyd y wlad.

Gwastadedd yw rhan helaeth o ogledd yr Almaen, rhan o Wastadedd Canolbarth Ewrop. Mae'r de yn llawer mwy mynyddig, yn enwedig yn yr Alpau, lle mae'r copa uchaf, y Zugspitze, yn cyrraedd 2,962 medr o uchder.

Ac eithrio Afon Donaw yn y de, mae afonydd yr Almaen yn llifo tua'r Môr Tawch a'r Môr Baltig, gan gynnwys Afon Rhein, Afon Elbe, Afon Weser ac Afon Ems, sy'n llifo tua'r gogledd. Y llyn mwyaf yw'r Bodensee, er nad ydyw yn ei gyfanrwydd yn gyfan gwbl o fewn ffiniau'r Almaen.

Gyda phoblogaeth o tua 81,198,000 (Rhagfyr 2014), yr Almaen yw'r wlad fwyaf o ran poblogaeth sy'n gyfan gwbl o fewn Ewrop, a'r 14eg fwyaf poblog yn y byd. O'r rhain, mae tua 16 miliwn heb fod o dras Almaenig, gyda phobl o dras Tyrcaidd y mwyaf niferus o'r rhain, 1,713,551 yn 2007. Nid yw'r boblogaeth yn cynyddu ar hyn o bryd.

Gelwir pedwar grŵp o bobl yn lleiafrifoedd cenedlaethol, y Daniaid, Frisiaid, Roma a Sinti, a'r Sorbiaid. Wedi'r Ail Ryfel Byd, symudodd tua 14 miliwn o Almaenwyr ethnig i'r Almaen o Ddwyrain Ewrop, ac ers y 1960au bu mewnfudo Almaenwyr ethnig o Casachstan, Rwsia a'r Wcrain. Er i'r rhan fwyaf o Iddewon yr Almaen gael eu llofruddio yn yr Holocost, mae'r niferoedd wedi cynyddu yn ddiweddar, gyda thros 200,000 wedi ymfudo i'r Almaen o Ddwyrain Ewrop ers 1991.

Dinasoedd mwyaf yr Almaen, gyda ffigyrau poblogaeth ar gyfer Rhagfyr 2005, yw: 

Y prif enwadau a chrefyddau yw:

Ceir y rhan fwyaf o Gatholigion yn y de-ddwyrain, yn ne Bafaria, ac yn ardal Cwlen, tra bo Protestaniaid yn fwyaf niferus yn y gogledd.

Mae'r Almaen yn weriniaeth ffederal sy'n cynnwys 16 o daleithiau ffederal a elwir yn Länder (unigol: Land):




#Article 132: Denmarc (216 words)


Mae Teyrnas Denmarc (Daneg: Kongeriget Danmark) neu Denmarc (Daneg: ) yn deyrnas Lychlynnaidd fach yng ngogledd Ewrop. Mae Môr y Gogledd yn amgylchynu'r wlad, ag eithrio'r ffin ddeheuol â'r Almaen.

Unwyd Denmarc yng nghyfnod y Llychlynwyr, yn y 10g, gan y brenin Harald Ddantlas († 985), a drodd y wlad at Gristnogaeth. Yn yr 11g, cymerodd Denmarc feddiant ar Loegr am gyfnod. Yn 1397, unodd a Sweden a Norwy. Parhaodd yr undeb a Sweden hyd 1523 a'r undeb a Norwy hyd 1814. Arferai Gwlad yr Iâ fod ym meddiant Denmarc hefyd, hyd nes iddi ddod yn annibynnol yn 1944. O 1940 hyd 1945, meddiannwyd Denmarc gan yr Almaen. Yn 1973 daeth yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.

Denmarc yw'r fwyaf deheuol o wledydd Llychlyn. Mae'n cynnwys y rhan fwyaf o orynys Jylland (Jutland) a thua 405 o ynysoedd. Y mwyaf o'r rhain yw Sjælland, Fyn, Lolland, Falster, Langeland, Als, Møn, Bornholm ac Amager. Tir isel yw bron y cyfan o'r wlad, gyda mwy na 65% yn dir amaethyddol. Y copa uchaf yw Møllehøj, 170.86 medr.

Saif y brifddinas ar ynys Sjælland (Seeland), sydd a chulfor Øresund yn ei gwahanu oddi wrth Sweden. Cysylltir  Copenhagen a dinas Malmö yn Sweden gan Bont Øresund a thwnel. Yr unig ffin ar dir sych yw'r ffin a'r Almaen yn y de.




#Article 133: Ynys Enlli (492 words)


Ynys ar gwr gogleddol Bae Ceredigion sy'n gorwedd i'r gorllewin o benrhyn Llŷn, yng  Ngwynedd, yw Ynys Enlli ().

Rhaid croesi'r Swnt, sef y môr rhwng Aberdaron ac Enlli, i fynd i'r ynys.

Sefydlwyd mynachlog ar Enlli yn y bumed ganrif gan Sant Cadfan. Dichon bod meudwyon clas Aberdaron yn croesi i'r ynys er mwyn ymneilltuo o'r byd yn yr oesoedd cynnar. Yn ystod yr Oesoedd Canol daeth yr ynys yn gyrchfan pererindota enwog. Roedd tair pererindod i Ynys Enlli yn cyfateb i un i Rufain. Yn ôl traddodiad mae ugain mil o saint wedi eu claddu yno. Yn ddiweddarach disodlwyd yr hen fynachlog Geltaidd gan Abaty'r Santes Fair, abaty Awstinaidd; mae olion yr hen abaty i'w gweld yno o hyd.

Galwodd Gerallt Gymro yn Nefyn ar ei daith trwy Gymru yn 1188. Dyma ei ddisgrifiad o'r ynys:

Codwyd goleudy ar bwynt deheuol yr ynys yn 1821. Mae'r goleudy o siâp sgwâr anghyffredin ac yn gant troedfedd o uchder. Fel yn achos Ynys Lawd, Joseph Nelson oedd y pensaer. Costiodd £2,950 i godi. Mae'r goleudy yn otomatig bellach ac yn cael ei redeg o ganolfan gwylio'r glannau Caergybi.

Mae Gwylfa Adar ar yr ynys, sy'n bwysig fel man nythu i nifer o rywogaethau, yn enwedig Aderyn-Drycin Manaw. Yn ystod y tymor mudo yn yr hydref gellir gweld adar anarferol iawn ar yr ynys.

Mae'r ynys yng ngofal Ymddiriedolaeth Ynys Enlli. Ceir fferm weithredol ar yr ynys o hyd ac mae hi'n boblogaidd gan ymwelwyr sy'n ceisio tawelwch. Ar dywydd braf gellir croesi'r Swnt iddi ar gychod sy'n hwylio o Aberdaron.

Enlli yw cartref gwreiddiol Afalau Ynys Enlli, a elwir weithiau yr afal mwyaf prin yn y byd. Credir i'r coed afalau gael eu tyfu yno aers y 14g gan y mynachod. Goroesoedd rhai enghreifftiau dros y canrifoedd ond ni chafodd ei hadnabod yn rhywogaeth arbennig tan 1998 pan anfonodd Ian Sturrock sampl i'r Casgliad Ffrwythau Cenedlaethol yn Brogdale, Caint. Mae coed Afalau Enlli ar werth mewn sawl man erbyn heddiw.

Daeth un o ddyddiaduron William Jones, Enlli, gweinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ar yr Ynys, i’r fei yn 2012. Dyddiadur y flwyddyn 1906 ydoedd, ac yn ogystal â’i drefniadau yn y gwahanol gapeli ym Mhen Llŷn roedd o hefyd yn cofnodi’r glaw a ddisgynodd ar yr ynys ddiwrnod olaf pob mis (neu’r diwrnod cynt os digwyddai i’r diwrnod olaf ddisgyn ar y Sabboth!)

Dilyna cofnodion WJ (graff uchaf) y stadegau swyddogol Cymru a Lloegr y flwyddyn honno yn agos. Ionawr, Mehefin a Thachwedd oedd yr eithriadau gyda ffigyrau’r gweinidog yn is o dipyn na’r cyfartaledd ehangach. Mae hyn yn nodweddiadol o ynysoedd sydd yn aml gyda’u “hinsawdd eu hunain”.

Er i offeiriaid yr eglwys Anglicanaidd ragori fel naturiaethwyr dros tair canrif (er gwell neu waeth i’w dyletswyddau bugeiliol eraill!) ychydig o dystiolaeth sydd yna am weinidogion anghudffurfiol yn ymddiddori yn y byd o’u cwmpas (ai ar y Byd Nesaf oedd eu bryd?). Ymddengys felly bod William Jones yn eithriad hn hyn o beth.




#Article 134: Prydain Fawr (474 words)


Mae Prydain Fawr yn ynys oddi ar arfordir gogledd gorllewinol Ewrop. Hi ydyw'r fwyaf o'r Ynysoedd Prydeinig. Mae tair cenedl o fewn yr ynys, sef Cymru, Yr Alban a Lloegr (mae rhai pobl yn ystyried Cernyw yn bedwaredd genedl nas cydnabyddir yn swyddogol). Yn wleidyddol, ystyrir bod yr ynysoedd llai sydd yn rhannau o Gymru, Lloegr, neu'r Alban, fel Ynys Enlli er enghraifft, yn rhannau o Brydain Fawr hefyd. Llywodraethir yr ynys gan senedd yn Llundain fel rhan o wladwriaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, er bod mesur o hunanlywodraeth gan Gymru a'r Alban erbyn hyn. Sylwer nad ydyw talaith Gogledd Iwerddon yn rhan o Brydain Fawr.

Mae'r enw ei hun yn bur ddiweddar. Ynys Prydain neu Brydain oedd yr enw gwreiddiol ac fe'i gelwid felly am ei bod yn gartref i'r Brythoniaid (er bod lle i ddadlau fod yr enw Brythoneg Prydein a'r enw Goideleg cyfystyr Cruithenn yn cyfeirio at y Pictiaid yn wreiddiol). Britannia oedd enw'r Rhufeiniaid ar yr ynys, yn seiliedig ar y gair Brythoneg.

Dan bwysau'r goresgynwyr o'r Almaen, sef y Sacsoniaid, yr Eingl a llwythi Germanaidd eraill, ymfudodd nifer o Frythoniaid rhannau deheuol yr ynys dros y môr i Lydaw. Mae'r enw Llydaweg Breizh (a'r Ffrangeg Bretagne) yn adlewyrchu'r mudo hwnnw. Gair arall am Brydain yw Breizh/Bretagne ac felly, er mwyn gwahaniaethu rhwng Llydaw ac Ynys Prydain dechreuodd yr arfer o alw Prydain yn Brydain Fawr. Mae'n debyg mai cyfieithiad o'r Ffrangeg Grande Bretagne ydyw'r Saesneg Great Britain.

Nid oes unrhyw arlliw gwleidyddol i'r enw yn wreiddiol, felly. Doedd Prydain Fawr ddim yn wlad a doedd yr ansoddair 'mawr' ddim yn golygu great chwaith. Dim ond yn ddiweddarach, gyda thwf yr Ymerodraeth Brydeinig, y daeth yr arlliw gwleidyddol i fod.

Diddorol nodi hefyd mai Prydain Fach yw ystyr yr enw Gwyddeleg am Gymru, sef An Bhreatain Bheag (y tir llai oedd dal ym meddiant y Brythoniaid ar ôl i'r Saeson gipio'r hyn a elwir yn Lloegr heddiw) a Prydain yw ystyr yr enw Llydaweg am Lydaw, sef Breizh.

Yn y Chwedegau bathwyd y term hwn fel cywiriad gwleidyddol ac fe'i defnyddir ar lafar a gan y cyfryngau torfol yn eithaf rheolaidd bellach. Mae'n dwyshau'r ymdeimlad hwnnw fod Cymru yn wlad, ac nid yn rhan o wlad Prydain (sef y DU). Gweler Y Dystiolaeth Brydeinig gan Owain Owain yn Y Faner, 21/10/1965 ac athroniaeth ddiweddarach Yr Athro J. R. Jones yn ei gyfrol 'Prydeindod'.

Ceir peth amwysedd yn y defnydd a wneir o'r enw Gwledydd Prydain. I rai mae'n golygu tair gwlad Prydain (Fawr), sef Yr Alban, Cymru a Lloegr, yn unig ond fe'i defnyddir hefyd fel enw amgen am y DU (a gamenwir yn 'Brydain' yn aml); ond dydy Prydain ddim yn cynnwys Gogledd Iwerddon nac yn ddaearyddol – am ei bod yn rhan o ynys Iwerddon – nac yn gyfansoddiadol o fewn y DU (gweler uchod).




#Article 135: Afon Menai (822 words)


  
Sianel dŵr hallt neu gulfor yng ngogledd-orllewin Cymru rhwng Ynys Môn ac Arfon (Gwynedd) ar y tir mawr yw  Afon Menai. Ei hyd yw tua 14 milltir. Mae lled y Fenai yn amrywio o lai na chwarter milltir ger Porthaethwy, lle mae Pont Y Borth yn ei chroesi, a ger Llanfairpwll lle mae Pont Britannia yn ei chroesi, i tua 3 milltir a hanner yn ei phen gorllewinol. Yn y gorllewin ceir nifer o lagwnau bychain, Y Foryd ar y tir mawr a Thraeth Melynog ar dir Môn. I'r gogledd-ddwyrain o'r pontydd mae'r Fenai yn ymledu dros Draeth Lafan rhwng Penmon ac Ynys Seiriol yn y gogledd a Phenmaenmawr yn y de ac yn mynd yn rhan o Fae Conwy. Mae'r llanw yn rhedeg yn gyflym trwyddi weithiau ac yn gallu bod yn beryglus, yn arbennig yng nghyffiniau trobwll Pwll Ceris.

Ceir sawl tref a phentref ar ei glannau. Ar lannau Gwynedd ceir Caernarfon, Y Felinheli a Llanfairfechan, ac ar yr ynys ceir Porthaethwy a Biwmares.
 
Mae’r afon yn mynd i ddwy lle sef Pont Grog y Borth sydd yn cario’r A5, a Robert Stephenson 1850 Pont Britannia. Roedd Pont Britannia yn cario rheilffordd oedd yn symud bocsys mawr allan o heuan ond ar ôl tan fawr wnaeth dinistrio’r lle yn 1970 doedd yna bron iawn dim byd ar ôl yno. Ond cafodd i ail adeiladu a rŵan hefo rheilffordd a ffordd traffig sef y A55. Rhwng y ddwy pont mae yna ynys fach yno Ynys Gored Goch, hefo tai bach wedi cael ei adeiladu arno, a thrap pysgod sydd ddim yn cael ei defnyddio dim mwy.
  

Mae’r enw Menai yn dod o ‘Men-aw’ neu ‘Main-wy’, sydd yn meddwl ‘dŵr cul’.   
Yng nghwrs hanes Cymru gwelid sawl brwydr ar y Fenai neu ar ei glannau, o gyfnod y Rhufeiniaid pan wynebwyd lleng Suetonius Paulinus gan derwyddon a gwragedd Môn i Oes y Tywysogion. Un o fwriadau'r Saeson wrth godi castell Biwmares a chastell Caernarfon oedd gwarchod y fynedfa i'r Fenai o'r ddau ben.

Yn yr 11 canrif daeth dwy ffrind gyda'i gilydd i dwyn o Gymru ond wrth iddyn nhw wneud hynny dechreuodd y ddwy ffraeo a chawsant nhw frwydr yn yr Afon Menai. Ei enwau oedd Echmarcach mac Ragnaill ac Guttorm Gunnhildsson. Curodd Guttorm wrth weddïo i'r Sant Olaf ac roedd Echmarcach wedi cael ei lladd.  

Yn yr 12 canrif roedd yna frwydr arall yn yr afon Menai gan iarll o’r enw Magnus Erlendson, sant Magnus yn y dyfodol. Roedd yn cael ei nabod oherwydd bod yn grefyddoldeb a thirionder. Roedd yn gwrthod i ymladd yn y frwydr yn Ynys Môn, mi wnaeth aros yn ei chwch. Ac mae’r digwyddiad yma wedi troi i nofel o’r enw ‘Magnus’ ac opera o’r enw ‘The Martyrdrome of Sant Magnus’. Ac mae’r naw darn cyntaf wedi cael ei enwi ‘The Battle of Menai Strait’.  

Roedd yna ddigwyddiad gyda awyren. Roedd yn stormus iawn ac er roedd y ddynes eisiau trio pasio trwyddo, roedd yr awyrennwr yn gwybod bysant nhw ddim yn gwneud o drwy'r storm. Oherwydd y storm mi wnaethom gael ddamwain i mewn i bont, ond mi wnaeth neb byw. Os rydach yn mynd yno rŵan ac yn edrych yn agos ar y bont a'r tai o amgylch rydach yn gallu gweld hoelion o’r digwyddiad.

Mae’r Afon rydem yn weld heddiw yn ganlyniad o achosiad  erydiad rhewlifol o’r creigwely ymlaen llinell gwan roedd mewn cysylltiad gyda nam yn y system yn yr Afon Menai. Trwy'r gyfres o gynfas o rew ac oherwydd hynny symudodd o gogledd-ddwyrain ar draws Ynys Môn a llefydd cyfagos Arfon ac yn ysgwrfa'r graig ar y gwaelod, a gronyn hefyd yn teithio'r un ffordd.  Y canlyniad oedd cyfres o greigwely llinol tyno trwy’r frodir. Roedd y rhan dwfn wedi cael ei orlifo gan y môr ar y diwedd o’r oes rhew pan gorffennodd.

Am fod y llanw mor anghyffredin a'i dyfroedd mor gysgodedig, mae gan y Fenai ecoleg amrywiol ac unigryw. Ceir nifer o ysbynau môr yno. Sefydlwyd Ysgol Gwyddorau'r Môr Prifysgol Cymru, Bangor yn rhannol er mwyn ei hastudio. Gobeithir troi'r rhan fwyaf o'r Fenai yn Warchodfa Morwrol yn y dyfodol agos. Mae llawer o'r tir ar lannau Menai ar ochr Ynys Môn, rhwng Ynys Llanddwyn a Phorthaethwy, eisoes yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Mae’r effaith rydach yn weld mae’r llanw yn cael yn gallu fod yn ddryslyd weithiau. Wrth i godiad llanw dynesu o’r de-orllewin, sydd yn achosi’r dŵr i ddilyn a mynd gogledd-ddwyrain ac wrth i hynny digwydd mae’n achosi’r lefelau’r dŵr i godi. Hefyd mae’r llanw yn llifo o amgylch Ynys Môn hyd nes, ar ôl ychydig o amser, mae’n dechrau llifo i'r afon a mynd i'r cyfeiriad de-orllewin o Biwmares.  Erbyn yr amser mae hwn yn digwydd mae’r llanw o ddiwedd Caernarfon yn gwanhau ac mae’r llanw yn cario mlaen i godi mewn taldra ond mae’r ffordd mae’r llanw’n mynd yn newid.   

Mae'n bosib mai tarddiad y gair Menai ydyw 'Men', sef 'mynd'.




#Article 136: Yr Iseldiroedd (738 words)


Gwlad a theyrnas ar lan Môr y Gogledd yng ngorllewin Ewrop sy'n ffinio â'r Almaen i'r dwyrain a Gwlad Belg i'r de yw'r Iseldiroedd (Iseldireg: ). Amsterdam yw'r brifddinas a'r Iseldireg yw prif iaith y wlad a'i hiaith swyddogol.

Cyfaneddwyd tiriogaeth presennol yr Iseldiroedd yn Hen Oes y Cerrig. Mae'r oes hanesyddol yn dechrau yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rhufeinig, gan gynhwyswyd y rhannau o'r wlad i'r de o afon Rhein yn nhalaith Rufeinig Gallia Belgica, ac yn ddiweddarach Germania Inferior. Cyfaneddid y wlad ar y pryd gan amryw o lwythi Germanaidd, a chyfaneddid y de gan y Gâliaid, a gyfunodd gyda newydd-ddyfodiaid yn perthyn i lwythau Germanaidd yn ystod Cyfnod yr Ymfudo. Ymfudodd Ffranciaid Salia i Âl o'r ardal yma, gan sefydlu llinach pwerus y Merovingiaid erbyn y 5g.

Dechreuodd ymerodraeth drefedigaethol yr Iseldiroedd gyda sefydlu Cwmni Iseldiraidd Dwyrain India yn 1602, gan sefydlu presenoldeb cryf yn ynysfor Indonesia. Roedd y trefedigaethau Iseldiraidd hefyd yn cynnwys Curaçao yn y Caribî, de Affrig, Mauritius, Seland Newydd a Tasmania. O 1641 hyd at 1853, roedd gan yr Iseldiroedd fonopoli ar fasnach gyda Siapan.

Rhennir yr Iseldiroedd yn ddeuddeg o daleithiau fel a ganlyn (gyda'i prifddinasoedd):

Rhennir pob talaith y gymunedau neu gemeenten; mae 380 ohonynt i gyd.

Nodweddion pwysicaf daearyddiaeth yr Iseldiroedd yw fod y tir yn isel a dwysder y boblogaeth yn uchel. Mae tua 40% o'r wlad, yn cynnwys rhan helaeth o ardaloedd poblog y gorllewin, yn is na lefel y môr. Ffurfir de-orllewin y wlad gan ddelta anferth sydd wedi ei greu gan dair afon fawr, Afon Rhein, Afon Waal ac Afon Schelde. Yn fuan wedi croesi'r ffîn rhwng yr Almaen a'r Iseldiroedd, mae Afon Rhein yn ymrannu yn dair cangen fawr. Llifa dwy o'r rhain, Afon Waal a'r Nederrijn, tua'r gorllewin, tra mae'r drydedd, Afon IJssel yn llifo tua'r gogledd i ymuno a'r IJsselmeer.

Y man uchaf yn yr Iseldiroedd yw bryn y Vaalserberg, sydd 322.7 medr uwch lefel y môr. Y pwynt isaf yw man yng nghymuned Nieuwerkerk aan den IJssel yn nhalaith Zuid-Holland sydd 6.76 medr islaw lefel y môr.

Gyda poblogaeth o 16,491,461 ac arwynebedd y wlad yn 41,526 km², mae dwysedd poblogaeth yr Iseldiroedd yn uchel. Saif yn 23ain ymysg gwledydd y byd o ran dwysedd poblogaeth, a dim ond Bangladesh a De Corea sy'n wledydd mwy ac a dwysder poblogaeth uwch.

Un o nodweddion poblogaeth yr Iseldiroedd yw mai hwy, ar gyfartaledd, yw'r bobl dalaf yn y byd, gyda chyfartaledd uchder o 1.83 m (6 troedfedd) i ddynion a 1.70 m (5 troedfedd 7 modfedd) i ferched.

Mae'r gyfradd genedigaethau yn 1.75 plentyn i bob merch. Cymharol araf yw tŵf y boblogaeth, gyda 10.9 genedigaeth y fil o boblogaeth a 8.68 marwolaeth y fil o boblogaeth. Fel yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, mae'r boblogaeth yn  heneiddio; ond i raddau llai na'r rhan fwyaf o wledydd eraill Ewrop.

Ceir cryn dipyn o fewnfudo i'r Iseldiroedd, a hefyd gryn dipyn o allfudo. O'r trigolion heb fod yn Iseldirwyr ethnig, y grwpiau mwyaf yw Indonesiaid (2.4%), Almaenwyr (2.4%), Twrciaid (2.2%) a Swrinamiaid (2.0%).

Dinasoedd mwyaf poblog yr Iseldiroedd yw:

Mae nifer o'r dinasoedd yng ngorllewin a gogledd canolbarth y wlad yn ffurfio cytref fawr a elwir y Randstad ('Dinas yr Ymyl' yr yr Iseldireg). Mae'n cynnwys pedair dinas fwya'r Iseldiroedd, Amsterdam, Rotterdam, Den Haag ac Utrecht a'r ardaloedd a'r mân drefi o'u cwmpas, fel Almere, Delft, Dordrecht, Gouda, Haarlem, Hilversum, Leiden a Zoetermeer. Mae dinasoedd y Randstad yn llunio hanner gylch neu gilgant, ac mae'r enw yn tarddu o'r siap hwnnw.

Daeth yr Iseldiroedd yn enwog trwy'r byd am ei harlunwyr. Yn y 17g, yng nghyfnod Gweriniaeth yr Iseldiroedd, roedd arlunwyr megis Rembrandt van Rijn, Johannes Vermeer, Jan Steen, Jacob van Ruysdael ac eraill. Dilynwyd hwy yn y 19eg a'r 20g gan Vincent van Gogh a Piet Mondriaan.

Ymhlith athronwyr enwog yr Iseldiroedd mae Erasmus o Rotterdam a Spinoza, ac yn yr Iseldiroedd y gwnaeth René Descartes ei waith pwysicaf. Mae gwyddonwyr o'r Iseldiroedd yn cynnwys Christiaan Huygens (1629-1695), darganfyddwr Titan, un o leuadau Sadwrn, a dyfeisiwr y cloc pendil, ac Antonie van Leeuwenhoek, y cyntaf i ddisgrifio organebau un gell gyda meicroscop.

Ymhlith awduron pwysicaf yr Iseldiroedd mae Joost van den Vondel a P.C. Hooft o'r 17g, Multatuli yn y 19g ac yn yr 20g awduron fel Harry Mulisch, Jan Wolkers, Simon Vestdijk, Cees Nooteboom, Gerard (van het) Reve a Willem Frederik Hermans. Cyfieithwyd dyddiadur Anne Frank i lawer o ieithoedd.




#Article 137: Norwy (763 words)


Mae Teyrnas Norwy neu Norwy yn wlad ar ochr ddwyreiniol Môr y Gogledd. Ynghyd a'i chymydog Sweden i'r dwyrain, mae'n un o wledydd Llychlyn.

Prif Erthygl: Hanes Norwy

O dan y Llychlynwyr (Vikings yn Saesneg) unwyd y wlad erbyn yr 11g. Ym 1387 bu farw brenin olaf y llinell Norwyaidd, a daeth y wlad o dan reolaeth Denmarc. Gelwid yr adeg yma yn 'noson 400 mlynedd' gan y Norwywyr, gan fod Norwy yn bartner gwan yn yr undeb. Ym 1814, ar ôl i Ddenmarc gefnogi Napoleon yn y rhyfeloedd Ewropeaidd, daeth Sweden i reoli Norwy. Blinodd y Norwywyr ar reolaeth Sweden, ac ym 1905 daeth Norwy yn annibynnol wrth i'r llywodraeth gynnig brenhiniaeth y wlad i Dywysog Carl o Ddenmarc, a ddaeth yn frenin y wlad newydd, gan gymeryd yr enw Haakon VII.

Yn yr Ail Ryfel Byd fe wnaeth byddinoedd yr Almaen o dan Adolf Hitler oresgyn Norwy, ac oherwydd hyn daeth y wlad yn aelod o NATO ym 1949 er mwyn diogelwch. Roedd hefyd yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig o'r dechrau. Mae Norwy yn aelod o EFTA ac Ardal Economaidd Ewrop, ond mae'r etholaeth wedi pleidleisio dwywaith (ym 1972 ac ym 1994) yn erbyn ymuno a'r Undeb Ewropeaidd.

Prif Erthygl: Gwleidyddiaeth

Mae Norwy yn frenhiniaeth ond mae'r pŵer gwleidyddol yn nwylo'r senedd, y Storting. Mae'r gyfundrefn yn debyg i'r hyn a gaed yn y Deyrnas Unedig, gan fod ambell i swyddogaeth pwysig gan y brenin, ond fe'u defnyddir trwy gyngor y Cabinet fel arfer.

Mae 165 o aelodau gan y Storting. Fe etholir yr aelodau drwy gynrychiolaeth gyfrannol o'r 11 sir yn y wlad, am gyfnodau o bedair mlynedd. Ar ôl etholiadau, mae'r Storting yn rhannu'n ddau siambr—yr Odelsting a'r Lagting—sydd weithiau'n cwrdd ar wahan, ac weithiau gyda'i gilydd, yn ôl y deddfwriaeth sy'n cael ei ddadlau.

Rhennir Norwy'n 11 sir (fylke, lluosog fylker), sydd yn eu tro yn cael eu rhannu'n 356 cymuned (kommuner). Dyma restr o'r siroedd:

Yn ogystal â hyn, mae gan Norwy nifer o diriogaethau ar draws y byd. Ystyrir ynysoedd Svalbard a Jan Mayen i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain o'r wlad yn rannau o'r deyrnas. Ar y llaw arall, ystyrir Ynys Bouvet i'r de o Affrica fel trefedigaeth ar wahan i'r deyrnas ei hunan.

Mae Norwy yn hawlio rhan o dir Antarctica (Dronning Maud Land ac Ynys Pedr I) ond mae'r hawliau hyn bellach yn cael eu anwybyddu ar ôl cytundeb rhyngwladol.

Prif Erthygl: Daearyddiaeth Norwy

Mae tua dwy rhan o dair o dir Norwy yn fynyddoedd, ac mae rhyw 50,000 o ynysoedd yn eistedd ger yr arfordir troellog, sydd dros 20,000 km o hyd. Mae olion Oes yr Iâ i'w weld, gyda sawl ffiord a nifer o rewlifoedd.

Mae Norwy yn rhannol o fewn Cylch yr Arctig, sydd yn golygu nad yw'r haul yn machlud yno am ran o'r haf. Serch hyn, mae'r hinsawdd yn cael ei gadw'n gynnes oherwydd dylanwad Llif y Gwlff, sef llif cynnes o ddŵr a daw o'r trofannau.

Mannau uchaf Norwy yw mynyddoedd Glittertinden (2472m) a Galdhøpiggen (2469m), yng nghadwyn Jotunheimen.

Prif Erthygl: Economi Norwy

Mae Norwy yn wlad llewyrchus, yn bennaf efallai oherwydd fod digonedd o adnoddau naturiol ganddi. Ceir llawer o nwy naturiol ac olew crai yn o dan Môr y Gogledd, ac mae'r wlad yn dibynnu'n gryf ar y diwydiant olew—hwn sy'n creu 35% o holl allforion y wlad. Ond mae diwydiannau eraill pwysig gan Norwy—er enghraifft y diwydiant pysgota. Ceisiodd Norwy ymuno âr Undeb Ewropeaidd (UE) dwywaith, ond methodd y cynlluniau am na fod Norwy am ildio rheolaeth ar y diwydiant hwn. Serch hyn mae Norwy yn aelod o farchnad cyffredin yr UE drwy cytundeb Ardal Economaidd Ewrop.

Mae gan Norwywyr safon uchel o fyw, yn bennaf oherwydd yr arian o'r diwydiant olew. Roedd pryder felly beth fyddai'n digwydd ar ôl i'r olew ddiflannu. I ddatrys y broblem, mae llywodraeth Norwy wedi bod yn buddsoddi rhan o'i hennillion o'r diwydiant mewn cronfa dramor, sy'n cynnwys (ym mis Tachwedd 2003) 114 biliwn doler Americanaidd.

Prif Erthygl: Diwylliant Norwy

Mae 86% o boblogaeth Norwy yn perthyn i eglwys swyddogol Norwy, sy'n eglwys Lwtheraidd.

Dethlir diwrnod cenedlaethol Norwy ar 17 Mai. Ar y diwrnod hwnnw mae llawer o'r Norwyiaid yn gwisgo bunad (gwisg 
draddodiadol) ac yn gwylio gorymdeithiau ar hyd y strydoedd.

Norwywyr enwog:

Mae dau ffurf ysgrifenedig i'r iaith Norwyeg, Bokmål (iaith llyfr) a Nynorsk (Norwyeg newydd). Enw'r wlad yw Norge yn Bokmål, a Noreg yn Nynorsk. Er fod y ddwy iaith yn swyddogol, y Bokmål traddodiadol sy'n fwy cyffredin. Yn y gogledd, siaredir sawl iaith Saami gan bobl y Saami; mae'r iaith hon yn gwbl wahanol i'r Norwyeg.




#Article 138: Ynys Echni (343 words)


Ynys ym Môr Hafren yw Ynys Echni (Saesneg Flat Holm). Fe'i lleolir tua thair milltir a hanner o Larnog, Bro Morgannwg. Mae Steep Holm (Ynys Ronech) yn agos iddi. Mae Ynys Echni yn cael ei gweinyddu fel rhan o Gymru, a hi felly ydyw'r lle mwyaf deheuol yn y wlad, gan fod Ynys Ronech yn rhan o Loegr.

Mae'r ynys yn hafan i fywyd gwyllt a blodau gwyllt prin, gan gynnwys gwylanod cefnddu lleiaf, gwylanod y penwaig, cwningod, hwyaid yr eithin a nadredd defaid. Mae tywarch arforol yr ynys yn cynnal glaswellt arforol byr sy'n cynnwys planhigion prin megis cennin gwyllt a phys y ceirw.

Mae Ynys Echni wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1972 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle. Mae ei arwynebedd yn 34.91 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Dynodwyd y safle’n un o statws arbennig ar sail daeareg yn ogystal â bod ynddo fywyd gwyllt o bwys ac o dan fygythiad. Er enghraifft efallai i’r statws gael ei ddynodi oherwydd fod ynddo strata’n cynnwys ffosiliau hynod o greaduriaid asgwrn cefn neu ffosiliau o bryfaid neu blanhigion yn ogystal â’r stratigraffeg ei hun (h.y. haenau o greigiau o bwys cenedlaethol).

Sefydlwyd clas (math o fynachlog gynnar) ar Ynys Echni rywbryd yn Oes y Seintiau.

Adeiladwyd goleudy ar yr ynys yn y 18g, ac roedd dynion goleudy yn byw yno tan 1988, pryd cafodd y goleudy ei awtomeiddio. Daeth ffermio i ben hefyd ym 1942. Defnyddiwyd yr ynys fel safle milwrol yn ystod y 19g ac unwaith eto yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Heddiw does neb yn byw ar yr ynys yn barhaol, ac mae hi bellach yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn warchodfa natur o dan reolaeth Cyngor Dinas Caerdydd.

Derbyniwyd y neges radio gyntaf ar Ynys Echni. Fe'i gyrrwyd o Larnog ar 13 Mai 1897 gan Guglielmo Marconi gyda chymorth George Kemp, peiriannydd Swyddfa'r Post o Gaerdydd. Cynnwys y neges, a ddanfonwyd mewn Côd Morse, oedd Are you ready?




#Article 139: Caernarfon (957 words)


Mae Caernarfon yn dref yng Ngwynedd, yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae'n enwog yn bennaf oherwydd Castell Caernarfon, sy'n gastell mawr o feini a godwyd gan Edward I o Loegr. Daw enw'r dref o gaer gynharach, sef Segontium, y gaer Rufeinig sydd ar dir uwch ar gyrion y dref. Y gaer hon a roddodd yr enw Caer Seiont yn Arfon neu Caer Saint yn Arfon, a ddaeth yn ddiweddarach yn Gaernarfon. Mae gan y dref boblogaeth o 9,611 gyda 81.6% yn siaradwyr Cymraeg (97.7% yn yr oedran 10-14), yn ôl Cyfrifiad 2001. Cofi y gelwir rhywun a aned yn y dre.

Mae Caerdydd 198.7 km i ffwrdd o Gaernarfon ac mae Llundain yn 335.9 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 12.7 km i ffwrdd.

Mae Caernarfon yn safle hanesyddol sydd wedi tyfu dros y canrifoedd i fod yn un o brif drefi Gwynedd a gogledd-orllewin Cymru. Darganfuwyd olion o waith amddiffynnol cyn-Rufeinig ar safle Twthill, ger y castell presennol. Roedd yn well gan y Rhufeiniaid ddewis safle fymryn i'r de o'r dref i godi eu caer newydd Segontium yn OC 75. O'r safle hwnnw roeddent yn medru rheoli'r mynediad i benrhyn Llŷn a chadw golwg ar Afon Menai ac Eryri. Mae eglwys Llanbeblig, ger y gaer, yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Rhufeinig. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu gan Peblig, un o feibion Macsen Wledig, a gysylltir ag Elen Luyddog a Chaernarfon yn y chwedl Cymraeg Canol Breuddwyd Macsen Wledig. Yng nghainc gyntaf Pedair Cainc y Mabinogi cysylltir y dref â Branwen ferch Llŷr.

Ychydig a wyddys am hanes y dref yn y canrifoedd ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael. Cododd yr arglwydd Normanaidd Hugh d'Avranches, Iarll Caer, gastell mwnt a beili yng Nghaernarfon tua 1090 ar safle'r castell presennol. Ond fe'i cipiwyd gan y Cymry a bu Caernarfon yn nwylo tywysogion Gwynedd hyd y goresgyniad Seisnig yn 1283. Credir fod gan y tywysogion un o'u llysoedd yno. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaernarfon yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Codwyd Castell Caernarfon gan Edward I o Loegr ar ôl iddo feddiannu Gwynedd. Fe'i cynlluniwyd ar batrwm muriau dinas Caergystennin a thyfodd bwrdeistref Seisnig yn ei chysgod. Yn 1986 gosodwyd y castell a'r muriau ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.

Gwnaethpwyd difrod helaeth i'r castell yn ystod y Gwrthryfel Cymreig (1294-1295) dan arweiniad Madog ap Llywelyn. Ymladdwyd Brwydr Twthil ger y dref ym 1401 rhwng llu Owain Glyndŵr ac amddiffynwyr y dref, ac ymosododd rhyfelwyr Glyn Dŵr ar y dref a'r castell yn 1403 a 1404, ond heb lwyddo i'w cipio.

Ar ddechrau'r 19g roedd Caernarfon yn dref Gymreig fywiog a dyfodd yn gyflym fel porthladd ar gyfer allforio llechi. Codwyd cei newydd ar lan Afon Seiont ac agorwyd Rheilffordd Nantlle i gludo llechi o chwareli Dyffryn Nantlle gan Robert a George Stephenson yn 1827-28.

Erbyn heddiw mae Caernarfon yn dref farchnad brysur gydag un o'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad.

Mae gwasanaeth bws rheolaidd (bob 10 munud yn ystod y dydd) yn cysylltu'r dref gyda'r Felinheli, Bangor ac ymlaen i Landudno. Mae gwasanaethau rheolaidd hefyd yn cysylltu Caernarfon gyda Porthmadog, Pwllheli a Dyffryn Nantlle sy'n golygu bod tua 4 bws yr awr yn cysylltu Bontnewydd gyda'r dref. Mae gwasaneth bws bod hanner awr yn mynd i Fethel, Llanrug a Llanberis.

Ers sefydlu S4C yn yr 1980au cynnar, mae'r diwydiant teledu wedi dod a gwaith i dref y Cofis. Er bod dylanwad y diwydiant yn y dref wedi dirywio ers yr 1990au cynnar, mae nifer o gwmniau teledu yn parhau i fod â swyddfeydd yn y dref. Mae pencadlysoedd y cwmnïau canlynol yng Nghaernarfon:

Mae gan y cwmnïau hyn hefyd swyddfeydd yn y dref:

Mae'r dref hefyd yn gartref i safle stiwdio cwmni Barcud Derwen lle mae rhaglen Uned 5 (Antena Dime Goch) a rhaglen bêl-droed Sgorio yn cael eu darlledu unwaith yr wythnos. Rhaglenni eraill sy'n cael eu cynhyrchu yn gyson yn y dref yw Y Sioe Gelf (Cwmni Da), CNEX (Griffilms/Cwmni Da) a Sgorio Cymru (Rondo).

Ar lan Doc Fictoria saif adeilad ar batrwm hen waarws (ond a godwyd fel adeilad pwrpasol ym 1981) sydd yn bencadlys Gwasanaeth Archifau Gwynedd.

Mae yna lecyn creigiog ar ben Twtil, Caernarfon sydd yn fan chwarae traddodiadol i’r Cofis. “Grachan gam” i’w ei enw ar lafar heddiw - tybed beth yw tarddiad y fath enw? Crachan? (scab) - posib - y graith ar y graig efallai? Gwrachen? (y pysgodyn, wrasse, loach). Ond na, dyma holi T. Meirion Hughes, bardd ac un o wybodusion tref Caernarfon, a chael mai gwrach sydd yma, yn ôl chwedl beth bynnag, a bod rhywun rhywdro wedi trio’i saethu, gan adael olion y bwled yn y graig.

Ni wyddys pwy oedd y wrach, a pham ceisio ei saethu.

Mae C.P.D. Tref Caernarfon yn chwarae yn y Gynghrair Undebol. Mae dau glwb lleol arall yn y dref, sef Caernarfon Wanderers sy'n chwarae yn Nghyngrair Gwynedd a Caernarfon Borough sy'n chwarae yn adran gyntaf Cynghrair Caernarfon a'r Cylch. Mae Tîm Pêl-droed Merched Caernarfon yn chwarae yng Uwchgynghrair Merched Cymru a sefydlwyd yn nhymor 2009/10.

Cartref C.P.D. Tref Caernarfon a'r tîm merched yw'r Ofal. Mae Caernarfon Borough yn chwarae ar Ffordd yr Aber, tra bod Caernarfon Wanderers yn defnyddio Cae Top, cartref Bryncoch Utd ar y gyfres C'mon Midffild!.

Mae Clwb Rygbi Caernarfon yn chwarae yn Adran 4 (Gogledd Cymru) Cynghrair SWALEC, ac mae ail-dîm y clwb yn chwarae yng Nghyngrair Gwynedd.

Cartref y clwb rygbi yw'r Morfa, a'u clwb cymdeithasol oedd 'Clwb y Bont' ar gyfres Tipyn o Stad.

Clybiau Chwaraeon Eraill:

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon ym 1886, 1894, 1906, 1921, 1935, 1940, 1943, 1959 a 1979. Am wybodaeth bellach gweler:




#Article 140: Llanelli (832 words)


Llanelli yw tref fwyaf Sir Gaerfyrddin a de orllewin Cymru, wedi'i lleoli ar aber Afon Lliedi rhyw ddeuddeng milltir i'r gorllewin o Abertawe ac rhyw ugain milltir i'r de o Gaerfyrddin. Mae Caerdydd 72.1 km i ffwrdd o Llanelli ac mae Llundain yn 281.6 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 15.2 km i ffwrdd.

Tyfodd y dref yn y 19g o amgylch y pyllau glo a'r gweithfeydd tun. Mae’r dref yn enwog am ei thraddodiad rygbi balch.

Mae Llanelli hefyd wedi’i hamgylchynu gan nifer o drefi a phentrefi bach a adwaenir fel Llanelli Wledig. Mae’r rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu hystyried yn rhan o dref Llanelli.

Tyfodd Llanelli yn gyflym yn ystod y 18g a’r 19g gyda’r diwydiant glo, ac ar ôl hynny fel man cynhyrchu tunplat. Roedd y dref yn lle cynhyrchu tun arwyddocaol ar lefel ranbarthol a chafodd ei henwi'n Tinopolis. Ers i’r diwydiannau ddechrau cau yn yr 1970au, fe ddioddefodd y dref ddirywiad economaidd parhaus. Er hynny, gwelir buddsoddiad mawr ym meysydd adloniant a thwristiaeth.

Sefydlwyd yr ysgol benodedig Gymraeg gyntaf gan awdurdod lleol yn Llanelli yn 1947, sef Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli.

Yn y 1950au bu Trefor ac Eileen Beasley yn ceisio cael papur treth Cymraeg gan Gyngor Gwledig Llanelli drwy wrthod talu'r dreth hyd y caent un. Ymateb y cyngor oedd eu herlyn gan anfon y bwmbeili i mewn a gwerthu eu celfi er mwyn cael arian at y dreth. Prynnodd cyfeillion gelfi iddynt. Bu raid aros tan ganol y 1960au cyn cael statws cyfartal i'r Gymraeg pan dderbyniodd y cynghorau fod yn rhaid iddynt ddarparu rhai dogfennau yn Gymraeg.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ym 1895, 1903, 1930, 1962 a 2000.

Ar 19 o Awst 1911 yn ystod yr streic rheilffordd ledled Prydain roedd gwrthdaro rhwng milwyr rheolaidd o Gatrawd Swydd Gaerwrangon a picedi ar y llinell rheilffordd pwysig Llanelli wedi achosi marwolaeth o ddau wrthwynebwyr ifanc, roedd yr trais a'r ysbeilio, oedd wedi mynd ymlaen am nifer o oriau o ganlyniad i difrod i siopau a ochrau'r rheilffordd ac roedd pedwar mwy o farwolaethau pan aeth wagen ar dan a ffrwydrodd. Roedd nifer o erlyniadau yn dilyn ac roedd cwestiynau wedi cael ei ofyn yn y Senedd. Ysgrifennodd Keir Hardie pamffled yn ymosod y defnydd o lluoedd arfog mewn gwrthwynebau diwydiannol, serch hyn ni chafodd lawer o effaith ar y gwleidyddiaeth lleol. 

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Ffurfiwyd Clwb Rygbi Llanelli yn gynnar yn yr 1870au ac mae i'r clwb hanes anrhydeddus. Trechwyd tîm cenedlaethol Seland Newydd gan dîm rygbi Llanelli a dyma'r unig dîm lleol yng ngwledydd Prydain sydd wedi gwneud hynny.

Mae gan Llanelli dîm pêl-droed o’r enw C.P.D. Llanelli sy’n chwarae yng Nghynghrair Cymru. Maen nhw’n chwarae ar barc Stebonheath, o dan reolaeth Peter Nicholas.

Mae gan ardal Llanelli dri chwrs golff, yn cynnwys Clwb Golff a Gwledig Machynys sydd yn gartref i Gampwriaeth Merched Ewrop Cymru.

Gelwir Cylchdaith Penbre (Pembrey Circuit) yn gartref i chwaraeon modur yng Nghymru.

Mae hanes crefydd a'r capeli yn ganolog i hanes diwylliannol Llanelli. Roedd David Rees y Cynhyrfwr yn weinidog yng Nghapel Als, Jubilee Young yn Seion Llanelli a Gwyndaf yn Tabernacl Llanelli.

Mae gan y dref orsaf radio o’r enw Scarlet FM.

Y Llanelli Star yw'r unig bapur wythnosol yn y dref sydd wedi goroesi. Roedd tri yn cael eu cyhoeddi yn y dref ar un adeg gan gynnwys Llanelli Mercury. Yng nghanol y 1970au dechreuwyd cyhoeddi Llanelli News ond ni pharhaodd mwy nag ychydig flynyddoedd.

Mae Llanelli'n gartref i Gwmni Teledu Tinopolis sydd yn un o’r cynhyrchwyr annibynnol mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Dyma'r cwmni sy'n cynhyrchu'r rhaglen deledu ‘Wedi 7’ a ddarlledir ar yn fyw yn ddyddiol ar S4C.

Theatr Elli yw’r unig theatr yn y dref, sy’n rhan o ganolfan adloniant Llanelli. Cynhelir nifer o sioeau yn y theatr yn cynnwys nifer o gynyrchiadau cerddorol a dramâu gan grwpiau lleol.

Cysylltir y dref â thraffordd yr M4 gan yr A4138. I gyrraedd y dref oddi ar yr M4 deler oddi arni ar gyffordd 48.

Bws – Mae Llanelli yn cael ei gwasanaethu yn gyson gan wasanaethau bws lleol rhwng Abertawe a Chaerfyrddin.

Lleolir yr orsaf drenau rhyw filltir i’r de o ganol y dref. Mae trenau Llundain i Abergwaun yn mynd drwy'r orsaf hon a hefyd llinell drenau Calon Cymru o Abertawe i Amwythig.

Mae tref Llanelli o fewn etholaeth seneddol Llanelli  ac etholaeth Cynulliad Llanelli Cynrychiolydd San Steffan yw Nia Griffith ac un y Cynulliad yw Keith Davies. Llafur (2011 -  )Yn 1945 enillodd ymgeisydd Llafur (James Griffiths) y mwyafrif mwyaf yn hanes etholiadau seneddol Prydeinig (34,117) 

Caiff rhan o'r dref ei llywodraethu ar lefel leol gan Gyngor Tref Llanelli a rhan gan Gyngor Gwledig Llanelli, a'r cwbl gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar lefel sirol.

Daeth Cyngor Tref Llanelli i rym ar 1af Ebrill, 1974. Rhennir ei hardal weinyddiaeth i 5 ward: Bigyn, Elli, Glanymor, Lliedi a Tyisha, sy'n cael eu cynrychioli gan 20 cynghorydd.

Gefeilldref Llanelli yw Agen yn Ffrainc.




#Article 141: Brenhinoedd a breninesau gwledydd Prydain (604 words)


Dyma restr o frenhinoedd a breninesau gwledydd Prydain (Yr Alban, Cymru a Lloegr) ynghyd â Phrydain Fawr a'r Deyrnas Unedig.

Gan fod y sefyllfa yn y Gymru annibynnol yn fwy cymhleth o lawer na'r gwledydd eraill ym Mhrydain, gweler y rhestrau o frenhinoedd a thywysogion a'r ymdriniaeth a geir yn yr erthyglau ar y teyrnasoedd cynnar a chanoloesol a hefyd yn yr erthygl ar Hanes Cymru.

Wiliam I 1066-1087
Wiliam II 1087-1100 mab Gwilym I
Harri I 1100-1135 mab Gwilym I
Steffan 1135-1154 ŵyr Gwilym I
Harri II 1154-1189 ŵyr Harri I
Rhisiart I 1189-1199 mab Harri II
John 1199-1216 mab Harri II
Harri III 1216-1272 mab John
Edward I 1272-1307 mab Harri III
Edward II 1307-1327 mab Edward I
Edward III 1327-1377 mab Edward III
Rhisiart II 1377-1399 ŵyr Edward III
Harri IV 1399-1413 ŵyr Edward III
Harri V 1413-1422 mab Harri IV
Harri VI 1422-1461 a 1470 mab Harri V
Edward IV 1461-1483 gor-gorŵyr Edward III
Edward V 1483 mab Edward IV
Rhisiart III 1483-1485 brawd Edward IV
Harri VII 1485-1509 gor-gorŵyr Edward III
Harri VIII 1509-1547 mab Harri VII
Edward VI 1547-1553 mab Harri VIII
Yr Arglwyddes Jane Grey 1553 gorwyres Harri VII
Mari I 1553-1558 merch Harri VIII
Elisabeth I 1558-1603 merch Harri VIII

Kenneth I 843-858
Donald 858-862 brawd Kenneth
Cystennin I 862-877 mab Kenneth
Aedh 877-878 mab Kenneth
Eochaid nai Aedh a Giric cefnder Aedh 878-889
Donald II 889-900 mab Cystennin I
Cystennin II 900-943 mab Aedh
Malcolm I 943-954 mab Donald II
Indulf 954-962 mab Cystennin II
Dubh 962-966 mab Malcolm I
Culen 966-971 mab Indulf
Kenneth II 971-995 mab Malcolm I
Cystennin III 995-997 mab Culen 
Kenneth III 997-1005 mab Dubh 
Malcolm II 1005-1034 mab Kenneth II
Duncan I 1034-1040 ŵyr Malcolm II
Macbeth 1040-1057 ŵyr Malcolm II
Lulach 1057-1058 ŵyr Kenneth III 
Malcolm III 1058-1093 mab Duncan I 
Donald III 1093-1094 a 1094-1097 mab Duncan I
Duncan II 1094 mab Malcolm III
Edgar 1097-1107 mab Malcolm III
Alexander 1107-1124 mab Malcolm III 
Dafydd I 1124-1153 mab Malcolm III
Malcolm IV 1153-1165 ŵyr Dafydd I
Wiliam 1165-1214 ŵyr Dafydd I
Alexander II 1214-1249 mab Gwilym I
Alexander III 1249-1286 mab Alexander II
Marged 1286-1290 wyres Alexander III
John Balliol 1292-1296 gor-gor-gorwyr Dafydd I
Robert I 1306-1329 gor-gor-gor-gorwyr Dafydd I
Dafydd II 1329-1371 mab Robert I
Edward Balliol 1332-1338 mab John Balliol
Robert II 1371-1390 ŵyr Robert I
Robert III 1390-1406 mab Robert II
Iago I 1406-1437 mab Robert III 
Iago II 1437-1460 mab Iago I
Iago III 1460-1488 mab Iago II
Iago IV 1488-1513 mab Iago III
Iago V 1513-1542 mab Iago IV
Mari I 1542-1567 merch Iago V 
Iago VI o'r Alban 1567-1625 mab Mair, gorwyr Harri VII o Loegr

Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI) 1603-1625 mab Mari I, brenhines Alban, gorwyr Harri VII, brenin Lloegr
Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban 1625-1649 mab Iago VI/I

Cyfnod Gwerinlywodraeth Lloegr (interregnum):

Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban 1660-1685 mab Siarl I
Iago II/VII, brenin Lloegr a'r Alban 1685-1689 brawd Siarl II
Wiliam III/II, brenin Lloegr a'r Alban 1689-1701 a Mari II, brenhines Lloegr a'r Alban 1689-1694 mab-yn-nghyfraith a merch Iago VII/II
Anne, brenhines Prydain Fawr 1701-1714 chwaer Mari II

Anne 1701-1714 chwaer Mari II
Siôr I 1714-1727 gorwyr Iago VI/I
Siôr II 1727-1760 mab Siôr I
Siôr III 1760-1820 ŵyr Siôr II

Siôr III 1760-1820 ŵyr Siôr II
Siôr IV 1820-1830 mab Siôr III
William IV 1830-1837 brawd Siôr IV
Victoria 1837-1901 nith Gwilym IV 
Edward VII 1901-1910 mab Victoria
Siôr V 1910-1936 mab Edward VII
Edward VIII 1936 mab Siôr V
Siôr VI 1936-1952 brawd Edward VIII
Elisabeth II 1952- merch Siôr VI




#Article 142: Rhestr trefi Cymru (194 words)


Aberaeron, Aberdâr, Aberdaugleddau, Aberfan, Abergele, Abergwaun, Aberhonddu, Abermaw, Aberpennar, Abertawe, Aberteifi, Abertyleri, Aberystwyth, Amlwch, Arberth.

Bae Colwyn, Y Bala, Bangor, Bargoed, Y Barri, Bedwas, Benllech, Betws-y-Coed, Bethesda, Biwmares, Blaenafon, Blaenau Ffestiniog, Y Bont-faen, Brynaman, Brynbuga, Brynmawr, Bwcle.

Caerdydd, Caerfyrddin, Caerffili, Caergybi, Caerllion, Caernarfon, Cas-gwent, Casllwchwr, Casnewydd, Castell Newydd Emlyn, Castell-nedd, Cefn Bychan, Cei Connah, Cei Newydd, Cil-y-coed, Clydach, Coed-duon, Conwy, Corwen, Cricieth, Crucywel, Cwmbrân, Cydweli.

Dinbych, Dinbych-y-pysgod, Dolgellau, Y Drenewydd, Y Dyfnant.

Y Fenni.

Ffestiniog, Y Fflint.

Y Gelli Gandryll, Glanaman, Glyn Ebwy, Glyn-nedd, Gorseinon, Gwauncaegurwen.

Harlech, Hendy-gwyn ar Dâf, Hirwaun, Hwlffordd.

Llanandras, Llanbedr Pont Steffan, Llanberis, Llandeilo, Llandrindod, Llandudno, Llandysul, Llanelwy, Llanelli, Llanfair-ym-Muallt, Llanfairfechan, Llanfairpwllgwyngyll, Llanfyllin, Llangefni, Llangollen, Llangrannog, Llanidloes, Llanilltud Fawr, Llanrwst, Llanrhidian, Llansawel, Llantrisant, Llanwrtyd, Llanymddyfri.

Machynlleth, Y Maerdy, Maesteg, Merthyr Tudful, Mostyn, Y Mwmbwls.

Niwbwrch.

Penarlâg, Penarth, Pencoed, Penfro, Penmaenmawr, Pen-y-bont ar Ogwr, Y Pîl, Pontardawe, Pontarddulais, Pontycymer, Pontypridd, Pont-y-pŵl, Port Talbot, Y Porth, Porth Tywyn, Porthaethwy, Porthcawl, Porthmadog, Prestatyn, Pwllheli.

Queensferry.

Rhaeadr Gwy, Rhisga, Rhiwabon, Rhosllannerchrugog, Rhuddlan, Rhuthun, Rhydaman, Y Rhyl, Rhymni.

Sanclêr.

Talgarth, Tonypandy, Y Trallwng, Tredegar, Trefaldwyn, Trefdraeth, Treforys, Trefyclawdd, Trefynwy, Treffynnon, Tregaron, Tregwyr, Treherbert, Treorci, Tyddewi, Tywyn.

Y Waun, Wrecsam, Yr Wyddgrug.

Ystalyfera, Ystradgynlais, Ystrad Mynach.




#Article 143: Llanbedr Pont Steffan (268 words)


Tref a chymuned yn nyffryn Teifi, yng Ngheredigion yw Llanbedr Pont Steffan (hefyd Llambed a Llanbed, Saesneg: Lampeter). Mae yno farchnad, dwy archfarchnad a nifer o siopau lleol. Yno hefyd mae Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, Ysgol Ffynnonbedr ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan. Saif Hen Domen Llanbedr Pont Steffan, sef hen domen o'r Oesoedd Canol ar ochr ddwyreiniol i'r dref. Yng Nghyfrifiad 2001, poblogaeth Llambed oedd 2,894. Mae hyn yn golygu mai Llambed ydy tref-brifysgol lleiaf gwledydd Prydain.

Sefydlwyd Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yn 1822 gan Esgob Burgess o Dyddewi er mwyn hyfforddi darpar offeiriaid yn yr eglwys Anglicanaidd.  Yn 1852 cafodd yr hawl (drwy Siarter) i gynnig Gradd BD a Siarter arall i roi'r hawl i'r Brifysgol gynnig Gradd BA yn y celfyddyda 1865. Roedd yn rhan o Brifysgol Cymru hyd at 2008. Sylfaenwyd pensaerniaeth y prif adeilad ar ddull petrual Rhydgrawnt (Saesneg: Oxbridge) ac a gynlluniwyd gan C. R. Cockerell. Enw newydd ar y coleg yw Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Tim rygbi'r Brifysgol oedd y cyntaf drwy Gymru, wedi i un o'r darlithwyr (Rowland Williams) ddod a'r gêm o Gaergrawnt.

Roedd lleoliad cartref hen bobl Hafan Deg yn arfer bod yn wyrcws, a gafodd ei ddymchwel yn y 1960au pan godwyd y cartref newydd.

Papur Bro  yw papur bro Llanbedr Pont Steffan a'r plwyfi o gwmpas y dref. Cyhoeddir rhifyn yn fisol, ac mae gwefan  yn brosiect bywiog gan nifer o wirfoddolwyr lleol, dan faner y papur bro a .

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llambed ym 1984. I gael gwybodaeth bellach gweler:




#Article 144: Aberaeron (202 words)


Tref arfordirol yng Ngheredigion yw Aberaeron. Saif ar briffordd yr A487 tua hanner ffordd rhwng Aberteifi ac Aberystwyth. Mae lôn arall, yr A482, yn cysylltu'r dref â Llanbedr Pont Steffan i'r dwyrain. Mae Caerdydd 112.8 km i ffwrdd o Aberaeron ac mae Llundain yn 297.2 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 70.6 km i ffwrdd.

Adeiladwyd y dref gan y Parch Alban Thomas Jones-Gwynne ym 1805. Mae'r tai wedi'u gosod mewn patrwm ffurfiol — o dan ddylanwad y pensaer John Nash, medd rhai.

Crëwyd harbwr ar geg Afon Aeron, ac yn fuan daeth y dref yn ganolfan bysgota bwysig. Erbyn hyn, cychau hwylio sydd i'w gweld yn harbwr Aberaeron. Mae'r traeth yn braf ac wedi ennill baner las am ei lendid.

Gan fod Aberaeron rhwng de a gogledd Ceredigion, yma bellach mae pencadlys Cyngor Sir Ceredigion. Mae 1,422 o bobl yn byw yn y dref ac mae tua 60% ohonynt yn siaradwyr Cymraeg (2011); un o'r canrannau uchaf ar arfordir Ceredigion heddiw. Yr Aelod lleol o Senedd Cymru yw 
a'r Aelod Seneddol yw .

Gerllaw ceir plasdy hynafol Llannerch Aeron, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Lleolir Ysgol Gyfun Aberaeron yn y dref.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 145: Y Fenni (701 words)


Mae'r Fenni (Saesneg: Abergavenny) yn dref farchnad yn Sir Fynwy. Lleolir tua 15 milltir (24 km) i'r gorllewin o Drefynwy ar yr A40 ac ar yr A465, a thua 6 milltir (10 km) i'r de orllewin o'r ffin â Swydd Henffordd, a Lloegr. O'i wreiddiau yn gaer Rhufeinig, deuai'n dref gaerog ganol-oesol o fewn Y Mers. Mae gan y dref adfeilion castell carreg a adeiladwyd yn sgil dyfodiad y Normaniaid.

Hysbysebir y dref fel Porth i Gymru (Gateway to Wales). Fel yr awgrymir gan yr enw Saesneg, lleolir y Fenni ar aber afon Gafenni ar afon Wysg. Amgylchynir y dref gan ddau fynydd, sef Blorens (559m) a Pen-y-Fâl (596m), a phum bryn: Ysgyryd Fawr, Ysgryd Fach, Deri, Rholben a Mynydd Llanwenarth.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Roedd Gobannium yn gaer Rufeinig a oedd yn amddiffyn y ffordd ar hyd dyffryn Wysg a oedd yn cysylltu Burrium (Brynbuga) ac Isca Augusta (Caerllion) yn y de â Cicucium (Y Gaer) a'r canolbarth. Adeiladwyd hefyd er mwyn trechu'r Silwriaid brodorol. Cafwyd hyd i adfeilion y gaer hon yn y 1960au pan adeiladwyd y swyddfa bost newydd.

Daw'r enw Y Fenni o'r hen enw Abergafenni. Enwyd afon Gafenni ar ôl y gaer Rufeinig Gobannium, a enwyd ar ôl yr hen dduw Celtaidd Gobannos. Mae hwnnw'n gyfarwydd i ni heddiw fel Gofannon fab Dôn yn Culhwch ac Olwen. Mae ei enw'n gytras â'r gair 'gof', yn awgrymu cysylltiadau hynafol rhwng gofaint ag ardal y Fenni.

Tyfai'r Fenni'n dref o dan reolaeth Arglwyddi'r Fenni. Hamelin de Balun, o Ballon, Maine-Anjou, ger Le Mans, Ffrainc, oedd y barwn cyntaf. Sefydlodd abaty Benedictaidd yn y 11g, lle saif Eglwys y Santes Fair erbyn hyn. Derbyniai'r eglwys honno degwm gan y castell a chan y dref. Ceir cerfluniau diddorol yno.

Oherwydd ei lleoliad ar y ffin gwelai'r dref sawl rhyfel yn ystod y 12fed a'r 13g. Ym 1175, lladdwyd holl benaethiaid Cymreig yr ardal gan Wilym Brewys, tad y Gwilym Brewyd a geid yn hanes Siwan gan Saunders-Lewis. Gwahoddodd Gwilym y penaethiaid lleol i'w gastell am wledd ddydd Nadolig. Rhoes y Cymry ei arfau iddo er mwyn dod i mewn i'r castell, ond yn lle datrys y problemau a oedd ganddynt, fe'u bradychwyd gan Wilym a'u lladd. Mae Gerallt Gymro yn adrodd i'r Cymry gipio'r castell o Frewys ym 1182.

Ymosododd Owain Glyndŵr â'r dref ym 1404. Yn ôl yr hanes, daeth gwŷr Glyn Dŵr i mewn i'r dref â chymorth Cymraes leol a adawodd iddynt ddod i mewn drwy borth ar Stryd y Farchnad liw nos. Agorodd y drws a daeth y fyddin i mewn yn llosgi'r dref, ond yn gadael y castell i fod. Gelwir Stryd y Farchnad Traitors' Lane hyd heddiw.

Sefydlwyd Ysgol y Brenin Harri VIII ym 1542.

Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr daeth y Brenin Siarl I i'r Fenni er mwyn cymryd rhan yn achos llys Syr Trefor Williams, a seneddwyr eraill.

Sefydlwyd Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni ar 2 Tachwedd 1833, yn y Sun Inn yn Y Fenni, ac yn y dref cynaliwyd Eisteddfodau'r Fenni o 1834 i 1854.

Carcharwyd Rudolph Hess yng Nghwrt Maindiff yn ystod yr ail Ryfel Byd, ar ôl iddo hedfan i'r Alban.

Cynhelir marchnad wartheg yn y Fenni ar y safle bresennol ers 1863. Rhwng 1825 a 1863 cynhelid marchnad ddefaid ar Stryd y Castell, er mwyn atal y preswylwyr rhag gwerthu eu defaid ar hyd strydoedd y dref. Mae'r farchnad yn cael ei rheoli heddiw gan Abergavenny Market Auctioneers Ltd., sydd yn cynnal arwerthiannau rheolaidd yno. Gwerthir defaid a phorthiant ar ddydd Mawrth, ac weithiau gwerthir gwartheg ar ddydd Gwener.

Wrth i farchnad wartheg Casnewydd gau, cynhelir y farchnad honno yn y Fenni bob dydd Mercher.

Ceir amryw farchnadoedd yn y neuadd farchnad.

Ceir yma nifer o eglwysi: Eglwys y Santes Fair yw prif eglwys y dref, ac mae'n un o'r eglwysi mwyaf yng Nghymru. Ceir dwy eglwys a gysegrwyd i Sant Teilo gerllaw: y cyntaf yn Llandeilo Bertholau a'r ail yn Llandeilo Gresynni. Mae tŵr cam eglwys Cwm-iou yn nodedig, ychydig filltiroedd o Aberhonddu; gerllaw, saif Priordy Llanddewi Nant Hodni, priordy Awstinaidd ger pentref Llanddewi Nant Hodni yng nghymuned Crucornau.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 146: Cydweli (196 words)


Tref hynafol a ward yn Sir Gaerfyrddin, ar lan y ddwy afon Gwendraeth — afon Gwendraeth Fach ac afon Gwendraeth Fawr — yw Cydweli (Saesneg: Kidwelly). Mae Cydweli'n adnabyddus drwy Gymru am yr hwiangerdd draddodiadol Hen Fenyw Fach Cydweli.

Mae'r ward hefyd yn cynnwys pentref Mynyddygarreg ar lannau'r Gwendraeth Fach. Roedd y canolwr rygbi a darlledwr enwog Ray Gravell, neu Grav, yn frodor o'r pentref. Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Rhoddwyd siarter i'r dref tua 1115 gan y brenin Harri I o Loegr. Mae Castell Cydweli yn un o'r esiamplau gorau o'i fath yn ne Cymru, ac yn un o gadwyn a adeiladwyd ar draws y wlad i geisio gorchfygu'r Cymry.

Yn 1136 gwnaeth y dywysoges Gwenllian, chwaer Owain Gwynedd arwain brwydr yng Nghydweli yn erbyn y Normaniaid. Mae maes y gad yn cael ei adnabod hyd heddiw fel Maes Gwenllian.

Ymwelodd Gerallt Gymro â Chydweli yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Tyfodd Cydweli yn ddirfawr yn ystod y chwyldro diwydiannol. Roedd yno waith briciau a gwaith tin mawr, ac mae yno erbyn hyn amgueddfa ddiwydiannol.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 147: Aberdâr (372 words)


Tref yng Nghwm Cynon ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Aberdâr (Saesneg: Aberdare). Cyfeirnod OS: SO0002. Lluosog derwen ydy dâr, ac mae'r enghraifft ysgrifenedig gyntaf o'r gair yn dyddio o 1203. Ceir hefyd yng ngogledd Cymru Aberdaron, sydd hefyd yn ymwneud â choed derw. Ym 1991 roedd poblogaeth y dref yn 31,619. Mae Aberdâr bedair milltir o Ferthyr Tudful a thua 24 milltir o Gaerdydd, ar Afon Cynon.  Mae gwasanaeth rheilffordd rhwng Aberdâr a Chaerdydd trwy Gwm Cynon.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Roedd Aberdâr yn sir hanesyddol Morgannwg. Yng Nghwmbach Aberdâr y ffurfiwyd y gangen gyntaf o'r Gymdeithas Gydweithredol yng Nghymru, ym 1860.

Yn wreiddiol, ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd pentref Aberdâr mewn ardal amaethyddol, ond pan ddarganfuwyd llawer o lo a mwyn haearn yn yr ardal cynyddodd y boblogaeth yn gyflym iawn. Sefydlwyd gweithdai haearn yn Llwydcoed ac Abernant ym 1799 a 1800, wedi'u dilyn gan eraill yn Gadlys ac Aberaman ym 1827 a 1847. Nid yw'r rhain wedi gweithio ers 1875. Cyn 1836, câi'r rhan fwyaf o'r glo ei ddefnyddio yn lleol, yn bennaf yn y gweithdai haearn, ond wedyn dechreuwyd allforio glo o dde Cymru. Yn ail hanner y 19g, gwellodd y dref yn fawr.

Aberdâr oedd cartref un o feirdd yr Ail Ryfel Byd, Alun Lewis, ac mae dyfyniad o'i gerdd The Mountain over Aberdare i'w weld yn y dref. Dyma gartref y Stereophonics hefyd, sy'n dod o Gwmaman. Fel mae'n digwydd mae yna Aberdare yn Ne Cymru Newydd, Awstralia, sydd hefyd yn cynnwys pyllau glo.

Ar un adeg yr oedd nifer fawr o gapeli anghydffurfiol yn Aberdâr a'r cyffiniau ond mae'r mwyafrif ohonynt wedi cau erbyn hyn.

Y Bedyddwyr oedd y mwyaf dylanwadol o'r enwadau anghydffurfiol yn Aberdâr ac fe sbardunwyd eu tŵf gan y Parch. Thomas Price a ddaeth i Aberdâr ym 1845 fel gweinidog Calfaria, eglwys a sefydlwyd yn wreiddiol yn 1812.

Ceir tîm pêl-droed yn y dref, C.P.D. Tref Aberdâr. Bu'r tîm yn llwyddiannus iawn ar ddechrau'r 20g. Mae wedi bod drwy sawl newid enw a strwythur. Mae nawr yn chwarae yn adrannau Cynghrair Cymru (Y De).

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberdâr ym 1861, 1885 a 1956. Am wybodaeth bellach gweler:




#Article 148: Y Bala (377 words)


Tref fechan a chymuned yn ardal Meirionnydd, Gwynedd, yw'r Bala. Cyfeirnod OS: SH 92515 36708. Does dim ond un stryd fawr yn y dref. Mae'r dref ar yr A494, rhwng Dolgellau (18 milltir i'r de-orllewin) a Llangollen (22 milltir i'r dwyrain). Cyn ad-drefnu llywodraeth leol roedd hi yn yr hen Sir Feirionnydd. Mae ganddi boblogaeth o .

Llyn naturiol mwyaf Cymru ydyw Llyn Tegid sydd ar gyrion y dref. Mae Afon Tryweryn yn llifo heibio i'r dwyrain ac yn ymuno ag Afon Dyfrdwy sy'n llifo drwy Lyn Tegid ac yn dod allan ar ochr ddeheuol y Bala.

Cynhaliyd gŵyl gerddoriaeth boblogaidd, Wa Bala ar gyrion y dref ym Mis Medi 2017.

Gair cyffredin Cymraeg yn golygu adwy neu fwlch oedd bala gynt, a ddaeth i olygu'r fan lle bydd afon yn llifo allan o lyn. Yn yr achos hon cyfeiria enw'r dref yn benodol at y fan lle rhed Afon Dyfrdwy o Lyn Tegid.  Ymddengys yr elfen bala mewn enwau lleoedd eraill ar draws Cymru megis Baladeulyn. Yn unol ag enghreifftiau eraill o enw cyffredin a arferir yn enw lle, cafodd y fannod ei gosod o'i flaen i'w wneud yn benodol.

Ceir dros ddeg lle drwy'r byd sydd wedi eu galw ar ôl y Bala, gan gynnwys: Bala Cynwyd ym Mhennsylvania a Bala, Ontario.

Ar un adeg roedd y Bala yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân ond dirwynodd i ben yn y 19g. Yn y sgwâr yng nghanol y dref saif cerflun er cof am Tom Ellis (1859-1899), AS Meirionnydd ar ddiwedd y 19g, a aned yng Nghefnddwysarn nepell o'r Bala. Yno hefyd mae plac yn coffhau'r Parch. Thomas Charles o'r Bala, Methodist blaenllaw ac un o selogion y Gymdeithas Feiblau a symbylwyd gan daith Mary Jones yn droednoeth i'r Bala yr holl ffordd o Llanfihangel-y-Pennant yn 1800. Ym mhen gogleddol y dref gwelir y Green gyda cherrig yr Orsedd o Eisteddfod Genedlaethol 1967. Ger llaw y mae Tomen y Bala, sy'n fwnt a beli, Normanaidd efallai. O'r Bala daeth nifer o'r ymfudwyr a aethant i'r Wladfa ym Mhatagonia yn 1865.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ym 1967, 1997 a 2009. Am wybodaeth bellach gweler:

Mae pentref Bala yn nhalaith Ontario, Canada, yn efeilldref swyddogol i'r Bala.




#Article 149: Llanelwy (365 words)


Mae Llanelwy (Saesneg: St Asaph) yn ddinas yn Sir Ddinbych. Yn gynt, roedd yn yr hen sir draddodiadol, Sir y Fflint. Mae ganddi boblogaeth o tua 3,491 (Cyfrifiad 2001). Fe'i lleolir rhwng Afon Elwy ac Afon Clwyd ar yr A525 6 milltir i'r de o'r Rhyl a 5 i'r gogledd o Ddinbych. Mae'r A55 yn osgoi'r dref i'r gogledd. Mae Esgobaeth Llanelwy yn sedd Esgob Llanelwy, gyda'i eglwys gadeiriol ei hun, y lleiaf yng Nghymru. Ceir sawl adeilad hanesyddol yn y dref, e.e. yr elusendai o'r 17g ar y Stryd Fawr lle treuliodd Henry Morton Stanley gyfnod annedwydd iawn (1847 - 1856).

Credir y lleolwyd caer Rufeinig Varis yn Llanelwy, ond hyd yn hyn mae ei lleoliad yn ansicr. Gorweddai ar Fryn Polyn efallai, ger y dref. Gwyddys fod tref Rufeinig fechan yn Llanelwy, ar diriogaeth y Deceangli.

Dywedir fod Cyndeyrn Sant, esgob Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd (canolbarth Yr Alban heddiw), wedi sefydlu clas yn Llanelwy tua'r flwyddyn 560. Pan ddychwelodd y sant i'r Alban gadawodd y clas yng ngofal ei ddisgybl Asaph (neu 'Asa'), ac mae'r enw Saesneg yn dod o'r cysylltiad hwnnw.

Codwyd eglwys gadeiriol ar y safle presennol tua 1100. Ymwelodd Gerallt Gymro â Llanelwy yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Cynhaliodd y Gwyneddigion eisteddfod yn y dref yn 1790. Enillydd y Fedal Arian oedd y bardd Dafydd Ddu Eryri am ei awdl 'Rhyddid'.

Codwyd eglwys gadeiriol yn Llanelwy tua 1100. Cafodd ei llosgi i lawr yn 1282 gan luoedd Edward I o Loegr ac eto yn 1402 yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr. Dioddefodd dân yn y Rhyfel Cartref hefyd. Cafodd ei hanewyddu'n sylweddol gan George Gilbert Scott yn 1869. (gweler Eglwys Gadeiriol Llanelwy.)

Mae eglwys y plwyf yn hynafol hefyd. Fe'i codwyd ar ddiwedd y 13g a'i chysegru i'r seintiau Pawl a Chyndeyrn, ond mae'r rhan fwyaf o'r adeiladwaith presennol yn dyddio o'r 15g.

Ger y dref ceir Ogofâu Cae Gwyn a Ffynnon Beuno, ogofâu calchfaen a breswylid yn Hen Oes y Cerrig.

Ar 14 Mawrth 2012, cyhoeddwyd bod Llanelwy i gael ei rhoi statws dinas gan y Frenhines i nodi ei Jiwbilî Diemwnt, ynghyd â Chelmsford a Pherth.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 150: Harri III, brenin Lloegr (186 words)


Harri III (1 Hydref 1207 - 16 Tachwedd 1272), oedd brenin Lloegr o 19 Tachwedd, 1216 hyd ei farw. Roedd yn fab i John, brenin Lloegr a'r frenhines Isabella o Angouleme. Roedd yn frawd i Siwan, gwraig Llywelyn Fawr. Etifeddodd yr orsedd pan oedd yn ddim ond naw oed yn ystod Rhyfel Cyntaf y Barwniaid. Arweiniwyd milwyr Harri gan William Marshal, Iarll 1af Penfro gan drechu'r gwrthryfelwyr ym Mrwydr Lincoln a Sandwich yn 1217. William Marshal oedd ei ymgeleddwr, wedi marwolaeth y brenin John.

Cymerodd Harri lw y byddai'n ffyddlon i Siarter Mawr1225, a oedd yn cyfyngu hawliau'r Brenin ac yn dyrchafu hawliau'r barwniaid. Ar ddechrau ei frenhiniaeth, roedd gan Hubert de Burgh ac yna Peter des Roches lle flaenllaw yn ei lywodraethu, a wnaeth dro pedol gan drosglwyddo'r hawliau yn ôl i'r brenin. Ceisiodd y brenin, yn aflwyddiannus, i drechu Ffrainc - y rhan a fu ar un tro'n eiddo i'w dad. Yn 1232 gwrthryfelodd mab William Marshal yn erbyn y brenin, ond daeth yr Eglwys i gymodi rhyngddynt a chafwyd cyfnod o heddwch.

Fe'i ganwyd yng Nghaerwynt. Priododd Eleanor o Provence yn Ionawr 1236.




#Article 151: Harri IV, brenin Lloegr (178 words)


Harri IV neu Henry Bolingbroke (3 Ebrill 1367 – 20 Mawrth 1413) oedd brenin Lloegr o 30 Medi 1399 hyd ei farwolaeth.

Harri oedd mab John o Gaunt a'i wraig Blanche o Lancaster. Cafodd ei eni yng Nghastell Bolingbroke. Daeth i rym yn y flwyddyn 1399 wedi iddo lwyddo i orchfygu'r brenin blaenorol, Rhisiart II, a bu'n teyrnasu yn Lloegr adeg gwrthryfel Owain Glyn Dŵr.

Priododd Mary de Bohun ym 1380. Bu farw Mary ym 1394.

Ar ôl dod yn frenin, priododd Harri Juana o Navarra, gweddw dug Llydaw. Doedd dim blant o'r briodas hon.

Ysgrifennodd y dramodydd Seisnig enwog William Shakespeare gyfres o dair drama amdano, sef Richard II, sy'n croniclo gwrthryfel Bolingbroke yn erbyn Rhisiart II, Henry IV, Rhan I sy'n croniclo gwrthryfel Owain Glyn Dŵr yn erbyn Bolingbroke Henry IV, Rhan II sy'n croniclo marwolaeth Bolingbroke a dyfodiad ei fab Harri V i'r orsedd. Ystyrir y dramâu yn rhai o'r enghreifftiau gorau o ddramâu hanes yn y traddodiad Saesneg, ac mae Henry IV Rhan I yn cael ei gweld fel un o ddramâu gorau Shakespeare.




#Article 152: Cenhinen Bedr (133 words)


Planhigyn lluosflwydd o'r genws Narcissus yw'r genhinen Bedr (lluosog: cennin Pedr). Mae gan y rhan fwyaf o'r math hwn flodau melyn, mawr. Allan o fylbiau y maent yn egino a'u tyfu a hynny fel arfer yn y gwanwyn cynnar.

Y genhinen Bedr yw blodyn cenedlaethol Cymru.

Dim ond yn ddiweddar y daeth y Cennin Pedr yn rhyw fath o arwyddlun cenedlaethol inni. Y Genhinen (Leek) ydi’r un go iawn? Aeth pobl ‘barchus’ ddiwedd y 19g i ystyried y Genhinen braidd yn ‘gomon’, ac fe aeth llawer, yn enwedig y merched, i wisgo Cenhinen Bedr ar Ddygwyl Dewi yn hytrach na’r Genhinnen
draddodiadol. Fe wnaeth Lloyd George ei ran hefyd, oherwydd dyna oedd o yn ei wisgo ar Fawrth 1af. Ymddangosodd yn gyffredin ar ddogfennau swyddogol oedd yn ymwneud â Chymru o hynny ymlaen.




#Article 153: Bywydeg (724 words)


Bywydeg (weithiau: bioleg) yw'r maes gwyddonol sy'n ymdrin â bywyd ac organebau byw. Mae'n cynnwys astudiaethau ar sut mae organebau yn gweithio, datblygu ac esblygu

Mae bywydeg yn ymdrin ag ystod eang o feysydd academaidd sy'n edrych ar bob rhan o natur. Yn draddodiadol, mae'r pwnc yn cael ei rannu'n is-feysydd yn ôl grŵp tacsonomaidd – er enghraifft, mae botanegwyr yn astudio planhigion, sŵolegwyr yn astudio anifeiliaid, mycolegwyr yn astudio ffyngau a meicrofiolegwyr yn astudio bacteria. Mae rhannu bywydeg yn ôl trefn fiolegol yn ffordd fwy cyfoes o wahaniaethu meysydd – er enghraifft, drwy edrych ar foleciwlau a chelloedd, organebau cyfan a phoblogaethau. Gellir hefyd rhannu bywydeg yn ôl dull: gwaith maes, bioleg damcaniaethol, bioffiseg, paleontoleg, ac ati.

Mae bywydeg fel maes modern o astudiaeth wyddonol yn ddatblygiad cymharol ddiweddar. Defnyddiwyd y term bioleg (neu air tebyg) – sy'n deillio o'r gair Groeg βίος (bios, bywyd) a'r ôl-ddodiad -λογία (-logia, astudiaeth o) – am y tro cyntaf o gwmpas dechrau'r 19g. Defnyddiwyd gan y ffisiolegydd Thomas Beddoes yn 1799, y gwyddonydd Karl Friedrich Burdach yn 1800 a'r gwyddonydd Gottfried Reinhold Treviranus yn 1802.

Ond er tarddiad diweddar y pwnc fel y'i adnabyddir heddiw, gellir olrhain hanes bywydeg yn ôl i amseroedd hynafol. Bu Aristoteles yn astudio hanes naturiol anifeiliaid a phlanhigion yng Ngroeg yn Henfyd oddeutu 330CC. Roedd gan brentis Aristoteles, Theophrastus, hefyd ddiddordeb mawr mewn byd natur ac fe ysgrifennodd yn helaeth am blanhigion.

Bu nifer o ddisgyblion y byd Islamaidd canoloesol yn astudio bywydeg, yn cynnwys  al-Jahiz (781–869), Al-Dīnawarī (828–896), a ysgrifennodd am fotaneg ac al-Razi (865–925), a ysgrifennodd am ffisioleg ac anatomeg.

Yn dilyn gwaith arloesol Antonie van Leeuwenhoek ar wella a datblygu'r microsgop yn yr 17g, tyfodd y maes yn sydyn. Darganfyddwyd celloedd sberm, bacteria ac organebau bychain eraill, megis algâu. Fe helpodd datblygiadau fel hyn nodi pwysigrwydd y gell i organebau byw erbyn y 19g. Yn 1838, cyhoeddodd y gwyddonwyr Almaenig Matthias Jakob Schleiden a Theodor Schwann dri syniad sydd erbyn hyn yn cael eu derbyn yn gyffredinol: (1) mai'r gell yw uned sylfaenol organebau; (2) fod gan gelloedd unigol holl nodweddion bywyd; a (3) fod pob cell wedi dod o gelloedd eraill yn rhannu. Gelwir y syniadau hyn heddiw yn theori cell.

Yn yr 17g a'r 18g, dechreuodd haneswyr naturiol ganolbwyntio ar dacsonomeg a dosbarthu bywyd. Cyhoeddodd y botanegydd, swolegydd a meddyg o Sweden Carolus Linnaeus argraffiad cyntaf ei Systema Naturae yn 1735 er mwyn dosbarthu organebau yn y byd naturiol.. Mae ei gyfundrefn o enwau deuenwol yn cael eu defnyddio ar gyfer enwi rhywogaethau hyd heddiw.

Yn y 19g, roedd nifer o wyddonwyr yn dechrau cysidro esblygiad. Cyhoeddodd y biolegydd Ffrengig Jean-Baptiste de Lamarck ei waith Philosophie Zoologique, ac adnabyddir y gyfrol hon fel y gwaith cyntaf i gynnig damcaniaeth gydlynnol ar gyfer esblygiad. Syniad Lamarck oedd fod anifeiliaid yn esblygu oherwydd straen amgylcheddol – wrth i anifail ddefnyddio organ yn amlach ac yn fwy manwl, byddai'r organ yn dod yn fwy cymhleth ac effeithlon; creda Lamarck y gallai'r anifail wedyn basio'r rhinweddau hynny ymlaen ac y gall y genhedlaeth nesaf wella nodweddion yr organ ymhellach. Ond cynigwyd damcaniaeth fwy llwyddiannus yn 1859 gan y naturiaethwr o Loegr Charles Darwin yn dilyn ei deithiau i Ynysoedd y Galapagos a'i ddealltwriaeth o faes geoleg, gan ddefnyddio detholiad naturiol i egluro esblygiad. Ar yr un pryd, daeth y Cymro Alfred Russel Wallace i'r un casgliad wrth ddefnyddio tystiolaeth debyg o dde-ddwyrain Asia.

Yn yr 20g, bu llawer o ymdrech i geisio deall natur etifeddeg. Roedd y mynach o Forafia Gregor Mendel wedi dangos y gall nodweddion pennodol gael eu hetifeddu yn 1865, ond ni chafodd ei waith sylw rhyngwladol nes 1901. Yn 1927, cynnigiodd Nikolai Koltsov fod nodweddion yn cael eu hetifeddu drwy foleciwl etifeddol gyda dau edafedd, y naill yn datblygu gan ddefnyddio'r llall fel templed. Dangoswyd yn y 1940au mai DNA oedd y moleciwl hwn drwy'r arbrawf Avery-MacLeod-McCarty mewn bacteria, a cadarnawyd hyn mewn firwsau yn 1952 yn yr arbrawf Hershey-Chase.

Defnyddir system o'r enw 'Tacsonomeg Linnaeaidd' i ddosbarthu organebau mewn grwpiau. Mae'n cynnwys rhenciau ac enwau deuenwol. Caiff sut enwir organebau ei reoli gan gytundebau rhyngwladol megis Cod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Botanegol (ICBN), Cod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Sŵolegol (ICON), a Chod Ryngwladol Cyfundrefn Enwau Bacteria (ICNB). Trwy ddosbarthiad biolegol gallwn weld sut mae anifeiliaid wedi esblygu ac addasu i'w cynefinoedd.

Mae prif ddarganfyddiadau bioleg yn cynnwys:




#Article 154: Seryddiaeth (189 words)


Astudiaeth wyddonol o'r bydysawd y tu allan i atmosffer y Ddaear yw Seryddiaeth, gan gynnwys y sêr, Cysawd yr Haul a'r planedau. Mae'n cynnwys arsylwi ac egluro digwyddiadau tu hwnt i'r ddaear, ac astudio tarddiad a datblygiad gwrthrychau a welir yn yr awyr, ynghyd a'u priodoleddau ffisegol a chemegol.

I'r dyn cyntefig roedd y sêr yn rhyfeddod llwyr. Roedd yn addoli'r haul a'r lleuad gan edrych arnynt fel duwiau.

Am filoedd o flynyddoedd credid mai'r ddaear oedd canolbwynt y greadigaeth a bod y nen yn troi o amgylch y byd unwaith y dydd, ac fe grewyd calendrau gan y Swmeriaid a'r Babyloniaid, a'r Eifftiaid a'r Groegiaid yn ddibynnol ar y symudiadau yn y ffurfafen.

Aristotle (384 C.C.C. - 322 C.C.C.) yw'r dyn cyntaf a brofodd nad oedd y byd yn wastad (er mae'n debyg bod pobl yn deall hyn ymhell cyn hynny), ac fe awgrymwyd bod y ddaear yn cylchdroi o gwmpas yr haul gan Aristarchus o Mosa, tua 280 C.C.C..

Hyd at yr ail ganrif ar bymtheg yr oedd seryddwyr yn arsyllu â'r llygad noeth, ond gyda dyfodiad y telesgop derbyniwyd nad y ddaear oedd canolbwynt y bydysawd.




#Article 155: Abergele (432 words)


Tref a chymuned yng Nghonwy (yn yr hen Sir Ddinbych cyn hynny), ar yr A55 rhwng Bae Colwyn a'r Rhyl, yw Abergele (). Saif ar lannau Afon Gele. Mae'n dref farchnad, wledig ac yn ganolfan siopa i'r cylch, gyda gorsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. I'r dwyrain o'r dref ceir gwlybdir eang Morfa Rhuddlan a Rhuddlan tua phedair milltir i ffwrdd.
 (1838-1905) a dynnwyd oddeutu 1875. (Delwedd o )

Mae Caerdydd o ddeutu 202 km i ffwrdd o Abergele ac mae Llundain o ddeutu 307 km. Y ddinas agosaf ydy Llanelwy sy'n tua 11 km i ffwrdd.

Tref gymharol fodern yw Abergele a dyfodd o gwmpas yr hen eglwys. Bu damwain difrifol ar y rheilffordd yn 1868 pan darwyd yr Irish Mail gan dri wagen petrol oedd wedi rhedeg yn rhydd i lawr y trac; collodd 33 o bobl eu bywydau ac mae eu beddau i'w gweld ym mynwent yr eglwys heddiw.

Lladdwyd dau aelod o'r grŵp cudd Mudiad Amddiffyn Cymru, sef William Alwyn Jones a George Francis Taylor, yn Abergele pan daniodd y defnyddiau ffrwydrol yr oeddynt yn eu cludo ar 1 Gorffennaf 1969, diwrnod arwisgiad Tywysog Siarl. Gelwir y ddau'n Ferthyron Abergele ac mae eu beddau'n gyrchfan i Genedlaetholwyr a chynhelir seremoni flynyddol yno.

Codwyd Eglwys Fihangel Sant yn y 15g ar safle eglwys hŷn; cafodd ei hadnewyddu yn 1879. Mae'r bedyddfaen yn dwyn y dyddiad 1663. Yn rhan o'r llawr ger yr allor, mae hen garreg â chroes arni sy'n dyddio o'r 13g; credir ei bod yn garreg fedd abad.

Ceir dwy ogof paleolithig nepell o'r dref: Ogof Bontnewydd (Cyfeirnod OS: SJ01527102) a Chefn Ogo. Mae ogof Pontnewydd yn un o'r ddwy ogof bwysicaf yng ngwledydd Prydain o ran olion dyn a dyn Neanderthal; darganfuwyd dant dynol yma sydd oddeutu 220,000 o flynyddoedd oed. Cafwyd hyd i lawfwyeill Neanderthalaidd hefyd, ac esgyrn anifeiliaid gydag olion cigydda arnynt. 750 metr i'r de-ddwyrain, ar yr un ochr i'r afon mae Ogof Cefnmeiriadog neu Cefn Ogo gyda cheg yr ogof  mor anferthol fel y'i galwyd unwaith gan William Davis yn ei lyfr 'hand-book for the Vale of Clwyd' fel one of the most spacious and magnificent caverns in Europe. Mae ceg yr ogof yn 50 troedfedd o uchter, gyda stalactites yn diferu o'r nenfwd mewnol.

Mae Parc y Meirch gerllaw.

Yr ochr de-orllewinol i'r dref safai Bryngaer Dinorben a ddinistriwyd yn llwyr gan y chwarel gyfagos ond ceir tystiolaeth fod pobl wedi byw yno'n ddi-baid o ddiwedd yr Oes Efydd hyd at y 7ed ganrif.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abergele ym 1995.




#Article 156: Abergwaun (150 words)


Tref arfordirol yng ngogledd Sir Benfro ar Fae Ceredigion yw Abergwaun, sy'n perthyn i gymuned Abergwaun ac Wdig. Yma y mae priffordd yr A40 o Lundain a'r rheilffordd yn terfynu. Mae gwasanaeth fferi rheolaidd i Rosslare (Iwerddon) o Wdig, tua milltir i'r gogledd-orllewin o Abergwaun. Llifa Afon Gwaun i'r môr yn y dref gan roi iddi ei henw.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Mae swyddfa Menter Iaith Sir Benfro yn Abergwaun. Mae yna gangen Cyd yn Abergwaun, sy'n cwrdd yn y Dderwen Frenhinol yn y dref. Mae llawer o ddosbarthiadau Cymraeg i oedolion yn Abergwaun a'r cyffiniau.

Tra bod tarddiad Abergwaun yn amlwg, o'r Hen Norseg Fiskigarðr sef lle i ddal pysgod y daw'r enw Saesneg Fishguard - a sillafwyd hefyd fel Fiscard hyd at y 19eg ganrif.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Abergwaun ym 1936 a 1986. Am wybodaeth bellach gweler:




#Article 157: Edward IV, brenin Lloegr (268 words)


Edward IV (28 Ebrill 1442 – 9 Ebrill 1483) oedd brenin Lloegr o 3 Mawrth 1461 i 30 Hydref 1470, ac o 4 Mai 1471 hyd ei farwolaeth.

Roedd yn fab i Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog. Cafodd ei eni yn Rouen, Ffrainc. Ei wraig oedd Elizabeth Woodville.

Pan goronwyd Edward IV yn 1461 llac oedd ei afael ar Gymru. Y de-ddwyrain yn unig oedd yn ddiogel dan awdurdod iarll Warwick a Herbert, a phrin oedd ei ddilynwyr yn y gorllewin a'r gogledd. Yn dilyn brwydr Towton, ym Mawrth 1461, dyrchafwyd Wiliam Herbert i safle uwchben pob unigolyn arall yng Nghymru: yn ustus, siambrlen, stiward a phrif fforestydd siroedd Aberteifi a Chaerfyrddin, gyda'i frawd Rhisiart yn ddirprwy, a chomisiynwyd Wiliam Herbert a'i frawd yng nghyfraith, Walter Devereux, i feddiannu iarllaeth Penfro a'r tiroedd a gysylltid â hi, tiroedd Siasbar Tudur a'i nai Harri Tudur. Yna meddiannodd Herbert diroedd teulu Buckingham yng Nghymru, gan gynnwys Brycheiniog a Gwynllwg. Ffodd Siasbar Tudur, hanner brawd Harri VI, rhagddynt i'r Gogledd, a syrthiodd castell Penfro i ddwylo Herbert. Yno roedd y bachgen  pedair oed, Harri Tudur, mab i frawd Siasbar. Cymerwyd ef gan Herbert i Raglan ac yno y magwyd Harri Tudur hyd 1469. Trechwyd Siasbar ym mrwydr Twthill ger Caernarfon, a ffôdd am ei fywyd i Iwerddon.

Prin oedd awdurdod Edward IV yn nhair sir y Gogledd, a bu raid i Herbert ddod â byddin anferthol i Wynedd cyn llwyddo i ddarostwng y trigolion. Ildiodd castell Harlech iddo ar 14 Awst, a chanodd Guto'r Glyn gywydd i longyfarch Herbert, gan ofyn ar yr un gwynt iddo ddangos trugaredd tuag at uchelwyr Gwynedd.




#Article 158: Cernyw (776 words)


Un o'r gwledydd Celtaidd yw Cernyw (Cernyweg: Kernow; Saesneg: Cornwall), yn ne-orllewin Prydain. Mae hefyd yn sir hanesyddol Lloegr ac yn sir seremonïol y rhanbarth De-orllewin Lloegr, gyda'i dref gweinyddol yn Truro. Mae'n ffinio â Dyfnaint ar y tir ac yn gorwedd rhwng Môr Iwerddon a'r Môr Udd. Ystyrir Ynysoedd Syllan neu Scilly hefyd yn rhan o Gernyw.

Truro yw'r unig ddinas, a hefyd y brifddinas. Mae prif drefi'r wlad yn cynnwys Newquay, Bodmin, St Austell, Camborne, Redruth a Padstow. Mae Cernyw yn enwog am fod yn lle dda i fynd am wyliau am ei fod yn dwymach ar gyfartaledd nac unrhyw le arall yng ngwledydd Prydain, ac am ei fod yn lle arbennig am syrffio.

Mae Cernyw hefyd yn enwog am ei phasteiod cig a'i mwynfeydd alcam, ac am Senedd y Stanorion neu Fwynwyr sy'n dal i fynnu mai ganddi hi mae'r hawl i reoli'r wlad. Piran yw nawddsant Cernyw, a'i faner yn groes wen ar gefndir du. Mae mudiad cenedlaethol gwleidyddol yng Nghernyw, ond nid yw'r pleidiau megis Mebyon Kernow a Phlaid Genedlaethol Cernyw wedi gwneud fawr o farc hyd yma, er iddynt gipio ambell sedd ar gynghorau lleol.

Cynhelir Gorseth Kernow (Gorsedd Cernyw) yn flynyddol i hyrwyddo'r iaith Gernyweg a diwylliant Cernyw.

Mae'r Tywysog Siarl hefyd yn dal y teitl Dug Cernyw.

Pentir sylweddol ym mhen de-orllewinol eithaf Prydain Fawr sy'n ymestyn allan i'r Cefnfor Iwerydd rhwng y Môr Celtaidd i'r gogledd a'r Môr Udd i'r de yw Cernyw.  Penrhyn Pedn an Wlas neu Land's End yw pwynt mwyaf deheuol Cernyw a Phrydain (John o Groats yn yr Alban yw pwynt mwyaf gogleddol yr ynys). Nodweddir yr arfordir gan nifer o faeau creigiog a thraethau braf. Mae arfordir y gogledd yn llawer mwy ysgythrog a chreigiog nag arfordir y de, lle ceir baeau mawr agored.

Mae'r poblogaeth oddeutu 534,300, ac mae ei arwynebedd yn 3,563 km2 (1,376 mi sg).

Creigiau Hen Dywodfaen Coch a Defonaidd sy'n nodweddi daeareg solid yr ardal; mae'r creigiau hyn yn torri trwodd yn fryniau isel yma ac acw, yn enwedig ger yr arfordir ac ar Waun Bodmin, lle ceir Bron Wennyly (Brown Willy, 419m), pwynt uchaf Cernyw.

Mae hanes Cernyw fel gwlad fasnach yn dechrau gyda'i chysylltiadau â marsiandïwyr Môr y Canoldir a oedd yn cael eu denu yma gan y mwynfeydd tun. Roedd tun yn cael ei gynhyrchu yng Nghernyw ers Oes yr Efydd; roedd y metel yn arbennig o bwysig gan ei fod yn cael ei gymysgu â chopr i gynhyrchu efydd.

Gelwid Cernyw yn Cornubia gan y Rhufeiniaid, ond nid oes llawer o olion Rhufeinig wedi eu darganfod yma. Erbyn y cyfnod yma roedd tun i'w gael yn haws o Benrhyn Iberia, felly roedd pwysigrwydd economaidd yr ardal yn llai. Wedi i'r Rhufeiniaid adael ymddengys fod Cernyw yn rhan o deyrnas Frythonig Dumnonia neu Dyfnaint.

Erbyn yr 8g roedd Dyfnaint wedi ei goresgyn gan yr Eingl-Sacsoniaid. Enillodd y Brythoniaid frwydr yn Hehil yn 721, ond yn 838 gorchfygwyd cynghrarir o Frythoniaid a Daniaid gan Egbert, brenin Wessex. Yn 936, nodir i Athelstan osod Afon Tamar fel ffin orllewinol Wessex.

Erbyn 1066 ystyrid Cernyw yn rhan o Deyrnas Lloegr, ond roedd ganddi rywfaint o annibyniaeth yn parhau fel is-deyrnas. Diorseddwyd brenin olaf Cernyw, Cadog, gan y Normaniaid.
Bu gwrthryfel yn 1497, gan ddechrau ymhlith y mwynwyr tun, oedd yn gwrthwynebu cynnydd yn y trethi.  Dywedir i ugain y cant o boblogaeth Cernyw gael ei lladd yn y gwrthryfel yma. Yn 1755 tarawyd arfordir Cernyw gan tsunami a achoswyd gan ddaeargryn mawr Lisbon. Ffurfiwyd plaid genedlaethol Mebyon Kernow yn 1951 i geisio ennill hunanlywodraeth. Nid yw'r blaid wedi llwyddo i ennill sedd yn Nhy'r Cyffredin hyd yma.

Nid yw'r sir wedi'i rhannu'n ardaloedd awdurdod lleol; gweinyddir y sir gyfan fel awdurdod unedol, sef Cernyw (awdurdod unedol).

Rhennir Cernyw yn chwe etholaeth seneddol yn San Steffan:

Mae tua mil o bobl yn siarad fersiynau cyfoes o'r iaith Gernyweg. Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr yn defnyddio Kernewek Kemmyn, sydd wedi'i seilio ar lenyddiaeth Gernyweg Canol gydag orgraff i gynrychioli'r seiniau tybiedig. Hefyd mae defnyddwyr Kernewek Unyes (Cernyweg Unedig) a Kernewek Unyes Amendys (CU adolygedig) gydag orgraff Cernyweg Canol wedi'i safoni. Gwell gan rai siaradwyr ddefnyddio Cernyweg Diweddar, sef iaith yr 17eg a'r 18goedd.

Bu farw Dolly Pentreath, siaradwr uniaith olaf y Gernyweg yn ôl y chwedl yn 1777, ond mae tystiolaeth i siaradwyr dwyieithog eraill fyw tan ddechrau'r 19g. Gwnaeth yr iaith oroesi ar dafodau pysgotwyr i ryw raddau hyd ddiwedd y 19g (ni wnaed yr ymchwil angenrheidiol ar y pryd). Mae peth adferiad yn digwydd nawr. O'r chwe iaith Geltaidd, Cernyweg ydyw'r debycaf i'r Gymraeg, er iddi serch hynny fod yn nes at y Llydaweg mewn rhai pethau.




#Article 159: Abermaw (418 words)


Tref arfordirol a chymuned yng Ngwynedd yw Abermaw (Y Bermo, Abermo, Bermo neu Abermawddach yn lleol). Fe'i lleolir ger aber Afon Mawddach ar lan Bae Ceredigion yn ardal Meirionnydd; mae pont reilffordd fawr yn croesi'r afon yn ymyl y dref. Ceir hefyd yma Ganolfan Bad Achub i Ymwelwyr sydd bellach yn arddangosfa. Erys yr harbwr bychan yn brysur, yn arbennig yn yr haf; mae Ras llongau hwylio'r Tri Chopa yn galw yno'n flynyddol.

Tyfodd y dref o gwmpas y diwydiant adeiladu llongau ond erbyn heddiw tref glan môr, dwrsitaidd ydyw'n bennaf. Mae adeiladau hanesyddol y dref yn cynnwys y Tŷ Gwyn, sy'n dyddio o'r Oesoedd Canol ac sy'n gysylltiedig â Siasbar Tudur, ewythr Harri Tudur, a'r carchardy Tŷ Crwn, sy'n dyddio o'r 18g. Roedd y bardd William Wordsworth yn ymwelydd cyson ag Abermaw ac yn edmygu'r golygfeydd gwych o gwmpas.

Ym 1895 cyflwynodd Fanny Talbot, un o drigolion y dref, Dinas Olau, darn o dir creigiog uwchben y dref, i'r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol; cymynrodd gyntaf y mudiad.

Mae pont reilffordd Abermaw, sy'n cludo Rheilffordd Arfordir Cymru dros Afon Mawddach, sydd hefyd yn bont droed, yn un o bontydd pren hiraf ym Mhrydain. Cafodd y coed ei fygwth gan bry genwair toredo ond fe'i adferwyd, gan alluogi'r trenu i'w rhedeg hyd Bwllheli. Ger pen deuheuol y bont, sydd bron i filltir o hyd, roedd Cyffordd Abermaw a ailenwyd yn Morfa Mawddach lle ymunai cangen Rheilffyrdd y Cambrian o dref Dolgellau, ac felly yr holl lein o orsaf Rhiwabon, a oedd yn rhedeg trwy'r Bala a Dolgellau. Ym mhen deheuol y bont cychwynna Llwybr Dyffryn Mawddach o iard Gorsaf Morfa Mawddach. .

Mae'r briffordd A496 yn rhedeg trwy Abermaw.

Mae gorsaf Abermaw ar Reilffordd Arfordir Cymru sy'n cysylltu'r dref ag Aberystwyth i'r de (trwy Tywyn ac Aberdyfi lle gellir newid i ddal trên i gyfeiriad Amwythig), a Pwllheli i'r gogledd (trwy Ddyffryn Ardudwy, Harlech a Phorthmadog).

Mae gwasanaeth bws 2 Arriva (Dolgellau - Caernarfon / Bangor) yn rhedeg trwy Abermaw a cheir hefyd y gwasanaeth X94 rhwng y dref a Dolgellau.

Yn yr haf mae gwasanaeth llong fferi bach yn cysylltu Abermaw â Phwynt Penrhyn; oddi yno gellir dal un o drênau bach Rheilffordd Fairbourne (neu'r Friog) i gyfeiriad Tywyn.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Mae Gallt y Bermo yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Gwaith gwirfoddol wedi ei ymgymryd gan Hugh Griffith Roberts er budd Abermaw: Cymdeithasau'n Gyntaf. Pobl y dref boed yn drigolion neu'n alltud sy'n sicrhau llwyddiant y gwaith .

Eglwys Sant Tudwal, Abermaw




#Article 160: Aberteifi (732 words)


Tref farchnad hanesyddol yn ne Ceredigion yw Aberteifi (Saesneg: Cardigan); saif ar lôn yr A487 hanner ffordd rhwng Aberaeron i'r gogledd ac Abergwaun i'r de.  Fel mae'r enw yn ei awgrymu, saif y dref ar lan ogleddol Afon Teifi ger aber yr afon honno ym Mae Ceredigion. Yr ochr arall i'r aber mae pentref hanesyddol Llandudoch. Yn 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 4,184 (Cyfrifiad 2011).

Codwyd castell yn Aberteifi tua dechrau'r 12g yn ôl pob tebyg (mae peth dryswch yn y cofnodion cynnar rhwng y castell yn y dref a'r castell cynharach ar ei gyrion a elwir Hen Gastell Aberteifi). Yn y flwyddyn 1176 cynhaliodd Yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth eisteddfod yn ei lys yno adeg y Nadolig, yr eisteddfod gyntaf sy'n hysbys. Ymwelodd Gerallt Gymro ag Aberteifi yn ystod ei daith trwy Gymru ym 1188. Arhosodd y castell a'r dref fechan yn nwylo arglwyddi Deheubarth y rhan fwyaf o'r amser hyd 1240 pan syrthiodd i'r Saeson. Cipiodd Owain Glyndŵr y castell o ddwylo'r Saeson ym 1405.

Tyfodd y dref yn borthladd prysur yn y 18g. Erbyn dechrau'r 19g roedd dros 300 o longau hwylio yn gofrestredig yno. Cofnodir i tua 200 o longau gael eu hadeiladu mewn pump iard adeiladu ar lan yr afon. Allforid llechi Cilgerran o'r porthladd. Fodd bynnag dechreuodd yr afon siltio i fyny ac erbyn dechrau'r 20g roedd dyddiau'r porthladd ar ben.

Adeiladwyd y bont bum bwa ar draws afon Teifi yn 1726.

Un o adeiladau mwyaf adnabyddus y dref yw'r Guildhall.

Rhai o'r Gweinidogion: 
George Hughes (1881-1924); Y Parchg J. Arthur Jones 1927- ; Y Parchg Dr. Leighton James; Y Parchg Roland Bevan; Y Parchg David P. Kingdon; Y Parchg Ifan Mason Davies (1986- ); Y Parchg Dr. Gareth Edwards

Dyma enwau rhai o'r Gweinidogion: 
Robert Roberts, Penllwyn (1857-1862); Daeth Y Parchg W. Meidrym Jones ar 24 Hydref 1870; Mydrim Jones (1870-77); Griffith Davies (1881-74?; 1889-96); Y Parchg J. G. Moelwyn Hughes MA, PhD o Gastell Nedd (Ion 1896-1917/18); R. R. Williams (1923– ); Y Parchg Currie Hughes BA (1929- ); Y Parchg Richard Jones MA BSc, Charing Cross (Ion 1969– ); Y Parchg Thomas Roberts (1973-84) (1982?); Y Parchg Ifor ap Gwilym 

Dyma rhai o'r Gweinidogion:
Y Parchg Daniel Davies (1812–64); David Owen; David Owen arall; Y Parchg William Davies (1865-74); Y Parchg T. J. Morris (1876–1908); Y Parchg T. Esger James (1910–35); Y Parchg D. J. Roberts (1939–77); Y Parchg Ieuan Davies (1977-84); 
Y Parchg J. Arwyn Phillips (1986–93); Y Parchg Irfon Roberts (rhannu â Bethania).

Adeiladwyd y capel gwreiddiol ym 1803. Ail adeiladwyd ym 1869; ail agorwyd 20-21 Medi 1870. Adeiladwyd y festri ym 1881, a thŷ'r capel. Ym 1905 roedd gan y Capel 344 o aelodau.

Dyma enwau'r Gweinidogion:
David Phillips; Richard Hancock ( -1850); Robert Breeze (1854); David Jones (1861-67); John Newman Richards (1867-73); Lewis Beynon (1873-); Melchizedek Evans (1884); T. C. Evans; Garro Jones (1895-1902); Evan Evans (1902-05); Morda Evans (1905-1911); W. Whittington (1911-1923); T. J. Walters (1928- ); T. E. Morris; Chwe 1946 Thomas Perkins. 
Ailadeiladwyd mis Hydref 1880.

Agorwyd yr Eglwys bresennol ar 23 Gorffennaf 1970. 

Joseph Higgins (1930-32); John Tole (1932); Wilfred Brodie (1932-3); Basil Rowlands (1933-36); Thomas Williams (1936); Joseph Wedlake (1937-9); Thomas Canning (1940); James McAniff (1941); J. B. O’Connell (1942-5); Phillip Dwyer (1946-7); William Andrews (1947); Albin Kaltenbach (1947-51); George A. Anwyll (1951-9); Raymond Joyce (curad) (1951-9); John McHugh (1950-61??); Arthur Davies (1961); Seamus Cunanne (1962-99); Augustine Paikkatt (1999-2003); Jason Jones (2003–31/1/2011);

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Galwyd Gŵyl Fawr Aberteifi yn wreiddiol yn Eisteddfod Gadeiriol Is-Genedlaethol Aberteifi a gynhaliwyd yn gyntaf yn 1953.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod mewn pafiliwn pren mewn cae tu ôl i Gapel Bethania. Enillodd J R Phillips wobr o £10 am sgrifennu hanes Cilgerran.
Côr Felindre (Drefach), yr unig gystadleuwyr, enillodd £10 yn ‘Achub Fi, O Dduw’.
Bu cystadlu rhwng Côr Brynberian ac Aberteifi am wobr o £8 am ganu ‘Blessed be Thou, Lord God of Israel’. Aberteifi enillodd. Bu'r eisteddfod yn fethiant ariannol oherwydd salwch colera yn yr ardal.

Cynhaliwyd mewn pafiliwn yn dal 5,000. Y llywydd oedd T. E. Lloyd, Coedmore AS, a David Davies AS y Fwrdeistref.
Y côr buddugol oedd Bargoed Teifi.

Bell Court – tu ôl Pendre. Pafiliwn yn dal 5,000. Prif fardd oedd Thomas Davies, Llwynysgaw (Ysgawenydd).

Mai 1954: enillwyd y gadair gan James Nicholas.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Aberteifi ym 1942 a 1976. Am wybodaeth bellach gweler:




#Article 161: Abertyleri (258 words)


Tref ym Mlaenau Gwent, De Cymru yw Abertyleri. Saif y dref 16 mi i'r Gogledd-orllewin o Gasnewydd, ar y Great Western Railway yn wreiddiol. Cododd ei phoblogaeth yn dra chyflym yn ystod y cyfnod o ddatblygu mwyngloddio yn Ne Cymru, gyda 10,846 o breswylwyr yn ôl Cyfrifiad 1891 ac wedyn i 21,945 ddeng mlynedd diweddarach. Yn gorwedd yn yr ardal fwyngloddio fynyddig o'r hen siroedd o Sir Fynwy a Sir Forgannwg, yng nghwm Ebwy Fach, roedd y preswylwyr fel arfer yn gweithio yn y glofeydd, gwaith haearn, a gwaith tunplat.

Mae sawl ysgol gynradd fach, ysgol uwchradd, a chanol tref traddodiadol gan Abertyleri. Heddiw, mae poblogaeth o 11,528 ganddi, ac yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 7% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg; mae 297 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 263 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 247 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 10.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.

Yn 2003, roedd tai rhataf y Deyrnas Unedig yn Abertyleri yn ôl arolwg y Halifax, gyda phris cyfartalog o £37,872. Yn boblogaidd oherwydd ei golygfeydd gwledig, mae'r ardaloedd o Aber-bîg, Llanhiledd, Cwmtyleri, a Chwe Chloch ar ei phwys.

Mae'r enw'n ymddangos gyntaf mewn argraffiad ym 1779, a tharddiad y gair yw Aber (ceg afon) ac enw'r afon fechan Teleri a ymddangosodd gyntaf ym 1332. Mae'r gair hwnnw hefyd yn air cyfansawdd, sef tŷ ac Eleri (enw person).

Roedd coedwig enfawr gerllaw'r dref ers talwm o'r enw Glyn Teleri, ond Cwmtyleri ydy'r enw sydd bellach ar yr ardal hon.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 162: Amlwch (306 words)


Tref fach yng ngogledd Môn yw Amlwch, ar lôn yr A5025 tua 15 milltir i'r gogledd o Borthaethwy, hanner ffordd rhwng Cemaes a Moelfre. Mae Caerdydd 229.2 km i ffwrdd o Amlwch ac mae Llundain yn 356.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 25.5 km i ffwrdd.

Mae enw 'Amlwch' yn cyfeirio at safle harbwr y dref sef Porth Amlwch yn deillio o'r Gymraeg am 'o gwmpas' a llwch (hen air sy'b golygu inlet, creek yn debyg i'r gair Gaeleg 'loch' ar gyfer corff o ddŵr.

Tref sy'n gorwedd ar lan y môr yw hi, heb draeth ond gyda chlogwynni arfordirol trawiadol. Mae twristiaeth yn elfen bwysig yn yr economi leol. Ar un adeg roedd yn borthladd eithaf prysur gyda llongau yn hwylio oddi yno i Ynys Manaw a Lerpwl. Mae nifer o'r tai yn dyddio o'r 19g ac yn ychwanegu at awyrgylch y dref.

Yr Arwydd yw papur bro Benllech a gweddill cylch Mynydd Bodafon. 

Tyfodd Amlwch yn gyflym yn y 18g oherwydd y cloddio copr ar Fynydd Parys, y mwyaf o'i fath yn y byd ar un adeg. Erbyn diwedd y ganrif honno roedd gan Amlwch boblogaeth o tua 10,000 gan ei gwneud yr ail dref yng Nghymru ar ôl Merthyr Tudful. Dyna pryd yr estynwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle i longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr.

Dirywiodd y diwydiant copr lleol ar ganol y 1850au ond parhaodd Amlwch i fod yn ganolfan bwysig i'r diwydiant adeiladu ac atgyweirio llongau a gwaith arall cysylltiedig â'r môr.

Yn 1953 agorwyd gwaith cemegol i dynnu bromin o ddŵr môr ond cafodd ei gau yn 2004. Mae cau atomfa Wylfa, gerllaw, yn debyg o gael effaith andwyol ar yr economi lleol hefyd.

Mae siamber gladdu yn Amlwch o'r enw Barcloddiad y Gawres.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 163: Bae Colwyn (411 words)


Tref arfordirol a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy yw Bae Colwyn. Mae priffordd yr A55 yn pasio drwy'r dref ac mae ganddi orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae'n dref wyliau gyda phromenâd braf, pier a pharciau. Mae'r traeth yn llydan a diogel gyda thywod braf a rhimyn o gerrig mân. Mae'n dal i fod yn ganolfan siopa brysur er gwaethaf y gystadleuaeth o du'r archfarchnadau mawr. Lleolir pencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mharc Eirias. Ceir yn ogystal nifer o swyddfeydd llywodraeth leol a'r gwasanaeth sifil yn y dref, gan gynnwys rhai o swyddfeydd rhanbarthol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cyn ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru yn Ebrill 1974 roedd Bae Colwyn yn Fwrdeisdref Ddinesig yn yr hen Sir Ddinbych gyda phoblogaeth o tua 25,000, ond yn 1974 ddiddymwyd yr hen awdurdod i adael pum cymuned (seiledig ar y plwyfi). Mae gan Bae Colwyn yn ôl y diffiniad hwnnw boblogaeth o 9,742 (2001). Poblogaeth y cymunedau eraill a fu'n rhan o'r hen fwrdeisdref yw Mochdre (1,862), Llandrillo-yn-Rhos (7,110), Hen Golwyn (7,626) a Llysfaen (2,652). Erbyn heddiw mae'r pum plwyf yn un ardal drefol mewn gwirionedd, gyda phoblogaeth o 30,265 o bobl (2001), yr uchaf yng ngogledd Cymru ac eithrio Wrecsam.

Cnewyllyn y dref oedd Hen Golwyn ('Colwyn' yn wreiddiol) a Llysfaen i'r dwyrain a Llandrillo-yn-Rhos i'r gorllewin; tyfodd y dref rhwng y ddau le hynny (sy'n rhan o Fae Colwyn o safbwynt llywodraeth leol). Fel yn achos Llandudno a'r Rhyl, tyfodd Bae Colwyn yn gyflym yn ail hanner y 19g, yn sgîl dyfodiad y rheilffordd yn 1848, a dechrau'r 20g fel tref gwyliau glan môr hawdd i'w chyrraedd o drefi poblog gogledd-orllewin Lloegr.

Roedd y dref yn sir Clwyd hyd 1996, a bu'n rhan o'r Sir Ddinbych hanesyddol hyd 1974.

Mae'r dref wedi dioddef problemau cymdeithasol ers y 1980au gyda nifer o bobl ddiwaith o ogledd Lloegr symud i mewn a'r canran hŷn o'r boblogaeth gynyddu ar yr un pryd wrth i bobl symud yno ar ôl ymddeol.

Lleolir Theatr Colwyn yn y dref. Dyma'r sinema hynaf yng ngwledydd Prydain sy'n dal i weithredu.

Ar gyrion y Bae ceir Parc Eirias, gyda Phwll Nofio a meysydd chwarae.

Gwasanaethir ardal Bae Colwyn gan ddwy ysgol uwchradd, sef:

Mae nifer o ddisgyblion yr ysgolion hyn yn mynd ymlaen i ddilyn cyrsiau addysg uwch yng Ngholeg Llandrillo Cymru, yn Llandrillo-yn-Rhos.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Colwyn ym 1910, 1941 (Hen Golwyn) a 1947. Am wybodaeth bellach gweler:

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 164: Betws-y-Coed (825 words)


Tref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Conwy, ym Mharc Cenedlaethol Eryri yw Betws-y-Coed. Gerllaw, mae'r Bont Waterloo haearn yn cario'r A5 dros Afon Conwy. Mae Afon Llugwy, sy'n rhedeg trwy'r pentref, yn ymuno ag Afon Conwy gerllaw. Mae Caerdydd 184.1 km i ffwrdd o Betws-y-Coed ac mae Llundain yn 306.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 26.6 km i ffwrdd.

Un o'r hen enwau ar y pentref oedd Betws Wyrion Iddon. Fe'i gelwid hefyd Llanfihangel y Betws yn ôl y Parochiale Wallicanum (Plwyfi Cymru) a gyhoeddwyd yn 1721. Ystyr 'betws' yw capel anwes, tŷ gweddi neu eglwys fach, ac mae'n air Cymraeg Canol sy'n fenthyciad o'r gair Hen Saesneg bede-hūs (bead-house). Ystyr yr enw 'Betws-y-Coed' felly yw Y Tŷ Gweddi yn y Coed, er bod bead-house yn gallu golygu elusendy hefyd yn Saesneg.

Mae'r pentref presennol yn wasgaredig ar ddwy lan Afon Llugwy lle egyr y dyffryn allan wrth ymuno â dolydd isel gwastad Dyffryn Conwy. Mae'r ardal yn goediog iawn ond erbyn heddiw mae'r hen goedwigoedd cysefin wedi ildio lle i goedwigoedd pinwydd trwchus y Comisiwn Coedwigaeth sy'n gorchuddio'r bryniau i'r gogledd ac i'r de o Fetws-y-Coed. Tu draw i Goedwig Gartheryr, i'r de, mae Llyn Elsi yn gorwedd.

Hyd at y 16g roedd Betws yn rhan o blwyf Llanrhychwyn a honno yn ei thro yn rhan o gwmwd Nant Conwy yn nghantref Arllechwedd. Ymddengys fod eglwys wedi sefyll ym Metws ers Oes y Seintiau. Mae cwrs ffordd Rufeinig, a elwir Sarn Helen fel cynifer o'i thebyg, yn pasio'n agos i'r pentref ar ei ffordd o gaer Caerhun (Canovium) i Ddyfryn Lledr ac mae cangen ohoni'n rhedeg i fyny dyffryn Afon Llugwy i Gapel Curig. Roedd Rhys Gethin, un o gapteiniad pennaf Owain Glyndŵr, yn byw yn 'Hendre Rhys Gethin' ym mhlwyf Betws-y-Coed. Roedd ei frawd Hywel Coetmor, oedd hefyd yn wrthryfelwr a noddwr beirdd, yn byw yng Nghastell Cefel yng Nghoedmor gerllaw, yn ôl Syr John Wynn o Wydir. Ceir beddfaen eu taid Gruffudd ap Dafydd Goch yn yr eglwys (gweler isod).

Rhywbryd yn y 15g codwyd Pont-y-Pair dros Afon Llugwy (gweler isod). Tyfodd y pentref yn gyflym yn ail hanner y 19g. Daeth yn fangre boblogaidd iawn gan arlunwyr o dros Glawdd Offa ac am gyfnod roeddynt yn ffurfio cylch artistaidd tebyg i'r un a gafwyd yn St Ives yng Nghernyw. Mae nifer o dai yn y pentref yn dyddio o'r cyfnod hwnnw a blynyddoedd cynnar yr 20g.

Mae Eglwys Fihangel Sant, neu Llanfihangel, yn hen iawn. Mae'n sefyll rhwng yr orsaf rheiffordd ac Afon Conwy ar ochr ddwyreiniol y pentref. Mae'r rhannau hynaf o'r adeilad presennol yn dyddio o'r 14g neu'n gynnar yn y 15g. Dichon ei bod wedi'i chysegru i sant lleol ar un adeg cyn cael ei ail-gysegru i Sant Fihangel, efallai yng nghyfnod y Normaniaid. Mae bedyddfaen yr eglwys yn perthyn i'r 12g, yn ôl pob tebyg.

Y tu ôl i'r allor ceir beddfaen cerfiedig Gruffudd fab Dafydd Goch, un o wyrion Dafydd, brawd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Mae'r cerflun yn dangos Gruffudd yn ei arfwisg lawn ac yn dwyn yr arysgrif,

Tyfa tair ywen hynafol ym mynwent yr eglwys. Mae'r hen borth yn dyddio o 1750. Yn nyfroedd Afon Conwy ger yr eglwys gellir gweld hen gerrig camu a ddefnyddid ar un adeg i groesi'r afon. Yn ymyl yr eglwys yn ogystal ceir pont grog haearn a phren ar gyfer cerddwyr.

Saif Eglwys y Santes Fair yn Neoniaeth Arllechwedd, Esgobaeth Bangor. Eglwys Anglicanaidd ydyw (h.y. yr Eglwys yng Nghymru) ac mae ei drysau ar agor yn wythnosol. Cofrestrwyd yr adeilad gan Cadw fel adeilad rhestredig  Gradd II*. Oherwydd y cynnydd yn nifer yr ymwelwyr, roedd Eglwys Mihangel Sant yn rhy fach a phenderfynwyd codi eglwys newydd, Eglwys y Santes Fair, rhwng 1870 a 1873, yng nghanol y pentref, wrth ochr y brif ffordd. Fe'i cysegrwyd yng Ngorffennaf 1873, a cheir lle i 150 person. ar gost o £5,000 (sy'n gyfwerth â £400,000 heddiw). Cwbwlhawyd y tŵr yn 1907. 

Rhywbryd yn y 15g, efallai, codwyd pont gerrig Pont-y-Pair dros Afon Llugwy (fe'i priodolir i Inigo Jones weithiau, ond mae hi'n hŷn na hynny). Mae ganddi bump bwa â'r un yn ei chanol yn rhychwantu'r geunant ddofn islaw. Mae Pont-y-Pair yn denu nifer o bobl yn yr haf ac mae rhai pobl yn neidio i'r afon o'r bont neu o'r creigiau yn ei hymyl.

Ers canrif a mwy mae Betws wedi bod yn boblogaidd gan ymwelwyr ac yn ganolfan hwylus ar gyfer ymweld ag Eryri. Mae nifer o westai yn y pentref a cheir sawl siop offer dringo a cherdded yn y stryd fawr. Mae'r rhan fwyaf o'r tai wedi'u hadeiladu â cherrig lleol. Mae gan y pentref boblogaeth o 1,187 (Cyfrifiad 2001).

Ceir amgueddfa a chanolfan ymwelwyr yn yr hen orsaf.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Hanner ffordd rhwng Betws a Chapel Curig mae'r Tŷ Hyll. Cyn cyraedd y tŷ, rhyw 2 filltir o'r pentref, mae'r Rhaeadr Ewynnol (Swallow Falls yn Saesneg).




#Article 165: Bethesda (638 words)


Pentref a chymuned yng Ngwynedd, yn Nyffryn Ogwen, a enwyd ar ôl Capel Bethesda. Mae ei thrigolion yn aml yn cyfeirio ati fel Pesda. Cyfeirnod OS: SH 62262 66779. Mae Caerdydd 193.8 km i ffwrdd o Bethesda ac mae Llundain yn 334.4 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 8.6 km i ffwrdd.

Bu pobl yn byw yn Nyffryn Ogwen am ganrifoedd cyn i Fethesda ei hun ddyfod, gyda phlwyf Llanllechid yn un o'r mannau mwyaf poblog. Ni dyfodd yr ardal nes agor Chwarel y Penrhyn yn yr 18g, gyda theulu Warburton yn berchen arni. Hyd heddiw, hi yw'r chwarel mwyaf yn y byd a wnaed heb beiriannau, ac yn ei hanterth cyflogai tua 5,000 o weithwyr, ac allforiai llechi o amgylch y byd; roedd Rheilffordd Chwarel y Penrhyn yn cysylltu'r chwarel a dociau Porth Penrhyn, ger Bangor.

Er y bu sawl streic yn y chwarel yn yr 1880au a'r 1890au, mae'r dref yn enwog am Y Streic Fawr a fu rhwng 1900-3 wrth i weithwyr gael eu cau allan o'r chwarel wedi ffrae am gyflogau. Ym 1901 gadawyd unrhyw un a hoffai weithio ddychwelyd, gan greu rhwyg chwerw yn y pentref rhwng y streicwyr a'r 'cynffonwyr'. Er y daeth y streic i ben ym 1903 ni adfywiodd y pentref, wrth i'r diwydiant llechi ddirywio ac wrth i tua hanner ei phoblogaeth allfudo.

Yn ôl cyfrifiad 2001 yr oedd 4,327 o bobl yn byw yng nghymuned Bethesda (sy'n cynnwys pentref Rachub ac ardal Gerlan), gyda 77.0% ohonynt yn medru'r Gymraeg. Ym 1991 roedd y ffigur hwn yn uwch, gydag oddeutu 80% o'r boblogaeth yn ei medru. Mae'r boblogaeth a'r canran sy'n medru'r Gymraeg wedi dirywio dros y ganrif ddiwethaf - ym 1901, yn ystod adeg y Streic Fawr, roedd tua deng mil o bobl yn byw yn yr ardal, gyda 99% ohonynt yn siarad Cymraeg, sef y ffigur uchaf yng Nghymru ar y pryd.

Ffugenw pobl Bethesda yw'r How Gets. Mae hyn yn deillio o'r ystrydeb bod pobl Bethesda â Saesneg gwael, a byddent wastad yn gofyn i deithwyr di-Gymraeg How get you here?. Yn ddiweddarach mae gan ei phobl enw am fod ag acen ymosodol a chaletach na gweddill y cyffuniau.

Heddiw, mae gan bobl Bethesda ymwybyddiaeth gref am hanes eu pentref, yn enwedig o'r Streic Fawr. Bydd yr enw 'Penrhyn' (yn cyfeirio at deulu Penrhyn) dal yn corddi'r trigolion, a hyd yn oed canrif wedi'r Streic gwrthoda llawer ymweld â hen gartref y teulu hwnnw yng Nghastell Penrhyn.

Hyd heddiw Chwarel Y Penrhyn yw un o brif gyflogwyr y pentref, gyda thua 300 o weithwyr. Mae ffatri Austin Taylor's hefyd yn gyflogwr pwysig. Serch hyn, nid oes fawr o gyfleon i bobl ifanc yn y pentref, a bydd nifer yn gadael am lefydd fel Caerdydd a Manceinion. Mae llawer o'r boblogaeth yn gorfod comiwtio i'w gwaith, gan fod Bangor yn fan poblogaidd iddynt.

Cymraeg yw prif iaith y pentref, a fe'i gwelir a'i chlywir ymhobman. Mae Bethesda yn enwog am ddau beth yn benodol, sef y nifer o dafarndai yno a'r nifer o gapeli. Mae gan gymuned Bethesda wyth o dafarndai (chwech ohonynt yn y Stryd Fawr), a mae tri lle arall lle y gellid yfed. Yn wahanol i'r arfer, noson prysuraf Bethesda yw'r nos Sul. Mae nifer rhyfeddol o lefydd yn gwerthu prydau parod. Mae hefyd tair caffi yn y stryd fawr.

Mae tair ysgol gynradd yn y gymuned, ac un ysgol uwchradd sef Ysgol Dyffryn Ogwen, sydd â thua 400 o ddisgyblion a 30 o athrawon.

Llais Ogwan yw'r papur bro lleol, ac mae'n gwerthu tua 2000 o gopïau pob mis.

Heblaw am y Bethesda wreiddiol yn y Beibl, mae yna un ar hugain o drefi o'r enw Bethesda yn Unol Daleithiau America a Chanada; y mwyaf enwog ohonynt yw Bethesda, Maryland (gweler Bethesda (gwahaniaethu)).

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 166: Biwmares (687 words)


Mae Biwmares (Saesneg: Beaumaris) yn dref hanesyddol yn ne-ddwyrain Ynys Môn, ar lan Afon Menai.  Enw Ffrangeg Normanaidd sydd i'r dref a'i ystyr yw Morfa Deg.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 1,892 o bobl yn byw yn y gymuned hon a 748 (sef 39.5%) o'r boblogaeth dros dair oed a hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Roedd 448 yn ddi-waith, sef 45.7% o'r rhai o fewn yr oedran priodol.

Cyfuniad o ddau air Ffrangeg Normanaidd yw'r enw a roddwyd ar y dref newydd gan y Saeson, sef Beaumarais (beau 'teg' + marais 'morfa neu gorsdir'). Yr enghraifft gynharaf o'r enw Cymraeg am y dref yw 'Y Bew Mareis', a gofnodir ym Mrut y Tywysogion ar ddiwedd y 13g. Mae iethegwyr yn cydnabod fod hyn yn cynrychioli'r ynganiad Ffrangeg Normanaidd gwreiddiol ('Bô-maré' fyddai'r ynganiad Ffrangeg heddiw). Roedd beirdd yr Oesoedd Canol, fel Lewys Môn a Tudur Aled yn aml yn defnyddio'r ffurf 'Duwmares'. Erbyn ganol y 18g cawn lenorion fel Lewis Morris yn defnyddio'r ffurfiau 'Bewmares' - ceir enghraifft o 'Bewmares' mewn cywydd i Thomas Bulkeley a ysgrifennodd yn 1753 - a 'Biwmares'. Erbyn heddiw mae Biwmares wedi'i hen sefydlu fel y sillafiad Cymraeg swyddogol. Ar lafar yn lleol ceir y ffurf 'Bliwmaras' neu 'Y Bliw'.

Sefydlwyd Biwmares ar safle hen dref Gymreig Llan-faes. Wedi concwest 1282-83 gan Edward I o Loegr, bu cychwyn nifer o brosiectau gan y brenin i roi diwedd ar annibyniaeth y Cymry. Un o'r prosiectau hyn oedd adeiladu Castell Biwmares, a adeiladwyd yn 1295, a'r dref ei hun. Nid oedd yn gastell hawdd i'w gipio gan fod modd derbyn bwyd ac arfau o'r môr. Mae'n enghraifft o gastell consentrig, sef o gastell o fewn castell.

Mae arch garreg Y Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru, â'i delw arni i'w gweld yn Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas. Cafodd ei symud yno o fynachlog Llan-faes lle y'i claddwyd.

Symudwyd trigolion Llan-faes i bentref newydd yng ngorllewin yr ynys yn y New Borough a ddaeth i gael ei alw yn Niwbwrch yn Gymraeg. Am gyfnod wedi hyn, Saeson yn unig oedd yn cael trigo tu fewn i waliau'r dref. Gydag adeiladu'r castell daeth Biwmares i fod yn brif dref y Sir Fôn newydd a sefydlwyd yn sgîl y goresgyniad. Yn yr 17g agorwyd y Llys Sirol yno, a bu mewn defnydd hyd y 1970au.

Yn 1829 adeiladwyd carchar wedi ei gynllunio gan Joseph Hansom ym Miwmares. Yn ôl safonau'r dydd roedd y carchar hwn yn beth gyfforddus. Roedd toiled a golau nwy ym mhob cell, sydd yn hynod o fodern, gan ystyried fod carcharorion Strangeways ym Manceinion yn dal i ddefnyddio bwced yn y 1970au.

Dienyddwyd dau garcharor yn y carchar rhwng 1829 a'r 1870au pan gaewyd y carchar a'i newid i fod yn orsaf heddlu. Ym 1830 dienyddwyd William Owen am ladd ei wraig, ac yn ôl yr hanes aeth i'r crogbren dan gicio a strancio ac fe'i claddwyd y tu fewn i furiau'r carchar. Ni ddienyddwyd neb wedyn tan 1862 pan ddienyddwyd Richard Rowlands (Dic Rolant) am ladd ei dad yng nghyfraith. Bu cryn ddadlau am yr achos ac mae nifer o bobl hyd heddiw yn credu fod Rolant yn ddi-euog. Mae chwedl amdano sy'n dweud ei fod wedi addo ar y crogbren y byddai cloc yr eglwys, dros y ffordd i'r wal a oedd yn dal y crogbren, yn dweud yr amser anghywir.

Nid oes swyddogaeth weinyddol mor bwysig gan Fiwmares erbyn hyn - mae cyngor yr ynys wedi symud i Langefni. Er hyn, mae Biwmares yn dal i fod yn un o brif benteithiau twristiaeth Môn, gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac yn gyrchfan ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn.

Yn Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas y mae beddrod y Dywysoges Siwan, ferch y brenin John o Loegr a gwraig Llywelyn Fawr, i'w weld. Cafodd ei symud yno o adfeilion mynachlog Llan-faes.

Mae yna nifer o dai bwyta o safon, tafarndai clyd ac ambell i siop sy'n gwerthu gemwaith a hen bethau. Mae'r ysgol yn un o rai mwyaf y sir.

Mae'r A545 yn cysylltu'r dref â Phorthaethwy.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 167: Mawrth (planed) (1895 words)


Y bedwaredd blaned oddi wrth yr Haul yw Mawrth. Mewn rhai ffyrdd, mae'n debyg i'r Ddaear; mae iddo ddiwrnod 24.63 awr (y sol) ac mae'n cymeryd 687 o ddyddiau i fynd o amgylch yr haul, sy'n golygu bod ei blwyddyn bron ddwywaith hirach na'r un ddaearol. Oherwydd ei bod yn bellach na ni o'r haul mae ei hwyneb yn oerach ac yn amrywio o –125°C yn y pegynnau rhewllyd i 25°C yn llygad yr haul ar y cyhydedd.

Er nad yw pwysedd yr awyr ond yn 6mb (llai na 1% o bwysedd atmosfferig y ddaear), mae hynny'n dal yn ddigon i beru gwyntoedd cryfion sy'n achosi stormydd llwch amlwg iawn ar adegau a rheiny'n medru para am wythnosau. Mae'r aer dennau yn 95% carbon deuocsid, â'r gweddill yn neitrogen, argon ac ychydig bach bach o ocsigen ac anwedd dŵr. Ar y llaw arall, prin fod y tymheredd yn codi dros y rhewbwynt ac mae'r awyr yn denau iawn heb fawr o ocsigen. Mae gan Fawrth ddwy leuad neu loeren, sef Phobos a Deimos. 

Mawrth yw'r unig blaned i roi ei henw i un o ddyddiau'r wythnos yn ogystal a un o fisoedd y flwyddyn.

Am na fu'r prosesau erydu sydd wedi llunio tirwedd y ddaear cyn gryfed ar Fawrth fe erys rhai o'i mynyddoedd yn eithriadol o uchel a garw a cheir ceunentydd enfawr a serth sydd sawl gwaith dyfnach a hirach na'r Grand Canyon. Ceir hefyd losgfynyddoedd, e.e. Olympus Mons, sydd lawer iawn mwy na dim a geir ar y Ddaear, a sawl crater amlwg lle bu gwrthdrawiadau â sêr gwib o'r gofod yn y gorffennol. Nodwedd amlwg iawn yw'r pegynnau gwynion, sydd yn gapiau rhew – 85% carbon deuocsid a 15% dŵr. Heblaw am y pegynnau ni cheir dŵr ar yr wyneb ar hyn o bryd, ond yn ddiweddar daeth llawr o dystiolaeth ffotograffig y bu dŵr yn llifo yma ar un adeg – ni fedr rai o'r nentydd sychion a rhai nodweddion eraill fod wedi cael eu creu gan ddim byd arall yn ôl y farn wyddonol.

Mae wyneb y blaned yn dangos gwahaniaeth sylfaenol rhwng y gogledd a'r de. Yn hemisffer y gogledd mae diffyg craterau a nodweddion tebyg yn awgrymu bod wyneb y blaned yn gymharol ifanc. Yn yr hemisffer deheuol, fodd bynnag, mae digonedd o graterau, dyffrynoedd ac yn y blaen - sy'n awgrymu hen wyneb. Rhwng yr hemisfferau mae dyffryn mawr o'r enw Valles Marineris. Nodweddion pwysig eraill yw'r llosgfynyddoedd Olympus Mons, Pavonis Mons, Ascraeus Mons, ac Arsia Mons.  Mae statws y llosgfynyddoedd yma yn ansicr.

Cafwyd digonedd o dystiolaeth o ddŵr ar wyneb y blaned yn y gorffennol; awgrymir bod llifogydd wedi siapio nifer o ddyffrynoedd ar y blaned (gweler y llun, dde), a chredir bod y basn Hellas yn cynnwys môr miliynau o flynyddoedd yn ôl.  Heddiw, mae'r capiau iâ yn cynnwys carbon deuocsid a dŵr, ac mae'n debyg bod y pridd Mawrthaidd yn cynnwys cryn dipyn o iâ dŵr. Cadarnhaodd Phoenix (y glaniwr NASA) hyn yn 2008 ar ôl palu ffos yn y pridd gyda'i fraich robotig, a thynnu lluniau o iâ ar ochrau y ffos.

Ers canrifoedd mae seryddwyr wedi awgrymu bod bywyd yn bodoli ar y blaned. Ym 1877 cyhoeddodd y seryddwr Giovanni Schiaparelli ei ddarganfyddiad o 'gamlesi' ar y blaned; cafodd yr adroddiad ei gadarnhau gan seryddwyr eraill. Roedd opteg, fodd bynnag, yn sylfaen iawn ar y pryd, ac mae'n debyg bod hyn yn enghraifft o dwyll llygaid.

Ym 1976 anfonodd NASA ddau chwiliedydd gofod, sef Viking 1 a Viking 2, i'r blaned. Glaniodd y ddau ar y blaned, a chafodd arbrofion eu gwneud ar y pridd i chwilio am ficro-organebau, ond roedd y canlyniadau yn amhendant. Yn ddiweddar, fodd bynnag, mae chwiliedyddion gofod wedi darganfod methan yn yr awyr, arwydd sydd, efallai, yn awgrymu bod micro-organebau yn goroesi hyd heddiw o dan y pridd.

Mae presenoldeb dŵr, yn codi'r cwestiwn dyrus: a oes, neu a fu, bywyd ar Fawrth? Ym Mehefin 1976 cyrhaeddodd Viking 1 wyneb y blaned ac arni lwy fecanyddol i godi samplau o bridd a'u dadansoddi'n gemegol am olion bywyd. Pan roddwyd maeth hylifol ar rai o'r samplau bu cyffro mawr pan gynhyrchwyd ocsigen, yn union fel y gellid ei ddisgwyl petae bacteria cyntefig yn y pridd. Gwaetha'r modd doedd y prawf ddim digon manwl oherwydd gallasai prosesau di-fywyd roi'r un canlyniad. Ers hynny cynhaliodd cerbyd bach crwydrol y Mars Pathfinder (1997), a dau arall – y Spirit ac Opportunity (2004) – brofion tebyg ond, eto, amhenodol fu'r canlyniadau. Mae'r ddadl yn parhau felly.

Pan ddaeth Giovanni Schiaparelli i'r canlyniad, yn 1877, bod patrymau ar ffurf llinellau i'w gweld ar wyneb Mawrth (canali fel y'u gelwid yn yr Eidaleg), buan y daeth pobl, gan gynnwys y seryddwr enwog Percival Lowell ddechrau'r 20g, i gredu mai camlesi enfawr oeddent, wedi cael ei hadeiladu gan wareiddiad datblygiedig i drosglwyddo dŵr o'r pegynnau i ddyfrio'r anialdiroedd. 

O ganlyniad aeth dychymyg pobl yn rhemp am fywyd ar blanedau eraill a buan y daeth nofelwyr i sgwennu am deithiau gofodol, gan gyfuno ychydig o wyddoniaeth, stori antur dda a chryn dipyn o wreiddioldeb! Esgorwyd ar 'genre' newydd o sgwennu ddaeth yn adnabyddus fel ffuglen wyddonol, e,e, Percy Gregg â'i Across the Zodiac (1890), ddisgrifiodd daith mewn llong ofod drwy system yr haul yn ymweld a'r planedau, gan gynnwys y Fawrth boblog. Yna, yn 1898 cyhoeddodd H. G. Wells ei nofel enwog War of the Worlds a The First Men in the Moon yn 1901. Daeth War of the Worlds i amlygrwydd byd eang yn 1938 pan y'i ddarlledwyd ar y radio yng ngogledd America gan Orson Welles. Roedd cyflwyniad Welles, ar ffurf adroddiad newyddion, mor ddramatig nes yr achosodd banic llwyr ymysg llawer o'i wrandawyr gan beri iddynt ffoi yn eu degau o filoedd o Efrog Newydd rhag llongau gofod dinistriol y 'Marshans', gan achosi'r tagfeydd traffig a'r llanast mwyaf welodd y ddinas erioed. 

O'r 1920au hwyr daeth cylchgronau a nofelau ffuglen wyddonol i werthu yn eu cannoedd o filoedd, a daeth y dynion bach gwyrdd, efo cyrn malwen ar eu pennau yn eiconau llenyddol poblogaidd mewn comics, dramâu radio cyffrous a rhai o ffilmiau byrrion Fflash Gordon a sawl ffilm wael, hirach, yn y 1950au. Ni chafwyd ymdriniaeth gall o Fawrth yn y maes hwn tan The Sands of Mars, Arthur C Clarke (1951), sy'n weddol agos at ei le o ran yr amgylchedd mae'n bortreadu ar y blaned goch.

Dim ond yn raddol, wrth i delescopau gwell gael eu datblygu, y gwelwyd mai twyll llygad oedd wedi rhoi'r argraff o linellau, neu ganali, ac mai anialwch orchuddiai wyneb y blaned goch. Trawsnewidiwyd ein gwybodaeth pan lwyddodd y lloeren Mariner 9, fu'n cylchdroi o amgylch Mawrth, yrru lluniau manwl yn ôl i'r ddaear yn 1971 – 72.  

Y chwiliedydd cyntaf i ymweld â'r blaned oedd Mariner 4, a lansiwyd gan NASA ym 1964; wnaeth o hedfan heibio'r blaned yn 1965, yn dychwelyd 22 o luniau. Wnaeth y rhain ddangos wyneb y blaned i fod yn debyg i'r Lleuad, gyda nifer mawr o graterau.

Yn y diwedd, darganfuwyd y gwnaeth Mariner 4 hedfan heibio'r ardal hynaf ar y blaned trwy ddamwain a hap; mae tirlun y blaned yn fwy amrywiol nac yr awgrymwyd gan y lluniau cyntaf yma. Wnaeth Mariner 9 gylchu'r blaned o 1971 ymlaen, yn creu'r mapiau cyflawn cyntaf o'i wyneb cyn diwedd ei daith y flwyddyn wedyn, ac yn dangos amrywiaeth yn nhirlun y blaned. Roedd Mariner 9 hefyd yn gyfrifol am ddarganfod Valles Marineris, y dyffryn mwyaf i'w darganfod yng Nghysawd yr Haul. Roedd yr Undeb Sofietaidd yn gyfrifol am lanio'r chwiliedydd cyntaf ar y blaned, Mars 2, ym 1972, ond wnaeth y chwiliedydd gyrraedd yn ystod storm llwch, a methodd yn ystod ei ddarllediad cyntaf heb ddychwelyd unrhyw ddata o bwysigrwydd. Wnaeth y chwiliedyddion Viking ehangu ac ymestyn y data a gasglwyd gan Mariner 9 yn y 70au hwyr.

Ers yr 1990au ar ôl mwy na degawd ers ei daith olaf i'r blaned, penderfynodd NASA wneud fforio Mawrth. Roedd Mars Observer, a lansiwyd ym 1992, yn gais i roi chwiliedydd mewn orbit, ond methodd cyn cyrraedd. Roedd Mars Pathfinder, a lansiwyd ym 1996, yn fwy llwyddiannus; glaniodd y chwiliedydd ar y blaned, a llwyddodd i ddanfon lluniau o wyneb y blaned am y tro cyntaf ers yr 80au cynnar yn ôl i'r Ddaear.

Erbyn hyn, mae dau chwiliedydd yn weithredol ar wyneb y blaned, Spirit ac Opportunity, cerbydau gyda'r gallu i deithio dros wyneb y blaned (ond ers 2009 mae Spirit wedi bod yn sownd mewn pridd meddal). Mae tri arall yn cylchu'r blaned, yn monitro tywydd y blaned ac yn dychwelyd data eraill; lawnsiwyd cerbyd arall, y Mars Science Laboratory, yn 2011, ac mae gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeiaidd gynllun i lawnsio cerbyd, ExoMars, yn 2016. Mae cynllun ar y gweill i anfon chwiliedydd i Fawrth gyda'r bwriad o ddychwelyd pridd Mawrthaidd yn ôl i'r Ddaear, ond bydd taith o'r math hon yn gymhleth iawn o safbwynt technoegol, ac mae'n yn annhebyg i gael ei lawnsio cyn y 2020au cynnar.

Cymaint oedd dylanwad ffuglen wyddonol ar bobl ifanc ddechrau'r 20g nes yr ysgogwyd rhai i chwilio am ddulliau o gyrraedd y gofod ac i arbrofi efo rocedi. Darllen War of the Worlds ysbrydolodd yr Americanwr ifanc Robert Goddard i ddyfeisio a lawnsio'r roced danwydd hylif gynta yn 1926. Darllen deunyddiau tebyg yn yr Almaeneg gychwynodd yrfa Werner von Braun (a ddyfeisiodd rocedi i Adolff Hitler, a'r Americanwyr yn ddieddarach) ac yr un oedd cefndir Fredrik Tsander fu'n gyfrifol am lawnsio rocedi cynta Rwsia. Cri Tsander i ysbrydoli ei gyd-weithwyr fyddai “Ymlaen i Fawrth!”   

Lliw coch y blaned, neu'r seren symudol hon, fu'n gyfrifol am iddi gael ei henwi ar ôl Mawrth – duw rhyfel y Rhufeiniaid – sy'n cyfateb âg Ares, duw rhyfel, terfysg a thywallt gwaed y Groegiaid a Nergal, y duw o Mesopotamia sy'n lladd drwy ryfel a phla. Yn Tsieina cysylltir y blaned â thân a gwaed.

Roedd gan y Celtiaid sawl duw a chwlt lleol fyddai'n cyfateb i'r Mawrth Rhufeinig ond yn hytrach na chyfyngu ei hun i fod yn dduw'r milwyr, ac un ffyrnig a didostur oedd o hefyd, yn cynrychioli rhyfel er mwyn rhyfel, roedd y 'Mawrth' Celtaidd yn ehangach ei fryd. Byddai'n amddiffyn rhag drygioni ag afiechydon yn ogystal. Cafwyd delwau ac arysgrifau o'r cyfnod Rhufeinig i 'Mars Nodeus', yn iachawr gysylltir â Lydney yn ne Lloegr; 'Mars Camulos' gysylltir â Camulodunum  (Colchester) a Camuloressa (yn ne'r Alban); 'Mars Lenus' oedd yn iachawr ac amddiffynwr yr ifanc sy'n gysylltiedig â ffynhonnau yng Ngâl ac y cafwyd delw iddo yng Nghaerwent. Portreadir Lenus fel milwr efo gŵydd wrth ei droed – aderyn sy'n aml yn cael ei gysylltu â duw rhyfel y Celtiaid oherwydd ei natur ymosodol a'r ffaith y bydd yn rhybuddio rhag peryg. Cafwyd yr enw 'Mars Ocelus' hefyd yng Nghaerwent, efo Ocelus, mae'n debyg yn enw gan y Silwriaid lleol am y Mawrth Celtaidd.      

Mae gan Fawrth ddwy leuad fechan, Deimos (arswyd) a Phobos (ofn), sydd ddim ond rhyw chydig gilomedrau ar eu traws ac yn debyg o fod yn asteroidau wedi eu dal yn hytrach na lleuadau go iawn. Fe'u gelwid ar ôl meibion Ares ac Aphrodite – duw rhyfel a duwies cariad y Groegiaid. Mae cylchdro Phobos yn lleihau'n raddol – ryw ddwy fedr y flwyddyn – sy'n golygu y bydd yn disgyn, gan achosi craith ar wyneb ei 'dad', ond ymhen 50 miliwn o flynyddoedd!




#Article 168: Blaenau Ffestiniog (500 words)


Mae Blaenau Ffestiniog yn dref yng Ngwynedd sydd gerllaw Parc Cenedlaethol Eryri; Cyfeirnod OS: SH 70078 41951. Mae ganddi boblogaeth o  4,830 (Cyfrifiad 2001). Mae Caerdydd 175.6 km i ffwrdd o Flaenau Ffestiniog ac mae Llundain yn 308.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sydd 29 km i ffwrdd.

Roedd y dref yn ganolfan bwysig iawn yn y diwydiant llechi.

Mae'r wlad o gwmpas y dref yn rhan o Barc Cenedlaethol Eryri, ond dyw'r dref ei hunan ddim - fe'i heithrwyd oherwydd yr olion diwydiannol sy'n amlwg o amgylch y dref. Dywedir ei bod yn bwrw llawer o law yno. Lleolir y Moelwynion yn agos i'r dref, uwchben pentref Tanygrisiau.

Mae'r cylch yn cael ei wasanaethu gan bapur bro o'r enw Llafar Bro sy'n cael ei gyhoeddi unwaith y mis.

Yn hanesyddol, roedd yn rhan o Sir Feirionnydd.

Tyfodd y Blaenau yn gyflym o gwmpas y chwareli llechi yn ystod y 19g wedi i ŵr o'r enw Methusalem Jones ddarganfod llechfaen yn yr ardal yn yr 1760au. Agorwyd rheilffordd fach (Rheilffordd Ffestiniog heddiw) i gludo llechi o'r Blaenau i Borthmadog, oedd yn borthladd bach prysur yn y 19eg ganrif. Yn anterth y diwydiant llechi ar droad yr 20g, cododd poblogaeth y dref i 11,434 yn ôl cyfrifiad 1901, gan ei gwneud yn ail dref fwyaf gogledd Cymru ar ôl Wrecsam ar y pryd.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Ffestiniog ym 1898.

Mae rhestr faith o fandiau chwyldroadol Cymraeg sy'n dod o Flaenau Ffestiniog, yn eu plith: Anweledig, Llwybr Llaethog, Mim Twm Llai, Frizbee, dau boi o Blaena, Llan Clan a Gwibdaith Hen Fran er enghraifft.

Saif Blaenau ar un pen Rheilffordd Dyffryn Conwy, sy'n ei chysylltu â Chyffordd Llandudno a Llandudno trwy dirlun prydfrerth Dyffryn Lledr a Dyffryn Conwy. Ceir lein arall sydd ar gyfer twristiaid yn bennaf heddiw ond yn y gorffennol a fu'n dwyn llechi i'r cei ym Mhorthmadog, sef Reilffordd Ffestiniog. Mae'r A470 yn mynd trwy'r dref cyn dringo Bwlch y Gorddinan. Mae gwasanaethau bws cyson 1B i Borthmadog, sy'n cysylltu â'r gwasanaeth i Fangor ac mae gwasanaethau bysus eraill i Landudno a Dolgellau. Mae gwasanaeth bws lleol hefyd sy'n cysylltu Tanygrisiau a Rhiwbryfdir gyda chanol y dref.

Mae'r dref yn cael ei gwasanaethu gan dair ysgol gynradd, sef: Ysgol Manod, Ysgol Maenofferen ac Ysgol Tanygrisiau. Mae'r ysgolion hyn yn bwydo'r ysgol uwchradd leol, Ysgol y Moelwyn.

Er fod y diwydiant chwareli llechi yn parhau i gyflogi nifer o bobl yn y dref, mae'r diwydiant hwn wedi cael ei ddisodli fel prif gyflogwyr gan ffatri Blaenau Plastics sydd â staff o tua 300. Rhai o gyflogwyr mawr eraill y dref yw ffatri Metcalfe, sy'n creu offer arlwyo, a phwerdy trydan-dŵr Tanygrisiau. Mae dau gwmni cludiant ffyrdd mawr wedi eu lleoli yn yr ardal hefyd, sef 'Roberts Ffestiniog' o Lan Ffestiniog a 'E. Hughes' o'r Manod.

Mae glaw y Blaenau yn ddihareb. Mae’r graff canlynol yn seiliedig ar ddata o Hanes Plwyf Ffestiniog yn dangos nad dihareb go iawn yw liquid sun brolia rhai trigolion y dref!




#Article 169: Seicoleg (237 words)


Seicoleg yw'r astudiaeth or meddwl, ddamweni yn rhannol o astudiaeth ymddygiad. mae gan seicoleg y cyferchnod uniongyrchol o ddeall unigolion a chyrchfanau trwy sefydlu egwyddorion cyffredinol ac ymchwilio achosion penodol, ac yn eithafol mae sicoleg yn amcanu i llesio cymdeithas. Ddefnyddir seicolegwyr dulliau empeiraidd i awgrymu perthynas achlysurol a cydberthynanol rhwng newidynau seico-cymdethasol. Yn ychwanegol, neu yn gwrthblaid i defnydd o ddylliau empeiraidd a ddiwytho, ymddiredau rhai - seicolegwyr clinigol a cwnsela yn enwedig - yn rhannol ar dehongliad symbolaidd ac dulliau anwythol arall. Ymgorfforwyd ymchwil o wyddoniaethau cymdethasol ag naturiol, ac or dynoliaethau, fel athroniaeth.

Tra fod adnayddiaeth seicolegol yn aml yn cael ei cymhwyso ir assesiad ar triniaeth o problemau iechyd meddyliol, hefyd gall seicoleg cael ei cymhwso i ddeall a datrys problemau yn nifer o wahanol cronnellau o weithgareddau dynol. Mae'r mwyafrif o seicolegwyr yn ghlwm ag rhyw fath o rhan therapiwtig, yn ymarferu yn clinigol, cwnsela neu amgylchedd ysgol. Ymchwiliadau nifer o seicolegwyr mewn i amrediad eang o testunau sydd yn gysylltiedig i fwythiant meddyliol ag ymddygiad, ac yn debygol yn weithio mewn adran seicoleg mewn prifysgol neu yn dysgu mewn amgylchedd academaidd. Mae rhai wedi ei cyflogi mewn ddiwidiant ac adranau cyfluniaeth, neu mewn adranau arallBureau of Labor Statistics, U.S. Department of Labor, Occupational Outlook Handbook, 2010–11 Edition, Psychologists, on the Internet at fel datblygiad dynol ac heneddi, chwarenon, iechyd ar cyfryngau, yn ychwanegol i dadalfniad fforensig ac adranau arall or gyfraith. 




#Article 170: Ffiseg (338 words)


Mae ffiseg (o'r Groeg φυσικός, naturiol, a φύσις, natur) neu anianeg (term hynafol am ddeddfau neu drefn natur) yn gainc o'r astudiaeth wyddonol o fyd natur er mwyn deall sut mae'r bydysawd yn gweithio. Astudiaeth o fater ydyw ynghyd a chysyniadau perthnasol eraill e.e. ynni a grym a'i amcan yw canfod y deddfau sylfaenol sy'n llywodraethu mater, ynni, gofod ac amser.

Mae ffiseg yn:

Gwneir defnydd helaeth o gydberthnasau mathemategol i ddisgrifio deddfau ffiseg.

Mae ffisegwyr yn cymryd yn ganiataol bodolaeth mas, hyd, amser, cerrynt trydanol a thymheredd ac oddi wrth y rhain yn gallu diffinio pob maint ffiseg arall.

Ffiseg yw'r wyddoniaeth o mater, ymddygiad y mater a mudiant. Dyma un o'r disgyblaethau gwyddonol hynaf. Yr hen Roegwr Aristotlys a gyfansoddodd y gwaith ysgrifenedig cyntaf am ffiseg.

Yng Nghymru, sefydlwyd cadair ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1877, Caerdydd yn 1883 a Bangor yn 1884.

Mae ffiseg yn cwmpasu ffenomenau eang, o'r gronynnau is-atomig bychan, i'r galaethau anferthol. Mae'r gwrthrychau mwyaf syml yn cael eu cynnwys mewn ffiseg ac felly dywedir fod ffiseg yn wyddoniaeth sylfaenol. Mae ffiseg yn ceisio disgrifio ffenomena amrywiol sy'n digwydd mewn natur mewn termau syml. Felly, mae ffiseg yn bwriadu cysylltu'r pethau pob dydd yr ydym yn eu gweld o’n cwmpas i darddiad yr achos yn y gobaith o ffeindio'r rheswm eithafol ar gyfer ein bodolaeth. Er enghraifft, roedd y Tsieineaid hynafol wedi arsylwi bod yna rymoedd anweledig rhwng mathau gwahanol o greigiau. Adnabyddir yr effaith yma erbyn hyn fel magneteg neu magnetedd. Yn gynharach darganfu'r Groegwyr hynafol drydan wrth rwbio gwefr efo ffwr. Roedd datblygiadau technoleg yn yr 19g wedi dangos cysylltiad rhwng y ddwy theori. Gelwir hyn yn electromagnetedd.

Mae gan ffiseg berthynas agos â'r gwyddorau naturiol eraill, yn enwedig cemeg. Gelwir cemeg ar sawl maes yn ffiseg, yn enwedig mecaneg cwantwm, thermodynameg ac electromagnetedd.  Er hynny, mae ffenomenau cemeg yn ddigon amrywiol a chymhleth i drin cemeg fel disgyblaeth ar wahân. Sut bynnag, derbyniwyd yn gyffredinol gan gemegwyr a ffisegwyr taw deddfau ffiseg sy'n disgrifio camau sylfaenol pob rhyngweithiad cemegol.




#Article 171: Seren (343 words)


Clwstwr o beli o nwy sydd yn cael eu rhyddhau gan adweithiau niwclear y tu mewn iddynt yw seren ac mae hyn yn gwneud iddi oleuo'n llachar yn y nen. Y lluosog yw sêr. Mae'r gair yn tarddu o'r gwreiddyn Proto-Celteg *sterā- sy'n tarddu o'r Proto-Indo-Ewropeg *h₂stḗr-. Yr Haul yw'r seren agosaf at y ddaear. Yr enw ar astudiaeth o'r sêr a gwrthrychau seryddol eraill yw seryddiaeth.

Mae seren yn cael ei hynni o'r adweithiau thermoniwclear yn ei chanol poeth. Mae ein Haul ni yn seren o fath cyffredin; mae màs sêr yn amrywio o 0.05 i 60 gwaith màs yr Haul.

Mae màs seren yn penderfynu ei disgleirdeb, tymheredd ei wyneb, ei maint a phriodoliaethau eraill, ynghyd â'i chwrs esblygol a'i hoes; uched y màs, disgleiriach, poethech a mwyaf y seren.

Yn ystod eu hoes mae sêr yn esblygu, proses a elwir yn esblygu seryddol. Mae seren ifanc yn esblygu o'r cyflwr o fod yn egin-seren i'r cyflwr lle maent yn cynhyrchu ynni trwy'r broses o ymasiad niwclear lle mae niwclei hydrogen yn asio ac yn ffurfio heliwm:

Mae'r broses elfennol hon yn parhau am tua 10¹° o flynyddoedd yn achos seren o fàs tebyg i'r Haul ond dim ond am ychydig o filiynau o flynyddoedd yn achos sêr anferth. Pan gaiff y hydrogen ei losgi'n gyfan gwbl, mae sêr yn troi'n sêr cawraidd, a'r rhai o fàs tebyg i'r Haul yn troi'n gewri coch. Mae sêr o fàs isel, ar y llaw arall, yn tueddu troi'n gorachod gwynion ar ddiwedd eu hoesau.

Mae rhai o'r sêr mwyaf yn gorffen eu rhawd mewn uwchnofa anferth, gyda'r hyn sy'n weddill ohonynt yn ffurfio naill ai sêr niwtron neu dyllau duon, yn ôl eu màs.

Ni ddosberthir sêr yn gyson trwy'r bydysawd, ond yn hytrach y cânt eu cynllunio mewn cynulliadau anferth a elwir galaethau mewn canlyniad i rymusterau disgyrchiant.

Mae ein seren ni, yr Haul, yn rhan o'n galaeth leol, y Llwybr Llaethog, a leolir ar un o freichiau allanol yr alaeth. Mae'r seren agosaf i'r Haul yn 4.3 blwyddyn goleuni i ffwrdd.




#Article 172: Brynbuga (127 words)


Tref fechan a chymuned yn Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru, yw Brynbuga (Cyfeirnod OS: SO3700); (Saesneg: Usk). Mae Afon Wysg yn llifo trwy'r dre sef tarddiad yr enw Saesneg i'r dref. Hen enw Brythoneg ar gaer Rhufeinig y dref oedd 'Burrio' sef caer 'cadarn', 'cryf', 'enfawr' ac efallai i'r gair hwn newid yn 'buga'.

Sefydlwyd y dref gan y Rhufeiniaid ym 55 OC, gyda'r enw Lladin Burrium.

Cynrychiolir Brynbuga yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Yn yr Oesoedd Canol Diweddar daeth yn ganolfan Arglwyddiaeth Brynbuga. Llosgwyd Brynbuga gan fyddin Owain Glyndŵr ym 1403, ond cafodd y Saeson fuddugoliaeth yn erbyn Glyn Dŵr ym mrwydr Pwll Melyn, yn agos i Frynbuga, ym 1405.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Erthygl Pedia Trefynwy




#Article 173: Bryn-mawr, Blaenau Gwent (245 words)


Tref farchnad ym Mlaenau Gwent, de Cymru ydy Brynmawr. Saif y dref, weithiau fe'i dyfynnir yn dref uchaf Cymru, rhyw 1,250 i 1,500 traed uwchlaw lefel y môr ar ben Cymoedd De Cymru. Tyfodd hi yn ystod cyrhaeddiad y gweithfeydd glo a diwydiannau haearn yn y 19eg ganrif gynnar.

Mae Caerdydd 35 km i ffwrdd o Frynmawr ac mae Llundain yn 215.1 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 26.4 km i ffwrdd.

Yn wreiddiol, roedd hi'n anheddiad pentrefol bach o'r enw Gwaen Helygen (Cors Helygen mewn Cymraeg Cyfoes, neu Marsh of the Willow yn Saesneg) a oedd yn gorwedd yn y sir flaenorol o Sir Frycheiniog. Gydag ehangiad gwaith haearn Nant-y-glo, roedd angen tai ar y gweithwyr, a throdd Frynmawr yn dref ffyniannus. Er gwaethaf y cloddio glo yn dirywio, mae amgueddfa mwyngloddio fawr ar bwys y dref ym Mlaenafon o'r enw Pwll Mawr.

Heddiw, mae gan Frynmawr boblogaeth o fwy na 6,000 o bobl. Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae 8% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 425 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 416 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 366 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, 9.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.

Roedd gan y dref yr unig ysgol gynradd Gymraeg o'r enw Ysgol Gymraeg Brynmawr gyda 310 o ddisgyblion tan 2010, pan symudwyd yr ysgol i'r Blaenau i ysgol sydd wedi'i hadeiladu'n bwrpasol, newydd sbon o'r enw Ysgol Gymraeg Bro Helyg.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 174: Caerfyrddin (999 words)


Caerfyrddin (Saesneg: Carmarthen) yw tref sirol Sir Gaerfyrddin, Cymru, tref a saif ar lan Afon Tywi rhyw 8 milltir (13 km) i'r gogledd o aber yr afon; mae hefyd yn gymuned. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 14,185 ac mae ei harwynebedd yn 2,110hr. Yn ôl cyngor y dref, Caerfyrddin yw'r dref hynaf yng Nghymru; gwyddom i waliau'r dref gael eu codi oddeutu OC. Mae ganddi nifer o safleoedd treftadaeth sydd wedi goroesi dros y blynyddoedd; mae rhain yn cynnwys yr amffitheatr Rufeinig a rheilffordd y Gwili. Mae gan yr ardal gyfran uchel o siaradwyr Cymraeg ac mae'r ardal yn gartref i bencadlys Heddlu Dyfed-Powys, pencadlys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, campws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru. Yn 2014 penderfynwyd adleoli swyddfeydd S4C i Gaerfyrddin.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Mae'r cofnod cyntaf o'r enw'n ymddangos rhwng 1126 a 1153 fel 'Chaermerthin', yna yn 1158 fel 'Cairmerdin'.

Adeiladwyd Caerfyrddin ar safle caer Rufeinig Moridunum, (a sillafwyd yng ngwaith Ptolemy, ac ers hynny, yn 'Maridunum'); Moridūnon oedd yr hen air Brythoneg, fodd bynnag sy'n gyfuniad o 'môr' a 'din' neu ddinas. Mae'r môr heddiw tua dau-ddeg km i gyfeiriad y de; mae'n bosibl mai o'r gair Brythoneg hwn 'môr-ddin' y daw'r gair 'Myrddin'; ni sonir am 'Myrddin' tan i Sieffre o Fynwy (1090 - 1155) bersonoli'r enw.

Credir bod y gaer Rufeinig yn dyddio o tua 75-77 O.C. Darganfuwyd swp o arian Rhufeinig yn ymyl safle'r gaer yn 2006. Ger y gaer hefyd mae un o'r unig saith amffitheatr sydd wedi goroesi
yng ngwledydd Prydain. Bu cloddio archaeolegol yno yn 1968 ac mae'r gaer yn 46 wrth 27 medr o faint gyda'r eisteddle yn 92m wrth 67m. Credir bod patrwm strydoedd y dref wedi'i seilio ar yr hen gaer Rufeinig hon.

Adeiladodd y Norman William Fitz Baldwin gastell yma rywbryd o gwmpas 1094. Dinistrwyd y castell gan Lywelyn Fawr yn 1215 ond ail-adeiladwyd y castell yn 1223, a chodwyd mur o gwmpas y dref. Yn 1405 cipiwyd y dref a'r castell gan Owain Glyn Dŵr. Ymwelodd Gerallt Gymro â Chaerfyrddin yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188. Erbyn y 12g roedd yn gyfuniad o'r hen a'r newydd: yr hen dref Gymreig ei natur o amgylch y priordy Awgwstinaidd ac Eglwys Sant Pedr, a'r dref Seisnig newydd o amgylch y castell. Cyfunwyd y ddwy ran yn 1546, pan grewyd un fwrdeisdref, a ddaeth yn Sir ymhen blynyddoedd - yn 1604. Cynhaliwyd eisteddfod yn y castell yn 1451. Dim ond y porthdy deudwr a godwyd ar ddechrau'r 14g sydd ar ôl bellach gan fod y rhan fwyaf o'r castell y tu ôl i swyddfeydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

Tua 1250 ysgrifennwyd Llyfr Du Caerfyrddin, un o'r llawysgrifau Cymraeg hynaf, fwy na thebyg ym Mhriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog, sefydliad crefyddol Awstinaidd a godwyd yn 1148. Yn 1234 cafodd y tywysog ifanc Rhys Gryg o Ddeheubarth ei glwyfo'n angheuol mewn brwydr ger y dref a bu farw ymhen ychydig yn Llandeilo. Roedd Caerfyrddin erbyn hyn yn nwrn coron Lloegr ac yn ganolfan weinyddol bwysig, ac oddi yma y rheolwyd ac y gorfodwyd ffordd newydd o fyw ar Gymry'r de-orllewin. Oherwydd hyn, tyfodd y dref yn y cyfnod hwn. Yn 1282 sefydlwyd priordy arall gan y 'Brodyr Cardod' (y Ffransisgiaid) ac yno y claddwyd tad Harri VII sef Edmwnd Tudur, Rhys ap Thomas a Thudur Aled y bardd (m. 1526). Symudwyd nifer o'r beddau i Eglwys Gadeiriol Tyddewi wedi diddymu'r priordy hwn yn 1538.

Yn ystod cyfnod y Pla Du diwedd y 1340au, daeth y pla i Gaerfyrddin o ganlyniad i'r holl fasnachu llewyrchus oedd ar yr afon. Mae haneswyr lleol yn lleoli safle claddu'r meirw adeg y pla yn y fynwent sydd ger Maes-yr-Ysgol a Llys Model tu ôl i Stryd Catherine.

Cysylltiwyd y dref â'r dewin chwedlonol Myrddin. Un o'i broffwydoliaethau oedd y byddai'r dref yn sefyll tra bod y goeden dderwen hynafol oedd yng nghanol y dref yn sefyll, ond y byddai'r dref yn boddi pe byddai'n syrthio. Mae'r hen dderwen bellach yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Abergwili. Ceir cyfeiriadau at Myrddin yn Llyfr Du Caerfyrddin yn cynnwys  Ymddiddan Myrddin a Thaliesin, ac o bosibl at Arthur ei hun (Pa ŵr yw'r Porthor).

Yn dilyn y Ddeddfau Uno Cymru, daeth Caerfyrddin yn bencadlys
cyfreithiol Llys y Sesiwn Fawr yn ne-orllewin Cymru.

Ar 30 Mawrth, 1555, yn nheyrnasiad Mari Tudur, cafodd Robert Ferrar, Esgob Tyddewi, ei losgi wrth y stanc yn sgwâr y farchnad (Sgwar Nott erbyn hyn) ar ôl cael ei gyhuddo o heresi a dangos gormod o gariad tuag at y Cymry.

Pan agorwyd Ysgol ramadeg y Frenhines Elizabeth yn 1576 roedd dwy fil o drigolion yn byw yn y dref. Argraffwyd yr ail bapur newydd wythnosol Cymru yng Nghaerfyrddin, The Carmarthen Journal a daeth y dref yn ganolfan bwysig i argraffu, gydag argraffwyr fel John Ross a theulu'r Spurrells yn cartrefu yno.

Adlewyrchir pwysigrwydd Caerfyrddin ym myd amaeth Cymru gan y ffaith y cafodd Undeb Amaethwyr Cymru ei sefydlu yn y dref yn 1955.

Mae Campws Caerfyrddin; Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn y dref.

Bu yma weithfeydd tunplat a haearn ar ddechrau'r 19fed ganrif yn ogystal â ffatri gwneud rhaffau. Bu Helyntion Beca yn yr ardal, a rhoed nifer o'i 'merched' o flaen eu gwell yn llys y dref. Yn 1843 ymosododd nifer o wrthdystwyr ar y tlodty lleol. Yn y 19eg ganrif roedd yn y dref dros gant a hanner o dafarnau. Caniatawyd agor y tafarnau hyn ar bob diwrnod marchnad ac roedd yr oriau agor, o'r herwydd, yn gyfandirol iawn!

Yn 1999 gosodwyd ffordd osgoi ddwyreiniol gan leihau'r tagfeydd.

Agorwyd Canolfan S4C Yr Egin, pencadlys newydd S4C yno ym mis Hydref 2018. Mae gyferbyn â phrif gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar Ffordd y Coleg.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerfyrddin ym 1911 a 1974. Am wybodaeth bellach gweler:




#Article 175: Rhisiart III, brenin Lloegr (644 words)


Rhisiart III (2 Hydref 1452 – 22 Awst 1485) oedd brenin Lloegr o 6 Gorffennaf 1483, hyd ei farwolaeth ar faes y gad ym Mrwydr Bosworth a hynny gan Rhys ap Thomas yn ôl y bardd Guto'r Glyn, pan ddywedodd: Lladd y baedd, eilliodd ei ben.

Fe'i ganwyd yng Nghastell Fotheringay, yn fab i Rhisiart Plantagenet, Dug Efrog (1411–1460) a'i wraig Cecily Neville.

Rhisiart oedd brawdd y brenin Edward IV, brenin Lloegr, Siôr, Dug Clarens a Marged, Duges Bwrgwyn. Cafodd ei ladd ar Faes Bosworth ar 22 Awst 1485 a chipiodd Harri Tudur Goron Lloegr. Yn ôl Jean Molinet o Fwrgwyn, ataliwyd ceffyl Richard gan gors, cafodd ei dowly neu ei fwrw o'i geffyl 'a'i ladd gan filwyr o Gymru'.

Pan farwodd ei frawd, Edward IV, o strôc, roedd eisoes wedi cyfarwyddo yn ei ewyllus y dylai ei frawd Richard lywodraethu ar ran ei fab Edward fel 'Arglwydd Amddiffynnydd'. Ond cipiodd Richard yr awenau oddi wrth y bachgen 12-mlwydd-oed gyda 20,000 o'i filwyr wedi teithio i Lundain o Ogledd Lloegr. Gwnaeth hyn drwy gyhoeddi fod priodas Edward IV ac Elizabeth Woodville yn anghyfreithiol, ac felly nad oedd hawl cyfreithiol gan Edward i ael ei goroni. Flynyddoedd ynghynt roedd Edward IV wedi dychryn pawb drwy briodi Elizabeth - un o deulu cyffredin, yn hytrach nag o dras uchelwrol. Rhoddwyd cyfoeth a swyddi bras i lawer o deulu'r Woodvilles, gan ffyrnigo llawer. Pan ddaeth Richard i Lundain fel Arglwydd Amddiffynnydd, dechreuodd erlyn rai o'r teulu a ffôdd Syr Edward Woodville i Lydaw gyda £10,250, gan geisio Siasbar Tudur a Harri VII fel cyd-gynllwynwyr ymosodiad potensial ar Goron Lloegr.

Un o'r newidiadau cyntaf a wnaeth Richard, ychydig cyn ei goroni oedd penodi Buckingham yn Brif Ustus ar Gymru ac yn Gwnastabl a Stiward ar 53 o gestyll Cymru.. Roeddent yn fygythiad i Richard, wrth gwrs

Ar ddiwrnod ei goroni, chwarae ar lawnt y Tŵr oedd y ddau blentyn: Edward a Rhisiart, dug Efrog, plant Edward V. Roedd y mab hynaf, Edward V, wedi bod yn frenin, mewn enw, am 86 diwrnod. Diflanodd y ddau o'r Tŵr ac mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn beio eu hewyrth Richard. Yn ôl Thomas More, cawsant eu mygu gyda chlustog; yn ôl Shakespeare, yn ei ddrama 'Richard III', gwneir hynny gan Tyrrell ar orchymyn Richard III.

Roeddent y ddau, wrth gwrs, yn fygythiad i barhad cais Richard am Orsedd Lloegr.

Ar 12 Medi 2012 cafwyd hyd i'w weddillion o dan maes parcio ceir lle gynt y safodd Abaty Greyfriars yng Nghaerlŷr gan archeolegwyr o Brifysgol Caerlŷr ac eraill. Roedd nam ar yr asgwrn cefn – a blygai ar siap pladur a olygai i'r person fod wedi dioddef o scoliosis; golyga hyn fod ysgwydd dde'r person hefyd yn uwch na'r ysgwydd chwith. Profodd profion DNA a dyddio carbon mai hwn oedd ysgerbwd Rhisiart. Mae oed y sgerbwd – a gredir i fod yn sgerbwd dyn rhwng 30 a 33 oed – hefyd yn ffitio'r patrwm gan mai 32 oedd oed Richard yn marw.

Gwayw-fwyell (neu halberd) a thrawiad gan gleddyf a'i lladdodd, ac mae hyn yn cadarnhau disgrifiad Guto'r Glyn i Rhys 'siafio'i ben'. Roedd gwaelod y penglog wedi'i hacio i ffwrdd gan y wayw-fwyell gan dreiddio sawl centimetr i mewn i'r ymenydd; golyga hyn y byddai Richard wedi'i fwrw'n anymwybodol ar unwaith, gan farw ychydig wedyn. Roedd anafiadau eraill i'w gweld yn y penglog a mannau eraill, nifer ohonynt gan gleddyfau a chyllyll.

Cariwyd ei gorff noeth o faes y gad ar gefn ceffyl ac yna'i arddangos yn Abaty Greyfriars. Dywedodd yr Osteoarchaeolegwr Dr Jo Appleby fod ôl crafiad gan gleddyf ar ganol y clun, yn union o dan llinell yr asgwr cefn, a'i fod wedi'i wneud ar ôl tynnu'r arfwisg oddi amdano. Mae'n bosib felly, meddai, i hyn ddigwydd pan oedd y corff wedi'i osod ar y ceffyl fel rhan o'r dathliadau - gwthio cleddyf i fyny tin y brenin.




#Article 176: Edward VI, brenin Lloegr (377 words)


Edward VI (12 Hydref 1537 – 6 Gorffennaf 1553) oedd Brenin Lloegr rhwng 28 Ionawr 1547 a'i farwolaeth yn 1553 pan oedd yn 16 oed. Coronwyd ef yn frenin ar 20 Chwefror pan oedd yn naw mlwydd oed. Edward oedd mab Harri VIII a Jane Seymour, a theyrn cyntaf Lloegr a gafodd ei fagu'n Brotestant. Yn ystod ei deyrnasiad byr rheolwyd y deyrnas gan Gyngor Rhaglywiaeth oherwydd nad oedd yn ddigon aeddfed i reoli yn annibynnol. Arweiniwyd y cyngor hwn yn gyntaf gan ei ewythr Edward Seymour, 1af Iarll Gwlad yr Haf (1547 – 1549) ac yna gan John Dudley, Iarll 1af Warwick (1550 – 1553), a oedd hefyd yn Ddug Northumberland o 1551 ymlaen.

Yn ystod ei deyrnasiad wynebodd Edward broblemau economaidd ac anfodlonrwydd cymdeithasol, a gyrhaeddodd benllanw yn 1549 pan fu terfysg a gwrthryfel. Profodd rhyfel gyda’r Alban yn gostus yn ariannol, ac er i’r rhyfel fod yn llwyddiannus ar y dechrau, bu’n rhaid i fyddin Lloegr dynnu'n ôl o’r wlad er mwyn sicrhau heddwch. Trowyd Eglwys Loegr yn Eglwys fwy Protestannaidd ei hedrychiad adeg teyrnasiad Edward, gan fod llawer o ddiddordeb gan y Brenin mewn materion crefyddol. Yn ystod teyrnasiad Edward cafodd y ffydd Brotestannaidd ei sefydlu yn fwy cadarn yn Lloegr, gyda newidiadau crefyddol yn cael eu gweithredu i sicrhau hyn - er enghraifft, diddymu statws di-briod y glerigaeth, newidiadau i’r Cymun a chyflwyno gwasanaethau yn y Saesneg.

Yn 1553, pan oedd Edward yn 15 mlwydd oed, cafodd afiechyd difrifol a olygai y byddai ei fywyd yn fyrhoedlog. Yn sgil hynny, trefnodd y Cyngor Rhaglywiaeth bod cynllun o’r enw ‘Dyfais ar gyfer yr Olyniaeth’ yn cael ei lunio a fyddai’n sicrhau nad oedd y deyrnas yn dychwelyd i Gatholigiaeth. Enwebodd Edward ei gyfnither cyntaf, y Fonesig Jane Grey, fel ei etifedd, ac anwybyddwyd hawliau ei hanner chwiorydd, Mari ac Elisabeth. Cafodd y penderfyniad dadleuol hwn ei gwestiynu ar ôl marwolaeth Edward, a chafodd Jane ei diorseddu gan Mari wedi i Jane fod ar yr orsedd am naw diwrnod. Yn ystod teyrnasiad Mari, cafodd diwygiadau Protestannaidd Edward eu dadwneud a sefydlwyd y ffydd Gatholig yn ei theyrnas. Er hynny, bu diwygiadau Protestannaidd Edward yn sail i Gytundeb Crefyddol Elisabeth a gyflwynwyd ganddi ar ei hesgyniad hithau i’r orsedd yn 1559, yn dilyn marwolaeth Mari.




#Article 177: Caergybi (351 words)


Caergybi (Saesneg: Holyhead) yw tref fwyaf Sir Fôn (efo poblogaeth o tua 12,000). Saif ar ochr orllewinol Ynys Gybi ar lan Bae Caergybi, sy'n fraich o Fôr Iwerddon. Mae'r dref yn borthladd mawr: mae sawl fferi yn teithio rhwng Caergybi a Dulyn a Dún Laoghaire yn Iwerddon. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn cychwyn ac yn gorffen yn y dref.  Mae yna pont droed fodern yn cystylltu y porthlardd gyda'r gyda'r tref. Yng Nghaergybi, mae yna lawer o fwytai fel Standing Stones, KFC, McDonalds, a Jambos Chinese. Yn ogystal, mae yno lawer o siopau fel Tesco, Poundland, Wilkos, Pets at Home, New Look  a Cancer Research wedi'u lleoli yn y dref. 

Mae olion yn dyddio o 2000 C.C. ar gopa Caer y Twr gyda nifer o Gytiau Gwyddelod ar y llethrau deheuol. Mae'n amlwg bod masnach aur a bwyaill cerrig rhwng Prydain ac Iwerddon.

Roedd caer Rufeinig Caer Gybi ar y safle yma o ddiwedd y 3g. Bellach mae eglwys y plwyf a'i mynwent ar safle'r gaer, ond mae'r muriau'n dal i sefyll hyd at uchder o bedair medr. Credir bod y gaer yma at ddefnydd llynges Rufeinig. Ym muchedd Sant Cybi mae cyfeiriad at frenin Gwynedd, Maelgwn Gwynedd, yn rhoi'r tir yma iddo i adeiladu mynachlog.

Ar ben Mynydd Twr adeiladodd y Rhufeiniaid y goleudy cyntaf yn yr ardal. Heddiw, nid oes ond y seiliau i'w gweld. Mae goleudai newydd yn gweithio ar Ynys Lawd (wrth y mynydd), trwyn y morglawdd (yn y porthladd), Ynys Halen (yn y porthladd) ac Ynysoedd y Moelrhoniaid yn bellach allan yn y môr, i'r gogledd.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaergybi ym 1927.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Caergybi yw man cychwyn Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru, sy'n ei chysylltu â Crewe.

Mae cwmnïau fferi yn rhedeg gwasanaethau rheolaidd rhwng Caergybi a Dulyn a Dún Laoghaire yn Iwerddon. Ceir nifer o fysus yn rhedeg yn ardal Caergybi sy'n ei chysylltu â llefydd eraill ar yr ynys. Y pwysicaf yw'r gwasanaethau i Fangor a Llangefni. Mae'r A55 yn dechrau yn y dref. Fel yr E22 Ewropeaidd mae'n cysylltu Caergybi ag Ekaterinburg yn Rwsia.




#Article 178: Iau (planed) (1226 words)


Iau yw planed fwyaf Cysawd yr Haul. Mae'n gawr nwy, a'r mwyaf amlwg hefyd i'w gweld o'r ddaear. Dyma frenin y planedau, y pumed o'r haul, ac mae'n anferth – dros ddwywaith cymaint a'r holl blanedau eraill efo'i gilydd. Gellid ffitio 1,300 planed o faint ein daear ni, fel pŷs mewn pot jam, o'i mewn.

O ran cyfansoddiad mae'n wahanol i'r 4 planed carregog sydd agosaf i'r haul (Mercher, Gwenner, y Ddaear a Mawrth). Iau yw'r cyntaf a'r mwyaf o 4 o blanedau mawrion a ddisgrifir fel y 'cewri nwy' (Iau, Sadwrn, Iwranws a Neifion) a gyfansoddir, yn bennaf, o heidrogen, heliwm, dŵr, methên ag ammonia. 

Mae'n ymddangos bod cnewyllyn eiriasboeth Iau wedi ei amgylchu gan haen drwchus o heidrogen metalaidd ac yna haen hylifog o heidrogen a heliwm. Troia'r Heidrogen yn fetalaidd dan ddylanwad pwysedd disgyrchiant enfawr a gwres aruthrol Iau (amcanir bod y cnewyllyn tua 30,000°C). Mewn gwirionedd petae'r blaned ychydig yn fwy byddai'n ddigon i gynneu ymasiad (fusion) niwclear fyddai'n ei throi yn ail haul. Wrth lwc ni ddigwyddodd hynny neu fe fyddai bywyd yn amhosib ar ein daear ni. O amgylch y cyfan ceir atmosffer o nwyon heidrogen a heliwm yn bennaf â chyfansoddion eraill megis dŵr, methên ag ammonia yn ffurfio sawl haen o gymylau trwchus lliwgar.

Am fod Iau yn troi ar ei echel bob 9.8 awr, sy'n llawer cyflymach na'r un blaned arall (cyflymder o 28,000 mya) yng nghysawd yr haul, ceir 'tywydd' amlwg iawn – efo gwyntoedd cryfion, hyd at 250 mya ar y cyhydedd, yn rhuthro'n ddi-baid gan roi cyfres o wregysau lliwgar o gymylau terfysglyd yn ymestyn i'r pegynnau, lle bydd y gwyntoedd wedi arafu i tua 100mya. Ceir patrymau tonnog hardd ar y ffiniau rhwng y gwregysau – a dim rhyfedd chwaith, oherwydd mae cyfeiriad y gwynt yn newid o un i'r llall gan lifo'n groes i'w gilydd, bob yn ail, yn union fel y gwnant ar ein daear ni, ond yn llai nerthol o gryn dipyn! Nodwedd amlwg iawn rhwng y cyhydedd a'r pegwn deheuol yw'r 'smotyn coch' enwog. Hyricên enfawr hirgron a pharhaus yw hwn, sydd tua 30,000 milltir o hyd a chymaint a phedair gwaith cymaint a'n daear ni. 

Am fod patrymau'r cymylau yn newid yn gyson mae Iau wedi ennyn cryn chwilfrydedd ymysg seryddwyr, astrolegwyr ac artistiaid o bob math. Cyfansoddodd Mozart a Holst symffoinîae, neu rannau ohonynt, i'r blaned a seiliodd yr awdur Arthur C Clarke rai o'i nofelau ffug-wyddonol, e.e. 'Meeting with Medusa' (1972) a '2001, A Space Odessey' (ddaeth hefyd yn ffilm adnabyddus), ar ddigwyddiadau dychmygol yng nghyffiniau'r blaned fawr.  

Pioneer 10 oedd y chwiliedydd gofod cyntaf i ymweld â'r blaned ym 1973, ond roedd ei offerynnau gwyddonol yn gymharol ansoffistigedig, ac roedd rhaid i wyddonwyr aros tan 1978, a chyrhaeddiad Voyager 1 a Voyager 2, tan iddynt dderbyn lluniau a mesuriadau gwell. Yn fwy diweddar, ymwelodd Galileo â'r blaned, yn gwneud mesuriadau gwyddonol o 1995 i 2003.

Erbyn 2010, roedd wyth o chwiliedyddion gofod wedi ymweld ag Iau.  Bydd y chwiliedydd NASA Juno y cerbyd nesaf i ymweld â'r blaned.  Lawnsiwyd Juno yn 2011; bydd o'n cyrraedd y blaned yn 2015.

Mae cynllun arall ar y gweill i'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (ESA) anfon chwiliedydd gofod newydd, y Jupiter Icy Moon Explorer, yn y dyfodol er mwyn darganfod mwy am loerennau Iau, yn cynnwys Ganymede, a Ewropa, sydd gan wyneb o iâ. Credir bod yna fôr o ddŵr odan y gwyneb sydd, efallai, yn cynnwys organeddau byw.  Ni disgwylir lawnsiad o'r Jupiter Icy Moon Explorer yn gynharach na 2022.

Cymera Iau 11.9 mlynedd i gylchdroi rownd yr haul Golyga hynny ei fod, wrth ddilyn llwybr y planedau ar draws y wybren, yn symud yn araf drwy'r cytserau sy'n rhoi inni 12 arwydd y Sidydd yn eu tro, gan gymeryd tua blwyddyn i groesi bob un. Dim rhyfedd felly bod maint a rheoleidd-dra'r blaned Iau yn golygu ei bod yn fawr ei dylanwad mewn cyfundrefnau astrolegol ar draws y byd, e.e. yn astroleg Tsieina cynrychiola gyfraith a threfn ddwyfol sy' yn ei dro yn dylanwadu ar ffawd ac yn rhoi arweiniad i gyfreithwyr daearol.

Ddwy fil o flynyddoedd cyn Crist yr enw ar y blaned Iau ym mytholeg Mesopotamia oedd Marduk. Ef oedd y duw greawdwr a fu'n gyfrifol am ladd y dduwies Tiamat a'i anghenfilod anhrefn cyn ei hollti'n ddwy ran i wneud y ddaear a'r awyr ac yna defnyddio ei phoer i wneud glaw, gwynt a chymylau. O ganlyniad daeth Marduk yn brif dduw y Mesopotamiaid ac yn gyfrifol yn arbennig am amaethyddiaeth a'r ffrwythlondeb ddeilliai o lawogydd a llifogydd tymhorol yr afonydd.

Ceir adlais gref o stori Marduk yn y fytholeg gynnar am Zeus, prif dduw'r Groegiaid, ddaeth i gynrychioli cyfraith, trefn ac awdurdod. Roedd yr hen Zeus yn enwog iawn am ei anturiaethau rhywiol niferus ac yn gyfrifol am dadogi llu o dduwiau eraill ac arwyr daearol. Dim rhyfedd, felly, i'r pedwar lleuad oedd yn hysbys i seryddwyr, cyn dyddiau telescopau modern, gael eu henwi ar ôl rhai o'i gariadon: Io, Ewropa, Ganymede a Callisto. Gelwir rhain y lleuadau Galileaidd, oherwydd mai Galileo a'u darganfyddodd yn 1610.

Yn dilyn ymweliadau lloerennau megis Galileo yn 1995 ac yn arbennig Cassini yn 2000 cynyddodd niferoedd lleuadau Iau erbyn hyn i dros 60! Canfyddwyd nodweddion arbennig iawn ar wynebau rhai ohonynt ac enwyd un o graterau amlwg Ewropa yn 'Pwyll' ar ôl pendefig Dyfed y Mabinogion.

Cafodd llawer o chwedloniaeth Zeus y Groegiaid ei fabwysiadu a'i addasu ar gyfer Iau y Rhufeiniaid, neu Jupiter Pluvalis – duw y glaw. Cynrychiolai Iau awdurdod, trefn a chyfiawnder ac roedd hefyd yn athronydd, yn rhoi cyngor doeth ac yn athro. Ceir rhywbeth tebyg yn rhai o grefyddau'r dwyrain – enw'r blaned Iau i Hindwiaid yn yr India yw 'Guru', sy'n golygu athro ysbrydol.

Yn y byd Celtaidd y duw gyfatebai agosa i Iau oedd duw'r awyr, ddeuai mewn sawl ffurf, gyda sawl enw lleol arno. Yn amlycaf, mae'n debyg, oedd Taranis, neu'r Taranwr, a gariai daranfollt yn un llaw ac olwyn yn y llall. Cynrychiolai'r olwyn droiad y rhod (y tymhorau) ac roedd hefyd yn symbol o'r haul. Cysylltir duw'r awyr â rhyfel, stormydd a ffrwythlondeb y ddaear.

Fel yn achos duw'r haul ceid perthynas agos rhwng duw'r awyr a'r dderwen. Fe barhaodd hynny mewn llên gwerin tan yn lled ddiweddar. Er enghraifft ceid coel fod y dderwen yn cynnig noddfa, i'r cyfiawn, rhag mellt. Ond nid i'r anghyfiawn – fel y profwyd, yn nhŷb rhai, pan laddwyd gan fellten y crogwr fu'n gyfrifol am ddienyddio 200 o 'rebeliaid' yr Iarll Mynwy gondemniwyd gan y Cymro gorfrwdfrydig hwnnw, y Barnwr Jeffreys, wedi'r 'Brawdlys Gwaedlyd' yn 1685. Roedd y crogwr wedi llochesu dan dderwen ar y pryd! Bu farw Jeffreys yn Nhŵr Llundain. 

Ond efallai mai'r delweddau grymusaf o'r duw awyr Celtaidd yw'r rheiny gafwyd ar bennau colofnau cerrig anferth yn Ffrainc a de'r Almaen. Yno, mor uchel yn yr awyr a phosib, fe'i portreadir yn carlamu ar draws y wybren ar ei geffyl, efo'i glogyn yn chwirlîo fel banner o'i ôl. Mae'n dal olwyn neu fellten yn ei law ac o dan garnau ei geffyl ddraig anhrefn neu anghenfil gyda choesau fel seirff. Cynrychiola hyn y frwydr barhaus rhwng yr awyr a'r dyfnder; rhwng bywyd a marwolaeth; da a drwg; goleuni a thywyllwch. Drwy hynny deuwn yn ein holau yn daclus at Marduk y duw Mesapotamaidd a'i frwydr yntau â dreigiau.




#Article 179: Elisabeth I, brenhines Lloegr (4904 words)


Bu Elisabeth I (7 Medi 1533 - 24 Mawrth 1603) yn frenhines Teyrnas Lloegr a Theyrnas Iwerddon rhwng Tachwedd 1558 hyd at ei marwolaeth ym 1603. Roedd yn ferch i Harri VIII ac Anne Boleyn, sef ail wraig Harri VIII, ac yn hanner chwaer i Edward VI a Mari I. Dienyddiwyd Anne Boleyn pan oedd Elisabeth yn blentyn. Cyhoeddwyd bod Elisabeth yn blentyn anghyfreithlon, ac ar farwolaeth Edward VI ym 1553 trosglwyddwyd y goron i’r Fonesig Jane Grey ac anwybyddwyd hawl ei chwiorydd i’r orsedd, sef Mari ac Elisabeth. Disodlwyd Jane Grey ar ôl naw diwrnod ac esgynnodd Mari I i’r orsedd. Yn ystod teyrnasiad Mari, carcharwyd Elisabeth yn Nhŵr Llundain am bron i flwyddyn oherwydd drwgdybiwyd ei bod yn cefnogi gwrthryfelwyr Protestannaidd, ond pan fu farw Mari I enwodd Elisabeth fel ei hetifedd. 

Daeth Elisabeth yn Frenhines pan oedd hi'n 25 mlwydd oed. Wedi iddi ddod i’r orsedd ailsefydlodd y ffydd Brotestannaidd, ac felly Protestaniaeth oedd crefydd swyddogol y deyrnas. Dibynnai’n drwm ar gyngor cylch mewnol o gynghorwyr a arweiniwyd gan William Cecil, Barwn 1af Burghley. Roedd teyrnasiad Elisabeth, neu Oes Elisabeth fel y'i gelwir, yn gyfnod cythryblus. Roedd cyffro ac anghytuno crefyddol, a llygaid brenin Ffrainc a brenin Sbaen ar deyrnas Lloegr gan fod Elisabeth yn ddibriod ac yn ddietifedd. Ym 1570 esgymunwyd hi gan y Pab, a gyhoeddodd hefyd ei bod yn blentyn anghyfreithlon ac nad oedd yn rhaid i’w deiliaid fod yn ffyddlon iddi fel eu brenhines. Arweiniodd hyn at nifer o gynllwynion i beryglu ei bywyd a ddarganfuwyd gan wasanaeth cudd ei phrif ysbïwr, Syr Francis Walsingham. Yn ystod ei theyrnasiad bu bygythiadau i geisio cipio ei choron yn gyson, adeg ymosodiad yr Armada Sbaenaidd gan Felipe II, brenin Sbaen a bygythiad o’r gogledd gan Mari Brenhines yr Alban.  

Mae Elisabeth yn enwog am beidio priodi, er bod nifer o ddynion wedi gofyn iddi eu priodi. Roedd yn wleidydd craff a chlyfar, yn annibynnol ei phersonoliaeth ac yn benderfynol o ddangos bod ganddi, fel menyw, y sgiliau i reoli a theyrnasu'n gadarn lawn cystal â dyn. Bu farw Elisabeth ym 1603, gan ddod â diwedd i oes y Tuduriaid oherwydd ni chafodd Elisabeth blentyn. Daeth Iago I yn Frenin ar ôl Elisabeth. Pan fu Elisabeth I farw ym 1603 hi oedd yr aelod olaf o linach y Tuduriaid i reoli, a daeth Oes y Tuduriaid i ben.

Roedd pobl oedd â chysylltiadau â Chymru ymhlith ei phrif gynghorwyr a’i chylch mewnol o ffrindiau. Daeth William Cecil (un o ddisgynyddion y teulu Seisyllt o Went) yn brif gynghorydd i Elisabeth I. Fe’i olynwyd gan ei fab Robert, a ddarganfu “Gynllwyn y Powdr Gwn” yn erbyn Iago I. Prif gydymaith Elisabeth oedd Blanche Parry o Sir Faesyfed. Dyn dylanwadol arall yn y llys oedd John Dee – mathemategydd, seryddwr, astrolegydd a dewin. Fe gynghorodd y frenhines i sefydlu trefedigaethau Seisnig dramor, a chredir mai ef a fathodd y term “yr Ymerodraeth Brydeinig”. 

Mewn materion polisi tramor, roedd Elisabeth yn bwyllog ac yn aml yn ceisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng y prif bwerau ar gyfandir Ewrop, sef Ffrainc a Sbaen. Simsan oedd ei hymdrechion i gefnogi’r Protestaniaid yn yr Iseldiroedd gydag adnoddau milwrol. Ond mae ei buddugoliaeth yn erbyn Armada Sbaen ym 1588 yn cael ei chlodfori fel un o’r buddugoliaethau milwrol pwysicaf yn hanes Lloegr.

Clodforwyd ei theyrnasiad fel yr Oes Elisabethaidd oherwydd y llewyrch ym marddoniaeth a dramâu William Shakespeare a Christopher Marlowe a llwyddiannau morwrol Francis Drake a Walter Raleigh. Tuag at ddiwedd ei theyrnasiad, lleihawyd ei phoblogrwydd oherwydd problemau economaidd a milwrol, ond roedd yn bersonoliaeth garismataidd a oedd wedi llwyddo i gadw a chynnal undod ei theyrnas mewn oes pan oedd rhwygiadau mewnol wedi peryglu sefydlogrwydd brenhinoedd mewn gwledydd eraill. Bu ei 44 mlynedd ar yr orsedd yn gyfnod a ddaeth â chadernid i’w theyrnas ac a helpodd i ffurfio hunaniaeth genedlaethol.

Ganwyd Elisabeth I ym Mhalas Greenwich ac enwyd hi ar ôl ei dwy fam-gu, Elisabeth o Efrog ac Elisabeth Howard. Bedyddiwyd hi ar 10 Medi 1533 ac roedd yr Archesgob Cranmer ymhlith ei rhieni bedydd. Un o'r rhai a gariodd y canopi dros y plentyn tri diwrnod oed adeg y gwasanaeth bedyddio oedd yr Arglwydd Howard o Effingham. 

Pan oedd Elisabeth yn ddyflwydd ac wyth mis oed dienyddiwyd ei mam ar 19 Mai 1536, a phedwar mis yn flaenorol roedd Catrin o Aragon wedi marw oherwydd afiechyd. Yn syth wedi dienyddiad ei mam, cyhoeddwyd bod Elisabeth yn blentyn gordderch, ac felly collodd ei lle yn yr olyniaeth i’r orsedd. Un ar ddeg diwrnod wedi dienyddiad Anne Boleyn, priododd Harri VIII ei drydedd wraig, sef Jane Seymour, a fu farw’n fuan wedi genedigaeth eu mab Edward ym 1537. Edward oedd etifedd diamheuol yr orsedd bellach. Penodwyd Elisabeth fel aelod o lys Edward a hi gariodd y fantell fedydd yng ngwasanaeth bedydd Edward.

Ym 1537 penodwyd Catherine Champernowne yn athrawes gartref Elisabeth, a bu’n un o ffrindiau Elisabeth hyd iddi farw ym 1556. Dysgodd Champernowne bedair iaith i Elisabeth: sef Ffrangeg, Fflemeg, Eidaleg a Sbaeneg.  Erbyn bod William Grindal wedi ei benodi yn diwtor iddi ym 1544 roedd Elisabeth yn medru ysgrifennu yn y Saesneg, Lladin ac Eidaleg. O dan gyfarwyddyd Grindal daeth yn hyddysg mewn Groeg hefyd.

Yn ystod ei hieuenctid roedd yn cyfieithu gweithiau o’r Saesneg i Eidaleg, Lladin a Ffrangeg ac yn medru cyfieithu gweithiau mewn Lladin a Groeg gan wahanol awduron clasurol. Yn dilyn marwolaeth Grindal ym 1548, derbyniodd ei haddysg oddi wrth Roger Ascham, a oedd hefyd yn diwtor i’w brawd, Edward. Pan ddaeth ei haddysg ffurfiol i ben ym 1550, roedd Elisabeth yn un o fenywod mwyaf dysgedig ei chenhedlaeth. Ar ddiwedd ei hoes, credwyd hefyd bod Elisabeth yn medru siarad Cymraeg, Cernyweg, Gaeleg a Gwyddeleg yn ogystal â’r ieithoedd eraill roedd yn rhugl ynddynt yn barod. Dywedodd y cennad Fenetiaidd ym 1603 bod Elisabeth mor rhugl yn yr ieithoedd hyn fel ei bod yn eu siarad gystal â'i mamiaith. Yn ôl yr hanesydd, Mark Stoyle, mae'n ddigon posib mai William Killigrew, Gwas y Siambr Gyfrin ac yna Canghellor y Trysorlys yn ddiweddarach, oedd wedi dysgu Cernyweg iddi.

Wrth i Mari I orymdeithio i Lundain ar ddiwrnod ei choroniad, roedd Elisabeth, ei chwaer, wrth ei hochr. Ond ni fyddai’r chwaergarwch yn para’n hir oherwydd roedd Mari yn Gatholig pybyr ac yn benderfynol o ddiddymu’r ffydd Brotestannaidd. Roedd Elisabeth wedi ei thrwytho yn y ffydd Brotestannaidd ond gorchmynnodd Mari bawb i fynychu'r offeren Gatholig. Roedd yn rhaid i Elisabeth gydymffurfio’n allanol os oedd am oroesi. Lleihaodd poblogrwydd Mari ym 1554 pan gyhoeddodd ei bod yn priodi Felipe o Sbaen, brenin Catholig brwdfrydig a mab yr Ymerawdwr Rhufeinig Siarl V. Lledaenodd anfodlonrwydd ar draws teyrnas Mari a daeth Elisabeth yn ffocws i’r gwrthwynebiad yn erbyn polisïau crefyddol Mari I.

Chwalwyd Gwrthryfel Wyatt rhwng Ionawr a Chwefror 1554 a dygwyd Elisabeth i’r llys oherwydd amheuon ynghylch ei rôl yn y gwrthryfel. Carcharwyd hi yn Nhŵr Llundain ym mis Mawrth 1554 er iddi brotestio’n daer ei bod yn ddieuog. Bu cynghorwyr agosaf Mari yn ceisio ei pherswadio i ddod ag Elisabeth gerbron llys er mwyn ei chwestiynu, ond erbyn 1558 roedd Mari yn sâl, ac wythnos cyn ei marwolaeth ar 17 Tachwedd 1558, cydnabu mai Elisabeth oedd ei hetifedd. 

Roedd Elisabeth yn 25 mlwydd oed pan esgynnodd i’r orsedd ym 1558, ac fel cydnabyddiaeth o’i statws newydd daeth ei Chyngor a boneddigion eraill i Hatfield House i dyngu llw o ffyddlondeb iddi. Wrth iddi orymdeithio drwy Lundain ar y noson cyn ei choroniad, rhoddwyd croeso cynnes a thwymgalon iddi gan ddinasyddion y ddinas. Ar y diwrnod canlynol, 15 Ionawr 1559, sef dyddiad a ddewisiwyd gan ei astrolegydd, John Dee, coronwyd ac eneiniwyd Elisabeth yn frenhines gan Owen Oglethorpe, esgob Catholig Caerliwelydd, yn Abaty Westminster. Yna, cyflwynwyd hi ar gyfer cael ei derbyn gan y bobl, yng nghanol ffanffer o drympedi, drymiau, clychau, organau a phibau. Cafodd groeso fel Brenhines Lloegr, ond roedd y deyrnas yn parhau i boeni am y bygythiad honedig oddi wrth y Catholigion ym Mhrydain a thramor, ac roedd y cwestiwn ynghylch pwy fyddai Elisabeth yn ei briodi yn destun trafod blaenllaw ymhlith deiliaid ei theyrnas. 

O ddechrau ei theyrnasiad roedd pwy fyddai Elisabeth I yn ei briodi yn bwnc llosg a dadleuol. Er ei bod wedi cael sawl cynnig i briodi, ni wnaeth erioed briodi na chael plant. Tra byddai priodi yn golygu y byddai’n colli ei phŵer ac awdurdod, fel y digwyddodd ym mhriodas ei chwaer Mari I gyda Felipe II o Sbaen, roedd priodi yn cynnig y cyfle i gael etifedd. 

Ymhlith ei charwriaethau mwyaf difrifol roedd Robert Dudley, Iarll 1af Caerlŷr, a fu’n ffefryn yn llys Elisabeth am hyd at 30 mlynedd. Bu Elisabeth yn ystyried o ddifri priodi Dudley, ond mynegodd ei chynghorwyr, William Cecil, Nicholas Throckmorton a rhai o’r arglwyddi eraill eu bod yn meddwl y byddai hyn yn gamgymeriad. 

Roedd y cwestiwn ynghylch priodi yn elfen bwysig ym mholisi tramor Elisabeth. Gwrthododd briodi Felipe o Sbaen ym 1559 a bu’n ystyried cynnig y Brenin Eric XIV o Sweden am sawl blwyddyn. Bu hefyd yn ystyried ymgais cefnder Felipe, sef yr Archddug Siarl o Awstria, am nifer o flynyddoedd, ond erbyn 1569 roedd perthynas Lloegr gyda’r Habsbwrgiaid wedi dirywio cymaint fel bod Elisabeth wedi ystyried priodi dau dywysog o Ffrainc, sef Henry, Dug Anjou, ac yna rhwng 1572 a 1581 ei frawd Francis, Dug Anjou. Roedd y cynnig priodas gan Francis yn gysylltiedig â chynllun i gynghreirio yn erbyn rheolaeth Sbaen dros Dde'r Iseldiroedd.

Daeth mater priodi yn destun trafod mwy difrifol pan fu Elisabeth bron â marw ym 1563 pan gafodd y frech wen. Daeth mater yr olyniaeth yn destun trafod yn y Senedd ac anogwyd y frenhines naill ai i briodi, neu benodi olynydd, er mwyn osgoi rhyfel cartref pan fyddai’n marw. Gwrthododd Elisabeth wneud y naill na'r llall.

Erbyn 1570, roedd unigolion blaenllaw yn llywodraeth Elisabeth wedi derbyn na fyddai’r frenhines yn debygol iawn o briodi nac ychwaith yn debygol o enwi olynydd. Roedd William Cecil yn chwilio’n gyson am ddatrysiadau i broblem yr olyniaeth. Cyhuddwyd Elisabeth o fod yn anghyfrifol, ond eto ei distawrwydd oedd cryfder ei sefydlogrwydd gwleidyddol ar yr orsedd. Sylweddolai os byddai’n enwi etifedd y byddai ei choron yn agored i wrthryfel. Roedd yn cofio'n ôl i’r cyfnod pan mai hi oedd olynydd ei chwaer, Mari I.

Daeth Cymru a Lloegr yn swyddogol Brotestannaidd pan esgynnodd Elisabeth I i orsedd Lloegr ym 1559, ac yn dilyn cyflwyno'r Cytundeb Protestannaidd cadarnhawyd mai Protestaniaeth fyddai crefydd swyddogol teyrnas newydd Elisabeth.  

Credai Elisabeth a’i chynghorwyr bod y Catholigion yn cynllwynio crwsâd yn erbyn Lloegr, sef gwlad hereticaidd yn eu golwg hwy. Ceisiodd Elisabeth felly chwilio am ddatrysiad Protestannaidd, na fyddai’n digio’r Catholigion yn ormodol tra ar yr un pryd yn plesio dymuniadau Protestaniaid Lloegr. Roedd Elisabeth yn ddiamynedd ei hagwedd gyda Phiwritaniaid radicalaidd, a oedd yn ei golwg hi yn gwthio am ddiwygiadau rhy eithafol. 

O ganlyniad, dechreuodd y Senedd drafod deddfwriaeth ar gyfer eglwys newydd Elisabeth a fyddai’n seiliedig ar gytundeb Protestannaidd Edward VI, gyda’r brenin/brenhines yn bennaeth, ond a oedd yn cynnwys elfennau Catholig, fel gwisg offeiriaid. Roedd Eglwys Brotestannaidd Elisabeth yn gyfaddawd cymhedrol, a oedd yn troedio’n ofalus rhwng y ddwy grefydd mewn oes pan oedd crefydd yn achos cynnen a gwrthdaro rhwng gwahanol garfannau yn y gymdeithas. Erbyn y 1560au, roedd Rhyfel Cartref Crefyddol Ffrainc wedi dechrau rhwng yr Hiwgenotiaid a’r Catholigion, ac roedd hwn yn rybudd clir i Elisabeth am yr anhrefn a allai gael ei achosi gan bwnc llosg crefydd. 

Pasiwyd y Ddeddf Oruchafiaeth ym mis Mai 1559 a oedd yn sefydlu Eglwys Brotestannaidd Elisabeth yn swyddogol. Gyda’r deddfwriaeth hon penodwyd Elisabeth yn Llywodraethwr Goruchaf Eglwys Loegr (Supreme Governor of the Church of England) ac roedd yn rhaid i swyddogion cyhoeddus dyngu llw o ffyddlondeb i’r frenhines fel y llywodraethwr goruchaf neu byddent yn cael eu diswyddo; cafodd y cyfreithiau hereticiaeth eu diddymu, er mwyn osgoi’r erledigaeth erchyll yn erbyn anghydffurfwyr crefyddol, a oedd mor gyffredin adeg teyrnasiad Mari I.  

Rhan arall o’r ddeddfwriaeth newydd oedd Deddf Unffurfiaeth a wnai hi’n orfodol mynychu’r eglwys, a chyhoeddwyd y byddai’r Beibl, y gwasanaethau a'r llyfrau gweddi yn y Saesneg. Fersiwn ddiwygiedig o Lyfr Gweddi Gyffredin 1552 fyddai’n cael ei defnyddio mewn gwasanaethau, ac roedd hwn yn gyfaddawd rhwng barn y Protestaniaid a Chatholigion ar y Cymundeb.

Er hynny, nid oedd y dirwyon neu’r gosb am reciwsantiaeth, neu methu mynychu a chydymffurfio, yn ormodol nac yn eithafol ar y cyfan. Gwrthododd rhai Catholigion blaenllaw gytuno ar y trefniant hwn - er enghraifft, Cardinal William Allen, a wrthododd dyngu llw o ffyddlondeb yn ôl y Ddeddf Oruchafiaeth ac a ffodd i Rufain.

Fel ei chyndeidiau, sylweddolai Elisabeth ei bod yn bwysig iddi sefydlu ei hawdurdod o gychwyn cyntaf ei theyrnasiad. Yn wyneb hynny, roedd crefydd yn fygythiad i’w theyrnasiad o’r cychwyn. Mewn cyfnod pan oedd crefydd yn destun a oedd yn creu tensiynau, anghytuno a gwrthdaro gwaedlyd yn aml, daeth Elisabeth yn darged ar gyfer cynllwynion Catholig yn negawd cyntaf ei theyrnasiad. Cafodd ei hesgymuno gan y Pab o’r Eglwys Gatholig ym 1570 ac felly teimlai’r frenhines fwy o dan berygl oddi wrth y bygythiad Catholig oherwydd hynny. Roedd Elisabeth felly'n cosbi ei gelynion Catholig yn llym - er enghraifft, ym 1584 cafodd dau Gymro, Edward Jones a Thomas Salisbury, eu dienyddio am eu rhan yng Nghynllwyn Babington.

Wynebodd Elisabeth fygythiadau i’w gorsedd oddi wrth ei chyfnither Gatholig, sef Mari, Brenhines yr Alban, ac oddi wrth y Brenin Felipe II o Sbaen pan lansiwyd yr Armada ym 1588.

Roedd Mari yn gyfnither i Elisabeth, ond yn ystod teyrnasiad Elisabeth daeth Mari yn fwy o fygythiad i Elisabeth gan ei bod hi'n ffocws cynyddol i nifer o gynllwynion Catholig i ddiorseddu Elisabeth. Daeth Mari yn Frenhines yr Alban yn dilyn marwolaeth ei thad, Iago V, pan oedd hi'n wythnos oed, a magwyd hi yn y ffydd Gatholig yn Ffrainc. Pan oedd hi'n 16 oed priododd frenin ifanc Ffrainc, sef y ‘dauphin’. Gyda’i gŵr yn dod yn frenin Ffrainc, daeth Mari yn Frenhines Ffrainc a’r Alban. Fel cyfnither i Elisabeth roedd ganddi hawl ar goron Lloegr drwy chwaer Harri VIII, sef Margaret, a oedd wedi priodi Iago IV, Brenin yr Alban. Ystyriwyd Mari gan lawer, yn enwedig Catholigion, fel yr etifedd cyfiawn i orsedd coron Lloegr.

Ym 1565 priododd Mari â Henry Stuart, Arglwydd Darnley, a oedd hefyd yn gallu hawlio gorsedd Lloegr. Roedd Darnley yn unigolyn amhoblogaidd, a llofruddiwyd ef yn Chwefror 1567 gan gynllwynwyr, a oedd yn fwy na thebyg dan arweiniad James Hepburn, 4ydd Iarll Bothwell. Yn fuan wedi’r llofruddiaeth, priododd Mari a Bothwell ar 15 Mai 1567. Oherwydd amheuon bod Mari yn rhan o gynllwyn i lofruddio ei gŵr, a oedd hefyd yn gefnder iddi, cafodd ei charcharu yng Nghastell Loch Leven. Roedd y bonedd yn yr Alban yn mynd yn fwy gelyniaethus tuag ati, ac wrth iddi adael yr Alban, gorfodwyd hi i ildio ei hawl ar goron yr Alban, a’i roi i’w mab bach, sef Iago VI, a anwyd ym Mehefin 1566. Aethpwyd ag Iago i Gastell Stirling er mwyn iddo gael ei fagu fel Protestant. Dihangodd Mari o Gastell Loch Leven ym 1568.

Ym 1568, wedi iddi ddianc o’r castell, ffodd Mari i Loegr, gan obeithio cael lloches gan Elisabeth I. I ddechrau, bwriad Elisabeth oedd bod Mari, ei chyfnither a’i chyd-frenhines, yn dychwelyd i’r Alban gyda chefnogaeth byddin o Loegr, ac yn adfer ei hawl ar orsedd yr Alban.  Dewis arall oedd ei hanfon i Ffrainc ac i blith gelynion Catholig Lloegr, ond roedd hyn yn ormod o fygythiad i Loegr. Penderfynodd Elisabeth felly ei chadw yn Lloegr. Carcharwyd hi yno am bron i 20 mlynedd, ac yn ystod y blynyddoedd hynny darganfuwyd bod ganddi rôl ganolog mewn llawer o gynllwynion Catholig i ddiorseddu Elisabeth.  

Cadwyd llygad barcud ar Mari tra'r oedd hi yn y carchar yn Lloegr gan brif ysbïwr Elisabeth I, sef Syr Francis Walsingham, a oedd yn raddol yn crynhoi tystiolaeth yn ofalus ac yn drylwyr er mwyn medru ei chyhuddo o deyrnfradwriaeth. Chwiliwyd am dystiolaeth o’i rôl yng Nghynllwyn Ridolfi ym 1571, ac yn y diwedd cafwyd hi’n euog o fod yn rhan o Gynllwyn Babington ym 1587. Cafwyd hi’n euog o deyrnfradwriaeth a dedfrydwyd hi i’r gosb eithaf.  Roedd Elisabeth wedi gorfod plygu yn y diwedd i’r dystiolaeth a’r ohebiaeth ddiamheuol ynghylch cyfraniad Mari at y cynllwyn, ac er ei bod hi'n anfodlon, bu’n rhaid iddi lofnodi gwarant dienyddio ei chyfnither a’i chyd-frenhines, ym 1587.

Ar 8 Chwefror 1587, dienyddiwyd Mari yng Nghastell Fotheringay, swydd Northampton. Wedi dienyddiad Mari, honnodd Elisabeth nad oedd hi wedi bwriadu llofnodi’r warant dienyddio, a rhoddodd y bai ar ei Hysgrifennydd, William Davison, am weithredu’r warant heb yn wybod iddi hi. Mae’n amlwg bod penderfyniad mor derfynol yn pwyso ar ei chydwybod a’i bod o bosib wedi difaru canlyniadau ei phenderfyniad.

Yr her fwyaf bygythiol o dramor a wynebodd Elisabeth yn ystod ei theyrnasiad oedd yr Armada. Roedd yr Armada yn fflyd o longau Sbaenaidd a hwyliodd i Loegr ym 1588 o dan arweiniad Medina Sidonia gyda’r bwriad o ddiorseddu'r frenhines Brotestannaidd, Elisabeth I. 

Ar ôl blynyddoedd o densiwn penderfynodd Felipe II ymosod ar Loegr gyda’i lynges, Yr Armada. Roedd Yr Armada yn llynges bwerus iawn, gyda 122 o longau a thua 30,000 o filwyr a morwyr ar fwrdd y llongau yn barod i ymosod. Ar 12 Gorffennaf 1588 hwyliodd fflyd o longau’r Armada Sbaenaidd ar draws Môr Udd o Ffrainc tuag at Loegr, a bwriad y Sbaenwyr oedd y byddai fflyd o longau Sbaenaidd, dan arweiniad Dug Parma, yn dod draw o’r Iseldiroedd i gynorthwyo’r Armada gyda’r goresgyniad. Roedd gan Elisabeth nifer o forwyr profiadol - yn eu plith, Francis Drake, Martin Frobisher, John Hawkins a’r Arglwydd Howard o Effingham. Yn ffodus i’r Saeson, penderfynodd y Sbaenwyr ymosod yng nghanol stormydd a gwyntoedd cryfion. Ynghyd â’r stormydd, roedd tactegau Francis Drake, rheolwr Llynges Lloegr, i anfon ‘llongau tân’ i ganol yr Armada ar 29 Gorffennaf wedi golygu bod y galiynau Sbaenaidd wedi gorfod ffoi mewn braw i Fôr y Gogledd ac wedi cael eu gwasgaru i ganol tywydd garw.

Chwalwyd yr Armada a hwyliodd gweddillion yr Armada yn ôl i Sbaen, gyda llawer o’r llongau yn cael eu colli ar hyd arfordir Iwerddon. Roedd rhai wedi ceisio mynd o gwmpas arfordir Gogledd yr Alban a hwylio drwy Fôr y Gogledd ac yna yn ôl ar hyd arfordir gorllewinol Iwerddon i gyfeiriad y de. Yn ddiarwybod bod yr Armada wedi dioddef y fath anffawd, casglwyd milisia ynghyd yn Lloegr o dan arweiniad Iarll Caerlŷr yn barod ar gyfer amddiffyn y deyrnas. Gwahoddodd Elisabeth i arolygu eu lluoedd yn Tilbury yn Essex ar 8 Awst. Gan wisgo brestblad (breastplate) arian dros ffrog felfed wen, traddododd Elisabeth un o’i anerchiadau mwyaf enwog i’r lluoedd oedd wedi crynhoi o’i blaen:Fy mhobl annwyl...Gwn fod gennyf gorff gwan ac eiddil menyw, ond mae gennyf galon a stumog brenin, a hwnnw’n Frenin Lloegr hefyd, ac sy’n wfftio’n ddirmygus at Parma neu Sbaen, neu unrhyw Dywysog yn Ewrop a feiddia oresgyn ffiniau fy nheyrnas.Pan na ddaeth ymosodiad bu llawenydd mawr a gorfoledd ar draws teyrnas Elisabeth. Roedd ysblander gorymdaith fuddugoliaethus Elisabeth I ar ei ffordd draw i wasanaeth o ddiolch yn Eglwys Gadeiriol Sant Pawl, Llundain, yn cyfateb i'r hyn a welwyd ar achlysur ei choroni. 

Gan hynny, roedd Elisabeth wedi llwyddo i wrthsefyll yr ymosodiad, gydag Armada Sbaen yn colli 44 o’i llongau allan o gyfanswm o 130. Bu trechu'r Armada yn fuddugoliaeth bwysig o ran propaganda i Elisabeth fel brenhines ac i Loegr fel teyrnas Brotestannaidd. Gwelai’r Saeson eu buddugoliaeth fel symbol o ffafr Duw a sancteiddrwydd y deyrnas o dan arweinyddiaeth y frenhines wyryf. Ond er bod y goresgyniad wedi ei ddryllio, roedd y rhyfel ehangach rhwng Lloegr a Sbaen yn parhau. Gan fod y Sbaenwyr yn parhau i reoli taleithiau deheuol yr Iseldiroedd roedd y bygythiad o oresgyniad yn dal i fodoli.

Ym 1589, flwyddyn wedi’r Armada Sbaenaidd, anfonodd Elisabeth yr Armada Seisnig neu’r Gwrth-Armada i Sbaen, gyda 23,375 o ddynion a 150 o longau, o dan arweiniad Syr Francis Drake fel llyngesydd a Syr John Norreys fel cadfridog. Cafodd y Saeson golledion enbyd, gyda rhwng 11,000 a 15,000 yn cael eu lladd, eu hanafu neu’n marw oherwydd afiechyd. 

Suddwyd neu cipiwyd 40 o longau. Collwyd y manteision roedd Lloegr wedi eu hennill drwy ddinistrio'r Armada Sbaenaidd ym 1588 ac roedd buddugoliaeth y Sbaenwyr ym 1589 yn dynodi adferiad ym mhŵer milwrol Felipe a wnaeth barhau am y degawd nesaf.

Wynebodd Elisabeth wrthwynebiad chwyrn yn Iwerddon i’w Heglwys Brotestannaidd. Roedd y Gwyddelod yn glynu’n dynn wrth eu ffydd Gatholig ac yn herio ei hawdurdod drwy gynllwynio gyda’i gelynion. Ymateb Elisabeth i hyn oedd rhoi tir i’w gwŷr llys - er enghraifft, Humphrey Gilbert a Walter Raleigh, yn Iwerddon, o gwmpas ardal Ulster a Munster.  EI bwriad oedd sefydlu trefedigaethau i wladychu’r wlad ac atal y gwrthryfelwyr rhag darparu lleoliad parod i Sbaen er mwyn ymosod ar Loegr. Yn sgil cyfres o wrthryfeloedd, mabwysiadodd coron Lloegr dactegau llosgi tir gan ddinistrio’r tir a lladd y trigolion oedd yn byw arno. Adeg gwrthryfel yn Munster ym 1582 o dan arweinyddiaeth Gerald FitzGerald, 15fed Iarll Desmond, amcangyfrifwyd bod tua 30,000 o Wyddelod wedi newynu i farwolaeth. Cafodd y gyflafan fawr a thorcalonnus ei disgrifio gan y bardd Edmund Spenser. 

Roedd 1594-1603 yn gyfnod cythryblus yn Iwerddon, a adnabuwyd fel y Rhyfel Naw Mlynedd. Roedd hwn yn wrthryfel a ddigwyddodd pan oedd y tensiynau rhwng Lloegr a Sbaen ar eu hanterth, a phan oedd Sbaen yn gefnogol i arweinydd y gwrthryfel, sef Hugh O’Neill, Iarll Tyrone. Yng ngwanwyn 1559 anfonodd Elisabeth Robert Devereux, 2il Iarll Essex, i chwalu’r gwrthryfel, ond bu hwnnw’n aflwyddiannus a dychwelodd i Loegr er gwaethaf gorchmynion Elisabeth iddo beidio. Penodwyd Charles Blount, Arglwydd Mountjoy, yn ei le, a chymerwyd tair blynedd i chwalu’r gwrthryfel. Ildiodd O’Neill ym 1603, ychydig ddiwrnodau ar ôl marwolaeth Elisabeth, ac yn fuan wedyn llofnodwyd cytundeb heddwch rhwng Lloegr a Sbaen.

Roedd teyrnasiad Elisabeth I yn gyfnod pwysig o ran fforio a masnach ryngwladol. Erbyn cyfnod y Tuduriaid roedd Lloegr, ynghyd â Phortiwgal, Sbaen, Ffrainc a’r Iseldiroedd, ymhlith gwledydd morwrol mwyaf pwerus y byd. Ymfalchïai’r gwledydd hyn bod ganddynt forwyr abl oedd yn medru lansio teithiau fforio er mwyn perchnogi a chipio cyfoeth tiroedd ar draws y byd. Roedd lluoedd morwrol oedd yn cynnwys fflyd o longau yn hollbwysig er mwyn dod â sbeisys, perlysiau, cotwm a nwyddau gwerthfawr eraill yn ôl o’r tiroedd hynny. Defnyddiodd Elisabeth I chwedloniaeth Gymreig, hyd yn oed, i hyrwyddo ei chefnogaeth i fforio. Dyna a wnaeth pan ddefnyddiodd y chwedl am y tywysog canoloesol Madog ap Owain o Wynedd a’i daith i America ddiwedd y 12fed ganrif i gyfiawnhau anfon ymsefydlwyr o Brydain i sefydlu trefedigaethau yn America. Defnyddiai John Dee, un o gynghorwyr Elisabeth, stori Madog fel propaganda i sefydlu Ymerodraeth ‘Brydeinig’ yng ngogledd America.   

Un o fforwyr a chapteiniaid môr enwocaf Elisabeth I oedd Francis Drake. Enillodd Drake enwogrwydd iddo’i hun ac i Loegr fel pŵer morwrol wedi iddo fod y cyntaf i hwylio o gwmpas y byd rhwng 1577 a 1580 ar fwrdd y Golden Hind. Roedd Elisabeth yn awyddus i gefnogi mordeithiau Drake a Walter Raleigh fel eu bod yn sefydlu trefedigaethau dramor i Loegr.    

Sefydlwyd y cwmni yn ardal Môr India a Tsieina a rhoddodd Elisabeth I siarter i sefydlu’r cwmni ar 31 Rhagfyr 1600. Rhoddwyd awdurdod a rheolaeth i’r cwmni fasnachu ar ran Lloegr â gwledydd i’r Dwyrain o Benrhyn Gobaith Da ac i’r gorllewin o Gulfor Magellan am tua 15 mlynedd.    

Ar ddechrau’r 17eg ganrif daeth Thomas Myddleton o Ddinbych yn Arglwydd Faer Llundain. Roedd hefyd oedd un o sylfaenwyr yr East India Company, a oedd yn un o gwmnïau cyfoethocaf y byd yn y 18fed ganrif. Roedd y Cwmni yn rheoli hanner masnach y byd a thir sylweddol yn India yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif.

Gwelodd oes Elisabeth I fri mawr ar bwysigrwydd llenyddiaeth, gyda hwn yn gyfnod cynhyrchiol iawn o ran cerddoriaeth, dramâu a barddoniaeth. Hwn oedd oes aur dramodwyr fel William Shakespeare, Christopher Marlowe ac Edmund Spenser ac agoriad Theatr y Globe yn Llundain, lle perfformiwyd dramâu Shakespeare. Bu ei theyrnasiad yn gyfnod pwysig o nawdd i weithgareddau cerddorol, gyda cherddoriaeth eglwys a madrigalau yn cael eu poblogeiddio a cherddorion fel Thomas Tallis, William Byrd a Thomas Morley yn amlygu eu hunain fel cyfansoddwyr cerddoriaeth o’r safon uchaf.

Gydag Elisabeth wedi sefydlu'r grefydd Brotestannaidd yn ei theyrnas ar ôl iddi esgyn i’r orsedd ym 1559, roedd yn awyddus i sicrhau bod cymaint â phosib o gefnogaeth i’r grefydd honno drwy ei theyrnas. Er mwyn ceisio gwireddu hynny roedd hi’n bwysig bod y bobl yn deall y gwasanaethau yn eu mamiaith eu hunain, a dyna’r prif reswm pam y pasiwyd Deddf Senedd 1563. Roedd Elisabeth felly'n creu Protestaniaid ufudd na fyddai’n gwrthryfela yn erbyn ei chyfundrefn grefyddol. Roedd y Ddeddf hon yn rhoi gorchymyn i esgobion holl esgobaethau Cymru ac Esgob Henffordd drefnu bod y Beibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg erbyn 1 Mawrth 1567. Cyfieithwyd y rhan fwyaf o’r Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi Gyffredin gan William Salesbury. Cyhoeddwyd cyfieithiad cyntaf y Testament Newydd yn y Gymraeg yn Llundain ym 1567, ac ym 1588 cyhoeddwyd llyfr hollbwysig yn hanes yr iaith Gymraeg, sef Beibl Cymraeg William Morgan.

Bu’r blynyddoedd ar ôl trechu’r Armada ym 1588 yn gyfnod lle wynebodd Elisabeth broblemau newydd a barhaodd tan ddiwedd ei theyrnasiad. Bu’r gwrthdaro gyda Sbaen ac yn Iwerddon yn achos cynnen gyson ar adeg pan oedd yr economi'n dioddef oherwydd cynaeafau gwael a chostau rhyfel. Cynyddodd prisiau, dirywiodd safon byw a bu cynnydd yn nifer y diwaith a'r digartref.

Bu farw prif gynghorydd Elisabeth, sef William Cecil, Barwn 1af Burghley, ar 4 Awst 1598. Olynwyd ef yn ei rôl wleidyddol gan ei fab, Robert Cecil, a ddaeth yn ddiweddarach yn arweinydd y llywodraeth. Un o’r tasgau a gafodd Robert Cecil oedd sicrhau bod yr olyniaeth ar ôl marwolaeth Elisabeth yn ddidrafferth a diffwdan. Nid oedd Elisabeth am enwi pwy fyddai ei holynydd, ac felly bu'n rhaid i Cecil gynnal trafodaethau cudd gydag Iago VI o’r Alban oedd â hawl gref ar yr orsedd. Cynghorodd Cecil Iago i siarad ag Elisabeth a'i diddanu er mwyn ei pherswadio a rhoi cyfle iddi ymgyfarwyddo â’r syniad mai ef fyddai ei holynydd. 

Bu iechyd Elisabeth yn weddol dda tan dymor yr hydref ym 1602, pan fu farw nifer o’i ffrindiau, ac achosodd hyn iselder ysbryd yn Elisabeth. Bu marwolaeth Catherine Carey, Iarlles Nottingham, nith i gyfnither Elisabeth, yn Chwefror 1603, yn ergyd drom i Elisabeth. Bu farw Elisabeth ar 24 Mawrth 1603 ym Mhalas Richmond, rhwng dau a thri o’r gloch y bore. Ychydig oriau'n ddiweddarach, cyhoeddwyd gan Robert Cecil a’r Cyngor mai Iago VI o’r Alban, a mab Mari, Brenhines yr Alban, fyddai'n dod yn Iago I, Brenin Lloegr. 

Gyda hynny, cychwynnodd cyfnod y Stiwartiaid fel rheolwyr Teyrnas Lloegr, a barhaodd rhwng 1603 a 1714.

Cludwyd arch Elisabeth mewn bad, wedi ei oleuo gyda thorchau, i lawr yr afon yn ystod y nos tuag at Whitehall. Ar ddiwrnod ei hangladd, ar 28 Ebrill, aethpwyd â’r arch i Abaty Westminster ar elor a dynnwyd gan bedwar ceffyl wedi eu haddurno â melfed du. Claddwyd Elisabeth yn Abaty Westminster, mewn bedd a rannai gyda’i hanner-chwaer, Mari I.

I lawer o’i deiliaid, roedd hiraeth am gyfnod Elisabeth I ar yr orsedd, ond roedd eraill yn falch o weld diwedd ar ei theyrnasiad. Roedd disgwyliadau uchel o Iago pan esgynnodd i’r orsedd, ond bu dirywiad yn ei boblogrwydd, ac erbyn y 1620au roedd dyhead sentimental i adfer cwlt Elisabeth. Clodforwyd Elisabeth gan y Protestaniaid ac fel rheolwr oes euraidd, tra bod Iago yn cael ei bortreadu fel cefnogwr i’r Catholigion, a phen ar lys llygredig. Daethpwyd i ystyried teyrnasiad Elisabeth I fel cyfnod pan oedd y goron, yr eglwys a’r Senedd yn cydweithio'n gytbwys.

Adferwyd ei delwedd unwaith yn rhagor adeg y Rhyfeloedd Napoleanaidd pan oedd Teyrnas Lloegr ar drothwy goresgyniad arall. Yn ystod oes Fictoria defnyddiwyd y chwedloniaeth Elisabethaidd at bwrpas imperialaidd yr Ymerodraeth Brydeinig, ac yng nghanol yr 20fed ganrif roedd Elisabeth yn cael ei gweld fel symbol rhamantus o wrthsafiad cenedlaethol pan wynebai’r deyrnas fygythiad o dramor. Mae haneswyr sy'n arbenigo ar y cyfnod, fel J.E. Neale (1934) ac A.L. Rowse (1950), yn dehongli teyrnasiad Elisabeth fel oes euraidd o gynnydd. Mae'r ddau yn delfrydu personoliaeth Elisabeth, gan ei phortreadu fel rhywun oedd wastad yn gywir ac yn ddoeth, tra bod nodweddion mwy annifyr ei phersonoliaeth yn cael eu hanwybyddu ac yn cael eu hesbonio fel arwyddion o straen.

Er hynny, mae haneswyr mwy diweddar wedi mabwysiadu barn fwy cymhleth a chywir ohoni. Mae ei theyrnasiad yn enwog am iddi drechu’r Armada ac am gyrchoedd llwyddiannus yn erbyn y Sbaenwyr, fel y rhai ar Cadiz ym 1587 a 1596, ond mae rhai haneswyr yn cyfeirio hefyd at ei methiannau ar y tir a’r môr. Roedd y tactegau a ddefnyddiwyd yn Iwerddon wedi dwyn anfri ar ei henw. Ni welwyd hi ychwaith fel amddiffynnydd cadarn y gwledydd Protestannaidd rhag Sbaen a’r Habsbwrgiaid, oherwydd roedd ei pholisi tramor yn bwyllog ac yn ofalus iawn. Ychydig iawn o gymorth a gynigiodd i Brotestaniaid dramor a methodd ddarparu digon o arian i'w harweinyddion i wneud unrhyw wahaniaeth mawr dramor.  

Ond er bod ei pholisi tramor yn ofalus, llwyddodd yn ystod ei theyrnasiad i godi proffil Lloegr dramor. Yn ystod Oes Elisabeth, cynyddodd hunanhyder ei theyrnas, ac roedd gwledydd fel Ffrainc a Sbaen yn dangos math o barchedig ofn tuag ati.




#Article 180: Alfred Russel Wallace (1025 words)


Biolegydd a naturiaethwr Cymreig oedd Alfred Russel Wallace (8 Ionawr 1823 – 7 Tachwedd 1913). Cafodd ei eni yn Llanbadog ger Brynbuga, Mynwy. Roedd yn naturiaethwr, daearyddwr, anthropolegydd ac yn fiolegydd bydenwog, yn bennaf gan iddo ddatblygu'r cysyniad o esblygiad o flaen, neu ar yr un pryd â Charles Darwin, er mai Darwin a gafodd y clod. Roedd yn Sosialydd ac roedd yn gefnogol i hawliau merched.

Dechreuodd ei waith ar Afon Amazon gyda'r naturiaethwr Henry Walter Bates ond cafwyd tân ar fwrdd y llong wrth ddychwelyd a chollodd ei samplau, a'r arian o'u gwerthu. Teithiodd yn ddiweddarach i Archipelago Malay - unwaith eto i gasglu samplau o fywyd gwyllt masnachol. Yno y disgrifiodd yr hyn a elwir, bellach, yn Llinell Wallace sef dosraniad pwysig rhwng Indonesia ac Awstralia. Adnabyddir ef hefyd fel tad bioddaearyddiaeth. Bu farw yn 90 oed.

Cafodd ei eni yn Llanbadog, ger Brynbuga, Sir Fynwy i Thomas Vere Wallace a Mary Anne Greenell - y seithfed o naw plentyn. Hanai ei fam o Hertford yn Lloegr a symudodd y teulu yno pan oedd yn bump oed ac aeth i ysgol Hertford Grammar School hyd at 1836. Honnai ei dad ei fod yn wreiddiol o'r Alban ac yn perthyn i William Wallace. Ar un o'r lluniau a dynnodd, ysgrifennodd yn Gymraeg Merch Gymraeg yn cario dwfr; a defnyddiodd ei wybodaeth am y Gymraeg yn rhan o'i gysyniadau blaenllaw ar esblygiad. Symudodd i Lundain i weithio fel prentis efo'i frawd John, a oedd yn adeiladwr 19 oed. Codwyd plac iddo yn 1979, yn 44 Ffordd Sant Pedr, Croydon i gofio hyn. Symudodd eildro i weithio fel prentis i'w frawd hynaf William, fel arolygydd tir yn 1837. Mynychodd ddarlithoedd yn y London Mechanics' Institute, sef Prifysgol Birkbeck erbyn hyn, a daeth yn ddarlithydd yno dan ddylanwad y sosialydd Robert Owen a Thomas Paine.

Yn 1839, symudodd i Kington, Sir Henffordd, gan ymsefydlu yng Nghastell Nedd ym Morgannwg a gweithio (hyd at 1843) fel syrfëwr yng Nghymru gan amlaf. Dywed rhai haneswyr fod Wallace yn nodi ei genedligrwydd fel Sais yn hytrach na Chymro, ac mae sylwadau helaeth ganddo fe am y Cymry Cymraeg yn ei hunangofiant My Life (Cymry Cymraeg, iddo ef, oedd y werin o gwmpas Castell Nedd cofier). Daeth yn athro yng Nghastell Nedd ac wedyn yng Nghaerlŷr lle treuliodd gryn amser yn llyfrgell y dref; yno hefyd y cyfarfu Henry Walter Bates. Bu farw ei frawd yn 1845, a chymerodd Wallace ofal o fusnes ei frawd, John, ond aeth yr hwch drwy'r siop, a chymerodd swydd fel syrfëwr yn cynllunio rheilffordd drwy Ddyffryn Nedd. Roedd y gwaith hwn yn caniatáu iddo ymwneud â'i brif ddiddordeb, sef casglu pryfed.

Dilynodd yn nhraddodiad Alexander von Humboldt, William Henry Edwards a Charles Darwin ym 1848, pan deithiodd Wallace a Henry Bates i Frasil i hel samplau daearyddol ac i werthu a chasglu tystiolaeth am rywiogaethau'n esblygu. Enwodd oddeutu 200 o rywogaethau newydd ar y daith hon. Ymunodd y botanegydd Richard Spruce, a brawd iau Wallace, Herbert, gyda'r daith ym 1849. Astudiodd afon Rio Negro am bedair blynedd a ffawna, fflora a'r brodorion lleol yn Indonesia am 8 mlynedd gan nodi llawer am eu harferion a'u hieithoedd. Dychwelodd ar gwch o'r enw Helen ar 12 Gorffennaf 1852 ond bu tân ar fwrdd y llong a suddodd. Ar yr ymweliad hwn ag Indonesia yr esgorodd ar y syniad fod gan rywogaethau un hynafiad cyffredin, er fod y rhywogaeth honno wedi diflannu. Un enghraifft a nododd oedd y Glöyn aden aderyn. Nododd fod rhywogaethau'n perthyn i'w gilydd yn hytrach nag yn cael eu creu gan Dduw a chyhoeddodd bapur The Decent with Modification. Danfonodd y papur i Lundain yn 1855. Disgrifiad o'r broses esblygol oedd y papur hwn mewn gwirionedd.

Er gwaethaf colli ei holl stoc (ar wahân i'w ddyddiadur), ei bapurau a'i arian ysgrifennodd chwech o bapurau academaidd gan gynnwys: On the Monkeys of the Amazon, Palm Trees of the Amazon and Their Uses a Travels on the Amazon.

Erbyn 1858 roedd ei syniadau'n aeddfed ac roedd ganddo dystiolaeth gadarn i brofi ei ddamcaniaethau, ac felly anfonodd hwy at Darwin. Cyhoeddwyd ei bapur helaeth a nodiadau byr 'ar y gweill' gan Darwin mewn cyfarfod arbennig o'r Linnaean Society of London.

Danfonodd bapur arall lle nododd fod esgyrn traed Cornylfinir a'r Si yn union yr un fath ac felly'n perthyn i'r un teulu. Dechreuodd Wallace lythyru gyda Darwin, gan nodi ei ddarganfyddiadau i'r manylyn eithaf. O hyn ymlaen newidiodd syniadau Darwin, gan adlewyrchu darganfyddiadau Wallace.

Treuliodd ddeunaw mis yn Llundain yn byw ar y taliadau yswiriant a dderbyniodd. O 1854 i 1862 (yn 31 - 39 oed), roedd e yn y Malay Archipelago (a adnabyddwn heddiw fel Singapôr, Malaysia ac Indonesia) lle casglodd dros 125,000 o rywiogaethau (dros 80,000 o chwilod). Enwyd Rhacophorus nigropalmatus, fel Wallace's flying frog ar ei ôl.

Dychwelodd i Brydain o Malaysia ym 1862, gan aros gyda'i chwaer Fanny Sims, ac anerchodd nifer o'r cymdeithasau gwyddonol lu yn Llundain fel Cymdeithas Swolegol Llundain, a chymdeithasodd gyda Darwin yn Down House, Charles Lyell a Herbert Spencer.

Ym 1866 priododd Annie Mitten a chawsant dri o blant: Herbert (1867–1874), Violet (1869–1945), a William (1871–1951).

Bu farw ar 7 Tachwedd 1913, yn 90 oed. Dywedodd y New York Times mewn coffâd amdano: the last of the giants belonging to that wonderful group of intellectuals that included, among others, Darwin, Huxley, Spencer, Lyell and Owen, whose daring investigations revolutionized and evolutionized the thought of the century.

Ar 19 Gorffennaf 2017 bu arwerthiant o 24 o lythyrau olaf Wallace gan yr arwerthwr Dominic Winter a'r wythnos ganlynol, gwerthwyd nodiadau ar gyfer llyfr yr oedd Wallace a'i olygydd, Syr James Marchant, yn bwriadu cyhoeddi o'r enw Darwin a Wallace. Disgrifiwyd y casgliad hwn yn facinating gan y Dr George Beccaloni, cyfarwyddwr Prosiect Llythyrau Alfred Russel Wallace.

Galwyd dwy rywogaeth o adar sy'n frodorol o Indonesia ar ei ôl, sef: Rhegen Wallace ac Aderyn paradwys Wallace (Semioptera wallacei), a'r Gwalcheryr Wallace sy'n frodorol o Indonesia, Brwnei, Gwlad Tai, Myanmar a Maleisia.

Cyhoeddodd 22 llyfr llawn, 747 o weithiau llai a 508 o bapurau gwyddonol.

Y papur gwreiddiol yn llawn. Sylwer 1858 nid 1859. Alfred Russel Wallace,  (1858)

Llyfryddiaeth llawn gan:




#Article 181: Mari I, brenhines Lloegr (313 words)


Bu Mari I (neu Mari Tudur) (18 Chwefror 1516 – 17 Tachwedd 1558) yn Frenhines Lloegr ac Iwerddon o 19 Gorffennaf 1553 hyd at ei marwolaeth ym 1558. Hi oedd unig ferch Harri VIII, brenin Lloegr, a'i wraig gyntaf Catrin o Aragon i fod yn oedolyn. Yn yr 17g bathwyd yr enw Mari Waedlyd i'w disgrifio, gan iddi ganiatáu lladd cannoedd o Brotestaniaid.

Ei hanner brawd, Edward VI, Edward VI (mab Henry VIII a Jane Seymour) olynydd Harri, a hynny yn 1647. Pan y deallodd na fyddai'n byw yn hir, oherwydd afiechyd, ceisiodd sicrhau na fyddai Mari yn ei olynu ar yr orsedd; gwnaeth hyn oherwydd fod ganddynt grefydd wahanol, ac felly, gor-gyfnither, yr Arglwyddes Jane Grey a orseddwyd. Casglodd Mari fyddin yn Nwyrain Anglia a llwyddodd i ddiorseddu Jane Grey, a thorrwyd ei phen. Yn 1553 coronwyd Mari'n frenhines.

Ar ôl ennill y goron yn 1553 ailsefydlodd Mari Catholigiaeth Rufeinig yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon. Yn sgil ei phenderfyniad, gorfodwyd i lawer o Brotestaniaid encilio i'r Cyfandir, gan gynnwys nifer o Gymry blaenllaw megis yr esgob Richard Davies (1501 – 7 Tachwedd 1581). Llosgwyd bron tri chant o ferthyron Protestannaidd yn ystod ei theyrnasiad, gan gynnwys tri yng Nghymru: Rawlins White yng Nghaerdydd, Robert Ferrar yng Nghaerfyrddin a William Nichol yn Hwlffordd.

Priododd Mari Felipe II, brenin Sbaen, ar y 25 Gorffennaf 1554 ond roedd yn briodas amhoblogaidd iawn yn Lloegr. Pan ddaeth e'n frenin Sbaen yn 1556 gwnaed hi'n frenhines gydweddog Habsburg Sbaen.

Ar ôl marwolaeth sydyn Mari ym 1558, ailgyflwynodd ei hanner chwaer Elisabeth y grefydd Brotestannaidd yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon.

Yn 1525 danfonwyd hi i'r Gororau i fyw, er mwyn iddi dderbyn addysg drwy drefniant Cyngor Cymru a'r Gororau. Roedd ganddi lys ei hun o fewn muriau Castell Llwydlo a galwyd hi'n answyddogol yn 'Dywysoges Cymru' gan rai er nad oedd, mewn gwirionedd. Bu yno am dair blynedd.




#Article 182: John, brenin Lloegr (155 words)


Brenin Lloegr o 6 Ebrill 1199 tan ei farwolaeth oedd John (24 Rhagfyr 1166 – 18/19 Hydref 1216). Ganwyd yn Rhydychen, yn bumed mab (a'r ieuengaf) i Harri II, brenin Lloegr, a'i wraig Eleanor o Aquitaine.

Cafodd ei yrru gan ei dad i Iwerddon yn 1185 ond bu rhaid i Harri ei alw'n ôl am fod cwynion am ei ymddygiad yno.

Cafodd ei goroni'n frenin Lloegr yn Abaty San Steffan ar 27 Mai 1199. Yn 1189 priododd ag Isabella o Gaerloyw, merch ac etifedd William Fitz Robert, Ail Iarll Caerloyw.  Nid oedd iddynt blant ac fe gawsant ysgariad tua'r adeg y daeth John ar yr orsedd. Ailbriododd John ag Isabella d'Angoulême a oedd ugain mlynedd yn iau nag ef, ar 24 Awst 1200.

Gorfodwyd ef i lofnodi'r Siarter Fawr (Magna Carta) gan y barwniaid a'r eglwys ar 15 Mehefin 1215.

Priododd ei ferch Siwan â'r tywysog Llywelyn Fawr.

Bu farw yn Newark, 19 Hydref 1216.




#Article 183: Castellnewydd Emlyn (401 words)


Tref farchnad yng ngogledd-orllewin Sir Gaerfyrddin yw Castellnewydd Emlyn (neu Castellnewi fel y'i gelwir yn lleol); ceir y ffurf Castell Newydd Emlyn hefyd. Saif ar lan ddeheuol Afon Teifi. Weithiau ystyrir pentref Adpar, ar y lan ogleddol yng Ngheredigion, yn rhan o'r dref hefyd, er bod gan Adpar hanes hir fel hen fwrdeistref o fewn Ceredigion. Yno y saif Castell Trefhedyn, hen domen o'r Oesoedd Canol.

Cynrychiolir Castellnewydd Emlyn yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Safai Castellnewydd Emlyn yng nghantref Emlyn, ac fe'i henwir ar ôl y cantref hwnnw. Adeiladwyd y castell, sydd nawr yn adfeilion, gan y Normaniaid. Cafodd ei chyfeirio ati gyntaf ym Mrut y Tywysogion ym 1215 pan gipwyd hi gan Llywelyn ap Iorwerth.

Ymwelodd Gerallt Gymro ag Emlyn yn ystod ei daith trwy Gymru ym 1188.

Bellach, mae Castellnewydd Emlyn yn dref farchnad brysur.

Yn y dref mae neuadd tref, oriel gelf, theatr (Attic Theatre) ac ysgol uwchradd (Ysgol Gyfun Emlyn). Lleolir Amgueddfa Wlân Cymru a Rheilffordd Dyffryn Teifi gerllaw.

Yn wahanol i nifer o drefydd gwledig Cymru, mae Castellnewydd Emlyn wedi llwyddo i gadw ystod helaeth o wasanaethau lleol, ar ffurf busnesau teuluol yn bennaf. Lleolir y dref mewn ardal amaethyddol, ac adlewyrchir hyn gan gyflogwr mwyaf y dref, sef ffatri Saputo sy'n cynhyrchu caws Mozzarella. Maen nhw'n un o'r cynhyrchwyr mwyaf o gaws Mozzarella ym Mhrydain.

Hyd at y 1960au, roedd ymhell dros 90% o boblogaeth Castellnewydd Emlyn yn Gymry Cymraeg a'r Gymraeg oedd iaith gwaith ac aelwyd yn y dref. Ond fel mewn sawl rhan arall o'r wlad cafwyd mewnlifiadau sylweddol o bobl o'r tu allan i Gymru, Saeson yn bennaf, ac mae sefyllfa'r iaith wedi newid o ganlyniad. Er hynny, erys y Gymraeg yn iaith y mwyafrif, sef tua 69% o'r boblogaeth o 941, ac fe'i siaredir gan 90% o'r bobl yno a anwyd yng Nghymru (Cyfrifiad 2001).

Mae chwedl Gwiber Castellnewydd Emlyn  yn adrodd hanes gwiber ffyrnig gydag adain, a oedd yn anadlu tân a mwg, yn glanio ar furiau'r castell a disgyn i gysgu yno. Ymledodd ofn i gychwyn, ond yn fuan dechreuodd pobl y dref gynllwynio i ddinistrio'r bwystfil. Dyfeisiodd milwr gynllun i rydio i'r Afon Teifi a cheisio saethu'r Wiber mewn rhan gwan o'i gorff. Disgynnodd y Wiber i'r afon wedi iddo gael ei saethu, gwenwynwyd yr afon gan y corff a lladdwyd yr holl bysgod.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 184: Glynebwy (195 words)


Prif dref Blaenau Gwent yw Glynebwy (weithiau 'Glyn Ebwy).' Dyma'r enw Cymraeg sydd hefyd ar y plwyf eglwysig, sydd â phoblogaeth o tua 25,000.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Yn y 2010au datblygwyd safle'r hen waith dur, ac yn 2010, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yno. Mae'r datblygiad yn cynnwys cartrefi, safle manwerthu, swyddfeydd, gwlypdir, ysbyty newydd (Ysbyty Aneurin Bevan) a mwy yn cael eu lleoli ar y safle.

Fe wnaeth yr Ŵyl Garddio Genedlaethol Cymru denu dros ddwy filiwn o bobl i Lynebwy ym 1992.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy ym 1958. Fe'i chynhaliwyd yn y dref yn 2010 hefyd (gweler Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010).

Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8.4% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 347 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 309 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 262 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 8.6% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.

Arferai bod clwb pêl-droed safon uwch Cymru yn y dref. Roedd C.P.D. Glyn Ebwy yn gymharol llwyddiannus yn Uwch Gynghrair Cymru yn yr 1990au, ond daeth y clwb i ben yn 1998.




#Article 185: Tredegar (385 words)


Tref yn Nyffryn Sirhywi, Blaenau Gwent, yw Tredegar. Mae Caerdydd 33.2 km i ffwrdd o Tredegar ac mae Llundain yn 218.7 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 27 km i ffwrdd.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Wedi'i leoli o fewn ffiniau hanesyddol yr hen Sir Fynwy, fe ddaeth yn ganolfan gynnar y Chwyldro Diwydiannol yn Ne Cymru. Ym 1778, adeiladwyd ffwrnais haearn yn Sirhywi gan Thomas Atkinson a William Barrow a ddaeth i'r ardal o Lundain.  Roedd angen tanwydd ar gyfer y ffwrnais, felly cyflogwyd dynion i gloddio glo ym Mryn Bach a Nant-y-bwch. Dyma'r mwyngloddio cyntaf, ar raddfa fach, yn yr ardal.

Methodd y ffwrnais yn 1794. Yn 1797, adeiladodd Samuel Homfray, gyda'i bartneriaid Richard Fothergill a Monkhouse Matthew, ffwrnais newydd, gan brydlesu'r tir o Stâd Tredegar yng Nghasnewydd. Creodd hyn Waith Haearn Sirhywi a oedd yn y pendraw i ddod yn Waith Haearn Tredegar, a enwyd er anrhydedd Ystâd Tŷ Tredegar yn Nhredegar a Pharc Tredegar yng Nghasnewydd yn ne'r sir. Mae Adrian Vaughn, yn ei lyfr Grub, Dŵr a Relief (1985) yn crybwyll mai yn 1832 y cymerodd John Gooch swydd reolwr yng ngweithfeydd haearn Tredegar.

Bu sawl o epidemig colera yn y dref yn ystod y 19g a chrëwyd mynwent benodedig ar gyfer y rhai a fu farw o golera yng Nghefn Golau.

Mae Tŷ Bedwellty a'i ardd yn adeilad rhestredig Gradd 2. Yn wreiddiol, roedd yr adeilad yn fwthyn to gwellt isel, ac fe gafodd yr hen dŷ ei adnewyddu ym 1809. Fe adeiladwyd yr adeilad presennol ym 1818 fel tŷ i Samuel Homfray, a oedd yn brif gyflogwr yr ardal am y rhan fwyaf o'r 19g, trwy ei weithiau glo a haearn.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Un o brif nodweddion Tredegar yw Cloc y Dref, sydd yn dominyddu ochr ddeheuol canol y dref. Syniad Mrs. R P Davies, gwraig  rheolwr Gwaith Haearn Tredegar, oedd cyflwyno cloc oleuedig aruchel. Ei phenderfyniad hi oedd i adeiladu'r cloc yng nghylch canol y dref.

Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 468 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 441 yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 392 yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 8.8% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.




#Article 186: Trefynwy (550 words)


Trefynwy (Monmouth) yw prif dref Sir Fynwy yn ne-ddwyrain Cymru. Mae'n dref hanesyddol ar lannau Afon Mynwy, tua 2 filltir (3.2 km) o'r ffin â Lloegr. Saif y dref 36 milltir (58 km) i'r gogledd-ddwyrain o Gaerdydd a 127 m (204 km) i'r gorllewin o Lundain. Mae'n fwy na thebyg mai Aber Mynwy oedd yr enw gwreiddiol a cheir cofnod ohonno'n dyddio nôl i 1136 (Aper Myngui ac Aper Mynuy). Yn ôl Cyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 8,547. Ymroella Llwybr Treftadaeth Trefynwy drwy'r dref. Enw'r papur bro lleol ydy Newyddion Mynwy sy'n cael ei gyhoeddi yn achlysurol gan Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a'r cylch .

Cynrychiolir Trefynwy yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Nodweddir Oes Newydd y Cerrig, neu'r cyfnod Neolithig yng Nghymru gan ddechrau ffermio. Credir fod hyn yn dyddio o tua 4000 CC. Yn 2012, tra'n tyllu mewn ystâd o dai o'r enw 'Parc Glyn Dŵr' yng nghanol Trefynwy, darganfu Martin Tuck o Gymdeithas Archaeoleg Trefynwy olion crannog - tŷ enfawr, hir; mae'r ystâd o dai hwn ar dir fferm 'Crofft-y-Bwla'. Yn 2015 datgelwyd fod yr olion yn mynd yn ôl i'r Oes Efydd ac y bu yno waith adeiladu cychod mewn llyn enfawr, sydd wedi diflannu ers ychydig cyn dyfodiady Rhufeiniaid. Darganfuwyd ffosydd twfn, metr o led, yn sianeli hirion dros bridd a losgwyd ac a ddyddiwyd i Oes Newydd y Cerrig gan system dyddio radiocarbon: 5,000 o flynyddoedd yn ôl (2,917 CC). Mae hyn yn golygu fod y crannog hwn yn Nhrefynwy yn 2,000 o flynyddoedd yn hŷn nag unrhyw anhediad-llyn drwy Gymru a Lloegr.

Gorweddai Teyrnas Erging, yn bennaf, yn yr hyn sydd erbyn heddiw yng ngorllewin Swydd Henffordd yn Lloegr. Canol y deyrnas oedd yr ardal rhwng afonydd Mynwy a Gwy (Swydd Henffordd), ond ymestynnai hefyd i'r Sir Fynwy fodern ac i'r dwyrain o afon Gwy lle ceir safle tref Rufeinig Ariconium (yn Weston under Penyard heddiw); credir fod yr enw 'Erging' yn deillio o enw'r dref honno a oedd, mae'n bosibl, yn brifddinas y deyrnas fechan.

Roedd gan y Rhufeiniaid gaer yma, a alwyd yn Blestium. Cysylltwyd y dref gyda plethwaith o ffyrdd i drefi cyfagos: Glefiwm (Caerloyw) ac Isca Augusta (Caer Rufeinig Caerllion). Credir fod mwyngloddio haearn gerllaw yn Gobaniwm (y Fenni) ac Ariconiwm (Rhosan ar Wy).

Yn 1067 codwyd castell Normanaidd. Yn y Canol Oesoedd, ffurfiai'r afon un o ffiniau Rhwng Gwy a Hafren. Yn y cyfnod yma gallai llongau gyrraedd cyn belled a Threfynwy. Mae Pont Mynwy yn bont sydd wedi'i chryfhau'n filwrol yn unigryw yng ngwledydd Prydain. Yn ddiweddarach daeth y dref o fewn goruchwyliaeth y Lancastriaid a hi ydy tref genedigol Harri V, brenin Lloegr (20 Mawrth 1413).

Yn 1536 fe'i gwnaed yn dref weinyddol Sir Fynwy.

Mae Trefynwy'n ganolfan dwristaidd eitha poblogaidd gan ei bod wed'i lleoli yn Nyffryn Afon Gwy a ddynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae hefyd yn ardal Gadwraeth Arbennig, yn bennaf oherwydd yr amrywiaeth eithriadol o blanhigion dŵr a geir yn ei dalgylch. Ceir hefyd amrywiaeth o bysgod, sy'n cynnwys poblogaeth sylweddol o eogiaid, ac ymhlith y rhywogaethau llai cyffredin, poblogaeth o'r Gwangen (Alosa fallax). Yn nhalgylch afon Gwy y ceir y boblogaeth fwyaf o'r Dyfrgi yng Nghymru. Nid oes llawer o broblemau llygredd ar hyd yr afon.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 187: Rhisiart I, brenin Lloegr (116 words)


Bu Rhisiart I (8 Medi 1157 – 6 Ebrill 1199) yn frenin Lloegr o 6 Gorffennaf 1189 hyd at 6 Ebrill 1199.

Roedd yn fab i'r brenin Harri II a'i wraig Eleanor o Aquitaine. Ganed ef yn Rhydychen. Ei wraig oedd Berengaria o Navarra.

Roedd yn cael ei adnabod gan sawl llysenw: Richard Coeur de Lion, Oc et No, Melek-Ric, Rhisiart Lewgalon.

Ynghyd â'r Ymerodr Glân Rhufeinig Ffrederic Barbarossa a'r brenin Philippe II, roedd Rhisiart Coeur de Lion yn un o arweinwyr y Drydedd Groesgad (1189–1192). Pan ddaliwyd Rhisiart yn wystl yn yr Almaen gan Harri VI, Ymerawdwr Rhufeinig, cododd ei fam Eleanor bridwerth i'w ryddhau.

Cyfansoddodd gerddi yn null y trwbadwriaid yn Ffrainc yn ogystal




#Article 188: Eleanor o Aquitaine (147 words)


Roedd Eleanor o Aquitaine (1122 – 1 Ebrill 1204 (neu 31 Mawrth 1204)) yn frenhines yn ei thro i Louis VII, brenin Ffrainc, a Harri Plantagenet, brenin Lloegr a Comte d'Anjou, sef Harri II, brenin Lloegr. Petronilla, Iarlles Vermandois, oedd ei chwaer iau.

Alia Aenor neu Aliaenor yw ei henw go iawn, ond fe'i hadnabyddir fel Eleanor o Aquitaine. Roedd Eleanor yn wraig i Louis VII rhwng 1137 a 1152. Roedd hi'n wraig ar ôl hynny i Harri II rhwng 1153 a marwolaeth Harri yn 1189,
ond cadwodd hi dan arestiad ar ôl gwrthryfel ym 1173. Trwy ei phriodasau dynastig daeth yr ymerodraeth Angevin i fodolaeth. Eleanor oedd mam y brenhinoedd Rhisiart I a John ar Loegr. 
Pan ddaliwyd Rhisiart yn wystl yn yr Almaen, cododd bridwerth i'w ryddhau.

Roedd Eleanor yn adnabyddus fel gwraig ddiwylliedig a noddai feirdd a llenorion fel y trwbadŵr Bernard de Ventadour.




#Article 189: Y Democratiaid Rhyddfrydol (DU) (295 words)


Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn blaid wleidyddol ryddfrydol, gymdeithasol sy'n gweithredu yn y Deyrnas Unedig ac a elwir ar lafar yn Lib Dems. Hyd at 2015, hi oedd y drydedd blaid fwyaf o'r pleidiau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig.

Etholwyd Nick Clegg yn Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2007 ac yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010, cipiwyd 57 o'r seddi ganddynt, a nhw felly oedd y drydedd blaid fwyaf o ran nifer yr Aelodau Seneddol. Roedd gan y Ceidwadwyr 307 a Llafur 258 AS, a gan nad oedd gan yr un blaid y mwyafrif clir, ymunodd y Democratiaid Rhyddfrydol gyda'r Ceidwadwyr i ffurfio cynghrair a phenodwyd Clegg yn Ddirprwy Brif Weinidog y DU. Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015, lleihawyd nifer ei haelodau Seneddol i 8 ac ymddiswyddodd Clegg fel Arweinydd ei blaid.

Ffurfiwyd y Democratiaid Rhyddfrydol ar 3 Mawrth 1988 pan unwyd y Blaid Ryddfrydol gyda'r Democratiaid Cymdeithasol, ond daeth i gytundeb gyda'i gilydd saith mlynedd ynghynt pan ffurfiwyd y 'Cynghrair yr SDP-Rhyddfrydwyr' (SDP–Liberal Alliance). Tarddiad y Blaid Ryddfrydol oedd y Chwigiaid, y Radicaliaid a'r Peelites (yn 1859). Roedd yr SDP cryn dipyn yn iau - fe'i crewyd yn 1982 gan gyn-aelodau seneddol y Blaid Lafur, gydag ambell Geidwadwr a newidiodd ei liw.

Sylweddolodd yr SDP a'r Rhyddfrydwyr - yn gam neu'n gymwys - nad oedd lle i bedair plaid yng ngwleidyddiaeth gwledydd Prydain, a daethpwyd i gytundeb (neu 'Gynghrair') na fyddent yn sefyll yn erbyn ei gilydd mewn etholiad. Arweinyddion y Gynghrair oedd David Steel o'r Rhyddfrydwyr a Roy Jenkins ar ran yr SDP; cyn hir, daeth David Owen i gymryd lle Jenkins. Roedd gan y ddwy blaid eu polisiau eu hunain, ond cyflwynwyd un maniffesto ar gyfer Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1987.

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - y Blaid yng Nghymru.




#Article 190: Y Blaid Geidwadol (DU) (262 words)


Mae'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Saesneg:The Conservative and Unionist Party) yn blaid wleidyddol canol-dde yn y Deyrnas Unedig. Fe'i hadnabyddir hefyd fel Y Blaid Geidwadol, Ceidwadwyr, y Blaid Dorïaid neu'n llai ffurfiol Torïaid.

Sefydlwyd y blaid yn ei ffurf bresennol pan unodd gyda'r 'Rhyddfrydwyr Unoliaethol' (Liberal Unionist Party) a newidiwyd yr enw i 'Blaid Geidwadol ac Unoliaethol', sy'n parhau i fod yr enw swyddogol a chyfreithiol. Yn hanesyddol fe'i hystyrir yn brif blaid yr asgell dde gymhedrol. Yn 2014 roedd ganddi fwy o Aelodau Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin ac yn llywodraethu mewn clymblaid gyda'r Rhyddfrydwyr Democrataidd. Yn ystod yr 20g, hi oedd un o'r ddwy blaid gryfaf; bu'n llywodraethu am 57 mlynedd, gan gynnwys dan arweinyddiaeth Winston Churchill (1940–45, 1951–55) a Margaret Thatcher (1979–90). Erbyn diwedd yr 20g, y Ceidwadwyr hefyd oedd y prif wrthwynebydd i'r Senedd Ewropeaidd.

Yn yr Etholiad Cyffredinol 1997 collodd y blaid bob un o'i seddi yng Nghymru, ond yn yr Etholiad Cyffredinol 2005, fe ailgipiwyd tair ohonynt.

Yn dilyn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007, bu gan y blaid 12 o'r 60 sedd; ar ol  2013 hi oedd ail blaid fwyaf Cymru (o ran nifer yr aelodau seneddol), gyda Phlaid Cymru'n drydedd.

Cafodd y blaid etholiad cyffredinol ysgubol yn Rhagfyr 2019 gan ennill 14 Sedd allan o'r 40 Sedd Gymreig yn y Tŷ’r Cyffredin. Dyma gynnydd o 6 sedd o'r Blaid Llafur i'r Blaid Geidwadol. Torrwyd wal goch Llafur yn y Gogledd Ddwyrain gan adael un fricsen goch sef etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy. Yn ôl nifer dyma berfformiad gwaethaf Llafur ers dyddiau Margaret Thatcher yn y 80au. 




#Article 191: Y Blaid Lafur (DU) (222 words)


Plaid wleidyddol Brydeinig, ganol-chwith yw'r Blaid Lafur a sefydlwyd ar 27 Chwefror 1900. Gellir ei hystyried yn brif gynrychiolydd y canol-chwith gwleidyddol ym Mhrydain ers y 1920au, pan esblygodd o'r undebau llafur a phleidiau sosialaidd y 19g. Symudodd tua'r canol o dan bolisi Y Drydedd Ffordd dan arweinyddiaeth Tony Blair ac o ganlyniad cyfeirir ati yn y 2000au fel Llafur Newydd. Mae'r Blaid Lafur yng Nghymru (gweler isod) yn rhan o Blaid Lafur y DU; yr un sefyllfa a'r Alban. Yn 2015 roedd gan y blaid oddeutu 292,000 o aelodau.

Fe'i sefydlwyd yn 1900, gan oddiweddwyd y Blaid Ryddfrydol ddechrau'r 1920au a ffurfiodd lywodraeth (leiafrifol) dan arweinyddiaeth Ramsay MacDonald yn 1924 ac eto yn 1929–31. Ffurfiodd rhan o glymblaid yng nghyfnod yr Ail Ryfel Byd rhwng 1940 a 1945 ac ar ddiwedd y Rhyfel, ffurfiodd lywodraeth eto - y tro hwn o dan arweinyddiaeth Clement Attlee - a daliodd ei gafael fel y brif blaid rhwng 1964 a 1970 gyda Harold Wilson wrth y llyw, ac yna'i olynydd James Callaghan.

Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yw arweinydd presennol y Blaid Lafur Gymreig (Llafur Cymru).

Mae gan y blaid 29 (allan o 60) Aelodau o'r Senedd yn Senedd Cymru ers etholiad Mai 2016, pan ddewisodd y blaid i ffurfio clymblaid gyda dau aelod arall, Kirsty Williams (Y Democratiaid Rhyddfrydol) a Dafydd Elis-Thomas (annibynnol).




#Article 192: Plaid Cymru (1260 words)


Mae Plaid Cymru – The Party of Wales (hefyd Plaid) yn blaid wleidyddol sosialaidd a Chymreig sydd yn galw am annibyniaeth i Gymru Mewn erthygl yn Y Llenor o'r enw Mae'r gwylliaid ar y ffordd (1940), lluniai W. J. Gruffydd linell rhwng Hitler a'r Pab, a thrwy hynny fe awgrymai cysylltiad os nad cyfystyredd rhwng ffasgaeth a Chatholigiaeth. Gan fod Saunders Lewis, arweinydd deallusol amlyca'r blaid, yn Babydd, roedd y cyhuddiad yn amlwg. Yn ddiweddarach, adleisiai'r un cyhuddiad gan golofnwyr a ddefnyddiai'r ffugenw John Pennant yn y Western Mail, a'r gwleidyddion Ness Edwards, Jim Griffiths, Leo Abse, a Kim Howells, ac hyd yr 21g gan y Welsh Mirror. Tynnir sylw yn aml at sylwadau gwrth-Semitaidd gan Saunders Lewis, ac edmygedd Ambrose Bebb am Charles Maurras, arweinydd L'Action Française, fel tystiolaeth honedig o wreiddiau ffasgaidd y blaid.

Yn ei lyfr diffiniol ar y pwnc hwn, , ysgrifennai Richard Wyn Jones bod y dystiolaeth mor dila a'r dadleuon mor simsan fel petai'r cyhuddiad o ffasgaeth yn ymdrech i alltudio Plaid Cymru o gylch trafodaeth wleidyddol yng Nghymru – i'w hesgymuno o sffêr 'y derbyniol'. Nodai bod tair o elfennau pwysicaf ffasgaeth – gwladwriaeth-addoliad, mawrygu trais, a mawrygu arweinydd carismataidd – yn absennol o ideoleg a thraddodiad y blaid, os nad yn hollol groes iddi. Gwelai elfen gref o wrth-Gatholigiaeth mewn cyhuddiadau Gwilym Davies ac W. J. Gruffydd. Yn sicr ceir sawl sylwad gwrth-Semitaidd yn ysgrifau Saunders Lewis, ond nodai Richard Wyn Jones bod y fath ragfarn yn gyffredin ymhlith nifer o drigolion Gwledydd Prydain yn ystod yr oes honno, ac os cyhuddir Lewis yn ffasgwr ar sail hynny'n unig, bu rhaid labelu Winston Churchill, George Orwell, a W. J. Gruffydd ei hun yn ffasgwyr hefyd.

Yn 1945 daeth Gwynfor Evans yn arweinydd. Cafwyd cynhadledd stormus ym 1949, gyda rhai aelodau adain-chwith yn teimlo fod gormod o bwyslais ar yr iaith Gymraeg a'r ardaloedd gwledig, a rhai yn beirniadu heddychaeth Gwynfor Evans. Yn dilyn y gynhadledd hon, sefydlwyd Plaid Weriniaethol Cymru. Ni chafodd y blaid newydd lawer o lwyddiant etholiadol, a daeth i ben tua chanol y 1950au, ond cafodd gryn ddylanwad ar bolisïau Plaid Cymru. Erbyn 1959 llwyddodd y Blaid i ymladd ugain o seddi a chael 77,571 o bleidleisiau yn yr Etholiad Cyffredinol.

Yn dilyn helynt boddi Cwm Tryweryn gan Gorfforaeth Lerpwl, er y gwrthwynebiad gan bron pob aelod seneddol o Gymru, cynyddodd y gefnogaeth i Blaid Cymru.

Enillodd y blaid ei sedd seneddol gyntaf mewn is-etholiad ar y 14 Gorffennaf 1966 pan enillodd Gwynfor Evans, llywydd y blaid ar y pryd. Methodd gadw y sedd yn etholiad 1970. Collodd o 3 pleidlais yn Etholiad Cyffredinol gaeaf 1974 ond fe enillodd y sedd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, Hydref 1974. Collodd y sedd wedyn yn 1979.

Bu'r blaid yn agos iawn i ennill is-etholiadau seneddol yn Y Rhondda a Chaerffili ddiwedd y 1960au, ac roedd yn rheoli Merthyr Tudful am gyfnod.

Daeth datganoli i frig yr agenda gwleidyddol ym Mhrydain yn y chwedegau, yn dilyn buddugoliaeth Gwynfor Evans yn is-etholiad Caerfyrddin yn 1966, a Winifred Ewing dros yr SNP yn Hamilton ym 1967 a hefyd is-etholiadau Glasgow Pollock (1967), Rhondda Fawr (1967) a Chaerffili (1968). O ganlyniad sefydlwyd Comisiwn Crowther a ddaeth yn Gomisiwn Kilbrandon ar ôl marwolaeth yr Arglwydd Crowther.

Cyflwynodd Plaid Cymru y dystiolaeth ar ffurf pump memorandwm byr: Cenedlaetholdeb Gwleidyddol (Gwynfor Evans), Cenedligrwydd Cymru (Chris Rees), Yr Achos Economaidd dros Ymreolaeth (Phil Williams), Cyfansoddiad Cymru hunan-lywodraethol (Dewi Watcyn Powell), a Perthynas Gyllidol Gwledydd Prydain (Dafydd Wigley).

Enillodd Dafydd Wigley Etholaeth Arfon a Dafydd Elis Thomas Etholaeth Meirionnydd yn etholiad Chwefror 1974, ac yn eu tro daeth y ddau yn llywydd i'r blaid.

Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1987 enillodd Ieuan Wyn Jones Ynys Môn i'r Blaid ac yna yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992 enillwyd Etholaeth Ceredigion a Gogledd Penfro gan Cynog Dafis.

Yn dilyn buddugoliaeth mewn refferendwm a gynhaliwyd ym mis Fedi 1997, sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym 1999, enillodd y blaid dir enfawr, gan gipio etholaethau nad oedd wedi ennill erioed o'r blaen - Conwy, Llanelli, Y Rhondda ac Islwyn hyd yn oed. Roedd hefyd yn rheoli cynghorau lleol unedig Gwynedd, Caerffili a Rhondda Cynon Taf. Plaid Cymru oedd y brif wrthblaid yn nhymor cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda 17 sedd.

Collwyd Etholaeth Ynys Môn yn etholiad San Steffan 2001 ond fe enillwyd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gan Adam Price.

Collodd y blaid dir yn yr etholiadau, aeth hi lawr i 12 sedd. Serch hynny, parhaodd fel y gwrth-blaid swyddogol yn y Cynulliad.

Yn dilyn yr etholiad, camodd Ieuan Wyn Jones lawr fel Llywydd y blaid ond i gael ei ail-ethol fel yr arweinydd yn y Cynulliad o drwch blewyn.

Yn 2006, mabwysiadodd y blaid logo newydd, y pabi Cymreig yn lle'r Triban.

Enillodd Plaid Cymru 15 sedd yn yr etholiad, a wedi'r buddogoliaethau ffurfiodd clymblaid gyda'r Blaid Lafur - y tro cyntaf i'r blaid lywodraethu Cymru yn ei hanes. Etholwyd Ieuan Wyn Jones fel Dirprwy Brif Weinidog Cymru.

Yn sgil addewid yng nghytundeb Cymru'n Un rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur, cynhaliwyd refferendwm ar ymestyn pwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghymru ar 3 Mawrth 2011. Enillwyd y refferendwm gyda mwyafrif sylweddol: pleidleisiodd 63.49% 'ydw', a 36.51% 'nac ydw'.

Collodd Plaid Cymru seddi yn etholiadau'r Cynulliad 2011. Cynhaliwyd ymchwiliad i mewn i'r canlyniadau a arweiniodd at ail-strwythuro'r arweinyddiaeth.

Enillodd Plaid Cymru un sedd ychwanegol o etholiadau 2011, yn ogystal â chynyddu canran y bleidlais etholaethol a ranbarthol. Ar ôl yr etholiadau daeth Plaid Cymru yn wrthblaid swyddogol y Cynulliad.

Cipiodd Leanne Wood (arweinydd ar y pryd) sedd Rhondda oddi wrth Leighten Andrews (Llafur). Daeth hyn a syndod mawr i nifer gan gynnwys aelodau blaenllaw Llafur. Yn ogystal daeth Plaid Cymru yn agos iawn i ennill Llanelli, Blaenau Gwent ac Aberconwy.

Rhoddwyd Leanne Wood ymlaen i bleidlais Prif Weinidog Cymru yn y Senedd yn erbyn Carwyn Jones. Pleidleisiwyd UKIP, Ceidwadwyr a Phlaid Cymru dros Leanne. Roedd y bleidlais yn gyfartal, 29 yr un, roedd rhaid gohirio'r sesiwn gan arwain at drafodaethau at sut i ddatrys y llwyrglo. Dewiswyd y blaid i beidio parhau gyda'r enwebiad gan dynnu nôl enw Leanne ar y papur.

Rhwng 2016 a 2020 mae dau aelod wedi dod yn annibynnol o Blaid Cymru, Neil McEvoy a Dafydd Elis-Thomas. Cafodd Dafydd Elis-Thomas lle clymbleidiol yn y Llywodraeth fel Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Ac roedd Neil McEvoy yn eistedd fel aelod annibynnol cyn troi'n Welsh National Party.

Cyn etholiad cyffredinol 2019 cyhoeddodd Adam Price y byddai'n sefydlu comisiwn i edrych ar ymarferoldeb Annibyniaeth Cymru, a sut y byddai Llywodraeth Blaid Cymru yn cynnal refferendwm annibyniaeth. Cyhoeddodd y comisiwn, dan arweiniad cyn Aelod Seneddol Plaid Dwyfor Meirionydd, Elfyn Llwyd, ei adroddiad ar 25 Medi 2020. Mae'n argymell i Blaid Cymru 5 nod allweddol, gan gynnwys:

Mae hefyd yn argymell y dylid cael un refferendwm amlddewis i fesur barn ac i berswadio llywodraeth San Steffan i gytuno i refferendwm ar yr opsiwn a ffefrir. Cafodd yr adroddiad ei feirniadu gan y Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru sy'n gofyn am Prydain ffedral. . Cafwyd ymgyrch etholiadol gan y tri ymgeisydd yn ystod  Awst a Medi. Cyhoeddwyd mai Adam Price fyddai'r arweinydd newydd ar 28 Medi 2018. Enillodd Price 3,481 pleidlais yn y rownd gyntaf, gyda ap Iorwerth yn ail gyda 1,961 pleidlais a Wood yn drydydd gyda 1,286. Yn yr ail rownd, cafodd Price 2,863 pleidlais, a derbyniodd ap Iorwerth 1,613 pleidlais.

Ar hyn o bryd mae gan Blaid Cymru un cynrychiolydd yn Senedd Ewrop, sef Jill Evans. Mae Plaid Cymru yn aelod o Gynghrair Rhydd Ewrop (EFA).




#Article 193: Dyffryn Clwyd (201 words)


Mae Dyffryn Clwyd yn ddyffryn eang sy'n gorwedd yn Sir Ddinbych yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Llifa afon Clwyd drwyddo, ar lawr y dyffryn, drwy drefi Rhuthun, Dinbych a Llanelwy, i aberu ym Môr Iwerddon ger Y Rhyl. Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn ceir Bryniau Clwyd sy'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Er mai o'r gogledd i'r de y llifa'r dyffryn, mae'r ffyrdd yn aml yn croesi o'r gorllewin i'r dwyrain, gyda phump o fryngaerau Neolithig yn gwarchod pob bwlch e.e. Moel Fenlli'n gwarchod Bwlch Pen Barras. Ar y cyfan, bywyd cefn gwlad sydd yma, ond yn y gogledd ceir trefi twristaidd y Rhyl a Phrestatyn. Yn y gogledd, hefyd mae un o brif ysbytai Gogledd Cymru: Ysbyty Glan Clwyd.

Ceir llawer o olion bywyd a diwylliant yma drwy Oes y Cerrig ac Oes yr Efydd, gan gynnwys olion Neanderthaliaid yn Ogof Bontnewydd, yng ngogledd-orllewin y Dyffryn a dynol yn Ogof Llandegla. Yn wir caiff gogledd-orllewin Cymru ei gyfrif yn 'un o'r llefydd pwysicaf yng ngorllewin Ewrop am dystiolaeth o weithgaredd dynol Paleolithig'. Yn yr Oesoedd Canol roedd cantref Dyffryn Clwyd yn cyfateb yn fras i'r dyffryn daearyddol ac roedd oddi fewn i'r hyn a elwid y Berfeddwlad (rhwng Afon Conwy a'r Ddyfrdwy).




#Article 194: Pontypridd (557 words)


Mae Pontypridd yn dref yn Rhondda Cynon Taf, de Cymru. Mae wedi ei lleoli tua deuddeg milltir i’r gogledd o Gaerdydd, a chanddi boblogaeth o tua 33,000. Mae Llundain yn 224.1 km.

Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 13.9% o boblogaeth Pontypridd yn medru’r Gymraeg, 21.3% ag un neu ragor o fedrau yn Gymraeg, a thua chwarter plant oedran addysg gynradd y dref yn mynychu ysgolion Cymraeg.

Deillia enw’r dref o 'Pont y tŷ pridd'. Yn ôl hanes lleol, safai tŷ traddodiadol wedi ei wneud o bren, gwrysg a phridd ar lan Afon Taf, a dyma’r enw a roddwyd i’r nifer o bontydd a godwyd dros yr afon (gweler Ifor Williams, Enwau Lleoedd, tud. 56). Erbyn heddiw, Ponty yw’r enw a ddefnyddir gan drigolion yr ardal wrth gyfeirio at y dref ar lafar. Mae hi hefyd yn efeilldref gyda Nürtingen, yn yr Almaen.

Honnir i bont Pontypridd fod ymhlith y rhai enwocaf yng Nghymru, ac yn 2006, yr oedd hi’n dathlu 250 o flynyddoedd ers ei chodi. Pan y’i codwyd hi, hon oedd y bont rhychwant sengl hiraf yn y byd.  Adeiladwyd y bont gan ŵr o’r enw William Edwards (1719-1789) a oedd yn weinidog Anghydffurfiol a saer maen hunan-ddysgedig.

Pont Pontypridd oedd ei greadigaeth fwyaf poblogaidd, a adeiladwyd rhwng 1746 a 1754. Roedd hi’n bont mor hir (yn pontio 140 troedfedd) nes iddi gymryd tair neu bedair ymgais i’w chodi yn llwyddiannus. Yn ôl rhai, dyma oedd tarddiad y dywediad “Tri chynnig i Gymro”.

Golchwyd y gyntaf, a wnaed o bren, i ffwrdd gan lifogydd, a chwympodd yr ail, a’r drydedd, a wnaed o gerrig, wrth eu hadeiladu oherwydd y pwysau. Cafodd y bont olaf ei gwneud o gerrig yn ogystal, ond y tro hwn yr oedd hi’n llawer ysgafnach. Ynddi roedd chwe thwll mawr, tri bob ochr gyda diamedr o 9, 6 a 3 troedfedd. Cafodd William Edwards dâl o £500 ar yr amod y byddai’r bont yn sefyll am saith mlynedd.

Adeiladwyd camlas Morgannwg ar ddiwedd y 18g, gan gyrraedd Pontypridd yn 1794.  Dyma oedd dechrau datblygiad diwydiannol Pontypridd. Cafwyd twf aruthrol ym Mhontypridd yn sgil twf diwydiannau Cymoedd Rhondda. Pontypridd, wrth aber afon Rhondda, a ddaeth yn brif dref farchnad yr ardal. Prif ffatri’r dref oedd gwaith cadwynau Brown Lenox, a ddechreuwyd yn 1816.

Mae Clwb y Bont yn glwb cymdeithasol ar ffurf tafarn a gafodd ei sefydlu yn 1983 ac wedi ei leoli ar lan Afon Taf. Sefydlwyd y clwb i hybu Cymreictod yr ardal ydoedd, gan roi cyfle i siaradwyr Cymraeg yr ardal gwrdd â’i gilydd. Ceir llawer o fandiau yn chwarae yno ar benwythnosau. Mae ystafell gyfarfod uwchben y clwb lle cynhelir gwersi Cymraeg a dosbarthiadau llên.

Mae Côr Godre'r Garth yn gôr cymysg gyda 60 o aelodau. Mae'r côr yn ymarfer yn Efail Isaf a daw'r aelodau o ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, y Rhondda a Chwm Rhymni yn ogystal â Thaf Elái.

Ffurfiwyd y côr yn 1974 gyda'r nod o hybu Cymreictod mewn ardal oedd, yr adeg honno, ar fin colli'r iaith yn llwyr. Denwyd nifer o ddysgwyr i rengoedd y Côr a bu'n fodd i nifer i loywi eu hiaith.

Sefydlwyd cangen Pontypridd o Ferched y Wawr yn y flwyddyn 2008. Rhyw 20 o aelodau sydd i'r gangen.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd ym 1893. Am wybodaeth bellach gweler:




#Article 195: Ieithyddiaeth (491 words)


Yr astudiaeth wyddonol o iaith yw’r Ieithyddiaeth. Cynhwysa'r ddisgyblaeth yn bennaf ymchwil strwythur ac ystyr ieithyddol. Gelwir yr ail faes ymchwil yn semanteg; gramadeg yw'r enw a roddir ar ymchwil strwythur ieithyddol, ac fe gynhwysa dri is-faes, sef morffoleg (yr astudiaeth o ffurfiad a chyfansoddiad geiriau), cystrawen (yr astudiaeth o'r rheolau a phenderfynant sut y cyfunir geiriau i ffurfio ymadroddion a brawddegau), a ffonoleg (yr astudiaeth o systemau sain ac unedau sain mewn iaith). Astudiaeth berthnasol i'r olaf, yn ymwneud â phriodweddau ffisegol seiniau llafar, yw seineg. Fe elwir unigolyn a wna ymchwil ieithyddol yn ieithydd.

Mae ieithyddiaeth, fel pob cangen o wyddoniaeth, yn faes rhyngddisgyblaethol; fe dynna ar waith mewn meysydd megis seicoleg, gwybodeg, cyfrifiadureg, athroniaeth, bywydeg, niwrowyddoniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, ac acwsteg.

Prif amcan ieithyddiaeth fodern yw disgrifio ac egluro natur iaith. Golyga hyn, uwchlaw popeth, ddod i ddealltwriaeth o'r hyn sydd yn gyffredin i bob iaith, yr hyn sydd yn amrywio rhwng ieithoedd, a'r modd mae pobl yn dysgu ieithoedd (yn enwedig eu mamieithoedd). Gall pob bod dynol (heblaw am rai achosion patholegol) gyrraedd cymhwysedd ym mha bynnag iaith a siaredir (neu arwyddir) o'i hamgylch yn ystod plentyndod, heb angen cyfarwyddant uniongyrchol neu ymwybodol. Er y gall anifeiliaid eraill ddysgu systemau cyfathrebu eu hunain, ni lwyddant i ddysgu iaith ddynol yn yr un modd. Tybia ieithyddion felly mai potensial cynhenid yw'r gallu i ddysgu a defnyddio iaith, yn debyg i'r gallu i gerdded. Anghytunir fodd bynnag ynglŷn ag ehangder y potensial hwn a'i gyfyngiad i iaith yn unig.  Cred rhai fod nifer helaeth o osodiadau haniaethol ieithyddol wedi eu hamgodio yn yr ymennydd; cred eraill mai cynnyrch gwybyddiaeth gyffredinol ddynol yw iaith. Cytunir serch hynny nad oes gwahaniaethau genetig cryf tu ôl i'r gwahaniaethau ieithyddol a fodolant: gall unrhyw blentyn iach ddysgu unrhyw iaith ddynol a'i hamgylchyna, pa bynnag gefndir teuluol neu ethnig sydd ganddo.

Datblygodd ieithyddiaeth yr 20g i fod yn strwythuriaethol gan ei bod yn trin iaith fel system gymhleth na chaiff elfen ohoni ystyr neu hunaniaeth ond mewn perthynas ag elfennau eraill y system; dechreuodd y ddealltwriaeth hon o iaith efo gwaith Ferdinand de Saussure ddiwedd y 19g a ddechrau'r ugeinfed. Dominyddwyd ieithyddiaeth ail hanner yr 20g gan theori Gramadeg cynhyrchiol, sydd yn dilyn gwaith Noam Chomsky, a etifeddodd lawer gan y traddodiad strwythuriaethol (er nad ydyw yn hollol strwythuriaethol yn ystyr llawn Saussure). Mae gramadeg cynhyrchiol yn honni y genir bodau dynol efo gwybodaeth gymhleth ieithyddol a rheola'n gyfyng y broses o ddysgu iaith, neu ieithoedd, ym mhlentyndod. Mae'r theori yn fodiwlaethol gan y honna fod y wybodaeth hon yn benodol ieithyddol — fe fodola felly fodiwl ieithyddol yn yr ymennydd a elwir yn ddyfais caffaeliad iaith — yn hytrach na fod yn gyffredin i wybyddiaeth ddynol. Parha gramadeg gynhyrchiol i ddominyddu'r ddisgyblaeth ddechrau'r unfed ganrif ar hugain; serch hynny, mae theorïau ieithyddol eraill, rhai ohonynt yn anfodiwlaethol, wedi ennill poblogaeth dros y degawdau diwethaf — mae ieithyddiaeth wybyddiaethol yn enghraifft amlwg a chymharol lwyddiannus.




#Article 196: Dyfnaint (168 words)


Sir seremonïol a sir hanesyddol yn Ne-orllewin Lloegr yw Dyfnaint (Cernyweg: Dewnans; Llydaweg: Devnent; Saesneg: Devon). Caerwysg yw'r ddinas sirol. Mae'r sir yn ffinio â Chernyw, Gwlad yr Haf, Dorset, Môr Hafren a'r Môr Udd. Er i'r ardal gael ei goresgyn a'i gwladychu gan Sacsoniaid Wessex yn yr Oesoedd Canol Cynnar, mae'r enw yn gysylltiedig ag enw hen deyrnas Geltaidd Dumnonia.

Dyfnaint ydyw'r unig sir yn Lloegr i fod â dau arfodir ar wahân, heb gyffwrdd â'i gilydd.

Mae baner Dyfnaint yn dyddio o 2003. Fe'i mabwysiadwyd ar ôl cystadleuaeth a gynhaliwyd gan y BBC. Mabwysiadwyd y briallu fel blodyn y sir hefyd.

Ceir sawl enw lle o darddiad Brythonig yn Nyfnaint (er enghraifft combe (cwm), tor (twr), pen (pen)) ond mae nhw'n fwy cyffredin ar ôl croesi Afon Tamar, ffin Cernyw, yn y gorllewin. Y dosbarth lluosocaf o'r enwau lleoedd hyn yw enwau'r Celtiaid ar afonydd.

Rhennir y sir yn wyth ardal an-fetropolitan a dau awdurdod unedol:

Rhennir y sir yn 12 etholaeth seneddol yn San Steffan:




#Article 197: Môr (1315 words)


Corff eang o ddŵr hallt yw môr. Mae cefnfor yn ehangach na môr.

Cilfach fôr gyda thir ar hyd at dair ochr iddi yw bae. Trwyn o dir gyda môr ar ddwy neu dair ochr iddi yw pentir neu benrhyn. Tir gyda môr o'i gwmpas yw ynys.

Mae'n bosib teithio'r môr ar long a chael bwyd o'r môr, er enghraifft pysgod, pysgod cragen neu wymon.

Gair arall am y môr neu'r cefnfor yw “weilgi”. Mae hwn yn hen air sydd, yn ôl Geiriadur y Brifysgol, yn dyddio o leia i'r 13g, e.e. “eistedd yd oedynt ar garrec hardlech uch penn y weilgi”. Ystyr gweilgi yw blaidd ac yn ôl y Geiriadur: “math o bersonoliad o'r môr yw gweilgi neu ryw syniad mytholegol amdano fel anifail yn udo, neu… yn delweddu'r môr fel blaidd”. Mae'n bosib mai o'r hen goel fod y blaidd yn greadur tywyllodrus a pheryglus y cododd hyn – yn cynrychioli stormydd.

Ceir arwydd tywydd o ardal Clynnog Fawr, Gwynedd yn cyfeirio at y “bwlff” neu “wlff” (woolf) fel enw ar y pytiau bach o enfys welir weithiau y nail ochr i'r haul ac sydd yn aml iawn yn arwydd bod storm ar ei ffordd. Enwau eraill ar y rhain yw ci drycin neu cyw drycin, ac o Glynnog y cyfeiriad arferol i'w gweld yw i'r gorllewin – dros y môr – rhyw ddwy neu dair awr cyn y machlud.

Rhywbeth i'w barchu fu'r môr inni'r Cymry erioed ac fel pob cenedl arfordirol arall mae ein llên gwerin morol yn gyfoethog iawn – yn enwedig ym mysg morwyr a physgotwyr. I'r sawl y dibynnai ei fywoliaeth a'i fywyd arno byddai defodau a choelion a pharch tuag at y môr yn yswiriant rhag trychineb.

Mae gan Marie Trevelyan yn ei Folk-lore and Folk Stories of Wales (1909), gasgliad o straeon a choelion o'r fath. Er enghraifft dywed fod y seithfed neu'r nawfed ton yn gryfach na thonnau eraill ac os llwyddith dyn sy'n boddi i ddal un o'r rhain mae siawns dda y caiff ei achub. Ar y llaw arall os yw rhywun yn nofio tua'r lan mae ei fywyd mewn peryg os caiff ei oddiweddyd gan un o'r tonnau hyn.

Byddai ymdrochi yn y môr (a'r naw bore canlynnol) yn iachau rhywun sâl, a byddai ymdrochi naw gwaith ar yr un bore yn dda i rywun sy'n diode â'i nerfau. Dywed hefyd y byddai rhywun a yfai ychydig o ddŵr y môr bob bore o'i blentyndod yn sicr o fyw i oedran mawr. A bod pobl a aned ger y môr yn naturiol ddewr.

Ar un adeg 'chydig o bysgod a fwyteid yng Nghymru oherwydd credid bod pysgod yn byw ar gyrff pobl a foddwyd.

Byddai tonnau gwynion yn cael eu hystyried â pharchedig ofn a chredid mai ysbrydion rhai a foddwyd oeddent yn codi i'r wyneb ar wynt i gael hwyl yn marchogi eu cesyg gwynion. Gelwid y tonnau gwynion gwylltion oddiar Trwyn yr As ger Sain Dunwyd ym Morgannwg y “merry dancers”.

Daeth cwpwrdd Dafydd Jones neu “Davy Jones' Locker” yn enw adnabyddus am y môr. Dyddia'r enw o tua canol y 18g yn ôl Geiriadur Rhydychen ac mae ei darddiad yn ansicr. O blith morwyr o Gymru y death yn ôl Marie Trevelyan, ond does gan neb glem pwy oedd y Dafydd Jones gwreiddiol chwaith – môr leidr yn ôl rhai.

Weithiau gwelid goleuadau rhyfedd yn dawnsio o gwmpas y mast a'r rigin. Cannwyll yr ysbryd neu Gannwyll yr Ysbryd Glân oedd enwau'r morwyr Cymraeg arnynt (St Elmo's Fire i'r Saeson a morwyr y Cyfandir). Byddai gweld un o'r goleuadau hyn ar ben ei hun yn anlwcus, dau yn arwydd o dywydd braf a mordaith lwyddiannus a llawer ohonynt yn ystod storm yn arwydd fod y gwaetha drosodd ac y deuai hindda'n fuan.

Hen stori o Forgannwg oedd bod y diafol ar un adeg yn hwylio oddi ar glannau Cymru mewn llong dri mast i gasglu eneidiau pechaduriaid. Fe'i hadeiladwyd o goed a dorrwyd yn Anwfn ac roedd yr aroglau swlffwr a ddeuai ohoni yn erchyll. Gorfoleddai'r hen ddiafol bob tro y cawsai gargo newydd o eneidiau ond fe wylltiodd hynny Dewi Sant, yn ôl rhai, neu Sant Dynnwyd yn ôl eraill, nes iddo drywannu'r llong â phicell fawr. Prin y llwyddodd y Diafol i ddianc ac fe ddryllwyd y llong ar greigiau Gŵyr lle gwnaeth rhyw gawr mawr bric dannedd o'i mast a hances boced o'i hwyl.

Ceir nifer fawr o ofergoelion yn ymwneud â'r môr – dyma ddyrnaid bychan ohonynt:

Roedd y môr yn bwysig iawn yng nghrefydd yr hen Geltiaid ac os edrychwn ar achau duwiau ac arwyr y Mabinogi gwelwn fod Llŷr, duw'r môr yn dad i Bendigeidfran, Branwen a Manawydan. I'r hen Gymry, duw crefft oedd Manawydan yn bennaf ond yn chwedlau Iwerddon roedd ef (Manannán mac Lir), fel ei dad, yn dduw'r môr fyddai'n marchogi'r tonnau ar ei geffyl gwyn. Ef amgylchynodd Iwerddon â môr i'w hamddiffyn ac a roddodd ei enw i Ynys Manaw.

Ceir aml i foeswers yn codi o eigion y môr. Cymerwch yr hen stori gyfarwydd am pam fod y môr yn hallt. Y creadur dwl hwnnw ddwynodd y felin halen hud oedd yn gyfrifol.  Roedd yn cofio'n iawn y swyn i gael y felin i gynhyrchu ond anghofiodd y swyn i wneud iddi stopio. Pan suddodd ei long dan bwysau'r holl halen doedd dim modd adfer na rhoi stop ar y felin byth wedyn. Y foeswers, yn naturiol, yw i beidio a bod mor farus yn y lle cyntaf a bod canlyniadau pellgyrhaeddol iawn i esgeulustod syml weithiau.

A beth am stori Sinbad y morwr pan neidiodd hen ddyn y môr ar ei gefn. Ddeuai hwn byth oddi arno wedyn ac roedd yn amhosib ei dynnu na'i ysgwyd i ffwrdd chwaith. Yn y diwedd rhoddodd Sinbad win iddo nes i'r hen ddyn feddwi a llacio ei afael fel y gallodd Sinbad ddianc. Ceir hen ddywediad: “Os wyt ti am dynnu stanc neu  bolyn ffens waeth iti heb a'i gurro ar ei ben hefo gordd – sigla di o yn ôl ac ymlaen ac fe ddaw o'r ddaear yn ddi-lol”. Os na fydded gryf bydded gyfrwys, mewn geiriau eraill.

Ceir stori o ardal Clynnog, a cheir fersiynau tebyg o'r un hanes yn Nefyn a Môn, am bysgotwyr penwaig dros ddwy ganrif yn ôl yn cael helfeydd toreithiog iawn am rai blynyddoedd. Roeddent yn dal a dal a dal, lawer mwy na ellid eu gwerthu na'u halltu na'u sychu at y gaeaf. Ond dal i bysgota wnai'r dynion gan wasgaru'r pysgod hyd y caeau fel gwrtaith hydynoed. Wel, yng ngwyneb yr holl wastraff ac am fod drewdod y pysgod pydredig ar y caeau yn chwythu dros dir rhyw hen wrach oedd yn byw gerllaw, dyma honno yn melltithio'r pysgotwyr gan ddweud na ddaliai neb yr un pysgodyn arall oddiar y rhan hwnnw o'r arfordir am ddau can mlynedd. Gwir y gair, oherwydd o hynny ymlaen fe beidiodd yr heigiau penwaig ddod ar gyfyl Clynnog a bu raid i'r pysgotwyr a'u teuluoedd symud oddiyno. Dyma, yn ôl rhai, sy'n cyfrif am y murddynod ar y traeth ger Ty'n y Coed.

Efallai bod elfen o wirionedd hanesyddol yn y stori hon oherwydd mae'n wir bod penwaig yn newid eu llwybrau ymfudo o bryd i'w gilydd ond hefyd roedd diwedd y 18g yn gyfnod o newid yn y diwydiant pysgota. Bryd hynny fe danseilwyd bywoliaeth y pysgotwyr bach bron ymhobman wrth i gychod mwy ddechrau gweithio allan o borthladdoedd cyfagos gan gipio'r farchnad oddiarnynt. Beth bynnag am hynny y wrach yn cosbi'r pysgotwyr am eu gwastraff gaiff y bai, a'r stori wedi goroesi am fod ynddi foeswers a rhybudd am ganlyniadau bod yn wastraffus.
 

Ceir llawer o ddefodau a choelion yn gysylltiedig â llongau:

Ceir stori o Gernyw am forwr glywodd gloch yn canu a'r sŵn yn codi o fedd hen gapten foddwyd yn y môr. Boddwyd y morwr hwnnw ar ei fordaith nesa.




#Article 198: Harri II, brenin Lloegr (295 words)


Harri II o Loegr (5 Mawrth 1133 – 6 Gorffennaf 1189) oedd brenin Lloegr o 25 Hydref 1154 hyd at ei farw.

Roedd yn fab i'r Ymerawdres Matilda a Geoffrey Plantagenet. Cafodd ei eni yn Anjou.  Ei wraig oedd Eleanor o Aquitaine. Harri oedd tad y brenhinoedd Rhisiart I, brenin Lloegr a John, brenin Lloegr.

Derbyniodd ddugiaeth Normandi gan ei dad yn 1150, yna ar farwolaeth ei dad yn 1151, etifeddodd Anjou a Maine. Yn 1152 daeth yn ddug Aquitaine trwy briodi Eleanor o Aquitaine, yna yn 1154 etifeddodd goron Lloegr.  Bu farw yn y Castell Chinon.

Llysenwau: Curt Mantle, Fitz Empress, Y Llew Cyfiawnder.

Ceisiodd Harri II oresgyn teyrnas Gwynedd a gweddill Cymru yn 1157 ac eto yn 1163 a 1165.

Ym 1164, ymunodd y Gymru rydd gyfan, sef teyrnasoedd Gwynedd, Powys a Deheubarth, ynghyd ag arglwyddi Cymreig Rhwng Gwy a Hafren, ag Owain Gwynedd yn ei ryfel dros gadw annibyniaeth Cymru yn erbyn Harri II. Ar ôl buddugoliaethau gan y Cymry yn ardal Tegeingl, paratôdd brenin Lloegr fyddin fawr i ymosod ar Gymru. Cynulliodd byddin y Saeson yn arglwyddiaeth Croesoswallt yn haf 1165 tra arosai'r Cymry yr ochr arall i'r Berwyn.  Ceisiodd Harri II arwain ei fyddin i fyny Dyffryn Ceiriog gyda'r bwriad o groesi'r Berwyn a thorri'r llinell rhwng gogledd a de Cymru, ond roedd y tywydd yn ei erbyn. Glawiodd yn drwm a suddai ei farchogion ar eu meirch rhyfel trwm i'r llaid ac felly hefyd y milwyr traed. Roedd y Cymry yn aros eu cyfle. Ar ôl aros i'r Saeson gyrraedd man cyfyng a choediog yng Nghrogen ger Tregeiriog, ymosodasant ar golofnau blaen y fyddin Seisnig a'u dinistrio. Ffôdd gweddill y fyddin yn ôl i'r Gororau ac roedd ymgyrch brenin Lloegr ar ben. Cyfeirir at y frwydr fel Brwydr Crogen.




#Article 199: Cernyweg (853 words)


Mae Cernyweg (Kernewek, Kernowek, neu Curnoack) yn iaith Geltaidd. Bu'r iaith farw ond mae wedi cael adfywiad dros y ganrif ddiwethaf ac mae tua mil o bobl yng Nghernyw yn siarad Cernyweg. Mae'n bosibl gwrando ar y newyddion yn Gernyweg ar BBC Radio Cornwall bob nos Sul.  Mae'n hynod ddiddorol i siaradwyr Cymraeg wrando arno, gan ei bod ar adegau'n swnio fel Cymraeg.

Mae'n bosib dysgu'r iaith drwy'r rhyngrwyd, drwy ddefnyddio Kernewek Dre Lyther lle ceir nifer o wersi ar ffurf Adobe Acrobat. 

Mae'r Gernyweg yn hanu o iaith Brythoniaid de-orllewin Prydain, a gafodd eu gwahanu o Frythoniaid y Gorllewin (y Cymry) wedi brwydr Deorham, ym 577. Aeth tiriogaeth y Brythoniaid yn y de-orllewin yn llai ac yn llai nes oddeutu 810, pan goncrwyd Dyfnaint gan y Sacsoniaid gan adael Cernyw yn unig yn nwylo'r Brythoniaid. Concrodd Athelstan, brenin y Sacsoniaid, Gernyw tua 920, ond ni wladychwyd y wlad gan Saeson fel y digwyddodd yn y rhan fwyaf o Loegr, ac Athelstan a wnaeth Afon Tamar yn ffin rhwng y Saeson yn Nyfnaint a'r Brythoniaid yng Nghernyw. Er hyn, parhaodd yr iaith i fyw hyd o leiaf y ddeunawfed ganrif, gan gyrraedd uchafbwynt o oddeutu 38,000 o siaradwyr (amcangyfrif Ken George) yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Astudiwyd Cernyweg Modern Cynnar yn y 1700au gan yr ieithydd o Gymro, Edward Lhuyd. Erbyn hyn, roedd yr iaith yn diflannu'n gyflym. Mae chwedl yn dweud mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd Dolly Pentreath, a fu farw ym 1777. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y 19g. Er iddi ddweud, yn ôl y chwedl, My ny vydn kewsel Sowsnek! — dwi ddim isio siarad Saesneg! — roedd hi yn gallu ychydig o Saesneg o leiaf. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd Chesten Marchant, a fu farw ym 1676. Canrif yn ddiweddarach (1776), ysgrifennodd William Bodinar lythyr byr dwyieithog i'r hynafiaethydd Daines Barrington, y darn olaf o Gernyweg draddodiadol rugl a wyddys, yn ôl pob tebyg. Dyma ei ddiweddglo, Na ges moye vel pager po pemp en dreau nye, ell clapia Cornoack leben — poble coath, pager egance blouth; Cornoack ewe oll naceaves gen poble younk (Does dim mwy na phedwar neu bump yn ein tre ni, sy'n gallu sgwrsio Cernyweg ar hyn o bryd — hen bobl, pedwar ugain blwydd; Cernyweg yw angofiedig yn hollol wrth y bobl ieuanc).

Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, gwelwyd adfywiad yn yr iaith. Erbyn y dauddegau, sefydlwyd Gorsedh Kernow - Gorsedd Cernyw, i sicrhau fod yr iaith yn parhau, yn debyg i fudiad yr Eisteddfod yng Nghymru. Ym 1967, sefydlwyd Kesva an Taves Kernewek — Bwrdd yr Iaith Gernyweg (mudiad gwirfoddol). Pwrpas y bwrdd oedd cynorthwyo pobl Cernyw, ac eraill, i ddysgu a siarad y iaith. Ym 1979 sefydlwyd Kowethas an Yeth Kernewek (Cymdeithas yr Iaith Gernyweg) i gynrychioli y rhai sy'n siarad a dysgu yr iaith, i gyd a'i hybu mewn sefyllfaoedd pob dydd. Mae'r Gowethas yn gymdeithas agor i bawb o blaid y Gernyweg, a'i haelodau yn ffurfio etholaeth am y Gesva (Bwrdd yr Iaith).

Mae'r cofnod cynharaf yn y Gernyweg sydd wedi goroesi i'w ganfod mewn llawysgrif Lladin a luniwyd yn y 9g, ond ni ddatblygodd orgraff safonol yn y Gernyweg fel ag a ddigwyddodd yn y Gymraeg. Erbyn hyn mae pedair ffordd o ysgrifennu Cernyweg.

Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr yn defnyddio Kernewek Kemmyn, sydd wedi'i seilio ar lenyddiaeth Cernyweg Canol gydag orgraff i gynrychioli'r seiniau tybiedig.

Kernewek Unyes (Cernyweg Unedig), y ffurf a ddyfeisiwyd gan Robert Morton Nance yn bennaf, gydag orgraff Cernyweg Canol wedi'i safoni, oedd y ffurf a ddefnyddiwyd dros y rhan fwyaf o'r 20g. Hyrwyddwyd y ffurf hon gan Agan Tavas.

Ym 1986 datblygodd Ken George, awdur Gerlyver Kernewek-Sawsnek Kernewek Kemmyn (yn llythrennol Cernyweg Cyffredin). Fe fabwysiadwyd y system gan Fwrdd yr Iaith Gernyweg, ac mae hyd at 80% o ddysgwyr a siaradwyr Cernyweg yn ei ddefnyddio.

Yn y 90au datblygwyd ffurf adolygedig o Kernewek Unyes, UCR (Unified Cornish Revised), gan Nicholas Williams, wedi'i seilio ar destunau o gyfnod ychydig yn ddiweddarach yn yr 16g. Cyhoeddwyd geiriadur mewn UCR yn 2000.

Ac yn olaf, gwell gan rai siaradwyr ddefnyddio Cernyweg Diweddar, sef iaith yr 17eg a'r 18goedd. Dyma'r ffurf a adferwyd yn yr 80au o dan yr enw Curnoack Nowedga (Cernyweg Modern) gan Richard Gendall ac eraill. Mae orgraff Cernyweg Diweddar yn edrych yn aml yn debycach i orgraff y Saesneg.

Mae'r Testament Newydd wedi'i gyfieithu i Kernewek Kemmyn, ac i UCR.

Mae'r dadlau sydd wedi bod rhwng cefnogwyr y ffurfiau gwahanol wedi'i ganoli yn helaeth ar y cwestiwn i ba raddau, wrth adfer iaith farw, y dylid glynu wrth orgraff y testunau ysgrifenedig sydd ar gael o'r cyfnod pan oedd yr iaith yn fyw, ac i ba raddau mae'n deg i sillafu geiriau er mwyn dangos eu seiniau tybiedig. Ar ôl cyfnod o ymgynghori, cyhoeddoedd Partneriaeth yr Iaith Gernyweg orgraff i gael ei defnyddio'n swyddogol o'r enw'r Ffurf Ysgrifenedig Safonol yn 2008 ac fe'i hadolygwyd yn 2013.

Mae'r rhestr yma yn cymharu Cernyweg (mewn Furv Scrifys Savonek — ffurflen ysgrifenedig safonol) gyda'r ddwy iaith Frythoneg arall, Cymraeg a Llydaweg.




#Article 200: Gwyddeleg (191 words)


Mae Gwyddeleg (Gaeilge) yn iaith Geltaidd. Mae tua 1,800,000 o bobl yn Iwerddon yn siarad Gwyddeleg i raddau: 1,656,790 yng Ngweriniaeth Iwerddon (cyfrifiad 2006) a 167,487 yng Ngogledd Iwerddon (cyfrifiad 2001).

Datblygodd yr iaith Wyddeleg allan o iaith Geltaidd hynafol a elwir Goideleg (arferir yr enw 'Celteg Q' yn ogystal; rhan o 'Gelteg P' oedd Brythoneg, rhagflaenydd y Gymraeg). Gaeleg a Manaweg ydyw'r ieithoedd Goideleg eraill. Maent yn fwy tebyg i'w gilydd nag ydyw'r Gymraeg i'r Gernyweg a'r Llydaweg. Bu ymfudo rhwng Iwerddon a gorllewin yr Alban am ganrifoedd, ac mae traddodiad llenyddol y Wyddeleg a'r Aeleg yn tarddu o'r traddodiad Hen Wyddeleg ac orgraff y ddwy iaith yn rhannu nodweddion cyffredin. Fel yn achos y Gymraeg mae'n arfer rhannu hanes yr iaith yn dri chyfnod, sef Gwyddeleg Diweddar, Gwyddeleg Canol a Hen Wyddeleg.

Mae'r Wyddeleg wedi cilio fel iaith gymunedol naturiol llawer mwy na'r Gymraeg, ond mae gan yr ardaloedd lle mae Gwyddeleg yn dal yn iaith lafar gymunedol gydnabyddiaeth swyddogol. Nifer o ardaloedd bach gwledig ydynt, wedi'u gwasgaru ar draws saith sir, a elwir gyda'i gilydd yn ardaloedd y Gaeltacht.

Sail: Iwerddon gyfan at 1926, y Weriniaeth ers hynny




#Article 201: Gaeleg yr Alban (854 words)


Iaith Geltaidd sy'n frodorol i'r Alban yw Gaeleg yr Alban neu Gaeleg (Gaeleg: Gàidhlig ). Mae'n gangen Goidelig o'r ieithoedd Celtaidd. Datblygodd Gaeleg yr Alban, fel Gwyddeleg a Manaweg, o Wyddeleg Canol, ac felly mae'n tarddu o Hen Wyddeleg.

Dangosodd Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001 fod 58,652 (1.2% o boblogaeth yr Alban, tair oed a throsodd) o bobl yn y Alban yn medru'r Aeleg i ryw raddau bryd hynny, Ynysoedd Allanol Heledd yw cadarnle'r iaith. Yn ôl y cyfrifiad, bu gostyngiad o 7,300 yn siaradwyr yr Aeleg ers 1991. Mae ymdrechion i wella'r sefyllfa ac mae'r nifer o bobl ifanc sy'n medru'r iaith wedi codi.

Nid yw'r Aeleg yn iaith swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd, nac yn y Deyrnas Unedig ychwaith, lle nad oes iaith swyddogol de jure hyd yn oed. Serch hynny, cydnabyddir yr iaith yn iaith frodorol yn ôl y Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Ieithoedd Lleiafrifol (European Charter for Regional or Minority Languages), sydd wedi'i gadarnhau gan Lywodraeth y DU. Yn ogystal, mae Deddf Gaeleg yr Alban (Yr Alban) 2005 yn rhoi cydnabyddiaeth swyddogol i'r iaith, drwy hynny yn sefydlu corff datblygu iaith swyddogol, sef Bòrd na Gàidhlig (Bwrdd Gaeleg yr Alban).

Tu allan i'r Alban, mae tafodieithoedd o'r iaith, a elwir yn Aeleg Canada yn bodoli yng Nghanada ar Ynys Cape Breton ac ardaloedd arunig yn Nova Scotia. Mae gan yr amrywiad yma ryw 2,000 o siaradwyr, sy'n cyfrannu at 1.3% o boblogaeth yr Ynys.

Yn y tabl isod, data'r cyfrifiad yw ffigurau 1755–2001, a ddyfynnir gan MacAuley. Daw ffigurau siaradwyr Gaeleg 2011 o dabl KS206SC Cyfrifiad 2011 a ffigurau'r boblogaeth gyfan o dabl KS101SC. Sylwer mai ffigurau am rai 3 oed a throsodd yw rhai'r siaradwyr a chyfrifir y canrannau gan ddefnyddio'r boblogaeth oed 3 a throsodd.

Ond am Gaeleg yr Alban, gellir cyfeirio at yr iaith hefyd yn Gaeleg. Yn yr Alban, yngenir y gair Gaelic, wrth gyfeirio at Aeleg yr Alban yn benodol, yn  (galyg), ond tu allan i'r Alban, yngenir y gair fel arfer yn  (geilyg).

Ni ddylid cymysgu Gaeleg yr Alban gyda Sgoteg, sy'n cyfeirio at fath o'r Saesneg a siaredir yn draddodiadol yn Iseldiroedd yr Alban. Cyn y 15fed canrif, cyfeiriwyd at y math o iaith yma yn Inglis (Saesneg/English), a chyfeiriwyd at Aeleg yr Alban yn Scottis (Gaeleg yr Alban/Scottish). Ond ers y 15fed canrif hwyr, daeth yn fwyfwy cyffredin i gyfeirio at Aeleg yr Alban yn Erse (Gwyddeleg/Irish) ac iaith frodorol Iseldiroedd yr Alban yn Scottis. Heddiw, cydnabyddir Gaeleg yr Alban yn iaith wahanol i Wyddeleg, felly na ddefnyddir y gair Erse wrth gyfeirio at Aeleg yr Alban ragor.

Mae gan y mwyafrif o dafodieithodd Gaeleg rhwng wyth a naw prif lafariad (), a all fod naill ai'n hir neu'n fur. Hefyd, dwy lafariad wannach sydd, (), a fydd yn fyr bob tro. Er bod rhai llafariaid yn drwynol iawn, mae trwynoldeb gwahaniaethol yn brin. Mae rhyw naw deusain ac ambell deirsain.

Mae gan y rhan fwyaf o gytseiniaid ffurfiau daflodol a didaflodi, gan gynnwys system doreithiog o seiniau tawdd, trwynol a chrych (tair sain l gyferbyniol, tair n gyferbyniol a thair r gyferbyniol). Mae'r ffrwydrolion , a fu'n lleisiol, wedi colli eu lleisio felly mae'r cyferbyniad erbyn hyn yn un anadlu, rhwng dianadl a  anadlog. Mewn llawer o dafodieithoedd, caiff y ffrwydrolion hyn eu lleisio drwy ynganu eilaidd ar ôl gytsain drwynol, e.e. doras  ('drws')  ond an doras ('y drws') as  neu .

Mewn rhai ymadroddion sefydlog, collwyd y ffurfiau cysefin, fel an-dràsta ('nawr') o an tràth-sa yr amser.

Ynghanol ac ar ddiwedd gair, mae'r ffrwydrolion anadlog yn rhaganadlog yn hytrach nag anadlog.

Yn debyg i'r Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd eraill, mae gan Aeleg yr Alban nifer o nodweddion teipolegol diddorol:

Rhan allweddol o ramadeg yr Aeleg yw'r treigladau.

Nodir y treiglad meddal drwy ychwanegu h ar ôl llythyren:

Nid yw'r orgraff yn dangos treiglad meddal l, n nac r, ac nid yw'n effeithio ar eiriau sy'n dechrau â llafariad nac ar eiriau sy'n dechrau ag sg, sm, sp, nac st.

Ar y llaw arall, mae meinhau neu daflodoli yn newid cytsain ar ddiwedd gair drwy ysgrifennu'r llythyren i o'i blaen, fel arfer:

Bydd meinhau yn aml yn newid llafariad sillaf olaf gair hefyd:

Nid yw meinhau'n effeithio ar eiriau sy'n gorffen â llafariad (e.g. bàta boat) neu ar gytseiniaid sydd eisoes yn fain (e.g. sràid street).

Gellir esbonio y rhan fwyaf o achosion o feinhau cytsain yn hanesyddol fel dylanwad taflodol llafariad blaen (megis -i) o flaen y gytsain yng nghyfnodau cynnar yr iaith. Er bod y llafariad hon wedi diflannu erbyn hyn, mae'r effaith ar y gytsain ar ei hôl yn parhau. Yn yr un modd y câi cytsain gychwynnol ei threiglo'n feddal gan lafariad olaf y gair blaenorol, ond nid yw hon yn dal i fod yn yr iaith fodern.

Mae llawer o gytseiniaid ar ddiwedd geiriau wedi diflannu yn natblygiad Gaeleg yr Alban hefyd, ac mae olion y cytseiniaid hyn i'w gweld wrth ychwanegu llythrennau megis n-, h- a t- at eiriau ar ôl y fannod a'r rhagenwau meddiannol, er enghraifft, athair tad, a h-athair ei thad, ar n-athair ein tad, an t-athair y tad.




#Article 202: Manaweg (305 words)


Iaith Geltaidd gynhenid Ynys Manaw yw Manaweg (Manaweg: Gaelg/Gailick). Mae'n perthyn yn agos i ieithoedd Celtaidd Iwerddon a'r Alban - Gwyddeleg a Gaeleg - fel rhan o'r is-deulu ieithyddol Celteg Q neu Goideleg (sydd gyda'r Frythoneg yn rhan o deulu mwy, sef Celteg Ynysig.

Credir i'r iaith Fanaweg gael ei chyflwyno i'r ynys gan ymsefydlwyr o Iwerddon yn y 4g neu'r 5ed O.C. Ymsefydlai llwythi eraill o Iwerddon mewn rhannau gorllewinol o Gymru a'r Alban yn yr un cyfnod. Mae milewniwm gyntaf ei bodolaeth yn dywyll. Does dim llenyddiaeth o'r cyfnod wedi goroesi a rhaid dibynnu ar dystiolaeth enwau lleoedd a phersonol am ein gwybodaeth. Dim ond yn y 18g a'r 19eg y daw'r dystiolaeth ysgrifenedig gyntaf i'r golwg (ac eithrio ambell arysgrifiad a chofnod byr) ar ffurf cyfieithiadau crefyddol, geiriaduron a gramdegau, yn ogystal â cherddi llafar a baledi â'i gwreiddiau yn yr 16g efallai.

Daeth yr iaith i ben fel iaith gymunedol naturiol yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Bu farw siaradwr cynhenid olaf y Fanaweg, Ned Maddrell, yn 1974, ond mae'r iaith wedi profi ychydig o adfywiad yn ddiweddar. Fe'i siaredir gan rai cannoedd o Fanawiaid - rhai sydd wedi dysgu'r iaith o ddiddordeb, a rhai o'u plant yn ogystal. Agorwyd yr ysgol Fanaweg gyntaf, y Bunscoill Ghaelgagh, yn 2001. Yn ôl cyfrifiad 2011 mae 1,823 yn gallu ei siarad, ei darllen a'i hysgrifennu.

Fel pob iaith Celtaidd, ceir treigladau.  Mae ganddi ddau dreiglad: boggaghys (math o dreiglad meddal) a stronnaghys (math o dreiglad trwynol).  Mae dau fath o boggaghys i'w gweld mewn sefyllfoedd gwahanol.  Dydyn nhw ddim yn gweithio fel treigladau'r Gymraeg.

Dyma dreigladau Manaweg:

Mae ffurfiau lluosog i'w weld ar ôl llawer o rifau.

Fel yn y Gymraeg, gellir rhedeg arddodiaid Manaweg yn ôl y person. Mae ganddynt ansoddeiriau meddianol hefyd. Dyma ffurfiau  (~ gan), a'r ansoddeiriau meddianol yn italaidd:
 




#Article 203: Gwaelod-y-garth (204 words)


Pentref ger Caerdydd yw Gwaelod-y-garth (), ym mhlwyf Pentyrch. Mae wedi bod yn rhan o Ddinas Caerdydd ers 1996 a bu'n rhan o sir Morgannwg Ganol rhwng 1974 a 1996. Fe'i lleolir rhwng Caerdydd a Phontypridd.

Yn yr 16g roedd Gwaelod-y-garth yn enwog am ei mwyngloddfeydd haearn. Agorwyd y gweithfeydd haearn cyntaf rhwng 1565 a 1625. Yn ystod y 19g ailagorwyd gweithfeydd yno gan gmwni Blackmoor Booker. Agorwyd Gwaith Glô Y Lan yn 1872 gan TW Booker a gyflogodd tua 300 o weithwyr. Ar 6 Rhagfyr 1875, oherwydd diffyg awyru, bu ffrwydriad a laddodd 12 o fechgyn. Dyma'r ddamwain waethaf o'i bath yn Ne Cymru yn y flwyddyn honno, a'r waethaf yn ardal Caerdydd erioed. Yn 2015, 140 mlynedd yn ddiweddarach, rhoddwyd torch o flodau yn y fan, i nodi'r drychineb.

Bu ymgyrchu i gadw'r gweithfeydd yn y 1990au.

Lleolir Ysgol Gynradd Gwaelod Y Garth ar y briffordd yn y pentref, sef ysgol gynradd ddwyieithog gyda unedau Cymraeg a Saesneg arwahan. Derbyniai dros 70% o'r plant eu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.

Sefydlwyd Côr Godre'r Garth yn y pentref yn 1974. Er nad yw'r côr yn ymarfer yn y pentref mwyaf mae'n dal i arddel yr enw ac yn denu cantorio'n o'r ardal gyfagos.




#Article 204: Sue Essex (106 words)


Gwleidydd Seisnig yw Susan Sue Essex (ganed 29 Awst 1945), a chyn-aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Ganed Essex yn Cromford, Swydd Derby, a magwyd yn Tottenham, Llundain. Symudodd i Gymru yn 1971. Dechreuodd ei gyrfa wleidyddol fel Cynghorydd sir ar Gyngor Caerdydd, gan ddod y ddynes gyntaf i arwain y cyngor yn ddiweddarach.

Essex oedd yr Aelod Cynulliad dros Ogledd Caerdydd o 1999 hyd 2007. Roedd hefyd yn weinidog yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bu'n Weinidog dros yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a Chynllunio o 2000 hyd 2003, a'r Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus o 2003 hyd 2007. Ni safodd i gael ei hail-ethol yn 2007.




#Article 205: Edwina Hart (102 words)


Gwleidydd Cymreig yw Edwina Hart (ganwyd 26 Ebrill 1957). Roedd hi'n Aelod Cynulliad Gŵyr dros y Blaid Lafur rhwng 1999 a 2016.

Bu'n weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio yn Llywodraeth Cymru rhwng 2000 a 2003. Yna aeth yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol rhwng 2007 a 2011. Ei swydd olaf yn y Cynulliad oedd Gweinidog dros Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth, rhwng 2011 a 2016. Ni gystadlodd yn etholiad Cynulliad 2016.

Cyn cael ei hethol i'r Cynulliad bu'n gweithio ym myd bancio ac yn llywydd undeb y BIFU, sy'n awr yn rhan o undeb Amicus. Priod Edwina yw Bob Hart.




#Article 206: Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban (298 words)


Charles Stuart, Brenin Siarl I (19 Tachwedd 1600 - 30 Ionawr 1649) oedd Tywysog Cymru o 1616 hyd 1625, ac wedyn brenin Lloegr, yr Alban ac Iwerddon o 27 Mawrth 1625 tan ei ddienyddiad yn sgil Rhyfel Cartref Lloegr. Roedd ei deyrnasiad yn gyfnod o frwydro am rym rhwng y brenin a'r senedd. Yn bleidiwr brwd dros hawl ddwyfol brenhinoedd, gweithredai Siarl i gryfháu ei rymoedd ei hun, gan reoli heb y Senedd am gyfnod helaeth o'i deyrnasiad.

Yn ail fab i'r Brenin Iago VI o'r Alban a'i wraig Anne o Ddenmarc, cafodd Siarl ei eni ym Mhalas Dunfermline yn yr Alban ar 19 Tachwedd 1600. Ar farwolaeth Elizabeth I o Loegr yn mis Mawrth 1603, dyrchafwyd ei dad i orsedd Lloegr. Roedd Siarl yn blentyn eiddil, ac, ar y dechrau, fe'i gadawyd yn yr Alban yng ngofal nyrsys rhag ofn i'w iechyd waethygu ar y daith hir i Lundain.

Esgynodd Siarl i orsedd Lloegr a'r Alban ar farwolaeth ei dad ar 27 Mawrth 1625. Ar 13 Mehefin o'r un flwyddyn, priododd Henrietta Maria, yn absenoldeb y ddau gymar. Roedd ei senedd gyntaf, oedd wedi agor ym mis Mai, yn erbyn y briodas o'r cyntaf am mai pabyddes oedd hi, ac ofnid y byddai Siarl yn lleddfu mesurau yn erbyn pabyddion a thanseilio Protestaniaeth fel crefyddol swyddogol y deyrnas.

Roedd Siarl yn brwydo â'r Senedd yn ystod rhan helaeth o'i deyrnasiad.

Cyhuddiwyd Siarl o uchel frad ac uchel droseddau eraill ar 2 Ionawr 1649. Gwrthododd Siarl bledio gan fynnu nad oedd gan lys mo'r hawl i ddwyn achos yn erbyn brenin. Fe'i cafwyd yn euog, a llofnodwyd warant marwolaeth gan 59 o'r comisiynwyr, gan gynnwys John Jones, Maesygarnedd ar 29 Ionawr 1649. Fe'i dienyddiwyd y diwrnod wedyn ar lain o dir o flaen y Banqueting House yn Llundain.




#Article 207: Jane Hutt (168 words)


Gwleidydd Seisnig yw Jane Hutt (ganwyd 15 Rhagfyr 1949). Mae'n aelod o'r Blaid Lafur ac yn cynrychioli Bro Morgannwg yn Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ganwyd Hutt yn Epsom, Lloegr; daeth ei nain a'i thaid, a oedd yn Gymry Cymraeg rhugl, o Gymru. Mae Jane hithau'n mynychu gwersi Cymraeg (2018). Cafodd ei haddysg ym Mhrifysgol Caint, Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain, a Phrifysgol Bryste.

Daeth yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ei hethol i Gynulliad Cymru a daliodd y swydd tan Ionawr 2005 er gwaethaf tipyn o feirniadaeth. Wedyn symudwyd hi i fod yn Drefnydd Busnes y Cynulliad ac yna daeth yn Weinidog Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.  Ers i Carwyn Jones ddod yn Brifweinidog yn 2009, hi oedd Gweinidog dros Gyllid a Busnes. Yna daeth yn Arweinydd y Tŷ a Phrif Chwip.

Ar 3 Tachwedd 2017, gadawodd Lywodraeth Cymru wedi gwasanaethu yn y cabinet am 18 mlynedd. Dychwelodd i'r cabinet yn Rhagfyr 2018 fel Dirprwy Weinidog a Prif Chwip o dan arweinyddiaeth Mark Drakeford.




#Article 208: Rhuthun (496 words)


Mae Rhuthun () yn dref fach, oedd â phoblogaeth o 5,218 yn 2001 (47% gwryw, 53% benyw, oed cyfartaledd 43.0). Hi yw tref sirol Sir Ddinbych, ac fe'i lleolir ar lan Afon Clwyd yn ne Dyffryn Clwyd. Cyfeirnod OS: SJ 12417 58306. Mae'r A494 a'r A525 yn rhedeg drwyddi.

Mae Rhuthun wedi ei hefeillio â thref Brieg, Llydaw. Ceir dwy ysgol uwchradd: Ysgol Brynhyfryd a Ysgol Rhuthun (neu Ruthin School) sy'n ysgol breifat. Yr enw lleol ar yr ysgol breifat ydy Ysgol y Capie Cochion.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Mae gan y dref hen gastell, a adeiladwyd tuag 1280, ond cafodd ei ddymchwel ar ôl y Rhyfel Cartref, ac fe'i ail-adeiladwyd fel gwesty mawr yn y 19g. Arferai fod yn brif dref Dogfeiling yn yr Oesoedd Canol Cynnar, a fu yn ddiweddarach yn un o ddau gwmwd a ffurfiai cantref Dyffryn Clwyd. Mae stryd yn y dref yn dal i gael ei galw'n Dog Lane (neu Stryd Dogfael) ar ei ôl. Mae Maen Huail yn garreg o flaen Banc Barclays ac sy'n coffau torri pen brawd Gildas, yn ôl y chwedl.

Dafydd ap Gruffudd (1238 - 1283) a gododd y castell cyntaf i gael ei gofnodi ar y safle hwn, er bod tystiolaeth fod yma gastell cyn hyn. Cryfhawyd y castell yn helaeth gan Edward I o Loegr tua'r flwyddyn 1280. Enw gwreiddiol y Dref oedd 'Castell Coch yng Ngwern-fôr, oherwydd y tywodfaen coch yn waliau'r castell.

Ar 16 Medi, 1400, llosgodd Owain Glyndŵr dref Rhuthun yn ulw, heblaw'r castell. Mae plac yn nodi'r ffaith hon ar fanc y Nat West, yr adeilad o flaen yr un presennol a losgwyd gyntaf gan Owain. Ar y plac mae dyfyniad o waith y prifardd Robin Llwyd ab Owain: 'Yn dy galon di... Glyn Dŵr!' Ymunodd llawer o drigolion Rhuthun gydag Owain gan ymosod wedyn ar Ddinbych, Rhuddlan ac yna Fflint.

Gall y cyhoedd hefyd ymweld â'r  a adferwyd yn ddiweddar. Dyma'r carchar a enwogwyd yn y gerdd:

Yn ôl yr hanesydd Peter Smith, 'Tan y 18g roedd y rhan fwyaf o drefi Cymru yn frith o dai du a gwyn (megis Tŷ Nantclwyd y Dre). Bellach, dim ond Rhuthun sydd ar ôl. Dylid ei gwarchod yn ofalus fel cofeb genedlaethol, fel yr atgof olaf sydd gennym...' . Capel hynaf y dref yw Pendref.

Agorwyd drysau Tŷ Nantclwyd (neu Nantclwyd y Dre) i'r cyhoedd ar droad y mileniwm, adeilad hynod, sy'n dyddio nôl i oddeutu 1445. Hwn yw'r tŷ trefol ffrâm bren hynaf yng Nghymru.

Ceir Canolfan Grefftau yn Rhuthun, sy'n cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae wedi ennill nifer o wobrau, yn enwedig am ei bensaerniaeth.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Rhuthun ym 1973. Am wybodaeth bellach gweler:

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Mae'r codau canlynol yn cysylltu'n uniongyrchol ag erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg:

Yn ychwanegol at y rhain mae 6 arall sy'n cysylltu gyda'r erthygl hon.

Mae Rhuthun wedi'i gefeillio â:




#Article 209: Brycheiniog a Sir Faesyfed (etholaeth seneddol) (228 words)


Mae Brycheiniog a Sir Faesyfed yn etholaeth wledig ym Mhowys, canolbarth Cymru, sy'n cynnwys hen siroedd Brycheiniog a Maesyfed.  yw'r Aelod seneddol presennol.

Roedd hi'n sedd diogel i Lafur o 1945 tan 1979, ond ers hynny mae hi wedi bod yn sedd ymylol rhwng y Torïaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Collodd Llafur oherwydd y daeth y diwydiant trwm yn Nhe-Orllewin Brycheiniog i ben yn y 1960au a'r 1970au.

Ar 22 Mawrth 2019 plediodd Davies yn euog i gyhuddiadau o dwyll wrth gyflwyno hawliad am dreuliau seneddol. Roedd yr euogfarn yn cychwyn deiseb awtomatig yn yr etholaeth i weld os oedd yr etholwyr am iddo barhau i'w cynrychioli yn y Senedd.  Ar 21 Mehefin 2019, cyhoeddwyd bod 19% o bleidleiswyr wedi deisebu i adalw Davies. Gan fod hyn yn fwy na'r trothwy o 10%, datganwyd bod ei sedd yn wag a bod angen isetholiad. 

Cafodd Davies ei ddewis gan y Blaid Geidwadol i ail sefyll yn yr isetholiad fel ymgeisydd y blaid. . Penderfynodd Plaid Cymru  a'r Blaid Werdd i beidio â chodi ymgeisydd i sefyll yn erbyn Davies er mwyn gwella cyfle Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol i ennill. Roedd Plaid Cymru, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Y gred oedd mai'r Rhyddfrydwyr Democrataidd oedd y blaid aros mwyaf tebygol o ennill yr etholiad,  a fellu fu, gyda Dodds yn cipio'r sedd.

 
 




#Article 210: Alun Ffred Jones (225 words)


Gwleidydd Cymreig yw Alun Ffred Jones (ganwyd 29 Hydref 1949). Roedd yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros etholaeth Arfon. Etholwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol am y tro cyntaf ym mis Mai 2003. Bu'n Weinidog dros Dreftadaeth yn Llywodraeth Cymru.

Ganed Alun Ffred Jones ym Mrynaman ym 1949.

Mae'n adnabyddus am gyd-ysgrifennu a chyfarwyddo C'mon Midffild!, rhaglen gomedi fwyaf llwyddiannus S4C. Cyn dod yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu gyda Ffilmiau'r Nant, Caernarfon, bu'n athro ysgol a phennaeth adran yn y Gymraeg, ac yn newyddiadurwr gyda HTV. Mae'n gyn Arweinydd Cyngor Gwynedd, yn Gadeirydd Antur Nantlle ac yn Gadeirydd Clwb Pêl-droed Dyffryn Nantlle.

Ar 22 Gorffennaf 2008 fe'i penodwyd yn Weinidog Treftadaeth yn Llywodraeth glymblaid Llafur a Phlaid Cymru, Cymru'n Un  Ar yr 8 Mai 2014 cyhoeddodd na fyddai yn sefyll am sedd yn y Cynulliad yn yr etholiadau nesaf yn 2016.

Yn gyn-gadeirydd CYFLE a Bwrdd Rheoli TAC, mae ganddo ddiddordeb a gwybodaeth am ddarlledu ac hyfforddi.

Ymysg ei ddiddordebau eraill mae datblygu cymunedol, theatr, chwaraeon a beicio.

Ar 20 Tachwedd 2008, gwnaeth Alun Ffred Jones hanes drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfod o Gyngor Gweinidogion Undeb Ewrop am y tro cyntaf erioed. Siaradodd fel Gweinidog dros Dreftadaeth Cymru yn rhan o ddirprwyaeth y DU i'r cyfarfod. Cyfieithwyd araith y gweinidog mewn canlyniad i gytundeb rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ac Undeb Ewrop a gytunwyd yng Ngorffennaf 2008.




#Article 211: Carwyn Jones (544 words)


Gwleidydd Llafur yw Carwyn Jones (ganwyd 21 Mawrth 1967) a wasanaethodd fel Prif Weinidog Cymru ac Arweinydd Llafur Cymru rhwng 2009 a 2018.  Gwasanaethodd fel Cwnsler Cyffredinol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru rhwng 2007 a 2009. Mae'n aelod o'r Cynulliad dros Ben-y-bont ar Ogwr ers 1999.

Gwasanaethodd Jones fel Gweinidog yn barhaol o 23 Chwefror 2000 hyd ei ymddeoliad fel Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2018 - cyfanswm o 6,867 diwrnod, gan ei wneud y Gweinidog Llafur a wasanaethodd hiraf yn hanes y Deyrnas Gyfunol.

Ganwyd Carwyn yn Abertawe ac fe'i magwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr mewn teulu o siaradwyr Cymraeg. Roedd yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Brynteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac aeth ymlaen i astudio ym Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle ymunodd a'r Blaid Lafur yn ystod streic y glowyr 1984-85.

Graddiodd o Brifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1988 gyda gradd yn y Gyfraith ac aeth ymlaen i Ysgol y Gyfraith Inns of Court yn Llundain i hyfforddi fel bargyfreithiwr. fF'i galwyd i'r bar yn Gray's Inn yn 1989 a treuliodd flwyddyn pellach yng Nghaerdydd ar dymor prawf wedi ei ddilyn gan 10 mlynedd yn ymarfer yn Siambrau Gower, Abertawe ar gyfraith teuluol, troseddol ac anafiadau personol. Gadawodd i fynd yn diwtor ym Mhrifysgol Caerdydd am ddwy flynedd ar y Cwrs Bar Galwedigaethol.

Cystadlodd Carwyn yn anllwyddiannus am enwebiad Llafur yn sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed yn 1997; a dywedodd yn ddiweddarach mewn cyfweliad gyda'r BBC  ei fod wedi ystyried ceisio dod yn Aelod Seneddol, ond yn 1999, cafodd gyfle i sefyll dros etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn etholiadau cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru; ac mae wedi dal y sedd ers hynny.

Yn Ionawr 2020 fe'i benodwyd yn Athro'r Gyfraith rhan amser ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Enillodd Carwyn Jones y ras i olynu Rhodri Morgan fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2009, gyda 51.97% o'r bleidlais, gan drechu Edwina Hart (29.19%) a Huw Lewis (18.84%). Enwebwyd ef gan y Cynulliad i olynu Rhodri Morgan fel Prif Weinidog Cymru ar y 9 o Rhagfyr a chymerodd y llw drenydd, sef ddydd Iau, 10 Rhagfyr mewn seremoni ffurfiol dan arweiniad y barnwr Mr Ustus Nigel Davis yn swyddfa Carwyn Jones ym Mharc Cathays, Caerdydd.

Ad-drefnodd cabinet Llywodraeth y Cynulliad ar ôl dod yn brif weinidog. Penododd Leighton Andrews, rheolwr ei ymgyrch, fel Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes. Ers ymddiswyddiad Gordon Brown yn 2010 Carwyn ydy'r Gweinidog uchaf ei swydd yn y Blaid Lafur drwy wledydd Prydain.

Ei daith dramor gyntaf fel Prif Weinidog oedd i Gynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn Copenhagen ar 14 Rhagfyr 2009. Gadawodd y gynhadledd yn gynnar y diwrnod canlynol oherwydd marwolaeth ei fam, Janice Jones.

Yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011 cynyddodd y Blaid Lafur y nifer o aelodau oedd ganddynt i un yn llai na'r hyn oedd ei angen i fod yn y mwyafrif. Penderfynodd Carwyn weithredu fel (ac i ffurfio) Llywodraeth yn hytrach na pharhau efo'r glymblaid.

Mewn araith yng nghynhadledd Llafur Cymru ar 21 Ebrill 2018 cyhoeddodd y byddai'n sefyll lawr fel arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog yn yr hydref. Yn dilyn etholiad Mark Drakeford fel Arweinydd Llafur Cymru, cyhoeddodd y byddai'n ymddiswyddo fel Prif Weinidog ar 11 Rhagfyr 2018.

Mae Carwyn yn briod â Lisa a mae ganddynt ddau o blant.




#Article 212: Kirsty Williams (552 words)


Gwleidydd Cymreig yw Victoria Kirstyn Williams neu Kirsty Williams (ganwyd 19 Mawrth 1971). Hi yw Aelod Cynulliad Brycheiniog a Maesyfed. Ar 8 Rhagfyr 2008, cafodd ei hethol yn Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig gan ddod y ferch gyntaf erioed i arwain plaid wleidyddol yng Nghymru.

Ganed Kirsty Williams yn Taunton, Gwlad yr Haf yn 1971 i rieni o Gymry. Dychwelodd y teulu i Gymru yn 1974 ac ymsefydlu ym mhentref Bynea yn Sir Gaerfyrddin, lle magwyd Kirsty.

Addysgwyd yn Ysgol annibynnol Mihangel Sant, Llanelli, yna graddiodd o Brifysgol Victoria ym Manceinion gyda gradd anrhydedd mewn astudiaethau Americanaidd, gan gynnwys cyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Missouri. Yna dychwelodd i weithio i adran adnoddau dysgu Coleg Sir Gaerfyrddin yn Llanelli, cyn ymgymryd â swydd fel swyddog gweithredol marchnata a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer busnes bach yng Nghaerdydd.

Erbyn hyn, mae Kirsty yn byw ar fferm y teulu ger Aberhonddu gyda’i gŵr a’u tair merch ifanc.

Ymunodd Williams â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn 15 oed. Yn etholiad cyffredinol 1997, bu’n cystadlu yn etholaeth Ogmore, gan ddod yn drydydd. Am gyfnod hir bu’n eiriolwr brwd dros Gynulliad Cymru, a bu’n ymgyrchu’n galed yn refferendwm 1997 dros greu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Wedi hynny, fe’i penodwyd i Grŵp Cynghori’r Cynulliad Cenedlaethol gan Ysgrifennydd Cymru Ron Davies.

Fe’i hetholwyd yn Aelod Cynulliad ar gyfer etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ym mis Mai 1999. Yn ei thymor cyntaf daeth yn llefarydd iechyd ei phlaid. Gwasanaethodd hefyd fel Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cymru rhwng 1999 a 2003.

Mae Williams wedi bod yn rhan o ymgyrch hirsefydlog ‘Mwy o Nyrsys’ sy’n gofyn am gyfraith ar lefelau staffio diogel ar gyfer nyrsys mewn ysbytai Cymru. Llwyddodd Kirsty Williams i gael balot deddfwriaethol (mae bil a basiwyd gan aelod sengl yn brin) ar 11 Rhagfyr 2013, a chafodd ganiatâd i fwrw ymlaen â’i Bil yn 2014, Bil Lefelau Staff Nyrsio. Fe'i pasiwyd a daeth yn gyfraith yng Nghymru ar 21 Mawrth 2016. 

Ym Mai 2016, yn dilyn canlyniadau trychinebus ei phlaid (hi oedd yr unig aelod) yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016 ymddiswyddodd Williams fel Arweinydd. Ar ddiwrnod cyntaf y cyfarfod llawn, pleidleisiodd gyda'r Llywodraeth ar benodi'r Prif Weinidog pe bai wedi pleidleisio dros Leanne Wood, byddai wedi dod yn Brif Weinidog.  Penododd y Prif Weinidog ar y pryd Carwyn Jones, Williams, i Gabinet Cymru fel Ysgrifennydd Addysg; Mae angen 31 sedd ar gyfer mwyafrif yng Nghynulliad Cymru, roedd gan Lafur 29, felly creodd Williams fwyafrif gweithredol.

Mae hi ar flaen y gad o ran diwygio'r cwricwlwm yng Nghymru a chyflwynodd y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) i'r Senedd ar 6 Gorffennaf 2020. 

Cafodd ei beirniadu’n eang am y ddefnydd o algorithm i ddyfarnu graddau arholiad yn 2020 yn yr hyn a elwid yn fiasco arholiadau 2020. Roedd rhaid iddi gwneud tro pedol ac ymddiheuro o flaen pwyllgor Senedd am yr sefyllfa “Ond mae hi’n briodol fy mod i’n ymddiheuro’n uniongyrchol ac yn ddi-ben-draw i’n pobol ifanc. 

Ar 27 Hydref 2020 cyhoeddodd na fyddai’n sefyll yn Etholiad Senedd 2021, gan ddweud ei bod hi'n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda fy nheulu ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i'm rôl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ac edrychaf ymlaen at barhau i ymgyrchu gyda fy olynydd i sicrhau bod Brycheiniog a Sir Faesyfed yn dychwelyd llais Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.




#Article 213: Morffoleg (iaith) (190 words)


Mewn ieithyddiaeth, morffoleg yw'r astudiaeth o adeiladwaith geiriau, am y rhyngwyneb rhwng ffonoleg a chystrawen. Mae cydrannau yn eiriau, sy'n cael eu hadnabod fel morffemau.

Gwahaniaethir rhwng morffoleg ffurfdroadol a morffoleg darddiadol. Mae morffoleg ffurfdroadol yn ymdrin â sut mae geiriau'n newid eu siâp i fynegi nodweddion gramadegol megis rhif (unigol neu luosog) a chyflwr mewn enwau, neu amser (presennol neu gorffennol) a pherson mewn berfau. Mae morffoleg darddiadol ar y llaw arall yn ymdrin â sut mae morffemau yn clymu wrth ei gilydd i fynegi gwahaniaethau geirfaol, fel, er enghraifft, y gellir creu ansoddeiriau yn y Gymraeg drwy ychwanegu'r olddodiad -og at fôn enw, megis haul + -og  heulog.

Fel arfer, mae morffemau ffurfdroadol yn digwydd yn agosach at fôn gair na morffemau tarddiadol. Gwelir hyn yn y Gymraeg mewn ffurf megis lleihaodd, sy'n cynnwys tair morffem, llai + -ha- 'peri' + -odd 'trydydd unigol gorffennol'. Morffem darddiadol yw -ha- sy'n creu berf yn golygu 'peri i fod yn' allan o ansoddair, a morffem ffurfdroadol yw -odd gan ei bod hi'n mynegi nodwedd ramadegol, amser gorffennol. Mae'r drefn yn yr achos hwn felly yn adlewyrchu'r tueddiad cyffredinol mewn iaith.




#Article 214: Seineg (111 words)


Astudiaeth seiniau iaith lafar yw seineg, ac fe ystyrir yn un o brif feysydd ieithyddiaeth, yr astudiaeth wyddonol o iaith. Yn seineg astudir priodweddau'r seiniau eu hunain, y modd y caent eu cynhyrchu, eu clywed a'u deall. Mae'n wahanol, felly, i ffonoleg, sef yr astudiaeth o systemau seinegol haniaethol. Mae seineg yn ymdrin â'r seiniau eu hunain yn hytrach na'u cyd-destyn mewn iaith. Ni thrafodir semanteg (sef astudiaeth ystyr ieithyddol) ar y lefel hon o ddadansoddiad.

Mae tair prif gangen i seineg:

Astudiwyd seineg cyn gynhared â 2,500 mlynedd yn ôl yn yr India, gydag eglurhad y gramadegydd Pāṇini o leoliad a natur ynganiad cytseiniaid yn ei draethawd gramadegol ar Sansgrit.




#Article 215: Cystrawen (263 words)


Cystrawen (o'r Lladin construenda) yw'r drefn y rhoddir geiriau mewn cymal neu  frawddeg mewn gramadeg. Mewn ieithyddiaeth, gall gyfeirio at reolau cyffredinol ar gyfer pob iaith ddynol, neu at gystrawen iaith benodol (e.e. Cystrawen y Gymraeg). Mewn mathemateg, rhesymeg a gwyddor cyfrifiaduron, mae gan ieithoedd ffurfiol cystrawen arbennig eu hunain.

Yn y bedwaredd ganrif cyn Crist yn Gandhara, ysgrifennodd Pāṇini ei Aṣṭādhyāyī, astudiaeth gynhwysfawr o ramadeg y Sanscrit. Dechreuodd yr astudiaeth o ramadeg yn Ewrop gyda Dionysius Thrax (170 ‑ 90 CC).

Ym 1660, cyhoeddodd Antoine Arnauld ei Grammaire générale et raisonnée, llyfr mawr ei ddylanwad. Defnyddiodd dulliau rhesymeg glasurol a'u cymhwyso i iaith. Honnodd fod iaith yn adlewyrchiad uniongyrchol o brosesau meddwl, ac mai'r iaith Ffrangeg oedd y ffordd fwyaf naturiol o fynegi syniadau!

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth tro ar fyd diolch i ganfyddiadau ym maes ieithyddiaeth gymharol. Daeth ieithyddion i sylweddoli maint amrywiaeth ieithoedd y byd am y tro cyntaf, a herwyd y berthynas rhwng cystrawen a rhesymeg. Daeth i'r amlwg nad oedd un ffordd arbennig o fynegi syniad yn fwy naturiol na'r lleill i gyd.

Ar lefel haniaethol, mae sawl ffordd o ymdrin â chystrawen. Yn ôl rhai (Noam Chomsky yn eu plith), astudiaeth o'r wybodaeth ieithyddol sydd wedi'i ymgorffori yn y meddwl dynol yw cystrawen, a'i fod felly yn gangen o Fioleg. Mae Gerald Gazdar ac eraill yn fwy platonistig ac yn honi mai astudiaeth o sustem ffurfiol haniaethol yw cystrawen. Yn olaf, mae rhai ieithyddion fel Joseph Greenberg yn defnyddio cystrawen yn bennaf i ddosbarthu a chymharu ieithoedd.

Dyma'r mathau mwyaf poblogaidd o ddamcaniaethau cystrawennol:




#Article 216: Cymru Ymlaen (120 words)


Blaid wleidyddol yng Nghymru oedd Cymru Ymlaen. Esblygodd o Blaid Annibynnol John Marek, a sefydlwyd gan y cyn-aelod Llafur Wrecsam yn y Cynulliad.

Ar 8 Tachwedd 2003 ailenwyd y blaid yn Cymru Ymlaen. Roeddynt yn arddel polisïau sosialaidd yng Nghymru fel dewis amgen i'r Blaid Lafur, a oedd yn cael ei weld wedi pellhau oddi wrth sosialaeth.

Ymunodd cyn-aelod Llafur o'r Cynulliad a chyn- ysgrifennydd gwladol Cymru, Ron Davies, â'r blaid ond collodd ei ernes pan ymladdodd Etholiad Ewropeaidd 2004 ar ran y blaid.

Gadawodd nifer o aelodau y blaid yn ystod haf 2005, gan gynnwys y cynghorydd Dave Bithell a'r ysgrifennydd cyffredinol, oherwydd eu bod yn teimlo nad oedd y blaid yn ddigon radical. Diddymwyd y blaid yn 2010.




#Article 217: Mair o Teck (102 words)


Mair o Teck (Y Dywysoges Victoria Mary o Teck) (26 Mai 1867 – 24 Mawrth 1953) oedd Tywysoges Cymru rhwng 1900 a 1910 a Brenhines y Deyrnas Unedig rhwng 1910 a 1936, gwraig Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig.

Cafodd ei chyflogi i fod yn dywysog Albert Victor, mab hynaf Tywysog Cymru. Bu farw Albert Victor fel dyn ifanc. Ym 1893, priododd Mair y Tywysog Siôr, brawd iau ei chynghrair. Daliodd y teitl Duges Efrog yn ystod oes y Frenhines Fictoria (mamgu Siôr V). Daeth yn Dywysoges Cymru yn 1901, pan esgynnodd ei thad, y brenin Edward VII, yng nghyfraith yr orsedd.




#Article 218: Castell-nedd (355 words)


Tref ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, de Cymru, yw Castell-nedd. Mae'n gorwedd ar lan chwith yr afon Nedd. Roedd ganddi boblogaeth o 19,258 yn 2011.

Man croesi'r afon oedd Castell-nedd i ddechrau, ac ymsefydlodd pobl yma yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Ond at dri lle yn unig yng Nghymru y mae'r llenor Rhufeinig Tacitus yn cyfeirio atynt yn ei Historiae (Hanes), ac mae Castell-nedd yn un ohonynt.

Ceir tystiolaeth am aneddiadau hynafol yn y bryniau sy'n amgylchynu'r dref, ac mae'n debyg mai aneddiadau Celtaidd ydynt ond nid ydynt wedi cael eu dyddio. Canfuwyd gweddillion dynol 25 km i ffwrdd yn Ogof Paviland ar Benrhyn Gŵyr, yn dyddio o 24,000 CC, gan brofi bod pobl yn byw yn yr ardal yn ystod Oes yr Iâ ddiwethaf. Er y'i hadnabyddir fel Arglwyddes Goch Paviland, gweddillion dyn nid menyw ydy. Roedd Castell-nedd wedi ei leoli ar ymyl deheuol y cynfas o iâ, ac roedd Glyn Nedd yn ddyffryn rhewlifol. Daeth llystyfiant ac anifeiliaid i'r ardal yn dilyn enciliad y rhew tua 15,000 o flynyddoedd yn ôl.

Roedd trigolion Castell-nedd cyn dyfodiad y Rhufeniaid yn perthyn i lwyth Celtaidd y Silwriaid. Nidum yw'r enw ar y gaer Rufeinig a ganfuwyd yn agos i'r ystad dai, a adnabyddir fel Roman Way, ar lan orllewinol Afon Nedd. Roedd y gaer yn gorchuddio ardal eang sy'n gorwedd dan feysydd chwarae Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin heddiw.

Mae adfeilion castell bychan Normanaidd, sef y Castell Nedd gwreiddiol, ger canol y dref.

Roedd yn dref farchnad, a chychwynodd diwydiant newydd yna yn ystod y 18g, sef haearn, dur ac alcam. Mwyngloddid llawer o lo yn yr ardal, a daeth y dref yn ganolfan bwysig i gludiant ar reilffyrdd a chamlesi. Mwyngloddid hefyd silica. Adeiladwyd goethdŷ i betrol yn yr 20ed ganrif.

Roedd y dref yn borthladd hyd yn ddiweddar. 

Mae atyniadau i ymwelwyr yn cynnwys Abaty Nedd, Parc Y Gnoll, a'r farchnad.

Rhannau amlwg o'r dref yw Tonna i'r gogledd, Cimla i'r dwyrain, Bryncoch a Sgiwen i'r gorllewin a Llansawel i'r de.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghastell-nedd ym 1918, 1934 a 1994. Am wybodaeth bellach gweler:




#Article 219: Paul Robeson (393 words)


Canwr ac actor ffilm a theatr Unol Daleithiau oedd Paul Leroy Robeson (9 Ebrill 1898 – 23 Ionawr 1976).

Ganwyd yn Princeton, New Jersey, yn fab i weinidog a chyn-gaethwas o'r enw William Robeson a'i wraig Maria.

Mynychodd Brifysgol Rutgers ac yna Ysgol y Gyfraith, Columbia lle derbyniodd radd LL.B.; chwaraeodd bêl-droed Americanaidd ar lefel uchel yn y ddau goleg.

Dechreuodd ar ei yrfa fel actor llwyfan yn 1921 yn Efrog Newydd lle bu'n byw am saith mlynedd gyda'i wraig Essie. Yn ystod y cyfnod hwn, serenodd yn y ffilm The Proud Valley, a dorrodd dir newydd o ran dangos y dyn croenddu fel ag yr oedd, yn hytrach nag fel caricature. Daeth yn enwog fel canwr caneuon gospel hefyd.

Bu Paul Robeson yn gysylltiedig gyda glöwyr De Cymru am 40 mlynedd bron. Daeth ar eu traws yn gyntaf yn Llundain ym 1929 lle roedd nifer ohonynt yn ddiwaith ac yn canu am eu bara menyn. Fe ddilynodd eu protest a dechreuodd canu emyn-donau ysbrydol iddynt. Cyfranodd at eu hachos drwy Gronfa Gymorth y Glöwyr, ac ymwelodd â sawl tref a chwm yn Ne Cymru gan gynnwys Castell-nedd, Aberdâr, a Phont-y-clun.

Roedd Robeson yn perfformio mewn cyngerdd yng Nghaernarfon ym 1934 pan ddaeth newyddion trychineb Glofa Gresffordd. Rhodd ei dâl o'i berfformiad i'r gronfa ar gyfer teuluoedd y meirw. Ffilmiwyd The Proud Valley ym Mhont-y-pridd a Sanders of the River yn Tiger Bay, Caerdydd. Dywedodd Robeson, it's from the miners in Wales I first understood the struggle of Negro and white together.

Yn eisteddfod y glöwyr ym Mhorthcawl, 1957, perfformiodd Robeson drwy ganu ar y ffôn o Efrog Newydd, ac ymunodd â Chôr Meibion Treorci i ganu Hen Wlad fy Nhadau. Yn 1958 canodd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958, gydag Aneurin Bevan yn ei gyflwyno. Gofynnwyd iddo os oedd am gael rodd i gofio'r eisteddfod, a gofynnodd Paul am lyfr emynau Cymraeg.

Cefnogodd y gweithiwr a mynegodd ei farn ynglŷn â Rhyfel Cartref Sbaen.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cefnogodd ei wlad, a chanodd a pherfformiodd i'r milwyr ac fel Othello yn Broadway. Er hyn, ar ddiwedd y rhyfel rhoddwyd ef ar restr o bobl pro-Sofiet gan yr FBI. Brwydrai dros hawliau'r duon a chymerwyd ei basbort oddi wrtho gan Lywodraeth UDA oherwydd ei ddaliadau Comiwnyddol ac o'r herwydd lleihaodd ei incwm yn fawr.

Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn Philadelphia.




#Article 220: Mari II, brenhines Lloegr a'r Alban (127 words)


Bu Mari II (30 Ebrill 1662 - 28 Rhagfyr 1694) yn frenhines ar Loegr a'r Alban o 1688 ymlaen. Teyrnasai ar y cyd gyda'i phriod, Gwilym III/II o Loegr a'r Alban.

Daeth Mari a'i gŵr i'r orsedd yn sgil chwyldro 1688 a welodd ddisodli'r brenin catholig Iago II (Iago VII yr Alban) a rhoi Gwilym a Mari, oedd yn Brotestaniaid, yn ei le ar y ddwy orsedd fel cyd-reolwyr. Gwilym a fyddai'n rheoli y rhan fwyaf o'r amser, ond byddai'r grym gan Mari pan fyddai Gwilym allan o'r wlad yn cymryd rhan mewn ymgyrchoedd milwrol. Bu farw Mari II yn 1694. Rheolodd Gwilym yn frenin ar ei ben ei hun nes iddo farw yn 1702.

Digwyddodd Cyflafan Glen Coe yn yr Alban yn ystod teyrnasiad Mari II.




#Article 221: John Dyer (395 words)


Bardd yn yr iaith Saesneg a pheintiwr oedd John Dyer (1699 – Rhagfyr 1757), a aned yn Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin ac a ymfalchiai yn ei linach Gymreig. Fe'i gwnaed yn offeiriad yn Eglwys Lloegr yn 1741. Cyfeirir ato mewn soned gan y bardd Wordsworth, To The Poet, John Dyer

Mae John Dyer yn adnabyddus yn bennaf am ei gerdd Grongar Hill a hefyd The Ruins of Rome, The Fleece a Written at Ocriculum. Ymhlith ei luniau sydd wedi goroesi mae llun dyfrlliw o gastell Caerffili (1733).

Byr iawn oedd ei boblogrwydd wedi cyhoeddi ei gerdd fwyaf, Grongar Hill, er i'r bardd John Gray frolio'i ddychymyg a'i arddull, “more of poetry in his imagination than almost any of our number, but rough and injudicious.”

Fe'i anwyd y pedwerydd plentyn allan o chwech i Robert a Catherine Cocks Dyer yn Abersanen , Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin - pum milltir o gastell ar fryn o'r enw Grongar Hill.

Ni wyddys union ddyddiad ei eni, ond gwyddom iddo gael ei fedyddio ar 13 Awst 1699, ac felly y byddai wedi'i eni rywdro yn y pythefnos cyn y diwrnod hwnnw. Roedd ei daid yn warden yn Eglwys Llanfynydd a'i dad yn gyfreithiwr llwyddiannus a oedd yn berchen ar sawl adeilad yn yr ardal. Oherwydd fod iddynt chwech o blant, symudodd y teulu i fyw i blasdy Aberglasni. Sonia John Dyer am y fan hon yn ei gerdd The Country Walk .

Ysgol fonedd yn Llundain yw Coleg Brenhinol Sant Pedr a adwaenir fel 'Ysgol Westminster' (Saesneg: Westminster School). Fe'i lleolir yn Westminster, ger yr Abaty, ac i'r ysgol honno y danfonwyd  John rhwng 1711 a 1733, ysgol roedd yn ei chasau. Oddi yno, dychwelodd i Gymru fel prentis cyfreithiwr yn swyddfa'i dad. Pan fu farw ei dad aeth yn ddisgybl at Jonathan Richardson (1665-1745), awdur cyfrol Theory of Painting (cyhoeddwyd yn 1715).

Teithiodd drwy Dde Cymru a'r gororau yn paentio ac oddi yno i'r Eidal i ddatblygu ei ddawn fel arlunydd. Yn 1726, trodd ei olygon tua Lloegr lle y daeth yn gyfaill i'r dramodydd James Thomson a Richard Savage.

Ar un cyfnod dechreuodd ffermio yn Mapleton, Swydd Henffordd, ond ni pharodd yno'n hir a phriododd 'Miss Ensor, ac fe'i ordeiniwyd yn yr eglwys. Wedi hynny bu mewn sawl swydd gwahanol yng Nghaerlŷr a Lincoln. Erbyn1751 roedd yn offeiriad yn Eglwys Mihangel Sant, Coningsby, lle claddwyd ef ar 15 Rhagfyr 1757.




#Article 222: Islwyn Ffowc Elis (900 words)


Nofelydd Cymreig oedd Islwyn Ffowc Elis (17 Tachwedd 1924 – 22 Ionawr 2004) yn bennaf, ond roedd hefyd yn fardd, yn llenor, yn weinidog yr efengyl, yn ddarlledwr, yn swyddog ac yn ymgeisydd dros Blaid Cymru, yn ddarlithydd, ac yn athro Cymraeg ail iaith. Derbyniodd ddisgrifiad ohono ef ei hunan fel ‘cyfathrebwr’ mewn cyfweliad teledu ar ‘Rhaglen Nia’.

Cafodd ei eni yn Wrecsam a'i fagu yn Nglynceiriog, pentref cwbl Gymraeg a Chymreig bryd hynny, tan ei fod yn bump oed, ac wedyn ar fferm y teulu, Aberwiel, ychydig tu allan i'r pentref a dwy filltir o ffin Lloegr. Priodolai Islwyn Ffowc Elis ei sêl dros feithrin y Gymru Gymraeg i’r ffaith y cawsai ei fagu mor agos i ffin Lloegr. Aeth i Ysgol Gynradd Nantyr cyn mynd i Ysgol Uwchradd Llangollen ac wedyn i Goleg Prifysgol Cymru, Bangor. Cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol yn 1943, ar sail heddychiaeth Gristnogol. Dechreuodd lenydda’n 12 oed yn ysgol Llangollen, gan gynhyrchu barddoniaeth, storïau a dramâu. Tra yng Ngholeg Bangor enillodd gadair Eisteddfod Lewis’s Lerpwl. Tra yn y coleg y dechreuodd berfformio a darlledu yng nghwmni ei gyd-fyfyrwyr, gan ysgrifennu caneuon a llunio rifiwiau. Cyn mynd i'r weinidogaeth bu yng ngholegau diwinyddol Aberystwyth a Bangor.

Bu’n weinidog gyda’r Methodistiaid Calfinaidd o 1950 hyd 1956, yn Llanfair Caereinion ac yna Niwbwrch. Tra’n weinidog enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 1951, am gyfres o ysgrifau a gyhoeddwyd wedyn gan Wasg Gomer, yn y gyfrol Cyn Oeri'r Gwaed. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Cysgod y Cryman yn 1953. Ar yr un pryd roedd yn magu anfodlonrwydd gyda chrefydd gyfundrefnol, fel y mae’n egluro yn ei ysgrifau 'Lludw’r weinidogaeth', Y Dysgedydd (1952) ac 'Y colledigion', 'Yr hen gyfundrefn annwyl', a 'Machlud a gwawr y fugeiliaeth', Y Drysorfa (1955). At hynny nid oedd yn gysurus yn ei waith. Mewn cyfweliad yn Mabon 1(6) (1973) dywedodd:

Ymddiswyddodd o’r weinidogaeth yn 1956 gan fentro ar gyfnod o chwe mlynedd a hanner heb swydd gyflogedig i’w gynnal ef a’i deulu, sef ei wraig Eirlys a’i ferch Siân. Yn hytrach enillai ei damaid o’i gynnyrch llenyddol, o’i waith darlledu ac ambell i gyfnod o waith cynhyrchu i’r BBC. Ef oedd y cyntaf i geisio cynnal ei hunan fel llenor Cymraeg proffesiynol, a phrin yw’r rhai hynny a lwyddodd i efelychu ei gamp ers hynny, o leiaf hyd at ddyddiau twf S4C.

Dyma ddau gofnod yn nyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) yn awgrymu peth o hanes ei fywyd yn y cyfnod hwn:

Ers yr ail ryfel byd roedd nofelau Saesneg ysgafn poblogaidd clawr papur, diwylliant America a dulliau newydd cyfathrebu yr 20g wedi bod yn denu’r ifainc ledled Ewrop, gan gynnwys y Cymry Cymraeg. Roedd Islwyn Ffowc Elis ymhlith y rhai a welent fod yn rhaid creu diwylliant poblogaidd cyfoes rhag i’r ifainc droi eu cefn ar y Gymraeg. Roedd ei nofel gyntaf, Cysgod y Cryman, llawn cymeriadau ifainc byw, yn stori afaelgar oedd yn ymdrin â bywyd a themâu cyfoes. Dyma'r nofel a osododd sail y nofel Gymraeg fodern. Trwy’r nofel hon denwyd darllenwyr ifainc newydd i’r nofel Gymraeg. Mae’r ffaith mai Cysgod y Cryman yw’r nofel Gymraeg sydd wedi gwerthu orau yn tystio i'w llwyddiant. Cysgod y Cryman enillodd gystadleuaeth ‘Llyfr y Ganrif’ yn 1999 ar gyfer llyfr Cymraeg mwyaf poblogaidd yr ugeinfed ganrif. Dewiswyd Cysgod y Cryman hefyd yn un o ddeg o ‘Lyfrau’r Ganrif’ yn 2007 mewn ymgyrch a drefnwyd gan S4C.

Roedd peth o’i gynnyrch ysgafnaf hefyd wedi tynnu llid rhai beirniaid llenyddol yn ei ben, yn enwedig Y Gromlech yn yr Haidd ac Eira Mawr a ysgrifennodd yn ystod ei ail gyfnod o lenydda llawn amser rhwng 1971 a 1975. Yn ogystal â nofelau, ysgrifennai hefyd ganeuon a sgriptiau radio a theledu, i gyd yn cyfrannu at ddiwylliant poblogaidd. Ymhlith ei sgriptiau roedd Rhai yn Fugeiliaid (1962), sef y ddrama gyfres Gymraeg gyntaf ar gyfer y teledu. Cynhyrchodd lenyddiaeth heblaw am nofelau, yn gyfieithiadau megis Efengyl Mathew: trosiad i Gymraeg diweddar (1961), yn ysgrifau, yn llyfrau academaidd, gan olygu cyfrolau eraill megis Edward Tegla Davies: Llenor a Phroffwyd (1956).

Yr un sêl dros y Gymru Gymraeg a lywiau ei gynnyrch llenyddol a ysgogai ei waith dros Blaid Cymru. Bu’n ymgeisydd seneddol ym Maldwyn ym 1962 a 1964. Ef oedd swyddog cyhoeddiadau Plaid Cymru adeg Is-etholiad Caerfyrddin, 1966. Ef oedd yn gyfrifol am lenyddiaeth a chyhoeddusrwydd Plaid Cymru, gan gynllunio strategaeth gyhoeddusrwydd ymwthgar i Blaid Cymru a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf adeg ymgyrch Caerfyrddin.

Yn ogystal â bod ei lenyddiaeth yn ysbrydoli eraill i fynd ati i lenydda bu hefyd yn hybu llenorion ifainc drwy ei waith fel athro. Bu’n athro ar gyrsiau ar gyfer darpar-awduron. Bu’n Ddarlithydd ac yna’n Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin (1963–1968) ac eto yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan (1975–1990), lle bu hefyd yn Ddarllenydd er 1984. Bu’n Gyfarwyddwr Cyfieithu a chynhyrchu i’r Cyngor Llyfrau Cymraeg o 1968–1971. Cyfrannodd hefyd at y gwaith o ddysgu Cymraeg fel ail iaith. Bu’n cynnal cyrsiau Cymraeg fel ail iaith yng Ngholeg Bangor o 1959–1963. Hefyd yn yr un cyfnod bu’n paratoi deunydd cyrsiau ar gyfer dysgwyr, ar gyfer y radio ac ar gyfer Coleg Harlech a’r National Extension College.

Cyflwynodd teulu Ffowc Elis y gadair a enillodd yn Eisteddfod Lewis's Lerpwl i Gyngor Llyfrau Cymru – cadair yr eisteddai'r awdur arni i ysgrifennu nifer o'i nofelau, gan gynnwys Cysgod y Cryman.




#Article 223: Swahili (1927 words)


Fe berthyn Swahili i deulu ieithyddol yr ieithoedd Niger-Congo ac is-deulu’r ieithoedd Bantu, gyda geirfa helaeth wedi ei fenthyg o’r Arabeg, a nifer o ieithoedd eraill.

Mae Swahili yn iaith frodorol i lwythau'r Swahili, sy’n byw ar nifer o’r ynysoedd ger Dwyrain Affrica gan gynnwys Sansibar a Pemba a Mayotte, ac ar arfordir Dwyrain Affrica, o ddeheudir Somalia, trwy Cenia a Tansanïa hyd at ogledd Mosambic. Mae hefyd yn famiaith i lawer sy’n byw yn Nwyrain Affrica nad ydynt o dras Swahili, yn enwedig yn y dinasoedd a’r trefi mawrion amlhiliol. Yn sgil twf diweddar y trefi mae Swahili yn disodli ieithoedd brodorol gwreiddiol y trefi a’r dinasoedd, yn Tansanïa yn enwedig. Mae’r iaith hefyd wedi ymfudo gydag ymfudwyr o Ddwyrain Affrica i bedwar ban byd, gan gynnwys cymunedau yn Oman, yr Emiradau Arabaidd Unedig, De Affrica ac Unol Daleithiau America. Mae'r amcangyfrif o'r rhai sydd â Swahili yn famiaith iddynt yn amrywio o 5 miliwn i 10 miliwn o bobl.

Siaredir Swahili fel lingua franca yn helaeth trwy Ddwyrain Affrica, yn bennaf yn Tansanïa, Cenia, Iwganda, Dwyrain Congo, Rwanda a Bwrwndi. Mae’r amcangyfrif o’r sawl sy’n siarad Swahili fel ail iaith yn amrywio o 45 miliwn hyd at 85 miliwn. Fe addysgir trwy gyfrwng Swahili yn ysgolion cynradd Tansanïa. Fe astudir Swahili mewn nifer o brifysgolion dros y byd. Swahili a Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cenia a Tansanïa.

Dechreuodd Swahili yn iaith frodorol i’r bobl Swahili sy’n byw ar arfordir Dwyrain Affrica. Dilyna datblygiad yr iaith ddatblygiad masnach ar hyd cefnfor India trwy gysylltiadau â masnachwyr o Persia, India, Portiwgal ac yn bennaf Arabia. Rhoi benthyg geiriau i Swahili a wnaeth yr ieithoedd eraill hyn, o'r Arabeg yn bennaf, yn hytrach na dylanwadu ar ei gramadeg. Rhyw 30-40% o eirfa Swahili sydd o dras Arabeg. Credir bod Swahili yn iaith eang ei ddefnydd erbyn ail hanner y pymthegfed ganrif. Ehangai’r defnydd o Swahili ar hyd y ffyrdd masnach a arweiniai o’r arfordir tuag at y gorllewin. Byddai carafannau taith masnach yn cynnwys cannoedd os nad miloedd o borthorion.

Ysgrifennwyd Swahili yn gyntaf yn yr orgraff Arabaidd. Yn ogystal â chadw cofnodion masnachol a gweinyddol ysgrifennwyd llenyddiaeth yn Swahili, yn enwedig barddoniaeth.

Datblygodd yr iaith ymhellach o dan ddylanwad gweinyddiaethau Almaenig ac i raddau llai Prydeinig. Hybwyd Swahili gan genhadon Cristnogol y 19g a ddechreuodd ysgrifennu’r iaith yn yr orgraff Rufeinig a chreu geiriaduron a llyfrau gramadeg ar gyfer Swahili. Ludwig Krapf a ysgrifennodd y gramadeg a'r geiriadur cyntaf tua 1848. Cyhoeddwyd y papur newydd cyntaf yn Swahili, Habari ya Mwezi yn 1895 gan genhadon. Erbyn heddiw yr orgraff Rufeinig a ddefnyddir i ysgrifennu Swahili modern. Cafwyd benthyg peth geirfa o'r Almaeneg a llawer yn rhagor o'r Saesneg. Mae Swahili yn dal i fenthyca o'r Saesneg on hyd yn hyn cymharol fychan yw cyfran y geiriau bath newydd o dras Saesneg yn Swahili, o'i gymharu â chyfran y geiriau bath newydd o dras Saesneg yn aml i iaith yn Ewrop.

Yn ystod yr ymgyrch am annibyniaeth ar dir mawr Tanganica yr oedd defnydd Swahili yn chwarae rhan sylweddol yn uno’r bobl. Oherwydd ei bod eisoes yn lingua franca ni chysidrwyd ei bod hi’n iaith oedd yn perthyn i’r bobl Swahili yn unig nac o’i ddefnyddio yn rhoi mantais i’r llwythau Swahili dros yr oddeutu 120 o lwythau eraill. Wedi i Tanganica ennill ei hannibyniaeth ym 1961 mabwysiadwyd hi’n iaith genedlaethol a pharhawyd i ddefnyddio Swahili yn fodd i uno’r bobl yn un genedl. Ym 1967 mabwysiadwyd polisi o addysgu trwy gyfrwng y Swahili yn ysgolion cynradd Tansanïa. Ar yr un pryd peidiwyd â chefnogi ymdrechion i ysgrifennu rhai o’r ieithoedd brodorol eraill am y tro cyntaf. Ni laciwyd y polisi hwn yn sylweddol tan y 1990’au. Mae Saesneg hefyd yn iaith swyddogol y llywodraeth ond yn Swahili y cynhelir bywyd cyhoeddus ar lafar. Swahili yw iaith y mosgau a'r eglwysi a'r iaith ehangaf ei defnydd ar y cyfryngau.

Er bod Swahili yn iaith swyddogol yn ogystal â Saesneg, Saesneg yw prif iaith y llywodraeth. Ar y cyfan mae statws Saesneg yn uwch na statws Swahili. Nid yw defnydd yr iaith wedi treiddio’r boblogaeth cystal ag yn Tansanïa, yn rhannol oherwydd mai Saesneg yw cyfrwng addysg Cenia. Serch hynny mae Swahili yn bwnc gorfodol yn ysgolion uwchradd Cenia ers 1986 (nid pawb sy'n derbyn addysg uwchradd yn Nwyrain Affrica) ac fe'i defnyddir gan yr heddlu a'r fyddin. Ceir un papur newydd yn Swahili a rhai rhaglenni radio a theledu. Defnyddir Saesneg yn helaeth gan y cyfryngau a hefyd rhai o ieithoedd brodorol eraill Cenia. Mae'r ffaith bod rhai llwythau niferus o ran canran y boblogaeth (e.e. y Kikuyu a'r Luo) a nifer sylweddol o bobl yng ngogledd gorllewin Cenia yn siarad ieithoedd nad ydynt yn rhan o'r teulu iaith Bantu yn rhwystro'r iaith Swahili rhag treiddio'n rhwydd fel ail iaith cyffredin yn Cenia.

Er bod Swahili yn lingua franca yn Wganda nid yw wedi bod yn boblogaidd gyda thrwch y boblogaeth. Dywedir bod Swahili yn arfer cael ei gysylltu â’r fasnach caethweision, ag Islam ac â’r lluoedd arfog a'r heddlu adeg gormes y llywodraethau milwrol. Cyn annibyniaeth yr oedd y weinyddiaeth Brydeinig eisoes wedi ceisio defnyddio Swahili yn iaith swyddogol ochr yn ochr â Saesneg, gan ddysgu Swahili yn yr ysgolion i'r diben hwn, ond rhoddwyd y cynlluniau hyn heibio yng ngwyneb gwrthwynebiad pobl y Baganda. Adeg llywodraeth Idi Amin bu Swahili yn iaith swyddogol ac mae statws iaith genedlaethol wedi ei roi i Swahili unwaith eto ers 2005. Mae cynlluniau ar y gweill i ddechrau dysgu Swahili yn bwnc gorfodol yn yr ysgol. Mewn rhai ardaloedd mae Swahili yn iaith masnach bob dydd.

Mae Kiswahili yn un o bedair iaith swyddogol yn y Congo ac yn iaith y fyddin yng ngorllewin y wlad. Roedd Kiswahili wedi cyrraedd dwyrain y Congo gyda'r masnachwyr o Zanzibar ac arfordir Tanganica. Ymledodd ei ddefnydd yn nhalaith Katanga yn y de-ddwyrain pan yr agorwyd mwyn-gloddiau yno ar droad y 19g, gan ddenu gweithwyr o wahanol lwythau at ei gilydd.

Ymdrechwyd i hybu statws rhyngwladol Swahili trwy nifer o gyrff rhyngwladol, e.e. yr Undeb Affricanaidd a’r Cenhedloedd Unedig, a thrwy astudiaeth o’r iaith mewn prifysgolion ledled y byd. Swahili a ddewiswyd yn iaith y trafodaethau yn uwch gyfarfod yr Undeb Affricanaidd yng Ngorffennaf 2004. Sefydlwyd Sefydliad Ymchwil Swahili ym mhrifysgol Dar Es Salaam. Rhan o waith y sefydliad yw bathu termau Swahili yn rhan o’r ymdrech i gystadlu â’r Saesneg fel iaith safonol y gellid dysgu drwyddi hyd at lefel prifysgol. Mae yn dasg enfawr i ddatblygu digon o adnoddau dysgu i gynnal addysg trwy gyfrwng Swahili ymhob pwnc hyd at lefel prifysgol. Hyd yn hyn trwy’r Saesneg yr addysgir hyd yn oed yn y dosbarthiadau uwch yn yr ysgolion uwchradd yn Tansania.

Yn Cenia ac yn Tansanïa mae Swahili a Saesneg ill dwy yn ieithoedd swyddogol. Mae tynfa yn bodoli rhwng yr awydd i ddefnyddio iaith Affricanaidd yn hytrach nag iaith imperialaidd gynt fel prif iaith y wlad, a’r awydd i ddefnyddio a dysgu Saesneg er mwyn cystadlu’n well yn economaidd yn y byd.

Mae nifer o orsafoedd radio rhyngwladol yn cynnal gwasanaethau yn Swahili gan gynnwys Voice of America, y BBC, Deutschewelle, Radio Moscow rhyngwladol, Radio China rhyngwladol, All India Radio, a Radio Iran.

Mae rhyw 16 tafodiaith yn perthyn i’r Swahili. Dim ond tair o’r rhain, Kiunguja, Amu a Mwita sydd wedi ymledu’n eang. Kiunguja yw tafodiaith tref Sansibar. Dyma’r dafodiaith a ysgrifennwyd fwyaf pan aethpwyd ati i ysgrifennu yn yr orgraff Rufeinig ac erbyn y 1930'au hi a fabwysiadwyd yn sylfaen y geiriaduron a’r gramadegau. Oddi wrthi hi felly y tardd Swahili safonol.

Ceir tipyn o wahaniaeth rhwng y Swahili safonol a siaredir yn gyffredinol yn Tansania ac yn Cenia. Yn fras mae Swahili Tansania wedi cadw rhai o'r rhag-ddodiaid sydd wedi eu colli yng Nghenia. Ceir hefyd rhai gwahaniaethau mewn geirfa. Yn Nairobi mae tafodiaith Sheng wedi datblygu sy'n gymysgedd o Swahili, Saesneg, Kikuyu a rhai ieithoedd brodorol eraill.

Mae traddodiad barddonol Swahili yn un cryf. Yn ogystal â barddoni ar lafar mae cerddi ysgrifenedig Swahili ar gael ers tair canrif. Cred ysgolheigion yr iaith bod rhai o'r llawysgrifau cynharaf i oroesi yn arddangos patrymau iaith cyfnod cynharach o rai canrifoedd. Credant bod traddodiad o ysgrifennu Swahili yn bodoli ers y 13g ond nad oes llawysgrifau wedi goroesi o'r cyfnod cynnar gan fod defnydd ysgrifennu yn dirywio yng ngwres a lleithder a thrychfilod arfordir Dwyrain Affrica. Cerddi maethion yw trwch y cerddi cynharaf. Mae'r gerdd cynnar hwyaf oll yn farwnad i'r proffwyd Mohamed ac yn 45,000 llinell o hyd. Mae barddoni yn dal i ffynnu mewn papurau newydd ac ar y radio yn Cenia a Tansanïa. Un o’r beirdd Swahili modern enwocaf yw Robert Shaaban (1902-1962) a oedd hefyd yn awdur ysgrifau. Mae llenyddiaeth modern Swahili yn cynnwys storïau a nofelau a llyfrau chwedlau, gan gynnwys cyfieithiadau i'r Swahili o chwedlau brodorol Dwyrain Affrica'n gyffredinol.

Un o’r caneuon Swahili mwyaf adnabyddus tu allan i Ddwyrain Affrica yw ‘Malaika’ o Cenia, yn arbennig yn y fersiwn a recordiwyd gan Miriam Makeba.

Yn ogystal â cherddi (ushairi) ceir yn Swahili drysorfa helaeth o ddiarhebion (methali), dywediadau (misemo), damhegion (mafumbo) a phosau (vitendawili). Mae’n arfer i gyfansoddi penillion i ddathlu achlysur arbennig. Yn aml caiff cyfres o gerddi moliant (mashairi) eu datgan mewn dathliad, a pharti yn datgan y cerddi ar lafar neu ar gân, a phob un yn datgan pennill yn ei dro, gyda chytgan i’w adrodd gan bawb.

Mae Swahili wedi cael benthyg llawer iawn o eiriau o ieithoedd eraill ac mae wedi talu’r pwyth yn ôl trwy roi benthyg ambell air i ieithoedd eraill. Mae geiriau benthyg ac ymadroddion cyfarwydd o’r Swahili yn cynnwys:

Daw’r pwyslais ar eiriau Swahili ar y sill cyn yr olaf (fel yn Gymraeg), heblaw am eithriadau ar gyfer rhai geiriau benthyg o’r Arabeg ac ieithoedd eraill. Gan amlaf, os gwelwch ddwy lafariad wedi eu hysgrifennu un ar ôl y llall maent yn cyfrif fel dwy sill. Felly yn y gair kioo (drych) ceir 3 sill ac mae pwyslais y gair ar yr o gyntaf. Mae m o flaen cytsain arall ar ddechrau gair weithiau yn sill wrth ei hunan.

Ysgrifennir Swahili yn ôl y sain. Yngenir y cytseiniaid yn ddigon tebyg i’r un cytseiniaid yn Saesneg heblaw am r sy’n debycach i r Gymraeg. Mae w ac y yn gytseiniaid yn Swahili. Yngenir ng yn ng-g. Yngenir ng’ rhywbeth yn debyg i ng Gymraeg, e.e. ng’ombe (buwch). Yngenir dh fel dd Gymraeg. Yngenir gh rhywle rhwng ch Gymraeg a sŵn garglio.

Yngenir llafariaid Swahili (a, e, i, o, u) yn ddigon tebyg i lafariaid y Gymraeg heblaw bod u yn cael ei ynganu fel w Gymraeg. Mae’r llafariaid fel arfer yn weddol fyr ond bod u ryw hanner ffordd rhwng yr w yn y gair 'twr' a’r gair 'tŵr' yn Gymraeg. Pan dyblir llafariaid maent yn hir.

Yr wyddor Swahili:

Mae ieithoedd cyflynol yn adeiladu geiriau cyfansawdd trwy ychwanegu rhag- ac ôlddodiaid at gnewyllyn gair. Ceir nifer fawr o ragddodiaid yn Swahili, o flaen berfau, enwau ac ansoddeiriau. Er enghraifft, Ki- yw’r rhagddodiad mewn nifer o ieithoedd Bantu sy’n dynodi, ymhlith pethau eraill, iaith. M- yw’r rhagddodiad sy’n dynodi person neu anifail. U- yw’r rhagddodiad sy’n dynodi tir neu enw haniaethol. Felly:

Nid yw ‘Swahili’ yn air sy’n bod ar ei ben ei hun o gwbl. Gyda llaw, mae’r cnewyllyn -swahili yn dod o’r Arabeg As-Sawahili sydd yn golygu rhywbeth yn debyg i ‘drigolion yr arfordir’.

Fe allwch gael hyd at 3 rhagddodiad cyn cnewyllyn berf yn Swahili. Oherwydd hyn mae darganfod gair mewn geiriadur Swahili yn gallu creu cryn benbleth i ddysgwyr.




#Article 224: Wiliam I, brenin Lloegr (548 words)


Bu Wiliam I (glasenw: Gwilym y Gorchfygwr neu Wiliam y Concwerwr) yn frenin Lloegr o 14 Hydref 1066 hyd at ei farwolaeth ar 9 Medi 1087.

Wiliam oedd Brenin Normanaidd cyntaf Lloegr. Roedd yn ddisgynnydd i'r arweinydd Llychlynnaidd, Rolo, ac yn Ddug Normandi ers 1035. Roedd ei afael ar Normandi yn gadarn erbyn 1060, wedi brwydr hir yn ceisio sefydlogi ei afael ar yr orsedd. Lansiodd ymdrech i reoli Lloegr chwe blynedd yn ddiweddarach, pan drechodd Harold, Brenin Lloegr, ym Mrwydr Hastings yn 1066.

Wiliam oedd mab Robert I, Dug Normandi, a anwyd i'w feistres Herleva. Yn ystod ei blentyndod a’i ieuenctid, bu brwydro rhwng aelodau gwahanol deuluoedd aristocrataidd Normandi er mwyn ennill rheolaeth dros y Dug pan oedd yn blentyn. Yn 1047, llwyddodd Wiliam i chwalu gwrthryfel a rhoddodd hyn y cyfle iddo sefydlogi ei awdurdod dros y ddugiaeth, proses na chwblhaodd tan tua 1060. Rhoddodd ei briodas yn y 1050au â Matilda o Fflandrys gefnogwyr pwerus iddo yn Fflandrys, a oedd yn ffinio ar Normandi. Erbyn ei briodas, roedd Wiliam wedi trefnu pwy fyddai’n eu penodi i swyddi pwysig fel esgobion ac abadau yn yr Eglwys Normanaidd. Galluogodd ei bŵer iddo ehangu ei orwelion, ac o ganlyniad sefydlogodd ei awdurdod dros Maine yn 1062, a oedd hefyd yn ffinio ar Normandi.

Yn y 1050au a dechrau’r 1060au, daeth i'r amlwg bod Wiliam yn ymgeisydd oedd â hawl ar orsedd Lloegr, a oedd ar y pryd ym meddiant Edward y Cyffeswr, ei gefnder cyntaf. Roedd ymgeiswyr posibl eraill hefyd, gan gynnwys yr iarll Seisnig, Harold Godwinson, a enwyd gan Edward y Cyffeswr ar ei wely angau fel ei olynydd yn Ionawr 1066. Er hynny, dadleuodd Wiliam fod Edward wedi addo’r goron iddo ef, a bod Harold Godwinson wedi tyngu ei gefnogaeth i'w hawl ar y goron. Ar sail hynny, penderfynodd Wiliam adeiladu fflyd fawr o longau a goresgyn Lloegr yn 1066. Cafodd fuddugoliaeth gadarn yn erbyn Harold Godwinson ym Mrwydr Hastings, lle lladdwyd Harold ar 14 Hydref 1066. Wedi sawl brwydr arall, coronwyd Wiliam yn Frenin Lloegr ar Ddiwrnod Nadolig 1066 yn Llundain. Bu nifer o wrthryfeloedd aflwyddiannus yn erbyn Wiliam fel brenin, ond erbyn 1075 roedd gafael gadarn gan Wiliam ar Loegr, a galluogodd hyn iddo i dreulio’r mwyafrif o’i deyrnasiad ar gyfandir Ewrop.

Bu ymdrechion cychwynnol y Normaniaid o dan arweinyddiaeth Wiliam i reoli’r tiroedd a oedd ym meddiant rheolwyr Cymru yn fethiant i raddau. Ond wedi marwolaeth Wiliam yn 1087 dechreuodd y Normaniaid ddangos eu rheolaeth dros y Cymry, gan greu brwydr am bŵer a fyddai’n para am ganrifoedd.

Nodweddwyd blynyddoedd olaf Wiliam ar yr orsedd gan drafferthion yn ei diroedd Ewropeaidd, problemau gyda’i fab, Robert, a’r Daniaid hefyd yn bygwth goresgyn Lloegr. Yn 1086, gorchmynnodd arolwg arbennig o’r holl diroedd yn Lloegr. Dyma gynnwys Llyfr Dydd y Farn. Bu farw ym Medi 1087 wrth arwain ymgyrch yng ngogledd Ffrainc, a chladdwyd ef yn Caen. Yn ystod ei deyrnasiad yn Lloegr, adeiladwyd cyfres o gestyll, sefydlwyd cenhedlaeth newydd o aristocratiaid Normanaidd ar dir Lloegr, a bu newidiadau yng nghyfansoddiad y glerigaeth yn Lloegr. Ni lwyddodd i gyfuno ei holl diroedd mewn un ymerodraeth ond ceisiodd weinyddu a rheoli pob uned yn annibynnol. Rhannwyd ei diroedd wedi ei farwolaeth: rhoddwyd Normandi i Robert, ac etifeddwyd Lloegr gan ei ail fab ganedig a oroesodd, sef Wiliam.




#Article 225: Halen (117 words)


Cyfansoddyn cemegol gwyn yw halen a'r enw cemegol arno yw sodiwm clorid (fformiwla NaCl). Defnyddir halen i roi blas ar fwyd ac i gadw (neu brisyrfio) cigoedd. Mae ychydig ohono'n hanfodol i gynnal dyn ac anifeiliaid byw, ond mae gormod yn wael i'r iechyd, neu hyd oed angheuol.

Defnyddir ef  i ddadlaith rhew ar y ffyrdd.

Dyma gofnod yn nyddiadur William Jones Moelfre, Aberdaron: 

Mae’n son llawer am nôl halen, fel arfer yn yr hydref - ond hau halen? Beth a olygai - a’r dyddiad ynghanol y tymor? A thybed a oes a wnelo tyddyn Cae Halen Bach ym mhlwyf Llandwrog rhywbeth â’r cwestiwn. Mae yna lawer o enghreifftiau o enwau tebyg ar hyd a lled Cymru.




#Article 226: Anatomeg (382 words)


Anatomeg (o'r Groeg ἀνατομία (anatomia) sef 'gwahanu a thorri i fyny') yw astudiaeth, adeiladwaith a threfniant organebau byw. Astudiaeth anatomeg anifeiliaid yw sŵtomeg, ac astudiaeth anatomeg planhigion yw ffytonomeg.

Canghennau pwysicaf anatomeg ydy anatomeg gymharol ac anatomeg ddynol. Mae'r gair anatomi fodd bynnag yn cyfeirio at rannau o'r corff dynol yn hytrach na'r pwnc.

Yr astudiaeth wyddonol o sut mae'r corff dynol yn gweithio ydy anatomeg ddynol (hefyd 'anatomi dynol'). Mae dwy ran i'r asudiaeth hon:

Dros y blynyddoedd mae anatomeg wedi datblygu drwy disectio, cofnodi a llunio cronfa o wybodaeth am yr organau. Defnyddiwyd a defnyddir heddiw hefyd gyrff anifeiliaid a chyrff marw dynol i ychwanegu at y wybodaeth hon. Ni ddylid, fodd bynnag, gymysgu anatomeg gyda anatomeg patholegol neu histopatholeg sef asudio meinweoedd microscopic organau wedi'u heintio.

Ar wyneb y corff ceir nifer o wrthrychau hawdd eu hadnabod, fel cerrig milltir ar draws y corff cyfan. Mae lawfeddygon a milfeddygon yn defnyddio'r wybodaeth hon o wyneb y corff fel canllaw pwysig i wybod beth sydd o dan y  croen.

Cymharu'r gwahanol strwythurau o fewn gwahanol anifeiliaid y mae anatomeg gymharol. Roedd Syr Richard Owen (1804 - 1892), sefydlydd yr Amgueddfa Brydeinig yn un o brif arbenigwyr Ewrop ar y pwnc.

Cymharu gwahanol genedligrwydd a hil bodau dynol y mae Anatomeg anthropolegol.

Astudiaeth artistig o'r anatomi (dynol ac anifail) ydyw Anatomeg artistig.

O'r Groeg y tardd y gair 'anatomeg' neu 'anatomi':  anatomē dyrannu (Saesneg: dissection) (o  anatémnō torri fyny a ddaw o'r gair ἀνά aná fyny, a τέμνω témnō torri),. Yn yr 2g y mwyaf nodedig, a thad anatomeg, efallai, yw rhannodd Claudius Galenus, a enwir yn ddiweddar yn 'Galen')  neu 'Galen o Bergamon', Twrci heddiw. Rhannodd y corff dynol yn sawl maes gan gynnwys anatomeg, ffisioleg, patholeg, fferylliaeth a niwroleg - yn ogystal ag athroniaeth a rhesymeg. Anifeiliaid a ddyranwyd gan mwyaf yn y cyfnod hwn.

Ystyrir y De Humani Corporis Fabrica, llyfr yn yr iaith Ladin am ffisioleg gan Andreas Vesalius (1543) yn garreg filltir bwysig yn hanes anatomeg. Rhennir y gyfrol yn saith 'llyfr':

Yn Alexandria yr Henfyd y gwnaed y gwaith o gofnodi'r corff fwyaf trylwyr, gyda Herophilus ac Erasistratus (3g) yn gynhyrchiol iawn. Dyma'r ddau a ddechreuodd ddyranu'r corff er mwyn ei astudio'n wyddonol; Erasistratus a Praxagoras a sylweddolodd fod gwahaniaeth rhwng gwythienau (veins)a'r Rhydweliau (arteries).




#Article 227: William Williams (Pantycelyn) (294 words)


Bardd, emynydd ac awdur rhyddiaith grefyddol oedd William Williams (tua 11 Chwefror 1717 – 11 Ionawr 1791), neu (Williams) Pantycelyn. Roedd yn frodor o blwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin. Mae'n cael ei adnabod fel Pantycelyn ar ôl enw y ffermdy y bu'n byw ynddo, yn y bryniau ger Pentre Tŷ-gwyn.

Cafodd droedigaeth wrth wrando ar Howel Harris yn pregethu yn Nhalgarth yn 1737. Er iddo fod yn gurad i Theophilus Evans am gyfnod, gwrthodwyd ei urddo yn offeiriad yn Eglwys Loegr yn 1743 oherwydd ei gysylltiadau â'r Methodistiaid. Ar ôl hynny canolbwyntiodd ar weithio dros y mudiad Methodistaidd. Roedd yn bregethwr teithiol a daeth yn enwog am ei allu arbennig i arwain seiadau. Ef ynghyd â Daniel Rowland a Howel Harris oedd prif arweinwyr y Methodistiaid yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Trwy ei emynau, yn enwedig, ef yw un o'r dylanwadau pwysicaf ar y diwylliant Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Saif Capel Coffa William Williams Pantycelyn yn Llanymddyfri. Claddwyd ef yn Eglwys Llanfair-ar-y-bryn ar gyrion tref Llanymddyfri.

Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Cyhoeddodd gyfres o gasgliadau o emynau, dwy gerdd hir uchelgeisiol, sef 'Golwg ar Deyrnas Crist' a 'Bywyd a Marwolaeth Theomemphus'  ynghyd â nofer o lyfrau rhyddiaith, cyfieithiadau a marwnadau. Daethpwyd i'w adnabod wrth enw'r fferm a fu'n gartref iddo,  'Pantycelyn' ond fe'i hadnabyddir hefyd fel Y Pêr Ganiedydd oherwydd dwysder a melysder ei ganu. Mae'r enw hwn yn seiliedig ar y cyfeiriad at Dafydd y salmydd yn y Beibl fel 'peraidd ganiedydd Israel'. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, Guide me, O thou great Jehovah (sy'n cynnwys y geiriau Bread of Heaven, feed me now and evermore, ac a genir fel arfer ar yr emyn-dôn Cwm Rhondda) yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang.




#Article 228: Helen Mary Jones (351 words)


Gwleidydd Cymreig, aelod o Blaid Cymru ac aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw Helen Mary Jones (ganwyd 29 Mehefin 1960). Etholwyd dros etholaeth Llanelli ar ddyfodiad y Cynulliad ym 1999. Collodd afael ar y sedd etholaethol o 21 pleidlais yn etholiad 2003, ond fe'i hetholwyd i gynrychioli rhanbarth Gorllewin a Chanolbarth Cymru dros Blaid Cymru. Ail-etholwyd Jones dros etholaeth Llanelli yn 2007, ond collodd y sedd unwaith eto yn 2011. Dychwelodd i'r Cynulliad yn 2018 yn dilyn ymddiswyddiad Simon Thomas.

Fe'i ganwyd yn Colchester a derbyniodd ei haddysg yn Colchester County High School for Girls, yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion ym Mhowys ac ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Mae hi'n chwaer i'r awdur a digrifwr Myfanwy Alexander.  Cyn dod yn wleidydd, bu'n gweithio ym maes addysg arbennig gan ddal gwahanol swyddi mewn gwaith cymdeithasol a chymunedol a chyda phobl ifainc. Mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys materion amgylcheddol, cyfiawnder cymdeithasol, cyfleoedd cyfartal, hawliau plant a chyflogaeth. Fe fu hi'n aelod o'r grŵp ymgynghorol ar sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol.

Ymladdodd hi am sedd seneddol Islwyn yn etholiad cyffredinol 1992 yn erbyn Neil Kinnock, arweinydd y Blaid Lafur ar y pryd, ac am sedd Sir Drefaldwyn yn etholiad cyffredinol 1997. Yn 2000, daeth Helen yn ail i Ieuan Wyn Jones yn etholiad arweinyddiaeth Plaid Cymru. 

Mae Jones wedi dal nifer o swyddi gwleidyddol ar lefel cangen, etholaeth ac yn genedlaethol o fewn Plaid Cymru, a bu yn fyfarwyddwraig cyfleoedd cyfartal y blaid. Cyn cael ei hethol i'r cynulliad roedd hi'n Uwch Reolwraig Datblygiad gyda'r Comisiwn Cyfleoedd Cyfartal yng Nghymru. Yn y Cynulliad bu'n gysgod weinidog dros addysg, ac yn gysgod weinidog iechyd ac roedd yn aelod o Bwyllgor yr Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth, y Pwyllgor Cyfleoedd Cyfartal, Pwyllgor Partneriaeth y Sector Wirfoddol a Phwyllgor Ardal De Orllewin Cymru. Roedd hi'n Gadeirydd Plaid Cymru rhwng 2011 a 2013.

Yn dilyn ymddiswyddiad Simon Thomas yng Nghorffennaf 2018 cynigiwyd y sedd i Helen Mary Jones, fel y nesaf ar y rhestr rhanbarthol, ac ar 2 Awst 2018 cadarnhawyd y byddai'n cymryd y sedd a dychwelyd i'r Cynulliad. Cyn hynny roedd hi'n Gyfarwyddwr Cynorthwyol yn Academi Morgan, Prifysgol Abertawe.




#Article 229: Rhodri Glyn Thomas (287 words)


Gwleidydd Cymreig ac aelod o Blaid Cymru yw Rhodri Glyn Thomas (ganwyd 11 Ebrill 1953). Bu'n Aelod Cynulliad (AC) dros Etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ers sefydlu'r Cynulliad ym 1999 ond ni safodd fel ymgeisydd yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016.

Ganwyd Thomas yn Wrecsam, gweinidog o Langadog oedd tadcu Rhodri Glyn Thomas. Magwyd ei dad yn Llangadog a bu'n athro yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth. Aeth Rhodri i Ysgol Bodhyfryd, Wrecsam, ac yna i Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam cyn gadael am Brifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1975 i astudio am radd yn y Gymraeg. Wedi graddio ym 1978, astudiodd am radd BD mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Ym 1991 astudiodd Rhodri am radd MTh ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, yn darllen Diwinyddiaeth Americanaidd.

Ym 1992 ymladdodd hen sedd seneddol Caerfyrddin yn yr Etholiad Cyffredinol dros y Blaid. Yn Etholiad Cyffredinol 1997 safodd yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Ym 1999 ymladdodd yr un etholaeth yn etholiadau'r Cynulliad gan ennill o 6,980 o bleidleisiau a chynyrchu gogwydd enfawr o 21% yn erbyn y Blaid Lafur. Cadwodd y sedd yn etholiadau'r Cynulliad yn 2003 a 2007.

Ei brif ddiddordebau gwleidyddol yw Materion Gwledig; Materion Cymdeithasol; Busnes ac Economeg; Trafnidiaeth. Fe yw Gweinidog yr Wrthblaid ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Cynulliad Cenedlaethol ac yn Ddirprwy Arweinydd Grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad ac yn aelod o'r Pwyllgor Iechyd a'r Pwyllgor Materion Ewropeaidd.

Daeth yn Weinidog Treftadaeth Llywodraeth Cymru yn 2007 ond bu rhaid iddo ymddiswyddo fel Gweinidog yn dilyn cyfres o gamgymeriadau honedig. Dywedir iddo gerdded i mewn i dafarn gerllaw adeilad y Cynulliad gyda sigâr yn ei law pan oedd ysmygu mewn adeiladau yn anghyfreithiol. Derbyniwyd ei ymddiswyddiad gan Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru.




#Article 230: Richard Price (631 words)


Roedd Richard Price (23 Chwefror 1723 – 19 Ebrill 1791), yn athronydd radicalaidd ac yn awdur. Galwyd ef yn Gyfaill Dynolryw ac roedd yn ddyn hynod o boblogaidd yn ei amser.

Cafodd ei eni ar ffermdy o'r enw Tynton (neu Tyn-Ton) yn Llangeinwyr tua 5 milltir i'r gogledd o dref Pen-y-bont ar Ogwr. Priododd ei dad  Rees Price ddwywaith, yr ail dro gyda mam Richard, Catherine; roedd hi'n ferch i Dr. Richards o Ben-y-bont ar Ogwr. Roedd y teulu'n ddysgedig ag yn eitha cyfoethog. Dau o hoff ddiddordebau Richard oedd cerdded a marchogaeth. Cyfnither Richard Price oedd Ann Thomas (neé Madox) sef Y Ferch o Gefn Ydfa.

Sentar (neu Anghydffurfiwr) oedd ei dad, gŵr a gredai mewn disgyblaeth lem yn y cartref. Yr adeg yma, gadawai llawer o glerigwyr eu heglwysi gan na fedrant dderbyn y Llyfr Gweddi fel gair Duw ac roedd un o'r rhain, y Parch. Samuel Jones, yn ficer yn Llangynwyd. Roedd yntau'n ŵr dysgedig iawn, a phan adawodd yr eglwys, fe'i dilynwyd gan nifer o deuluoedd yr ardal, gan gynnwys teuluoedd Tynton a Chefn Ydfa. Sefydlodd Samuel goleg yn ei dŷ ym Mrynllywarch, ac un o'i ddisgyblion gloywaf oedd Rees Price, a afaelodd yn yr awennau pan fu farw Samuel Jones. Symudwyd y coleg (neu'r 'Academi' fel y cafodd ei alw) i Tynton a daeth Price yn weinidog. Drwy ei ysbrydoliaeth ef, a'i oruchwyliaeth codwyd dau gapel i gynnal cyfarfodydd anghydffurfiol: yn y Betws ac wrth droed gallt Castell Newydd, Pen-y-bont ar Ogwr. Rhagwelodd Rees y byddai ei fab Richard yn disgleirio mewn busnes, ac i'r perwyl hwnnw, yn bymtheg oed, danfonwyd ef i goleg yn Nhalgarth.

Cafodd ei addysg ym Mhentwyn gan Samuel Jones, yn Chancefield gan Vavasor Griffiths ac yna yn Moorfields gan John Eames.

Pan fu farw ei fam Catherine yn 1740, newidiwyd bywyd Richard; roedd ei dad eisioes wedi marw flwyddyn ynghynt. Yn un deg saith oed, aeth i Lundain ble roedd ewyrth iddo'n byw: y Parch. Samuel Price, myfyriwr arall a elwodd o'r addysg ym Mrynllywarch. Wedi pedair blynedd mewn coleg yn Llundain, ordeiniwyd Richard Price yn gaplan.

Yn fuan, fe'i ystyriwyd yn bregethwr medrus ac ymddiddorai mewn rhyddid gwledydd a phobl. Bu'n weinidog yn Newington a Hackney. Yn 35 mlwydd oed cyhoeddodd Review of the Principal Questions in Morals (1758) gyda'i syniadau ar foeseg felly'n rhagflaenu rhai Immanuel Kant.

Ar wahân i'w bwysigrwydd fel athronydd moeseg, ac ym myd actiwariaeth, dylanwadodd ar y Chwyldro Americanaidd, gan gysylltu yn aml gyda Benjamin Franklin, Adams a Thomas Jefferson. Dylanwadodd hefyd ar Gyfansoddiad America. Roedd yn gryf ei syniadau dros hawliau merched a dylanwadodd ar y ffeminist Mary Wollstonecraft, a ddatblygodd ei syniadau ef ar 'egalitariaeth' Ffrengig.

Cyhoeddodd lawer ym myd ystadegau ac arian hefyd a chafodd ei dderbyn gan Y Gymdeithas Frenhinol oherwydd y cyfraniadau hyn. Roedd yn ffrind i'r mathemategydd Thomas Bayes. Golygodd ei waith enwocaf, sef Essay towards solving a problem in the doctrine of chances sy'n cynnwys Theori Bayes un o theoriau pwysicaf a sgwennwyd ar debygolrwydd. Roedd ei gyflwyniad i'r gyfrol yn cynnwys rhan o gonglfeini'r theori hwn ar ystadegau Bayesaidd.

Pan ddechreuodd Rhyfel Annibyniaeth America ar 9fed Ebrill 1775, daeth ei awr fawr, a daeth i boblogrwydd byd-eang. Cyhoeddodd Observations on the Nature of Civil Liberty, the Principles of Government, and the Justice and Policy of the War with America yn 1776 a gwerthwyd 60,000 o gopiau o fewn dyddiau. Ailgyhoeddwyd rhifyn rhatach a gwerthwyd dros ddwywaith cymaint. Roedd y pamffled yn condemnio cynnig Shelburne a deddfau dros goloneiddio America. Fe'i beirniadwyd yn hallt, fodd bynnag, gan Adam Ferguson, yr Esgob William Markham, John Wesley, ac Edmund Burke. Rhoddwyd iddo Ryddid Dinas Llundain a chredir i'w bamffled ddylanwadu ar Ddatganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau. Yng ngwanwyn 1777 cyhoeddodd ail bamffled am ddyledion Prydain i America a'r rhyfel yno.




#Article 231: Yr Undeb Ewropeaidd (1013 words)


Mae'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn gymuned wleidyddol ac economaidd sydd â nodweddion goruwchgenedlaethol a rhyng-lywodraethol. Mae'n cynnwys 27 o aelod-wladwriaethau. Sefydlwyd yr UE ym 1993 gan Gytundeb Maastricht, er i'r broses o integreiddio Ewropeaidd gychwyn gyda'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE), a luniwyd gan chwe gwlad Ewropeaidd ym 1957.

Creodd yr UE farchnad sengl sy'n ceisio gwarantu'r rhyddid i symud pobl, nwyddau, gwasanaethau a chyfalaf yn ddirwystr rhwng yr aelod-wladwriaethau. Mae'r UE yn cynnwys polisïau cyffredin dros fasnach, amaethyddiaeth, pysgodfeydd a datblygiad rhanbarthol. Ym 1999, cyflwynodd yr UE arian cyfredol cyffredin, sef yr ewro, a fabwysiadwyd gan 13 aelod-wladwriaeth. Mae hefyd wedi datblygu rôl mewn materion polisi tramor, a chyfiawnder a materion cartref.

Gyda bron 500 miliwn o ddinasyddion, cynhyrchodd yr UE gynnyrch mewnwladol crynswth y pen o €11.4 triliwn (£8 triliwn) yn 2007. Mae'n cynrychioli ei aelodau o fewn Sefydliad Masnach y Byd ac mae'n bresennol fel sylwedydd yn uwch-gynadleddau'r G8. Mae 21 o aelodau'r UE yn aelodau o NATO. Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol, sef Senedd Ewrop, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, y Comisiwn Ewropeaidd, Llys Cyfiawnder Ewrop a Llys Archwilwyr Ewrop, yn ogystal â gwahanol gyrff eraill, er enghraifft Banc Canolog Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau. Mae dinasyddion yr UE yn ethol aelodau Senedd Ewrop bob pum mlynedd.

Yn y Deyrnas Unedig, cafwyd refferendwm yn 2016 ar y cwestiwn a ddylai'r DU adael yr UE neu aros yn aelod. Roedd mwyafrif pleidleisiau Yr Alban a Gogledd Iwerddon i aros, yn ogystal a ardaloedd eraill fel Llundain, Caerdydd, Gwynedd a Cheredigion. Er hynny roedd mwyafrif ar draws y DU i adael, o 52% i 48%.

Ganwyd yr Undeb Ewropeaidd fel cydffederasiwn o wledydd i ail-adeiladu Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac er mwyn rhwystro hunllef rhyfel arall. Cymuned Ewropeaidd Economaidd, neu Marchnad Gyffredin oedd enw cyntaf yr UE. Newidiwyd yr enw i Cymuned Ewropeaidd ac wedyn i Undeb Ewropeaidd. Wedi dechrau fel undeb masnach datblygodd yr UE i fod yn undeb economaidd a gwleidyddol.

Ers 1 Gorffennaf 2013 mae 28 o aelod-wladwriaethau yn yr Undeb Ewropeaidd, ond dim ond 6 o wledydd sefydlodd y CEE ym 1952/1958:

Ymunodd saith gwladwriaeth â'r CEE ar ôl y cychwyn:

Ffurfiwyd yr UE yn wreiddiol yn 1993 gan wladwriaethau'r CEE. Mae 15 o wladwriaethau pellach wedi ymuno â'r UE erbyn hyn:

Cafodd Yr Ynys Las ymreolaeth gan Denmarc ym 1979 a gadawodd yr UE ym 1985 ar ôl refferendwm. Gweler hefyd y brif erthygl Ehangu'r Undeb Ewropeaidd.

Gadawodd y DU ym 2020 ar ôl refferendwm

Mae pum gwlad yn ymgeiswyr swyddogol i fod yn rhan o'r UE: Gwlad yr Iâ, Cyn-weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia Montenegro, Serbia, a Thwrci. Mae Albania a Bosnia-Hertsegofina yn cael eu ystyried yn swyddogol fel ymgeiswyr potensial. Rhestrir Cosofo fel ymgesiydd potensial hefyd, ond ni ystyrir Cosofo fel gwlad annibynnol gan y Comisiwn Ewropeaidd gan nad yw pob gwlad yn cydnabod Cosofo fel gwlad gwbl ar wahân i Serbia.

Heb fod yn aelod-wladwriaethau o'r UE nac yn ymgeiswyr am aelodaeth, mae perthynas arbennig â'r UE gan sawl gwlad, e.e. Monaco ac Andorra.

Mae maint holl dirwedd 25 aelod-wladwriaeth yr UE (2004) yn 3,892,685 kmsup2;. Petasai'r UE yn un wlad, byddai'n seithfed fwyaf yn y byd. Roedd poblogaeth yr UE (sef poblogaeth  aelod-wladwriaethau'r UE o dan delerau Cytundeb Maastricht) yn 453 miliwn ym mis Mawrth 2004 ac felly, petasai'n un wlad, yn drydedd ar ôl India a Tsieina.

Yr Undeb Ewropeaidd yw'r gyfundrefn ryngwladol fwyaf pwerus yn y byd. Mae nifer o aelod-wladwriaethau wedi rhoi hawliau sofraniaeth genedlaethol i'r UE (er enghraifft arian, polisi ariannol, marchnad fewnol, masnach dramor) ac felly mae'r UE yn datblygu yn rhywbeth tebyg i wladwriaeth ffederal. Beth bynnag, nid ydyw'n wlad ffederal, ond mae'n pwysleisio subsidiarity (term arbennig sy'n disgrifo'r egwyddor o benderfynu pethau mor agos â phosib i'r bobl sy'n cael eu heffeithio gan y penderfyniadau). Mae'r aelod-wladwriaethau yn rheoli'r cytundebau ac ni all yr UE drosglwyddo hawliau ychwanegol o'r aelod-wladwriaethau i'r UE.

Mae gan yr UE bum sefydliad swyddogol:

Sefydliadau gwleidyddol yw'r Senedd, y Cyngor a'r Comisiwn, sy'n dal grym gweithredol a deddfwriaethol yr Undeb. Mae'r Senedd yn cynrychioli'r dinasyddion, mae'r Cyngor yn cynrychioli eu llywodraethau, ac mae'r Comisiwn yn cynrychioli'r budd Ewropeaidd cyffredinol. Y Comisiwn yn unig sydd â'r hawl i ddrafftio deddfwriaeth. Cyflwynir deddfwriaeth ddrafft i'r Senedd a'r Cyngor, y mae rhaid iddynt ei chymeradwyo, er bod y weithdrefn benodol yn dibynnu ar bwnc y ddeddfwriaeth dan sylw. Unwaith wedi'i chymeradwyo ac wedi'i llofnodi, mae'r ddeddfwriaeth yn dod i rym. Dyletswydd y Comisiwn yw sicrhau y cydymffurfir â chyfraith yr Undeb.

Deg gwlad mwyaf eu heconomi - gan gyfrif yr Undeb Ewropeaidd fel un wlad; mwyaf o ran Cynnyrch mewnwladol crynswth yn 2011.

Mae hefyd nifer o gyrff ac asiantaethau pwysig eraill nad ydynt yn sefydliadau swyddogol. Mae'r rhain yn cynnwys dau bwyllgor ymgynghorol, sef Pwyllgor y Rhanbarthau a'r Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol, sy'n rhoi eu cyngor ynghylch materion rhanbarthol, economaidd a chymdeithasol.

Mae cyrff ac asiantaethau eraill yn cynnwys:

Bydd Cytundeb Lisbon yn gwneud nifer o newidiadau i fframwaith sefydliadol yr Undeb. Daw'r Cyngor Ewropeaidd a Banc Canolog Ewrop yn sefydliadau llawn, a chaiff Llys y Gwrandawiad Cyntaf ei ailenwi yn Lys Cyffredinol.

Dechreuodd yr UE fel grŵp o wledydd yn cydweithredu'n economaidd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Datblygodd wedyn i gynnwys cydweithredu gwleidyddiol. Fel hynny, roedd pŵer gwleidyddiol yn symud o'r aelod-wladwriaethau i sefydliadau'r UE. Beth bynnag, mae hynny'n cael ei cydbwyso gan y ffaith bod gan nifer o aelod-wladwriaethau draddodiad o lywodraeth gryf yn eu rhanbarthau. Mae pwysigrwydd rhanbarthau Ewrop yn cynyddu a sefydlwyd Pwyllgor y Rhanbarthau trwy Gytundeb Maastricht.

Ers blynyddoedd mae unigolion a grwpiau wedi bod yn pwyso ar yr Undeb a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i godi statws swyddogol yr iaith Gymraeg o fewn yr Undeb.

Ar 20 Tachwedd 2008, gwnaeth Alun Ffred Jones hanes drwy ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfod o Gyngor Gweinidogion Undeb Ewrop am y tro cyntaf erioed. Siaradodd fel Gweinidog dros Dreftadaeth Cymru yn rhan o ddirprwyaeth y DU i'r cyfarfod. Cyfieithwyd araith y gweinidog mewn canlyniad i gytundeb rhwng llywodraethau Cymru a'r DU ac Undeb Ewrop a gytunwyd yng Ngorffennaf 2008.




#Article 232: Coginio (144 words)


Coginio yw'r broses o baratoi bwyd drwy osod gwres, dewis, mesur a chyfuno amrys o gynhwysion mewn modd trefnus er mwyn cynhyrchu bwyd diogel a bwytadwy. Mae'r broses yn cynnwys amryw helaeth o ddulliau, offer a chyfuniadau o gynhwysion i newid blas, golwg, ansawdd neu dreuliadedd bwyd. Mae'r ffactorau sy'n effeithio ar y canlyniad yn cynnwys amrywiaethau yn y cynhwysion, amodau'r awyrgylch, offer, a'r person gallus, sef y cogydd, sy'n gwneud y coginio.

Mae amrywiaeth eang coginio yn fyd-eang yn adlewyrchu'r amrywiaethau mewn diwylliant, amaethyddiaeth, esthetig, economi, cymdeithas a chrefydd ar draws y byd.

Mae gosod gwres ar fwyd fel arfer, ond nid bob tro, yn ei newid yn gemegol, gan effeithio ar y blas, golwg, ansawdd a'i werth maeth. Mae dulliau o goginio sy'n cynnwys berwi gyda hylif mewn llestr wedi cael ei ymarfer ers y 10fed mileniwm CC, yn dilyn dyfodiad crochenwaith.




#Article 233: Y Rhyl (740 words)


Mae'r Rhyl yn dref glan môr yn Sir Ddinbych (Sir y Fflint yn draddodiadol), yng ngogledd Cymru. Fe'i lleolir i'r dwyrain o'r Foryd, aber Afon Clwyd. Ar hyd yr arfordir i'r gorllewin mae Bae Cinmel a 4 milltir i'r dwyrain mae Prestatyn. 2 filltir i'r de mae tref Rhuddlan. Ei phoblogaeth yw 24,889 (Cyfrifiad 2001).

Mae gan y Rhyl un o'r traethau gorau yn y gogledd sy'n denu ymwelwyr lu yn yr haf i ymdrochi a mwynhau'r Tywod Euraidd. Mae'r Prom llydan yn enwog am ei barlwrs gemau, neuaddau bingo a siopau cofroddion rhad. Yr atyniad mawr heddiw yw Canolfan yr Haul a'i thŵr trawiadol. Ar ben gorllewinol y prom ceir y ffair hwyl a'i holwynion a big dipper. Gerllaw mae'r Llyn Morwrol (Marine Lake) a'r Trên Bach i blant sy'n rhedeg oddi amgylch iddo. Yn harbwr Y Foryd lle rhed Afon Clwyd i'r môr ceir nifer o gychod pysgota a hamdden a gorsaf y bad achub. Y brif ardal siopio yw'r Stryd Fawr, sy'n ymestyn rhwng y prom a'r orsaf drenau.

Darganfuwyd matog wedi'i wneud o gorn carw yn nechrau'r 20g yn ystod archwiliad o olion cyn-hanes a ellir ei weld pan fo'r môr ar drai; mae dyddio carbon wedi ei osod yn y 5g CC. Cyfeirir at y lleoliad fel 'Splash Point', nid nepell o'r 'Heulfan' modern a gellir gweld hen foncyffion fforest a arferai dyfu yno rhwng 6,000 a 10,000 o flynyddoedd yn ôl.

Does dim sôn am y Rhyl yn llyfr Thomas Pennant yn 1778 nac ychwaith gan William Bingley yn 1798. Ond mae sawl dogfen yn cyfeirio at dŷ o'r enw 'Hill-house' neu 'hillouse' a 'Hullhouse' (o'r gair 'hill' am allt) - a hynny ynmor bell yn ôl â 1351. Mae'n bosib, felly, i'r dref gael ei ho'r tŷ hwn. Gan nad oes yr un gallt i'w weld am rai milltiroedd, ac mae'n bosib y cyfeirir at 'motte' rhyw gaer a oedd yn arfer amddiffyn aber afon Clwyd. Cyfeirir at ddyn o'r enw 'Gronou del Hull' yn 1303 er enghraifft. Dywed Lewis yn ei 'Lewis's Topographical Dictionary' (argraffwyd yn 1833), '...previously to the year 1820, (Rhyl) consisted only of a few scattered dwellings.' Yn ei lyfr 'Wanderings and excursions in North Wales' gan Thomas Roscoe (1791-1871) a gyhoeddwyd yn 1836 dywed yr awdur: The place owes it's prosperity to its contiguity to Liverpool, from which town it is only distant three or four hours sail, - to its being the outlet of the Vale of Clwyd, and the northern point from which travellers start on their excursions to the beautiful scenery of Wales, and to its fine and extensive beach...

Yn 1801 roedd y boblogaeth yn 289 o drigolion a llai yn 1811: 252 o drigolion.

Roedd y Rhyl yn dechrau datblygu fel canolfan gwyliau glan môr ac roedd y llongau o Lerpwl yn angori ger traeth y Rhyl a byddai pysgotwyr lleol yn cludo'r teithwyr i'r lan. Erbyn 1831 roedd gwasanaeth llongau ager rheolaidd yn bodoli ac felly codwyd pier bychan yn y Foryd. Hwyliai 'gwasanaeth paced' rhwng Lerpwl a Rhuddlan. Byddai nwyddau fel grawn yn cael eu cludo hefyd, yn ogystal â theithwyr. Arhosodd y Foryd y brif ffordd i deithwyr o ogledd-orllewin Lloegr gyrraedd y Rhyl tan 1848 pan agorodd gorsaf reilffordd y Rhyl. Cofnodir i dros 30 o longau hwyliau gael eu hadeiladu yn y Foryd yn hanner cyntaf y 19g.

Fel yn achos nifer o drefi glan môr eraill yng Nghymru, tyfodd y Rhyl yn gyflym yn y 19g; gwestai preifat (megis y Royal Hotel a'r Mostyn Arms Hotel, y New Inn a'r Manchester Arms, y Belvoir a'r Family Hotel) a thai gwely a brecwast yw llawer o'r tai a godwyd yno erbyn heddiw. Ceir ambell enghraifft o bensaernïaeth briciau coch Fictoraidd o'r cyfnod hwnnw hefyd, er enghraifft Neuadd Frenhinol y Blodau, sy'n farchnad dan do heddiw, a Neuadd y Dref.

Mae'r Rhyl wedi dioddef dwy broblem fawr yn y degawdau diwethaf, sef methu cystadlu yn y farchnad gwyliau poblogaidd a'r mewnlifiad o bobl ddi-waith o drefi gogledd-orllewin Lloegr. Mae nifer o'r hen westai a'r tai teras yn fflatiau rhad erbyn hyn ac mae'r dref yn dioddef problemau cymdeithasol o'u herwydd.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Mae gorsaf drenau Rhyl ar orsaf Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. Mae nifer fawr o fysus lleol yn rhedeg yn y dref ei hun ac i'r trefi cyfagos.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Y Rhyl ym 1892, 1904, 1953 a 1985.




#Article 234: Eileen Beasley (511 words)


Ymgyrchydd hawliau iaith oedd Eileen Beasley (4 Ebrill 1921 – 12 Awst 2012). Gyda'i gŵr Trefor Beasley mae hi'n enwog am eu hymgyrch i fynnu papur treth Cymraeg (neu ddwyieithog) gan Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli yn ystod pumdegau'r ugeinfed ganrif. Yr adeg honno nid oedd statws i'r Gymraeg o gwbl: dim ffurflenni swyddogol gan gyrff cyhoeddus nac arwyddion ffyrdd dwyieithog. Mae Eileen Beasley wedi ei galw yn fam gweithredu uniongyrchol yng Nghymru ac yn Rosa Parks Cymru. Ysgrifennodd Angharad Tomos lyfr am ymgyrch Eileen sef 'Darn bach o bapur'

Un o ardal Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin oedd Catherine Eileen James. Aeth i Goleg Prifysgol Caerdydd a daeth yn athrawes. Glöwr ym Mhwll y Morlais Llangennech oedd Trefor. Fe wnaethant gwrdd yng nghyfarfodydd Plaid Cymru a daethant o dan ddylanwad D. J. Davies a'r WEA. Priododd y ddau ar 31 Gorffennaf 1951 a phrynu tŷ yn yr Allt, Llangennech ym 1952.

Ar ôl priodi a symud i Langennech y gwnaethant benderfynu y dylent wrthod talu'r dreth ar y tŷ oni chaent gais yn Gymraeg. Buont yn y llys 16 gwaith ac fe fu'r bwmbeilïaid yno bedair gwaith, gan fynd â mwyafrif eu dodrefn o'r tŷ ar rai achlysuron. Ar ôl wyth mlynedd o ymgyrchu fe gawsant eu papur treth dwyieithog ym 1960.

Nid yn unig roedd y Gymraeg yn anweledig fel iaith ar gyfer materion swyddogol yn y cyfnod hwn, roedd ymgyrchu mor uniongyrchol er mwyn defnyddio'r Gymraeg gyda'r wladwriaeth yn beth newydd ac yn gwbl anarferol. Meddai Dafydd Iwan:

Er mai Cymraeg oedd iaith gyntaf mwyafrif llethol pobl Llanelli (90%) ar y pryd, fel mwyafrif swyddogion Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli, y farn gyffredinol yn y dref yr adeg honno a gweddill Cymru, oedd bod y teulu yn afresymol yn eu gofynion. Roedd statws y Gymraeg yn isel tu hwnt, a'i siaradwyr cyffredin yn barod i amddiffyn lle'r Saesneg fel yr unig iaith swyddogol yng Nghymru.

Fodd bynnag, ysbrydolwyd rhai gan ymgyrch y Beasleys. Meddai Saunders Lewis yn anterth ei ddarlith enwog Tynged yr Iaith ym 1962, a fu'n ysbrydoliaeth i sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr un flwyddyn:

Roedd y gweithredu uniongyrchol torfol a welwyd gan aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y chwedegau (a'r degawdau dilynol) wedi'u hysbrydoli i raddau helaeth gan weithredu unig teulu'r Beasleys yn ystod y degawd blaenorol.

Ddechrau'r 60au bu Trefor yn annerch cyfarfod o gangen Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth o Blaid Cymru 

Drwy weithgarwch Plaid Cymru y bu iddynt gwrdd yn y lle cyntaf. Yn etholiad seneddol 1955 safodd Trefor Beasley dros Blaid Cymru yn etholaeth Aberdâr. Safodd y ddau dros ward Llangennech yn etholiad Cyngor Dosbarth Gwledig Llanelli a chafodd y ddau yr un faint o bleidleisiau, sef 913 a oedd yn ddigon i'w hethol. Ar y pryd nid oedd gan adeiladau'r cyngor dai bach i fenywod hyd yn oed.

Bu farw Trefor Beasley ym 1994. Bu farw Eileen Beasley yn 2012.

Ar achlysur (gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg) talu teyrnged i Eileen Beasley yn 2006, canodd Gerallt Lloyd Owen gywydd iddi yn moli ei chyfraniad i sicrhau parhad y Gymraeg:




#Article 235: Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542 (578 words)


Roedd Deddfau Uno 1536 a 1542, sy'n derm camarweiniol, yn ddwy ddeddf a basiwyd yn San Steffan i gorffori Cymru'n wleidyddol â theyrnas Lloegr yngyd â'i huno a'i chysylltu â hi, ac i ddileu'r iaith Gymraeg. Saesneg o hyn ymlaen oedd iaith swyddogol y gyfraith a gweinyddiaeth, a pharhaodd felly hyd at ddiwedd y 1960au.

Oherwydd cweryl Harri VIII gyda'r Pab, yr oedd yn ofni y byddai gwrthryfel yn dod o Ffrainc drwy Iwerddon ac yna Cymru, ac felly fe benderfynnodd y byddai rhaid uno Cymru â Lloegr. Cyfyngwyd ar ryddfreintiau yng Nghymru, Iwerddon, Lloegr a Calais. Mae hefyd yn debygol fod elw ariannol wrth wraidd y penderfyniadau hyn.

Roedd hefyd yn gweld yr iaith Gymraeg yn fygythiad, ac er fod 95% o bobl Cymru yn siarad Cymraeg yn unig, gwaharddwyd y Gymraeg o'r llysoedd a'i hamddifadu o statws swyddogol gan y Ddeddf.

Dienyddiwyd Rhys ap Gruffudd, sef ŵyr Rhys ap Thomas (1449–1525) yn 1531 gan adael chwerwder tuag at y Cymry. Fe'i cyhuddwyd ar gam o frad yn erbyn Harri ac fe'i dienyddiwyd fel rebel. Hyd hynny roedd Cyngor Cymru a'r Gororau wedi llwyddo i gadw rhywfaint o drefn drwy ddulliau mwy traddodiadol, dan arweiniad yr Rowland Lee.

Ymgais oedd Deddf 1563 i gysoni'r system gyfreithiol yn y ddwy wlad, drwy sefydlu egwyddorion ar gyfer gweinyddu cyfraith a chyfiawnder yng Nghymru yn yr un modd ag a wneir yn y deyrnas hon. Roedd yr ail ddeddf yn ddatblygiad o hyn a thrwy hynny daeth perthynas wleidyddol, gweinyddol a chyfreithiol y ddwy wlad yn nes.

Creodd Deddf 1536 bump o siroedd newydd: Sir Drefadwyn, Sir Ddinbych, Sir Faesyfed, Sir Frycheiniog a Sir Fynwy yn ychwanegol at y chwe sir oedd eisoes yn ffurfio 'tywysogaeth' Cymru: Sir Aberteifi, Sir Feirionnydd, Sir Fôn, Sir Gaerfyrddin, Sir Gaernarfon a Sir y Fflint a'r siroedd 'palatin' (neu'r 'Arglwyddiaethau') Penfro a Morgannwg a oedd eisoes yn rhan o'r Mers. Gwnaeth Deddf 1536 y Cymry'n ddinasyddion cydradd a'r Saeson. Mae hyn yn un o'r rhesymau pam y bu i Gymry dylanwadol yr oes groesawu'r Deddfau hyn. Yr hyn a wnaeth tad Harri, sef Harri Tudur oedd gwobrwyo rhai Cymry gan roi statws dinesydd cyflawn iddynt. Wedi'r Ddeddf hon, nid oedd angen hynny, gan fod pob un yn ddinesydd cyfartal. Er bod  Cyfraith Gyffredin Lloegr yn araf, dros ddwy ganrif, wedi disodli Cyfraith Hywel, hi, bellach, oedd cyfraith swyddogol Cymru.

Cyhoeddodd y Ddeddf y byddai un aelod seneddol yn cael ei benodi ym mhob sir yng Nghymru, gyda dau ym Mynwy. Rhoddwyd cynrychiolaeth seneddol i bob tref oddigerth i Harlech a ystyriwyd yn rhy dlawd i gynnal aelod! Roedd disgwyl i'r bwrdeistrefi hyn gynnal yr aelod seneddol yn ariannol. Rhoed yr hawl i bob dyn rhydd a oedd ag eiddo gwerth 40 swllt y flwyddyn bleidleisio; yn y bwrdeidrefi, roedd pleidlais gan bob rhyddfreiniwr. Creodd Ddeddf 1543 ynadon heddwch yng Nghymru gan ddod ag awdurdod cyfreithiol arglwyddi'r Mers i ben. Ac o gofio cysylltiad Harri Tudur (a'i ewyrth Siasbar) gyda Hwlffordd, rhoddwyd statws sir i'r dref. Roedd nifer yr aelodau seneddol o Gymru, felly, yn 27.

Nid etholwyd yr aelodau seneddol cyntaf Cymru tan 1542.

Sefydlwyd llys chwarter ym mhob sir gydag wyth ynad heddwch ym mhob llys. Newidiwyd rol Cyngor y Gororau i arolygu gwaith cyfreithiol yng Nghymru.

Trefnwyd deuddeg sir, drwy Deddf 1543, yn bedair cylchdaith; cysylltwyd Mynwy, fodd bynnag, gyda chylchdaith Rhydychen. Achosodd hyn gryn gamddealltwriaeth yn ddiweddarach ynghylch perthynas y sir â Chymru (gelwid hi ar adegau yn Wales and Monmouthshire).




#Article 236: Siocled (156 words)


Bwyd a wneir goco a siwgr yw siocled. Mae siocled yn frown fel arfer, ond mae rhai mathau o siocled yn felyn (gwyn) neu'n ddu. Po uchaf yw canran y coco, y gorau yw ansawdd y siocled.

Caiff siocled ei greu o gnau y goeden coco Theobroma cacao sydd yn hanu o goedwigoedd yr Amazon. Mae astudiaethau genetig yn awgrymu bod coed coco wedi cael eu tyfu gan bobl am bron i 3000 o flynyddoedd yn ne a chanolbarth America ac ymddengys y cawsant eu defnyddio i wneud diod. Mae'r enw 'siocled' yn tarddu o'r gair Aztec am y math hwn o ddiod, xocolātl, sydd yn golygu 'dŵr chwerw'. Heddiw mae bron i 3/4 o gynnyrch siocled y byd yn dod o Affrica, gyda hanner y cynnyrch hwn yn dod o Arfordir Ifori.

Mae llawer o bobl ym Mhrydain Fawr yn hoff iawn o siocled. Maent yn siocoholig, dywedir.  
Mae hi'n bosib yfed siocled poeth hefyd.




#Article 237: Aneirin (449 words)


Bardd a flodeuodd yn hanner olaf y 6g oedd Aneirin (c. 525 – 600), un o'r Cynfeirdd cynnar.  Mae'n debyg mai Neirin oedd ffurf gynharach ei enw, sy'n tarddu o'r gair Brythoneg tybiedig *naer sydd efallai'n gytras â'r gair Gwyddeleg nár (naill ai nobl neu wylaidd), yn ôl Ifor Williams. Ef yw awdur Y Gododdin, cyfres o englynion arwrol a gedwir yn Llyfr Aneirin. Mae'r enw personol Cymraeg Aneurin yn ffurf ddiweddarach ar yr enw 'Aneirin'.

Yn ôl Historia Brittonum (tua 830), testun Lladin a briodolir weithiau i Nennius, roedd Aneirin yn enwog am ei ganu yn yr Hen Ogledd (de'r Alban a gogledd Lloegr heddiw), ynghyd â'i gyfoeswr Taliesin a Chynfeirdd eraill:

Priodolir y gerdd arwrol hir Y Gododdin iddo. Mae'r testun cynharaf o'r gerdd honno ar glawr yn y llawysgrif Llyfr Aneirin (tua 1265), sy'n dechrau gyda'r datganiad Hwn yw e gododin. aneirin ae cant (Hwn yw Y Gododdin; Aneirin a'i canodd). Mae'r ffaith fod y gerdd yn coffhau arwyr hen deyrnas Manaw Gododdin, oedd a'i phrifddinas yng Nghaeredin, yn awgrymu bod Aneirin yn perthyn i'r ardal honno. Ceir cyfeiriad at farwolaeth Aneirin mewn pennill o'r Gododdin sy'n amlwg yn ychwanegiad diweddarach i'r testun:

er pan aeth daear ar aneirin. / nu neut ysgaras nat a gododdin.
(Er pan roddwyd daear ar Aneirin / mae Barddoniaeth wedi gadael y Gododdin).

Yn yr un pennill cyfeirir at 'Guarchan mab dwywei' (Cân mab Dwywei) ac awgryma'r cyd-destun fod hyn yn cyfeirio at Aneirin. Yn yr hen achau Cymreig mae Dwywei yn chwaer i Gwallog mab Llëenog (brenin Elmet, efallai); awgryma Ifor Williams fod Aneirin yn nai Gwallog ac felly'n frawd i Ddeiniol Sant. Mae cyfeiriad arall yn y Gododdin yn cyplysu Aneirin â Thaliesin:

Mi na vi aneirin
ys gwyr talyessin
ovec kywrenhin
neu chein(t) e ododin.

O'r Awen daw y Gododdin yn hytrach nag o Aneirin ei hun (Fi-nid fi, Aneirin - mae Taliesin nerthol ei ysbrydoliaeth yn gwybod hyn - fe genais i'r Gododdin).

Coffheir Aneirin yn Trioedd Ynys Prydain fel Aneirin Gwawdrydd Mechdeyrn Beirdd, sef Aneirin Rhwydd-ei-farddoni, Brenin y Beirdd (Triawd 33, 34). Mae testun Triawd 33 yn llwgr, ond yn Triawd 34 dywedir bod Aneirin wedi cael ei ladd gan Heiddyn â bwyall: Bvyallavt Eidyn ym pen Aneiryn yw un o Teir Anvat Vwyallavt Enys Prydein (Tri Thrawiad Bwyall Anffodus Ynys Prydain). Yn y gerdd Anrec Uryen (13g efallai) ceir fformiwla cyffelyb i'r hwnnw yn y Trioedd: Aneirin gwawdryd awenyd.

Ceir sawl cyfeiriad ato hefyd yng ngwaith Beirdd y Tywysogion, e.e. Dafydd Benfras sy'n dymuno bendith yr Awen

I ganu moliant mal Aneirin gynt,
Dydd y cant Ododin.

Serch hynny mae'r cyfeiradau ato yn gymharol brin mewn cymhariaeth â'r rhai niferus at Daliesin a Myrddin.




#Article 238: Dibenblwydd (105 words)


Diwrnod pan nad ydy penblwydd ydy dibenblwydd (o'r Saesneg nbirthday). Bathwyd y term gan Lewis Carroll yn Through the Looking Glass. Yn y ffilm animeiddiad Alice in Wonderland a wnaed yn 1951 gan Disney, cafwyd cân gyfan ar hyn, sef The Unbirthday Song.

Yn Through the Looking-Glass, mae Humpty Dumpty yn gwisgo crafát (y mae Alice ar y dechrau yn ei gamgymryd am wregys) y dywed iddo ei gael yn anrheg heb ben-blwydd gan y Brenin Gwyn a'r Frenhines Wen. Yna mae'n gofyn i Alice gyfrifo nifer y pen-blwyddi mewn blwyddyn.

Mae'r tabl hwn yn dangos y nifer o benblwyddi a dibenblwyddi yn y flwyddyn:




#Article 239: 1777 (105 words)


Blwyddyn gyffredin (hynny yw, nid blwyddyn naid) a ddechreuodd ar Ddydd Mercher yng nghalendr Gregori ac ar Ddydd Sul yng nghalendr Iŵl oedd 1777 (ynganer: mil-saith-saith-saith neu un-saith-saith-saith; rhifolion Rhufeinig: MDCCLXXVII). Hon oedd y seithfed flwyddyn ar ddeg a thrigain wedi'r fil a saith gant (1777fed) yn ôl trefn Oed Crist, y seithfed flwyddyn ar ddeg a thrigain wedi'r saith gant (777fed) yn yr 2il fileniwm, y seithfed flwyddyn ar ddeg a thrigain (77fed) yn y 18g, a'r wythfed flwyddyn yn negawd y 1770au. Ar gychwyn 1777, mi oedd calendr Gregori 11 diwrnod o flaen calendr Iŵl.

Enw difyr arni yw blwyddyn y tair caib.




#Article 240: Siôr V, brenin y Deyrnas Unedig (102 words)


Siôr V (George Frederick Ernest Albert; 3 Mehefin 1865 - 20 Ionawr 1936) oedd Tywysog Cymru o 1901 hyd 1910, a brenin y Deyrnas Unedig o 6 Mai 1910 hyd 1936.

Cafodd Siôr ei eni yn Ty Marlborough, Llundain, yr ail fab y Tywysog Cymru (wedyn Edward VII, brenin y Deyrnas Unedig) a'i wraig, Alexandra o Denmarc. Ei frawd hŷn, Tywysog Albert Victor, oedd etifedd eu tad; ond bu farw Albert Victor cyn ei dad.

Gwraig Siôr V oedd Mair o Teck, a oedd wedi bod yn ymladd ei frawd. Priododd Mair ar 6 Gorffennaf 1893 mewn Gapel Frenhinol, Palas Sant Iago.




#Article 241: Sweden (293 words)


Un o wledydd Llychlyn, yng ngogledd Ewrop, yw Teyrnas Sweden neu Sweden (Swedeg, Sverige).  Er ei bod yn un o wledydd mwyaf Ewrop o ran arwynebedd, yn mesur 450,000 cilometr sgwâr, mae'r boblogaeth yn gymharol isel ac wedi ei chrynhoi yn y trefi a'r dinasoedd ar y cyfan. Stockholm yw'r brifddinas.

Sweden yw'r fwyaf o wledydd Llychlyn yng ngogledd-orllewin Ewrop. Mae'n ffinio ar Norwy yn y gorllewin ac ar y Ffindir yn y dwyrain. Yn y de-orllewin, mae culforoedd y Kattegat a'r Skagerrak yn ei gwahanu oddi wrth Denmarc.

Mae llawer o dde a dwyrain Sweden yn dir cymharol isel, ond mae'r gorllewin yn fynyddig, yn enwedig o gwmpas y ffîn â Norwy. Y copa uchaf yw Kebnekaise, 2,111 medr uwch lefel y môr. Gorchuddir tua 78% o'r wlad gan fforestydd, ac mae gan y wlad tua 95,700 o lynnoedd; y mwyaf o'r rhain yw Llyn Vänern a Llyn Vättern. Llyn Vänern yw'r trydydd fwyaf yn Ewrop. Mae gan Sweden nifer o ynysoedd; y ddwy fwyaf yw Gotland ac Öland yn y Môr Baltig.

Dinasoedd a threfi mwyaf Sweden yw:

Cododd Sweden gyfoes o'r Undeb Kalmar a ffurfiwyd yn 1397 ac o uno'r wlad gan y brenin Gustav Vasa yn yr 16g. Yn yr 17fed ganrif, ymledaenodd Sweden ei thiriogaethau i ffurfio'r Ymerodraeth Swedaidd. Yn y 18g, bu rhaid i Sweden ildio'r rhan fwyaf o'r tiriogaethau yr  oedd wedi eu goresgyn. Collwyd y Ffindir a'r tiriogaethau a oedd yn weddill tu allan i benrhyn Llychlyn yn gynnar yn y 19g. Yn dilyn diwedd y rhyfel olaf rhyngddynt yn 1814, daeth Sweden yn rhan o undeb gyda Norwy a barhaodd hyd 1905. Ers 1814, mae Sweden wedi bod yn wlad heddychlon gan fabwysiadu bolisi tramor o niwtraliaeth yn ystod cyfnodau o heddwch a rhyfel.




#Article 242: Kate Roberts (334 words)


Roedd Kate Roberts (13 Chwefror 1891 – 4 Ebrill 1985) yn llenor enwog yn y Gymraeg. Fe'i ganed ym mhentref Rhosgadfan, yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd) a bu farw yn Ninbych. Gelwir Kate Roberts yn Frenhines y stori fer.

Kate Roberts oedd plentyn cyntaf Owen a Catrin Roberts. Roedd ei thad yn chwarelwr. Roedd ganddi hi ddwy hanner-chwaer a dau hanner-brawd hŷn o briodasau cyntaf ei rhieni (John Evan, Mary, Jane ac Owen) a thri brawd iau (Richard, Evan a David). Ganed hi yn y bwthyn teuluol Cae'r Gors, yn Rhosgadfan ar lethrau Moel Tryfan. Yn ddiweddarach byddai'r bywyd yng Nghae'r Gors a'r pentref yn gefndir hollbwysig yn ei gwaith llenyddol cynnar. Mae ei chyfrol hunangofiannol Y Lôn Wen yn bortread cofiadwy o'r ardal yn y cyfnod hwnnw. Prynodd Roberts  yn 1965 a'i gyflwyno i'r genedl, ond nid oedd digon o arian i'w adfer ar y pryd. Nis adferwyd tan 2005 ar ôl brwydr hir i'w ariannu, ac mae erbyn hyn o dan ofal Cadw ac yn amgueddfa i'r awdures.

Aeth hi i Ysgol y Cyngor, Rhosgadfan (1895–1904) ac wedyn i Ysgol Sir Caernarfon (1904–10). Astudiodd Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor rhwng 1910 a 1913 o dan John Morris-Jones ac Ifor Williams. Bu'n athrawes yn Ysgol Elfennol Dolbadarn (1913–14), Ysgol Sir Ystalyfera, De Cymru (1915–17) a Ysgol Sir y Genethod, Aberdâr (1917–28).

Priododd Kate Roberts a Morris T. Williams (g. 1900), argraffydd, yn 1928. Gyda'i gilydd, roeddent yn rhedeg Gwasg Gee yn Ninbych. Bu ei gŵr farw ym 1946, a bu'n rhedeg Gwasg Gee am 10 mlynedd ar ei phen ei hun. Yn ei lyfr, Kate: Cofiant Kate Roberts 1891-1985, awgryma Alan Llwyd fod gan Roberts dueddiadau hoyw.

Yn ei blynyddoedd cynnar fel llenor ysgrifennai nofelau a storïau byrion am dlodi a chaledi ardal y chwareli yng ngogledd Cymru. Yn ddiweddarach, ar ôl symud i Ddinbych a phriodi, troes at ysgrifennu nofelau a straeon mwy seicolegol gydag unigrwydd yn thema amlwg ynddynt. Cyfieithwyd rhai o'u gweithiau i'r Saesneg ac i ieithoedd eraill.




#Article 243: Estonia (467 words)


Gwlad yng ngogledd-ddwyrain Ewrop yw Gweriniaeth Estonia neu Estonia (Estoneg: Eesti). Mae Estonia yn ffinio â Latfia i'r de, â Llyn Peipus ac â Rwsia i'r dwyrain. Gwahanir y wlad oddi wrth y Ffindir gan Gwlff y Ffindir i'r gogledd ac oddi wrth Sweden gan y Môr Llychlyn i'r gorllewin. Un o'r Gwledydd Baltig yw Estonia, ynghyd â Latfia a Lithwania.

Mae Estonia wedi bod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd ers 1 Mai 2004 ac o Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (SCGI) ers 29 Mawrth 2004.

Iaith Wralaidd yw'r Estoneg, sy'n rhannu llawer o nodweddion â Ffinneg a'r ieithoedd Saamaidd, ac sy'n perthyn o bell i Hwngareg.

Credir bod enw modern Estonia yn tarddu o'r hanesydd Rhufeinig Tacitus, a ddisgrifiodd yn ei lyfr Germania bobl a alwyd yn Aestii. Yn gyffelyb, mae sagâu hynafol Sgandinafaidd yn cyfeirio at wlad o'r enw Eistland. Mewn ffynonellau Lladinaidd a ffynonellau cynnar eraill, galwyd y wlad yn Estia neu Hestia.

Mae tiriogaeth Estonia yn cynnwys 2,222 o ynysoedd yn y Mor Baltig yn ogystal â'r tir mawr, a mae cyfanswm ei harwynebedd yn 45,339 cilomedr sgwar (17,505 milltir sgwar).

Mae pobl wedi byw yn nhiriogaeth Estonia ers o leiaf 6,500 o flynyddoedd. Dros y canrifoedd, fe reolwyd rhannau o'r wlad gan farchogion Ellmynaidd, Denmarc, Sweden, Pwyl-Lithwania a Rwsia yn eu tro. Bu deffroad cenedlaethol yn Estonia yn y 19g ac arweiniodd hynny at sicrhau annbyniaeth oddi wrth ymerodraeth Rwsia yn 1918.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Estonia ei meddiannu gan yr Undeb Sofietaidd yn 1940, ac yna yr Almaen Naziaidd y flwyddyn ganlynol, hyd nes iddi gael ei hadfeddiannu gan yr Undeb Sofietaidd yn 1944 a hynny fel y Weriniaieth Sofiet Sosialaidd Estonaidd.

Adennillodd Estonia ei hannibyniaeth ar 20 Awst 1991. Mae bellach yn weriniaeth seneddol unedol ddemocrataidd sydd wedi'i rhannu yn bymtheg sir. Y brifddinas, a'r ddinas fwyaf, yw Tallinn. Gyda phoblogaeth o 1.3 miliwn, Estonia yw un o aelod-wladwriaethau lleiaf poblog yr Undeb Ewropeaidd a dim ond yr Islandeg sy'n iaith lai ei siaradwyr a ddefnyddir i redeg gwladwriaeth gyfan.

Mae Estonia yn wlad ddatblygiedig gydag economi flaengar, incwm uchel sydd ymhlith y rhai sy'n tyfu gyflymaf yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ei Mynegai Datblygiad Dynol yn uchel iawn ac mae'n perfformio'n uchel iawn ar fesuriadau rhyddid economaidd, rhyddfreiniau a rhyddid y wasg. Roedd prawf PISA 2015 yn gosod ysgolion uwchradd Estonia yn drydydd yn y byd, ar ol Singapôr a Japan. Mae dinasyddion Estonia yn derbyn gwasanaeth iechyd, addysg am ddim, a'r cyfnod mamolaeth hiraf gyda thâl yn yr OECD. Ers iddi gael ei hannibyniaeth, mae'r wlad wedi datblygu ei sector technoleg gwybodaeth yn gyflym, gan ddod yn un o gymdeithasau digidol mwyaf blaengar y byd. Yn 2005 Estonia oedd y genedl gyntaf i gynnal etholiadau ar y rhyngrwyd, ac yn 2014 y genedl gyntaf i ddarparu E-breswyliad.




#Article 244: Poblogaeth (125 words)


Poblogaeth yw'r nifer o bobl sy'n byw mewn man penodol megis  gwlad, tref neu ardal. Ceir poblogaeth fawr lle mae adnoddau da, ac ond ychydig o bobl mewn ardal heb lawer o adnoddau. Er enghraifft, all pobl ddim byw yng nghanol y Sahara neu Antarctica.

Gall poblogaeth gynyddu pan fo mwy o bobl yn mewnfudo i rywle nag sydd yn allfudo. Gall hefyd gynyddu oherwydd twf naturiol, sef bod mwy yn cael eu geni nag sydd yn marw, ac fel arall wrth gwrs.

Mae poblogaeth y byd yn tyfu'n gyflym iawn.

Yn 1770 roedd tua hanner miliwn yn byw yng Nghymru. Erbyn 1850 roedd wedi dyblu i dros filiwn. Roedd wedi mwy na dyblu eto erbyn 1914 gyda 2,523,500 o bobl yn byw yng Nghymru




#Article 245: Angharad Tomos (246 words)


Awdures ac ymgyrchydd o Gymraes yw Angharad Tomos (ganed 19 Gorffennaf 1958).

Fe'i ganed ym Mangor, Gwynedd ym 1958, a chafodd ei magu yn un o bum chwaer yn Llanwnda ger Caernarfon. Mynychodd Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Cychwynodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ond bu iddi adael er mwyn gweithio i Gymdeithas yr Iaith. Cafodd radd ym Mhrifysgol Cymru, Bangor yn ddiweddarach.

Mae'n ymgyrchydd iaith digyfaddawd, yn llenor disglair, ac wedi gwneud cyfraniad enfawr gyda'i llyfrau i blant. Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith. Enillodd goron Eisteddfod yr Urdd â'i chyfrol Hen Fyd Hurt ym 1982.

Mae hi'n ysgrifennu a darlunio llyfrau i blant, gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a leolir yng Ngwlad y Rwla. Rala Rwdins oedd y gyfrol gyntaf yn y gyfres hon, cyhoeddwyd gan Y Lolfa ym 1983.

Ym 1985 derbyniodd wobr yr Academi Gymreig am ei nofel Yma o Hyd sydd am fywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohnno fel ymgyrchydd iaith. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym 1991 ac ym 1997, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith yn ogystal, ym 1986 ac 1994

Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at llenyddiaeth plant yng Nghymru.

Mae hi'n briod â Ben Gregory ac yn byw ym Mhen-y-Groes, Gwynedd.

Mae Tomos yn ymgyrchydd sydd wedi cefnogi sawl achos. Yn ogystal ag ymgyrchoedd dros y Gymraeg mae hi wedi gweithredu dros heddwch a gwrth-ryfelac yn erbyn cerflun Henry Morton Stanley yn Ninbych




#Article 246: Evan James (189 words)


Awdur Hen Wlad fy Nhadau, anthem genedlaethol Cymru, oedd Evan James  o Bontypridd (Ieuan ap Iago; 1809 – 30 Medi 1878).  Ei fab, James James, oedd y cyfansoddwr.

Gwëydd oedd James wrth ei waith a roedd yn cyflogi sawl gweithiwr yn ei felin ar lan Afon Rhondda. Roedd hefyd yn berchen Tafarn yr Ancient Druid yn Argoed, Bedwellte, Sir Fynwy

Yn ôl chwedl deuluol, roedd ei fab James James yn cerdded un diwrnod ar lan yr afon pan ddaeth alaw Hen Wlad fy Nhadau i'w feddwl. Pan roddodd yr alaw i'w dad, cyfansoddodd Evan James y geiriau a ddaeth i fod yn anthem cenedlaethol Cymru. Mae'n debyg fod Evan wedi ei ysbrydoli gan y ffaith fod dau o'i frodyr wedi ymfudo i'r Unol Daleithiau ac wedi ysgrifennu yn canmol eu gwlad mabwysiedig a'i annog i ymuno â nhw.

Mae cofeb i Evan James a'i fab, ar ffurf dau ffigwr yn cynrychioli Barddoniaeth a Cherddoriaeth, yn sefyll ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd. Dangosir wyneb Evan nesaf at ei dad, ond mae'n ymddangos yn ifancach am fod y ffotograffau oedd ar gael i'r cerflunydd, Goscombe John, wedi eu cymryd blynyddoedd ar wahan.




#Article 247: Japan (455 words)


Mae Japan (Japaneg: 日本 Nihon; Nippon neu Nihon-koku; hefyd yn Gymraeg, Siapan) yn wlad sy'n cynnwys 6,852 o ynysoedd yn nwyrain Asia; y 4 fwyaf yw Honshu, Hokkaido, Kyushu, a Shikoku. Fe'i hamgylchynnir gan y Cefnfor Tawel (Taiheiyō), Setonaikai a Môr Japan (Nihonkai). Gorwedda i'r de-ddwyrain o Rwsia, i'r dwyrain o Tsieina a Chorea ac i'r gogledd-ddwyrain o ynys Taiwan.

Ecsonym yw'r gair Japan a ddatblygodd trwy lwybrau masnach cynnar, yn debygol iawn o ynganiad Tseiniaidd Wu neu Mandarin cynnar o'r gair gwreiddiol Japaneg. Yr enw Japaneg ar y wlad yw Nihon, neu yn llai aml defnyddir yr hen enw Nippon. Mae gan y ddau enw yr un ystyr sef tarddiad yr haul, a chaiff y ddau eu hysgrifennu gan ddefnyddio'r ddau kanji 日本. Ystyr y kanji cyntaf 日 (Ni-) yw dydd neu haul; ystyr yr ail 本 (-hon) yw gwraidd, tarddiad neu lyfr.

Prifddinas Japan yw Tokyo (Tōkyō), canolbwynt wleidyddol ac economaidd y wlad. Ger Tokyo, mae dinas fawr Yokohama ynghyd â rhannau helaeth o daleithiau cyfagos yn ffurfio Ardal Tokyo Fwyaf, un o ardaloedd dinesig mwyaf poblog y byd gyda phoblogaeth o tua 36 miliwn yn 2010 

Mae cerddoriaeth Japan yn amrywiol iawn, ac yn adlewyrchu'r hen a'r newydd; ceir llawer o hen offerynau fel y koto sy'n mynd yn ôl i'r 9fed a'r 10g. Mae canu gwerin yn mynd nol i'r 17fed canrif. Dau o'u cyfansoddwr modern gora nhw yw Toru Takemitsu a Rentarō Taki. Ers yr Ail Ryfel Byd mae cerddoriaeth America ac Ewrop wedi dylanwadu'n fawr ac mae carioci'n bwysig iawn ganddynt.

Yn 2009 Japan oedd ail economi fwyaf y byd ar ôl yr Unol Daleithiau. Mae bancio, yswiriant, eiddo diriaethol, masnach, trafnidiaeth, telathrebu ac adeiladwaith i gyd yn ddiwydiannau mawr. Mae gan Japan gynhwysedd sylweddol i gynhyrchu ar raddfa fawr, ac mae'n gartref i nifer o ddatblygiadau a newyddbethau technogol yn y meysydd moduro, electroneg, offer peiriannau, haearn a metelau anfferrus, llongau, sylweddau cemegol, tecstiliau a bwyd wedi eu prosesu.

Mae'r sector gwasanaethau yn cyfri fel dros dri chwarter o'i CMC, llawer mwy nac amaethyddiaeth a gwneuthuriaeth. Gan fod prinder o adnoddau yn y wlad, mae'n rhaid mewnforio deunyddiau crai a mwynau fel olew a haearn. Mae'r wlad yn allforio cynhyrchion technologol, er enghraifft, ceir neu gynhyrchion trydanol a chemegol.

Mae mwyafrif y bobl yn Japaneaid, a'r iaith swyddogol yw Japaneg.

Yng ngogledd y wlad mae grŵp o bobl a elwir yr Ainu yn byw. Pobl wreiddiol ardal gogledd-ddwyrain Siapan. Mae mwyafrif y tramorwyr sy'n byw yn Siapan yn dod o Frasil a Korea.

Mae 47 talaith (Saesneg: Prefecture) yn ffurffio Japan, pob un â llywodraethwr etholedig ynghyd â deddfwrfa a biwrocratiaeth weinyddol. Mae taleithiau yn cyfuno i greu rhanbarth ac yn is-rannu i greu dinasoedd, trefi a phentrefi.




#Article 248: James Cook (307 words)


Fforiwr Seisnig oedd Capten James Cook (27 Hydref 1728 – 14 Chwefror 1779). Ganwyd ym Marton, Cleveland, Lloegr. Teithiodd o gwmpas y byd dair gwaith, er mwyn darganfod tiroedd newydd. Fe luniodd fapiau manwl, er enghraifft o arfordiroedd ynysoedd y Môr Tawel, Awstralia, Seland Newydd a Gogledd America.

Roedd y fordaith gyntaf (1768-1771) yn yr HM Bark Endeavour i Dahiti er mwyn gwylio'r blaned Gwener yn symud o flaen yr haul. Ond doedd hi ddim yn bosibl cael canlyniadau cywir gyda'r offer seryddol ar y pryd. Ar ôl gwylio Gwener, aeth Cook i chwilio am Terra Australis, arfordir cyfiniol y Môr Tawel, ac i fapio arfordiroedd Seland Newydd ac Awstralia.

Roedd yr ail fordaith (1772-1775) ar HMS Resolution ac HMS Adventure; roedd yn daith arall i ddod o hyd i Terra Australis a'r cynnig cyntaf i long o Ewrop hwylio i Fôr Antarctica. Ar y daith hon profodd Cook nad oedd Terra Australis yn bodoli, ond darganfu lawer o ynysoedd.

Roedd y drydedd fordaith (1776-1779) ar y llongau HMS Resolution ac HMS Endeavour, i chwilio am lwybr môr o'r Môr Iwerydd i'r Môr Tawel o gwmpas gogledd Canada, sef y 'Tramwyfa gogledd-orllewin'. Ar ôl gwneud mapiau o arfordir gorllewin America, bu'n rhaid iddo droi yn ôl i Hawaii, lle cafodd ei ladd gan brodorion yr ynys ar ôl brwydro i gael yn ôl cwch a oedd wedi'i ddwyn. Roedd y Cymro David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar drydedd fordaith y Capten Cook. Roedd yn fab i'r llenor Edward Samuel, gŵr o Benmorfa yn Edeirnion, a fu'n berson Llangar o 1721 tan 1748. Cadwodd ddyddiadur am y fordaith a chyhoeddodd y llyfr A Narrative of the Death of Captain James Cook yn 1786.

Mae Cook yn adnabyddus am ei sgiliau gwneud mapiau, am fod yn lwyddiannus wrth atal afiechydion morwyr, ac wrth ddatblygu dulliau mordwyo newydd.




#Article 249: Wilhelmus van Nassouwe (234 words)


Wilhelmus van Nassouwe (Gwilym o Nassau) (neu yn fyr Het Wilhelmus -- Y Gwilym) yw anthem genedlaethol yr Iseldiroedd ers 10 Mai 1932. Cafodd geiriau'r gân eu hysgrifennu rhwng 1568 a 1572 i anrhydeddu Gwilym o Orange (neu Nassau), arweinydd yr Iseldiroedd yn erbyn Sbaen yn y Rhyfel Pedwar Ugain Mlynedd (1568-1648). Felly, hon yw anthem genedlaethol hynaf y byd.

Yn wreiddiol roedd yr anthem yn cynnwys pymtheg o bennillion, gyda llythyren gyntaf pob pennill yn sillafu Willem van Nassav, ond heddiw dim ond y pennill cyntaf, ac weithiau y chweched pennill, sydd yn gael ei ganu.

Wilhelmus van Nassouwe
Ben ik van Duitsen bloed 
Den vaderland getrouwe
Blijf ik tot in de dood
Een Prins van Oranje
Ben ik vrij onverveerd
Den Koning van Hispanje
Heb ik altijd geeërd

Mijn schild ende betrouwen
zijt Gij, o God mijn Heer
op U zo wil ik bouwen
Verlaat mij nimmermeer
Dat ik doch vroom mag blijven
uw dienaar t'aller stond
de tirannie verdrijven
die mij mijn hart doorwondt

Gwilym o Nassau
Ydwyf i, o gwaed Iseldireg *
Gwir i'r mamwlad
Fyddaf i tan fy marwolaeth
Tywysog Orange
Ydwyf i, rhydd a di-ofn
Y Brenin o Sbaen
Rydwyf wedi anrhydeddi o hyd.

Fy nharian a ffyddlondeb
Wyt Ti, o Duw fy Arglwydd
Ar Ti adeiladaf
Byth gadael fi
Felly fyddai'n dal yn duwiol
Dy wâs am pob amser
Gwrthyrru'r gormes
Sy'n gwanu fi yn fy nghalon.




#Article 250: T. E. Lawrence (1194 words)


Milwr, archaeolegydd, ac awdur oedd y Cyrnol Thomas Edward Lawrence, CB, DSO (16 Awst 1888 – 19 Mai 1935) a wasanaethodd yn y Fyddin Brydeinig. Mae'n adnabyddus  fel Lawrence o Arabia oherwydd ei ran yng ngwrthryfel yr Arabiaid yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Hanai hynafiaid Lawrence o Loegr ac Iwerddon, ond fe'i ganed mewn tŷ mawr o gerrig llwyd o'r enw Gorphwysfa (a newidiwyd yn ddiweddarach yn Snowdon Lodge) yn Nhremadog, Gwynedd. Syr Thomas Robert Tighe Chapman, barwnig Eingl-Wyddelig, oedd ei dad a Sarah Lawrence, Albanes ac athrawes Syr Thomas oedd ei fam. Astudiodd archaeoleg yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, lle cafodd radd dosbarth cyntaf. Ar ôl gorffen ei astudiaethau aeth i Arabia i weithio fel archaeolegydd ac astudio Arabeg.

Unwaith i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau yn Awst 1914, ymunodd Lawrence ag adran ddaearyddol y Swyddfa Rhyfel yn Llundain, ac anfonwyd i'r Dwyrain Canol fel rhan o adran gudd-wybodaeth y Fyddin Brydeinig yng Nghairo, yr Aifft. Lansiwyd y Gwrthryfel Arabaidd gan Hussein bin Ali, Sharif Mecca, a'i meibion Ali, Abdullah, Faisal a Zeid, ym Mehefin 1916. Aeth Lawrence i Arabia ym mis Hydref i sylwi ar y Gwrthryfel, a daeth yn gynghorwr i Feisal. Bwriadodd Lawrence a Feisal i symud lluoedd Feisal i ogledd y Hejaz. Nod bersonol Lawrence oedd i ennill annibyniaeth i'r Arabiaid wedi diwedd y rhyfel, a daeth Lawrence yn arweinydd a strategydd herwfilwrol iddynt. Targedwyd Rheilffordd Hejaz gan yr Arabiaid, gan dorri cyflenwadau'r Tyrciaid.

Cipiodd lluoedd Feisal borth Aqaba yng Ngorffennaf 1917, gyda chymorth arweinyddiaeth Lawrence, a llwyddodd Lawrence i berswadio'r Cadfridog Syr Edmund Allenby o bwysigrwydd y Gwrthryfel Arabaidd i ymgyrch Prydain yn y Dwyrain Canol yn erbyn yr Otomaniaid/Tyrciaid.

O ganlyniad i lwyddiant yr Arabiaid wrth dynnu sylw ac adnoddau'r Tyrciaid trwy ddifrodi Rheilffordd Hejaz, roedd Lawrence yn benderfynol o dargedu rheilffyrdd y tu ôl i gefn y gelyn, tua'r gogledd. Gadawodd Lawrence Aqaba ar 24 Hydref 1917, gyda chriw o Arabiaid, â'r bwriad o deinameitio'r bont yn Yarmuk gan dorri'r rheilffordd rhwng Deraa ac Haifa. Methodd y cyrch hwn pan ollyngodd un Arab ei wn, gan atseinio o amgylch y ceunant a thynnu sylw'r gwarchodwyr Tyrcaidd. Wedi iddynt ddianc, ffrwydrodd Lawrence drên ar ran ogleddol Rheilffordd Hejaz. Cafodd Lawrence ei anafu gan filwyr Tyrcaidd, ond unwaith eto llwyddodd i ddianc gan fynd i Azrak â'i griw o gerilas.

Yna, ym mis Tachwedd 1917, bu un o'r digwyddiadau mwyaf ddrwg-enwog ym mywyd Lawrence. Yn ôl Lawrence yn Seven Pillars of Wisdom, aeth ar ymweliad cudd o Azrak i Deraa mewn gwisg Arabaidd. Cafodd ei gamadnabod gan y Tyrciaid yn Deraa am enciliwr o'r Fyddin Otomanaidd, ond honnodd Lawrence yr oedd yn Gircasiad mewn ymgais i egluro lliw ei groen a'i lygaid. Cafodd ei gymryd i'r Bey lleol, oedd yn dymuno cael rhyw â Lawrence. Gwrthododd, a chafodd ei guro gan y gwarchodwyr a'i dreisio.

Yn ôl aelodau staff Syr Ronald Storrs, roedd Lawrence wedi newid ar ôl iddo ddychwelyd o Deraa. Yn ôl bywgraffiad gan y seiciatrydd John E. Mack, cafodd brofiad Lawrence yn Deraa effaith sylweddol ar ei gyflwr seicolegol. Ond yn ôl bywgraffwyr eraill, nid oedd Lawrence yn dweud yr holl wir, ac mae'n bosib ni aeth Lawrence o Azrak i Deraa o gwbl. Yn ôl Adrian Greaves, dywedodd Lawrence i'w gyfaill George Bernard Shaw nad oedd y stori am Deraa yn wir. Mae ysgolheigion eraill wedi nodi anghysondebau rhwng dyddiadur Lawrence â'i hanes yn Seven Pillars. Hyd heddiw, dadleuol yw gwirionedd y digwyddiad.

Wedi buddugoliaeth y Cynghreiriaid ym Mrwydr Megiddo, symudodd Ymgyrch Sinai a Phalesteina yn agosach at Damascus. Ar 30 Medi daeth reolaeth y Tyrciaid dros y ddinas i ben, a threchodd Prydain y fyddin Dyrcaidd olaf ar y ffordd i Damascus. Codwyd y faner Arabaidd dros neuadd y dref a phenododd y llywodraethwr Tyrcaidd, Djemal Pasha, uchelwr Arabaidd lleol o'r enw Mohammed Said i'w olynu.

Y 3edd Frigâd Geffylod Ysgafn Awstraliaidd oedd lluoedd cyntaf y Cynghreiriaid i mewn i'r ddinas ar doriad gwawr 1 Hydref 1918. Awr yn hwyrach dilynodd rhagor o farchfilwyr Awstraliaidd ac ildiodd y garsiwn Dyrcaidd. Lawrence a'r Arabiaid oedd y drydedd fintai yn Damascus y bore hwnnw. Gorchmynnodd hwy i gyngor Said wneud lle am lywodraethwr ffyddlon i'r Arabiaid, ond collodd y weinyddiaeth newydd hon reolaeth ar y ddinas o fewn ychydig o ddiwrnodau o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth leol.

Mynychodd Cynhadledd Heddwch Paris 1919 mewn gwisg Arabaidd, gan siarad yn erbyn creu mandad Ffrengig o Syria a Libanus. Ym mis Mawrth 1921 dychwelodd i'r Dwyrain Canol i gynghori gweinidog y trefedigaethau, Winston Churchill, ar faterion Arabaidd. Unwaith i drafodaethau dod i ben yng Nghairo gwrthododd Lawrence i ddal unrhyw swydd arall yn y llywodraeth.

Ymunodd Lawrence â'r Awyrlu Brenhinol dan yr enw John Hume Ross ar 28 Awst 1922. Ar 27 Rhagfyr y flwyddyn honno datgelodd y Daily Express taw Lawrence o Arabia oedd John Hume Ross, gan godi cywilydd braidd ar yr Awyrlu, a chafodd Lawrence ei ryddhau y mis nesaf. Ymunodd â'r Gatrawd Danc Frenhinol ar 12 Mawrth 1923 fel Preifat T. E. Shaw (mabwysiadodd yr enw hwnnw yn gyfreithiol ym 1927). Cafodd ei ddanfon i Wersyll Bovington yn Dorset ac yno prynodd y bwthyn Clouds Hill, a ddaeth yn gartref iddo am weddill ei oes. Yno bu'n trefnu ei waith llenyddol i'w gyhoeddi. Yn hwyrach, gadawodd Lawrence y Gatrawd Danc Frenhinol ac ail-ymunodd â'r Awyrlu Brenhinol. Ni chafodd ganiatâd i hedfan, ond gweithiodd mewn canolfannau ar draws y wlad, ger Môr Udd a Môr y Gogledd, yn dylunio badau tra-chyflym i dendio awyrennau, a'u profi a chreu llawlyfr technegol ar eu cyfer.

Anafwyd Lawrence mewn damwain ffordd ar ei feic modur Brough Superior SS100 ger ei fwthyn Clouds Hill yn Dorset, de Lloegr, ar 13 Mai 1935. Oherwydd pant yn y ffordd, ni welodd dau fachgen ar eu beiciau, a phan gwyrodd i'w osgoi nhw fe daflwyd Lawrence o'i feic. Bu farw chwe niwrnod yn ddiweddarach ar 19 Mai 1935. Claddwyd ym Mynwent Moreton ar 21 Mai. Danfonwyd trenau ychwanegol o Lundain i orsaf reilffordd Moreton ar gyfer yr holl bobl oedd yn dymuno mynychu'r angladd. Yn eu plith roedd Syr Winston Churchill, yr Arglwyddes Astor, y Cadfridog Archibald Wavell (a fu'n hedfan o Aldershot mewn awtogyro) a'r awdur Henry Williamson.

Y niwrofeddyg Hugh Cairns oedd un o'r meddygon a wnaeth drin Lawrence. O ganlyniad i'w farwolaeth, ymchwiliodd Cairns i ddamweiniau beiciau modur, gan arwain at ddeddfwriaeth i wneud helmedau yn orfodol ar feicwyr modur yn y Deyrnas Unedig.

Plannwyd coeden yn yr union fan lle digwyddodd y ddamwain ffordd, i gofio Lawrence, a saif cofeb garreg gerllaw. Crewyd cerflun o Lawrence mewn gwisg Arabaidd gan ei ffrind Eric Kennington sydd i'w weld yn Eglwys Sant Martin yn Wareham, Dorset.

Ar 29 Ionawr 1936 dadorchuddiwyd penddelw, o Lawrence a wnaed gan Kennington ym 1926, yn Eglwys Gadeiriol Sant Pawl mewn seremoni gan yr Arglwydd Halifax.

Bellach mae cartref Lawrence yn Dorset, Clouds Hill, yn amgueddfa a gedwir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Gwnaed ffilm ar ei fywyd, ffilm a enillodd saith gwobr Oscar. Ffilmiwyd sawl golygfa 'anialwch' ym Merthyr Mawr ger Pen-y-bont ar Ogwr, lle mae'r twyni tywod mwyaf yn Ewrop. Anfarwolwyd Lawrence yn y ffilm gan yr actor Peter O'Toole.




#Article 251: Castell (590 words)


Mae Castell (benthyciad o'r Lladin castellum; Llydaweg Canol castell, Gwyddeleg Canol caisel. Lluosog Cestyll.) yn adeilad sydd wedi'i amddiffyn yn gryf. Math arbennig o amddiffynfa a ddatblygwyd yn yr Oesoedd Canol yw castell, ond mae ei gynseiliau'n gorffwys yng nghyfnod pobl fel y Celtiaid yn Oes yr Haearn a godai fryngaerau niferus, a'r Rhufeiniaid a godai gaerau ledled Ewrop a'r Môr Canoldir. Ceir traddodiad o godi cestyll mewn nifer o wledydd eraill hefyd, er enghraifft yn Tsieina a Siapan.

Dros y canrifoedd newidiodd y cestyll o wneuthuriad pren i gestyll cerrig, ac yn ddiweddarach, o fod yn amddiffynfa i fod yn blas neu gartref. Bellach maen nhw wedi newid o fod yn adeiladau milwrol i fod yn henebion ac yn atyniadau twristaidd.

Ceir gwahanol fathau o gestyll wrth gwrs, megis Cestyll y Normaniaid a'r Cestyll Cymreig. Llefydd milwrol ac amddiffynfeydd oedd cestyll yn yr Oesoedd Canol, yn aml ar dir uchel gyda muriau trwchus a thyredau uchel, ac yn aml hefyd rhagfuriau a ffos o gwmpas. Byddai'r ffenestri yn gul a'r drysau yn drymion. Roedd y castell yn rheolir dref hefyd yn aml, gyda  mur o gwmpas y dref yn ogystal a barbican, hefyd. I fynd i mewn i'r castell, yr oedd rhaid mynd dros bont godi a thrwy borthdy cryf â chlwydi a phorthcwlis. Roedd donjon (carchar dan ddaear) mewn llawer o'r cestyll. Weithiau byddai'r castell dan warchae am gyfnod hir a byddai rhaid ildio oherwydd diffyg bwyd.

Roedd y castell yn lle i drigo yn ogystal â bod yn amddiffynfa. Roedd ward fewnol, llety, ystafelloedd byw ac siambrau cysgu, rhai ohonyn nhw'n gyfforddus iawn, cegin, bwtri i gadw gwin neu gwrw, canolfan weinyddol a chapel. Roedd stablau i'r meirch ac ysguborau i gadw bwyd iddynt. Ond y peth pwysicaf i gyd oedd ffynnon neu ffynhonnell dŵr arall i gadw'r amddiffynwyr yn fyw adeg gwarchae. Gwarchae oedd un o'r bygythiadau gwaethaf i gastell a dyna pam yr oeddent yn ceisio bod mor hunangynhaliol â phosibl.

Roedd hi'n anodd i godi'r cestyll hyn weithiau am eu bod yn aml yn cael  eu codi ar dir estron. Yn achos y cestyll Seisnig yng Nghymru yr oedd rhaid cael gweithwyr a chrefftwyr o Loegr neu gyfandir Ewrop ac fe'i gorfodid i adael eu cartrefi i weithio yng Nghymru, efallai am flynyddoedd.

Roedd rhaid codi llawer o arian i godi'r cestyll hefyd. Y goruchwylwyr oedd yn gofalu am yr ochr ariannol ac yn talu'r gweithwyr. Y pensaer oedd yn gyfrifol am gynllunio'r castell a dewis safle i'w adeiladu. Y nesaf at y pensaer mewn pwysigrwydd oedd y saer maen. Roedd yn bwysig cael chwarel yn gyfleus i gael meini i'r muriau. Byddent yn hollti'r cerrig yn y chwarel i arbed cludo cerrig diwerth heb eisiau. Roedd rhaid cael cerrig da a fyddai'n gorwedd yn esmwyth ar ei gilydd er mwyn gwneud y muriau allanol yn gadarn.

Cafodd nifer o gestyll eu codi gan y tywysogion Cymreig, yn arbennig yn y cyfnod rhwng yr 11g a thrydydd chwarter y 13g. Yn eu plith mae Castell Dolbadarn, Castell Dolwyddelan, Dinas Emrys, Castell y Bere, Castell Cricieth, Castell Carreg Cennen, Castell Dinefwr, Castell y Dryslwyn, a Castell Dinas Brân.

Adeiladwyd llawer o gestyll yng Nghymru yn y drydedd ganrif ar ddeg gan y Normaniaid a hefyd gan y Saeson, yn bennaf gan Edward I o Loegr, er mwyn cadarnhau ei goncwest, megis Castell Harlech, Castell Conwy a Chastell Caernarfon yng Ngwynedd, neu Castell Biwmares yn Ynys Môn a Chastell Rhuddlan yn Y Berfeddwlad (Clwyd). Y rhain oedd y Cylch Haearn o gestyll o amgylch Gogledd Cymru.




#Article 252: Edward VIII, brenin y Deyrnas Unedig (115 words)


Edward VIII (Edward Albert Christian George Andrew Patrick David Wettin) (23 Mehefin 1894 – 28 Mai 1972) oedd brenin Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon rhwng 20 Ionawr 1936 a 11 Rhagfyr 1936, dydd ei ymddiswyddiad.

Yn fab i Siôr V a Mair o Teck, ef oedd Tywysog Cymru rhwng 1911 a marwolaeth ei dad. Bu rhaid iddo ymddiswyddo am ei fod am briodi'r weddw o Americanes Wallis Warfield Simpson a oedd wedi cael ysgariad. Nid oedd y sefydiad Seisnig yn barod i gael brenin a oedd yn briod â rhywun oedd wedi cael ysgariad.

Wedi'r ymddiswyddiad, fe briododd yr Americanes gyfoethog Wallis Warfield Simpson ac fe adawodd y wlad a byw yn Ffrainc.




#Article 253: Briallen (569 words)


Planhigyn bach o'r genws Primula yw'r friallen. Mae gan friallu gwyllt flodau melyn a briallu'r ardd flodau porffor, melyn, coch, pinc neu wyn. Maen nhw'n hoffi tymheredd o tua 20 °C. Yr enw Lladin yw Primula vulgaris (L.): [primula = bachigol o prima (= y cyntaf) yn nodi mai hwn yw un o flodau cyntaf y gwanwyn; vulgaris = cyffredin].

Blodau melyn gwelw yn tyfu'n dusw a dail crychog blewog. I'w gweld rhwng Chwefror ag Ebrill.

Mae'r friallen yn tyfu ar elltydd cysgodol o dan goed yn aml, neu yng ngodreon gwrychoedd.

Mae nifer o lindys gwyfynod o'r teulu Noctuidae yn bwyta briallu fel rhan o'u deiet: isadain felen fach Noctua comes; yr isadain felen leiaf Noctua interjecta, clai engreilyd Diarsia mendica, Xestia triangulum; Xestia baja; Xestia xanthographa

[D. Davies a Gwen Aubery]: Briallen gyffredin, Brillig, Llysiau Pawl, Symwl, Symylen, Tewbanog fechan, Blodau mis Mawrth (Caerfyrddin), Brieill [enw barddonol], Dail y Dewbanog [Llysieu-lyfr Teuluaidd, R. Price  E. Griffiths, 3dd Arg., 1890]. Amrywiaethau Enwau: [G. Aubery]: Briellu (Mon, Caerfyrddin, Penfro, Brycheiniog, Morgannwg), Brellu (Arfon a Meirion), Brallu (Arfon), Biarllu (Ceredigion), Bierllu (Caerfyrddin a Morgannwg), Briella/Brialla (Morgannwg), Brigellu (Penfro), Mrialle (Maldwyn), MiariluiMerllu/Merllig (Ceredigion),114ier1lu (Ceredigion, Caerfyrddin).

Mae'n bosibl i'r gair 'briallen' darddu o 'Brial'. Esboniad mwy modern, ond camarweiniol, yw mai Ebrill-lu oedd y gwreiddiol. Noder bod Symwl, Symylen a Tewbanog fechan hefyd yn enwau ar Friallu Mair (P. veris). Mae'n werth nodi nad yw'r elfen graidd a roes 'briallen' i ni wedi ei phriodoli yn gyson i Primula vulgaris: cawn brial y gors Parnassia palustris, briallu'r hwyr  Oenothera biennis ac yn y Llydaweg brulu (bysedd y cŵn).

Y gair 'briallen' sydd wrth wraidd yr enwau: Brilley (Swydd Amwythig), Cae Briallu dir y Gyfyng, Llanfihangel y Pennant, Arfo Bryn Briallu. .0 “Cti (]'-‘ 
[cf. Fferm a Thyddyn 25, Steffan ab Owain]

Mae Briall a Briallu yn enwau ar ferched.

Gydag ymyl troetffordd gul
A rannai'r ardd yn ddwy,
Roedd gan fy mam ei border bach 
O flodau perta'r plwy.

Gwreiddyn bach gan hwn a hon
Yn awr ac yn y man,
Fel yna'n ddigon syml y daeth
Yr Eden fach i'w rhan.

....Dwy neu dair briallen ffôl, 
A daffodil, bid siwr,
A'r cyfan yn y border bach
Yng ngofal rhyw hen wr.

Medd Briallen yn y cysgod;
Hoff gan bawl) ei hwyneb hi,
Blentyn llonnaf haul a chawod.
Eifion Wyn.

Y Friallen, oherwydd mai blodeuo yn y gwanwyn wna, yn arwydd o ieuenctid. Yng Ngogledd Cymru plenid gwahanol flodau ar feddau i arwyddo oed y claddedig - blodau'r gwanwyn: Briallu/Eirlysiau/Fioledau ar fedd plentyn; Rhosyn/Roced/Gwyddfid i oedolyn a'r Tansi/Ryw/Serenllys i'r hen

Nodweddir teulu'r briallu gan ddwy ffurf i'r blodyn, sef bod canol rhai blodau yn diwb gwag, tra bo'r tiwbiau yng nghanol y blodau eraill wedi eu llenwi a phen y stigma benywaidd - sydd yn edrych fel pen pin. Dim ond un math o flodyn geir ar un planhigyn, a'r math arall ar blanhigyn gwahanol. Darwin oedd y cyntaf i egluro pam fo gwahaniaeth o'r fath. Esboniodd mai dim ond pryfed a thafodau hir fedr gyrraedd y neithdar yng y tiwbiau, a bod ffurf y blodau yn adlewyrchu'r ffaith bod rhannau gwrywaidd a benywaidd y blodau yn gallu bod mewn llefydd gwahanol o fewn y tiwbiau rhwng un planhigyn a'r llall. Bydd hyn yn sicrhau mai, fel arfer, dim ond paill o blanhigyn gwahanol fedr beillio unrhyw flodyn. Cyflwynir hyn fel un o'r enghreifftiau safonol o groes-beillio i fyfyrwyr mewn gwersi llysieuegol.




#Article 254: Castell Dinas Brân (384 words)


Mae Castell Dinas Brân yn fryngaer (uchder 310m) ac yn gastell canoloesol ger Llangollen, Sir Ddinbych.cafodd y castellated ei wneud Han Eric bran Saif y castell ar gopa mynydd uwchlaw dyffryn Afon Dyfrdwy (maint yr safle: tua 1.5ha). Credir mai Gruffudd Maelor II (a elwir hefyd yn Gruffudd ap Madog; 1236 - 1269) a gododd y castell carreg yn wreiddiol.

Clawdd a ffos wedi eu hadeiladu yn Oes yr Haearn yw'r unig olion sydd i'w gweld heddiw. Mae'n bosibl bod adeiladau pren yn y bryngaer yn yr 8g, ond does dim olion ohonynt heddiw. Mae yna ddamcaniaeth fod Eliseg yn meddiannu Castell Dinas Brân yn y cyfnod hwnnw.

Mae'r fryngaer hon yn un o sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas', e.e. Dinas Emrys, Dinas Dinorwig; hen ystyr y gair hwnnw yw caer ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw).

Adeiladwyd y castell yn wreiddiol gan Gruffydd Maelor II y castell tua diwedd y 1260au, a datblygwyd ef ymhellach gan nifer o dywysogion Powys Fadog.

Llosgwyd ef gan y Cymry yn ystod y rhyfeloedd rhwng Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru ac Edward I, brenin Lloegr. Cipiwyd y castell gan Henry de Lacey, iarll Lincoln, yn 1277. Bwriadai Henry de Lacey oed ailadeiladu'r castell, ond nid oedd Edward yn cytuno â hynny.

Ym 1282, yn ystod ail ymgyrch Edward I i feddiannu Cymru, cipiwyd Castell Dinas Brân oddi wrtho gan Dafydd ap Gruffydd, brawd Llywelyn. Yn ôl traddodiad, yn 1402 cafodd y castell ei feddiannu gan Iarll Arundel; ymgeisodd Owain Glyndŵr ei gipio, ond roedd ei ymdrechion yn aflwyddiannus.

Yn ôl rhai ysgrifenwyr ar y traddodiad Arthuraidd, Dinas Brân yw'r Castell Corbenic (Corbin-Vicus) y sonnir amdano yn y chwedlau am y Greal.

Mae safle Dinas Brân wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 01 Ionawr 1957 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle. Mae ei arwynebedd yn 6.24 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.




#Article 255: Eirug Wyn (193 words)


Llenor Cymraeg oedd Eirug Wyn (11 Rhagfyr 1950 – 25 Ebrill 2004).

Cafodd ei eni ym mhentref Llan, ger Llanbryn-mair Sir Drefaldwyn (Powys) yn fab i weinidog,  y Parch John Price Wynne. Yn 1958 symudodd y teulu i Ddeiniolen Arfon. Mynychodd Ysgol Gynradd Eglwys Llandinorwig ac wedyn Ysgol Brynrefail. Llanrug. Yn fachgen ysgol fe ddechreuodd yr ymgyrch i roi plat D am ddysgwr gyrru ar gar yn lle y plât L, a oedd yn anghyfreithlon ar y pryd. Fe enillwyd y frwydr.

Yn 1969 astudiodd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ac yn 1972 sefydlodd Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin, gyda dau bartner arall, Wyn Thomas a William Lloyd.. Wedyn symudodd i'r gogledd a sefydlu Siop y Pentan yng Nghaernarfon yn 1977 ac wedyn ym Mangor .

Enillodd y Fedal Ryddiaith ym Eisteddfod Bro Ogwr yn 1998 am Blodyn Tatws ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 2000 am Tri Mochyn Bach. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Nedd a'r cyffiniau 1994 am Smoc Gron Bach ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 am Bitch.

Ysgrifennodd 15 o lyfrau a chyhoeddodd lyfrau dan y ffugenw Derek Tomos (barddoniaeth) a Myfi Derek (hunangofiant).




#Article 256: Hanes (130 words)


Astudiaeth o ddigwyddiadau'r gorffennol yw hanes a chasglu gwybodaeth am y digwyddiadau hynny a rhoi trefn arnynt, eu casglu a'u cyflwyno. Mae hefyd yn ddehongliad o weithgarwch daearegol, organig a chosmig, ond fel arfer mae'n ymwneud â hanes dyn ar y ddaear. Gelwir yr ysgolheigion sy'n ysgrifennu am hanes yn haneswyr; ceisiant archwilio, analeiddio a gosod mewn trefn cyfres o ddigwyddiadau gan geisio (yn wrthrychol) weld patrwm achos ac effaith.

Mae haneswyr yn defnyddio gwahanol fathau o ffynonellau, gan gynnwys cofnodion ysgrifenedig, cyfweliadau llafar, arteffactau ac archaeoleg. Disgrifir digwyddiadau cyn hanes ysgrifenedig yn gynhanes. 

Yn aml, mae haneswyr yn trafod natur hanes a pha mor ddefnyddiol ydyw: disgyblaeth academig diddim didda yn ôl rhai tra bod eraill yn credu ei fod yn rhoi perspectif gwahanol ac iach ar y presennol.




#Article 257: Mabinogi (501 words)


Casgliad o bedair chwedl yn seiliedig ar y traddodiad llafar Cymreig yw'r Mabinogi. Eu henw traddodiadol yw Pedair Cainc y Mabinogi (mae cainc yn golygu cangen, sef chwedl o fewn chwedl).

Oherwydd i'r Arglwyddes Charlotte Guest gamddeall y gair Cymraeg Canol mabynogion (sy'n digwydd unwaith yn unig, mewn testun o chwedl Pwyll mewn dwy o'r llawysgrifau), fe ddefnyddir y gair 'Mabinogion' ers iddi hi gyhoeddi ei chyfieithiad Saesneg dylanwadol o'r Pedair Cainc ac wyth chwedl arall i gyfeirio at y chwedlau mytholegol Cymreig yn eu crynswth. Mae rhai o'r chwedlau hynny'n chwedlau llafar sy'n cynnwys elfennau hanesyddol o'r Oesoedd Canol yng Nghymru, ond ceir ynddynt hefyd elfennau cynharach o lawer sy'n deillio yn y pen draw o fyd y Celtiaid a'u mytholeg.

Cedwir testunau pwysicaf y chwedlau mewn dwy lawysgrif ganoloesol arbennig, sef Llyfr Gwyn Rhydderch a ysgrifennwyd rywbryd oddeutu 1350, a Llyfr Coch Hergest a ysgrifennwyd rywbryd rhwng tua 1382 a 1410.

 
Casgliad o bedair chwedl sy'n perthyn i'r un cylch yw Pedair Cainc y Mabinogi. Y pedair chwedl yw:

Cawsant eu llunio gan lenor dawnus, tua chanol yr 11g o bosibl. Y llinyn sy'n eu cydio wrth ei gilydd, er yn denau braidd mewn mannau, yw hanes Pryderi, mab Pwyll Pendefig Dyfed a Rhiannon.

Cyfieithodd a chyhoeddodd yr Arglwyddes Guest saith chwedl arall yn ei chasgliad. Mae pedair ohonynt yn chwedlau sy'n cynnwys deunydd o chwedloniaeth a thraddodiadau Cymreig, ac am y rheswm hynny yn cael eu galw yn Y Chwedlau Brodorol gan ysgolheigion. Eu teitlau yw:

Gan fod traddodiadau cynnar am y brenin Arthur i'w cael yn Culhwch ac Olwen a Breuddwyd Rhonabwy, mae'r storïau hyn o ddiddordeb arbennig i ysgolheigion Arthuraidd. Culhwch ac Olwen yw'r chwedl Cymraeg Canol gynharaf ar glawr tra bod Breuddwyd Rhonabwy yn chwedl fwrlesg o ddiwedd yr Oesoedd Canol sy'n fath o barodi o'r chwedlau cynharach.

Mae Breuddwyd Macsen Wledig yn adrodd hanes yr Ymerawdwr Rhufeinig Magnus Maximus ac yn ei gysylltu â Segontiwm, y gaer Rufeinig ger Caernarfon. Mae dylanwad Historia Regum Britanniae Sieffre o Fynwy i'w gweld yn amlwg yn Cyfranc Lludd a Llefelys.

Mae'r tair stori a adnabyddir wrth yr enw Y Tair Rhamant yn chwedlau Arthuraidd sydd i'w cael yn rhannol yng ngwaith yr awdwr Ffrangeg Chrétien de Troyes yn ogystal. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylch o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn. Y Tair Rhamant yw:

Mae'r Tair Rhamant yn perthyn i fyd sifalri a'i defodau ac mae lleoliad yr anturiaethau niferus yn amwys fel rheol, mewn cyferbyniaeth â daearyddiaeth y Pedair Cainc.

Yn ogystal â'r chwedlau hyn mae'r Arglwyddes Guest yn cynnwys wythfed chwedl nad yw yn y Llyfr Gwyn na'r Llyfr Coch (nid yw'n arfer ei chynnwys mewn argraffiadau diweddarach chwaith). Hanes geni a mabolaeth y Taliesin chwedlonol yw'r chwedl, a adwaenir fel,

Ceir nifer o gerddi sy'n gysylltiedig â'r chwedl, gyda rhai ohonynt i'w cael yn y testun ei hun.

Gwnaed y ffilm animeiddiedig Y Mabinogi (90 munud; cyfarwyddwr: Derec Hayes) ym 2002.




#Article 258: Roald Dahl (543 words)


Awdur nofelau a storïau byrion, a llenor ar gyfer y sgrîn, oedd Roald Dahl (13 Medi 1916 – 23 Tachwedd 1990). Roedd yn enwog am ei lyfrau ar gyfer oedolion a phlant yn arbennig.

Ganwyd Dahl yng Nghaerdydd i rieni Norwyaidd. Cafodd ei fedyddio yn yr Eglwys Norwyaidd ar bwys y bae.  Mynychodd Ysgol Repton yn Swydd Derby. Daeth i'r amlwg yn yr 1940au gyda'i waith ar gyfer plant ac oedolion, gan ddod yn un o awduron mwyaf poblogaidd y byd. Datgelwyd yn y 1980au iddo weithio fel asiant ddirgel ar gyfer MI6, Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Dramor Prydain, gan wasanaethu yn yr Unol Daleithiau i hybu diddordebau Prydain ac i frwydro yn erbyn symudiad America First, gan weithio ar y cyd gydag Ian Fleming a David Ogilvy. Mae'r llyfr hanesyddol, The Irregulars gan Jennet Conant (2008, Simon and Schuster) yn disgirfio'r cyfnod hwn ym mywyd Dahl a'i gyfoeswyr.

Mae llyfrau mwyaf poblogaidd Dahl yn cynnwys Y Twits, Charlie a'r Ffatri Siocled, James a'r Eirinen Wlanog Enfawr, Matilda, Y Gwrachod a Yr CMM.

Pan oedd yn bedwar mis oed, cafodd Theo Dahl anafiadau drwg pan drawodd tacsi ei bram. Fe ddioddefodd o hydrocephalus, ac fel canlyniad, daeth Dahl i ymwneud gyda datblygiad y falf Wade-Dahl-Till (neu'r falf WDT), dyfais i leddfu'r cyflwr.

Priododd Dahl yr actores Americanaidd,  Patricia Neal, ar 2 Gorffennaf 1953 yn Eglwys y Drindod, Dinas Efrog Newydd. Parhaodd y briodas 30 mlynedd a chawsont bump o blant: Olivia (a fu farw o frech-wen encephalitis, yn saith oed), Tessa, Theo, Ophelia, a Lucy. Cysegrwyd y llyfr The BFG i Olivia.

Yn 1965, dioddefodd Neal dri ebychiad aneurysm ymenyddol tra'n feichiog gyda'u pumed plentyn, Lucy; fe gymerodd Dahl reolaeth o'i adferiad, ac fe ailddysgodd sut i gerdded a siarad yn y diwedd. Ar ôl priodas dryblus, cawsant ysgariad yn 1983, ac fe ail-briododd Dahl Felicity (Liccy) d'Abreu Crosland (ganwyd 12 Rhagfyr 1938), a oedd 22 mlynedd yn iau nag ef.

Mae Ophelia Dahl yn gyfarwyddwr ac yn gyd-sefydlydd (gyda Paul Farmer) cymdeithas ddi-elw Partners in Health, sy'n darparu gofal iechyd i rai o gymunedau tlotaf y byd. Mae Lucy Dahl yn llenor ar gyfer y sgrîn yn Los Angeles. Mae merch Tessa, Sophie Dahl (a ysbrydolodd Dahl i greu cymeriad Sophie, prif gymeriad Y CMM) yn fodel ac yn awdures, mae hi'n cofio Roald Dahl fel dyn anodd iawn – cryf iawn, dominyddol ... ddim yn anhebyg i tad y chwiorydd Mitford yn rhuo o gwmpas y tŷ yn dweud ei farn yn swnllyd, gan wahardd rhai bechgyn rhag ymweld â'r tŷ. Mae un o nifer o wyrion Dahl yn mynychu'r Royal Palm Academy.

Yn ddiweddar, mae diwrnod pen-blwydd Dahl, 13 Medi, wedi cael ei ddathlu yn eang fel Diwrnod Roald Dahl.

Ar benwythnos 17/18 Medi 2016 cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau yng Nghaerdydd i ddathlu canmlwyddiant geni Dahl. Daeth torf o filoedd i weld y digwyddiadau 'annisgwyl' oedd wedi eu seilio ar waith llenyddol yr awdur, a gynhyrchwyd ar y cyd rhwng National Theatre Wales a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Roedd mam Dahl yn arfer adrodd staeon iddo ef a'i chwiorydd am greaduriaid mytholegol Norwyaidd, ac mae nifer o'i lyfrau'n cyfeirio at y rhain neu wedi cael eu hysbrydoli gan y straeon, megis y cewri yn The BFG. Darlunwyd nifer o'i lyfrau gan Quentin Blake.




#Article 259: Castell Carreg Cennen (268 words)


Castell ger Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, yw Castell Carreg Cennen. Mae'r castell ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. O dan y castell mae rheddfa ac ogof. Mae'r castell yn sefyll rhai milltiroedd i'r dwyrain o Gastell Dinefwr, castell pwysicaf tywysogion Deheubarth a safle eu llys.

Adeiladwyd y castell cyntaf gan y Cymry, efallai gan Rhys ap Gruffudd o Ddeheubarth, ond roedd pobl yn defnyddio'r safle uwchben craig galchfaen yn yr oesau cynhanesyddol ac yng nghyfnod y Rhufeiniaid. Ceir y cyfeiriad cyntaf at y castell yn 1248 pan ailgipiodd Rhys y castell o ddwylo'r Saeson. Yn 1257 cipiodd Maredudd ap Rhys Gryg, oedd yn gynghreiriad pwysig i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd yn y de, y castell oddi ar Rhys yn ei dro ac am gyfnod roedd yn safle pwysig ym mrwydrau'r Cymry am annibyniaeth dan y tywysog hwnnw.

Cafodd y castell cyntaf ei ddifetha'n llwyr ac adeiladwyd y castell sydd yno heddiw gan Edward I, Brenin Lloegr yn y blynyddoedd ar ôl 1277 ac ychwanegwyd iddo yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

Cafodd y castell ei ddifrodi yn ystod gwrthryfel Owain Glyn Dŵr a'i ddifetha ym 1462, yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau.

Mae yna chwedl fod y castell wedi ei adeiladu gan Urien Rheged a'i fab, Owain a bod yna farchog - efallai'r Brenin Arthur - yn cysgu o dan y castell.

Mae Castell Carreg Cennen (SN 667 191) ar rhestr Cadw. Mae'n gorwedd ger bentref Trapp, 3 milltir a hanner ar hyd y ffordd yno o dref Llandeilo.

Mae'r graig y saif y castell arni, sef Carreg Cennen, a'r tir o'i chwmpas yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ers 1973.




#Article 260: Castell Caerffili (170 words)


Castell yng nghanol tref Caerffili a adeiladwyd rhwng 1268 a 1271 yw Castell Caerffili. Castell tua 1.2ha cydganol yw e gyda ffos o'i gwmpas. Hwn yw'r castell mwyaf yng Nghymru a'r ail fwyaf yng ngwledydd Prydain.

Adeiladwyd y castell ar safle hen gaer Rufeinig gynharach, gan Gilbert de Clare, Arglwydd Morgannwg a oedd o dras Normanaidd. Yr amcan oedd rhwystro'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd rhag ychwanegu'r tiroedd i'w Dywysogaeth. 
Llwyddodd Llywelyn gipio'r castell yn 1270 ond mewn blwyddyn roedd de Clare yn dechrau ailadeilad'r castell eto.

Yn ystod gwrthryfel Llywelyn Bren yn 1316 ymosododd y Cymry ar y castell. Ymosododd rhan o fyddin Owain Glyndŵr arno hefyd.

Chafodd y castell ddim llawer o ddifrod adeg Rhyfel Cartref Lloegr (1642-1648) ar wahân i'r tŵr de-orllewinol a ddechreuodd wyro.

Mae Caerffili yn gastell consentrig a amgylchynir gan ffosydd dŵr a chylchoedd o dir. Mae'r tŵr de-orllewinol yn 80 troedfedd o uchder ond yn gwyro allan 13 troedfedd.

Mae Castell Caerffili ar rhestr Cadw ac yn hawdd i gyrraedd o ganol tref Caerffili.




#Article 261: Castell Harlech (1225 words)


 

Castell canoloesol rhestredig gradd 1 yn Harlech, Gwynedd yw Castell Harlech. Fe’i hadeiladwyd gan Edward I yn ystod ei oresgyniad o Gymru rhwng 1282 a 1289 ar gost gymharol gymedrol o £8,190. Mae'n un o’r pedwar castell consentrig, sef Caernarfon, Biwmares a Chonwy a adeiladwyd yn dilyn lladd Llywelyn ap Gruffydd yn 1282. Cryfder cestyll consentrig oedd y ddau fur, sef y mur allanol a'r mur mewnol. Roedd hwn yn gynllun a fabwysiadwyd yn Ewrop wedi iddo gael ei weld yn y Dwyrain Canol adeg y Croesgadau. 

Chwaraeodd y castell ran bwysig yn hanes Cymru yn y canrifoedd dilynol. Yn 1294 gosododd gwrthryfelwyr Madog ap Llywelyn Gastell Harlech dan warchae. Fodd bynnag, derbyniodd y Saeson gyflenwadau o Iwerddon diolch i fynedfa i'r môr yn y castell, a diddymwyd y gwrthryfel. Yn ystod Gwrthryfel Owain Glyndŵr roedd y castell wedi syrthio i ddwylo Glyndŵr a daeth yn gartref ac yn bencadlys milwrol iddo am bedair blynedd. Yn 1408 gosododd lluoedd Seisnig, o dan awdurdod y gŵr a gafodd ei goroni yn Harri V yn ddiweddarach, warchae ar y castell. Syrthiodd Harlech yn y pen draw ym mis Chwefror 1409. Roedd y castell hefyd yn ased milwrol pwysig yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau a'r Rhyfel Cartref.

Mae'r castell heddiw yng ngofal Cadw. Fe'i cynhwyswyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.

Ym Mhedair Cainc y Mabinogi Castell Harlech yw castell Bendigeidfran a'i chwaer Branwen ferch Llŷr, y dduwies y ceir ei hanes yn Ail Gainc y Mabinogi, ond nid oes tystiolaeth archeolegol bod amddiffynfa Gymreig wedi ei hadeiladu ar y safle cyn y castell presennol.

Roedd brenhinoedd Lloegr a thywysogion Cymru wedi ymgiprys am reolaeth dros ogledd Cymru ers y 1070au. Ailgychwynnodd y gwrthdaro yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg, gan arwain Edward I i ymyrryd yng ngogledd Cymru yn 1282 am yr ail waith yn ystod ei deyrnasiad. Aeth Edward I ati i adeiladu ac adnewyddu cyfres o gestyll cadarn fel cadarnleoedd grym a diogelwch. Roedd castell Harlech yn un o saith castell a adeiladwyd ar draws gogledd Cymru fel rhan o’i ‘gylch haearn’ o gestyll. Roedd y rhain yn ganolfannau ar gyfer ei fyddinoedd lle gallai lansio ymosodiadau yn erbyn y Cymry. 

Yn 1294, dechreuodd Madog ap Llywelyn wrthryfel yn erbyn y Saeson a ymledodd yn gyflym ar draws Cymru. Gosododd y gwrthryfelwyr Gastell Harlech dan warchae y gaeaf hwnnw. O Iwerddon anfonwyd cyflenwadau ffres dros y môr, a chawsant eu cludo drwy lifddorau Harlech gan ddod â’r gwrthryfel i ben. 

Yn ystod Gwrthryfel Owain Glyndŵr, erbyn 1403, dim ond llond llaw o gestyll, gan gynnwys Harlech, a lwyddodd i ddal eu tir yn erbyn y gwrthryfelwyr. Doedd dim digon o offer na staff yn y castell i wrthsefyll gwarchae ac mae’r cofnodion yn dangos mai dim ond tair tarian, wyth helmed, chwe gwaywffon, deg pâr o fenig, a phedwar gwn oedd gan y garsiwn. Ar ddiwedd 1404, roedd y castell wedi syrthio i ddwylo Glyndŵr a daeth yn gartref ac yn bencadlys milwrol iddo am bedair blynedd. Yn 1408 gosododd lluoedd Seisnig, o dan awdurdod y gŵr a gafodd ei goroni yn Harri V yn ddiweddarach, a’i gadlywydd, Edmund Mortimer, warchae ar y castell. Gwnaed difrod mawr i rannau deheuol a dwyreiniol y waliau allanol gan fagnelau a chanonau. Ar ôl methu â chipio’r castell, cafodd John Talbot ei adael gan Harri i fod yn gyfrifol am y gwarchae ac aeth Harri yn ei flaen i Gastell Aberystwyth. Ar ôl i Mortimer a llawer o’i ddynion farw o flinder, syrthiodd Harlech yn y pen draw ym mis Chwefror 1409. 

Yn y bymthegfed ganrif, roedd Harlech yn gysylltiedig â chyfres o ryfeloedd cartref, a elwir yn Rhyfeloedd y Rhosynnau, rhwng carfannau gelyniaethus teulu Lancaster a theulu Iorc. Yn 1460, yn dilyn brwydr Northampton, fe wnaeth y Frenhines Marged o Anjou a’i baban, y Tywysog Edward, ffoi i’r castell. Rhwng 1461 ac 1468 roedd yn nwylo cefnogwyr teulu Lancaster, o dan awdurdod Dafydd ap Ieuan. Oherwydd ei amddiffynfeydd naturiol a’r llwybr cyflenwi ar y môr, daliodd castell Harlech ei dir unwaith eto ac, wrth i gestyll eraill syrthio, hwn oedd yr olaf o’r prif gadarnleoedd a oedd yn dal i fod o dan reolaeth teulu Lancaster. Mae'r gân Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech yn cyfeirio at warchae'r adeg honno.

Daeth y castell yn ganolfan ar gyfer eu hymgyrchoedd ar draws y rhanbarth. Ymosododd Syr Richard Tunstall o Gastell Harlech yn 1466 a glaniodd Siaspar Tudur, ewythr Harri Tudur, yno gyda milwyr ychwanegol o Ffrainc yn 1468. Yn sgil dyfodiad Siaspar Tudur gorchmynnodd Edward IV William Herbert i drefnu byddin, o bosibl hyd at 10,000 o ddynion, er mwyn cipio’r castell unwaith ac am byth. Ar ôl mis, ildiodd y garsiwn ar 14 Awst. 

Ar ôl dechrau Rhyfel Cartref Lloegr yn 1642, cipiwyd y castell gan luoedd a oedd yn deyrngar i Siarl I. Nid oedd y castell wedi cael ei drwsio yn dilyn gwarchae 1468 ac roedd wedi mynd â’i ben iddo, ac eithrio’r porthdy, a oedd yn cael ei ddefnyddio fel y llys lleol. Yn 1644 penododd Rupert, tywysog y Rhein, y Cyrnol William Owen yn gwnstabl y castell, a rhoddwyd y dasg o drwsio’r gaer i’r Cyrnol Owen. Bu gwarchae hir rhwng mis Mehefin 1646 a mis Mawrth 1647 pan ildiodd y garsiwn o 44 dyn i’r Cadfridog Thomas Mytton. Y castell oedd y gaer frenhinol olaf ar y tir i ildio, gan nodi diwedd cam cyntaf y rhyfel. 

Doedd dim angen y castell bellach i sicrhau diogelwch gogledd Cymru ac, i atal y Brenhinwyr rhag ei ddefnyddio eto, gorchmynnodd y Seneddwyr y dylid ei ddinistrio. Ond dim ond yn rhannol y dilynwyd y gorchmynion hyn. Dinistriwyd grisiau’r porthdy a difrodwyd y castell i’r fath raddau fel na ellid ei ddefnyddio, ond ni chafodd ei ddinistrio’n llwyr.  

Cafodd cerrig y castell eu defnyddio i godi tai yn y dref. 

Meistr James o St George yn rhanbarth Safwy (Savoy) oedd yng ngofal y gwaith cynllunio ac adeiladu. Roedd y castell bron â’i gwblhau erbyn diwedd 1289 am tua £8,190, sef tua 10% o’r £80,000 a wariodd Edward ar adeiladu  

cestyll yng Nghymru. Adeiladwyd y castell o garreg leol ac roedd o gynllun consentrig, gan gynnwys porthdy enfawr a oedd unwaith yn llety uchel ei statws i gwnstabl y castell ac ymwelwyr pwysig. Ar y pryd roedd y môr yn cyrraedd yn nes o lawer at Harlech ac roedd llifddor â grisiau hir yn arwain i lawr o’r castell at y lan, gan olygu bod modd dod â chyflenwadau i’r castell o’r môr yn ystod gwarchae. 

Yn wynebu’r môr, roedd murfylchau Harlech yn ymestyn o wyneb y graig serth. Byddai unrhyw ymosodwr o’r tir yn gyntaf yn gorfod wynebu’r porthdy enfawr gyda dau dŵr. Mae’r môr, fel mynyddoedd Eryri, yn allweddol i leoliad Harlech. Mae waliau mewnol a thyrrau enfawr y gaer yn dal i sefyll i’w huchder llawn. Ar ôl Gwrthryfel Madog ap Llywelyn rhwng 1294 a 95, adeiladwyd amddiffynfeydd ychwanegol o amgylch y llwybr i lawr at y môr. Gwnaed mwy o waith rhwng 1323 a 24, ar ôl rhyfel Despenser, pan gafodd Edward II ei fygwth yn y rhanbarth gan ddau o arglwyddi’r gororau, Roger a Humphrey de Bohun. Gorchmynnodd ei siryf, Syr Gruffydd Llwyd, i ymestyn yr amddiffynfeydd a oedd yn arwain at y porthdy a chodi tyrau ychwanegol.




#Article 262: Archaeoleg (238 words)


Astudiaeth wyddonol o hanes a diwylliant dyn drwy ddatguddio a dadansoddi olion ffisegol yw archaeoleg. Gall yr olion fod yn bensaernïol, yn olion dynol, neu'r dirlun hyd yn oed. Nod yr archaeolegydd yw rhoi goleuni ar hanes ac ymddygiad dyn dros dymor hir. Gall anthropoleg fod o help i'r archaeolegwr hefyd. O'r 16eg ymlaen rhoddwyd gogwydd pur wyddonol ar waith yr achaeolegydd. Mae'r dechnoleg ddiweddaraf, gan gynnwys dulliau dyddio radiometrig a charbon ddyddio yn dangos fod bywyd dynol wedi bodoli yng Nghymru ers dros chwarter miliwn o flynyddoedd. Mae'r gwaith diweddaraf ar genynnau'n dangos fod cysylltiad rhwng y pobl cynharaf a thrigolion presennol y wlad.

Mae archaeolegydd yn cloddio safleoedd hanesyddol ac yn dehongli'r gorffennol oddi wrth beth a ddarganfyddir ganddynt wrth gloddio a dod o hyd i bethau fel crochenwaith a darnau arian.

Ymhlith y darganfyddiadau pwysicaf yng Nghymru mae Ogof Pen-y-fai (neu Paviland) a ddarganfuwyd yn 1823 gan William Buckland ac ogof Bont Newydd, Dyffryn Elwy a ddarganfuwyd yn yr 1860au gan Boyd Dawkins. Mae'r darganfyddiadau hyn yn dangos fod olion pobl o'r Hen Oes y Cerrig (neu'r Oes Paleolithig) yma sy'n mynd yn ôl mor bell a 24,000 o flynyddoedd yn achos Dyffryn Elwy a 29,000 yn achos y dyn ifanc 29 oed a gafwyd hyd iddo ym Mhen y Fai.

Yng Nghymru, ceir pedair Ymddiriedolaeth Archaeoleg:

Ceir hefyd corff a sefydlwyd yn 1908 sy'n cofnodi safleoedd fesul sir, sef y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.




#Article 263: Cadw (108 words)


Gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Cymru yw Cadw sy'n rhan o Adran Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Mae'n chwarae rôl debyg i English Heritage yn Lloegr a Historic Scotland yn yr Alban. Fe'i sefydlwyd ym 1984. Lleolir ei bencadlys yn Nhrefforest. Mae'n rhestru henebion ac yn sicrhau eu bod yn cael eu cynnal ac yn agored i'r cyhoedd.

Mae henebion Rhufeinig, tai hanesyddol, cestyll, ac abatai i gyd ymhlith yr adeiladau yng ngofal Cadw. Rhoddir isod restr o rai ohonynt, yn nhrefn yr wyddor, gyda dolen i dudalennau ar wefan Cadw.

Gwaith Cadw yw amddiffyn amgylchedd hanesyddol Cymru, a'i wneud yn hygyrch. I'r diben hynny mae ganddo bedwar nod:




#Article 264: Castell Penfro (162 words)


Castell ar lan yr afon yng nghanol tref Penfro, Sir Benfro, yw Castell Penfro. Cychwynnwyd ar y gwaith o'i godi ym 1093 gan Roger o Drefaldwyn yn gastell pren, fel rhan o ymdrech y Normaniaid i oresgyn Cymru. Ceir ogof o dan y castell a gafodd ei defnyddio fel storfa. Dywedir fod pobl wedi darganfod darnau arian Rhufeinig ynddo. Ni chipiwyd y castell gan y Cymry er gwaethaf sawl ymosodiad.

O Gastell Penfro y lansiodd y Normaniaid eu hymdrech i oresgyn Iwerddon.

Ym 1138 cafodd Gilbert de Clare, Iarll 1af Penfro y castell. Ar ôl hynny roedd Siasbar Tudur yn ei feddiannu. Ym 1456 ganwyd Harri Tudur yn y castell, a fyddai'n ddiweddarach yn frenin Lloegr a sefydlydd llinach frenhinol y Tuduriaid. Ei fam oedd Margaret Beaufort, chwaer-yng-nghyfraith i weddw Siaspar Tudur.

Yn ystod Ail Ryfel Cartref Lloegr cafodd y castell ei warchae a'i ddifrodi, ond chafodd o ddim ei gipio mewn brwydr.

Mae'r castell ar rhestr Cadw ac yn ei ofal.




#Article 265: Castell Caernarfon (3066 words)


Castell sydd yng nghanol tref Caernarfon, Gwynedd, ac ar lannau Afon Seiont ac Afon Menai yw Castell Caernarfon. Roedd yn safle strategol a phwysig iawn yn ystod goresgyniad y Normaniaid, y Sacsoniaid a'r Saeson. Fe'i codwyd gan Edward I, brenin Lloegr rhwng 1283 a 1330. Mae'n gastell consentrig wedi ei gynllunio gan James o St George, a'r muriau wedi cael eu cynllunio i edrych fel muriau amddiffynnol Caergystennin, y ddinas enwog Rufeinig. Yn y castell hwn y ganwyd Edward II, brenin Lloegr ym 1284, cyn i'r castell gael ei gwblhau.

Cyn hynny roedd yma gaer Rufeinig yn Segontium, y tu allan i'r dref bresennol, a chastell Normanaidd yn ogystal. Roedd Castell Caernarfon yn un o saith castell a adeiladwyd gan Edward I ar draws gogledd Cymru fel rhan o’i ‘gylch haearn’ o gestyll. Adeiladwyd hwy fel canolfannau ar gyfer ei fyddinoedd petai angen lansio ymosodiadau yn erbyn y Cymry, a chlustnodwyd Castell Caernarfon fel pencadlys ei lywodraeth. Roedd mawredd a maint y castell yn adlewyrchu ei bwysigrwydd fel canolfan filwrol a gweinyddol, ac yn bresenoldeb grymus i ddangos awdurdod coron Lloegr yng ngogledd Cymru.

Mae’r castell wedi bod yn dyst i ddigwyddiadau hanesyddol ers ei adeiladu, o ymgyrchoedd Owain Glyndŵr ar ddechrau’r 15fed ganrif hyd yr 20fed ganrif ac arwisgiad y Tywysog Edward yn 1911 a Siarl yn 1969.   

Heddiw mae'r castell yng ngofal Cadw. Mae'n gampwaith ymhlith cestyll gogledd Cymru ac, fel un o'r cestyll hynny, fe'i gosodwyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd. Mae Amgueddfa Catrawd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i'w gweld mewn rhan o'r castell.

Adeiladwyd yr amddiffynfeydd cyntaf yng Nghaernarfon gan y Rhufeiniaid. Galwyd y gaer a adeiladwyd ganddynt yn ‘Segontium’, ac mae hi wedi ei lleoli ar gyrion y dref fodern sy’n bodoli heddiw. Safai’r gaer ar lannau afon Seiont, ac yn fwy na thebyg, adeiladwyd hi yn y fan honno oherwydd lloches y lleoliad ac oherwydd mynediad rhwydd at afon Seiont er mwyn cyflenwi adnoddau. Mae gwreiddiau'r enw ‘Caernarfon’ yn deillio o’r amddiffynfeydd Rhufeinig hyn. Yn y Gymraeg, ei henw oedd ‘y gaer yn Arfon’ ar draws y tir o Ynys Môn.

Wedi i’r Rhufeiniaid adael Prydain yn y 5ed ganrif, ychydig iawn o wybodaeth sy’n bodoli i esbonio ffawd Segontium a’r anheddau sifilaidd o amgylch.

Yn dilyn y Goncwest Normanaidd yn Lloegr, trodd Edward I ei olygon tuag at Gymru. Yn ôl Llyfr Dydd y Farn, 1086, rhoddwyd gogledd Cymru gyfan dan ofal y Norman Robert o Ruddlan. Lladdwyd ef gan y Cymry yn 1088.  Ceisiodd ei gefnder, Hugh d’Avranches, Iarll Caer, ail-sefydlu rheolaeth y Normaniaid dros ogledd Cymru drwy adeiladu tri chastell: un ym Meirionnydd mewn lleoliad anhysbys, un yn Aberlleiniog ar Ynys Môn a’r llall yng Nghaernarfon. 

Adeiladwyd y castell cynnar ar benrhyn, oedd yn ffinio ar afon Seiont a’r Fenai.  Byddai’r castell hwn wedi bod yn gastell mwnt a beili, gyda phalis pren a gwrthglawdd pridd yn ei amddiffyn. Cafodd y domen bridd ei hamlyncu yn ddiweddarach gan gastell Edward, ond mae ansicrwydd ynghylch lleoliad y beili gwreiddiol. Mae'n ddigon posib ei fod wedi ei leoli i’r gogledd-ddwyrain o’r mwnt. Ni ddarganfuwyd olion bod pobl wedi bod yn byw yno yn y Canol Oesoedd ar sail ymchwiliadau ar y mwnt yn 1969. Er hynny, mae'n ddigon posib bod unrhyw dystiolaeth wedi ei chwalu. 

Mae’n debygol bod y mwnt wedi cael ei amgylchynu gan dŵr pren. Ailfeddiannwyd Gwynedd gan y Cymry yn 1115 ac felly daeth Castell Caernarfon i feddiant y tywysogion Cymreig. Yn ôl cofnodion cyfoes a ysgrifennwyd yn y castell, bu Llywelyn Fawr a Llywelyn ap Gruffydd yn aros yn y castell. 

Yn sgil cyfres o wrthdrawiadau rhwng Llywelyn ap Gruffydd a Brenin Lloegr, Edward I, daeth yr ymladd i benllanw gyda rhyfeloedd 1277 a 1282. Cychwynnodd y rhyfel a arweiniodd at ladd Llywelyn ap Gruffydd ar 22 Mawrth 1282. Cyn diwedd y flwyddyn, lladdwyd Llywelyn yng Nghilmeri, ger Llanfair-ym-Muallt, ar lannau afon Irfon gan un o filwyr Edward, sef Stephen de Frankton. Parhaodd ei frawd, Dafydd ap Gruffydd, i ymladd yn erbyn lluoedd Edward ond erbyn 1283 roedd Edward wedi sicrhau buddugoliaeth yn erbyn y Cymry. 

Gorymdeithiodd Edward drwy ogledd Cymru gan feddiannu castell Dolwyddelan a sefydlogi ei gastell ei hunan yng Nghonwy. Erbyn Mai 1283 cipiwyd y castell olaf oedd ym meddiant Dafydd ap Gruffydd, sef Castell Dolbadarn. Yn fuan wedi hynny, dechreuodd Edward adeiladu ei gadwyn o gestyll yng ngogledd Cymru, sef Harlech a Chaernarfon. Daeth y cestyll yn arwydd gweledol iawn o oruchafiaeth coron Lloegr dros y tywysogion Cymreig ac yn symbolau o ormes Lloegr ar drigolion Cymru. Roedd cestyll Caernarfon, Conwy a Harlech ymhlith cestyll mwyaf sylweddol Cymru ar y pryd, ac roedd maint eu hadeiladwaith yn ddatganiad clir o reolaeth Lloegr yng Nghymru. Y prif bensaer a oedd yn gyfrifol am gynllunio ac adeiladu Castell Caernarfon oedd Meistr James o St George, pensaer profiadol a pheiriannydd milwrol a fu'n unigolyn allweddol yng nghydlynu rhaglen adeiladu cestyll Edward yng Nghymru. 

Yn ôl Flores Historiarum, darganfuwyd corff yr Ymerawdwr Rhufeinig Macsen Wledig adeg cloddio ac adeiladu’r castell a’r dref amgylchynol. Ar orchymyn Edward I, cafodd ei gorff ei ail-gladdu mewn eglwys leol.

Roedd adeiladu’r castell carreg newydd yn rhan o raglen adeiladu a weddnewidiodd dref Caernarfon; ychwanegwyd muriau'r dref i gysylltu â’r castell ac adeiladwyd cei newydd ger y castell. Mae’r cyfeiriad cynharaf at y gwaith adeiladu oedd yn digwydd yng Nghaernarfon wedi ei gofnodi ar 24 Mehefin 1283, pan gloddiwyd ffos a oedd yn gwahanu safle’r castell oddi wrth y dref a oedd i’r gogledd. Cludwyd prennau ar long o Lerpwl a daeth y cerrig o chwareli cyfagos, fel yn Ynys Môn ac o gwmpas y dref.

Bu gweithlu o gannoedd yn cloddio’r ffos ac yn cloddio’r seiliau ar gyfer y castell. Wrth i’r safle ehangu, dechreuwyd tresmasu ar y dref a bu'n rhaid clirio tai ar gyfer yr adeiladwaith newydd. Aeth tair blynedd heibio cyn y talwyd iawndal i’r trigolion a gollodd eu tai. Tra'r oedd seiliau ar gyfer y castell yn cael eu creu, adeiladwyd ystafelloedd o bren ar gyfer Edward I a’i wraig, y Frenhines Eleanor o Castile. Cyraeddasant Gaernarfon naill ai ar 11 neu 12 Gorffennaf 1283 ac aros yno am tua mis.

Parhaodd y gwaith adeiladu ar Gastell Caernarfon drwy gydol gaeaf 1283-84. Credai’r hanesydd pensaernïol, Arnold Taylor, bod Tŵr yr Eryr wedi cael ei gwblhau erbyn i Edward ac Eleanor ymweld â’r castell adeg Pasg 1284. Yn dilyn pasio Statud Rhuddlan ar 3 Mawrth 1284 rhoddwyd statws bwrdeistref i Gaernarfon a phenodwyd hi'n ganolfan weinyddol teyrnas Gwynedd. Yn ôl traddodiad, ganwyd Edward II yng Nghaernarfon ar 25 Ebrill 1284 a rhoddwyd teitl ‘Tywysog Cymru’ iddo yn 1301, gyda rheolaeth dros Gymru a’i hincwm. Ers hynny, mae arferiad yn golygu bod y teitl yn cael ei roi i fab hynaf y teyrn. Yn ôl chwedloniaeth, cyflwynodd Edward ei fab newydd-anedig i’r Cymry wedi iddo addo iddynt y byddai’n rhoi i Gymru dywysog na fedrai air o Saesneg. Er hynny, dim ond yn ôl i’r 16eg ganrif y mae modd olrhain yr hanesyn hwn.

Yn 1284, roedd Caernarfon yn cael ei hamddiffyn gan garsiwn o ddeugain o filwyr, o gymharu â’r deg ar hugain o ddynion oedd yn amddiffyn Conwy a Harlech. Hyd yn oed yn ystod cyfnodau o heddwch, pan fyddai’r mwyafrif o gestyll yn cael eu hamddiffyn gan ychydig o filwyr, byddai rhwng ugain a deugain yn gwarchod Castell Caernarfon oherwydd ei bwysigrwydd.

Erbyn 1285 roedd rhan helaeth o furiau’r castell wedi eu cwblhau, ond parhau wnaeth y gwaith ar y castell. Ychydig iawn a wariwyd ar y castell o 1289 ymlaen, gyda’r cofnodion ariannol yn dod i ben yn 1292. Roedd rhaglen adeiladu cestyll Edward wedi costio £80,000 rhwng 1277 a 1304 a £95,000 rhwng 1277 a 1329. Erbyn 1292 roedd £12,000 wedi cael ei wario ar adeiladu Castell Caernarfon a muriau’r dref a amgylchynai’r castell. Gan fod y mur deheuol a muriau’r castell yn cwblhau cylch amddiffynnol o gwmpas Caernarfon, y cynllun oedd adeiladu ffasâd gogleddol y castell ddiwethaf.

Yn 1294, cododd Madog ap Llywelyn mewn gwrthryfel yn erbyn rheolaeth coron Lloegr. Gan mai Caernarfon oedd pencadlys gweinyddol Gwynedd ac yn symbol o ormes pŵer Lloegr, daeth yn darged i wrthryfeloedd gan y Cymry. Meddiannwyd y dref gan filwyr Madog ym mis Medi ac yn y cyfnod hynny difrodwyd muriau’r dref yn sylweddol. Roedd y castell yn cael ei amddiffyn gan ffos a baricêd dros dro yn unig. Cipiwyd y castell yn sydyn a llosgwyd unrhyw beth oedd yn fflamadwy. Lledaenodd y tân ar draws Caernarfon, gan adael difrod a llanast. Yn ystod haf 1295, penderfynodd y Saeson eu bod am adfeddiannu Caernarfon, ac erbyn mis Tachwedd 1295 roeddent wedi dechrau ailgryfhau amddiffynfeydd y dref.  Rhoddwyd blaenoriaeth uchel i ailadeiladu muriau’r castell a gwariwyd £1,195 (bron i hanner y swm a wariwyd ar y muriau yn y lle cyntaf) yn cwblhau’r gwaith, tua deufis ar y blaen i’r amserlen. Yn dilyn hynny, trodd yr adeiladwyr eu sylw at gwblhau’r gwaith a oedd wedi dod i ben yn 1292. Ar ôl trechu gwrthryfel Madog, dechreuodd Edward adeiladu Castell Biwmares ar Ynys Môn, a chafodd y gwaith ei arolygu gan Feistr James o St George. Walter o Henffordd ymgymerodd â'r gwaith fel prif saer maen y cyfnod newydd hwn o adeiladu. Erbyn diwedd 1301, roedd £4,500 yn ychwanegol wedi cael ei wario ar y gwaith, gan ganolbwyntio ar y mur gogleddol a’r tyrrau.  

Mae bwlch yn y cofnodion rhwng Tachwedd 1301 a Medi 1304, sydd o bosibl yn dangos bod oedi wedi bod yn y gwaith tra'r oedd y gweithlu wedi cael ei symud i’r gogledd er mwyn helpu gyda rhyfel Lloegr yn yr Alban. Mae cofnodion yn dangos bod Walter o Henffordd wedi gadael Caernarfon a'i fod yng Nghaerliwelydd yn Hydref 1300 ac wedi aros yn yr ardal honno tan dymor yr Hydref 1304 pan ailgydiwyd yng ngwaith adeiladu Caernarfon. Bu Walter farw yn 1309 ac olynwyd ef fel y prif saer maen gan Henry o Ellerton. Parhaodd y gwaith adeiladu ar gyfradd gyson a phwyllog tan 1330.

Rhwng 1284 a 1330, pan mae’r cofnodion yn dod i ben, gwariwyd rhwng £20,000 a £25,000 ar Gastell Caernarfon a muriau’r castell. Roedd swm o’r fath yn anferthol ac yn wariant eithriadol o uchel o gymharu â chostau adeiladu’r cestyll yn Dover a Chateau Gaillard, a oedd ymhlith amddiffynfeydd pwysicaf a drutaf diwedd y 12fed ganrif a dechrau'r 13eg ganrif.

Ychwanegiadau bach a wnaed i’r castell wedi hynny, ac mae’r castell a welir heddiw fwy neu lai wedi goroesi fel y byddai yng nghyfnod Edward I. Er y symiau anferthol o arian a wariwyd ar y castell, ni chafodd y cynlluniau gwreiddiol ar gyfer y castell eu cwblhau'n llwyr. Ni chwblhawyd cefn ‘Porth y Brenin’ (sef y fynedfa o ochr y dref) nac ychwaith ‘Borth y Frenhines’ (y fynedfa o'r de-ddwyrain), ac mae seiliau tu mewn i'r castell yn dynodi lle byddai adeiladau wedi sefyll pe bai'r gwaith wedi parhau. 

Parhaodd y trefniadau a gyflwynwyd gan Edward I ar gyfer rheoli Cymru am tua dwy ganrif. Yn ystod y cyfnod hwn roedd milwyr parhaol yn amddiffyn y castell yn gyson gan mai Caernarfon mewn gwirionedd oedd prifddinas gogledd Cymru. At ei gilydd, roedd y swyddi gweinyddol pwysicaf yng Nghymru ar gau i’r Cymry ac arweiniodd y tensiynau cynyddol rhwng y Cymry a’r concwerwyr Seisnig at sawl enghraifft o wrthdaro, gyda’r un mwyaf difrifol yn ystod y 15fed ganrif gyda Gwrthryfel Glyndŵr. Adeg y Gwrthryfel roedd Castell Caernarfon yn un o dargedau byddin Owain Glyndŵr. Yn 1401 rhoddwyd y castell o dan warchae ac ym mis Tachwedd 1401 ymladdwyd Brwydr Twthill rhwng amddiffynwyr Caernarfon a’r lluoedd gwarchae. Yn 1403 a 1404 roedd Caernarfon o dan warchae milwyr Cymreig gyda chefnogaeth oddi wrth luoedd Ffrengig. Roedd y garsiwn oedd yn amddiffyn y castell ar y pryd tua 30 mewn nifer. 

Gan fod gwreiddiau'r Tuduriaid yng Nghymru, croesawyd esgyniad y teulu i’r orsedd yn 1485 a chyfrannodd hyn at leihad yn y tensiynau a’r gwrthdaro rhwng Cymru a Lloegr. O ganlyniad, roedd Castell Caernarfon, a oedd wedi bod yn bencadlys gweinyddol diogel i goron Lloegr yn flaenorol, bellach wedi lleihau mewn pwysigrwydd. Cafodd llawer o gestyll yng Nghymru eu hesgeuluso. Er bod gwneuthuriad Castell Caernarfon a’r muriau a amgylchynai’r dref yn gadarn, roedd cyflwr y toeon wedi dirywio a llawer a’r trawstiau pren wedi pydru. Erbyn 1620 dim ond Tŵr yr Eryr a Phorth y Brenin oedd â thoeon arnynt ac roedd deunyddiau gwerthfawr fel gwydr a haearn wedi cael eu tynnu o’r adeiladau domestig tu mewn i'r castell. Er hynny, roedd cyflwr y castell yn ddigon da fel bod gan y castell garsiwn y Brenhinwyr yno adeg y Rhyfel Cartref rhwng 1642 a 1649. Cafodd Castell Caernarfon ei roi o dan warchae dair gwaith yn ystod y Rhyfel Cartref. Ildiodd y Cwnstabl, John Byron, y Barwn 1af Byron, Gaernarfon i luoedd y Seneddwyr yn 1646 a dyma’r tro diwethaf i frwydro fod yng nghyffiniau’r castell.

Ar draws y canrifoedd, er bod gorchymyn wedi bod yn 1660 i ddifrodi’r castell a’r muriau, ac er iddo gael ei esgeuluso tan ddiwedd y 19eg ganrif, llwyddodd y castell i oroesi treigl amser. O’r 1870au ymlaen, ariannwyd atgyweiriadau i Gastell Caernarfon gan y Llywodraeth. Arolygwyd y gwaith gan y dirprwy gwnstabl, Llewellyn Turner, a chafodd sawl rhan o’r castell eu hadfer a’u hailadeiladu, yn hytrach na dim ond ceisio cadw’r gwaith carreg a fodolai neu a oedd wedi goroesi. Atgyweiriwyd grisiau, cylchfuriau a thoeon, ac er gwaethaf protestiadau lleol, cliriwyd yr adeiladau canoloesol yn y ffos i ogledd y castell. Ers 1908, mae’r castell wedi cael ei warchod gan Swyddfa’r Gweithfeydd oherwydd ei arwyddocâd hanesyddol.

Yn 1911, cafodd y castell ei ddefnyddio (am y tro cyntaf) fel lleoliad arwisgiad y Tywysog Edward (Edward VIII), sef mab hynaf y Brenin Siôr V, fel Tywysog Cymru. Cynhaliwyd y seremoni yn y castell yn sgil dylanwad David Lloyd George, brodor o sir Gaernarfon, a Changhellor y Trysorlys ar y pryd, yn y Llywodraeth Ryddfrydol. 

Cynhaliwyd arwisgiad Siarl, mab hynaf Elisabeth II, yno fel Tywysog Cymru yn 1969. Er mai’r Goron sy'n berchen ar Gastell Caernarfon, mae gwaith cynnal ac atgyweirio’r castell yn nwylo CADW, sef adran amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru. Mae CADW yn gyfrifol am gynnal a chadw safleoedd ac adeiladau hanesyddol o bwys yng Nghymru. 

Yn 1986, ychwanegwyd Caernarfon at restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, fel rhan o ‘Gestyll a muriau trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd’. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd byd-eang y safle a’r angen i’w gadw a’i ddiogelu ar gyfer y dyfodol. Mae’r castell hefyd yn gartref i Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Yn ystod 2015, adeiladwyd ‘mynedfa bafiliwn’ newydd a gynlluniwyd gan gwmni Donald Install Associates.

Erbyn heddiw mae Castell Caernarfon yn gyrchfan dreftadaeth bwysig i ymwelwyr, gyda thros 205,000 yn ymweld â’r safle yn 2018.

Ysbrydolwyd cynllun Castell Caernarfon gan awydd Edward I i greu adeilad a oedd yn symbol gweledol pwerus o awdurdod a rheolaeth Lloegr yng Nghymru. Pwysleisiwyd hynny oherwydd mai Caernarfon oedd pencadlys llywodraeth coron Lloegr yng ngogledd Cymru. Penderfynwyd ar gynllun y castell yn rhannol oherwydd gorweddiad y tir, a chafodd mwnt y castell blaenorol ei ymgorffori yn y castell newydd.

Roedd y castell ar ffurf rhif wyth. Rhannwyd y castell yn ddwy ran, y wardiau uwch ac is, yn y dwyrain a’r gorllewin, gyda’r wardiau dwyreiniol yn cynnwys y llety byw brenhinol, er na chafodd y rhan hon ei chwblhau. 

Ar hyd cysylltfur y castell mae nifer o dyrrau polygonaidd neu amlochrog a ddefnyddiwyd ar gyfer saethu. Roedd bylchfuriau ar ben y muriau a’r tyrrau, ac ar hyd yr wyneb deheuol roedd galerïau saethu. Yn ôl un hanesydd milwrol, Allen Brown, roedd y cyfuniad hwn o nodweddion yn golygu bod Castell Caernarfon yn un o bwerdai tanio a saethu gorau'r Oesoedd Canol.

Tŵr yr Eryr, ar gornel gorllewinol y castell, oedd un o dyrrau mwyaf trawiadol a mwyaf crand y castell. Mae ganddo dair tyred sydd â cherflun o eryr ar frig pob un. Roedd y tŵr yn llety moethus, a adeiladwyd yn fwy na thebyg ar gyfer Prif Ustus cyntaf Cymru, sef Syr Otton de Grandson. Roedd seler y tŵr yn cynnwys giât ddŵr, lle byddai ymwelwyr oedd yn teithio ar hyd afon Seiont yn gallu dod i mewn i’r castell. Roedd dŵr yn cael ei dynnu o ffynnon Tŵr y Ffynnon.

Roedd ymddangosiad y castell yn wahanol i gestyll Edwardaidd eraill oherwydd y defnydd o garreg lliwiau gwahanol wedi eu hadeiladu ar ffurff llorweddol ym muriau’r castell, a siâp polygonaidd y tyrrau, yn hytrach na rhai crwn. Dadleua rhai haneswyr bod cynllun muriau’r castell yn cynrychioli Muriau Caergystennin, ac mae'n ddigon posib bod cynllun cestyll y Dwyrain Canol wedi dylanwadu ar waith y Croesgadwyr a ddychwelodd ar ôl ymladd yn ystod y Croesgadau. Gwelai Edward I y castell - fel yn nyddiau Ymerodraeth Rufeinig Caergystennin - fel arwydd o awdurdod, a bu’r chwedl am freuddwyd Macsen Wledig, yr Ymerawdwr Rhufeinig, yn ddylanwad pwysig ar ei feddylfryd. Dehonglodd Edward freuddwyd Macsen fel cymhariaeth â’i gastell yng Nghaernarfon, a ffurfiodd Edward gysylltiad imperialaidd rhwng Segontium, a oedd ym mreuddwyd Magnus, a Chastell Caernarfon pan oedd yn cael ei adeiladu. Yn ôl ymchwil diweddar gan haneswyr fel Abigail Whaetley, awgrymwyd bod Edward wedi defnyddio delweddau o wahanol safleoedd Rhufeinig ym Mhrydain, a bod Castell Caernarfon yn cyfeirio at ddylanwad Arthuraidd er mwyn cyfiawnhau ei awdurdod fel Brenin.

Roedd dwy brif fynedfa i’r castell. Roedd un yn arwain o’r dref (sef Porth y Brenin) ac roedd un arall yn rhoi mynedfa uniongyrchol i’r castell heb orfod teithio drwy’r dref (Porth y Frenhines). Roedd y ddau yn nodweddiadol o’r cyfnod: sef rhodfa rhwng dau dŵr. Pe bai Porthdy’r Brenin wedi cael ei gwblhau, byddai ymwelwyr i’r castell wedi croesi’r ddwy bont godi, mynd drwy bum drws ac o dan chwe phorthcwlis, cyn cyrraedd y llawr amgaeëdig is. Roedd tyllau saethu a thyllau llofruddio wedi eu lleoli ar hyd y llwybrau hyn.

Tra bod mwyafrif helaeth y cysylltfur a’r tyrrau wedi goroesi, dim ond seiliau'r adeiladau a arferai fodoli y tu fewn i'r castell sydd i’w gweld heddiw. Pe bai Castell Caernarfon wedi cael ei gwblhau fel y bwriadwyd, byddai wedi cynnwys llys brenhinol a fyddai’n agos at saith cant mewn nifer. 

Cyn 1835 Cwnstabl y Castell oedd yn gwasanaethu hefyd fel Maer Caernarfon. Mae rhestr lawn o’r cwnstabliaid rhwng 1284 a 1835 i’w weld ar safle Cyngor Brenhinol Tref Caernarfon:




#Article 266: Macsen Wledig (273 words)


Rheolwr yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol oedd Macsen Wledig (Lladin: Magnus Maximus, tua 335 – 28 Gorffennaf 388), o gwymp yr Ymerodraeth ym 383 tan ei farwolaeth ym 388.

Celt-Iberiad (Celt o'r Sbaen Rufeinig) oedd Macsen Wledig a ddaeth i ynysoedd Prydain yn y 360au. Cafodd ei orseddu yn Ymerawdwr gan ei fyddin tra roedd ef a hwy yn gwasanaethu yng ngwledydd Prydain. Gorchfygodd ei brif elyn Gratianus ger Paris ac ar ôl hynny fe'i lladdwyd ganddo mewn brwydr yn Lyons ar 25 Awst 383. Cododd Macsen Wledig brifddinas yn Augusta Treverorum (Almaeneg: Trier) ac roedd yn Gristion.

Cafodd Macsen Wledig ei ddal a'i ladd gan ei gyn-noddwr Theodosius I yn Aquileia ger Trieste yn nhalaith Illyria ar 28 Gorffennaf 388.

Yn ôl y chwedl Gymreig ganoloesol Breuddwyd Macsen Wledig, priododd Macsen Elen Luyddog, merch Eudaf o ardal Segontium, y gaer Rufeinig ger Caernarfon, ac mae peth tystiolaeth bod y stori yn wir. Yn yr achau Cymreig nodir Sant Peblig ac Owain fab Macsen Wledig yn feibion Macsen ac Elen.

Yn ôl y traddodiad Cymreig, Macsen oedd yn gyfrifol am ymadawiad lluoedd Rhufain o Gymru 20 mlynedd cyn gweddill Prydain. Gadawodd Macsen diroedd Cymru yn nwylo’r bobl frodorol, gan gyflwyno trefn o hunanlywodraeth a barodd tua naw cant o flynyddoedd. Am y rheswm hwnnw, mae Macsen wedi ei ystyried yn ’Dad y Genedl Gymreig’.

Dywed Gwynfor Evans mai'r Cymry yn unig o holl bobloedd yr Ymerodraeth wrthsafodd y Germaniaid yn llwyddiannus yn dilyn cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, a bu’r drefn a gyflwynodd Macsen yn un o'r rhesymau pennaf dros hynny.

Mae gan Dafydd Iwan gân enwog sy'n cyfeirio at Macsen, sef Yma o Hyd.




#Article 267: Castell Biwmares (260 words)


Castell ar gyrion tref Biwmares, Ynys Môn yw Castell Biwmares.

Cafodd ei gynllunio gan James o St George yn gastell consentrig gyda ffos o'i gwmpas. Fe'i adeiladwyd ar lan Afon Menai gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1295 a 1298, ar ôl gwthryfel Madog ap Llywelyn. Dinistriwyd tref Llan-faes yn y gwrthryfel hwnnw, a chafodd rhai o'r cerrig o'r fynachlog enwog eu defnyddio i godi'r castell. Am ryw reswm chafodd y castell byth ei gwblhau.

Cipiwyd y castell gan gefnogwyr Owain Glyndŵr yn ystod gwrthryfel y tywysog.

Ar 27 Gorffennaf 1593, cafodd yr offeiriad Catholig o Gymro  William Davies, a gofir am ei ran yng nghyhoeddi Y Drych Cristianogawl, y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru, ei ddienyddio yn y castell trwy ei grogi, diberfeddu a chwarteru. Canoneiddwyd William Davies gan y Pab yn 1987.

Adeg Rhyfel Cartref Lloegr roedd castell Biwmares mewn man allweddol gan ei fod yn rheoli rhan o'r daith rhwng Iwerddon a Lloegr.
Roedd teulu Thomas Bulkeley, wedi bod yn ymwneud a rheoli'r castell am ganrifoedd ac roedd Thomas Bulkeley yn gefnogol i'r Brenin. Erbyn 1646 roedd y Pengryniaid wedi cael buddugoliaeth ar luoedd y brenin.  Gwrthryfeloedd Ynys Môn yn erbyn y Senedd eto yn 1648, ond bu rhaid iddyn nhw ildio yr ail waith yn yr Hydref.

Cynhaliwyd eisteddfod yng nghwrt y castell yn 1832.

Mae'r castell yng ngofal Cadw, ac mae'n un o'r atyniadau pennaf i dwristiaid ym Môn. Fe'i gosodwyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.




#Article 268: Castell Conwy (244 words)


Castell canoloesol yn nhref Conwy ar lan afon Conwy yw Castell Conwy. Cynllunwyd y castell gan y pensaer Ffrengig James o St George ac fe'i adeiladwyd gan Edward I, brenin Lloegr, er fod Rhisiart o Gaer yn gyfrifol yn y dechrau (1283). Adeiladwyd y castell a'r dref gaerog ar ben adfeilion Abaty Aberconwy, a ddinistrwyd gan Edward er mwyn defnyddio'r safle, ac mae mur o gwmpas y dref gyfan gan mai Saeson oedd trigolion y dref newydd. Roedd Castell Conwy, yn wahanol i nifer o gestyll eraill James o St George, heb fod yn gonsentrig ond yn cael ei godi yn ôl cynllun llinellol oherwydd ffurf y safle creigiog. Mae'r wyth tŵr anferth gyda'u tyredau a'r muriau cysylltu i gyd yn gyfan.

Mae'r castell yng ngofal Cadw. Fe'i gosodwyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd.

Codwyd Castell Conwy gan frenin Lloegr ar ôl iddo orchfygu Teyrnas Gwynedd, calon Tywysogaeth Cymru annibynnol, yn 1282-83. Roedd yn un o gylch o gestyll newydd - yn cynnwys Castell Caernarfon, Castell Biwmares a Chastell Harlech - a godwyd gan y Saeson o amgylch Gwynedd i'w gwarchod yn nwylo'r brenin rhag y Cymry gwrthryfelgar.

Ym 1401, yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr, cipiodd ei gefnogwyr Rhys ap Tudur a'i frawd Gwilym ap Tudur y castell, a llosgwyd y dref.

Gefeilliwyd Castell Conwy â Chastell Himeji, Japan mewn seremoni ffurfiol yn Himeji ar 29 Hydref 2019. 




#Article 269: Castell Dolwyddelan (454 words)


Castell o flaen bwlch yn y mynyddoedd ger pentref Dolwyddelan yn Nyffryn Lledr, Gwynedd, yw Castell Dolwyddelan. Mae'r castell yn sefyll mewn lle strategol, yn amddiffyn y fynediad i Wynedd o'r dwyrain ac o gyfeiriad Conwy. Mae ar restr safleoedd treftadaeth Cadw. Amddynnai rhannau uchaf cwmwd Nant Conwy.

Cyn i'r castell presennol gael ei godi roedd y dyffryn yn cael ei amddiffyn gan gastell llai, a adwaenir heddiw fel Tomen y Castell. Ar y safle ceir craig gydag olion aneglur muriau twr amddiffynol sy'n gorwedd chwarter milltir i'r de-ddwyrain o'r castell presennol.

Codwyd Castell Dolwyddelan gan dad Llywelyn Fawr, Iorwerth Drwyndwn. Mae'n bosibl bod Llywelyn Fawr wedi cael ei eni yma, neu yn Tomen Castell, tua 1173.

Roedd yn safle pwysig iawn i Llywelyn ein Llyw Olaf. Roedd un o'r ddau gastell (Dolbadarn oedd y llall) a etifeddodd. Roedd y tir o'i gwmpas yn safle ar gyfer cadw gwartheg i fwydo'r fyddin, un o gyfres o vaccaria tywysogaidd yn Eryri. Roedd Llywelyn yn cadw rhan o'i drysor yn y castell yn ogystal, er mwyn diogelwch. O bryd i'w gilydd byddai llys ar gylch y tywysog yn cael ei gynnal yno yn ogystal, fel y bu ar 9 Awst, 1275, er enghraifft. Felly tyfodd y castell i fod yn llawer mwy nag amddiffynfa yn unig; chwareai ran bwysig yn economi a gweinyddiaeth Tywysogaeth Gwynedd hefyd.

Cipiwyd y castell gan Edward I a'i luoedd ar y 18 Ionawr, 1283. Roedd y Saeson yn canolbwyntio ar y cestyll ar yr arfordir ac ni ddefnyddiwyd Dolwyddelan ar ôl 1290.

Mae gan y castell dau dŵr. Codwyd y gorthwr (keep) gwreiddiol ar ddiwedd y 12g neu ar ddechrau'r 13g; yr oedd iddi seler ynghyd â stafell ar y llawr cyntaf gyda grisiau cerrig allanol yn arwain iddi. Roedd y fynedfa i'r gorthwr yn cael ei amddiffyn gan bont godi ac adeilad blaen.

Mae llenfur o gerrig lleol yn amylghynu'r safle heddiw ond mae'n bosibl bod hwnnw wedi disodli palis pren cynharach, efallai yn gynnar yn y 13g.

Ymddengys i'r ail dwr ar y safle gail ei godi gan Llywelyn ap Gruffudd rhywbryd rhwng 1250 a 1270. Mae'n dwr petryal cadarn yng nghornel ogledd-orllewinol y castell ac mae'n wynebu'r gogledd.

Ychwanegwyd llawr arall at y gorthwr gwreiddiol yn y bymthegfed ganrif gan Maredudd ab Ieuan, uchelwr o Ddolwyddelan. Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg cafodd y gorthwr ei atgyweirio'n sylweddol. Y twr hwn yw'r mwyaf amlwg o'r ddau dwr heddiw, ond yn yr Oesoedd Canol buasai'r twr gorllewinol wedi bod yn llawer mwy trawiadol.

Mae'r castell yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd. Ceir maes parcio wrth ymyl yr A470 ar y ffordd i Flaenau Ffestiniog ar ôl gadael Dolwyddelan. Mae llwybr yn dringo o'r maes parcio i'r castell.




#Article 270: Braich (126 words)


Aelod uchaf mamolion deudroed yw braich, wedi'i lleoli rhwng yr ysgwydd a'r llaw. Mae'r gair Cymraeg 'braich' yn gytras â brech yn yr Hen Gernyweg a breac'h yn Llydaweg ac mae'r tri gair hyn yn tarddu o'r gair Lladin bracchium. Fe'i cofnodir yn Gymraeg mor bell yn ôl â 1200: '..hyd nes y cyrhaeddodd at hyd braich...'.

Mae'r fraich yn cynnwys 30 asgwrn, cymalau, cyhyrau a gwythiennau gwaed. Mae'r rhan fwyaf o'r cyhyrau'n cael eu defnyddio'n ddyddiol i wneud tasgau dyddiol, arferol.

Yn rhan uchaf y fraich ceir asgwrn a elwir yn humerws. Mae'n cyfarfod y sgapiwla ychydig yn uwch na chymal yr ysgwydd a chyda'r wlna a'r radiws yn y cymal penelin.

Mae'r humerws yn asgwrn cryf iawn a gall godi, ar gyfartaledd, 300 pwys.




#Article 271: Castell Cricieth (384 words)


Castell canoloesol Cymreig yw Castell Cricieth, sy'n sefyll ar glogwyn ar lan Bae Tremadog, ar ymyl tref Cricieth, Gwynedd, yng ngogledd Cymru. Mae gan y castell dŷ porth cadarn a thri thŵr a gysylltir gan fur amgylchynnol. Mae wedi'i gofrestru gan fel Gradd 1 ac yn cael ei warchod a'i gynnal gan Cadw.

Codwyd y castell yn y drydedd ganrif ar ddeg gan Lywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr), Tywysog Gwynedd a'i ŵyr, Llywelyn ap Gruffydd. Dechreuodd Llywelyn Fawr ar y gwaith tua'r flwyddyn 1230 gan godi tŷ porth trawiadol, tŵr petryal de-ddwyreiniol a llenfur oddi amgylch y cwrt mewnol. Ymddengys na ddefnyddiwyd y safle cyn hynny. Mae un traddodiad yn honni fod Llywelyn ap Iorwerth wedi cael ei garcharu yn y castell am gyfnod byr gan ei frawd Dafydd yn ystod y brwydro dros olyniaeth coron Gwynedd.

Ychwanegodd Llywelyn ap Gruffudd y llenfur oddi amgylch rhan o'r ward allanol, a'r tŵr de-orllewinol lle cafwyd enghreifftiau cain o gerfwaith carreg pan archwilwyd y safle gan archaeolegwyr. Cynhelid ei lys ar gylch yn y castell ar 26 Chwefror, 1274, a diau iddo gael ei ddefnyddio at y perwyl hwnnw ganddo fo a'i ragflaenwyr sawl gwaith cyn hynny.

Cafodd y castell ei gipio gan Edward I, brenin Lloegr, yn ystod ei ail ryfel ar Gymru (1282 - 83). Cryfhaodd Edward y castell, yn bennaf y tŷ porth, prif amddiffyn y castell. Nid yw'n sicr os dylir priodolir y trydydd tŵr i Edward I ynteu Llywelyn ein Llyw Olaf (yn erbyn ei ddyddio i gyfnod Edward y mae'r ffaith ei fod yn dŵr hirsgwar tebyg i dyrrau eraill a geir mewn rhai o'r cestyll Cymreig).

Yn ail hanner y 13g y marchog enwog Syr Hywel y Fwyall oedd Cwnstabl (ceidwad) y castell.

Yn ystod gwrthryfel Owain Glyn Dŵr cafodd y castell ei gipio ac ei losgi. Disgrifir y digwyddiad a'r amgylchiadau lleol yn nofel hanesyddol cofiadwy J.G. Williams, Betws Hirfaen (gw. isod).

Canodd y bardd Iolo Goch gywydd i Syr Hywel y Fwyall, rywbryd yn y 1370au efallai. Erbyn yr amser hynny roedd y castell wedi troi'n llys i'r uchelwr lleol o Gymro. Disgrifia Iolo'r castell uwchben tonnau geirw'r môr, y gwŷr wrth y byrddau'n chwareu gemau a'r merched yn llunio brodwaith wrth i'r haul disgleirio trwy'r ffenestri gwydr (peth prin iawn yn y cyfnod hwnnw oedd gwydr):




#Article 272: Terry Griffiths (100 words)


Chwaraewr snwcer o Gymru yw Terry Griffiths (ganwyd 16 Hydref 1947)

Cafodd ei eni yn Llanelli. Cyn troi yn chwaraewr snwcer proffesiynol 1978 roedd yn bostman yn y dre ac o fewn blwyddyn 1979 yr oedd wedi ennill pencampwriaeth y byd. Curodd Eddie Charlton yn y rownd gyn-derfynol a Dennis Taylor yn y rownd derfynol. O ganlyniad ef oedd y chwaraewr cyntaf  erioed i ennill Pencampwriaeth Snwcer y Byd a oedd wedi dechrau'r bencampwriaeth yn y rowndiau rhagbrofol.

Mae yn rhedeg ei glwb snwcer ei hun yn Llanelli a Chaerfyrddin ac wedi hyfforddi Mark Williams, Stephen Hendry a Matthew Stevens




#Article 273: Gwaed (223 words)


Mae gwaed yn hylif coch sy'n cylchredeg yng ngwythiennau, rhydwelïau a chalon bodau dynol a fertebratau eraill. Mae'n cynnwys yr hylif plasma, a chelloedd sy'n llifo drwyddo: celloedd coch (Erythrocytes), platennau (Thrombocytes) a chelloedd gwyn (Leukocytes).

Dyma'r brif system drafnidiaeth o fewn y corff, sy'n darparu ocsigen i holl organau a chelloedd y corff. Swydd y celloedd coch yw cludo ocsigen o amgylch y corff i roi egni i'r cyhyrau. Celloedd coch yw'r unig gelloedd yn y corff sydd ddim yn cynnwys cnewyllyn. Swydd y celloedd gwyn yw ymladd heintiau a saldra sy'n ceisio ymosod ar y corff. Mae plasma yn gyfrifol am gludo carbon deuocsid.

Mae nifer o dermau meddygol yn dechrau gyda hemo- neu hemato- yn dod o'r gair hen Roeg am waed - αἷμα (haima).

Caiff gwaed ei bwmpio trwy'r corff gan y galon. Mae rhwng pedwar a hanner i bum litr o waed yng nghorff dyn cyffredin.

Mae lliw gwaed dynol yn dibynnu ar faint o ocsigen sydd ynddo, oherwydd bod hyn yn effeithio ar gyflwr ocsideiddio yr atomau haearn yn yr hemoglobin – ac mae hyn yn dibynnu ar le'r gwaed yn y system gylchredol. Yn y rhydwelïau a'r capilarïau, mae lefelau'r ocsigen yn uchel ac mae'r gwaed yn goch llachar. Yn y gwythiennau, mae'r gwaed yn cynnwys llai o ocsigen, ac mae ei liw yn goch tywyll.




#Article 274: Bae Ceredigion (193 words)


Bae yn Sianel San Siôr yng ngorllewin Cymru yw Bae Ceredigion. Mae'r siroedd Gwynedd, Ceredigion a gogledd Sir Benfro yn ffinio â Bae Ceredigion. Gorwedd Penrhyn Llŷn i'r gogledd. Ceir tir amaeth da ar lannau'r bae.

Nodweddir arfordir y bae gan nifer o draethau braf gyda thywod gwyn. Mae bywyd gwyllt yr ardal yn unigryw ac yn cynnwys poblogaeth bwysig o ddolffinau a nifer o adar môr.

Mae sawl afon yn llifo i'r bae. Y pwysicaf yw:

Er nad oes llawer o ynysoedd yn y bae mae'n cynnwys un o ynysoedd pwysicaf Ynys Enlli, ynghyd ag Ynysoedd Tudwal yn y gogledd ac Ynys Aberteifi ac Ynys Lochdyn yn y de.

Hyd at yr 20g roedd trefi a phorthladdoedd Bae Ceredigion yn gartref i ddiwydiant morol pur sylweddol. Hwyliai llongau o Borthmadog dros Gefnfor Iwerydd ac i Ewrop, a bu Aberteifi yn bwysicach na Chaerdydd fel porthladd ar un adeg.

Yn llên gwerin Cymru, cysylltir y bae â sawl chwedl. Y fwyaf adnabyddus yn ddiau yw chwedl Cantre'r Gwaelod, y cantref a foddiwyd gan y môr ar noson stormus diolch i esgeulusdod Seithenyn. Ceir yn ogystal sawl traddodiad am fôr-forwynion, yn arbennig yng Ngheredigion.




#Article 275: Bae Sain Ffraid (109 words)


Bae yn Sianel San Siôr ar arfordir gorllewin Sir Benfro yw Bae Sain Ffraid. Fe'i diffinir gan Ynys Dewi a Penmaen Dewi yn y gogledd ac Ynys Skomer a phenrhyn Marloes yn y de. Mae'r glannau i gyd yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn cynnwys nifer o draethau tywodlyd braf.

Mae'r pentrefi a ganlyn ar lannau'r bae (o'r de i'r gogledd):

Er nad yw ar lan y bae ei hun mae dinas hanesyddol Tyddewi yn agos iddo hefyd, yn ei ben gogleddol.

Enwyd Penmaen Dewi ar fap hynaf y byd, sef map Ptolemi o'r 2g Ô.C.

Yr un enw â llwyth Celtaidd y Brigantes sydd yma.




#Article 276: Bae Abertawe (152 words)


Bae ar lannau gogledd orllewinol Môr Hafren rhwng siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yw Bae Abertawe. Amgylchynnir y bae, yn wrth-glocwedd, gan y trefi Porthcawl, Port Talbot, Llansawel, Abertawe, Y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr. Mae'r Afon Nedd, Tawe, Afan a nant Blackpill yn llifo i'r bae. Mae Bae Abertawe yn profi un o'r ystodau mwyaf o donnau yn y byd gydag uchafswm o tua 10m.

Yn y 2010au crewyd cynllun i harneisio ynni carbon isel ym Mae Abertawe sef Lagŵn Bae Abertawe, a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar ôl ei gwbwlhau.

Arferid pysgota am wstrys fod yn ddiwydiant pwysig yn Abertawe, gan gyflogi 600 o bobl yn ystod y 1860au. Fodd bynnag, o ganlyniad i or-bysgota, afiechydon a llygredd diflannodd yr wstrys bron yn llwyr erbyn 1920. Yn 2005, cyflwynwyd cynllun er mwyn ail-gyflwyno'r diwydiant.

Ym mis Medi 2005 roedd y Bae yn lleoliad i lofruddiaeth Ben Bellamy.




#Article 277: Y Cefnfor Tawel (285 words)


Y cefnfor mwyaf yn y byd yw'r Cefnfor Tawel (Saesneg: Pacific Ocean), sy'n gorwedd rhwng Asia yn y gorllewin a De a Gogledd America yn y dwyrain. Ceir ynysoedd niferus yn y cefnfor hwn sydd yn cael eu dosbarthu fel Melanesia, Polynesia a Micronesia, dosbarthiad diwyllianol yn hytrach na dosbarthiad daearyddol. Ymysg y moroedd sydd yn perthyn i'r Cefnfor Tawel y mae Môr Bering, Môr Okhotsk, Môr Japan, Y Môr Melyn, Môr Dwyreiniol Tsieina, Môr De Tsieina, Môr Bismarck, Môr Solomon, Y Môr Cwrel a Môr Tasman.

Mae llawer o wledydd ar arfordir y cefnfor hwn: Rwsia, Japan, Taiwan, Y Philipinau, Indonesia, Papua Gini Newydd, Awstralia, Seland Newydd, Ffiji, Ciribati, Ynysoedd Marshall, Taleithiau Ffederal Micronesia, Nawrw, Palaw, Samoa, Ynysoedd Solomon, Tonga, Twfalw, Fanwatw, Unol Daleithiau America, Canada, Mecsic, Gwatemala, El Salfador, Hondwras, Nicaragwa, Costa Rica, Panama, Colombia, Ecwador, Periw a Tsile.

Mae ganddo arwynebedd o 179.7 miliwn km² (35% o arwynebedd y ddaear) ac mae'n cynnwys tua 723.7 miliwn km³ o ddŵr. Mae dyfnder cyfartalog y Cefnfor Tawel oddeutu 4,028 m, ac mae'n cynnwys y lle dyfnaf yn y byd: dyffryn hollt Marianas sydd 11,034m o dan lefel cymedrig y môr. Mae 15,500 km (9,600 milltir) o bellter rhwng y Môr Bering yn y gogledd a Môr Ross yn Antarctica yn y dde, a 19,800 km (12,300 milltir) o Indonesia i glannau Colombia.

O'r Cefnfor Tawel gellir mynd i Gefnfor Arctig trwy Fôr Bering, i Gefnfor Iwerydd trwy Gamlas Panamá neu rownd Yr Horn neu yn yr haf ym 2007 roedd yn bosib heibio gogledd Canada (does dim llwybr trwy'r iâ yn arferol), ac i Gefnfor India o gwmpas Awstralia neu drwy ynysoedd de-ddwyrain Asia a Chulfor Melaka, un o'r dyfrffyrdd prysuraf yn y byd.




#Article 278: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (125 words)


Parc Cenedlaethol yn ne Cymru yw Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r parc yn gorwedd rhwng trefi Llandeilo, Llanymddyfri, Aberhonddu, Y Gelli, Pont-y-pŵl a Merthyr Tudful. Ffurfiwyd y Parc Cenedlaethol ym 1957.

Canolbwynt y parc yw mynyddoedd uchel Bannau Brycheiniog. Yng ngorllewin y parc mae'r Fforest Fawr a'r Mynydd Du, rhostir eang, ac yn y dwyrain y tu draw i Fannau Brycheiniog mae mynyddoedd o'r un enw, Mynydd Du, ar y ffin â Lloegr.

Yn y parc mae nifer o lwybrau cerdded a lonydd beicio. Mae arwynebedd o 1344 km² ganddo. Gwelir sawl rhaeadr yn y parc, gan gynnwys Sgŵd Henrhyd sydd 27 medr o uchder. Yn ardal Ystradfellte, ceir sawl ogof nodedig, megis Ogof Ffynnon Ddu. Gwelir merlod mynydd Cymreig yn pori yn y parc.




#Article 279: John Cale (747 words)


Cerddor yw John Cale (ganwyd 9 Mawrth 1942). Efe a sefydlodd y band arbrofol The Velvet Underground gyda Lou Reed yn 1965. Cafodd ei eni yn y Garnant, Sir Gaerfyrddin.

Yn enwocaf am ei gerddoriaeth roc, mae Cale hefyd wedi gweithio mewn amryw o genres yn cynnwys drôn a chlasurol. Astudiodd yng Ngholeg Goldsmith, Prifysgol Llundain. Ers gadael The Velvet Underground mae Cale wedi rhyddhau dros ddwsin o recordiau hir unigol ac wedi gweithio gyda rhai o enwau mawrion y byd roc yn cynhyrchu neu’n chwarae offerynnau.
 
Ymhlith y rhai mae Cale wedi cydweithio â nhw yw: Lou Reed, Nico, La Monte Young, John Cage, Terry Riley, Hector Zazou, Cranes, Nick Drake, Mike Heron, Kevin Ayers, Brian Eno, Patti Smith, The Stooges, Lio, The Modern Lovers, Art Bergmann, Manic Street Preachers, James Dean Bradfield, Super Furry Animals, Catatonia, Manchild, Big Leaves, Derrero, Tystion, Fernhill, Gorky's Zygotic Mynci, Marc Almond, Element of Crime, Squeeze, Happy Mondays, LCD Soundsystem, The Replacements a Siouxsie and the Banshees.

Fe'i ganwyd yn ardal Cwmaman i Will Cale a Margaret Davies. Roedd ei fam yn athrawes a'i dad yn löwr. Fe'i magwyd yn uniaith Gymraeg hyd nes iddo ddechrau dysgu Saesneg wrth fynychu ysgol gynradd, er bod ei dad yn ddi-Gymraeg. .

Mae Cale, a oedd yn unig blentyn, yn cofio pedwar brawd ei fam yn glir, yn eu plith Davey Davies a gynhyrchai, gyda'i wraig, Mai Jones, sioe radio adloniant ysgafn BBC Wales, Welsh Rarebit; hi a gyfansoddodd y gerddoriaeth i We'll Keep a Welcome, a glywyd gyntaf yn 1940. ‘Dyma beth oedd adloniant o ddifri', meddai Cale (Cale a Bockris 1999). Roedd ewythr arall, dylanwad mawr iawn arnaf, yn canu'r ffidil, ac o ganlyniad dechreuodd Cale ddysgu’r piano a’r fiola yn y man.

Roedd cerddoriaeth ac addysg o’i gwmpas ym mhobman wrth iddo dyfu, ac aeth yn ei flaen o Ysgol Gynradd Sirol y Garnant i Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Bu cyfres o drafferthion personol pan oedd oddeutu’r 13 oed yn rhwystr i’w yrfa academaidd; ond maes o law enillodd Cale le i hyfforddi fel athro yng Ngholeg Goldsmiths yn ne Llundain, lle bu’n astudio rhwng 1960 ac 1963.
Yn ystod ei blentyndod fe ymosodwyd arno'n rhywiol gan ddau dyn gwahanol, un ohonynt yn weinidog Anglicanaidd, o fewn eglwys.

Wedi darganfod ei dalent yn chwarae'r fiola, astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Goldsmiths, Llundain. Yno, cyfrannodd at gyflwyno cerddoriaeth fodernaidd ac avant-garde ei ddydd, gan gynnwys ei waith ei hun. Yn sgil cyfarfod ag Aaron Copland cafodd le yng Nghanolfan Gerddoriaeth Berkshire yn Tanglewood, Massachusetts, ond buan y symudodd i Efrog Newydd, a fu ers hynny’n ganolbwynt daearyddol i’w fywyd. Cydweithiodd â'r mudiad avant garde Fluxus gan drefnu un o'u cyngherddau cynnar ym 1964. Gyda chymorth y cyfansoddwr Americanaidd enwog Aaron Copland fe deithiodd i'r Unol Daleithiau i barhau ei astudiaethau cerddorol.

Yn Efrog Newydd cyfarfu â nifer o gyfansoddwyr dylanwadol gan gymryd rhan mewn cyngerdd piano 18 awr o Vexations gan Erik Satie. Yn dilyn y gyngerdd fe ymddangosodd ar y rhaglen deledu I've Got a Secret – ei gyfrinach ei fod o wedi perfformio mewn cyngerdd 18 awr. Bu hefyd yn chwarae mewn ensemble Theatre of Eteranal Music/Dream Syndicate: roedd eu cerddoriaeth drôn yn ddylanwad ar y Velvet Underground yn ddiweddarach. Un o'i gydweithwyr cynnar oedd Sterling Morrison a ddaeth yn gitarydd y Velvet Underground.

Yn gynnar ym 1965, cyd-sefydlodd band gyda Lou Reed, yn recriwtio Angus MacLise (a oedd yn rhannu fflat ar y pryd) a Sterling Morrison. Fe ddefnyddwyd yr enwau The Primatives, a'r Falling Spikes cyn dewis y Velvet Underground, a ysbrydolwyd gan lyfr am arferion rhywiol.
Yn fuan cyn eu gig cyntaf (am ffi o $75 mewn ysgol gynradd), gadawodd MacLise y grŵp ac fe gymerwyd ei le gan Maureen Tucker ar ddrymiau. Er iddi ond cael ei recriwtio am y noson honno, daeth hi'n aelod sefydlog gyda'i steil dyrnu elfennol yn dod yn rhan annatod o sŵn y band, er gwaethaf amheuon Cale ar y dechrau.

Y recordiad cyntaf a rhyddhawyd oedd trac offerynnol o'r enw Loop ar ddisg-fflecsi a gynhwtswyd am ddim gyda'r cylchgrawn tanddaearol Aspen Magazine. Cafwyd ar y trac arbrawf atborth (feed-back) a ysgrifennwyd gan Cale a chwaraeodd y fiola.

Rhyddhawyd ei 16ed albwm unigol M:FANS yn Ionawr 2016. Roedd yn cynnwys fersiynau newydd o ganeuon o'i albwm Music for a New Society (1982).

Mewn cyfweliad gyda Huw Stephens yn Chwefror 2016, cyhoeddodd ei fod am ddechrau cyfansoddi yn y Gymraeg a fod ganddo rhai syniadau am ganeuon yn ei famiaith yn barod.

 




#Article 280: Daeareg (433 words)


Astudiaeth o'r ddaear ffisegol yw Daeareg neu Geoleg (Groeg: γη- sef ge-, y ddaear a λογος, sef logos, gwyddoniaeth). Mae'n cynnwys astudiaeth o greigiau solid a chramen y Ddaear. Gellir dyddio'r creigiau hyn, a rhennir hanes y ddaear yn gyfnodau daearegol. Gall y gair 'daeareg' hefyd gyfeirio at yr astudiaeth o greigiau a cherrig planedau a ffurfiau eraill yn y gofod e.e. daeareg y Lleuad.

Drwy'r maes hwn ceir cip cliriach o hanes y Ddaear; mae daeareg yn astudiaeth o dystiolaeth cynradd o blatiau tectonig, esblygiad bywyd ar y Ddaear a newid yn hinsawdd y Ddaear. Fe'i defnyddir hefyd yn yr astudiaeth o fwynau, eu cloddio a'u marchnata; felly hefyd gyda phetroliwm a hydrocarbonau eraill. Mae'r astudiaeth o ddŵr y môr a dŵr croyw hefyd yn seiliedig ar astudiaeth o'r maes hwn, yn ogystal â pheryglon naturiol daearyddol a phroblemau gyda'r amgylchedd.

Mae daeareg Ynysoedd Prydain yn enwog am ei amrywiaeth gyfoethog o greigiau a cheir enghreifftiau o bron yr holl oedoedd daearegol o'r Archaean ymlaen.

Mae ymchwil seismograffig yn dangos bod crwst y Ddaear rhwng 27 a 35 km (17 i 22 milltir) o drwch. Mae'r creigiau hynaf i'w cael yng ngogledd orllewin yr Alban ac maent yn fwy na hanner oed blaned. Credir bod y creigiau hyn i'w cael hefyd, yn isel o dan llawer o Brydain - dim ond y cilometrau cyntaf y mae tyllau turio wedi eu treiddio. Gwelir yr un creigiau yn Llydaw, ac felly, credir eu bod yn rhedeg yn isel dan yr wyneb o'r ardal i Lydaw. Mae'r creigiau ieuengaf i'w cael yn ne-ddwyrain Lloegr.

Mae'r Cyfoeth Naturiol Cymru yn dewis safleodd pwysig er mwyn eu gwarchod ac yn eu rhestru ar yr Arolwg Cadwraeth Daearegol (ACD). Mae dau fath o safle sef Safle Daearegol Rhanbarthol Pwysig (SDRhP) a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDGA). Hefyd mae UNESCO wedi dynodi dau GeoParc yng Nghymru sef Fforest Fawr a GeoMôn.

Mae Geoparc Fforest Fawr y tu mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ne Cymru. Mae GeoMôn yn cynnwys Ynys Môn i gyd ar sail y ffaith fod Môn yn ynys tectonig. Ceir Creigiau hynaf y byd a elwyr yn Cyn-Cambriaidd ar Ynys Môn sydd dros 500 miliwn o flynyddoedd oed hyd at y creigiau ieuengaf  heblaw am greigiau yr oes Juraisg ac Oes y Calchfaen. Tiriogaeth sy’n cynnwys un neu fwy o leoliadau o bwysigrwydd gwyddonol, sydd o werth archeolegol ecolegol a diwylliannol yn ogystal a bod o ddiddordeb daearegol yw GeoParc. Mae yna dros 50 Geoparc yn Ewrop.

Mae'r tri rhaniad neu gyfnod wedi eu henwi ar ôl hynafiaethau Cymreig neu Geltaidd, sef y cyfnodau:




#Article 281: Llosgfynydd (244 words)


Caiff llosgfynydd (mynydd tân) ei greu lle mae craig tawdd (magma) yn codi i wyneb y ddaear gan achosi echdoriadau folcanig. Craig wedi ei doddi mwy na 10 km o dan wyneb y Ddaear yw magma sydd wedyn yn dechrau codi tuag at wyneb y ddaear. Pan gyrhaedda'r magma wyneb y ddaear fe lifa neu fe dasga o'r ddaear ar ffurf lafa neu lludw folcanig. Ar wahân i graig tawdd mae lafa yn cynnwys nwy.

Lleolir llosgfynyddoedd y ddaear lle mae platiau tectonig yn cwrdd neu uwchben mannau poeth. Ar hyn o bryd mae'r mwyafrif o ffrwydriadau llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd y ddaear yn digwydd o gwmpas y Môr Tawel, yn dilyn ymylon plât tectonig y Môr Tawel.

Llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ ydy Eyjafjallajökull ac fe achosodd gryn anhwylustod i deithio awyr drwy Ewrop yng ngwanwyn 2010. Chwythodd gwynt y gogledd ei lwch dros wledydd Prydain yn Ebrill a Mai pan waharddwyd awyrennau rhag hedfan. Ym Mai 2011 ffrwydrodd llosgfynydd arall ynn Ngwlad yr Iâ, sef Grímsvötn. Rhyddhawyd mwy o ludw yn ystod y 24 awr cyntaf na wnaeth Eyjafjallajökull drwy gydol ei echdoriad. Roedd y cymylau lludw'n codi hyd at 15 km. Mesurodd VEI4 ar y raddfa berthnasol.

Dyma rai o'r llosgfynyddoedd enwocaf:

Nid oes llosgfynyddoedd yn ffrwydro yng Nghymru heddiw, ond fe oedd miliynau o flynyddoedd yn ôl. O ganlyniad, mae'n bosib gweld creigiau a lludw folcanig yng Nghymru, er enghraifft ar Rhobell Fawr. Fe ddefnyddir y creigiau hyn ar gyfer adeiladu.




#Article 282: Adam Price (479 words)


Gwleidydd o Gymro ac arweinydd Plaid Cymru yw Adam Price (ganwyd 23 Medi 1968) ac Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ers 2016. Mae'n gyn-aelod seneddol Plaid Cymru yn cynrychioli etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Enillodd y sedd oddi wrth y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 2001. Fe'i etholwyd yn arweinydd Plaid Cymru yn Medi 2018 ac ef yw'r person hoyw agored cyntaf i arwain plaid wleidyddol yn y Deyrnas Unedig.

Ganwyd Adam Robert Price yng Nghaerfyrddin yn fab i Rufus, cyn-lowr a phaffiwr, ac Angela. Fe'i magwyd yn y Tymbl yna Tŷ-croes ger Rhydaman. Er fod ei rieni yn siarad Cymraeg, iaith yr aelwyd oedd Saesneg am eu bod yn meddwl fod hyn yn fwy manteisiol mewn bywyd.  Penderfynodd ei frawd hyn Adrian ddysgu Cymraeg ei hunan a pasiodd ei angerdd at yr iaith i'w frawd. Dysgodd Adam Gymraeg yn eithaf rhugl o fewn 12 mis.

Yn blentyn roedd yn gristion efengylol ac roedd ganddo dalent am siarad cyhoeddus. Roedd ei ddaliadau crefyddol yn gwrthdaro gyda'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac yn ddiweddarach ei rywioldeb. Penderfynodd yn y diwedd i ddilyn y trywydd gwleidyddol. Aeth drwy gyfnod o anffyddiaeth ond daeth i gyfaddawd gyda'i ffydd lle mae'n galw ei hun yn Gristion ond yn dal i chwilio am atebion.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Dyffryn Aman ac aeth ymlaen i Brifysgol Caerdydd lle graddiodd gyda BSc mewn Economeg.

Safodd yn Etholiad Cyffredinol 1992 yn etholaeth Gŵyr ond yn anllwyddiannus. Etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr  yn 2001.

Ar 25 Awst 2004, cyhoeddodd Price ei fod am ddechrau proses o uchelgyhuddiad (impeachment) yn erbyn Tony Blair, gyda chefnogaeth aelodau seneddol Plaid Cymru a'r SNP. Doedd uchelgyhuddiad ddim wedi cael ei ddefnyddio yn y DU am 150 o flynyddoedd. Pe buasai'n llwyddiannus buasai'n rhaid i Blair sefyll achos yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond methiant oedd y mesur.

Ar 5 Mai 2005 cafodd ei ailethol yn AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr gyda chynnydd yn ei fwyafrif (17.5%).

Ar 31 Hydref 2006, agorodd ddadl tair awr ar y ymchwiliad i'r Rhyfel yn Irac, y ddadl gyntaf ar y pwnc mewn dros ddwy flynedd. Cynigiodd yr SNP a Phlaid Cymru sefydlu pwyllgor o saith AS blaenllaw i adolygu y ffordd y cafodd dyletswyddau'r llywodraeth eu cyflawni ynglŷn â'r rhyfel yn Irac. Collwyd y cynnigiad o 298 pleidlais i 273, mwyafrif tenau o 25 i'r llywodraeth, ond enillodd gefnogaeth sawl AS gan gynnwys Glenda Jackson ac ASau Llafur 'rebel' eraill.

Yng Ngorffennaf 2018 sefodd fel ymgeisydd i fod yn arweinydd newydd Plaid Cymru, gan gystadlu yn erbyn Rhun ap Iorwerth a'r deiliad Leanne Wood.

Fe'i etholwyd yn arweinydd y blaid ar 28 Medi 2018. Enillodd Price 3,481 pleidlais yn y rownd gyntaf, gydag ap Iorwerth yn ail gyda 1,961 pleidlais a Wood yn drydydd gyda 1,286. Yn yr ail rownd, cafodd Price 2,863 pleidlais, a derbyniodd ap Iorwerth 1,613 pleidlais.




#Article 283: Simon Thomas (gwleidydd) (295 words)


Cyn-wleidydd o Gymro yw Simon Thomas (ganwyd 28 Rhagfyr 1963) a oedd yn aelod blaenllaw o Blaid Cymru.  Bu'n Aelod Seneddol dros Etholaeth Ceredigion rhwng 2000 a 2005. Enillodd y sedd mewn is-etholiad yn 2000 ar ôl i Cynog Dafis ymddiswyddo i ganolbwyntio ar ei waith fel aelod o'r Cynulliad dros Geredigion.  Yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011, fe'i etholwyd yn aelod dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ond ymddiswyddodd fel Aelod Cynulliad ac o Blaid Cymru yng Ngorffennaf 2018.

Mae Thomas yn hannu o Gwmaman a mynychodd Ysgol Ramadeg Bechgyn Aberdâr yn Nhrecynon ger Aberdâr. Enillodd Baglor y Celfyddydau yn yr iaith Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth ym 1985, a Diploma ôl-raddedig o Goleg Llyfrgellyddiaeth Cymru yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth ym 1988.

Bu'n guradur cynorthwyol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 1986–1992. O 1992–1994, bu'n Swyddog Polisi ac Ymchwil ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Tâf-Elai, ac o 1994–2000, bu'n reolwr Datblygaeth Cefn Gwlad ar gyfer yr asiantaeth datblygu JIGSO.

Ymddiswyddodd fel Aelod Cynulliad ac fel aelod o Blaid Cymru ar 25 Gorffennaf 2018 yn sgîl ymchwiliad heddlu i honiadau o natur ddifrifol. Cadarnhaodd yr heddlu eu bod wedi arestio unigolyn ar amheuaeth o fod â “delweddau anweddus” yn ei feddiant.

Cynigiwyd y sedd i'r nesaf ar y rhestr rhanbarthol, sef Helen Mary Jones, ac ar 2 Awst 2018 cadarnhawyd y byddai'n cymryd y sedd a dychwelyd i'r Cynulliad.

Ymddangosodd Thomas yn Llys Ynadon Aberystwyth ar 3 Hydref 2018 lle plediodd yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant. Ar 31 Hydref 2018, yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug, cafodd ddedfryd o 26 wythnos o garchar wedi ei ohirio. Fe'i roddwyd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am saith mlynedd.

Mae'n briod â Gwen, merch y bardd a'r academydd Gareth Alban Davies. Mae ganddynt mab a merch.




#Article 284: Hywel Dda (1738 words)


Brenin teyrnas y Deheubarth yn ne-orllewin Cymru oedd Hywel 'Dda' ap Cadell (tua 880–950). Roedd yn ŵyr i Rhodri Fawr, drwy ei dad, Cadell. Ef fu'n gyfrifol am uno Ceredigion, Ystrad Tywi a Dyfed i greu teyrnas newydd y Deheubarth. Erbyn ei farwolaeth yn 950 roedd yn rheoli Gwynedd a'r rhan fwyaf o Gymru, gyda’i deyrnas yn ymestyn o Brestatyn i Benfro. 

Fel ei dad-cu, Rhodri Mawr, llwyddodd i greu ymwybyddiaeth o genedligrwydd yng Nghymru, a’i gyfraniad nodedig at hynny oedd creu cyfraith unffurf gyntaf y wlad, a adnabuwyd fel Cyfraith Hywel Dda. Fel disgynnydd i Rhodri Mawr, roedd Hywel yn aelod o linach frenhinol Dinefwr. Cofnodwyd ef fel Brenin y Brythoniaid yn yr Annales Cambriae ac Annals of Ulster. Mae’n cael ei ystyried ymhlith rheolwyr mwyaf nodedig Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol.

Roedd ei waith yn trefnu cyfreithiau traddodiadol Cymru yn gyfraniad neilltuol i helpu i greu a diffinio elfen o hunaniaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol. Enwyd y cyfreithiau yn Gyfraith Hywel Dda ac roedd y cyfeiriad at yr ansoddair ‘da’ yn ei enw yn adlewyrchu’r ffaith bod y cyfreithiau yn cael eu hystyried yn rhai cyfiawn a theg. Roedd yr hanesydd Dafydd Jenkins yn eu gweld fel cyfreithiau trugarog yn hytrach nag fel cosbau, gyda phwyslais ar synnwyr cyffredin wrth weinyddu’r gyfraith a chydnabyddiaeth o hawliau merched yng nghyd-destun y gyfraith. Roedd Hywel Dda yn ddyn dysgedig, hyd yn oed yn ôl safonau modern, yn gyfarwydd iawn â’r Gymraeg, Lladin a Saesneg. 

Mae adeilad swyddfeydd a chartref gwreiddiol y Senedd wedi cael ei enwi’n ‘Tŷ Hywel’ er anrhydedd i Hywel Dda ac mae siambr wreiddiol y Cynulliad bellach yn cael ei adnabod fel Siambr Hywel. Mae bwrdd iechyd de-orllewin Cymru wedi cael ei enwi ar ei ôl hefyd.

Bu farw Elen, gwraig Hywel, yn 943, a ganwyd pedwar o blant iddynt, sef Owain, Rhodri, Edwin ac Angharad.

Hywel oedd mab y Brenin Cadell o Seisyllwg. Etifeddodd Hywel a’i frawd, Clydog, Geredigion ac Ystrad Tywi ar farwolaeth Cadell, ond bu farw Clydog ac felly etifeddodd deyrnas gyfan Seisyllwg (Ceredigion ac Ystrad Tywi) yn 920. Bu farw ei dad-yng-nghyfraith, Llywarch ap Hyfaidd, brenin Dyfed, tua 904, a thrwy ei briodas ag Elen, merch Llywarch ap Hyfaidd, merch y Brenin Llywarch o Ddyfed, ychwanegodd Ddyfed at diroedd Seisyllwg. Ychwanegodd deyrnas Brycheiniog at ei diroedd tua 930 a dyma’r tiroedd a greodd deyrnas newydd y Deheubarth. Ychwanegodd Gwynedd a Phowys at honno, ac erbyn diwedd ei deyrnasiad yn 950 roedd y rhan helaethaf o Gymru o dan ei reolaeth, heblaw am Forgannwg.

Roedd tad Hywel, sef Cadell, wedi cael ei osod fel Brenin Seisyllwg gan ei dad yntau, sef Rhodri Mawr o Wynedd, yn dilyn boddi Gwgon, brenin diwethaf Seisyllwg, a oedd yn ddi-etifedd, yn 872. Roedd Rhodri yn frawd-yng-nghyfraith i Gwgon, gan ei fod yn briod â’i chwaer Angharad, ac yn dilyn marwolaeth Gwgon daeth Rhodri yn stiward ar ei deyrnas. Rhoddodd hyn y cyfle i Rhodri hawlio teyrnas Seisyllwg iddo’i hun, ac roedd felly'n gallu rhoi ei fab, Cadell, yn frenin-ddeiliad yno, ac yntau’n atebol i Rhodri. Bu farw Cadell tua 911, ac mae'n ymddangos bod ei diroedd wedi cael eu rhannu rhwng ei ddau fab, sef Hywel a Clydog.

Ni chofnodir unrhyw frenin arall yn Nyfed yn dilyn marwolaeth Llywarch yn 904, a thrwy ei briodas gyda merch Llywarch, Elen, sef unig etifedd honedig Llywarch, roedd Hywel wedi llwyddo i sicrhau bod y deyrnas gyfan o dan ei reolaeth ef. Defnyddiodd Hywel y cysylltiad teuluol hwn i gyfiawnhau ei hawl dros y deyrnas.

Mae’n ddigon posib bod Hywel a Clydog wedi rheoli Seisyllwg gyda’i gilydd yn dilyn marwolaeth eu tad, gan eu bod wedi cyflwyno eu hunain i Edward yr Hynaf, Brenin Lloegr, yn 918. Pan fu farw Cadell yn 920, gan adael y deyrnas gyfan i Hywel, roedd Hywel wedyn yn medru uno Seisyllwg, o’i ochr ef gyda Dyfed a etifeddodd o ochr ei wraig, i fod yn un deyrnas a adnabuwyd fel y Deheubarth. Hwn oedd digwyddiad arwyddocaol cyntaf teyrnasiad Hywel. 

Yn 926 neu 928 aeth Hywel ar bererindod i Rufain, a thrwy wneud hynny ef oedd y tywysog cyntaf o Gymru i ymgymryd â thaith debyg.

Ar ei ddychweliad sefydlodd berthynas agos ag Athlestan o Loegr. Bwriad Athlestan oedd sicrhau ymostyngiad brenhinoedd eraill Prydain iddo ef; yn wahanol i’r disgwyliad roedd Hywel yn fodlon ufuddhau ac ymostwng i Loegr, ond roedd hefyd yn defnyddio hynny i’w fantais pryd bynnag roedd hynny'n bosibl. Llwyddodd Hywel i ddefnyddio ei sgiliau gwleidyddol i gadw ei gysylltiad ag Athelstan a choron Lloegr i’w fantais ei hun wrth lunio ei uchelgais a’i amcanion yng Nghymru.

Yn 942, penderfynodd cefnder Hywel, sef Idwal Foel, Brenin Gwynedd, ei fod am dorri’n rhydd o dra-arglwyddiaeth Lloegr, a chododd arfau yn erbyn y Brenin Edmund o Loegr. Lladdwyd Idwal a’i frawd, Elisedd, mewn brwydr yn erbyn lluoedd Edmund, ac yn ôl arfer, dylai coron Idwal fod wedi cael ei hetifeddu gan ei feibion, ond ymyrrodd Hywel yn y sefyllfa. Alltudiwyd Iago a Ieuaf gan Hywel, a sefydlodd Hywel ei hun yn rheolwr Gwynedd, a oedd hefyd yn rhoi Teyrnas Powys o dan ei reolaeth, gan fod Powys o dan awdurdod Gwynedd. O ganlyniad, roedd Hywel wedi sefydlu ei hun fel brenin rhan helaethaf o Gymru, heblaw am Forgannwg a Gwent yn y de.  

Bu teyrnasiad Hywel yn gyfnod treisgar yn hanes Cymru, ond roedd y gyd-ddealltwriaeth rhyngddo ef ac Athelstan yn golygu bod Hywel ac Athelstan wedi rheoli rhannau o Gymru ar y cyd. Cymaint oedd y dyfnder y ddealltwriaeth rhyngddynt fel bod Hywel wedi cael caniatâd i ddefnyddio bathdy Athelstan yng Nghaer i greu ei geiniogau arian ei hun, sef ‘Houael Rex’.

Roedd cysylltiadau agos rhwng Hywel a llys Wessex. Dilynodd Hywel bolisi o gyfeillgarwch ag Athelstan, brenin y Sacsoniaid Gorllewinol a'r grym mwyaf ar Ynys Prydain yn y cyfnod hwnnw. Roedd Athelstan yn wŷr i Alffred Fawr, gyda’i fryd ar barhau i ymestyn, cryfhau ac adeiladu ar sylfeini awdurdod ei gyndeidiau ar draws Prydain. Cofnodir i Hywel ymweld â llys Athelstan nifer o weithiau, a'i fod wedi llofnodi nifer o ddogfennau gydag Athelstan - er enghraifft, rhwng 928 a 949, lle disgrifiwyd ef yn rhai ohonynt fel Subregulus neu ‘is-frenin’. Mewn seremoni ar lan afon Gwy yn 927 roedd Hywel wedi cydnabod ei fod yn ‘is-frenin’ i Athelstan, a oedd drwy’r cytundeb yn ‘ben-arglwydd’ ar Hywel. Arwydd arall o’r berthynas rhwng y ddau reolwr oedd bod Hywel wedi bod yn bresennol yng nghoroniad brawd Athelstan, sef Eadred, yn 946. Pan ymladdwyd Brwydr Brunanburh yn 937 rhwng Athelstan a byddin cynghrair rhwng Olaf III Guthfrithson, brenin Llychlynnaidd Dulyn, Causantín mac Áeda II, brenin yr Alban ac Owain I, brenin Ystrad Clud, ni chofnodir i'r Cymry gymryd rhan yn y frwydr. Mae'n debyg mai oherwydd dylanwad Hywel y bu hyn. Fodd bynnag, nid oedd polisi Hywel at ddant pob un o'i ddeiliaid. Mae’r gerdd ddarogan wladgarol Armes Prydein, a gyfansoddwyd yn ystod y cyfnod hwn, yn galw am gynghrair rhwng y Cymry a'r bobloedd eraill yn erbyn y Saeson, ond anwybyddwyd ei ymbil gan Hywel.  

Mae safbwyntiau amrywiol ynghylch pam roedd Hywel mor awyddus i gadw cysylltiad clos â llys Athlestan. Honnai’r hanesydd J.E. Lloyd bod Hywel yn edmygydd o Wessex, tra bod D.P. Kirby yn awgrymu bod hynny’n dangos bod Hywel yn bragmataidd ac ymarferol ei agwedd, a'i fod yn cydnabod realiti pŵer ym Mhrydain ganol y 10fed ganrif. Mae’n ddiddorol nodi ei fod wedi rhoi enw Eingl-sacsonaidd, sef Edwin, ar un o’i feibion, ac roedd llawer o nodweddion cyffredin rhwng Hywel ac Athlestan – roedd y ddau wedi datblygu eu harian eu hunain, roedd y ddau yn rheoli teyrnasoedd, ac roedd y ddau wedi llunio llyfr cyfraith i’w teyrnasoedd priodol.

Yn draddodiadol, cysylltir enw Hywel â chyfreithiau'r Cymry yn ystod y Canol Oesoedd, a gelwir hwy oherwydd hynny yn Gyfraith Hywel Dda neu Gyfraith Hywel. Tua’r flwyddyn 945 galwodd Hywel ap Cadell (Hywel Dda) bobl o bob rhan o Gymru, yn cynnwys cyfreithwyr a chlerigwyr, ynghyd yn Hendy-gwyn ar Daf, Dyfed i gydweithio i ad-drefnu'r gyfraith. Yn y cyfarfod hwn cytunwyd ar drefn gyfreithiol ar gyfer Cymru oedd yn cael ei galw’n Gyfraith Hywel Dda. Roedd y cyfreithiau'n cynnwys gwybodaeth am sut byddai gwahanol droseddau fel llofruddiaeth a dwyn yn cael eu cosbi - er enghraifft, ‘sarhad’ a ‘galanas’; a hawliau pobl o safbwynt y gyfraith - er enghraifft, hawliau merched a dulliau profi euogrwydd.  

Pwrpas y rhaglithiau i’r cyfreithiau oedd pwysleisio cefndir a tharddiad brenhinol a Christnogol y cyfreithiau. Roedd hyn yn bwysig yn wyneb ymosodiadau ar y gyfraith o’r tu allan i Gymru, yn enwedig yn ystod cyfnod John Peckham fel Archesgob Caergaint. Dilynodd y Cymry Gyfraith Hywel Dda tan yr 16eg ganrif pan basiwyd Deddfau Uno 1536 / 1542 gan Harri VIII, a honnai ei fod yn ddisgynnydd i Hywel Dda drwy Rhodri Mawr. 

Yn dilyn ei farwolaeth yn 950, rhannwyd teyrnas Hywel yn dair rhan: ail-feddiannwyd Gwynedd a Phowys gan feibion Idwal Foel tra etifeddwyd y Deheubarth gan ei fab Owain. 

Erbyn diwedd cyfnod Hywel roedd Cymru yn wlad unedig, fwy neu lai, gyda ffiniau pendant â Lloegr. Roedd ganddi ei hiaith ei hun, ei heglwys ei hun, ei llenyddiaeth a'i chyfreithiau ei hun, a'i system lywodraethu ei hun. Yn anffodus, yn dilyn marwolaeth Hywel, bu'r gwahanol frenhinoedd yn ymladd yn erbyn ei gilydd tan i Gruffudd ap Llywelyn, gor, or ŵyr Hywel Dda, ddod yn benarglwydd ar y Cymry yn yr 11eg ganrif. Lladdwyd ef mewn brwydr yn erbyn Tostig a Harold Godwin yn 1063. 

Roedd Hywel Dda yn wleidydd craff a oedd yn troedio’n ofalus, yn enwedig yn ei berthynas gyda Lloegr, ac yn sylweddoli bod yn rhaid iddo gadw’r ddysgl yn wastad gydag Athelstan. Roedd cynghreirio gyda llys Wessex yn dacteg strategol graff a defnyddiol yn erbyn y Llychlynwyr, os oedd am sicrhau ei amcanion hirdymor, sef creu Cymru unedig. 

Roedd yn ddeddf-roddwr a fu’n ffigwr allweddol o ran trefnu a chydlynu pobl a dysgedigion o bob rhan o Gymru yn Hendy-gwyn ar Daf er mwyn sefydlu un gyfraith gydnabyddedig i Gymru. Yn yr un modd â gwledydd eraill yn Ewrop ar y pryd, roedd perchnogi cyfraith gwlad yn rhan bwysig o droi brenhiniaeth yn wladwriaeth.

Heddiw, mae Prifysgol Cymru yn rhoi Gwobr Goffa Hywel Dda am ymchwil i gyfraith a defod Cymru yn y Canol Oesoedd. Ceir copi o un o destunau enwocaf y Gyfraith (llawysgrif Peniarth 28) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a gellir darllen y llawysgrif ar-lein hefyd.




#Article 285: Carreg las (105 words)


Math o graig fetamorffig sy'n unigryw i Fynydd Preseli, Sir Benfro, yw'r garreg las.  Mae'n garreg ddolerit sydd yn cynnwys rhyolytau, tywodfaen a lludw folcanig.

Defnyddwyd cerrig gleision i godi cylch canol Côr y Cewri, ond mae'n ddirgewlch sut yr aethant yno. O bosib, cludiwyd nhw i Loegr yn ystod Oes yr Iâ gan y rhewlifau.  Damcaniaeth arall yw iddynt gael eu symud yno ar foncyffion a rhafftiau.

Defnifwyd carreg las i godi nifer o adeiladau eraill. Enghraifft arall yw'r bwyeill neolithig a ddarganfuwyd ar frynoedd Carn Menyn a Charn Alw yn y Preselau fil o flynyddoedd cyn symud y meini i Gôr y Cewri.




#Article 286: Côr y Cewri (108 words)


Cylch cerrig yw Côr y Cewri (), a godwyd yn Oes Newydd y Cerrig ar Wastadedd Salisbury i'r gogledd o ddinas Caersallog, Wiltshire, yn ne Lloegr. Mae ar restr UNESCO o Safleoedd Treftadaeth y Byd ers 1986. Credir bellach iddo gael ei godi tua 3,650 CC.

Mae mwyafrif y cerrig yn dod o'r Marlborough Downs, ond mae cerrig gleision y cylch canol yn dod o fryniau'r Preseli, Sir Benfro ac wedi'u cludo yno bum mil o flynyddoedd yn ôl. pan oedd y trigolion lleol yn cychwyn amaethu.

Mor gynnar â 1649, mynnodd John Aubrey mai'r derwyddion â gododd y cerrig, ac mae'r farn honno'n dal yn boblogaidd heddiw.




#Article 287: Cynog Dafis (112 words)


Gwleidydd Cymreig ac aelod o Blaid Cymru yw Cynog Glyndwr Dafis (ganwyd 1 Ebrill 1938). Enillodd etholaeth Sir Aberteifi a Gogledd Penfro (a ddaeth yn etholaeth Ceredigion yn 1997) i Blaid Cymru a'r Blaid Werdd ar y cyd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1992.

Bu'n athro am 2 flynedd ym Mhontardawe yn dysgu Cymraeg a Saesneg cyn cael swydd pennaeth Saesneg yn Ysgol Uwchradd Emlyn ym Medi 1962

Yn 1999 daeth yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros etholaeth Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Ymddiswyddodd fel aelod seneddol yn 2000, ac ymddeolodd o'r Cynulliad yn 2003.

Cydnabyddir ef fel un o brif ffurfwyr polisi Plaid Cymru yn ystod y cyfnod hwn.




#Article 288: Glo (369 words)


Craig waddod ddu neu frown yw glo. Mae mwy na phumdeg y cant wrth ei bwysau a mwy na saithdeg y cant wrth ei gyfaint yn garbon (hyd yn oed wrth gyfri'r dŵr sydd ynghlwm ynddo). Mae'n bwysig fel tanwydd ffosil er mwyn cynhyrchu gwres. Gellir defnyddio glo i gynhyrchu trydan.

Cynhyrchwyd glo yn ystod y Cyfnod Carbonifferaidd mewn fforestydd mawr gwernydd, y Fforestydd Glo. Trowyd planhigion wedi marw  yn fawn ar diroedd gwlyb ac o'i wasgu am filiynau o flynyddoedd trowyd y mawn yn lo. Planhigion pennaf y Fforestydd Glo oedd cnwpfwsoglau, coedredyn a marchrawn - i gyd yn blanhigion llysieuol a dyfent cymaint â choeden y pryd hynny ond sy'n tyfu'n llai o faint heddiw.

Yn anffodus, mae glo yn creu nifer o broblemau i'r amgylchfyd. O ganlyniad i losgi glo mae carbon deuocsid, y prif nwy tŷ gwydr, sylffur deuocsid a llwch yn cael eu gollwng i'r awyr.

Yng Nghymru ceir dau faes glo sef Maes Glo Gogledd Cymru, sydd yn ran o'r un maes a Maes Glo Sir Gaerhirfryn yn Lloegr, a Maes Glo De Cymru, maes glo mwyaf Prydain, yn ymestyn o Sir Benfro, bron i'r ffîn â Lloegr. Ffurfiwyd y meysydd glo pan oedd Cymru yn ran o uwchgyfandir Pangea ac yn wlad gwernydd yn agos i'r cyhydedd. Mae'r glo yn haen drwchus iawn, ond mae'n cynnwys haenau o dywodfaen a siâl hefyd.

Cloddir glo Cymru ers canrifoedd, ond daeth yn danwydd pwysig iawn adeg y Chwyldro Diwydiannol. O ganlyniad datblygodd llawer o byllau glo a ffatrïoedd yn Ne Cymru gan ddwyn newid ysgubol i fywyd a diwylliant yr ardal honno. Wedi'r Ail Ryfel Byd roedd tua trideg y cant o weithwyr Cymru yn gweithio yn y diwydiant glo neu dur, ond erbyn heddiw mae llawer o'r pyllau glo a'r ffatrïoedd wedi cau. Yn sgil y crebachu ar ddiwydiant trwm cafwyd streiciau a phroblemau cymdeithasol yn Ne Cymru yn y 1970au a 1980au.

Mae Blaenafon wedi ei restru fel Safle Treftadaeth y Byd gan yr UNESCO achos ei fod yn dref diwydiant glo a haearn pwysig. Yn y dref, mae'n bosib gweld pwll glo yn Amgueddfa Lofaol Genedlaethol Cymru, Glofa Pwll Mawr.

 

Ar lafar yn gyff., WVBD 152.

Ar lafar yn y De.




#Article 289: Y Chwyldro Diwydiannol (293 words)


Cyfnod o newid mewn cymdeithas a datblygiad diwydiant a ddechreuodd yn y ddeunawfed ganrif oedd y Chwyldro Diwydiannol. Dyfeisiwyd y peiriant stêm gan James Watt ac adeiladu ffatrïoedd. Roedd eisiau tanwydd (glo) i weithio'r peiriannau ac yr oedd llawer o adnoddau megis haearn yn cael eu defnyddio i gynhyrchu llawer o nwyddau.

Ymhlith achosion y Chwyldro Diwydiannol oedd y boblogaeth yn symud i'r trefi o'r wlad oherwydd tlodi yn yr ail ganrif ar bymtheg, cynnydd yn y boblogaeth a rhyfeloedd y 18g: Y Rhyfel Saith Mlynedd (1756 - 1763), Rhyfel Annibyniaeth America (1775 - 1783) a Rhyfeloedd Napoleon (1803 - 1815) yn dilyn y Chwyldro Ffrengig (1793 - 1802).

Dechreuodd y Chwyldro Diwydiannol yn Lloegr, ond ymledodd i wledydd eraill Ewrop ac i'r Unol Daleithiau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Sbardynodd dyfais y 'Rocket' gan George Stephenson a lledaeniad rhwydwaith rheilfyrdd yn ogystal a'r ddyfais stêmar gan Robert Fulton newid cymdeithasol a masnachol yn y byd. O ganlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol, cododd poblogaeth Cymru a Lloegr o 8.8 miliwn ym 1801 i 29.9 miliwn ym 1881.

Roedd Cymru yn dal i fod yn wlad wledig ym hanner gyntaf y 18g, a hi oedd yr ail wlad lle bu'r Chwyldro Diwydiannol, gan ddilyn Lloegr. Erbyn y 19g roedd diwydiant y gogledd a'r de yn datblygu, gyda diwydiannau megis haearn, crochenwaith, plwm, glo a llechi. Ar yr un pryd, roedd technoleg amaethyddiaeth yn datblygu. Fodd bynnag, daeth De Cymru yn ganolfan diwydiannol pennaf y wlad yn ystod hanner cyntaf y 19g gyda'r diwydiannau dur, glo a copr.

Er mwyn trosglwyddo'r holl nwyddau cafodd ffyrdd reilffyrdd, porthladdoedd a chamlesi eu hadeiladu ledled Cymru.

Roedd Henry Hussey Vivian, Arglwydd Cyntaf Abertawe, William Thomas Lewis Arglwydd Merthyr a David Davies (Llandinam) ymhlith diwydianwyr mwyaf llwyddiannus De Cymru.




#Article 290: Ynys Wair (178 words)


Ynys ym Môr Hafren yw Ynys Wair (Saesneg: Lundy neu Lundy Island). Fe'i gweinyddir fel rhan o Ardal Torridge yn sir seremonïol Dyfnaint, De-orllewin Lloegr. Hi ydyw ynys fwyaf Môr Hafren - mae hi tua 4.5 km o hyd (o'r gogledd i'r de) a thua 1 km o led. Ynys Wair ydyw'r unig warchodfa natur forol yn Lloegr. Mae 18 o bobl (yn 2006) yn byw ar yr ynys, y rhan fwyaf mewn pentre bach yn y rhan ddeheuol. Ceir hen oleudy yno.

Mae'r llong MS Oldenburg yn dod â theithwyr i'r ynys tuag at pum gwaith bob dydd yn ystod yr haf. Mae 23 o fythynnod ar gael i deithwyr i'r ynys.. Gwelir tua 140 rhywogaeth o adar ar yr ynys, ac mae hyd at 35 ohonynt yn nythu yno.

Perchnog yr ynys yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gwarantwyd y pwrcas gan yr Ymddiriedolaeth Landmark, a chyfrannodd Jack Hayward £150,000 at y cost. Cytunodd yr Ymddiriedolaeth Landmark i adfer yr adeiladau ac yn sicrhau bod yr ynys ar gael i'r cyhoedd. Cyblhawyd y gwaith papur ar 29ain Medi 1969.




#Article 291: David Davies (Llandinam) (238 words)


Un o ddiwydiannwyr mwyaf llwyddiannus Cymru yn y 19g oedd David Davies (Llandinam) (18 Rhagfyr 1818 - 20 Gorffennaf 1890). Fe'i ganwyd yn Llandinam, Sir Drefaldwyn a chafodd ei alw'n Top Sawyer neu Davies yr Ocean, ar ôl The Ocean Coal Company yn ogystal â'i llysenw mwy adnabyddus. Roedd yn Aelod Seneddol dros Geredigion ac Aberteifi o 1874 hyd 1886 a chefnogodd sefydliad Coleg Prifysgol yn Aberystwyth.

Roedd David Davies yn dod o deulu eithaf tlawd a ddechreuodd weithio fel llifiwr coed ond llwyddodd i wneud digon o arian ar gyfer adeiladu rheilffordd rhwng Llanidloes a'r Drenewydd. Wedyn cafodd dir gan deulu'r Crawshay yng Nghwm Rhondda ac agorodd bwll glo yno. Fodd bynnag, nid oedd ei ymdrechion i ddod o hyd i wythïen lo yn llwyddiannus a daeth ei arian i ben wrth chwilio amdani. Cytunodd y gweithwyr i weithio am wythnos arall heb gyflog ac fe ddarganfuwyd glo yn ystod yr wythnos honno! Sefydlwyd pyllau glo'r Parc, Treorci a Maendy gan Davies a thrwy hyn, dechreuodd Cwm Rhondda ddatblygu i fod yn faes glo pwysig iawn.

Gan fod Ardalydd Bute yn dal i godi taliadau yn nociau Caerdydd, adeiladodd David Davies ddociau glo newydd yn Y Barri, porthladd mwyaf Cymru erbyn 1914.

Mae casgliad celf ei wyresau Gwendoline Davies a Margaret Davies i'w gweld gan y cyhoedd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Heddiw, saif cerflun David Davies ar bwys yr A470 yn Llandinam ac yn Nociau y Barri.




#Article 292: Llanilltud Fawr (210 words)


Tref a chymuned ym Mro Morgannwg, Cymru yw Llanilltud Fawr (Saesneg: Llantwit Major). (Cyfeirnod OS: SS9768).

Ceir olion hen fila Rhufeinig tua 1 filltir o'r dref.

Mae hen eglwys Sant Illtud yn enwog iawn. Mae'n sefyll ar safle'r hen fynachlog (clas) a sefydlwyd yno gan y sant yn y 6g. Daeth yn ganolfan dysg bwysig a dylanwadol yn yr Oesoedd Canol cynnar. Roedd yn mwynhau nawdd brenhinoedd fel Hywel ap Rhys, brenin Glywysing (m. 886), a gladdwyd yno. Cafodd mynachlog Llanilltud ei hanreithio gan y Llychlynwyr yn 988. Daeth yr eglwys yn eiddo Abaty Tewkesbury tua 1130 ar ôl i'r Normaniaid orsegyn teyrnas Morgannwg.

Mae'n bosibl fod y bardd Lewys Morgannwg (fl. 1520-1565) wedi byw yn Llanilltud Fawr, er ei fod yn frodor o Dir Iarll. Canodd gerdd i Illtud Sant sydd ar glawr heddiw.

Yn y flwyddyn 1100 yr ymddengys y gair yn gyntaf yn ysgrifenedig, Llan Iltut, sy'n dangos yn amlwg mai Illtud yw tarddiad y gair, nid twit (Llantwit Major ydy'r gair yn Saesneg).

Mae gan y dref glwb pêl-droed sy'n chwarae yn uchel lefelau y gêm yng Nghymru. Bu C.P.D. Llanilltud Fawr chwarae yn nhymor agoriadol cynghrair Cymru South, sef ail lefel system byramid pêl-droed yng Nghymru.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 293: Oes yr Iâ (603 words)


Cyfnod o oerfel eithriadol yn hanes y ddaear sy'n gallu parhau am gannoedd neu filoedd o flynyddoedd yw Oes yr Iâ. Yn ystod cyfnod fel hyn mae haen iâ trwchus yn gorchuddio rhannau o'r cyfandiroedd.

Rhenir llinell amser daearegol y Ddaear yn bedair Eon: y cyntaf yw'r Eon Hadeaidd, a'i chychwyn yw ffurfio'r Ddaear. Fel yr awgryma'r gair, a ddaw o'r Hen Roeg 'Hades', roedd y Ddaear yn aruthrol o boeth, gyda llosgfynyddoedd byw ymhobman, ond yn araf oeroedd y Ddaear ac erbyn y 3ydd Eon, y Proterosöig, daeth y tymheredd mewn rhai mannau o'r Ddaear yn is na rhewbwynt a chafwyd haenau trwchus o rewlifau'n ffurfio. Ers hynny cafwyd o leiaf 5 Oes yr Iâ sylweddol: y Rhewlifiad Hwronaidd (Huronian), y Rhewlifiad Cryogenaidd (Cryogenian), y Rhewlifiad Andea-Saharaidd (Andean-Saharan), Oes Iâ Karoo a'r Rhewlifiant Cwaternaidd sef yr Oes Iâ rydym yn byw ynddi heddiw). Ar wahân i'r 5 cyfnod hyn, mae'n fwy na phosibl nad oedd rhew ledled y Ddaear gyfan. Credir i gapiau rhew yr Arctig a'r Antartig gael eu ffurfio rhwng 5 a 15 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). 

Ers tua 3 miliwn o flynyddoedd yn ôl, mae hinsawdd cymharol oer yn gyffredinol wedi parhau gyda chyfnodau oer a chyfnodau cynnes yn dilyn ei gilydd, am gyfnodau o tua 100,000 o flynyddoedd fel rheol. Yn ystod Oesoedd yr Iâ roedd rhewlifau'n gorchuddio'r rhan helaeth o Ewrop, gogledd Asia, Gogledd America a Japan. Am fod yr iâ yn ddwfn iawn, roedd lefelau y môr sawl troedfedd yn is na heddiw. Ar ôl Oes yr Iâ roedd lefel y môr yn codi drachefn gan gyrraedd y lefel presennol tua 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ogystal, mae'r tir yn codi ar ôl i bwys yr iâ gael eu cymryd i ffwrdd (e.e. mae'r Alban yn dal i godi 10,000 flynyddoedd ar ôl i'r iâ diweddaraf doddi) (cymhwysiad isostatig).

Mae'r rhewlifau yn creu mynyddoedd trwy gludo tywod a cherrig. Ac oherwydd y dŵr ychwanegol o'r iâ toddedig, mae dyffrynnoedd ac afonydd newydd yn ffurfio.

Mae anifeiliaid nodweddiadol o Oes yr Iâ yn cynnwys mamothau a rhinoserosau gwlanog.

O ganol y 14g hyd y 19eg cafwyd cyfnod o oerfel a adnabyddir fel yr Oes Iâ Fach.

Ymddangosodd yr iâ cyntaf ar yr hyn a elwir heddiw'n Ynys Brydain tua 2.5 miliwn CP. Oherwydd newid ysbeidiol yng nghylchdro'r Haul, ceir newidiadau hefyd yn nhymheredd y Ddaear a hynny'n dilyn mewn patrwm eitha rheolaidd. Cafwyd yr Oes Iâ fwyaf ddiweddar tua 21,000 o flynyddoedd yn ôl, pan gafwyd haen iâ o drwch hyd at 3 km, gyda thua 32% o'r tir o dan iâ (y cyfran heddiw yw tua 10%) a'r dymheredd ar gyfartaledd yn 5 - 6 °C yn is na heddiw. Golygai hyn, wrth gwrs, fod unrhyw olion o bobl wedi cael ei grafu ymaith a'i ddileu - oni bai eu bod o dan y Ddaear mewn ogofâu. Dyma sut y bu i olion y Dyn Neanderthal mwyaf gogleddol yn Ewrop gael ei gadw yn Ogof Bontnewydd ger Llanelwy. Ond ni orchuddiwyd y cyfan o Ynys Prydain, ac roedd rhannau o Dde Lloegr yn rhydd o rew. Roedd hi'n gwbwl bosibl i berson gerdded o Orllewin Iwerddon i Norwy. Dywedir fod astudio'r hyn a ddigwyddodd ugain mil o flynyddoedd yn ôl yn y rhan yma o Ewrop yn paratoi Daearegwyr i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Pe doddir holl rew'r Arctig a'r Antartig yn ystod y blynyddoedd nesaf, oherwydd Cynhesu byd eang yna amcangyfrifir y byddai lefel y môr yn codi 230 troedfedd (dros 70 metr). Un o'r daearegwyr mwyaf blaenllaw'r byd yn y maes hwn ydy Bethan Davies, Prifysgol Holloway Brenhinol, Llundain.




#Article 294: Silwraidd (220 words)


Cyfnod daearegol a ddechreuoedd tua 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac y daeth i ben tua 443.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl yw'r Cyfnod Silwraidd. Roedd yn dilyn y Cyfnod Ordofigaidd a daeth y Cyfnod Defonaidd ar ôl y Cyfnod Silwraidd. Mae'n gyfnod a welodd ddifodiant 60% o anifeiliaid a phlanhigion môr.

Disgrifiodd y daearegydd Syr Roderick Murchison y Cyfnod Silwraidd am y tro cyntaf pan gyhoeddodd y llyfr The Silurian System ym 1839, ar ôl gweld creigiau yn Nhraethau Marloes, De Cymru. Enwyd y Cyfnod ar ôl y Silwriaid, llwyth Celtaidd a oedd yn byw yn yr ardal.

Yn ystod y Cyfnod Silwraidd roedd Uwchgyfandir Gondwana yn dal i fod yn y de, ond ffurfiodd y cyfandiroedd eraill yr Uwchgyfandir mawr Laurasia.

Cwrelau a brachiopodau yw'r ffosilau a geir mewn creigiau o'r Cyfnod Silwraidd.

Un o brif nodweddion y cyfnod hwn yw datblygiad esgyrn mewn pysgod. Yn ail, gwelwyd bywyd yn dod i'r lan - ar y tir - mewn ffurfiau fel mwsogl, planhigion fasgwlaidd yn tyfu ar lan llynnoedd nentydd ac arfordiroedd; dyma'r cyfnod hefyd pan welwyd arthropodau ar y tir. Fodd bynnag, mae'n rhaid aros tan y cyfnod Defonaidd cyn gweld esblygiad pellach ar y tir, a'r amrywiaeth enfawr a ddaeth wedi'r cyfnod Silwraidd.

Ceir pedair israniad o fewn y cyfnod Silwraidd, a elwir yn 'epocau':




#Article 295: Defonaidd (127 words)


Cyfnod daearegol rhwng y Cyfnod Silwraidd a'r Cyfnod Carbonifferaidd roedd y Cyfnod Defonaidd. Dechreiodd tua 360 miliwn o flynyddoedd yn ôl a daeth i ben tua 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Enwyd ar ôl Dyfnaint yn Lloegr.

Yn ystod y Defonaidd, roedd Uwchgyfandir Gondwana yn y De a cyfandir mawr yn cynnwys Gogledd America ac Ewrop (Ewramerica) ger y cyhydedd. Roedd gwedill yr Ewrasia fodern yn y Gogledd. Roedd lefel y môr yn uchel iawn gyda môr bas yn gorchuddio Ewramerica, cyfandir lle bu llawer o newid. Am fod yr hinsawdd yn boeth iawn, dywed rhai gwyddonwyr mai Cyfnod Tŷ Gydr ydoedd.

Ffurfiwyd yr Hen Dywodfaen Coch o waddodion afonydd yn ystod y Defonaidd. Mae ffosilau'r cyfnod yn cynnwys y planhigion hâd cyntaf a'r amffibiaid cynharaf.




#Article 296: Tregaron (362 words)


Tref fechan yng nghanolbarth Ceredigion yw Tregaron. Mae ganddi 1185 o drigolion, a 68% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001).

Gerllaw y dref ceir Cors Caron.

Daeth Tregaron yn dref ym 1292. Mae twf y dref wedi dibynnu ar leoliad yr ardal yn Nyffryn Teifi. Daeth yn dref farchnad i’r cymunedau amaethyddol a oedd wedi eu gwasgaru ar hyd y wlad tua’r De, a’r tirfeddiannwyr cyfoethog oedd a ffermydd mawr yn yr ucheldir tua’r dwyrain, cartref i lawer o ddefaid a phrin bobl. Tua’r Gogledd roedd Cors Caron, tir ffrwythlon pan fyddai wedi ei ddraenio, tua’r Gorllewin mae ardal fryniog a ffermwyr yn piau ffermydd bach o ond rhai erwau. Daw’r bobl yma i Dregaron i’r farchnad wythnosol a’r ffair flynyddol, Ffair Garon, lle gwerthwyd ieir, moch, gwartheg a cheffylau. Cynhelir ffeiriau defaid ym Mai a Mehefin, a dwy ffair arall yn Nhachwedd. Roedd nifer fawr o dafarndai yn y dref a fyddai’n darparu ar gyfer yr holl bobl a ddaw o’r wlad yn ystod y digwyddiadau hyn.

Yng nghanol y 18g, cadwai Matthew Evans dafarn yn y dref. Roedd ganddo ddau fab ac un merch, lladron adnabyddus a adnabyddwyd fel Plant Mat. Buont yn byw mewn ogof yn ymyl Pontarfynach am sawl mlynedd. Roedd yn anodd dal y tri am i fynediad i’r ogof fod yn rhy gul. Wedi sawl mlynedd o lwyddiant, fe gyflawnodd y tri lofruddiad ac felly fe’u dedfrydwyd i farwolaeth ac fe’u lladdwyd.

Roedd Tregaron yn brif fan cwrdd i borthmyn a fyddai, cyn sefydliad cludiant trennau, yn cymryd niferoedd mawr o wartheg, defaid ac hyd yn oed gwyddau cannoedd o filltiroedd i farchnadoedd yn Ne-Ddwyrain Lloegr. Roedd llawer o ddynion Tregaron yn gwneud hyn ac yn gwneud llawer o arian wrth wneud. Roeddent yn actio fel dynion post answyddogol neu negeswyr, ac roedd llawer yn medru osgoi y tollbyrth.

Roedd sawl melin wlan a redwyd gan ddwr i'w cael yn Nhregaron, ac roedd yn ganolbwynt i wneuthuriad sannau. Roedd dynion, menywod a phlant yn gweu sannau yn eu cartrefi ac yn eu gwerthu yn y farchnad, i ddelwyr a fyddai'n eu gwerthu ymlaen yng Nghymoedd De Cymru.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 297: Tabl cyfnodol (1056 words)


Dengys y tabl cyfnodol yr holl elfennau cemegol a'u grwpiau ar ffurf un tabl hwylus. Datblygwyd y tabl yn wreiddiol ym 1869 gan gemegydd o Rwsia, sef Dmitri Mendeleev. Gweler hefyd: rhestr o'r elfennau yn nhrefn eu rhifau atomig, yn nhrefn eu darganfod ac yn nhrefn yr wyddor.

Y tabl cyfnodol yw un o seiliau hanfodol yr wyddor cemeg, trwy gynnig dull o ddosbarthu, trefnu a chymharu'r elfennau. Mae'r tabl hefyd yn ddefnyddiol iawn yn ffiseg, bioleg, peirianneg a diwydiant. Dangosir yr elfennau yn ôl trefn eu rhif atomig ac mae'r elfennau sydd â phriodweddau tebyg yn gorwedd mewn colofnau. Gelwir y colofnau fertigol hyn yn Grwpiau ac yn aml, defnyddir rhif Rhufeinig ar eu cyfer. Gelwir y rhesi yn gyfnodau.

Datblygwyd y tabl cyfnodol modern gan y gwyddonydd Dmitri Mendeleev cyn i wyddonwyr ddarganfod electronau na’r niwclews. Defnyddiodd y dystiolaeth oedd i’w gael i roi’r elfennau mewn patrymau synhwyrol. Defnyddiodd:

Bwriad Mendeleev oedd dangos y patrymau ym mhriodweddau'r elfennau (eu 'cyfnodedd'). Mae adeiledd y tabl wedi datblygu ers hynny, wrth i elfennau newydd gael eu darganfod. Datblygwyd sawl gwahanol ffurf o arddangos y wybodaeth, er mwyn pwysleisio agweddau gwahanol o ymddygiad yr elfennau, ond maent oll wedi eu seilio ar y patrwm gwreiddiol gan Mendeleev.

Rhoddodd Mendeleev yr elfennau yn nhrefn eu masau, sydd yn rhoi’r un patrwm a threfn eu rhifau atomig ar gyfer y mwyafrif o’r elfennau. Trefnodd y rhesi fel eu bod yn cynnwys elfennau gyda phriodweddau cyffelyb yn yr un golofn (grŵp). Sylwodd Mendeléev fod y patrymau yn holl bwysig, felly er mwyn sicrhau fod yr elfennau yn y llefydd addas gadawodd bylchau am elfennau y credai yr oeddent heb eto eu darganfod, a wnaeth gwrthdroi parau o elfennau er mwyn sicrhau fod eu priodweddau cemegol yn gywir i’r grŵp. Mae datblygiadau yn theori atomig wedi dangos bod ei syniadau am leoliadau’r elfennau yn gywir.

Gyda'r datblygiadau mewn theorïau mecaneg cwantwm modern, sy'n cynnwys trefniant electronau tu fewn i'r atomau, mae'n amlwg bod bob rhes lorwedd (cyfnod) yn y tabl yn cyfateb i lenwi un plisgyn cwantwm o electronau. Yn nhabl gwreiddiol Mendeleev roedd y rhesi cyhyd â'i gilydd. Mae tablau modern yn cynnwys rhesi sy'n cynyddu mewn hyd wrth ddisgyn y tabl. Maent yn dosbarthu'r elfennau i blociau s, p, d ac f i adlewyrchu eu hadeiledd electronig.

Mae tablau ysgrifenedig yn rhestri enw bob elfen a'i symbol gyda'i rif atomig. Mae nifer o fersiynau yn rhestri data ychwanegol; yn aml gwelir màs atomig cymharol neu rif màs ac weithiau adeiledd electronig, electronegatifedd a rhifau falens cyffredin. Mae'r tabl presennol (2005) yn cynnwys 116 elfen gemegol sydd wedi eu cydnabod gan IUPAC , gyda 94 ohonynt yn elfennau naturiol a'r gweddill yn elfennau synthetig.

Prif werth y tabl cyfnodol yw ei allu i ragfynegi priodweddau cemegol elfen ar sail ei lleoliad yn y tabl. Dylid nodi bod y priodweddau hyn yn newid yn wahanol wrth fynd ar draws cyfnod (rhes) i'r newidiadau wrth symud i lawr grŵp.

Ystyrir grwpiau yn un o brif nodweddion defnyddiol y tabl cyfnodol. Mae bron pob grŵp yn cynnwys elfennau tebyg, gyda phatrymau ym mhriodweddau'r elfennau wrth fynd i lawr grŵp. Rhoddir enwau i nifer o'r grwpiau hyn, yn cynnwys y Metelau alcalïaidd (grŵp 1), yr Halogenau (grŵp 7) a'r nwyon nobl (grŵp 0). Mae rhai grwpiau, yn enwedig yn y bloc-p, yn dangos llai o debygrwydd ymysg yr elfennau felly nid oes enw ychwanegol (e.e. Grŵp 14 a Grŵp 15). Gall theorïau mecaneg cwantwm modern o adeiledd atomig egluro'r patrymau hyn. Mae pob elfen yn yr un grŵp yn cynnwys yr un nifer o electronau yn eu plisg falens (y plisg allanol) sy'n rheoli eu priodweddau cemegol.

Nid yw'r patrymau ymysg elfennau yn yr un cyfnod mor amlwg â'r patrymau a welir yn y grwpiau fertigol yn y bloc-s a'r bloc-p. Yn y bloc-d (Metelau trosiannol) ac yn enwedig yn y bloc-f (actinadau a lanthanidau) mae'r elfennau yn yr un cyfnod yn dangos priodweddau cyffelyb sylweddol.

Defnyddiwyd y term blociau yn gyntaf gan y Ffrancwr, Charles Janet. Ceir 4 bloc, ac mae'r elfennau wedi eu gosod yn y blociau hyn yn ôl lleoliad yr electron olaf sydd ganddynt yn yr is-gragen allanol. Y blociau ydyw: bloc-s, bloc-p , bloc-d, a bloc-f.

Y nwyon nobl yw holl elfennau grŵp 0 (neu 18, 8 os ni chynhwysir y metelau trosiannol) sydd yn elfennau gyda phlisg falens llawn. Nid oes angen iddynt adweithio er mwyn cyrraedd adeiledd electronig sefydlog, felly maent yn elfennau monatomig anadweithiol. Maent oll yn nwyon gyda'i berwbwyntiau yn cynyddu i lawr y grŵp. Heliwm yw'r elfen leiaf adweithiol, gydag adweithedd yr elfennau yn cynyddu lawr y grŵp, felly mae modd achosi adweithiau gyda'r nwyon nobl trymaf, ond rhaid defnyddio sylweddau adweithiol iawn fel fflworin.

Mae grŵp 17, neu'r halogenau, yn elfennau sydd angen un electron ychwanegol er mwyn cyrraedd plisgyn falens llawn. Mae electronegatifedd yr elfennau yn uchel, a fflworin yw'r elfen fwyaf electronegatif o'r holl elfennau, ac felly mae ganddynt y tuedd i ffurfio anionau halid, sef F-, Cl-, Br- ac I-.

Yn y metelau trosiannol (grwpiau 3 i 12) nid yw'r gwahaniaethau rhwng y grwpiau yn sylweddol, ac mae'r adweithiau'r elfennau yn dangos cyffelybrwydd rhwng yr elfennau yn yr un cyfnod yn ogystal â'r cyffelybrwydd rhwng yr elfennau yn yr un grŵp.

Mae'r lanthanidau (elfennau 57-71) a'r actinidau (elfennau 89-103) yn gyfresi o elfennau ym mloc-f y tabl cyfnodol. Mae'r elfennau yn cael eu darganfod gyda'i gilydd yn eu mwynau gan eu bod yn elfennau tebyg. Mae priodweddau'r holl lanthanidau yn gyffelyb, a welir yr un cyffelybrwydd ym mhriodweddau'r actinidau. Mae hwn yn fwy nodweddiadol na'r cyffelybrwydd ym mhriodweddau'r metelau trosiannol. Mae eu priodweddau tebyg yn gwneud arunigo'r metelau o'u cymysgeddau yn anodd iawn.

Y prif ffactor sy'n rheoli priodweddau cemegol unrhyw elfen yw ffurfwedd electromagnetig yr atomau ynddi, yn enwedig yr electronau yn y plisgyn falens. Bydd unrhyw atom gyda phedwar electron falens yn ei is-blisgyn p yn ymddwyn yn debyg, gyda bloc yr elfen yn cael ei reoli gan yr is-blisgyn, a'r grŵp yn cael ei reoli gan y nifer o electronau yn y plisgyn falens.

Mae'r nifer o blisg sy'n cael eu defnyddio mewn atom yn rheoli cyfnod yr elfen. Caiff pob plisgyn ei rannu i is-blisg, sy'n cael eu llenwi yn y drefn ganlynol yn ôl Egwyddor Aufbau, a hwn sy'n arwain at adeiledd y tabl cyfnodol.




#Article 298: Ordofigaidd (129 words)


Cyfnod daearegol rhwng y Cyfnodau Cambriaidd a Silwraidd yw'r Cyfnod Ordofigaidd. Dechreuoedd tua 490 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd at oddeutu 50-80 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn ystod y Cyfnod Ordofigaidd difodwyd 60 y cant o anifeiliaid a phlanhigion y ddaear. Enwyd y cyfnod hwn ar ôl yr Ordoficiaid, llwyth Celtaidd a roedd yn byw yng Nghymru. Disgrifiwyd ym 1879 gan Charles Lapworth ac mae cyfnod gyda chreigiau nodweddol o'r cofnodau Cambriaidd a Silwraidd. ***(Angen egluro hyn)***

Yn ystod y cyfnod hwn roedd cyfandiroedd y dde yn ffurfio'r uwchgyfandir Gondwana ac roedd y rhain yn drifftio i gyfeiriad Pegwn y De. Roedd môr bas yn gorchuddio'r rhan fwyaf o gyfandiroedd America, Ewrop a Gondwana.

Mae llawer o ffosilau môr o'r cyfnod, gan gynnwys graptolitau, trilobitau a brachiopodau.




#Article 299: Cambriaidd (109 words)


Cyfnod daearegol rhwng y Cyfnodau Neoproterosöig ac Ordofigaidd oedd y Cambriaidd. Dechreuodd tua 542 miliwn o flynyddoedd yn ôl a gorffennodd tua 488.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae'r cyfnod cyntaf gyda ffosiliau mawr a chymhleth. Mae'n gyfnod cynnydd sydyn yr amrwyiaeth o anifeiliaid a phlanhigion.

Enwyd ar ôl yr enw Lladin ar Gymru am fod Adam Sedgwick yn ymchwilio creigiau o'r cyfnod yng Nghymru yn y 1830au. Achos fod y Cambriaidd diwethaf yn darnguddio'r Silwraidd cyntaf, roedd Charles Lapworth yn diffinio'r Ordoficaidd.

Yn ystod y Cyfnod Cambriaidd roedd y uwchgyfandir Rhodinia yn torri a roedd y hinsawdd yn eithaf cynnes.

Mae ffosilau nodwedig y cyfnod yn cynnwys trilobitau.




#Article 300: Llandysul (265 words)


Am y pentref ym Mhowys, gweler Llandysul, Powys.
Tref fechan ar lan Afon Teifi yn ne Ceredigion yw Llandysul. Mae ganddi 2821 o drigolion, a 70% ohonynt yn siarad Cymraeg (Cyfrifiad 2001). Lleolir Gwasg Gomer, un o weisg a chyhoeddwyr mwyaf Cymru, yno. Gorwedd ar yr A486. Mae'r pentref hefyd yn boblogaidd ymysg canŵ-wyr a cherddwyr afon.

Adeilad hynaf y pentref ydy'r hen eglwys a adeiladwyd yn y 13g. Fodd bynnag, fe'i hadeiladwyd ar sylfeini hynafol a enwyd ar ôl Sant Tysul a sefydlodd yr eglwys wreiddiol yn y 6g. Roedd Sant Tysul yn fab i Corun a oedd yn fab i Ceredig ap Cunedda, a roddodd ei enw i'r deyrnas, sef enw presennol y sir sef Ceredigion. Roedd gan Ceredig fab arall hefyd, Sant, a oedd yn dad i nawddsant Cymru, Dewi Sant. O ganlyniad, roedd Dewi a Tysul yn gefndryd cyntaf.

Arferwyd chwarae'r gêm y cnapan rhwng pentrefi Llandysul a Llanwenog. Y gôliau oedd drws eglwys Llandysul a drws eglwys Llanwenog chwe milltir i ffwrdd. O ganlyniad i or-yfed a thrais, ataliodd y Ficer Enoc James y gêm yn 1833.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Sefydlwyd Calon Tysul  ym mis Tachwedd 2017. Mae'r safle'n cynnwys pwll nofio 25m x 10m (Pwll Nofio Teifiside ynghynt sefydlwyd 1975 ac yna Canolfan Dŵr Llandysul) a Chanolfan Hamdden Llandysul (sefydlwyd 2003). Mae bwrdd ymddiriedolwyr gwirfoddol yn gyfrifol am lywodraethu'r ganolfan. Mae amrywiaeth eang o weithgareddau hamdden ac addysgol yn digwydd yn y ganolfan, megis nofio, caiacio, partïon pen-blwydd i blant, Cynllun Ailgyfeirio Ymarfer Corff Cenedlaethol, dosbarthiadau ffitrwydd, badminton, tenis bwrdd, dringo a phêl-droed.




#Article 301: Brynaman (111 words)


Mae Brynaman yn bentref yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin, ger y Mynydd Du a datblygodd oherwydd y diwydiannau glo a haearn yn y 19eg ganrif. Rhennir y pentref yn ddwy gan Afon Aman - i'r gogledd mae Brynaman Uchaf yn Sir Gaerfyrddin tra i'r De mae Brynaman Isaf ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (yn Morgannwg gynt).

Cyn adeiladu'r rheilffordd i fyny Dyffryn Aman o dref Rhydaman, enw traddodiadol y pentref oedd Y Gwter Fawr, a dyna sut yr adnabyddir Brynaman gan George Borrow yn ei lyfr Wild Wales ym 1855. Daw'r enw presennol o Brynamman House (cartref John Jones, adeiladwr y rheilfordd). Mae sinema Brynaman yn dal i fod ar agor.




#Article 302: Hendy-gwyn (161 words)


Tref fechan hanesyddol yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin yw'r Hendy-gwyn (Saesneg: Whitland) neu'r Hendy-gwyn ar Daf (hefyd Hendy Gwyn ar Daf). Roedd yn adnabyddus yn yr Oesoedd Canol fel safle Y Tŷ Gwyn ar Daf, canolfan eglwysig a noddwyd gan dywysogion teyrnas Deheubarth.

Cynrychiolir Hendy-gwyn yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Sefydlwyd yr abaty enwog yma fel cangen Gymreig o abaty Clairvaux yn Ffrainc, un o abatai mawr y Sistersiaid, yn y flwyddyn 1140. Er mai sefydliad Normanaidd oedd yr abaty ar y dechrau, gyda'r mynachod wedi dod drosodd o Ffrainc, dan nawdd yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth daeth yn sefydliad trwyadl Gymreig a fu'n gefnogol iawn i ymdrechion tywysogion Cymru i gadw annibyniaeth y wlad. Ond talodd y pris am ei gefnogaeth yn 1257 pan gafodd ei anrheithio gan filwyr Seisnig a lladd llawer o'r brodyr. Claddwyd y bardd Dafydd Nanmor (fl. 1450-1480) ym mynwent y Tŷ Gwyn.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 303: Llandeilo (118 words)


Mae Llandeilo yn dref ac yn gymuned yng nghanol Sir Gaerfyrddin. Fe'i henwir ar ôl yr hen eglwys i Sant Teilo. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn cael ei hadnabod fel Llandeilo Fawr a gorweddai yng nghwmwd Maenor Deilo, heb fod ymhell o safle Castell Dinefwr, sedd frenhinol tywysogion y Deheubarth.  Mae Gorsaf reilffordd Llandeilo ar linell Rheilffordd Calon Cymru.

Cynrychiolir Llandeilo yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Roedd Llandeilo Fawr yn sedd esgobaeth Gymreig a mynachlog enwog. Mae'n debyg i Lyfr Sant Chad gael ei hysgrifennu yno yn hanner cyntaf yr 8g.

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandeilo ym 1996. Am wybodaeth pellach gweler:

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 304: Llanymddyfri (184 words)


Tref farchnad a chymuned yng ngogledd-ddwyrain Sir Gaerfyrddin yw Llanymddyfri (Seisnigiad: Llandovery). Saif y dref ar lan Afon Tywi lle mae'r priffyrdd A40 ac A483 yn cyfarfod. Enwyd epoc, sy'n rhaniad o amser daearegol, ar ôl y dref: Epoc Llanymddyfri.

Mae Capel Coffa William Williams (Pantycelyn) yn y dref; mae ef wedi ei gladdu yn Llanfair-ar-y-bryn gerllaw. Yma hefyd mae ysgol breswyl beifat Coleg Llanymddyfri.

Cynrychiolir Llanymddyfri yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Adeiladwyd Castell Llanymddyfri gan y Normaniaid yn 1110, ond cipiwyd ef gan y Cymry bron yn syth. Newidiodd ddwylo nifer o weithiau yn y ganrif a hanner nesaf. Yn ystod gwrthryfel Owain Glyn Dŵr, defnyddiwyd y castell gan Harri IV, brenin Lloegr, a ddienyddiodd Llywelyn ap Gruffudd Fychan yn y dref. Ymosododd byddin Glyn Dŵr ar y castell yn 1403, ac mae wedi bod yn adfail ers hynny.

Roedd Rhys Prichard (Yr Hen Ficer neu Y Ficer Prichard) yn enedigol o Lanymddyfri ac yn ficer yma. Sefydlwyd Banc yr Eidion Du gan borthmon lleol yn Llanymddyfri yn 1799.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 305: Rhydaman (614 words)


Mae Rhydaman (Saesneg: Ammanford) yn dref a chymuned yn ne-ddwyrain Sir Gaerfyrddin. Mae ganddi 5,411 o drigolion (Cyfrifiad 2011), 75.88% ohonynt yn siarad Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2001. Mae'r dref wedi'i leoli ar ddiwedd Dyffryn Aman. Roedd Rhydaman yn dref cloddio glo ond erbyn heddiw mae'n ganolbwynt i'r ardal wrth gynnwys amrywiaeth o siopau, bwytai a pharc. Mae Rhydaman wedi gefeillio gyda â Breuillet, Essonne.

Mae'r prif heolydd A483 a A474 yn rhedeg i Rydaman. Mae Gorsaf reilffordd Rhydaman ar llinell Rheilffordd Calon Cymru gyda threnau yn teithio i Lanelli, Abertawe un ffordd a'r Amwythig i'r ffordd arall.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Datblygodd yr enw Rhydaman ar 20 Dachwedd 1880 ond mae'r gymuned yn deillio nôl i'r 19g. Roedd y prif heolydd yn teithio trwy'r dref yn hytrach i'r dref. Roedd un heol yn deillio o Landeilo a Llandybie tuag at Fetws a'r heol arall o'r Dyffryn Aman tuag at Benybanc a Thŷ-croes. Roedd y ddwy brif heol yn croesi, sydd nawr yn cael ei adnabod fel Sgwâr Rhydaman. Datblygodd sawl tafarndy ar gyfer y teithwyr ac roedd y Cross Inn yn ddylanwadol iawn (y Sgwâr) - roedd yr ardal yn cael ei hadnabod fel 'Cross Inn'.

Canolbwynt cymuned 'Cross Inn' oedd yr heol trwy'r Sgwâr a phobl yn Carregaman Isaf. Roedd Betws (rhan o'r ardal) yn fwy, gydag Eglwys St David's yn ganolbwynt. Roedd yr ardal ar ochr arall yr Afon Aman yn cael ei chynnwys yn Llandybie.

Roedd pentref arall o'r enw 'Cross Inn' yn bodoli yn Sir Gaerfyrddin, felly roedd angen ail-enwi'r dref. Cynhaliwyd cyfarfod er mwyn newid yr enw, roedd gan aelodau'r Eglwys a Chapel teimladau cryf i gadw'r enw oherwydd enw'r Capel mwyaf yn yr ardal oedd 'Cross Inn Chapel'. Gwelwyd yr enw ar arreg yno o hyd, ond Gellimanwydd yw'r Capel erbyn heddiw.

Ar 1af Hydref 1880, rhyddhawyd yr erthygl yn y papur newydd lleol:

Ar ôl sawl cyfarfod arall, penderfynwyd anfon y penderfyniad at grŵp o urddasiaethau lleol.

Ar 20fed Hydref, aeth aelod o'r pwyllgor i gyfarfod yn Neuadd Ivorites, ar Stryd yr Heol. Penderfynwyd, gan bobl leol a phwysig, fod yr ardal nawr o dan yr enw Rhydaman (Ammanford). Roedd Cadeirydd y cyfarfod (a phennaeth ysgol leol) Watkin Hezekiah Williams (Watcyn Wyn) yn hapus iawn gyda'r newid.

Roedd galw mawr am glo oherwydd y Chwyldro Diwydiannol am ei fod yn angenrheidiol i gynnal peiriannau stêm. Cychwynnodd glo diddordeb i gwmnïau, ac arwain at reilffordd Llanelli; crëwyd system trafnidiaeth arbennig. Agorodd y rheilffordd gyntaf yn 1840, gan gysylltu Llanelli a Rhydaman, a'n cyrraedd Brynaman erbyn 1842. Datblygodd ymhellach i gyrraedd Llandeilo a'n bellach. Gwelwch Ammanford railway station am fwy.

Dechreuodd nifer o weithwyr glo oherwydd gwaith llaw oedd yr holl waith. Roedd pobl angen tai, gwasanaethau, adloniant ac ysgolion. Yn gyflym iawn, datblygodd y dref ddiwydiannol i dref prysur iawn. Cynyddodd niferoedd poblogaidd a niferoedd o siaradwyr Saesneg yn mewnfudo.

Roedd Rhydaman yn rhan o gyngor Sir Gaerfyrddin hyd at 1885 pan rannodd y Sir ac roedd yn rhan o Barti'r Rhyddfrydwyr hyd at 1918. Parti Llafur sydd yn Llanelli, ers 1922. Yn 1997, roedd Rhydaman yn rhan o Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr dan Blaid Cymru gydag Adam Price yn 2001.

Roedd Rhydaman yn rhan o gyngor Sir Gaerfyrddin ers 1889 hyd at 1974 ac fel arfer o dan gynghorwyr Llafur. Daeth yn rhan o gyngor Dyfed yn 1974 hyd at 1996. Ar ôl cael gwared ar Ddyfed, daeth yn rhan o Sir Gaerfyrddin eto hyd heddiw.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Rhydaman ym 1922 a 1970. Am wybodaeth bellach gweler:

Papur bro Rhydaman a'r cylch yw Glo Mân.




#Article 306: Dinbych-y-pysgod (206 words)


Tref gaerog lan y môr ym Mae Caerfyrddin yn ne Sir Benfro yw Dinbych-y-pysgod (). Mae'n bosib y cafodd y lle ei sefydlu gan y Llychlynwyr. Datblygodd fel harbwr pysgota a phorthladd masnachu, a thyfodd tref o amgylch y castell sydd bellach yn adfeilion. Heddiw, mae Dinbych yn gyrchfan wyliau boblogaidd.

Mae'r atyniadau lleol yn cynnwys 4 km o draethau tywod, muriau hynafol y dref sy'n dyddio o'r 13g ac yn cynnwys Porth y Pum Bwa, Eglwys Fair sy'n dyddio o'r 15g, Tŷ'r Marsiandwr Tuduraidd (eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, amgueddfa'r dref â'i oriel, a rhan o Lwybr Arfordirol Sir Benfro. Mae cychod bach yn hwylio'n rheolaidd o harbwr Dinbych i Ynys Bŷr a'i mynachlog enwog. Gellir cyrraedd Ynys Catrin, yn y bae gyferbyn â'r dref, ar hyd sarn pan fo'r llanw'n isel.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Mae'r cyfeiriad cyntaf i'r dref i'w ganfod mewn cerdd o'r 7ed ganrif a geir yn Llyfr Taliesin. Ymddengys mai bryngaer oedd y dref yn y dyddiau hynny. 

Twristiaeth yw sail yr economi lleol. Mae'r dref yn denu miloedd o ymwelwyr o bob cwrdd o wledydd Prydain a thu hwnt yn yr haf.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 307: Hwlffordd (118 words)


Tref farchnad yng nghanol Sir Benfro yw Hwlffordd. Cafodd Waldo Williams, yr actor Christian Bale a'r cerddor Gruff Rhys eu geni yn y dref.

Ymwelodd Gerallt Gymro â Hwlffordd yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.

Mae clwb pêl-droed y dref yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru, sef Sir Hwlffordd

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Daw'r enw Hwlffordd, mae'n debyg, o'r enw Saesneg Haverfordwest. Ystyr Haverford, neu Harford ar lafar gwlad, yw 'rhyd y bychod gafr'. Ychwanegwyd yr elfen -west tua'r 15fed ganrif er mwyn osgoi dryswch gyda Henffordd.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Hwlffordd ym 1972. Am wybodaeth bellach gweler:




#Article 308: Organeb amlgellog (110 words)


Creaduriaid gyda llawer o gelloedd yw Organebau amlgellog (Creaduriaid gyda ddim ond un gell yw Organebau ungellog).

Yr mwyafrif anifeiliaid, planhigion a ffyngau mae amlgellog, ond mae nifer o organebau ni ungellog, ni amlgellog, hefyd.

Mae'r gellau organebau amlgellog yn rhannu'r waith a mae sawl grŵp ohonyn gyda tasg arbennig. Grwpiau o gelloedd fel hyn yw meinweoedd. Er enghraifft mae cellau'n gyfryfol am atgenhedliad a rhai yn ffurfio'r corff. Dym ond y gellau yn gyfryfol am yr atgenhedliad gall rhannu gyda organebau amlgellog - a felly bywyd am byth heb marw, yn unig fel y organebau ungellog. Mae pob gell o fath arall yn marw ar ôl cyfnod o amser.




#Article 309: Cell (bioleg) (356 words)


Uned sylfaenol pob organeb fyw yw cell. Y gell yw'r uned fiolegol leiaf sy'n gallu dyblygu'n annibynnol, drwy broses cellraniad. Bioleg cell yw'r gangen o'r gwyddorau bywyd sy'n astudio celloedd. Mae rhai nodweddion cyffredin i bob cell, a nifer o gelloedd arbennig yn dangos nodweddion ychwanegol. Mae i bob cell cytoplasm y tu mewn i gellbilen, sy'n cynnwys biomoleciwlau megis proteinau ac asidau niwclëig. Y gellbilen sy'n amddiffyn y gell ac yn gweithredu fel hidlydd o'i hamgylch, gan adael sylweddau i ddianc o'r gell neu ddod i mewn iddi trwy broses o drylediad neu osmosis. Cludir sylweddau hanfodol ar draws y gellbilen trwy gludiant actif, sef proses sy'n defnyddio ynni i symud sylwedd yn erbyn y graddiant crynodiad. Mae i bob cell hefyd DNA sy'n cynnwys ei wybodaeth genetig. Yn ogystal â chellraniad, mae tasgau cyffredin sylfaenol y gell yn cynnwys metabolaeth, sy'n newid defnydd newydd i ynni ac yn gwaredu defnydd gwastraff, a synthesis protinau trwy drawsgrifio DNA i mRNA ac mRNA i brotinau.

Dosbarthir organebau yn fodau ungellog ac amlgellog. Organebau ungellog procaryotig megis bacteria oedd y ffurf gyntaf ar fywyd ar y Ddaear. Mae planhigion, anifeiliaid, ffyngau, protosoaid, llwydni llysnafeddog, ac algâu i gyd yn ewcaryotau. Gall ewcaryot fod yn ungellog neu'n amlgellog, ond y peth sy'n ei hynodi yw'r cnewyllyn. Amrywia'r nifer o gelloedd o un rywogaeth i'r llall, er enghraifft mwy na 10 triliwn (1012) sydd gan y corff dynol. Mae angen microsgop i weld y mwyafrif o gelloedd planhigion ac anifeiliaid, sy'n mesur rhwng 1 a 100 micrometr.

Mae celloedd anifeiliaid a chellau blanhigion dipyn yn wahanol, ond dyma'r prif organynnau:

Y tro cyntaf i rywun ddod o hyd i gelloedd oedd ym 1665 pan ddarganfu Robert Hooke gelloedd pren corc ac wedyn celloedd planhigion byw. Roedd yn defnyddio'r un o'r microsgopau cyntaf i wneud hynny ac erbyn 1675 roedd Anton van Leeuwenhoek yn dadansoddi gwaed a deunydd cyffelyb.

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg darganfu Theodor Schwann gelloedd anifeiliaid a phlanhegion. Darganfu Louis Pasteur nad yw'r celloedd yn dod o'r dim (generatio spontanea) - a Rudolf Virchow fod pob cell yn geni o gell arall (omni cellula ex cellula).




#Article 310: DNA (307 words)


Moleciwl (polymer) yw DNA, sef asid deocsiriboniwcleig, sy'n cynnwys wybodaeth etifeddol popeth byw, y côd genetig. Mae DNA wedi`i wneud o'r elfennau carbon, hydrogen, ocsigen, ffosfforws a nitrogen. Gydag RNA, mae'n un o'r asidau niwcleig.

Darganfu Friedrisch Miescher DNA ym 1869 heb ddeall ei pwrpas. Darganfu James Watson a Francis Crick, ynghyd a Maurice Wilkins adeiledd DNA ym 1953.
Mae dwy gadwyn o niwcleotidau gyda'r DNA a mae niwcleotid sy'n moleciwlau llai (monomerau) a wedi'i wneud o siwgr pentos, bas nitrogenaidd a grŵp ffosffad. Mae'r dwy gadwyn o niwcleodidau yn ffurfio helics dwbl a chadwyd y dwy gyda'i gilydd gan bondiau hydrogen sy'n cysylliau'r basau y dwy gadwyn yn wan (paru basau cyflenwol). 
Adenin (A), Thymin (T), Gwanin (G) a Cytosin (C) yw'r pedair bas y DNA. Mae Adenin o hyd yn cysylltu trwy dai bondiau hydrogen a Thymin. A mae Gwanin o hyd yn cysylltu trwy tri bondiau hydrogen a Cytosin.
Mae llawer o baru basau cyflenwol mewn DNA, ond fod pob tri ohonyn yn côd tripled. Fel hynny, Mae nifer o godau tripled a pob un ym golygu un o'r 20 asid amino, asid sy'n cael ei cynnwys mewn proteinau. O ganlyniad, mae'r trefn y basau (a'r codau tripled hefyd) yn achosi'r trefn asid amino mewn proteinau - a mae hynny'n golygu fod y wybodaeth am adeiledd prodeinau mewn y DNA. Gall y DNA trawsgrifio'r wybodaeth hwn i'r mRNA i wneud proteinau mwen ribosomau y cell.

Mae angen dyblygiad DNA wrth i gellau rannu (mitosis)
Gall y DNA cynhyrchu copi ei hyn trwy ensymau a moleciwlau cludo arbennig. I wneud hynny, mae ensym yn rhannu'r DNA i'r dwy niwcleotidau ac ar un pryd mae pob niwcleotid yn dechrau cynhyrchu niwcleotid newydd. Wedi'r gorffen y proses hyn, mae dwy DNA newydd, pob un gyda un niwcleotid hen ac un niwcleotid newydd.

Camgymeriadau dybligiad yw'n achosi mwtaniadau.




#Article 311: Cromosom (237 words)


Llinyn DNA a geir yng nghnewyllyn y gell yw cromosom. Mae'n cynnwys bron y cyfan o gôd genetig organeb byw. Nid yw fel arefr i'w ganfod ar ei ben ei hun; yn hytrach fe'i ceir wedi lapio ei hun o gwmpas y 'niwcleosôm', sef casglaid o brotinau, ac sy'n cynnwys histonau. Yn ystod mitosis (rhaniad cell) mae'n bosib gweld cromosomau gyda chymorth meicroscop.

Yn y cromosom dynol ceir 23 pâr o gromosomau, cyfanswm 46 cromosom. Mewn gametau (sbermau a ŵyau) dynol mae 23 cromosomau.

O'r Groeg y daw'r gair cromosom (chromosome):  (chroma, lliw) a  (soma, corff).

Mae'n ddigon hawdd staenio chromatin a chromosomau. 
Drwy wneud hyn, daeth Virchow a Bütschli i fod ymhlith y gwyddonwyr cyntaf i adnabod y strwythur iconic a adnabyddwn heddiw fel y cromosom. Ond Heinrich Wilhelm Gottfried von Waldeyer-Hartz, a fathodd y gair, gan gyfeirio at cromatin wrth wneud hynny, gair a oedd wedi'i fathu gan Walther Flemming ychydig cyn hynny.

Mewn cyfres o arbrofion a gychwynwyd yng nghanol y 1880au, dangosodd Theodor Boveri mai'r cromoson yw fector etifeddeg. Dangosodd ddau egwyddor: dilyniant cromosomau a'u hunigolrwydd; roedd yr ail o'r rhain yn gysyniad cwbwl newydd. Awgrymodd Wilhelm Roux fod y cromosom yn cario llwyth genetig, gwahanol ac ymchwiliodd i fewn i'r cysyniad hwn, a'i brofi. Ychwanegodd at ei ddarganfyddiad y wybodaeth a oedd newydd gael ei ailddarganfod, sef gwaith Gregor Mendel, a chyhoeddodd fod cysylltiad agos rhwng rheolau etifeddeg ac ymddygiad y cromosom.




#Article 312: Ecoleg (165 words)


 
 

 Mae gwyddoniaeth ecoleg yn cynnwys popeth o brosesau bydol megis biomau (brig), yr astudiaeth o gynefinoedd morol a daearol (canol), i ryngweithio rhwng gwahanol rywiogaethau e.e. ysglyfaethu a pheillio (gwaelod). Mae'n astudiaeth o gyfoeth yr amrywiaeth bywyd a sut mae nhw'n ddibynol ar ei gilydd. 

Astudiaeth o'r berthynas rhwng organebau a'u hamgylchedd yw Ecoleg (Groeg: oikos yw tŷ a logos ydy gwyddoniaeth). Mae esblygiad ac ecosystem yn dermau perthnasol.

Mae ecoleg yn delio efo ynni a'i ffynhonnell (yr haul) a phrosesau ffotosynthesis. Mae ecoleg, bioleg a gwyddorau byw arall yn gorgyffwrdd efo sŵoleg a daearyddiaeth, sy'n disgrifio'r pethau mae ecoleg yn ceisio'u rhagdybio. Gan fod planhigion gwyrdd yn rhyddhau'r rhan fwyaf o ocsigen moleciwlar yn fyd-eang gellir eu hystyried yn rhan hanfodol o ecoleg, yn enwedig ar y tir. Mae'r berthynas rhwng anifeiliaid a phlanhigyn yn allweddol i hyn oherwydd yr ailgylchu nwyon sy'n digwydd drwy resbiradaeth.

Dros y degawdau diwethaf mae ecolegwyr wedi dangos diddordeb a phryder mewn newid hinsoddol a chynhesu byd eang.




#Article 313: Crucywel (119 words)


Mae Crucywel (Seisnigiad: Crickhowell) neu weithiau Crughywel a  Crug Hywel yn dref yn ne-ddwyrain Powys ar Afon Wysg ac ar y ffordd A40.

Tardda'r enw o'r bryn Crug Hywel a'i fryngaer drawiadol gerllaw. Mae’r dref yn sefyll ar Afon Wysg ar ochr ddeheuol y Mynydd Du yn rhan ddwyreiniol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae poblogaeth o ryw 2,000 yn byw yn y dref.

Mae adeiladau sydd o ddiddordeb arbennig yn y dref yn cynnwys eglwys blwyf St Edmund, sy’n dyddio o’r 14g, gweddillion castell Crucywel ar y “twmp” a’r bont o’r 17g. Mae gan y bont ddeuddeg bwa ar un ochr a thri bwa ar ddeg ar yr ochr arall.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 314: Y Drenewydd (114 words)


Tref fwyaf Powys ydy'r Drenewydd (Saesneg: Newtown), ar lannau afon Hafren, ger y ffin â Lloegr. Mae'r dref yn enwog fel un o ganolfannau hanesyddol diwydiant gwlân Cymru ond fe'i hadnabyddir yn bennaf fel tref enedigol Robert Owen (ym 1771). Mae'r tŷ lle'i magwyd yn hanesyddol bwysig ac wedi'i droi'n amgueddfa. Yma hefyd mae Theatr Hafren ac Oriel Davies Gallery (yr enw swyddogol).

Yn y Drenewydd roedd pencadlys cwmni Syr Pryce Pryce-Jones, y cwmni cyntaf yn y byd i werthu drwy'r post. Mae'n debyg y bu'r cwmni yn gwerthu dillad isaf i'r Frenhines Victoria, hefyd. Mae amgueddfa Syr Pryce-Jones yn y dref.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Drenewydd ym 1965. Am wybodaeth bellach gweler:




#Article 315: Llandrindod (217 words)


Mae Llandrindod yn dref a chymuned yng nghanolbarth Powys. Tyfodd y dref yn y 19g pan gyrhaeddodd y rheilffordd, gan ddod â llawer o ymwelwyr i brofi'r dyfroedd arbennig o'r ffynhonnau sydd yn y dref (dyma pryd bathwyd yr enw Saesneg Llandrindod Wells, er mwyn denu rhagor o ymwelwyr ffasiynol i brofi rhin y dŵr).

Erbyn hyn mae Llandrindod yn gartref i Gyngor Sir Powys, sydd yn un o brif gyflogwyr y dref. Cynhelir nifer o gynadleddau yn y dref, gan bod cynifer o westai yn y dref a Phafiliwn sy'n addas ar gyfer digwyddiadau mawr.

Mae Cwm Y Gof (Saesneg: Rock Park) yn barc pert rhwng y dref ac Afon Ieithon. Yn y parc mae man uchel uwchben yr afon o'r enw Llam Y Cariadon (Saesneg: Lovers' Leap). Yn ôl hen chwedl, oddi yno y neidiodd dau oedd yn gariadon cudd.

Mae gan Landrindod hefyd lyn adnabyddus gydag ynys fechan yn ei ganol.

Cynhelir marchnad yn y dref bob dydd Gwener gerllaw yr orsaf drên. Ar ddydd Iau cynhelir marchnad ffermwyr yn Stryd Middleton ble gwerthir cynnyrch lleol. Ceir hefyd nifer o siopau bach annibynnol a dau archfarchnad yn y dref.

Mae gorsaf drên Llandrindod yn arhosfa ar Linell Calon Cymru, sy'n rhedeg o Abertawe i'r Amwythig.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 316: Llanfair-ym-Muallt (125 words)


Mae Llanfair-ym-Muallt (weithiau Buallt, Saesneg: Builth Wells neu Builth) yn dref yng nghanolbarth Powys ar Afon Gŵy.

Mae'n debyg mai sillafiad gwreiddiol Buallt oedd Buellt (am ei bod yn gorwedd yn y cantref canoloesol Buellt), sef bu a gwellt sef porfa gwartheg. Yr un bu sydd yn buwch, bustach a buarth ac roedd gwellt yn wreiddiol yn gallu golygu porfa fel ag yn glaswellt. Llurguniad ar y gair Buallt yw'r Saesneg Builth.

Tyfodd y dref o gwmpas y castell anferth a godwyd yno o tua diwedd y 1090au ymlaen. Gerllaw, ceir tomen mwnt a beili o'r enw Castell Buallt.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt ym 1993. Am wybodaeth bellach gweler Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelwedd 1993




#Article 317: Llanfyllin (643 words)


Tref fechan a chymuned yng ngogledd Powys yw Llanfyllin (), ond hi hefyd yw'r dref fwyaf yng ngogledd Sir Drefaldwyn. Mae'n gorwedd ym masn afon Cain i'r de o fryniau'r Berwyn, ar y briffordd A490 yn ardal Maldwyn. Mae wedi'i lleoli 14 milltir (23 km) i'r de-orllewin o Groesoswallt a 25 milltir (24 km) o Drefaldwyn. Llifa dwy afon i lawr y dyffryn: afonydd Cain ac Abel, gan ymuno â'r Efyrnwy yn Llansantffraid-ym-Mechain.

Mae'n blwyf eglwysig a fu'n blwyf sifil am gyfnod hefyd ac yn adnabyddus am ei ffynnon sanctaidd, a gysegrir i Sant Myllin. Yng nghyfrifiad 2011 roedd y boblogaeth yn 1,532, gyda dim ond 41.4% wedi'u geni yng Nghymru.

Bu'n dref farchnad ers canrifoedd, mae'n debyg oherwydd ei lleoliad strategol - rhwng yr Amwythig a'r Bala. Gerllaw, tua milltir a hanner o Lanfyllin saif Castell Bodyddon, un o gestyll tywysogion Powys, castell mwnt a beili pur sylweddol a elwir hefyd yn 'Domen yr Allt'. Ond ceir olion hŷn na hyn o'r Oes Efydd a ffordd Rufeinig sy'n nadreddu yr holl fordd i Glawdd Offa. Hen domen, neu fwnt, o'r Oesoedd Canol ydy Tomen y Cefnlloer (neu 'Domen Foel Fochras') c.27-28m mewn diametr a 4.2m o uchder ac mae olion y domen i'w gweld heddiw .

Mae yma ffynnon, Ffynnon Coed y Llanin, a gysegrwyd i Sant Myllin (Gwyddel o'r enw 'Molling', mae'n debyg), ac eglwys a godwyd yn wreiddiol yn y 7g. Arferid bedyddio pobl yn y ffynnon. Mae'r eglwys bresennol, fodd bynnag, yn eglwys frics a godwyd yn 1706 ac sy'n ddwywaith maint yr hen eglwys. Rheithor yma oedd yr Esgob William Morgan (1545 - 10 Medi 1604). Codwyd un o gapeli cyntaf yr Annibynwyr, Capel Pen-dref, yma yn Llanfyllin yn 1701, ond fe'i llosgwyd gan y Jacobitiaid yn 1715 a chodwyd yr adeilad presennol ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Dwy dref drwy Gymru gyfan a dderbyniodd siarter gan y tywysogion Cymreig: Y Trallwng a Llanfyllin, a dderbyniodd ei statws yn 1293 (1294 yn ôl Gwyddoniadur Cymru) gan Llywelyn ap Gruffudd ap Gwenwynwyn, Arglwydd Mechain Uwch y Coed a Mochnant Uwch Rhaeadr, yn nheyrnasiad Edward I. Cadarnhawyd y siartr gan Edward de Charlton, dan Harry V, a ddiffiniodd Llanfyllin yn dref farchnad. Yn 1644, treuliodd Charles I y diwrnod yma, ar ei ffordd i'r Brithdir ac yna ymlaen i Gastell y Waun.

Ceir sawl tŷ o ddiddoredeb hanesyddol yn yr ardal. Yn Llanfyllin ei hun ceir 'Manor House', gyda'i bump bae ffenestr, a godwyd yn 1737. I'r gogledd-ddwyrain o'r dref saif Neuadd Bodfach, hen gartref Teulu Kyffin. Codwyd y neuadd yn wreiddiol wedi i Einion Efell etifeddu'r ystâd yn 1160 oddi wrth ei dad Madog ap Maredydd, Tywysog Powys. Codwyd y tŷ gwreiddiol wedi i'r hen fwnt a beili ('Tomen yr Allt') gael ei ddymchwel yn 1256.

Ceir stori garu anghyffredin yn yr ardal, yn dilyn Rhyfeloedd Napoleon (rhwng 1804 a 1815) pan ddaeth carcharor rhyfel Ffrengig, Pierre Augeraud, i Lanfyllin a syrthio dros ei ben a'i glustiau â merch y rheithor lleol, Mary Williams. Mewn ystafell gyferbyn a'r eglwys frics (uwch ben y fferyllfa heddiw), ceir ystafell gyda 13 o luniau rhamantaidd a beintiwyd tua 1812 gan Pierre ac sy'n gorchuddio'r waliau'n gyfangwbwl. Roedd wedi'i ddal yn 1812 yn Badajoz, Sbaen yn un o 148 o swyddogion a ddygwyd i Lanfyllin, fel carcharorion rhyfel; roedd yn 25 mlwydd oed, yn dal gyda gwallt brown a llygaid glas. Pan glywodd tad Mary am y garwriaeth sicrahodd alltudiad Pierre, ac ni chlywyd rhagor amdano. Bu farw'r rheithor, ond yn hydref 1814 daeth cnoc ar ddrws y tŷ, a dyna lle safai Pierre - wedi dychwelyd fel Capten, ar ôl iddo dderbyn y Légion d'Honneur gan Napoleon ei hun. Gyda sêl bendith ei mam, aeth y ddau i Ffrainc i fyw. Yn 1908 daeth Ffrancwr i Lanfyllin ar ymweliad - William Augeraud, gor-ŵyr Pierre.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 318: Llanidloes (261 words)


Tref ym Maldwyn, Powys ar lan Afon Hafren yw Llanidloes. Mae Caerdydd 110.4 km i ffwrdd o Lanidloes ac mae Llundain yn 257.4 km. Y ddinas agosaf ydy Henffordd sy'n 71.2 km i ffwrdd. Gorsaf reilffordd Caersws yw'r un agosaf, 6 milltir i ffwrdd. Crewyd 2 lwybr yn 2006, sef Sarn Sabrina 25 milltir o hyd) a Semi Sabrina (12 milltir), yn dechrau o Lanidloes. Cyfeirir y dref ar lafar, yn aml, fel Llani.

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd llan ar safle Llanidloes gan Sant Idloes (fl. 6ed-7g).

Canodd y bardd canoloesol Gruffudd ab Adda ap Dafydd gywydd i'r fedwen a dorrwyd i wneud pawl haf yn Llanidloes. Mae'n un o'r cywyddau canoloesol mwyaf adnabyddus. Mae'n cyferbynu harddwch ac urddasrwydd byd natur â hyllni ac anghyfiawnder y dref a phopeth a gynrychiolir ganddi, tref lle gosodwyd y fedwen ddifethiedig yn ymyl y pilori cyhoeddus. Llanidloes oedd y pentref lle magwyd y merthyr Rhisiart Gwyn.

Erbyn diwedd y 18g, Roedd y dref yr un bwysicaf ym Maldwyn ar rhan cynhyrchu gwlan a gwlanen, ond yn raddol, daeth Y Drenewydd yn bwysicach, a hefyd symudodd cynhyrchiad o dai i ffatrioedd.. Agorwyd Cyfnewydfa Wlanan yn Llanidloes ym 1838, ond erbyn 1913 roedd y felin olaf wedi cau.

Roedd y dywidiant plwm yn bwysig i’r dref, oherwydd y pwllau Van gerllaw. Erbyn 1876 roeddent ymysg pyllau mwyaf cynhyrchiol y byd, yn rhoi gwaith i dros 500 o bobl. Sefydlwyd ffowndri yn y dref ym 1851, ac adeiladwyd nifer fawr o gapeli a siopau yn ystod y cyfnod.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 319: Machynlleth (170 words)


Mae Machynlleth () yn dref yng ngogledd-orllewin Powys, ger aber Afon Dyfi. Ei phoblogaeth yn 2001 oedd tua 2,000. Ei hadeilad enwocaf yw Senedd-dy Owain Glyn Dŵr.  Mae marchnad bwysig yn y dref pob dydd Mercher.

Mae Caerdydd 131.5 km i ffwrdd o Machynlleth ac mae Llundain yn 283.2 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 73 km i ffwrdd.

Mae gan y dref glwb pêl-droed ers 1885, C.P.D. Machynlleth sy'n chwarae yn Cae Glas.

Cynhaliodd Owain Glyndŵr senedd ym Machynlleth yn 1404. Yno, yng ngwydd llysgenhadon o Ffrainc, Yr Alban a Sbaen, coronwyd Owain yn Dywysog Cymru.  Llys Maldwyn yn Heol-y-Doll oedd lleoliad Vane Infant School hyd at 1852.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Ar 13 Ionawr 2020, cymeradwyodd  y Llywodraeth Cymru adeiladu pont newydd ar draws Afon Dyfi. Bydd yn costio £46 miliwn. Mae'r hen bont ar gau yn aml oherwydd llifogydd.

Cynhelir dau ŵyl flynyddol o bwys yn y dref:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Machynlleth ym 1937 a 1981. Am wybodaeth bellach gweler:




#Article 320: Talgarth (169 words)


Tref a chymuned yn ne-ddwyrain Powys yw Talgarth. Mae yn ardal Brycheiniog. Yma y cadwyd Llyfr Coch Talgarth, llawysgrif Gymraeg a ysgrifennwyd tua'r flwyddyn 1400.

Mae Caerdydd 57 km i ffwrdd o Talgarth ac mae Llundain yn 222.1 km. Y ddinas agosaf ydy Henffordd sy'n 36.6 km i ffwrdd.
, lle'r arhosodd Harri Tudur ar ei daith drwy Gymru 10 Awst 1485 yn ôl traddodiad; chwalwyd y plasdy ei hun ar ddechrau'r 19g.

O fewn ardal tua dwy filltir sgwâr ceir 16 siambr claddu o Oes Ganol y Cerrig (y mesolythig) a ystyrir yn nodedig iawn. Siambrau hirion yw'r rhan fwyaf, gyda cherrig anferthol yn eu gorchuddio fel nenfydau; mae eu cynlluniau mewnol yn hynod o gymhleth ac yn arwydd fod yma bobl soffistigedig iawn, amaethwyr cynnar gyda defodau claddu arbennig. Canfuwyd yr offeryn cerdd hynaf yng Nghymru ym Mhenywyrlod, Talgarth a ddyddiwyd i c. 4000 BC; darganfuwyd y siambr gan ffermwr lleol a'r offeryn cerdd ym Mehefin 1972 .

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 321: Y Trallwng (191 words)


Mae'r Trallwng (Saesneg: Welshpool; cyn-1835 Pool) yn dref yng ngogledd-ddwyrain Powys, sy'n gorwedd ar lan Afon Hafren, 4 milltir (6.4 km) o'r ffin rhwng Cymru â Lloegr. Arferai fod yn yr hen Sir Drefaldwyn. Gerllaw, i'r dwyrain, saif Cefn Digoll (408 metr (1,339 tr), a chwaraeodd ran mor allweddol yn amddiffyn y genedl oddi wrth y goresgynwyr estron: y Saeson. Yma ar 16 Awst 1485 y cyfarfu dwy fyddin: milwyr Harri Tudur (tua dwy fil o filwyr) a byddin Rhys ap Thomas (tua 3,000) gan uno'n un fyddin gref; oddi yma teithiodd y fyddin tua'r dwyrain i'r Amwythig ac ymlaen i Faes Bosworth.

Ceir yn y Trallwng farchnad ddefaid, a gynhelir bob dydd Llun, yw'r mwyaf o'i fath yn Ewrop. Tua milltir o'r dref saif Castell Powys, a godwyd yn wreiddiol gan y Tywysogion Cymreig yn y 13g. Cysegrir y ddwy eglwys i sant Cynfelyn.

Mae ffiniau plwyf Eglwys St Cynfelin fwy neu lai'n dilyn hen ffiniau cwmwd Ystrad Marchell, o fewn cantref Ystlyg yn Nheyrnas Powys.

Am gyfnod byr, o tua 1212, y Trallwng oedd prifddinas Powys Wenwynwyn (sef de Powys).

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 322: Cricieth (271 words)


Tref hanesyddol ar arfordir deheuol Eifionydd yng Ngwynedd, gogledd Cymru, yw Cricieth (weithiau Criccieth neu Crugiaeth yn Gymraeg yn ôl rhai awdurdodau, gan gynnwys y , a hefyd Criccieth yn Saesneg). Yn y 14g, mewn llythyr at Hywel y Fwyall, Ceidwad y Castell, Cruciaith oedd yr enw a ddefnyddiwyd..

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Saif amddiffynfa trawiadol Castell Cricieth fel cawr uwch y dref. Cyfeirnod OS: SH4968838012. Saif y dref 8km (5mill) i'r gorllewin o Borthmadog, 14 km (9mill) i'r dwyrain o Bwllheli a 27 km (17mill) i'r de o Gaernarfon. Roedd ganddi boblogaeth o tua 1,826 yn 2001.

Enillodd y dref wobr Cymru yn ei Blodau yn 1999. Cynhelir cystadleuaeth Y Dyn Cryfa (am godi carreg fawr o flaen y Neuadd Goffa) yn flynyddol ym mis Mehefin

Gwyddom fod yma bobl yn byw'n yr ardal yn yr Oes Efydd cynnar, fel y dengys siambr gladdu Cerrig Cae Dyni i'r dwyrain o'r dref. Ceir olion cwpannau Celtaidd, sef celfyddyd gynnar ar y saith carreg, sy'n beth hynod o anghyffredin. Ganganorum Promontorium (Penrhyn y Gangani) oedd enw Ptolemy ar yr ardal; llwyth Celtaidd o Iwerddon oedd y Gangani.

Codwyd y castell Cymreig hwn yn 1230 gan Lywelyn ab Iorwerth a reolodd yr ardal ers 1202; ond mae'r cofnodion ysgrifenedig yn nodi mai yn 1239 y'i codwyd, pan symudwyd pencadlys Eifionydd yma o Ddolbenmaen.

Tyfodd tref fechan wrth droed y Castell yn yr Oesoedd Canol.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghricieth ym 1975, ble'r enillodd Gerallt Lloyd Owen y gadair am ei awdl Yr Afon.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 323: Dolgellau (1206 words)


Tref farchnad yn ne Gwynedd yw Dolgellau, ger mynydd Cader Idris. Cyfeirnod OS: SH 72901 18024. Mae afon Wnion, un o lednentydd yr afon Mawddach, yn llifo trwy’r dref gan basio dan Y Bont Fawr. 

Mae Caerdydd 148.3 km i ffwrdd o Ddolgellau ac mae Llundain yn 292.5 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 56 km i ffwrdd. Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Cyn y cyfnod Rhufeinig yr oedd yr ardal y mae Dolgellau yn sefyll ynddi yn rhan o diroedd yr Ordoficiaid, sef un o lwythau Celtaidd Cymru a orchfygwyd gan y Rhufeinwyr yn OC 77/78. Er y darganfuwyd ychydig o darnau arian o gyfnodau yr ymherodwyr Hadrian a Trajan ger Dolgellau, mae’r ardal yn gorsog ac nid oes tystiolaeth iddi gael ei chyfanheddu yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Serch hynny, saif tair o fryngaerau ger Dolgellau, er na wyddys yn sicr pwy a'u adeiladodd.

Wedi i’r Rhufeiniaid adael, daeth yr ardal dan rheolaeth cyfres o benaethiaid Cymreig, ond mae’n debyg na fodolodd trigfa sefydledig yno tan ddiwedd y 11eg neu ddechrau’r 12g, pan y’i sefydlwyd yn faerdref, o bosibl gan Gadwgan ap Bleddyn. Tref o daeogion yng ngwasanaeth yr arglwydd neu dywysog lleol oedd maerdref, ac ni newidiwyd y statws hwn ar Ddolgellau tan deyrnasiad Harri VII (1485-1509). 

Adeiladwyd eglwys rywbryd yn y 12g (fe’i chwalwyd a disodli gan yr adeilad presennol ym 1716), er mai Abaty Cymer, a sefydlwyd ym 1198 yn Llanelltyd, oedd y ganolfan grefyddol bwysicaf yn wreiddiol. Dechreuodd pwysigrwydd Dolgellau dyfu yn y cyfnod hwn ac fe’i chrybwyllwyd ym Mesuriad Tir Meirionnydd, a archebwyd gan Edward I (ni chrybwyllwyd Llanelltyd). Ym 1404 cynhaliwyd cyngor penaethiaid yno gan Owain Glyndŵr; saif Senedd-dy Owain Glyndŵr ar hen safle'r senedd wreiddiol.

Wrth i George Fox ymweld a’r dref ym 1657, daeth llawer o drigolion Dolgellau i fod yn Grynwyr. Oherwydd erledigaeth ymfudodd llawer ohonynt i Bennsylfania ym 1686, dan arweiniant Rowland Ellis, ffermwr bonheddig lleol. Enwyd tref Bennsylfaenig Bryn Mawr ar ôl fferm Ellis, ger Dolgellau.

Datblygodd y diwydiant gwlân yn Nolgellau i fod o’r pwysigrwydd eithaf i’r economi lleol; erbyn diwedd y 18g cyfrifwyd bod gwerth blynyddol £50,000 i £100,000 ar allgynnyrch gwlân Dolgellau. Serch hynny, dechreuodd y diwydiant ddirywio yn hanner cyntaf y 19g oherwydd dyfodiad y gwŷdd mecanyddol a diwedd y gaethfasnach. Allforio gwlan Cymreig i wisgo caethweision ym mhlanhigfeydd America oedd un o brif farchnadoedd y diwydiant. Cyfrannydd arall i economi Dolgellau, er yr un cyfnod, oedd barcio; parhaodd hyn tan y 1980au, er ar radd llawer iawn llai.

Pan ddarganfuwyd aur yn ardal Dolgellau yn y 19g, brysiodd llwyth o ymchwilwyr yno. Ar un pryd cyflogwyd mwy na 500 o weithwyr yn y pyllau aur lleol. Pery hyn ar radd llawer iawn llai hyd heddiw ym mhyllau aur Gwynfynydd, un o ffynonellau prin aur Cymru.

Heddiw mae economi Dolgellau yn dibynnu'n bennaf ar dwristiaeth (gweler isod, er bod amaethyddiaeth yn chwarae rhan o hyd; cynhelir marchnad ffermwyr yng nghanol y dref bob mis.

Ni wyddys dim yn sicr am darddiad enw 'Dolgellau'. Mae’n debyg y tardd o'r geiriau “dol” a “gelli”, er yr awgrymwyd deilliannau megis “dol cellïau” neu “dol cellau [mynachod]” hefyd; oherwydd hanes yr enw, fodd bynnag, nid yw rhain mor debygol.

Ceir yr enghreifftiau cynharaf o enw'r dref mewn cofnodion gwladol Seisnig ac felly maent yn llurguniadau o'r Gymraeg. Dolkelew yw’r sillafiad cynharaf a wyddys amdano (1253, Mesuriad Tir Meirionnydd, ond gwelir y sillafiad Dolgethley ym 1285 (mae’r thl yn sicr yn gais i gynrychioli’r sain Gymraeg ll). Mewn dogfen a luniwyd ar gyfer Owain Glyndŵr, ceir y ffurf Dolguelli.  Wedi hynny tan y 19g, gwelir sillafiadau megis Dolgelley, Dolgelly neu Dolgelli.  Defnyddiodd Thomas Pennant y ffurf Dolgelleu yn ei lyfr Tours of Wales, a dyna’r ffurf a ddefnyddiwyd yng Nghofrestri’r Eglwys ym 1723, ond nid oedd y ffurf hon fyth yn gyfredol iawn.  Yng Nghofrestri’r Eglwys ym 1825 defnyddir y ffurf Dolgellau, a mabwysiadodd Robert Vaughan o'r Hengwrt y ffurf hon ym 1836; mae’n bosibl fod y ffurf yn seiliedig ar y rhagdybiaeth mai Dol Cellau yw tarddiad yr enw.  Hwn yw'r sillafiad safonol heddiw yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd, ond fe'i dderbyniwyd yn gynharaf yn y naill iaith na'r llall: Dolgellau a ysgrifennodd Islwyn Ffowc Elis ym 1949 yng Ngysgod y Cryman, ond parhaodd y sillafiad Dolgelley ar arwyddion ffordd tan yn ddiweddar iawn.

Yn Nolgellau roedd yr awdur Cymraeg Marion Eames yn byw, a ysgrifennodd y nofel Y Stafell Ddirgel sy'n seiliedig ar hanes y Crynwyr a ymfudodd o Ddolgellau i'r Amerig ym 1686.

Cadwodd Robert Vaughan (1592-1667) lyfrgell helaeth yn yr Hengwrt, ger Dolgellau, yn cynnwys trysorau fel Llyfr Taliesin, Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch. Adnabyddir ei gasgliad wrth yr enw Llawysgrifau Hengwrt.

Bu sawl bardd a llenor o bwys yn byw yn yr ardal, gan gynnwys Dafydd Ionawr, O. M. Lloyd, Bethan Gwanas, Morus Cyfanedd, Iorwerth Price, a Ioan Bowen Rees.

Yn y byd cerddorol bu Dolgellau yn gartref i ddiwylliant gwerin Cymru.  Roedd gwyl werin yno yn y 1950au a ddilynwyd yn y 70au a'r 80au gan yr Wyl Werin Geltaidd,  Dilynwyd honno gan y Sesiwn Fawr yn 1990au hyd heddiw, fel a welir isod.  Ond hefyd daeth cerddoriaeth werin o'r dref gyda Cilmeri (grwp), Côr Gwerin y Gader, Defaid a Gwerinos dros gyfnod o ugain mlynedd o'r 1980au ymlaen.  Bu sesiynau gwerin mewn tafarndai yn rhan naturiol o fywyd y dref hefyd drwy'r cyfnod hwn gyda sefydlu Tŷ Siamas yn benllanw nautriol.

Atynna ardal Dolgellau filoedd o dwristiaid bob flwyddyn oherwydd harddwch naturiol yr ardal.  Daw rhan helaeth ohonynt er mwyn cerdded, heicio, beicio mynydd, marchogi, rafftio a dringo, yn enwedig ar lethrau Cader Idris.

Agorwyd gorsaf trên Dolgellau – yn rhan o’r Great Western Railway - ym  1868.  Caewyd y rheilffordd yn y 1960au gan Dr Beeching.  Heddiw rhed Llwybr Mawddach, sef llwybr i gerddwyr a beicwyr, ar hyd yr hen reilffordd.

Mae atyniadau hanesyddol yn  cynnwys gweddillion Abaty Cymer, tua hanner milltir o'r dref.  Mae hefyd arddangosfa am y Crynwyr yn y Canolfan Croeso, yn ogystal â mynwent Crynwyr yn y dref.  Yn Ninas Mawddwy, sef pentref ger Dolgellau, mae cae o’r enw Camlan a gysylltir gan rai â'r Brenin Arthur (gweler Camlan).

Er 1992 cynhelir gŵyl cerddoriaeth byd Sesiwn Fawr yn Nolgellau.  Fe’i chynhaliwyd yn wreiddiol ar strydoedd y dref, ond tyfodd yn rhy fawr i ganol Dolgellau.  Er 2002 cymer le ar gyrion Dolgellau a chodir tâl am fynediad.  Defnyddiwyd yr arian yn ddiweddar i atynnu perfformwyr megis Cerys Matthews, Steve Earle, Mike Peters, a Super Furry Animals.  Daw torfeydd o dros 5,000 o bobl i Sesiwn Fawr yn flynyddol ac honnir bod yr ŵyl yn un o brif wyliau cerddoriaeth byd Ewrop.  Er 1995 darlledir yr ŵyl ar BBC Radio Cymru ac er 1997 ar S4C.

Bob haf cynhelir hefyd Ŵyl Cefn Gwlad yn Nolgellau, sef cymysg o Sioe Amaethyddol a ffair.  Mae mynediad am ddim ond rhoddir yr arian a godir yn y gwahanol stondiau i achosau elusengar.

Ym 1949 cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Nolgellau ac yn fwy ddiweddar ym 1994 Eisteddfod yr Urdd.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Gefeilliwyd Dolgellau â Gwenrann yn Llydaw (Gwenrann yw'r enw Llydaweg: Guérande yw'r enw Ffrangeg).




#Article 324: Ffestiniog (224 words)


Pentref, cymuned a phlwyf yng Ngwynedd yw Ffestiniog () neu Llan Ffestiniog, a saif rhwng Blaenau Ffestiniog a Maentwrog, yng Nghwm Ffestiniog. O'r pentref ceir golygfeydd braf o'r Moelwynion, Cnicht a bryniau Blaenau. Yn y plwyf ceir Rhaeadr y Cwm a Phwlpud Huw Llwyd ar lan Afon Cynfal.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Enw ysgol y pentref yw Ysgol Bro Cynfal. Mae un dafarn yn y pentref o'r enw Y Pengwern ac un siop, swyddfa bost a hefyd neuadd bentref. Llan Ffestiniog yw cartref Clwb Golff Ffestiniog.

Mae cefnffordd de-gogledd yr A470 yn rhedeg drwy'r pentref. Mae gwasanaethau bws rheolaidd yn cysylltu'r pentref gyda Blaenau Ffestiniog a'i orsaf drenau a Phorthmadog a gwasanaeth arall i Ddolgellau. Arferai'r pentref gael ei wasanaethu gan reilffordd o Flaenau Ffestiniog i'r Bala tan yr 1960au.

Dyma'r fro a gysylltir â Blodeuwedd, Lleu Llaw Gyffes a Gronw Pebr yn y Pedair Cainc y Mabinogi. Gelwir hen garreg ar lan Afon Cynfal, i'r de o'r pentref, yn Llech Ronw. Mae twll ynddi a chredid mai hon oedd y garreg a afaelodd Gronw ynddi i amddiffyn ei hun rhag tafliad gwaywffon Lleu. Dwy filltir i'r gogledd-ddwyrain o'r pentref mae Llyn y Morynion, a gysylltir â morwynion Blodeuwedd a gerllaw iddo mae Beddau Gwŷr Ardudwy.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 325: Llanberis (266 words)


Pentref mawr a chymuned yng nghalon Eryri, yng Ngwynedd, yw Llanberis (). Daw'r enw o sant Peris, er mai eglwys pentref cyfagos Nantperis oedd y sefydliad gwreiddiol. Sant o'r 6g oedd Peris. Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd y boblogaeth yn 1,954 ac roedd 81% yn siarad Cymraeg yn rhugl, a 100% o'r bobl ifanc rhwng 10–15 oed yn siarad Cymraeg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Tyfodd y pentref o amgylch Chwarel Dinorwig a chwaraeodd y diwydiant llechi ond bellach y cyflogwr mwyaf yn yr ardal ydy twristiaeth, Pwerdy Dinorwig a gwaith dŵr y Mynydd Trydan; mae yma hefyd ffatrioedd gan gwmniau Siemens Diagnostics a DMM. Gerllaw, saif adfeilion Castell Dolbadarn: castell a godwyd gan Llywelyn II yn y 13g. Peiniwyd y llyn a'r castell gan lawer o artistiaid gan gynnwys Richard Wilson and J.M.W. Turner.

Dewiswyd Godfrey Goodman (1583-1656), yn ddeon Rochester yn 1621, ac yn esgob Caerloyw yn 1625. Pan ddaeth Siarl I i'r orsedd yn 1625 fe'i cafodd ei hun fwy a mwy heb gydymdeimlad â'r polisi crefyddol. Rhwng 1626 a 1640 yr oedd tystiolaeth yn crynhoi a awgrymai ei fod wedi troi'n Babydd. Yn 1640 fe'i carcharwyd am wrthod torri ei enw wrth ganonau Laud, eithr fe'i rhyddhawyd pan gytunodd i wneuthur hynny. Bu yng ngharchar ddwywaith wedi hynny cyn 1643 a chymerwyd y rhan fwyaf o'i eiddo oddi arno. Yn ystod rhan o'r cyfnod 1643-7 bu'n llochesu ar eiddo (Tŷ Du) a oedd ganddo yn Llanberis.. Cafodd tref Rhuthyn lesâd o dan ei ewyllys. 

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 326: Porthmadog (336 words)


Tref yng Ngwynedd yw Porthmadog neu Port ar lafar, sydd wedi'i leoli ar aber Afon Glaslyn yn Eifionydd, Gwynedd. Saif oddeutu 7 km o Gricieth. Mae Caerdydd 173 km i ffwrdd o Borthmadog ac mae Llundain yn 316 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 33 km i ffwrdd.

Mae dros 65% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Cyn adleoli 1972 arferai fod yn Sir Gaernarfon. Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 4,187.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Datblygodd Porthmadog ar ôl i W. A. Madocks, Aelod Seneddol dros Boston, Swydd Lincoln, yn Lloegr, adeiladu'r morglawdd a elwir y Cob er mwyn adennill tir amaethyddol o'r Traeth Mawr, a orchuddid gan y môr yn yr hen ddyddiau pan fyddai'r llanw i mewn. Datblygodd Porthmadog yn borthladd pwysig i allforio llechi o'r chwareli ym Mlaenau Ffestiniog, ac fe adeiladwyd y rheilffordd fyd-enwog, Rheilffordd Ffestiniog i gario'r llechi o Ffestiniog i Borthmadog. Am ddegawdau, bu Porthmadog yn bwysig iawn yn niwydiant llechi'r byd, ond gyda'r dirywiad yn y diwydiant llechi collodd y porthladd ei bwysigrwydd.

Roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig yn y dref hefyd. Efallai mai'r mwyaf enwog o longau Porthmadog oedd y sgwneri tri mast a adeiladwyd rhwng 1891 a 1913. Adnabyddid y rhain fel y Western Ocean Yachts, a dywedir eu bod ymysg y llongau hwylio prydferthaf a adeiladwyd erioed. Yn 1913 lansiwyd y Gestiana, y llong olaf i'w hadeiladu yma.

Ceir clwstwr cytiau caeedig Parc y Borth gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Bellach, tref dwristaidd yw hi. Fe'i gelwir yn aml yn Fynedfa i Eryri oherwydd ei safle daearyddol. Mae Rheilffordd Ffestiniog, a ddefnyddir ddyddiau hyn i gario ymwelwyr o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog, a Rheilffordd Eryri, sy'n mynd i Gaernarfon, yn boblogaidd iawn.

Mae Clwb Pêl Droed Porthmadog yn chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhorthmadog ym 1987. Am wybodaeth bellach gweler:

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Mae'r pentref Eidalaidd Portmeirion ger Porthmadog.




#Article 327: Pwllheli (374 words)


Tref hynafol yw Pwllheli ar arfordir deheuol Llŷn yng Ngwynedd, sy'n dyddio'n ôl i'r canol oesoedd. Bu'r porthladd yn bwysig i'r dref ar hyd y canrifoedd. Roedd yno ddiwydiant adeiladu llongau llewyrchus yn y 19g. Tyfodd i fod yn dref marchnad i Lŷn gyfan, fel y tystia'r safle a adwaenir fel 'Y Maes' lle y cynhelid y ffeiriau, a 'Stryd Moch'. Mae Caerdydd 178.4 km i ffwrdd o Pwllheli ac mae Llundain yn 331.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 41.1 km i ffwrdd.

Mae Pwllheli yn un o gadarnleoedd y Gymraeg, gyda tua 80% o'r boblogaeth yn medru'r iaith. Yn yr oedrannau 10-14 mae'r canran uchaf o bobol sydd yn gwybod yr iaith, sef 94%.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan  a'r Aelod Seneddol yw .

Mae'r prif ffyrdd A497 a'r A499 yn rhedeg trwy'r dref. Mae'r A497 yn rhedeg yn orllewinol o Borthmadog i Bwllheli ac yna i'r gogledd at Nefyn, tra bod yr A499 yn brif ffordd Benrhyn Llŷn.

Terfynfa'r Rheilffordd Arfordir Cambria yw Gorsaf reilffordd Pwllheli, sydd yn rhedeg i Fachynlleth gyda gwasanaethau yn parhau i Amwythig a Birmingham. Mae'r orsaf yn cael ei weithredu a'i weini gan Trafnidiaeth Cymru]. Daeth y rheilffordd i Bwllheli yn 1867 gan ei chysylltu ag Aberystwyth a Chaernarfon. Ger Pwllheli, ym mhlwyf Penrhos, mae Penyberth, safle'r ysgol fomio a losgwyd mewn protest yn erbyn militariaeth gan Saunders Lewis, D. J. Williams a Lewis Valentine yn 1936.

Ceir hefyd safle tacsis wedi'i leoli tu allan i'r fynedfa i'r orsaf reilffordd.

Mae gwasanaethau bws yn y dref yn cael eu gweithredu gan Fysiau Arriva Cymru a Nefyn Coaches a gwasanaethu'r rhan fwyaf o'r dref yn ogystal â gweddill yr ardal ehangach Penrhyn Llŷn. Mae Clynnog  Trefor yn rhedeg gwasanaethau i Gaernarfon lle gall cysylltiadau gael eu gwneud i Fangor a'r ardal ehangach Gogledd Cymru. Mae gorsaf fysiau Pwllheli wedi ei leoli yng nghanol y dref, yn Y Maes.

Mae tref Pwllheli yn gartref i dîm pêl-droed C.P.D. Pwllheli a thîm rygbi'r undeb, Clwb Rygbi Pwllheli.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli ym 1925 a 1955. Am wybodaeth bellach gweler:

Ceir Clwstwr cytiau caeedig Clogwyn Bach gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 328: Tywyn, Gwynedd (6039 words)


Tref fechan ar lan Bae Ceredigion ym Meirionnydd, Gwynedd yw Tywyn. Mae Caerdydd 137.7 km i ffwrdd o Dywyn ac mae Llundain yn 297.8 km. Y ddinas agosaf yw Bangor sy'n 71 km i ffwrdd. Mae'r traeth a'r promenâd yn atyniadau poblogaidd. I'r gogledd y mae aber Afon Dysynni, ac i'r gogledd-ddwyrain y mae tir amaethyddol bras Dyffryn Dysynni a phentref Bryn-crug. I'r dwyrain ceir bryniau Craig y Barcud a Chraig Fach Goch. I'r de y mae Morfa Penllyn ac Afon Dyffryn Gwyn.

Sefydlwyd Tywyn ar ochr ogleddol penrhyn o dir rhwng corstiroedd aber afon Dyffryn Gwyn, i'r de, a chorstiroedd aber afon Dysynni i'r gogledd. Yn yr Oesoedd Canol roedd modd hwylio cryn bellter i fyny afon Dysynni, ond mae hynt yr afon wedi newid cymaint fel ei bod yn anodd gwybod ble'r oedd ei phrif wely yn yr Oesoedd Canol cynnar. Mae Glanymorfa Mawr a Bach ger Llanegryn a Glanymorfa ar ochr ddeheuol afon Dysynni yn rhoi rhyw syniad o ba mor bell yr oedd y llanw yn cyrraedd. Cyn dechrau'r gwaith o sychu'r corsydd yn y 18g, gan greu camlas i Afon Fathew, roedd Ynysymaengwyn yn ynys pan fyddai llanw uchel iawn. Roedd modd dod â chychod bychain i'r lan nid nepell o'r eglwys tan 1809. Mae mapiau o'r 200 mlynedd diwethaf yn dangos symudiad graddol aber Dysynni i'r gogledd, gyda'r map O.S. cyntaf o 1837 yn dangos bod aber yr afon yn llawer mwy eang nag ydyw heddiw a gwely nant llydan yn cysylltu llyn yr aber â'r dref. Tan y 19eg ganrif yr oedd ardal gorsiog arall i'r de o'r dref ac Afon Dyffryn Gwyn yn troelli trwyddi a thrwy lyn o'r enw  Llyn y Borth a roddodd ei enw i fferm Penllyn. Draeniwyd y llyn rhwng 1862 a 1864. Efallai y dewiswyd safle Tywyn yn rhannol oherwydd y buasai'n gymharol hawdd ei amddiffyn; gyda'r môr i'r gorllewin ac aberoedd a chorstir i'r de a'r gogledd  a'r penrhyn yn rhoi cysgod rhag gwyntoedd o'r de-orllewin.

Ystyr y gair tywyn yw 'traeth, glân môr, twyn tywod'; mae twyni tywod eang i'w cael i'r de ac i'r gogledd o'r dref. Digwydd yr elfen tywyn mewn nifer o enwau lleoedd eraill, gan gynnwys Tywyn (neu Towyn) ger Abergele.

Yn Gymraeg, yr ynganiad arferol yw . Roedd y sillafiadau Tywyn a Towyn ill dau yn gyffredin yn y Gymraeg hyd at ran olaf yr ugeinfed ganrif. Pan safonwyd orgraff y Gymraeg yn gynnar yn yr 20g, daeth y sillafiad Tywyn yn fwyfwy cyffredin ac erbyn y 1970au derbynnid mai'r sillafiad hwnnw a oedd yn safonol yn y ddwy iaith. Hyd at oddeutu canol yr 20g, cyfeirid yn achlysurol at y dref fel 'Y Tywyn', ond nid arferir y ffurf honno bellach. Clywir y ffurf Tywyn Meirionnydd hyd heddiw.

Cyn y 1970au, Towyn oedd y sillafiad arferol yn Saesneg ac yn aml iawn yn y Gymraeg. Bellach, ystyrir Towyn yn ffurf Seisnigedig ac yn anaml y'i defnyddir, er bod ambell eithriad. Yn y cyfnod Fictoraidd a hyd at ganol yr 20g ceir enghreifftiau o'r ffurf Towyn-on-Sea. Yr ynganiad Saesneg arferol hyd heddiw yw .

Ffoaduriad o Lydaw a ymsefydlodd yn Nhywyn gyntaf. Roeddent yn disgynyddion i lwythau o Frycheiniog a Henffordd a gadwodd Gristnogaeth yn fyw yn ne-ddwyrain Cymru ar ôl i'r Rhufeiniaid adael yn 383. Pan ddychwelodd Elen, gweddw Macsen Wledig i Gymru yn 388 daeth â syniadau Martin o Tours gyda hi. Datblygodd Cristnogaeth Geltaidd trwy addasu Cristnogaeth trwy dde a dde-orllewin Cymru, fel arfer trwy briodasau rhwng teuluoedd penaethiaid. Ymledasant i Gernyw ac wedyn i Lydaw lle'r oedd y llwythau yn perthyn i rai de Cymru a'r ieithoedd yn debyg i'w gilydd. Bu rhaid iddynt ffoi o Lydaw am dri rheswm. Cafodd rhannau o Lydaw eu goresgyn gan Ffrancod tua'r flwyddyn 537. Cipiodd Hoel, un o feibion Emyr Llydaw, rym ar ôl ei farwolaeth, gan orfodi nifer o'i dylwyth i ffoi. Dihangodd rhai oddi wrth y pla melyn a ymledodd ar draws Ewrop o 541 i 549.

Daeth nifer o'r ffoduriaid i chwilio am loches yng Ngwynedd. Roedd Gwynedd o dan reolaeth Maelgwn Gwynedd a'i feibion. Roedd ambell un o'r tylwyth wedi mabwysiadu Cristnogaeth ond nid y llwyth cyfan fel yn ne Cymru. Rhoddodd Maelgwn a'i feibion ganiatâd i'r ffoaduriaid ymgartrefu ar yr amod y buasent yn canolbwyntio ar fywyd ysbrydol a pheidio ag ymyrryd yn rheolaeth Gwynedd. Glaniodd Cadfan, mab Eneas Lydaweg a Gwen Teirbron yn 516  yn ôl rhai ffynonellau; ond gan y bu Cadfan yn ŵyr i Emyr Llydaw c.460- c.546  mae'r dyddiad hwn yn ymddangos yn rhy gynnar. Mae'r dystiolaeth uchod yn awgrymu dyddiad tua phedwardegau'r 6g er bod rhai yn awgrymu dyddiad mor hwyr â 576. Yn ôl Llyfr Llandaf, hwylio i Dywyn o Armorica, sef Llydaw, a wnaeth Cadfan a deuddeg arall. Mae deuddeg yn rhif sumbolaidd ac mae gwahanol restrau o'i gyd-deithwyr yn cynnwys tua 25 o enwau, a'r rhain yn uchelwyr yn unig. Mae'n debyg fod mwy nag un fintai wedi cyraedd. Buasent wedi cysylltu ag eraill o'u tylwyth gan defnyddio'r môr fel eu prif ffordd o deithio. Ymsefydlasant yn gyntaf ar arfordir Meirionnydd  gan ehangu i'r dwyrain dros gyfnod.

Buasai Cadfan a'i gyd-deithwyr wedi dilyn trefn arferol Cristnogion Celtaidd de Cymru gan sefydlu llan neu gymuned Gristnogol ar gyfer menywod a dynion gydag eglwys fechan yn ei chanol. (Ystyr gwreiddiol y gair llan oedd darn o dir wedi ei gau neu safle agored yng nghanol coed.) Adeiladwyd eglwys o bren yn gyntaf. Buasai'r llan yn weddol agos at drigolion lleol, ond heb gymryd drosodd eu pentrefi neu eu caeau. Nid oes unrhyw olion o'r safle hwn ond mae'n rhesymol i dybio ei fod o dan hen rannau o Dywyn sy'n cynnwys safle yr eglwys. Ni wyddom pa mor gyflym y llwyddodd Cadfan i ddenu pobl leol at Gristnogaeth ac i ymuno â'r gymuned ond yn dilyn arferiad de Cymru pan dyfodd y llan yn rhy fawr, neu pan oedd plant penaethiaid yn dymuno sefydlu eu tiriogaeth eu hunain, buasai llan newydd wedi cael ei chreu dan arweiniad un o deulu'r uchelwyr. Mae nifer o lannau ym Meirionnydd yn dwyn enw un o'r tylwyth a daeth o Lydaw neu un o'u disgynyddion.

Datblygodd ambell lan enw da naill am yr addysg a roddwyd yno neu ymgartrefodd rhywun adnabyddus am ei ddysg yno. Tyfodd y rhain, gan gynnwys Tywyn, i fod yn glasau; sef canolfannau addysgiadol eu hardal. Pan ddaeth Cristnogaeth yn ffydd y mwyafrif trodd y llannau'n bentrefi ond parodd rhai o'r clasau'n gymunedau Cristnogol, gyda gwragedd yn ogystal â dynion, tan y goresgyniad Edwardaidd. Erbyn 1147 gelwid arweinydd y clas yn Nhywyn yn abad  a throsglwyddodd y swydd o dad i fab.

Daeth Tywyn yn faenol (cymuned neu bentref dan reolaeth uchelwr, yr abad yn Nhywyn, gyda digon o dir i fod yn hunangynhaliol) yn ogystal â chlas. Gelwid yr ardal i'r dde-orllewin o'r dref y Faenol tan ddiwedd y 19eg ganrif. Mae fferm yno a gelwir Faenol (Uchaf) a gelwid Faenol Isaf yn Ysgubor Ddegwm tan y 1870au gan adleisio hawl yr eglwys ganoloesol i derbyn degwm o gynnyrch y bobl. Ychydig i'r de mae'r fferm Caethle. Buasai pob faenol yn cadw taeogion oedd yn gorfod aros ar y faenol ond a oedd yn byw ychydig ar wahân i'r gwedill.

Mae eglwys Cadfan yn gartref i Garreg Cadfan, sef carreg ac arni'r ysgrifen gynharaf yn y Gymraeg. Hon yw prif drysor eglwys Cadfan. Credir fod y garreg yn dyddio i tua 800 ond mae'r ysgrifen o ddwy gyfnod, ac nid yw'r ysgrifen hŷn o'r un safon a'r ysgrifen mwy diweddar. Defnyddiwyd Carreg Cadfan fel postyn llidiart ym Motalog hyd at 1761 pan symudwyd hi i tu fewn yr eglwys. Mae cloc haul o gerrig, un o ddim ond dau sydd wedi goroesi o'r ddegfed canrif; a ddefnyddiwyd fel carreg filltir ar lwybr ar hyd y traeth o Aberdyfi. Gwelir yr ysgrifen 1 mile yn eglur arno. Mae cerrig eraill wedi cofnodi gan haneswyr ond maent wedi diflannu erbyn hyn, ond yr oedd eu bodolaeth yn dangos fod safle eglwys Tywyn yn hynafol iawn. Mae uchder y fynwent, mewn llefydd yn dwy fedr uwchben llawr yr eglwys yn tystio fod claddedigaethau wedi digwydd dros gyfnod hir.

Teithiai pereinion at greiriau Cadfan ac yr oedd dŵr ffynnon Cadfan yn enwog am ei allu i iachäu. Tyfodd Tywyn yn glas digon cyfoethog i tynnu sylw y Llychlynwyr a chofnodir bod yr eglwys wedi ei llosgi ddwywaith, unwaith yn 963. Yn yr 11fed neu'r 12ed ganrif  adeiladwyd eglwys o gerrig yn y dull Normanaidd, sydd wedi goroesi yn rhan o adeilad presennol Eglwys Sant Cadfan. Cyfansowydd y gerdd Canu Cadfan gan Llywelyn Fardd sy'n darlunio'r eglwys ac yn canmol ei gwychder, yn arbennig gwychder Creirfa Cadfan. Mae'r gerdd yn awgrymu fod yr eglwys wedi ei chwblhau yn weddol fuan cyn llunio'r gerdd. Mae maint y rhan sydd wedi goroesi, gyda'i cholofnau llydan cryf, yn dangos eglwys fwy o lawer nag eglwys plwyf arferol. Gellid cymharu eglwys Cadfan a chadeirlan Bangor yn yr Oesoedd Canol.

Sefydlwyd Abaty Sistersaidd Cymer yn 1198-9 ond yr oedd yr ugain milltir rhwng Tywyn a'r Cymer yn ddigon fel na chafodd sefydlu'r abaty effaith amlwg ar y clas yn Nhywyn. O dan y tywysogion Cymreig parodd arferion yr eglwys Gymreig ochr yn ochr ag arferion yr eglwys Gatholig. Yn 1254  eglwys Cadfan oedd y gyfoethocaf ym Meirionnydd. Deuai pererinion o bell. Yn ôl traddodiad arferai pererinion benlinio ac adrodd gweddïau wrth iddynt dod dros crib y bryncyn i'r de o'r eglwys a gweld yr eglwys. Gelwir y safle yn Bryn y Paderau hyd heddiw. Yn Oes y Tywysogion Tywyn oedd un o brif drefi cwmwd Ystumanner, cantref Meirionnydd.

Yn 1284 ar ôl i Edward oresgyn Cymru ymwelodd John Peckham, Archesgob Caergaint, ag esgobaeth Bangor, gan gynnwys Tywyn. Gwrthwynebai Peckham arferion Celtaidd yn chwyrn ac ar ôl ei ymweliad cwynodd am wisgoedd lliwgar y mynaich a'u gwallt hir heb donsur iawn ac am y ffaith eu bod yn yfed gormod. Galwodd eu gwragedd yn gordderchiaid gan fynnu eu bod yn gadael yn syth.  Cwynodd fod yr offeiriad yn anllythrennog ac am ddifyg effeitholrwydd eu gofal bugeiliol. Efallai nad oedd Lladin y clerigwyr yn ddigon da i wneud ddim ond adrodd gwasanaethau'r eglwys ond gan nad oeddent yn siarad Ffrangeg-Normanaidd a na deallai Peckham y Gymraeg, mae'n anodd gweld sail i'w feirniadaeth. Nodir bod gan blwyf Tywyn  naw o denantiaid oedd yn talu trethu yn 1293; sy'n awgrymu lle weddol gyfoethog. Ar ôl y goresgyniad newidiodd eglwys Cadfan o ganolfan addysgiadol clas Celtaidd i fod yn fam eglwys plwyf. Erbyn 1535 roedd capeli yn Llanfihangel-y-Pennant, Tal-y-llyn a Phennal yn perthyn i'r eglwys. Parhaodd cyfoeth yr eglwys gyda phererinion yn dal i ymweld â chreirfa Cadfan a'i ffynnon. Mae dau gerflun o'r 14g yn yr eglwys sy'n tystio i'r cyfoeth a daeth yno. Mae un yn offeiriad dienw a'r llall yn filwr. Credir mai Gruffudd ab Adda, rhaglaw Ystumanner o 1331 i 1334, yw'r milwr.

Trosglwyddwyd yr hawl i benodi rheithoriaid i esgobaethau yn Lloegr. Anaml iawn oedd y rhain yn byw yn y plwyf ond casglent elw'r eglwys iddynt eu hunain. Fe ddylient fod wedi penodi ficeriaid ond nid oes tystiolaeth fod hyn wedi digwydd.

Mae'n annhebygol y cafodd y Diwygiad Protestannaidd lawer o effaith yn syth ar grefydd yn Nhywyn. Mae'n anodd dychmygu beth a fuasai'r effaith newid iaith addoliad o Ladin i Saesneg ar boblogaeth uniaith Gymraeg. Newid a fuasai'n cael mwy o ddylanwad oedd cyfieithu'r Llyfr Gweddi Gyffredin yn 1567 a'r Beibl yn 1588 i'r Gymraeg  a gyda dyfodiad Gruffudd ap Morgan, ficer oedd yn byw yn y plwyf o 1570 i 1606, cafodd y werin gyfle i addoli yn eu iaith eu hunain. Parhaodd yr arfer o benodi rheithoriaid nad oeddent yn byw yn eu plwyfi ac aeth yr eglwys yn llai canolig i gred y werin. Cadwyd at hen draddodiadau ysbrydol ac ofergoelion. Glynodd y bobl gyffredin am ganrifoedd wrth lawer o elfennau'r Hen Ffydd.  Parhaent i gynnau canhwyllau a gweddïo i'r saint ac yn Nhywyn buasai'r cof am Cadfan a'i dylwyth a pharch at ei ffynnon fel lle santaidd oedd yn iachusol wedi aros fel dylanwadau cryf.

Dirywiodd yr eglwys gan fod rheithoriaid yn absennol. Yn 1692 syrthiodd y clochdy i lawr. Nid oedd arian gan y plwyf i ailadeiladu ac arhosodd yr eglwys yn rhannol agored i'r elfennau tan y 1730au pan godwyd treth ychwanegol at y trethi arferol (ar gyfer tlodion) i drwsio'r eglwys. Nid oes sicrwydd pryd y cwblhawyd y gwaith o drwsio'r tô. Dymchwelwyd y tŵr a safai ym mhen gorllewinol yr eglwys yn 1848 ac adnewyddwyd rhannau o'r eglwys yn y dull Fictoraidd yn 1881–4 

Disgynyddion Gruffudd ab Adda oedd perchnogion ystad Ynysymaengwyn  o'r Oesoedd Canol  hyd at 1867. Daeth yr enw Corbet i Swydd Amwythig rywdro cyn 1086. Fel rheol, sillefir enw'r gangen o'r teulu a ddaeth i Dywyn ag un t. Sefydlodd cangen deheuol y teulu yn Swydd Caerwrangon (oedd yn sillafu yr enw Corbett) erbyn 1158. Daeth yr enw Corbet i'r ystad pan briododd Bridget, unig blentyn Elizabeth ferch Syr James Pryse o Gogerddan ac Elizabeth ferch Humphrey Wynn ap John Wynn o Ynysymaengwyn, â Robert (m. 1644), mab Syr Vincent Corbet o  Moreton Corbet. Er i'r ystad gael ei hetifeddu gan fenywod sawl gwaith wedi hynny rhoddwyd amod mewn ewyllysiau fod yr etifeddiaeth yn amodol ar ddefnydd o'r cyfenw Corbet gan eu gwŷr.

Y teulu mwyaf dylanwadol yn Nhywyn am ganrifoedd oedd Corbetiaid Ynysymaengwyn. Cawsant ddylanwad er lles trwy roddion elusennol ond er gwaeth wrth amgáu tiroedd comin. Roedd rhai fel Ann, aeres Robert Corbet a briododd Athelstan Owen, a Vincent Corbet, yn hael i'r tlodion gan roi elusendai i'r dref. Gelwid Henry Corbet, pechennog y stad rhwng 1774 a 1782, yn Corbet the Good am iddo fod yn hael i'r tlodion ac yn dirfeddiannwr da. Etifeddwyd yr ystad gan ei frawd Edward. Roedd ef yn hoff o saethu adar a mynnai y dylai unrhyw beth a saethwyd ar yr ystad fynd i neuadd Ynysymaengwyn. Roedd hefyd yn hoff o rasys ceffylau a sefydlodd drac rasys ar y rhan o'r mofa a draeniwyd ganddo (gweler isod). Ychwanegodd o leiaf saith o blant siawns i boblogaeth y dref. Aeth y teulu yn fethdalwyr yn 1867. Prynwyd y stad yn 1882 gan John Corbett  (perthynas pell o gangen deheuol y teulu). Mae Gwesty'r Corbett (y Raven tan ail hanner y 19eg ganrif), Sgwar Corbett, Rhodfa Corbett, Ffordd Athelstan a Ffordd Warwig yn dal i bwysleisio'r cysyltiad â'r teulu.

Hyd at diwedd y 18g roedd yn rhesymol galw Tywyn yn borthladd  gan fod y llanw yn cyrraedd y Gwaliau hyd 1809. Roedd cychod bychain yn dod â mewnforion yno. Un o'r mewnforion hyn oedd calch a bu nifer o odynau calch ar lan afon Dysynni. Dysgai pobl ifanc sut i nofio yn y lli o geg y ffos i'r Gwaliau. Roedd iard adeiladu llongau ger y Pil Ditych gyferbyn y safle lle adeiladodd y Presbyteriaid eu capel cyntaf yn ymyl y Gwaliau. Mor diweddar â 1886 bu trigolion Tywyn yn cofio llong a elwid y Debora yn cael ei hadeiladu ger Rhydygarnedd. Roedd y corsydd o Pall Mall i'r môr yn dir comin i drigolion Tywyn. Cadwai'r werin anifeiliaid a dofednod yno a hela adar a physgota ond y defnydd pwysicaf oedd torri mawn ar gyfer tanau. Bu'r tir comin yn bwysig hefyd fel man i gasglu gwartheg a defaid at ei gilydd cyn i'r porthmyn eu gyrru  i Loegr. Gwelir dylanwad y porthmyn yn yr enwau Pall Mall, Picadili a'r White Hall wrth iddynt roi enwau o derfyn eu taith ar leoliadau ar ei chychwyn.

Pan etifeddodd Edward Corbet Ynysymaengwyn yn 1782, dechreuodd ddraenio y darn o'r corstir a oedd yn perthyn i'r ystad. Rhwng 1788 a 1784 newidiodd y corstir i dir oedd yn cynhyrchu gwair, trwy gloddio ffosydd a lledu calch. Cedwid y gost yn isel trwy ddal ati i ganiatáu i'r werin dorri mawn, cyhyd ag yr oeddent yn torri yn union lle dewisai ef; i ddyfnder a benodwyd ganddo ef a gan cadw'r ochrau yn syth. Fel hyn arbedodd gostau talu gweithwyr i agor y ffosydd.

Yn gynnar yn y 19eg canrif trodd golygon Corbet tuag at y tiroedd comin. Yn 1805 honnodd dyn o'r enw Jackson ei fod wedi darganfod glo ym Mron Biban a pherswadiodd trigolion y dref i gyfnewid eu hawliau traddodiadol am addewid o lo rhad. Pasiwyd deddf i ganiatáu amgáu y tir comin yn 1805. Dechrauodd y gwaith draenio tua 1806. Adeiladwyd Clawdd Swnd yn 1809 a rwystrai'r llanw rhag cyrraedd y Gwaliau ac ardal helaith o'r corstir. Wrth gwrs, ni daethpwyd o hyd i unrhyw lo. Honnodd Corbet nad oedd yn gwybod am y twyll ond gwnaeth elw mawr ohono.

Penderfynodd y dynion a oedd yn torri'r ffosydd fod eu cyflog yn rhy fach. Trefnodd rhai ohonynt Llythyr Crwn ('round robin') i ofyn am godiad cyflog fel nad oedd neb yn gallu dioddef yn unigol gan ei fod wedi gofyn. Dywedir fod hwn yn un o'r enghreifftiau cyntaf o ddynion yn trefnu gyda'i gilydd i weithredu dros eu cyflogau a'u hawliau. Rhannwyd y tir comin rhwng y prif tirfeddianwyr. Aeth 395 acer i un unigolyn, a 97 i un arall. Neilltuwyd 30 acer yn unig i'r Goron at ddefnydd y werin. Cafodd colli eu hawliau traddodiadol effaith difrifol ar y werin dlotaf. Yn 1795 talodd y plwyf gyfanswm o £177.10.3 i'r tlodion. Erbyn 1810 bu raid talu £545.10.9 

Bu Llyn y Borth, y pwll islaw ffermdy Penllyn yn enwog am frithyll hyd at 1850 pan sefydlwydd y Felin Pair Mining Company gan taflu gwastraff o'r mwyngloddio i afon Dyffryn Gwyn gan ladd hwyaid, gwyddau a cheffyl yn ogystal a physgod. Collodd y werin, a oedd wedi arfer pysgota gyda chewyll yn yr afon, gyflenwad arall o fwyd. Adeiladwyd Clawdd llanw i rwystro'r mor rhag lledu ar draws y gors a draeniwyd Llyn y Borth yn 1862. Rhannwyd y corsydd rhwng y ffermydd o gwmpas y llyn a dechreuasant ar y gwaith o ddraenio'r corsydd a gwella'r tir. Erbyn 1866 roedd rhannau o'r corstir yn addas at dyfu cnydau ond parhaodd y gwaith draenio tan o leiaf 1886.

Pan brynnodd Ynysymaengwyn gan John Corbett yn 1882 hawliodd ef y tir a roddwyd i'r Goron fel ei eiddo ei hun.  Honnodd nad oedd neb wedi dweud wrtho cyn iddo brynu fod y tir yn dir comin a rhoddwyd y tir i'r ystad fel rhodd. Amgaeodd y tir er gwaethf map o 1805 a'r dystiolaeth fod y plwyfolion wedi defnyddio'r tir ers cyn cof a bod ganddynt hawliau hynafol. Nid oedd y werin yn deall sut yr oedd  Corbett, gŵr cyfoethog, yn medru cymryd eu hawliau traddodiadol oddi wrthynt. Roedd gweithred Corbett yn cymharu anffafriol â rhoddion cyfoethogion i greu parciau at ddefnydd y werin mewn trefi mawr.

Ar ôl y Diwigiad Mawr yr oedd Tywyn yn dref gymharol dlawd. Yn 1569 dywedwyd amdani: Dessynine being a creek having no habitacion nor resorte and there is nother shippe nor botte that belongeth thereunto. Yn 1563 roedd 200 tŷ anedd yn y plwyf, heb gyfri'r rhai ym Mhennal, Tal-y-llyn a Llanfihangel-y-Pennat.

Mae map o Dywyn o 1794  yn dangos, heblaw am ychydig o fwthynnod unigol,  nid oedd y dref wedi ymledu ymhellach na Stryd y Llew Coch, Sgwar Corbet, Stryd yr Eglwys, rhan o Stryd Maengwyn, rhan o'r Frankwell a rhan o Lôn yr Hwyaid (National Street) Mae'r hen efail, yr hen glyferdy a'r Porth Gwyn i gyd yn sefyll tu allan o'r dref. Mae map o 1836  yn dangos ychydig o ehangu; mwy o fythynnod ar Stryd Maengwyn a'r Frankwell a bythynnod ar Llain y Clas (College Green) a Lôn yr Hwyaid (National St.) Yn 1851 yr oedd 208 tŷ yn y dref, 14 ohonynt yn wag a phoblogaeth o 341 gwryw a 466 menyw. 

Ar yr union adeg ag y collodd Tywyn angorfeydd yn aber Dysynni daeth Aberdyfi i'w hanterth fel porthladd. Hwyliai llongau at eithafion y ddaear gydag allforion o lechi a mwynau a daeth nwyddau o bell i siopau Tywyn. Dechreuodd yr arfer o enwi siopau ar ôl llefydd pell. Mae London House, Stanley House a Somerset House yn dal i sefyll yn Stryd y Llew Coch.

Yn 1851 yr oedd siopau'r dref i gyd yn agos i'r eglwys. Mae modd cerdded, hyd heddiw o Sgwar Corbett ar hyd Stryd y Llew Coch ac yn ôl ar hyd Stryd yr Eglwys gan gweld nifer mawr o adeiladau lle mae'r ffrenestri wedi newid faint o beth sy'n addas i dŷ, i beth sy'n addas i siôp ac yn  ôl. Mae'n enghraifft brin o dref o ganol y 19eg ganrif sydd heb diflannu o dan datblygiadau diweddarach.

Bu Tywyn yn enwog am ei beirdd a'i thelynorion (gweler y rhestr isod), Yn ogystal â diddanu'r uchelwyr, yr oedd awyrgylch bywiog yn y dref. Roedd Griffith Owen (1750–1833), a gadwai dafarn y Raven, yn delynor o fri a theulu Jonas yn enwog am ganu pennillion a dawnsio i gerddoriaeth y delyn. Cynhelid Nosweithiau Llawen Ceiniog mewn rhai tafarndai. Fel mewn llawer fan arall parodd adrodd nifer o ofergoelion. Roedd sawl hanes am ysbrydion yn yr ardal, yn bennaf yn Ynysymaengwyn  ond gyda dyfodiad Anghydffurfiaeth diflanodd rhain yn araf.

Mae adroddiad ar gyflwr Tywyn, a oedd yn dilyn Deddf Iechyd 1850 yn darlunio dref afiach. Prin iawn oedd y tai gyda'u tŷ bach eu hun. Rhannai trigolion nifer o dai un tŷ bach fel arfer. Rhedai'r y dŵr brwnt i ffosydd ynghanol y strydoedd ac roedd pyllau o ddŵr drewllyd mewn sawn man. Safai tomennydd o wastraf, gwastraff bwyd, llwch o'r tannau a charthion yn agos at nifer o dai ac ychwanegai cytiau moch at y baw a'r drewdod. Roedd salwch yn gyffredin, yn enwedig ym misoedd yr haf oherwydd cyflwr afiach y dref. Nododd yr adroddiad fod ystad Ynysmaengwyn, a oedd yn berchen ar rhan fwyaf y dref, ym meddiant plentyn o dan 21 oed ac yr oedd yr ymddiriedolwr naill yn analluog neu yn anfodlon i weithredu i wella'r sefyllfa. Rhoddodd yr adroddiad argymellion i sefydlu cyflenwad o dŵr glân i dap ymhob tŷ ac i ddarparu pibau i gario dŵr brwnt i ffwrdd ym mhob stryd. Gorfodwyd perchnogion i adeiladu tai bach y tu cefn i'w tai a chysylltu piben o bob tŷ a phiben o bob tŷ bach gyda phrif piben gwastraff y stryd. 

Mae map o 1836  yn dangos dechreuad yr hyn a elwid y dref newydd ychydig i'r gorllewin o'r hendref, ger ffermdy Penybryn. Cafodd y datblygiad hwn o ychydig fythynnod mewn terasau ddylanwad mawr ar sut yr ehangodd y dref pan leolwyd orsaf y rheilfford yn ymyl y dref newydd. Yn lle dechrau yn y canol ac ymestyn allan, fel y rhan fwyaf o drefi, mae Stryd Fawr, Tywyn, wedi dechrau ar y ddau ben a daeth at ei gilydd dros gyfnod o flynyddoedd. Enwyd hen dai i'r gorllewin o'r dref yn Bryn y Môr a Phenybryn. Ger safle'r dref newydd mae rhes o dai, Bryn Mair gyda'r dyddiad 1892 arni a Bryn Awel gyda'r dyddiad 1897. Mae'r Assembly Room o 1893 yn yr hen dref. Rhwng yr hen dref a'r orsaf mae Neuadd y Farchnad, a adeiladwyd ar dir a roddwyd gan Corbett yn 1897, dwy siop o 1898 ger Cofeb Ail Ryfel y Boer o 1902, siop o 1903, a rhes o bedair siop yn Pretoria Building o 1901. Caewyd y bylchau yn araf.

Prin iawn oedd dylanwad Anghydffurfiaeth yn Nhywyn tan dechrau y 19eg canrif. Heblaw am nifer bychan o Annibynwyr  parhâi gweddill y poblogaeth i addoli yn eglwys Cadfan, gan gadw at rai arferion ac ofergoelion a oedd yn dyddio yn ôl i'r Oesoedd Canol.

Mae'n debyg fod gelyniaeth Edward Corbet tuag at Anghydffurfiaeth wedi peri i'r mudiad dyfu yn arafach yn Nhywyn nag mewn lleoedd eraill. Mae sawl hanes am ei wrthwynebiad.  Pan oedd Edward William, arweinydd y Methodistiaid cynnar, yn mynd o gwmpas y dref gyda chloch yn cyhoeddi cyfarfod, cymerodd Corbet y gloch o'i law gan ei fwrw  ar ei foch. Cynigiodd Edward William y foch arall iddo ond ni cafodd ei fwrw yr ail waith. Rhoddodd Corbet orchymyn i ysgraffwyr beidio â chludo pregethwyr Methodistaidd dros afon Dysynni ger Rhydygarnedd. Gwrthododd un ohonynt gludo tri phregethwr ar draws yr afon. Cymerasant gwch a dechrau croesi a'r ysgraffwr yn deu dilyn. Trawodd  y pregethwr cyntaf ar ei foch; gwnaeth yr un peth i'r ail. Trodd y trydydd ato gan dweud fod troi dwy foch yn cael eu caniatàu yn yr Efengylau a dim mwy a rhoddodd y tri grasfa iddo. Dywedwyd bod gan yr ysgraffwr barch at y pregethwyr am weddill ei fywyd.

Cafodd twf yr ysgolion cylchynol, oedd yn dysgu darllen Gymraeg er mwyn hybu darllen y Beibl, ddylanwad yn Nhywyn fel ar draws Cymru. Cofrestrwyd yr ystafell ymgunnull uwchben Porth Gwyn ar gyfer pregethu yn 1795 a cynhaliodd y Methodistiaid eu hoedfaon cyntaf yno. Dechreuodd Ysgol Sul y Presbyteriaid yn 1802, yr un Wesleaid yn 1807 a'r Annibynwyr yn 1813. Cynhaliwyd Cymanfa Ysgolion Sul Cymru yn Nhywyn yn 1810. Adeiladodd y Presbyteriaid eu hail gapel, Bethel, yn 1815 ac yn fuan wedyn cododd yr Annibynwyr gapel Bethesda. Wrth i anghydffurfiaeth gyfu ailadeiladwyd Bethel yn 1871 a Bethesda yn 1892. Roedd y Wesleiad yn cyfarfod yn yr hen gapel yn ymyl Stryd y Nant tan 1882 pan agorwyd capel Ebeneser. Sefydlodd y Beddyddwyr yn 1885 mewn ystafell ger Gwesty'r Corbett. Cynhaliwyd dau fedydd y flwyddyn honno, yn y môr. Agorodd eu capel presennol yn 1900. Er gwaethaf yr holl bwyslais ar addysg Saesneg a'r agwedd wawdlyd at y Gymraeg yn y 19eg canrif; llwyddodd y capeli nid yn unig i fagu aelodau oedd yn deall eu ffydd ond hefyd i gynnal cymdeithas Gymraeg a'r gallu i darllen y Gymraeg.

Dechreuodd y Presbyteriaid gynnal oedfaon Saesneg ym Mhorth Gwyn yn 1868 i ddarparu yn bennaf ar gyfer ymwelwyr di-Gymraeg ac agorodd capel Saesneg Bethany yn 1871. Er i hyn dynnu adnoddau o gapel Bethel sicrhaodd barhad y Gymraeg fel unig iaith addoli yn y capel hwnnw.

Gyda chynnydd yn nifer yr anghydffurfwyr daeth anfodlonrwydd ynghych hawl yr eglwys i ddegfed ran o gynnyrch y tir i'w anterth yn ystod ail hanner yr 1880au. Roedd nifer helaeth o anghydffurfwyr yn gwrthod talu ac ymateb yr awdurdodau oedd atafaelu eiddo. Ym mhlwyf Tywyn gwrthododd un weddw unig dalu, nes bod popeth oedd ganddi wedi mynd ac eithrio un mochyn. Pan ddaeth swyddogion y treth i gasglu'r degwm, ni chymerwyd  yr anifail; efallai oherwydd presenoldeb y dorf o gannoedd o bobl a oedd wedi ymgasglu. Dilynodd y dorf y swyddogion o un lle i'r llall, gan hwtian, sgrechian a chwythu cyrn nes gyrru'r swyddogion yn  ôl at orsaf yr heddlu. Mewn cyfarfod o'r Anti Tithe League diolchodd yr arweinwyr am y synnwyr cyffredin a'r goddefgarwch yr oeddent wedi eu dangos ond gelwid y rhai a oedd wedi bradychu'r achos yn llyfrgwn.

Arferai Cymry o bob enwad fynychu gwasanaeth y plygain yn eglwys Cadfan ar fore'r Nadolig tan 1903. Mae Edward Edwards, aelod mor selog o gapel Bethel fel ei fod prin yn nodi'r Nadolig yn cofnodi yn 1876 y ddau Rowland [ei fab a'i nai] yn y plygain bore ac yn 1877 Sarah [ei ferch] yn canu carol yn yr Eglwys efo Edward y Soldiar  Dechreuodd yr anghydffurfwyr tdefnu oedfaon pregethu ar 25 Rhagfyr yn yr 1880au. Tyfodd drwgdybiaeth o'r anglicaniad yn sgil Rhyfel y Degwm ac yr oedd agwedd rhai Saeson yn dirmygus. Disgrifiad un o'r teulu Kettle o'r oedfa plygain oedd quite primitive enough to be striking gyda weird music  Roedd agwedd y ficer at blant yr anghydffurfwyr yn sarhaus a phan gefnogodd y ficer werthiant alcohol roedd yr anghydffurfwyr wedi cael digon. Nid aeth mwyafrif helaeth y Cymry anghydffurfiol i'r Plygain y flwyddyn honno. Dechreuodd yr eglwysi anghydffurfiol gynnal cyfarfodydd pregethu undebol ar ddydd Nadolig.

Erbyn 1935 roedd gweinidog Cymraeg yn gyfrifol am gapel y Bedyddwyr yn y gaeaf ond cymerai gweinidogion ar eu gwyliau gyfrifoldeb am oedfaon yr haf. Trodd y capel yn raddol i'r Saesneg cyn  cau yn 60au y ganrif ddiwethaf. Defnyddir yr adeilad gan Efengylwyr heddiw. Yn 1969, ar ôl defnyddio'rr hen gapel Wesle ger Stryd y Nant am 12 mlynedd, agorodd y Catholigion Eglwys Dewi. Caewyd capel Bethesda yn 2010 a chapel Bethany yn 2017.

Rhwng colli'r clas yn 1284 a 1717 yr unig ddarpariaeth addysgol oedd naill i rieni drosglwyddo pa addysg bynnag a oedd ganddynt i'w plant neu drefniadau a wnaed gan unigolion i gyflogi rhywun i ddysgu medrau sylfaenol neu i deuloedd bonedd anfon eu plant i ffwrdd am addysg. Yn 1717 rhoddodd Vincent Corbet dir gyda'r amod fod yr elw yn cael ei ddefnyddio i ddarparu ysgol elusennol yn y plwyf. Yn 1786 rhoddodd Lady Moyer o Lundain arian at yr un diben. Bu'n bosibl i rieni a oedd yn gallu talu anfon eu plant at yr ysgol hon ond maen tramgwydd i nifer oedd yr addysg grefyddol a ddysgwyd o safbwynt Anglicanaidd.

Cafodd plant anghydffurfwyr addysg yn yr ysgolion cylchynol a sefydlwyd gan Gruffudd Jones a Bridget Bevan yn 1734. Diben yr ysgolion hyn oedd dysgu darllen yr ysgrythurau a buont yn gweithredol yn Ystumanner fel mewn llefydd eraill yng Nghymru. Erbyn ail haner y 18fed canrif roedd Cymru yn un o'r gwledydd prin lle oedd y mwyafrif yn llythrennog.  Dangosodd adroddiad ar addysg yn 1819 fod nifer o blant yn cael addysg mewn ysgolion Sul yn Nhywyn ac yr oedd ganddynt i gyd y gallu i darllen yr ysgruthurau. Yn ychwanegol agorodd John Jones ysgol ym Mryncrug oedd yn arbenigo mewn dysgu morwriaeth, a ddenai ddisgyblion o bell.

Dechrauodd mudiadau Prydeinig elusennol i darparu y ysgolion ar dechrau y 19eg canrif. Yn 1808 dechreuodd ysgolion Brutanaidd oedd yn anenwadol. Yn 1811 sefydlodd y Gymdeithas Genedlaethol oedd yn dysgu crefydd o safbwynt Anglicanaidd. Derbyniodd y National School yn Nhywyn yr arian o'r elusennau addysgiadol leol. Dysgodd y plant trwy gyfrwng y Saesneg. Yn 1847 cyhoeddwyd adroddiad ar Addysg yng Nghymru a elwir Brad y Llyfrau Gleision a priodolodd pob math o ymddygiad anfoesol a cyntefig i fodolaeth yr iaith Gymraeg. Yn ystod yr 1860au defnyddid Welsh Stick (sef ffurf ar y Welsh Not) yn Ysgol Frutanaidd y dref er mwyn cosbi plant a ddaliwyd yn siarad Gymraeg. Parhaodd yr agwedd hwn at y Gymraeg tan ganol yr ugainfed canrif.

Pasiwyd Deddf Addysg yn 1870. Sefydlwyd Byrddau Ysgol gyda'r grym i godi cyllid o drethi leol. Aeth yr Ysgol Frutanaidd (rhagflaenydd Ysgol Penybryn) yn rhan o'r drefn newydd ond gwrthododd y National School yn Nhywyn ymuno. Dirywiodd yn raddol a phan sefydlwyd Byrddau Addysg Lleol yn 1902 penderfynwyd nad oedd angen ddwy ysgol a chaewyd y National School yn 1913.

Mae Tywyn yn gyrchfan i ymwelwyr, neu bererinion, ers canrifoedd. Cyn dyfodiad y rheilffordd yr oedd yn llawer haws teithio ar y môr. Pan ddaeth teithio pleser yn ffasiynol gyda boneddigion yn hanner cyntaf y 19ed canrif daeth ymwelwyr i aros yn Ngwesty'r Corbett a'r Neptune Hall. Cyn 1850 roedd y dref yn adnabyddus am safon arbennig y pysgota. Parhaodd ymweld â'r ffynnon yn ddi-dor tan ddiwedd y 19ed canrif. Yn 1868 ysgrifennwyd  The well is enclosed and fitted up with dressing places, being 12ft by nine it affords ample room for a plunging bath.

Adeiladwyd y rheilffordd yn yr 1860au gyda'r cysylltiad o Dywyn i Fachynlleth yn cael ei gwblhau yn 1867. Yn yr un blwyddyn cwblhaodd y lein fach i Abergynolwyn a chwareli llechi Nant Gwernol.yn haner olaf y 19ed canrif cafodd y dosbarth gweithiol dinesoedd mawr Lloegr yr hawl i gymryd gwyliau a tyfodd nifer yr ymwelwyr i Dywyn yn helaeth; ynghyd âr gwestai bach oedd yn darparu ar eu cyfer. Mynnodd rhai fod y rheilfordd wedi difetha awyrgych diarffordd ac arferion cyntefig y trigolion  ond mae'r farn hon yn anwybyddu dylanwad anghydffuriaeth.

Y traeth oedd atyniad mwyaf Tywyn yn oes Fictoria.Yn 1877, ceisiwyd adeiladu pier yn Nhywyn. Ni oroesodd y gwaith fwy nag ychydig fisoedd, a phrin yw'r olion a adawyd ganddo. Mae'r stryd 'Pier Road' (Ffordd y Traeth) hyd heddiw yn cynnig awgrym o'i leoliad. Gwelir brics sydd wedi troi yn grwyn gan symudiad y tonnau hyd heddiw. Adeiladwyd rhodfa ar lan y mor gan Corbett yn 1889. Buasai'r rhodfa o'r fath hwn yn disgwylidig gan ymwelwyr Fictoriaid. Mae'r cyfleuster hyd heddiw gan ei fod yn darparu parcio am ddim yn agos iawn i'r traeth. Dymuna'r Cyngor Sir godi tâl am barcio ond rhoddodd Corbett y rhodfa i drigolion y dref sy'n gwrthwynebu tâl.

Mae dau ddyddiadur wedi goroesi o'r cyfnod Fictoraidd. Daeth rhai fel teulu Kettle i Dywyn  a chofnodwyd eu hatgofion. Mae'n anodd cysoni eu disgrifiadau hwy o Dywyn gyda'u agweddau ymerodraethol gyda phrofiadau pobl leol fel Edward Edwards a ysgrifennodd ddyddiadur o fywyd beunyddiol yr ardal rhwng 1873-1886  a oedd yn byw eu bywydau'n llwyr trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae detholiad cynhwysfawr o gofnodion amaethyddol a hinsoddol Edwards i‘w gweld yma ar wefan Prosiect Llên Natur.

Caeodd Chwarel Llechi Nant y Gwernol yn 1946 ac o 1951 ymlaen rhedwyd Rheilffordd Talyllyn gan grŵp o wifoddolwyr. Agorodd Parc Cenedlaethol Eryri  yn 1951. Mae Tywyn tu allan i'r Parc ond wedi amgylchynu ganddo.Mae agosrwydd y Parc a phresenoldeb y rheilffordd bach yn atyniadau i ymwelwyr. Wrth i safonau byw godi ar ôl yr Ail Rhyfel Byd ehangodd y ddarpariaeth ar gyfer carafanau ymwelwyr yn ddirfawr. Mae rheolau cantatâd cynllunio wedi tynhau ond mae nifer o gwersylloedd ar gyfer carafanau statig yn aros yn Nhywyn.

Cymraeg oedd prif iaith Tywyn hyd at ganol yr 20g ac unig iaith y rhan fwyaf tan ddiwedd y 19eg ganrif. Gwelir  y Gymraeg yn enwau llefydd ym mro Dysynni ac mewn enwau strydoedd a tai (heblaw y rhai a newidiwyd yn diweddar.  Parodd arferion Cymraeg fel defnyddio enw bedydd tad fel cyfenw a parhau i defnyddio enw tad ar fel cyfenw i wragedd ar ôl iddynt priodi hyd at ganol y 19eg canrif. Hyd yn oed heddiw defnyddir enwau ffermydd yn lle cyfenwau yn Dail Dysynni, y papur bro lleol.

O ganol y 19eg canrif daeth pwysau i defnyddio Saesneg ar gyfer ymwelwyr. Gellid gweld yr effaith yn eglwys Cadfan. Dwedodd un o deulu Kettle am yr eglwys yn y 1860au It was a church for the Welsh then er cynhaliwyd oedfa Saesneg ar gyfer ymwelwyr ar brynhawniau yn yr haf. Erbyn dechrau yr ugainfed canrif yr oedd oedfa Saesneg am 8 y.b. yn y Gymraeg am 10 y.b; yn Saesneg am 11 y.b a Cymraeg am 6 y.h. Yn 1899 penderfynnodd cynnal oedfa in Welsh and English. a diriwiodd y defnydd o'r Gymraeg. Rhywbryd cyn 1932 diflanodd oedfaon Cymraeg yn llwyr. Ceisiodd Henry Thomas, y ficer newydd yn 1932 eu adfywio ond ni parodd yr ymdrech. Erbyn heddiw ni cynhelir gwasanaethau yn iaith Cadfan yn yr eglwys ble gwelir yr enghraifft cynharaf o ysgrifen Cymraeg.

Sefydlodd Gwersyll y lluoedd arfog ar forfa Tywyn yn 1940. Mae rhai sy'n byw yn Nhywyn heddiw yn credu fod hwn oedd yr ergyd mwyaf i'r Gymraeg yn Nhywyn. Bu poblogaith uniaith Saesneg yna trw'r flwyddyn heb ddim parch at y Gymraeg. Daeth mwy o gwynion am ddifyg darpariaeth Saesneg. Gadewodd y byddin yn 1969. Roedd teimladau cymysg yn Nhywyn gan fod rhai o'r dref yn gweithio yn y Gwersyll. Parodd fel maes awyr am rhai    blynyddoedd nes caewyd Gwersyll y Morfa yn llwyr yn 1999  ond cafodd priodasau rhwng milwyr a Cymry leol a penderfyniad nifer i ymddeol i'r dref dylanwad ar y defnydd o'r Gymraeg.

Dechreuodd sefyllfa y Gymraeg wella yn y chwechdegau. Ers 1974 mae Cyngor Gwynedd wedi darparu gwasanaethau yn y Gymraeg ac mae'r iaith yn rhan hanfodol o addysg plant. Ers 1996 mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn gweithredu polisi Cymraeg. Mae gwrthwynebiad i'r Gymraeg yn para mewn rhai lefydd. Pan agorwyd meddygfa leol newydd yn 2016, fel rhan o ddatblygiad yr Ysbyty Coffa, roedd pob arwydd a godwyd yn uniaith Saesneg. Gwrthododd y feddygfa gais gan Gomisiynydd y Gymraeg am arwyddion dwyieithog.

Cofnododd Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001 fod 40.5% o boblogaeth Tywyn yn gallu'r Gymraeg. Yn 2010, nodwyd mewn adolygiad gan Estyn fod 11% o blant ysgol gynradd y dref yn dod o aelwydydd a oedd â'r Gymraeg yn brif iaith.

Mae cyswllt rhwng nifer o drigolion mwyaf nodedig y plwy ac Ynysymaengwyn, ystâd y bu i'w sgwïeiriaid ddominyddu'r dref o'r 14g hyd yr ugeinfed.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 329: Caernarfon (etholaeth seneddol) (353 words)


Roedd etholaeth Caernarfon yn ethol aelodau i senedd San Steffan yng ngogledd Cymru. Yn ddaearyddol, mae'r etholaeth yn rhan o Wynedd, gan gynnwys Llŷn i gyd. Rhwng 1832 a 1950, yr enw oedd Bwrdeistrefi Caernarfon.

O dan y Deddfau Uno roedd gan bob Sir yng Nghymru (ac eithrio Sir Feirionnydd) yr hawl i ddanfon dau Aelod Seneddol i San Steffan, un ar gyfer y Sir ac un ar gyfer y Bwrdeistrefi.  Bwrdeistrefi Sir Gaernarfon oedd trefi Caernarfon, Conwy,  Cricieth, Nefyn a Phwllheli ac o 1832 Bangor.

O 1536 i 1832 enw'r etholaeth oedd Caernarfon sef enw'r brif fwrdeistref, o 1832 hyd 1950 enw'r etholaeth oedd Bwrdeistrefi Caernarfon, cyn troi yn ôl i'r hen enw Caernarfon o 1950 hyd ei ddiddymu yn 2010.

Ym 1918 cafodd ffiniau'r etholaeth ei had-drefnu, fel ei fod yn cynnwys ardaloedd llywodraeth leol bwrdeistrefi trefol Bangor, Caernarfon, Conwy, a Phwllheli; rhanbarthau trefol Criccieth, Llandudno, Llanfairfechan, Penmaenmawr ac ardal wledig Llŷn.

Ym 1950 caed gwared â'r rhaniad Bwrdeistref a Sir a rhannwyd Sir Gaernarfon yn ddwy etholaeth sirol Caernarfon yng Ngorllewin y Sir a Chonwy yn y dwyrain, crëwyd y seddi newydd o adrannau a oedd yn arfer bod yn y ddwy hen sedd.

Bu man newidiai eraill i ffiniau'r etholaeth ym 1983.

Er gwaethaf yr holl newidiadau i'r ffiniau y mae'r rhan fwyaf o lyfrau ar hanes cynrychiolaeth seneddol yn ystyried bod olyniaeth barhaus yn bodoli o ethol John Pulston fel yr aelod cyntaf i gynrychioli Caernarfon i Senedd 1542 hyd ethol Hywel Williams ar gyfer Senedd 2005-2010.

Diddymwyd yr etholaeth yn 2010 gyda rhannau ohoni yn cael ei gynnwys yn etholaeth newydd Dwyfor Meirionnydd ac eraill yn etholaeth Arfon.

Dim cynrychiolaeth ym 1653, 1654 na 1656

Yn Etholiad cyffredinol 1874 etholwyd William Bulkley Hughes yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol

Yn Etholiad cyffredinol 1865 etholwyd William Bulkley Hughes yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol

Yn Etholiad cyffredinol 1857 ail etholwyd William Bulkley Hughes yn ddiwrthwynebiad

Cyflwynwyd deiseb i herio'r canlyniad ym mis Mawrth 1833, disodlwyd Paget a gwnaed Nanney yn AS yn ei le ond ar apêl adferwyd y sedd i Paget ym mis Mai 1833.




#Article 330: Dŵr (664 words)


Yr hylif mwya cyffredin ar y ddaear yw dŵr, gyda thua 70% o arwyneb y ddaear wedi ei gorchuddio gan yr hylif ar ffurf cefnforoedd, moroedd, afonydd, llynnoedd a'r pegynnau iâ.

Ocsigen a hydrogen yw'r cyfansoddyn hwn, gyda'r fformiwla gemegol: H2O. Dŵr wedi'i rewi yw iâ; ager yw anwedd dŵr.

Mae'r corff dynol yn cynnwys rhywle rhwng 55% a 78% o ddŵr, yn dibynnu ar faint y corff hwnnw. Pan mae'r corff dynol yn derbyn dŵr drwy'r ceg fe â'i i’r stumog cyn mynd i mewn i’r gwaed ac oddi yno i’r celloedd cyn diweddu yn yr arenau fel troeth. Er mwyn gweithio'n iawn, mae'r corff angen rhwng un a saith litr o ddŵr pob dydd gyda'r union faint yn dibynnu ar sawl ffactor: pa mor weithgar yw'r corff, tymheredd y corff, lleithder yr amgylchedd o'i gwmpas ayb. Drwy fwyta ac yfed mae'r corff yn derbyn y dŵr hwn. Mae'r farn gyffredinol yn mynnu fod rhwng 6 - 7 gwydriad o ddŵr yn lleiafswm y dylid ei yfed.

Beth ydy berwbwynt dŵr? Yn anffodus - fel cymaint o ffeithiau gwyddonol mae’r ateb yn dibynnu ar eich safbwynt. Oherwydd gwasgedd isel yr awyr ar ben Mynydd Everest mae dŵr yn berwi ar ddim ond 70 gradd canradd. Dim gobaith am baned rhesymol o de yno, felly. Cyfeiria’r 100 gradd at wasgedd safonol awyr ar lefel y môr. Yn “Hafan Eryri”, caffi newydd yr Wyddfa, bydd tegell yn berwi ar tua 97 gradd. Ond beth os plymiwch i ddyfnderoedd y môr? Yno mae’r gwasgedd yn cynyddu’n sylweddol - tuag un atmosffer ar gyfer pob 10 metr. Mi fyddai paned wedi’i baratoi (a’i yfed) ar waelod pwll nofio Bangor yn mesur dros 110 gradd braf ! Dros y tair blynedd diwethaf mae tîm o Brifysgol Bremen wedi bod yn mesur tymheredd dŵr yn codi o simneiau folcanig 3 cilomedr o dan wyneb yr Iwerydd. Yno daethant o hyd i’r dŵr poethaf a fesurwyd erioed - 464 gradd canradd. Ond ar wasgedd o 300 atmosffer mae pethau rhyfedd yn digwydd i ddŵr. Nid yw’n berwi, fel y cyfryw, ond yn gweddnewid yn ddi-dor o hylif i anwedd - nid oes “swigod”. Gelwir hwn yn hylif uwch-gritigol. Dyma’r tro cyntaf i’w gweld ar y ddaear y tu allan i’r labordy. Bydd dŵr uwch-gritigol yn ymdoddi mineralau a metalau - megis aur a haearn - o’r creigiau yn effeithiol iawn, a thybir mai dyma darddiad llawer o halwynau’r môr. Wedi dod o hyd i, ac astudio’r, simneiau hyn bydd modd dysgu llawer am y prosesau sy’n creu’r moroedd a chynnal y bywyd sydd ynddynt.

Ym Medi 2015 cyhoeddodd NASA fod un o'u cerbydau gofod, Curiosity, wedi darganfod olion dŵr ar ochrau un o geudyllau Mawrth, sef Gale. Ceir cafnau ar ochr y ceudwll (sy'n 154 km (96 mill) mewn diameter sy'n debyg i greithiau a adewir pan fo dŵr wedi llifo. Eisioes yn Rhagfyr 2012, roedd gwyddonwyr wedi cyhoeddi fod dadansoddiad o bridd y blaned a analeiddiwyd gan Curiosity wedi awgrymu'r posibilrwydd y bu yno ddŵr ar un cyfnod, gan y canfuwyd yno foleciwlau dŵr, swlffwr, clorin a chyfansoddion organig. Mae dŵr yn hanfodol i fywyd, ac yn un o'r pethau pwysicaf mae gwyddonwyr y gofod yn chwilio amdano.

Y pedwar lle mwyaf tebygol o fod a dŵr arnynyt yw Y Blaned Mawrth, Titan (un o leuadau Sadwrn), Ewropa (un o leuadau Iau) ac Enceladus (lleuad arall Sadwrn). Yn y tabl canlynol, edrychir ar y tebygolrwydd; nodir hefyd, er mwy eu cymharu - y Ddaear a'n lleuad:

Cofnod o'r hen sir Gaernarfon gan Thomas Rowlands, Mur Cyplau, Pencaenewydd. Roedd Thomas Rowlands wedi ei eni a'i fagu yn ardal y Rhiw. Fe'i ganed ym 1905, ac fe'i recordiwyd ym 1977. Yn ôl Thomas Rowlands, roedd ceffylau a oedd i mewn dros y gaeaf yn magu gwres yn eu traed. Yng nghartref ei fam, byddid yn mynd â hwy i gerdded yn heli'r môr bob wythnos i olchi eu traed, a byddai hyn yn eu cadw rhag magu gwres yn eu traed.
 




#Article 331: Ecosystem (148 words)


Ecosystem yw cymdeithas o organebau mewn ecoleg sy'n cynnwys planhigion, anifeiliaid a chreaduriaid byw eraill yn ogystal a'u hamgylchedd. Fel arfer, maent yn ffurfio cadwyni a gweoedd bwydydd.

Arthur Tansley oedd y gwyddonydd cyntaf a ddefnyddiodd y term ecosystem mewn traethawd ym 1935, ond roedd Roy Clapham yn defnyddio'r un term ym 1930 i ddisgrifo undeb creaduriaid gyda'u hamgylchedd.

Peth deinamig a chymhleth yw ecosystem ac mae egni a defnyddiau'n llifo ynddi. Mae ecosystemau mawr - er enghraifft coedwig gyfan - a bach - er enghraifft pwll. Fel arfer, mae rhwystrau fel anialwch, mynyddoedd neu foroedd rhwng ecosystemau, neu mae ecosystem yn system annibynnol, fel pwll neu afon.

Mewn ecosystem, mae cydbwysedd rhwng y creaduriaid, ond mae'n bosib fod amgylchedd yn newid neu greadur newydd yn dod i'r ecosystem yn dymchwel popeth ac o ganlyniad mae'n bosib fod llawer o greaduriaid neu hyd yn oed rhywogaethau yn marw.




#Article 332: Esblygiad (536 words)


Esblygiad yw'r ddamcaniaeth fod nodweddion etifeddadwy poblogaethau biolegol yn newid ac yn datblygu dros filiynau o flynyddoedd. Mae'r broses yn gyfrifol am y cymhlethdod a'r amrywiaeth enfawr sydd yn nodweddu bywyd fel y'i welir ar y Ddaear heddiw. Gan fod rhai unigolion yn atgenhedlu'n fwy llwyddiannus nag eraill—oherwydd nodweddion sy'n eu galluogi i oroesi'n well, i atynu cymar yn fwy llwyddianus, neu i fanteisio'n well o'u amgylchedd—a gan fod yr unigolion hyn yn tueddu i drawsyrru i'w epil y nodweddion a arweinodd at eu llwyddiant, tueddir i rywogaethau addasu dros amser i'w hamgylchedd. Dyma brif fecaniaeth esblygiad.

Mae ein dealltwriaeth heddiw o fioleg esblygol yn cychwyn gyda chyhoeddiad papurau Alfred Russel Wallace a Charles Darwin ym 1858 a'i phoblogeiddio yn 1859 pan gyhoeddodd Charles Darwin ei On the Origin of Species. Cyplyswyd hyn a gwaith mynach o'r enw Gregor Mendel a'i waith ar blanhigion a'r hyn rydym yn ei alw'n etifeddeg a genynau.

Oddeutu 4 biliwn o flynyddoedd yn ôl, yn dilyn adweithiau cemegol cryf, crewyd moleciwlau a oedd yn medru creu copi ohonynt eu hunain drwy'r broses a elwir yn 'atgynhyrchu'. Hanner biwliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach crewyd yr hynafiad sy'n perthyn i bopeth byw. Drwy ddatblygu'r broses o ffotosynthesis, cynaeafwyd golau'r haul gan yr hynafiaid hyn a gynhyrchodd ocsigen moleciwlar (O2) a ymledodd drwy'r  atmosffer, a ffurfiodd yn ei dro darian o haen osôn a amddiffynodd yr hyn a oedd yn brysur ddatblygu oddi tano: bywyd. O'r hynafiaid un-gell yma, datblygwyd y gallu i gell ffurfio oddi fewn i gell arall, gan greu organebau amlgellog sef ewcaryotau (eukaryotes). Drwy arbenigedd, ffurfiwyd mathau gwahanol a thrwy amsugno ymbelydredd electromagnetig uwchfioled, lledodd y bywyd newydd hwn ar draws ac ar hyd wyneb y Ddaear. Mae'r ffosil cyntaf (neu hynaf) a ganfuwyd hyd yma (2015) oddeutu 3.7 biliwn o flynyddoedd oed, mewn tywodfaen yng Ngorllewin yr Ynys Las.

Charles Darwin a Gregor Mendel yw sylfaenwyr damcaniaeth esblygiad fodern. Cyflwynodd Darwin ei syniadau am ddetholiad naturiol yn 1859. Roedd y syniad yma yn hanfodol bwysig i syniadau Darwin.

Dyma rai o gonglfeini detholiad naturiol:

Dyma rai o'r ffactorau sy'n penderfynu pa organebau sy'n goroesi:

Gelwir effaith y ffactorau hyn yn 'Ddetholiad Naturiol'.

Ar y pryd doedd Darwin ddim yn gwybod am gromosomau, ond erbyn heddiw rydym yn gwybod mai cromosomau sydd yn cludo gwybodaeth etifeddol.

Fel mae gwybodaeth gwyddonol yn newid, oherwydd tystiolaeth neywdd, mae ein syniadau am bethau yn newid. Yn amser Darwin roedd y mwyafrif o bobl yn credu bod y rhywogaethau naturiol sy'n byw ar y ddaear wedi cael eu creu mewn chydig ddyddiau ac eu bod wedi goroesi heb newid ers hynny. Gelwir hyn yn Greadaeth (o'r gair 'creu'). Cafodd Darwin lawer o bobl crefyddol yn gwrthwynebu ei syniadau gwyddonol newydd. Erbyn heddiw, mae'r rhan fwyaf o wyddonwyr yn derbyn mai detholiad naturiol, ynghyd â mecaniaethau esblygiadol eraill, sy'n gyfrifol am amrywiaeth bywyd.

Trwy astudio ffosilau mewn creigiau o wahanol oedran (fel y gwnaeth Darwin yng Nghwm Idwal) a'r newidiadau yn eu ffurf dros gyfnod o amser down i wybod mwy am amser a pha bryd y crewyd y gwahanol rywogaethau.

Gellir edrych ar y genynau sydd mewn gwahanol rhywogaethau ac wedyn eu cymharu e.e. mae dyn a'r tsimpansî yn rhannu 98% o'u genynau.




#Article 333: Bioamrywiaeth (110 words)


Bioamrywiaeth yw'n fesur y nifer o greaduriaid wahanol mewn ecosystem. Mae'n bwysig i gadw ecosystemau'r byd mewn ecwilibriwm achos fod gan ecosystemau lawer o rywogaethau fel arfer yn gryfach nag ecosystemau gyda dim ond nifer o rywogaethau. Os yw rywogaeth yn mynd i ddifodiant, mae gwybodaeth genetig wedi ei golli am byth a'r bioamrywiaeth yn lleihau.

Cafodd y term Saesneg (Biodiversity) ei ddefnyddio gan Edward Osborne Wilson ym 1986 am y tro cyntaf.

Mae tri math o fioamrywiaeth: Amrywiaeth genetig, amrywiaeth rhywogaethau ac amrywiaeth ecosystemau.

Amcangyfrifir fod rhwng dwy filiwn a chan miliwn o rywogaethau yn y byd, ond dim ond tua 1.4 miliwn ohonyn nhw sydd wedi eu disgrifio.




#Article 334: Cadwyn fwyd (249 words)


Mewn ecoleg, trefn creaduriaid sy'n dangos y ffordd trosglwyddo ynni mewn ecosystem trwy bwydo yw cadwyn fwyd neu perthynas bwydo.

Enghraifft cadwyn fwyd: algae → protist → sgwid → morlo → orca. Yn yr enghraifft mae pump lefel droffig achos mae'r ynni yn llifo trwy pump organeb. Mae'r ynni yn lleihau pob amser achos dydy'r anifeiliaid ddim yn bwyta'r holl organeb, achos mae'r anifeiliaid yn defnyddio ynni i symudio ac achos mae gwastraff ynni trwy wres.

Yn lle y term cadwyn fwyd mae rhai pobl yn defnyddio'r term gwe fwyd, achos mae perthynas bwydo yn fwy gymhleth na'r syniad o'gadwyn', gyda nifer o anifeiliaid yn bwyta'r un fath o bwyd ac yr un pryd pob anifail yn bwyta mwy nag un math o fwyd. Mae hefyd yn bosib fod y cadwyn fwyd yn cylchred (gweler hefyd: y gylchred carbon a'r gylchred nitrogen).

Mae'n bosib fod llygryddion yn cael eu drosglwyddo dros cadwyn fwyd a felly achosi problemau, ond er mwyn deall y cyfanswm llygryddion mewn cadwyn fwyd mae'n rhaid i ystiried y pyramid biomas, sy'n dangos pa mor bwyt sy wedi ei fwyta.

Yr haul yw ffynhonnell egni pob organeb byw ar y Ddaear. Planhigion yw'r organeb sydd yn medru trosglwyddo egni golau'r haul i fewn i egni gemegol mewn glwcos. Mae hyn yn digwydd yn ystod ffotosynthesis, pan mae planhigyn yn cynhyrchu bwyd ei hun, sef glwcos, yn y dail. Felly, gelwir y planhigion yn cynhyrchwr, ac mae pob anifail yn dibynnu arnynt i cychwyn y cadwyn bwyd.




#Article 335: Benllech (338 words)


Tref ar arfordir ddwyreiniol Ynys Môn, ym mhwlyf Llanfair Mathafarn Eithaf yw Benllech. Fe'i lleolir 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Borthaethwy ar lôn yr A5025, hanner ffordd rhwng Pentraeth a Moelfre. Mae ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn. Mae'n ganolfan gwyliau glan-môr boblogaidd yn yr haf ac mae twristiaeth yn chwarae rhan bwysig yn yr economi leol. Mae nifer o dai newydd a byngalos yn gymysg â thai hŷn yn y dref. Mae Traeth Benllech yn lân a diogel. I'r gorllewin ceir meysydd carafanau ar gyfer ymwelwyr.

Poblogaeth Benllech yw 3,382  felly dyma'r 5ed anheddiad mwyaf yn ôl poblogaeth ar yr ynys.

Mae Benllech efo'r traeth mwyaf poblogaidd ar yr ynys gyda thywod euraid a dyfroedd glas clir sy'n hynod o ddiogel ar gyfer ymdrochi a ffadlo.
Celr ysgol gynradd, meddygfa medddyg teulu, llyfrgell, swyddfa bost a nifer o gaffis a siopau bach yn y dref, ynghyd â thair tafarn. Dros y degawdau diwethaf mae nifer o bobl a arferai fynd ar eu gwyliau i Fenllech wedi prynu tai yn y dref ac mewn canlyniad mae hi wedi'i Seisnigeiddio cryn dipyn, yn arbennig mewn cymhariaeth â'r pentrefi bach yn y cylch.

Yr Arwydd yw papur bro Benllech a gweddill cylch Mynydd Bodafon.Mae yna Spar,Co-op a Tesco yn y pentref.

Mae Ysgol Goronwy Owen yn y pentref. Cyfeiriad yr ysgol yw LL74 8SN.   

Mae nifer o lefydd bwyta ym Menllech gan gynnwys llawer o lefydd bwyd-sydyn. Mae hefyd sawl siop gan gynnwys Tesco, Spar co-op a siop pysgod a sglodion blasus.    

Ceir dwy siambr gladdu Neolithig hanner milltir i'r gorllewin o Fenllech. Ganwyd y bardd Goronwy Owen yn Rhosfawr, dwy filltir i'r gorllewin o'r dref. Bu marchnad Croes Wion mewn bri am ganrifoedd, ac mae sïon i Gwion Goch sefydlu capel neu eglwys ar y llecyn hwn.

Yn 1939 ar Draeth Bychan rhwng Moelfre a Benllech aeth y llong danfor Thetis ar y creigiau a chollodd 99 eu bywydau. Mae Benllech yn gyrchfan gwiliau traeth poblogaidd.Enillydd gwobr Baner las ewrop ers 2004.

Ceir gwasanaethau bws i Amlwch, Porthaethwy a Bangor. 




#Article 336: Porthaethwy (338 words)


Mae Porthaethwy (neu, fel arfer ar lafar, Y Borth; Saesneg: Menai Bridge) yn dref ar Afon Menai yn ne Ynys Môn. Mae ganddi boblogaeth o  3,376.

Daw’r enw o Porth + Daethwy, yr olaf yn enw llwyth Celtaidd lleol (gweler hefyd Dindaethwy, enw'r cwmwd lleol yn yr Oesoedd Canol). Sefydlwyd trigfan yma ers canrifoeddd oherwydd hwn yw pwynt culaf Afon Menai, felly yn le croesi cyfleus. Yn y 9g dyma lle daeth Tysilio i fyw fel meudwy ar yr ynys fechan sydd bellach yn dwyn ei enw a sefydlu’r eglwys.

Bu fferi yn croesi’r Fenai yma ers canrifoedd: y cofnod cyntaf ohono yn 1292. Parhaodd felly fel un o’r croesfannau pennaf.

Pan agorwyd Pont Y Borth ym 1826, ‘daeth oes i fferi i ben, ond parhaodd cysylltiadau’r Borth a’r môr, gyda masnachwyr yn mewnforio ac allforio, a diwydiant adeiladu llongau lleol. Y llongfasnachwyr pennaf yn y 19g oedd teulu Davies o Dreborth.

Mae’r ffair yn dyddio’n ôl i 1691. Roedd yn ffair geffylau i ddechrau, ac roedd mart prynu a gwerthu anifeiliaid yn rhan annatod o’r ffair hyd at yr 1970au. Bu yn ffair gyflogi hefyd. Roedd yn un o achlysuron mawr y flwyddyn i lawer o werin bobl Môn ac Arfon. Dyma hen bennill amdani:

(Hen Benillion, gol. T. H. Parry-Williams, rhif 218)

Heddiw, mae’r ffair yn parhau i’w chynnal yn flynyddol, fel ffair bleser yn bennaf, sydd yn ôl traddodiad yn cael ei gynnal ar dir cyffredin sy'n gwasanaethu fel maes parcio gweddill y flwyddyn. Ar Hydref 24, diwrnod y ffair, bydd ffyrdd ar gau er mwyn cynnal nifer o stondinau.

Mae’r dref yn gartref i Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Cymru, Bangor sydd yn defnyddio’r pier i gartrefu’r llong ymchwil, Prince Madog, ac i ysgol uwchradd fwyaf Ynys Môn, Ysgol David Hughes.

Lleolir rhaglen deledu S4C, Rownd a Rownd yma, a’r dref yn cynnwys siopau ffug sy’n setiau deledu pwrpasol ar gyfer y gyfres. Mae’n gartref i fand pres Porthaethwy.

Aiff Llwybr Arfordirol Ynys Mon drwy'r dref.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 337: Llangefni (326 words)


Tref yng nghanol Ynys Môn yw Llangefni, sydd wedi bod yn dref farchnad bwysig i'r ynys. Llangefni yw tref sirol Môn a lleolir pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn yma. Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae gan Llangefni boblogaeth o 4,499 o bobl. Mae 83.8% o'r boblogaeth honno'n rhugl yn y Gymraeg gyda'r canran uchaf yn yr oedran 10-14 mlwydd gyda 95.2% yn medru'r Gymraeg. O'i tharddle ger Llyn Cefni rhed Afon Cefni trwy'r dref, sy'n cymryd ei enw o'r afon. Mae Caerdydd 211.6 km i ffwrdd o Llangefni ac mae Llundain yn 344.7 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 11.7 km i ffwrdd.

Yn y dref ceir Oriel Ynys Môn, gydag amgueddfa sy'n olrhain hanes yr ynys ac oriel i ddangos gwaith yr arlunydd bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe.

Y prif dref fasnachol ac amaethyddol mewn Sir Fôn ydy Llangefni, gan fod Caergybi yn dref â phorthladd a go wahanol yn ddiwylliannol ac ieithyddol â'r gweddill y sir. Cafodd marchnad gyntaf y dref ei chynnal yn 1785 ac mae'n dal i gael ei chynnal bob dydd Iau a dydd Sadwrn. Cafodd Subway ei hadeiladu yno erbyn hyn.

Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Menai, cantref Aberffraw.

Mae eglwys y plwyf, Eglwys Cyngar Sant,yn sefyll mewn coed yn y Dingle. Un o enwau'r dref yn y gorffenol oedd 'Llangyngar',hen enw'r eglwys.

Yng nghanol y dref mae cloc wedi wneud o garreg clach o Dreath Bychan ger Marian-Glas ar arfodir dwyreiniol Ynys Mon. Adeiladwyd yny flynyddoedd 1902/03. Cyn hynny yn yr 1880au adeiladwyd neuadd y dref o'r un deunydd a'r cloc ac agorwyd ar Fawrth y 10fed,1884.

Prif ysgol y cylch yw Ysgol Gyfun Llangefni. Ar safle yng ngorllewin y dref.

Ceir campws lleol Coleg Menai yn y dref.

Mae Clwb Pêl-droed Llangefni yn chwarae yng Nghynghrair Undebol y Gogledd.

Ceir Clwb Rygbi Llangefni hefyd.

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni ym 1957 a 1983. Am wybodaeth bellach gweler:

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 338: Niwbwrch (295 words)


Mae Niwbwrch (Newborough yn Saesneg) yn dref yn ne Ynys Môn. Saif ar lôn yr A4080 rhwng Porthaethwy ac Aberffraw yng nghymuned Rhosyr - sef yr hen enw Cymraeg.

Mae'r eglwys, sy'n gysegredig i Bedr a Phaul, yn hen. Adeilad â chorff hir a chul ydyw, a godwyd yn y 14g ar safle hŷn. Mae'r bedyddfaen hefyd yn dyddio o'r 12g ac o waith Cymreig lleol. Ychwanegwyd porth i'r eglwys yn y 15g. Ceir dau feddfaen hynafol yno, un ohonyn nhw gyda cherfwaith blodeuog a'r llall gyda'r arysgrif Hic jacet Dns Mathevs ap Ely arno ('Yma mae'r Arglwydd Mathew ap Eli yn gorffwys').

Creuwyd y fwrdeistref newydd (ystyr llythrennol 'Niwbwrch') ar ddiwedd y 13g ar gyfer y Cymry a orfodwyd i ymadael â Llan-faes gan y Saeson. Cyn hynny roedd treflan fach yno ger Llys Rhosyr, un o brif lysoedd Tywysogion Gwynedd yn Oes y Tywysogion. Rhosyr oedd enw'r cantref hefyd.

Ar ganol y 14g ymwelodd Dafydd ap Gwilym â Niwbwrch a chanodd gywydd i foli'r dref a'i drigolion. Dyma'r llinellau agoriadol:

Dylid nodi nad oes gan y teitl hwn ddim byd i'w wneud yn uniongyrchol â Niwbwrch. Fe enwyd aelodau o deulu Glynllifon, Sir Gaernarfon yn arglwyddi Newborough wedi i Syr Thomas Wynn gael ei ddyrchafu i farwnyddiaeth Iwerddon yn y 18g. Fe ddewisodd y teitl Arglwydd Newborough sef arglwydd tref Newborough yn Contae Loch Garmon (swydd Llwch Garmon); erbyn heddiw, newidwyd enw Newborough i Guaire neu 'Gorey'. Mae'n debyg mai oherwydd i Thomas Wynn fod yn berchen ar ychydig o leiniau o dir ym mhlwyf Niwbwrch y dewisodd yr enw, trwy weld hwylustod y cyd-ddigwyddiad o ran enw'r ddau le. Cwbl anghywir felly yw cyfeirio at Arglwydd Niwbwrch.

Mae Niwbwrch yn cynnwys llawer o flodau fel clychau'r gog, blodyn ymenyn a pabi coch.




#Article 339: Swydd Gaergrawnt (133 words)


Sir seremonïol a sir hanesyddol yn Nwyrain Lloegr yw Swydd Gaergrawnt (Saesneg: Cambridgeshire). Mae'r sir hanesyddol yn ffinio â Swydd Lincoln a Norfolk yn y gogledd, Suffolk yn y dwyrain, Essex yn y de-ddwyrain, a Swydd Northampton a Swydd Huntingdon yn y gorllewin. Caergrawnt yw'r dref sirol. Roedd Peterborough yn rhan o Swydd Gaergrawnt yn weinyddol o 1974 tan 1998, a hi oedd ei dinas fwyaf, ond bellach mae'n cael ei gweinyddu fel awdurdod unedol. Cafodd sir hanesyddol Caergrawnt ei huno gyda Swydd Huntingdon, a Peterborough sydd yn hanesyddol yn rhan o Swydd Northampton, yn weinyddol yn 1974 i ffurfio sir weinyddol o'r un enw ond yn fwy o faint o lawer.

Rhennir y sir yn bum ardal an-fetropolitan ac un awdurdod unedol:

Rhennir y sir yn saith etholaeth seneddol yn San Steffan:




#Article 340: Wranws (planed) (1278 words)


Y seithfed blaned oddi wrth yr Haul a'r trydydd mwyaf o ran tryfesur yw Wranws. Mae Wranws yn fwy ei dryfesur ond yn llai ei gynhwysedd na Neifion. Enwyd Wranws ar ôl Wranos, duw Groeg y nefoedd.

Un rheswm pam na adnabyddwyd Iwranws fel planed tan 1781 oedd ei bod mor eithriadol o bell, ddwywaith pellach na Sadwrn o'r haul. Golyga hynny ei bod yn ymddangos yn fechan iawn iawn o'r ddaear (prin iawn yn weladwy â'r llygad noeth) ond hefyd mae'n eithriadol o araf yn teithio rownd yr haul – unwaith bob 84 mlynedd. Mewn gwirionedd roedd sawl seryddwr wedi ei nodi fel seren ers 1690, ond neb cyn Herschell wedi sylwi ei bod yn symyd yn araf bach. 

MAe Iwranws yn cymryd 84 mlynedd i gylchdroi am yr haul – blwyddyn Iwranaidd go hir felly – ac mae'n cylchdroi ar ei hechel bob 17 awr, sy'n eitha cyflym o ystyried ei maint ac yn golygu bod gwyntoedd cryfion iawn yn chwyrlîo ar ei hwyneb. Nodwedd anarferol yw fod gogwydd ei chylchdroi 'dyddiol' ar ongl o 98° i'r fertigol. Hynny yw, mae fel 'tae'n gorwedd ar ei hochr o'i chymharu â'r planedau eraill. Un damcaniaeth i esbonio hynny yw ei bod wedi gwrthdaro a chorff arall yn y gorffennol pell a bod hynny wedi ei thaflu oddiar ei hechel.

Bu dipyn o firi ynghlyn ag enwi'r corff gofodol newydd. Roedd Herschell, fel sais teyrngar a oedd, yn sgîl ei ddarganfyddiad, bellach yn cael ei noddi'n hael gan y Brenin Sior III ac am ei henwi'n 'Georgium Sidus' neu'r blaned George ar ôl ei noddwr. Diolch i Dduw chafodd y syniad hwnnw fawr o groeso gan seryddwyr dramor. Cynigion eraill oedd 'Neptune', 'Herschillium' neu'r blaned Herschell ac Uranus. 

Ymhen amser yr enw 'Uranus', gynigiwyd gan y seryddwr Almaenig Johann Bode, ddaeth i'r brîg. Dyma'r ffurf Ladin o Ouranos, sef duw'r awyr gwreiddiol y Groegiaid, gafodd ei sbaddu a'i ladd gan ei fab Cronos (Sadwrn) cyn i Cronos yntau gael ei drechu yn ei dro gan ei fab Zeus (Iau) a ddaeth yn frenin y duwiau (gweler rhif 7 o'r gyfres hon, Llafar Gwlad 98). Dadl Bode oedd, am mai Sadwrn oedd tad Iau, y dylsai'r blaned newydd gael ei henwi ar ôl tad Sadwrn, er mwyn cwbwlhau'r olyniaeth fel 'tae.

Daliodd llawer iawn o gyhoeddiadau seisnig at yr enw 'Georgium Sidus' tan yr 1850au. Mae'n ddiddorol bod Elfennau Seryddiaeth, gyhoeddwyd gan Thomas Gee yn 1851 yn dal i arddel yr enw Herschell, gan ychwanegu: ' Ond ar hyn o bryd, yn enwedi gan seryddion tramor, Uranus yw enw mwyaf cyffredin y blaned hon.' 

Herschell oedd yr enw hefyd yn Yr Anianydd Cristnogol (21ain arg., 1856), sef cyfieithiad y Parch Thomas Levi o waith Thomas Dick, lle dywed (tud. 209) bod bywyd arni: '…gallwn fod yn sicr, i'r hwn a osododd fodau teimladol mewn unrhyw barth, gymhwyso, yn ol deddfau anadnabyddus…(g)yfansoddiad yr aneddwr â natur ei aneddle.'

Darganfuwyd Wranws, y blaned gyntaf i gael ei darganfod yn amserau modern, gan William Herschel ar 13 Mawrth 1781. Roedd mewn gwirionedd wedi cael ei gweld llawer gwaith o'r blaen ond wedi cael ei ystyried yn seren (cafodd ei gatalogio fel 34 Tauri ym 1690 gan John Flamsteed). Cafodd ei enwi gan Herschel fel the Georgium Sidus (y blaned Sioraidd) i anrhydeddu ei noddwr, Siôr III, brenin y Deyrnas Unedig; roedd eraill yn ei galw wrth yr enw Herschel. Cafodd yr enw Wranws ei gynnig gan Bode mewn cydymffurfiaeth â'r enwau planedol eraill o fytholeg glasurol ond ni ddaeth mewn defnydd cyffredin tan 1850.

Roedd y darganfyddiad yn peri dipyn o benbleth, embaras hyd'noed, i astrolegwyr. Hyd yn hyn roedd y planedau yn ffitio'n daclus iawn i batrwm cyfarwydd a hir-sefydliedig lle roedd gan bob un ei heffaith benodol (honedig) ar ein tynghedau ni ddaearolion wrth iddynt deithio'r llwybr drwy'r gofod oedd yn mynd a nhw ar draws y cytserau a elwir yn 12 arwydd y Sidydd. Ystyrid, er enghraifft, y byddai pa bynnag blaned ddigwyddai fod yn croesi eich arwydd Sidydd adeg eich genedigaeth yn ddylanwadol iawn arnoch am weddil eich oes. 

I ddilynwyr y cyfundrefnau astrolegol Tsieiniaidd ac Indiaidd yr ateb hawdd oedd anwybyddu'r blaned newydd yn llwyr gan ei hystyried yn rhy bell i gael unrhyw effaith. Hydnoed yma, gwelwn nad oes son am Iwranws yng ngwaith yr astrolegwr / almanaciwr R Jones yn ei 'Seryddiaeth' (1830). Ond yn raddol, yma yn y gorllewin, aethpwyd ati i greu rôl newydd iddi a bellach fe'i cysylltir â deallusrwydd, dilyn eich trywydd eich hun, syniadau anghonfensiynnol a darganfyddiadau. Mae hyn yn codi, i raddau helaeth iawn, o'r ffaith fod darganfyddiad Iwranws, ar ddiwedd y 18g, yn cyfateb i'r cyfnod a elwir yn Oes yr Ymoleuo (Enlightenment) pan ddaeth bri ar syniadau am ddemocratiaeth, cyfiawnder a hawliau dynol. Gwelwn hyn yn yr egwyddorion tu cefn i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau newydd a'r Chwyldro Ffrengig. Dyma hefyd gyfnod yr Oes Ramantaidd gyda'i phwyslais ar unigolyddiaeth a rhyddid mewn mynegiant celfyddydol.

Ymwelwyd Wranws ar 24 Ionawr 1986 gan Voyager 2. Mae'r rhan fwyaf o'r planedau'n troi ar echel sydd bron â pherpendicwlar i arwyneb y rhod ond mae echel Wranws bron â bod yn gyfochrog i'r rhod. Yn ystod ymweliad Voyager 2 roedd pegwn deheuol Wranws yn pwyntio tua'r Haul. Canlyniad hyn ydy bod ardaloedd pegynol Wranws yn derbyn mwy o egni'r Haul nag ei hardaloedd cyhydeddol. Serch hynny, mae Wranws yn fwy poeth ei gyhydedd nag ei begynau. Ni wybyddir y mecanwaith sy'n achosi hynny.

Cyfansoddir Wranws yn anad dim o greigiau a rhewogydd amrywiol, gyda dim ond 15% hydrogen ac ychydig heliwm. Ymddengys nad oes calon greigiog gan Wranws eithr mae ei deunydd mwy neu lai wedi ei ddosbarthu'n unffurf.

Mae awyrgylch Wranws tua 83% hydrogen, 15% heliwm a 2% methan.

Fel y cewri nwy eraill, mae gan Wranws fandiau o gymylau sy'n chwythu o gwmpas yn gyflym. Mae lliw glas Wranws yn ganlyniad o fethan yn yr awyrgylch uchaf yn llyncu golau coch. Gellir bod yna fandiau lliwgar fel ar Iau ond maen nhw wedi eu gorchuddio gan yr haen fethan.

Fel y cewri nwy eraill, mae gan Wranws fodrwyau. Fel modrwyau Iau maen nhw'n dywyll ond fel y rhai Sadwrn maen nhw wedi eu cyfansoddi gan ronynnau eithaf mawr, rhai ohonynt yn cyrraedd tryfesur o 10 metr yn ogystal â llwch mân. Mae 11 o fodrwyau wedi cael eu darganfod, pob un ohonynt yn llesg; Adnabyddir y fwyaf disglair ohonynt fel y fodrwy Epsilon. Roedd modrwyau Wranws y cyntaf ar ôl y rhai Sadwrn i gael eu darganfod.

Mae maes magnetig Wranws yn hynod am nad ydy wedi ei ganoli ar ganol y blaned ac mae wedi ei ogwyddo bron â 60 gradd ynglŷn ag echel ei chylchdro. Mae'n debyg o gael ei achosi gan symudiadau mewn dyfnderoedd cymharol bas o fewn Wranws.

Darganfuwyd 10 lloeren fach gan Voyager 2. Roedd eisoes 5 lloeren fawr ganddi. Mae'n debyg fod yna rhagor o loerennau o fewn y modrwyau.

Mae gan Wranws 21 o loerennau (neu 'leuadau') sydd wedi cael eu henwi a 6 lloeren heb enw.

Lleuadau gweddol fychan yw'r rhain – dydy'r mwya ohonynt, Titania, ddim cymaint a hanner maint ein Lleuad ni ac ni fyddai'r cwbwl ohonynt efo'i gilydd ond tri chwarter maint y Lleuad beth bynnag. 

Yn wahanol i brif leuadau'r 'hen' blanedau, fe enwyd lleuadau Iwranws ar ôl cymeriadau allan o weithiau Shakespeare ag Alexander Pope, e.e. Miranda, Ariel, Umbriel, Titania ac Oberon ayyb. Ymgais oedd hyn i'w delweddu fel planed 'fodern', gan symud i ffwrdd o'r traddodiad o enwi cyrff gofodol ar ôl duwiau ac arwyr y Rhufeiniaid – sylwer mai Iwranws yw'r unig blaned gafodd ei henwi ar ôl duw Groegaidd yn hytrach na Rhufeinig.




#Article 341: Ffotosynthesis (552 words)


Proses fiocemegol sy'n newid egni solar yn egni cemegol mewn planhigion gwyrdd, algâu a rhai bacteria yw ffotosynthesis.

Mae planhigion yn cynhyrchu eu bwyd eu hunain drwy droi carbon deuocsid a dŵr yn gyfansoddion organig fel glwcos a phroteinau. Mae'r planhigion yn cael carbon deuocsid trwy eu dail a'r dŵr drwy eu gwreiddiau. Gan mai adwaith endergonig ydyw, mae angen mewnbwn mawr o egni; ffynhonnell yr egni yw'r haul. Fel cynnyrch gwastraff mae'r planhigion yn cynhyrchu ocsigen. Mae rhai planhigion yn troi glwcos yn swcros i'w storio, e.e. cansen siwgr neu betys siwgr, ond wedyn mae llawer o blanihigion yn troi'r glwcos yn starts i storio ynni, e.e. tatws neu faip.

Mewn planhigion gwyrdd ac algae, mae'r cloroffyl y tu mewn i'r cloroplastau yn amsugno'r egni golau.

Gellir crynhoi'r broses fel a ganlyn; 

Ond mae'n bwysig cofio mai cyfres o dros 70 adwaith ocsideiddio-gostyngiad yw ffotosynthesis.

Mae angen mewnbwn o tua 2801 kJ o egni i bob môl o glwcos a gynhyrchir. Daw’r egni hwn o’r haul. Gellir gwahanu’r broses yn ddau ran:

Mae yna systemau cynhaeafu golau yn thylacoidau’r cloroplastau sy’n cynnwys carotenau a chloroffyliau. Ynghanol y system mae yna foleciwl o gloroffyl A. Pan mae dau ffoton yn cael eu hamsugno gan y system gynhaeafu, mae dau electron o'r moleciwl cloroffyl A yn cael eu hybu i lefelau egni uwch a’u derbyn gan dderbynnydd electron.

Cai’r electronau a gollwyd gan y system gynhaeafu eu hadleoli gan ffotolysis; y broses o hollti dŵr i electronau (e-), protonau (H+) ac ocsigen (O2). Credir mai’r system gynhaeafu ei hun sy’n gyfrifol am y broses. Ar ôl iddi golli electronau, fe ddaw’n ocsidydd cryf iawn; yr ocsidydd biolegol cryfaf a wyddys; yn ddigon cryf i dorri moleciwl mor sefydlog â dŵr. Gellir crynhoi’r broses fel y ganlyn:

Cai’r protonau eu rhyddhau yn y stroma ac mae’r electronau yn adleoli'r rhai a gollwyd gan y system gynhaeafu. Rhyddheir yr ocsigen i’r atmosffêr fel cynnyrch gwastraff.

Mae’r derbynnydd electron yn pasio’r electronau egni uchel i system o gludwyr ar lefelau egni is. Mae’r gyfres o adweithiau ocsideiddio-gostyngiad yn rhyddhau meintiau bach o egni sy’n pweru’r cludiant actif o brotonau ar draws pilen y thylacoid i mewn i’r lwmen. Mae hyn yn creu graddiant electrocemegol ar daws y bilen gyda chrynodiad uchel o brotonau y tu mewn i’r lwmen a chrynodiad isel yn y stroma. Yn y bilen mae yna ronynnau protein sy’n cynnwys yr ensym ATP synthas. Llif y protonau o'r lwmen i'r stroma drwy’r gronynnau hyn sy’n pweru’r synthesis o ATP: 

Ar ddiwedd y gadwyn o gludwyr electronau mae yna system gynhaeafu arall sy’n ail-hybu’r electronau i lefelau egni uwch gan amsugno dau ffoton. Mae hyn yn rhoi digon o egni i'r electronau ostwng NADP i NADPH2. 

Mae ocsideiddio dŵr (ffotolysis) yn helpu cadw crynodiad uchel o brotonau yn y lwmen, ac mae gostyngiad NADP i NADPH2 yn helpu cadw crynodiad isel o brotonau yn y stroma.

Mae’r broses olau yn cynhaeafu egni solar, a’i storio fel egni cemegol yn ffurf ATP a NADPH2. Y broses dywyll yw’r broses o ddefnyddio’r egni yma i ostwng carbon deuocsid i gyfansoddion organig fel glwcos a phroteinau. Mae angen mwy na 50 moleciwl o ATP i ffurfio un moleciwl o glwcos.
 
Darganfuwyd y broses hon gan Melvin Calvin gan ddefnyddio isotopau carbon felly fe’i gelwir yn gylchred Calvin:




#Article 342: Afon Gwy (767 words)


Afon sy'n llifo o lethrau dwyreiniol Pumlumon i Afon Hafren (ger Cas-gwent) yw Afon Gwy (Saesneg: River Wye). Llifa trwy Gymru a Lloegr, ac mewn rhannau mae'n ffurfio'r ffîn rhwng y ddwy wlad. Gyda hyd o 215 km (135 milltir), hi yw'r ail hwyaf o'r afonydd sy'n llifo trwy Gymru, ar ôl afon Hafren, a'r bumed hwyaf ar ynys Prydain. Dalgylch yr afon yw 4136 km². Mae nifer o drefi ac atyniadau i ymwelwyr ar lan yr afon: Rhaeadr Gwy, Llanfair ym Muallt, Y Gelli Gandryll, Henffordd, Rhosan ar Wy, Symonds Yat, Trefynwy a Thyndyrn a Chas-gwent. Mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SGDA) ac mae'n bwysig o safbwynt cadwriaethol. Ger Afon Hafren, mae'r dyffryn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AOHNE).

Dywed Owen a Morgan y gallai'r enw fod yn gyn-Geltaidd, ond fod y Frythoneg *guo- yn ôl pob tebyg yn darddiad iddo, a'i fod yn gytras a'r gair Cymraeg gŵyr, yn cyfeirio at droeadau'r afon.

Ceir tarddle'r afon ar lechweddau dwyreiniol Pumlumon, cyf. OS SN802871, yn sir Powys ond yn agos iawn at y ffîn â Cheredigion. Nid yw tarddle Afon Hafren ymhell, ar lethrau gogleddol Pumlumon. Mae afon Gwy yn llifo tua'r de-ddwyrain, gydag afon Tarennig yn ymuno a hi ger Pont Rhydgaled, i gyrraedd Llangurig, lle mae'n troi tua'r de. Mae afon Marteg yn ymuno a hi cyn iddi gyrraedd tref Rhaeadr Gwy, ac ychydig islaw'r dref mae afon Elan yn ymuno a hi. Llifa ymlaen tua'r de a'r de-ddwyrain heibio Llanwrthwl a Bontnewydd ar Wy cyn i afon Ieithon ymuno a hi. Gerllaw Llanfair-ym-Muallt, mae afon Irfon yn ymuno. Ymhellach tua'r de, llifa heibio Aberedw, lle mae afon Edw yn ymuno, yna heibio Erwyd, Bochrwyd a Llys-wen. Oddi yma, mae'n troi tua'r gogledd-ddwyrain i lifo heibio'r Clas-ar-Wy a'r Gelli Gandryll.

O'r Gelli Gandryll ymlaen, ffurfia'r afon y ffîn rhwng Cymru a Lloegr wrth iddi lifo ymlaen tua'r gogledd, cyn iddi droi tua'r dwyrain eto i mewn i Loegr a Swydd Henffordd. Llifa heibio Bredwardine ac yna trwy ddinas Henffordd. Ychydig islaw Henffordd, mae afon Llugwy yn ymuno a hi. Oddi yno mae'n dolennu tros y gwastadeddau i gyfeiriad y de, i gyrraedd Rhosan ar Wy, ac wedi llifo heibio Symonds Yat mae'n croesi'r ffîn yn ôl i Gymru yn Sir Fynwy, lle mae afon Mynwy yn ymuno a hi gerllaw Trefynwy, ac afon Troddi yn ymuno yn fuan wedyn. Ychydig ymhellach i'r de, ger Redbrook, mae afon Gwy unwaith eto yn ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr am y 16 milltir diwethaf o'i chwrs. Llifa heibio i dref Cas-gwent a than Bont Gwy, sy'n rhan o Bont Hafren, i ymuno ag aber afon Hafren.

Adeiladodd y Rhufeiniaid bont o goed a meini ychydig uwchlaw lle mae Cas-gwent heddiw. Yn y Canol Oesoedd, ffurfiai'r afon un o ffiniau Rhwng Gwy a Hafren. Yn y cyfnod yma gallai llongau gyrraedd cyn belled a Threfynwy. Yn nechrau'r 1660au, bu Syr William Sandys yn gweithio i alluogi morio hyd bwynt ychydig islaw Henffordd, a rhoddodd mesur seneddol yn 1696 yr hawl i Swydd Henffordd ddychwel melinau ac argaeau ar hyd y rhan yma o'r afon. Wedi hyn, gellid cyrraedd cyn belled a'r Gelli Gandryll o leiaf.

Yn 1808, ychwanegwyd llwybr i alluogi'r defnydd o geffylau i dynnu cychod cyn belled a Henffordd, a pharhaodd y defnydd o'r afon i gario nwyddau yn bwysig hyd y 1850au, pan ddatblgodd y rheilffyrdd.

Dynodwyd Afon Gwy, o'i tharddle hyd ei haber, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae hefyd yn ardal Gadwraeth Arbennig, yn bennaf oherwydd yr amrywiaeth eithriadol o blanhigion dŵr a geir yn ei dalgylch. Ceir hefyd amrywiaeth o bysgod, sy'n cynnwys poblogaeth sylweddol o eogiaid, ac ymhlith y rhywogaethau llai cyffredin, poblogaeth o'r Gwangen (Alosa fallax). Yn nalgylch afon Gwy y ceir y boblogaeth fwyaf o'r Dyfrgi yng Nghymru. Nid oes llawer o broblemau llygredd ar hyd yr afon.

Dynodwyd rhan isaf Dyffryn Gwy yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn 1971. Mae'r ardal yma yn cynnwys 326 km sgwar, o Mordiford ger Henffordd i gyrion Cas-gwent, a  72 km (45 milltir) o gwrs yr afon ei hun. Ceir nifer o atyniadau i ymwelwyr yn yr ardal yma, megis Abaty Tyndyrn a Symonds Yat. Mae'n ardal boblogaidd ar gyfer cerdded, ac mae Llwybr Dyffryn Gwy yn dilyn rhan helaeth o gwrs yr afon am 136 milltir o Gas-gwent i'w tharddle ar lethrau Pumlumon, tra mae Llwybr Clawdd Offa yn cychwyn yn Sedbury ar lan ddwyreiniol yr afon, gyferbyn a Chas-gwent, ac yn dilyn yr afon am gryn bellter hefyd.

Mae Afon Gwy yn lle poblogaidd i ganŵio, gyda rhan sylweddol ohoni yn agored i'r gweithgarwch yma.




#Article 343: Afon Wysg (197 words)


Afon sy'n llifo o lethrau gogleddol y Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin i foryd yr Hafern ger Casnewydd yw Afon Wysg.

Mae'r afon yn tarddu ychydig i'r gogledd o gopaon Bannau Sir Gâr ac yna'n rhedeg i lawr yn syrth i gronfa dŵr Llyn Wysg. Mae'n rhedeg i lawr i gyfeiriad y dwyrain o'r llyn trwy bentref Pontsenni i Aberhonddu. Rhwng y llyn ac Aberhonddu mae sawl afon llai yn ymuno â hi, fel Afon Crai, Afon Senni ac Afon Tarell o'r de ac Afon Brân o'r gogledd.

O Aberhonddu try'r afon i'r de-ddwyrain i lifo trwy Llangynidr a phasio Crughywel a Glangrwyne, lle mae ffrwd Afon Grwyne Fawr yn ymuno â hi, i'r Fenni. O'r dref honno mae cwrs Afon Wysg yn troi i'r de ac mae'r afon yn rhedeg trwy Ddyffryn Wysg yn iseldiroedd Gwent, gan basio trwy Brynbuga, Caerllion a Chasnewydd i aberu yn moryd yr afon Hafren.

Aber Afon Wysg yw'r dyfnaf ym Mhrydain ac mae ganddi'r gwahaniaeth mwyaf rhwng ei llanw a'i thrai nag unman yn y byd ac eithrio Bae Fundy (Bay of Fundy) yng Nghanada.

Ceir ambell Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy'n gysylltiedig a'r afon e.e. Afon Wysg (isafonydd).




#Article 344: Afon Clwyd (369 words)


Mae Afon Clwyd yn afon yng Ngogledd Cymru. Enwyd yr hen sir Clwyd ar ôl yr afon, sy'n rhedeg trwy ei chanol, a'r dyffryn. Mae'n llifo o gyffiniau Melin y Wig i aberu ym Môr Iwerddon yn Y Foryd, ger Y Rhyl. Mae Rhuthun a Llanelwy ymhlith y trefi ar lannau'r afon.

Gorwedd tarddle Afon Clwyd ar ucheldiroedd llym rhan ddwyreiniol Mynydd Hiraethog, yn ne Sir Ddinbych. Yno, tua 1650 troedfedd i fyny yng nghoedwig gonifferaidd Fforest Clocaenog, mae'r afon yn tarddu i'r gogledd o bentref bach Bod Petrual ac yn llifo ar gwrs i'r de. Ym Melin y Wig mae'n gwneud tro pedol i'r gogledd-ddwyrain a heibio i gymunedau Derwen a Llanelidan gan droi ar gwrs gogleddol. Rhwng y pentrefi hynny mae lôn yr A494 yn ei chroesi am y tro cyntaf.

Wrth i Afon Clwyd lifo i mewn i ran uchaf Dyffryn Clwyd a'r tir ddechrau mynd yn fwy gwastad ar ei glannau, mae Afon Alyn yn ymuno â hi o'r de-ddwyrain. Saif pentref hanesyddol Llanfair Dyffryn Clwyd ar aber Alyn a Chlwyd. Erbyn iddi gyrraedd tref Rhuthun a'i gastell canoloesol mae'r afon wedi chwyddo'n sylweddol ac yn cymryd cwrs mwy hamddenol bron yn syth i gyfeiriad y gogledd a'r môr. Mae hi'n gadael Rhuthun ar ei glan ddwyreiniol ac mae'r A494 yn ei chroesi am yr ail dro ar ymyl y dref. Mae nifer o ffrydiau llai yn ymuno â hi wrth iddi fynd yn ei blaen, gan gynnwys Afon Ystrad o gyfeiriad Nantglyn i'r gorllewin. Rhed yr afon heibio i Langynhafal a Llandyrnog, i'r dwyrain, a thref Dinbych i'r gorllewin. Hanner milltir cyn y dref olaf honno mae Afon Clywedog, hithau'n codi yn Fforest Clocaenog hefyd, yn ymuno â hi.

Am draean olaf ei siwrnai mae'r afon yn llifo'n urddasol trwy ffermdir cyfoethog a dolydd braf Dyffryn Clwyd, heibio i Fodfari, gyda Bryniau Clwyd i'r dwyrain. Ar gyrrion dwyreiniol dinas eglwysig Llanelwy mae'r A55 yn croesi'r afon ar bont newydd. Mae'r tir ar ei glannau'n wastad iawn erbyn i Afon Elwy lifo i mewn iddi ychydig i'r gogledd o Lanelwy. Mae hi'n llifo trwy ganol Rhuddlan ac yn fuan wedyn yn ymagor i'r Foryd, ei haber cysgodlyd ger Y Rhyl, ac yn cyrraedd y môr.




#Article 345: Afon Dyfrdwy (513 words)


Afon yng Nghymru a gogledd-orllewin Lloegr yw Afon Dyfrdwy (weithiau hefyd gyda threiglad, Afon Ddyfrdwy); (Saesneg, River Dee; Lladin, Deva Fluvius). Mae'n llifo trwy siroedd Gwynedd, Sir Ddinbych a Wrecsam yng Nghymru ac ar hyd ffin Swydd Gaer a Swydd Amwythig yn Lloegr.

Mae'n llifo o'r bryniau uwchben Llanuwchllyn yn Ngwynedd trwy Lyn Tegid, dros Raeadr y Bedol a thrwy Llangollen. Ger Llangollen, mae Camlas Llangollen (hen enw: Camlas Ellesmere) yn croesi'r afon ar Draphont Pontcysyllte a adeiladwyd gan Thomas Telford ym 1805. Yn Lloegr, mae dinas Caer ar lan ddwyreiniol yr afon. Mae'n llifo i mewn i'w aber yn fuan wedyn; gelwir yr ardal o gwmpas ei glannau yn Lannau Dyfrdwy.

Mae'r enw 'Dyfrdwy' yn hynafol iawn. Ei ystyr lythrennol yw afon y dduwies (dwfr afon + dwy[w] 'duw, duwies'). Mae'n debyg mai enw Brythoneg yr afon oedd rhywbeth tebyg i *Deiwa (Hen Gymraeg: dwyw) ; pan gododd y Rhufeiniaid gaer ar safle Caer heddiw, Lladineiddwyd y gair hwnnw ganddynt yn Deva, tarddiad yr enw Saesneg ar yr afon, sef Dee.

Ceir tarddle afon Dyfrdwy ar lechweddau dwyreiniol Dduallt, ychydig i'r gogledd-ddwyrain o gopa Rhobell Fawr ac i'r de-orllewin o bentref Llanuwchllyn. Mae'n llifo tua'r dwyrain, ac yna i'r gogledd-ddwyrain, yn gyfochrog a'r briffordd A494 i gyrraedd Llanuwchllyn. Gerllaw'r pentref, mae afon Lliw yn ymuno a hi, ac ychydig ymhellach ymlaen mae afon Twrch yn ymuno, gerllaw caer Rufeinig Caer Gai. Mae'n llifo trwy Lyn Tegid, ac yn gadael y llyn gerllaw y Bala, lle mae afon Tryweryn yn ymuno a hi.

Llifa'r afon tua'r dwyrain ar hyd Dyffryn Penllyn, heibio Llandderfel ac olion castell Crogen. Mae'n troi tua'r gogledd-ddwyrain a llifo heibio Cynwyd, ac yn fuan wedyn mae afon Alwen yn ymuno a hi. Gerllaw Corwen mae'n troi tua'r dwyrain eto, a llofo ar hyd Dyffryn Edeirnion heibio Carrog a Glyndyfrdwy, gan fynd heibio olion Castell Glyndyfrdwy, hen gaer Owain Glyndŵr, yna'n llifo trwy dref Llangollen. Ychydig ymhellach i'r dwyrain, mae Traphont Pontcysyllte yn cario Camlas Llangollen dros yr afon, rhwng pentrefi Trefor a Froncysyllte.

O'r fan lle mae Afon Ceiriog yn ymuno a hi, mae'r afon yn troi tua'r gogledd-ddwyrain, ac yn ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr am rai milltiroedd, cyn dychwelyd i Gymru ger Erbistog a llifo heibio Bangor-is-y-coed. Ychydig ymhellach ymlaen, mae afon Clywedog yn ymuno a hi, yna mae'n llifo tua'r gogledd, gan ffurfio'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr eto, a llifo heibio Holt a Farndon. Mae Afon Alun yn ymuno a hi ychydig ymhellach i'r gogledd. Mae'r afon yn croesi i mewn i Loegr ger Aldford ac yn llifo heibio Eccleston a throi tua'r gorllewin trwy ddinas Caer. Yn fuan wedyn, mae'n dychwelyd i Gymru ac yn llifo tua'r gogledd-orllewin heibio Queensferry a Shotton, cyn lledaenu i greu aber o faint sylweddol, gyda'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr yn arwain ar hyd ei chanol. Mae'n cyrraedd y môr ger y Parlwr Du ar yr ochr Gymreig a Hoylake ar yr ochr Seisnig.

Ceir cân werin enwog iawn am un o drigolion yr ardal yn beichiogi, a'i diwedd trist, sef 'Ar lan Hen Afon Ddyfrdwy ddofn'.




#Article 346: Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (152 words)


Safle natur sy'n dod dan lefel isaf cadwraeth yng ngwledydd Prydain yw Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDGA neu SoDdGA). Mae'n dynodi safle sydd â bywyd gwyllt, planhigion, daeareg neu forffoleg arbennig. Yn 2006 roedd 1,019 SoDdGA yng Nghymru: cyfanswm o 257,251 hectar (12.1% o holl arwynebedd Cymru).

Yng Nghymru Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am sefydlu a chadw Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Y corff cyfatebol yn Lloegr yw Natural England, yn yr Alban: y Scottish Natural Heritage, ac yng Ngogledd Iwerddon: yr Environment and Heritage Service. Mae'r safle lleiaf (0.004ha) ym Mhenfro mewn hen fwthyn 150 mlwydd oed a ddynodwyd er mwyn gwarchod yr ystlum pedol lleiaf  Rhinolophus hipposideros. Mae'r safle mwyaf (24,321 ha) ar Fynydd y Berwyn: rhostir enfawr lle ceir adar ucheldir prin.

Sylfaen cyfreithiol penodi'r safleoedd hyn yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a 1985 yn ogystal â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.




#Article 347: Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (128 words)


Mae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AOHNE) yn cael eu dynodi gan Gyfoeth Naturiol Cymru (cynt: Cyngor Cefn Gwlad Cymru) ar ran Llywodraeth Cymru. Yng Nghymru, mae yna bum Ardal o Harddwch Naturol Eithriadol:

Penrhyn Gŵyr oedd yr ardal gyntaf i gael ei phenodi'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru. Mae’r rhain wedi’u neilltuo
oherwydd eu harddwch naturiol eithriadol ond yn wahanol i’r Parciau Cenedlaethol, nid yw hamdden yn un o'r rhesymau dros eu neilltuo hwn.

Ceir 14 Arfordir Treftadaeth yng Nghymru hefyd sy'n cynnwys dros 40% o arfordir Cymru. Nid oes unrhyw sail statudol iddyn nhw ond
mae’r sustem gynllunio’n eu cydnabod yn swyddogol.

Nid ydyw Deddf 1949 ddim yn ymestyn i'r Alban; yn hytrach, mae gan y genedl Ardal Deniadol, Cenedlaethol (Saesneg: National Scenic Area).




#Article 348: Sadwrn (planed) (1994 words)


Sadwrn, a'i gylchoedd amlwg, yw ail blaned fwyaf Cysawd yr Haul. Mae'n blaned o nwy yn hytrach nag o graig. ydy'r ail fwya o'r planedau a'r chweched o'r haul (neu'r 7fed erbyn hyn os derbynir yr argymhelliad diweddar bod Ceres, y mwyaf o'r asteroidau, yn blaned).

Sadwrn hefyd yw'r pellaf o'r planedau a ellir eu gweld â llygaid noeth, yn gorwedd 938 miliwn o filltiroedd o'r haul ac yn cymryd 29.5 o flynyddoedd i gylchdroi amdano. Blwyddyn Sadyrnaidd go hir felly ond mae ei ddydd yn fyr – 10 awr i droi ar ei echel. Golyga'r troelli dyddiol cyflym yma, a chyfansoddiad hylifol yn bennaf, ei fod yn taflu allan rhywfaint am ei ganol, fel ei fod 10% yn fwy ar ei draws nag ydy o'r de i'r gogledd. 

Enwyd y blaned ar ôl Sadwrn, duw amaeth ym mytholeg Rufeinig. Roedd y duw Groegaidd cysylltiedig, Cronos, yn fab i Wranws a Gaia ac yn dad i Zews (Iau) a Poseidon (Neifion). Mae'r duw hwn hefyd yn gysylltiedig ag amser a henaint.

Ar y cyd â Iau, Neifion ac Iwranws mae Sadwrn yn aelod o deulu o 4, y cewri nwy. Mae tua 95 gwaith mwy na'r ddaear ac, fel y cewri nwy eraill, wedi ei gyfansoddi yn bennaf o heidrogen a heliwm, gyda chyfran fechan o nwyon eraill ar ffurf methên ag amonia'n bennaf yn yr atmosffêr tennau allanol. Wrth deithio tua'r canol byddai rywun yn suddo i fôr o hydrogen a heliwm hylifol fyddai'n newid wrth i'r pwysedd a'r tymheredd gynnyddu i ffurf fetalaidd hylifol yn amgylchynnu cnewyllyn bychan creigiog. Rhyfedd meddwl y byddai Sadwrn, er ei fod cymaint mwy o faint na'r ddaear, yn llai o ran dwysedd ar gyfartaledd. Golyga hynny y buasai'n nofio ar un o foroedd y ddaear – petae un digon mawr.    

Gwybuwyd am Sadwrn ers amserau cyn-hanesyddol; Galileo oedd y cyntaf i edrych arno gyda thelesgop ym 1610. Roedd arsylwadau cynnar yn gymhleth gan y ffaith bod y Ddaear weithiau yn pasio trwy blân modrwyau Sadwrn wrth i Sadwrn droi ar ei gylchdro. Cafodd geometreg modrwyau Sadwrn eu hegluro gan Christian Huygens ym 1659.

Sadwrn oedd y blaned gyntaf i gael ei hymweld â hi gan Pioneer 11 ym 1979 ac wedyn gan Voyager 1 a Voyager 2. Cyrhaeddodd Cassini (prosiect ar y cyd gan NASA ac ESA) ar y cyntaf o Fehefin, 2004 a gwnaed lu o ddarganfyddiadau ohono cyn ddiwedd y prosiect ar 15 Medi 2017.

Ymddengys Sadwrn fel petai ef wedi ei wastatu pe edrychir arno trwy delesgop; mae ei dryfesurau cyhydeddol a phegynol yn amrywio bron yn 10% (120,535 km o gymharu ag 108,728 km). Mae hynny oherwydd ei fod yn troi mor gyflym ac oherwydd ei gyflwr hylifol. Mae'r planedau nwy eraill hefyd yn wastad wrth eu pegynau ond nid cymaint â Sadwrn.

Mae Sadwrn yn llai ei gynhwysedd na'r planedau eraill; mae ei ddwyster penodol (0.7) yn llai na dwyster dŵr.

Fel Iau, mae Sadwrn tua 75% hydrogen a 25% heliwm gydag olion dŵr, methan, amonia a chraig, yn debyg i gyfansoddiad Nifwl yr Haul cysefin a ffurfiodd Cysawd yr Haul.

Mae'r tu mewn i Sadwrn yn debyg i Iau, gyda chalon greigiog, haen o hydrogen metelaidd hylifol a haen hydrogen moleciwlaidd. Mae olion iâ hefyd yn bresennol. Mae'r tu mewn i Sadwrn yn boeth (12000 K yn y canol) ac mae Sadwrn yn tywynnu mwy o ynni nag y mae ef yn derbyn oddi wrth yr Haul. Cynhyrchir yr ynni ychwanegol gan y mecanwaith Kelvin-Helmholtz (sef gwasgedd dwyster) fel ar Iau. Ond nid yw hynny'n esbonio disgleirdeb Sadwrn, sydd efallai'n cael ei greu gan heliwm sydd yn cael ei fwrw allan rywle y tu mewn i'r blaned.

Nodwedd amlycaf Sadwrn, wrth edrych arno o bell, yw'r cylchoedd mawr sy'n ymestyn allan i'r gofod uwchben ei gyhydedd gan bron iawn ddyblu ei faint ymddangosiadol. Mae'n bosib gweld tri chylch o'r ddaear: A, B, C a darganfyddwyd cylch arall mewnol ym 1969. Ond yna, pan ddaeth lluniau lloeren o Pioneer 11 ym 1979, Voyager 1 a 2 ym 1980–81, Galileo ddechrau'r 1990au ac yn ddiweddar Cassini ers 2004, darganfyddwyd llawer mwy a bod patrymau rhyfeddol o hardd a chymhleth iddynt. 

Darnau o rew a chreigiau, â'u meintiau yn ymestyn o ronnynau o lwch i gyrff rai cilomedrau ar eu traws sydd yn y cylchoedd. Mae'r cylchoedd eu hunain yn denau iawn, tua kilomedr o drwch, ac mae, mewn gwirionedd, filoedd ohonynt. Rhai yn llyfn, eraill ar batrwm tebyg i blethen hir droellog ac eraill yn donnog. Mae'n debyg mai symudiadau creigiau go fawr neu leuadau bychain ymysg y cylchoedd sy'n gyfrifol am y patrymau hyn a bod y bylchau rhyngddynt wedi eu ffurfio wrth i lwch a cherrig gael eu sgubo i fyny gan greigiau neu leuadau bychain ar eu hynt.

A tharddiad y cylchoedd? Posib mai rhyw gorff neu gyrff astronomegol gafodd eu chwalu'n yfflon gan rym ddisgyrchiant Sadwrn ydynt, a bod rhai o'r gweddillion yn dal i gylchdroi hyd heddiw ar ffurf disg tenau. Mae'n ddifyr bod gan bob un o'r cewri nwy eraill gylchoedd hefyd, ond rhai llawer iawn llai na Sadwrn; rhai nas darganfyddwyd tan i luniau lloeren ein cyrraedd o'r 1980au ymlaen.

Ceir esboniad difyr o bwrpas cylchoedd Sadwrn yn Yr Anianydd Cristnogol, T. Dick (1860), tud. 207: “Un o ddybenion eglur y modrwyau yma yw adlewyrchu goleuni ar y blaned yn absenoldeb yr haul; ac wrth bob tebyg, eu bod yn gwasanaethu fel cyfaneddle helaeth i fyrddiynau o fodau teimladol a deallol…”. Nid yw'n ymhelaethu, gwaetha'r modd, ar ba fath o fodau byw fyddai y rheiny. 

Mae'r bandiau a welir ar Iau yn llai amlwg ar Sadwrn. Maen nhw hefyd yn fwy llydan wrth gyhydedd y blaned. Mae manylion y cymylau'n anweledig oddi ar y Ddaear, felly ni ellid astudio cylchrediad atmosfferig Sadwrn hyd nes i Voyager gyrraedd y blaned. Mae Sadwrn hefyd yn dangos stormydd hirgrwn mawr o hir oes a nodweddion eraill a welir ar Iau.

Gellir gweld dwy fodrwy amlwg (A a B) ac un sy'n llai amlwg (C) oddi wrth y Ddaear. Gelwir y bwlch rhwng A a B y gwahaniad Cassini. Gelwir y bwlch llai amlwg ar ran allanol y fodrwy A y gwahaniad Encke (er nad oedd Encke ei hun yn debyg o fod wedi ei weld). Dangosodd lluniau Voyager bedair modrwy ychwanegol. Mae modrwyau Sadwrn, yn wahanol i fodrwyau planedau eraill, yn ddisglair iawn (albedo 0.2-0.6).

Er eu bod yn ymddangos yn barhaol oddi wrth y Ddaear, mewn gwirionedd mae'r modrwyau wedi eu cyfansoddi o ronynnau bychain di-rif, bob un ohonynt mewn cylchdro annibynnol. Mae eu maint yn amrywio o sentimedr i sawl medr o hyd. Mae rhai gwrthrychau sydd yn gilomedr o hyd hefyd yn debyg.

Mae modrwyau Sadwrn yn hynod o denau: er bod eu tryfesur dros 250,000 km mae eu lled yn llai nag un cilomedr. Serch eu hymddangosiad trawiadol nid oes llawer o ddefnydd o fewn y modrwyau mewn gwirionedd: petai'r modrwyau'n cael eu gwagu i ffurfio un corff ni fyddai eu tryfesur ond 100 km.

Ymddengys y gronynnau eu bod wedi eu cyfansoddi'n bennaf o iâ dŵr, ond gellir hefyd gynnwys gronynnau creigiog wedi eu gorchuddio gan iâ.

Mae modrwy fwyaf allanol Sadwrn (F) yn strwythur gymhleth wedi ei chyfansoddi o sawl modrwy lai gyda clyma gweladwy. Credir bod y clymau'n glampiau defnydd neu loerennau bitw.

Mae yna soniaredd trai a llanw rhwng rhai o loerennau Sadwrn a'r modrwyau: mae rhai ohonynt, y lloerennau bugeiliol (fel Atlas, Promethëws a Phandora) yn bwysig mewn cadw'r modrwyau yn eu lle; ymddengys Mimas i fod yn gyfrifol am ddrudaniaeth defnydd o fewn y gwahaniad Cassini, sydd yn debyg i fylchau Kirkwood y gwregys asteroid.

Nid wyddys gwreiddiau modrwyau Sadwrn a'r cewri nwy eraill. Gallai'r modrwyau fod wedi bodoli ers i'r planedau gael eu ffurfio ond nid ydynt yn sefydlog ac maen nhw'n cael eu hadnewyddu gan brosesau sy'n mynd yn eu blaenau, efallai gan loerennau sydd wedi eu rhwygo. Gallai oedran y modrwyau cyfredol fod dim ond rhai cannoedd o filiynau o flynyddoedd.

Fel y cewri nwy eraill, mae gan Sadwrn faes magnedol sylweddol.

Ceir y defnydd cynharaf o eiriau Cymraeg yng Ngeiriadur y Brifysgol; dyma rai o'r cynharaf:

Yn 1610, pan edrychodd Galileo ar Sadwrn drwy ei delescôp bychan fe welodd ddau lwmp yn sticio allan nail ochr iddo. Erbyn 1612 roedd y lympiau wedi diflannu. Bu i arsylliadau eraill ganddo ef ag eraill ddangos bod meintiau'r lympiau hyn yn cynnyddu a diflannu dros gyfnod o 15 mlynedd. O'r diwedd, yn 1659, dealltodd Christiaan Huygens o'r Iseldiroedd mai modrwy neu gylch o amgylch Sadwrn oedd yn gyfrifol a bod hon yn fwy neu yn llai gweladwy yn ôl yr ongl yr oedd rhywun yn edrych arni wrth i'r blaned gylchdroi drwy'r gofod. Hynny yw, roedd yn hawdd i'w gweld wrth edrych arni o'r top neu'r gwaelod, ond yn anoddach pan edrychid yn syth ar draws arni. 

Yn rhyfeddol, roedd ymddanghosiad a diflaniad lympiau neu glustiau Sadwrn yn cyfateb (efo cryn dipyn o ddychymyg, hynny yw) i ran o'r chwedl Roegaidd wreiddiol am Cronos a ymgorfforwyd yn rhan o gefndir y Sadwrn Rhufeinig. Yn ôl y stori honno, wedi Iwranws (duw'r awyr) ffrwythlonni Gaia (y fam ddaear) fe geisiodd atal mwy o'u hepil erchyll – 3 chawr; 3 Seiclops hyll a 12 Titan – rhag cael eu geni drwy eu gwthio yn eu holau i groth eu mam. I ddial am y fath driniaeth fe roddodd Gaia gryman yn llaw ei holaf anedig, sef y Titan a elwid Cronos. Fe sbaddodd hwnnw ei dad a thaflodd ei geilliau i'r môr. O drochion y sblash fawr honno y cododd Affrodite, duwies serch y Groegiaid.

Fel yr oedd Iwranws yn marw o ganlyniad i'r sbaddu fe broffwydodd y byddai Cronos hefyd yn cael ei ladd gan un o'i feibion ei hun. O ganlyniad byddai Cronos yn llyncu ei blant fel y byddai Rhea, ei wraig, yn rhoi genedigaeth iddynt. Yn naturiol, roedd Rhea braidd yn flin am hyn, a'r tro nesa dyma hi'n geni ei phlentyn yn y nos, ei guddio, a rhoi carreg i Cronos i'w llyncu. Zeus oedd y plentyn a achubwyd ac, yn unol â'r broffwydoliaeth fe drechodd ei dad a sefydlu ei oruchafiaeth ei hun.

Mabwysiadwyd stori Cronos gan y Rhufeiniaid a'i hasio i hanes Sadwrn, eu duw amaeth. Yn y fersiwn Rufeinig, y mab a guddiwyd gan Ops, gwraig Sadwrn, oedd Iau ac ef fu'n gyfrifol am drechu Sadwrn a'r Titans eraill a dyrchafu ei hun yn reolwr y bydysawd. Ymysg pethau eraill, roedd y Rhufeiniaid yn gweld ystyr amaethyddol i gryman Cronos.

Ystyriai rhai ei bod ymddanghosiad ysbeidiol y ddau lwmp welodd Galileo y nail ochr i'r blaned Sadwrn yn cyfateb, yn symbolaidd hynny yw, i enedigaeth epil Cronos a'u diflaniad yn cyfateb i'r hen Gronos yn eu traflyncu.
 

Roedd y Sadwrn Rhufeinig yn dipyn mwy ewyllysgar na'r Cronos gwreiddiol a chynhelid gŵyl fawr yn ei enw bob blwyddyn am rai dyddiau nail ochr i'r dydd byrraf. Roedd y Satwrnalia yn dipyn o barti!  Rhialtwch meddwol lle byddai rheolau cymdeithasol o bob math yn cael eu llacio, thrythyllwch rhywiol yn rhemp, y meistr yn gweini ar y gweision a chynhelid gêmau a charnifalau o dan ofal rywun apwyntiwyd fel arglwydd afreolaeth dros gyfnod yr ŵyl – plentyn neu gaethwas yn aml iawn. Cyfle i'r isaf fod uchaf a'r lleiaf fod fwyaf. Gwelwn adlais o hyn yn nefod Hela'r Dryw, pan ddaw'r lleiaf, er iddo gael ei aberthu, yn frenin dros dro. Hefyd, oni elwir y dydd o'r wythnos roir i ymlacio a chwaraeon yn ddydd Sadwrn?  

Caiff taith awyrol ac araf Sadwrn drwy 12 arwydd y Sidydd ei chysylltu yn astrolegol â henaint, oerni a phrudd-der. Yn Seryddiaeth (1830), disgrifia R. Jones effaith Sadwrn ar y sawl gaiff ei eni dan ei ddylanwad: A'r dyn a aner dani a gâr ddillad duon; ac fe fydd iddo lygaid trymion, a gweflau tewion… a gwedd athrist, sarug; ac o fywyd anfodlon, pifis yn ei natur… Y benywod yn hyswiod budron…a'u cyrph yn heneiddio yn fuan. 




#Article 349: Camlas Llangollen (243 words)


Camlas yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Camlas Llangollen, sy'n cysylltu Llangollen a Nantwich, yn Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, ac sy'n gangen o Gamlas Undeb Swydd Amwythig. Hen enw Camlas Llangollen oedd Camlas Ellesmere. Mae’r gamlas yn mynd trwy Ellesmere a Whitchurch ar ei ffordd o Langollen i Gyffordd Hurleston, ei man cysylltu â’r Shropshire Union. Adeiladwyd y gamlas yn 19g gan Thomas Telford ac mae hi'n 44 milltir o hyd gyda 21 o lociau.. Mae cyffordd Welsh Frankton yn gysylltiad gyda Chamlas Drefaldwyn, sydd wedi ailagor yn rhannol erbyn hyn. Mae hefyd 3 cangen lai; chwarter milltir i Ellesmere (agor), i Prees (milltir a hanner wedi ailagor a dwy filltir heb ei hadfer) ac i Eglwyswen (chwarter milltir wedi ailagor, tri chwarter milltir sy heb ei hadfer hyd yn hyn).

Pwrpas y gamlas roedd cludo glo, briciau, calchfaen a haearn o ardal ddiwydiannol Rhiwabon i'r glannau a dinasoedd Lloegr. Hefyd, mae’r gamlas yn cario dŵr  rhwng Raeadr Bwlch yr Oernant a Chamlas y Shropshire Union ac yn cario 50 miliwn liter i Swydd Gaer yn ddyddiol.

Mae'r draphont gamlas, sef Traphont Pontcysyllte, sy'n croesi dyffryn Dyfrdwy ger Cefn Mawr, yn enwog iawn a cheir traphont camlas arall dros Afon Ceiriog ger Y Waun, lle ceir twneli camlas hefyd. Mae'r gamlas yn cael ei dŵr o Raeadr Bwlch yr Oernant, rhaeadr artiffisial ar Afon Ddyfrdwy. Yn 2009, daeth 11 milltir o’r gamlas, rhwng Pont Gledrid a Rhaeadr Bwlch yr Oernant, yn Safle Treftadaeth y Byd




#Article 350: Camlas (198 words)


Dyfrffordd wedi ei gwneud gan ddyn rhwng llynnoedd, afonydd neu foroedd yw camlas. Pwrpas camlas yw cludo nwyddau neu bobl mewn cwch neu long. Mae camlesi hefyd yn cael eu creu er mwyn dod â dŵr i ddyfrhau tiroedd sychion. Mae rhai pobl yn byw mewn cychod ar gamlesi.

Yng Ngorllewin Ewrop roedd camlesi yn bwysig iawn cyn dyfodiad y rheilffyrdd adeg y Chwyldro Diwydiannol ond pan ddaeth y rheilffyrdd collasant eu pwysigrwydd, a defnyddiwyd llawer ohonynt fel llwybr i'r rheilffordd ar ôl ailgyfeirio'r dŵr.

Gyda tyfiant twristiaeth defnyddir cychod ar gamlesi fel lle i ymwelwyr gysgu ac aros ynddynt tra yn teithio ar hyd y gamlas. Ond mewn rhai gwledydd, e.e. yn Tsieina a De-ddwyrain Asia, mae nifer o bobl yn dal i fyw a gweithio ar eu cychod ar y camlesi.

Y gamlas gyntaf i'w hadeiladu yng Nghymru oedd Camlas Morgannwg. Dechreuwyd ei hadeiladu yn 1790 ac fe'i hagorwyd yn 1794. Roedd hon, fel nifer o'r camlesi, yn allweddol i gludo haearn a glo i borthladdoedd Casnewydd, Caerdydd ac Abertawe. Cyn hyn yr unig ffordd i'w cludo oedd gyda merlod a cheffylau. Roedd y cymoedd serth yn ei gwneud yn anodd i gloddio'r camlesi yng Nghymru.




#Article 351: Camlas Morgannwg (119 words)


Camlas Morgannwg oedd y gamlas gyntaf i'w hadeiladu yng Nghymru. Roedd iddi 50 lloc ac roedd yn cysylltu Merthyr Tudful a Chaerdydd.

Dechreuwyd ei hadeiladu  ym 1790. Roedd meistri haearn Merthyr yn ariannu'r gamlas am ei bod hi'n hanfodol iddynt gael ffordd i gludo haearn i'r môr. Yr adeiladwr oedd Thomas Dadford, disgybl i'r peiriannydd James Brindley.

Cwblhawyd y gwaith rhwng Merthyr Tudful a Phontypridd ym 1792, a rhwng Pontypridd a Chaerdydd ym 1794. Gorffenwyd y gamlas yn gyfangwbl wrth agor lloc môr ym 1798. Costiodd y  cyfan £103,600.

Prynodd Ardalydd Bute gyfranddaliadau'r gamlas ym 1883.

Collodd y gamlas ei bri ar ôl agor Rheilffordd Dyffryn Taf. Erbyn heddiw does dim ond rhai olion (pontydd a llociau) yn aros.




#Article 352: Conwy (tref) (199 words)


Mae Conwy yn dref yng ngogledd Cymru, ym mwrdeistref sirol Conwy (adwaenir yn draddodiadol yn Saesneg fel Conway), a chyn hynny yng Ngwynedd a Sir Gaernarfon cyn hynny. Mae'n enwog fel tref gaerog, am ei chastell, ac am y pontydd ar draws Afon Conwy. Mae ganddi boblogaeth o tua 14,208, sydd hefyd yn cynnwys Deganwy a Chyffordd Llandudno. Mae'n un o brif atyniadau twristaidd Gogledd Cymru.

Saif y dref ar lan orllewinol Afon Conwy, gan wynebu Deganwy, sydd ar ochr arall yr afon.

Codwyd y castell a'r waliau gan Edward I, brenin Lloegr, rhwng 1283 a 1289. Fe'u gosodwyd ar restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 1986, fel rhan o'r safle Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynedd. 
Yma hefyd y safai Mynachdy Aberconwy, a sefydlwyd gan Llywelyn Fawr.

Ers dros 700 mlynedd, cynhelir Ffair Fêl Conwy ar strydoedd y dref ar 15 Medi bob blwyddyn.

Mae gan Conwy orsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n ei chysylltu â Chaergybi a Chaer.

Rhed nifer o wasanaethau bysiau rhwng Conwy a threfi a phentrefi Dyffryn Conwy ac ardaloedd eraill. Mae ar brif lwybr bws arfordir Gogledd Cymru yn ogystal.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:




#Article 353: Conwy (sir) (704 words)


Bwrdeistref sirol yng ngogledd Cymru yw Conwy. Mae'n cynnwys rhan o'r hen sir Gwynedd (Sir Gaernarfon cyn hynny) i'r gorllewin o afon Conwy, a rhan o'r hen sir Clwyd (yr hen Sir Ddinbych cyn hynny) i'r dwyrain o'r afon honno. Lleolir pencadlys y sir ym Modlondeb, Conwy, ac mae'n cael ei gweinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae ganni boblogaeth o 109,596 yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2001.

Er bod Bwrdeistref Sirol Conwy yn greadigaeth gymharol ddiweddar, mae gan yr ardal a gynhwysir ynddi hanes hir a chyfoethog. Yn y cyfnodau cynhanesyddol, cynhyrchid bwyeill carreg yn y Graiglwyd ar lethrau mynydd Penmaenmawr. Cawsant eu hallforio i rannau mor bell â de Prydain. Ar lethrau Pen y Gogarth roedd mwynglawdd copr gyda'r mwyaf yn Ewrop gyfan. Codwyd sawl adeiladwaith yn cynnwys cylch cerrig y Meini Hirion, Penmaenmawr.

Yng nghyfnod y Celtiaid, bu'r rhan fwyaf o'r ardal yn rhan o diriogaeth yr Ordovices ond mae'n bosibl fod tiriogaeth y Deceangli yn ymestyn hyd at lan ddwyreiniol afon Conwy. Daeth yr ardal dan reolaeth yr Ymerodraeth Rufeinig yn y ganrif 1af OC. Sefydlwyd caer ganddynt ger pentref Caerhun i reoli croesfan strategol ar afon Conwy. Roedd gan y brodorion sawl bryngaer yn cynnwys Braich-y-Dinas a Pen-y-gaer.

Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol roedd yr ardal yn rhan o Deyrnas Gwynedd. Gorweddai'r tir i'r gorllewin o afon Conwy, yn fras, yn rhanbarth Gwynedd Uwch Conwy; roedd hyn yn cynnwys cymydau Arllechwedd Uchaf, Arllechwedd Isaf a Nant Conwy, yng nghantref Arllechwedd. I'r dwyrain o'r afon ceid cantref Rhos (Uwch Dulas ac Is Dulas) a gorllewin cantref Rhufoniog, sef Uwch Aled. Eithriad hanesyddol i'r drefn oedd y Creuddyn, sef yr ardal sy'n cynnwys Llandudno a'r cylch heddiw, a orweddai yng Ngwynedd Uwch Conwy. Bu Rhos a Rhufoniog yn deyrnasoedd annibynnol am gyfnod byr yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Bu gan y Brenin Maelgwn Gwynedd gaer a llys ar safle Castell Degannwy ac fe'i cysylltir hefyd ag eglwys Llanrhos gerllaw. Daeth y castell yn un o gadarnleoedd brenhinoedd Gwynedd a newidiodd ddwylo sawl gwaith yn y brwydro rhwng Gwynedd a'r Normaniaid a'r Saeson. Roedd Abaty Aberconwy yn ganolfan bwysig; claddwyd Llywelyn Fawr ynddo.

Ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru yn 1282–83, aeth gorllewin y sir, yn cynnwys y Creuddyn, yn rhan o'r Sir Gaernarfon newydd. Roedd Rhos a Rhufoniog, ar y llaw arall, yn nwylo arglwyddi'r Mers hyd y 1540au pan ffurfiwyd Sir Ddinbych.

Pan adrefnwyd llywodraeth leol yn 1974, daeth y rhan o'r sir bresennol oedd yn yr hen Sir Ddinbych yn rhan o'r sir Clwyd newydd, ond aeth y gweddill, yn cynnwys y Creuddyn, yn rhan o sir Gwynedd (yr hen sir). Ad-drefnwyd llywodraeth leol unwaith eto yn 1996 a chrëwyd sir Conwy.

Mae'r prif drefi yn y sir yn cynnwys Llandudno, Cyffordd Llandudno, Llanrwst, Betws-y-Coed, Conwy, Bae Colwyn, Abergele, Penmaenmawr a Llanfairfechan ac mae ganddi boblogaeth o tua 110,000.

Gorwedd Afon Conwy (yr enwir y sir ar ei hôl) yn gyfan gwbl o fewn yr ardal gan redeg trwy ei chanol: mae'n llifo o'i tharddle yn Llyn Conwy ger Ysbyty Ifan i lawr drwy Ddyffryn Conwy i'r môr ger tref Conwy.

Mae'n sir amrywiol iawn o ran ei thirwedd. Gellid ei rhannu'n sawl ardal ddaearyddol: ardal y Creuddyn ac arfordir Rhos yn y gogledd, bryniau isel a chymoedd Rhos ei hun yn y dwyrain, Dyffryn Conwy a Nant Conwy yn y canol, arfordir Arllechwedd a mynyddoedd y Carneddau yn Eryri yn y gorllewin a phentref bychan Llangwm yn y de.

Gorwedd traean o ardal y sir ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ac mae'r cyngor yn apwyntio 18 aelod i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae 39.7% o'r boblogaeth yn medru un neu ragor o sgiliau yn y Gymraeg, sy'n ei gwneud y 5ed allan o 22 awdurdod unedol Cymru o ran nifer y siaradwyr Cymraeg.

Ond mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn amrywio'n fawr o ardal i ardal, gyda llai o lawer ar yr arfordir, o ganlyniad i'r Seisnigeiddio dybryd yno wrth i nifer o bobl wedi ymddeol symud i mewn, o Loegr yn bennaf.

Enghreifftiau o nifer y siaradwyr Cymraeg yn ôl lle:

Ceir 34 cymuned yn y sir:

Gwasanaethir yr ardal gan Goleg Llandrillo Cymru sydd â'i brif gampws ar safle yn Llandrillo-yn-Rhos.




#Article 354: Llandudno (878 words)


Tref arfordirol yn Mwrdeistref Sirol Conwy yw Llandudno, sy'n gorwedd ar benrhyn y Creuddyn i'r gogledd o Gonwy a Bae Colwyn. Mae ganddi boblogaeth o tua 25,000. Mae'n gorwedd ar y tir isel sydd rhwng tir mawr gogledd Cymru a Phen y Gogarth Fe'i hadeiladwyd yn bennaf yn y 19g fel cyrchfan gwyliau ac mae ei phensaernïaeth hanesyddol yn enwog. Mae'n un o gyrchfannau twristaidd mwyaf poblogaidd gogledd Cymru. Daw ei henw o blwyf hynafol Sant Tudno. Mae Caerdydd 210 km i ffwrdd o Llandudno ac mae Llundain yn 322 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 23 km i ffwrdd.

Mae'r adeiladau yn y rhan fwyaf o'r dref yn perthyn i'r 19g a'r 20g, ond mae hanes ardal plwyf Llandudno yn cychwyn yn y cyfnod cynhanesyddol. Yn Oes yr Efydd dechreuwyd cloddio am gopr ar y Gogarth a bu diwydiant cloddio copr yn yr ardal hyd at y 19g. Ceir cromlech a meini eraill ar y Gogarth.

Yn ôl traddodiad, sefydlodd Sant Tudno gell ar y mynydd yn y 6g mewn man a nodir gan Eglwys Tudno heddiw. Dyma gyfnod y brenin Maelgwn Gwynedd hefyd, a gysylltir â Chaer Ddeganwy ac Eglwys Rhos.

Ar ddechrau'r 19g dim ond pentref bychan, yn gartref i bysgotwyr a mwyngloddwyr copr a'u teuluoedd oedd wrth droed y Gogarth. Datblygwyd y tir wastad rhwng y Gogarth a Rhiwledyn yn y 19g a chodwyd nifer o westai crand a thai. Y prif atyniad oedd y ddau draeth braf - Pen Morfa a Thraeth y Gogledd - a'r awyr iach. Tyfodd Llandudno i fod un o brif gyrchfannau gwyliau glan môr Cymru a gwledydd Prydain gyda nifer o'r ymwelwyr yn dod o ogledd-orllewin Lloegr i ddianc o'r dinasoedd am ysbaid, Roedd agor y lein reilffordd yn hwb anferth i'r diwydiant twristaidd ac yn ei anterth byddai rhai miloedd o ymelwyr yn cyrraedd y dref bob dydd yn yr haf.

Codwyd Gwesty Craigside Hydro ar lethrau’r Gogarth Fach tua 1884 ar dir Fferm Bryn y Bia. ‘Roedd y gwesty yn arbenigo ac yn cynnig amrywiaeth o driniaethau meddygol, ac fel yr awgryma’r enw ‘Hydro’, ‘roedd llawer o ddefnydd o ddŵr. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cymerwyd y gwesty drosodd gan y llywodraeth a symudwyd nifer o weision sifil yno. Yn sicr, roedd yn westy moethus ac ymhlith y bobl fu’n ymweld ‘roedd y Dywysoges Margaret.
Mae’r llun uchaf yn dangos y safle yn ystod y pumdegau, gan gynnwys y gerddi a’r lawntiau ‘crocé’ o flaen y gwesty a’r neuaddau tenis dros y ffordd ger y môr. Ym 1959 penderfynwyd troi’r neuaddau tenis yn theatr gyda’r enw ‘The New Stadium’ a chyflwyno sioeau ar rew. Ar Orffennaf 11eg. 1959 yr agorwyd yr amwynder gyda gorymdaith o’r pier at y theatr gyda bwch gafr a band yn arwain! Byr iawn fu oes y theatr, ac ar ddechrau’r saithdegau dechreuodd Cwmni Hotpoint gynhyrchu peiriannau glanhau a smwddio ar y safle. Yna, cymerwyd y safle gan Gwmni Ceir Automobile Palace oedd â modurdai yng Nghraig y Don, Bae Penrhyn (Y Links), Llanfair Pwll, Llandrindod a lleoedd eraill, i storio ceir. Yna, penderfynwyd gwerthu’r cyfan yn cynnwys y gwesty a’r pafiliwn ac fe ddymchwelwyd y gwesty ym 1974. Prynwyd y safle gan Awdurdod Tir Cymru a’i rannu’n dair safle. Bellach, fel y gwelwch o’r ail lun, tai sydd ar y safle.

Adeiladwyd y pier rhwng 1876 a 1878, yn defnyddio trawstiau haearn gyrru a cholofnau haearn bwrw. Mae'r pier 1234 troedfedd o hyd. Cynhaliwyd cyngerddau ym Mhafiliwn y Pier, efo artistiaid megis  Syr Malcolm Sargent, George Fornby, Semprini, Petula Clark, Arthur Askey, Russ Conway, y chwiorydd Beverley a Cliff Richard. Llosgwyd y pafiliwn yn 1994..

Defnyddiwyd y pier am flynyddoedd maith gan gychod stêm, yn mynd i Lerpwl ac Ynys Manaw. Daeth y fath wasanaethau i ben yn 2005.. ond erbyn heddiw mae mordeithiau lleol ar MV Balmoral a  PS Waverley yn ystod yr haf.

Mae'r dramffordd yn rhedeg o orsaf yn rhan uchaf tref Llandudno i'r caffi a gwylfa ar y copa, gyda gorsaf arall hanner ffordd i fyny lle mae'n rhaid i deithwyr newid i dram arall. Tramffordd ffwniciwlar yw hi.

Gwasanaethir Llandudno gan orsaf radio cymunedol Tudno FM, sy'n darlledu yn Saesneg (yn bennaf) ac yn Gymraeg. Y Pentan yw'r papur bro lleol.

Gwasanaethir y dref gan gangen rheilffordd o Gyffordd Llandudno, sy'n rhan o Reilffordd Dyffryn Conwy. Trwy orsaf y Cyffordd ceir gwasanaethau ar lein Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru i gyfeiriad Caergybi i'r gorllewin a dinas Caer i'r dwyrain. Bu Gorsaf reilffordd Llandudno yn un o'r rhai mwyaf crand yng Nghymru ar un adeg, ond mae llawer o'r to haearn bwrw a gwydr wedi ei dynnu i lawr a dim ond rhan sy'n aros heddiw. Adeilad briciau coch a godwyd yn y 19g yw'r orsaf.

Mae Llandudno yn ganolfan gwasanaethau bysiau lleol gyda nifer o wasanaethau yn ei chysylltu â'r trefi a phentrefi lleol. Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau hyn yn cael eu rhedeg gan gwmni Arriva Cymru.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llandudno ym 1896 a 1963. Am wybodaeth bellach gweler:

Mae'r dref yn gartref i C.P.D. Llandudno, sy'n cystadlu yn y Gynghrair Undebol. Ceir maes criced yn y dref, cartref Clwb Criced Llandudno.

Saif y brif eglwys, Eglwys y Drindod Sanctaidd, yn Stryd Mostyn.




#Total Article count: 353
#Total Word count: 199249